cym syste rhe d co g ng - wrap cymru · wrap – cymorth systemau rheoli ansawdd ar gyfer safleoedd...

17
Adrod Cym gyfe Trwy g hwn y safleo chynh Cod y p Dyddia diad terfy morth er saf gyfres o yn archw oedd com hyrchu co prosiect: O ad ymchwi ynol h Syste fleoed ymwelia wilio’r bro mpostio y ompost a OIN014-001 l: Mawr – T emau dd co dau safle ses o we yng Nghy addas at Tach 2016 u Rhe mpos e ac adol eithredu ymru, i d ei ddibe Dy oli An stio yn lygu dog Systema deall eu n yddiad: Tac nsawd ng Ng fennau, u Rheoli perthyna chwedd 20 dd ar ghym bu’r pros Ansawd as â 016 ru siect dd ar

Upload: others

Post on 21-Jun-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

Adrod

Cym

gyfe

Trwy ghwn ysafleochynh

Cod y pDyddia

diad terfy

morth

er saf

gyfres o yn archwoedd comhyrchu co

prosiect: Oad ymchwi

ynol

h Syste

fleoed

ymweliawilio’r brompostio yompost a

OIN014-001l: Mawr – T

emau

dd co

dau safleses o we

yng Nghyaddas at

Tach 2016

u Rhe

mpos

e ac adoleithredu ymru, i dei ddibe

Dy

oli An

stio yn

lygu dogSystemadeall eu n

yddiad: Tac

nsawd

ng Ng

fennau, u Rheoli perthyna

chwedd 20

dd ar

ghym

bu’r pros Ansawdas â

016

ru

siect dd ar

Page 2: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

Gweledigaeth WRAP yw byd lle y caiff adnoddau eu defnyddio’n gynaliadwy. Ein cenhadaeth yw cyflymu’r pontio i economi gynaliadwy sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon, trwy ailddyfeisio’r modd yr ydym yn dylunio, cynhyrchu a gwerthu cynhyrchion, ailfeddwl ein ffordd o ddefnyddio cynhyrchion, ac ailddiffinio’r hyn sy’n bosibl trwy ailddefnyddio ac ailgylchu.

Dysgwch ragor yn www.wrapcymru.org.uk Cyfeirnod y ddogfen (defnyddiwch y cyfeirnod hwn wrth ddyfynnu gwaith WRAP): [WRAP, 2016, Banbury, Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru, Paratowyd gan Matt Taylor a David Tompkins]

Ysgrifennwyd gan: Matt Taylor a David Tompkins, Aqua Enviro

Ffotograff ar y clawr: Rhesi compost (delwedd gan: http://www.refsol.co.uk/composting/) Er i ni geisio gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr adroddiad hwn yn gywir, nid yw WRAP yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled, niwed, cost na thraul yr aed iddo neu sy’n deillio o ddibynnu ar yr adroddiad hwn. Darllenwyr sy’n gyfrifol am asesu cywirdeb a chasgliadau cynnwys yr adroddiad hwn. Cafwyd dyfyniadau ac astudiaethau achos o ffynonellau cyhoeddus, a gofynnwyd caniatâd lle y bo’n ymarferol. Nid yw’r adroddiad hwn yn cymeradwyo’r enghreifftiau a ddefnyddiwyd ac nid yw’r sefydliadau a’r unigolion sy’n ymddangos ynddo wedi cymeradwyo’r adroddiad. Mae’r deunydd hwn yn destun hawlfraint. Gallwch ei gopïo yn rhad ac am ddim a chewch ddefnyddio dyfyniadau ohono ar yr amod na chânt eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol a rhaid i chi enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod hawlfraint WRAP. Ni chewch ddefnyddio’r adroddiad hwn na deunydd ynddo i gymeradwyo nac awgrymu bod WRAP wedi cymeradwyo cynnyrch neu wasanaeth cyhoeddus. I gael rhagor o fanylion, gweler telerau ac amodau WRAP ar ein gwefan, www.wrap.org.uk

Page 3: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 1

Crynodeb gweithredol Mae systemau rheoli cadarn yn greiddiol i gynhyrchu compost o safon – p’un a yw’r compost hwnnw wedyn yn cael ei roi ar dir ar ffurf gwastraff (yn nodweddiadol) trwy Drwydded Amgylcheddol, neu ar ffurf cynnyrch wedi’i achredu gan y Cynllun Ardystio Compost (CCS). Bu’r prosiect hwn yn archwilio’r broses o weithredu systemau rheoli ansawdd (QMS) ar safleoedd compostio ledled Cymru, i ddeall p’un a oeddent yn cynorthwyo cynhyrchu compost yn gyson a oedd yn bodloni gofynion y farchnad.

Trwy broses o adolygu dogfennau, ymweliadau â safleoedd ac asesiadau gweledol o brosesau compostio, daethom i’r casgliad bod compost o ansawdd priodol ar gyfer ei farchnadoedd bwriadedig yng Nghymru. Fodd bynnag, nodwyd rhai problemau. Y pwysicaf o’r rhain oedd bod dogfennau QMS yn cael eu cadw gan rai safleoedd at ddibenion archwilio yn unig ac nid oeddent yn cael eu defnyddio’n sail ar gyfer cynnal y safle. Roedd cynllun amrywiol ddogfennau QMS, a’r gallu i’w defnyddio – yn enwedig y cynllun dadansoddi pergylon a phwyntiau rheoli critigol (HACCP) a Gweithdrefnau Gweithredu’r Safle (SOPs) – yn tueddu i fod yn wael hefyd, er eu bod wedi’u seilio ar dempledi a ddarparwyd yn flaenorol gan REAL.

Bwriad y gofyniad i weithredu QMS yw sicrhau bod compost o’r safon ofynnol yn cael ei gynhyrchu’n gyson. Dylai system o’r fath fod o fudd i gynhyrchwyr compost, yn hytrach na’u rhwystro, gan ei bod yn ychwanegu trefn a llif proses sy’n caniatáu i unrhyw broblemau ag ansawdd compost gael eu hamlygu a’u datrys yn rhwydd. Fodd bynnag, mae’r gweithrediadau sylfaenol mewn cyfleuster compostio yn gymharol syml a gellid ystyried bod y QMS sy’n ofynnol gan y CCS yn or-feichus, gan gyfrannu o bosibl at y gwahanu a welir rhwng gweithdrefnau wedi’u cofnodi a gweithrediadau gwirioneddol safleoedd.

O fewn fframwaith presennol y CCS, mae’n ofynnol i weithredwyr safleoedd chwarae rhan allweddol yn natblygiad systemau rheoli ansawdd, a dylai perchenogion y cynllun (REAL) ystyried sut y gellir rhoi’r gofyniad hwn ar waith yn fwy cadarn.

Roedd problemau eraill yn gysylltiedig â chynnwys PAS100 ac, yn benodol, gofynion HACCP – y gellid dweud eu bod yn gamarweiniol neu’n anghywir. Arweiniodd hyn at gamgymeriadau yn y templedi a ddarparwyd gan REAL ar gyfer aelodau’r cynllun, a ledaenwyd wedyn i bron pob safle compostio (mae’r templedi wedi’u tynnu yn ôl erbyn hyn). Mewn nifer bach o gyfleusterau, roedd problemau (proses) mwy arwyddocaol, wedi’u hachosi’n bennaf gan ddiffyg gofod gweithredol ar y safle.

Page 4: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 2

Cynnwys 1.0  Cyflwyniad ...................................................................................................... 3 

1.1  Cynhyrchu Compost yng Nghymru ............................................................... 3 1.2  Pwysigrwydd ansawdd ................................................................................ 4 1.3  Systemau rheoli ansawdd mewn compostio .................................................. 4 

1.3.1  Egwyddorion cyffredinol ar gyfer cynhyrchu compost .......................... 4 1.3.2  Egwyddorion cyffredinol ar gyfer defnyddio compost .......................... 5 1.3.2.1  Cynllun Ardystio Compost .............................................................. 6 

2.0  Nodau ac amcanion ........................................................................................ 7 3.0  Methodoleg ..................................................................................................... 7 4.0  Canlyniadau a thrafodaeth ............................................................................. 9 

4.1  Cydymffurfio â rheolau cynllun yn gyffredinol ............................................... 9 4.2  PAS100 a’r CCS ........................................................................................... 9 

4.2.1  Cynlluniau HACCP: cynnwys a fformat ............................................... 9 4.2.2  Gweithdrefnau Gweithredu Safonol: cynnwys a fformat ..................... 10 4.2.3  Asesu lefelau halogyddion ffisegol .................................................... 12 

4.3  Cyfyngiadau safle ...................................................................................... 12 4.4  Adolygu/diweddaru dogfennau ................................................................... 12 4.5  Cymorth yn y dyfodol ................................................................................. 12 

5.0  Casgliadau ac Argymhellion ......................................................................... 13 5.1  Casgliadau ................................................................................................. 13 5.2  Argymhellion ............................................................................................. 13 

Diolchiadau Hoffem ddiolch i’r cynhyrchwyr compost masnachol niferus yng Nghymru am gymryd rhan yn y prosiect hwn. Rydym yn gwerthfawrogi’n arbennig yr amser a dreuliwyd ganddynt yn darparu dogfennau, yn cymryd rhan mewn ymweliadau safle ac yn trafod ein hargymhellion.

Page 5: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3

1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn o bryd, caiff dros 100,000 tunnell fetrig o ddeunydd bioddiraddadwy ei gompostio bob blwyddyn yng Nghymru1. Mae deg cyfleuster compostio yng Nghymru wedi derbyn tystysgrif o dan Gynllun Ardystio Compost Renewable Energy Assurance Ltd (CCS REAL), Tabl 1-1. Rhaid cynhyrchu compost wedi’i ardystio yn unol â gofynion PAS 100:2011 (manyleb y Deyrnas Unedig ar gyfer deunyddiau wedi’u compostio).

Tabl 1-1 Rhestr o gyfleusterau compostio ardystiedig Cymru

Rhif y Cynhyrchwr

Enw’r Gweithredwr / Cwmni Enw’r safle Porthiant*

Math / gradd(au) compost

PR107 Bryn Compost Limited Gelligiarwellt Farm

Gwastraff gwyrdd + sgil gynhyrchion anifeiliaid

Cyflyrydd pridd 0 i 15

PR274 Cowbridge Compost Ltd

Cowbridge Compost Ltd

Gwastraff gwyrdd + sgil gynhyrchion anifeiliaid

Cyflyrydd pridd 0 i 30

PR114 CWM Environmental Ltd

Cyfleuster Compostio Nant-y-caws

Gwastraff gwyrdd + sgil gynhyrchion anifeiliaid

Cyflyrydd pridd 0 i 10 Cyflyrydd pridd 0 i 25

PR270 CWM Environmental Ltd

Cyfleuster Compostio Nant-y-caws

Gwastraff gwyrdd

Cyflyrydd pridd 0 i 10 Cyflyrydd pridd 0 i 25

PR287 FCC Environment (UK) Ltd

Cyfleuster Compostio Llanddulas

Gwastraff gwyrdd

Cyflyrydd pridd 0 i 20 Cyflyrydd pridd 0 i 40

PR245 Gwasanaethau Rheoli Gwastraff Cyngor Sir y Fflint

Cyfleuster Compostio Greenfield

Gwastraff gwyrdd

Cyflyrydd pridd 0 i 13 Cyflyrydd pridd 0 i 40

PR284 The Green Waste Company (Abergavenny) Ltd

Maindiff Court Farm Gwastraff gwyrdd

Cyflyrydd pridd 0 i 40

PR267 Gwrtaith Gwynedd Glanllynnau Gwastraff gwyrdd

Cyflyrydd pridd 0 i 40

PR289 MD Recycling Ltd Crugmore Farm Gwastraff gwyrdd

Amaethyddol 0 i 40

PR238 Cyngor Sir Ynys Môn Cyfleuster Compostio Caeedig Penhesgyn

Gwastraff gwyrdd

Cyflyrydd pridd 0 i 20

*Ystyr gwastraff gwyrdd yw’r darnau sydd wedi’u tocio o goed a phrysgwydd / porfa wedi’i thorri ac ati; ystyr sgil gynhyrchion anifeiliaid yw pethau fel gwastraff bwyd o geginau’r cartref a masnachol

1 https://naturalresources.wales/media/2805/wales-waste-information-eng.pdf

Page 6: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 4

Mae dau safle compostio arall heb eu hardystio o dan y Cynllun hwn (Ffigur 1-1).

Ffigur 1-1 Cyfleusterau compostio wedi’u Hardystio a heb eu Hardystio yng Nghymru

1.2 Pwysigrwydd ansawdd Mae’r diwydiant compostio yn gwbl ddibynnol ar allfeydd cynaliadwy ar gyfer ei gynnyrch. Os na fydd y compost o ansawdd digonol, h.y. nid yw’n bodloni gofynion cwsmeriaid, yna ni fydd yr allfeydd cynaliadwy hynny (e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, cyfryngau tyfu) ar gael a bydd angen allfeydd drutach (e.e. adfer tir, llosgi, tirlenwi). Ni fydd y cyfleusterau compostio yn dymuno hyn, bydd hefyd yn gwrthdaro â thargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Mae canlyniadau o’r fath yn berygl gwirioneddol i’r diwydiant; yn 2007, fe wnaeth cynllun gwarant ffermydd wahardd y defnydd ar gompost gwyrdd oherwydd pryderon am ansawdd, ac aeth sawl blwyddyn heibio cyn i’r gwaharddiad gael ei godi’n llawn. Mae bron i 70% o gompost yn cael ei roi ar dir amaethyddol2 sy’n golygu y byddai canlyniad o’r fath yng Nghymru yn cael effaith anferth. Felly, mae’n hanfodol bod compostwyr yn cynhyrchu deunydd sydd o ansawdd digonol i fodloni gofynion cwsmeriaid, a bod ganddynt systemau ar waith i sicrhau bod yr ansawdd yn gallu cael ei gyflawni’n gyson.

1.3 Systemau rheoli ansawdd mewn compostio 1.3.1 Egwyddorion cyffredinol ar gyfer cynhyrchu compost Lle y caiff deunyddiau gwastraff eu prosesu, mae cynhyrchu a defnyddio compost yng Nghymru yn cael eu rheoli fel arfer gan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol3. Yn unol â’r rhain, mae’n ofynnol i’r cynhyrchwr compost ddal trwydded briodol gan y rheoleiddiwr amgylcheddol (Cyfoeth Naturiol Cymru). Er y gall trwyddedau pwrpasol gael eu cyhoeddi, y

2 http://www.wrap.org.uk/sites/files/wrap/ASORI%202012.pdf

3 http://www.legislation.gov.uk/uksi/2010/675/pdfs/uksi_20100675_en.pdf

Safle CCS

Safle heb CCS

Page 7: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 5

trwyddedau mwyaf cyffredin sy’n ymwneud â gweithgarwch compostio yw Rheolau Safonol (SR) 2012 Rhif 7 ac SR 2012 Rhif 3. Mae’r rhain ar gyfer systemau ‘agored’4 a systemau ‘caeedeig’5, yn y drefn honno. Mae’r ddwy drwydded yn mynnu bod system reoli’n cael ei dilyn:

1.1.1. Rhaid i’r gweithredwr reoli a gweithredu’r gweithgareddau:

(a) yn unol â system reoli ysgrifenedig sy’n nodi ac yn lleihau risgiau llygredd, gan gynnwys y risgiau hynny sy’n deillio o weithrediadau, cynnal a chadw, damweiniau, digwyddiadau, diffyg cydymffurfio, cau a’r rhai a dynnir i sylw’r gweithredwr o ganlyniad i gŵynion; a

(b) chan ddefnyddio digon o bobl gymwys ac adnoddau.

1.1.2 Rhaid cynnal cofnodion yn dangos cydymffurfiaeth â rheol 1.1.1.

1.1.3 Rhaid i unrhyw unigolyn sydd â dyletswyddau y gallai’r materion a amlinellir yn y Rheolau Safonol hyn effeithio arnynt, neu y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt, allu cael at gopi cyfleus o’r Rheolau a gedwir lle y cyflawnir y dyletswyddau hynny, neu gerllaw.

1.1.4 Rhaid i’r gweithredwr gydymffurfio â gofynion cynllun cymhwysedd cymeradwy

Mae gofyniad rheoleiddio tebyg i systemau rheoli fod ar waith pan fydd y compost yn cael ei ddefnyddio’n ddiweddarach, ac eithrio lle y bo’r broses gompostio a’r cynnyrch compost wedi’u hardystio o dan y Cynllun Ardystio Compost (CCS). Ystyrir hyn ymellach yn yr adran nesaf.

1.3.2 Egwyddorion cyffredinol ar gyfer defnyddio compost Lle y caiff deunyddiau gwastraff eu prosesu, mae angen trwydded ar wahân i ddefnyddio’r compost sy’n deillio o hynny. Ar ôl cael trwydded i ddefnyddio’r compost, rhaid gwneud ceisiadau dilynol i’r rheoleiddiwr i ganiatáu i’r drwydded gael ei defnyddio (h.y. i’r compost gael ei ddefnyddio go iawn). Fel rhan o’r cais defnyddio, rhaid i’r compostiwr ddangos sut bydd y compost yn cynnig budd i’r tir a fydd yn ei dderbyn ac na fydd defnyddio’r compost fel y disgrifir yn achosi niwed. Fel rhan o’r broses hon, gallai fod yn ofynnol i’r ymgeisydd gynnal asesiad risg safle-benodol, yn enwedig lle y bwriedir i’r compost gael ei ddefnyddio (e.e.) mewn Parth Gwarchod Tarddiad dŵr daear 2 neu o fewn 500m i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Pan fydd compost wedi’i ardystio o dan y CCS, gall gael ei ddefnyddio heb y gwiriadau hyn oherwydd y deunyddiau (penodedig) y’u gwnaed ohonynt, y systemau (rhagnodedig) sy’n rheoli’r broses gompostio, ac oherwydd bod y compost yn cydymffurfio â pharamedrau ansawdd (wedi’u rhestru).

Mae’n rhaid bod System Rheoli Ansawdd (QMS) gan safleoedd sy’n cydymffurfio â’r CCS, sy’n cynnwys manylion y broses a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r compost ac yn ystyried peryglon perthnasol a allai fod yn bresennol yn y porthiant, ac yn disgrifio sut bydd y rhain yn cael eu rheoli i’w hatal rhag achosi risg yn nefnydd penodedig y compost yn y pen draw. Yn fanylach, dylai gofynion craidd unrhyw QMS fod fel a ganlyn:

nodi marchnad fwriadedig y compost ac unrhyw agweddau ar ansawdd y cynnyrch sy’n perthyn yn benodol i’r farchnad honno;

4 https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/479457/LIT_7551.pdf

5 https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/479884/LIT_7546.pdf

Page 8: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 6

ystyried y peryglon sy’n bresennol mewn deunydd porthiant a allai effeithio’n negyddol ar ansawdd y cynnyrch (gan achosi i’r cynnydd fod yn anaddas ar gyfer y marchnadoedd a nodwyd) oni bai eu bod yn cael eu rheoli yn ystod y broses gompostio;

nodi’r pwyntiau rheoli critigol – a’r terfynau critigol – sy’n sicrhau bod peryglon yn cael eu rheoli i’r pwynt lle y mae ansawdd y compost terfynol yn addas i gael ei ddefnyddio yn y farchnad/marchnadoedd a nodwyd;

sicrhau bod Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) ar waith a’u bod yn cyd-fynd lle bo’r angen â’r terfynau a’r pwyntiau rheoli critigol; a

sicrhau bod proses adolygu ffurfiol ar waith i sicrhau bod y QMS yn parhau’n ddilys.

1.3.2.1 Cynllun Ardystio Compost Mae rheoli ansawdd yn greiddiol i ofynion PAS100:2011. Yn wir, polisi ansawdd y safle unigol sy’n gosod y safon dderbyniol ar gyfer y compost, a allai fod ymhell uwchlaw’r gwerthoedd gwaelodlin a gyflwynir yn y PAS lle y bo galw’r cwsmer a rheolaeth ar beryglon yn gofyn am hynny. Mae Adran 4 PAS100:2011, sy’n amlinellu’r gofynion i gynhyrchwyr compost mewn perthynas â Systemau Rheoli Ansawdd (QMS), yn datgan fel a ganlyn:

Rhaid sefydlu a chynnal QMS sy’n perthyn yn benodol i broses gompostio ddiffiniedig, y compostau sy’n deillio ohoni, ac unrhyw gynhyrchion sy’n cynnwys y compostau hynny.

Rhaid i’r QMS reoli’r holl weithrediadau a gweithgareddau rheoli ansawdd cysylltiedig y mae eu hangen i gyflawni compost sy’n addas at ei ddiben… Lle y caiff rheolaethau penodol eu cymhwyso, rhaid eu monitro, eu cofnodi a’u gwerthuso, cyn ac ar ôl y broses ddilysu. Rhaid diffinio camau cywirol.

Er bod cymalau pellach yn pennu’r gofynion ar gyfer goruchwylio’r QMS, atodir y nodyn pwysig canlynol:

SYLWER Mae cynllun HACCP … yn dylanwadu ar y polisi ansawdd … a’r SOPs… a dylid ei ystyried yn rhan o’r QMS.

Mae’r nodyn hwn yn bwysig, oherwydd proses gynllunio HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol) sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gynhyrchwyr compost ddiffinio i ddechrau beth sy’n cael ei ystyried yn addas at ei ddiben, a chynllunio’r dulliau o reoli peryglon ymhellach i fyny’r gadwyn yn unol â hynny. Er enghraifft, os bydd cynhyrchwr compost yn dymuno cyflenwi compost i ffermwr ei ddefnyddio ar dir cyn tyfu rêp had olew, yna mae pathogenau cnydau bresych yn berygl y mae’n rhaid eu hystyried a’u rheoli o fewn cynllun HACCP a’i bwyntiau rheoli critigol cysylltiedig. Yn yr un modd, mae pathogenau grawn yn berygl perthnasol i gnydau grawn, ond efallai na fyddant yn berthnasol i rêp had olew. Pe bai’r cynhyrchwr compost yn dymuno cyflenwi deunyddiau sy’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o gnydau amaethyddol, yna byddai angen ystyried amrywiaeth eang o beryglon – ac yna’u rheoli, os yw hynny’n briodol.

Mae proses HACCP yn cynnwys peryglon i ddiogelwch a pheryglon ‘ansawdd critigol’ sy’n effeithio ar addasrwydd at ddiben; halogyddion ffisegol yw’r rhai sy’n cael eu henwi’r peryglon ‘ansawdd critigol’ mwyaf cyffredin.

Ochr yn ochr â phroses gynllunio sylfaenol HACCP, mae’n ofynnol yn ôl PAS i gynhyrchwyr compost holi eu cwsmeriaid er mwyn deall a oes angen compost arnynt sydd o ansawdd uwch na’r hyn y mae gwaelodlin PAS yn ei bennu (cysyniad o ‘addasrwydd at ddiben penodol i gwsmer’). Lle y caiff anghenion o’r fath eu hamlygu, rhaid i bolisi ansawdd y compostiwr ddatgan sut caiff yr anghenion eu bodloni. Yna, rhaid i’r holl elfennau hyn gael eu hadlewyrchu yng ngweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs) y safle (Ffigur 1-2).

Page 9: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

Ffigur 1sy’n greanaero

O’i chyfcomposyn cynncydsynioAsiantaesafleoedmethianprosiectadolyguweithdre

2.0 NAmcan y

Seddcoa’ar

Y prif nofarchnadrheoleid

3.0 MAr y cydYn y lle dilyn hyprosiecty byddabenodo

Dogfgynn

Unrhcyfle

Copi

W

1-2 Llif rheseiddiol i Sysbig

funo, bydd Qst sy’n addanwys cyfeiriaol. Pan fydeth yr Amgydd sy’n cynnnnau o ran ct hwn yn anu dogfennauefnau (Adra

Nodau ac ay prosiect h

Sefydlu a yw ddigon cadarompost o an’r marchnadrgymhellion

od oedd sicd sydd o an

ddwyr a’r cw

Methodoled â WRAP Ccyntaf, cys

yn, anfonwyt i’r safle acai ei hangenl, gofynnwy

fennau ffurfnwys y Systehyw system usterau nado drwydded

Gofynion

Cynllu

WRAP – Cymo

symeg o ofstem Reoli A

QMS wedi’i s at y dibenadau niferud problemaylchedd amnal prosesacynllunio nenelu at ei aru a (lle bo’r an 2.0).

amcanion hwn oedd:

w systemau rrn ym mhobnsawdd adddoedd eraill n ar gyfer gw

crhau bod cynsawdd addwsmeriaid.

eg Cymru, nodwsylltodd WRAyd e-bost yn i’r diwydian

n gan y safleyd am y wyb

fiol y Systemem Reoli Anreoli ansaw

d ydynt yn dd amgylche

n y farchna

un HACCP

orth Systemau

fynion y farAnsawdd lw

chynllunio, n yn unig sys at ofynion

au’n codi (fe ddeunydd u wedi’u haeu weithredrchwilio a mangen) new

rheoli ansawb un o gyfledas yn unig l yng Nghymwella a sicrh

ynhyrchwyrdas. Dehon

wyd rhestr lAP Cymru ân rhoi mwy nt cyfan. Ye a’r ffordd bodaeth ga

m Rheoli Annsawdd, cynwdd ffurfiol dilyn y PAS eddol y safle

ad

u Rheoli Ansaw

rchnad i Wewyddiannu

ei gweithrey’n cael ei gn y cwsmer,el yn y gorffis-safonol y

ardystio yn du’r QMS – nmynd i’r afaewidiadau ar

wdd compoeusterau comg sy’n cael eimru. Lle nadhau bod y r

r compost yglwyd hyn f

lawn o safleâ phob safleo fanylion a

Yn ogystal, rgyfrinacholnlynol:

nsawdd sy’nnllun HACCPneu anffurf

e

wdd ar gyfer s

eithdrefnauus ar gyfer g

edu a’i chyngyflenwi i’r f, a ddylai lufennol, gydayn cael ei gyLloegr), ynaneu’r ddau. el ag ef, trwrgymelledig

ost, fel y bompost masn

ei gyflenwi i’d yw systemrhain yn cae

yng Nghymrfel deunydd

eoedd a oede i ennyn euam gefndir roedd yr e-bl y byddai p

n ofynnol ynP a’r Gweithfiol sydd we

Llif y Brose

Gweithd

safleoedd com

u Gweithregweddillion

nnal yn gywfarchnad. Munio cnewyllag adroddiayflenwi i ffea mae hyn y Dyma’r cw

wy gyfres o yi ddogfenna

’n ofynnol gnachol Cymr’r marchnad

mau’n ddigonel eu gweith

ru yn darpard sy’n bodlo

dd o fewn teu diddordeby prosiect abost yn amlpob data’n c

n ôl PAS100hdrefnau Gwedi’i rhoi ar w

s gyda Phwyn

drefnau Gwe

mpostio yng Ng

edu Safonon treuliad

wir yn sicrhaMae PAS100lyn polisi anadau gan ermwyr ganyn awgrymuwestiwn yr oymweliadauau ac i

gan BSI PASmru i ddangodoedd amaeon cadarn, cyhredu.

ru deunyddoni gofynion

erfynau’r prb yn y prosiea rhestru bulinellu’r wybcael ei thrin

:2011 (gan weithredu Swaith mewn

ntiau Rheoli C

ithredu Safo

ghymru 7

l (SOPs),

u mai 0:2011 nsawdd

u oedd y u safle,

S100, yn os mai ethyddol cynnig

d i’r n y

rosiect. ect. Yn uddion y bodaeth . Yn

Safonol) n

Critigol

nol

Page 10: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

Yn dilynprosiectPAS100cydymffeu cryncamau nunrhyw benodonewidiaargymhchytunwprosiect

Ffigur 3

I gynnaadroddisafleoed

W

n y negeseut. Yna, cafo:2011 a/nefurfio/anghyhoi mewn anesaf. Yn sfaterion a a

l ei ddiwedddau – er enellion hyn g

wyd ar amset yn Ffigur

3-1 Llif pros

l cyfrinachead hwn yn dd yr ymwe

WRAP – Cymo

uon e-bost hodd dogfennu ofynion trysondebau adroddiad bsgil hyn, cynamlygwyd ydaru yn dilynghraifft i ddgyda phob serlen ar gyf3-1.

ses y prosi

edd, ni chaifcoladu ac y

elwyd â nhw

Cys

Daa

Adb

Cy

orth Systemau

hyn, gwnaednau safleoerwydded(aueu cofnodi yr safle-bennhaliwyd ymyn y dogfenyn yr ymweldogfennau safle i sicrhafer newid (ll

ect

ff manylion yn ystyried tw.

sylltu dros ym

arparu dogallweddol (H

borth i safld

Ymweliadwe

Argymhel(dogfenn

ytuno ar am

u Rheoli Ansaw

d galwadauedd eu hadou) amgylchei’w trafod ynodol, a anfmweliadau snnau a ddarliad safle, i a/neu weithau y gellid mle y bo’n br

penodol i sthemâu cyff

y ffôn a’r emweliad saf

fennau rheHACCP, S

eoedd ar dddarparwyd

d safle, ac eithredu QM

llion ynghynaeth a/neu

mserlen ar

wdd ar gyfer s

u ffôn i drafoolygu yn erbeddol y safleyn ddiweddafonwyd i’r ssafle i weld rparwyd. Cagynnwys unhgareddau’rmynd i’r afaiodol). Dar

safle eu hadfredin a nod

e-bost, a/nfle

eoli ansawSOPs ac at

ddogfennad

asesiad o MS

ylch newid u broses)

r gyfer new

safleoedd com

od cyfranogbyn y gofyne. Cafodd uarach. Cafodsafle ynghydy safle ar wafodd yr adnrhyw argymr safle. Tra

ael ag unrhyrperir darlun

drodd yma. dwyd ar dra

neu

dd i)

u a

wid

mpostio yng Ng

giad y safle ion yn unrhyw ddifdd y canfydd â rhestr owaith a thradroddiad safmhellion am

afodwyd yr yw ymholiadn o lif prose

Yn hytrachaws ystod y

ghymru 8

yn y

ffyg ddiadau o’r afod fle-m

dau, a es y

h, mae’r y

Page 11: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 9

4.0 Canlyniadau a thrafodaeth 4.1 Cydymffurfio â rheolau cynllun yn gyffredinol Ar sail ein hadolygiad o’r dogfennau QMS allweddol (yn enwedig dogfennau HACCP a SOPs) a chraffu ar lif y broses yn ystod ein hymweliadau safle, down i’r casgliad bod safleoedd yn cydymffurfio’n dda ar y cyfan â gofynion y rheoleiddiwr amgylcheddol a’r CCS. Trafodir nifer bach o eithriadau i’r casgliad hwn yn yr adrannau canlynol.

4.2 PAS100 a’r CCS 4.2.1 Cynlluniau HACCP: cynnwys a fformat Roedd gan bob safle a gymerodd ran gynllun HACCP yn seiliedig ar dempled REAL, a dynnwyd yn ôl yn ddiweddar. Mae’r templed hwn yn broblem, gan nad yw’n adlewyrchu’n gywir yr egwyddorion asesu peryglon sy’n greiddiol i gynllunio HACCP. Mae hyn yn rhannol oherwydd testun yn PAS100:2011 ei hun ac, yn benodol, Adran 5.1.1, sy’n rhestru cyfres o beryglon sydd wedi’u heithrio. Yn anffodus, risgiau yn bennaf yw’r senarios sy’n cael eu disgrifio yn PAS – yn benodol, risgiau deilliannau o ganlyniad i reolaeth annigonol ar beryglon. Mae rhai enghreifftiau o ddiffiniadau amhriodol o beryglon wedi’u rhestru yn Tabl 4-1.

Tabl 4-1 Sylwadau ar rai disgrifiadau o beryglon yn PAS100:2011

Testun yn PAS100:2011 (Adran 5.1.1.) Sylwadau

a) effeithiau andwyol ar yr amgylchedd – gan gynnwys iechyd dynol ac anifeiliaid – oherwydd pathogenau yn y compost;

Pathogenau yw’r perygl y mae’n rhaid eu rheoli, nid yr effeithiau andwyol ar yr amgylchedd (sef y risgiau y mae’n rhaid eu lleihau trwy reoli peryglon yn briodol)

b) effeithiau andwyol ar iechyd planhigion oherwydd plâu, pathogenau, tocsinau (gweler 3.74) neu sgil-gynhyrchion ymddatod pydru rhyngol mewn compost;

Plâu, pathogenau, tocsinau a chynhyrchion ymddatod yw’r peryglon y mae’n rhaid eu rheoli, nid yr effeithiau andwyol ar iechyd planhigion (sy’n risgiau y mae’n rhaid eu lleihau trwy reoli peryglon yn briodol)

c) effeithiau andwyol ar iechyd planhigion lle y caiff compost ei ddefnyddio mewn cymwysiadau sensitif (e.e. cynhwysyn yn y cyfrwng tyfu) oherwydd anaeddfedrwydd y compost;

Anaeddfedrwydd y compost (na ellir gosod paramedrau arno, ond y gallai gael ei adlewyrchu mewn gweithgarwch biolegol / galw am ocsigen neu ddargludedd trydan ac ati) yw’r perygl, nid yr effeithiau andwyol ar iechyd planhigion (sy’n risgiau y mae’n rhaid eu lleihau trwy reoli peryglon yn briodol)

Efallai oherwydd y camgymeriadau yn PAS100:2011, roedd y dull a ddefnyddiwyd ym mhob cynllun HACCP yn y safleoedd compostio a gymerodd ran yn y prosiect hwn yn ddryslyd. Mewn ambell enghraifft, roeddent yn ceisio rheoli’r risg (yn hytrach na’r perygl) ac mewn rhai achosion, roedd nifer o bwyntiau rheoli critigol wedi’u nodi ar gyfer peryglon penodol, er bod yr egwyddorion wrth wraidd HACCP yn gofyn am nodi pwyntiau rheoli unigol – Critigol – ar gyfer pergylon penodol. Ymhellach, ni wnaeth cynlluniau HACCP (yn gyffredinol) ddefnyddio dull cyflwyno rhesymegol – er enghraifft, trwy ystyried pwyntiau rheoli posibl fesul cam drwy’r llif compostio (Ffigur 4-1) ac yna rhestru’r Pwyntiau Rheoli Critigol, y Terfynau Critigol a’r dulliau rheoli yn unig ar wahân. Byddai mabwysiadu’r dull hwn yn

Page 12: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 10

sicrhau’n fwy hwylus bod gofynion HACCP wedi’u gwrediddio yn y SOPs, a byddai hynny yn ei dro’n sicrhau’n well bod peryglon yn cael eu rheoli yn unol â’r bwriad.

Roedd diagramau llif proses yn absennol o bob cynllun HACCP a adolygwyd; mae cynnwys diagramau o’r fath yn caniatáu i bwyntiau rheoli critigol gael eu nodi’n glir ac yna gellir cyfeirio at y rhain yn y SOPs. Dylai’r dull hwn hefyd ddileu’r duedd i ddibynnu ar brofi’r cynnyrch terfynol – (fesul y cyfnodau sy’n ofynnol yn ôl PAS100:2011) – i ddangos ei fod yn cydymffurfio â HACCP. Bwriad profi’r cynnyrch terfynol fel hynny yw cynnig gwiriad achlysurol i ddangos bod y System Rheoli Ansawdd yn gweithredu yn unol â’r bwriad; ni ddylai fod yn rhan greiddiol o gynllunio HACCP.

Roedd dibynnu’n gyffredinol ar dempled gan REAL hefyd yn golygu bod rhai mesurau rheoli wedi’u cynnwys y gellid ystyried eu bod yn or-ragofalus yng ngoleuni’r dystiolaeth sydd ar gael. Er enghraifft, nid oes tystiolaeth y bydd tocsinau mewn llysiau’r gingroen yn goroesi’r broses gompostio fel bod digon o grynodiadau ohono yn bresennol yn y compost terfynol i niweidio da byw sy’n pori, pe bai’r compost yn cael ei roi ar dir pori. Heb dystiolaeth, gellid ystyried bod rheoli perygl o’r fath trwy hepgor llysiau’r gingroen yn gyfan gwbl yn briodol. Fodd bynnag, gan fod tystiolaeth o’r fath ar gael, dylai cynlluniau HACCP gael eu newid i adlewyrchu hynny. Nid oedd yn glir o ble yr oedd staff safle yn cael eu gwybodaeth am reoli peryglon a gallai hyn fod yn rôl i berchnogion y cynllun (REAL) neu’r corff masnach (ORG) ei chyflawni yn y dyfodol.

4.2.2 Gweithdrefnau Gweithredu Safonol: cynnwys a fformat Roedd gan yr holl safleoedd SOPs yn seiliedig ar dempled REAL a dynnwyd yn ei ôl yn ddiweddar, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth mewn un ddogfen o ryw ddwsin o dudalennau. Roedd hygyrchedd y ddogfen hon neu ei natur ‘addas i’r defnyddiwr’ yn amrywio o safle i safle, gyda rhai’n gyfforddus ag arddull bresennol y ddogfen ac eraill o’r farn ei bod yn annefnyddiol.

Mewn sectorau eraill, caiff SOPs eu fformatio ar ffurf cyfres o ddogfennau gydag un dudalen/isadran yn canolbwyntio ar bob agwedd ar wahân ar weithredu safle. Pan fyddant yn cael eu cyflwyno fel hyn, dylai’r SOPs gynnwys yr holl wybodaeth ofynnol (heb groesgyfeirio â dogfennau eraill) i alluogi unigolyn gwybodus a hyfforddedig i ymgymryd â’r dasg gyda bach iawn o oruchwyliaeth/heb unrhyw oruchwyliaeth.

Roedd rhai o’r safleoedd a gymerodd ran yn lamineiddio’u SOPs ac yn eu gadael mewn ystafelloedd egwyl fel y gallai’r gweithwyr ymgyfarwyddo â nhw. Roedd eraill, yn enwedig y rhai a oedd yn rhedeg safleoedd compostio llai, o’r farn nad oedd y fformat presennol yn broblem gan nad oedd ganddynt nifer fawr o weithwyr i’w hyfforddi, a’u bod yn gweithredu’r safle eu hunain yn aml. Ar y llaw arall, roedd y safleoedd mwy, gyda mwy o staff safle yn nodweddiadol, o’r farn nad oedd y fformat presennol yn gwbl ddefnyddiol, yn enwedig i weithwyr newydd. O ganlyniad, roedd un safle wedi cynhyrchu dalenni unigol wedi’u lamineiddio, yn amlygu gwahanol agweddau ar weithrediadau’r safle a beth yr oedd ei angen.

Yn ddelfrydol, dylai’r SOPs gael eu trin fel ‘llawlyfr gweithredu’ neu restr wirio. Os dilynir pob gweithdrefn fel y caiff ei rhagnodi gan ei SOP, yna dylai’r broses gyfan reoli peryglon fel y bo’n ofynnol gan gynllun HACCP, a dylai compost o ansawdd cyson fod yn sicr. Byddai ei gwneud hi’n ofynnol i SOPs gael eu defnyddio fel hyn yn hwyluso archwiliadau proses hefyd – nid yn unig er bydd y Cyrff Ardystio, ond er budd y safleoedd eu hunain. Pe na fyddai SOP yn cael ei ddilyn (a phe na châi’r ‘rhestr wirio gweithredu’ ei chwblhau), yna byddai hyn yn helpu gweithredwyr i ddeall lle’r oedd problemau’n codi pe bai ansawdd y compost fyth yn methu cyrraedd y safon ofynnol.

Page 13: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

F

Ffigur 4-1 Llif pr

Contract i

Cyfle

Cyfleoed Contr Archw Sgrin Darni Cam Sgrin

roses gomposti

gyflenwi deunymewnbwn

nwi i’r farchnad

dd allweddol i rractau cyflenwiwilio deunyddia

nio / glanhau rhio a sgrinio compostio gwe

nio terfynol

o arferol, a chy

yddiau

d

eoli peryglon i (gan gynnwysau a’u derbyn ahagarweiniol

eithredol (troi /

yfleoedd allwedd

Deunydhasesu y

s meini prawf dar y safle

awyru / lleithd

WRAP –

ddarparwy

dol i reoli peryg

diau’n cyrraedyn unol â meini

Sgrinio terfy

derbyn)

er / rheoli pH)

Cymorth Systemau

yd

glon

d y safle / eu prawf derbyn

nol

u Rheoli Ansawdd a

deun

Dar

Ffu

Tro

r gyfer safleoedd co

Gwaith glanhau nyddiau – â llaw

nio / sgrinio i faddym

urfio rhesi comp

oi rhesi composlles

Aedd

ompostio yng Nghy

rhagarweiniol ya/neu yn fecany

aint y gronynnamunir

post / llenwi lles

st / symud rhwstri

dfedu

mru 11

y yddol

au a

stri

wng

Page 14: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 12

4.2.3 Asesu lefelau halogyddion ffisegol Fe wnaeth yr holl safleoedd yn yr astudiaeth sôn am asesu lefel yr halogyddion ffisegol yn y porthiant a oedd yn eu cyrraedd, ac yn y compost terfynol. Yn wir, roedd gwrthod llwythi hynod halogedig yn bwynt rheoli critigol gyda therfyn critigol yng nghynllun HACCP pob safle, yn ogystal ag yn SOP pob safle, lle’r oedd meini prawf derbyn wedi’u seilio ar ganran yr halogyddion yn y porthiant a oedd yn cyrraedd. Fodd bynnag, nid oedd yr un safle yn disgrifio sut y dylai gweithwyr asesu lefel yr halogiad.

4.3 Cyfyngiadau safle Ar ddau safle, roedd cyfyngiadau difrifol ar y gofod, gyda rhesi compost yn rhy agos at ei gilydd o ganlyniad – h.y. heb eu cadw’r pellter gofynnol ar wahân, a hyd yn oed yn gorgyffwrdd. Roedd hyn yn golygu y gallai gwaelod rhes gompost gael ei symud gyda’r rhes wrth ei hymyl, gan achosi i ddeunydd neidio camau yn y broses gompostio. Yn yr un modd, roedd pentyrrau o ddeunydd rhy fawr yn gorgyffwrdd â chompost wedi’i ardystio, a allai arwain yn hawdd at draws-halogi’r compost a byddai’r compost yn cynnwys lefelau uwch o halogyddion o ganlyniad. Achoswyd y problemau hyn gan gyfyngiadau ar ofod yn bennaf, er bod gweithredwyr wedi crybwyll bod diffyg marchnadoedd ar gyfer deunydd rhy fawr yn broblem. Cyfaddefodd un gweithredwr fod diffyg goruchwyliaeth gan uwch reolwyr, oherwydd newidiadau ymhlith staff uwch.

4.4 Adolygu/diweddaru dogfennau O dan y Cynllun Ardystio Compost, mae’n ofynnol bod holl ddogfennau QMS yn cael eu hadolygu’n flynyddol fel rhan o adolygiad rheoli a bod archwiliad mewnol yn cael ei gynnal. Mewn rhai achosion, roedd y dogfennau wedi dyddio, gan enwi cyn aelodau staff yn gyfrifol am brosesau penodol. Yn ogystal, roedd amrywiol wallau teipio a chamgymeriadau (e.e. codau EWC anghywir, cyfeiriadau at hen fersiynau o ddogfennau) y dylai adolygiadau rheoli a/neu archwiliadau fod wedi’u hamlygu. Yn yr un modd, nid oedd newidiadau yn sail y dystiolaeth o reidrwydd wedi’u hadlewyrchu mewn newidiadau i gynlluniau HACCP (Adran 4.2.1).

Lle’r oedd staff y safle yn ymwneud â datblygu a gweithredu system reoli ansawdd, roedd y QMS yn tueddu i berthyn yn fwy cywir i’r ffordd yr oedd y safle’n cael ei weithredu ac roedd dogfennau’n fwy tebygol o gael eu cadw’n gyfredol.

4.5 Cymorth yn y dyfodol Roedd darparu cymorth (er enghraifft i ddiweddaru dogfennau QMS neu i newid prosesau) y tu hwnt i rychwant y prosiect hwn. Fodd bynnag, gofynnwyd i’r compostwyr p’un a fyddai unrhyw help neu gymorth penodol yn y dyfodol o fudd i’w busnesau. Roedd y brif broblem yn ymwneud â diffyg allfeydd cynaliadwy ar gyfer deunydd compost rhy fawr. Yn y rhan fwyaf o safleoedd, roedd pentwr stoc sylweddol o’r deunydd hwn a oedd, yn amlach na pheidio, wedi’i halogi â phlastigau a halogyddion ffisegol eraill – gan gyfyngu’n ddifrifol ar ei ddefnydd posibl. Felly, byddai cymorth i wella ansawdd porthiant yn cael ei groesawu.

Problem arall a amlygwyd oedd y diffyg rhyngweithio/cyfnewid gwybodaeth ymhlith compostwyr. Dywedodd rhai gweithredwyr y byddai fforwm lle y gallai safleoedd gyfnewid gwybodaeth a phrofiad yn ddefnyddiol iawn, gan eu bod yn aml yn wynebu’r un problemau ond yn anaml yn eu trafod. Mae ORG eisoes yn cynnal cyfarfodydd grwpiau sector i aelodau’r REA, ond gallai REAL ystyried cynnal digwyddiadau rhwydweithio tebyg i aelodau’r Cynllun Ardystio Compost.

Page 15: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 13

5.0 Casgliadau ac Argymhellion 5.1 Casgliadau Ar sail asesiadau gweledol a wnaed yn ystod ymweliadau safle, statws ardystio (safleoedd sy’n aelodau o’r CCS) ac absenoldeb adborth negyddol ynghylch ansawdd compost gan gwsmeriaid sy’n derbyn compost o’r holl safleoedd yr ymwelwyd â nhw, down i’r casgliad bod y compost o ansawdd priodol ar gyfer ei farchnadoedd bwriadedig yng Nghymru6.

Y broblem allweddol yw bod dogfennau QMS ar rai safleoedd yn cael eu cadw at ddibenion archwilio yn unig ac nid ydynt yn cael eu defnyddio’n sail ar gyfer rhedeg y safle. Bwriad y gofyniad i weithredu QMS yw sicrhau bod compost o ansawdd cyson (gofynnol) yn cael ei gynhyrchu – ond mae o fudd i weithredwyr hefyd, trwy gymhwyso rhesymeg a llif proses sy’n caniatáu am nodi problemau ag ansawdd compost a’u cywiro. Fodd bynnag, mae’r gweithrediadau sylfaenol mewn cyfleuster compostio yn gymharol syml, a gellid ystyried bod y QMS sy’n ofynnol yn ôl y PAS yn or-feichus, gan gyfrannu o bosibl at y gwahanu a welwyd rhwng dogfennau a gweithrediadau safle.

Nid oes ateb syml i hyn. O fewn y fframwaith presennol, rhaid i weithredwyr safle chwarae rôl allweddol yn natblygiad systemau rheoli ansawdd, a dylai perchenogion y cynllun (REAL) ystyried sut y gellir annog / monitro hyn. Yn ystod unrhyw adolygiad o PAS100 yn y dyfodol, rhaid ystyried y gofynion QMS o ddifrif, a ph’un a ellir diwygio’r rhain mewn ffordd a fyddai’n annog gweithredwyr i’w rhoi ar waith yn gywir, gan sicrhau ar yr un pryd nad yw ansawdd compost yn cael ei beryglu.

Gellid gwneud mân welliannau ar lawer safle, gan gynnwys i fformat dogfennau QMS a defnyddio ffotograffau i ganiatáu i weithwyr nodi pan fydd y deunydd o ansawdd (ffisegol) digonol. Ar nifer bach o safleoedd, roedd problemau mwy arwyddocaol i’w gweld, wedi’u hachosi’n bennaf gan ddiffyg lle.

5.2 Argymhellion Mae’r prosiect hwn wedi dangos bod compost a gynhyrchir yng Nghymru yn addas ar gyfer ei farchnadoedd bwriadedig. Mae hyn yn seiliedig ar gyfuniad o:

Ymweliadau safle i weld llif proses y compost, o dderbyn porthiant i sgrinio’r compost terfynol. Roedd asesiadau o’r fath yn weledol (yn unig) ac ni chafodd unrhyw samplau eu cymryd na’u profi fel rhan o’r ymweliadau;

Statws ardystio safleoedd sy’n rhan o’r CSS; a’r Diffyg adborth negyddol gan gwsmeriaid ynghylch ansawdd cynnyrch.

Fodd bynnag, fe wnaeth y prosiect amlygu nifer o broblemau â chynnwys y CCS a’i weithredu. Yn benodol, roedd cymhlethdod y cynllun mewn perthynas â’r broses (gymharol) syml o gompostio yn golygu bod dogfennau’r cynllun yn aml yn cael eu cadw at ddibenion archwilio yn unig ac nid oeddent yn chwarae fawr o ran yn y gweithrediadau compostio o ddydd i ddydd. Er nad yw hyn wedi arwain yn amlwg at gynhyrchu compost is-safonol, un bwriad y cynllun (ac yn arbennig PAS100:2011) yw bod system rheoli asnawdd yn cael ei gweithredu sy’n sicrhau ansawdd y compost terfynol. Bwriad y samplu a’r profi achlysurol sy’n ofynnol yn ôl PAS100 yw gwirio bod y system rheoli ansawdd yn gweithredu’n gywir.

At hynny, mae perchenogion y cynllun (REAL) yn dibynnu ar Gyrff Ardystio i fynd i’r afael â mân broblemau sy’n codi yn ystod archwiliadau safle, a gellir adrodd yn ôl i REAL am broblemau mawr ar gyfer rhoi sylwadau arnynt a/neu weithredu. Er bod y gwahaniaeth hwn yn helpu i sicrhau bod y broses archwilio yn annibynnol, gall olygu nad oes gan

6 Roeddem yn dibynnu ar staff y safle i roi adborth ar brofiad eu cwsmeriaid, ond oherwydd bod ein hymweliadau safle yn digwydd ar amrywiol adegau yn ystod unrhyw gylch compostio penodol, nid oeddem yn dyst i unrhyw faterion ansawdd a oedd yn debygol o achosi compost a oedd yn is-safonol, yn ein barn ni

Page 16: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 14

berchenogion y cynllun amgyffrediad go iawn o’r cynllun a sut caiff ei weithredu. Nid yw’n rhesymol disgwyl i Gyrff Ardystio feddu ar y wybodaeth dechnegol fanwl sy’n ofynnol i graffu ar gynnwys ac ansawdd y ddogfennaeth y maent yn ei hadolygu, a phenderfynu p’un a yw prosesau’r cynllun yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd. I fynd i’r afael â’r amrywiol ganfyddiadau hyn, dyma’n hargymhellion:

Bod ORG yn cyhoeddi arweiniad clir ar gwblhau cynlluniau HACCP i osgoi’r dryswch presennol rhwng risg a pherygl (gallai fod yn ofynnol bod PAS100 yn cael ei ddiweddaru hefyd oherwydd hyn – gweler isod).

Bod ORG yn ystyried cynnig ‘diweddariadau ar beryglon’ i’r sector compostio pan fydd tystiolaeth newydd ar gael – i sicrhau bod cynlluniau HACCP yn adlewyrchu’r dystiolaeth sydd ar gael yn y ffordd orau.

Bod ORG yn cyhoeddi ei arweiniad ar archwiliadau gweledol o borthiant (http://www.organics-recycling.org.uk/uploads/article2903/Visual_assessment_guidance_light_plastics_V1R0.pdf) a’r buddion y gall ei gynnig i safleoedd. Hefyd, dylid golygu’r arweiniad hwn i ganiatáu gwiriad gweledol ar wahân o ansawdd compost cyn iddo gael ei anfon o safleoedd.

Bod y broses o ddatblygu QMS wir yn cynnwys staff safle a fydd yn gyfrifol am ei gweithredu. Gallai hyn fod ar ffurf prawf ysgrifenedig a/neu lafar i arddangos dealltwriaeth o ofynion y QMS.

Bod PAS100 yn cael ei ddiweddaru i gywiro’r gwallau yn gysylltiedig â’r diffiniadau o risg a pherygl.

Bod REAL yn atgoffa gweithredwyr am bwysigrwydd cadw compost/pentyrrau deunyddiau rhy fawr/rhesi compost ar wahân. Dylai’r gofyniad hwn gael ei gyfleu hefyd i Gyrff Ardystio fel y gallant fonitro hyn yn ystod archwiliadau arferol.

Bod REAL yn ystyried diwygio fformat safonol SOPs a bod y fformat newydd yn dod yn rhan archwiliadwy o’r CCS. Byddai cyflwyno SOPs ar ffurf ‘llawlyfr gweithredu’ neu restr wirio yn helpu i sicrhau bod compost o ansawdd yn cael ei gynhyrchu ac yn hwyluso archwiliadau.

Dylai REAL a Chyrff Ardystio ystyried symleiddio’r cynllun i sicrhau’n well bod systemau QMS yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd. Gallai hyn gynnwys cyflwyno rhestr wirio ddyddiol neu restr tasgau sy’n cael ei chwblhau a’i llofnodi gan staff perthnasol y safle.

Bod REAL yn atgoffa aelodau’r CCS bod angen adolygiadau blynyddol i gadw systemau a dogfennau yn gyfredol.

Bod REAL yn trafod canfyddiadau’r adroddiad hwn gyda’u Cyrff Ardystio. Bod REAL yn ystyried cydlynu digwyddiadau rhwydweithiau i aelodau’r CCS, fel y gallant

rannu gwybodaeth a phrofiad.

Page 17: Cym Syste Rhe d co g Ng - WRAP Cymru · WRAP – Cymorth Systemau Rheoli Ansawdd ar gyfer safleoedd compostio yng Nghymru 3 1.0 Cyflwyniad 1.1 Cynhyrchu Compost yng Nghymru Ar hyn

www.wrapcymru.org.uk