cyfrol cxlviii rhif 16 dydd gwener, ebrill 17, 2020 ......2020/04/17  · mae’r byd wedi newid, ac...

9
Un o fy atgofion o’m plentyndod oedd y noson y byddai Anti Adeleine Cae’r Lloi yn dod ar y ffôn. Roedd hi’n perthyn i ochr fy nhad i’r teulu, ond prin y byddai’n sgwrsio ag ef. Wedi’r cyfarchion cychwynnol arferol, mi fyddai mam yn mynd ar y ffôn, a dyna ni am y noswaith yn llythrennol! Nawr, roedd Cae’r Lloi yn llythrennol yng nghanol cae uwchlaw Penegoes, ac i gyrraedd mi fyddech yn parcio’r car ac yn cerdded ar draws y cae yma. D’oedd dim trydan yn mynd i’r tª, ond, yn rhyfedd iawn, mi roedd yna linell ffôn. Roedd Anti Adeileine yn ddi-briod, byddai’n mentro i Fachynlleth yn achlysurol, gan ddibynnu i raddau helaeth ar gymdogion i nôl neges iddi. Roedd yn hunan-ynysu cyn bod unrhyw un arall yn gwybod dim am y peth. Tebyg mai dyna pam roedd y galwadau ffôn yma mor hirfaith – dyma oedd ei chyswllt gyda’r byd. Rhag ofn ichwi amau, roedd yn gwybod hanes y byd yn iawn, ei byd hi ym Mhenegoes a’r cylch, byd y teulu drwy’r ffôn a byd pawb arall drwy’r weiarles. Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd gwaith drwy gyfrwng y ffôn clyfar ma’ a’r cyfrifiadur ar fy nesg. Mi fyddaf yn gweld pawb, yn clywed pawb ac yn cwblhau hynny o bwyllgorau a chyfarfodydd eraill yn ôl yr angen. Yn ychwanegol wrth gwrs, mi fyddaf yn cyd-addoli drwy’r cyfrwng. Un o’r pethau yr oeddwn yn sylwi’r Sul diwethaf oedd cynifer o bobl sy’n “taro mewn” i’n hoedfa. Ond, yn fwy trawiadol, mae gymaint fwy o bobl Ffynnon Llandysul yn cyrraedd y Cyfarfod Gweddi bellach, a gan fod hwnnw ar fidio byw, mae’n gyfle i ddal i fyny, i astudio, i rannu, heb sôn am gyfle gwych i weddïo dros ein gilydd ag eraill. Yr ydym yn parhau i eiriol dros y sefyllfa sydd ohoni. Byddwn yn gwneud hynny yn lleol, ac yn gwneud hynny yn genedlaethol a rhyng-genedlaethol. Yn gweddïo dros ofalwyr a staff meddygol, ac yn gwneud hynny dros deuluoedd sydd mewn pryder, a nifer cynyddol mewn galar. Mae hynt a helynt y Cyfundeb braidd wedi mynd yn isel iawn ar restr ein blaenoriaethau, er, yr ydym yn gwneud yr hyn sydd ei angen. Mwy gwerthfawr i ni yw ceisio cefnogi ein pobl wrth iddynt gyhoeddi cariad y Duw welodd ei Fab ei hun yn dioddef. Beth bynnag am ystrydebau, ac mae’r rheini ar bob cyfrwng, nid ystrydeb i ni yw gwaith Iesu, buddugoliaeth Iesu, eiriolaeth Iesu a moddion ei efengyl. Adnod oedd wedi hoelio fy sylw cyn yr helynt yma oedd: ‘Er i’r mynyddoedd symud, ac i’r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,’ medd yr ARGLWYDD, sy’n tosturio wrthyt.” (Eseia 54:10) Mae’r cyfnod yn heriol i’n heglwysi, er mai bychan yw ein gofid i gymharu â’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Wedi dweud hyn, fe gytunodd Swyddogion Ariannol y Cyfundeb i anfon 25% o gyfraniad Gweinidogaeth a Chenhadaeth yr eglwysi yn ôl am y chwarter hwn. Mi fyddaf yn anfon y manylion i’r eglwysi maes o law, a dylech dderbyn yr arian ganol Mai. Parch Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Williams y gweinidog amryddawn … t. 2 • O gefn gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd … t. 8 CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Byw ar y ffôn! “‘Er i’r mynyddoedd symud, ac i’r bryniau siglo, ni symuda fy ffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch yn ddi-sigl,’ medd yr ARGLWYDD, sy’n tosturio wrthyt.” Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw, ni syfl o’i le, nid ie a nage yw; cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith; er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith. Edward Jones, Maesyplwm Yr Iesu Byw Mae’n dymor y Pasg, Daw’n Bentecost cyn hir, Mae’r Iesu bendigaid Yn cerdded ein tir. Awn i’w gyfarfod, Gwrandawn ar ei gri: ‘Pan fo cartre’n y galon, Rwy’n fyw ynot ti; Os oer yw yr hin, Bydd dy enaid ar dân, A gwynfyd y gwanwyn Yng ngorfoledd y gân. Robin Gwyndaf Llun: neil-thomas-unsplash

Upload: others

Post on 25-Sep-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

Un o fy atgofion o’mplentyndod oedd y noson ybyddai Anti Adeleine Cae’rLloi yn dod ar y ffôn. Roeddhi’n perthyn i ochr fy nhadi’r teulu, ond prin y byddai’nsgwrsio ag ef. Wedi’rcyfarchion cychwynnolarferol, mi fyddai mam ynmynd ar y ffôn, a dyna niam y noswaith ynllythrennol! Nawr, roeddCae’r Lloi yn llythrennol yngnghanol cae uwchlawPenegoes, ac i gyrraedd mifyddech yn parcio’r car acyn cerdded ar draws y caeyma. D’oedd dim trydan ynmynd i’r tª, ond, yn rhyfeddiawn, mi roedd yna linellffôn. Roedd Anti Adeileineyn ddi-briod, byddai’nmentro i Fachynlleth ynachlysurol, gan ddibynnu iraddau helaeth argymdogion i nôl neges iddi.Roedd yn hunan-ynysu cynbod unrhyw un arall yn gwybod dim amy peth. Tebyg mai dyna pam roedd ygalwadau ffôn yma mor hirfaith – dymaoedd ei chyswllt gyda’r byd. Rhag ofnichwi amau, roedd yn gwybod hanes ybyd yn iawn, ei byd hi ym Mhenegoesa’r cylch, byd y teulu drwy’r ffôn a bydpawb arall drwy’r weiarles.

Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônauwedi newid. Bellach, mi fyddaf yn bywfy mywyd, yn bersonol a fy mywydgwaith drwy gyfrwng y ffôn clyfar ma’ a’rcyfrifiadur ar fy nesg. Mi fyddaf yngweld pawb, yn clywed pawb ac yncwblhau hynny o bwyllgorau achyfarfodydd eraill yn ôl yr angen. Ynychwanegol wrth gwrs, mi fyddaf yncyd-addoli drwy’r cyfrwng. Un o’r pethauyr oeddwn yn sylwi’r Sul diwethaf oeddcynifer o bobl sy’n “taro mewn” i’nhoedfa. Ond, yn fwy trawiadol, maegymaint fwy o bobl Ffynnon Llandysulyn cyrraedd y Cyfarfod Gweddi bellach,a gan fod hwnnw ar fidio byw, mae’ngyfle i ddal i fyny, i astudio, i rannu, hebsôn am gyfle gwych i weddïo dros eingilydd ag eraill.

Yr ydym yn parhau ieiriol dros y sefyllfa syddohoni.

Byddwn yn gwneudhynny yn lleol, ac yngwneud hynny yngenedlaethol arhyng-genedlaethol.Yn gweddïo dros ofalwyra staff meddygol, ac yngwneud hynny drosdeuluoedd sydd mewnpryder, a nifer cynyddolmewn galar.

Mae hynt a helynt yCyfundeb braidd wedimynd yn isel iawnar restr einblaenoriaethau, er,yr ydym yn gwneud yrhyn sydd ei angen.Mwy gwerthfawr i ni ywceisio cefnogi ein poblwrth iddynt gyhoeddicariad y Duw weloddei Fab ei hun yn dioddef.

Beth bynnag am ystrydebau, acmae’r rheini ar bob cyfrwng, nidystrydeb i ni yw gwaith Iesu,buddugoliaeth Iesu, eiriolaeth Iesua moddion ei efengyl. Adnodoedd wedi hoelio fy sylw cynyr helynt yma oedd:“‘Er i’r mynyddoedd symud, ac i’rbryniau siglo, ni symuda fyffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fynghyfamod heddwch yn ddi-sigl,’medd yr ARGLWYDD, sy’n tosturiowrthyt.” (Eseia 54:10)

Mae’r cyfnod yn heriol i’n heglwysi,er mai bychan yw ein gofid igymharu â’r hyn sy’n digwydd o’ncwmpas. Wedi dweud hyn, fegytunodd Swyddogion Ariannol yCyfundeb i anfon 25% o gyfraniadGweinidogaeth a Chenhadaeth yreglwysi yn ôl am y chwarter hwn.Mi fyddaf yn anfon y manylion i’reglwysi maes o law, a dylechdderbyn yr arian ganol Mai.

Parch Meirion Morris,Ysgrifennydd Cyffredinol

Williams y gweinidog amryddawn … t. 2 • O gefn gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd … t. 8

CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G L W Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

Byw ar y ffôn!“‘Er i’r mynyddoedd symud, ac i’r bryniau siglo, ni symuda fyffyddlondeb oddi wrthyt, a bydd fy nghyfamod heddwch ynddi-sigl,’ medd yr ARGLWYDD, sy’n tosturio wrthyt.”

Cyfamod hedd, cyfamod cadarn Duw, ni syfl o’i le, nid ie a nage yw; cyfamod gwir, ni chyfnewidir chwaith; er maint eu pla, daw tyrfa i ben eu taith.

Edward Jones, Maesyplwm

Yr Iesu BywMae’n dymor y Pasg, Daw’n Bentecost cyn hir,

Mae’r Iesu bendigaid Yn cerdded ein tir.

Awn i’w gyfarfod, Gwrandawn ar ei gri:

‘Pan fo cartre’n y galon, Rwy’n fyw ynot ti;

Os oer yw yr hin, Bydd dy enaid ar dân,

A gwynfyd y gwanwyn Yng ngorfoledd y gân.

Robin Gwyndaf

Llu

n:

nei

l-th

om

as-u

nsp

lash

Page 2: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

Yn fy hanes i mae yna le arbennig iawni’m gweinidog ym more oes, yr hoffusBarchedig John Ellis Williams(1880-1959) gan mai ef a’n moldiodd ni iystyried gwasanaethu’r Iesu a’rCyfundeb a chapel yn fraintanrhydeddus. Ni chafodd fanteisionmawr ei hun gan y gadawodd YsgolCwm y Glo i weithio yn chwarelLlanberis, ac ar ôl hynny, fel D. J.Williams (Abergwaun) a Jim Griffiths, ASLlanelli, ym mhwll glo y Betws. Yn eiugeiniau cafodd ei dröedigaeth ynNiwygiad Evan Roberts a chael eiaddysgu fel cymaint o eraill yn Ysgol yGwynfryn, Watcyn Wyn. Nid oedd raddganddo ond gallu anhygoel. Bu’n ddynpwysig ym mywyd Ceredigion ar Gyngory Sir am 30 mlynedd, yn Rhyddfrydwrradical, yn fardd cadeiriau di-ri acarweinydd y fro ym mhob peth. Ond eiweithred fawr oedd meithrin yr Ifanc ynyr Ysgrythurau yn ei DdosbarthBeiblaidd a’n swcro ni i ymateb iarholiadau ysgrifenedig Ysgolion SulHenaduriaeth De Aberteifi. Ymfalchïaifod cymaint ohonom yn ennill y medalauo flwyddyn i flwyddyn. Cymerai drafferthfawr i’n hyfforddi i gymryd defosiwn yn yCyfarfod Gweddi a byddai yn ein diddoriyn y Band of Hope gyda’i storïaugodidog. Nid oedd dim byd na fedrai droiei law iddo, llunio cywydd a chwaraepiano, hyfforddi bechgyn a merched iadrodd a chanu a chyd-adrodd.Hyfforddodd hanner dwsin a ddaeth ynAdroddwyr Cenedlaethol a enillaiwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethola’r eisteddfodau llai. Canlyniad hyn i gyd

oedd codi rhwng 1920 a 1957 ynLlanddewi Brefi naw o Weinidogion yrEfengyl. Y Parchedig David Williams,Pontypridd oedd y cyntaf ac ymhlith yrenwau eraill cafwyd David James Jones,Treforys, Davies, y Tymbl, EbenEbeneser, Llanon, R. E. Lloyd,Caerfyrddin, Dr. R. Leonard Hugh,Gorseinon, sylfaenydd Urdd SiaradCymraeg, ei fab ei hun Dewi WynWilliams a aeth yn offeiriad, Lewis DewiRichards, Cwmafan a minnau, yr olaf unar ddiwedd ei weinidogaeth anhygoel.

Sawl bachgen a gododd y ParchedigPhilip Jones, Porthcawl, D. M. Phillips,Tylorstown, Dr. Cynddylan Jones, i enwiond tri i wasanaethu’r “arswydusswydd”? Dyna gam â Williams nachafodd esgyn i Gadair y llysoedd ond fegafodd ei gywion fel David James Jonesa Lewis Dewi Richards y fraint honno.

Peth arall a wnaeth oedd ysbrydolibechgyn y Capel a ymfudodd i Lundain ifod yn flaenoriaid yn y capeli Cymraeg agallwn enwi dwsin oedd yn ddyledus iWilliams am yr addysg grefyddol a’rysgogiad i wasanaethu’r Iesu a gawsomganddo. Rhoddodd yr un grymusteraui’w ferch Eluned Ellis Jones a gofiaf yndda yn gwarchod yr iaith yng Ngwyneddac yn pregethu yn ddeniadol ymmhulpudau Gogledd Arfon.

Fel Owen Roberts, Rhuddlan ni welwydef heb ei goler gron a chredaf ei fod ynenghraifft ardderchog o’r pulpudCymraeg ar ei orau. Diolch MisterGolygydd am y gwahoddiad i sônamdano, un a fu yn ofalus o’n heneidiauni blant Bethesda Llanddewi Brefi amddeugain mlynedd namyn un ac a’ntrwythodd yng Ngair y Bywyd. Mae yn firrhy fawr i’w anwybyddu.

Gol. Mae’n debyg y bydd gan bobgweinidog (fel y ddau sydd wedicyfrannu eisoes), pob blaenor, yn wirpob un ohonom, weinidogion,blaenoriaid neu athrawon Ysgol Sul afu’n ddylanwad bore oes arnom. Efallaina chawsoch gyfle erioed i ddiolchiddynt. Yn wir fe all lawer fod wedi hunoheb wybod gymaint fu eu dylanwad.Beth am fanteisio ar dudalennau’rGoleuad i ddiolch i rywun gyfrannodd iles a thwf eich enaid?

2 Y Goleuad Ebrill 17, 2020

Williams y Gweinidog Amryddawn Fel y Parch Ddr. Elfed ap Nefydd Roberts (Goleuad, 6ed Mawrth) mae gan

Parch Ddr. Ben Rees yntau weinidog amryddawn i’w werthfawrogi.

Wn i ddim a welsoch chi’r darncanlynol yn y wasg: mae Simon Tisdallyn yr Observer (21.3.20) yn trafodeffaith yr ieithwedd ryfelgar addefnyddir i wrthsefyll y pla sy’n blino’rynysoedd hyn a mannau eraill yn ybyd. (gwelerhttps://www.theguardian.com/commentisfree/2020/mar/21/donald-trump-boris-johnson-coronavirus) Y mae o’r farn fodhynny’n cynyddu’r ofn a’r ansicrwydd,yn golygu bod llywodraethau’n pasiodeddfau sy’n cyfyngu ar hawliau, amilwyr i’w gweld ar strydoedd,etholiadau’n cael eu gohirio yn Ffrainca Phrydain, ac amheuaeth a fyddetholiad arlywyddol yn yr UnolDaleithiau.

 ymlaen fel hyn: sefydliadau eraill aniweidiwyd yn y byd newydd hwn yweglwysi’r gorllewin, a gaeodd eudrysau i addolwyr, fel y gwnaeth ymosg mewn gwledydd Islamaidd. Osoes yna neges ffydd gref i’wddarganfod yn y gofid, y trueni a’rangau sydd ymhlyg yn y pandemichwn, mae eto i’w glywed. Dyma ryfelseciwlar a ymleddir ar wastad bydol.

Byddwn i’n bersonol yn hoffi clywedrhyw sylw ar y dweud hwn.

Yn gywir,

Lona Roberts (Parch)

(Gol. Tybed a yw’n gohebydd wedisbarduno’ch meddwl i ystyriedcanlyniadau defnyddio ieithwedd filwroli drin aflwydd sydd heb bersonoliaethna wyneb. Os nad ieithwedd “filwrol” pafath o iaith fyddai’n briodol? Gadewch ini wybod.)

Taro’rPostAnnwyl Olygydd,

Sefydlu Llywydd NewyddHenaduriaeth GogleddDdwyrain

Sefydlwyd Mrs. Marian Lloyd Jonesyn Llywydd newydd Henaduriaeth yGogledd Ddwyrain yn ystod cyfarfodo’r Henaduriaeth yn Eglwys Bethesda,Yr Wyddgrug. Daeth tymor eirhagflaenydd, y Parch. Eirlys Grufydd-Evans i ben wedi ei anerchiadymadawol. Diolch a phob bendith i’rddwy ohonynt.

John Williams

Page 3: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

Wythnos 31 – Sul, 26 Ebrill

pâr i’n cenedl annwyl rodio yn dy ofn o oes i oes.

(Caneuon Ffydd, 197)

Hosea‘lledodd penwynni drosto, ac yntau hebwybod’ (Hosea 7:9; tud. 258 yn yGwerslyfr)

Darllen: Hosea 1:1–11, 2:14–23, 7:8–10;1 Pedr 2:1–10

GweddiIôr anfeidrol, yn dy gwmnimae fy nos yn troi yn ddydd,

mae rhyfeddod dy oleuniheddiw yn bywhau fy ffydd,

gwelaf dy sancteiddrwydd dwyfolymhob lle yn ddisglair iawn,

seinia holl ganiadau’r ddaearer dy fwyn, yn foliant llawn.

(Caneuon Ffydd, 195)

Mae llyfr y proffwyd Hosea yn darllen felnofel ramantus ond dirdynnol. Ystyriwchy bywyd y galwyd Hosea iddo yn ybennod gyntaf, lle mae Duw yn eiorchymyn, “Dos, cymer iti wraig obutain”. Drwy ddigwyddiadau ei fywyd,ei berthynas gythryblus â’i gymar, Gomer,a’u plant, darlunnir anffyddlondeb poblDduw a chariad cyfamod di-dor yrArglwydd at ei bobl.

Fe welir o’r adnod gyntaf fod cyfnod eibroffwydoliaeth yn pontio sawl adeg offyddlondeb a godineb ysbrydol poblDduw, ac fe adlewyrchir hyn yn y llanw athrai ym mherthynas Hosea a Gomer.Mae’r trosiad yn rymus, ac yn un ybyddai’n dda i ni ei gofio mewn adeg ogefnu ar Dduw yn ein cenedl. Perthynasgyfamodol sydd rhyngom a Duw, ac erein bod yn gymdeithas unigolyddol, nidfelly’n unig y mae hi gyda Duw. Mae’nymwneud â ni fel unigolion – gwelir hynym mywyd Hosea – ond fel pobl hefyd.Yn wir, thema drawiadol drwy’r llyfr yw’renwau a roddir ar blant Hosea a Gomer:Lo-ruhama, sef ‘heb drugaredd’ (1:6) aLo-ammi, ‘nid fy mhobl’. Cyferbyniwchyr enwau hyn â datguddiad yr Arglwyddohono’i hun i Moses: “Yr ARGLWYDD,yr ARGLWYDD, Duw trugarog agraslon, araf i ddigio, llawn cariad affyddlondeb” (Exodus 34:6). Yn yr unmodd ceir yr ymadrodd cyfamodol:“Fe’ch cymeraf yn bobl i mi, a byddaffinnau yn Dduw i chwi” (Exodus 6:7,cymharer Lefiticus 26:12 a Jeremeia24:7).Ceir yma adegau pan adewir y

genedl anffyddlon i brofi ffrwyth eianffyddlondeb. Ceir adegau hefyd odynerwch a cheisio denu ei bobl yn ôl i’wfynwes. Bron y gellid crynhoi holl brofiadpobl Dduw ym mhennod 6:1–3:

“Dewch, dychwelwn drachefn at yrARGLWYDD;

fe’n drylliodd, ac fe’n hiachâ;fe’n trawodd, ac fe’n meddyginiaetha.Fe’n hadfywia ar ôl deuddydd,a’n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn eifiydd.

Gadewch inni adnabod, ymdrechu iadnabod, yr ARGLWYDD;

y mae ei ddyfodiad mor sicr â’r wawr;daw fel glaw atom, fel glaw gwanwynsy’n dyfrhau’r ddaear.”

Mae’r trosiad yn ein hadnod heddiw –“lledodd penwynni drosto, ac yntau hebwybod” (7:9) – yn drawiadol, ac yn siaradyn rymus wrth ein hoes heddiw syddynghlwm â’r ymdrech i ymestyn einhieuenctid. Doedd dim Just for Men adegHosea i guddliwio’r britho, ac eto nifyddai drych gwerth sôn amdano chwaith.Ond all neb wir beidio â sylwi ar brosesheneiddio ein cyrff. Dyma felly ergyd yrymadrodd: mae anffyddlondeb y genedlwedi ymledu yn ddiarwybod iddi, nes eibod wedi ei goddiweddyd yn llwyr. Onidyw hyn yn ddisgrifiad teg ohonom ymayng Nghymru – fesul cam baban rydymwedi ymbellhau oddi wrtho? Rydym wediymbellhau cymaint oddi wrtho fel nadydym yn cofio beth yw gwres ei gwmniâ’i gariad. Trafodir Duw yn ein plith felcysyniad athronyddol neu ‘ysbrydol’gydag ‘y’ bychan iawn.

Trafod ac Ymateb:

1. Darllenwch sut y mae Iesu yn einhadfer a’n gwneud yn bobl i Dduw o’rnewydd yn 1 Pedr 2:1–10.

2. A yw penwynni wedi lledu drosoch, achithau heb wybod?

3. “Beth sydd a wnelo Effraim mwy ageilunod?” (14:8). Ystyriwch sut ydylanwadodd Hosea ar ddeall twriaethAnn Griffiths o’n perthynas â Duw,e.e. Caneuon Ffydd, 193 a 319.

Ebrill 17, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y TUDALENNAU CYDENWADOLy4t y4t

Gair o WeddiPan mae geiriau fel pe baen nhw’n annigonoli ddangos ein pryder

Sut allaf ddod â’m pryderon bychain ger dy fron,Arglwydd,pan mae miloedd yn marw?

Sut allaf ofyn am dy fendith ar y diwrnod yma,pan mae cymaint dan fygythiad?

Sut allaf dy boeni hefo rhyw gais dibwys,pan mae llawer, hyd yn oed ar hyn o bryd,yn ymladd am anadl,am eu bywyd?

Sut allaf geisio arweiniad mewn pethau bychainpan mae lluoedd yn galw amdanatond eto fel nad ydynt yn derbyn ateb?

Sut allaf weddïo am y fath bethaupan mae fy meddyliau wedi eu canolbwyntio ar un peth yn unig:yr argyfwng yma sydd wedi taflu cwmwl drosom,yr ansicrwydd sy’n ymestyn ymlaen,gwagle llwm yn agor o’n blaenau?

Maddau i mi, Arglwydd.Mae fy meddyliau yn un gymysgfaond ti’n gwybod beth sydd yn fy nghalon,be dw i wir yn ei deimlo,be dw i’n ddyheu i’w ddeuder fy mod yn cael trafferth i’w ddangos.

Clyw fy ngeiriau sydd heb eu hyngan,fy nghri o’r galoni mi ac i eraillac i bawbac, yn dy drugaredd, ateb. Amen.

Nick Fawcett

Addasiad Cymraeg Ioan ac Owenna Hughes (oddi ar y dudalenFacebook: Gair o Weddi)

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

Page 4: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 17, 2020Y TUDALENNAU CYDENWADOLy4t y4t

Mae byd Duw yng nghanol argyfwng nawelwyd ei debyg o’r blaen. Yngngwledydd yr ynysoedd hyn mae’r firwsCOVID-19 yn parhau i effeithio ar boblar raddfa frawychus. Mae’rgwasanaethau iechyd, ynghyd â llawero’n sefydliadau a’n mudiadau, yn lleol acyn genedlaethol, dan bwysau enbyd, acmae pobl yn gorfod dygymod â bywmewn ffordd wahanol iawn, llawerohonynt mewn unigrwydd eithafol. Felyn achos pob argyfwng o’r fath, mae ynaberygl mai’r rhai mwyaf bregus yn ygymdeithas fydd yn dioddef fwyaf.

Mae Cristnogion ledled y byd ardrothwy cyfnod pwysig yn y flwyddyneglwysig, pryd y byddwn yn cofiomarwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist.Mae dyfnderoedd anobaith ac uchel -fannau llawenydd ill dau yn ganolog i’nffydd gyffredin. Yn y Beibl ac yngnghaneuon a litwrgïau’r Eglwys, fewelwn Iesu’n profi dioddefaint dynol ynllawn. Yn ei Atgyfodiad, trawsffurfiwydy dioddefaint hwnnw drwy ei waithachubol yn obaith a llawenydd. Ar ôlmarw Iesu, roedd y disgyblion yn ofnusac yn ddiobaith, ac roedd popeth fel petaiar ben, ond daeth y Crist atgyfodedigatynt yn eu trallod ac ailgynnau gobaithdrwy ei fuddugoliaeth dros angau.Gweddïwn y disodlir anobaith y bydheddiw gan yr un gobaith hwnnw.

Yn Llyfr Daniel, fe ddarllenwn amgaethgludo pobl Dduw i Fabilon. Ni allaiDaniel weddïo yn y Deml yn Jerwsalem,ond parhaodd i weddïo yn ei alltudiaeth –gan agor ei ffenestr tuag at Jerwsalem. Erei fod ar ei ben ei hun, roedd yn ymuno âgweddïau’r bobl lle bynnag yr oeddent.Heddiw, rydym ninnau hefyd wedi eingwahanu oddi wrth ein gilydd yngorfforol, ond pan fyddwn yn gweddïoyn ein cartrefi, rydym yn rhan o’r hendraddodiad hwn o weld ein cartref fel tª

gweddi. Lle bynnag yr ydym, prydbynnag y gweddïwn, pan lefarwn amGrist a meddwl amdano, yno y maeyntau yn ein canol. Unwn ein gweddïau âgweddïau pawb sy’n gweddïo yn einheglwysi ni ein hunain ac mewncymunedau ledled y byd.

Fel arweinwyr eglwysig o’r amrywioleglwysi yn yr ynysoedd hyn, galwn arbawb i ymuno â ni yn ystod yr WythnosFawr a thros y Pasg eleni: i weddïo drosy rhai sy’n dioddef, dros y rhai sy’nwynebu marwolaeth annhymig a throsbawb sy’n gofalu amdanynt; i gyd-ddathlu ein ffydd gyffredin ar adeganodd; i gynorthwyo ein cymdogionsydd mewn angen a bod yn gefn iddynt;ac i gadw at yr holl fesurau diogelwch asefydlwyd i lesteirio lledaeniad y clwyf.

Ein Gweddi

Dduw cariadus, yn Iesu Grist, a fu farwac a atgyfododd er ein hiachawdwriaeth,diddyma dywyllwch ein pryder, ein ofna’n galar, cofleidia ni â’th gariad a rho ini lawenydd a gobaith y Pasg hwn.Amen.

––––––––––Yr Archesgob Justin WelbyArchesgob Caergaint

Cardinal Vincent NicholsArchesgob San Steffan

Y Gwir Barchedig Dr William HenryLlywydd Cymanfa Gyffredinol EglwysBresbyteraidd Iwerddon

Y Gwir Barchedig Colin SinclairLlywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban

Yr Archesgob Eamon MartinArchesgob Armagh

Y Comisiynydd Anthony CotterillByddin yr Iachawdwriaeth

Y Parch. Nigel UdenLlywydd Cymanfa Gyffredinol Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig

Yr Archesgob Etholedig John McDowellArchesgob Armagh

Yr Esgob Hugh GilbertEsgob Aberdeen

Y Parch. Ddr Barbara Glasson Llywydd Eglwys Fethodistaidd PrydainFawr

Ei Ardderchocaf Archesgob NikitasArchesgob Thyateira a Phrydain Fawr

Y Parch. Lynn GreenYsgrifennydd Cyffredinol UndebBedyddwyr Prydain Fawr

Yr Esgob Mark StrangePrimus, Eglwys Esgobol yr Alban

Yr Archesgob John DaviesArchesgob yr Eglwys yng Nghymru

Ei Ardderchocaf Archesgob AngaelosArchesgob Coptig Llundain

Y Parch Agu IrukwuEglwys Dduw y Cadwedigion Cristnogol

Mr Rheinallt ThomasLlywydd Cyngor Eglwysi RhyddionCymru

Y Parch. Hugh OsgoodLlywydd Cyngor Ffederal yr EglwysRydd

Y Parch Brian AndersonLlywydd Cyngor Eglwysi Iwerddon

Gavin CalverPrif Weithredwr y GynghrairEfengylaidd

Y Parch. Sam McGuffinLlywydd yr Eglwys Fethodistaidd ynIwerddon

Paul ParkerCymdeithas Grefyddol y Cyfeillion

Arweinwyr Eglwysi Prydain ac Iwerddon yn uno mewn ymateb i pandemig Covid 19Am y tro cyntaf yn eu hanes, daetharweinwyr yr eglwysi ynghyd ddyddMercher, 1 Ebrill, i gymryd rhan mewncynhadledd fideo foreol. Roedd ycyfarfod yn cynnwys arweinwyrcrefyddol o bob cwr o Brydain acIwerddon, a fu’n adrodd am y sefyllfayn eu hardaloedd a’u henwadau unigol.Syniad yr Archesgob Justin Welby oedd

hyn yn wreiddiol, gan ei fod ynawyddus i roi cyfle i arweinwyr glyweda chefnogi ei gilydd yn y dyddiautyngedfennol hyn.

Yn y cyfarfod fideo a gafwyd yn yprynhawn o brif swyddogion nifer o’reglwysi cafwyd trafodaethau am addoliar-lein, gofal bugeiliol mewn ysbytai,trefniadau angladd mewn gwahanol

fannau, ynghyd â gwybodaeth amdrefniadau ‘absenoldeb seibiant’(furlough) sy’n cael eu hystyried gan raieglwysi.

Cefnogir y datganiad hwn ganeglwysi sy’n aelodau o Eglwysi ynghydym Mhrydain ac Iwerddon, Eglwysiynghyd yn Lloegr, Cytûn yng Nghymru,ACTS a Chyngor Eglwysi Iwerddon.

Datganiad Wythnos y Pasg gan Arweinwyr Eglwysi Prydain ac Iwerddon

Page 5: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

YR YSBRYD YN EIN HELPU

Daeth y Mab â ni i fod gydag ef – ynddoef – gerbron ei Dad. Dyna rydym yn eifwynhau mewn gweddi. Ond beth amwaith yr Ysbryd? Wel, mae’r Mab yngwneud y cyfan y mae ef yn ei wneud ynnerth yr Ysbryd. Yn y gwaith o greu, maeGair Duw yn mynd allan ar Ysbryd neuanadl Duw. A darllenwn yn Genesis fodyr Ysbryd yn ymsymud (Genesis 1:2), acyn nerth gair Duw yn mynd allan, erenghraifft, gyda’r gorchymyn ‘Byddedgoleuni’ (Genesis 1:3).Dechreua Iesu ei weinidogaeth adeg ei

fedydd drwy gael ei anfon allan i’ranialwch gan yr Ysbryd. Mae’n bwrwallan gythreuliaid drwy nerth yr Ysbryd.Yr Ysbryd hefyd sy’n cyffroi’r Mab igymuno â’r Tad. Er enghraifft, dywed Lucam Iesu, ‘Yr awr honno gorfoleddodd ynyr Ysbryd Glân, ac meddai, “Yr wyf yn dyfoliannu di, O Dad ...”’ (Luc 10:21). Dynawaith yr Ysbryd yn y Mab, a dyna’i waithym mhlant Duw. Esbonnir yr unegwyddor yn y llythyr at y Rhufeiniaid:‘Y mae pawb sy’n cael eu harwain ganYsbryd Duw yn blant Duw. Oherwyddnid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto’n

peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ondYsbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo ynllefain, “Abba! Dad!” Y mae’r Ysbryd eihun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni,ein bod yn blant i Dduw.’ (Rhufeiniaid8:14–16, fy mhwyslais i)Yr Ysbryd sy’n gyrru’r gwirionedd y

mae’r Ysgrythur yn ein dysgu i mewn i’ncalonnau fel ein bod yn gwybod ein bodyn blant iddo, ac felly’n galw, ‘Abba!’ YrYsbryd yw’r gwynt yn hwyliau eingweddïau wrth inni gael ein chwythu a’ndal yng nghariad y Mab tuag at y Tad.Gan adael i ni wybod ein bod ynwrthrychau ei gariad, mae’n ein cymell igaru’r Tad fel y mae’r Mab yn ei garu. Nidsgwrs un ffordd felly yw gweddi, oddiwrthym ni at Dduw. Na, mewn gweddimae Duw yn siarad drwom ni gyda Duw.Fe’n dygir i mewn i’r gymdeithasddwyfol. Mae Ysbryd y Mab yn galw ar yTad drwom ni. Paul yn ei flaen yn ei lythyr at y

Rhufeiniaid: ‘Yn yr un modd, y mae’rYsbryd yn ein cynorthwyo yn eingwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut ydylem weddïo, ond y mae’r Ysbryd ei hunyn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnti eiriau’ (Rhufeiniaid 8:26). Dyma adnod

sy’n gymorth anhygoel inni os oesgennym wir ddiddordeb mewn cymundebâ Duw. Mae’r Ysbryd yn gwybod ein bodyn wan, bod gweddïo yn ymdrech inni acnad ydym yn aml yn gwybod beth ddylemni fod yn ei weddïo – a’i ddyhead ef ywein helpu ni. Golyga hyn nad oes raid i nigymryd arnom ein bod yn gewri ym maesgweddi na gwneud addunedau sydd y tuhwnt inni. Gan fod yr Ysbryd yn gwybodam ein gwendid, fe allwn ni fod yn realgyda’n Tad gan dderbyn mor anaeddfedyw ein ffydd, gan fynegi’n garbwl orau ygallwn ni yr hyn sydd ar ein calonnau.Mewn gwirionedd, dyna’r union ffordd idyfu yn ein perthynas â Duw. Trwy eigeisio a’i ddatblygu y daw gwiragosrwydd – a dim ond gydagonestrwydd y mae’n datblygu. Felly, osydy dy fywyd gweddi di braidd yn fregus,rwy’n awgrymu dechrau eto drwy fynegidy ddymuniad â’th galon fel plentynbychan wrth ei Dad. Galwa allan amgymorth. Paid a thrio bod yn rhywbethnad wyt ti ddim.

Cofiwn mai bod yn ‘true to nature’ oeddanogaeth Wil Bryan i’w ffrind Rhys Lewisyn y nofel o’r un enw gan Daniel Owen.

Ebrill 17, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y TUDALENNAU CYDENWADOLy4t y4t

Yn y gyfres hon byddwn yn cyflwyno rhai penodau o lyfr Michael Reeves, Enjoying your prayerlife (10ofthose publishing) er mwyn ein hybu a’n helpu yn ein bywyd o weddi

Mwynhau ein Bywyd Gweddi – 8

Ddydd Sadwrn olaf Chwefror mewnblwyddyn naid cynhaliwyd oedfaarbennig yng nghapel Penuel,Caerfyrddin, lle cafwyd cyfle i edrych ynôl ar hanes datblygu a lansio beibl.net fely trydydd argraffiad o’r Beibl ynGymraeg. Daeth i fodolaeth ar y we am ytro cyntaf ar 1 Mawrth 2002, ac maebellach wedi dod i oed a newydd ddathluei ben-blwydd yn 18 oed. Bu’r oedfahefyd yn gyfle i edrych ymlaen at yblynyddoedd nesaf, a chlywed amddatblygiadau newydd gan Gymdeithas yBeibl a Chyngor yr Ysgolion Sul ar gyfery Beibl yng Nghymru.Cynhaliwyd yr oedfa yng nghapel

Penuel, Caerfyrddin, lle mae CadeiryddGobaith i Gymru, sef y Parch AronTreharne, yn weinidog, ac ef a Rhys acAndy Hughes fu’n gyfrifol am y defosiwna’r addoliad yn yr oedfa. Gobaith i Gymruyw’r elusen Gristnogol a fu’n gyfrifol amgynnal Arfon Jones a Gwenda Jenkins iwneud y gwaith ar y wefan dros gyfnod o18 mlynedd. Daeth yr elusen i benddiwedd 2019, wedi iddi gwblhau eihamcanion o greu beibl.net yn eigyfanrwydd. Mawr yw ein diolch am rany pwyllgor hwn yn y gwaith, yn codi arianac yn gweinyddu’r elusen, a hefyd yn gefni’r swyddogion cyflogedig wrth iddynt

gyflawni eu tasgau cyfieithu ac addasu.Rhan bwysig o’r gwasanaeth oedd

diolch am yr elusen, a cafwyd gair ganSion Meredith, cyn-gadeirydd GIG. Efhefyd gafodd y fraint o gyflwyno tysteb iArfon a Gwenda fel arwydd o’ngwerthfawrogiad o’u gwaith. Diolch i’runigolion a’r eglwysi ledled Cymru agyfrannodd at y dysteb hon. Cafwyd gairgan Arfon yn ein hatgoffa o’r weledigaethwreiddiol, a bu iddo yntau yn ei droddiolch i 77 o bobl eraill a wirfoddoloddmewn amryfal ffyrdd i gefnogi gwaithbeibl.net. Yn dilyn y cyflwyniad, fe’nharweiniwyd mewn gweddi gan RhysLlwyd a Catrin Roberts, a ddiolchodd iDduw am weledigaeth a gweithgarwch yrelusen ac yn arbennig gyfraniadamhrisiadwy Arfon a Gwenda.Bellach, mae gwefannau GIG wedi eu

trosglwyddo i Gyngor yr Ysgolion Sul, achafwyd gair o werthfawrogiad a diolchgan Aled Davies, y Cyfarwyddwr, a aethymlaen hefyd i sôn am ddatblygiadaudiweddaraf y Cyngor mewn perthynas â’rBeibl. Soniodd am wefan newydd arall,sef www.gair.cymru, a fydd yn llawndeunydd dysgu a deunydd defosiynol i’w

lawrlwytho yn rhad ac am ddim.Lansiwyd gwefan arall yn ystod y dyddhefyd, sef www.cristnogaeth.cymru. Maehon yn wefan sy’n gwasanaethu felcanolbwynt i rannu gwybodaeth amunrhyw beth a phopeth yn ymwneud âChristnogaeth yng Nghymru, ac yngyfrwng, gobeithio, i ddangos ycydweithio rhwng enwadau a mudiadau.Dangoswyd ffilm fer oedd yn cyflwyno’rpum gwefan sydd gan y Cyngor erbynhyn, gan bwysleisio’r hyn y mae pob uno’r gwefannau yn ei gynnig i eglwysiCymru.Cafwyd gair hefyd gan Meleri Cray,

trefnydd gwaith Cymdeithas y Beibl, asoniodd yn arbennig am y cyffro wrthbaratoi i gyhoeddi a lansio fersiwn BeiblIeuenctid o beibl.net. Hwn fydd ypedwerydd argraffiad, gan ddilyn y Beiblbach du cyffredin, y fersiwn lliw 365 argyfer plant, a’r fersiwn print bras.Coronwyd y diwrnod gan bregeth

afaelgar a heriol gan y Parch Ddr GeraintTudur, a wnaeth ein hatgoffa am rym gairDuw, cyn cael cyfle i seiadu a sgwrsiodros baned yn y festri.Dymunwn fendith Duw ar Arfon a

Gwenda ar gyfer dyfodol, ac edrychwnymlaen i weld beth fydd galwad Duw areu cyfer yn y bennod nesaf hon.

Dathlu’r Deunaw

Page 6: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

Ers fy mhenodi fis Awst y llynedd maedod i arfer â’r gwaith cyffrous, deinamigac arwyddocaol yma wedi bod yn siwrneanhygoel. Yr hyn wnaeth fy nenu i fod ynrhan o’r gwaith yma oedd yr elfengenhadol. Yn draddodiadol, gwaithCymdeithas y Beibl yw gwneud yn sifirfod y Beibl ar gael i bawb, ac fel hogyno’r Bala does dim posib i mi anghofiostori Mari Jones a Thomas Charles adechrau’r mudiad yma sydd bellach ynfudiad rhyngwladol anferth! Dwi’n dal iryfeddu wrth feddwl am y ffordd ygwnaeth Duw ddefnyddio’r stori yma iddechrau mudiad sydd, ers canrifoeddbellach, wedi dod â gair byw Duw i bobly byd.

Ond yng Nghymru bellach, nidargaeledd y Beibl yw’r her ond gweldgwerth y Beibl. Bellach dydy pobl ddimyn gweld gwerth yn y gair nac ynymwneud ag o. Yn drist, nid yw hyn ynunig yn wir i bobl tu allan i’r Eglwys, ondrydym ni fel Eglwys bellach mewn oesseciwlar wedi colli hyder yng ngrym ygair. A dyma pam ein bod ni fel mudiadeisiau newid pethau, ar sail yrargyhoeddiad cadarn fod gair Duw ynparhau i siarad heddiw, ei fod yn rymus acyn medru trawsffurfio bywydau er gwell. Dwi wedi profi grym y gair yn fy

mywyd i fy hun ac mewn cenhadaeth. Panoeddwn yn astudio yn y brifysgol ymManceinion, cefais fy annog gan ffrind iwahodd yr hogiau ro’n i’n chwarae rygbihefo nhw i ddarllen y Beibl efo fi.Rhyfeddais wrth weld cymaint yn derbyny gwahoddiad, ac erbyn fy nhrydeddflwyddyn roedd dros ugain o hogiau’ndod yn rheolaidd i edrych ar straeon amIesu o’r Beibl hefo fi. Sylweddolais brydhynny fod ’na syched am wirionedd agobaith yn ein hoes seciwlar, ac mai dimond y Beibl oedd yn medru ymateb i’rangen yna.

Fy ngobaith ar gyfer y rôl yma yw ybyddaf i a’r tîm yng Nghymdeithas yBeibl yn medru ffurfio partneriaethau â’reglwysi lleol i gynyddu hyder yr Eglwys iymestyn y gair byw yma i’r byd. Byddwnyn gwneud hynny drwy ryddhaugwahanol adnoddau, drwy fod yn rhan obrosiectau cyffrous a thrwy agor y Beiblmewn gwahanol gyd-destunau.

Diweddariad Fe ysgrifennais yr erthygl hon cyn

argyfwng y coronafirws. A bellach maeein byd ni’n edrych yn wahanol iawn.Rydyn ni’n byw mewn dyddiauannisgwyl, anarferol ac anodd, ac maehyn yn golygu fod cynnig neges y Beibli’n byd yn bwysicach nag erioed. Maesyched pobl am weddi a ffydd wedicynyddu wrth i sylfeini bywydau poblgael eu ysgwyd gan yr haint ofnadwyyma. Clywais ddoe fod gweddi bellach ynun o’r testunau mwyaf poblogaidd arGoogle ac mae eglwysi ledled y wlad yngweld dwbl y niferoedd yn gwylio’ugwasanaethau ar lein.

Un prosiect cyffrous ac arwyddocaolsydd ar y gweill yw’r Beibl.net i boblifanc rydyn ni’n dal yn bwriadu eiryddhau yn ystod yr haf. Mae’r Beibl hwnwedi’i lunio’n arbennig i annogcreadigrwydd a helpu pobl ifanc sydd hebgefndir yn y Beibl i ddeall y stori fawrdrostynt eu hunain trwy fideos YouTube!Mae yna le ar ymyl y tudalennau igofnodi’r hyn mae Duw yn ei ddweudwrth y darllenydd ac i ddarlunio’ngreadigol. Mae’r fideos eu hunain yntrafod y materion real ac anodd y maepobl ifanc yn eu hwynebu, gan ddangosnad yw’r Beibl yn dawel am y materionyma, ond ei fod yn cynnwys stori well. Ahyn gan gredu nad oes amser tebyg wedibod mewn hanes lle mae’r fath angen amstori well i adeiladu fy mywyd arno!Yn ogystal â’r prosiectau cyffrous sydd

ar y gweill, rydyn ni eisiau cynnig y Beibli’n byd yn awr. Os ewch chi i’ntudalennau cymdeithasol (Facebook /Twitter), bydd fideos wedi’u hanimeiddioo’r Beibl ar gael, bydd adnodauysbrydoledig o’r Beibl yn cael eu llwythobob dydd ynghyd â chynnwys creadigolfydd yn dod â’r Beibl yn fyw i bobl yn ydyddiau hyn.

Mae cynnig arbennig newydd eiryddhau gyda ‘Cwrs y Beibl’(cwrsybeibl.cymru), cwrs wyth sesiwn i’nhelpu ni i ddeall darlun mawr y Beibldrosom ein hunain. Mae’r llawlyfrCymraeg bellach ar gael ar ffurf PDF,felly mae modd ei lawrlwytho heddiw a

gwylio’r cynnwys fideo. Gallwch wneudy cwrs adre ar eich pen eich hun neu – ynwell fyth – ei wneud fel eglwys drwycysylltu dros Skype/Zoom/pa fforddbynnag rydych chi’n ei defnyddio igysylltu ar hyn o bryd! Y fath gyfle syddgennym fel Eglwys i fwrw ein gwreiddiauyn ddwfn i fewn i’r gair!

Mae’r rhain yn ddyddiau anodd acanarferol, ond oes yna neges well o obaithna’r neges y mae’r Beibl yn sôn amdani?Rydyn ni’n cofio’n arbennig y dyddiauhyn am neges y Pasg, neges yr atgyfodiad:fod Iesu wedi trechu marwolaeth ei hun abod yna ffordd yn ôl at Dduw i ni bellach.Mae’r atgyfodiad yn cadarnhau fod gairDuw yn wir a bod pob addewid felly’nwir – gallwn fod â phob hyder fod Duwgyda ni ac na fydd byth yn ein gadael ilawr. Y Pasg yma, gadewch i’ch hunainryfeddu eto: hyd yn oed pan mae sylfeiniein byd yn ysgwyd, mae un sylfaengadarn i’w chael na ellir ei symud. Dewchat y Beibl, a dewch o hyd i hynny drosocheich hunain!

Joseff Edwards

Daw Joseff yn wreiddiol o’r Bala; mae’nbriod gyda Lydia ac yn byw yngNghaerdydd.

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 17, 2020Y TUDALENNAU CYDENWADOLy4t y4t

‘Air Disglair Duw, dyro d’olau i Gymru heddiw’Joseff Edwards, swyddog rhanbarth de-ddwyrain Cymru gyda Chymdeithas y Beibl,

sy’n sôn am ei benodiad a heriau cyflwyno Gair Duw i Gymru heddiw

Joseff a Lydia Edwards

Dechrau CanuDechrau CanmolSul, 19 Ebrill: ‘Calon Lân’

Yr wythnos yma, Huw Edwards fydd arsiwrnai i olrhain stori ryfeddol geiriau’remyn cyfarwydd ‘Calon Lân’ a’r gfir a’uhysgrifennodd, sef y bardd Gwyrosydd,a fu farw union ganrif yn ôl. Daw’r canumawl o Gapel Mynydd-bach ym mroenedigol Gwyrosydd – Treboeth,Abertawe – o dan arweiniad AlunTregelles Williams.

Cofiwch am oedfa Dechrau Canu ar yteledu am 11 fore Sul.

Page 7: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

Ebrill 17, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TUDALENNAU CYDENWADOLy4t y4t

AR DRAWS

1 ——————, cyfododd Crist o’i fedd, ac ar ein daeartorrodd gwawr o hedd. (12)

2 cenwch, etholedig ryw: mae’r Oen a laddwyd eto’n —-. (3)3 Ar asyn daeth yr Iesu cu, drwy euraid borth ————-dref. (9)

9 Ymlaen, ymlaen, frenhinol Un, ‘———-’ gwaedda’r dorfgytûn. (7)

10 Dros bechadur buost farw, dros bechadur ar y ——. (4)11 Fe ——— y Ceidwad, boed moliant i Dduw. (6)13 Mae’r ——- a redodd ar y groes, o oes i oes i’w

gofio. (5)18 O cadw ni rhag dyfod oes, heb goron ——— na chur na

chroes. (6)21 Hwn ydyw’r dydd y cododd Crist, gan ———- pyrth y

bedd. (8)22 Mair aeth o ———— ’mhell cyn toriad gwawr. (8)26 Ar fore’r —— datseinier cân, drwy wledydd byd yn

ddiwahân. (4)27 Pan oedd Iesu dan yr ———-, yn nyfnderoedd chwerw

loes. (7)28 Ar ei —— asyn, O mor fwyn y daw. (4)29 Pwy sy’n taenu cangau’r ————, ar y ffordd o dan ei

draed? (8)30 Bywyd newydd ddaeth i ni, wedi concwest ———-. (7)31 F’enaid, gwêl i —————, edrych ar dy Brynwr

mawr. (10)33 Gyda sanctaidd wawr y bore, teithiai’r ———— at y

bedd. (8)

34 Un waith am byth oedd ddigon, i ddiodde’r ———fain. (6)

I LAWR

1 ... a yfodd y ——- i’r gwaelod, ei hunan ar ben Calfarî. (5)4 Yr Iesu ————— yn fore’r trydydd dydd. (10)5 —————- Iesu mawr, am y dydd y torrodd gwawr. (11)6 Heddiw cododd Crist yn fyw, ‘————’. (8)7 Y gfir a fu gynt o dan hoelion, dros ddyn ————— felfi. (10)

8 ’N ôl marw Brenin hedd, a’i ffrindiau i gyd yn ——-. (5)12 Ni thraethir maint anfeidrol werth, ei ——— yn

dragywydd. (6)14 Caed —— o archoll ddofn y bicell fain. (4)15 Daeth gwragedd trist eu gwedd, â’u llwyth o —————.

(10)16 Mi wn fod fy ———- yn fyw, a’m prynodd â thaliad mor

ddrud. (7)17 ———— Seion, sydd â’ch taith drwy ddfir a thân. (8)18 O ben y bryn bu’r addfwyn oen, yn ———- dan yr hoelion

dur. (7)19 Esgyn a wnaeth i entrych —-, i eiriol dros y gwan. (3)20 Yn ——- cofiaf hynny byth, bendithion gollais rif y

gwlith. (4)23 Gorchfygodd ——- drwy ei nerth. (5)24 Wyla Seion mewn ————. (8)25 Fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw, fe ————

marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw. (8)32 Er gwaetha’r —— a’r gwylwyr, cyfododd Iesu’n fyw. (4)

PosEmynau’r

Pasg

Diolch i GarethPritchard o Landudnoam y pos hwn: Emynau’r Pasg. Ymddangosodd gyntafganddo ym mhapurbro’r Pentan, gydagwobr hael i’r enillydd!Ond yn anffodus dydycyllideb y PedairTudalen Gydenwadolddim yn ymestyn igymaint â hynny! Ganobeithio y bydd yndwyn bendith wrth berillawer o chwilio yn ydrysorfa o emynau’rPasg sydd gennym ynCaneuon Ffydd. Atebionyn rhifyn yr wythnosnesaf o’r tudalennaucydenwadol. At ddibenion y poshwn, mae’r llythrennaudwbl – ch, dd, ng, ll, th,ac yn y blaen – yn cyfriffel dwy lythyren. (Gol.)

Page 8: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

Yr AtgyfodiadDydw i ddim yn awdurdod ar y fath bwnc.Oes rhywun d’wedwch? Wel mae ganbawb ei syniad amdano, ei farn amdano, adyna fy nghyfiawnhad i dros geisio trafod ydirgelwch mawr hwn.

Achos dirgelwch ydi o a chaiff sylwblynyddol gennym ni yn ein Cylch Trafod.

Rwyf wedi darllen dehongliadau ohonomewn sawl llyfr a chylchgrawn dros yblynyddoedd, ac wedi gwrando arbregethau lu yn ei drafod, a chanu degauo emynau yn cyfeirio ato. Ond y llyfr a fu ogymorth mwyaf i mi i geisio gwneud sensohono yw cyfrol Adrian B Smith,* y maemanylion amdani isod.

Ynddi mae’n nodi beth yw’r syniadtraddodiadol amdano sef y gred i Iesuatgyfodi’n gorfforol i fywyd ar y trydydddiwrnod wedi’r Croeshoeliad. Yna âymlaen i roi diffiniaid mwy cyfoes a dymafo wedi ei fras gyfieithu:

Yr atgyfodiad yw’r dull gymerwyd ganPaul a’r efengylwyr i gadarnhau(esbonio) bod Crist yn ein plith mewngwedd newydd o fywyd, gweddysbrydol, a thrwy hynny bwysleisiogrym y bywyd dwyfol drosgyfyngiadau materol.

Y mae’n mynd yn ei flaen i nodi sawl pethy talai i ni eu hystyried:

• fod atgyfodiad yn destun dadl acanghytundeb yn nyddiau Iesu ei hunrhwng y Phariseaid oedd yn creduynddo a’r Sadiwceaid nad oeddynt.

Mae’n nodi hefyd

• nad oes disgrifiad manwl ar gael o’rhyn ddigwyddodd fore’r Pasg gan fodawduron yr efengylau am bwysleisio eiarwyddocâd yn hytrach na manylion ydigwydd ei hun. (Paul oedd y cyntaf iadrodd am yr atgyfodiad 1 Corinithiaid15: 3-8, flynyddoedd cyn dyddiauysgrifennu’r efengyl gyntaf gan Marc, adydi o ddim yn crybwyll bedd gwag nacatgyfodiad y corff.)

• fod darganfyddiadau gwyddonol wedirhoi darlun gwahanol i ni o’r hyn yw’rCread, ac nad yw’r darlun o nefoeddagos y gellir ei chyrraedd ar gymylau’rawyr yn ddarlun cywir, ac maidimensiwn arall o fodolaeth ydyw nidlle yn yr awyr.

• bod “atgyfodiad y corff” yn codicwestiynau nad oes ateb iddyn nhw. Aoedd Iesu yn gwisgo ei ddillad ei hunpan ymddangosodd o yn y cnawd? Nidfelly y claddwyd ef. Oedd o felly ynnoeth pan ymddangosodd i MairMagdalen? O ble y cafodd o ddillad?Cwestiynau gwirion falle, gwirion oscredir yn uniongyrchol yn atgyfodiad ycorff.

Y mae’r awdur yn nodi fod y gair“ymddangos” a geir yn y Gymraeg yn caelei nodi yn y Groeg gwreiddiol fel ophthe,gair a ddefnyddid i gyfleu gwelediadmewnol ysbrydol yn hytrach nagymddangosiad corfforol. Ac mae hyn yncyd fynd â’r enghreifftiau sydd yna o raiwelodd yr Iesu heb ei adnabod, a geiriauIesu ei hun i beidio cyffwrdd ag ef. Hefydei ymddangosiad i’w ddisgyblion “a’rdrysau yn gaead.”

Terfyna’r awdur trwy ddweud, tra’n datgan

y bydd bob amser ddirgelwch ynglªn â’ratgyfodiad, mai’r hyn y ceisiai’r ysgrifenwyroll ei gyfleu oedd datgan mewn dullmetafforaidd fod Crist yn dal gyda ni, dulldramatig o ddatgan eu ffydd yn y ffaithbod grym Duw hefyd yn dal ar gael i ni,grym nad yw’n gaeth i le nac amser.

Elfyn Prichard

* A New Framework for Christian BeliefRevd Adrian B. Smith. John HuntPublishing Ltd 2001

Gol. Yn ôl yr awdur “mae gan bawb eisyniad amdano, ei farn amdano”.Ddarllenwyr y Goleuad, a ydych yncydweld gyda’r dadansoddiad uchod?Ydych chi’n meddwl fod y dehongliad yncyfleu arwyddocad y newyddion da yn yTestament Newydd? Gadewch i ni wybod.

8 Y Goleuad Ebrill 17, 2020

O Gefn Gwlad

Mae pob un ohonom ar adegau ynteimlo’n ddiymadferth wrth wynebuproblemau meddygol a chymdeithasol einhoes. Mae rhai problemau yn ymddangostu hwnt i’n gallu i wneud dim amdanynt.Gallwn bwyllgora a phoeni am nifer oachosion ond mae angen unigolion gydagweledigaeth a gyda dewrder i ysbrydolieraill i weithredu er budd yr anghenus.

Un sydd wedi mentro i weithredu yw’rseiciatrydd Dr Dafydd Alun Jones.

Roedd Dr Dafydd Alun Jones yn feddygifanc yn ysbyty meddwl Dinbych pansylwodd bod alcoholiaeth yn dod ynbroblem fwy cyffredin ac mai ychydig ogefnogaeth oedd i’r cleifion hyn yn einhysbytai a thu allan. Yn 1968 aeth DrJones ati i greu uned benodol i drinalcoholiaeth mewn un o wardiau gwag yrysbyty. Ond sylweddolodd nad oeddtriniaeth ysbyty yn ddigon a bod angencefnogi’r cleifion yn eu cartrefi a’ucymunedau wedi iddynt adael yr ysbyty.

Cafodd Dr Jones wahoddiad ganGymdeithasfa’r Gogledd yn 1970 i roi

darlith am broblemau alcohol a’r effaith yroedd hyn yn ei gael ar unigolion atheuluoedd. Teimlodd Dr Jones bod lle i’reglwysi yn y frwydr yn erbyn alcoholiaetha’r adnod a’i ysbrydolodd oedd adnod oRhufeiniaid pennod 5:20.

“Lle yr amlhaodd y pechod, y rhagoramlhaodd gras”.

Trafodwyd yr her ym mhwyllgor materioncymdeithasol Cymdeithasfa’r Gogledd, abu’r Parch Harri Owain Jones a’r Parch E.R. Lloyd Jones ac eraill o EglwysBresbyteriaidd yn gefnogol iawn i ymgyrchDr Jones i sefydlu Cyngor AlcoholGogledd Cymru. Ymysg y cefnogwyrroedd gweinidogion, blaenoriaid,athrawon, doctoriaid, nyrsys a gweithwyrcymdeithasol. Mae’r ymroddiad i’r gwaithyn parhau ymysg caredigion megis yParchgn Cledwyn Williams, ChristopherPrew a Miss Lucille Hughes.

Dewiswyd hen gartref plant yn Llandudnofel pencadlys i’r Cyngor Alcohol a daeth yParch Aneurin Owen yn brif weithredwreffeithiol ar y gwaith. Daeth grantiau ganyr Eglwys Bresbyteraidd yn ganolog a ganeglwysi unigol a chynghorau acawdurdodau iechyd ynghyd ag unigolion atheuluoedd er cof am anwyliaid.

Roedd y gwasanaeth yn dibynnu llawer ar

ewyllys da ac ar wirfoddolwyr, ond er yrewyllys da roedd arian yn brin ar ycychwyn. Roedd yn sialens cynnaladeiladau megis Tª’n Rodyn ym Mangorfel lloches i helpu rhai oedd yn gaeth ialcohol.

Penderfynwyd yn 1992 fod angencryfhau’r elusen a bod angen enw newyddyn lle Cyngor Alcohol. Dewiswyd CAIStalfyriad o Cyngor Alcohol InformationService.

Carys Roberts

(I’w barhau)

DechreuadauCais

Page 9: CYFROL CXLVIII RHIF 16 DYDD GWENER, EBRILL 17, 2020 ......2020/04/17  · Mae’r byd wedi newid, ac mae ffônau wedi newid. Bellach, mi fyddaf yn byw fy mywyd, yn bersonol a fy mywyd

• Wythnos nesaf – Y diweddaraf am Cofid-19 •

Ebrill 17, 2020 Y Goleuad 9

Unwaith yn rhagor carwn eich gwahodd i dreulio ychydig o amser gyda mi’n ymdawelu ym mhresenoldeb yr Arglwydd.Nid yw pawb yn medru derbyn popeth ar-lein. Cofiwch am bobl felly a chofiwch y gallwch rannu’r “gwasanaeth” dros y ffôngyda chyfaill a rhannu yng nghymdeithas yr Eglwys. Dau neu dri, a chwmni’r Iesu yn y canol. Dyna’r cyfan sydd ei angen!

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

THEMA –Felly y credasoch chwithau

GWEDDI

Arglwydd tirion a grasol, a wnei diganiatáu i mi heddiw’r gallu isylweddoli o’r newydd arwyddocâd dygroeshoeliad a’th atgyfodiad. Bod ygroes yn fuddugoliaeth wedi ei hennill.Bod yr atgyfodiad yn fuddugoliaethwedi’i chyhoeddi. Diolch bodmaddeuant yn bosib, rhyddid yngNghrist, derbyniad gan y Tad, yrYsbryd Glân yn dod i fyw ynom, a’rgallu i fod mewn perthynas â thi ynystod ein rhawd daearol ac am byth.Gad i mi ganfod fy modlonrwydd llwyrynot ti.

Cyffeswn ein pechodau.......

Dirion Arglwydd maddau i ni eindyledion a chlyw ni yn enw Iesu Grist,Amen.

EMYN – Caneuon Ffydd 552Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr.

DARLLEN – 1 Corinth 15:1-20:“felly y derbyniasoch chwithau”.

MYFYRDOD

Beth yw diben pregethu? Wel, yn sicryn y Beibl mae’n fwy na dim ond bodyn rhan o ddefod, yn rhan o drefngwasanaeth, yn fwy na bwlch neuegwyl i’w lenwi gyda myfyrdodaupenrhydd yr arweinydd! Yn ei hanfodcyhoeddi’r newyddion da, datgan ynhyderus, ymresymu, perswadio gyda’rbwriad o ddarbwyllo yw pregethu. Aco fewn yr eglwys diben pregethu ywatgoffa pobl Dduw o’r pethau naddylent fyth eu hanghofio.

Mae’n amser cymysglyd iawn i bawbohonom. Mae ofn ac unigrwydd yneffeithio ar niferoedd ohonom a hynnyi raddau nad ydym wedi eu profi o’rblaen. Mae’r Cofid 19 yn parhau igerdded gan adael ei frath ardeuluoedd ac ar iechyd unigolion. Aco ddarllen y newyddion dros yrwythnosau diwethaf byddwn yn credubron nad oes unrhyw beth arall ounrhyw bwys wedi digwydd mewn

unrhyw le heblaw am Cofid 19. Dyma’rgelyn, y bwgan y bwystfil cudd sy’nbygwth difa gwareiddiad y byd.

Ond beth os nad gan y gelynion oddiallan, yr ofnau oddi mewn na’rbrwydrau sy’n ein dychymyg, mae’rgair olaf? Beth os oes gobaithgennym sy’n fwy nag angau? Nid rhitho obaith! Nid drych, nid dameg, niddymuniad daearol neu ffantasi’ndychmygion. Beth os ydy RealitiBywyd yn fwy na realiti marwolaeth?Bod Gallu egnïol yr Atgyfodiad yndrech nag anobaith ein tranc. Beth osoes yna Fwriad mwy sy’n ymestyndrwy hanes y greadigaeth ar waith, acwedi torri i mewn, ac ar draws hanesy byd yn Atgyfodiad Iesu Grist oddiwrth y meirw?

Bwriad yr Apostol Paul wrthysgrifennu at eglwys ddryslyd achymysglyd Corinth oedd, “eichatgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl abregethais i chwi ac a dderbyniasochchwithau.” A dyna sydd gennym yn ydarlleniad heddiw.

Yr oedd atgyfodiad Iesu yn ganolog i’rneges. Dyma neges oedd yn “sylfaeneich bywyd” (ad. 1) sydd hefyd yn“foddion eich iachawdwriaeth.” Mae’rsylfaen yn rhywbeth i adeiladu arno.Mae moddion yn llwybr i’w droedio, ynffisig i’w lyncu, yn driniaeth er iachâd.Oni bai fod hyn yn wir ofer oedd euffydd a’i chred.

Mae’n amlwg bod y Gwirionedd hwnag effeithiau pellgyrhaeddol. Mae’ratgyfodiad yn cadarnhau i “Grist farwdros ein pechodau ni” i gyd.Cyflawniad disgwyliad yr YsgrythurauIddewig oedd hyn oll. Cyflawniad yrYsgrythurau oedd ei atgyfodiad, achafwyd tystion diogel, yn unigolion,mewn grwpiau bychain neu gyda dros500 yn bresennol, neu mewncyfarfyddiad personol grasol gyda’rApostol Paul ei hun fyddai’n tystio irealiti’r bedd gwag.

Os na chyfodwyd Crist o’r bedd, “ofer”yw ein neges a’n ffydd. “Gwagedd” ywein pregethu. “Tystion twyllodrus” achelwyddog yw’r rhai sy’n cyhoeddibedd gwag. Os na chyfodwyd Crist,ofer yw ein ffydd, yn ymdrybaeddu,

yn gaeth, yn ein pechodau ydym,a phobol wirioneddol “druenus” ydym.Ni yw’r rhai “trist iawn, very sad”chwedl Arthur Picton.

Ond y gwir yw hyn. Cododd Crist oddiwrth y meirw, blaenffrwyth y cynhaeafo obaith grymus, trawsnewidiol sy’ncerdded drwy’r byd. A’n braint, eincadernid, ein ffydd, ein gobaith ywcredu, cyhoeddi, pwyso a byw ynddoEf drwy ffydd, mewn drych a dameg,ond yfory … wyneb yn wyneb!

GWEDDI

Arglwydd Iesu Grist, rwyf am ddiolch iti am ddod i’r byd i roi dy hun ynaberth ein cymod gyda Duw. Diolch iti am ddod yn brynwr, yn rhyddhäwrcaethion, yn fuddugwr. Diolch ymedrwn ddweud “molwch ef, mae’rgad wedi troi”. Bod holl alluoedd y nefa’r ddaear, bod ein holl elynion ni ynawr mewn cadwyn gan y Breninmawr. A diolch i ti bod ein meidroldeb,a’n marwolaeth yn rhan o’r goncwestfawr a wnaed yn Iesu Grist. A diolch iti pan aethpwyd i chwilio canfuwydbedd gwag. Diolch nad yn ofer yrydym wedi credu, nad twyllwyr oedd yrhai oedd yn tystio i atgyfodiad Iesu,nad gau oedd eu neges, nad gwag adisylwedd yw ein ffydd. Diolch amneges sy’n fywyd ac yn hedd.

Arglwydd, gweddïwn eto heddiw drosbawb sy’n dioddef oherwydd yraflwydd presennol. Cyflwynwn i ti yrunig, y trallodus, y galarus, y poenusa’r pryderus. Cyflwynwn i ti feddygon,nyrsys, glanhawyr ysbytai, pobl sy’nsiarad gyda’r galarus, yn ceisio cynnigcysur, pawb yn ein bröydd sy’n caeleu heffeithio mewn ffyrdd nad ydymerioed wedi dychmygu.

Beth am gloi’n gweddïau gydagEMYN – Caneuon Ffydd 564Mae Iesu’n fuddugol.

GWEDDI’R ARGLWYDD

EMYN – Caneuon Ffydd 547Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw.

Y FENDITH

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.