annwyl gyfaill, os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. trafodion cymryd taliadau arian parod...
TRANSCRIPT
Ionawr
2017
Annwyl Gyfaill,
Diolch i chi am eich diddordeb yn y swydd Staff Bar yn Theatr y Sherman
Yn y pecyn hwn, mae rhywfaint o wybodaeth gefndir am Theatr y Sherman,
ynghyd â gwybodaeth fanylach am y rôl, swydd-ddisgrifiad a manyleb person.
Os hoffech wneud cais am y swydd, lawrlwythwch y ffurflen gais a'r ffurflen
monitro cyfle cyfartal oddi ar ein gwefan (http://www.shermantheatre.co.uk/jobs)
a'u hanfon atom. Cyfeiriwch at y swydd-ddisgrifiad a'r fanyleb person yn eich
cais, gan ddweud wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd ac
amlinellu'r sgiliau a'r profiad y byddech yn eu cyflwyno i'r cwmni; bydd ein panel
llunio rhestr fer yn chwilio am dystiolaeth glir bod ymgeiswyr yn bodloni'r meini
prawf a nodwyd.
Dylai ceisiadau gael eu cyfeirio ataf fi a'u hanfon dros yr e-bost i:
[email protected]. Nodwch, yn unol â'n polisi amgylcheddol,
ein bod yn ymdrin â cheisiadau electronig yn unig.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych a diolch i chi unwaith eto am
eich diddordeb.
Yn gywir,
Andrew Lovell
Rheolwr Tŷ
Senghennydd Road Cardiff CF24 4YE
Ffordd Senghennydd Caerdydd CF24 4YE
029 2064 6900 shermantheatre.co.uk @shermantheatre @shermantheatre
Cyflog: £7.20 yr awr
Tymor: Cynigir y swydd fel cytundeb dim oriau
Oriau: Amrywiol
Cyfnod Rhybudd: 1 wythnos
Pensiwn: Mae Sherman Cymru yn gweithredu cynllun pensiwn y gweithle
cymwys
Yr hawl i weithio: Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu dogfennau o dan
Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006
Geirdaon: Mae cynigion swydd yn amodol ar dderbyn geirdaon sy'n foddhaol i
Sherman Cymru.
Adleoli: Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fyw o fewn pellter cymudo i'r theatr.
Dyddiad dechrau: Mae'r swydd ar gael ar unwaith
Mae ein bar caffi ar agor yn ystod y dydd (tan 4pm) o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac ar
ddydd Sul pan fydd perfformiadau neu ddigwyddiadau. Mae'r Bar Caffi hefyd ar agor ar
gyfer perfformiadau gyda'r nos. Ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau gyda'r nos, mae'r bar
ar agor tan ddiwedd yr oriau trwyddedu arferol. Fel arfer, mae'r bar wedi'i drwyddedu tan
12am, ac ar rai achlysuron tan 1.30am. Bydd eich sifft yn dod i ben tua hanner awr ar ôl i'r
bar gau.
Bydd nifer yr oriau y byddai eu hangen i chi eu gweithio yn dibynnu ar nifer y
perfformiadau sy'n cael eu cynnal yn y Sherman. Felly, bydd nifer yr oriau sydd ar gael yn
amrywio o wythnos i wythnos. Bydd disgwyl i staff ymrwymo i o leiaf tair sifft yr wythnos,
ond ni fydd yn ofynnol iddynt weithio cynifer o sifftiau â hynny bob tro (yn dibynnu ar nifer
y sioeau) ac mae disgwyliad y bydd staff yn ymrwymo i o leiaf un sifft penwythnos (dydd
Gwener/dydd Sadwrn) lle y bo'n briodol.
Gweithio fel rhan o dîm sy'n darparu gwasanaeth o'r ansawdd uchaf i gwsmeriaid, mewn
modd sydd bob amser yn gyfeillgar ac yn agored.
Sicrhau diogelwch a lles yr adeilad a chynnal y safonau uchaf o ofal cwsmeriaid,
ymddangosiad ac arferion gwaith y Staff Bar.
Hyrwyddo lefelau eithriadol o wasanaeth cwsmeriaid, gan weithio gyda'r Rheolwr/Dirprwy
Reolwr Tŷ i gyflwyno Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid ar draws pob agwedd ar ymwneud y
cwmni â'r cyhoedd. Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a'r gallu i ymgymryd â
chyfrifoldebau mewn ffordd sy'n dangos gwerthoedd y cwmni.
Rheolwr Tŷ, Dirprwy Reolwr Tŷ a Rheolwyr ar Ddyletswydd
Tîm Marchnata a Chysylltiadau Cwsmeriaid
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf bob amser, yn unol â safonau'r Sherman
1. Dangos gwybodaeth dda am ddigwyddiadau, prisiau, pecynnau, cynigion
hyrwyddo, gweithgareddau yn yr adeilad a rhaglen o newidiadau er mwyn
darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon
2. Gwrando'n ofalus ar gwsmeriaid, casglu adborth a dilyn protocolau a
gweithdrefnau'r cwmni, gan gyfeirio at uwch staff yn ôl yr angen
3. Sicrhau bod stoc lawn ar gael o'r holl daflenni a deunyddiau manwerthu a'u
bod yn cael eu harddangos yn ddeniadol
4. Dilyn ceisiadau'r person sy'n goruchwylio eich gwaith
5. Gweithio fel rhan o dîm yn rhannu eich gwybodaeth gydag eraill.
6. Mynychu hyfforddiant Blaen Tŷ i sicrhau eich bod yn gallu ymgymryd â'ch
cyfrifoldebau mewn ffordd sy'n dangos gwerthoedd y cwmni.
7. Mynychu cyfarfodydd Tîm a chyfrannu atynt yn ôl yr angen.
8. Bod yn barod i weithio mewn unrhyw ardal benodol ar unrhyw adeg
9. Hylendid Bwyd Bod yn ymwybodol o weithdrefnau hylendid bwyd
sylfaenol
10. Gwerthu diodydd Gwerthu diodydd yn y bar cyn/ar ôl y sioe, gan
gynnwys archebion yn ystod yr egwyl
11. Gwasanaeth Cymryd archebion gan gwsmeriaid ar gyfer bwyd a
diod a gweini diodydd a phrydau bwyd i fyrddau
12. Adnewyddu stoc Sicrhau bod yr holl nwyddau ar gael i'w gwerthu ac
yn cael eu harddangos yn briodol.
13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan
sicrhau cywirdeb
14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau cywirdeb
15. Casglu Sbwriel Cadw ardaloedd y Bar a'r Cyntedd yn lân ac yn
daclus cyn, yn ystod ac ar ôl y perfformiad
16. Gofal Cwsmeriaid Rhoi cyfarwyddiadau a gwybodaeth am y
digwyddiadau a'r adeilad
17. Trefniadau gwagio'r
adeilad:
Darparu allanfa ddiogel i'r cyhoedd mewn argyfwng
18. Deunyddiau Ategol
Caffi/Bar
Sicrhau bod y cyntedd yn cael ei gadw'n daclus drwy
gasglu gwydrau, llestri, cyllyll a ffyrc ac unrhyw
ddeunyddiau ategol y Caffi/Bar a sicrhau eu bod yn
cael eu glanhau yn y peiriant golchi llestri
perthnasol/priodol a'u dychwelyd fel stoc lân - yn
enwedig yn ystod cyfnodau prysur.
19. Gweithdrefn Tân a
Diogelwch
Aros yn ddigynnwrf ym mhob sefyllfa
Hysbysu'r rheolwr llinell priodol am unrhyw beryglon
Ymgymryd â hyfforddiant fel Swyddog Tân os bydd
angen.
Bod yn berson allweddol yn y broses wacáu a
gweithredu fel Cydlynydd Tân mewn argyfwng neu
achos o wacáu.
20. Ymdrin â'r holl drafodion yn ofalus, gan sicrhau eich bod yn gwybod y prisiau cywir a gwirio'r 'fflôt' yn y til cyn cychwyn.
21. Cadw at systemau gweinyddol
22. Ysgwyddo cyfrifoldeb unigol priodol o ran parchu, hyrwyddo, a gweithredu
polisïau Theatr y Sherman ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, Gofal
Cwsmeriaid a Thrwyddedu.
Rhaid bod ar gael yn ystod y dydd, ar benwythnosau a rhai cyfnodau gwyliau.
Byddai'r swydd hon yn ddelfrydol i ymgeiswyr sy'n allblyg, hyderus a chadarnhaol ac sydd
hefyd yn meddu ar y sgiliau a'r galluoedd allweddol canlynol:
- Profiad da o waith bar
- Barista hyfforddedig
- Profiad o baratoi bwyd a gweithdrefnau a deddfwriaeth perthnasol.
- Profiad o weithio mewn adran Blaen Tŷ mewn theatr neu amgylchedd celf/adloniant
tebyg
- Profiad o weithio mewn amgylchedd theatr gynhyrchu
- Medru'r Gymraeg.
- Sgiliau rhyngbersonol/gofal cwsmeriaid gwych: rhaid bod agored, yn gyfeillgar ac yn
gymwynasgar
- Y gallu i ddarparu lefel uchel o ofal cwsmeriaid
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth
- Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
- Y gallu i ymateb yn gadarnhaol i newidiadau yn yr amgylchedd gwaith ac i ddelio â
phwysau o fewn y rôl pan fyddant yn codi
- Aros yn ddigynnwrf ac ymddwyn yn broffesiynol mewn sefyllfaoedd llawn straen
- Cydwybodol: Mae gan Staff Blaen Tŷ rôl diogelwch pwysig
- Ymddangosiad taclus: Staff Blaen Tŷ yw wyneb cyhoeddus Theatr y Sherman
- Hyblyg ynghylch oriau gwaith
- 18+ oed
- Gwybodaeth am ofynion Hylendid Bwyd
- Diddordeb yn y theatr
ŵ
ŷ
ŷ
ŷ
-
-
-
-
ŷ