cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · yma i helpu bydd yn egluro: yr hyn mae gennych hawl i’w...

12
Cael babi 3 cham hawdd i wneud y mwyaf o’ch arian

Upload: others

Post on 18-Oct-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Cael babi

3 cham hawdd i wneud y mwyaf o’ch arian

Page 2: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, a gafodd ei sefydlu gan y llywodraeth i roi cymorth i bobl wneud y gorau o’u harian gan roi cyngor diduedd yn rhad ac am ddim. Yn ogystal â chynghori ar gyllidebu ar gyfer teulu, rydym yn cynnig gwybodaeth ar ystod eang o faterion ariannol eraill.

Ewch i’n gwefan heddiw am gyngor, awgrymiadau ac offer i roi cymorth i chi wneud penderfyniadau deallus ac i gynllunio ar gyfer dyfodol gwell.

moneyadviceservice.org.uk

Cyngor diduedd am ddim:

ar y wedros y ffônwyneb yn wyneb

Page 3: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Yma i helpu

Bydd yn egluro:

Yr hyn mae gennych hawl i’w gael

Sut i gyfrifo cyllideb

Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Mae’n bwysicach nag erioed i chi wneud y mwyaf o bob ceiniog.

Mae’r canllaw hwn ar eich cyfer chi os ydych yn cael babi ac angen help i gadw trefn ar gyllideb eich cartref.

Page 4: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Gwirio beth sydd gennych hawl i’w gael

1 Wyddech chi?Mae gennych hawl i bresgripsiynau GIG am ddim tra’ch bod yn feichiog neu os ydych wedi cael babi yn y 12 mis diwethaf.

CofiwchHefyd fe allech chi arbed arian eich hunan trwy gael triniaeth ddeintyddol. Mae am ddim tra byddwch chi’n feichiog a nes bydd y babi yn flwydd oed.

Page 5: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Hawliwch arian sy’n ddyledus i chiSiaradwch â’ch cyflogwr am Dâl Mamolaeth Statudol neu cysylltwch â Chanolfan Byd Gwaith neu Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau os ydych yn hunangyflogedig neu ar fudd-daliadau penodol.

Hawliwch fitaminau a thalebau am ddim Gallwch gael fitaminau a thalebau Cychwyn Iach os ydych ar incwm isel neu dan 18 oed – siaradwch â’ch bydwraig neu feddyg.

Hawliwch Fudd-dal Plant Llenwch y ffurflen a geir yn eich pecyn Bounty a’i phostio ar ôl ichi gofrestru’r enedigaeth. Gellir cael ffurflenni gan adran Cyllid a Thollau EM hefyd. Gallwch hawlio’r taliad ar gyfer eich plentyn faint bynnag yw’ch cynilion.*

*O Ionawr 2013 ymlaen mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno newidiadau a allai effeithio ar eich hawl i dderbyn Budd-daliadau Plant. I gael rhagor o wybodaeth ewch i hmrc.gov.uk

Edrychwch beth ydych chi’n gymwys i’w gael gyda’n canllaw cyflym i’r prif fudd-daliadau a hawliau yn

moneyadviceservice.org.uk/parents

Page 6: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Sut i gyfrifo cyllideb

2

Wyddech chi?Amcangyfrifir mai cyfanswm y gost i gadw babi mewn clytiau am y ddwy flynedd gyntaf yw oddeutu £800?*

*ffynhonnell: whatprice.co.uk

Page 7: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell costau babi

Bydd cael babi’n effeithio ar eich sefyllfa ariannol - bydd y gyfrifiannell hon yn eich helpu i benderfynu beth fydd arnoch ei angen, faint fyddwch chi’n ei wario a ble gallwch chi arbed arian.

Gwiriwch beth allwch chi ei fforddio Defnyddiwch ein Cyfrifiannell cyllidebu a’n Cyfrifiannell costau babi i gael gwybod lle’r ydych chi’n sefyll. Fe fydd yn gwneud y symiau i chi, fel eich bod yn medru gweld yn glir beth sy’n dod i mewn a beth sy’n mynd allan.

Siaradwch am arian Nid dyma’r amser i fod yn swil am sut y byddwch yn ymdopi. Siaradwch â’ch partner, teulu neu ffrindiau.

Mae’n bwysig cynllunio a chynilo cyn bod eich babi’n cyrraedd neu gallech wynebu pryderon ariannol yn y flwyddyn gyntaf werthfawr honno - defnyddiwch ein Cyfrifiannell costau babi i weld faint allai’r hanfodion ei gostio i chi.

Page 8: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Sicrhau dyfodol eich babi

3

Wyddech chi?Gallai cynilo cyn lleied â £5 y mis o’r dyddiad geni hyd at 18 oed mewn cyfrif cynilo dyfu i tua £1,000.

Page 9: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Dechreuwch gynilo yn gynnarFe fyddwch yn synnu cymaint y bydd yn cynyddu. Mae digonedd o opsiynau cynilo ar gyfer plant i ddewis o’u plith. Chwilio am ‘Opsiynau cynilo i blant’.

Cymrwch yswiriant bywyd neu ei adolyguMae’n hanfodol i bob rhiant ac fe all fod yn rhatach nag a feddyliwch. Bydd yn helpu i ddarparu ar gyfer eich teulu os byddwch yn marw.

Gwnewch neu adolygwch eich ewyllysGyda babi newydd i feddwl amdano mae’n arbennig o bwysig fod gennych ewyllys. Bydd hyn yn sicrhau y gofalir am eich babi gan y bobl y byddech yn eu dewis pe bai rhywbeth yn digwydd i chi.

Darganfyddwch ffyrdd eraill o gynllunio at y dyfodol yn

moneyadviceservice.org.uk/parents

Page 10: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Gall darpar rieni drefnu derbyn gwybodaeth, e-bostiau, fideo ac SMS rheolaidd gan y GIG gyda chyngor ynghylch beichiogrwydd a magu babi - i gofrestru ewch i nhs.uk/parents

Wyddech chi?

Page 11: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, a gafodd ei sefydlu gan y llywodraeth i roi cymorth i bobl wneud y gorau o’u harian gan roi cyngor diduedd yn rhad ac am ddim am arian i bawb ledled y Deyrnas Unedig-ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Rydym yn rhoi cyngor, awgrymiadau ac offer ar ystod eang o bynciau gan gynnwys rheoli arian o ddydd i ddydd, cynilion, cynllunio eich ymddeoliad ac ar gyfer eich dyfodol, yn ogystal â chyngor a chymorth ar ddigwyddiadau sy’n newid bywyd megis cychwyn teulu neu golli eich swydd.

Am gyngor a mynediad at ein hoffer a’n cynllunwyr ewch i

moneyadviceservice.org.uk

Neu ffoniwch ein Llinell Cyngor Ariannol ar 0300 500 5000

Typetalk 1800 1 0300 500 5000

Page 12: Cael babi - mascdn.azureedge.net€¦ · Yma i helpu Bydd yn egluro: Yr hyn mae gennych hawl i’w gael Sut i gyfrifo cyllideb Y camau i’w cymryd er mwyn diogelu dyfodol eich babi

Ebrill 2013© Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol (Ebrill 2013).Cyf: WelshHAB0001A

Cael babi yw un o’r canllawiau sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. I weld ein cyfres lawn o ganllawiau ac i archebu copïau ewch i

moneyadviceservice.org.uk

Llinell Cyngor Ariannol 0300 500 5000*

Typetalk 1800 1 0300 500 5000

*Mae galwadau i rifau 0300 am ddim os oes gennych funudau galwadau am ddim neu gynhwysol fel rhan o’r cytundeb sydd gennych gyda’ch darparwr llinell tir neu ffôn symudol. Os nad oes gennych funudau galwadau am ddim neu gynhwysol yna codir ffi ar gyfradd safonol i rifau 0300 ar gyfer rhifau’r Deyrnas Unedig (ee rhifau sy’n cychwyn gyda 01 neu 02). Er mwyn ein helpu i gynnal a gwella ein gwasanaeth, efallai y byddwn yn recordio neu fonitro galwadau.

Gwybodaeth yn gyfredol pan gafodd ei hargraffu (Ebrill 2013).

Os hoffech gael y canllaw hwn mewn Braille, print bras neu fformat clywedol cysylltwch â ni ar y rhifau uchod.