adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd,...

28
1 Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013 Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015 Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Health Intelligence Division, Public Health Wales Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru Canser yng Nghymru Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a chyfraddau goroesi canser yn cynnwys data newydd 2013 a gyhoeddwyd fel Ystadegau Swyddogol ar 3 Chwefror 2015 www.wcisu.wales.nhs.uk Gallwch weld yr Ystadegau Swyddogol trwy ddefnyddio’r dangosfwrdd i gynnal eich dadansoddiad eich hun yn ôl math o ganser, bwrdd iechyd neu lefel Cymru gyfan, yn ôl mynychder, marwolaethau neu oroesi ar gyfer y cyfnod 2001-2013 yn www.wcisu.wales.nhs.uk

Upload: others

Post on 08-Jul-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

1

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit

Health Intelligence Division, Public Health Wales

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru Cyfadran Deallusrwydd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canser yng Nghymru Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a

chyfraddau goroesi canser – yn cynnwys data newydd

2013 a gyhoeddwyd fel Ystadegau Swyddogol ar 3

Chwefror 2015

www.wcisu.wales.nhs.uk

Gallwch weld yr Ystadegau Swyddogol trwy ddefnyddio’r dangosfwrdd i gynnal eich dadansoddiad eich hun yn ôl math o ganser, bwrdd iechyd neu lefel Cymru gyfan, yn ôl

mynychder, marwolaethau neu oroesi ar gyfer y cyfnod 2001-2013 yn www.wcisu.wales.nhs.uk

Page 2: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

2

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Tîm y prosiect

Dr Ceri White, Rebecca Thomas, Tamsin Long, Ciarán Slyne, Julie Howe, Helen Crowther, Dr Dyfed Wyn Huws

Cydnabyddiaeth Diolch arbennig i holl staff Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, yn arbennig y tîm cofrestru oherwydd hebddyn nhw, ni fyddai’r data a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn wedi cael ei gynhyrchu.

Diolch i’r bobl ganlynol am eu cymorth gyda’r cyhoeddiad hwn: Dr Clare Elliot, Gwenllian Evans, Dr Judith Greenacre, Dr Ciarán Humphreys, Isabel Puscas, Hannah Thomas a Janet Warlow

Manylion Cyhoeddi Teitl: Canser yng Nghymru, Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a goroesi canser yn y boblogaeth – yn

cynnwys data 2013

Dyddiad: Cyhoeddwyd y sylwadau hyn ar 4 Chwefror 2015 yn seiliedig ar Ystadegau Swyddogol a gyhoeddwyd ar 3 Chwefror 2015 ISBN: 978-1-910768-01-3

Cyswllt:

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru

16 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ Ebost: [email protected] Gwefan: www.wcisu.wales.nhs.uk

© 2015 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gellir atgynhyrchu deunydd a geir yn y ddogfen hon heb ganiatâd ymlaen llaw cyhyd â bod hynny’n cael ei wneud yn gywir ac nad yw’n cael ei

ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Dylid cydnabod Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae hawlfraint y trefniant teipograffyddol, y dyluniad a’r cynllun yn eiddo i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Diffiniadau Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oed ac EASR

Mae safoni yn ôl oed yn addasu cyfraddau i ystyried faint o hen bobl neu bobl ifanc sydd yn y boblogaeth sy’n cael ei hystyried. Pan fydd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oed, byddwch yn gwybod nad yw’r gwahaniaethau yn y

cyfraddau dros amser neu rhwng ardaloedd daearyddol yn adlewyrchu amrywiadau neu newidiadau yn strwythur oed y poblogaethau yn unig. Mae hyn yn bwysig wrth edrych ar gyfraddau canser am fod canser yn effeithio ar bobl hŷn yn bennaf. Trwy gydol yr adroddiad hwn rydym yn defnyddio Cyfraddau wedi’u Safoni yn ôl Oed Ewropeaidd (EASR) gan ddefnyddio Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013 (ESP) oni nodir fel arall.

Arwyddocâd ystadegol Os yw gwahaniaeth rhwng cyfraddau neu oroesi rhwng poblogaethau yn arwyddocaol yn ystadegol, mae’n golygu bod y gwahaniaeth yn annhebygol o fod wedi digwydd oherwydd siawns yn unig, ac y gallwn fod yn fwy hyderus ein bod yn gweld gwahaniaeth ‘gwirioneddol’. Yn yr adroddiad hwn rydym yn defnyddio’r terfyn

mympwyol confensiynol o lai na 5% o siawns i olygu arwyddocaol yn ystadegol. Am fod gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ei fod yn fawr neu’n bwysig – gall hynny ddibynnu ar ein barn a phethau eraill. Goroesi cymharol

Mae hwn yn ffordd o gymharu cyfraddau goroesi pobl sydd â chlefyd penodol – yn ein achos ni, canser – gyda

chyfraddau goroesi’r boblogaeth yn gyffredinol dros gyfnod penodol o amser. Caiff ei gyfrifo trwy rannu canran y cleifion sydd yn dal yn fyw ar ddiwedd y cyfnod (e.e. un neu bum mlynedd ar ôl diagnosis) gan ganran y bobl yn y boblogaeth yn gyffredinol o’r un rhyw ac oed sydd yn fyw ar ddiwedd yr un cyfnod. Mae’r gyfradd goroesi cymharol yn dangos a yw’r clefyd yn byrhau bywyd. Rydym yn defnyddio goroesi cymharol yn yr adroddiad hwn. Pob canser

Pan fyddwn yn defnyddio’r ymadrodd “pob canser” yn yr adroddiad hwn, yn ôl confensiwn, rydym bob amser yn golygu pob canser ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma.

Page 3: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

3

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Prif ganfyddiadau

Yr holl ganserau wedi’u cyfuno - nifer yr achosion newydd o ganser a chyfraddau mynychder

Mae nifer yr achosion newydd o ganser ymysg

preswylwyr Cymru yn parhau i gynyddu ymysg

dynion a menywod – roedd 19026 o achosion

newydd yn 2013, cynnydd o fwy na 12 y cant

o’i gymharu â 2004

Roedd y cynnydd mwyaf o ran niferoedd ymysg

dynion a menywod yn y grwpiau oedran 65-69

a 70-74, wedi ei ddilyn gan grwpiau oedran 50-

54 a 90+ ymysg menywod

Roedd y cynnydd mwyaf o ran niferoedd ymysg

dynion a menywod yn y grwpiau oedran 65-69

a 70-74, wedi ei ddilyn gan y grwpiau oedran

50-54 a 90+ ymysg menywod

Yn gyffredinol, mae canser yn mynd yn fwy

cyffredin wrth i oed gynyddu, ac eithrio’r grŵp

oedran 90+ ymysg menywod – mae’r gyfradd

canser wedi’i safoni yn ôl oed yn cynyddu’n fwy

sydyn ymysg dynion na menywod wrth i oed

gynyddu, ac ar gyfer pobl 70 oed ac yn hŷn,

mae’r cyfraddau ymysg dynion fwy na 50 y cant

yn uwch na menywod

Fe wnaeth cyfraddau mynychder pob canser

wedi’u safoni yn ôl oed ostwng yn sylweddol

ymysg dynion o 2004 i 2013 ond nid oedd

llawer o newid ymysg menywod heblaw am

gynnydd bach mewn rhai grwpiau oedran

Yr holl ganserau wedi’u cyfuno – nifer y marwolaethau yn sgil canser a chyfraddau marwolaeth

Roedd y cynnydd yn nifer y marwolaethau yn

sgil canser dros y deng mlynedd hyd at ac yn

cynnwys 2013 yn fach, yn arbennig ymysg

menywod – roedd newidiadau bach yn y rhan

fwyaf o grwpiau oedran, ond cynnydd yn y ddau

ryw ar gyfer y rheiny sydd yn 85 oed ac yn hŷn

Mae cyfraddau marwolaeth canser yn cynyddu

gydag oed, yn debyg ar gyfer y ddau ryw hyd at

55-59 oed yna maent yn ymwahanu – ymysg

dynion 90 oed ac yn hŷn, roedd cyfradd

marwolaethau canser wedi’i safoni yn ôl oed

ddwywaith yr hyn yr oedd ar gyfer menywod yn

2013

Yr holl ganserau wedi’u cyfuno - nifer y marwolaethau yn sgil canser

a chyfraddau marwolaeth

Gostyngodd cyfradd marwolaethau canser

wedi’i safoni yn ôl oed ar gyfer y rhan fwyaf o’r

grwpiau oedran rhwng 2004 a 2013, ac roedd y

gostyngiad hwn yn llai yn gyffredinol ymysg

menywod na dynion

Cafwyd cynnydd bach yn y gyfradd

marwolaethau ymysg menywod 85-89 oed a

dynion 90+ oed, heb lawer o newid ar gyfer

menywod 90+ oed

Yr holl ganserau wedi’u cyfuno – goroesi

Gwellodd goroesi pob canser yn raddol – am y

tro cyntaf, gwelwyd dros 70 y cant o bobl a

gafodd ddiagnosis o ganser yn goroesi am

flwyddyn o leiaf

Mae gan fenywod gyfraddau goroesi gwell na

dynion ond mae’r bwlch yn lleihau

Yr holl ganserau wedi’u cyfuno –

amrywiadau rhwng ardaloedd daearyddol

Mae’r gyfradd mynychder ar gyfer yr holl

ganserau wedi eu cyfuno yn amrywio’n

sylweddol rhwng poblogaethau byrddau iechyd

ac awdurdodau lleol – mae cyfradd uchaf

mynychder canser awdurdodau lleol ym Merthyr

Tudful bron 20 y cant yn uwch na’r isaf yng

Ngheredigion yn 2009-2013

Mae cyfraddau marwolaethau'r holl ganserau

uchaf mewn rhai awdurdodau lleol yng

nghymoedd de ddwyrain Cymru a gogledd

ddwyrain Cymru - mae’r uchaf ym Mlaenau

Gwent sydd 12 y cant yn uwch na Chymru, ond

mae’r gyfradd yn Sir Fynwy 16 y cant yn is na

Chymru

Mae cyfraddau goroesi pob canser wedi’u

cyfuno am flwyddyn yn debyg iawn yn yr holl

boblogaethau bwrdd iechyd

Yr holl ganserau wedi’u cyfuno – anghydraddoldebau yn ôl amddifadedd ardal

Page 4: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

4

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Mae’r bwlch yng nghyfradd mynychder yr holl

ganserau rhwng ardaloedd lleiaf a mwyaf

difreintiedig Cymru yn parhau i gynyddu

Mae’r bwlch yng nghyfradd marwolaethau'r

ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig wedi

cynyddu ychydig

Mae goroesi’r holl ganserau wedi’u cyfuno yn is

mewn ardaloedd mwy difreintiedig, ond mae’r

bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf

difreintiedig wedi gostwng

Nifer yr achosion newydd ar gyfer mathau gwahanol o ganser

Yn 2013, y canserau mwyaf cyffredin yng

Nghymru o ran niferoedd oedd canser y fron

benywaidd, canser y prostad, yr ysgyfaint a’r

coluddyn

Canser y prostad, y coluddyn, y fron

benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r

cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10

mlynedd

Roedd yr holl gynnydd bron yn niferoedd canser

yr ysgyfaint ymysg menywod am fod nifer yr

achosion newydd a gafodd ddiagnosis ymysg

menywod wedi cynyddu bron traean, o’i

gymharu â dau y cant yn unig ymysg dynion

Roedd bron dwy ran o dair o’r cynnydd yn

niferoedd canser y coluddyn ymysg dynion am

fod yr achosion o ganser y coluddyn wedi

cynyddu o chwarter ymysg dynion a bron

pumed ymysg menywod

Roedd bron dwy ran o dair o’r cynnydd mewn

melanoma ymysg dynion am fod nifer yr

achosion ymysg dynion wedi bron dyblu, ac

ymysg menywod wedi cynyddu o bron hanner

Cafwyd gostyngiad yn niferoedd canser ceg y

groth, yr oesoffagws (corn gwddf) a’r stumog

Roedd y cynnydd mwyaf o ran canran y

niferoedd mewn canser yr iau ymysg dynion, a

wnaeth ddyblu dros 10 mlynedd, ac ar gyfer

menywod roedd cynnydd canran y niferoedd

gymaint â 70 y cant

Cafwyd cynnydd hefyd yn niferoedd canser y

groth, canser y pen a’r gwddf, a’r llwybr wrinol

(ac eithrio’r bledren) ymysg dynion o bron

hanner

Cyfraddau marwolaeth canserau

gwahanol

Roedd gan ganser yr ysgyfaint y gyfradd

marwolaethau wedi’i addasu yn ôl oed uchaf

yng Nghymru yn 2013, wedi ei ddilyn gan

ganser y prostad a chanser y fron benywaidd

Cynyddodd cyfradd marwolaethau yn sgil

canser yr iau ymysg dynion dros hanner, a

chynyddodd cyfradd marwolaethau yn sgil

melanoma ymysg dynion bron traean

Roedd gan ganser yr ysgyfaint y cynnydd

absoliwt mwyaf yng nghyfraddau marwolaethau

ymysg menywod, ond roedd gan ganser yr iau

y cynnydd uchaf o ran canran o ddwy ran o dair

bron

Mae’r bwlch yn y gyfradd marwolaethau rhwng

ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig Cymru yn

fawr iawn ar gyfer canser yr ysgyfaint ac mae

wedi ehangu, er bod y bwlch bach yng

nghyfradd marwolaethau yn sgil canser y

coluddyn wedi lleihau ychydig

Goroesi mathau gwahanol o ganser

Cafwyd rhywfaint o welliant yng nghyfraddau

goroesi am flwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o

fathau o ganser, ond mae goroesi canser y

pancreas, yr ysgyfaint a’r iau yn dal yn wael

iawn - gan ganser y ceilliau y mae’r gyfradd

uchaf o oroesi am flwyddyn wedi ei ddilyn yn

agos gan felanoma, canser y prostad a chanser

y fron benywaidd

Nid yw cyfraddau goroesi am flwyddyn ar gyfer

yr holl ganserau wedi eu cyfuno yn amrywio

rhyw lawer rhwng poblogaethau byrddau

iechyd, ond ar gyfer rhai mathau o ganser, fel

canser yr oesoffagws, mae amrywiaeth eang

Cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am

flwyddyn yw’r isaf yn yr ardaloedd mwyaf

difreintiedig, er bod y bwlch yn llawer llai na’r

gyfradd mynychder, ac yn wahanol i fynychder,

mae’r bwlch amddifadedd o ran goroesi wedi

lleihau – mae ein hadroddiad diweddaraf am

oroesi canser yr ysgyfaint ar gael yn

http://www.wcisu.wales.nhs.uk/lung-cancer-

overview

Mae gan ganser y coluddyn fwlch amddifadedd

o ran mynychder a goroesi am flwyddyn, ar ei

waethaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig –

mae’r bwlch mewn mynychder lawer yn llai na

chanser yr ysgyfaint, ond mae’r bwlch

amddifadedd o ran goroesi am flwyddyn yn fwy

Page 5: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

5

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

1Mynychder,

marwolaethau a goroesi ar gyfer yr holl

ganserau wedi’u cyfuno

Mae nifer yr achosion newydd o ganser yn parhau i gynyddu yng

Nghymru ymysg dynion a menywod

Dros y deng mlynedd hyd at ac yn cynnwys 2013,

cynyddodd nifer yr achosion o ganser yn raddol. Yn

2013, cafodd cyfanswm o 2105 – neu dros 12 y

cant – yn fwy o bobl sy’n byw yng Nghymru

ddiagnosis o ganser o’i gymharu â 2004.

Digwyddodd y cynnydd ar wahân ymysg dynion a

menywod.

Cafwyd diagnosis o 19,026 o achosion

newydd o ganser ymysg preswylwyr yng

Nghymru yn 2013, o’i gymharu â 16,921 o

achosion newydd yn 2004.

Cafwyd diagnosis o 9,808 neu 11.5 y cant o

achosion newydd o ganser ymysg dynion a

9,218 neu 13.4 y cant o achosion newydd

ymysg menywod yn 2013 o’i gymharu â

8,795 o achosion ymysg dynion a 8,126 o

achosion ymysg menywod yn 2004.

Mae mynychder (niferoedd neu gyfraddau

achosion newydd o ganser) yn amrywio

rhwng math o ganser a rhyw dros amser

(gweler adran 4).

Mae’r cynnydd yn nifer y marwolaethau yn sgil canser yn fach, yn arbennig ymysg menywod er gwaetha’r cynnydd yn nifer yr achosion newydd

Dros y deng mlynedd diwethaf mae nifer y

marwolaethau yn sgil canser a gofrestrwyd yng

Nghymru yn dangos amrywiadau bach o un

flwyddyn i’r llall. Yn 2013, dangosodd nifer y

marwolaethau yn sgil canser gynnydd bach o’i

gymharu â 2012.

Cofrestrwyd 8,688 o farwolaethau yn sgil

canser ymysg preswylwyr Cymru yn 2013,

o’i gymharu â 8,484 o farwolaethau yn sgil

canser yn 2004 – cynnydd o 2.4 y cant

Cafodd 4,579 o farwolaethau yn sgil canser

eu cofrestru ymysg dynion gyda 4,109 o

farwolaethau yn sgil canser wedi eu

cofrestru ymysg menywod yn 2013, o’u

cymharu â 4,462 o farwolaethau yn sgil

canser ymysg dynion a 4,022 o

farwolaethau yn sgil canser ymysg

menywod yn 2004.

Mae marwolaethau yn sgil canser (niferoedd

neu gyfraddau marwolaethau canser) yn

amrywio rhwng math o ganser a rhyw dros

amser.

Mae cyfraddau goroesi canser yn gwella’n raddol yng Nghymru

Mae cyfraddau goroesi am flwyddyn o’r holl

ganserau wedi’u cyfuno yn parhau i gynyddu, er

bod y cynnydd dros y blynyddoedd diweddar wedi

bod yn arafach na’r blynyddoedd cyn hynny (ffigur

1). Am y tro cyntaf, mae dros 70% o’r bobl a sy’n

cael diagnosis o ganser yn y cyfnod diweddaraf sef

2008-2012 yng Nghymru bellach yn goroesi am

flwyddyn o leiaf. Fodd bynnag, ceir amrywiadau

eang rhwng mathau gwahanol o ganser ac

anghydraddoldebau o ran goroesi ar draws grwpiau

poblogaeth a daearyddiaethau yng Nghymru (adran

2).

Mae goroesi am bum mlynedd (ar gyfer cleifion a

gafodd ddiagnosis 2004-2008) hefyd yn cynyddu

ond yn arafach na blynyddoedd blaenorol. Mae’r

cynnydd hwn yn dal yn galonogol, am y gall dros

hanner y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser

ddisgwyl goroesi am bum mlynedd o leiaf. Er

mwyn caniatáu i’r holl gleifion gael eu holrhain am

bum mlynedd, mae cyfrifiadau goroesi ond ar gael

ar gyfer diagnosis a wneir hyd at 2008 ar hyn o

bryd.

Mae nifer o ffactorau sy’n gallu effeithio ar oroesi,

yn cynnwys math o ganser, diagnosis cynnar a

chyfnod wrth gael diagnosis, iechyd cyffredinol, oed

claf, gwelliannau mewn triniaethau effeithiol a

mynediad teg i driniaeth effeithiol, a chymryd rhan

mewn rhaglenni sgrinio’r boblogaeth effeithiol ar

gyfer rhai canserau fel canser y fron, y coluddyn a

cheg y groth.

Page 6: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

6

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 1: Cynydd graddol yng nghyfraddau goroesi

am flwyddyn a phum mlynedd (%) ar gyfer yr holl

ganserau yng Nghymru dros amser

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a

Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mynychder canser yn ôl oed a rhyw

Mae’r niferoedd a gofrestrwyd gyda diagnosis

newydd o ganser yng Nghymru yn 2013 yn dal yn

isel hyd at 40 oed ymysg menywod a 45 oed

ymysg dynion. O hynny ymlaen, mae’r nifer o

achosion yn dechrau cynyddu’n sylweddol ar gyfer

dynion a menywod (ffigur 2). Mewn oedrannau iau

mae’r niferoedd yn debyg ar gyfer y ddau ryw.

Mae mwy o fenywod na dynion yn cael diagnosis o

ganserau rhwng 30 a 54 oed, ac yn 90 oed ac yn hŷn. Mae’r cynnydd yn dechrau’n gynt ymysg

menywod oherwydd canserau sy’n benodol i

fenywod fel canser y fron a chanser ceg y groth. Ar gyfer grwpiau oedran hŷn, mae mwy a mwy o

fenywod na dynion yn fyw. Cafodd fwy o ddynion

na menywod ddiagnosis o ganser rhwng bandiau

oedran 60-64 a 80-84.

Mae’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd wedi

digwydd yng ngrwpiau oedran 65-69 ymysg dynion

a menywod, yn ogystal â grwpiau oedran 70-74.

Mae’r grwpiau oedran 50-54 a 90+ hefyd yn

dangos cynnydd nodedig ymysg menywod. Mae’r

newidiadau hyn wedi golygu mai’r oed mwyaf

cyffredin wrth gael diagnosis ar gyfer dynion a

menywod yn 2013 oedd rhwng 65 a 69 oed (1688

o ddynion, 1362 o fenywod). Mae hyn tua 10

mlynedd yn iau nag ydoedd ddegawd cyn hynny.

Mae demograffeg yn esbonio’r rhan fwyaf o’r

newidiadau hyn yn nifer y bobl a gafodd ddiagnosis

o ganser ymysg grwpiau sy’n benodol i oed ymysg

dynion a menywod.

Ffigur 2: Mae’r oed mwyaf cyffredin wrth gael

diagnosis wedi gostwng o 75-79 oed yn 2004 i 65-69 oed yn 2013 ar gyfer dynion a menywod

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Cyfraddau mynychder canser

Mae’r gyfradd yn ystyried meintiau gwahanol y boblogaeth ym mhob grŵp oedran.

Roedd cyfraddau mynychder canser sy’n benodol i

oed yn isel iawn ar gyfer y rheiny o dan 40 oed yn

2013. Ar ôl yr oedran hwn mae’r cyfraddau’n

dechrau codi’n araf ymysg dynion ac ychydig yn

fwy sylweddol ymysg menywod. Mae menywod,

fodd bynnag, yn dangos gostyngiad yn y gyfradd ar gyfer y rheiny sydd yn 90 oed ac yn hŷn. Ond

ymysg dynion, ar ôl 50 oed mae’r cyfraddau’n

cynyddu’n sylweddol heb unrhyw ostyngiad gydag

oedrannau hen iawn. Fodd bynnag, mae cyfradd y

cynnydd yn mynd yn llai sylweddol o 75 oed

ymlaen. Mae gan fenywod gyfraddau uwch na

dynion hyd at 59 oed. O 60 oed ymlaen, mae’r

cyfraddau mynychder yn uwch ymysg dynion o’u

cymharu â menywod a’r bwlch yn parhau i gynyddu

ar gyfer pob oed wedi hynny. Ar gyfer pobl 70 oed ac yn hŷn, mae’r cyfraddau ymysg dynion dros

50% yn uwch na menywod (ffigur 3).

Ymysg dynion, cafwyd gostyngiad dramatig yng

nghyfraddau sy’n benodol i oed yn y grwpiau oedran hŷn yn 2013 o’u cymharu â 2004 sydd mwy

na thebyg oherwydd canser yr ysgyfaint (gweler

adran 4). Ymysg menywod, ni fu llawer o newid

dros amser er bod cynnydd bach wedi bod mewn

rhai grwpiau oedran. Er enghraifft, mae cyfraddau

mynychder sy’n benodol i oed wedi gostwng yn sylweddol ymysg dynion ar gyfer pob grŵp oedran

sydd yn 75 oed ac yn hŷn, ond ymysg menywod

cafwyd cynnydd bach i gymedrol yng nghyfraddau

grwpiau oedran 50-54, 65-69, 80-84 a 85-89.

... yn gyffredinol mae canser yn dod yn fwy cyffredin wrth i oed gynyddu. Fodd bynnag ceir eithriadau ar gyfer mathau penodol o ganser fel canserau plentyndod a’r rheiny sy’n effeithio’n bennaf ar oedolion iau....”

Page 7: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

7

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Mae mathau gwahanol o ganser wedi gostwng neu

gynyddu mewn cyfraddau sy’n benodol i oed o

feintiau gwahanol ymysg dynion a menywod.

Ffigur 3: Mae’r gyfradd canser yn seiliedig ar oed yn cynyddu’n fwy sylweddol ar gyfer dynion na menywod wrth i oed gynyddu

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Marwolaethau canser yn ôl oed a rhyw

Roedd nifer y marwolaethau yn sgil canser a

gofrestrwyd ymysg trigolion Cymru yn 2013 yn dal

yn isel hyd at 45 oed. Roedd y niferoedd wedyn yn

cynyddu’n sylweddol wrth i oed gynyddu ar gyfer

dynion a menywod (ffigur 4). Yr uchafbwynt ar

gyfer dynion oedd 75-79 oed tra bod yr uchafswm

ar gyfer menywod yn 80-84 oed.

Wrth gymharu niferoedd y marwolaethau yn 2013

dros y deng mlynedd blaenorol, cafwyd newidiadau

bach yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, ond

gwelwyd cynnydd mawr yn y ddau ryw ar gyfer y

rheiny oedd yn 85 oed ac yn hŷn (ffigur 4). Mae

hyn yn bennaf oherwydd cynnydd yn nifer y bobl

yn y grwpiau oed hŷn hyn oherwydd newidiadau

demograffig, sydd yn arwain yn rhannol at gynnydd

yn nifer yr achosion o ganser mewn dynion a

menywod (gweler yn flaenorol). Mae hyn wedi

digwydd er gwaethaf y gostyngiad cyfatebol yn y

gyfradd mynychder ymysg y dynion hynaf a’r

gyfradd mynychder yn aros heb newid ymysg y

menywod hynaf.

Ffigur 4: Mae nifer y marwolaethau cofrestredig yn sgil canser yn ôl grŵp oedran yn dangos amrywiadau bach dros amser ymysg dynion a

menywod

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Gan ystyried y newidiadau demograffig yn nifer y

dynion a’r menywod ym mhob grŵp oedran rhwng

2004 a 2013 mae patrymau gwahanol ar gyfer

tueddiadau yn y gyfradd marwolaethau o’i gymharu

â’r newid yn nifer y marwolaethau.

Ar gyfer dynion a menywod, mae’r cyfraddau

marwolaethau yn sgil canser yn cynyddu gydag oed

(ffigur X). Mae’r cyfraddau’n debyg ar gyfer y ddau

ryw hyd at 55-59 oed ond yna’n ymwahanu gyda

dynion â chyfraddau llawer uwch o’u cymharu â

menywod wedi hynny. Mae’r gyfradd ymysg

dynion ar gyfer y rheiny sydd yn 90 oed ac yn hŷn

yn 2013 ddwywaith gymaint ag ydyw ar gyfer

menywod.

Gostyngodd y gyfradd marwolaethau yn sgil canser

ar gyfer dynion ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau

oedran rhwng 2004 a 2013 (ffigur X), er y cafwyd

cynnydd bach yn y gyfradd ar gyfer dynion 90 oed

ac yn hŷn. Roedd y gostyngiadau yn y gyfradd ar

gyfer y rhan fwyaf o grwpiau oedran ar gyfer

menywod lawer yn llai na’r rheiny a welwyd yn y

rhan fwyaf o grwpiau oedran ymysg dynion.

Cafwyd hefyd gynnydd bach yn y gyfradd

marwolaethau ymysg menywod 85-89 oed a dim

llawer o newid ar gyfer menywod 90+ oed.

Page 8: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

8

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 5: Nid yw’r cyfraddau marwolaethau sy’n benodol i oed yn dangos llawer o newid dros amser ymysg dynion a menywod

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae menywod yn goroesi’n well na dynion ond mae’r bwlch yn lleihau

Mae cyfraddau goroesi cymharol am flwyddyn a

phum mlynedd ar gyfer pob canser wedi’u cyfuno

yn cynyddu yn y ddau ryw. Mae cyfraddau goroesi

ymysg menywod yn uwch na dynion, sy’n

adlewyrchu’n rhannol y ffigurau marwolaethau a

welwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn (tabl 1).

Mae hyn yn debygol o fod oherwydd y cyfraddau

goroesi uchel ar gyfer cleifion canser y fron

benywaidd. Mae’r bwlch rhwng y ddau ryw wedi

lleihau dros amser, o bosibl oherwydd y cyfraddau

goroesi sy’n gwella ar gyfer canser y prostad dros y

blynyddoedd diweddar. Mae cyfraddau goroesi

cymharol ymysg dynion wedi cynyddu bron saith

pwynt canran ar gyfer blwyddyn a bron pum pwynt

canran ar gyfer pum mlynedd. Mae goroesi am

bum mlynedd wedi dangos gwelliant cymharol o

10.4% ar gyfer dynion a 4.7% ar gyfer menywod

dros amser.

Tabl 1: Cynnydd ar gyfer cyfraddau goroesi canser am flwyddyn a phum mlynedd ar gyfer dynion a menywod dros amser, gyda’r cynnydd yn fwy ymysg dynion

Goroesi cymharol am flwyddyn (%)

Goroesi cymharol am bum mlynedd (%)

2000-2004

2008-2012

2000- 2004

2004-2012

Dynion 62.3 69.1 46.1 50.9

Menywod 67.3 71.8 53.1 55.6

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae ffactorau risg ar gyfer llawer o ganserau

yn hysbys ond yn amrywiol yn ôl y math o

ganser. Mae dros 40% o’r holl gansesrau yn

y DU yn gysylltiedig â ffactorau risg fel

tybaco, alcohol, bod dros bwysau, deiet,

anweithgarwch corfforol, haint,

ymbelydredd, galwedigaeth a hormonau ar

ôl y menopos. Mae smygu’n achosi bron

pumed yr holl ganserau yn y DU yn cynnwys dros 80% o ganserau’r ysgyfaint.

Page 9: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

9

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

2 Daearyddiaeth canser

yng Nghymru

Mynychder canser yn ôl daearyddiaeth

Prif benderfynyddion nifer yr achosion newydd o

ganser mewn poblogaeth wedi ei diffinio bob

blwyddyn yw maint y boblogaeth a’i strwythur

oedran - yn gyffredinol, mae mynychder canser yn

cynyddu gydag oed. Mae’r newid yn nifer yr

achosion rhwng 2004 a 2013 ym mhob poblogaeth

awdurdod lleol neu fwrdd iechyd yn cael ei

esbonio’n bennaf gan newidiadau yn y ddau ffactor

hyn (ffigur 6).

Mae cyfraddau mynychder canser yn

dangos amrywiad rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yng Nghymru

Unwaith y byddwn yn ystyried y gwahaniaethau ym

maint a strwythur oedran poblogaeth rhwng

ardaloedd daearyddol Cymru, rydym yn gweld bod

amrywiad sylweddol yng nghyfraddau mynychder

canser wedi’i addasu yn ôl oed fesul 100,000 o bobl

(ffigur 7). Mae’r mynychder ar gyfer bwrdd

Addysgu Iechyd Powys 8 y cant yn is na’r

mynychder ar gyfer Cymru, ac mae’n is nag y

disgwylir trwy siawns yn unig. Yn yr un modd,

mae’r gyfradd ym mwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf

4 y cant yn uwch na’r mynychder ar gyfer Cymru,

ac mae’n uwch nag y disgwylir trwy siawns yn unig.

Mae hyn yn rhoi cyfrif am wahaniaeth o ryw 74 o

achosion newydd o ganser fesul 100,000 o

boblogaethau rhwng y byrddau iechyd â’r

mynychder uchaf ac isaf yng Nghymru ar gyfer y

cyfnod 2009-2013.

Ffigur 6: Newid yn nifer yr achosion newydd o ganser a gafodd ddiagnosis yng Nghymru ar lefel awdurdod lleol iechyd a bwrdd iechyd dros amser

Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Page 10: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

10

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 7: Mae cyfradd mynychder canser (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth yn ystadegol arwyddocaol uwch na Chymru ar gyfer y ddau

fwrdd iechyd yn 2009-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 8: Mae cyfradd mynychder canser uchaf yr

awdurdodau lleol ym Merthyr Tudful bron 20 y cant yn uwch na’r isaf yng Ngheredigion yn 2009-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Mae mynychder canser yn ôl ardal ddaearyddol

fach yn dangos mwy o amrywiad (ffigurau 8 a 9).

Mae’r cyfraddau uchaf yn ardaloedd awdurdodau

lleol Merthyr Tudful, Casnewydd a Thorfaen, ond

mae’r cyfraddau isaf ym Mhowys a Cheredigion. Er

nad yr uchaf, ceir hefyd ardaloedd o gyfraddau

mynychder uchel yng ngogledd ddwyrain a de

ddwyrain Cymru.

Ceir ardaloedd llai â’r cyfraddau uchaf ar draws

llawer o gymoedd de Cymru, ardaloedd canol dinas

difreintiedig ac ar draws llawer o ogledd ddwyrain

Cymru. Ceir hefyd sawl ardal o fynychder cymedrol

neu uchel ar draws rhannau o Ynys Môn a Gwynedd ac ardaloedd eraill o ogledd Cymru yn ogystal â Sir

Gaerfyrddin a Sir Benfro. Ceir hefyd pocedi o

gyfraddau mynychder uchel mewn llawer o drefi

gwledig. Mae ardaloedd o fynychder is yn bodoli yn

rhai ardaloedd trefol mwy cefnog o dde Cymru, ond

maent yn isel eu niferoedd ar draws y rhan fwyaf o

ardaloedd gwledig ar wahân i nifer fach o ardaloedd

gwledig cefnog, ac ar draws ardaloedd gwledig llai

cefnog Ceredigion. Mae gan siawns rôl fawr mewn

amrywiadau mynychder canser ar bob lefel

ddaearyddol, yn ogystal ag anghydraddoldebau

economaidd-gymdeithasol y gorffennol a’r

presennol a diwydianeiddio blaenorol, ac mae sawl

math o ymddygiad cysylltiedig sy’n peryglu iechyd

fel smygu, gordewdra, deiet a maeth, alcohol a

gweithgaredd corfforol yn rhoi cyfrif am nifer

sylweddol o’r cyfraddau mynychder canser a’u

hamrywiadau.

Ffigur 9: Mae cyfradd mynychder canser yn ôl ardal

Cynnyrch Ehangach Canolig (MSOA) yn dangos amrywiad sylweddol ar draws Cymru

fynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Page 11: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

11

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Marwolaethau canser yn ôl

daearyddiaeth

Mae marwolaethau canser yn amrywio’n sylweddol

rhwng poblogaethau bwrdd iechyd (ffigur 10). Mae

gan fwrdd Addysgu Iechyd Powys gyfradd

marwolaethau sydd 10 y cant yn is na Chymru yn

gyffredinol, ac mae hyn yn is nag y disgwylir trwy

siawns yn unig. Mae gan fwrdd iechyd Prifysgol

Cwm Taf gyfradd marwolaethau sydd bron 8 y cant

yn uwch o’i gymharu â Chymru ac yn uwch nag y

disgwylir trwy siawns yn unig. Y gwahaniaeth

rhwng y ddau fwrdd iechyd hyn yw 54 o

farwolaethau fesul 100,000 o’r boblogaeth, sy’n

gwneud y gyfradd ym mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm

Taf 20 y cant yn uwch na bwrdd Addysgu Iechyd

Powys

Gan fwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y

nifer uchaf o farwolaethau canser yn 2004 a 2013

gan fod gan y bwrdd iechyd hwn y boblogaeth

uchaf o’r holl fyrddau iechyd yng Nghymru a

chyfran fawr o bobl hŷn, ymysg ffactorau eraill, yn

cyfrannu at fynychder canser uwch yn ddiweddar

ac yn y gorffennol (ffigur 11). Awdurdod lleol

Caerdydd sydd â’r nifer fwyaf o farwolaethau

canser yng Nghymru a Merthyr Tudful sydd â nifer

isaf y marwolaethau yn bennaf oherwydd meintiau

priodol eu poblogaethau.

Ffigur 10: Mae’r gyfradd marwolaethau canser (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth yn ystadegol arwyddocaol uwch na Chymru yng Ngwm Taf ar gyfer 2009-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 11: Amrywiad a welwyd yn nifer y marwolaethau yn sgil canser a gofrestrwyd yng Nghymru ar lefel awdurdod lleol a bwrdd iechyd dros amser

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Page 12: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

12

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Mae cyfraddau marwolaethau canser uchaf mewn

rhai awdurdodau lleol yng nghymoedd de ddwyrain

Cymru a gogledd ddwyrain Cymru. Mae’r gyfradd

marwolaethau uchaf ym Mlaenau Gwent, sydd 12 y

cant yn uwch na Chymru, ond mae’r gyfradd yn Sir

Fynwy (ffigur 12) 16 y cant yn is na Chymru.

Ffigur 12: Mae cyfradd marwolaethau uchaf yr awdurdodau lleol ym Mlaenau Gwent dros draean yn uwch na’r isaf yn Sir Fynwy yn 2009-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Mae marwolaethau yn sgil canser yn dangos

amrywiad mawr rhwng ardaloedd cyfagos ar lefel

ardal fach yn rhannol oherwydd niferoedd bach a

phoblogaethau bach (ffigur 13). Mae

marwolaethau yn dangos patrwm tebyg i fynychder

gyda chymoedd blaenorol de Cymru yn tueddu i

ddangos cyfraddau uwch ynghyd â’r ardaloedd

canol dinas difreintiedig.

Ffigur 13: Mae cyfradd marwolaethau canser Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Canolig yn dangos

pocedi o farwolaethau uchel ac isel yng Nghymru gydag amrywiad mawr rhwng rhai ardaloedd cyfagos

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Mae goroesi canser am flwyddyn yn debyg iawn ym mhob bwrdd iechyd

Gall dros 70 y cant o breswylwyr Cymru bellach

ddisgwyl goroesi am flwyddyn o leiaf ar ôl cael

diagnosis o ganser. Mae’r cyfraddau goroesi am

flwyddyn cymharol yn debyg ar draws

poblogaethau’r saith bwrdd iechyd (ffigur 14).

Gan fwrdd Addysgu Iechyd Powys y mae’r gyfradd

goroesi cymharol gorau sydd dros 3 y cant yn uwch

(2.4 pwynt canran) na’r gyfradd ar gyfer Cymru. Y

bwrdd iechyd â’r gyfradd oroesi waethaf yw bwrdd

Iechyd Prifysgol Cwm Taf sydd bron 2 y cant yn is

(neu 1.3 pwynt canran) na’r gyfradd ar gyfer

Cymru. Mae gan fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd

a’r Fro, ynghyd â bwrdd Addysgu Iechyd Powys

gyfraddau goroesi am flwyddyn uwch na Chymru’n

gyffredinol, ac mae’n uwch nag y disgwylir trwy

siawns yn unig.

Page 13: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

13

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Ffigur 14: Mae goroesi am flwyddyn cymharol yn debyg ar draws saith bwrdd iechyd Cymru yn 2008-2012

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Mae’r amrywiad rhwng byrddau iechyd yn fwy ar gyfer goroesi cymharol am bum mlynedd

Mae dros hanner holl breswylwyr Cymru sy’n cael

diagnosis o ganser yn goroesi am bum mlynedd o

leiaf. Mae mwy o amrywiad ar gyfer goroesi am

bum mlynedd cymharol o’i gymharu â goroesi am

flwyddyn cymharol. Mae bwrdd iechyd Prifysgol

Cwm Taf yn dangos cyfran uwch o farwolaethau

rhwng un a phum mlynedd ar ôl diagnosis o’i

gymharu â byrddau iechyd eraill. Bron 8 y cant yn

is o’i gymharu â’r gyfradd goroesi am bum mlynedd

ar gyfer Cymru (ffigur 15). Mae gan bedwar o’r

byrddau iechyd gyfradd oroesi well na Chymru a

bwrdd Addysgu Iechyd Powys sydd â’r gyfradd

oroesi orau (5 y cant yn uwch na’r gyfradd ar gyfer

Cymru). Mae gan fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

a bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

gyfraddau is nag y gellir ei ddisgwyl trwy siawns yn

unig, ond mae gan fwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd

a’r Fro a bwrdd Addysgu Iechyd Powys gyfraddau

sy’n uwch nag y gellir ei ddisgwyl trwy siawns yn

unig.

Ffigur 15: Bwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf sydd â’r gyfradd goroesi am bum mlynedd cymharol isaf

yng Nghymru yn 2004-2008.

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata 2015. Arolwg Ordnans 100044810

Page 14: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

14

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

3 Mynychder,

marwolaethau a goroesi yn

ôl amddifadedd ardal

Mae’r bwlch yn y gyfradd mynychder rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yn parhau i gynyddu

Cafwyd gostyngiad yn y gyfradd mynychder ar

gyfer yr holl ganserau wedi’u cyfuno yn y pumed

lleiaf difreintiedig yng Nghymru o 2002-2006 i

2009-2013. Cafwyd cynnydd yn y gyfradd

mynychder yn y pumed mwyaf difreintiedig.

Arweiniodd hyn at y bwlch rhwng y pumedau lleiaf

a mwyaf difreintiedig yn ehangu (ffigur 16).

Cynyddodd y bwlch o 97 o achosion newydd o

ganser fesul 100,000 o’r boblogaeth y flwyddyn yn

2002-2006 i 131 o achosion newydd o ganser fesul

100,000 o’r boblogaeth yn 2009-2013 – cynnydd o

dros draean. I’w roi mewn ffordd arall, roedd y

gyfradd mynychder yn yr ardaloedd mwyaf

difreintiedig 16.3 y cant yn uwch nag yn yr

ardaloedd lleiaf difreintiedig ar gyfer 2002-2006 a

chynyddodd i 22.5 y cant yn uwch yn 2009-2013.

Ffigur 16: Mae’r gwahaniaeth rhwng cyfradd mynychder canser (EASR) fesul 100,000 o’r

boblogaeth yn y pumed lleiaf difreintiedig o’i gymharu â’r pumed mwyaf difreintiedig wedi cynyddu dros amser

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae’r bwlch yn y gyfradd

marwolaethau rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig wedi cynyddu ychydig

Gostyngodd cyfradd marwolaethau’r holl ganserau

wedi’u cyfuno ym mhob pumed amddifadedd yn

ystod yr un cyfnod. Roedd y gostyngiad yn y

pumed lleiaf difreintiedig yn fwy na’r gostyngiad yn

y pumed mwyaf difreintiedig (ffigur 17). Felly

cynyddodd y bwlch rhwng y pumedau lleiaf a

mwyaf difreintiedig ychydig o 113.3 fesul 100,000

o’r boblogaeth yn 2002-2006 i 119.9 fesul 100,000

o’r boblogaeth yn 2009-2013, neu gynnydd o bron

6 y cant. Felly roedd y gyfradd marwolaethau yn yr

ardaloedd mwyaf difreintiedig 40.8 y cant yn uwch

na’r ardaloedd lleiaf difreintiedig ar gyfer 2002-

2006 a gynyddodd i 48.0 y cant yn uwch yn 2009-

2013. Ffigur 17: Roedd y gwahaniaeth rhwng y gyfradd

marwolaethau canser (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth yn y pumed lleiaf difreintiedig o’i gymharu â’r pumed mwyaf difreintiedig wedi cynyddu ychydig dros amser

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae goroesi canser yn is mewn ardaloedd difreintiedig ond mae’r bwlch yn fwy ar gyfer rhai canserau

Mae goroesi am flwyddyn cymharol ar gyfer yr holl

ganserau wedi’u cyfuno wedi gwella ym mhob

pumed amddifadedd dros amser (ffigur 18). Fodd

bynnag, mae’r cynnydd yn fwy ym mhumed mwyaf

difreintiedig na phumed lleiaf difreintiedig Cymru.

Mae hyn wedi lleihau’r bwlch rhwng y pumed lleiaf

a mwyaf difreintiedig o 13.5 pwynt canran yn

1999-2003 i 12.1 pwynt canran yn 2008-2012, neu

o ryw 10 y cant.

Mae’r gyfradd goroesi am flwyddyn cymharol

mwyaf diweddar yn y pumed mwyaf difreintiedig yn

dal yn gyfwerth â’r pumed difreintiedig canol

ddegawd cyn hynny, a saith pwynt canran islaw’r

hyn a brofwyd yn y pumed lleiaf difreintiedig

ddegawd cyn hynny.

Page 15: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

15

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Mae goroesi am bum mlynedd cymharol wedi

gwella ym mhob pumed amddifadedd dros amser

(ffigur 19). Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn fwy yn

y pumed lleiaf difreintiedig na’r pumed mwyaf

difreintiedig sy’n ehangu’r bwlch. Cynyddodd y

bwlch amddifadedd o 16.2 pwynt canran yn 2004-

2008, neu o ryw 6 y cant.

Mae’r cyfraddau goroesi am bum mlynedd cymharol

mwyaf diweddar yn y pumed mwyaf difreintiedig

bellach yn gyfwerth â’r pumed mwyaf difreintiedig

nesaf ddegawd cyn hynny a 12 pwynt canran yn is

nag y gwelwyd ddegawd cyn hynny yn y pumed

lleiaf difreintiedig. Yn y cyfnod diweddaraf, gwelir

gwahaniaeth mawr o 17 pwynt canran rhwng y

pumed lleiaf a mwyaf difreintiedig.

Ffigur 18: Mae cyfraddau goroesi am flwyddyn cymharol (%) ar gyfer yr holl ganserau wedi’u cyfuno wedi gwella ym mhob pumed amddifadedd dros amser ond mae’r cynnydd yn fwy yn y pumed mwyaf difreintiedig na’r pumed lleiaf difreintiedig sydd felly’n lleihau’r bwlch

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 19: Ceir mwy o gynnydd yng nghyfraddau goroesi am bum mlynedd (%) yn y pumed lleiaf difreintiedig o’i gymharu â’r pumed mwyaf difreintiedig dros amser, sy’n ehangu’r bwlch

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Page 16: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

16

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

4 Mynychder,

marwolaethau a goroesi

mathau gwahanol o ganser

Mynychder yn ôl math o ganser

Yn 2013, y canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru

o ran niferoedd oedd canser y fron benywaidd,

canser y prostad, yr ysgyfaint a’r coluddyn (ffigur

20). Ffigur 20: Y canserau mwyaf cyffredin mewn dynion a menywod yng Nghymru yn 2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Roedd canser y prostad yn rhoi cyfrif am dros

chwarter yr holl ganserau newydd y cafwyd

diagnosis ohonynt ymysg dynion (ffigur 21). Roedd

canser y coluddyn a’r ysgyfaint eu dau yn rhoi cyfrif

am un mewn saith o ganserau ar gyfer dynion.

Ffigur 21: Roedd dros chwarter yr holl ganserau

ymysg dynion yn ganser y prostad yn 2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Roedd canser y fron yn rhoi cyfrif am bron traean

o’r holl ganserau ymysg menywod (ffigur 22).

Canser yr ysgyfaint oedd yr ail mwyaf cyffredin, yn

agos at 12 y cant o achosion. Roedd un mewn deg

o ganserau newydd ymysg menywod yn ganser y

coluddyn.

Ffigur 22: Roedd bron traean yr holl ganserau ymysg menywod yn ganser y fron yn 2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Cafodd y rhan fwyaf o’r canserau mwyaf cyffredin

yng Nghymru gynnydd absoliwt o ran niferoedd

rhwng 2001-2003 a 2011-2013 (ffigur 23). Roedd

gan ganser y prostad, y coluddyn, canser y fron

benywaidd, melanoma a chanser yr ysgyfaint y

cynnydd mwyaf o ran niferoedd. Roedd bron dwy

ran o dair o’r cynnydd yn niferoedd canser y

coluddyn ymysg dynion. Roedd cyfran debyg o’r

cynnydd mewn achosion o felanoma hefyd ymysg

dynion. Roedd yr holl gynnydd bron yn niferoedd

canser yr ysgyfaint ymysg menywod. Cafwyd

gostyngiad yn niferoedd canserau ceg y groth, yr

oesoffagws a’r stumog.

Er mai canser y prostad oedd â’r cynnydd absoliwt

mwyaf o ran niferoedd, gyda chanser yr iau ymysg

dynion y cafwyd y cynnydd canran mwyaf, gan

ddyblu dros y cyfnodau amser. Ar gyfer menywod,

roedd y cynnydd yn niferoedd canser yr iau

gymaint â 70 y cant. Melanoma oedd â’r cynnydd

canran ail uchaf, gyda nifer yr achosion ymysg

dynion yn dyblu bron, ac ymysg menywod yn

cynyddu bron hanner dros y cyfnodau a

archwiliwyd. Cynyddodd canser y groth hefyd o

bron hanner. Cafwyd cynnydd o bron hanner hefyd

mewn canser y pen a’r gwddf a’r llwybr wrinol (ac

eithrio’r bledren.

Cafwyd cynnydd canran cymedrol o leiaf yn y

pedwar canser mwyaf cyffredin hefyd. Roedd

gwahaniaeth mawr iawn rhwng dynion a menywod

ar gyfer canser yr ysgyfaint. Cynyddodd nifer yr

achosion newydd y cafwyd diagnosis ohonynt

Page 17: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

17

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

ymysg menywod o bron traean, o’i gymharu â 2 y

cant yn unig ymysg dynion. Cynyddodd niferoedd

canser y prostad o bron traean. Cynyddodd

achosion o ganser y coluddyn bron chwarter ymysg

dynion a bron pumed ymysg menywod. Ar wahân i

ganser yr ysgyfaint ymysg dynion, y canser mwyaf

cyffredin â’r cynnydd canran lleiaf o ran niferoedd,

sef 15 y cant, oedd canser y fron.

Ffigur 23: Mae newid cyfartalog yn nifer yr achosion newydd o ganser yn ôl math o ganser yng Nghymru yn dangos amrywiad mawr yn 2011-2013 o’i gymharu â 2001-2003

*Ni ddangosir canser y bledren oherwydd newid côd yn 2007 Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Cafwyd cynnydd canran mawr yn nifer yr

achosion o ganser y thyroid a’r endocrin ymysg

dynion, gyda menywod hefyd yn dangos cynnydd

bach. Ceir rhybudd i fod yn ofalus wrth ddehongli

gan mai niferoedd bach sy’n gysylltiedig â’r

cynnydd canran mawr hwn.

Gan ystyried maint poblogaeth a strwythur oed,

y canserau â’r cyfraddau mynychder wedi’u

haddasu yn ôl oed uchaf yn 2013 oedd canser y

prostad a chanser y fron benywaidd, gyda

chyfraddau dros ddwywaith mor uchel o’u

cymharu â chanserau’r ysgyfaint a’r coluddyn

(ffigur 24). Mae’r ddau ganser cyntaf wrth gwrs

yn benodol i ryw felly mae’r ffigur enwadur yn

wahanol i ganserau’r ysgyfaint a’r coluddyn a

allai effeithio ar y boblogaeth gyfan.

Page 18: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

18

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 24: Mae’r newid cyfartalog yn y ganran o achosion newydd o ganser yn amrywio yn ôl math o ganser yng Nghymru, 2011-2013 o’i gymharu â 2001- 2003

*Ni ddangosir canser y bledren oherwydd newid côd yn 2007 Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 25: Cyfraddau mynychder canser wedi’u haddasu yn ôl oed yng Nghymru, 2013 o’i gymharu â 2004

*Ni ddangosir canser y bledren oherwydd newid côd yn 2007 Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Page 19: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

19

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Roedd y cynnydd mwyaf yng nghyfraddau

mynychder wedi’i addasu yn ôl oed ymysg dynion o

2001-2003 a 2011-2013 ar gyfer melanoma, a

chanserau’r pen a’r gwddf, y llwybr wrinol ac

eithrio’r bledren, yr iau, y prostad a’r coluddyn

(ffigur 26). Y cynnydd o fwy na 70 y cant yng

nghyfradd mynychder melanoma oedd y cynnydd

canran mwyaf ymysg dynion. Cynyddodd canser yr

iau o ddwy ran o dair. Cafwyd hefyd cynnydd

canran mawr yng nghanserau’r thyroid a’r endocrin

(ond yn seiliedig ar niferoedd bach), y llwybr wrinol

ac eithrio’r bledren a chanserau’r pen a’r gwddf.

Cafwyd gostyngiad mawr o ran canran yng

nghanser y stumog, yr oesoffagws a’r ysgyfaint

(ffigur 27). Ffigur 26: Mae’r newid cyfartalog yn y gyfradd mynychder (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth yn dangos cynnydd mawr mewn melanoma a

gostyngiad mawr yng nghanser yr ysgyfaint ymysg dynion yng Nghymru, 2011-2013 o’i gymharu â 2001-2003

*Ni ddangosir canser y bledren oherwydd newid côd yn 2007 Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 27: Mae’r newid o ran canran yn y gyfradd mynychder canser (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth yn ôl math o ganser ar gyfer dynion

yng Nghymru yn dangos cynnydd o bron tri chwarter ar gyfer melanoma a chynndd o ddwy ran o dair ar gyfer canser yr iau yn 2011-2013 o’i gymharu â 2001-2003.

*Ni ddangosir canser y bledren oherwydd newid côd yn 2007 Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ar gyfer menywod, canser yr ysgyfaint sydd â’r

cynnydd absoliwt mwyaf o ran cyfradd dros yr un

cyfnod o amser (ffigur 28). Roedd y cynnydd

mwyaf nesaf ar gyfer canser y fron, y groth,

melanoma, y coluddyn, y llwybr wrinol (ac eithrio’r

bledren) a chanser yr iau.

Ymysg menywod, canser yr iau oedd â’r cynnydd

mwyaf o ran canran (ffigur 29), wedi ei ddilyn gan

y llwybr wrinol (ac eithrio’r bledren), melanoma, y

groth, thyroid ac endocrin, y pen a’r gwddf, a

chanser yr ysgyfaint. Cafwyd gostyngiadau canran

nodedig yng nhanserau’r stumog, yr oesoffagws,

ceg y groth a’r system nerfol ganolog.

Ffigur 28: Mae’r newid yn y gyfradd mynychder (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth yn ôl math o

ganser ar gyfer menywod yng Nghymru yn dangos cynnydd mawr yng nghanser yr ysgyfaint yn 2011-2013 o’i gymharu â 2001-2003

*Ni ddangosir canser y bledren oherwydd newid côd yn 2007 Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Page 20: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

20

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 29: Mae’r newid o ran canran yn y gyfradd mynychder canser (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth yn ôl math o ganser ar gyfer menywod

yn dangos cynnydd o dros hanner ar gyfer canser yr iau yng Nghymru yn 2011-2013 o’i gymharu â 2001-2003

*Ni ddangosir canser y bledren oherwydd newid côd yn 2007 Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae’r bwlch amddifadedd yn dangos cynnydd bach o ran mynychder ar

gyfer rhai mathau o ganser

...mae mynychder canser yn uwch yn yr ardaloedd

mwyaf difreintiedig ar gyfer canser yr ysgyfaint a

chanser y colon a’r rhefr ond mae’r gwrthwyneb yn

wir am ganser y fron benywaidd a chanser y

prostad lle mae cyfraddau is yn cael eu gweld yn yr

ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Mae’r bwlch rhwng y gyfradd mynychder uchaf yn y

pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru a’r

gyfradd mynychder isaf yn yr ardal lleiaf

difreintiedig ehangaf ar gyfer canser yr ysgyfaint,

o’i gymharu â chanserau cyffredin eraill yng

Nghymru (ffigur 30). Mae’r bwlch mawr iawn hwn

ar gyfer canser yr ysgyfaint wedi cynyddu

oherywdd gostynigad yn y gyfradd mynychder ar

gyfer y pumed lleiaf difreintiedig a chynnydd bach

yn y pumed mwyaf difreintiedig. Mae’r bwlch

amddifadedd hwn wedi cynyddu ychydig ar gyfer

canser y colon a’r rhefr.

Ffigur 30: Y gyfradd mynychder canser (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth ar gyfer ardaloedd ag amddifadedd cynyddol (pumedau) yn ôl math o ganser

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Page 21: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

21

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Marwolaethau yn sgil mathau

gwahanol o ganser

Y marwolaethau cysylltiedig â chanser mwyaf

cyffredin yng Nghymru oedd canser yr ysgyfaint

gyda 1842 o farwolaethau wedi eu cofrestru yn

2013 (ffigur 31). Canser y coluddyn oedd yr ail fath

mwyaf cyffredin o farwolaeth yn sgil canser gyda

907 o farwolaethau a chanser y fron benywaidd

oedd y trydydd math mwyaf cyffredin o ganser

gyda 573 o farwolaethau. Rhoddodd marwolaethau

canser yr ysgyfaint gyfrif am fwy o farwolaethau na

chanser y coluddyn a chanser y fron wedi’u cyfuno.

Cafwyd tair marwolaeth yn sgil canser y ceilliau yng

Nghymru yn 2013.

Ffigur 31: Canser yr ysgyfaint oedd y farwolaeth yn sgil canser fwyaf cyffredin yng Nghymru yn 2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Roedd dros bumed o’r holl farwolaethau canser

ymysg dynion yng Nghymru yn sgil canser yr

ysgyfaint yn 2013 (ffigur 32). Roedd dros 10 y

cant o’r holl farwolaethau canser yn sgil canser y

prostad ac roedd cyfran debyg ar gyfer canser y

colon a’r rhefr. Canser yr oesoffagws oedd achos

tua un ym mhob 16 o farwolaethau canser.

Rhoddodd y pedwar math yma o ganser gyfrif am

ychydig dros hanner yr holl farwolaethau canser

ymysg dynion.

Page 22: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

22

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 32: Roedd dros bumed yr holl farwolaethau canser ymysg dynion yng Nghymru yn sgil canser yr ysgyfaint yn 2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Roedd dros bumed yr holl farwolaethau canser

ymysg menywod yng Nghymru yn sgil canser yr

ysgyfaint yn 2013 (ffigur 33). Roedd bron un ym

mhob saith o farwolaethau canser yn sgil canser y

fron ymysg menywod a thros 10 y cant yn sgil

canser y coluddyn. Canser yr ofarïau oedd y

pedwerydd math mwyaf cyffredin o farwolaeth yn

sgil canser ymysg menywod a rhoddodd y pedwar

canser hyn gyfrif am ychydig dros hanner yr holl

farwolaethau canser ymysg menywod yn 2013.

Ffigur 33: Roedd dros bumed yr holl farwolaethau

canser ymysg menywod yng Nghymru yn sgil canser yr ysgyfaint yn 2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Y newid mwyaf yn nifer absoliwt y marwolaethau

ymysg dynion oedd yn sgil canser yr iau a

ddangosodd y cynnydd canran mwyaf hefyd

(ffigurau 34 a 35). Cafwyd cynnydd hefyd yn nifer

y marwolaethau yn sgil canser y pancreas gan

olygu cynnydd o 28 y cant o ran niferoedd ar gyfer

dynion. Cafwyd cynnydd canran mawr hefyd yn

sgil melanoma a chanser y ceilliau ymysg dynion;

fodd bynnag, dylid nodi bod canser y ceilliau yn

seiliedig ar niferoedd bach iawn. Mae canser y

stumog wedi dangos gostyngiad mawr o ran

canran.

Ar gyfer menywod, y newid mwyaf o ran niferoedd

oedd canser yr ysgyfaint. Roedd y nifer hwn bron

yr un peth â chyfanswm y cynnydd ym mhob

marwolaeth arall yn sgil canser ymysg menywod.

Fodd bynnag, y cynnydd mwyaf o ran canran ar

gyfer menywod oedd ar gyfer canser yr iau wedi ei

ddilyn gan lymffoma Hodgkin a chanser y groth.

Fodd bynnag, mae’r niferoedd ar gyfer lymffoma

Hodgkin yn fach iawn felly cynghorir bod yn ofalus

wrth eu dehongli. Gwelir gostyngiadau mawr o ran

canran ar gyfer canser y stumog, ceg y groth a

thyroid ac endocrin.

Page 23: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

23

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Ffigur 34: Mae’r newid mwyaf yn nifer y marwolaethau canser cyfartalog ar gyfer canser yr ysgyfaint ymysg menywod yn 2011-2013 o’i gymharu â 2001-2003

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 35: Mae’r newid mwyaf o ran canran yn nifer cyfartalog y marwolaethau canser ar gyfer canser yr iau ar gyfer dynion a menywod yng Nghymru yn 2011-2013 o’i gymharu â 2001-2003

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Page 24: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

24

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Roedd gan ganser yr ysgyfaint y gyfradd

marwolaethau wedi’i addasu yn ôl oed uchaf yng

Nghymru yn 2013, o’i gymharu â mathau eraill o

ganser. Roedd y gyfradd hon wedi gostwng o 12.3

y cant o’i gymharu â deng mlynedd yn flaenorol.

Canser y prostad oedd yr ail fath fwyaf cyffredin o

farwolaeth yn sgil canser, ac roedd hyn wedi

gostwng bron traean o’i gymharu â 2004.

Cyfraddau marwolaethau yn sgil canser y fron

benywaidd oedd y trydydd uchaf yn 2013 (ffigur

36).

Ffigur 36: Mae’r gyfradd marwolaethau yn sgil canser (EASR) fesul 100,000 o’r boblogaeth uchaf ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn 2013 a 2004 o’i gymharu â mathau eraill o ganser

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae canser yr iau ymysg dynion yn dangos y

cynnydd mwyaf yng nghyfraddau marwolaethau

rhwng y cyfnodau amser a archwiliwyd (ffigur 37),

a’r cynnydd canran mwyaf ar gyfer dynion, yn

cynyddu dros hanner. Mae canser y ceilliau yn

dangos y cynnydd canran uchaf ond un, fodd

bynnag, mae’r niferoedd yn isel ar gyfer y math

hwn o ganser (ffigur 38). Mae melanoma’n dangos

y cynnydd canran mwyaf ond dau o bron traean.

Mae’r gyfradd marwolaethau ar gyfer yr holl

ganserau wedi’u cyfuno wedi dangos gostyngiad

mawr o dros 12 y cant.

Ffigur 37: Mae canserau’r prostad a’r ysgyfaint yn dangos y gostyngiad absoliwt mwyaf yn y gyfradd marwolaethau canser (EASR) fesul 100,000 ar

gyfer dynion yng Nghymru o 2001-2003 i 2011-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 38: Mae’r cynnydd canran mwayf yn y gyfradd marwolaethau canser (EASR) fesul 100,000 o ddynion ar gyfer canser yr iau o 2001-

2003 i 2011-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae canser yr ysgyfaint ymysg menywod yn

dangos y cynnydd mwyaf yn y gyfradd

marwolaethau dros amser ond canser yr iau sydd

â’r cynnydd mwyaf o ran canran sef bron dwy ran o

dair (ffigur 39 a 40). Mae lymffoma Hodgkin a

chanser y groth hefyd yn dangos cynnydd mawr o

ran canran ond mae’r niferoedd yn fach iawn ar

gyfer lymffoma Hodgkin. Mae’r gyfradd

marwolaethau ar gyfer yr holl ganserau wedi’u

cyfuno wedi dangos gostyngiad o bron 8 y cant.

... canser yr iau ymysg dynion sydd

â’r cynnydd mwyaf yn y gyfradd

marwolaethau rhwng 2004 a 2013

ond ar gyfer menywod, canser yr

ysgyfaint sydd yn dangos y

cynnydd mwyaf yn y gyfradd

marwolaethau dros amser ond

canser yr iau sydd â’r cynnydd

canran mwyaf o bron dwy ran o

dair.......”

Page 25: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

25

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Data Ystadegau Swyddogol 2013

Cyhoeddwyd 4 Chwefor 2015

Ffigur 39: Canser y fron sydd â’r gostyngiad absoliwt mwyaf yn y gyfradd marwolaethau canser (EASR) fesul 100,000 ar gyfer menywod yng

Nghymru o 2001-2003 i 2011-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 40: Mae’r cynnydd mwyaf o ran canran yn y gyfradd marwolaethau canser (EASR) fesul 100,000 o fenywod ar gyfer canser yr iau o 2001-2003 i 2011-2013

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ceir gwahaniaethau mawr rhwng

pumedau lleiaf difreintiedig a mwyaf difreintiedig ar gyfer marwolaethau canser yr ysgyfaint

Mae marwolaethau canser ar eu huchaf yn y

pumedau mwyaf difreintiedig ar gyfer canser yr

ysgyfaint a chanser y coluddyn gyda graddiant yn y

canol (ffigur 41). Mae’r bwlch yn fawr iawn ar gyfer

canser yr ysgyfaint ac mae wedi ehangu rhwng

2002-2006 a 2009-2013. Fe wnaeth y bwlch

cymedrol mewn marwolaethau canser y coluddyn

leihau ychydig. Ceir ychydig bach o amrywiad ar

gyfer cyfradd marwolaethau canser y fron

benywaidd a chanser y prostad rhwng pumedau

amddifadedd ardaloedd, ond nid oes graddiannau

clir.

Ffigur 41: Mae’r gyfradd marwolaethau canser (EASR) fesul 100,000 yn dangos bod y gwahaniaeth rhwng y pumed lleiaf difreintiedig a

mwyaf difreintiedig ar gyfer canser yr ysgyfaint yn cynyddu yng Nghymru

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Mae goroesi canser y pancreas, yr ysgyfaint a’r iau yn dalyn isel iawn

Y canserau â’r cyfraddau goroesi am flwyddyn isaf

yw canser y pancreas, yr ysgyfaint a’r iau ar gyfer

y ddau gyfnod a archwiliwyd (ffigur 42). Er

gwaethaf hyn, mae’r tri chanser hyn wedi dangos

gwelliannau o ran goroesi am flwyddyn. Canser y

ceilliau sydd â’r gyfradd goroesi am flwyddyn uchaf

sef 98 y cant, wedi ei ddilyn yn agos gan felanoma,

canser y prostad a chanser y fron benywaidd (i gyd

dros 96 y cant) yn 2008-2012. Mae tri chwarter y

bobl sy’n cael diagnosis o ganser y coluddyn

bellach yn goroesi am flwyddyn o leiaf.

Page 26: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

26

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 42: Ceir gwelliannau ar gyfer goroesi am flwyddyn (%) ar gyfer y rhan fwyaf o’r mathau o ganser

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Yn debyg i oroesi am flwyddyn, mae’r cyfraddau

goroesi am bum mlynedd isaf ar gyfer canserau’r

pancreas, yr iau a’r ysgyfaint (ffigur 43) ar gyfer y

ddau gyfnod a archwiliwyd. Mae goroesi canser yr

iau am bum mlynedd bellach ychydig o dan 6 y

cant, cynnydd bach o’i gymharu â 2000-2004. Ar

gyfer canser yr ysgyfaint, mae’r ffigurau yn dal heb

newid dros amser. Mae goroesi canser y ceilliau

am bum mlynedd unwaith eto’n uchel ar 96 y cant

ar gyfer y cyfnod diweddaraf sef 2004-2008. Mae

goroesi canser y prostad a chanser y fron

benywaidd am bum mlynedd dros 85 y cant yr un

ar gyfer 2004-2008. Ar gyfer canser y coluddyn,

dim ond gwelliant bach a welwyd, yn codi i 52 y

cant yn 2004-2008.

Amrywiad o ran goroesi rhwng byrddau iechyd ar gyfer rhai canserau

Er nad yw goroesi am flwyddyn ar gyfer yr holl

ganserau wedi’u cyfuno yn amrywio llawer rhwng

poblogaethau byrddau iechyd, mae amrywiad mawr

ar gyfer rhai canserau, er enghraifft, canser yr

oesoffagws (ffigur 44), ond mae pob bwrdd iechyd

yn tueddu i gael cyfraddau goroesi am flwyddyn

tebyg ar gyfer canser y prostad (95 y cant ac yn

hŷn).

Page 27: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

27

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ffigur 43: Ceir gwelliannau ar gyfer goroesi am bum mlynedd (%) ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser

*Newidiwyd côd y bledren yn 2007, sy’n esbonio’r newid mawr o ran goroesi. Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ffigur 44: Ceir amrywiad mawr ar gyfer goroesi canser yr oesoffagws am flwyddyn yn ôl bwrdd iechyd

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Fodd bynnag, mae goroesi canser y prostad am

bum mlynedd yn dangos amrywiad mawr rhwng

byrddau iechyd (o 78.4 y cant ym mwrdd Addysgu

Iechyd Powys i 91.5 y cant ym mwrdd iechyd

Prifysgol Caerdydd a’r Fro)(ffigur 45). Ceir

amrywiad eang ar gyfer canser y pen a’r gwddfa a

lewcemia hefyd. Mae mwy o wybodaeth am

gyfraddau goroesi canser ar gyfer bob bwrdd

iechyd ar gael ar ddangosfwrdd rhyngweithiol yr

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser1. Ffigur 45: Ceir amrywiad mawr yng nghyfraddau goroesi am bum mlynedd yn ôl poblogaeth bwrdd iechyd ar gyfer canser y prostad

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

1 http://www.wcisu.wales.nhs.uk/cancer-statistics

Page 28: Adroddiad cryno o fynychder, marwolaethau a …...Canser y prostad, y coluddyn, y fron benywaidd, melanoma a’r ysgyfaint oedd â’r cynnydd mwyaf o ran niferoedd dros 10 mlynedd

28

Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit Official statistics 2013 data

Published 4 February 2015

Ceir gwelliant ym mhob pumed

amddifadedd o ran goroesi am flwyddyn

Mae bwlch mawr ym mynychder canser yr

ysgyfaint rhwng y pumed mwyaf difreintiedig yng

Nghymru o’i gymharu â’r lleiaf difreintiedig – gyda’r

mynychder uchaf yn yr ardaloedd mwyaf

difreintiedig (gweler yn flaenorol). Mae cyfraddau

goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn hefyd ar ei

isaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, er bod y

bwlch yn llawer llai na’r gyfradd mynychder, ac

mae’r bwlch amddifadedd o ran goroesi wedi lleihau

(ffigur 46). Mae ein hadroddiad manwl ar oroesi

canser yr ysgyfaint oedd yn cynnwys data 2012 ar

gael yn http://www.wcisu.wales.nhs.uk/lung-

cancer-overview.

Fel canser yr ysgyfaint, mae bwlch amddifadedd i

fynychder canser y fron benywaidd a chanser y

prostad, ond yn wahanol i ganser yr ysgyfaint,

mae’r mynychder uchel yn yr ardaloedd lleiaf

difreintiedig. Er gwaethaf hyn, mae goroesi’r

canserau hyn am flwyddyn yn dal ar ei isaf yn yr

ardaloedd mwyaf difreintiedig, ond mae’r bylchau

wedi lleihau.

Mae gan ganser y coluddyn fwlch amddifadedd o

ran goroesi am flwyddyn a phum mlynedd, y ddau

yn waeth yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Er

bod y bwlch o ran mynychder lawer yn llai nag ar

gyfer canser yr ysgyfaint, mae’r bwlch amddifadedd

o ran goroesi canser y coluddyn am flwyddyn yn

ehangach.

Ffigur 46: Mae canser yr ysgyfaint, y fron benywaidd a chanser y prostad yn dangos gostyngiad yn y bwlch amddifadedd ar gyfer goroesi am flwyddyn cymharol dros amser yng

Nghymru

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk

Ni cheir llawer o welliant yn ôl pumed amddifadedd ar gyfer goroesi am bum mlynedd cymharol ar gyfer rhai mathau o ganser

Yn y pumedau lleiaf difreintiedig y ceir y cyfraddau

goroesi gorau ac yn y pumedau mwyaf difreintiedig

y ceir y cyfraddau goroesi gwaethaf ar gyfer

goroesi cymharol pob math o ganser. Ac eithrio

canser yr ysgyfaint, mae’r rhan fwyaf o’r pumedau

amddifadedd yn dangos cynnydd yn y gyfradd

goroesi am bum mlynedd cymharol dros amser.

Ar gyfer canser yr ysgyfaint ni chafwyd llawer o

newid yng nghyfraddau goroesi am bum mlynedd

cymharol gyda’r bwlch yn ehangu ychydig bach

(ffigur 47). Mae’r bwlch amddifadedd ar gyfer

goroesi am bum mlynedd cymharol yn dangos

bwlch mwy na chyfraddau goroesi am flwyddyn

cymharol ar gyfer pob math arall o ganser ac

eithrio canser yr ysgyfaint; mae’r bwlch ar gyfer

canser yr ysgyfaint yn llai na goroesi am flwyddyn

cymharol ar gyfer rhai cyfnodau. Mae’r bwlch

amddifadedd wedi cynyddu ychydig dros amser ar

gyfer canser y coluddyn a chanser y fron

benywaidd ond mae wedi lleihau ychydig ar gyfer

canser y prostad. Ffigur 47: Mae amrywiad eang yn bodoli rhwng y pumedau lleiaf a mwyaf difreintiedig ar gyfer

goroesi am bum mlynedd cymharol (%) yng Nghymru ar gyfer canser y fron, y prostad a’r coluddyn

Ffynhonnell: Cofrestrfa Ganser Uned Deallusrwydd a

Gwyliadwriaeth Canser Cymru www.wcisu.wales.nhs.uk .