chapter mehefin 2015

29
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 22-Jul-2016

231 views

Category:

Documents


10 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Chapter Mehefin 2015

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Mehefin 2015

Delwedd y clawr: Far From the Madding Crowd

Chwith: Richard Woods, Inclosure Acts, Gosodiad yn Oriel Chapter, 2015. Llun: Warren Orchard

Croeso02 chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

Helo a chroeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Mehefin. Y mis hwn bydd arddangosfa Richard Woods, Inclosure Acts, yn dirwyn i ben. Gan gyfeirio at ddeddfau a newidiodd am byth gefn gwlad Prydain, mae Woods wedi gwahodd y tu allan i’r tu fewn, gan drawsnewid yr Oriel, y Blwch Golau a gofod Celfyddyd yn y Bar â lliwiau a motiffau beiddgar a chwareus. Piciwch draw i weld yr arddangosfa boblogaidd hon cyn dydd Sul 14 Mehefin (tt4-5). Y mis hwn hefyd bydd Theatr Iolo yn cyflwyno drama angerddol, gomig a thywyll Christopher Brett Bailey, This Is How We Die (t11), ac rydym yn barod hefyd i groesawu Llwyfan Dawns Cymru (t9), a fydd yn cyflwyno gweithiau dawns o bob cwr o Gymru yn Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr Glan yr Afon, y cyfan yn ystod un penwythnos cyffrous. Draw yn ein sinema, byddwn yn mwynhau detholiad o ffilmiau wedi’u dethol gan Martin Scorsese, y rheiny’n ddathliad o sinema Gwlad Pwyl, (t22) gan gynnwys y campwaith diweddar, Ida (t18). Enillodd y ffilm honno Oscar y ffilm dramor orau yn gynharach eleni ac mae hi’n adrodd hanes merch ifanc ddefosiynol sy’n mynd ar daith lawn emosiwn cyn mynd i fyw fel lleian. Byddwn hefyd yn mwynhau y ffilmiau newydd hir-ddisgwyliedig, Queen and Country (t19) a The Look of Silence (t18), wrth i ni barhau â’n tymor o ffilmiau sy’n myfyrio ar effeithiau gwrthdaro a rhyfel. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!

02

Page 3: Chapter Mehefin 2015

Uchafbwyntiau

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

chapter.org

Oriel tudalennau 4–5

Bwyta/ Yfed/Llogitudalen 6

Cefnogwch Nitudalen 7

Theatr tudalennau 8–12

Chapter Mixtudalen 13

Sinematudalennau 14–25 Addysgtudalennau 26–27

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 28

Cymryd Rhan tudalen 29

Calendr tudalennau 30–31

03

Page 4: Chapter Mehefin 2015

Oriel04 029 2030 4400

Richard Woods: Inclosure ActsTan ddydd Sul 14 Mehefin

‘In Through the Outdoor’Mae Richard Woods yn cyflwyno portreadau cain o rym ac yn ystyried cymdeithas a ffiniau pwer yn ei arddangosfa unigol yn Chapter. Mae ganddo gyffyrddiad ysgafn ond gŵyr hefyd sut a phryd i fynnu pwyslais. Mae’r teitl ei hun, Inclosure Acts, yn tynnu llinell — neu yn codi rhwystr — rhwng y presennol a’r gorffennol. Mae’r ‘Inclosure’ yn nheitl y darn yn hen sillafiad ffurfiol o’r gair ‘enclosure’.Roedd y Deddfau Cau Tir a basiwyd gan Senedd Prydain yn gyfrifol am gau tir a oedd, cyn hynny, yn agored ac fe arweiniodd hynny at greu hawliau cyfreithiol a rhenti uwch ar dir a ystyrid yn dir comin. Mae gwaith Woods yn Chapter yn cyflwyno nifer o is-adrannau ar hyd a lled yr adeilad er mwyn tynnu sylw at yr amrywiol ffiniau rhwng breintiedig a difreintiedig, y tu mewn a’r tu allan a ffiniau ymwneud cymdeithasol.Mae comisiwn y Blwch Golau, ar flaen yr adeilad, yn llawn cliwiau am yr hyn sydd ar y tu fewn. Nid yw’n hawdd gweithio â’r lliw gwyrdd ond mae’r cysylltiadau yn y fan hon yn amrywio o arlliwiau emrallt i gaeau gwyrddion, fflworoleuedd modern i wyrdd glaswellt parciau lleol. Mae patrymau ailadroddus Woods yn ormesol, bron iawn, ar raddfa o’r fath, eto i gyd, mae

eu hatyniad addurnol yn denu dyn i longddryllio, fel petai, ar eu creigiau cain. Mae’r patrwm, a ysbrydolwyd gan deils Fictoraidd yn adeilad Chapter, yn hydreiddio gofod yr arddangosfa, lle daw’n fotiff ar lawr yr Oriel. Mae’r ffaith bod y patrwm o dan draed yn hytrach nag uwch pen, yn ennyn teimlad o ryddhad.Ar y llawr pren hwn, a grëwyd â llaw, mae yna gyfres o strwythurau ad-hoc sy’n ymdebygu i giatiau mochyn (‘kissing gates’) neu gamfeydd anffurfiol — roedd y rhain yn bethau cyffredin mewn ardaloedd gwledig ac yn fodd i sicrhau ymwneud rhwng pobl ac i atal symudiadau da byw. Mae’r strwythurau pren yn eich gwahodd fel petai i bwyso arnynt — i hel clecs a straeon. Maent yn teimlo fel cerfluniau cymdeithasol, darnau o gelfyddyd gyfranogol a chyhoeddus go iawn.Mae’r cerfluniau yno ar y naill law i helpu ac, ar y llaw arall, i rwystro taith y gwyliwr o amgylch yr arddangosfa, ac yn fodd o’i ddiogelu rhag y waliau o baneli Ffug-Duduraidd ymosodol. Defnyddiodd Woods yr arddull Ffug-Duduraidd hon — ynghyd ag arddull bensaernïol y brics coch, sy’n perthyn i’r dosbarth bonedd Tuduraidd — mewn ymyriadau pensaernïol blaenorol ac mewn prosiectau dylunio a chelfyddyd gyhoeddus. Y tu allan i’r oriel, mae’r gwaith yn cymryd arno gysylltiadau newydd a

Rich

ard

Woo

ds, I

nclo

sure

Act

s, G

osod

iad

yn O

riel C

hapt

er, 2

015.

Llu

n: W

arre

n Or

char

d

Page 5: Chapter Mehefin 2015

Oriel 05chapter.org

gwahanol raddfeydd, a’r rheiny’n amrywio o’r Blwch Golau i nifer o strwythurau llai sy’n arnofio uwch y byrddau yn y caffi bar. Mae’r brics llachar, rhy llachar bron, fel petaent ar fin disgyn yn ddarnau; maent yn hofran drwy hud a lledrith, efallai, yn barod i syrthio i’r llawr. Fel yn achos y llawr a’r paneli Ffug-Duduraidd, ac er gwaethaf eu rhithfawredd, gwelwn o dipyn i beth eu diffygion. Mae’r gwaith hwn, fel holl waith Woods, yn wledd i’r llygaid, ac mae hi’n bleser ymgolli yn ei fyd, ond y mae’r arddangosfa hefyd yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â phŵer, braint a rheolaeth. Yn Inclosure Acts drwyddi draw, mae Woods yn arwain eich llygaid, eich traed a’ch meddyliau hefyd, gobeithio, ar hyd muriau, rhwystrau a ffiniau real a dychmygol. Mae rhai o’r rhain, yn anochel, yn llwyddo i groesi’r ffin rhwng y tu fewn a’r tu allan, a vice versa.

Detholiad o ysgrif gan Gordon Dalton. Mae’r testun llawn ar gael o’r Oriel, neu gellir ei lawr-lwytho o www.chapter.org/richard-woods-inclosure-acts.

Rich

ard

Woo

ds, I

nclo

sure

Act

s, G

osod

iad

yn O

riel C

hapt

er, 2

015.

Llu

n: W

arre

n Or

char

d

Oriau agor yr arddangosfa: Dyddiau Mawrth, Mercher,Sadwrn a Sul 12–6pm;dydd Iau a dydd Gwener 12–8pm; ar gau ar ddydd Llun

Sgyrsiau am 2Sad 6 Mehefin 2pmMae ein ‘Sgyrsiau am 2’ yn deithiau tywysedig o gwmpas yr arddangosfa gyfredol, yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel!RHAD AC AM DDIM

Off The PageMer 10 Mehefin 6.30pmMae OFF THE PAGE yn archwilio cysylltiadau rhwng ysgrifennu, cyhoeddi a pherfformio ac yn archwilio rhai o elfennau mwy anarferol y celfyddydau gweledol. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal mewn arddull anffurfiol, DIY ac yn caniatáu i artistiaid roi cynnig ar bethau newydd ac i gymryd risgiau. Mae pob artist yn cyflwyno’i waith yn ei ddull unigryw a phersonol ei hun. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i gadw lle.Caiff sesiynau OFF THE PAGE eu curadu gan Samuel Hasler, artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd ym meysydd testun a pherfformio.RHAD AC AM DDIM

Page 6: Chapter Mehefin 2015

Bwyta Yfed Llogi06 029 2030 4400

LlogiMae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at [email protected].

Bwyta + YfedYdych chi’n llogi un o’n hystafelloedd? Boed eich digwyddiad yn gyfarfod, yn gynhadledd, yn sesiwn hyfforddi neu’n ddigwyddiad o unrhyw fath arall, gallwn ddarparu lluniaeth i chi a’ch gwesteion gydol y dydd. P’un ai ydych chi’n ymweld am ddiwrnod cyfan neu am ychydig oriau yn unig, gallwn gynnig bwyd ffres a blasus i’ch cynnal chi drwy gydol eich digwyddiad. Mae ein harlwyo yn seiliedig ar fwyd syml a ffres, tymhorol a blasus; bwyd sy’n cynrychioli ein holl ethos — bwyd sy’n edrych yn dda, yn tynnu dŵr o’r dannedd ac yn llawn blasau beiddgar ond sydd yn gyfarwydd a chysurlon hefyd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwe-fan http://www.chapter.org/cy/arlwyo neu i archebu pecyn lletygarwch ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â Nicky Keeping ar 029 2031 1058 / [email protected].

I ddod yn fuan!Mae ein Gŵyl Fyrgyrs boblogaidd yn dychwelyd rhwng dydd Mercher 1 a dydd Sul 5 Gorffennaf. Byddwn yn cynnig amrywiaeth o fyrgyrs ac ychwanegiadau blasus — a dewis o gwrw Americanaidd ardderchog i gyd-fynd â nhw.

Pop Up ProduceMer 3 Mehefin, 3-8pmMae ein marchnad fisol yn llawn o gynhyrchwyr bwyd lleol a fydd yn cynnig danteithion i dynnu dŵr o’r dannedd. Bob dydd Mercher cyntaf y mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell werthwr newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, coffi, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi gweld bwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu’ch cynnyrch, cysylltwch â Philippa — [email protected] — i wneud cais am stondin.

BWYTA YFED LLOGI

Page 7: Chapter Mehefin 2015

Cefnogwch Ni 07chapter.org

UnigolionFfrindiauYmunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fuddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar, i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd : £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40 RhoddionCofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, at 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad. MyfyrwyrYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â www.chapter.org/cy/chapter-student-membership. CymynroddionMae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

BusnesauClwbCynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar.I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb. NawddYn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd ar gael i noddi a’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu e-bostiwch [email protected].

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan...

CEFNOGWCH NI

Page 8: Chapter Mehefin 2015

08 029 2030 4400Theatr

Llw

yfan

Daw

ns C

ymru

: Ale

x M

arsh

all P

arso

ns

Page 9: Chapter Mehefin 2015

Theatr 09chapter.org

Llwyfan Dawns CymruSad 27 Mehefin 1pm–10pmYmunwch â gwneuthurwyr dawns annibynnol o bob cwr o Gymru wrth iddynt rannu eu gweithiau diweddaraf dros benwythnos hafaidd a fydd yn llawn perfformiadau difyr, arddangosfeydd, ffilmiau a sgyrsiau bywiog.Mae Llwyfan Dawns Cymru 2014 yn dwyn ynghyd ddawnswyr, coreograffwyr, ffotograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau a fydd yn cyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd a chyd-artistiaid mewn tri lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Gwe 26 Mehefin, Chapter, Sadwrn 27 Mehefin a Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, Sul 28 Mehefin.I gael mwy o fanylion ewch i www.walesdanceplatform.co.uk Penwythnos: £35 / Diwrnod: £15 / Perfformiad: £10Mae Llwyfan Dawns Cymru yn gynhyrchiad Creu Cymru, gyda Chapter, Glan yr Afon, Canolfan Mileniwm Cymru a Coreo Cymru ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cyfle i archebu o hyd!

INTANgIBLE STUDIO YN CYFLWYNO:

Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop-Up Love PartyGwe 29 + Sad 30 Mai 9.30pmGyda chyfraniadau gan gwmni theatr arloesol Theatr Zuppa (Halifax, Nova Scotia), Shirotama Hitsujiya (Cyfarwyddwr Artistig Yubiwa Hotel, Tokyo, Japan) a’r gwneuthurwyr theatr lleol, Valmai Jones a James Tyson, mae Spring, Autumn, Summer, Winter: Pop-Up Love Party yn wledd athronyddol. Sioe theatr ynghyd â bwydlen flasu saith cwrs, wedi ei chreu gan y cogydd o Efrog Newydd, Daniel Burns, sydd yn ddeiliad seren Michelin.Yr achlysur? Cyfle i fyfyrio ar athroniaeth a chynnig llwnc destun i gariad yn yr 21ain ganrif. Fersiwn newydd o Symposiwm (Parti Yfed) Plato, lle daw grŵp o ffigyrau cyhoeddus blaenllaw at ei gilydd i fwyta, yfed ac ystyried testun dyrys iawn: cariad erotig.£15 (yn cynnwys bwydlen flasu saith cwrs a gwin)Derbyniodd y perfformiad hwn gefnogaeth hael gan Gyngor y Celfyddydau, Canada, Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Japan.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Llw

yfan

Daw

ns C

ymru

: Jan

e Ca

stre

e, V

ibha

Sel

vara

tnam

, San

dra

Harn

isch

-Lac

ey (L

lun:

Roy

Cam

pbel

l Moo

re),

Tanj

a Ra

man

Page 10: Chapter Mehefin 2015

Theatr10 029 2030 4400

TRIONgL YN CYFLWYNO

MiramarMer 10 — Sad 13 Mehefin 7.30pmPerfformiad dwyieithog Cymraeg/Saesneg ar ddydd Gwener 12 Mehefin“We’re renaming the house Miramar. It’s a mixture of our names Miriam and Martin, Mir-a-mar, do you get it?”Ar ôl marwolaeth ei gŵr, caiff Enid, 74 oed, ei gorfodi i werthu’r tŷ lle y treuliodd ran fwyaf ei hoes. Mae hi’n gwylio o ffenestr yn nhŷ ei chymdogion wrth i’r perchnogion newydd gyrraedd a thrawsnewid ei chartref yn dŷ gwyliau. Maent yn ei adnewyddu, yn ei ail-enwi ac yna’n dychwelyd i’r ddinas, gan adael y tŷ’n wag. Mae Enid, sydd bellach yn ddigartref, yn penderfynu gweithredu.Sioe gyntaf dywyll a doniol gan y cwmni o Gaerdydd, Triongl, sy’n archwilio syniadau am gartref.+ Trafodaeth ar ôl y sioe ar ddydd Iau 11 Mehefin gyda Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru, sy’n gweithio gyda phobl ifainc a menywod sy’n agored i niwed. Bydd yna berfformiad matinée arbennig i Llamau ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin am 2pm. Nifer cyfyngedig o docynnau fydd ar gael i’r cyhoedd — holwch yn y swyddfa docynnau.£10/£8/£6Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mira

mar

Megan PriceRheolwr MarchnataWrth i’r haf nesu ac â’r haul wedi dod (gobeithio) i ddweud helô, mae hi’n eironig fy mod i’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser tu fewn — ond mae yna lawer o bethau dw i’n edrych ymlaen atynt ym mis Mehefin! Mae nifer o staff Chapter yn meddu ar sgiliau creadigol anhygoel a’r mis hwn bydd Rebecca Knowles, un o staff cyfeillgar y Swyddfa Docynnau sydd hefyd yn actores ac yn wneuthurwr theatr talentog, yn dod â’i chwmni newydd, Triongl, i Chapter. Os yw gwaith blaenorol Rebecca yn unrhyw fath o arwydd, bydd Miramar yn ddoniol, yn ddiddorol a phryfoclyd — ac yn un o uchafbwyntiau sicr y mis hwn.

Page 11: Chapter Mehefin 2015

Theatr 11chapter.org

ThEATR IOLO YN CYFLWYNO

Christopher Brett Bailey This Is how We Die Llun 22 + Maw 23 Mehefin 7.30pm Collage anllad o lefaru a chwedleua. Straeon am baranoia, serch ifanc ac ‘ultra-violence’. Mae Christopher Brett Bailey wedi creu darn yn llawn hiwmor tywyll fel y fagddu a rhyddiaith hunllefus. Ag adleisiau o Lenny Bruce, William Burroughs, barddoniaeth y ‘beats’ a ffilmiau B, mae This Is How We Die yn ddarn perffaith o ‘trash’ swrrealaidd, ‘death trip’ i galon Americana ac archwiliad pensyfrdanol o fyd wedi’i argyhoeddi ei fod yn marw ... £12/£10(Oed: 16+)Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr.

‘“Road movie” abswrd am yr enaid wedi’i chyfuno â ffraethineb miniog a pharanoia’ The Guardian

This

Is H

ow W

e Di

e

Sioe gŵyl gomedi MachynllethMer 24 Mehefin 8pmMae artistiaid newydd gorau’r ŵyl yn dod i Gaerdydd am noson o gomedi — dewch i weld talentau newydd hoff ŵyl gomedi Cymru.£12/£11/£10

I DDOD YN FUAN!Yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst byddwn yn cyflwyno rhagolygon o ddetholiad o sioeau sy’n teithio i Gaeredin. Cyfle perffaith i’w gweld nhw cyn iddynt deithio i’r ŵyl!

Page 12: Chapter Mehefin 2015

Theatr12 029 2030 4400

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Win

ter’s

Tal

e, S

ucki

ng o

n Su

gar C

ane:

Loo

king

for M

eani

ng T

en Y

ears

aft

er H

urric

ane

Katr

ina

MAN ARALL: ThEATR TAkINg FLIghT YN CYFLWYNO

The Winter’s Talegan William ShakespeareIau 11 Mehefin — Gwe 24 Gorffennaf (Mae dyddiadau perfformiadau Caerdydd i’w gweld ar y calendr, ar dudalennau 30–31. Gweler y we-fan am restr lawn o leoliadau/dyddiadau/amseroedd)‘If this be magic, let it be an art lawful as eating.’Mae comedi chwerw-felys Shakespeare yn stori am golled, edifeirwch, cariad a chymodi ac fe’i cyflwynir yr haf hwn yn arddull unigryw Taking Flight. Ymunwch â’r parti mewn clwb jazz bywiog lle gallai’r gerddoriaeth wreiddiol eich annog i ddawnsio, yna gwyliwch wrth i genfigen ddinistrio’r byd hwyliog hwn a’i adael heb addewid o unrhyw fath ac mewn cyflwr o aeaf tragwyddol... Ond peidiwch â digalonni; fe gewch chi eich hudo dros y môr i fan lle y gall cerddoriaeth, cariad a digon o chwerthin wella pob clwyf. Gwisgwch i greu argraff ond gwnewch yn siŵr bod eich esgidiau’n addas hefyd — mae hwn yn gynhyrchiad teithiol yn yr awyr agored. Bydd pob perfformiad yn cynnwys cyfieithiad i iaith arwyddion Prydain. Gweler y we-fan am fwy o fanylion. Cyfarwyddwyd gan Elise DavisonCyfieithiad iaith arwyddion gan Daryl Jackson, Sami Thorpe a Stephen Collins£14/£10/plant £5www.takingflighttheatre.co.uk

Sucking on Sugar Cane: Looking for Meaning Ten Years after hurricane katrinaMer 1 Gorffennaf 7.30pmCyfuniad o farddoniaeth, llefaru a jazz sydd yn gydweithrediad rhwng Pumawd Gareth Roberts a’r bardd clare e. potter, a dreuliodd ddeng mlynedd yn ninas New Orleans.Bydd y gwaith hybrid hwn yn archwilio llwybrau cyfun geiriau, nodau a thawelwch ac yn caniatáu i’r ddau berfformiwr a’r gynulleidfa ystyried yr hyn a ddaeth yn sgil Corwynt Katrina ac i fyfyrio ar ddiwylliant, pobl a lle, colled a iachâd.Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys set o farddoniaeth unigol a jazz gwreiddiol wedi’i berfformio gan y pumawd gwobrwyol.£8/£6www.garethtrombone.co.uk

Page 13: Chapter Mehefin 2015

Chapter Mix 13chapter.org

DYDD IAU CYNTAF Y MIS

Barddoniaeth a Ffuglen NewyddIau 4 Mehefin 7.30pmBydd y darllenwyr gwadd yn cynnwys enillydd Gwobr TS Eliot, y bardd nodedig, Philip Gross. Bydd e’n sgwrsio gyda’r artist Valerie Price am eu llyfr cydweithredol, ‘A Fold in the River’, sy’n cynnwys cerddi a chelfyddyd weledol wedi’u hysbrydoli gan Afon Taf. I’w dilyn gan sesiwn meic agored.£2.50

Clwb Comedi The DronesGwe 5 + Gwe 19 Mehefin. Drysau’n agor: 8.30pm. Sioe’n dechrau: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon.Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue.£3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 7 Mehefin 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De CymruIau 11 Mehefin 2pmYr Hen Aifft: Gweithiau Celfyddydol a Phensaernïaeth RhyfeddolLucia Gahlin BAAdeiladodd Rameses Fawr (1279-1213BC) demlau anhygoel ledled yr Aifft, gan gynnwys yr Abu Simbel nodedig, a’u haddurno â cherfluniau enfawr. Byddwn yn archwilio gweithiau o gelfyddyd a phensaernïaeth trawiadol er mwyn creu darlun o’r arweinydd beiddgar hwn yn ystod oes aur hanes y Pharoaid yn yr Aifft.Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)www.swdfas.org

Jazz ar y SulSul 28 Mehefin 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.RHAD AC AM DDIMwww.glenmanby.com

Clonc yn y CwtshBob dydd Llun 6.30–8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIMAr y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd

Page 14: Chapter Mehefin 2015

Sinema14 029 2030 4400

Tim

bukt

u

Page 15: Chapter Mehefin 2015

Sinema 15chapter.orgO’

r chw

ith

i’r d

de: F

ar F

rom

the

Mad

ding

Cro

wd,

Ros

ewat

er

Far From the Madding CrowdGwe 22 Mai — Iau 4 Mehefin DG/2015/119mun/12A. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Carey Mulligan, Michael Sheen, Matthias Schoenaerts.

Mae’r Bathsheba Everdene annibynnol a phengaled yn denu sylw tri dyn gwahanol iawn: Gabriel Oak, ffermwr defaid, Frank Troy, sarjant di-hid a William Boldwood, hen lanc cyfoethog. Mae’r stori oesol hon am ddewisiadau a nwydau Bathsheba yn archwilio natur perthnasau a chariad, yn ogystal â’r gallu dynol i oresgyn caledi â gwydnwch a dyfalbarhad. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn Sinema 1 ac Is-deitlau Meddal ar ddydd Llun 1 Mehefin 6pm, dydd Mawrth 2 Mehefin 2.30pm + 8.15pm a dydd Iau 4 Mehefin 10.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)

Timbuktu Gwe 29 Mai — Iau 4 MehefinFfrainc/2014/97mun/is-deitlau/12A. Cyf: Abderrahmane Sissako. Gyda: Ibrahim Ahmed, Toulou Kik, Abel Jafri, Fatoumata Diawara.

Yn llawn delweddau hardd o dirweddau anial ac afonydd pefriog, mae’r ffilm hon yn bortread gloyw o effaith anheddiad jihadis tramor ar fywyd bob dydd yn Timbuktu. Clywn straeon Mwslemiaid sy’n chwarae’r blŵs, ffermwyr ac Imam rhyddfrydol, pob un yn ceisio addasu i fywyd dan warchae. Mae ymdeimlad miniog â’r abswrd yn sicrhau bod yr astudiaeth hon o wrthdaro diwylliannol mor ddoniol bob tamaid ag y mae’n frawychus. Gweler manylion ein tymor o ddigwyddiadau’n archwilio effeithiau gwrthdaro a rhyfel ar dudalen 18.

RosewaterGwe 29 Mai — Iau 4 MehefinUDA/2014/103mun/15. Cyf: Jon Stewart. Gyda: Gael Garcia Bernal, Kim Bodnia, Dimitri Leonidas.

Yn 2009, cafodd y newyddiadurwr, Maziar Bahari, ei garcharu yn Iran am 118 o ddiwrnodau am wneud cyfweliad dychanol am etholiadau arlywyddol y wlad. Dros gyfnod o bedwar mis, ceisiodd ei groes-holwr — a lysenwyd yn Rosewater o ganlyniad i’w bersawr — ei orfodi i gyffesu i amrywiaeth ryfeddol o droseddau, gan gynnwys bod yn Seionydd ac ymddangos ar The Daily Show. Wedi’i haddasu o hunangofiant Bahari, mae Stewart yn cyflwyno drama Kafka-aidd sy’n awgrymu bod cyfundrefn wleidyddol nad yw’n gallu goddef hiwmor yn gyfundrefn sydd yn barod i ormesu. Gweler manylion ein tymor o ddigwyddiadau’n archwilio effeithiau gwrthdaro a rhyfel ar dudalen 18. CLWB FFILMIAU gWAEL

Mac and MeSul 15 MehefinUDA/1988/95mun/U. Cyf: Stewart Raffil.

Does yna ddim byd sy’n cyhoeddi dyfodiad yr haf cweit fel y drewdod ysgafn yn Chapter pan fydd y Clwb Ffilmiau Gwael yma. Y mis hwn, maent yn eu holau ag un o glasuron sinema wael, Mac and Me. Pan ddaw ‘Mysterious Alien Creature’ — sydd yn ceisio ffoi rhag NASA — a bachgen ifanc mewn cadair olwyn i gysylltiad, maent yn ffurfio cyfeillgarwch nad yw’n debyg O GWBL i’r ffilm E.T. Ddim yn debyg o gwbl. Wir i ddyn i ti, Twm Twm. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac y gall y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.

Page 16: Chapter Mehefin 2015

Sinema16 029 2030 4400

The Age of AdalineGwe 5 — Iau 11 MehefinUDA/2014/110mun/12A. Cyf: Lee Toland Krieger. Gyda: Blake Lively, Michiel Huisman, Harrison Ford.

Mae menyw ifanc, a anwyd ar droad yr ugeinfed ganrif, yn cael ei bod yn anfarwol ar ôl damwain. Ar ôl blynyddoedd o fyw ar ei phen ei hun, mae hi’n cwrdd â dyn y gallai hi fod yn werth ildio ei hanfarwoldeb er ei fwyn.

Dior and IGwe 5 — Iau 11 MehefinFfrainc/2015/90mun/is-deitlau/12A. Cyf: Frédéric Tcheng. Gyda: Raf Simons, Marion Cotillard, Anna Wintour.

Cipolwg freintiedig y tu ôl i’r llen ar fyd dirgel tŷ ffasiwn Christian Dior wrth i Raf Simons greu ei gasgliad haute couture cyntaf fel cyfarwyddwr artistig. Yn gyfuniad o olygfeydd bob dydd, tensiynau byd ffasiwn ac adleisiau o orffennol y brand eiconig, mae’r ffilm hefyd yn deyrnged liwgar i’r gwniadwragedd sy’n gweithio mor ddiwyd i droi gweledigaethau Simons yn realiti.

girlhoodGwe 12 — Iau 18 MehefinFfrainc/2014/113mun/15. Cyf: Céline Sciamma. Gyda: Karidja Touré, Assa Sylla, Lindsay Karamoh.

Wedi cael llond bol ar ei bywyd teuluol treisgar a dyfodol dilewyrch yn ei hysgol anacademaidd, mae Marieme yn cychwyn cyfeillgarwch â thair merch eangfrydig. Mae hi’n newid ei henw a’i steil ac yn dod yn rhan o fyd sydd ar y naill law’n beryglus ac ar y llaw arall yn llawn rhyddid ac egni. Ffilm ingol ac onest am gyfeillgarwch benywaidd â chast o bobl nad ydyn nhw’n actorion proffesiynol.

Listen up PhilipGwe 5 — Iau 11 MehefinUDA/2014/109mun/15. Cyf: Alex Ross Perry. Gyda: Jason Schwartzman, Elisabeth Moss, Jonathan Pryce, Krysten Ritter.

Mae’r nofelydd llwyddiannus, Phillip, yn llawn dicter ffyrnig wrth iddo ddisgwyl i’w ail lyfr gael ei gyhoeddi. Mae ei berthynas â’i gariad, ffotograffydd o’r enw Ashley, yn dirywio a does ganddo ddim awydd mynd ati i hyrwyddo ei waith. Pan gaiff gynnig hafan yng nghartref diarffordd ei arwr, Ike Zimmerman, mae Philip yn cael cyfle o’r diwedd i ganolbwyntio ar ei hoff bwnc: ef ei hun. Comedi filain am uchelgais artistig, haerllugrwydd ieuenctid a gofid canol oed.

Gyda

’r cl

oc o

’r br

ig: T

he A

ge o

f Ada

line,

Girl

hood

, Dio

r and

I

Page 17: Chapter Mehefin 2015

Sinema 17chapter.org

Moviemaker ChapterLlun 1 MehefinSesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Electric BoogalooGwe 26 Mehefin — Iau 2 GorffennafUDA/2014/107mun/18. Cyf: Mark Hartley.

Yn y 1970au, dechreuodd dau gefnder reoli cwmni ffilmiau ‘grindhouse’ Cannon Films ac, er gwaethaf eu harferion busnes diegwyddor a’u dewisiadau artistig amheus, roedden nhw’n gyfrifol am rai o ffilmiau mwyaf cofiadwy y 1980au. Yn eu rôl fel stiwdio amgen, roedden nhw’n enwog am eu gwaith gyda sêr fel Chuck Norris, Charles Bronson a Jean Claude Van Damme ac am ffilmiau fel Breakin, King Solomon’s Mines, Lifeforce a champweithiau fel Otello gan Zeffirelli. Mae’r ffilm hon yn olwg afieithus ar un o stiwdios chwedlonol Hollywood.

BAFTA CYMRU YN CYFLWYNO:

BypassMer 10 MehefinDG/2015/105mun/15. Cyf: Duane Hopkins. Gyda: George MacKay, Arabella Arnott, Ben Dilloway.

Mae tad Tim wedi ffoi, mae ei fam wedi marw ac mae ei frawd hŷn garw, Greg, ar brofiannaeth. Mae arno arian i gangsters, mae ei gariad yn feichiog, mae ei chwaer fach mewn trafferth byth a hefyd ac mae ei iechyd ei hun yn dioddef. Mae hon yn stori am Brydain anweledig, a’r corneli diobaith hynny mewn trefi lle mae’r trigolion yn ceisio cynnal syniad o gymuned. Drama ddwys sy’n llawn perfformiadau rhagorol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Samm Hailley. PRIFYSgOL DE CYMRU (CAERDYDD)

Dangosiad graddedigion Iau 18 Mehefin Ymunwch â ni ar gyfer dangosiad eleni sy’n gyfuniad o ffilmiau gradd gan fyfyrwyr cyrsiau BA (Anrh) Ffilm a Fideo, BA (Anrh) y Diwydiannau Creadigol a’r BA (Anrh) Perfformio a’r Cyfryngau. Ar y noson, dyfernir gwobrau i’r ffilm ddogfen orau a’r ddrama fer orau. Mae tocynnau yn rhad ac am ddim a gellir eu harchebu yn ein swyddfa docynnau.

Bypa

ss

Page 18: Chapter Mehefin 2015

Sinema18 029 2030 4400

Ston

es fo

r the

Ram

part

EFFEITHIAu GWrTHDArO A rHYFEL

Ida Gwe 5 — Iau 11 MehefinGwlad Pwyl/2014/82mun/is-deitlau/12A. Cyf: Pawel Pawlikowski. Gyda: Agata Kulesza, Agata Trzebuchowska, Dawid Ogrodn.

Yng Ngwlad Pwyl yn y 1960au, mae lleian ifanc o’r enw Anna yn cael ei hanfon i ymweld â Wanda — modryb iddi nad yw hi’n ei hadnabod, a menyw y mae ei bywyd louche fel alcoholig yn wrthgyferbyniad llwyr â bodolaeth naïf Anna. Mae Wanda’n datgelu — yn araf a di-emosiwn — bod Anna wedi ei geni i deulu Iddewig a bod ei rhieni wedi eu llofruddio yn ystod y rhyfel. Mae hi’n cymryd ei nith gyda hi ar daith i ddod o hyd i’w beddau. Yn ystod y daith, maent yn clywed cyfrinachau o’r gorffennol ac mae hynny’n ennyn chwilfrydedd newydd yn Anna am y byd y mae hi ar fin ei adael. Drama gain, ddiaddurn sy’n disgrifio â symlrwydd a hiwmor lwybrau’r menywod hyn drwy fywydau sydd wedi eu heffeithio am byth gan hanes. Enillydd Oscar y Ffilm Dramor Orau yn 2015+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm ar ddydd Gwener 5 Mehefin am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Stones for the RampartLlun 8 — Mer 10 MehefinGwlad Pwyl/2015/112mun/is-deitlau/15. Cyf: Robert Glinski. Gyda: Tomasz Zietek, Marcel Sabat, Kamil Szeptycki.

Stori wir am grŵp o ymladdwyr dros ryddid, yn ystod goresgyniad y Natsïaid o Warsaw, a lwyddodd i ryddhau un o’u cyd-ymgyrchwyr o dan drwyn y gelyn. Roedd y cyrch yn un o’r campau mwyaf beiddgar a gyflawnwyd gan fudiad gwrthsafiad yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd — ac mae’r ffilm ei hun yn rhyfeddol o gyffrous.

Foreign BodyMaw 9 + Iau 11 MehefinGwlad Pwyl/2014/117mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Krzysztof Zanussi.Gyda: Riccardo Leonelli, Agnieszka Grochowska, Agata Buzek.

Yn ffilm ddiweddaraf y meistr, Zanussi, cawn gwrdd ag Angelo a Kasia yn yr Eidal, y ddau’n aelodau o Fudiad Focolare, a daeth at ei gilydd yn sgil eu cariad a’u ffydd yn Nuw. Caiff eu cariad ei brofi pan benderfyna Kasia ddychwelyd i Wlad Pwyl i ymuno â lleiandy ac wrth i Angelo deithio i Warsaw i geisio newid ei meddwl. Ar ôl derbyn swydd mewn cwmni dan reolaeth y Kris didostur a sinigaidd, caiff Angelo ei orfodi i amddiffyn ei ffydd. Mae’r ffilm yn archwiliad o ryddid ym myd corfforaethol, ôl-gomiwnyddol a di-ffydd Dwyrain Ewrop. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Krzysztof Zanussi, ar ddydd Iau 11 Mehefin.

The Look of SilenceGwe 12 — Iau 18 MehefinDenmarc/2014/99mun/is-deitlau/15. Cyf: Joshua Oppenheimer.

Cafodd brawd hŷn yr optometrydd, Adi, ei lofruddio bum degawd yn ôl yn ystod ymgyrch ‘swyddogol’ llywodraeth Indonesia i lofruddio ‘comiwnyddion’. Ar ôl teithio i’r pentrefi lle mae llofruddion ei frawd yn dal i fyw (ac yn mwynhau cyfoeth a statws cymdeithasol yn rhinwedd eu rôl yn y gyflafan), mae Adi yn archwilio llygaid y troseddwyr ond yn mynd ati hefyd, yn dawel bach, i holi ei gleifion am eu hatgofion a’u cymhellion. Mae’r ffilm gain, grefftus, moesol-gymhleth hon yn ddilyniant gafaelgar i The Act of Killing. + Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am sesiwn holi-ac-ateb ar gysylltiad lloeren byw gyda’r cyfarwyddwr, Joshua Oppenheimer, a fydd yn sgwrsio â Louis Theorux.

Yn rhan o’n cyfres o ffilmiau sy’n archwilio effeithiau gwrthdaro a rhyfel, byddwn yn archwilio’r modd yr aeth sinema Gwlad Pwyl ati i adlewyrchu ei hunaniaeth dan ormes a sensoriaeth cyfnod y Rhyfel Oer a sut y mae’r materion hyn yn cael eu trin gan wneuthurwyr ffilmiau cyfoes.

Page 19: Chapter Mehefin 2015

19chapter.org Sinema

Queen and CountryGwe 12 — Iau 25 MehefinDG/2015/115mun/15arf. Cyf: John Boorman. Gyda: Callum Turner, Caleb Landry Jones, Richard E Grant.

Mae’r dilyniant hir-ddisgwyliedig hwn i’r Hope and Glory hunangofiannol yn codi stori’r Bill ifanc 10 mlynedd yn ddiweddarach, wrth iddo ddechrau ei hyfforddiant milwrol. Yn y 1950au cynnar, ac yn ystod cyfnod y Rhyfel yn Corea, rhaid iddo ymdopi â bod yn oedolyn ifanc a cheisio penderfynu beth yn union yr hoffai ei wneud â’i fywyd. Mae cast ensemble gwych yn creu darlun swynol, doniol ac ingol o’r cyfnod ar ôl y rhyfel ac o wlad sy’n ceisio gwella’i briwiau.

PhoenixGwe 19 — Iau 25 MehefinYr Almaen/2014/98mun/is-deitlau/12A. Cyf: Christian Petzold. Gyda: Nina Hoss, Ronald Zehrfeld, Nina Kunzendorf.

Mae cantores Iddewig o’r enw Nelly Lenz wedi goroesi gwersylloedd crynhoi y Natsïaid — ond nid heb golled enbyd. Wedi’i hanffurfio, ac yn ei hôl yn yr hyn sy’n weddill o Berlin gyda’i ffrind ffyddlon, Lene, mae hi’n ceisio dod o hyd i’w gŵr, y cerddor, Johnny. Mae Lene’n credu taw ef a oedd yn gyfrifol am ei bradychu. Ond wedi i Jonny fethu ag adnabod ei wraig, mae yna gyfle i Nelly ddysgu am ei wir deimladau. Ffilm gyffro rymus a chymhleth sy’n cynnwys perfformiad canolog anhygoel.

Slow WestGwe 26 Mehefin — Iau 2 GorffennafUDA/2015/84mun/15. Cyf: John Maclean. Gyda: Ben Mendelsohn, Michael Fassbender, Kodi Smit-McPhee.

Mae Jay Cavendish yn uchelwr Albanaidd ifanc a dibrofiad yn Colorado yn y 1870au. Mae e’n cychwyn allan ar drywydd gwrthrych ei serch, Rose, sydd wedi ffoi i America gyda’i thad. Ar ôl dadl gyda milwyr, mae Jay’n ymuno â’r ‘bounty hunter’, Silas, ond dyw e ddim yn ynwmybodol eu bod nhw’n erlid Rose a’i thad eu hunain, er mwyn hawlio’r wobr ariannol am eu dal. Ffilm gyntaf freuddwydiol a threisgar gan gerddor y Beta Band, John MacLean, sy’n llawn perfformiadau godidog a hiwmor tywyll.

A girl Walks home Alone at NightGwe 19 — Iau 25 MehefinUDA/2014/99mun/is-deitlau/15. Cyf: Ana Lily Amirpour. Gyda: Sheila Vand, Arash Marandi, Marshall Manesh.

Mae Arash yn gwneud yr hyn a all i gael deupen y llinyn ynghyd; mae e’n gofalu am ei dad sy’n gaeth i gyffuriau ac yn gweithio i’r pimp lleol yn nhref ddiwydiannol Bad City yn Iran. Ond mae’r ddinas yn lle afiach lle mae tlodi a throsedd yn rhemp, ac mae’r dref yn byw dan fygythiad fampir benywaidd mewn hijab sy’n barnu ac yn cosbi trigolion y dref. ‘Spaghetti western’ hynod brydferth, lawn steil, wedi’i ffilmio mewn du a gwyn trawiadol.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Que

en a

nd C

ount

ry, S

low

Wes

t

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen ac i ymuno â’r sgwrs, ewch i www.conversationsaboutcinema.co.uk neu ymunwch â ni ar Twitter — @convocinema #convocinema.Cyflwyniad ar y cyd â Watershed, Bryste, a Theatr Ffilm Queens, Belffast. Prosiect gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI gyda chefnogaeth y BFI, sy’n dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Page 20: Chapter Mehefin 2015

Sinema20 029 2030 4400

The Damned: Don’t You Wish That We Were DeadLlun 8 MehefinUDA/2015/110mun/TiCh. Cyf: Wes Orshoski. Gyda: Chrissie Hynde, Mick Jones, Lemmy.

Ffilm newydd gan gyfarwyddwr Lemmy, Wes Orshoski, sy’n adrodd hanes arloeswyr anghofiedig pync, The Damned — y pyncs Prydeinig cyntaf i recordio a’r rhai cyntaf i groesi’r Iwerydd. Yn cynnwys cyfweliadau â llu o’u cyfoedion, cafodd y ffilm ei saethu ledled y byd dros gyfnod o dair blynedd ac mae’n adrodd hanes cymhleth y band a’u dadleuon niferus. Wrth iddynt ddathlu pen-blwydd y band yn 35 oed, gwelwn gyn-aelodau yn cychwyn allan ar eu teithiau pen-blwydd eu hunain, wrth i eraill frwydro yn erbyn canser.+ Ymunwch â ni ar ôl y ffilm am sesiwn holi-ac-ateb gydag aelodau’r band yng nghwmni’r artist a churadur Noys R Us, S Mark Gubb.

No Manifesto: Manic Street PreachersSul 31 Mai — Iau 4 MehefinDG/2015/95mun/15. Cyf: Elizabeth Marcus.

Yn 1991, ffrwydrodd y Manic Street Preachers fel bom yn y sîn roc Brydeinig gan ddatgan eu bwriad o wneud un albwm, gwerthu miliwn o gopïau a chwalu. Flynyddoedd, a nifer helaeth o recordiau hynod boblogaidd, yn ddiweddarach, ac ar ôl colli un aelod a chorddi dyfroedd dirifedi, maent yn dal i fynd. Mae’r ffilm hon yn olwg y tu ôl i’r llen ar brosesau creadigol y band ac yn adrodd hanes eu datblygiad o fod yn fand pync cegog i fod yn ffigyrau o bwys rhyngwladol.

ArgerichMaw 16 + Mer 17 MehefinFfrainc/2012/100mun/is-deitlau/PG. Cyf: Stéphanie Argerich.

Mae Stephanie Argerich yn ffilmio’i theulu ecsentrig ei hun yn y portread grŵp agos-atoch hwn. Gadawodd ei mam, y pianydd o fri rhyngwladol, Martha Bergerich, yr Ariannin yn ddeuddeg oed i astudio yn Fienna ac mae hi bellach yn byw yng Ngwlad Belg mewn tŷ yn llawn o bianos a chathod. Mae ei thad, Stephen Kovacevich, yn byw yn Llundain, a Stephanie ei hun, a’i chwaer, Lyda, yn byw yn y Swistir. Cyfuniad o ddelweddau o’r ystafell ymarfer a hanesion difyr am rôl anhepgorol cerddoriaeth yn eu bywydau.

Danny CollinsGwe 12 — Mer 17 MehefinUDA/2014/106mun/15. Cyf: Dan Fogelman. Gyda: Al Pacino, Jennifer Garner, Annette Bening, Bobby Cannavale, Christopher Plummer.

Dyw’r hen rocyr, Danny Collins, ddim yn gallu rhoi’r gorau i’w fywyd a’i arferion roc a rôl. Ond ar ôl i’w reolwr ddod o hyd i lythyr 40-mlwydd-oed a ysgrifennwyd ato gan John Lennon, mae e’n dechrau cwestiynu ei yrfa. Mae Danny yn rhoi’r gorau i hiraethu ac yn cychwyn ar daith emosiynol i ailddarganfod ei deulu a chychwyn ail act ei fywyd.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Dam

ned:

Don

’t Yo

u W

ish

That

We

Wer

e De

ad, A

rger

ich

Page 21: Chapter Mehefin 2015

The Tales of hoffmann Sul 14 + Maw 16 MehefinDG/1951/129mun/PG. Cyf: Michael Powell, Emeric Pressburger. Gyda: Moira Shearer, Robert Rounseville, Ludmilla Tchérina.

Adferiad moethus sy’n cynnwys delweddau nas gwelwyd o’r blaen a phrawf pendant o ddychymyg gweledol disglair a beiddgarwch artistig diderfyn Powell a Pressburger. Enwebwyd yr addasiad hwn o opera Offenbach am Oscar ac mae’n waith llawn lliw ac emosiynau dwys. Mae’r bardd, Hoffmann, yn cofio tri chariad mawr ei fywyd ac yn ystyried dylanwad tristwch annioddefol ar gelfyddyd aruchel.+ Cyflwyniad gan Ddramodydd y WNO, Sophie Rashbrook, cyn y ddau ddangosiad.

Otello Mer 17 MehefinYr Eidal/1986/118mun/is-deitlau/U. Cyf: Franco Zeffirelli. Gyda: Placido Domingo, Katia Ricciarelli, Justino Diaz.

Yn seiliedig ar ddrama Shakespeare, mae opera Verdi yn dangos effeithiau dinistriol cenfigen ac ansicrwydd ar ddyn pwerus. Yn y gred bod Otello yn ffafrio’r Cassio uchelgeisiol ar ei draul ef ei hun, mae Iago’n cynllwynio i ddinistrio Cassio ac Otello fel ei gilydd. Mae Iago’n argyhoeddi’r Otello drwgdybus bod ei wraig brydferth, Desdemona, yn anffyddlon iddo a’i bod yn cael perthynas â Cassio. Daw trasiedi i ddilyn cenfigen — a dialedd wedi hynny. + Ymunwch â ni am weithdy i ysgolion gyda’r WNO a chyflwyniad i’r ffilm, wedi’i recordio ymlaen llaw, gan Sophie Rashbrook.

21chapter.org SinemaO’

r chw

ith

i’r d

de: T

he T

ales

of H

offm

ann,

Ote

llo

Digwyddiadau i ddathlu Cystadleuaeth Canwr y Byd y BBCI ddathlu dyfodiad rhai o leisiau gorau’r byd i Gaerdydd, rydym yn cyflwyno detholiad o’r operâu mwyaf nodedig ar ffilm. I gael mwy o fanylion ewch i www.bbc.co.uk @cardiffsinger

Der Rosenkavalier Iau 18 MehefinDG/1962/192mun/U. Cyf: Paul Czinner. Gyda: Elizabeth Schwarzkopf, Otto Edelmann, Sena Jurinac.

Opera gomig mewn tair act gan Richard Strauss, gyda Herbert von Karajan, sy’n arwain Cynulleidfa Ffilharmonig Fiena. Mae’r Marschallin aristocrataidd yn awgrymu bod ei chefnder cwrs, y Barwn Ochs, yn perswadio cariad ifanc Marschallin, yr Iarll Octavian Rofrano, i fod yn Farchog y Rhosyn iddo, er mwyn ennill serch Sophie, sydd yn ferch i ŵr bourgeois cyfoethog. Ond mae Octavian yn cyfarfod â Sophie ac mae’r ddau’n syrthio mewn cariad ar yr olwg gyntaf. Yn ymwybodol o’r gwahaniaeth oedran rhyngddi hi ag Octavian, mae Marschallin yn ystyried yn bruddglwyfus dreigl amser ac anwadalwch dynion — cyn ildio Octavian i’r fenyw iau.

Page 22: Chapter Mehefin 2015

Sinema22 029 2030 4400

O’r b

rig: K

nife

in t

he W

ater

, Ash

es a

nd D

iam

onds

“Gweithiau sinematig sy’n llawn o weledigaeth bersonol, ymrwymiad cymdeithasol a chyfrifoldeb barddonol, ynghyd â dogn helaeth o rym emosiynol a gweledol” Martin Scorsese

Claire VaughanSwyddog y Rhaglen Ffilm a SinemaDw i wrth fy modd ein bod yn gallu dangos hoff ffilmiau Martin Scorsese ochr yn ochr ag enillydd Oscar y Ffilm Iaith Dramor eleni, Ida, ynghyd â ffilmiau newydd i ddathlu Sinema Gwlad Pwyl. Ni lwyddodd diwylliant gormesol y Rhyfel Oer i gyfyngu ar angerdd gwneuthurwyr ffilm, a weithiai dan fygythiad parhaol sensoriaeth. I’r gwrthwyneb, yn wir — arweiniodd cyfuniad o ddyfeisgarwch a digrifwch drygionus at gorff o ffilmiau hynod drawiadol. Bydd un o gyfarwyddwyr chwedlonol y cyfnod, Krzysztof Zanussi, yn ymuno â ni i drafod ei ffilm ddiweddaraf, Foreign Body — cyfle ardderchog i ddyfnhau ein hymwneud â diwylliant ffilm!

Page 23: Chapter Mehefin 2015

The hourglass SanatoriumSad 6 + Iau 11 MehefinGwlad Pwyl/1973/125mun/is-deitlau/15. Cyf: Wojciech Jerzy Has. Gyda: Jan Nowicki.

Ffilm rithweledol a phensyfrdanol sy’n cyfuno nifer o weithiau ffantasi byrion Bruno Schulz er mwyn creu darn Baróc am ddyn yn ymweld â sanatoriwm dirgel. Mae e’n cyrraedd byd sydd yn seiliedig yn gymaint ar ei bryderon a’i atgofion dyfnion ei hun ag ar unrhyw fath o realiti wrthrychol; mae’r byd hwnnw’n llawn o adar egsotig, awtomata mecanyddol sy’n ymdebygu i ffigurau hanesyddol a delweddau swynol o orffennol Iddewig diflanedig Gwlad Pwyl.+ Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart-Dean, ar ôl y dangosiad ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin am drafodaeth o themâu’r ffilm.

Ashes and DiamondsSul 7 + Maw 9 MehefinGwlad Pwyl/1958/104mun/is-deitlau/12. Cyf: Andrzej Wajda. Gyda: Zbigniew Cybulski.

Un o gampweithiau digamsyniol cydnabyddedig sinema Gwlad Pwyl. Mae ffilm Wajda yn cyfleu cynnwrf a dryswch y cyfnod yn union wedi’r Ail Ryfel Byd, wrth i gyn-arwr gyda’r Gwrthsafiad droi’n llofrudd gwrth-Gomiwnyddol. Llwyddodd perfformiad carismataidd Zbigniew Cybulski yn rôl y llofrudd i grisialu ofnau ac ansicrwydd cenhedlaeth gyfan.

‘Un o’r ffilmiau gorau erioed’ Martin Scorsese

Blind ChanceSul 21 + Maw 23 MehefinGwlad Pwyl/1987/114mun/is-deitlau/15. Cyf: Krzysztof Kieślowski. Gyda: Boguslaw Linda.

Gwaharddwyd y ffilm wleidyddol hon am flynyddoedd ac mae naratif Kieślowski mewn tair rhan yn canolbwyntio ar ymgais y myfyriwr meddygol Witek i ddal trên — a’r hyn sy’n digwydd wedi hynny. A gaiff ef ei recriwtio gan y llywodraeth, neu a fydd e’n mynd yn wrthdystiwr gwleidyddol? Neu a fydd, yn lle hynny, yn parhau â’i astudiaethau yn llwyr ar wahân i bob dim? A fydd e’n gallu rheoli’r posibiliadau hyn neu a oes yna dynged sy’n llywio ei fywyd? Mae’r fersiwn newydd-ei-hadfer hon yn cynnwys golygfeydd nas gwelwyd yn gyhoeddus o’r blaen.

knife in the WaterSul 28 + Maw 30 MehefinGwlad Pwyl/1962/94mun/is-deitlau/PG. Cyf: Roman Polanski. Gyda: Leon Niemczyk, Jolanta Umecka, Zygmunt Malanowicz.

Mae ffilm nodwedd gyntaf Roman Polanski yn cynnwys elfennau digon syml i bob pwrpas: dau ddyn, menyw, cwch hwylio, dŵr a sgôr hudolus gan un o gewri byd jazz, Krzysztof Komeda. Ond arweiniodd yr elfennau hynny at greu un o ffilmiau seicolegol mwyaf gafaelgar ei chyfnod — ac at enwebiad cyntaf Gwlad Pwyl am Oscar. Trefnir tymor ‘Martin Scorsese yn cyflwyno: Campweithiau Sinema Gwlad Pwyl’ gan DI Factory, all DOTS, Propaganda Foundation a The Film Foundation, ar y cyd â stiwdios ffilm Tor, Zebra a Kadr, gyda chydweithrediad Sefydliad Clyweledol Cenedlaethol Gwlad Pwyl, Gweinyddiaeth Diwylliant a Threftadaeth Gweriniaeth Gwlad Pwyl a Sefydliad Ffilm Gwlad Pwyl.

23chapter.org SinemaTh

e Ho

urgl

ass

Sana

toriu

m

Martin Scorsese yn cyflwyno: Campweithiau Sinema gwlad Pwyl Tymor o ffilmiau wedi’u dethol gan Martin Scorsese — clasuron a gweithiau newydd cyfoes a disglair o Wlad Pwyl.

Page 24: Chapter Mehefin 2015

Sinema24 029 2030 4400

The ConnectionGwe 19 — Iau 25 MehefinFfrainc/2015/135mun/15. Cyf: Cédric Jimenez. Gyda: Jean Dujardin, Gilles Lellouche, Céline Sallette.

Ffilm gyffro yn arddull y 1970au a ysbrydolwyd gan stori wir — mae’n adrodd hanes ustus ym Marseilles, Pierre Michel, a’i grwsâd i ddatgymalu’r grŵp smyglo enwocaf erioed, y ‘French Connection’. Mae Michel yn ceisio dal yr arweinydd carismatig a chyfoethog, Gatean “Tany” Zampa, sy’n gyfrifol am y cyflenwad mwyaf o heroin i’r Unol Daleithiau. Er bod Michel yn eofn a dygn, ac yn gallu galw ar dasglu o heddweision elit, mae Zampa wastad fel petai ar y blaen iddynt. Mae Michel yn cael ei orfodi i wneud penderfyniad mwyaf anodd ei fywyd: parhau â’i grwsâd neu sicrhau diogelwch ei deulu.

London RoadGwe 26 Mehefin — Iau 2 GorffennafDG/2015/92mun/18. Cyf: Rufus Norris. Gyda: Olivia Coleman, Tom Hardy, Anita Dobson.

Addasiad o sioe gerdd arobryn y National Theatre sy’n croniclo’r digwyddiadau a ysgydwodd drigolion Suffolk yn 2006, pan gafwyd hyd i gyrff pump o fenywod yn Ipswich. Cafodd trigolion London Road eu hunain reit yng nghanol y digwyddiadau trasig hyn ac mae’r gwaith arloesol hwn yn gwau at ei gilydd eiriau’r rheiny a oedd yn rhan o’r profiad er mwyn creu stori ddyrchafol am gymuned sy’n dod at ei gilydd yn ystod cyfnod tywyll iawn.

Futuro BeachGwener 26 Mehefin — Mer 1 GorffennafBrasil/2014/106mun/15. Cyf: Karim Aïnouz. Gyda: Wagner Moura, Clemens Schick, Jesuíta Barbosa.

Mae Donato yn achubwr bywydau ar draeth ym Mrasil sydd yn llwyddo i achub bywyd Konrad, twrist o’r Almaen, ond yn methu ag achub ei ffrind arall. Mae eu profiad cyfun o’r digwyddiad yn arwain at berthynas ac mae Donato yn gadael popeth, gan gynnwys ei fam ddioddefus a’i frawd iau, Ayrton, er mwyn teithio i Berlin gyda Konrad. Ar ôl cyrraedd yno, mae ei ymchwil am gariad yn troi’n ymchwil dyfnach i ddod o hyd i’w hunaniaeth ei hun ac, wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae ymweliad annisgwyl gan Ayrton yn dod â’r tri dyn at ei gilydd unwaith yn rhagor, i geisio dod i delerau â phoen, colled a hiraeth. Ffilm deimladwy am golli a chael hyd o’r newydd i fywyd.

+ Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 30 Mehefin am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBTQ Chapter.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: T

he C

onne

ctio

n, L

ondo

n Ro

ad, F

utur

o Be

ach

Page 25: Chapter Mehefin 2015

chapter.org Sinema 25

Avengers: Age of UltronSad 6 + Sul 7 MehefinUDA/2015/142mun/12A. Cyf: Joss Whedon. Gyda: Robert Downey Jr, Chris Evans, Mark Ruffalo.

Ar ôl i Tony Stark geisio aildanio cynllun heddwch segur, mae pethau’n mynd o chwith ac mae angen i’r Avengers atal y robot creulon Ultron rhag rhoi ar waith ei gynllun anfad ar gyfer hil-laddiad.

Robot OverlordsSad 13 + Sul 14 MehefinDG/2015/90mun/12A. Cyf: Jon Wright. Gyda: Gillian Anderson, Ben Kingsley, Callan McAuliffe.

Ar ôl ymosodiad gan aliwns, mae trigolion y Ddaear yn cael eu gwahardd rhag gadael eu cartrefi ac yn gorfod gwisgo dyfeisiau electronig, wrth i’w harglwyddi mecanyddol wneud gwaith ymchwil dirgel. Pan ddaw grŵp o frodyr a chwiorydd wedi’u mabwysiadu o hyd i ffordd o dwyllo eu dyfeisiau electronig, maent yn cychwyn ar gwest i ddod o hyd i’w tad coll.

Moomins on the RivieraSad 20 + Sul 21 MehefinY Ffindir/2014/80mun/U. Cyf: Xavier Picard, Hanna Hemilä. Gyda: Maria Sid, Mats Långbacka, Kristofer Gummerus.

Mae llong môr-ladron a dyfodiad Little My yn tarfu ar fywyd heddychlon Moominvalley ac yn cymell y Moomins i fynd ar daith i’r Riviera i ymlacio ar ôl eu hanturiaethau ar y môr mawr.

PaddingtonSad 27 + Sul 28 MehefinDG/2014/95mun/PG. Cyf: Paul King. Gyda: Ben Whishaw, Sally Hawkins, Julie Walters.

Mae arth ifanc, sy’n hanu o Beriw ond sydd yn dwli ar bob peth Prydeinig, yn teithio i Lundain i chwilio am gartref. Ar ol mynd ar goll a’i gael ei hun ar ei ben ei hun yng ngorsaf Paddington, caiff groeso gan deulu hyfryd y Browns.

Carry on ScreamingBob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed. Mae Chapter yn croesawu teuluoedd ac ymwelwyr ifainc ac mae gennym raglen fywiog o ddigwyddiadau cyfranogi ac addysg — y nod yw gwneud ein holl gyflwyniadau celfyddydol cyfoes yn hygyrch. Mae manylion ein gweithgareddau addysg i’w cael ar dudalennau 26-27. Am fod ein mannau cyhoeddus prysur yn fannau lle cyflwynir gweithgareddau ar bob adeg o’r dydd, gofynnwn yn garedig i rieni a gofalwyr sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio tra byddant yn y ganolfan er mwyn sicrhau bod y gofod mor ddiogel a phleserus â phosib i bob un o’n cwsmeriaid. Mae detholiad o gêmau bwrdd ar gael i’w llogi yn ystod eich ymweliad â Chapter ac mae gennym becynnau i blant, gan gynnwys taflenni gwaith sy’n ymwneud â’n rhaglen gelfyddydol. Gofynnwch i aelod o staff y Swyddfa Docynnau am fwy o wybodaeth.

Moo

min

s on

the

Riv

iera

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

FFILmIAu I’r TEuLu CYFAN

Page 26: Chapter Mehefin 2015

Addysg26 029 2030 4400

We Went To WarLlun 22 Mehefin 10amDangosiad i Ysgolion a Lansiad Adnodd iPad RhyngweithiolYn 1970, cwblhaodd Michael Grigsby y ffilm wobrwyol, I Was a Soldier, a oedd yn canolbwyntio ar David, Dennis a Lamar, milwyr a oedd newydd ddychwelyd, ar y pryd, o Fietnam. Mae We Went to War yn codi’u hanes dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.Dangosiad i’w ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cynhyrchydd, Rebekah Tolley.

ResistanceLlun 29 Mehefin 10amDangosiad i Ysgolion a Lansiad Adnodd iPad RhyngweithiolYm 1944, mae grŵp o fenywod mewn pentref Cymreig diarffordd yn deffro un bore ac yn cael bod eu gwŷr wedi diflannu. Yn seiliedig ar y nofel gan Owen Sheers.Dangosiad i’w ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb gyda Gill Branston, awdur The Media Studies Handbook.

Chapter Sewcial Sul 7 + Sul 14 + Sul 21 + Sul 28 MehefinCwrs i ddechreuwyr 1.30pm–3pmCwrs canolradd 3.30pm–5pm Addas i blant 8-12 oed Dewch i ddechrau gwnïo! Bydd y sesiynau i ddechreuwyr yn cyflwyno sgiliau gwnïo sylfaenol ac fe fydd cyfranogwyr yn gallu cymryd eu creadigaethau adre’ gyda nhw bob wythnos. Mae’r sesiynau canolradd wedi’u bwriadu ar gyfer plant 8-12 oed y mae ganddynt rywfaint o brofiad eisoes o wnïo, neu’r rheiny sydd wedi cwblhau un o’n cyrsiau i ddechreuwyr. Bydd y sesiynau canolradd yn canolbwyntio ar greu a chwblhau prosiectau gwnïo mwy o faint ac yn datblygu sgiliau cynllunio, dylunio a chymhwyso technegol. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.£6 y sesiwn

Page 27: Chapter Mehefin 2015

I DDOD DROS YR hAF!

Ysgol haf Theatr Ieuenctid Chapter (8-12 oed)Llun 27 — Gwe 31 Gorffennaf 10.30am–4pm‘Extravaganza’ theatr gerddorol pum niwrnod o hyd. Bydd yr ysgol haf hon i blant 8 — 12 oed yn archwilio byd Frozen Disney. Bydd cyfranogwyr yn dysgu caneuon, yn ail-greu golygfeydd ac yn datblygu eu sgiliau perfformio. Felly, os ydych chi wrth eich bodd â Frozen ac yn hoff o actio, dyma’r ysgol haf i chi! Bydd cyfranogwyr yn paratoi ar gyfer perfformiad agored ar ddiwedd yr wythnos ym mhrif ofod theatr Chapter. Bydd angen pecyn bwyd a photel ychwanegol o ddŵr bob dydd. £100

Dewch i Animeiddio!Gweithdai Animeiddio i Bobl Ifainc ar Sbectrwm AwtistiaethLlun 6 + Llun 13 + Llun 20 + Llun 27 Awst 10.30am, 12.30pm + 2.30pm bob dydd O ganlyniad i boblogrwydd y gweithdai ymarferol ardderchog hyn i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth, byddwn yn cynnal deuddeg o weithdai ychwanegol yr haf hwn. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael ac fe gânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i’r bobl ifainc gychwyn allan ym maes animeiddio ac i ddysgu a datblygu sgiliau mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Does dim angen profiad o animeiddio felly os ydych chi wedi cymryd rhan yn un o’n cyrsiau deg wythnos blaenorol neu yn awyddus i animeiddio am y tro cyntaf, bydd yna groeso cynnes i chi yn Chapter!£12 y sesiwn neu £40 am bob un o’r 4 sesiwn (1 yr wythnos)

chapter.org 27Addysg

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion ynglŷn â sut i gofrestru, cysylltwch â [email protected].

Page 28: Chapter Mehefin 2015

Archebu/Gwybodaeth28 029 2030 4400

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

gwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Page 29: Chapter Mehefin 2015

29chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Cronfa Gymunedol Tirlenwi Sefydliad Esmée Fairbairn Rhaglen Ddiwylliant yr UESefydliad Baring Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr BiffaYmddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a ChwaraeonSefydliad Elusennol TrusthouseY Sefydliad Cymunedol yng NghymruPlant mewn Angen y BBCSefydliad Waterloo Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPowerYr Ymddiriedolaeth Ddarlledu GymreigSEWTA

Richer SoundsSefydliad y Brethynwyr MomentumSefydliad Henry Moore GoogleSefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.V Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y MileniwmYmddiriedolaeth Ernest CookLloyds TSBArwyddion MorganYmddiriedolaeth Elusennol y GarrickBarclays

Celfyddydau & Busnes Cymru PenderynYmddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Sefydliad Rhyngwladol Singapore Gwestai Puma: Gwesty’r Angel CaerdyddMaes Awyr CaerdyddCelfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Cynllun Cymunedol CeredigionYmddiriedolaeth Elusennol Steel Sefydliad Boshier–Hinton1st OfficeYmddiriedolaeth OakdaleCwmni Plastig DipecNelmes Design

Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake BruceFunky Monkey FeetSefydliad Finnis Scott Banc Unity TrustHugh JamesCymdeithas Celfyddydau Cyfoes CymruDot FoundryJVHGidden & ReesWestern Power Distribution Ymddiriedolaeth FollettCelfyddydau & Phlant CymruAduniad Merched Ysgol Uwchradd Canton Grŵp y Co–operative Llysgenhadaeth Gwlad Belg Llywodraeth Queensland

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cym

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter