alexander fleming

Post on 11-Jan-2016

82 Views

Category:

Documents

0 Downloads

Preview:

Click to see full reader

DESCRIPTION

ALEXANDER FLEMING. Ei enw oedd Fleming. Roedd e’n ffermwr tlawd yn byw yn yr Alban. Un diwrnod, pan oedd wrth ei waith, clywodd rywun yn galw am help o gors gerllaw. Gadawodd ei waith, a rhedodd tuag at y gors. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

ALEXANDER FLEMING

Ei enw oedd Fleming. Roedd

e’n ffermwr tlawd yn byw yn yr Alban. Un diwrnod, pan oedd wrth ei waith, clywodd rywun yn galw am help o gors gerllaw. Gadawodd ei waith, a rhedodd tuag at y gors.

Yno, roedd bachgen ifanc, yn sownd yn mwd hyd at ei ganol. Roedd ofn mawr arno, ac roedd e’n sgrechian wrth iddo drio dod yn rhydd. Achubodd Fleming y bachgen. Pe na bai Fleming yno byddai’r bachgen wedi marw yn araf ac mewn poen mawr.

CORS

Y diwrnod wedyn, cyrhaeddodd

cerbyd mawr wrth gartref tlawd Fleming. O’r cerbyd daeth uchelwr wedi’i wisgo’n grand a dywedodd mai ef oedd tad y bachgen yr oedd Fleming wedi’i achub. ‘Rwyf am dy wobrwyo di am achub bywyd fy mab’ ebe’r uchelwr.

A ‘Na, fedra i ddim derbyn tal am yr

hyn wnes i’, dywedodd Fleming. Y foment honno sylwodd yr uchelwr ar fachgen ifanc yn chwarae y tu allan i fwthyn y ffermwr. ‘Ai dy fachgen di yw hwnna?’ gofynnodd. ‘Ie’ ebe Fleming, gan edrych yn falch ar ei fab.

‘Gad i fi daro bargen a thi’ ebe’r uchelwr. ‘Gad i fynd ag e, ac fe wna i’n siwr ei fod yn cael yr addysg orau posib. Os bydd yn debyg i’w dad fe wnaiff dyfu i fod yn ddyn y gellir bod yn falch ohono. ."

A dyna ddigwyddodd. Ymhen amser graddiodd mab y ffermwr o’r Alban o Ysgol Feddygol Ysbyty’r Santes Fair yn Llundain. Daeth yn enwog ar draws y byd fel Syr Alexander Fleming, y dyn a wnaeth ddarganfod penisilin.

Beth yw PENISILIN ? Math o wrthfiotig yw penisilin.

Daeth Alexander Fleming ar ei draws yn tyfu ar lwydni. Sylweddolodd bod penisilin yn gallu lladd sawl math o facteria a germau a oedd yn lladd pobl ar yr adeg honno. Cafodd penisilin ei adnabod fel cyffur gwyrthiol.

Flynyddoedd yn ddiweddarch roedd niwmonia ar fab yr uchelwr. Beth achubodd ei fywyd? Penisilin. Enw’r uchelwr – Yr Arglwydd Randolph Churchill. Enw ei fab? Syr Winston Churchill.

Yr Arglwydd Randolph Churchill

Syr Winston Churchill 1874 - 1965

Prif Weinidog Prydain 10 Mai 1940 – 27 Gorffennaf 1945

Yn 2002 pleidleisiwyd mai Winston Churchill oedd y Prydeiniwr

pwysicaf erioed

Rydym yn creu bywoliaeth drwy’r hyn a gawn, ond rydym yn creu

bywyd drwy’r hyn a rown.

top related