cyflwyniad i hawliau plant

24
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

Upload: cira

Post on 06-Jan-2016

57 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant a’r heddlu Myfyrio a gwerthuso. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD. Cyffredinol Diymwad Annatod - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT

Page 2: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

Gwaith grŴP

Page 3: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

agenda

• Beth yw hawliau plant?• Pam hawliau plant?• Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar

Hawliau’r Plentyn• Hawliau plant yng Nghymru• Hawliau plant a’r heddlu• Myfyrio a gwerthuso

Page 4: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD

• Cyffredinol

• Diymwad

• Annatod

• Atebol

Page 5: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

EGWYDDORION FREDA

• Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom)

• Parch (Respect)• Cydraddoldeb (Equality)• Urddas (Dignity)• Ymreolaeth (Autonomy)

Page 6: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

DEDDFAU V HAWLIAU

• Mae rhai deddfau’n cyfateb i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn– e.e. Hawl i fyw / Deddfau llofruddiaeth

• Mae rhai deddfau’n gwrthdaro â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn– e.e. Hawl i gyfiawnder / cadw am 28 diwrnod

heb achos llys

Page 7: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT?

• Aeddfedrwydd• Heb lais ac yn anweledig• Eiddo

Page 8: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU

• Dymuno – awydd i gael rhywbeth

• Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd

• Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth

Page 9: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

4 ELFEN HAWL

1. Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn)2. Y gwrthrych (yr hyn y mae

ganddynt hawl i’w gael)3. Y rhai â dyletswydd (pobl neu

sefydliad)4. Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r

unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)

Page 10: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

CORFF HAWLIAU

Page 11: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN

• 54 erthygl• 41 prif erthygl• 3 pharth

Page 12: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

4 HAWL SYLFAENOL

Erthygl 2 – Dim gwahaniaethuErthygl 3 – Lles y plentynErthygl 6 – Hawl i fywydErthygl 12 – Hawl i gael eich clywed

Page 13: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC

1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall

2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus

3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan

4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd –

byddwch chi’n mwynhau’r profiad6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa

wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud

7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol

Page 14: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

GWEITHREDU’R HAWL I ADDYSG- ENGHRAIFFT

Llywodraeth

Dyletswydd i chwilio am adnoddau a’u dyrannu, diffinio polisi, sicrhau cynnydd yn erbyn targedau

Sefydliadau addysg

Dyletswydd i hyfforddi athrawon, trefnu adnoddau, creu amgylchedd sy’n ystyriol o blant

Athrawon Dyletswydd i addysgu’n dda, annog rhieni, cynorthwyo pob plentyn

Rhieni Dylent gefnogi addysg eu plant

Plant a phobl ifanc

Dylent barchu plant eraill er mwyn cefnogi’u cyfoedion i ymarfer eu hawliau

Page 15: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

Y BROSES ADRODD

• Bob 5 mlynedd• Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig:

– Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad)

– Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol– Adroddiad pobl ifanc– Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad)

• Sylwadau i gloi• Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad• Grŵp monitro

Page 16: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

AMSER PANED

Page 17: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

PWERAU DATGANOLEDIG AC ANNATGANOLEDIG

Pwerau datganoledig

•Addysg•Gwaith ieuenctid

•Chwarae•Datblygu cymunedol

•Gwasanaethau Cymdeithasol

Pwerau annatganoledig

•Heddlu•Gwasanaeth Erlyn

y Goron•Llysoedd•Y ddalfa

Timau/Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid

Page 18: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R HEDDLU 1

Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol1. Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar

Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys yr heddlu

2. Gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod lles gorau’r plentyn yn rhan o bob deddf neu bolisi sy’n effeithio ar blant, yn cynnwys ym maes cyfiawnder troseddol a mewnfudo

3. Hyrwyddo’r egwyddor o barch i farn y plentyn yn y llysoedd ac mewn unrhyw achosion eraill sy’n effeithio ar y plentyn

4. Meddyliwch eto am y defnydd o ASBOs – efallai eu bod yn mynd yn groes i hawliau plant i symud o gwmpas yn rhydd ac i ymgynnull

5. Meddyliwch eto am y defnydd o ddyfeisiau mosgito a mesurau eraill – efallai eu bod yn mynd yn groes i hawliau plant i symud o gwmpas yn rhydd ac i ymgynnull

Page 19: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R HEDDLU 2Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y

canlynol6. Sicrhau bod plant yn cael eu diogelu gan y gyfraith

ac yn ymarferol rhag ymyrraeth anghyfreithlon dianghenraid â’u hawl i breifatrwydd

7. Ymchwilio i pam mae pobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio cyffuriau ac alcohol er mwyn gallu datblygu rhaglenni i leihau’r defnydd o gyffuriau ac alcohol

8. Codi oedran cyfrifoldeb troseddol9. Canfod atebion eraill yn lle cadw plant sydd mewn

trafferth gyda’r heddlu yn y ddalfa10. Sicrhau mai’r dewis olaf fydd cadw plant yn y

ddalfa a bod hynny’n cael ei wneud am y cyfnod byrraf posibl

Page 20: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU

• Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant

• Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn

• Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru

• Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010

• Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau

Page 21: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I’R HEDDLU

• Erthygl 12 – hawl i gael eich clywed• Erthygl 15 – hawl i gyfarfod plant a phobl ifanc

eraill• Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd• Erthygl 22 – mae gan blant sy’n ffoaduriaid yr un

hawliau â phlant a anwyd yng Nghymru• Erthygl 31 – hawl i chwarae• Erthygl 37 – os yw pobl ifanc yn torri’r gyfraith, ni

ddylid eu trin yn greulon• Erthygl 40 – os yw pobl ifanc yn cael eu cyhuddo

o dorri’r gyfraith, dylid darparu cymorth cyfreithiol iddynt

Page 22: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

MEDDYLIWCH AM BLENTYN…

Page 23: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

RHOI’R HYN A DDYSGWYD AR

WAITH

Page 24: CYFLWYNIAD I  HAWLIAU PLANT

UNRHYW GWESTIYNAU I GLOI?