canllaw i etholwyr ardrethi busnes: cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... ·...

10
Cynulliad Cenedlaethol Cymru Senedd Ymchwil www.cynulliad.cymru/ymchwil Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

Upload: others

Post on 06-Aug-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Cynulliad Cenedlaethol CymruSenedd Ymchwil

www.cynulliad.cymru/ymchwil

Canllaw i EtholwyrArdrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

Page 2: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’ncael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychiolibuddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu argyfer Cymru, i gytuno ar drethi yng Nghymru,ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Gallwch weld copi electronig o’r ddogfen hon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol: www.cynulliad.cymru/ymchwil

Gellir cael rhagor o gopïau o’r ddogfen hon mewn ffurfiau hygyrch, yn cynnwys Braille, print bras, fersiwn sain a chopïau caled gan:

Senedd Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Tŷ Hywel Bae Caerdydd CF99 1NA

Ffôn: 0300 200 6307 E-bost: [email protected] Twitter: @SeneddResearch Blog: SeneddResearch.blog

© Hawlfraint Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2018 Ceir atgynhyrchu testun y ddogfen hon am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled ag y caiff ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol na difrïol. Rhaid cydnabod mai Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl y ddogfen.

Page 3: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Cynulliad Cenedlaethol CymruSenedd Ymchwil

www.cynulliad.cymru/ymchwil

Canllaw i EtholwyrArdrethi busnes: Cwestiynau cyffredinAwdur: Gareth ThomasDyddiad: Mai 2018Rhif yr ymholiad: 18-036

Page 4: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

1

Gofynnir i'r Gwasanaeth Ymchwil yn rheolaidd am ardrethi busnes, a sut maent yn berthnasol i fusnesau unigol mewn etholaethau a rhanbarthau. Mae'r hysbysiad hwylus hwn yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin. Mae'n rhoi atebion cyffredinol i gwestiynau, oherwydd y dylai busnesau ag achosion cymhleth ofyn am gyngor naill ai gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu weithiwr proffesiynol cymwysedig addas.

Beth yw ardrethi busnes, a sut maent yn gweithredu yng Nghymru?

Mae ardrethi busnes (a elwir weithiau'n ardrethi annomestig) wedi'u datganoli'n llwyr i Gymru ers mis Ebrill 2015.

Ffynonellau: Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Stock of Properties and update of 2017 revaluation statistics a Llywodraeth Cymru, Cyllideb Derfynol 2018-19

Caiff ardrethi busnes eu cyfrifo yn y modd canlynol yng Nghymru:

Mae gwerth ardrethol eiddo yn amcangyfrif o faint y gellid ei rentu fesul blwyddyn ar y farchnad agored ar adeg benodol. Yna, caiff hyn ei luosi â'r 'geiniog yn y bunt' o'r gwerth ardrethol a dalwyd mewn ardrethi busnes, a elwir yn lluosydd, i gyfrifo'r rhwymedigaeth ardrethi busnes ar gyfer yr eiddo. Mae unrhyw ryddhad y mae'r eiddo yn gymwys i'w gael yn cael ei dynnu oddi ar y rhwymedigaeth yn y bil ardrethi busnes terfynol.

Page 5: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

2

Yng Nghymru, mae ardrethi busnes yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol a'u talu i mewn i 'gronfa' genedlaethol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Yna, cânt eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fel rhan o'r Setliad Llywodraeth Leol a Setliad yr Heddlu blynyddol.

Sut mae biliau ardrethi busnes yn newid o flwyddyn i flwyddyn?

Mae'r lluosydd ardrethi busnes yn cynyddu ar ddechrau pob blwyddyn ariannol yn ôl y gyfradd chwyddiant yn y mis Medi blaenorol. Mae hyn yn golygu y bydd y rhwymedigaeth ardrethi busnes hefyd yn cynyddu. O 2018-19, caiff mesur chwyddiant CPI ei ddefnyddio yn lle RPI, sy'n golygu y bydd llai o gynnydd i fusnesau yn eu bil nag y byddent pe bai RPI wedi'i ddefnyddio.

Yn ogystal, mae ardrethi busnes fel arfer yn cael eu hailbrisio bob pum mlynedd. Cynhelir hyn yn annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), corff Llywodraeth y DU sy'n un o asiantaethau gweithredol Cyllid a Thollau EM. Daeth yr ailbrisiad diweddaraf i rym ym mis Ebrill 2017, a bydd yr un nesaf yn dod i rym yn 2022 (er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr ailbrisiad nesaf yn Lloegr, a fydd hefyd yn cael ei wneud gan y VOA, yn dod i rym yn 2021 ac y bydd ailbrisiadau yn y dyfodol yn cael eu cynnal bob 3 blynedd ar ôl hyn). Mae'r ailbrisiadau'n adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo ledled Cymru, ac yn ailddosbarthu rhwymedigaethau ardrethi busnes yn ôl y rhain yn hytrach na cheisio codi refeniw ychwanegol. Gall biliau busnesau unigol godi neu ddisgyn. Fodd bynnag, bydd y bil cyfartalog yn codi yn ôl y gyfradd chwyddiant.

Pa rolau sydd gan sefydliadau gwahanol wrth weinyddu ardrethi busnes?

Mae'r VOA yn asesu gwerth ardrethol yr holl eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gwneud hyn yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Dyma'r cyswllt cyntaf hefyd os yw busnes yn credu bod ei fil yn anghywir oherwydd bod y gwerth ardrethol yn anghywir.

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r lluosydd ardrethi busnes bob blwyddyn ariannol, ac yn pennu polisi ardrethi busnes cenedlaethol, gan gynnwys pennu rhyddhad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gyfrifol am y polisi ardrethi busnes a'i weinyddu.

Mae awdurdodau lleol yn casglu ardrethi busnes yn eu hardaloedd, a gallant hefyd ddyfarnu rhyddhad dewisol i fusnesau dan eu hawdurdod.

Page 6: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

3

Sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn pennu gwerthoedd ardrethol ar gyfer eiddo?

Ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo, mae'r VOA yn casglu manylion tystiolaeth rhentu. Mae'n pennu gwerthoedd sylfaenol cyffredin fesul metr sgwâr ar gyfer eiddo tebyg mewn ardal, ac yna'n addasu'r rhain er mwyn ystyried nodweddion unigol eiddo ac yna'n cymhwyso hyn i arwynebedd llawr yr eiddo.

Mae eiddo megis tafarnau a gwestai mawr lle mae'r gwerth rhentu'n gysylltiedig â throsiant yn cael eu prisio gan ddefnyddio'r dull derbynebau a gwariant. Mae hyn yn defnyddio eu potensial masnachu, a'u proffidioldeb, fel dangosydd gwerth. Mae’r VOA wedi cytuno ar god ymarfer ar gyfer prisio tafarnau â chyrff cynrychioliadol masnach sy'n nodi sut mae'r dull hwn yn gweithio'n ymarferol.

Nid yw eiddo penodol megis ysbyty neu waith dur fel arfer yn cael eu rhentu. Ar gyfer eiddo megis hyn, defnyddir dull a elwir yn sail contractwr i neilltuo gwerth ardrethol i eiddo. Mae hyn yn edrych ar gost disodli'r adeilad ac, ar ôl ei addasu, yn cymryd canran benodedig o'r gost honno fel y gwerth ardrethol.

Beth sydd yn digwydd pan fo newid mewn amgylchiadau ynghylch eiddo busnes?

Dylai talwyr ardrethi ddefnyddio gwasanaeth adrodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn sgil unrhyw un o’r newidiadau a ganlyn i sicrhau eu bod yn talu’r ardrethi busnes cywir:

os gwneir newidiadau i eiddo busnes;

os yw categori busnes sy’n meddiannu eiddo yn newid;

os yw rhan o eiddo’n cael ei is-osod; neu

os caiff dau neu fwy o adeiladau eu huno.

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asesu a yw’r newid yn cyfiawnhau addasu gwerth ardrethol yr eiddo perthnasol.

Page 7: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

4

Sut mae'r broses apelio'n gweithio os yw busnes yn ystyried bod ei werth ardrethol yn anghywir?

Os yw busnes yn credu bod y gwerth ardrethol y mae'r VOA wedi'i neilltuo i eiddo yn anghywir, dylai gysylltu â hi trwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0300 050 5505.

Er y gellir datrys llawer o achosion yn ystod y cam hwn, mae proses apelio ffurfiol y gellir ei dilyn mewn rhai amgylchiadau. Mae ganddi dri cham – cyflwyno apêl i'r VOA, trafodaethau ffurfiol â'r VOA ac, os na ellir dod i gytundeb, mynd â'r achos i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Er mwyn perswadio'r VOA neu'r tribiwnlys y dylid newid gwerth ardrethol busnes, mae'r VOA yn dweud y bydd angen i drethdalwyr nodi unrhyw anghysondeb ffeithiol, rhoi tystiolaeth i ategu dadleuon a rhoi prisiad arall.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar wneud newidiadau i'r broses apelio. Cynigir newidiadau posibl mewn meysydd, gan gynnwys pwy sy'n cael apelio, cyfnodau amser ar gyfer y broses apelio, gan rannu gwybodaeth rhwng y VOA a'r trethdalwr, ôl-ddyddio apeliadau, ffioedd, a rôl Tribiwnlys Prisio Cymru.

Gan bwy y gall etholwyr gael cyngor mewn perthynas ag ardrethi busnes?

Mewn perthynas ag achosion unigol cymhleth, argymhellir bod trethdalwyr busnes yn ceisio cyngor gan weithiwr proffesiynol cymwysedig addas. Cynghorir busnesau sydd â chwestiynau am werth ardrethol eu heiddo i gysylltu â'r VOA yn yr achos cyntaf. Fodd bynnag, mae nifer o ffynonellau cymorth eraill hefyd ar gael:

Gall trethdalwyr busnes gael 30 munud o gyngor am ddim trwy ffonio llinell ymholiadau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar 024 7686 8555.

Gall trethdalwyr gael cyngor gan syrfewyr ardrethu proffesiynol trwy Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw neu'r Gymdeithas Syrfewyr Ardrethu. Fodd bynnag, mae'n werth bod yn ymwybodol y gall syrfewyr ardrethu godi tâl am unrhyw gyngor a roddir o ddechrau'r broses.

Ar gyfer ymholiadau mwy cyffredinol, neu os yw busnes yn cael anawsterau wrth dalu ei filiau, y cyswllt cyntaf yw'r awdurdod lleol perthnasol.

Page 8: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

5

Pa ryddhad sydd ar gael i fusnesau?

Mae ystod o fentrau gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy'n rhoi rhyddhad i fusnesau. Mae rhyddhad yn ffordd o leihau swm yr ardrethi busnes a gaiff eu talu ar eiddo.

Ers mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol. Mae hyn yn eithrio eiddo busnes cymwys â gwerth ardrethol hyd at £6,000 rhag talu ardrethi busnes yn gyfan gwbl. Mae eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n cael ei leihau ar dapr; gyda chanran y rhyddhad ardrethi a ddyfarnwyd yn gostwng 1 y cant am bob £60 o werth ardrethol dros £6,000. Bydd busnesau â sawl eiddo yn gallu cael rhyddhad ar ddau eiddo fesul awdurdod lleol.

Bydd busnesau bach sy'n cael rhyddhad trosiannol ar hyn o bryd, yn dilyn ailbrisio ardrethi busnes 2017, yn parhau i gael rhyddhad yn 2018-19 a 2019-20. O dan gynllun Llywodraeth Cymru, roedd busnesau a gafodd ryddhad ardrethi busnesau bach cyn yr ailbrisiad, ond a gafodd ostyngiad yn lefel y rhyddhad y mae ganddynt hawl iddo ar ôl yr ailbrisiad yn gallu elwa ar y rhyddhad hwn. Byddant wedi talu 25 y cant o'r cynnydd yn eu rhwymedigaeth yn 2017-18, a byddant yn talu 50 y cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn yn 2020-21.

Yn 2018-19, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi darparu £1.3 miliwn i awdurdodau lleol ddatblygu eu cynlluniau rhyddhad ardrethi dewisol eu hunain i gynorthwyo busnesau yn eu hardal leol a fyddai'n elwa fwyaf ar gymorth ychwanegol.

Mae gan awdurdodau lleol hefyd bwerau i ddyfarnu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol hyd at 100 y cant i fusnesau yn eu hardal, er ei bod yn ofynnol iddynt ariannu costau hyn yn llawn.

Caiff awdurdodau lleol ddefnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu rhyddhad caledi hyd at 100 y cant i fusnesau yn eu hardal. Caiff awdurdod ddyfarnu rhyddhad caledi os yw'n fodlon y byddai'r trethdalwr yn profi caledi heblaw am hynny, ac mae'n rhesymol iddo wneud hynny ar ôl ystyried buddiannau talwyr y dreth gyngor.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal cyfres o gynlluniau i roi rhyddhad i fusnesau bach newydd neu sy'n ehangu mewn Parthau

Page 9: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

6

Menter. Caeodd y cynllun diweddaraf ar 30 Mawrth 2018, felly mae'n werth cadw llygad ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol.

Pa ryddhad sydd ar gael i fusnesau mewn sectorau penodol?

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhyddhad amrywiol ar gyfer sectorau penodol o economi Cymru:

Yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd i lywio'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach newydd, bydd eiddo gofal plant yn cael rhyddhad ardrethi busnes gwell o fis Ebrill 2018. Ni fydd eiddo gofal plant sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn talu dim ardrethi busnes o gwbl, tra bydd eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 ac £20,500 yn cael rhyddhad sy'n cael ei leihau ar dapr wrth i werth ardrethol yr eiddo gynyddu.

Bydd swyddfeydd post sydd â gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn parhau i gael 100 y cant o ryddhad ardrethi busnes o dan y cynllun rhyddhad ardrethi busnes bach parhaol newydd, a bydd y rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn cael rhyddhad o 50 y cant.

Caiff prosiectau hydro cymunedol sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000 wneud cais i gael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant, sy'n golygu nad ydynt yn talu dim ardrethi busnes o gwbl. Yn ogystal, caiff prosiectau hydro bach eraill wneud cais am ryddhad i gyfyngu ar y cynnydd yn eu bil oherwydd ailbrisio ardrethi busnes 2017 i naill ai 10 y cant neu £1,000. Mae rhyddhad ar gael ar gyfer 2018-19, ac yn ôl-weithredol ar gyfer 2017-18. Dyddiad cau'r cynllun ar gyfer ceisiadau yw 31 Gorffennaf 2018.

Bydd cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr yn parhau yn 2018-19, gan roi rhyddhad i eiddo cymwys ar y stryd fawr megis siopau, tafarnau a chaffis sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,001 a £12,000 a gafodd gynnydd yn eu gwerth ardrethol yn dilyn ailbrisiad 2017 yn cael rhyddhad o hyd at £250, tra bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £50,000 yn cael rhyddhad hyd at £750.

Page 10: Canllaw i Etholwyr Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin documents/18-036/18-036-web... · 2018-05-15 · cant o'r cynnydd yn 2018-19, 75 y cant yn 2019-20 cyn talu'r cynnydd llawn

Ardrethi busnes: Cwestiynau cyffredin

7

Pa ryddhad sydd ar gael i sefydliadau eraill sy'n talu ardrethi busnes?

Yn ogystal â busnesau, mae nifer o fathau eraill o sefydliadau yn atebol am ardrethi busnes. Mae sawl rhyddhad ar waith ar gyfer y rhain.

Mae safleoedd busnes sy'n cael eu meddiannu gan elusen gofrestredig neu glwb chwaraeon amatur cymunedol sy'n cael eu defnyddio at ddibenion elusennol yn gymwys yn awtomatig ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes o 80 y cant, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol hefyd yn gallu defnyddio eu disgresiwn i ddyfarnu rhyddhad ychwanegol i elusennau a chlybiau chwaraeon am ran neu'r cyfan o'r 20 y cant sy'n weddill o'u rhwymedigaethau ardrethi busnes. Caiff awdurdodau lleol hefyd benderfynu a ydynt am ddyfarnu rhyddhad ardrethi o hyd at 100 y cant i sefydliadau dielw yn eu hardal.

Caiff safleoedd busnes gwag eu heithrio rhag talu ardrethi busnes am y tri mis cyntaf ar ôl i'r eiddo ddod yn wag. Ar ôl hyn, mae'r rhan fwyaf o berchnogion yn atebol i dalu ardrethi busnes llawn. Fodd bynnag, mae rhai mathau o safleoedd sydd â rheolau gwahanol, megis y rhai sydd â gwerth ardrethol llai na £2,600, safleoedd diwydiannol a safleoedd y mae elusennau a chlybiau chwaraeon yn berchen arnynt.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ardrethi busnes, anfonwch e-bost at Gareth Thomas ([email protected]), y Gwasanaeth Ymchwil.

Gweler hefyd:

Busnes Cymru, Ardrethi Busnes yng Nghymru

Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Find and check your business rates valuation

Asiantaeth y Swyddfa Brisio, How non-domestic (business) properties are valued

Asiantaeth y Swyddfa Brisio, How to check and challenge your rateable value in Wales

Llywodraeth Cymru, Ardrethi annomestig (busnes)