cynnal cynhadledd flynyddol cyswllt iechyd rhywiol cymru gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu...

8
Rh wdwaith Cylchlythyr Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan Rh w Rhifyn 37 • Ebrill 2011 Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan M ynychodd tua 100 o gynadleddwyr seithfed gynhadledd genedlaethol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, ar 16 Chwefror 2011, a oedd ar thema Beichiogrwydd yn yr Arddegau yng Nghymru. Y Cadeirydd oedd Dr. Carl Clowes, Aelod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn sesiwn lawn y bore, cafwyd cyflwyniadau llawn gwybodaeth gan Dr. Marion Lyons, Prif Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, a roddodd drosolwg ar y data cyfredol ar gyfer cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau yng Nghymru. Esboniodd y cyflwyniad hwn pam y mae beichiogrwydd yn yr arddegau yn fater pwysig, gan ddatgan bod y rhan fwyaf heb eu cynllunio a bod tua hanner yn dod i ben gydag erthyliad. Roedd cyflwyniad Dr. Lyons hefyd yn ystyried y ffactorau risg sydd yn gysylltiedig ag atgenhedlu yn yr arddegau. Yn dilyn cyflwyniad Dr. Lyons, cafwyd cyflwyniad gan Dr. Shantini Paranjothy, Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, a gyflwynodd ganfyddiadau ei hadolygiad o’r dystiolaeth o effaith beichiogrwydd yn yr arddegau ar iechyd a lles y fam, y babi, y tad a chymdeithas. Ystyriodd Dr. Paranjothy epidemioleg beichiogrwydd yn yr arddegau, ystyriodd yr effaith ar aelodau’r teulu a chymdeithas ehangach gan gloi trwy edrych ar y cyd-destun strategol yng Nghymru. Yna symudodd y cynadleddwyr i sesiynau paralel y bore, lle cawsant ddewis o gyflwyniadau a gweithdai ar amrywiaeth o destunau, gan ymarferwyr sydd yn gweithio ar draws Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau oedd yn archwilio ymchwil barhaus; dulliau a ddefnyddir i fynd i’r afael â beichiogrwydd yn yr arddegau mewn amryw leoliadau; beichiogrwydd yn yr arddegau a phenderfynyddion ehangach iechyd; ac arferion arloesol, fel cyflwyno gwasanaethau iechyd rhywiol mewn ysgol addysg arbennig. Dechreuodd sesiynau’r prynhawn gyda chyflwyniad gan Dr. Louise Cook, Arbenigwr Cyswllt ym maes Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a siaradodd ar thema ‘Atal Cenhedlu Effeithiol ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau’. Roedd y cyflwyniad hwn yn edrych ar atal cenhedlu o safbwynt y darparwyr a’r bobl ifanc yn eu harddegau, gan edrych yn arbennig ar effeithiolrwydd LARC (Atal Cenhedlu Hir-weithredol y Gellir ei Wyrdroi). Ar ôl cinio, dychwelodd y cynadleddwyr i’r brif neuadd i wrando ar Malcolm Ward, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyflwynodd Gynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r gynulleidfa. Yn dilyn hyn cyflwynwyd y Wobr Arfer Da gyntaf ar gyfer Iechyd rhywiol i Wasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru. parhau ar y dudalen nesaf Adam Jones yn adrodd ar gynhadledd eleni. In this issue… System Wyliadwraeth newydd Iechyd Rhywiol yng Nghymru (SWS) Page 3 Adroddiad yn Amlinellu Effeithiolrwydd Gwasanaeth Ymddygiad sy’n Niweidiol yn Rhywiol Page 4 Ymchwil Gwaith Rhyw Cymru (SWRW) Page 8

Upload: others

Post on 15-Jul-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

Rh wdwaith

Cylchlythyr Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan

Rh wdwaithRhifyn 37 • Ebrill 2011

Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan

Mynychodd tua 100 o gynadleddwyr seithfed gynhadledd genedlaethol

Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, ar 16 Chwefror 2011, a oedd ar thema Beichiogrwydd yn yr Arddegau yng Nghymru.

Y Cadeirydd oedd Dr. Carl Clowes, Aelod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn sesiwn lawn y bore, cafwyd cyflwyniadau llawn gwybodaeth gan Dr. Marion Lyons, Prif Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, a roddodd drosolwg ar y data cyfredol ar gyfer cyfraddau beichiogrwydd yn yr arddegau yng Nghymru. Esboniodd y cyflwyniad hwn pam y mae beichiogrwydd yn yr arddegau yn fater pwysig, gan ddatgan bod y rhan fwyaf heb eu cynllunio a bod tua hanner yn dod i ben gydag erthyliad. Roedd cyflwyniad Dr. Lyons hefyd yn ystyried y ffactorau risg sydd yn gysylltiedig ag atgenhedlu yn yr arddegau. Yn dilyn cyflwyniad Dr. Lyons, cafwyd cyflwyniad gan Dr. Shantini Paranjothy, Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, a gyflwynodd ganfyddiadau ei hadolygiad o’r dystiolaeth o effaith beichiogrwydd yn yr arddegau ar iechyd a lles y fam, y babi, y tad a chymdeithas. Ystyriodd Dr. Paranjothy epidemioleg beichiogrwydd yn yr arddegau, ystyriodd yr effaith ar aelodau’r teulu a chymdeithas ehangach gan gloi trwy edrych ar y cyd-destun strategol yng Nghymru.

Yna symudodd y cynadleddwyr i sesiynau paralel y bore, lle cawsant ddewis o gyflwyniadau a gweithdai ar amrywiaeth o destunau, gan ymarferwyr sydd yn gweithio ar draws Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau oedd yn archwilio ymchwil barhaus; dulliau a ddefnyddir i fynd i’r afael â beichiogrwydd yn yr arddegau mewn amryw leoliadau; beichiogrwydd yn yr arddegau a phenderfynyddion ehangach iechyd; ac arferion arloesol, fel cyflwyno gwasanaethau iechyd rhywiol mewn ysgol addysg arbennig.

Dechreuodd sesiynau’r prynhawn gyda chyflwyniad gan Dr. Louise Cook, Arbenigwr Cyswllt ym maes Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a siaradodd ar thema ‘Atal Cenhedlu Effeithiol ar gyfer Pobl Ifanc yn eu Harddegau’. Roedd y cyflwyniad hwn yn edrych ar atal cenhedlu o safbwynt y darparwyr a’r

bobl ifanc yn eu harddegau, gan edrych yn arbennig ar effeithiolrwydd LARC (Atal Cenhedlu Hir-weithredol y Gellir ei Wyrdroi). Ar ôl cinio, dychwelodd y cynadleddwyr i’r brif neuadd i wrando ar Malcolm Ward, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyflwynodd Gynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r gynulleidfa. Yn dilyn hyn cyflwynwyd y Wobr Arfer Da gyntaf ar gyfer Iechyd rhywiol i Wasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru.

parhau ar y dudalen nesaf

Adam Jones yn adrodd ar gynhadledd eleni.

In this issue…System Wyliadwraeth newydd Iechyd Rhywiol yng Nghymru (SWS) Page 3

Adroddiad yn Amlinellu Effeithiolrwydd Gwasanaeth Ymddygiad sy’n Niweidiol yn Rhywiol Page 4

Ymchwil Gwaith Rhyw Cymru (SWRW) Page 8

Page 2: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

GolygyddolDiolch am ddarllen Rhifyn 37 o Rhywdwaith, a gobeithio eich bod yn hoffi’r ddelwedd newydd.

Y tu mewn mae gennym amrywiaeth o erthyglau diddorol, yn cynnwys adolygiad o Gynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan; canfyddiadau adroddiad am Wasanaeth Taith, sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n arddangos ymddygiad niweidiol yn rhywiol; cyflwyno Cynllun Gwyliadwraeth newydd Iechyd Rhywiol yng Nghymru a gwybodaeth am ymchwil barhaus ar Waith Rhyw. Byddwn hefyd yn siarad â Claire Barley am y ffordd y gall ymarferwyr iechyd rhywiol gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol.

Roedd yn rhagorol cyfarfod ag aelodau o’r Rhwydwaith yn y Gynhadledd ym mis Chwefror – er, fel arfer yn y Gynhadledd, treuliais y rhan fwyaf o’r amser yn ymwneud â threfniadau’r diwrnod! Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’m cydweithwyr a’m cefnogodd i ar y diwrnod, ac i Dr. Carl Clowes am Gadeirio’r digwyddiad. Roedd hefyd yn wych gweld Gwasanaeth Seraf Barnardo’s yn cael gwobr gyntaf Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gan edrych ymlaen, dylem weld y datblygiadau mawr cyntaf sy’n deillio o Gynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol newydd 2010-2015 dros y misoedd i ddod. Rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan wrth weithio mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill wrth gyflawni amcanion y cynllun gweithredu.

Mwynhewch ddarllen!

Edrychodd sesiynau paralel y prynhawn ar destunau yn cynnwys Atal Cenhedlu Hormonaidd; cyfathrebu rhwng rhieni a phlant yn ymwneud â rhyw a chydberthynas; ymchwil i brofiad menywod ifanc o wasanaethau erthylu yng Nghymru; ymgysylltu â merched beichiog yn eu harddegau sy’n agored i niwed a goblygiadau ariannol beichiogrwydd yn yr arddegau. Yn dilyn hyn, daeth y gynhadledd i ben gyda chyflwyniad gan Cordelia Jervis, myfyrwraig MPhil/PhD o UWIC, a roddodd gyflwyniad i’r cynadleddwyr ar ei hymchwil barhaus ar dadau yn eu harddegau, gan ofyn ‘A yw tadau ifanc yn wirioneddol anghyfrannog neu’n syml ddim yn cael gwahoddiad?’. Archwiliodd gyflwyniad Cordelia yr amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd y cyflwyniad hefyd y diffyg cynnwys neu gydnabod tadau mewn polisïau a strategaethau beichiogrwydd yn yr arddegau.

Fe wnaeth y sesiwn hon gloi diwrnod llawn gwybodaeth ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam. Diolch i bawb a fynychodd, yn arbennig y rheiny a roddodd gyflwyniadau a rhannu eu gwaith a’u gwybodaeth gyda’r gynulleidfa. Mae cyflwyniadau’r dydd, ynghyd ag adborth a dderbyniwyd, bellach ar gael i’w llwytho i lawr yn adran ‘Digwyddiadau’r Rhwydwaith’ gwefan Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, www.shnwales.org.uk.

Adam Jones

Cydlynydd Cyswllt Iechyd

Rhywiol Cymru Gyfan

Ffeithiau’r Adborth• O’r adborth a dderbyniwyd, roedd

96% o’r farn bod y cynnwys naill ai’n dda iawn neu’n rhagorol (53.2% da iawn, 42.6% rhagorol). Dyma’r canlyniad uchaf erioed ar gyfer ein cynadleddau.

• Roedd 96% o’r farn bod y digwyddiad wedi bodloni ei amcanion yn dda iawn neu’n rhagorol (59.6% da iawn, 36.2% rhagorol). Mae hwn yn ganlyniad uchaf erioed hefyd.

• Roedd 87% o’r farn bod lleoliad, trefniadaeth a threfniadau’r diwrnod wedi bod yn dda iawn neu’n rhagorol (52.6% da iawn, 34.2% rhagorol)

• Byddai 92% yn argymell y digwyddiad i gydweithwyr (nododd 58% ei fod yn ‘dda iawn’, nododd 34% ei fod yn ‘rhagorol’). Dyma’r canlyniad uchaf erioed.

• Roedd 76% o’r farn bod y digwyddiad yn cysylltu â’u cynllun datblygu personol mewn ffordd dda iawn neu ragorol (52% da iawn, 24% rhagorol)

• Roedd 83% o’r farn bod y digwyddiad wedi bodloni eu hamcanion personol (56% da iawn, 27% rhagorol)

“Rhoddodd y digwyddiad ddealltwriaeth well i mi o rai o’r ffactorau sy’n effeithio ar fenywod beichiog ifanc.”

“Llawn gwybodaeth, llawer iawn o gynnwys ac roeddwn yn hoffi’r ffaith eu bod yn gofyn barn ynglyn â’r ffordd i newid yn y dyfodol”

Yr hyn a Ddywedodd y Cynadleddwyr am Gynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru GyfanDyma ddetholiad o ddyfyniadau a gymerwyd o’r adborth a dderbyniwyd gan y cynadleddwyr.

Rhywdwaith Rhifyn 37

www.shnwales.org.uk @awshn 2TM

Rh wdwaith

“Byddwn yn sicr yn argymell y digwyddiad fel ffynhonnell wybodaeth dda gydag amrywiaeth o destunau”

“Cafodd y digwyddiad ei gydlynu’n berffaith. Roedd yr amserlen yn llyfn a’r lleoliad yn briodol.”

“Amgylchedd da, awyrgylch da, gan wneud y gynhadledd yn hamddenol ac yn hawdd i gymryd rhan”

Page 3: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

Kimberley Cann, Daniel Thomas a Christopher Au-Yeung yn cyflwyno’r cynllun gwyliadwriaeth newydd ar gyfer Iechyd Rhywiol yng Nghymru i ddarllenwyr Rhywdwaith.Mae cynllun Gwyliadwraeth newydd Iechyd rhywiol yng Nghymru (SWS) bellach ar waith, yn casglu gwybodaeth hanfodol ar y tueddiadau diweddaraf yng nghyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) pob clinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM) cyfrifiadurol a phob labordy yng Nghymru. Cafodd y cynllun gwyliadwriaeth newydd, SWS, ei sefydlu i nodi’r cynnydd annisgwyl neu glystyrau o STIs yn gyflym a rhoi gwybodaeth am iechyd rhywiol y boblogaeth yn yr awdurdodau lleol neu’r byrddau iechyd lleol (BILlau) lle maent yn byw.

Sut bydd SWS yn gwella gwyliadwriaeth STI yng Nghymru?Yn flaenorol, cynhaliwyd gwaith gwyliadwriaeth STIs yng Nghymru gan ddefnyddio Ffurflenni KC60 sy’n cael eu hanfon i Ganolfannau Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC) gan y clinigau GUM unwaith bob 3 mis. Fodd bynnag, derbynnir y ffurflenni fel arfer 3-6 mis ar ôl i’r cyfnod o 3 mis ddod i ben ac efallai hyd at flwyddyn yn ddiweddarach, a all arwain at oedi mawr wrth nodi achosion. Nid yw’r ffurflenni KC60 chwaith yn rhoi llawer o wybodaeth am nodweddion cleifion, fel oed, rhyw, rhywioldeb, ethnigrwydd neu hanes teithio. Nid yw’n bosibl chwaith cyfrifo cyfraddau STIs yn ôl ardal ddaearyddol megis BILl, yn arbennig gan nad oes gan rai BILlau gling GUM o fewn eu ffiniau ac efallai nad yw cleifion yn mynychu’r clinig agosaf atynt.

Mae SWS yn defnyddio gwybodaeth gan glinigau GUM a labordai sy’n gwneud profion am STIs. Derbynnir gwybodaeth ddienw ar ddiagnosis o STIs yng Nghymru

o’r clinigau GUM, tra bo canlyniadau’r holl brofion STI a gynhelir yng Nghymru, yn cynnwys y rheiny a gyflwynir gan feddygfeydd meddygon teulu, gwasanaethau atal cenhedlu cymunedol, adrannau ysbytai, a chlinigau GUM, yn cael eu derbyn o’r labordai. Gellir cysylltu profion STI labordai a anfonir gan glinigau GUM â gwybodaeth am gleifion sy’n cael profion STI a gall gwybodaeth fanwl am grwpiau cleifion helpu i deilwra ymyriadau lleol i’r boblogaeth leol. Mae gwybodaeth cleifion ar gael mor bell yn ôl â’r 1990au cynnar, sydd hefyd yn ein galluogi ni i asesu’r tueddiadau mewn STIs dros y 10-15 mlynedd diwethaf.

Mynediad hawdd i wybodaethMae adroddiadau fel mater o drefn ar gael ar fewnrwyd Iechyd Cyhoeddus Cymru a gellir eu hasesu gan weithwyr iechyd proffesiynol awdurdodedig. Mae ffigur 1 yn dangos cip sgrin o adroddiad

ar-lein yn dangos nifer y diagnosis o clamydia anghymleth a wnaed yn holl glinigau GUM Cymru yn 2009, yn ôl BILl. Caiff y data o’r adroddiadau hyn hefyd ei ddefnyddio mewn adroddiadau gwyliadwriaeth safonol y gellir eu hanfon allan i glinigau yn fisol, yn chwarterol ac yn flynyddol.

Adroddiadau gwyliadwriaeth fel mater o drefn i helpu i nodi achosionCaiff rheoli proses ystadegol (SPC) ei ddefnyddio i wirio am achosion posibl o STI yn y dyfodol, gan ddarparu system rybuddio ar gyfer lefelau anarferol o STIs mewn unrhyw ardal ddaearyddol. Gellir wedyn ymchwilio i’r rhain yn gyflym, gan atal achosion o bosibl a lledaeniad pellach yn y gymuned leol. Mae ffigur 2 yn dangos enghraifft o siart reoli; gyda’r nifer gymedrig o ganlyniadau profion

Yn digwydd yng Nghymru

Cynllun Gwyliadwraeth newydd Iechyd rhywiol yng Nghymru – SWS

Ffigur 1: Cip sgrin o adroddiad ar-lein yn dangos nifer y diagnosis o clamydia anghymleth yn holl glinigau GUM Cymru yn 2009, yn ôl BILl

Rhywdwaith Rhifyn 37

www.shnwales.org.uk @awshn 3TM

Rh wdwaith

Page 4: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

cadarnhaol ar gyfer gonorea rhwng Ionawr 2008 a Thachwedd 2010 (y llinell solet) a’r terfynau uchaf ac isaf (y llinellau dotiog). Gall unrhyw bwyntiau data y tu hwnt i’r terfynau hyn (fel y nodir yn y cylchoedd) neu gyfres o wyth neu fwy o bwyntiau data ar un ochr o’r cymedr (fel y nodir yn y blychau) ddangos newid annisgwyl mewn STIs. Yn y naill achos a’r llall, bydd rhybudd yn cael ei greu i ddweud wrthym y dylid ymchwilio i hyn.

Beth nesaf?Bydd SWS yn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i weld yn hawdd ble mae STIs yn amrywio’n ddaearyddol ar fapiau Cymru, gyda data ar gael ar lefelau lleol. Gellir adnabod cynnydd neu ostyngiad mewn cyfraddau mewn ardal benodol yn gyflym a thargedu ymyriadau iechyd y cyhoedd yn briodol. Gall y wybodaeth fanwl sydd ar gael ar epidemioleg STIs mewn ardaloedd lleol hefyd gynorthwyo i werthuso darpariaeth gwasanaeth a

pha grwpiau sydd fwyaf mewn perygl. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i lywio cynllunio gwasanaethau’n

lleol ac yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion i fynd i’r afael ag angen y boblogaeth sydd heb ei fodloni.

Yn digwydd yng Nghymru

Ffigur 2: Achosion o Gonorea yng Nghymru yn ôl canlyniadau profion labordai, Ionawr 2008 – Tachwedd 2010

Adroddiad yn amlinellu effeithiolrwydd gwasanaeth ‘ymddygiad sy’n niweidiol yn rhywiol’

Denise Moultrie, Rheolwr Gwasanaethau Plant Barnardo’s Cymru, yn adrodd ar Wasanaeth Taith, sydd yn ddiweddar wedi dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed. Cafodd Gwasanaeth Taith ei sefydlu yn 2000 i weithio ar draws Cymru gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cam-drin eraill yn rhywiol. Mae’n gydweithrediad unigryw rhwng Barnardo’s Cymru, 7 awdurdod lleol, Heddlu De Cymru, Canolfan Ddiogel Hillside a Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM. Mae’n gweithio gyda phlant rhwng 8 a 17 oed ac yn

ddiweddar mae hefyd wedi dechrau gweithio gyda phobl ifanc rhwng 18 ac 21 oed hefyd. Mae’r gwasanaeth yn cynnig asesiadau a gwaith uniongyrchol tymor hwy gyda phobl ifanc y mae pryderon ynghylch eu hymddygiad sy’n niweidiol yn rhywiol ac mae hefyd yn cynnig hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori. Cafodd Gwasanaeth Taith ei sefydlu fel ymateb i’r wybodaeth bod un o bob tri o’r holl achosion cam-drin rhywiol yn cael ei gyflawni gan blant a phobl ifanc a bod tua 40% o droseddwyr rhyw sy’n oedolion wedi cyflawni troseddau rhywiol cyn eu bod yn 18 oed.

Cafodd Gwasanaeth Taith ei sefydlu fel ymateb i’r wybodaeth bod un o bob tri o’r holl achosion cam-drin rhywiol yn cael ei gyflawni gan blant a phobl ifanc a bod tua 40% o droseddwyr rhyw sy’n oedolion wedi cyflawni troseddau rhywiol cyn eu bod yn 18 oed.

Rhywdwaith Rhifyn 37

www.shnwales.org.uk @awshn 4TM

Rh wdwaith

Page 5: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

Mewn 10 mlynedd, mae Gwasanaeth Taith wedi derbyn 900 o atgyfeiriadau o wasanaethau cymdeithasol a thimau troseddau ieuenctid a’r llynedd gweithiodd yn uniongyrchol gyda 128 o bobl ifanc. Mae Gwasanaeth Taith wedi ei leoli yn Ne Cymru ond mae’n gallu gweithio ar draws Cymru lle caiff ei wasanaethau eu comisiynu.

I nodi 10 mlynedd o weithredu, cynhaliodd y Dirprwy Weinidog Gwenda Thomas ddigwyddiad yn y Senedd ym mis Ionawr. Disgrifiodd y digwyddiad waith Gwasanaeth Taith a’r ymchwil ddiweddar y mae wedi ei gwneud. Cafwyd presenoldeb da gan Weinidogion Cynulliad Cymru ac ystod o asiantaethau proffesiynol. Tynnodd y siaradwyr, yn cynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler ac Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru, sylw at ddarpariaeth fylchog gwasanaethau arbenigol lleol ar draws Cymru ar gyfer asesu ac ymgysylltu yn therapiwtig pobl ifanc ag ymddygiad sy’n niweidiol yn rhywiol. Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog gynlluniau ar gyfer protocol diogelu Cymru gyfan er mwyn sicrhau rheolaeth ac asesiad mwy cyson o berygl pobl ifanc ag ymddygiad sy’n niweidiol yn rhywiol. Mae ystyried atgyfeirio at wasanaethau arbenigol yn debygol o fod yn rhan o’r gweithdrefnau a argymhellir.

Amlygodd pen-blwydd y digwyddiad hefyd ymchwil a wnaed ar gyfer Gwasanaeth Taith. Mae hyn wedi tynnu gwybodaeth i lawr am gannoedd o bobl ifanc sydd wedi mynychu’r gwasanaeth dros y blynyddoedd ac mae wedi ei amlinellu mewn adroddiad adolygu 10 mlynedd, a gyhoeddwyd

gan Barnardo’s. Mae’n amlwg bod gormod o gynrychiolaeth o bobl ifanc ag anawsterau dysgu, gyda hyd at 40% o bobl ifanc sy’n mynychu yn meddu ar ryw fath o anawsterau a nodir, yn yr un modd â phobl ifanc yn y system ofal (30% o’r grwp sampl). Roedd saith y cant o’r atgyfeiriadau yn ferched a menywod ifanc sydd wedi cam-drin eraill yn rhywiol. Mae merched sy’n niweidio’n rhywiol yn llawer llai hysbys ac mae gan Wasanaeth Taith ddiddordeb arbennig yn y maes ymchwil hwn. Mewn perthynas â phob person ifanc, mae eu hymddygiad rhywiol yn amrywio o ddinoethi i gyffwrdd yn amhriodol a thrais. Mae traean o’r bobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio am ymddygiad rhywiol anghydsyniol. Mae’r dioddefwyr yn debygol iawn o fod yn aelodau o’r teulu neu’n adnabyddus iawn i’r person ifanc, ac mae ymosodiadau ar ddieithriaid gan bobl ifanc yn brin iawn. Mae rhai pobl ifanc sydd wedi cam-drin eraill hefyd yn cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys ymddygiad treisgar neu fwlio ac mae cyfran lai yn gysylltiedig â rhoi pethau ar dân a chreulondeb neu gyswllt rhywiol ag anifeiliaid.

Mae’n amlwg o ymchwil Taith bod y bobl ifanc hyn yn aml yn ddioddefwyr cam-drin a thrawma eu hunain. Mae astudiaethau yn y DU wedi sefydlu hyn ac mae gan y grwp hwn o bobl ifanc Cymru lefelau uchel tebyg o brofiad o gam-drin, mathau eraill ar gam-drin a phrofiad o drais domestig. O ganlyniad, dangosodd hyd at un o bob pump o grwp sampl llai arwyddion o orbryder, iselder, straen wedi trawma neu ddifaterwch emosiynol. Nododd un ym mhob tri o’r bobl ifanc yn y grwp sampl feddyliau o niweidio neu ladd eu hunain ac roedd cyfran debyg yn ofnus, o’r farn y bydd rhywun yn eu lladd neu’n gwrthod ymddiried mewn oedolion. Felly, mae Gwasanaeth Taith eisiau amlygu pwysigrwydd deuol ymdrin â’r peryglon y mae rhai o’r bobl ifanc hyn

yn eu cyflwyno i eraill, gan ymateb hefyd i anghenion cymhleth yn aml a difrifol y bobl ifanc eu hunain.

Mae tua un ym mhob tri o’r bobl ifanc y mae Gwasanaeth Taith yn eu gweld wedi ymgysylltu mewn ymddygiad rhywiol amhriodol ar eiddo’r ysgol. Mae Gwasanaeth Taith yn cydnabod yr her y mae hyn yn ei gyflwyno ac mae’n cynnig hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori i ysgolion.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar hefyd yn amlinellu gwerthusiad annibynnol o’r gwasanaeth, yn canolbwyntio ar y ffactorau hynny y credir eu bod yn fwyaf pwysig wrth asesu’r perygl y bydd person ifanc yn parhau i niweidio yn rhywiol yn y dyfodol. Cafodd pobl ifanc eu hasesu gan ddefnyddio ystod o fesurau sy’n ymdrin â gweithredu rhyngbersonol ac agweddau a chredoau rhywiol. Mae’r gwerthusiad yn dangos newid yn y rhan fwyaf o’r bobl ifanc yn ystod eu cysylltiad â Gwasanaeth Taith mewn perthynas â barn wyrdröedig ac amhriodol am gyswllt rhywiol â phlant iau. Yn yr un modd, mae’r gwerthusiad yn dangos effaith sylweddol triniaeth ar gyfer y bobl ifanc hynny ag agweddau gwrthwynebus tuag at ferched o’r un oed ac sy’n ystyried trais o fewn perthynas yn dderbyniol. Cafodd pobl ifanc eu hasesu hefyd i fod yn llai tebygol o feio’u dioddefwyr am eu hymddygiad a deall effaith cam-drin rhywiol ar ddioddefwyr yn well yn gyffredinol o ganlyniad i gysylltiad â’r gwasanaeth. Mae’r gwerthusiad hefyd yn dangos cynnydd mewn hunan-barch ymysg nifer sylweddol o’r bobl ifanc.

Dywed Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru “Mae’r gwerthusiad hwn yn dangos effeithiolrwydd Gwasanaeth Taith yn newid yr agweddau a’r credoau hynny sy’n peri’r pryder mwyaf am bobl ifanc sydd wedi niweidio yn rhywiol. Rydym o’r farn bod ein gwaith yn y maes hwn yn cyfrannu’n sylweddol at ddiogelu’r gymuned.”

“Mae’r gwerthusiad hwn yn dangos effeithiolrwydd Gwasanaeth Taith yn newid yr agweddau a’r credoau hynny sy’n peri’r pryder mwyaf am bobl ifanc sydd wedi niweidio yn rhywiol.”

“Rydym o’r farn bod ein gwaith yn y maes hwn yn cyfrannu’n sylweddol at ddiogelu’r gymuned.”

Mae adroddiad adolygiad 10 mlynedd Gwasanaeth Taith ar gael i’w lawrlwytho yn www.barnardos.org.uk/taith neu ar gais gan y gwasanaeth.

Rhywdwaith Rhifyn 37

www.shnwales.org.uk @awshn 5TM

Rh wdwaith

Page 6: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

Mae Y Cwestiynau Mawr yn nodwedd newydd yn Rhywdwaith, sy’n gwahodd ymarferwyr allweddol ym maes iechyd rhywiol a gweithlu ehangach iechyd y cyhoedd i ateb cwestiynau ar destun penodol.

Yn y cyfweliad cyntaf hwn, rydym yn gofyn i Claire Barley am ddatblygu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr iechyd rhywiol.

A allech chi roi trosolwg i’r darllenwyr o’r hyn y mae’r tîm Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei olygu?Mae’r tîm yn datblygu doniau ar draws system iechyd y cyhoedd, heb rwystr gan ffiniau sefydliadol a chaiff eu gwaith ei alinio’n strategol i ofynion system iechyd y cyhoedd.

A yw gwasanaethau’r Tîm Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol ar gael i weithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unig?Mae ein gwasanaethau’n ymwneud â chefnogi unrhyw un sydd â rôl yn iechyd y cyhoedd neu’n cyfrannu ato. Mae hyn yn cynnwys pobl ar bob lefel yn y gweithlu ac mewn amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid ac mae ymarferwyr iechyd rhywiol yn sicr yn grwp yr hoffem eu cefnogi.

Allech chi argymell unrhyw gynlluniau/cyfleoedd datblygu arbennig i ymarferwyr ym maes iechyd rhywiol?Un o’r mwyaf amserol yw’r cynllun ar draws y DU i gofrestru unigolion (yn wirfoddol) ar Gofrestr Iechyd y Cyhoedd y DU, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniad y maent yn ei wneud i iechyd y cyhoedd. Mae Cynllun Cefnogi Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru yn rhaglen o ddigwyddiadau a chyfleoedd i helpu unigolion i ddatblygu a chofnodi eu cymhwysedd a chael cydnabyddiaeth trwy ddull uchel ei barch yn y DU. Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i bobl gymryd rhan ac rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi a chyflwyno dysgu a datblygu yn ogystal â chymryd rhan.

Ydych chi o’r farn bod angen cynyddol i arddangos cymhwysedd mewn ymarfer iechyd rhywiol?Rwy’n credu bod galw cynyddol yn gyffredinol i bob rhan o’r gweithlu ddatblygu eu hunain a phrofi eu cymhwysedd parhaus (addasrwydd i ymarfer) a chan fod ymarfer iechyd rhywiol yn gysylltiedig ac wedi ei integreiddio i gymaint o feysydd iechyd y cyhoedd, rwy’n credu bod angen yn sicr i godi ymwybyddiaeth o’r gweithlu, eu sgiliau a’u gwybodaeth a chefnogi eu datblygiad proffesiynol.

Ydych chi’n rhagweld unrhyw heriau i ddatblygu proffesiynol yn y blynyddoedd i ddod?Rwy’n credu y byddai pob yn synnu pe na fyddwn yn sôn am y ffaith mai’r gyllideb hyfforddi sy’n cael ei thorri gyntaf pan fydd arian yn brin. Fodd bynnag, rwy’n credu bod gennym gyfleoedd gwirioneddol i rannu dysgu a datblygu ar draws system iechyd y cyhoedd, gan ddefnyddio’r gweithlu i ddatblygu ei hun. Mae rhannau o’r gweithlu a allai elwa ar ddysgu ar y cyd ag ymarferwyr iechyd rhywiol ac i’r gwrthwyneb. Y gyfrinach yw datblygu dull wedi ei gydlynu a sicrhau bod cyfathrebu da ar draws y system gyfan.

Sut gall ymarferwyr barhau i gael ysgogiad yn eu datblygiad proffesiynol?Mae bob amser yn heriol cynnal ysgogiad trwy gydol eich gyrfa (yn arbennig pan fyddwch o dan bwysau cynyddol neu pan fyddwch yn mynd trwy “gyfnod anodd”). Y gyfrinach yw gosod nodau personol realistig a bod yn glir ynglyn â’r hyn yr ydych eisiau ei gyflawni yn eich bywyd proffesiynol (a phersonol). Dylai pob cyfle yr ydych yn ei nodi ac yn manteisio arno fod yn gam tuag at y nodau hyn. Dechreuwch gyda’r diwedd mewn golwg a chofiwch hyd yn oes ydych ar y ffordd gywir, fe gewch eich taro i lawr os ydych yn sefyll yn llonydd. Felly fy mhrif awgrym (i gefnogi eich nodau) yw gweld dysgu ym mhob sefyllfa a chyfle a gweld pob llwyddiant a methiant fel un cam yn agosach at eich nodau.

Y Cwestiynau Mawr Claire Barley, Pennaeth Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Q&A

Rhywdwaith Rhifyn 37

www.shnwales.org.uk @awshn 6TM

Rh wdwaith

Page 7: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

Mae’n bleser gennyf gyflwyno derbynnydd cyntaf Gwobr Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru.

Cafodd Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru ei sefydlu’n ffurfiol ym mis Hydref 2006, yn dilyn astudiaeth gwmpasu chwe mis yn 2005. Mae gan Seraf (Fframwaith Asesu Risg Camfanteisio’n Rhywiol) ganolfannau ar draws Cymru, o fewn adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol er enghraifft.

Mae Gwasanaeth Seraf yn rhoi cymorth i bobl ifanc (o dan 18 oed) sy’n profi anawsterau, mewn ymgais i’w hatal rhag syrthio i fagl cam-drin a/neu gam-fanteisio rhywiol. Y nod sylfaenol yw cadw pobl ifanc yn ddiogel ac yn hapus.

Mae hyfforddiant yn cael ei gynnig i weithwyr proffesiynol ar ddwy lefel wahanol, gyda’r nod o roi dealltwriaeth well iddynt o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant a’i effaith, yn ogystal â rhoi’r mater mewn cyd-destun Cymreig.

Cafodd Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru ei gyflwyno i’r Prosiect Peilot ar gyfer y Cynllun Arfer Da, ac felly dyma’r prosiect cyntaf yng Nghymru i gael yr

anrhydedd uchaf yng Nghynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cydnabu’r Panel Asesu Arfer Da gryfderau cynllunio, cynaliadwyedd, monitro, gwerthuso a chyflwyno gwasanaeth y prosiect. Cafodd tair dogfen fawr eu cyflwyno i gefnogi’r portffolio Arfer Da. I ddechrau, ceir Out of sight, out of mind, sef adroddiad i ganfyddiadau astudiaeth gwmpasu a gynhaliwyd gan Barnardo’s Cymru ar ran Grwp Cynghori Cymru ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant rhwng Chwefror a Gorffennaf 2005. Mae’r ail ddogfen, Reducing the Risk yn adroddiad gwerthuso dwy flynedd o holl wasanaethau Barnardo’s ar gyfer cefnogi pobl ifanc y cam-fanteisir arnynt yn rhywiol, gan ymgorffori Gwasanaeth Seraf, a’r drydedd ddogfen, Fframwaith Asesu’r Risg o Gamfanteisio Rhywiol Astudiaeth Beilot, sydd yn ddadansoddiad o Wasanaeth Seraf sydd ar waith yng Nghasnewydd. Helpodd y cyhoeddiadau hyn i ddarparu’r dystiolaeth sydd yn angenrheidiol i gydnabod bod y prosiect yn un a ystyrir yn ‘Arfer Da’.

Cafodd y wobr ei hun ei chyflwyno i Sarah Matthews o Barnardo’s Cymru, a’i derbyniodd ar ran y staff sydd yn gweithio yng Nghwasanaeth Seraf.

Cynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru

Public Health Wales Good Practice Scheme

Sarah Matthews from Barnardo’s Cymru receiving the Public Health Wales Good Practice Award and Certificate from Dr. Carl Clowes at the All Wales Sexual Health Network Annual Conference, 16th February 2011

Cynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwasanaeth Seraf Barnardo’s Cymru yw derbynnydd cyntaf Gwobr Arfer Da ar gyfer Iechyd Rhywiol

Os hoffech fwy o wybodaeth am Gynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i’r dudalen benodol ar wefan Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan, neu anfonwch e-bost at [email protected]. Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Seraf, ewch i www.barnardos.org.uk/serafservice

Y Cwestiynau Mawr Claire Barley, Pennaeth Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Beth yw eich prif flaenoriaethau ar gyfer Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol yn y flwyddyn i ddod? Fy mhrif flaenoriaeth yw datblygu ymarferwyr a’r gweithlu ehangach. Mae’r rhain yn feysydd sydd hyd yma heb gael sylw digonol a’n bwriad yw newid hynny. Mae’r cynllun Cymorth i Ymarferwyr yn rhoi cyfle rhagorol a fframwaith i ni nodi cyfleoedd priodol ac annog unigolion i fapio eu sgiliau a’u gwybodaeth a rhoi gwybod i ni ble y gallwn ddarparu digwyddiadau dysgu a datblygu pellach.

Beth fyddai eich tri phrif awgrym ar gyfer ymarferwyr ym maes iechyd rhywiol i ddechrau neu barhau eu datblygiad proffesiynol?1. Cael nodau personol a

phroffesiynol clir

2. Bod yn glir beth yw eich cryfderau a’ch cyfleoedd ar gyfer datblygu mewn perthynas â’ch sgiliau a’ch gwybodaeth (cymhwysedd) – lle y bo’n briodol mapio i safonau neu fframweithiau cenedlaethol perthnasol

3. Meddu ar gynllun ar gyfer y ffordd yr ydych eisiau datblygu / neu syniad o’r cyfleoedd datblygu yr hoffech eu gwneud

Am fwy o wybodaeth am unrhyw beth y mae Claire wedi sôn amdano yma, neu waith y Tîm Datblygu Proffesiynol a Sefydliadol yn gyffredinol, cysylltwch â Claire dros e-bost yn [email protected]

Rhywdwaith Rhifyn 37

www.shnwales.org.uk @awshn 7TM

Rh wdwaith

Page 8: Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan · amgyffrediad o dadau yn eu harddegau a’i herio, gan gynnwys dyfyniadau o’i chyfweliadau gyda thadau ifanc. Ystyriodd

Symposiwm y Gwanwyn Cymdeithas Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymru (WASCH)Dydd Sadwrn 14 Mai 2011, Prifysgol Cymru AbertaweBydd Cymdeithas Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Cymru (WASCH), WFPG (Grwp Ymarferwyr Cynllunio Teulu Cymru) yn flaenorol, yn cynnal Symposiwm y Gwanwyn ar Ddydd Sadwrn 14 Mai 2011, yn Ystafell Ddarlithio James Callaghan ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Enw’r digwyddiad yw ‘Beichiogrwydd heb ei Gynllunio: Ataliaeth, Gweithdrefnau a Chodi’r Darnau’. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw Dydd Gwener 6 Mai 2011. Am fwy o wybodaeth ac agenda lawn ar gyfer y dydd, gweler gwefan Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan. (Ffioedd: meddygon - £20. Nyrsys - £15)

Noddir y prosiect 4 blynedd, ‘Ymchwil Gwaith Rhyw Cymru’ gan Gibran (UK) Ltd mewn partneriaeth â Chanolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg, Prifysgol Abertawe.

Mae SWRW yn brosiect ymchwil 4 blynedd a ariennir gan Raglen y Gronfa Loteri Fawr. Nod y rhaglen yw:

‘Galluogi sefydliadau’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol (VCS) i gynhyrchu a lledaenu gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn dylanwadu ar bolisi ac ymarfer lleol a chenedlaethol ac, yn y tymor hwy, datblygu gwasanaethau ac ymyriadau gwell ar gyfer buddiolwyr’.

Wrth wneud hynny, nod y rhaglen yw datblygu gallu’r VCS er mwyn ymgysylltu â gwaith ymchwil, ei ddefnyddio a’i gynnal.

Bydd prosiect SWRW yn mapio gwaith rhyw ar draws Cymru gyfan trwy amrywiaeth o ddulliau. Nodau’r ymchwil yw:

• Dylanwadu ar ddatblygu ac ymarfer polisi.

• Cadw gweithwyr rhyw yn ddiogel a chynorthwyo’r rheiny sy’n dymuno gadael gwaith rhyw.

Bydd y prosiect yn defnyddio dull ymchwil gweithredu cyfranogol gan geisio grymuso gweithwyr rhyw ac

aelodau’r gymuned trwy eu cynnwys yn llawn yn yr ymchwil, eu helpu i ddatblygu atebion i greu newid cadarnhaol a gwella cydlyniant cymunedol.

Dechreuodd y prosiect ym Mehefin 2010 ac rydym bellach yn rhoi’r ymchwil ar waith fesul cam i ddarparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid ar draws Cymru. Os hoffech wybod mwy am yr ymchwil neu os ydych yn credu eich bod yn wasanaeth y mae gweithwyr rhyw o unrhyw ryw yn ei ddefnyddio, cysylltwch ag un o’r tîm isod neu ewch i’n gwefan yn www.gibran-uk.co.uk

Testunau Ymchwil

‘Ymchwil Gwaith Rhyw Cymru’ (SWRW)

Dyma’r Tîm Ymchwil: Emma Harris, Rheolwr Prosiect Gibran (UK) LtdEbost: [email protected]

Dr Tracey Sagar, Prif Ymchwilydd Prifysgol AbertaweEbost: [email protected]

Louise Clark, YmchwilyddAelod Cyswllt Gibran (UK) LtdEbost: [email protected]

Debbie Jones, Cynorthwy-ydd Ymchwil, Prifysgol AbertaweEbost: [email protected]

Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm dros y ffôn ar: 01873-880976 neu Symudol: 07817578366

Newyddion yn Fyr

Ynglyn â Chyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan

Sefydlwyd y Rhwydwaith yn 2000 fel rhan o’r Cynllun Gweithredu i weithredu’r Fframwaith Strategol ar gyfer Hybu Iechyd Rhywiol yng Nghymru, a chaiff ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, cysylltwch ag:Adam Jones, Cydlynydd Rhwydwaith Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9LJ Ffôn: 029 2022 7744, Ebost: [email protected] Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu a dosbarthu’r cylchlythyr RHYWdwaith ond mae wedi rhoi’r gwaith o ddosbarthu’r Cylchlythyr i RMG: Research and Marketing Group. Os nad ydych yn fodlon i’ch manylion cyswllt gael eu trosglwyddo i Research and Marketing Limited er mwyn dosbarthu cylchlythyr RHYWdwaith, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ neu ffoniwch 02920 227744.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ar gyfer y rhifyn nesaf o Rhywdwaith fydd Dydd Llun 6 Mehefin 2011. Mae mwy o wybodaeth ynglyn â sut i gyflwyno cynnwys i Rhywdwaith ar gael ar dudalen Rhywdwaith ar wefan Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan.

Digwyddiadau

Tymor Babanod BBC ThreeBydd ‘Bringing up Britain’ yn cael ei ddarlledu ar BBC Three ym mis Ebrill. Mae’r tymor yn cynnwys ystod o raglenni yn edrych ar y materion y mae rhieni ifanc yn eu hwynebu heddiw – fel pwysigrwydd ffitrwydd yn ystod beichiogrwydd, pwysau yn ymwneud â bwydo ar y fron, bwyd sothach a rhianta, ymdopi â genedigaethau lluosog. (Bydd y manylion yn cael eu cadarnhau yn nes at y dyddiad darlledu).

Er mwyn cefnogi mamau ifanc, mae’r BBC wedi comisiynu cyfres o ffilmiau byr ar gyfer gwefan BBC Three yn cynnwys straeon gwir sy’n ysbrydoli gan famau ifanc, a chyngor ymarferol rhwng cymheiriaid. Bydd hefyd dolenni i sefydliadau cenedlaethol sy’n cynnig cymorth. Caiff y wefan, ffilmiau a’r gefnogaeth eu hyrwyddo ar raglenni teledu ac ar brif wefan BBC Three. Am fwy o wybodaeth ymlaen llaw, anfonwch e-bost o’ch enw llawn, sefydliad, cyfeiriad a manylion cyswllt at [email protected]

8 www.shnwales.org.uk @awshn TM

Rhywdwaith Rhifyn 37Rh wdwaith