cyngor sir ynys mÔn pwyllgor: pwyllgor gwaith teitl...

19
1 CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH DYDDIAD: 18 Mawrth, 2013 TEITL YR ADRODDIAD: Lefelau Ffioedd Cartrefi Gofal Sector Annibynnol 2013/14 PWRPAS YR ADRODDIAD: Ystyried Lefelau Ffioedd mewn perthynas â 2013/14 (cartrefi preswyl a nyrsio sector annibynnol) ADRODDIAD GAN: PENNAETH Y GWASANAETHAU OEDOLION CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL: CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL CYMUNED A. LEFEL FFIOEDD CARTREFI GOFAL 2013/14 - POBL HŶN 1. Cefndir 1.1 Yn hanesyddol, mae lefelau ffioedd mewn perthynas â chartrefi gofal y sector annibynnol wedi cael eu hadolygu'n flynyddol gan yr Awdurdod Lleol i gyd-fynd â diwygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiwn a fydd yn dod i rym eleni o Ddydd Llun 8 Ebrill, 2013. 1.2 Mae tri mater sylweddol i’w cymryd i ystyriaeth eleni wrth bennu lefelau'r ffioedd ar gyfer cartrefi gofal sector annibynnol:- Yr angen i ddangos ein bod wedi ystyried y costau darpariaeth lawn wrth bennu ein ffioedd gofal safonol. Mae'r angen hwn am dryloywder wedi cael ei bwysleisio yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy Adolygiadau Barnwrol ar draws y Dywysogaeth (Bro Morgannwg a Sir Benfro i ddyfynnu ond dwy ardal Awdurdod Lleol a fu’n destun i her gyfreithiol o'r fath). Mae'r rhain wedi penderfynu o blaid y cartrefi gofal bob tro. Yn hanesyddol, mae’r Awdurdod Lleol wedi dangos bod costau darpariaeth gofal wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth osod ffioedd gofal (ers 2005/6) drwy ddefnyddio pecyn cymorth cenedlaethol wedi’i addasu i adlewyrchu proffil y farchnad cartrefi gofal lleol. Rydym bellach o'r farn bod y pecyn cymorth a addaswyd yn lleol yn colli arian ac y byddwn yn cyflawni orau trwy ddefnyddio’n lleol y fethodoleg ffioedd ranbarthol sy’n esblygu. Sefyllfa bresennol yr Awdurdod Lleol a'r angen i drawsnewid ac ailfodelu ymatebion gwasanaeth cyfredol (ein bwriadau comisiynu sy'n sail i'n Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn) y bydd Aelodau Etholedig yn gyfarwydd â nhw. Mae angen aildrefnu gweithgarwch a gwariant o fewn Gwasanaethau Oedolion er mwyn galluogi mwy o fuddsoddi mewn modelau gwasanaeth i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain ac mewn cymunedau lleol. Er mwyn sicrhau y gallwn gynnal y status quo lleol yn achos symiau atodol trydydd parti. Ar sail y setliad 3 blynedd hanesyddol (yn cychwyn yn ôl yn 2008/09), nid yw darparwyr lleol wedi bod yn codi taliadau ychwanegol

Upload: others

Post on 20-Jul-2020

11 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

1

CYNGOR SIR YNYS MÔN

PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH

DYDDIAD: 18 Mawrth, 2013

TEITL YR ADRODDIAD:

Lefelau Ffioedd Cartrefi Gofal Sector Annibynnol 2013/14

PWRPAS YR ADRODDIAD:

Ystyried Lefelau Ffioedd mewn perthynas â 2013/14 (cartrefi preswyl a nyrsio sector annibynnol)

ADRODDIAD GAN: PENNAETH Y GWASANAETHAU OEDOLION

CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL:

CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL – CYMUNED

A. LEFEL FFIOEDD CARTREFI GOFAL 2013/14 - POBL HŶN

1. Cefndir 1.1 Yn hanesyddol, mae lefelau ffioedd mewn perthynas â chartrefi gofal y

sector annibynnol wedi cael eu hadolygu'n flynyddol gan yr Awdurdod Lleol i gyd-fynd â diwygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiwn a fydd yn dod i rym eleni o Ddydd Llun 8 Ebrill, 2013.

1.2 Mae tri mater sylweddol i’w cymryd i ystyriaeth eleni wrth bennu lefelau'r ffioedd ar gyfer cartrefi gofal sector annibynnol:-

Yr angen i ddangos ein bod wedi ystyried y costau darpariaeth lawn wrth bennu ein ffioedd gofal safonol. Mae'r angen hwn am dryloywder wedi cael ei bwysleisio yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy Adolygiadau Barnwrol ar draws y Dywysogaeth (Bro Morgannwg a Sir Benfro i ddyfynnu ond dwy ardal Awdurdod Lleol a fu’n destun i her gyfreithiol o'r fath). Mae'r rhain wedi penderfynu o blaid y cartrefi gofal bob tro.

Yn hanesyddol, mae’r Awdurdod Lleol wedi dangos bod costau darpariaeth gofal wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth osod ffioedd gofal (ers 2005/6) drwy ddefnyddio pecyn cymorth cenedlaethol wedi’i addasu i adlewyrchu proffil y farchnad cartrefi gofal lleol. Rydym bellach o'r farn bod y pecyn cymorth a addaswyd yn lleol yn colli arian ac y byddwn yn cyflawni orau trwy ddefnyddio’n lleol y fethodoleg ffioedd ranbarthol sy’n esblygu.

Sefyllfa bresennol yr Awdurdod Lleol a'r angen i drawsnewid ac ailfodelu ymatebion gwasanaeth cyfredol (ein bwriadau comisiynu sy'n sail i'n Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn) y bydd Aelodau Etholedig yn gyfarwydd â nhw. Mae angen aildrefnu gweithgarwch a gwariant o fewn Gwasanaethau Oedolion er mwyn galluogi mwy o fuddsoddi mewn modelau gwasanaeth i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain ac mewn cymunedau lleol.

Er mwyn sicrhau y gallwn gynnal y status quo lleol yn achos symiau atodol trydydd parti. Ar sail y setliad 3 blynedd hanesyddol (yn cychwyn yn ôl yn 2008/09), nid yw darparwyr lleol wedi bod yn codi taliadau ychwanegol

Page 2: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

2

mewn perthynas â defnyddwyr a noddir gan yr awdurdod lleol yn ystod y 5 mlynedd ariannol diwethaf.

2. Cyflwyno Ffioedd Cenedlaethol - Fforwm Gofal Cymru

2.1 Mae Fforwm Gofal Cymru wedi gwneud cyflwyniad, sydd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn (Atodiad 2). Crynhoir eu hawliad cenedlaethol yn y tabl isod: -

CYFLWYNIAD FFIOEDD FFORWM GOFAL CYMRU (CENEDLAETHOL – SEILIEDIG AR NORMAU PRESENNOL Y DIWYDIANT): 2013/14

Categori’r Cartref

Ffioedd Presennol

£/wythnos *

Hawliad Fforwm Gofal Cymru (2013/14)

Cynnydd £/wythnos

Llawr £/wythnos

Nenfwd £/wythnos

Preswyl Henoed

437 535 613 98-176

Preswyl EMI 455/472 551 629 96-174 79-157

Nyrsio Henoed

583 683 761 100-178

Nyrsio EMI 632 710 787 78-155

(* yn cynnwys symiau atodol premiwm trydydd parti o £25 preswyl / £35 nyrsio)

Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell tu hwnt i allu cyllidebau’r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hŷn.

Mae’r Hawl Cenedlaethol wedi’i seilio ar becyn cymorth Joseph Rowntree. Yn eu defnydd o’r pecyn cymorth, mae Fforwm Gofal Cymru wedi cynnwys lwfansau i dalu costau pwysau newydd fel a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sydd i ddod:-

Pwysau chwyddiannol -

Costau staff - gofalwyr, arlwyo, staff glanhau a golchi 1.8%

Costau nyrsio, rheoli ac asiantaeth 1.3%

Atgyweirio a chynnal a chadw 3%

Costau eraill nad ydynt yn staff 2.9%

Addasiadau i'r model pecyn cymorth – eitemau bach

Mesurau iaith Gymraeg - wedi nodi costau lleol ychwanegol

Newidiadau i bensiynau - cofrestru awtomatig ar gyfer cyflogwyr mawr

Page 3: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

3

Rheoleiddio newydd ar systemau chwistrellu - costau ychwanegol ar gyfer adeiladau newydd ac addasiadau.

Nid yw'r addasiadau hyn wedi eu costio yn yr hawliad Cenedlaethol.

3. Defnydd Lleol o Fethodoleg Gogledd Cymru sy’n Esblygu 3.1 Fel yr adroddwyd eisoes i'r Pwyllgor Gwaith a hen Fwrdd y Comisiynwyr,

yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ceisio defnyddio pecyn cymorth cenedlaethol Joseph Rowntree o'r enw "A Fair Price for Care" yn lleol fel meincnod ar gyfer trafodaethau ffioedd ochr yn ochr â dangosyddion marchnad leol a strategaethau comisiynu’r Awdurdod. Mae'r defnydd lleol hwn o’r pecyn cymorth cenedlaethol bellach yn colli arian ac nid yw’n gyfoes erbyn hyn.

3.2 Yn ystod 2011/12 a’r flwyddyn ariannol hon, mae'r Awdurdod wedi bod yn

gweithio gydag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd (BIPBC) i ddatblygu methodoleg ranbarthol i lywio gosod ffioedd. Bwriad y fethodoleg hon sy’n esblygu yw:

bod yn seiliedig ar broses dryloyw;

tynnu ar ffynonellau data cenedlaethol a lleol;

adlewyrchu'r negeseuon allweddol sy'n deillio o’r Adolygiadau Barnwrol yn y Dywysogaeth dros y blynyddoedd diwethaf;

ymgynghori â Fforwm Gofal Cymru fel yr unig sefydliad cynrychioliadol i’r sector cartrefi gofal annibynnol.

3.3 Mae'r fethodoleg sy’n esblygu wedi cael ei gweithredu gan Sir y Fflint,

Wrecsam a Sir Ddinbych hyd yma er mwyn llywio gosod ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn gyfredol (2012/13) yn ogystal â'r flwyddyn i ddod. Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu mabwysiadu'r fethodoleg fel sail i osod eu ffioedd o 2014/15 ymlaen.

3.4 Methodoleg Gogledd Cymru sy’n Esblygu 3.4.1 Trwy gydol y gwaith o ddatblygu'r fethodoleg, rhoddwyd cryn bwyslais ar

wella ansawdd y gofal a ddarperir i breswylwyr cartrefi gofal. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad critigol o nifer yr oriau sydd eu hangen i gefnogi preswylwyr, yn seiliedig ar ffurflenni rota staff o nifer o gartrefi gofal. Mae'r data rhanbarthol lleol yn cymharu ac yn cyferbynnu â data Fforwm Gofal Cymru ar oriau staff (a gafodd ei dynnu’n wreiddiol o’r pecynnau cymorth cenedlaethol sydd ar gael, fel yr un a gyhoeddwyd gan Laing a Buisson yn 2008).

3.4.2 Mae'r fethodoleg yn cymryd i ystyriaeth y data ymchwil a ddarparwyd gan Fforwm Gofal Cymru dros y tair blynedd diwethaf. Mae rhai elfennau cost data Fforwm Gofal Cymru wedi eu haddasu i adlewyrchu amodau rhanbarthol. Ar y cyfan, fodd bynnag, mae defnydd o ddata Fforwm Gofal Cymru yn rhoi sicrwydd ychwanegol y bydd ffioedd gofal yn cael eu gosod

Page 4: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

4

ar sail resymol. Mae gwybodaeth gan sefydliadau Joseph Rowntree a Laing a Buisson hefyd wedi cael ei defnyddio (y ddau gorff yn hir sefydledig a chanddynt enw da ym maes ffioedd gofal);

3.4.3 Fel y cyfeiriwyd ato uchod, mae'r fethodoleg ranbarthol sy’n esblygu wedi anelu at ymdrin â materion sy'n codi o gyfeiriad yr Adolygiadau Barnwrol diweddar yn Ne Cymru. Crynhoir y casgliadau isod:

ymdrin yn briodol â materion sy'n ymwneud â chostau cyfalaf a dychweliad ar fuddsoddiad;

methiant i ddefnyddio data lleol priodol ar nifer cyfartalog o oriau gofal a dreulir ar bob preswylydd/wythnos;

preswylwyr sydd angen gofal nyrsio hefyd angen mwy o ofal nad yw’n ofal nyrsio;

angen cymryd i ystyriaeth wahanol faint y cartrefi gofal;

effaith chwyddiant;

angen am fodolaeth methodoleg gadarn ar gyfer pennu lefelau ffioedd gofal;

tystiolaeth o ymgynghoriad ffurfiol gyda pherchnogion cartrefi gofal. 3.4.4 Mae'r fethodoleg arfaethedig (ATODIAD 2) yn torri i lawr y ffi a delir fesul

preswylydd/wythnos o dan dri phrif bennawd:

gwesty;

eraill;

costau staff. 4.0 Amodau Marchnad Leol 4.1 Mae angen brys ailedrych ar nifer ac ansawdd y cyflenwad o welyau gofal

cartref preswyl/nyrsio yn y sectorau cyhoeddus ac annibynnol. Mae angen i hyn gael ei wneud yng nghyd-destun bwriad comisiynu clir o sicrhau cydbwysedd priodol yn y ddarpariaeth farchnad rhwng gwasanaethau i alluogi i unigolion gael eu cynnal yn y cartref ac amrywiaeth ac ehangder o wasanaethau o safon i gefnogi unigolion sydd angen gofal mewn lleoliadau preswyl/nyrsio. Mae arallgyfeirio swyddogaeth/gwasanaeth yn faes arall sydd angen ei drafod a’i ystyried gyda'r sector cartrefi gofal.

Bydd y gwaith lleoli’r farchnad hwn yn symud ymlaen yn lleol dros y

misoedd nesaf gan ein bod yn bwriadu:-

ymestyn ein cyfnod ymgynghori er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn a mewnbwn gan unigolion, cymunedau ac asiantaethau allweddol (fel Iechyd, y Trydydd Sector, y Sector Annibynnol) i'r broses o gyflenwi gweledigaeth y Gwasanaeth ac yn sail i raglen waith mewn perthynas â phobl hŷn.

Dylanwadu i ddatblygu ac arallgyfeirio’r farchnad sector gofal lleol.

Page 5: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

5

5.0 Ffioedd Cartrefi Nyrsio

Mae ffioedd gofal cartrefi nyrsio yn cynnwys dwy elfen fel y disgrifir isod:- 5.1 Cyfraniad yr Awdurdod Lleol (y cyfeirir ato fel yr elfen gofal

cymdeithasol);

5.2 Cyfraniad y GIG (y cyfeirir ato fel Cyfraniad Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG) a delir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn hanesyddol, mae lefel y cyfraniad gan y GIG wedi cael ei osod yn genedlaethol ond o Ebrill 2007 rhoddwyd disgresiwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd i Fyrddau Iechyd benderfynu ar y lefel leol. Fodd bynnag, nid yw'r disgresiwn hwn wedi ei arfer yn lleol hyd yma, gyda'r Bwrdd Iechyd yn cadw at y meincnod a gyhoeddir yn genedlaethol. Nid ydym eto wedi cael gwybod yn ffurfiol beth fydd cyfraniad y Bwrdd Iechyd am 2013/14. Y lefel bresennol yw £120.56/ wythnos (2012/13) a dyma fydd y lefel hyd nes y byddwn yn cael ein hysbysu fel arall. Mae hefyd yn wir i ddweud bod yr elfen Gofal Nyrsio a Ariennir (FNC) wedi parhau ar ei lefel bresennol ers rhai blynyddoedd.

Bydd Aelodau'n cofio y cawsom ein cynghori gan gydweithwyr Iechyd yng Ngogledd Cymru fod yr elfen FNC (Gofal Nyrsio a Ariennir) o'r ffi gofal cartref nyrsio wedi bod yn destun adolygiad cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Nid yw'n glir ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn p’un a fydd unrhyw symudiad yn lefel yr FNC ar gyfer 2013/14.

6.0 Cronfeydd Ychwanegol Sydd ar Gael

Mae'r cyllid ychwanegol canlynol ar gael i ariannu unrhyw gynnydd yn lefel y ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2013/14:-

Chwyddiant ar 2.0% ar gyfraniadau Awdurdod Lleol tuag at y ffioedd - mae hyn wedi'i gyfrifo ar sail y cynnydd mewn costau a ddangosir yn y fethodoleg;

Incwm cleient ychwanegol (trwy gynnydd mewn budd-daliadau'r wladwriaeth/ pensiwn) sy'n cyfateb i £2.70 y person/wythnos

Cyfraniad y Bwrdd Iechyd i leoliadau cartref nyrsio (cyfeirier at baragraff 5 uchod) – y lefel ar gyfer 2013/14 eto i'w chadarnhau

Cronfa Wrth Gefn Gorfforaethol - rhagor o arian wedi cael ei ddarparu gan yr Awdurdod i ddod â ffioedd Ynys Môn yn unol â'r defnydd esblygol o fethodoleg ffioedd Gogledd Cymru.

7.0 Ansawdd Lleol a Gyrwyr Strategol Cenedlaethol 7.1 Mae angen i ni wneud y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o'n pŵer

prynu a’n rôl fel comisiynwyr gwasanaethau gofal er mwyn dylanwadu ar y farchnad cartrefi gofal lleol. Mae'r Awdurdod wedi cyhoeddi Safonau

Page 6: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

6

Ansawdd y mae angen eu bodloni er mwyn talu'r ffi lawn. Fel arall, bydd gostyngiad o £36/wythnos yn cael ei ddefnyddio.

7.2 Mae'r egwyddorion ansawdd allweddol yn y Premiwm Ansawdd yn sail i'n

hymateb lleol i rai gyrwyr strategol cenedlaethol mawr sy'n dylanwadu ar ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd i bobl hŷn -

7.2.1 Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn

7.2.2 Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol - Canllawiau Fframwaith Comisiynu ac Arfer Da

7.2.3 Rhaglen Urddas mewn Gofal Cymru 7.2.4 Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith

ar gyfer Gweithredu (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 7.2.5 Gofal Preswyl ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (Pwyllgor

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru)

Un o'r themâu trawsbynciol allweddol wrth weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yw urddas/parch mewn gofal. Mae ein blaenoriaethau lleol yn ymdrechu i atgyfnerthu’r flaenoriaeth genedlaethol hon.

7.3 Mae'r egwyddorion allweddol hyn a fabwysiadwyd yn lleol yn cael eu

cymeradwyo hefyd trwy gyfrwng argymhellion sydd mewn adroddiadau cenedlaethol a wnaethpwyd ar gael yn y parth cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys-

7.3.1 Cartrefi Gofal ar gyfer Pobl Hŷn yn y DU - Astudiaeth

Marchnad (Swyddfa Masnachu Teg, Mai 2005); 7.3.2 Contract Teg gyda Phobl Hŷn? Astudiaeth Arbennig o

Brofiadau Pobl wrth Chwilio am Gartref Gofal (Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol, Hydref 2007)

8.0 Cynigion Ffioedd

Wrth ddefnyddio'r fethodoleg mewn perthynas â 2013/14, mae’r elfennau canlynol wedi'u cynnwys:-

Cynnydd yn y Mynegai Prisiau Manwerthu, isafswm cyflog, mynegai costau adeiladu cyffredinol a'r mynegai enillion cyfartalog ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dychweliad ar Gyfalaf o 12%.

Page 7: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

7

Opsiwn 1 (Hawliad Cenedlaethol)

Ariannu Hawliad Fforwm Gofal Cymru yn llawn. Byddai cyfanswm y gost o gwrdd â'r hawliad yn £7.694m ychwanegol ar y llawr (20% o gynnydd), i £8.697m ar y nenfwd (40% o gynnydd) uwchlaw lefel ffioedd gofal yr Awdurdod. Sylw Mae goblygiadau ariannol yr opsiwn hwn yn llawer mwy na gallu'r Awdurdod Lleol i’w ariannu.

Opsiwn 2 Defnyddio methodoleg ffioedd Gogledd Cymru sy’n esblygu i adlewyrchu'r pedwar ffactor chwyddiant gan gynnwys dychweliad o 12% ar gyfalaf a chadw premiwm trydydd parti. Cymhwyso'r y fethodoleg canlyniadau cynnydd cyffredinol o 4.4% a fydd yn cael ei ariannu o'r dyraniad chwyddiant o 2% yn y gyllideb, ynghyd â darpariaeth bellach o 2.4% (158k) sydd wedi cael ei ddarparu gorfforaethol i gwrdd ag cost ychwanegol o resymoli'r ffioedd 2013/14. Mae defnyddio’r mynegeion hyn yn rhoi cynnydd cyffredinol o 3.3%. Mae'r opsiwn hwn yn opsiwn fforddiadwy i’r Awdurdod. Byddai’r Awdurdod yn defnyddio £25 (£35 i Gartrefi Nyrsio) o'r ffi fel premiwm sy'n daladwy ar yr amod nad oes unrhyw symiau atodol trydydd parti yn cael eu codi.

Byddai'r opsiwn hwn yn parhau i anrhydeddu'r egwyddorion sy'n sail i'r cytundeb ffioedd sicrhawyd o fis Ebrill 2008 a gyda'r nod o barhau i ddylanwadu'n gadarnhaol ar godiad symiau atodol trydydd parti. Byddai hefyd yn ein galluogi i ddangos a thystiolaethu ein bod wedi defnyddio methodoleg ar draws gofal nyrsio a gofal preswyl wrth osod lefelau ffioedd mewn perthynas â 2013/14

Page 8: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

8

9.0 Crynodeb o'r Opsiynau 10.0 Ystyriaethau Comisiynu 10.1 Byddai ariannu Opsiwn 1 o gyllidebau’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn

erydu’n sylweddol ein cyllidebau prynu mewn perthynas â gwasanaethau gofal eraill i bobl hŷn sydd wedi’u hanelu at gefnogi unigolion i aros yn eu cartrefi eu hunain (e.e. gofal cartref, gwasanaethau dydd, prydau cymunedol, technoleg gynorthwyol, ayb). Byddai mabwysiadu Opsiwn 2 yn fforddiadwy a byddai'n cynnal penderfyniad hanesyddol y Pwyllgor Gwaith i ddefnyddio methodoleg fel meincnod i fod yn sail ar gyfer trafodaethau ffioedd a setliad y ffioedd.

10.2 Ymateb y Sector Cartrefi Gofal

Yn seiliedig ar y gwaith sylweddol a wnaed hyd yma ar draws awdurdodau lleol Gogledd Ddwyrain Cymru, rydym wedi cysylltu’n lleol â phob darparwr gofal unigol ar yr Ynys gyda'r bwriad i gynghori ar y cynigion a chynfas eu barn. Y dyddiad cau ar 06/03/13 - ond nid oes unrhyw ymatebion wedi eu derbyn.

B. LEFELAU FFIOEDD GOFAL CARTREF 2012/13 - GRWPIAU

CLEIENTIAID ERAILL 11. Cynigir y dylai'r ffioedd mewn perthynas â chartrefi gofal sy'n darparu ar

gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl, anableddau dysgu neu anableddau corfforol gael eu gosod i gadw’r gwahaniaethau mewn perthynas â ffioedd cartrefi gofal i bobl hŷn.

12. Dylid nodi bod y lefelau ffioedd yn destun i drafodaethau ar sail unigol a

bod y ffi a gyhoeddir yn gweithredu fel meincnod sy'n darparu ar gyfer y cyffredinolrwydd o anghenion oddi mewn i’r grwpiau cleient. Yn anffodus, ac fel yr adroddwyd yn flaenorol, mae’r costau yn y Sector Iechyd Meddwl wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maent yn parhau i wneud hynny. Mae trefniadau ôl-ofal Adran 117 yn berthnasol i’r rhan fwyaf o'n defnyddwyr sydd â salwch meddwl. Nid yw'r trefniadau hyn

Categori’r Cartref Ffioedd Presennol £/wythnos

Opsiwn 1 (Hawliad) £

Opsiwn 2 Cynyddu

£

Preswyl Henoed 437 98-176

+14

Preswyl EMI

455/472 96-174 79-157

+38 +38

Nyrsio Henoed

583 100-178 +43

Nyrsio EMI

632 78-155

+18

Page 9: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

9

yn caniatáu i'r Awdurdod Lleol godi cyfraniad y cleient, gan arwain at i’r Gwasanaeth orfod cynnwys cost lawn lleoliadau o'r fath.

C. ARGYMHELLION

Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith:-

A1 Fabwysiadu methodoleg ffioedd Gogledd Cymru sy’n esblygu, fel y gweithredwyd hyd yma yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, i fod yn sail ar gyfer gosod ffioedd ar Ynys Môn yn ystod 2013/14.

A2 Cymeradwyo Opsiwn 2 mewn perthynas â gosod ffioedd 2013/14 (fel y

nodir ym mharagraff 8 o’r adroddiad hwn) A3 Mae'r elfennau ansawdd sefydledig yn parhau i fod yn destun i

wahaniaethu ffi negyddol o - £36/wythnos fel y mae ar hyn o bryd. Bydd hyn yn destun i adolygiad sylfaenol o'n fframwaith contract ansawdd yn ystod 2013/14 wrth i ni baratoi ar gyfer gweithredu cytundeb cyn-lleoliad Gogledd Cymru sy'n sail i leoliadau preswyl/nyrsio.

A4 Cynnal yr arfer cyfredol i grwpiau defnyddwyr eraill y Gwasanaeth heblaw

am bobl hŷn, fel yr amlinellir ym mharagraffau 11 a 12;

PAPURAU CEFNDIR:

Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol – Comisiynu Canllawiau Fframwaith ac Arfer Da (Llywodraeth Cymru) Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer Gweithredu (Llywodraeth Cymru) Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn (Llywodraeth Cymru)

Page 10: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

Fersiwn 13 -15/01/13 FFIOEDD DANGOSOL ATODIAD 1

Nid yw'r ffigyrau isod yn cynnwys elfennau FNC.

Fesul

defnyddiwr

gwasanaeth yr

Sail 2013/14 Ffi dangosol

2013/14

COSTAU ANUNIONGYRCHOL C.P.I. yn 2.2% ar 30/9/12

Cyfleustodau £24.73 2012/13 plws 9% 26.95

Trydan

Nwy

Trwydded teledu

Treth y Cyngor

Dŵr

Ffôn

Cofrestru (Aelodaeth Broffesiynol, CRBs ayb) £1.17 CFW plws 2.2% 1.19

Recriwtio £2.25 CFW plws 2.2% 2.29

Contract cynnal a chadw offer £3.25 CFW plws 2.2% 3.32

Cynnal a chadw offer cyfalaf £19.93 CFW plws 2.2% 20.37

Garddwr /crefftwr £7.47 1.8% Chwyddiant 7.60

Dodrefn/ffitiadau yn cynnwys trwsio ac adnewyddu £6.31 Ffigwr CFW newydd 12.29

Hyfforddiant £2.23 CFW plws 2.2% 2.28

Cyflenwadau meddygol nad ydynt ar bresgripsiwn £3.37 CFW plws 2.2% 3.44

Yswiriant £5.62 CFW plws 2.2% 5.74

Bwydydd & nwyddau tŷ £25.85 CFW plws 2.5% 26.5

Cyfanswm costau anuniongyrchol £102.18 £111.97

Costau eraill -safonol i bob categori o ofal

Dychweliad ar fuddsoddiad £97.79 Dim codiad wedi ei seilio ar wybodaeth o brisio 97.79

Treuliau ychwanegol (heb eu cynnwys mewn lle arall) £6.47 Ffigwr CFW newydd 16.72

Is gyfanswm £104.26 114.51

COSTAU STAFF PRESWYL

Rheolaeth/Gweinyddu £13.15 Seiliedig ar gyflwyniad CFW plws Chwyddiant 45.00

Costau Rheolwr Cofrestredig £44.51 (/cynwysedig yn y ffigwr uchod)

Staff gofal £141.01 1.8% - seiliedig ar CFW 143.55

Staff domestig (glanhau a golchi) £34.85 1.8% - seiliedig ar CFW 35.48

Is gyfanswm £233.52 £224.03

CYFANSWM PRESWYL/ VDE 'SYLFAENOL' £439.96 £450.51

PRESWYL EMI

Costau gweinyddu Lleol/Canolog (e.e. rhent swyddfa) £13.15 Seiliedig ar gyflwyniad CFW plws Chwyddiant 45.00

Costau Rheolwr Cofrestredig £44.51 (/cynwysedig yn y ffigwr uchod)

Staff gofal £182.96 1.8% - seiliedig ar CFW 186.26

Staff domestig (glanhau a golchi) £34.85 1.8% - seiliedig ar CFW 35.48

Is gyfanswm £275.47 £266.74

CYFANSWM PRESWYL EMI £481.91 £493.22

NYRSIO

Costau gweinyddu Lleol/Canolog (e.e. rhent swyddfa) £13.15 Seiliedig ar gyflwyniad CFW plws Chwyddiant 45.00

Costau Rheolwr Cofrestredig £44.51 (/cynwysedig yn y ffigwr uchod)

Staff gofal £195.22 1.8% - seiliedig ar CFW 198.74

Staff domestig (glanhau a golchi) £34.85 1.8% - seiliedig ar CFW 35.48

Is gyfanswm £287.73 £279.22

CYFANSWM NYRSIO £494.17 £505.70

NYRSIO EMI

Costau gweinyddu Lleol/Canolog (e.e. rhent swyddfa) £13.15 Seiliedig ar gyflwyniad CFW plws Chwyddiant 45.00

Costau Rheolwr Cofrestredig £44.51 (/cynwysedig yn y ffigwr uchod)

Staff gofal £218.79 1.8% - seiliedig ar CFW 222.73

Staff domestig (glanhau a golchi) £34.85 1.8% - seiliedig ar CFW 35.48

Is gyfanswm £311.30 £303.21

CYFANSWM NYRSIO EMI £517.74 £529.69

Page 11: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

Fforum Gofal Cymru . Ty Hillbury . 2 Ffordd Hillbury . Wrecsam . LL13 7ET Care Forum Wales . Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

Ffon/Tel: 01978 755400 . Ebost/Email: [email protected] A Company Limited by Guarantee No 3750314. Registered in England and Wales. Registered Office Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

GOFAL AM GYMRU . TAKING CARE OF WALES

Care Home Fees 2013/14

Care Forum Wales represents over 400 residential and nursing care homes in Wales. As you are

considering your budget for 2013/4 we are writing setting out the pressures and costs on care

homes for you to consider in your fee setting process.

We would remind you of the framework in which you make these decisions:

The Fulfilled Lives, Supportive Communities Commissioning Framework and Guidance http://wales.gov.uk/topics/health/publications/socialcare/circular/commissioningguidance/?lang=en. We would particularly draw your attention to Standard 10: “Commissioners have understood the costs of directly provided and contracted social care services and have acted in a way to promote service sustainability.”

The Guidance also requires in standard 4 the importance of working in partnership with others including providers: “Commissioning plans have been developed with partners and have involved all key stakeholders including users, carers, citizens and service providers in the statutory, private and third sector.”

The Memorandum of Understanding Securing Stronger Partnerships in Care http://www.wlga.gov.uk/english/health-social-services-publications/securing-strong-partnerships-in-care/ also says: “Rational fee-setting is vital to the sustainability and quality of care provision, and to the capacity of the Council to meet its full range of responsibilities and a wide range of needs, as well as to fix an acceptable level of Council Tax. It is essential that the specific issue of fee-setting is on the agenda for those regular local discussions between Council commissioners and independent providers of social care.

As you will know there have also been a number of judicial reviews over care homes in both Wales

and England. Resorting to legal action is never any care homes preferred action and we are sure

that you will make appropriate efforts to consult and understand providers’ legitimate and future

costs and act rationally so that such action is not necessary.

New pressures on care home costs

In this section we will cover:

Inflationary pressures

Adjustments to the toolkit model

Welsh language measure

Pension changes

New regulations on sprinklers

Inflationary pressures

The costs that contribute to our calculation of care fees split into four categories:

Page 12: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

Fforum Gofal Cymru . Ty Hillbury . 2 Ffordd Hillbury . Wrecsam . LL13 7ET Care Forum Wales . Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

Ffon/Tel: 01978 755400 . Ebost/Email: [email protected] A Company Limited by Guarantee No 3750314. Registered in England and Wales. Registered Office Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

GOFAL AM GYMRU . TAKING CARE OF WALES

Staff costs:

o Rates for carers, catering, cleaning and laundry staff are increased by 1.8% to mirror

the minimum wage increase in October 2012

o Nursing, management and agency costs are increased by 1.3% to reflect the average

weekly earnings index for health and social care work increased 1.3% July 2011-12

Repairs and maintenance – these areas have been increased by 3% in line with the Building

Costs Index in the 12 months to the end of second quarter of 2012

Other non-staff current costs the main ones of which are food and utilities have been

increased by RPI which was 2.9% in the % in 12 months to August 2012. This is in line with

previous years. However, it should be noted that the two major items contributing to care

home costs are food and fuel. While food and non-alcoholic beverage inflation was only

2.5%, the inflation index for electricity, gas and other fuels over the same period was 10.2%

meaning it is likely that care home inflation overall is significantly higher than 2.9%

Capital costs where the land element has remained the same but the buildings costs have

been inflated by the Building Costs Index which is 3% as above.

Adjustments to the toolkit model

The only adjustment undertaken this year relates to the line other non-staff current expenses.

Although taken from the Laing & Buisson toolkit, the vagueness of this line had caused a lack of

clarity with both commissioners and providers. Laing & Buisson simply state that this covers a range

of small items, but not all corporate groups classify cost heads in the same way. We have reverted

to the description used in 2002 that this line covers waste disposal, uniforms, linen & crockery,

stationery and publications, motor & travel, subscriptions, sundry other items. Inflating the historic

data on this gives us a figure of £17.42 which is more in line with care homes reported budgets.

The Welsh Language Measure

Care Forum Wales fully supports the rights of those receiving social care to communicate through

their language of choice. Moreover, we appreciate that the vulnerable people for whom our

members care can communicate their needs better in their first language and that this facility

enhances their wellbeing. At the time of writing we remain unclear exactly what will be required of

our members following consultation on implementation of the Welsh Language Measure. This and

the variation in current requirements by different local authorities makes it difficult to cost

accurately. However, we would ask that you assess you current requirements in line with the Welsh

Language Measure and consider what, if any, additional costs you believe it will impose.

Pension changes

Automatic enrolment into a pension scheme for staff aged 16-74 who an employer deducts tax and

NI for is being introduced from 1 October 2012 for employers with 120,000 staff or more. During

Page 13: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

Fforum Gofal Cymru . Ty Hillbury . 2 Ffordd Hillbury . Wrecsam . LL13 7ET Care Forum Wales . Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

Ffon/Tel: 01978 755400 . Ebost/Email: [email protected] A Company Limited by Guarantee No 3750314. Registered in England and Wales. Registered Office Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

GOFAL AM GYMRU . TAKING CARE OF WALES

the 2013/14 financial year all employers with 250+ employees are being required to roll out the

scheme and smaller employers are being to put systems in place in anticipation. We would

therefore ask that consideration is given as to how this change will be taken into account in fee

setting.

New regulations on sprinklers

While we are still in discussions with Welsh Government about the implementation of the new

regulations on sprinklers they will come in in September 2013 which it seems will apply to any new

builds or conversions. The cost of installing sprinklers is likely to be at least £3000 for each premises

and potentially more as Dŵr Cymru tell us that across Wales water pressure is likely to be non-

compliant 47% of the time and pumps may be needed as well.

Laing & Buisson with adaptations

Our recommendation remains that local authorities set fees using the Laing & Buisson toolkit

commissioned by the Welsh Local Government Association, but take into account the changes in

regulation since that was published in 2004, including modifications made by William Laing to the

toolkit he produced in 2008 for England, which equally apply to Wales. We would also urge you to

take into account local costs and circumstances as recommended by William Laing. In particular

local land and building costs and staff wages and ratios are likely to vary. William Laing also found a

significant increase in dependency between 2004 and 2008 which necessitated increased care hours

per resident per week and has found a further increase in dependency in England in his new report

for 2012. We believe this mirrors the situation in wales and evidence from our members suggests

this increase has continued. As thresholds for entering a care home increase, then increases in

overall dependency levels are inevitable and this will require more care hours per resident to be paid

for. Increased dependency also means that residents are likely to be in the care home for a shorter

length of time which effects turnover and occupancy rate, again leading to increased costs. You will

recall that in the judgement on the first Pembrokeshire judicial review case the judge declared that

failing to take into account local staffing factors was an error in law. The Laing toolkit also uses as its

basis larger homes. For most authorities in Wales the rural nature means that smaller local homes

are required and costs may need to be factored up accordingly. We are happy to advise further on

all these matters. We would also encourage your local authority to use a quality threshold within

the fees, as recommended by William Laing, to incentivise meeting the National Minimum Standards

for new care homes from 2002.

Care Forum Wales indicative fees and inflationary factors

With the provisos that local factors should be taken into account our inflating of the toolkit indicates

fees should be in the region of:

Residential £535-613

Page 14: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

Fforum Gofal Cymru . Ty Hillbury . 2 Ffordd Hillbury . Wrecsam . LL13 7ET Care Forum Wales . Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

Ffon/Tel: 01978 755400 . Ebost/Email: [email protected] A Company Limited by Guarantee No 3750314. Registered in England and Wales. Registered Office Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

GOFAL AM GYMRU . TAKING CARE OF WALES

EMI residential £551-629

Nursing £683 - 761

EMI nursing £710-787

The full breakdown of costs contributing to these fees is supplied as an appendix.

Living wage

These costs are also based on existing staff terms of conditions. Our members would like to be able

to offer improved staff terms and conditions to aid retention and increase staff morale. However,

they recognise that in current economic circumstances local authorities may have some resistance to

increasing fees to a level to allow for this. However, we know that some local authorities are

considering implementing the living wage, and would urge those that do so not to forget the care

staff in the organisaitons they are commissioning care from.

NHS contribution

We are aware that many within local government share our concern about the freeze of the nursing

contribution from the NHS. However, we would remind you that Paragraph 37 of the NAFWC

25/2004 NHS Funded Nursing Care in Care Homes - Guidance 2004 deals with the determination

of the total amount to be paid for NHS Funded Nursing Care it clearly identifies that there

should be no gap between local authority and NHS provision.

“37. Providers, local authorities and Local Health Boards will need to agree a total funding

package that takes into account the NHS contribution. When making arrangements for

residential care for an individual under the National Assistance Act 1948, local authorities

are responsible for the remaining costs of accommodation and personal care. There should

be no gap between local authority and NHS provision.”

EMH provision

We hear in many areas that commissioning plans identify a need for more EMH provision, but

existing providers are often loath to move into EMH as they believe the increased fees paid do not

reflect the increased costs. Laing allows for higher staff costs for EMH, but not for higher repairs and

maintenance costs. Because of the nature of the client base we believe that unless high repairs and

maintenance costs are paid it may be difficult to attract new entrants into this sector of the market.

Whatever CSSIW decides on in the future regarding registration categories for EMH we believe there

is an increased cost, both in terms of staffing and also repairs and maintenance costs for EMH

residents, which needs to be included in fee calculations.

Page 15: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell

Fforum Gofal Cymru . Ty Hillbury . 2 Ffordd Hillbury . Wrecsam . LL13 7ET Care Forum Wales . Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

Ffon/Tel: 01978 755400 . Ebost/Email: [email protected] A Company Limited by Guarantee No 3750314. Registered in England and Wales. Registered Office Hillbury House . 2 Hillbury Road . Wrexham LL13 7ET

GOFAL AM GYMRU . TAKING CARE OF WALES

A sustainable social care sector

We recognise, of course, that this is a difficult time for local authority budgets, but in the care sector

there is no fat to trim. Anything other than an increase to meet an increase in costs will hurt the

vulnerable people we care for. Our members are getting increasing financial pressure from lenders,

some of whom require a home to be profitable at 85% occupancy. Everyone wants to see a

sustainable care sector for the point of view of residents and your commissioning plan no doubt

requires one. As you will be aware the majority of care homes in Wales are SMEs and we hope your

Commissioning Strategy will also take into account the effect on the welsh pound and economic

development within your area of how you commission your care provision. We are of course very

happy to work with you in terms of identifying potential efficiency savings in the care sector.

Local determination

We are pleased that local government in Wales has signed up to the Memorandum of

Understanding and look forward to working with you in the partnership approach set out there to

ensure that we can meet the needs of those who need care in your area most appropriately.

We are concerned that we are seeing an increasing development by individual local authorities of

their own questionnaires to local care homes to set fees. While we agree that it is important to take

into account local factors we are concerned by the cost and complexity of some of these

questionnaires and the fact that they often fail to take into account some items of legitimate

expenditure. Questionnaires should be in a format that is easy for care providers to complete and it

is important to consult with ourselves and local provider forums before issuing them. We are

particularly concerned that capital costs are often not properly accounted for. In particular, capital

costs should include the costs of the building, capital equipment and any equity capital contributed

by the owner, as they are foregoing income by not using that capital elsewhere. There should also

be a reasonable return on investment or profit to account for setting up and maintaining the

business.

It should be emphasised the principles set out here and the importance of transparency and

consultation in decision making also apply to domiciliary care provision and to care home provision

for children and younger adults. Do not hesitate to contact me if you would like to discuss any of

this further.

With all best wishes

Mary Wimbury

Senior Policy Adviser

Care Forum Wales

Page 16: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell
Page 17: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell
Page 18: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell
Page 19: CYNGOR SIR YNYS MÔN PWYLLGOR: PWYLLGOR GWAITH TEITL …democratiaeth.ynysmon.gov.uk/documents/s1963/Ffioedd Gofal Cart… · Mae'r gost o gwrdd â'r cais ffi genedlaethol hwn ymhell