care to co-operate · llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu...
Post on 23-Aug-2020
0 Views
Preview:
TRANSCRIPT
https://care.wales.coop
/
Sut i greu eich sianelau cyfryngau cymdeithasol
Rydych chi’n gwybod pa sianel yw’r un iawn ar eich cyfer chi ac rydych wedi cynllunio eich
strategaeth, felly mae’n bryd creu eich tudalennau. Dyma ganllawiau cam wrth gam i greu
tudalennau Facebook, Twitter, LinkedIn ac Instagram.
1) I ddefnyddio Facebook fel busnes, bydd angen i chi neu rywun o’ch tîm fod â chyfrif
Facebook personol eisoes. Os nad oes gennych un, gallwch greu un ar y dudalen
gofrestru trwy nodi eich enw cyntaf; eich cyfenw; eich cyfeiriad ebost; cyfrinair
newydd; eich pen-blwydd a’ch rhyw.
2) Pan fyddwch yn agor Facebook am y tro cyntaf bydd yn mynd â chi i’r hafan. Yng
nghornel dde yr hafan ceir cwymplen ar ffurf saeth ger ‘Home’ lle gallwch glicio ar
Create Page.
Care to Co-operate
https://care.wales.coop
/
3) Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen hon, lle byddwch yn dewis y math o dudalen y
mae arnoch eisiau ei chreu. Rydym yn argymell creu tudalen fel “cause or
community”. Pan fyddwch yn clicio ar hyn, gofynnir ichi ddewis enw.
4) Yna gofynnir ichi lwytho llun proffil a llun clawr. Byddem yn eich cynghori i
ddefnyddio eich logo fel eich llun proffil ac yna gallech gael llun mwy cyffredinol fel y
llun clawr, fel isod, neu faner sy’n fwy perthnasol i ymgyrch yr ydych yn ei chynnal ar
hyn o bryd. Y maint angenrheidiol ar gyfer llun clawr o ansawdd da yw 851 x 315
megapicsel.
Llun proffil Llun clawr
https://care.wales.coop
/
5) Nesaf, ychwanegwch enw defnyddiwr. Mae enw defnyddiwr yn ffordd haws o chwilio
am eich tudalen e.e. @WalesCooperativeCentre.
6) Nawr, ysgrifennwch rywfaint am yr hyn yr ydych yn ei wneud, ac fe’i dangosir dan
adran ‘about’ eich tudalen (gweler enghraifft Wales Co-Operative).
Cliciwch ar ‘add a short description’, ac yna llenwch yr adran honno â’ch lleoliad;
amseroedd agor; gwybodaeth am y busnes; manylion cyswllt; rhowch ddolen i’ch
gwefan; rhowch grynodeb o’r hyn yr ydych yn ei wneud; rhowch unrhyw wybodaeth
gyffredinol; soniwch am unrhyw gynnyrch sydd gennych ac, yn olaf, rhowch eiriau
allweddol sy’n berthnasol i’r hyn yr ydych yn ei wneud e.e. ‘charity; care; public and
government service’. Bydd hyn yn ymddangos fel isod.
https://care.wales.coop
/
7) Er mwyn denu dilynwyr, gallwch ddechrau trwy wahodd eich ffrindiau personol i
hoffi’r dudalen. Os bydd rhywun yn hoffi eich tudalen, bydd yr hyn y byddwch yn ei
gyhoeddi ar y dudalen yn ymddangos yn eu ffrwd newyddion. Po fwyaf o bobl sy’n
hoffi eich tudalen, gorau’r croeso y bydd y dudalen yn ei gael. Gweler yr adnodd
Build your following er mwyn cael rhagor o gynghorion.
8) Gallwch osod gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau ar y cyfrif, fel y gall mwy
nag un person reoli’r ffrwd gymdeithasol. Efallai na fydd hyn yn gwbl angenrheidiol,
ond os ydyw, gallwch wneud hyn trwy glicio ar Settings > page roles ac yna roi enw
neu gyfeiriad ebost person er mwyn pennu swyddogaeth iddynt. Isod fe welwch y
gwahanol swyddogaethau ar hyd y brig a’r cyfrifoldebau y mae’r rhain yn eu rhoi ichi
i lawr yr ochr. Rydym yn argymell y dylai un person fod yn weinyddwr (Admin, yn
gallu rheoli’r dudalen gyfan) ac yna eraill yn olygyddion (Editor, gan olygu eu bod yn
gallu cyhoeddi ar y dudalen a’i rheoli ond nad ydynt yn gallu pennu swyddogaethau i
https://care.wales.coop
/
bobl na chael gwared ar swyddogaethau ychwaith.
9) Yna gallwch ychwanegu postiadau gyda naill ai ddelwedd neu fideo. I’w llwytho,
cliciwch ar yr eicon camera, yna clicio ar ‘upload image or video’. Os oes arnoch eisiau
llwytho mwy nag un ddelwedd, gallwch glicio ‘carousel’ neu ‘slideshow’, sy’n caniatáu
i luniau gael eu llwytho ar ffurf sawl llun treigl/megis fideo.
10) Pan fyddwch yn llwytho fideo, fe welwch y sgrin isod. Bydd angen ichi ychwanegu
teitl ar gyfer eich fideo, ac yna ddisgrifiad. Bydd y disgrifiad yn ymddangos dan y
fideo, fel postiad arferol, a byddwch yn ei ddefnyddio i ychwanegu cyd-destun.
Gallwch ychwanegu ‘tagiau’ sy’n berthnasol i’ch fideo megis ‘care’, ‘charity’ ac ati.
Bydd angen ichi hefyd aros i’r fideo lwytho hyd at 100% yn y gornel dde cyn
cyhoeddi’r postiad.
https://care.wales.coop
/
11) Gallwch hefyd amserlennu delweddau, fideo neu bostiadau cyffredinol i gael eu
cyhoeddi’n awtomatig ar amser neu ddiwrnod penodol. Yr oll sydd angen ichi ei
wneud yw clicio ar y saeth ger ‘publish’, dewis ‘schedule’ ac yna ddewis y dyddiad a’r
amser (gan ddefnyddio’r cloc 24 awr) pryd yr hoffech i’r neges gael ei chyhoeddi’n
fyw.
https://care.wales.coop
/
1) Mae Twitter yn wahanol i Facebook, gan nad ydych yn cysylltu busnes â chyfrif
personol sy’n bodoli eisoes. Bydd angen ichi ddechrau trwy greu cyfrif Twitter
penodol ar gyfer eich sefydliad. Gwneir hyn trwy fynd i’r wefan a chofrestru.
2) Cewch eich annog i ddewis enw defnyddiwr – megis @CaretocooperateWales, er
enghraifft. Bydd pobl yn chwilio amdanoch trwy ddefnyddio @ ac yna eich enw
defnyddiwr.
3) Yna bydd angen ichi wneud yr un fath ag ar gyfer Facebook ac ychwanegu llun proffil
a baner Twitter, fel y gwelwch isod.
https://care.wales.coop
/
4) Mae Twitter yn eich cyfyngu i 280 o nodau, sy’n golygu bod yn rhaid ichi fod yn
glyfar o ran yr hyn yr ydych yn ei ysgrifennu a sut yr ydych chi’n eich disgrifio eich
hun. I greu disgrifiad ohonoch chi’ch hun, fel y gwelir isod, bydd angen ichi fynd i’ch
proffil > clicio ar ‘edit profile’ yn y gornel dde > a rhoi disgrifiad byr; eich lleoliad;
eich gwefan; a dewis cynllun lliwiau ar gyfer eich cyfrif.
Isod ceir enghreifftiau o ddisgrifiad Canolfan Cydweithredol Cymru ac enghraifft
Cowshed o sut i olygu proffil.
5) Gallwch weld faint o bobl yr ydych yn eu dilyn a faint o bobl sy’n eich dilyn chi ar frig
eich proffil dan eich llun clawr.
https://care.wales.coop
/
6) Gallwch fynd i mewn i’ch proffil trwy glicio ar eicon eich llun proffil ar frig Twitter.
Gallwch hefyd fynd i’ch hafan, lle gwelwch yr holl negeseuon Twitter gan bawb yr
ydych yn eu dilyn; yr adran ‘moments’ gyda straeon newyddion perthnasol a
negeseuon trydar poblogaidd; y ganolfan hysbysiadau lle cewch ddiweddariadau
ynghylch unrhyw un sydd wedi eich dilyn/aildrydar/hoffi eich negeseuon; ac adran
negeseuon lle gall pobl yr ydych chi’n eu dilyn ac sy’n eich dilyn chi’n ôl anfon
negeseuon preifat atoch. I anfon neges drydar newydd, cliciwch ar y botwm ‘Tweet’
yn y gornel dde.
7) Rhaid i’ch neges drydar fod yn llai na 280 o nodau, a gallwch ychwanegu dolenni,
lluniau, fideo, GIFs, eich lleoliad ac arolygon barn. I ddefnyddio hashnod,
defnyddiwch yr arwydd hashnod ac yna’r gair i’w ddilyn, heb ofod e.e.
#Care2Cooperate
8) I ychwanegu llun neu fideo, byddwch yn clicio ar yr eicon mynydd a dewis y ffeil y
mae arnoch eisiau ei llwytho o’ch cyfrifiadur. Yna gallwch dagio pobl yn y llun, megis
pobl berthnasol y mae arnoch eisiau iddynt weld eich negeseuon trydar ac yr hoffech
ymwneud â hwy.
https://care.wales.coop
/
9) I ychwanegu fideo, gwnewch yr un peth eto a dewis y fideo. Os hoffech, gallwch
olygu’r fideo i’w gwneud yn fyrrach, os nad oes arnoch eisiau iddi fod yn rhy hir. Yr oll
sydd angen ei wneud yw symud y bar offer dan y fideo yn ei flaen.
https://care.wales.coop
/
10) Bydd eich hafan ar Twitter yn edrych yn debyg i hyn a bydd yn dangos negeseuon
trydar, aildrydariadau a’r negeseuon y mae’r bobl yr ydych yn eu dilyn wedi eu hoffi.
Bydd hefyd yn dangos hashnodau sy’n ‘trendio’ yn eich ardal, yn ogystal ag
awgrymiadau ynghylch pwy i’w dilyn yn seiliedig ar eich dilynwyr chi a’r bobl yr ydych
chithau eisoes yn eu dilyn.
1) Yn debyg iawn i Facebook, rhaid ichi’n gyntaf fod â chyfrif LinkedIn personol er mwyn
gallu creu tudalen ar LinkedIn. Gallwch wneud hyn ar wefan LinkedIn trwy roi eich
cyfeiriad ebost, eich enw a gwybodaeth amdanoch.
2) Pan fyddwch wedi creu eich tudalen bersonol gallwch symud ymlaen i’ch tudalen
waith. Gellir cyrraedd hon trwy gyfrwng yr eicon ‘work’ yn y gornel dde uchaf. Yna
byddwch yn dewis ‘create a company page’.
https://care.wales.coop
/
3) Yna bydd angen ichi greu enw cwmni a dewis URL.
Gwiriwch y cyfan, ac yna clicio ar ‘create page’.
https://care.wales.coop
/
4) Yna fe welwch eich tudalen wag lle bydd angen ichi fewnosod ‘llun proffil’ a ‘llun
clawr’. Dylai’r rhain fod yn gyson â’r rhai sydd gennych ar Facebook a Twitter.
5) Yna llenwch eich disgrifiad â 200-2,000 o eiriau. Dylai hwn fod yn grynodeb o’r hyn yr
ydych yn ei wneud a’r hyn sydd gennych i’w gynnig, yn debyg iawn i’ch disgrifiad ar
Facebook.
https://care.wales.coop
/
6) Yna gallwch wneud eich tudalen yn fwy penodol trwy ddewis maint eich cwmni; y
math o ddiwydiant; blwyddyn ei sefydlu; y math o gwmni; lleoliad y swyddfa (gellir
cynnwys mwy nag un).
7) Gallwch hefyd ychwanegu arbenigeddau sydd o ddiddordeb i’ch busnes.
https://care.wales.coop
/
8) Dan ‘Admin tools’ gallwch bennu swyddogaethau i wahanol bobl yn eich busnes.
Dewiswch ‘Page admins’ o’r gwymplen ‘Admin tools’ a welir isod.
9) Yna fe welwch y swyddogaethau isod a gallwch eu pennu i’r bobl yr ydych yn
https://care.wales.coop
/
gysylltiedig â hwy ar LinkedIn. Ar dudalen dechreuwyr, dim ond y ddau isod y bydd
angen ichi eu defnyddio, ac, yn fwyaf tebygol, dim ond ‘designated admin’:
‘Designated admin’: yn caniatáu i gyflogeion olygu tudalen eich cwmni,
ychwanegu gweinyddwyr eraill a phostio diweddariadau.
‘Direct sponsored content poster’: yn caniatáu i farchnatwyr yn eich cwmni
rannu cynnwys ar y ffrwd newyddion.
10) I ysgrifennu neges, rydych naill ai’n mynd i’ch ffrwd newyddion neu i’ch tudalen ac yn
llenwi’r blwch ar y brig. Gallwch ychwanegu delwedd neu fideo yma trwy ddewis yr
eicon camera, a fydd yn mewnosod y ddelwedd, neu’r eicon fideo, a fydd yn
mewnosod fideo.
https://care.wales.coop
/
1) Bydd angen ichi lawrlwytho’r ap Instagram eich iPhone neu Android. Gellir hefyd ei
gyrchu trwy gyfrwng gwefan Instagram, ond bydd hyn yn cyfyngu ar yr hyn y gallwch
ei weld a’i bostio.
2) Yna bydd arnoch eisiau sefydlu eich Instagram fel tudalen fusnes, trwy ddewis ‘Edit
Profile’ a dewis ‘try Instagram business tools’.
https://care.wales.coop
/
3) Cewch eich annog i greu cyswllt â’ch tudalen Facebook, a dyna sydd orau i’w wneud.
Cewch restr o’r tudalennau sydd eisoes wedi’u cysylltu â Facebook ar y ddyfais
honno – dewiswch y dudalen.
4) Yna bydd angen ichi ychwanegu categori ar gyfer eich proffil – gall hwn fod yn
‘companies and organisations’. Gallwch hefyd ychwanegu opsiynau cysylltu megis rhif
ffôn a chyfeiriad ebost.
5) Yn yr adran ‘about you’ rydych yn ychwanegu eich llun proffil – defnyddiwch logo
eich brand; eich enw e.e. ‘Care to Cooperate Wales’; eich enw defnyddiwr e.e.
‘Care2cooperate’; URL eich gwefan; a brawddeg fer neu slogan sy’n egluro’r hyn yr
ydych yn ei wneud.
https://care.wales.coop
/
6) Gallwch ddefnyddio Instagram i lwytho delweddau, fideos a straeon. Gall ‘stori’
gynnwys delweddau neu fideo a bydd yn para am 24 awr yn unig, a gallwch hefyd
ychwanegu testun, dolenni a thagio pobl fel y byddech yn ei wneud â phostiad
arferol.
7) I lwytho llun neu fideo i’ch hafan rydych yn gwasgu ar y symbol ‘adio’ yng nghanol y
dudalen hafan neu eich proffil. Mae’n cysylltu â’r lluniau a’r fideos sydd ar gael ar eich
ffôn.
Llun proffil,
ond dyma
hefyd lle
gallwch greu
‘stori’.
Gwasgwch a
dal y llun
proffil i
ychwanegu
llun at eich
stori 24 awr.
Dyma lle bydd
y lluniau yr
ydych yn eu
postio yn
ymddangos ar
eich proffil.
Dyma lle
mae angen
i chi wasgu
er mwyn
ychwanegu
llun
newydd i’ch
proffil.
Yma gallwch
weld faint o bobl
sydd wedi hoffi
eich llun
Gwasgwch
yma i fynd yn
ôl i’r hafan.
https://care.wales.coop
/
8) I lwytho llun, dewiswch y llun, dewiswch ei faint neu ychwanegwch sawl llun trwy
ddewis y ddelwedd sawl sgwâr yn y gornel.
https://care.wales.coop
/
9) Yna gwasgwch ‘next’, a fydd yn mynd â chi i’r sgrin hidlo, lle gallwch ddewis effaith
i’w rhoi ar eich delwedd neu eich fideo. Sgroliwch i’r chwith i weld pa hidlyddion eraill
sydd ar gael.
Dewiswch lun o
albwm lluniau
eich camera.
Dewiswch
faint y llun
trwy ei binsio
fel ei fod yn
ffitio o fewn y
ffrâm.
Ychwanegwch
sawl llun mewn
‘ffrâm’ neu
sawl llun un ar
ôl y llall.
https://care.wales.coop
/
10) Wedi ichi ddewis eich hidlydd, gwasgwch ‘next’ eto. Yna byddwch yn ychwanegu
disgrifiad o’ch delwedd neu fideo a gallwch hefyd dagio’r lleoliad a’r bobl yr ydych yn
eu hadnabod yn y ddelwedd. Pan fyddwch wedi gorffen, gwasgwch ‘share’.
https://care.wales.coop
/
11) Bydd eich delwedd yn ymddangos ar eich proffil ac ar eich hafan. Ar yr hafan, gallwch
weld holl luniau’r bobl yr ydych yn eu dilyn, yn ogystal â’u holl storïau ar hyd y brig.
Tagiwch ffrindiau,
neu bobl y mae
arnoch eisiau
iddynt weld eich
delwedd.
Llwythwch eich
llun/fideo yn
syth i unrhyw
rai o’r cyfrifon
cyfryngau
cymdeithasol
eraill sydd
gennych
wedi’u cysylltu.
Ychwanegwch
eich lleoliad yn
seiliedig ar eich
olrheiniwr canfod
lleoliad ar eich
ffôn.
Dyma lle gallwch
weld ac anfon
negeseuon
uniongyrchol.
https://care.wales.coop
/
12) Pan fydd arnoch eisiau ychwanegu stori, bydd sgrin fel yr un isod yn ymddangos. I
ychwanegu llun neu fideo, gwasgwch ‘normal’. I ffilmio rhaid ichi ddal ‘normal’ i lawr
ac yna ei ollwng pan fydd arnoch eisiau i’r fideo stopio. Gallwch lithro’r sgrin i’r
chwith i weld pa opsiynau eraill sydd ar gael, megis hidlyddion a gwahanol effeithiau.
Dyma lle
gallwch
ychwanegu a
gweld eich
stori eich hun,
yn ogystal â
rhai’r bobl yr
ydych yn eu
dilyn.
https://care.wales.coop
/
13) I ychwanegu testun i’ch stori gallwch dapio yn unrhyw le ar y ddelwedd a bydd blwch
testun yn ymddangos.
https://care.wales.coop
/
Dyma lle
gallwch
newid ffont y
testun.
Dyma lle
gallwch
newid lliw y
testun.
top related