amgueddfa cymru digwyddiadau gwanwyn 2013

Post on 06-Mar-2016

231 Views

Category:

Documents

6 Downloads

Preview:

Click to see full reader

DESCRIPTION

Cylchlythyr: Digwyddiadau ac arddangosfeydd yn ein saith amgueddfeydd. Mawrth - Mehefin 2013.

TRANSCRIPT

Sain Ffagan

Amgueddfa CymruCylchlythyr DigwyddiadauMawrth-Mehefin 2013

www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2333

Cymru’r Oes Haearn13 Ebrill, 4 Mai, 8 Mehefin, 20 Gorffennaf

Fel rhan o broject ailddatblygu Sain Ffagan, byddwn yntynnu ein tai crwn Oes Haearn i lawr ac yn adeiladupentref caeedig mewn man arall yn yr Amgueddfa. Bydddehonglydd addysg y Pentref Celtaidd, Ian Daniel, yncynnal cyfres o sgyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg idrafod yr hyn rydym wedi’i ddysgu yn ystod y degawdau oadeiladu tai crwn yn Sain Ffagan. Bydd yn gofyn a oes lle idechnoleg yr Oes Haearn yn y byd modern ac yn cyflwynosyniadau a chynlluniau ar gyfer Bryn Eryr, ein pentref OesHaearn cyffrous newydd fydd yn seiliedig ar olionarchaeolegol yn Ynys Môn.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Croeso i dymor newydd sbon o arddangosfeydd a digwyddiadau. Byddwn yncychwyn ein rhaglen newydd gyda dathliadau Dydd Gwyl Dewi ym mhob un o’nhamgueddfeydd, ac mae ein rhaglen ar gyfer gweddill y flwyddyn yn orlawn.

Mae’n fwrlwm o weithgarwch tu ôl i’r llenni hefyd gyda phroject ailddatblyguSain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn dod yn ei flaen yn dda. Mae CronfaDreftadaeth y Loteri wedi dyfarnu £11.5m i Sain Ffagan tuag at y gwaith oweddnewid yr amgueddfa boblogaidd hon. Byddwn yn ymestyn y llinell amserer mwyn i ymwelwyr allu dilyn straeon am bobl Cymru, o’r brodorion cyntafhyd heddiw a thu hwnt. Gallwch chi barhau i ymweld â’r amgueddfa fel arfer,er y bydd yr arddangosfeydd yn y brif fynedfa ar gau wrth i’r gwaith o greuorielau dan do newydd cyffrous ddechrau. Bydd rhagor o wybodaeth amddatblygiad y project ar ein gwefan, a bydd digonedd o gyfleoedd i chi allucymryd rhan a Chreu Hanes yn Sain Ffagan.

Gobeithio y cewch chi flas ar ddigwyddiadau’r gwanwyn ym mhob un o’nhamgueddfeydd. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan, yn y llyfrynnauDigwyddiadau unigol yn ein hamgueddfeydd a gallwch gofrestru i gael ydiweddaraf trwy ein cylchlythyr e-bost.

Pentref Celtaidd Sain Ffagan

Galwch draw i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru’rgwanwyn hwn. Ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth, byddwn yndathlu Dydd Gwyl Dewi gyda chyfle i bawb roi tro arweithgareddau Cymreig, neu ar ddydd Sul 10 Mawrth,bydd cyfle i greu sebon yn anrheg arbennig ar gyfer Sul y Mamau.

I deuluoedd, beth am greu tatwLladin (dros dro wrth gwrs!) fel rhano’n gweithgareddau Pasg, neugeisio curo’n cwningen i ddod o hydi’r siocled ar ddydd Gwener 29Mawrth-Sul 7 Ebrill.

Ar ddydd Sadwrn 23 a Sul 24 Mawrth, paratowch i wlychuwrth i ni arbrofi gyda dulliau’r Rhufeiniaid o gludo dwr ynGwisgwch eich Welis! Neu beth am geisio datrys yLlofruddiaeth Llwfr yn ystod hanner tymor Llun 27-Gwener 31 Mai.

Efallai y bydd ein sgwrs ar ganfyddiadau newydd CaerRufeinig Aberhonddu, dydd Iau 14 Mawrth, at ddantoedolion, neu beth am ein harddangosiad Saethyddiaeth,Sadwrn 18 Mai. Dewch i roi tro ar rywbeth newydd gyda’rhyfforddiant Gladiator neu goginio Rhufeinig ar ddyddSadwrn 11-Sul 12 Mai. Ac yn olaf, Bwytewch, Yfwch aByddwch Lawen ar ddydd Llun Gwyl y Banc 6 Mai, wrth ini ddathlu mewn steil, steil Rufeinig wrth gwrs!

Rhufeinig

Big Pit

Eleni, bydd Big Pit yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 gydallond trol o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennigdrwy gydol y flwyddyn. Ers agor ym 1983, rydyn ni wedicroesawu dros 3.5 miliwn o ymwelwyr, felly galwch draw iymuno â’r dathlu!

Bydd Helfa Wyau Pasg ychydig yn wahanol ar ddydd Llun25 Mawrth-Sul 7 Ebrill yn ein Llwybr 30. Dewch i chwilioam y 30 wy Pasg a dysgu 30 o ffeithiau difyr am Big Pit.

Ym mis Ebrill, bydd arddangosfa newydd yn agor, HenGreiriau Bach a Pheiriannau Diwydiannol wedi Darfod,sef arddangosfa deithiol fydd yn ystyried diwedd ydiwydiant trwm yng Nghymru a datblygiad yr ‘amgueddfaddiwydiannol’.

Ar ddydd Sadwrn 6 Ebrill, 2pm, cynhelir ein DarlithFlynyddol sef Mab y Glöwr: Richard Burton aThreftadaeth Mwyngloddio gan Dr Chris Williams,Prifysgol Abertawe.

Byddwn yn dathlu traddodiadau Calan Mai hefyd gydagweithdai creu bedwen Fai fach neu dorch mis Mairhwng dydd Llun 27 Mai a Sul 2 Mehefin. Os hoffech chiddod yn nes at natur,galwch draw i DitectifsByd Natur: Teuluoedd arddydd Mawrth 28 Mai idroedio Tomen Coety,chwilio am fwystfilodbach a rhoi tro ar drochirhwydi. Rhaid archebuymlaen llaw.

Rydyn ni’n edrych ymlaenat eich croesawu ac yngobeithio y gallwch chiein helpu i ddathlu pen-blwyddi’w chofio!

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Yn ystod gwanwyn 2013, byddwn yn lansio rhaglen celfgyfoes newydd a noddir gan Ymddiriedolaeth ElusennolColwinston. Cynhelir yr arddangosfa fawr Pop aHaniaethol, o ddydd Sadwrn 9 Mawrth, yn yr orielau celfgyfoes a bydd yn cynnwys artistiaid megis Bridget Riley,David Hockney, Pablo Picasso, Ernest Zobole a BenNicholson. Bydd gosodwaith ffotograffig newydd sbon ganHolly Davey hefyd.

O ddydd Sadwrn 9 Mawrth, bydd Tim Davies, un oartistiaid cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru, yn dangos Drift –fideo a grëwyd ganddo i gynrychioli Cymru yn BiennaleFenis 2011. O ddydd Sadwrn 6 Ebrill, bydd Julian Stair, uno’r ceramegyddion uchaf ei fri yn y byd, yn arddangos eigasgliad o lestri angladdol ceramig. Cynhelir sgyrsiau ar yddwy arddangosfa ym mis Mai.

Ydych chi erioed wedi gofyn, o ble yn union y daw einbwyd? Ydy’r hyn rydyn ni’n ei fwyta wir yn bwysig? Osfelly, dewch i arddangosfa Bîns ar Dost, Sadwrn 25 Mai-Sul 29 Medi, i weld taith llysiau, codlysiau a grawn o’rpridd i’r plât fel rhan o Wyl Ecoleg Cymdeithas Ecoleg Prydain.

Cofiwch hefyd am ein rhaglen lawn o deithiau tu ôl i’rllenni, sgyrsiau amser cinio a gweithgareddau i deuluoedd,o ddiwrnodau serydda i sesiynau celf, ac o weithdaiffosilau i gyngor ar yrfa ym myd ffasiwn. C

aerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Big Pit

Ken Elias, Dyddiau yw ble rydyn ni’n byw, 1968-69 (casgliad Prifysgol Morgannwg)© yr artist.

Bydd gweithgareddau’r Pasg yn cychwyn rhaglen y Gwanwyn a’r Haf oweithgareddau i deuluoedd. Dewch i roi tro ar Lwybr y Pasg fydd yn eich arwainbob cam trwy hen weithdai’r chwarel a chreu crefft y Pasg i fynd adre gyda chi arddydd Mercher 27-Iau 28 Mawrth. Yna byddwn ni’n codi stêm ac yn anelu amHaf o Lechen ble bydd digonedd o gyfleoedd i wisgo ffasiynau’r oes a fu yn nhai’rchwarelwyr, rhoi tro ar y Cert Celf, neu greu patrymau perffaith ym mlwch tywody ffowndri. Bydd ein sgyrsiau a theithiau arferol yn ôl hefyd, gan gynnwys Sgwrsy Saer a Cyfarfod â’r Curadur yn y llofft patrymau a bydd sgwrs newydd ar gael,Llifio a Thradlo, sy’n esbonio mwy am rai o’r peiriannau gwreiddiol ar y safle.

Bydd dwy arddangosfa newydd ar eich cyfer hefyd y tymor hwn, John NevilleFoulkes fydd i’w gweld tan ddydd Sul 30 Mehefin a Worktown – LluniadauFalcon Hildred fydd i’w gweld rhwng dydd Llun 22 Gorffennaf 2013 a dydd Llun6 Ionawr 2014.

Byddwn yn cychwyn 2013 gyda llond lle o weithdai, arddangosfeydd adigwyddiadau.

Ar ddydd Sadwrn 2 Mawrth, cynhelir Diwrnod Hwyl i’r Teulu i ddathlu DyddGwyl Dewi gyda gemau, gweithgareddau a chystadlaethau i bawb. Ar ddyddSadwrn 23 Mawrth, byddwn yn croesawu’r Ffair Werdd boblogaidd yn ôl elenieto. Bydd gwybodaeth am ailgylchu, arbed ynni a byw’n wyrdd, a bydd stondinau,gwasanaethau, gwybodaeth a chyfle i gyfnewid hadau. Ar ddydd Sadwrn 11 Mai,byddwn yn cynnal Ffair Grefftau fydd yn arddangos y gorau o grefftau, celf athecstilau lleol.

Bob mis, bydd cyfle i feithrin sgiliau newydd yn ein sesiynau Gwneud a Thrwsiopoblogaidd. Ym mis Chwefror, byddwn yn dechrau gyda Cardiau ac Amlenni, acyna Crefftau Oelcloth, Pincysau, Blychau Storio a Bagiau a Labeli Rhodd. Arthema wlanog, bydd gweithdai newydd y tymor hwn yn cynnwys uwchgylchu,crosio i ddechreuwyr a gweithdy lliwio naturiol.

Bydd y brif arddangosfa yn Dre-fach eleni yn arddangos gweuwaith gwych ydylunydd tecstilau o fri rhyngwladol, Kaffe Fassett, fydd yn agor ar ddyddGwener 8 Mawrth ac i’w gweld tan fis Tachwedd. Mae’r artist yn enwog am eiddyluniau lliwgar ym myd y celfyddydau addurnol, ac mae’r arddangosfa’n siwr ofod yn dipyn o sioe. Cynhelir yr arddangosfa hon ar y cyd ag arddangosfa o’igwiltiau clytwaith yng Nghanolfan y Cwilt Cymreig, Llambed(www.welshquilts.com).

Llechi

Gwlân

Amgueddfa Wlân Cymru

Bydd rhywbeth at ddant pawb yn rhaglenddigwyddiadau newydd AmgueddfaGenedlaethol y Glannau sy’n llawndigwyddiadau, ffilmiau, sgyrsiau acarddangosfeydd cyffrous.

Dewch i ddathlu’r Pasg gyda’r HetiwrGwallgof mewn diwrnod llawn hwyl i’rteulu cyfan ar thema Alys yng NgwladHud ar ddydd Gwener 29 Mawrth. Neubeth am gael gair o gyngor gan ycyflwynydd teledu James Wong,botanegydd sydd am gychwyn chwyldroyn ein gerddi gyda’i sgwrs ar ddydd Sul 7 Ebrill.

Yn Nhrysorfa ‘Vintage’ a Gwaith LlawMis Mai bydd llond lle o ddillad ac

ategolion ffasiynol ar werth ar ddyddSadwrn 4 Mai neu beth am ddod i GreuBlwch Offer gyda Dad i ddathlu Sul yTadau, dydd Sadwrn 15-Sul 16 Mehefin.

Rhwng hyn oll a’r dathliadau rygbi,teithiau cerdded o gwmpas y ddinas,sgyrsiau hanes, ffilmiau poblogaidd allond lle o grefftau ymarferol, bydd ynwanwyn i’w chofio!

I gael manylion digwyddiadau eraill misMawrth – Mehefin, ewch iwww.amgueddfacymru.ac.uk

Y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Lechi Cymru

John Neville Foulkes, Chwarelwr.

Gweuwaith Kaffe Fassett

James Wong

Roasmund Deg gan Dante Gabriel Rossetti yw un o’n paentiadau mwyaf poblogaidd. Gan gymryd einhysbrydoliaeth o’r gwaith addurnol hwn, rydym wedi datblygu casgliad newydd o emwaith hardd. Mae’r dylunyddCymreig Kate Dumbleton wedi defnyddio aur, pres a gleiniau carnelian i greu’r casgliad hwn o glustdlysau, mwclisa broetshis ar thema rhosod yn arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru. Maent ar gael yn Amgueddfa GenedlaetholCaerdydd neu ar-lein ar www.amgueddfacymru.ac.uk/siop. Mae pob pryniad yn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer cylchlythyry siop ac ymweld â’n tudalennauFacebook a Twitter amnewyddion a chynnyrch newyddym mhob un o’n siopau, gangynnwys cynigion arbennig.

Artes MundiColeg Brenhinol Cerdd aDrama Cymru Cronfa Dreftadaeth y LoteriCwpanAurCyfeillion Amgueddfa CymruCyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Dinas Casnewydd Cymdeithas GwestywyrCaerdyddDinas a Sir CaerdyddLlywodraeth Cymru Noddwyr Amgueddfa CymruPrifysgol Caerdydd

Sefydliad Clore DuffieldSefydliad Charles HaywardSefydliad Esmée Fairbairn Sefydliad Foyle Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Paul Hamlyn Sefydliad Wolfson

Setliad Elusennol G C Gibson WestcoWDS Green EnergyY Gronfa GelfYmddiriedolaeth AureliusYmddiriedolaeth CerddoriaethSiambr Cavatina

Ymddiriedolaeth DerekWilliams Ymddiriedolaeth Edina Ymddiriedolaeth ElusennolColwinstonYmddiriedolaeth Leverhulme

Siop

Oriel y Parc

Mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth y busnesau a’r cyrff canlynol:

Oriel dirluniau o safonryngwladol yw Oriel y Parcsydd yng NghanolfanYmwelwyr y ParcCenedlaethol yn Nhyddewi.Mae’n bartneriaeth rhwngAmgueddfa Cymru acAwdurdod ParcCenedlaethol ArfordirPenfro. Ei nod yw dehonglitirwedd Sir Benfro, Cymru athu hwnt drwy gasgliadauamrywiol AmgueddfaCymru, a chasgliad GrahamSutherland yn benodol.

Ar ddydd Sadwrn 16Mawrth, bydd arddangosfanewydd yn agor, BwrwGwreiddiau: Sutherlanda’r Dirwedd Ramantaidd.Cafodd y lleoliadau y buGraham Sutherland (1903-1980) yn gweithio ynddynteffaith ddwys arno. Yn ystod y 1930au, datblygodd eiddull unigryw ei hun o gynrychioli tirwedd Sir Benfro, adaeth yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad neoramantaiddddaeth i’r amlwg yng nghelf Prydain yn ystod yr AilRyfel Byd.

Mae’r arddangosfa hon yn dangos casgliad o waith ganSutherland a’i gyfoedion, gan gynnwys John Piper aPaul Nash, darnau cynharach gan William Blake aSamuel Palmer, a gwaith ffilm cyfoes sy’n adlewyrchuagweddau ar y traddodiad Rhamantaidd. Bydd BwrwGwreiddiau i’w gweld tan ddydd Llun 8 Gorffennaf.

Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc

Dyl

un

io a

ch

ynh

yrch

u g

an M

ediades

ign w

ww.m

ediades

ign-w

ales

.co.uk 018

74 730

748

Graham Sutherland, Tirlun Sir Benfro, 1935 © Ystâd Graham Sutherland.

top related