amazon web services  · web view2020. 7. 9. · google meet grid view. mae google grid view yn...

7
Google Meet Grid View Mae Google Grid view yn caniatáu i'r defnyddiwr weld pawb sy'n bresennol mewn sgwariau cyfartal, yn wahanol i'r fformat mân-lun yn Google Meet. Mae'r estyniad hwn yn gweithio yn Meet yn unig, nid Hangouts - a dim ond ar borwr gwe Google Chrome Agorwch Chrome a 'Sign in' ar Google - cliciwch ar yr eicon person a chlicio ar y botwm glas 'Turn on Synch' Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost GLLM a'r cyfrinair ar gyfer hwnnw

Upload: others

Post on 13-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Google Meet Grid View

Mae Google Grid view yn caniatáu i'r defnyddiwr weld pawb sy'n bresennol mewn sgwariau cyfartal, yn wahanol i'r fformat mân-lun yn Google Meet.

Mae'r estyniad hwn yn gweithio yn Meet yn unig, nid Hangouts - a dim ond ar borwr gwe Google Chrome

Agorwch Chrome a 'Sign in' ar Google - cliciwch ar yr eicon person a chlicio ar y botwm glas 'Turn on Synch'

Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost GLLM a'r cyfrinair ar gyfer hwnnw

Cliciwch ar y botwm glas 'Yes, I'm in' pan ddaw hwnnw i'r golwg ar sgrin.

Cyn ymuno â chyfarfod Meet, lawrlwythwch yr estyniad (clicio ar y ddolen) - Google Meet Grid View -

Cliciwch ar 'Add to Chrome'

Unwaith y byddwch chi wedi gosod yr estyniad, bydd yr ap i'w weld wrth yr 'Address Bar'

Crëwch eich cyfarfod ar galendr Google a gwahodd eraill Wrth ymuno â'r cyfarfod gallwch ddewis defnyddio Grid View ar ochr dde uchaf eich sgrin Cliciwch ar yr eicon ar y chwith i gychwyn neu ddiffodd yr ap

Byddwch yn gallu gweld y rhai sydd wedi ymuno â'r Google Meet mewn cynllun grid

Dewisiadau Grid

Pan fydd Grid ar waith, gall defnyddwyr ddewis arddangos gwahanol elfennau drwy glicio ar yr eicon grid:

· Dangos cyfranogwyr sydd â Fideo yn unig

· Amlygu Siaradwyr

· Cynnwys eich hun yn y grid

· Defnyddio Grid View yn ddiofyn

Cliciwch ar 'People' i gael rhestr o'r bobl yn y Google Meet

Pinned view

Gallwch 'pinio' neu amlygu un defnyddiwr ar y grid (y prif siaradwr neu'r cadeirydd/athro)

Cliciwch ar y deilsen rydych chi am ei amlygu, ac yna cliciwch ar yr eicon pin. Gall defnyddwyr dynnu'r pin a dewis unigolyn arall neu ddychwelyd at y fformat grid arferol.

Tynnu'r Estyniad

Os hoffech dynnu'r estyniad, cliciwch ar y tri dot ar Google Chrome (ochr dde uchaf ar dudalen y porwr) a dewis 'More Tools', ac yna 'Extensions'

Gall defnyddwyr ddiffodd estyniad drwy glicio ar y llithrydd glas neu dynnu estyniad drwy glicio ar 'remove'.