calon y mater newsletter chwech

24
calon y mater www.taicalon.org facebook.com/taicalon @taicalon Darllenwch beth fuom yn ei wneud i gartrefi o amgylch y sir. Mae gen i dipyn o dy ^ bach twt ... Codwyr arian Riverside Etholiadau Bwrdd Tenantiaid Ni yw’r enillwyr Haf 2012 / Rhifyn 7

Upload: tai-calon-community-housing

Post on 25-Mar-2016

234 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

Newsletter achos Ddeiliadon chan Tai calon Chymdeithas housing

TRANSCRIPT

Page 1: Calon y mater Newsletter chwech

calon y mater

www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

Darllenwch beth fuom yn ei wneud i gartrefi o amgylch y sir.

Mae gen i dipyn o dy bach twt ...

Codwyr arian RiversideEtholiadau Bwrdd Tenantiaid

Ni yw’r enillwyr

Haf 2012 / Rhifyn 7

Page 2: Calon y mater Newsletter chwech

Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gallwch gadw mewn cysylltiad â ni a chael gwybod beth sy’n digwydd.

Ffôn: Ffoniwch ni ar 0300 303 1717 rhwng 9am a 5pm Llun i Gwener. Mewn argyfwng mae’n gwasanaeth “allan o oriau” ar gael ar 0300 303 1717.

E-bost: [email protected]

Ffacs: 01495 290 501.

Ymweld neu ysgrifennu atom yn: Tai Calon, Solis One, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaina, Blaenau Gwent, NP13 3JW

Gwefan: Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol amdanom a’r holl newyddion diweddaraf ar www.taicalon.org.

facebook: Ymunwch â’n tudalen drwy ein “hoffi” yn facebook.com/taicalon

Twitter: Dilynwch ni @taicalon

Os oes gennych stori i’w dweud wrthym, neu os hoffech i ni gynnwys rhywbeth yn rhifyn nesaf ein cylchlythyr, cysylltwch â:

Hefina Rendle, Communications and PR Manager, at Solis One, or by email [email protected]

Cynnwysz Cadw mewn Cysylltiad t2

z Rheolydd Cynhwysiant Economaidd ac Ariannol t3

z Newidiadau Mawr yn Digwydd t3

z Credyd Cynhwysol t4

z Gardd Synhwyraidd Grwp Mileniwm Brynmawr t5

z Cuts Watch Cymru t6

z Polisi Ailgodi t6

z Mae gen i dipyn o dy bach twt t8

z Dywedoch chi ... Gwnaethom ni... t10

z Cystadleuaeth Calendr 2013 Tai Calon t11

z Undeb Credyd Smart Money t12

z Golwg Tai Gwarchod t1

z Help llaw t2

z Diogelwch tân t3

z Cyfarfodydd Fforwm Tai Gwarchod t3

z Cwrt Llandafel t4

z Y 1,200fed cegin t14

z Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru t15

z Dywedoch Chi Gwnaethom Ni Cymdogaeth t16

z Etholiadau i’r Bwrdd t18

z Llawlyfr tenantiaid t18

2

Cyfle i ennill £25 yn ein cystadleuaeth FacebookRydym eisiau eich syniadau am sut i arbed arian ... a bydd yr un gorau bob mis yn ennill £25 mewn talebau siopa.

Gall yr enillydd ddyblu eu harian i £50 os buddsoddant eu henillion mewn cyfrif undeb credyd am chwe mis. Mwy o fanylion ar ein tudalen Facebook.

Facebook.com/taicalon

Page 3: Calon y mater Newsletter chwech

Fy enw i yw Sarah Freeman. Fi yw Rheolydd Cynhwysiant Economaidd ac Ariannol Tai Cymunedol Tai Calon.

Yn y rhifyn yma o’r cylchlythyr byddwn yn esbonio’r newidiadau fydd yn digwydd i fudd-daliadau dros y misoedd nesaf.

Byddwn hefyd yn rhoi manylion sut y gallwch gael cyngor ar arian ac ymuno ag undeb credyd.

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Mesur Diwygio Lles ym mis Chwefror, gan ei wneud yn gyfraith. Dan y Ddeddf newydd mae nifer o newidiadau i’r budd-daliadau y gallwch eu cael a sut y cewch hynny. Bydd y newidiadau a ddaw i rym y flwyddyn nesaf yn effeithio ar bawb os derbyniwch unrhyw fath o fudd-dal, yn cynnwys budd-dal tai, budd-dal treth gyngor, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cymhorthdal incwm, ceisiwr gwaith, Lwfans Byw i’r Anabl a chredyd treth. Dyma’r amser i ofyn am gyngor a helpu i ymdopi gyda’r newidiadau yma!

Dymuniadau gorau, Sarah

33

O fis Hydref 2013, caiff Budd-dal Tai ei dalu i denantiaid o oedran gwaith.

NI FYDD Budd-dal Tai’n cael ei anfon yn uniongyrchol i Cartrefi Cymunedol Tai Calon wedi hynny.

Y tenant sy’n gyfrifol am dalu eu rhent i Tai Calon ar amser, bob amser.

Ydych chi’n barod am y newid?

Y ffordd symlaf i dalu eich rhent yw drwy... Agor cyfrif banc ac agor Debyd Uniongyrchol.

Mae’n gwarantu y caiff eich rhent ei dalu.

PEIDIWCH OEDI ... LLOFNODWCH AM DDEBYD UNONGYRCHOL HEDDIW

A derbyn DAU Gredyd Bancio Amser (cynnig cyfyngedig, gwnewch gais heddiw).

Cysylltwch â ni i gael help i agor cyfrif banc.

Newidiadau

MAWR yn Digwydd...Ydych chi’n barod?

Helo

Page 4: Calon y mater Newsletter chwech

4

Cynhyrchwyd yr wybodaeth ddilynol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddweud wrthych beth sy’n mynd i ddigwydd.

Ar hyn o bryd, gall rhai pobl dros 16 a dan 65 oed nad oes ganddynt ddigon o arian i ofalu amdanynt eu hunain wneud cais am nifer o wahanol fudd-daliadau:

• Cymhorthdal Incwm. Dyma’r arian y gall pobl ei gael os nad oes ganddynt swydd ac yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos a bod yr arian sydd ganddynt yn dod i mewn yn llai nag mae’r llywodraeth yn dweud eu bod ei angen i fyw arno.

• Lwfans Ceiswyr Gwaith. Dyma’r arian y mae pobl yn ei gael os nad oes ganddynt swydd, ond y gallant weithio.

• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dyma’r arian a gaiff pobl os nad oes ganddynt swydd, ac na allant weithio o gwbl, neu na allant weithio yn awr ond y gallent weithio ryw bryd yn y dyfodol.

• Budd-dal Tai. Dyma’r arian sy’n helpu pobl ar gyfer pobl sydd mewn gwaith a phobl ddi-waith i rentu cartref.

• Credyd Treth Plant. Dyma’r arian a delir i bobl sydd ag o leiaf 1 plentyn neu 1 person ifanc yn byw gyda hwy.

• Credyd Treth Gwaith. Dyma’r arian a gaiff pobl os oes ganddynt swydd ac yn gweithio mwy na 16 awr yr wythnos ond ar gyflog isel.

Cyflwynir budd-dal newydd Credyd Cynhwysol yn lle’r budd-daliadau hyn. Bydd yn helpu pobl heb swydd neu rai sydd â swydd ond nad oes ganddynt ddigon o arian.

Gall pobl sy’n cael Credyd Cynhwysol wneud mwy o waith cyn y caiff eu budd-dal ei ostwng.

Ni fydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle Lwfans Byw i’r Anabl ond mae’r llywodraeth yn newid y lwfans hwnnw. Dyma’r arian a gaiff ei dalu i bobl sydd ag anabledd ac sydd angen help gyda gofal personol neu symud o gwmpas, neu’r ddau beth yma.

Ni fydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle’r budd-daliadau y gall pobl eu cael os ydynt wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Bydd Credyd Cynhwysol yn helpu pobl i weithio o fewn y gyfraith i wneud mwy o arian. Bydd hefyd yn haws deall a gweld os yw pobl yn cael y swm cywir o arian.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ond bydd cynghorwyr i helpu pobl nad ydynt yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd.

Disgwylir y caiff Credyd Cynhwysol ei dalu bob mis i gyfrif banc. Bydd cyfrifiadur yn gweithio allan faint o arian y bydd pobl yn ei gael.

Tanddefnyddio cartref ar gyfer tenantiaid oedran gwaithO Ebrill 2013 bydd Budd-dal Tai yn gysylltiedig â nifer y bobl ac ystafelloedd gwely yn eich cartref. Yn ôl y rheolau newydd caniateir un llofft ar gyfer:

• Unrhyw gwpl neu berson sengl 16 oed neu drosodd

• Plant dan 16 oed o’r un rhyw

• Plant dan 10 o’r naill ryw neu’r llall

• Gofalwr dros nos heb fod yn breswyl i ddarparu gofal i denant anabl neu eu partner.

Disgwylir y caiff budd-dal tai ei dorri gan 14% gan rhai y bernir fod ganddynt un ystafell dros ben a gan 25% os credir fod dwy neu fwy o ystafelloedd yn cael eu tanddefnyddio.

Tenantiaid ... byddwch yn gyfrifol am dalu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a dderbyniwch mewn budd-dal a’r rhent os gostyngir eich lwfans.

Gweithredwch yn awr i wneud yn siwr eich bod yn cael y budd-daliadau mae gennych hawl iddynt. Ffoniwch ein Tîm Incwm ar 0300 303 1717 i gael cyngor.

Credyd CynhwysolMae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno un credyd newydd - Credyd Cynhwysol - i gymryd lle nifer o fudd-daliadau. O’r flwyddyn nesaf ymlaen gall unrhyw un sy’n gwneud cais am fudd-dal gael Credyd Cynhwysol os ydynt yn gymwys am help. Ar ôl 2013 bydd y llywodraeth yn symud pawb i Gredyd Cynhwysol. Fodd bynnag, mae’n addo na fydd neb yn derbyn llai o arian nag yr arferent ei gael, os nad oes unrhyw newid pellach yn eu hamgylchiadau.

Page 5: Calon y mater Newsletter chwech

5

Cyffyrddiad ac arogl hyfrydCafodd yr ardd synhwyraidd hardd hon ei chreu gan Grwp Cymunedol Mileniwm Brynmawr. Bu gwirfoddolwyr yn gweithio gyda phlant ysgol a phobl ifanc ar brofiad gwaith i blannu blodau a pherthi gydag arogl cyfoethog ac sy’n braf eu cyffwrdd.

Daw’r nodwedd dwr o hen bwll nofio Brynmawr a arferai fod ar y safle.

Yn awr mae gan ymwelwyr rywle i fynd iddo i ddysgu mwy am Ardd Terence ym Mrynmawr a mwynhau’r olygfa diolch i denantiaid Tai Calon.

Fe wnaethant gytuno rhoi £3,000 i’r grwp o’r Gronfa Gwella’r Amgylchedd i adeiladu Canolfan Arsylwi a Gwybodaeth. Bydd y caban pren yn cynnwys gwybodaeth am fywyd gwyllt lleol a hefyd yn lle gwych i edrych ar yr ardd.

Os ydych yn rhan o grwp cymunedol neu gymdeithas tenantiaid a phreswylwyr ac yr hoffech wneud cais i Gronfa Gwella’r Amgylchedd, yna cysylltwch â’r tîm Buddsoddi Cymunedol ar 0300 303 1717.

Kelsey Watkins - Cwm Tredegar

Natasha Jones - Cwm Ebwy Fawr (Glynebwy)

Chloe Williams - Cwm Ebwy Fach

Page 6: Calon y mater Newsletter chwech

6

Mae Cuts Watch Cymru yn gynghrair o sefydliadau trydydd sector yng Nghymru a ddaeth at ei gilydd i edrych ar effaith toriadau mewn gwario cyhoeddus, ac yn arbennig ddiwygio lles, ar fywydau pobl yng Nghymru. Rydym yn pryderu y bydd miloedd yn fwy o bobl yng Nghymru yn cael eu gwthio i dlodi fel canlyniad i’r newidiadau a gostyngiadau i fudd-daliadau - llawer ohonynt wedi eu gweithredu eisoes, gyda mwy ar y gweill. Rydym yn neilltuol o bryderus y gallai’r grwpiau mwyaf bregus fod yn gorfod cario pwysau trymaf y

newidiadau hynny.

Nid ydym yn dadlau’n ddifeddwl yn erbyn yr holl newidiadau i wariant cyhoeddus, i strwythur y system budd-daliadau neu’n wir rôl y wladwriaeth yng

nghyswllt y sectorau gwirfoddol neu breifat. Derbyniwn fod heriau economaidd sylweddol yn wynebu gwneuthurwyr penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth, a’i bod yn ddoeth bob amser i adolygu penderfyniadau ar wariant a darpariaeth gwasanaethau. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig sicrhau fod unrhyw newidiadau yn deg i bawb mewn cymdeithas ac nad ydynt yn effeithio’n waeth ar y rhai mwyaf agored i niwed.

Edrychodd ein hadroddiad cyntaf, ‘Cymru ar yr ymyl’ ar

Cuts Watch Cymru: cadw golwg ar y toriadauMae pobl yng Nghymru’n wynebu rhai o’r heriau caletaf am ddegawdau. Mae economi gwan eisoes yn effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl, gan arwain at golledion swyddi, gwasgfa ar enillion a chynnydd mewn prisiau. Ychwanegwch at hyn y bygythiad o doriadau mewn gwariant cyhoeddus a diwygio lles, a medrai’r rhagolygon i lawer fod yn anodd iawn.

Codir tenantiaid am atgyweiriadau i’w cartref pan nad yw’r difrod yn draul arferol. Cafodd y Polisi Ailgodi ei ddatblygu ar y cyd gan Fwrdd Tai Calon, tenantiaid a staff.

Bydd yn ofynnol i denantiaid dalu am waith atgyweirio os:

• oes difrod a achosir gan esgeulustod, camddefnydd neu ddifrod troseddol gan y tenant, aelodau o’u haelwyd neu ymwelwyr i’w cartref.

• oes difrod bwriadol a achosir gan y tenant, aelodau o’u haelwyd neu ymwelwyr i’w cartref.

• oes gwaith addasu

anfoddhaol a wnaed gan y tenant, aelodau o’u haelwyd neu berson a dderbyniodd gyfarwyddyd ganddynt.

• yw’r tenant neu aelod o’u haelwyd wedi colli eu hallweddi ac yn methu cael mynediad.

• yw’r tenant, aelod o’u haelwyd neu ymwelydd i’w cartref yn gwrthod caniatáu mynediad i’r heddlu i’w cartref a arweiniodd at y difrod a achoswyd.

Polisi Ailgodi

Page 7: Calon y mater Newsletter chwech

7

effeithiau tebygol y

newidiadau a gynigiwyd i fudd-daliadau, a hefyd y newidiadau a ddigwyddodd eisoes, ar bobl sy’n byw yng Nghymru. Fe wnaethom edrych ar nifer o feysydd allweddol fydd yn sail i’n gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol, yn cynnwys budd-daliadau allan-o-waith, budd-daliadau ar gyfer pobl anabl, budd-dal tai a budd-daliadau cronfa gymdeithasol. Er bod tystiolaeth yn brin, daethom i’r casgliad fod newidiadau i fudd-daliadau yn y meysydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar bobl yng Nghymru.

Caiff effaith bosibl y newidiadau i fudd-daliadau ei waethygu oherwydd y lefelau presennol uchel o dlodi, economi gwan a’r rhyngweithio cymhleth rhwng budd-daliadau fel y bydd newidiadau lluosog ar incwm unigolion ac aelwydydd.

Nododd yr adroddiad y nifer fawr o bobl y bydd

y newidiadau hyn yn effeithio arnynt - gydag un ym mhob pump o bobl

oedran gwaith yn hawlio rhyw fath o fudd-dal yng Nghymru - ond hefyd y cwestiwn ar gymhlethdod y diwygiadau ac effaith newidiadau lluosog i fudd-daliadau. Mae llawer o hawlwyr yn derbyn mwy nag un budd-dal, ac felly gall fod newidiadau lluosog arnynt a gostyngiadau yn effeithio ar eu costau byw a thai. Mae’r cymunedau ac ardaloedd awdurdodau lleol hynny sydd â chyfran gymharol uchel o hawlwyr yn debygol o weld newidiadau sylweddol iawn mewn incwm a llesiant, fel y rhai lle gall lefelau hawlwyr fod yn is ond bod cyfleoedd yn brin a chostau’n uwch.

Yn dilyn yr adroddiad cyntaf hwn, roedd ein darn nesaf o ymchwil yn canolbwyntio ar newidiadau i Fenthyciadau Argyfwng. Roedd yr ymchwil yn seiliedig ar gyfweliadau ac astudiaethau achos gyda phobl oedd yn profi rhyw fath

o argyfwng, neu oedd wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Fe wnaethom edrych ar natur yr argyfyngau y mae pobl yn eu cael, eu mathau o angen a hefyd eu profiadau o gael mynediad i’r Gronfa Argyfwng. O’r ymchwil hwn fe wnaethom gyfannu at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sut y dylai Benthyciadau Argyfwng cael eu cyflawni pan y’u datganolir i Gymru yn 2013.

Yn dilyn ein gwaith dechreuol, yn y flwyddyn nesaf byddwn yn symud ymlaen i ymchwilio ymhellach effaith newidiadau a gostyngiadau eraill i fudd-daliadau. Rydym eisiau ymchwilio ymhellach brofiadau’r rhai yr effeithiodd y newidiadau a’r gostyngiadau hyn arnynt, a sut y gallai hyn amrywio i wahanol bobl mewn gwahanol rannau o Gymru. Anelwn godi ymwybyddiaeth o’r effeithiau hyn a hefyd gyflwyno awgrymiadau a fedrai eu lliniaru.

Mae ein hadroddiadau a gwybodaeth bellach ar gael yn: www.cutswatchcymru.org

• yw tenant yn dweud fod angen gwaith trwsio argyfwng neu’n gwneud apwyntiad ond nad yw adref i roi mynediad i’r contractwr, gall hyn arwain at orfod talu am golli apwyntiad.

Efallai na fydd yn rhaid i denantiaid dalu am waith atgyweirio:

• os ydynt yn dioddef o broblemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu.

• os yr hysbyswyd yr heddlu am y difrod a’r tenant wedi cael rhif trosedd.

• mewn amgylchiadau arbennig.

Penderfynir pob achos ar sail unigol.

Bydd yn rhaid i gyn denantiaid hefyd dalu am gost unrhyw waith trwsio nad yw’n draul arferol, yn ogystal â chost symud unrhyw gelfi, carpedi neu sbwriel a adawyd yn yr adeilad.

Fel arfer bydd yn rhaid i gontractwyr gan Tai Calon dalu am gost unrhyw ddifrod a achosir gan eu hesgeulustod, diffyg gofal neu ddamwain.

Gall Tai Calon wrthod gwneud unrhyw waith trwsio neu wella pellach os nad yw tenant wedi talu am unrhyw waith trwsio sy’n ddyledus ganddynt.

Page 8: Calon y mater Newsletter chwech

Mae tenantiaid eisoes yn gweld manteision y cynllun i osod 1,000 o systemau gwresogi newydd, insiwleiddio a rendro tu allan 770 cartref a adeiladwyd mewn ffordd heb fod yn draddodiadol.

Bu Ralph Lewis Boulter yn byw yn ei gartref yng Ngarnlydan, ger Glynebwy, am 57 mlynedd. “Roedd yn arfer bod mor oer fel y byddwn i a fy nheulu yn gwisgo ein cotiau mawr a sgarffiau i fwyta ein cinio. Mae’n llawer cynhesach nawr.

Y noson o’r blaen fe wnes adael potel o laeth allan ac roedd wedi suro yn y gwres erbyn y bore wedyn.”

Dewisodd y tenantiaid, yn cynnwys Pamela Snell sydd hefyd o Garnlydan, y lliw ar gyfer y rendr. “Rwy’n hapus iawn gyda fy newis. Dywedwyd wrthyf fy mod i wedi dewis yr un drutaf,” meddai Mrs Snell, a fu’n byw yn ei chartref am 43 mlynedd. “Rwyf wrth fy modd gyda’r lliw ac mae fy nhy yn edrych fel un newydd.

Cafodd Mrs Snell ei galw’n “gariad “ gan y tîm o E.on a Bullock Construction am roi dishgledi o de iddynt yn gyson. I ddweud diolch, cyflwynodd Jen Barfoot, Prif Weithredydd Tai Calon gadi te i Mrs Snell yn llawn bagiau te i adnewyddu ei chyflenwad.

“Mae’n hyfryd gweld fod Mrs Snell a Mrs Boulter mor falch gyda’r gwaith i’w cartrefi. Mae’n syndod faint o wahaniaeth y gall gwaith fel hyn ei wneud i’r cartrefi a’r gymuned,” meddai Jen Barfoot. “Mae’r lliwiau disglair ar y waliau tu allan yn ddigon i roi gwên ar wyneb unrhyw un. Yn ogystal â gwneud eu cartrefi’n rhatach eu gwresogi, dylai’r gwaith hefyd ostwng ein costau cynnal a chadw ar gartrefi a adeiladwyd mewn ffordd heb fod yn draddodiadol.

Gwneir y gwaith fel rhan o CESP (Prosiect Arbed Ynni Carbon) a bu mor llwyddiannus fel y cafodd ei ymestyn i fwy o gartrefi ar draws y sir. Paul Bevan yw Rheolydd Prosiect Arbed Ynni Cymunedol Tai Calon. “Bu E.on yn gweithio gyda ni i ostwng tlodi tanwydd ar draws Blaenau

8

Mae gen i dipyn o dy bach twt

Pamela Snell (ar garreg y drws), Jen Barfoot (de) a Paul Bevan (de) ynghyd â’r tîm a fu’n gweithio ar y cartrefi.

Mae cartrefi ledled Blaenau Gwent yn cael eu gwella fel rhan o gynllun i wella eu hinsiwleiddiad a helpu i ostwng biliau gwresogi. Caiff cost £10 miliwn y gwaith ei rannu rhwng cwmni ynni E.on a Tai Calon.

Page 9: Calon y mater Newsletter chwech

9

Ralph Lewis Boulter (cap coch), Clayton Phillips gyda Megan (dwy oed) yn ei freichiau, Jen Barfoot a’r tîm

Gwent. Rydyn ni’n gobeithio allbwn carbon drwy CESP a chynorthwyo i ostwng tlodi tanwydd.”

Cytunodd Clayton Phillips sy’n byw yn un o’r tai. “Rydyn ni wedi sylwi fod ein cartref yn llawer cynhesach ers i’r gwaith gael ei wneud. Mae’n wych.”

Dywedodd Jon Kirby, Rheolydd CESP E.on, “Rwy’n falch iawn fod y preswylwyr hyn eisoes yn gweld budd ein gwaith insiwleiddio - mae’n dangos y gall dod yn effeithiol o ran ynni wella ansawdd eich bywyd yn ogystal ag arbed arian ar eich biliau tanwydd.

Ac nid dim ond tenantiaid a all fanteisio o’r buddsoddiad; gall perchnogion tai hefyd fanteisio ar brisiau rhatach ar fesurau effeithiolrwydd ynni tebyg.”

Page 10: Calon y mater Newsletter chwech

10

Dywedoch chi... Roedd rhaid aros am hir cyn trwsio boeleri Ferroli.

Gwnaethom ni... Nid ydym yn gosod boeleri Ferroli erbyn hyn oherwydd prinder cenedlaethol o rannau.

Dywedoch chi... Fe hoffem wneud apwyntiadau ar gyfer gwaith trwsio.

Gwnaethom ni... Rydym wedi cyflwyno system apwyntiadau ar gyfer gwaith trwsio. Gall tenantiaid ddewis apwyntiadau yn y bore neu’r prynhawn ar ddiwrnod sy’n gyfleus iddynt.

Dywedoch chi... Roedd rhai cartrefi mewn cyflwr gwael pan oeddem yn eu hail-osod.

Gwnaethom ni... Rydym wedi cyflwyno isafswm

safonau a gymeradwywyd gan gynrychiolwyr tenantiaid ar y Fforwm Dylunio Ansawdd. Mae’n rhaid i bob cartref gydymffurfio â’r safon yma cyn y medrir eu hailosod. Bydd Tenant Archwilwyr yn cynnal y gwiriadau hyn yn dilyn hyfforddiant.

Dywedoch chi... Eich bod yn gwastraffu amser yn holi pan oedd gwaith trwsio i’w wneud tu allan, a chanfod wedyn eu bod wedi’u gwneud pan nad oeddech yno.

Gwnaethom ni... Rydym yn awr yn gadael cerdyn yn hysbysu tenant os cafodd gwaith ei wneud pan nad oeddent yno.

Dywedoch chi... Roeddech eisiau gwybod sut ydym yn monitro faint o amser mae’n ei gymryd i orffen gwaith trwsio a safon y gwaith.

Gwnaethom ni... Rydym wedi hyfforddi Tenant Archwilwyr sy’n ffonio o leiaf 100 o denantiaid y mis. Maent yn gofyn cyfres o gwestiynau am faint o amser a gymerodd i wneud gwaith trwsio a barn y tenant am y gwaith wedi’i orffen. Mae Bwrdd Tai Calon yn adolygu canlyniadau’r arolwg bob mis.

Dywedoch chi... Na fyddai Cyngor Blaenau Gwent yn trwsio unrhyw offer neu osodiadau ystafell ymolchi yr oedd y tenant wedi’u gosod. Beth yw barn Tai Calon?

Gwnaethom ni... Os oedd y gwaith gosod wedi’i awdurdodi, byddwn yn ceisio trwsio unrhyw eitem cyhyd â bod y cais yn rhesymol ac ymarferol.

Diolch i chi am ddweud wrthym... rydyn ni’n addo gwrando.

Dywedoch chi... Gwnaethom ni...Rydym yn gwrando ar yr hyn a ddywedwch wrthym. Mae’ch barn yn bwysig iawn i ni, a dyna pam mewn erthygl newydd reolaidd y byddwn yn dweud wrthych beth wnaethom pan ...

Page 11: Calon y mater Newsletter chwech

Haf 2012 / Rhifyn 4

www.taicalon.orgfacebook.com/taicalon @taicalon

GwarchodGolwg Tai

Help llaw

Diogel rhag tân

Page 12: Calon y mater Newsletter chwech

rheolydd y cynllun, yr apêl i adeiladu canolfan hosbis newydd yng Nglynebwy, ac aeth popeth o’r fan honno.

Cynhaliodd y preswylwyr, eu teuluoedd a’u harian gyfres o ddigwyddiadau codi arian dros y blynyddoedd.

Dywedodd Kevin Davidge, swyddog codi arian gyda’r apêl, “All geiriau ddim disgrifio pa mor ddiolchgar ydyn ni i Caroline a phawb am eu holl waith. Maent wedi gweithio’n ddiflino ac rydym mor lwcus i gael eu cefnogaeth.”

Bu Caroline Bridge yn gwirfoddoli i Hosbis y Cymoedd am fwy na 12 mlynedd ac mae’n cynnal pedwar arwerthiant pen bwrdd bob mis ar ran yr elusen. “Dechreuodd popeth o sgwrs a gefais gyda Marlene. Mae’n hyfryd meddwl ein bod yn gallu helpu pobl eraill sy’n waeth eu byd na ni.”

Dywedodd Marlene Davies, sydd ag arthritis hefyd, fod gwneud y cardiau’n ei chadw’n brysur. “Rwy’n mwynhau eu gwneud ac yn awr yn bwriadu eu gwneud er budd ymchwil i glefyd siwgr.”

Help llaw

Dechreuodd y cyfan pan oedd melanoma ar Marlene Davies, sy’n byw yn y fflatiau gwarchod,

a dymunai godi arian i elusen drwy wneud cardiau cyfarch. Awgrymodd Caroline Bridge,

Llongyfarchiadau i Caroline Bridge, preswylwyr, teulu a ffrindiau o Fflatiau Riverside yn y Blaenau. Mewn dim ond tair blynedd maent wedi codi’r swm enfawr o £10,000 ar gyfer apêl adeilad newydd “Precious Moments” Hosbis y Cymoedd.

Golwg Tai Gwarchod 2

Caroline Bridge yn cyflwyno’r siec i Kavin Davidge

Page 13: Calon y mater Newsletter chwech

Mae’n braf mynd o gwmpas yn cwrdd â ffrindiau newydd, a dyna pam ein bod yn newid y ffordd y cynhaliwn ein cyfarfodydd rheolaidd o’r Fforwm Tai Gwarchod. Dros y misoedd nesaf byddwn yn mynd â’r cyfarfodydd i bob un o’r un ar ddeg safle tai gwarchod.

Dywedodd Anthony Rowson, Rheolydd Tai Gwarchod, “Caiff preswylwyr safleoedd eraill eu gwahodd i fynychu’r cyfarfodydd. Roeddwn ni’n meddwl y byddai’n ffordd braf i bobl ddod i adnabod eu gilydd a gweld ein safleoedd eraill.”Cysylltwch â rheolydd eich cynllun i gael manylion y cyfarfod nesaf.

Fforwm Tai Gwarchod

Golwg Tai Gwarchod 3

Diogel rhag tân...Beth fyddech chi’n wneud pe byddai tân... a beth ddylech chi wneud i atal un?

Dyma’r cwestiynau a atebodd Dai Richards, Swyddog Tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, pan ymwelodd â Chwrt Davey Evans yn Abertyleri’n ddiweddar.

Bob blwyddyn mae Dai’n ymweld â phob un o’r un ar ddeg o’n safleoedd tai gwarchod i wneud yn sicr fod preswylwyr yn gwybod am beryglon tân yn y cartref ac esbonio sut y gallant ostwng risg cynnau tân.

Mae Tai Calon yn gweithio gyda Tân De Cymru i adolygu trefniadau diogelwch tân yn ei holl safleoedd gwarchod ac mewn ardaloedd cymunol.

Dai Richards, Swyddog Tân (de) gyda Kevin Thomas o Tai Calon

Page 14: Calon y mater Newsletter chwech

Mae Cwrt Llandafel mewn lleoliad tawel ar gyrion Cwm yng Nglynebwy. Mae mynedfa wastad i’r cynllun gwarchod sy’n cynnwys 24 fflat un ysytafell wely ar ddau lawr. Mae lifft i’r llawr cyntaf.

Cafodd yr holl fflatiau eu diweddaru i Safon Ansawdd Tai Cymru yn ddiweddar i gynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd.

Mae lolfa gymunedol braf a dywedodd Carl Dance, Rheolydd y Cynllun “Mae’n llety gwych gyda theimlad cymunedol go iawn ond hefyd yn ddelfrydol ar gyfer rhai sydd eisiau byw’n annibynnol.”

Mae fflatiau ar gael i’w rhentu. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Anthony Rowson, Rheolydd Tai â Chymorth ar 0300 303 1717.

Cysylltwch â Ni:Os hoffech gysylltu â Cartrefi Cymunedol Tai Calon

gallwch ein ffonio ar 0300 303 1717

Os dymunwch ein hysbysu eich bod angen gwaith trwsio, holi am eich rhent neu os hoffech siarad gydag aelod o staff Tai Calon, ffoniwch ni ar 0300 303 171

www.taicalon.org

Cwrt Llandafel

Golwg Tai Gwarchod 4

Page 15: Calon y mater Newsletter chwech

11

Ydych chi’n dda am dynnu ffotograffau?Oes gennych chi ffotograff da o gyfaill neu lecyn lleol?

Rydym yn edrych am 12 ffotograff gyda’r “wow” ffactor ar gyfer calendr 2013 Tai Calon.

Gall y ffotograffau fod o goeden, lle, anifail anwes, unrhyw beth cyn belled ag iddynt gael eu tynnu o fewn Blaenau Gwent.

Argreffir ffotograffau’r enillwyr yn y calendr a anfonir i bob un o gartrefi Tai Calon. Bydd pob un o’r 12 enillydd hefyd yn derbyn £75 mewn talebau rhodd o’u dewis.

Dangosir y ceisiadau ar facebook.com/taicalon a gall cyfeillion Facebook roi eu sylwadau am y ffotograffau.

Mae’r rheolau’n syml: 1. Dim ond ffotograffau a dderbynnir (dim

sleidiau) a rhaid iddynt fod wedi’u tynnu ym Mlaenau Gwent.

2. Rhaid i’r ffotograff fod yn wreiddiol. Ni chaniateir ei drin.

3. Ni ddylai ffotograffau fod wedi ennill gwobr, ymddangos mewn cyhoeddiad arall neu ar wefan cystadleuaeth o’r blaen.

4. Mae’r ffotograffydd yn cadw’r hawlfraint, fodd bynnag drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth rhoddant ganiatâd i Cartrefi Cymunedol Tai Calon ddefnyddio’r ffotograff(au) ar gyfer dibenion y gystadleuaeth hon neu gyhoeddusrwydd cyffredinol.

5. Dim ond os darparwyd amlen hunan-gyfeiriedig gyda stamp (SAE) y caiff cynigion eu dychwelyd.

6. Mae penderfyniad y panel beirniadu yn derfynol.

Anfonwch eich ffotograff(au) at Hefina Rendle, Cartrefi Cymunedol Tai Calon, Solis One, Stad Ddiwydiannol Rising Sun, Blaenau, NP13 3JW. Peidiwch anghofio cynnwys eich enw, cyfeiriad, (oedran, os dan 18), rhif ffôn, manylion lle tynnwyd y llun(iau) a SAE os ydych eisiau’r llun/lluniau yn ôl.

Dyddiad cau cynigion: Dydd Llun 3 Medi 2012.

Cystadleuaeth Calendr 2013 Tai Calon

Page 16: Calon y mater Newsletter chwech

12

Undeb Credyd Smart MoneyMae Undeb Credyd Smart Money yn darparu gwasanaethau ariannol i bobl sy’n byw yng Nghaerffili, Blaenau Gwent a Casnewydd.

Mae angen i chi fod yn ofalus wrth ddewis credyd pan mae angen i chi fenthyca arian i’ch cael drwy gyfnod anodd neu eich helpu i fforddio tretio eich hunan a’ch teulu. Meddyliwch am y dilynol:

• Fedrwch chi fforddio’r ad-daliadau?• Faint fydd yn rhaid i chi ei ad-dalu i gyd?• Faint o ad-daliadau fydd yn rhaid i chi wneud?• Beth sy’n digwydd os ydych yn colli ad-daliad?• A oes cosb os ad-dalwch yn fuan?

Un o’r llu o fanteision o fenthyca gan ‘Smart Money’ yw nad oes unrhyw gostau cudd neu gosbau am ad-dalu cynnar.

• Benthycwn yn gyfrifol - ni fyddwn byth yn eich annog i fenthyca mwy nag y gallwch fforddio ei ad-dalu’n gysurus.

• Rydym yn eich annog i gynilo hefyd wrth i chi wneud yr ad-daliadau. Felly erbyn i chi fod wedi talu eich benthyciad, byddwch wedi cynyddu eich cynilion hefyd!

• Codwn uchafswm cyfradd log o 2% y mis ar falans gostyngol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

• Dim ond ar weddill eich benthyciad y codir llog. Mae hyn yn golygu fod swm y llog a dalwch yn gostwng wrth i chi ad-dalu’r benthyciad.

• Ystyriwn fenthyciadau am unrhyw swm hyd at £7,500, net o’ch cynilion.

• Nid oes DIM costau sefydlu.

• Nid oes DIM costau ychwanegol neu gosbau os ydych eisiau gwneud ad-daliadau ychwanegol neu dalu’r benthyciad yn gynnar.

• Telerau ad-dalu hyblyg i weddu i chi - dewiswch dalu bob wythnos, bythefnos, pedair wythnos neu fisol.

• Mae’r rhan fwyaf o aelodau yn gymwys am yswiriant AM DDIM i ddiogelu’r benthyciad felly pe byddech yn marw, telid gweddill y benthyciad (amodau yn weithredol).

Cysylltwch ag aelod o’r tîm os hoffech ddod yn aelod neu ganfod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael drwy Undeb Credyd ‘Smart Money’:

Ffôn: 029 2088 3751

E-bost: [email protected]

Swm Benthyciad

Cyfnod Benthyciad

Swm ad-daliad - yr wythnos

Llog a Godir

Cyfanswm Ad-daladwy

£300 48 wythnos £7 £35.05 £335.05

£500 52 wythnos £11 £62.47 £562.47

Cymharwch gyda benthycwyr eraill:Undeb Credyd Smart Money Nodweddiadol 26.8% APR

Benthycydd Carreg Drws Nodweddiadol 190% APR

Benthycydd Anghyfreithlon Nodweddiadol 1500% APR

Ffoniwch ni am fenthyciad cost isel: 029 2088 3751

Smart LoansAd-daliadau FforddiadwyPeidiwch â chael eich brathu gan fenthycwyr carreg drws drud - gwnewch y ‘Dewis Smart’

Benthycwch yn lleol a chefnogi eich cymuned

Nodweddiadol: 26.8% APR

Enghraifft:

Page 17: Calon y mater Newsletter chwech

13

Mae Smarterbuys yn wefan newydd sy’n eich helpu i brynu’r pethau hanfodol ar gyfer eich cartef ar ddisgownt enfawr.

Smarterbuys... ffordd fwy craff o brynu

Mae Smarterbuys yn cynnig un cynnig gwych bob mis - gallai fod ar gyfer oergell, peiriant golchi, gwely, soffa - unrhyw eitem y gallech fod ei angen. Mae hefyd amrywiaeth o ddewisiadau talu ac nid yw’n rhaid i chi fod â chyfrif banc. Gallwch dalu gyda cherdyn credyd, defnyddio arian neu gael mynediad i gyllid fforddiadwy llog isel drwy undebau credyd.

Mae ynglyn â’ch helpu chi i wneud i’ch arian fynd ymhellach - a phrynu’n fwy craff.

Cefnogir Smarterbuys gan Tai Calon. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd adref, gallwch fynd ar y we am ddim yn ei swyddfa yn y Blaenau neu mewn lleoedd eraill yn y gymuned fel eich llyfrgell lleol.

.I danysgrifio i Smarterbuys ewch i www.smarterbuys.org

Byddwch yn graff - defnyddiwch Smarterbuys.

Gallwch ddilyn Smarterbuys ar twitter: @smarterbuys

Trefnu cyllidebBeth yw cyllideb? Yn syml, gweithio allan faint o arian sydd gennych ar ôl bob wythnos neu fis ar ôl talu eich holl filiau. Mae’n wirioneddol mor syml ag mae’n swnio!

• Yn gyntaf, mae gweithio allan faint o arian a gewch bob wythnos neu bob mis yn swnio’n rhwydd ond cofiwch gyfrif eich holl daliadau yn yr un ffordd - un ai’n wythnosol neu’n fisol.

• Yn ail, gweithiwch allan faint a dalwch mewn biliau bob wythnos neu fis.

• Yr hyn sydd gennych ar ôl yw’r hyn y gallwch fforddio talu eich dyledion gydag ef.

• Os canfyddwch nad oes gennych unrhyw arian dros ben ar ôl talu eich biliau CHWILIWCH AM HELP NAWR. Peidiwch oedi.

Lle i gael cyngor ar arian Llinell Ddyled Genedlaethol ... ffoniwch am ddim ar 0808 808 4000 neu ewch i www.nationaldebtline.co.uk/england_wales.

Y Gwasanaeth Cyngor Arian yng Nghymru ...

ffoniwch 0300 330 0520 neu ymweld â www.moneyadviceservice.org.uk

Cristnogion yn erbyn Tlodi ffoniwch am ddim a 0800 328 0006 neu ewch i www.capdebthelp.org

Cyngor Ar Bopeth ... ffoniwch 08444 77 20202 neu ymweld â www.citizensadvice.org.uk

Lle i gael cyngor am newidiadau i fudd-daliadauShelter Cymru ... ffoniwch 0845 075 5005 neu e-bost [email protected]

Os ydych yn cael trafferth yn talu eich rhentTai Calon ... ffoniwch ein tîm Incwm ar 0300 303 1717

Page 18: Calon y mater Newsletter chwech

Mae gan Marjorie Slocombe gegin newydd sbon a hon yw’r 1,2000fed i’w gosod gan Tai Calon. Mae’r landlord cymdeithasol yn gwario £111 miliwn erbyn 2015 i ddod â’i holl gartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru, a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

“Rwyf wrth fy modd,” meddai Mrs Slocome o Swffryd. “Mae fy nghegin newydd yn fendigedig. Rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd y mae’n edrych.”

Dewisodd Mrs Slocombe gegin olwg derw gyda wynebau gwaith du. “Pan oeddem yn cynllunio fy nghegin, fe wnes newid y cynllun a phenderfynu prynu ffwrn newydd i fynd gyda fy nghegin newydd. Y cyfan rwyf angen nawr yw bwrdd a chadeiriau newydd i gwblhau’r olwg.”

I nodi cyrraedd y 1,200fed carreg filltir, cyflwynodd Jen Barfoot, Prif Weithredydd Tai Celyn, degeirian hufen i Mrs Slocombe i gyd-fynd â’r lliw a ddewisodd ar gyfer waliau’r gegin.

“Mae ein gwaith ar Safon Ansawdd Tai Cymru ar darged ac ar gyllideb”, meddai Jen Barfoot. “Nid yn unig hynny, mae’r gwaith a wnawn yng nghartrefi pobl yn gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt

hwy a’r cymunedau lle maent yn byw.”

Gall tenantiaid ddewis o blith pedwar cynllun lliw ar gyfer eu cegin. Gallant hefyd ddewis pa fath o ddolen drws cypyrddau, teils wal a wyneb gwaith.

Mae Dave Solley yn rheolydd safle ar gyfer R ac M Williams, un o’r wyth contractwr sy’n gweithio gyda thîm gwasanaethau eiddo Tai Cymru i wneud gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru.

“Bu’r derw a’r du yn ddewis poblogaidd iawn yn Swffryd.

Rydym yn gwneud gwaith mewn 180 o gartrefi yn yr ardal ac rydym wedi gorffen 25 ers i ni ddechrau ym mis Ebrill, gyda chegin Mrs Slocombe yn un ohonynt. Mae’n wych gweld ei bod mor falch gyda’r olwg orffenedig,” meddai.

Dywedodd Jen Barfoot, “Rydym hefyd yn adnewyddu systemau gwresogi a thoeau lle mae angen hynny fel rhan o’r Safon. Dangosodd arolwg diweddar fod mwy na 98 y cant o’r tenantiaid fod y gwaith gorffenedig yn dda neu’n rhagorol.”

Y 1,200fed cegin

14

Page 19: Calon y mater Newsletter chwech

15

Mae prosiect yn hyfforddi tenantiaid Tai Calon i gynnal arolygon boddhad wythnosol wedi ennill yr hyn sy’n cyfateb â gwobr “Oscar” yn y sector tai cymdeithasol. Gwelir Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru fel uchafbwynt blynyddol i’r sefydliad. Mae’r gwobrau’n dathlu’r ffyrdd blaengar y mae tenantiaid yn gweithio gyda’u landlordiaid i wella gwasanaethau.

Roedd Tai Calon ar y rhestr fer ar ôl iddo gynnal cwrs wyth wythnos mewn Gofal Cwsmeriaid. Cafodd yr wyth myfyriwr, oedd yn cynnwys pump o denantiaid Tai Calon, dystysgrif Rhwydwaith Coleg Agored. Fe wnaethant hefyd wirfoddoli i gynnal arolygon ffôn ar rai Tai Calon, gofyn i breswylwyr beth oedd eu barn am y gwaith trwsio a wnaed yn eu carrefi.

Roedd y tenant Natalie Egan, sy’n fam i un plentyn, yn un o’r grwp. Roedd hi a thenantiaid eraill ac aelodau staff yn y gynulleidfa i weld Tai Calon yn ennill ei “Oscar”. Mae wedi dechrau’n ddiweddar ar gontract blwyddyn gyda’r sefydliad ar ôl defnyddio’r sgiliau a ddysgodd i wneud cais llwyddiannus am ei swydd fel Swyddog Cydlynu Tenantiaid.

Dywedodd Hayley Selway, Cyfarwyddydd Cynorthwyol Tai a Chymunedau: “Hanfod y wobr yma yw cefnogi ac annog pobl eraill drwy waith a chyfleoedd hyfforddi i wella gwasanaethau tai. Rydym ni yn Tai Calon yn llwyr tu ôl i’r egwyddor ac yn cynorthwyo eraill i’w helpu eu hunain.”

Casglwyd y wobr gan Natalie a Hayley. Yn ei haraith, dywedodd Natalie wrth y gynulleidfa, “Roedd yr OCN mewn gofal cwsmeriaid yn brofiad gwych i’r holl denantiaid. Fe’n gwnaeth yn llawer mwy hyderus drwy gymryd rhan yn yr arolygon boddhad ffôn wythnosol.”

Roedd Natalie wedi ymrestru ar y cwrs ar ôl clywed amdano gan ei ffrind Kelly Bratcher. Mewn gwirionedd, mae’n llwyddiant dwbl i’r ddwy. Penodwyd Kelly i swydd lawn-amser gyda Tai Calon yn ddiweddar. Ymunodd â’r sefydliad fel cynghorydd gwasanaethau cwsmeriaid drwy Paru Swyddi a chafodd wedyn gontract dros dro cyn cael ei chyfweld a’i phenodi’n barhaol i’r swydd yn Tai Calon.

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru

Natalie Egan, yn gwneud ei haraith, gyda Hayley Selway

Tenantiaid a Staff gyda’n gwobr

Page 20: Calon y mater Newsletter chwech

Dyma’r hyn a wnaethom am rai o’r pethau y gwnaethoch eu codi gyda ni yn ystod teithiau cymdogaeth.

Dywedoch chi... Beth ydych chi’n mynd i’w wneud am y partïon a gynhelir mewn carafan sydd wedi parcio’n anghyfreithlon yn Nhredegar?

Gwnaethom ni... Symudwyd y garafán a’r sbwriel o’i hamgylch.

Dywedoch chi... Beth ydych chi’n ei wneud am faw cwn mewn ardaloedd cymunol yn St Georges Court yn Nhredegar?

Gwnaethom ni... Anfonwyd llythyr at bob tenant yn eu hatgoffa am eu cyfrifoldebau i lanhau ar ôl eu cwn. Ar ein cais, ni, gosododd Cyngor Blaenau Gwent “finiau gwastraff cwn” ac ymddengys i’r broblem gael ei datrys.

Dywedoch chi... Mae problem gyda sbwriel a gadael sbwriel yn anghyfreithlon ar dir agored yn Ysguborwen, Tredegar.

Gwnaethom ni... Rydym wedi trefnu gyda Chyngor Blaenau Gwent i’w staff gasglu sbwriel yn rheolaidd yn yr ardal.

Dywedoch chi... Mae problem gyda sbwriel a gadael sbwriel yn anghyfreithlon ar dir agored yn y biniau yn fflatiau Newtown, Glynebwy?

Gwnaethom ni... Cafodd yr ardal ei glanhau a rhoddwyd biniau sbwriel mwy. Byddwn yn cynnal arolygiadau rheolaidd i sicrhau y cedwir y broblem dan reolaeth.

Dywedoch chi... Beth ydych chi’n ei wneud am sbwriel yng ngherddi tai gwag ar

stad Bryn Farm ym Mrynmawr?

Gwnaethom ni... Rydym yn ei glirio.

Dywedoch chi... Mae mwswgl ar y llwybrau yn Beaumont Close, Nantyglo.

Gwnaethom ni... Fe wnaethom gysylltu â Chyngor Blaenau Gwent a chafodd y llwybrau eu glanhau.

Ymunwch â ni ar daith o’ch stad. Y syniad yw i staff a thenantiaid:

• Nodi gwelliannau yr hoffent eu gweld i ardaloedd cymunol yn yr ardal, a

• Nodi problemau sy’n gwaethygu ymddangosiad yr ardal, fel sbwriel ar y llwybrau, sbwriel a adawyd mewn gofodau cymunol, tyllau yn y ffyrdd ac ati.

Bydd lluniaeth ar gael ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan.

16 Cadwch fi! Gwybodaeth y gallwch fod eisiau ei chadw

We all want to live in a nice, clean and safe neighbourhood, which is why we organise regular estate walkabouts.

Teithiau Cymdogaeth

Page 21: Calon y mater Newsletter chwech

17

Teithiau Cymdogaeth Cwm Sirhywi

Ardal Man cyfarfod Dyddiad

Georgetown 10.00 am maes parcio gyferbyn â Cwrt Peacehaven Mawrth 24 Gorffennaf

Sirhywi Isaf 10.00 am maes parcio St James Way Mawrth 31 Gorff a 4 Medi

Cefn Golau 10.00 am tu allan Ty Cymunedol, Attlee Way Mawrth 7 Awst a 25 Medi

Ashvale 10.00 am cornel Gerddi Griffiths/Sgwâr Griffiths Mawrth 17 Gorff a 11 Medi

Canol y Dref 10.00 am maes parcio St Georges Court wedyn 10.30 am tu allan Ysgol Deighton

Mawrth 14 Awst

Ysguborwen 10.00 am tu allan Top Shop, Ysguborwen Mawrth 10 Gorff a 28 Medi

Nantybwch a Tafarnaubach

10.00 am tu allan Fflat Gymunedol Waundeg Mawrth 21 Awst

Dukestown 10.00 am ger 1 Ystrad Deri Mawrth 3 Gorff a 18 Medi

Os hoffech fwy o wybodaeth am Deithiau Cymdogaeth Tai Calon yn Nhredegar, cysylltwch â Kelsey Watkins, Swyddog Ymgyfraniad a Buddsoddiad Cymunedol ar 0300 303 1717.

Nantybwch & TafarnaubachArdal Man cyfarfod Dyddiad

Beaufort 12.00 pm paes marcio, cefn Dawnsfa Beaufort 12.30 am mynedfa safle Bryn Coch 12.55 pm cwrdd yn Lansbury Terrace

Mawrth 31 Gorffennaf

Garnlydan 12.00 pm tu allan Clwb Garnlydan, Queensay Mawrth 7 Awst

Rhasa Isaf 12.00 pm tu allan Clwb Ty Bryn, Heol Rhasa Mawrth 21 Awst

Rhasa Uchaf 12.00 pm tu allan Canolfan Gymunedol Rhasa Mawrth 17 Gorff a 25 Medi

Hilltop Uchaf 12.00 pm tu allan siopau Canolfan Siopa Hilltop Mawrth 4 Medi

Brynteg 12.00 pm tu allan siopau Canolfan Siopa Hilltop Mawrth 14 Awst

Hilltop Isaf 12.00 pm tu allan siopau Canolfan Siopa Hilltop Mawrth 3 Gorff a 11 Medi

Rhiw Briery 12.00 pm tu allan Clwb RTB, Stryd Drysiog Mawrth 24 Gorffenaf

Drenewydd 12.00 pm tu allan mynedfa Fflatiau Princes Court Mawrth 28 Awst

Glyncoed 12.00 pm tu allan mynedfa Cwrt Glanffrwd Mawrth 10 Gorffennaf

Cwm 12.00 pm mynedfa’r ysgol, Stryd Curre Mawrth 18 Medi

Os hoffech fwy o wybodaeth am Deithiau Cymdogaeth Tai Calon yng Nglyn Ebwy, cysylltwch â Natasha Jones, Swyddog Ymgyfraniad a Buddsoddiad Cymunedol ar 0300 303 1717

Teithiau Cymdogaeth Cwm Ebwy Fach

Ardal Man cyfarfod Dyddiad

Twyncynghordy 10.00 am Siop Twyncynghordy Iau 2 Awst

Stad Gurnos 10.00 am mynedfa stad Gurnos Mawrth 5 Gorffennaf

Bryn Farm 10.00 am mynedfa stad Bryn Farm Iau 26 Gorff a 13 Medi

West Side 10.00 am maes parcio Parry Jones Close Iau 9 Awst

Winchestown 10.00 am maes parcio stad Waunheulog Iau 27 Medi

Coed Cae 10.00 am tu allan i'r ganolfan gymunedol Iau 30 Awst

Ffosmaen 10.00 am tu allan Tafarn Ffosmaen Iau 16 Awst

Cwmcelyn 10.00 am maes parcio Troed y Bryn Iau 6 Medi

Roseheyworth 10.00 am maes parcio ger 43 Arael View 10.30 am maes parcio ger 79 Arael View

Iau 12 Gorffennaf

Cwmtyleri 10.00 am mynedfa Valley View Iau 23 Awst

Brynithel 10.00 am maes parcio ger 1 Hafodarthen Bungalows Iau 20 Medi

Swffryd 10.00 am tu allan siopau Swffryd Iau 19 Gorffennaf

Os hoffech fwy o wybodaeth am Deithiau Cymdogaeth Tai Calon yn Abertyleri, Blaenau a Brynmawr, cysylltwch â Chloe Williams, Swyddog Ymgyfraniad a Buddsoddiad Cymunedol ar 0300 303 1717

Teithiau Cymdogaeth Rheolaidd

Page 22: Calon y mater Newsletter chwech

18

Mae’ch cytundeb tenantiaeth yn nodi’r pethau cyfreithiol i’w gwneud a pheidio eu gwneud wrth rentu eich cartref gan Cartrefi Cymunedol Tai Calon. Rydym hefyd yn rhoi “pecyn croeso” i denantiaid newydd sy’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am sut i gysylltu â ni, yr hyn y gallwn ei wneud i chi a sut i gael help os aiff pethau o chwith. Rydym

hefyd yn cynnwys ychydig o fagiau te a mwg ar gyfer hanfodion sylfaenol bywyd.

Weithiau mae angen i ni ddiweddaru’r wybodaeth, neu anfon manylion atoch am gynllun newydd. Rydym eisiau i chi ddweud wrthym sut y dylid gwneud hyn.

Mae pum opsiwn ac mae gennych hyd 21 Gorffennaf 2012 i bleidleisio am ba ddull sydd orau gennych:

1. Llawlyfr tenantiaid ... yn faint nofel clawr caled gyda’r holl wybodaeth wedi ei hargraffu ar dudalennau wedi’u rhwymo’n llyfr. Mantais ... Popeth am eich tenantiaeth a bod yn rhan o deulu Tai Calon mewn un ddogfen. Anfantais ... bydd yn rhaid ei ailargraffu yn rheolaidd a byddai’n ddrud dal ati i’w atgynhyrchu.

Llawlyfr Tenantiaid

Mae Tai Calon yn dymuno ethol 3 tenant i fod yn aelodau o’r Bwrdd. Mae aelodau o’r Bwrdd yn gyfrifol am:

• Gosod amcanion a chytuno ar y cynlluniau i gyflawni’r amcanion

• Cymeradwyo cyllidebau a chyfrifon

• Monitro perfformiad y sefydliad o gymharu â chyllideb, cynlluniau a thargedau

• Sicrhau bod Tai Calon yn gwireddu’r addewidion a wnaeth i denantiaid

Etholiad 2012 Tenant Aelodau Bwrdd Cartrefi Cymunedol Tai Calon

Cefais fy ngeni yn y ty lle rwyf yn byw yn awr yn Nantyglo. Priodais a byw mewn carafan cyn i ni fod yn ffodus i gael ty cyngor yn Winchestown. Fel cynghorydd ym Mlaenau Gwent, bûm yn aelod o fwrdd Tai Calon. Rwy’n awr yn sefyll am etholiad fel tenant aelod oherwydd fy mod yn angerddol am y bobl a’r sir yr ydym yn byw ynddi.

Rwyf eisiau gweld Tai Calon yn ehangu fel busnes, gan ddarparu cartrefi y mae eu mawr angen ar gyfer pobl leol. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am sut y bydd y newidiadau i fudd-daliadau yn effeithio ar breswylwyr a’u teuluoedd.

Shirley Ford

Yn dad-cu balch, rwyf wedi byw a gweithio yng Nglynebwy ar hyd fy oes. Yn awr wedi ymddeol, rwy’n falch i fod y tenant cyntaf erioed i’w ethol i fwrdd Tai Calon.

Pan oeddwn ar y bwrdd dysgais lawer am sut y caiff tai cymdeithasol eu gweithredu a’u rheoleiddio. Rwy’n sefyll eto oherwydd mod i eisiau parhau i ddefnyddio’r profiad a gefais er budd tenantiaid a Tai Calon.

Mae gan y bwrdd rôl mor bwysig yn y ffordd y mae Tai Calon yn gweithredu o ddydd i ddydd ac mae’r sgiliau gennnyf i helpu i hybu’r busnes.

Page 23: Calon y mater Newsletter chwech

19

Etholiad 2012 Tenant Aelodau Bwrdd Cartrefi Cymunedol Tai Calon

Rwy’n fam sydd wedi byw yn Nantyglo y rhan fwyaf o fy oes a bûm yn denant am chwe mlynedd. Er fod gennyf gymwysterau fel weldiwr, rwy’n rhoi fy amser i weithio i’r gymuned. Rwy’n is-lywydd Parc Nant-y-Waun ac yn gwirfoddoli i Cymunedau yn Gyntaf a Phrosiect Dydd Gwener yn gweithio gyda phobl ifanc ar gynlluniau amgylcheddol.

Rwy’n angerddol am fy nghymuned a mynd i’r afael â thlodi. Mae pobl angen lleoedd diogel a chysurus i fyw ynddynt a chymunedau i ymfalchïo ynddynt. Bûm yn ymwneud gyda’r bwrdd ers cyn y trosglwyddo ac rwyf eisiau parhau i wasanaethau i sicrhau ein bod yn cyflawni ein haddewidion er budd tenantiaid.

Julia Gregg

Mae gennyf lawer iawn o brofiad mewn rheoli pobl a’u hannog i gyflawni eu potensial. Rwyf hefyd wedi gweithio ar raglenni’n helpu pobl ddiwaith yn ôl i swyddi. Bûm hefyd yn gynghorydd yn Nhredegar ac yn Denant Arolygydd gyda Swyddfa Archwilio Cymru yn asesu sut mae cymdeithasau tai yn trin a chynnwys eu tenantiaid.

Bûm yn ymwneud â Tai Calon ers cyn-trosglwyddo ac yn aelod o’r bwrdd ers hynny. Rwyf eisiau sicrhau fod buddiannau tenantiaid yn flaenllaw pan gymerir penderfyniadau. Rwyf yn arbennig eisiau sicrhau y caiff tenantiaid anabl a bregus eu trîn yn unol â’u hanghenion.

Margaret Rettalick

Rydym angen i chi gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy bleidleisio am y 3 tenant y credwch y dylent fod ar y Bwrdd.

Cynhelir yr etholiad yn annibynnol gan Central Consultancy and Training. Byddwn yn ysgrifennu atoch yn y dyfodol agos gyda’ch papurau pleidleisio. Dylid eu dychwelyd i’r cwmni erbyn 18 Awst 2012.

Gwelir yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad islaw, gyda pharagraff byr amdanynt eu hunain. Caiff canlyniadau’r etholiad eu cadarnhau yn y CCB ar 24 Medi 2012.

Manteision y pedwar awgrym islaw ...rhatach i’w cynhyrchu a rhwyddach i’w diweddaru. Anfonir gwybodaeth newydd mewn taflen at bob tenant ar gael ar gais. Anfantais ... dim yn llyfr wedi’i rwymo.

2. Ffolder tenantiaid ... Rhoddir ffolder i denantiaid ar gyfer cadw eu cytundeb tenantiaeth a thaflenni.

3. Rhwymydd cylch tenantiaid ... eto, maint nofel clawr caled

... byddech yn cael dogfennau gyda thyllau ar yr ochr i’w gosod yn y rhwymydd. Byddid yn anfon taflenni newydd i denantiaid neu eu cynnwys yn y cylchlythyr.

4. Gwefan Tai Calon ...byddai tenantiaid yn dal i gael cytundeb, ond byddai’r holl wybodaeth arall ar gael ar-lein ar ein gwefan.

5. Dim llawlyfr ...parhau fel ar hyn o bryd, yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan, ac yn rhoi taflenni ar wahanol bynciau i

denantiaid sy’n gofyn amdanynt.

Medrwch bleidleisio mewn tair ffordd:

1. Llenwi ac anfon y ffurflen amgaeedig.

2. Pleidleisio yn y diwrnod hwyl tenantiaid ar 21 Gorffennaf 2012

3. Pleidleisio ar Facebook.

Mae eich barn yn bwysig i ni. Gofynnwn i chi roi amser i bleidleisio a dweud wrthych beth a ddymunwch.

Page 24: Calon y mater Newsletter chwech

yng nghalon eich cymuned

Diwrnod llawn hwyl, am ddim i’r holl deulu!

Gemau Tai CalonDiwrnod hwyl Tenantiaid11am – 4pm

Dydd Sadwrn 21 Gorffennaf 2012

yn Swyddfa Tai Calon, Blaenau

Ffoniwch 0300 303 1717 yn awr i gael eich tocyn am ddim!

Gwobrau

GemauVelcro

Ymryson

SioedeitholBRfm

Reidiauffair

GweithgareddauthemauOlympaidd

Gyda:

Cludiant am ddim

Enilliwch ginio am ddim

35200 Tai Calon Games A5 Flyer v3.indd 2 06/07/2012 18:59