lle i enaid gael llonydd: haf 2011
Post on 31-Mar-2016
233 Views
Preview:
DESCRIPTION
TRANSCRIPT
1
lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru
HAF HAF HAF HAF 2011201120112011
Yr haf hwn, mae Lle i Enaid gael Llonydd yn eich
gwahodd i edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau ym
Mharciau Cenedlaethol Cymru sydd wedi eu
gwneud yn harddach (ie, mae hynny’n dal yn
bosib), gwyrddach a mwy diogel. Un nodwedd yw
teithio – p’un a yw’r cludiant a ddefnyddir i
gyrraedd Parc Cenedlaethol, cerdded oddi mewn
i un, neu’r wybodaeth a ddefnyddir tra’r ydych
mewn un. Hefyd rydym yn cyfrif i lawr i 60 mlynedd
o Barc Cenedlaethol Eryri.
Hefyd mae’r tywydd cynhesach a gwyliau haf yn
golygu y bydd mwy a mwy o ymwelwyr yn cael eu
denu i’r moroedd oddi ar Barc Cenedlaethol
Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Eryri. Bydd
rhieni a phlant yn ymdrochi’n braf yn y dwr ac yn
mwynhau harddwch yr arfordir. Mae Edward
Holdaway o Bartneriaeth Tirwedd Cymru yn egluro’r
ymdrechion a wneir i gadw morluniau arbennig yn
arbennig trwy’r system gynllunio forol newydd.
Greg PycroftGreg PycroftGreg PycroftGreg Pycroft
Swyddog Polisi Swyddog Polisi Swyddog Polisi Swyddog Polisi
Parciau Cenedlaethol CymruParciau Cenedlaethol CymruParciau Cenedlaethol CymruParciau Cenedlaethol Cymru
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pariciau Cenedlaethol Cumru yn Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pariciau Cenedlaethol Cumru yn Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pariciau Cenedlaethol Cumru yn Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pariciau Cenedlaethol Cumru yn
www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith, yn www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith, yn www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith, yn www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith, yn
cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i ymgynghoriadau a datganiadau cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i ymgynghoriadau a datganiadau cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i ymgynghoriadau a datganiadau cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i ymgynghoriadau a datganiadau
sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob
amser amser amser amser nationalparkswales@anpa.gov.uk.nationalparkswales@anpa.gov.uk.nationalparkswales@anpa.gov.uk.nationalparkswales@anpa.gov.uk.
O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod O’r Gofod Naturiol i Seibrofod
Mae presenoldeb y Parciau Cenedlaethol ar y rhyngrwyd yn dal i gynyddu. Mae’r rhan fwyaf o Awdurdodau
Parciau Cenedlaethol gwledydd Prydain, gan gynnwys Awdurdodau tri Pharc Cymru, yn cymryd rhan mewn
rhwydweithio cymdeithasol ac yn cynyddu presenoldeb ar lein Parciau Cenedlaethol.
Gallwch ddarllen eu proffiliau, tudalennau, twît a sianelau, pob un yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei
ddiweddaru’n gyson. Mae Porth y Parciau Cenedlaethol yn cynnwys dewis cynhwysfawr o ddolenni priodol.
Gellir mynd at y dudalen honno drwy’r cyfeiriad:
http://www.nationalparks.gov.uk/aboutus/ourwebsites.htm
2
Rhyfeddodau Eryri – Dathlu Pen-Rhyfeddodau Eryri – Dathlu Pen-Rhyfeddodau Eryri – Dathlu Pen-Rhyfeddodau Eryri – Dathlu Pen-
blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn
60606060ainainainain
“60 o Ysgrifenwyr – 60 o Ryfeddodau – 60 o Eiriau”“60 o Ysgrifenwyr – 60 o Ryfeddodau – 60 o Eiriau”“60 o Ysgrifenwyr – 60 o Ryfeddodau – 60 o Eiriau”“60 o Ysgrifenwyr – 60 o Ryfeddodau – 60 o Eiriau”
Ar 18fed Hydref 2011 bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn
dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed ac fel rhan o’r
dathliadau mae’r Awdurdod yn cynllunio prosiect
“Rhyfeddodau Eryri”. Bwriad y prosiect yw dathlu
rhyfeddodau amrywiol o fewn ffiniau’r Parc
Cenedlaethol sy’n gwneud yr ardal mor arbennig ac
unigryw.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol yn apelio i’r
cyhoedd enwebu eu hoff ryfeddodau o fewn Eryri.
Gall y rhyfeddodau hyn gynnwys lleoedd, pobl,
adeiladau, tirweddau, golygfeydd, rhywogaethau
bywyd gwyllt, safleoedd archeolegol, creigiau neu
gromlechi, traddodiadau amaethyddol,
traddodiadau diwylliannol Cymreig, digwyddiadau,
cerddi, celf, darnau o gerddoriaeth, ac yn y blaen.
Mae’r sgôp ar gyfer enwebiadau’n eang ac nid oes
ond un rheol: rhaid i bob rhyfeddod fod o fewn
ffiniau’r Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sicrhau
cefnogaeth chwedeg o ysgrifenwyr mwyaf
blaenllaw Cymru a fydd yn dehongli’r rhyfeddodau
hyn drwy’r ffurf ysgrifenedig i ddweud stori ac i greu
profiad personol o bob rhyfeddod. Ochr yn ochr â’r
elfen lenyddol, mae ffotograffydd wedi ei gomisiynu
i ddehongli’r rhyfeddodau drwy ffurf weledol. Gan
gadw â’r thema pen-blwydd yn 60 oed, bydd rhaid
i’r ysgrifenwyr ddehongli’r 60 o ryfeddodau mewn 60
gair o fewn 60 diwrnod. Bydd y prosiect a gwblheir yn
cyfrannu at arddangosfa newydd yng Nghanolfan
Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ym Metws y Coed, ar
blatfform cyfathrebu’r Parc ac fel rhan o
ddathliadau pen-blwydd yn 60 oed.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Lenyddiaeth
Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru
3
Brwydro yn erbyn trosedd tân gwyllt Brwydro yn erbyn trosedd tân gwyllt Brwydro yn erbyn trosedd tân gwyllt Brwydro yn erbyn trosedd tân gwyllt
o’r awyro’r awyro’r awyro’r awyrAeth Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdod Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r awyr yn eu
hymdrech ddiweddaraf i ymdrin â throsedd tân gwyllt
yn y Parc Cenedlaethol. Gwelwyd golygfeydd
anhygoel yn gynnar yng Ngorffennaf, pryd y tynnodd
hofrennydd yr heddlu luniau delwedd thermol o
ardaloedd wedi’u difrodi gan dân ym Mharc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ym Mai, difrodwyd bron i 2000 o aceri o gors gyffredin
ucheldir a mawnog yn ddifrifol gan dân ger Brynaman
yn yr hyn a alwodd Wardeniaid Parc Cenedlaethol y
tân rhostir gwaethaf mewn deng mlynedd ar hugain.
Bydd y delweddau’n helpu Wardeiniaid yn y broses
adfer, a gobeithio yn pennu p’un a oes unrhyw fawn yn
dal i losgi. Bydd lluniau delwedd thermol o’r gors
fawnog hefyd yn helpu’r Parc Cenedlaethol i ddeall
maint y difrod a beth fydd effaith tymor hir hynny.
Mae pobl yn dal i gael cyngor i beidio â thanio BBQs a
thannau eraill wrth wersylla yn y cefn gwlad agored ac
i beidio â rhyddhau neu danio lanteri Tsieineaidd, ac i
feddwl yn gyfrifol am sut i gael gwared â stympiau
sigaréts, tanwyr, poteli gwydr a matsys. Mae Mynegai
Difrifoldeb Tân ym Mharc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog yn parhau i fod yn ‘ Uchel’ ac ‘Eithriadol’.
Cerddwyr yn dod i PoppitCerddwyr yn dod i PoppitCerddwyr yn dod i PoppitCerddwyr yn dod i PoppitAr ôl 14 diwrnod olynol o gerdded a thywydd cerdded
a oedd bron yn berffaith, cwblhaodd 21 o gerddwyr
dewr daith gerdded Llwybr yr Arfordir flynyddol
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn
nechrau Mehefin.
Mae’r daith flynyddol, sy’n cynnwys y cyfan o’r 186 o
filltiroedd o Lwybr Cenedlaethol Llwybr yr Arfordir, yn
cael ei harwain gan Wardeiniaid Gwirfoddol yr
Awdurdod ac eleni roedd cerddwyr o’r Swistir, Prydain
a’r UD yn cymryd rhan, yn ogystal â nifer o breswylwyr
Sir Benfro.
Roedd y gyfres o deithiau tywys yn mynd ar hyd bob tro
a chornel o Lwybr Arfordir o Amroth yn y De i Draeth
Poppit yn y gogledd.
Meddai Derek Rowland, Arweinydd y Daith Gerdded a
Warden Gwirfoddol: “Roedd yn flwyddyn eithriadol o
dda eleni ym mhob ffordd. Dyma fy 15fed daith a’m taith
olaf felly mae’n braf gorffen ar y fath binacl. Ni allaf
ganmol digon ar y Wardeiniaid Gwirfoddol a’r gyrwyr, a
gefnogodd y cerddwyr ar hyd y daith.”
Cerddodd Mona Bodenmann, o Zurich, ran fechan o’r
llwybr y llynedd ar ben ei hun. Meddai: “Roeddwn eisiau
dod yn ôl a chwblhau’r holl lwybr, ond gyda phobl
eraill. Roedd yn braf iawn cerdded gyda’r grGp, a bob
peth wedi’i drefnu mor dda. Rwyf am aros ymlaen yn yr
ardal am rai diwrnodiau i archwilio mwy o Sir Benfro a
byddaf yn mynd â fy holl luniau’n ôl i Zurich er mwyn
hysbysebu’r daith i bawb!”
4
HERIAU NEWYDD I DIRWEDDAU HERIAU NEWYDD I DIRWEDDAU HERIAU NEWYDD I DIRWEDDAU HERIAU NEWYDD I DIRWEDDAU
ARFORDIROL A DDIOGELIRARFORDIROL A DDIOGELIRARFORDIROL A DDIOGELIRARFORDIROL A DDIOGELIR
Edward Holdaway, Partneriaeth Tirwedd CymruEdward Holdaway, Partneriaeth Tirwedd CymruEdward Holdaway, Partneriaeth Tirwedd CymruEdward Holdaway, Partneriaeth Tirwedd Cymru
Mae morluniau a thirweddau
arfordirol Cymru ymhlith y gorau yn y
byd - gweler y pôl diweddar gan
National Geographic a osododd
Arfordir Sir Benfro ymhlith y 10
cyrchfan uchaf yn y byd. Mae’n
hysbys fod pobl â meddwl mawr
ohonynt ac yn eu gweld fel rhan o’n
treftadaeth genedlaethol.
Cydnabyddir yn gynyddol fod
mynediad atynt a defnydd ohonynt
yn bwysig i iechyd a lles y genedl; fel
y mae’r cyfraniad a wnânt at ein
heconomi a’n diwylliant. Ond maent
dan bwysau oddi wrth
weithgareddau dynol a newidiadau
yn y byd naturiol.
Mae Clymblaid o Gyrff
Anllywodraethol**** wedi llunio
Maniffesto sydd wedi ei gyfeirio at
bob lefel o lywodraeth, yn cynnwys
awdurdodau Parc Cenedlaethol.
Mae’n deillio o waith a wnaethpwyd gan Europarc
Atlantic Isles, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r
Gymdeithas Genedlaethol AHNE’oedd yn dilyn gweithdy
ym Mai 2010********. Deilliodd o bryder ynghylch:
---- na welir morluniau fel adnodd allweddol yn yr
amgylchedd morol ac nad oes dull o ddiffinio
arwyddocâd eu cymeriad nac i ddynodi’r rheiny
sydd o bwysigrwydd cenedlaethol;
- nad yw arwyddocâd a rôl tirweddau a ddiogelir
yn yr amgylchedd morol yn cael eu cydnabod
Mae’r Maniffesto wedi ei seilio ar ddwy ragdybiaeth sef:
· bod ein morluniau’n fwy na golygfa’n unig – mae
ganddynt ddimensiwn naturiol, diwylliannol/
cymdeithasol a chanfyddiadol/estheteg;
- na all rhywun drin tirwedd a morlun fel endidau
cwbl ar wahân, maent yn ffurfio continwwm a
dylent gael eu trin felly.
Mae cyflawni’r Maniffesto yn golygu fod angen
gweithredu i sicrhau: eu bod yn cael
eu trin fel adnodd allweddol yn y
broses cynllun morol; fod asesiad
cymeriad morlun yn darparu sail ar
gyfer eu deall; fod sail ar gyfer
cydnabod a chadw morluniau
cenedlaethol bwysig yn cael ei
datblygu; fod AHNE’oedd a Pharciau
Cenedlaethol arfordirol yn cael eu
hannog yn weithredol i ymdrin â
materion morol.
Bydd ymgysylltu â chynllunio morol yn
golygu heriau sylweddol i dirweddau
arfordirol a ddiogelir, gan y bydd
angen:
- sicrhau fod eu cynlluniau rheoli’n
dynodi’r nodweddion arbennig sy’n
deillio o’r amgylchedd morol a’u
cysylltiad ag ef
- adolygu eu partneriaethau i sicrhau
fod buddiannau morol yn cael eu
cynrychioli a sefydlu perthynas waith gyda
rhanddeiliaid mewn amgylchedd morol
- chwarae rôl weithredol mewn sicrhau rheolaeth
integredig o dir a môr, er enghraifft drwy fforymau
arfordirol lleol a pharatoi cynlluniau rheolaeth ar y
cyd gyda Safleoedd Morol Ewropeaidd.
Mae cynllunio morol yn cynnig cyfle sylweddol i’n Parciau
Cenedlaethol arfordirol – Sir Benfro ac Eryri – sicrhau eu
bod yn cadw’r nodweddion arbennig hynny sy’n deillio
o’u hamgylchedd morol. Mae hefyd gyfle i Barciau
Cenedlaethol weithio gyda’n AHNE’oedd arfordirol – Ynys
Môn, Gwyr a Llyn – a’n dau Arfordir Treftadaeth –
Ceredigion a Morgannwg – sy’n gorwedd tu allan i
dirweddau a ddiogelir.
**** CPRE, YDCW, CNP, Europarc Atlantic Isles, NAAONB a’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
** ** ** ** Gellir gweld y Maniffesto ac adroddiad y gweithdy yn llawn ar
www.europarc-ai.org
5
Parc Cenedlaethol Eryri yn torri tir Parc Cenedlaethol Eryri yn torri tir Parc Cenedlaethol Eryri yn torri tir Parc Cenedlaethol Eryri yn torri tir
newydd ac yn lansio eu iPhone App newydd ac yn lansio eu iPhone App newydd ac yn lansio eu iPhone App newydd ac yn lansio eu iPhone App
dwyieithog – ‘Mwynhau Eryri’dwyieithog – ‘Mwynhau Eryri’dwyieithog – ‘Mwynhau Eryri’dwyieithog – ‘Mwynhau Eryri’
Mae’r hir ddisgwyliedig iPhone App ‘Mwynhau Eryri’ nawr ar
gael. Wedi ei ddatblygu gan Barc Cenedlaethol Eryri, mae’r
App yn ganllaw ffôn symudol rhyngweithiol i archwilio’r Parc
Cenedlaethol.
P’un a ydych yn Eryri ar gyfer cyfleoedd cerdded neu eisiau
archwilio’r ardal yn hamddenol, mae gan yr App bob peth
yr ydych ei eisiau i gael amser gwych. Cynlluniwch
weithgareddau cyn cyrraedd neu defnyddiwch ef pan
ydych yn y Parc Cenedlaethol i ddysgu am yr atyniadau a
gweithgareddau sydd gerllaw. Gellwch ddefnyddio
technoleg mapiau’r App i’ch arwain yn ddiogel os ydych
eisiau ymgymryd â rhai o deithiau cerdded mynyddoedd
Eryri, er bod cael map papur hefyd yn eich sach teithio yn
cael ei argymell.
Dyluniwyd yr App i bwrpas penodol – i helpu ymwelwyr a
phobl leol gael profiad o Eryri ar ei orau. Gan ddefnyddio’r
dechnoleg fapio ddiweddaraf sy’n cynnwys llywio seiliedig
ar fap, mapiau Arolwg Ordnans, a mapiau Google â
golygfeydd lloeren, byddwch uwchben eich digon yn
cerdded yn Eryri. Golyga’r mapiau Arolwg Ordnans sydd
wedi eu hadeiladu i mewn y gellwch weld teithiau cerdded
hyd yn oed pan nad oes signal ar eich ffôn.
Mae ‘Mwynhau Eryri’ yn gwbl ddwyieithog, felly os ydych
chi’n siarad Cymraeg neu eisiau dysgu mwy am Eryri drwy
eich iaith eich hun, mae’r App hwn i chi!
Ratty yn ôl yn chwarae o gwmpas mewn cychod ar Lyn Ratty yn ôl yn chwarae o gwmpas mewn cychod ar Lyn Ratty yn ôl yn chwarae o gwmpas mewn cychod ar Lyn Ratty yn ôl yn chwarae o gwmpas mewn cychod ar Lyn
LlangorsLlangorsLlangorsLlangorsDiolch i gyfres o gynlluniau ailgyflwyno a drefnwyd gan Asiantaeth yr
Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog ac Awdurdod
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rhyddhawyd oddeutu 400 o lygod y
dwr y llynedd ger Llyn Llangors, gyda 100 ychwanegol o lygod y dwr i’w
rhyddhau dros yr ychydig fisoedd nesaf fel rhan o raglen barhaus i achub un o
famaliaid mwyaf hoff y DU.
Mae rhyddhau llygoden y dwr o amgylch Llyn Llangors yn anelu at sefydlu
colonïau bychain a fydd yn y pen draw yn lledaenu ac ailboblogi’r ardaloedd
cyfagos ger y llyn, corsydd a gwely’r afon. Magwyd rhai o’r llygod y dwr a
ryddhawyd yn Neorfa Cynrig a redir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, ond
mae llawer o’r llygod y dwr wedi eu magu’n arbennig ar gyfer y prosiect hwn
mewn cyfleuster bridio arbenigol yn Nyfnaint.
6
Plant ysgol yn helpu lansio Y Gors Gyfrin, Plant ysgol yn helpu lansio Y Gors Gyfrin, Plant ysgol yn helpu lansio Y Gors Gyfrin, Plant ysgol yn helpu lansio Y Gors Gyfrin,
gem gudd y Parc Cenedlaethol gem gudd y Parc Cenedlaethol gem gudd y Parc Cenedlaethol gem gudd y Parc Cenedlaethol Yn ddiweddar datgelwyd yn swyddogol ran o Barc
Cenedlaethol Arfordir Penfro a fu’n gudd cyn hynny, gyda
chymorth cadwraethwyr newydd.
Mae agor Y Gors Gyfrin, ardal a fu cyn hynny’n ardal
gwlyptir anghyraeddadwy yn Freshwater East Burrows, yr
unig Warchodfa Natur Leol yn y Parc Cenedlaethol, wedi
creu adnodd addysgol newydd i blant ysgol lleol.
Dynodwyd y Warchodfa Natur Leol (LNR) yn 2007. Mae’n
cynnwys twyni tywod, glaswelltir, prysg, coetir a chorstir.
Mae’n lle amrywiol ac arbennig sy’n gartref i ugeiniau o
rywogaethau sy’n ffynnu ochr yn ochr â’i gilydd, yn
cynnwys pryfed genwair, pryfed tân, a gwiberod a
chwningod (a roddodd yr enw The Burrows).
Mynychodd plant Ysgol Gynradd Llandyfái (Lamphey) y
lansiad a chodwyd cerfluniau o fywyd gwyllt a wnaethant
o helyg ar dir eu hysgol.
Mae’r prosiect, a gyllidir gan grantiau oddi wrth Planed ac
Asiantaeth yr Amgylchedd, yn enghraifft o sut mae
Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda
sefydliadau a grwpiau cymuned eraill i helpu i gadw
rhinweddau unigryw’r Parc Cenedlaethol
Digon i wenu amdano pan ydych yn Digon i wenu amdano pan ydych yn Digon i wenu amdano pan ydych yn Digon i wenu amdano pan ydych yn
ymweld â Bannau Brycheiniogymweld â Bannau Brycheiniogymweld â Bannau Brycheiniogymweld â Bannau Brycheiniog
Disgwyliwch ddigon i wenu amdano os ydych yn
bwriadu ymweld â Bannau Brycheiniog yr haf hwn. Mae
cystadleuaeth newydd yr Her Werdd yn rhoi cyfle i bobl
ennill gwyliau gwych ym Mannau Brycheiniog trwy roi
gwyliau i’w car – felly efallai y byddwch yn ymweld â ni
eto cyn i chi wybod!
Mae’r Her Deithio yn gwahodd pawb i feddwl am y
ffordd maent yn teithio ym Mannau Brycheiniog a rhoi
syniadau iddynt ynghylch sut i geisio rhoi gwyliau
haeddiannol i’w ceir yn ystod eu cyfnod yn y Parc
Cenedlaethol. Tynnir gwobrau ar ddiwedd bob mis (o
fis Mai tan fis Medi). Y cyfan sydd raid i bobl ei wneud
yw naill ai teithio i fwynhau’r Parc Cenedlaethol trwy
ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu geisio teithio heb
eu car (ni chynhwysir teithio i ac o’r gwaith). Rhaid
anfon prawf teithio gyda phob ymgais yn y
gystadleuaeth, ar ffurf derbynneb, tocyn neu lun, a
rhaid i’r teithio ddigwydd rhwng 1af Mai a 30ain Medi
2011. Gellir cystadlu ar-lein ar
www.travelbreconbeacons.info neu drwy daflen
gystadleuaeth yr Her Deithio.
7
Man hardd yn y Parc Cenedlaethol Man hardd yn y Parc Cenedlaethol Man hardd yn y Parc Cenedlaethol Man hardd yn y Parc Cenedlaethol
yn arloesi gyda chynllun ceblau dan yn arloesi gyda chynllun ceblau dan yn arloesi gyda chynllun ceblau dan yn arloesi gyda chynllun ceblau dan
y ddaeary ddaeary ddaeary ddaear
Mae man hardd eiconig ym Mharc Cenedlaethol
Arfordir Penfro wedi dod yn hyd yn oed harddach,
diolch i dynnu ymaith y llinellau pwer uwchben.
Mae Pen Caer, gyda’i oleudy hardd, yn lleoliad o’r
radd flaenaf i wylio adar a llamidyddion, ac mae’n
denu ymwelwyr sy’n hoff o fywyd gwyllt drwy gydol y
flwyddyn. Ond ers tro roedd eu golygfa’n cael ei
difetha gan geblau trydan a ffôn uwchben.
Nawr mae Western Power Distribution (WPD), yn dilyn
ymgynghoriad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol
Arfordir Penfro, wedi symud ei geblau dan y ddaear.
Hefyd mae busnes rhwydwaith lleol BT Openreach
wedi symud 18 o bolion a gosod 600m o geblau
uwchben dan y ddaear.
Meddai Phil Davies, Rheolwr Gwasanaethau
Rhwydwaith WPD i Gymru: “Thema allweddol yn ein
hymgynghoriad gydag amrediad o bartïon â
diddordeb mewn misoedd diweddar fu gosod
llinellau pwer dan y ddaear mewn safleoedd
eiconig. Arweiniodd y sgyrsiau at greu grwp llywio yn
cynnwys cynrychiolwyr o wahanol Awdurdodau Parc
Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE’oedd) a awgrymodd safleoedd i’w
hystyried”.
top related