442 mawrth 2019 60c croeso i’r beirdd caereinion...

16
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 442 442 442 442 442 Mawrth 2019 Mawrth 2019 Mawrth 2019 Mawrth 2019 Mawrth 2019 60c Cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Bentref Llanfihangel yng Ngwynfa Cyfarfod Sefydlu’r Parch. Euron Hughes ym Moreia Rhes flaen: Ch-Dde: Parch.Gwyndaf Richards. Parch. Peter Williams. Parch.Euron Hughes.Y Parch. Anita Ephraim. Buddug Bates (Ysgrifenyddes yr Ofalaeth Bro) Y Parch.Edwin Hughes Rhes gefn: Parch. Iwan Llewelyn Jones. Parch Robert Parry. Parch Carwyn Siddall Manon a Ffion Ellis yn cyflwyno cardiau o groeso i’r Parch Euron Hughes ar ddiwrnod ei sefydlu yn Weinidog Gofalaeth Bro Caereinion ym Moreia ddydd Sadwrn, Chwefror 2ail. BEIRDD CAEREINION BEIRDD CAEREINION BEIRDD CAEREINION BEIRDD CAEREINION BEIRDD CAEREINION CROESO I’R OFALAETH BEICIO I BARIS CYFARFOD PWYSIG! Yr Wyl Gerdd Dant Yr Wyl Gerdd Dant Yr Wyl Gerdd Dant Yr Wyl Gerdd Dant Yr Wyl Gerdd Dant i gysidro cynnig gwahodd yr #yl Gerdd Dant i Lanfyllin neu Lanfair Caereinion ym mis Tachwedd 2020 neu 2022! Dewch yn llu i gefnogi ein traddodiad gwerin Llongyfarchiadau i Mari Davies, enillydd y Gadair Gymraeg a Freya Bricknall, enillydd y gystadleuaeth Saesneg yn Eisteddfod gyntaf Ysgol Uwchradd Caereinion. Bu disgyblion Bl.7 wrthi’n brysur am wythnosau yn ymarfer. Mae mwy o luniau o’r Eisteddfod ar dudalen 9. Steffan ac Owain Plascoch a seiclodd o Gaerdydd i Baris, 320 milltir, mewn gwynt, glaw, rhew ac eira i godi cyfanswm o £2,400 at Hospis T~ Hafan a chyrraedd Paris mewn pryd i wylio gêm rygbi Ffrainc a Chymru cyn dod adre! Dymuna’r ddau frawd dewr ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd. Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019 Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019 Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019 Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019 Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019 am 7.30 yr hwyr am 7.30 yr hwyr am 7.30 yr hwyr am 7.30 yr hwyr am 7.30 yr hwyr

Upload: others

Post on 04-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

    442442442442442 Mawrth 2019Mawrth 2019Mawrth 2019Mawrth 2019Mawrth 2019 6666600000ccccc

    Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ynNeuadd Bentref

    Llanfihangel yng Ngwynfa

    Cyfarfod Sefydlu’r Parch. Euron Hughes ym MoreiaRhes flaen: Ch-Dde: Parch.Gwyndaf Richards. Parch. Peter Williams. Parch.EuronHughes.Y Parch. Anita Ephraim. Buddug Bates (Ysgrifenyddes yr Ofalaeth Bro) YParch.Edwin HughesRhes gefn: Parch. Iwan Llewelyn Jones. Parch Robert Parry. Parch Carwyn Siddall

    Manon a Ffion Ellis yn cyflwyno cardiau ogroeso i’r Parch Euron Hughes ar ddiwrnod eisefydlu yn Weinidog Gofalaeth Bro Caereinionym Moreia ddydd Sadwrn, Chwefror 2ail.

    BEIRDD CAEREINIONBEIRDD CAEREINIONBEIRDD CAEREINIONBEIRDD CAEREINIONBEIRDD CAEREINIONCROESO I’ROFALAETH

    BEICIO I BARIS

    CYFARFOD PWYSIG!

    Yr Wyl Gerdd DantYr Wyl Gerdd DantYr Wyl Gerdd DantYr Wyl Gerdd DantYr Wyl Gerdd Dant

    i gysidro cynnig gwahodd yr #yl Gerdd Danti Lanfyllin neu Lanfair Caereinion ym mis

    Tachwedd 2020 neu 2022!

    Dewch yn llu i gefnogi eintraddodiad gwerin

    Llongyfarchiadau i Mari Davies, enillydd y GadairGymraeg a Freya Bricknall, enillydd ygystadleuaeth Saesneg yn Eisteddfod gyntafYsgol Uwchradd Caereinion. Bu disgyblion Bl.7wrthi’n brysur am wythnosau yn ymarfer. Maemwy o luniau o’r Eisteddfod ar dudalen 9.

    Steffan ac Owain Plascoch a seiclodd oGaerdydd i Baris, 320 milltir, mewn gwynt,glaw, rhew ac eira i godi cyfanswm o £2,400at Hospis T~ Hafan a chyrraedd Paris mewnpryd i wylio gêm rygbi Ffrainc a Chymru cyndod adre! Dymuna’r ddau frawd dewr ddiolchyn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.

    Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019Nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019am 7.30 yr hwyram 7.30 yr hwyram 7.30 yr hwyram 7.30 yr hwyram 7.30 yr hwyr

  • 22222 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    DYDDIADURMawrth 2 Dafydd Iwan yn pregethu ym

    Mhontrobert am 2Mawrth 4 Noson Cawl ac Adloniant gyda

    Chlybiau Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banwa Dinas Mawddwy yng Nghanolfan yBanw am 7.30yh

    Mawrth 8 Dydd Gweddi’r Byd ym Moreia am 2Mawrth 13 Cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd

    Llanfihangel er mwyn trafod yposibilrwydd o wahodd yr Wyl GerddDant i Ogledd Maldwyn

    Mawrth 15 Noson yng nghwmni Hen Fegin, NeuaddLlanerfyl, dan nawdd Pwyllgor yDysgwyr Eis. Powys Dyffryn Banw.

    Mawrth 18Rhyfeddodau’r Arfordir efo DewiRoberts yn Neuadd Pontrobert, 7.00yh . Mynediad £3 a lluniaeth ysgafn.Sgwrs Saesneg dan nawdd ClwbHanes Pontrobert

    Mawrth 23 Urdd Gobaith Cymru RhanbarthMaldwyn Eisteddfod Ysgolion Uwchraddac Aelwydydd yng NghanolfanGymunedol Glantwymyn

    Mawrth 26 Urdd Gobaith Cymru RhanbarthMaldwyn Eisteddfod Dawns yn TheatrHafren y Drenewydd

    Mawrth 30 Urdd Gobaith Cymru RhanbarthMaldwyn Eisteddfod Ysgolion Cynraddyn Ysgol Uwchradd y Drenewydd

    Ebrill 5 Bingo Pasg, Neuadd Llanerfyl 7.00yh,dan nawdd Pwyllgor Neuadd Llanerfyl.

    Ebrill 13 Dathlu 300 mlynedd geni Lewis Evan.Eglwys Llanllugan am 2 o’r gloch

    Ebrill 18 Myrddin ap Dafydd (Cylch LlenyddolMaldwyn). Institiwt Llanfair am 7.30.

    Ebrill 19 am 2 a 6 p.m.: Aled Lewis Evans yngnghapel Peniel

    Ebrill 20 HEN GAPEL JOHN HUGHESPONTROBERT: BORE COFFI ynNeuadd yr Eglwys Y Trallwm am 10 o’rgloch. Derbynnir nwyddau a gwobrauraffl erbyn tua 0930. Cyswllt: NiaRhosier 01938 500631.

    Ebrill 21, Sul y Pasg, ym Mhontrobert am 2 p.m.:Delwyn Siôn

    Ebrill 24 2019DCyfeisteddfod y Chwiorydd yngNghapel Moreia am 2. Anerchiad gan yParch. Euron Hughes

    Ebrill 25 7 o’r gloch yn y Cwpan Pinc. Sgwrsgan Dewi Robers a lluniau. Lluniaethysgafn. Pris £5. Ffoniwch Mai Porter07711808584

    Mai 3 Noson Almaenaidd yn Neuadd bentrefLlanerfyl. Bwyd a bar. Dan ofal FfrindiauYsgol Llanerfyl.

    Mai 6 Ffair Llanerfyl, Neuadd LlanerfylMai 24 Ocsiwn Addewidion y Gym. Rheoli

    Llwynogod yn y Cann Offis am 8 p.m..Meh. 28/29 G@yl Maldwyn. Brethyn Cartref ar y

    nos Wener ac Al Lewis a’r Band ar ynos Sadwrn.

    TIM PLU’R GWEUNYDD

    Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolAlwyn a Catrin Hughes, Llais Afon,

    Llangadfan 01938 [email protected] Steele, Eirianfa

    Llanfair Caereinion SY210SB01938 810048

    [email protected]ôn: 01938 552 309

    Pryderi [email protected]

    Dafydd Morgan Lewisdafyddmlewis@ gmail.com

    Is-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddRichard Tudor, Llysun, Llanerfyl

    Trefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddHuw Lewis, Post, Meifod 500286

    Ysgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionGwyndaf ac Eirlys Richards,

    Penrallt, Llwydiarth, 01938 820266

    TTTTTrefnydd refnydd refnydd refnydd refnydd TTTTTanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauSioned Chapman Jones,12 Cae Robert, Meifod

    [email protected], 01938 500733

    CadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddDewi Roberts

    Brynaber, Llangadfan 01938 820173

    Cofiwch:Tudalen Facebook

    Plu’r Gweunyddhttps://www.facebook.com/plurgweunydd

    A fyddech cystal ag anfon eich cyfraniadauat y rhifyn nesaf erbyn ddydd Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Mawrth 16Mawrth 16Mawrth 16Mawrth 16Mawrth 16 Bydd y papur yn cael eiddosbarthu nos Fercher Mawrth 27Fercher Mawrth 27Fercher Mawrth 27Fercher Mawrth 27Fercher Mawrth 27

    RHIFYN NESAF

    Dyddiadau Pwysig EisteddfodPowys 2019

    Mai 1af.Mai 1af.Mai 1af.Mai 1af.Mai 1af. Dyddiad cau ar gyfer cystadlaethauLlenyddiaeth a Llenyddiaeth y Dysgwyr.Anfoner y cynhyrchion at Ysgrifennydd yPwyllgor Llên a Llefaru.Mai 1af.Mai 1af.Mai 1af.Mai 1af.Mai 1af. Cystadleuwyr ar gyfercystadleuaeth rhif 87 (Cyfansoddi Tôn SATBar gyfer Emyn o waith Emyr Davies) ynghyd âffurflen gystadlu i gyrraedd Ysgrifennydd yPwyllgor CerddMehefin 1afMehefin 1afMehefin 1afMehefin 1afMehefin 1af: Cystadleuwyr i anfon copiauo’r geiriau, enw’r gainc, y llyfr y ceir y gaincynddo a’r cyweirnod at Ysgrifennydd yr AdranCerdd Dant.Mehefin 1afMehefin 1afMehefin 1afMehefin 1afMehefin 1af: Cystadleuwyr yn ycystadlaethau llwyfan i anfon eu ffurflennicystadlu at Ysgrifenyddion yr Is- bwyllgorauMehefin 1af: Enwau timau ar gyferCystadleuaeth Ymryson y Beirdd atYsgrifennydd y Pwyllgor Llen a Llefaru.Gorffennaf 1afGorffennaf 1afGorffennaf 1afGorffennaf 1afGorffennaf 1af: Ffurflenni cystadlu i fod ynllaw y Pwyllgor Celf a Chrefft.Gorffennaf 5edGorffennaf 5edGorffennaf 5edGorffennaf 5edGorffennaf 5ed: Ymryson y Beirdd ynNeuadd Llanerfyl. Meuryn: Eurig Salisbury.Mae manylion llawn am yr Eisteddfod ar gaelarhttp:/www.eisteddfodpowys.co.ukOs ydych yn dymuno cyfrannu yn ariannoltuag at yr Eisteddfod yna cysylltwch ag EmlynThomas, y Trysorydd.Gwerthfawrogir pob rhodd yn fawr iawn.

    Clwb 200 - Eisteddfod PowysDyffryn Banw

    Enillwyr mis Ionawr;Enillwyr mis Ionawr;Enillwyr mis Ionawr;Enillwyr mis Ionawr;Enillwyr mis Ionawr;1. Maureen Williams2. Megan Hughes, Middletown3. Glenys Sweeting, Glyn TegEnillwyr mis Chwefror:Enillwyr mis Chwefror:Enillwyr mis Chwefror:Enillwyr mis Chwefror:Enillwyr mis Chwefror:1. Steven Cave, Pen y Ddôl2. Eirian Jones, Bryn Eirian3. Gwyneth Ellis, Pencoed

    LleifiorRhos y NantBethesdaGwynedd

    Annwyl Olygydd y PluHyfryd oedd darllen hanesion y plygeiniau yny Plu y ddau fis diwethaf yma. Mae gennymninnau Blygain ym Methesda hefyd ar yr ailnos Sul o’r flwyddyn newydd, ac mae’n ddagennyf ddweud ei bod yn tyfu o nerth i nerthbob blwyddyn gyda wyth o bartïon eleni, gangynnwys plant a phobl ifanc, gan obeithio einbod yn cadw’r traddodiad ymlaen i genhedlaethnewydd.Ond yr hyn yr oeddwn eisiau ei rannu efodarllenwyr y Plu a phlygeinwyr yr ardal oeddy stori fach yma a gefais gan fy merch ar yffôn o Seland Newydd. Mae hi yn nyrs yngweithio mewn ysbyty mewn tref o’r enwTimaru yn ynys isaf Seland Newydd. Wrth iddifynd i weithio nos ar y ward yno ychydig onosweithiau cyn y Nadolig, fe glywai s@n canucarolau yn dod o rywle ac aeth i edrych o bleroedd y canu yn dod. Wrth erchwyn gwely uno’r cleifion roedd yno barti bach o garolwyr.Wedi iddynt adael fe aeth fy merch i siarad efo’rwraig oedd yn y gwely a chanfod ei bod yndod o Ynys Samoa - sef ynys fach yn y MôrTawel. Fe ddywedodd wrth fy merch fodganddynt draddodiad yn ynys Samoa i fynd i’rEglwys cyn y Nadolig i wasanaeth arbennig oganu carolau, ac aeth ymlaen i ddisgrifio’rgwasanaeth arbennig yma, fod y gwasanaethyn rhydd i unrhyw un gymryd rhan, a bod ynaddwy rownd o garolau yn cael eu canu. Roeddhyn yn canu cloch efo fy merch erbyn hyn, agwneud iddi sylweddoli mai disgrifiogwasanaeth Plygain yr oedd hi. Fy merch yndweud wrthi fod gennym ni yng Nghymruwasanaeth o’r fath hefyd. Aeth y wraig ymlaeni ddweud mai’r Cenhadon oedd wedi dysgu’rgwasanaeth hwn iddynt pan ddaethant âChristnogaeth i’r ynys flynyddoedd lawer ynôl, ond eu bod wedi cadw’r traddodiad ymlaen.Wedi clywed y stori fach ddiddorol hon miwnaeth i mi feddwl tybed os oedd yno Gymroneu Gymraes ymysg y cenhadon hyn? Acefallai o ardaloedd y Blygain? Pwy a @yrynte? Ond diddorol.Hyn gyda diolch am y newyddion o’r hen Sir.Cofion cynhesaf atochCeri Dart(Merch Mrs Evans, T~ Capel Rehoboth gynt)

    DiolchDymuna Gwenan, Gwynfor a Rhys ddiolch ogalon am bob arwydd o gydymdeimlad acharedigrwydd ddangoswyd iddynt yn euprofedigaeth o golli mam a nain arbennig iawn.Diolch am bob cymwynas a chymorth gawsom -rydym yn gwerthfawrogi'r cyfan yn fawr

    Ebrill 25 am 7 o’r glochyn y Cwpan Pinc

    Cymdeithas Edward LlwydCangen Maldwyn

    RHAEADRAUSgwrs gan Dewi Robers a lluniau.

    Lluniaeth ysgafn. Pris £5.Ffoniwch Mai Porter 07711808584

  • Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019 33333Murlun

    Mae dros 30 o ddarnau unigol o waith wedicael eu gwnïo ar gyfer murlun Llangynyw.Mae’r gwaith yn dod mewn pob maint a lliw,pob un wedi ei ysbrydoli gan rhywbeth mae’runigolyn yn ei garu am fyw yn Llangynyw –gan gynnwys y lonydd, anifeiliaid y fferm a’rbryniau. Diolch yn fawr i bawb sydd wedirhoi cynnig ar hyn yn enwedig y plant. Yndilyn cyfarfod ym mis Chwefrorpenderfynwyd bod digon o ddarnau ar gyfercreu dau furlun. Mae ein diolch yn enfawr iIneke am ei hysbrydoliaeth a’i chyngor acam wnïo’r darnau at ei gilyddPenblwydd Hapus Nia

    ClusfeinioClusfeinioClusfeinioClusfeinioClusfeinioyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pinc

    Prinder Beirdd

    Yn y Cwpan Pinc y diwrnodo’r blaen clywais rhywun yncwyno nad oedd yna lawer o

    feirdd yn yr ardal erbyn hyn a bod beirdd caethyn eithriadol o brin.

    Achosodd y gwyn i mi fynd i chwilio unwaitheto trwy hen bapurau newydd tua diwedd ybedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n frith oweithiau beirdd o’r ardal hon, yn benillion acenglynion. Gallech ddadlau hyd at ddydd yfarn am safon y cynhyrchion hyn. Ond ni ellirgwadu nad oedd y beirdd yn hynodymroddedig a phrysur.

    Dyma englyn gan R.M. Lewisymddangosodd yn Y Faner ym 1890

    Mis Ionawr Mis oer od, llawn mesur yw -Ionawr Ei anian wna ddistryw Dwg afrad hin digyfryw Dyfal ei wynt, deifiol yw.

    Ond mwy diddorol efallai yw’r pennill hwn ganJohn Heath (Pantglas Y Foel). Enilloddgystadleuaeth odli am gân ar y testun ‘Ystwyll’yn Papur Pawb, Rhagfyr 1898.

    Wrth oleuo’r seren ddidwyll (oleuai megis cannwyll) Y daeth y Doethion hapus lu At Iesu ar yr Ystwyll.

    Yn ei ddydd roedd John Heath yn un ogymeriadau mwyaf lliwgar a diwylliedig yrardal a bu’n cadw siop ym mhentre’r Foel amflynyddoedd. Er mor syml yw’r pennill bychanhwn ganddo mae’n ddiddorol ei fod ef a WilliamShakespeare y dramodydd Seisnig enwog acawdur Twelfth Night wedi cael eu hysbrydoligan yr un testun!

    Janus

    Cylch Darllen Dyffryn Banw

    LLANGYNYWJane Vaughan Gronow:

    07789 711757Nia Roberts: 07884 472502

    Digwyddiadau i ddodMae Eglwys Llangynyw yn bwriadu cynnalnifer o ddigwyddiadau arbennig eleni. Dewchi’r noson Cyri ar y 15fed o Fawrth yn yr HenYsgol a Barbeciw ar yr 22ain o Fehefin.Byddwn yn addurno’r ffynnon ar ddydd SulAwst 25ain a noson Canu Gwlad yn Henllanar Fedi’r 28ain. Heb sôn am y gwasanaethauarbennig dros y Pasg, Diolchgarwch, Sul yCofio a Nadolig.TaclusoMae’r Gr@p Cymdeithasol yn gobeithio trefnudigwyddiad arall i gasglu sbwriel o amgylch ylonydd bach ym mis Mawrth. Llyneddcawsom gefnogaeth ariannol gan CadwchGymru’n Daclus, ond yn anffodus rydym wedicolli’r nawdd. Ond mae’r gr@p yn gobeithiodod o hyd i ffyrdd eraill o drefnu casglu sbwriela chadw ein lonydd yn daclus. Rydym hefydyn gobeithio trefnu Bingo’r Pasg; Helfa WyauPasg a The Prynhawn, Taith Côr y Waw achinio yn Henllan (ar ôl wyna). Bydd ymanylion yn y Plu mis nesaf.Panto Meifod

    Llongyfarchiadau i Barry Humphreys a PhilWatkin am gymryd rhan unwaith eto ymmhantomeim blynyddol Meifod.Cofion gorauHoffem anfon ein cofion gorau fel ardal at Toma Gwyneth Watkin gan obeithio y bydd y ddauohonoch yn teimlo’n well yn fuan.Amser prysurAc i gloi, i bob un o ffermwyr Llangynyw –pob hwyl efo’r wyna!

    Penblwydd hapus i Nia Roberts sydd newyddddathlu ei phenblwydd yn 40. Gobeithio dyfod wedi mwynhau’r dathlu gyda ffrindiau atheulu.

    Dathlu 300 mlynedd geni Lewis Evan

    Bydd y Cylch Darllen yn cyfarfod nesaf yn yCann Offis am 7.30 nos Iau Mawrth 21.Byddwn yn trafod ‘O Ran’ y nofel enillodd YFedal Ryddiaith i Mererid Hopwood.Mae’n werth nodi i ni roi 10/10 i Te yn y Gruggan Kate Roberts ym mis Chwefror. Dyma’rtro cyntaf i lyfr a drafodwyd gennym gaelmarciau llawn. Byddai Brenhines ein Llên(Kate Roberts) wrth ei bodd!

    LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

    Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

    Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

    Ffordd Salop,Y Trallwm.

    Ffôn: 559256

    R. GERAINT PEATE

    Mae croeso i chi ddod â phicnicac os dymunwch i gerdded y ‘Filltir Aur’

    Dyn Dewr a Diwyd o Sir Drefaldwyn

    Dydd Sadwrn Ebrill 13 am 2 o’r glochyn Eglwys Llanllugan

    Dewch i ganu emynau a chlywed penillion sy‘nsôn am ei waith.

  • 44444 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    LLWYDIARTHEirlys Richards

    Penyrallt 01938 820266

    CydymdeimladCydymdeimlwn efo Parch Gwyndaf Richardsa’i deulu, Penrallt ar farwolaeth ei gyfnitherEirian Dafis, Bow Street, Aberystwyth.Penblwydd ArbennigMae Hywel, Parc Llwydiarth wedi dathlupenblwydd arbennig iawn yn ystod y mis.Gobeithio dy fod wedi mwynhau’r dathliadau.Sefydliad y MerchedCroesawodd ein Llywydd, Kathleen, yraelodau i’n cyfarfod cyntaf yn 2019, ar nos Lun,Ionawr 14eg. Cydymdeimlwyd efo Dianneoedd wedi colli ei mam. Dymunwyd gwellhadbuan i Morwenna, sydd yn dioddef efo’i dwyloac anfonwyd cofion cynhesaf at Dilys, oeddddim yn dda. Diolchwyd i Meinir am greu’rRhaglen cyn mynd ati i edrych ar yCylchlythyr gan nodi dyddiadau pwysig.Cytunwyd i roi cyfraniad o £100 tuag at yneuadd. Dosbarthwyd copïau rysáit Cacen Fêlar gyfer Sioe’r Gwanwyn. Cawsom noson brafiawn yn sgwrsio a blasu rhai o gynhyrchionCymru. Margaret Jones enillodd y wobr raffl.Diolchodd Diane i Meinir am drefnu’r cyfarfodac i Meinir a Morwenna am y lluniaeth ysgafn.Nos Sadwrn, Ionawr 19egNos Sadwrn, Ionawr 19egNos Sadwrn, Ionawr 19egNos Sadwrn, Ionawr 19egNos Sadwrn, Ionawr 19eg aeth aelodaua’u gw~r draw i’r Wynnstay, Llanrhaeadr-ym-Mochnant am ein Swper Blynyddol.Croesawyd pawb gan Kathleen, a Morwennaddywedodd y Gras cyn inni fwynhau gwledd o swper. Diane oedd yng ngofal y raffl ac roeddgwobr i bawb! Cynigiwyd y diolchiadau ganDiane. Diolch yn fawr iawn unwaith eto i Meiniram drefnu’r noson.Cynhaliwyd cyfarfod Mis ChwefrorCynhaliwyd cyfarfod Mis ChwefrorCynhaliwyd cyfarfod Mis ChwefrorCynhaliwyd cyfarfod Mis ChwefrorCynhaliwyd cyfarfod Mis Chwefror ynneuadd Llwydiarth ar nos Lun yr 11eg o’r mis.Croesawodd Kathleen, ein Llywydd, yraelodau i’r cyfarfod. Cawsom ymddiheuriadaugan Dilys, sydd yn gobeithio cael bod efo nimis nesaf. Cydymdeimlwyd efo Catherine,sydd wedi colli cyfnither.Darllenwyd y cofnodion gan Angie cyn myndymlaen i drafod y Cylchlythyr gan sylwi efotristwch bod 4 gangen wedi cau yn ddiweddar,sef Arddlîn, Glantwymyn, Mochdre a Hafren. Nodwyd dyddiadau dathliadau canmlwyddianty Sefydliad ym mis Mehefin eleni. Aethomymlaen i drafod paratoadau ein NosonGymraeg ar Nos Lun, 4ydd o Fawrth.Casglwyd pres mân gan aelodau tuag atelusen ‘Associated Country Women of theWorld’ sy’n rhannu gweledigaeth y Sefydliado ansawdd bywyd gwell i ferched achymunedau ledled y byd.Croesawyd ein siaradwyr gwadd sef MairJones a Teleri Lloyd-Evans gan Kathleen.Mae’r ddwy yn gweithio yn uned IechydGalwedigaethol, Ysbyty Trallwm, lle maecyfanswm o 28 aelod o staff.Cawsom sgwrs llawn gwybodaeth am eugwaith pwysig iawn yn y gymuned. Oeddechchi’n ymwybodol eich bod yn gallu cysylltu ânhw yn uniongyrchol am gyngor neugefnogaeth i barhau i fyw yn annibynnol yneich cymuned?Diolchwyd iddynt gan Annie. Kathleen a Valofalodd am y lluniaeth a Janet enillodd y raffl.

    MEIFODMorfudd Richards

    01938 [email protected]

    Gwellhad buanDymuniadau gprau i Sioned Chapman Jonessydd heb fod yn hwyliog yn ddiweddar ac weditreulio cryn dipyn o amser yn yr ysbyty, brysiawella Sioned.Gwellhad buan hefyd i Hywel Bennet syddwedi derbyn triniaeth ar ei arddwn.PantomeimLlongyfarchiadau i bob un o’r cast ar berfformio‘Puss in Boots’ ar gychwyn y mis. Gwnaethwyddros £1,500 a fydd yn cael ei rannu eleni rhwngYsgol Meifod, y Neuadd a MEDS. Diolch hefydi glwb badminton, Cylch Chwarae Meifod aChlwb Ffermwyr Ifanc Efyrnwy am drefnu’r raffl.Cymdeithas Gymraeg Meifod aPhontrobertHoffem ddiolch yn fawr iawn am gyfraniadRichard Tudor Llysun i’r Plu’r Gweunydd yndilyn ei sgwrs gyda ni mis diwethaf,

    IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

    Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

    Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol: 07967 386151

    Ebost:Ebost:Ebost:Ebost:Ebost: [email protected]

    HUW EVHUW EVHUW EVHUW EVHUW EVANSANSANSANSANSGorGorGorGorGorsssss, Llang, Llang, Llang, Llang, Llangadfadfadfadfadfananananan

    Arbenigwr mewn gwaith:

    * Torwr Coed ar Diger* Ffensio

    * Unrhyw waith tractor* Troi gydag arad 3 cwys ‘spring’

    a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’ * Torri Gwrych

    01938 820296 / 07801 583546

    ymddiheuriadau am beidio ei gynnwys gyda’rhanes ym mis Ionawr.Cawsom noson ddifyr yng nghwmni EdgarLewis a fu’n sôn am ysgol Plant y Brics ynNepal. Mae’n amlwg fod yr ysgol a’r plant wedielwa llawer o’r elusen a ddechreuodd ef yn ôlyn 2001. Yr oedd yn sicr yn gwneud i ni feddwlam pa mor ffodus ydym ni yma.Yn y llun uchod gwelir y swyddogion yn rhoicyfraniad i’r elusen.Priodas AurDathlu fu hanes Bryan a Lorna Gwalchmaiwrth iddynt ddathlu 50 mlynedd o briodas.Llongyfarchiadau mawr i chi eich dau.CydymdeimladCydymdeimlwn â Graham a Rhian Deal,Boncyn. Bu farw mam Rhian, Ceri Hughes oBenybontfawr a hithau yn 96 oed.Cynhaliwydei hangladd ar ddiwrnod gogoneddus o brafym mis Chwefror.Clwb 250Yr enillwyr lwcus ydi..£15- Miss Daisy Roberts, 27, Cae Robert£10- Madelinie Baldwin, Lerpwl£10- Adrian Williams, Haulfryn£10- Alan Williams, 15 Troed y Rhiw

    Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

    a Gwasg y Lolfa, Talybont sydd yn eiargraffu

  • Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019 55555

    FOEL

    LLANGADFAN

    a

    BWRLWM O’R BANW

    BabisLlongyfarchiadau i Geraint a Mererid, Certwsar enedigaeth cog bach o’r enw Tegid. Dwi’nclywed fod Gwenllïan ei chwaer fawr wrth eibodd yn nyrsio. Dwi’n si@r fod Taid a NainRhandir yn gymorth mawr iddynt.Mae Marek ac Ann, y Felin yn daid a nain amy tro cyntaf ar ôl genedigaeth mab bach o’renw Berwyn i Steffan a’i wraig, Natalie. Dwi’nsi@r fod ei hen-nain Marion yn Rhiwfelen wrthei bodd hefyd.Pen-blwydd arbennig

    Dyma chi lodes fêch joli sydd newydd ddathlu’iphenblwydd arbennig ddiwedd mis Chwefror.Gobeithio i ti fwynhau y dathlu Jane!Anffawd Pêl-droedAnfonwn ein cofion at Kyffin, Hesgob a gafoddanffawd wrth chwarae pêl-droed yn ddiweddar.Yn anffodus torrodd ei goes ac mae ar eifaglau ar hyn o bryd.TriniaethAnfonwn ein dymuniadau gorau at Glyn,Glynrhosyn sydd wedi derbyn llawdriniaeth i’wglun ddiwedd mis Chwefror.MarwolaethYchydig wythnosau ar ôl colli ei chwaer, MrsEluned Hughes, bu farw Mrs Ceri Hughes,gynt o Benybont Fawr yng Nghartref y Rallt,Trallwm, yn 96 oed.

    Bore yng nghwmni difyr Mair Tomos IfansBraf iawn oedd gwahodd Mair Tomos Ifans ynôl i ysgol Dyffryn Banw, y tro hwn i gynnalgweithdy yng nghwmni disgyblion cyfnodsylfaen Ysgol Pontrobert. Melangell oedd ychwedl o dan sylw, a chafodd y plant lawer ohwyl yn perfformio cân newydd ac yn chwarae

    A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

    JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

    01938 500355 a 500222Dosbarthwr olew Amoco

    Gall gyflenwi pob math o danwyddPetrol, Kerosene, Disl Tractor a Derv ac

    Olew Iro aThanciau Storio

    GWERTHWR GLO CYDNABYDDEDIG

    http://www.plurgweunydd.cymru

    http://www.facebook.com/plurgweunydd

    rôl gwahanol gymeriadau yng nghwmni ei gilydd.Yn dilyn bore bach hwyliog, bu tro yn y gwynt, a thra gwahanol oedd pwnc trafod disgyblioncyfnod allweddol 2. Yn dilyn syniadau’r disgyblion ar y thema ‘Darganfod Dirgelwch,’ roeddentyn ysu i glywed hanes llofruddiaethau Garthbeibio. Roedd perfformiad Mair o’r hanes ynfywiog, brawychus ac yn gofiadwy. Bydd mwy o waith ar yr hanes lleol yma ar ôl hannertymor!Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro - Mordaith y Mimosa yn Nyffryn Banw

    Cafodd disgyblion cyfnod allweddol 2 Ysgol Dyffryn Banw, Ysgol Pontrobert ac Ysgol GymraegY Trallwng y cyfle i gael eu cludo yn ôl mewn amser i brofi caledwch bywyd yng Nghymru yn1865; clywed am obaith mawr cynllun Mcihael D Jones; profi’r hwyl a’r trasiedi ar fwrdd y Mi-mosa, yn ogystal â’r realiti oedd yn disgwyl y Cymry truenus ar lannau Patagonia. Braf iawnoedd gallu cynnal perfformiad o’r fath ar stepen ein drws.Dathlu Diwrnod Miwsig CymruHoffwn ddiolch unwaith eto i Siân James am ail-ymweld â’r ysgol i dreulio’r prynhawn yn canuhwiangerddi a rhigymau, a hyn oll i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Gofynnwyd i Sian pam bod ydiwrnod yma mor bwysig a dywedodd, “Mae’n gyfle i ddathu cerddoriaeth Gymraeg, ac mae’nbwisig i blant ifanc fod yn ymwybodol bod cerddoriaeth o bob math yn llwyddiannus trwy gyfrwngy Gymraeg; yn bop Cymraeg, regee Cymraeg, cerddoriaeth gwerin, pob math o wahanol gen-res, a rhaid eu dathlu.” Braf oedd cael gwrando hefyd ar gân newydd Seren a Sbarc sydd wediei hysgrifennu gan Casia William ac Osian Williams. Bydd rhaid dysgu hon!Prosiect sy’n hyrwyddo’r celfyddydau.Mae disgyblion cyfnod allweddol 2 Ysgol Dyffryn Banw, Ysgol Llanerfyl ac Ysgol Pontrobertwedi bod yn cydweithio ar brosiect cyffrous iawn sy’n rhan o berfformiad wedi ei ariannu’nrhannol gan Sinfonia Cymru a’r Cyngor Celfyddydau. Ar y 15fed a’r 18fed o Chwefror bu’r plantyn byw bywyd yn y Gofod a thu hwnt. Trefnwyd y diwrnodau yn weithdai yn dasgau llythrennedd,rhifedd, cerddoriaeth a chelf. Diolch yn fawr i Hilary a Graham Roberts am gynnal y gweithdaiCelf. Bydd gwaith y disgyblion yn cael ei arddangos fel cefndir i’r sioe Un Cam Bach yn TheatrHafren ar yr 20fed o Fawrth. Edrychwn ymlaen yn fawr i gael bod yn rhan o’r sioe i ddathlu 50mlynedd ers i Neil Armstrong lanio ar y lleuad.

  • 66666 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    LLYFR LLOFFION LLANERFYLLLANERFYL

    CogUrddRoedd yr Ystafell Gelf yn debycach i olygfa ‘Masterchef’ wrth i’r disgyblion roi cynnig ar rowndgyntaf CogUrdd. Yn gydradd ail roedd Ioan Simmons a Deio Ellis, ac yn mynd drwyddo i’r rowndnesaf mae Cai Owen. Diolch i Mrs Janet James a Mrs Dawn Thomas Jones am feirniadu mordrylwyr.TylluanodCafodd y disgyblion eu rhyfeddu gydag ymweliad llu o amrywiol dylluanod gan ddysgu ffeithiaudiddorol tu hwnt am yr aderyn doeth.Penblwydd ArbennigCawsom gyfle i ddathlu penblwydd arbennig Mrs Nesta Jones yn 60 oed – mae’n amlwg body disgyblion yn cadw Mrs Jones yn ifanc.Grant GwledigTreuliwyd dau ddiwrnod yn Ysgol Dyffryn Banw yng nghwmni disgyblion Ysgol Dyffryn Banw acYsgol Pontrobert. Cafwyd gweithdai crefft gyda Hilary a Graham Roberts a thasgau rhesymua llythrennedd yn seiliedig ar y gofod.Athletau Dan DoRoedd Neuadd Chwaraeon Canolfan Llanfair yn llawn o ddisgyblion yn cymryd rhan mewnathletau Dan Do. Diolch i Rhys Stephens am drefnu a disgyblion Bl.10 Ysgol UwchraddCaereinion am gynorthwyo..

    PenblwyddLlongyfarchiadau i Gwenno, Maesgwyn syddwedi dathlu ei phenblwydd yn 18 oed – adathlu go iawn, taith i’r Eidal efo’r teulu i wylioCymru yn chwarae rygbi, penwythnos i’wgofio.TeithioTrafeilio fu hanes Siân Gardden hefyd - maenewydd gyrraedd adre ar ôl pythefnos yngNghuwait (o bob man!) yn canu efo’r gr@p 9Bach.CydymdeimloCydymdeimlwn ag Emma a Dyfrig a’r plantyn dilyn marwolaeth Taid Emma. Cafwydgwasanaeth o ddiolchgarwch am ei fywyd ynEglwys Aberiw.

    DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

    Pob math o waith adeiladu at eich gwasanaeth

    ADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYR

    Ffôn: 01938820387 / 596Ebost: [email protected]

    G wasanaethau A deiladu D avies

    Drysau a Ffenestri UpvcFfasgia, Bondo a Bargod Upvc

    Gwaith Adeiladu a ToeonGwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo

    Gwaith tirRheiliau Haearn, Giatiau a Balconïau

    Ffôn: 01938 820521 Symudol: 07933 452175

    www.davies-building-services.co.uk

    Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,domesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannoldomesitg a gwaith diwydiannol

    argraffu daam bris da

    holwch Paul am bris ar [email protected] 832 304 www.ylolfa.com

    G. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESG. H.JONESSatellite. Aerial-TV

    Rhif ffôn newydd: 01938 554325Ffôn symudol: 07980523309

    E-bost: [email protected]

    47 Gungrog Hill, Y Trallwm, Powys

    Yvonne Steilydd Gwallt

    Ffôn: 01938 820695

    neu: 07704 539512

    Hefyd, tyllu

    clustiaclustiau a

    thalebau rhodd.

    Ar gAr gyfer eich holl

    ofynion gwallt.

  • Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019 77777

    Ann y Foty ym Mynd i Gastell PowysCael paned yn y Cwpan Pincoeddwn i pan ddaeth dau hen ffrindo’r gogledd i mewn.“Ann,” meddai un ohonynt,” rydyn niam fynd â chi am dro. Ble hoffechchi fynd?”Roeddwn i yn y car efo nhw cyn i ni

    benderfynu ar ein cyrchfan.Wedi’r cwbwl mae yna gymaint o lefydd ymMaldwyn nad ydw i wedi ymweld â nhw eto.Dyna i chi Dolwar Fach neu AmgueddfaRobert Owen yn y Drenewydd.Ond, a ninnau erbyn hyn yn teithio trwy Lanfairdyma ddatgan fy mod i am fynd i GastellPowys gan nad oeddwn i na fy nau gyfaillcaredig wedi bod yno o’r blaen.

    Bregus braidd oedd gwybodaeth fy nghyfeillionam y lle. Eglurais wrthynt i’r adeilad gael eigodi gan Gruffydd ap Gwenwynwyn yn ydrydedd ganrif ar ddeg ac iddo gael caniatâdarbennig i wneud hynny gan Edward y Cyntaf.Tipyn o Sioni- bob-ochor fu Gruffydd apGwenwynwyn yn y brwydro rhwng TywysogCymru a brenin Lloegr. Cefnogodd y naill ochra’r llall yn ei dro. Cynllwyniodd ynaflwyddiannus i ladd Llywelyn yn 1274 ac maesi iddo fod â rhan amlwg yn ei gwymp terfynolyng Nghilmeri yn 1282.

    Ond nid hanesion gwaedlyd o’r gorffennoloedd yn mynd â’n bryd wrth i ni gyrraedd ycastell. Rhyfeddem yn hytrach at y peunodbalch, y ceirw gosgeiddig, yr adeilad coch eifuriau a’r gerddi hardd. A hithau’n fis Chwefror,syndod oedd gweld cymaint o bobl yno hefyd,

    Cawsom bryd eithriadol o flasus yn y cafficyn ymweld â’r siop oedd â’i silffoedd yn orlawno jariau jam a siytni.Yna dyma ymweld â’r castell ei hun. Amfoethusrwydd! Lluniau, a cherfluniau marmorar bob tu (un pen-ddelw o Spencer Perceval,y Prif Weinidog anghofiedig ac anffodushwnnw gafodd ei ladd gan asasin yn 1812).

    Mae llawer o’r lluniau yn bortreadau ganJoshua Reynolds ac artistiaid eraill, o’r teuluClive, ddaeth i berchenogi’r castell yn yddeunawfed ganrif. Fe wnaethon nhw euffortiwn yn ysbeilio’r India, ac maeanferthrwydd haerllug eu cyfoeth yn goferutrwy’r castell o hyd.Y teulu a fu yma o’u blaenau oedd yrHerbertiaid. Roedden nhw, yn yr ail ganrif arbymtheg (pan nad oedd hynny’n boblogaiddnac yn saff), yn Gatholigion pybyr. Arwyddo’u teyrgarwch i Rufain yw’r bwrdd Pietre durehardd gyda’i wyneb marmor a’i gerfiadau cain.Fe’u cawsant yn anrheg gan y Pab Innocentyn 1703 ac mae’n eithriadol o drwm. Heb os,dyma’r dodrefnyn mwyaf trawiadol yn ycastell i gyd. Ond y cwestiwn mawr yw sut arwyneb y ddaear y llwyddwyd i gludo rhywbethmor anhylaw yr holl ffordd o’r Eidal i ganolbarthCymru? Byddai ei bwysau yn ddigon i suddoambell long reit sylweddol debygwn i.Arferai’r castell gynnig llety i’r teulu brenhinolar eu hymweliadau prin â Chymru. Yn wirdymunai un o’m cyfeillion (a ymgnawdoloddyn sydyn ac annisgwyl braidd fel brenhinwraigfrwd ) wybod pa wely y byddai Prince Charlesyn cysgu ynddo pan alwai heibio. Gwelsomambell i four poster addas ac addawol, ondclywsom gan rhywun nad yw etifedd y goronwedi aros yma ers degawdau lawer. Hynnyyn ôl un stori (gyfeiliornus mae’n si@r) am nadoedd perchennog y castell (dyn moesol achrefyddol iawn) yn cymeradwyo y berthynasrhyngddo a Camilla Parker Bowles.

    Ar ôl holl foethusrwydd y goruwchystafelloedd, llwm braidd oedd hi ar waelod ystaeriau serth, wrth i ni grwydro drwy’r rhano’r adeilad lle roedd y gweision a’r morynionyn gweithio. Yr unig beth i fynd â’m bryd oeddffotograff ar un o’r waliau, gafodd ei dynnu yn1911. Tim pêl-droed y stâd oedd hwn.Tynnwyd y llun ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntafa bum yn pendroni’n hir, tybed faint o’r dynionifanc afieithus hyn oroesodd gyflafan enbyd1914-1918?

    LLANLLUGANI.P.E. 810658

    Cofio Os cofiwch -‘nôl yn rhifyn mis Ionawrysgrifenais am y prynhawn diddorol a gefaisyng nghwmni Delma a’i choed Nadolig.Cysylltodd Delma i ddweud ei bod wedi agory blwch rhoddion a bod £850 ynddo i’w roituag at yr elusen Dementia FriendlyDrenewydd.SalwchYn ddiweddar cwympodd Mrs Nesta Roberts (swyddfa post gynt) a thorri ei chlun, ond maeyn gwella ar ôl bod yn yr ysbyty. Hefyd maeByron Ddolgwynfelin a Sandra Hawkin,Brookfield yn ôl gartref, ac yn parhau i wella.DefribCynhaliwyd hyfforddiant ar gyfer defnyddio’rDiffibriliwr yn yr Hen Ysgoldy Cwm ar ddwynos Iau ganlynol ym mis bach.CofioCydymdeimlwn yn ddwys gyda ShanLlwynmelin, Tregynon, gynt o’r ‘RefailCefncoch ar farwolaeth ei mam yng nghyfraithsef Mrs Edwina Jones.CychwynMae ambell un o’r daffodils yn cychwyndangos eu hunain ‘falle bod gwanwyn ar yffordd. Ond, braidd yn gynnar? ‘Falle byddrhaid talu nes ymlaen?

    AR AGORLlun – Gwener 7.30 a.m. – 5.00 p.m

    Sadwrn 7.30 a.m. – 2.00 p.m.

    BANWY BAKERY

    STRYD Y BONT, LLANFAIR CAEREINION, SY21 0RZ

    CAFFIBara a Chacennau CartrefPopty Talerddig yn dod â

    Bara a Chacennau bob dydd IauBara Henllan yma bob dydd ond dydd Sul

    Te Angladdau. Arlwyo i Bartïon. Saladau

    Cysylltwch â Rita Waters ar 01938 810952neu e-bostiwch:

    [email protected]

    Ffôn: Meifod 500 286Post a Siop Meifod

    Huw LewisGarej Llanerfyl

    Ffôn LLANGADFAN 820211

    Arbenigwyr mewn atgyweirioGwasanaeth ac MOT

    Hen YsguborLlanerfyl, Y TrallwmPowys, SY21 0EGFfôn (01938 820130)Symudol: 07966 [email protected]

    Gellir cyflenwi eich holl:

    anghenion trydannol:Amaethyddol / Domestig

    neu ddiwydiannolGosodir stôr-wresogyddion

    a larymau tân hefydGosod Paneli Solar

    Pob math o waith tractor,

    yn cynnwys-

    Teilo gyda chwalwr

    10 tunnell,

    Chwalu gwrtaith neu galch,

    Unrhyw waith gyda

    Amryw o beiriannau eraill ar

    gael.

    Ffôn: 01938 820 305

    07889 929 672

    ar ddydd Llun a dydd Gwener

    PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

    yn ymarfer uwch ben

    Salon Trin GwalltAJ’s

    Stryd y BontLlanfair Caereinion

    Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

    E-bost: [email protected]

    ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

    Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

  • 88888 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    Catrin Mills arweinydd côr buddugol Banwy

    T~ Efyrnwy yn amlwg yn cael hwyl

    Josh a ddaeth yn 2il yn y gystadleuaeth‘Show-stopper’ yn edmygu cacen siocled

    Ifan a ddaeth yn gyntaf.

    Ella a Tomos capteiniaid Banwy gyda’r tlwsbuddugol

    Gwyliwch eich hunain ‘Cassett’ mae na eitha talent yng Nghaereinion

    EISTEDDFOD YSGOLUWCHRADD CAEREINION

    Ar ddydd Gwener 22 Chwefror cynhaliwyd Eisteddfod ynYsgol Uwchradd Caereinion, y cyntaf ers tua hanner canmlynedd. Roedd pob math o gystadlaethau wedi eu trefnugan y gwahanol adrannau yn waith cartref, coginio allwyfan. Croesawyd disgyblion ysgolion cynradd yr ardali wylio’r cystadlaethau. Mae ein diolch yn enfawr iddisgyblion Blwyddyn 7 am weithio mor galed ac hefyd ifyfyrwyr y 6ed dosbarth am eu hyfforddi. Edrychwnymlaen yn barod at Eisteddfod Caereinion 2020!! Rhys Roberts, dylunydd tlws y t~

    buddugol

  • Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019 99999

    Disgrifiwch eich hun mewn 3 gair:Disgrifiwch eich hun mewn 3 gair:Disgrifiwch eich hun mewn 3 gair:Disgrifiwch eich hun mewn 3 gair:Disgrifiwch eich hun mewn 3 gair:Llawen...Synhwyrol.....FfyddlonBeth yw eich hoff olygfa?Beth yw eich hoff olygfa?Beth yw eich hoff olygfa?Beth yw eich hoff olygfa?Beth yw eich hoff olygfa?Unrhyw olygfa allan i’r môrPa record oedd yr un gyntaf i chiPa record oedd yr un gyntaf i chiPa record oedd yr un gyntaf i chiPa record oedd yr un gyntaf i chiPa record oedd yr un gyntaf i chibrynu?brynu?brynu?brynu?brynu?The Logical Song – Super TrampHoff bryd bwyd?Hoff bryd bwyd?Hoff bryd bwyd?Hoff bryd bwyd?Hoff bryd bwyd?Cinio dydd Sul – cig eidion Cymreig gyda grêfiNain!Enwch 3 o bobl (byw neu farw) yr hoffechEnwch 3 o bobl (byw neu farw) yr hoffechEnwch 3 o bobl (byw neu farw) yr hoffechEnwch 3 o bobl (byw neu farw) yr hoffechEnwch 3 o bobl (byw neu farw) yr hoffechwahodd i’r pryd a pham?wahodd i’r pryd a pham?wahodd i’r pryd a pham?wahodd i’r pryd a pham?wahodd i’r pryd a pham?Fy Nanna – er mwyn cael un sgwrs a chwtcharall. Hi fyddai’n gyfrifol am wneud y grêfi!Fy Nhad – g@r arbennig a chwmi gwychFy merch – mae hi’n gwneud imi chwerthin.Mae teulu yn bwysig.Beth ydych chi’n ofni?Beth ydych chi’n ofni?Beth ydych chi’n ofni?Beth ydych chi’n ofni?Beth ydych chi’n ofni?Llygod mawrBeth yw’r cyngor gorau a gawsochBeth yw’r cyngor gorau a gawsochBeth yw’r cyngor gorau a gawsochBeth yw’r cyngor gorau a gawsochBeth yw’r cyngor gorau a gawsocheriod?eriod?eriod?eriod?eriod?‘Invest in land. God isn’t making any more’.Gwerthfawrogwch ffrindiau a theulu.Pa wers oeddech chi’n hoffi a pha wersPa wers oeddech chi’n hoffi a pha wersPa wers oeddech chi’n hoffi a pha wersPa wers oeddech chi’n hoffi a pha wersPa wers oeddech chi’n hoffi a pha wersoeddech chi’n casáu yn yr ysgol?oeddech chi’n casáu yn yr ysgol?oeddech chi’n casáu yn yr ysgol?oeddech chi’n casáu yn yr ysgol?oeddech chi’n casáu yn yr ysgol?Daearyddiaeth oedd fy ffefryn. Ar y pryd nidoeddwn yn hoffi ‘Lladin’ – doedd yna fawr oalw am ‘Ladin’ yn Resolfen – ond bellach rwy’ngweld ei werth.Pa un gwrthrych y byddech yn ei achubPa un gwrthrych y byddech yn ei achubPa un gwrthrych y byddech yn ei achubPa un gwrthrych y byddech yn ei achubPa un gwrthrych y byddech yn ei achubpetai eich t~ ar dân?petai eich t~ ar dân?petai eich t~ ar dân?petai eich t~ ar dân?petai eich t~ ar dân?Llun diweddaraf y teulu ‘Jones’ ar gyfer ymodrybedd/ewythrod ac atiPetai gennych ‘super-powerPetai gennych ‘super-powerPetai gennych ‘super-powerPetai gennych ‘super-powerPetai gennych ‘super-power’’’’’ be fyddech be fyddech be fyddech be fyddech be fyddechchi’n wneud?chi’n wneud?chi’n wneud?chi’n wneud?chi’n wneud?Gwaredu afiechyd. Sicrhau iechyd ahapusrwydd.

    Newyddion Adran Y GymraegGyda’u harholiadau yn brysur nesáu, aethpwyd â’n criw blwyddyn12eg a 13eg i Aberystwyth i ymuno ag ysgolion eraill sy’n astudioLefel A Cymraeg. Cynhaliwyd sesiynau adolygu gwerth chweil ganddarlithwyr y Coleg Cymraeg ac yna ar ôl yr holl waith caled a’rcanolbwyntio, i ffwrdd â ni am ‘chydig o awyr iach y môr a chinio yn

    y bwyty newydd Cymreig ‘Byrgyr’.I ffwrdd â nhw unwaith eto! Ar ddydd Mercher yr 20fed o Chwefror aeth wyth o ddisgyblionCymraeg blwyddyn 13 i ‘bentref gorau’r byd’... yn ôl Mrs Micah Evans! Trip i Lanegryn er mwyncwrdd â’r awdures enwog Manon Steffan Ros er mwyn cael sgwrs gyda hi am ei nofel ‘Blasu’.Mae’r criw yn astudio’r llyfr ar gyfer yr arholiad llafar ac felly roedd cael cyfle i ymweld â lleoliady nofel a chael cyfle i holi’r awdures am ei gwaith yn amhrisiadwy. Cafwyd paned a chacen yngnghegin y neuadd bentref wrth sgwrsio, yna peidiodd y glaw i’r criw fynd am dro o amgylch ylleoliadau. Diolch yn ofnadwy i Manon Steffan Ros am ei hamser.Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur arnom yn yr Adran gyda pharatoadau ar gyfer EisteddfodYsgol blwyddyn 7, ysgrifennu ar gyfer cystadleuaeth Cymdeithas Maldwyn, cystadleuaethYmgyrch Ailgylchu’r Adran Gymraeg ac wrth gwrs bellach yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yrUrdd! Llongyfarchiadau mawr i Awen a Caitlin am ennill yr Ymgyrch Ailgylchu ac i Mari Daviesam ennill Cadair Gymraeg yr Eisteddfod ac i bawb oedd wedi cymryd rhan. Rydym yn falchiawn o’n disgyblion chweched dosbarth sydd bob amser yn barod i helpu ac i gyd-drefnu.Ymlaen â ni rwan i baratoi at Eisteddfod yr Urdd ac arholiadau llafar TGAU a Lefel A – pob lwci bawb!

    SEREN Y MIS

    Ym mis Ionawr croesawyd ein Pennaethnewydd, Mr Philip Jones, i Ysgol UwchraddCaereinion. Mae ei gymmeriad byrlymus a’inatur hwyliog yn llenwi coridorau’r ysgol.Dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei swydd adiolch iddo am ateb y cwestiynau isod:

    Caitlin ac Awel gyda’u cyflwyniad buddugol ar Ailgylchu

    Myfyrwyr Cymraeg Bl.13 yn Llanegryn efo’r awdures Manon Steffan Ros

  • 1010101010 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    O’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANGwyndaf Roberts

    CYSTADLEUAETH SUDOCW

    ENW: _________________________

    CYFEIRIAD: ____________________

    ____________________________________

    .

    Diolch o galon i bawb am gystadlu ar y posSudocw unwaith eto – mae’r niferoedd ynrhyfeddol. Daeth 34 ymgais i law mis ymagan y cyfeillion canlynol: Linda RobertsAbertridwr; Gwladys Davies, Llanidloes;Delyth Thomas, Caersws; Ann Lloyd,Rhuthun; Ann Evans, Bryncudyn; BerylJacques, Cegidfa; Rhiannon Morris, Foel;David Smyth, Foel; Megan Roberts,Llanfihangel; Linda James, Llanerfyl; MoyraRowlands-Good, Croesoswallt; Ruth Jones,Llanwddyn; Meirion Jones, Penybont Fawr;Eirlys Edwards, Pontrobert; J Jones, YTrallwng; Jean Preston, Dinas Mawddwy;Menna Lloyd, Pontrobert; Ifor Roberts,Llanymawddwy; Tudor Jones, Arddlîn; Ivy,Belan-yr-argae (a gymrodd 4 cynnig cyn eigael o’n gywir!); Bethan Davies, Penybontfawr; Neil Ellis, Llanfyllin; Anne Wallace,Llanerfyl; Tom Bebb, Caermynach; GlenysRichards, Pontrobert; Maureen Jones,Talardeg; Brooke Jones, Cyfronydd; LeslieVaughan, Abermaw; Arfona Davies, Bangor;Rhiannon Gittins, Llanerfyl; Noreen Thomas,Amwythig; Oswyn Evans, Penmaenmawr;Cled Evans, Llanfyllin ac Eirys Jones, DolanogYr enw lwcus i gael ei dynnu allan o’r fasgedolchi y mis yma oedd Eirys Jones, Dolanogac anfonwn ein cofion gorau ati am wellhadbuan.Y mis nesaf bydd yr enillydd lwcus yn derbyntocyn gwerth £10 i’w wario yn un o siopauCharlie’s. Anfonwch eich atebion at MarySteele, Eirianfa, Llanfair Caereinion, YTrallwm, Powys, SY21 0SB neu CatrinHughes, Llais Afon, Llangadfan, Y Trallwm,Powys, SY21 0PW yn ddim hwyrach na dyddSadwrn Mawrth16.

    Heb os nac onibai Y Beibl Cymraeg Newydda gyhoeddwyd yn 1988 yw llyfr pwysicaf yrugeinfed ganrif. Mae gennym fel cenedl ddyledfawr i do o ysgolheigion a fu’n ddiwyd wrthi o1961 hyd fis Mawrth 1988 pan welodd ffrwytheu gwaith olau dydd am y tro cyntaf. Un o’rysgolheigion hynny oedd y Parchedig DdrOwen E Evans a thrist yw nodi iddo farw 31Hydref 2018. Bu Owie Evans yn rhan o’rgweithgor o 1963 ymlaen ac yntau, y prydhynny, yng Nghadair y Testament Newydd yngNgholeg Hartley Victoria, Manceinion. Daethi Fangor yn 1969 fel darlithydd y TestamentNewydd ac yn 1974 fe’i penodwyd ynGyfarwyddwr y Beibl Cymraeg Newydd.Wedi ymddeol o’r coleg yn 1988 bu Owie wrthiyn paratoi Mynegai i’r Beibl Cymraeg Newyddgyda chymorth y Parch. David Robinson,arbenigwr ym maes Cyfrifiadureg. Fe ddaethy gyfrol o’r Wasg yn 1998. Mae i’r gyfrol drosfil o dudalennau ac mae’n adnodd cwblangenrheidiol i’r sawl sy’n astudio’r Beibl oddydd i ddydd. Nid gormod yw dweud maimynegai Owen E Evans yw ail lyfr pwysicafyr ugeinfed ganrif yn y Gymraeg.Cyn mynd i Goleg Wesley Headingley, Leedsyn fyfyriwr ar ôl y rhyfel, treuliodd Owie Evansflwyddyn fel ‘gweinidog bach’ ym Meifod.Mae’n amlwg i’r ardal adael ei hôl arnooherwydd fe fyddai yn holi pan welwn ef acmewn sgwrs ar y ffôn am hynt a helyntWesleaid cylch Meifod a’r cyffiniau. Er ei fodwedi’n gadael mae gwaith ei law yn aros feladnodd amhrisiadwy ac yn fodd i gofio amwaith un o weinidogion anwylaf Cymru.Ar lawer ystyr plentyn yr ugeinfed ganrif ywCaneuon Ffydd. Yn 1993 y penderfynodd ypum enwad sefydlu pwyllgorau ar gyfer ygwaith o lunio llyfr emynau. Daeth yr argraffiadcyntaf o’r wasg yn 2001 gyda’r eglwysi bellachwedi hen gynefino â’r llyfr wedi deunawmlynedd o’i ddefnyddio.Pantycelyn yw’r emynydd amlycaf ynCaneuon Ffydd gydag 88 o emynau uwchbenei enw. Gydag ef yn rhestr y deg emynydduchaf mae Elfed gyda 44, W Rhys Nicholas25, Charles Wesley 21, Siôn Aled a Nantlais17, Ann Griffiths 15, Hywel M Griffiths 13, acArfon Jones a Morgan Rhys 11. Gellir dod i’rcasgliad bod chwaeth yr oes wedi newid ganfod 258 o emynau gan Pantycelyn yn Llyfr yMethodistiaid, 23 gan Elfed, Charles Wesleya Morgan Rhys 21, Ann Griffiths 16 ac 13gan Nantlais. Yn ôl pob golwg, mewn cyfnodo dri chwarter canrif, cynyddodd poblogrwyddElfed yn fwy nag unrhyw un o emynwyr yrhen lyfrau emynau.

    Diddorol yw sylwi mai tinc telynegol sydd i’wweld ar emynau Elfed. Efallai ei fod wedi’iddylanwadu gan waith Ceiriog, bardd mwyafpoblogaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg,gan iddo gyhoeddi astudiaeth o waith y barddo Lanarmon yn 1899. Teg yw dweud iddoysgrifennu nifer fawr o emynau yn Saesneg.Wrth ddarllen Caneuon Ffydd daw rhywun ynymwybodol bod llawer o’i emynau yn rhai ygellir eu hadrodd o’r cof heb angen y llyfr.Roedd Elfed yn Brifardd a bu’n Archdderwyddo 1924 hyd 1928. Erbyn 1930 ac yntau yn 70oed, roedd yn hollol ddall. Bu’n briodddwywaith cyn 1930 ond y flwyddyn honnopriododd ei drydedd wraig, sef Mary Davies abu ei chymorth hi yn fodd iddo barhau i deithioa phregethu hyd at ei farwolaeth yn 93 oed ar10 Rhagfyr 1953. Yn ystod cyfnod eiddallineb, gofynnwyd iddo sut y gallai adrodddarnau o’r Beibl a’r llyfr emynau mor dda. Eiateb oedd ei fod wedi dysgu llawer pan oeddyn ifanc ac wedi eu storio ym manc ei gof.Dyna arfer sy’n prysur ddiflannu o’r tir bellachac yr ydym oll yn dlotach mewn canlyniad.Un y mae Plu’r Gweunydd wedi cyfeirio llawerato yn ddiweddar yw’r gweinidog dall JohnPuleston Jones, 1862-1925. Bu’n weinidog arMoreia, Llanfair Caereinion o 1917 hyd eifarwolaeth ar ddydd Mercher 21 Ionawr 1925.Brook House oedd y mans yn ystod cyfnodPuleston ac o’r Institiwt wedi gwasanaeth am9 y bore y cludwyd ei gorff i’w gladdu ymmynwent Eglwys Crist, Y Bala wedi oedfa yngNghapel Tegid. Mae’r hanes wedi’i gofnodi o’rnewydd gan Harri Parri yn ei gyfrol Cannwyllyn Olau. Cawn hanes y ddamwain a gafoddpan yn 18 mis oed wrth i ddarn o wydr ei ddallumewn un llygad ac i hynny arwain iddo golliei lygad arall hefyd. Llwyddodd i ddysgu Braillemewn coleg i’r deillion cyn mynd wedi cyfnodym Mhrifysgol Glasgow i Goleg Balliol,Rhydychen lle enillodd radd Dosbarth Cyntafmewn Hanes Diweddar. Yn gefn cadarn iddooedd ei fam, Mary Ann Jones, a wnaeth iddowynebu ei anawsterau mewn modd cadarniawn.Yn Rhagfyr 1890 priododd Puleston ag AnnieAlun Jones a bu hi wrth ei ochr weddill y daith.Nid yn unig bu hi’n fam i Alun a MarthaMyfanwy, ond gofalai hefyd am drefniadauteithiau pregethu ei g@r wrth iddo fentro ar benei hun ar drên bach Llanfair ac ymlaen wedyni bedwar ban gwlad. Os bu gwraig gweinidogberffaith erioed, Annie Alun oedd honno.Mae Cannwyll yn Olau yn adrodd hanes un oweinidogion enwocaf Cymru ac yn llwyddo iroi golwg ar gyfnod pwysig yn hanes eingwlad. Er nad oes cofeb i John PulestonJones yn Llanfair, mae Harri Parri wedi llwyddoi ddwyn y dyn mawr hwn i sylw cenhedlaethnewydd. Diolch iddo am ei gymwynas.

    Brian LewisBrian LewisBrian LewisBrian LewisBrian Lewis

    Gwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymioa Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

    Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchi

    Ffôn 07969687916 neu 01938 820618

    ANDREANDREANDREANDREANDREW W W W W WWWWWAAAAATKITKITKITKITKIN CyfN CyfN CyfN CyfN Cyf.....Froneithin,Llanfair Caereinion

    Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330Ffôn: 01938 810330

    Adeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr Tai acai acai acai acai acEstyniadauEstyniadauEstyniadauEstyniadauEstyniadau

    GwGwGwGwGwaith Bricaith Bricaith Bricaith Bricaith Bric, Bloc neu, Bloc neu, Bloc neu, Bloc neu, Bloc neuGerrigGerrigGerrigGerrigGerrig

    DILDILDILDILDILYNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD AR ‘FAR ‘FAR ‘FAR ‘FAR ‘FACEBOOK’ACEBOOK’ACEBOOK’ACEBOOK’ACEBOOK’

    Nid yw Golygyddion naPhwyllgor Plu’r Gweunydd oanghenraid yn cytuno gydag

    unrhyw farn a fynegir yn y papurnac mewn unrhyw atodiad iddo.

  • Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019 1111111111

    gyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Roberts AR GRWYDYR

    Er i mi ddweud y tro diwetha ybyddwn yn ysgrifennu am daithbenodol y tro hwn – nid felly ybu am wahanol resymau! Unrheswm am hyn yw fy mod weditreulio dipyn go lew o amser ger

    Meifod ar lan yr afon Efyrnwy a hynny yngwylio a ffilmio dyfrgwn. Mewn cyfnod obythefnos mi weles i y mamaliaid bendigedigyma ar saith o ddyddiau gwahanol gangynnwys tri diwrnod yn olynol (ac mae hynnywedi digwydd i mi ddwywaith o’r blaen, yn yrHaf). Y tro cynta i mi eu gweld nhw eleni oeddtua diwedd mis Ionawr pan oedd hi’n bwrweirlaw ac yna bûm yn lwcus iawn o’u gweldnifer o weithiau wedyn. Un peth dw i wedi eiddysgu wrth wylio natur yw gwneud yn fawro’r cyfle gan na fydd y cyfle hwnnw efallai yndod eto am gryn amser, os o gwbl. Roeddwneisiau cael lluniau a clipiau ffilm o’r dyfrgwnac felly mi es draw i Ddyffryn Meifod ynrheolaidd pan oedd amser gen i.Mi weles i y fam a thri o rai bychain (er nadoedden nhw mor fach â hynny – tybiais eubod tua blwydd oed) gyda hi ar sawl achlysurwrth iddyn nhw grwydro i fyny a lawr rhan o’rafon.

    Roedd y fam yn helpu’r tri i hela gan euharwain i lefydd addas a pwrpasol. Wediplymio o dan y d@r gellid eu gweld yn cnoirhywbeth yn eu cegau – anodd oedd gweldbe ond mwy na thebyg mai pysgod felpenlletwad (bullhead) neu wrachen farfog(stone loach) oedden nhw; maen nhw’n bwytacimwch yr afon hefyd (crayfish) – gwn fod y trimath yma o greadur yn byw yn y rhan yma o’rafon. Un o hoff fwydydd y dyfrgi yw llysywod(eels) ond mae’r rhain wedi mynd yn eithriadolo brin – dim ond 5% sydd yn ein afonyddheddiw o’i gymharu a’r sefyllfa yn y 1980au.Gan fod llwybr cyhoeddus ar ddwy ochr i’r afonyn y rhan arbennig yma, a gan nad oedd tyfiantar y coed na Jac y Neidiwr wedi dechrau tyfu,roedd yn gymharol hawdd i’w gweld amgyfnodau hir.Hawdd oedd clywed cri uchel iawn y fam yngalw yn achlysurol ar y rhai bach a hwythauyn eu tro yn ei hateb. Ar adegau hefyd, gellid

    clywed synau wrthiddyn nhw chwaraeefo’i gilydd,gweithgaredd sydd ynbwysig iddyn nhwddatblygu eu sgiliau.Mae eu gweld yn nofioyn acrobatig a chyflymyn ddigon o ryfeddodac maent yn hollol gartrefol mewn [email protected] dyfrgwn yn diriogaethol iawn gydaoedolyn yn hawlio dros tua 12 milltir o’r afon– mae’r gwryw efo mwy o diriogaeth na’r fenywa bydd efo mwy nag un partner hefyd weithiau.Pan fydd y rhai bach tua 14 mis oed, byddantyn gadael eu cartre a chwilio am le arall i fyw.Bydd y fam yn rhoi genedigaeth i rhwng 2-5 o

    rai bach (er bod marwolaethau yn gyffredin)ac o fewn rhai wythnosau, yn annisgwylefallai, bydd hi’n eu gorfodi i fynd i mewn i’rd@r – a hynny fel arfer mewn llefydd mwydistaw gyda llif arafach. Mae hi’n wyliadwrusa gofalgar iawn a bydd hi yn pysgota tua wythawr y dydd ar gyfer ei hun a’r rhai bach panfyddant yn ifanc iawn; nid yw’r tad yn ymweuddim â nhw wedi eu genedigaeth.Gall dyfrgwn dreulio tua wythnos mewn un lleos oes digon o fwyd ar gael a gallant hefydgrwydro tua saith milltir bob dydd. Byddganddynt nifer o lefydd ar hyd yr afon i lochesuyn ogystal ag un mwy sylweddol gydamynediad o dan ac uwchben lefel y d@r llebydd y fam yn rhoi genedigaeth ac yngwarchod.Mae’r dyfrgwn yn gadael ‘negeseuon’ mewnmannau amlwg – sef ‘spraint’ du tywyllgymharol hir a chul. Ffordd arall o wybod osydynt o gwmpas (yn ogystal a’u cri) yw olioneu pawennau ar fwd ar y lan. Wrth iddynt nofioo dan y d@r mae’n bosib gweld nifer o swigodwedi codi ar y wyneb; gallant agor eu llygaid odan y d@r gyda chymorth amrant ychwanegolsydd yn hollol dryloyw (transparent) ac yn cauo flaen llygaid fel drws.Sut mae’r dyfrgwn yn gallu ymdopi mewn d@rmor oer yn y Gaeaf? Mae ganddynt ddwy haen

    drwchus o flew neu ffwr. Mae’r gôt isa, fel petai,gyda nifer fawr o flew byr sydd yn ffurfio matho wlanen feddal fel felfed. Ar ben hwn, maeganddynt haen o flew hirach amddiffynnol.Mae’r cyfuniad o’r ddwy haen yma yn cynnwys,coeliwch neu beidio, 70,000 o flew i bob cm!Fel cymhariaeth mae gan gi hysgi sydd wediei addasu i’r oerfel, gôt o 600 o flew bob cm.Yn ogystal mae olew arbennig gwrth-dd@r drosflew y dyfrgi sydd yn golygu nad yw d@r hydyn oed yn cyffwrdd y croen, gan ei wneud ynhollol [email protected] mae’r dyfrgi ar dir sych, mae’r gôt ynagor i fyny yn syth oherwydd yr aer sydd ynddo.Gyda ysgwydiad da, mae’r blew amddiffynnolyn ffurfio saethau pigog sydd yn arwain y d@r iffwrdd o’r corff. Bydd hefyd yn cael rôl go ddaer mwyn gwasgu mwy o dd@r allan cyn caelysgwydiad arall!Anifail rhyfeddol felly. Ac rydym yn ffodus iawneu bod yma efo ni. Bu bron i’r dyfrgi ddiflannuo Brydain. Roeddynt yn elynion y stadau mawr,rhai oedd efo pyllau yn llawn pysgod, pygotwyr,a mwy - yn hytrach na bod yn arwydd o afoniach. Dros y canrifoedd maent wedi cael euherlid a’u lladd fel pla, ac ar adegau felffynhonell ffwr ar gyfer dillad.Dw i’n cofio pan o’n yn blentyn ifanc ynPontrobert gweld helwyr dyfrgwn yn mynd imewn i’r afon ger y bont – be sydd wedi arosyn fy nghof yw sannau coch y dynion. Maepethau wedi newid erbyn heddiw. Neu ydennhw go iawn?Nid pawb sydd yn gweld dyfrgwn fel anifail i’wbarchu a’i edmygu; gwell i mi beidio rhoi lawrsut ddisgrifiodd un pysgotwr ddyfrgi oedd, ynei farn o, wedi bwyta’r pysgod o un pwll yn yrafon. I’r dyfrgi wrth gwrs mae’n rhaid pysgota iaros yn fyw.Mae nifer o lyfrau a gwybdaeth ar y we amddyfrgwn. Dau lyfr ges i flas arnynt yw llyfrRSPB Otters gan Nicola Chester a Otters:Return to the River gan Laurie Campbell aAnn Levin sydd efo lluniau godidog o ddyfrgwna bywyd gwyllt yn gyffredinol. Mae gen i ffilmneu ddwy ohonyn nhw (a nifer o bethau eraill)ar fy safle Trydar/Twitter @DewiRoberts77

    A.J.’sAnn a Kathy

    Stryd y Bont, Llanfair

    Siop Trin Gwallt

    Ar agor o ddydd Mawrth iddydd Sadwrn

    ac hwyr nos Wener

    Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227

    KATH AC EIFION MORGANyn gwerthu pob math o nwyddau,

    Petrol a’r Plu

    POST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPLLLLLLLLLLWYDIARWYDIARWYDIARWYDIARWYDIARTHTHTHTHTH

    Ffôn: 820208

    Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

    MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

    Bwyd da am bris rhesymol8.00a.m. - 5.00p.m.

    Ffôn: 01650 531210

  • 1212121212 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    LLANFAIR CAEREINION

    BedyddBedyddiwyd Dougi, mab bach Bethan a James, y Mount, Llanfair, abrawd Freddie a Lily, yng nghapel Soar gan y Parch. Euron Hughesar brynhawn hynod o braf ym mis Chwefror. Cafwyd te blasus i ddilynyn y Dyffryn, Foel.Gwellhad buanDymuniadau da i Llinos Evans yn dilyn ei llawdriniaeth yn ddiweddar,a gobeithio y bydd hi wedi gwella’n fuan.Gyrfa ChwistYn yr Yrfa Chwist San Ffolant a gynhaliwyd yn y GanolfanGymunedol ddydd Llun, 11 Chwefror roedd 9 o fyrddau yn chwaraea’r MC oedd Arwel Rees. Yr enillwyr ymysg chwaraewyr y merchedoedd Gwyneth Williams, Ceinwen Hughes a Maureen Jones. Ymysgy Dynion yr enillwyr oedd Elwyn Griffiths, Eric Gethin, ArthurMountford a Brian Jerman, ac yn y gystadleuaeth Nocowt yr enillwyroedd Olive Owen ac Arwel Rees. Diolchwyd i bawb am ddod, i’rrhai oedd wedi rhoi gwobrau at y raffl ac i ferched y Ganolfan ambaratoi bwyd.Cinio G@yl DdewiCinio G@yl DdewiCinio G@yl DdewiCinio G@yl DdewiCinio G@yl DdewiDathlwyd G@yl Ddewi yn y Ganolfan Gymunedol nos Wener, 22Chwefror gyda swper ardderchog a gwledd o adloniant. Croesawydpawb gan y cadeirydd, Arwel Rees, ac wedi i Gwilym Humphreysddweud gras cafodd bwyd hyfryd ei weini gan ferched y Ganolfan.Roedd yr adloniant yng ngofal cantorion ac offerynwyr o ardalLlanerfyl a Llangadfan. Cafwyd eitemau ar y delyn gan Lynfa,cyflwynwyd nifer o ganeuon gan Adleis a Grug, cafwyd eitem ar ypiano gan Greta a bu hi a Meinir Evans yn cyfeilio i’r cantorion.Diolchodd Arwel i bawb a wnaeth y noson yn un mor bleserus.Dymuniadau gorau i bawb dros dymor yr wyna.

    Cyfarfod SefydluAr Chwefror 2ail cynhaliwyd Cyfarfod Sefydlu’r Parch. Euron Hughesyng nghapel Moreia i fod yn weinidog rhan-amser i Ofalaeth BroCaereinion. Mae’r Ofalaeth yn cynnwys yr Eglwysi canlynol: Adfa,Capel Coffa Dolanog, Ebeneser, Gosen, Rehoboth, Saron, Soar,Meifod, Moreia, Pontrobert (W) a Seilo Llwydiarth. Mae Euron eisoesyn Weinidog rhan-amser ar Eglwysi Annibynwyr Dinas Mawddwy,Dolgellau a Llanelltyd ac mae ei gartref ef a Buddug ei wraig, a Lleucu’rferch, yn Llanuwchllyn. Braint yw ei groesawu atom a gobeithio y byddyn hapus yn ein plith am flynyddoedd i ddod.Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchedigion GwyndafRichards, Anita Ephraim, Carwyn Siddall, Robert Parry, EdwinHughes, Iwan Llewelyn Jones, a Peter Williams a chafwyd cyfraniadaugan John Ellis, Mali Ellis, Ieuenctid y capeli, Jane Peate, BuddugBates, Elen Jones, Huw Ellis a phlant yr Ysgol Sul a hyfforddwyd ganMrs Nia Chapman. Wedi’r oedfa cafodd pawb de yn yr Institiwt i goronidiwrnod hapus a gobeithiol.Dydd Gweddi’r BydCynhelir y cyfarfod blynyddol hwn ym Moreia, Llanfair ddydd Gwener,Mawrth 8fed am 2 o’r gloch. Mawrth 1af yw’r dyddiad a nodwyd ar eigyfer ond oherwydd hanner tymor ac ati, bydd yn cael ei symud ymlaeni’r dydd Gwener canlynol. Merched Slofenia sydd wedi paratoi’rgwasanaeth eleni. Croeso i bawb, gan gynnwys dynion eleni!Merched y WawrMae Merched y Wawr wedi dechrau prysuro eto ar ôl y flwyddynnewydd. Aeth tîm i gystadlu yn yr Yrfa Chwilod yn Dyffryn ym misChwefror, a chafwyd Gyrfa Chwilod arall yn y gangen nos Fercher,Chwefror 20 o dan ofal Mrs Olwen Roberts, Llangadfan. Noson ddifyra hwyliog a llongyfarchwyd Olwen ar ddod yn nain i Tegid Owen, mabbach Geraint a Mererid, a brawd Gwenllian.Byddwn yn dathlu G@yl Ddewi nos Fercher, Chwefror 27 gyda Chawla Phwdin yn yr Institiwt ac adloniant gan Arfon Williams,Cwmtirmynach, a fethodd ddod y llynedd oherwydd y tywydd mawr!ColledAr Chwefror 4ydd bu farw Ronald Martin Williams, gynt o WestonHouse, Llanfair ac yntau yn 80 oed. Roedd yn @r y ddiweddar Dilys,ac yn dad i Nigel, Lyn a Tracey. Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa iddoyn Eglwys y Santes Fair ar Chwefror 23ain.

    RHIWHIRIAETH

    Ivy ac Elen yn y te wedi’r Cyfarfod Sefydlu

    Tom a John Ellis Joyce, Enid a Dilys yn mwynhau sgwrs yn yr Institiwt

  • Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019 1313131313

    Am ddiwedd perffaith ifis Chwefror - diwrnodauhir o heulwen braf, yborfa yn tyfu, a Chymru’ntrechu’r Saeson yngNghaerdydd! ‘Chwefrorteg yn difetha’r un arddeg’ meddai’r

    dywediad yn fy nyddiadur, ond mae’n rhaid cofio bod y mis wedi dechrauefo trwch o eira oer a glaw trwm a mis Mawrth, bryd hynny’n teimlo’nbell i ffwrdd - i feddwl bod y mis wedi gorffen efo’r lawnmower allan!

    Mis o baratoi erbyn wyna a gafwyd yma efo carthu cytiau a chael ysieds yn barod i’r defaid ddod i mewn. Bydd yr wyna yn dechrau ymhentair wythnos ond pur anaml y mae popeth yn teimlo mor hamddenoladeg yma o’r flwyddyn, efo’r defaid i gyd wedi cael eu tocio, drenchioam ffliwc yn ogystal â’r brechiad 7-1. Mae’r triplets wedi dod i mewn acyn cael tua ½kg o ddwysfwyd ond braf yw medru gadael y gweddillallan ar silwair, sydd yn arbed ar gostau gwellt ac ar waith bwydo, hebsôn am lai o ‘footrot’ a gorfod trin traed.

    Efo’r caeau wedi sychu’n dda fe gafwyd cyfle i fynd ag ychydig o dailallan ac hefyd chwalu calch ar sawl cae. Er ei bod yn llawer cynt na’rarfer penderfynwyd rhoi ychydig o wrtaith allan gan fod y ddaear wedicynhesu a’r borfa yn tyfu, ac felly cafodd y caeau sydd yn wynebu’rhaul tua 110kg/ha o CAN.

    Mae’r heffrod godro wedi altro ers dechrau’r flwyddyn ac rydym nawram ddechrau cynllun iechyd a brechu am BVD, Lepto ac IBR. Ganfod y heffrod wedi dod o 5 ffarm wahanol mae amrywiaeth yn eu statwsiechyd ac felly teimlaf ei bod hi’n bwysig cychwyn protocol cywir ar ycyfan. I ddechrau’r broses cefais y fet i gymryd sampl o waed o’r heffroddrwy’r cynllun ‘Gwaredu BVD’ i gael gweld a oedd yno broblem. Yn ôl ycanlyniadau roedd un gr@p o heffrod yn dangos eu bod wedi bod mewncysylltiad â BVD ac felly rydym yn gwneud ‘tag and test’ ar yr holl gr@pyna i geisio darganfod os oes anifail heintus yn y gr@p, er mwyn gallucael gwared ohono.

    Erbyn hyn y mae llai na mis i ‘Brexit day’ efo’r 29ain o Fawrth yn brysuragosau, ond yn anffodus mae’r gwleidyddion yn parhau i anghytuno acyn methu’n lân a chydweithio a chytuno er mantais y wlad. Mae’r senarioNo Deal yn cael ei ddefnyddio fel bygythiad i Ewrop sydd yn gwrthodtrafod newidiadau i’r cytundeb sydd ar y bwrdd, ond y gobaith yw ybydd cytundeb munud olaf yn cael ei gytuno. Heb gytundeb nid yw’rrhagolygon yn dda i gig oen efo tariff, neu tax o hyd at 48% ar allforion iEwrop, sydd yn cael yr effaith o ddyblu pris yr oen. Gobeithio y byddsynnwyr cyffredin yn ennill y dydd.

    Mae cynllun Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn derbyn ceisiadauhyd y 31ain o Fawrth efo’r cynllun yn gyfle gwych i ehangu profiadaua gorwelion. Mae tri categori gwahanol efo un ar gyfer arweinyddiaethac un ar gyfer menter a busnes gan gynnwys categori i aelodau iau.Cafodd Thomas Goetre a Fflur Abernodwydd eu derbyn ymlaen i’rAcademi Iau ddwy flynedd yn ôl ac mae’r ddau wedi mwynhau y profiadac wedi manteisio ar y cyfleon. Mae mwy o fanylion i’w cael ar wefanCyswllt Ffermio.

    Mae Barry Price wedi bod yn brysur torri coed yma dros y misoedddiwethaf ond yn anffodus cafodd ei gymryd yn wael yn ddiweddar agorfod treulio amser yn yr Ysbyty yn Aberystwyth. Ar ôl cryn bryderrwy’n falch o glywed fod Barry wedi dychwelyd adre. Gobeithio ei fodyn teimlo’n well a brysia wella.

    Yn anffodus ni anfonais luniau o Des wrth sôn am ei hanner can mlyneddyma yn Llysun mis diwethaf -nid hawdd yw tynnu ei lun, efo Des ynwych am droi ei ben pan fo’r camera’n barod i dynnu!

    ‘Ariennir Plu’r Gweunyddyn rhannol gan Lywodraeth Cymru’

  • 1414141414 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    YmweliadauMae’r holl ysgol wedi bod yn lwcus iawn ynddiweddar yn cael perfformiadau gwych i gyd-fynd a’u themâu. Aeth dosbarth y cyfnodsylfaen i Ysgol Dyffryn Banw i gael sesiwnddramatig am Melangell gyda Mair TomosIfans. Ar yr un diwrnod cafodd y dosbarth hynafwledd yn y sioe “Mewn Cymeriad” am daith yMimosa i Batagonia. Rhaid dweud yma hefydfod y plant a ninnau wedi mwynhau darllenhanes Elfet Lewis yn fawr iawn a’r mannau felTir Halen a Gaiman yn enwau cyfarwydd iddynnhw bellach.Prosiect y GofodBu ysgolion Llanerfyl, Dyffryn Banw a

    Pytiau o Ysgol Pontrobert

    ninnau’n lwcus iawn i gael ein gwahodd i fodyn rhan o brosiect cyffrous am y gofod. Daethblynyddoedd 3-6 y tair ysgol at ei gilydd iweithio ar furlun anferth a fydd yn gefn i sioeyn Theatr Hafren ym mis Mawrth. Hefyd buomyn cydweithio ar heriau mathemateg ac iaithac edrychwn ymlaen yn awr i fynd efo’n gilyddi weld y sioe yn y theatr gyda Sinffonia Cymruyn perfformio’r gerddoriaeth.Diogelwch ar y WeMae diogelwch ar y we yn hynod o bwysig ini i gyd ac ar ddiwrnod “Diogelwch ar yWe”cynhyrchodd y plant daflen wybodaeth irieni yn eu hatgoffa am bwysigrwydd hyn. Mae’rdaflen yma i’w gweld ar ein gwefan.

    Mari LovgreenCafwyd bore diddorol yng nghwmni Mari pan ddaeth i drafod a darllen rhannau o’i llyfr diweddaraf“Syniadau Slei” gyda disgyblion blynyddoedd 2-6. Llyfr doniol iawn yw hwn sy’n llawn pranciaubach drygiog sy’n apelio’n fawr at blant o bob oed! Edrych ymlaen am y llyfr nesaf yn awr.

    CogurddLlongyfrachiadau i Nia Lincoln am baratoibwyd hyfryd yn y gystadleuaeth goginioflynyddol. Bydd hi’n cynrychioli’r ysgol ynrownd y rhanbarth yn nes ymlaen yn y tymor.

    DOLANOG

    Colli dwy o’n plith:Trist oedd clywed am farwolaeth sydynGwennie Evans, Efail y Wig ar y 6ed oChwefror yn Ysbyty Amwythig yn 92 mlwyddoed.Bu sawl cenhedlaeth o deulu Gwennie yn bywa gweithio yn Efail y Wig, cysylltiad sydd ynmynd yn ôl i 1862 pan ddaeth ei Hen Daid(Daniel Thomas) yno gyntaf fel gof, ac er bodgwaith yr efail wedi tewi ers 1985 parhaoddGwennie i fyw yn y cartref hyd at fisoedd olafei bywyd.Cynhaliwyd y gwsanaeth angladdol ynEglwys Llangynyw a rhoddwyd ei gweddillioni orffwys gyda’i theulu ym mynwent yr EglwysBethan Torne:Daeth cwmwl arall o dristwch dros yr ardalwrth glywed am farwolaeth Bethan Torne.Bu farw yn dawel yn ei chartref yn Glyn Isafar y 14eg o Chwefror a hithau ond yn 59mlwydd oed. Bu’n ymladd yn hir ac yn ddewryn erbyn ei chlefyd creulon, a chafodd ofal tynera charedig gan ei phlant drwy gydol ei salwchac yn arbennig yn ystod misoedd olaf eibywyd.Cydymdeimlwyn yn ddwys gyda Glyn a Sian(Caerdydd) a Rhian a Mark (Ty-Isaf) yn eucolled. Gwyddom i Bethan gael pleser amwynhad o’r mwyaf yng nghwmni ei hwyresa’i hwyrion Ffion, Ioan a Hefin dros yblynyddoedd diwetha, a mawr fydd eu hiraethhwythau am Nain annwyl hefyd.Cynhelir yr angladd dydd Sadwrn Mawrth yr2il am 2 o’r gloch,yng Nghapel Coffa AnnGriffiths Dolanog.Dymuniadau gorauAnfonwn ein cofion gorau am wellhad buan iMrs Eirys Jones, Derwen sydd wedi caelllawdriniaeth ar ei chlun yn dilyn anffawd ynddiweddar.

    Cafwyd noson braf ar ddechrau mis Ionawr pan oedd blwyddyn 6 yn gwneud cyflwyniad i’nllywodraethwyr ar ddigwyddiadau’r flwyddyn. Mae’n syndod faint o bethau sy’n digwydd mewnblwyddyn! Uchafbwynt y noson i’r plant oedd y bwyd wedyn, mae’n siwr!

  • Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019 1515151515

    Colofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrLois Martin-Short

    Hwyl yn y Sadwrn SiaradHwyl yn y Sadwrn SiaradHwyl yn y Sadwrn SiaradHwyl yn y Sadwrn SiaradHwyl yn y Sadwrn SiaradDaeth 37 o ddysgwyr i’r Sadwrn Siarad, yn yDrenewydd ac roedd y diwrnod ynllwyddiannus iawn. Roedd pedwar gr@p, olefel Mynediad hyd at Uwch. Yn y gr@pCanolradd, cafwyd cwis am afonydd Cymru,ychydig o waith gramadeg, a thrafodaeth amdeithio. Yn y prynhawn, mi wnaethon ni wrandoar un o ganeuon Ar Log, astudio’r geiriau a’ucanu. Diolch i bawb a ddaeth ar y cwrs, i’rtiwtoriaid, ac i Sue a Debbie am y trefniadau.Y cwrs Pasg sydd nesaf, 16,17 Ebrill, fellyrhowch y dyddiad yn eich dyddiaduron.Taith Gerdded, 9 Mawrth, 10kmDach chi’n hoffi cerdded? Dewch am dro efodysgwyr eraill yn ardal Aberystwyth, ddyddSadwrn, y 9fed o Fawrth am 10:30. Bydd ydaith yn cychwyn o Ganolfan Integredig, Boul-evard de Saint Brieuc, SY23 1PD, yn myndheibio’r Llyfrgell Genedlaethol at yr arfordir acyn gorffen wrth Pen Dinas. Mae angencofrestru ar lein o flaen llaw. Ffoniwch 0800876 6975 neu [email protected] gyda Gwenan Gibbard – 13MawrthMae Merched y Wawr, y Drenewydd, yncynnal noson ‘Cawl a Chân’ i ddysgwyr, nosFercher y 13eg o Fawrth yn y Clwb Rygbi am7.30. Bydd bwyd ardderchog, cwmni da acadloniant gwych yng nghwmni’r delynoresenwog Gwenan Gibbard.Croeso cynnes i ddysgwyr (merched a dynion!)Felly, dewch yn llu! Mae’n costio £10.00 y pen.Cysylltwch â Diane Norrell, [email protected] iarchebu tocynnau.Gwyl ar Lafar – Ebrill 6Rydyn ni’n trefnu bws i godi dysgwyr a’uffrindiau i fynd i’r Wyl ar Lafar yn y LlyfrgellGenedlaethol, ddydd Sadwrn y 6ed oEbrill. Bydd cyfle i fynd ar daith dywys ogwmpas y Llyfrgell, ac i ymuno mewngwahanol weithdai. Byddwn ni’n dechrau o’rTrallwng ac yn mynd drwy’r Drenewydd a chodimewn mannau eraill ar y ffordd. Bydd y bwsyn costio tua £11 y pen. Mae’r diwrnod ynaddas i ddysgwyr o bob lefel ac yn edrych ynardderchog. Croeso i siaradwyr rhugl ymunoâ’r trip. Os hoffech chi fynd, cysylltwch âDebbie ar 01686 614226 neu [email protected]

    PONTROBERTSian Vaughan Jones

    01938 [email protected]

    Traed BachLlongyfarchiadau mawr i Roy ac AnwenGriffiths, Dyfnant sydd wedi dod yn daid anain unwaith eto. Ganwyd mab bach i Mererida Geraint felly cyfarchion iddyn nhw ac iGwenllian y chwaer fawr hefyd. Croesocynnes i Tegid Owen Roberts. Hoffi'r enw ynfawr, fel un o ardal Penllyn! Llongyfarchiadauhefyd i Gwynne ac Eleri Thomas, Llanoddionsydd wedi dod yn daid a nain unwaith etohefyd, ac i Winnie Evans ar ddod yn hen naineto hefyd. Ganwyd mab bach i Huw a Gemmasef Fred Jerman Thomas. Dymuniadau goraui chi fel teuluoedd.CroesoEstynnwn groeso cynnes i Mererid Lewis, aSion a Manon sydd wedi symud i fyw iDdolobran Isaf yn ddiweddar. Dymuniadaugorau i chi yn eich cartref newydd, a braf yweich cael yn ein mysg.MarwolaethBu farw Gwennie Evans, Efail y Wig a hithauyn 92 oed. Roedd yn wraig i'r diweddar Jos.Roedd hi wedi treulio y rhan fwyaf o'i hoes ynbyw yn yr hen efail ac yn gyndyn iawn i adaelei chartref am rywle mwy clyd a chysurus. Cyny Nadolig fe aeth am ysbaid i gartref LlysHafren yn Y Trallwng, ac yno y bu tan y nosoncyn iddi farw pan symudwyd hi i’r ysbyty. Bu'rangladd yn Eglwys Llangynyw a chafwydgwasanaeth hyfryd gyda sawl aelod o'i theuluyn cymryd rhan. Er iddi gael ei geni a mynychuyr ysgol yn ardal Clay Cross, Swydd Derby,roedd ei theulu a'i gwreiddiau yn ddwfn yn yrardal hon. Roedd yn un o deulu Daniel Tho-mas sef y gof a roddodd ei enw arall ar yr efail- Efail Daniel. Ei thad William Thomas oedd ygof olaf yn yr efail ac fe drosglwyddoddGwennie lawer o'r hen offer a chelfi i'w cadwyn amgueddfa Sain Ffagan. Er nad ydw i fyhun (SVJ) wedi fy magu yn Sir Drefaldwyn,mae gwreiddiau teulu fy nhad yma gan fod fynain (Clara Myfanwy Thomas) yn chwaer iYncl Bil (tad Gwennie) ac felly wedi ei maguyn yr efail. Felly pan oeddwn yn blant byddemyn cael taith dros y Berwyn o bryd i'w gilyddac yn ymweld â Gwennie, Jos ac Yncl Bil ynNhy'n y Coed ac Efail y Wig ar brynhawn Sul.Dyna fy atgofion cyntaf o ymweld â SirDrefaldwyn ac mae'n rhyfedd mai yn yr unardal yr wyf bellach yn byw! Gwennie oedd ycysylltiad rhwng fy nhad a theulu yr Efail, abellach mae'r gadwyn wedi ei thorri. Byddaidad yn dweud o hyd fod Gwennie, ei gyfnitheryr un oed a'r Frenhines! ond fe gafodd hi fywydtra gwahanol. Er hynny Gwennie oeddbrenhines Efail y Wig ar hyd ei hoes a chwithyw meddwl na fydd cyswllt y teulu Thomas ynobellach. Atgofion melys iawn am Gwennie.Plant y BricsDaeth Edgar Lewis o Wrecsam i sgwrsio arhannu ei brofiadau gydag aelodauCymdeithas Gymraeg Pont a Meifod ym misChwefror. Roedd ganddo deulu yn byw yn TyNewydd Pont flynyddoedd yn ôl felly braf oeddcael ei groesawu yn ôl i'r ardal. Bu'n gweithioym myd addysg drwy ei oes ac yn GyfarwyddwrAddysg yn Sir Ddinbych. Ym Mis Mawrth 2000

    ymwelodd un o'i gydweithwyr â Nepal lle ygwelodd gannoedd o blant yn gweithio ochryn ochr a’u rhieni ar feysydd briciauKathmandu yn gwneud briciau â llaw. Nidoedd unrhyw ddarpariaeth addysgol i'r plant aphenderfynwyd codi arian i wella bywyd 'planty brics' fel y’i galwyd hwy o'r dechrau. Yn dilynyr ymweliad crewyd prosiect peilot gyda’rbwriad o benderfynu a oedd sefydlu ysgol ynTikathali yn bosibl. Cefnogwyd y prosiect ganGlybiau Rotari Yala (Patan) a Wrecsam Iâl a`rGroes Goch yn Kathmandu. Daeth EdgarLewis yn un o arweinwyr y gwaith o gydlynu'rprosiect a daeth yr arian i mewn yn gyson trwydeithiau cerdded noddedig, boreau coffi achyngherddau. Diddorol oedd clywed hanesy gwaith gwerthfawr yma ac fe gyflwynwydcyfraniadau ariannol i 'Blant y Brics' ar y noson.Diolchwyd i Mr Lewis am ei sgwrs ddiddorolac am ei ymroddiad at y prosiect.Gwyl DdewiBydd aelodau’r Gymdeithas yn dathlu G@ylDdewi nos Wener Mawrth yr 8fed gyda swperblasus gan deulu T~ Cerrig ac adloniant ganbedwarawd Pen Llan. Edrychwn ymlaen atgael dod at ein gilydd i ddathlu G@yl einNawddsant ac i barhau i wneud y pethaubychain. Dydd G@yl Dewi Hapus i bawb.LladronBu lladron yn brysur iawn mewn sawl ffermyn yr ardal yn ddiweddar gan gymryd gwerthmiloedd o bunnoedd o wahanol offer. Byddwchyn wyliadwrus a chofiwch gadw eich eiddo odan glo bob amser.Marry Poppins PontrobertLlongyfarchiadau mawr i un o ferched y fro arei llwyddiant ym maes y ffilmiau. Mae PaulaPrice, Pen Rhos gynt, yn gweithio fel artistcolur ym myd y ffilmiau ac yn ddiweddar maewedi ei henwebu ar gyfer gwobrau yn Holly-wood am ei gwaith ar gyfer y ffilm 'MaryPoppins Returns'. Cafodd ei henwi yn ycategori - 'Feature Motion Picture: Best Spe-cial Make Up Effects'. Braf cael clywed amlwyddiant pobl o'r ardal hon ym myd y ffilmiaurhyngwladol. Edrychwch allan am enw PaulaPrice ar ffilmiau eraill yn y dyfodol.DathluDymuniadau da i Mrs Glenys Price, mamPaula (a Kathy a Keith hefyd) sydd wedi dathluei phenblwydd yn 93 oed yn ddiweddar.Llongyfarchiadau wrth iddi ddathlu unwaitheto.CleifionAnfonwn ein cofion at sawl un sydd wedi bodyn yr ysbyty ac yn derbyn sylw meddygol ynddiweddar.Dymunwn yn dda i bob un ohonoch ganobeithio y byddwch yn gwella ac yn cryfhauyn fuan.

    PETHE

    POWYS

    Ffôn: 01938 554540Oriau agor

    10 y bore hyd 4.30BYDD Y SIOP AR GAU BOB DYDD

    MAWRTH TAN DDIWEDD MAI

    Y TRALLWM

    01938 810242/01938 811281 [email protected] /www.banwyfuels.co.uk

    TANWYDD

    OLEWON AMAETHYDDOL

    POTELI NWY

    BAGIAU GLO A CHOED TAN

    TANCIAU OLEW

    BANWY FEEDS POB MATH O FWYDYDD

    ANIFEILIAID ANWES

    A BWYDYDD FFERM

  • 1616161616 Plu’r Gweunydd, Mawrth 2019

    CFfI DYFFRYNBANW

    Hanes byr y tro yma!Yn ystod y mis diwethaf mae’r aelodau wedibod yn brysur yn paratoi ar gyfercystadleuaeth Hanner Awr Adloniant yn TheatrHafren a gafodd ei berfformio ar y 26fed oChwefror. Cewch y canlyniadau yn y rhifynnesaf. Hoffem fel clwb ddiolch yn fawr i CatrinHughes, David Evans a Gerallt Evans amgynhyrchu eto eleni. Rydym yn ddiolchgariawn i chi am roi eich amser i’r clwb. Hefyddiolch i Carol Morgan, Meinir Evans am helpugyda’r gwisgoedd ac i griw o fechgyn y clwbam wneud y set. Byddwn wedi perfformio ynNeuadd Dinas Mawddwy ar y 27ain oChwefror, ynghyd â Dramâu Dinas a HannerAwr Adloniant Dinas Mawddwy. Cofiwch amein cyngerdd sydd eleni ar y 4ydd o Fawrtham 7:30 gyda Chawl ac Adloniant, ynghyd âChlwb CFfi Dinas Mawddwy yn perfformio‘Adloniant Diner y Dinas’. Dewch yn llu i wylioein perfformiadau.

    Clwb Ffermwyr IeuaincPob dymuniad da i’r clwb fydd yn cystadlu yn y Drenewydd yn y gystadleuaeth ‘One Plus’Diolch i Sally Birchall a Phil Watkin am drefnu’r sgript.Mae’r clwb wedi cael ei ginio yn ddiweddar yn Cobra Meifod. Cafwyd noson hwyliog iawn achyflwynwyd siec o £526.61 tuag at apêl Canser y Fron. Casglwyd hyn drwy ganu carolau,noson cwis yn y King’s Head a chynnal raffl yn y pantomeim yn Meifod. Braf ydi gweld pobolifanc yn gwneud cymaint er budd elusennau - da iawn chi’n wir.

    Myrddin ap Chwper, y dewin pwerus

    cacennau dathlu unigrywPenblwydd, Nadolig,Priodas, Bedyddio,Ymddeol,Pob Lwc

    01938 820856 neu07811 181719

    CEGIN KATE

    YR HELYGLLANFAIR CAEREINION

    Ffôn: 01938 811306

    Contractwr adeiladuAdeiladu o’r Newydd

    Atgyweirio Hen DaiGwaith Cerrig

    CEFIN PRYCE

    Clwb CFfI Dyffryn Efyrnwy

    ym mhentre Llangadfan01938 82063301938 82063301938 82063301938 82063301938 820633

    ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU AGORAGORAGORAGORAGORDydd Llun i Ddydd GwenerDydd Llun i Ddydd GwenerDydd Llun i Ddydd GwenerDydd Llun i Ddydd GwenerDydd Llun i Ddydd Gwener

    8.00 - 5.008.00 - 5.008.00 - 5.008.00 - 5.008.00 - 5.00Dydd Sadwrn 8.00 - 4.30Dydd Sadwrn 8.00 - 4.30Dydd Sadwrn 8.00 - 4.30Dydd Sadwrn 8.00 - 4.30Dydd Sadwrn 8.00 - 4.30

    Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30