cyswllt cynulleidfa

20
Ymunwch â’r drafodaeth #CyswlltCynulleidfa

Upload: ffilm-cymru-wales

Post on 22-Mar-2016

229 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Bydd Cyswllt â’n Cynulleidfa yn helpu gweithwyr proffesiynol ym maes ffilm a’r cyfryngau i ddeall y potensial creadigol a busnes a ddaw o ddeall y berthynas sy’n datblygu rhwng cynnwys a chynulleidfa.

TRANSCRIPT

Page 1: Cyswllt Cynulleidfa

Ymunwch â’r drafodaeth#CyswlltCynulleidfa

Page 2: Cyswllt Cynulleidfa

Bydd Cyswllt â’n Cynulleidfa yn helpu gweithwyr proffesiynol ym maes ffilm a’r cyfryngau i ddeall y potensial creadigol a busnes a ddaw o ddeall y berthynas sy’n datblygu rhwng cynnwys a chynulleidfa.

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at gynhyrchwyr, gwneuthurwyr ffilm, gweithwyr proffesiynol ym maes arddangos a dosbarthu, y rhai sy’n gweithio ym maes addysg ffilm a’r cyfryngau a myfyrwyr, ynghyd â gweithwyr proffesiynol mewn cyfryngau a chelfyddydau eraill sy’n dymuno ehangu gwerth marchnad eu heiddo deallusol.

Bydd yn cynnig syniadau ysgogol i ddatblygu perthynas â defnyddwyr mewn oes lle mae’r galw sy’n sbarduno pethau, ac yn ystyried ffyrdd i ddwyn gwerth o wybodaeth am gynulleidfa, o’r camau datblygu cyntaf i’r cyfnod arddangos.

Yn ystod y diwrnod, rhoddir ystyriaeth i’r hyn y mae patrymau newidiol y galw yn ei olygu i’r ffordd y mae cynnwys ffilm a’r cyfryngau yn cael ei ddosbarthu a’i arddangos, ac i’r math o ffilmiau a gaiff eu hariannu a’u cynhyrchu.

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnig syniadau ynglŷn â sut i osod dealltwriaeth o gynulleidfa, a rhyngweithio ac ymgysylltu â nhw, wrth galon diwylliant ffilm sy’n ddeinamig, amrywiol a chynaliadwy.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd19eg Ebrill 2013

Page 3: Cyswllt Cynulleidfa

Ymunwch â’r drafodaeth #CyswlltCynulleidfa

Page 4: Cyswllt Cynulleidfa

09:00

09:45

10:00

11:30

14:00

11:00

12:50

12:30

RhaglenCoffi a rhwydweithio

Amcanion y Dydd

Noddir gan Skillset CreadigolSut gallwn greu diwylliant ffilm amrywiol sydd â chysylltiadau dwfn, a rhwymau cryf rhwng y gwneuthurwyr ffilm a’r gynulleidfa? Bydd y cyflwyniad cynhwysfawr yn ystyried sut y gellir datblygu a meithrin cynulleidfaoedd drwy addysg a’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn ystyried y cyfleoedd i ddatblygu diwydiant ffilm i’r dyfodol sydd ynghlwm wrth bethau ac yn ddeallus.

Noddir gan Skillset Creadigol CymruDeall a chyrraedd eich cynulleidfa. Bydd y sesiwn hon yn ystyried y potensial creadigol a busnes a ddaw yn sgil deall patrymau newidiol y galw gan ddefnyddwyr a chreu cysylltiadau newydd â chynulleidfaoedd. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd i bob ffurf ar y cyfryngau a dosbarthu ac arddangos ffilmiau.

Sut i wneud ffilmiau a chynnwys trawsgyfrwng â chynulleidfaoedd yn hytrach nag ar eu cyfer. Bydd y sesiwn yn ystyried ffyrdd y gall cynulleidfaoedd gydweithio a dod yn bartneriaid yn y gwaith o ddatblygu cynnwys. Bydd Weiler yn dadlau bod y potensial masnachol a diwylliannol sydd i dirwedd newidiol y cyfryngau yn cychwyn nid â thechnoleg ond â safbwynt gwahanol ar y berthynas rhwng y cyfryngau a’r defnyddiwr.

Cofrestru

Cyflwyniad

Siaradwr gwadd a chyfweliad: yr Arlgwydd Puttnam

Y Galw a’r Diwydiant Ffilm

Siaradwr gwadd: Lance Weiler

Egwyl

Cinio

Adborth a Chanfyddiadau Allweddol

Page 5: Cyswllt Cynulleidfa

16:35

15:25

16:50

18:30

20:30

Jon Kingsbury, Cyfarwyddwr Rhaglen Economi Creadigol yn asiantaeth arloesi NESTA, a fydd yn crynhoi’r prif themâu sy’n codi yn ystod y dydd ac yn ystyried yr heriau a ddaw i’r amlwg mewn marchnad sy’n newid.

Diodydd a bwffe

Cyflwynir gan Ganolfan Gelfyddydau ChapterDangosir ymdriniaeth fawreddog a gweledol drawiadol F. W. Murnau o’r hanes gothig hwn, i gyfeiliant trac sain byw a gaiff ei greu a’i berfformio gan Steepways Sound Collective gan ddefnyddio offeryniaeth acwstig a sain wedi’i phrosesu.

Noddir gan MEDIAMae’r sesiwn hon yn ystyried sut gall y newid yn y galw a gwybodaeth y gynulleidfa ddylanwadu ar y ffilmiau a wnawn. Bydd yn ystyried pwysigrwydd gwybodaeth y gynulleidfa a’r modd y mae’n rhyngweithio â datblygu a chynhyrchu cynnwys a thalent, a sut mae dull sy’n canolbwyntio mwy ar y gynulleidfa yn newid y modelau busnes.

Crynodeb

Derbyniad

Dangosiad: Faust gyda chyfeiliant byw

Deall a chyrraedd eich cynulleidfa

DiodyddPrif noddwr:

a nawdd ychwanegol gan

ar y cyd â

Page 6: Cyswllt Cynulleidfa

Ymunwch â’r drafodaeth#CyswlltCynulleidfa

Angus FinneyMae Angus Finney yn arbenigwr blaenllaw yn y diwydiant ffilm, ac ef sy’n rhedeg Film London Production Finance Market, sef marchnad cyllid ffilmiau flynyddol yn Llundain. Mae’n addysgu ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn Ysgol Fusnes Cass ym Mhrifysgol Dinas Llundain; mae’n darlithio ac yn hyfforddi gwneuthurwyr a chyllidwyr ffilmiau rhyngwladol yn Ne Affrica, Sgandinafia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.

Michael GubbinsCadeirydd, Asiantaeth Ffilm CymruMae Michael Gubbins yn sylwebydd a newyddiadurwr diwydiant y cyfryngau a ffilm ac yn sylfaenydd SampoMedia, partneriaeth sy’n helpu busnesau’r cyfryngau creadigol i gysylltu â chynulleidfaoedd. Mae’n gweithio gydag asiantaethau ledled Ewrop ar newid digidol ac mae’n awdur adroddiadau dylanwadol, gan gynnwys cyfres CineRegio Digital Revolution. Mae’n gyn-olygydd ar Screen International a Music Week.

Yr Arglwydd David PuttnamDavid Puttnam yw cadeirydd Atticus Education, cwmni addysg ar-lein yn seiliedig yn Iwerddon. Drwy drefniant unigryw â BT Ireland, mae Atticus yn cyflwyno seminarau rhyngweithiol ym maes ffilmiau ac amryw feysydd eraill i sefydliadau addysgol ledled y byd.

www.davidputtnam.com

Prif Siaradwyr

Page 7: Cyswllt Cynulleidfa

Lance WeilerAdroddwr Straeon / Arweinydd Adroddwr straeon, entrepreneur ac arweinydd syniadau yw Lance Weiler. Mae’n gynfyfyriwr y Sundance Screenwriters Lab ac yn arloesi wrth gyfuno crefft adrodd stori a thechnoleg. Disgrifiwyd ef gan Businessweek fel un o’r 18 o bobl a newidiodd Hollywood.

Jon KingsburyCyfarwyddwr Rhaglen Economi Creadigol, NESTAMae Jon Kingsbury yn arwain tîm rhyngddisgyblaethol sy’n dylunio, comisiynu a chyflenwi rhaglenni arloesi gwerth miliynau o bunnoedd sy’n helpu’r sector creadigol a digidol. Yn flaenorol, bu’n gweithio fel Pennaeth Cyflenwi Allanol BBC Ar-lein.

Page 8: Cyswllt Cynulleidfa

Ymunwch â’r drafodaeth#CyswlltCynulleidfa

SiaradwyrAnna GodasPrif Swyddog Gweithredol, DogwoofFe’i ganed yn Barcelona, a bu’n byw yn yr Unol Daleithiau ac yn Ffrainc. Anna sy’n sicrhau bod Dogwoof yn tyfu fel busnes. Mae ganddi radd Meistr mewn sgriptio a chynhyrchu ac MBA Gweithredol o Ysgol Fusnes Cass – Prifysgol Dinas Llundain. Mae’n un o gydsylfaenwyr Dogwoof.

Alex StolzDosbarthu ac Arddangos y Loteri, y BFIAc yntau’n eiriolwr brwd dros sut gall technoleg newydd gael effaith gadarnhaol ar ddefnyddwyr ffilmiau, bu Alex yn gweithio’n flaenorol yng Nghyngor Ffilmiau’r DU, ble y bu’n helpu i weithredu prosiect arloesol Rhwydwaith Sgrin Digidol yn ogystal â’r Gronfa Arloesi Digidol.

Mark CosgrovePennaeth Rhaglen, WatershedMae Mark Cosgrove yn Bennaeth Rhaglen yn lleoliad trawsgelfyddydol Watershed, Bryste, ac yn gynhyrchydd creadigol sy’n rhannu, datblygu ac arddangos syniadau a thalentau diwylliannol enghreifftiol ym meysydd ffilm, cerddoriaeth, celf weledol ac yn y sector creadigol a thechnoleg.

Peter BuckinghamSampo MediaY mae’n feddyliwr, strategydd a sylwebydd ac yn peri i bethau ddigwydd ym maes ffilm a’r cyfryngau, gan ganolbwyntio’n benodol ar gysylltu cynulleidfaoedd â gwaith creadigol. Mae gan Peter brofiad o bob agwedd ar gynhyrchu, dosbarthu ac arddangos, gan gynnwys prosiectau amlwg fel creu Rhwydwaith Sgrin Digidol (DSN) cyntaf y byd yn y DU ac arloesi gwefan Find Any Film.

Page 9: Cyswllt Cynulleidfa

Catryn RamasutCynyrchiadau ie ie Sefydlodd ‘ie ie productions’, cwmni cynhyrchu sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, gyda’i phartner Gruff Rhys yn 2006. Cyn hynny, bu’n gweithio mewn amryw swyddi ym myd radio, teledu, print a hysbysebu i BBC Radio 1, Marmalade Magazine ac M&C Saatchi.

Damiano Vukotic RSADamiano Vukotic yw pennaeth gwerthu a phrif asiant RSA Films, Llundain. Mae’n hyrwyddo 100 o gyfarwyddwyr y cwmni cynhyrchu i asiantaethau a brandiau hysbysebu traddodiadol, digidol a’r cyfryngau yn y DU ac ledled y byd.

Peter de MaegdPotemkinoCynhyrchydd ffilm annibynnol yw Peter De Maegd, ac mae’n canolbwyntio ar gyfleoedd newydd y cyfryngau cydgyfeiriol. Dros y degawd diwethaf, bu Peter yn gweithio ar gynhyrchu a marchnata mwy na dwsin o ffilmiau hir.

Ben RobertsCyfarwyddwr y Gronfa Ffilm, y BFIBen Roberts sy’n gyfrifol am oruchwylio buddsoddiadau Loteri y BFI ym maes datblygu, cynhyrchu a dosbarthu ffilmiau, ac ef sy’n arwain gweithgarwch rhyngwladol y BFI. Mae ganddo 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffilm, a hynny ym meysydd gwerthiant rhyngwladol, caffael stiwdios, dosbarthu yn y DU a chyllid ffilmiau.

Page 10: Cyswllt Cynulleidfa

Join the discussion#AudienceConnect

Diwylliant Dwfn o Adrodd Stori

Dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r BFI, mae Asiantaeth Ffilm Cymru yn ymrwymedig i hybu twf cynaliadwy yn y sector ffilm yng Nghymru a gwella pa mor hygyrch yw byd y ffilm a’i fanteision i bobl Cymru.

Rydym yn gweithio ym mhob rhan o gadwn gyflenwi’r sector, gan gefnogi datblygu ffilmiau, cynhyrchu, sinemâu, gwyliau ffilm ac addysg ffilm a’r cyfryngau. Rydym yn cynnig cyngor, cyllid, cyfleoedd i wella sgiliau ac eiriolaeth.

Mae cyllid datblygu a chynhyrchu ar gael i ffilmiau hir cymwys Prydeinig sydd o fudd i Gymru, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddatblygu’r seilwaith o dalent yng Nghymru, yn arbennig cynhyrchwyr, awduron a chyfarwyddwyr. Yn gynyddol, rydym yn hybu ethos busnes ehangach y cwmnïau, gan gynnig rhaglenni mentora at y diben fel Film Junction a thrwy annog a chydariannu’r gwaith o gynhyrchu eiddo deallusol ategol fel cyhoeddi llyfrau, traciau sain ac addasiadau ar gyfer y teledu a’r llwyfan.

Mae byd y ffilm annibynnol bellach yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd ledled Cymru yn sgil y sinemâu a’r gwyliau ffilm a gynorthwyir gan Asiantaeth Ffilm Cymru, a thrwy’r cyfleoedd niferus ym maes addysg ffilm a’r cyfryngau, o fentrau sy’n seiliedig mewn ysgolion fel y Clwb Ffilm a’r prosiect cymunedol dan nawdd y Gronfa Loteri Fawr – Ffilm yn Afan.

www filmagencywales.com

@FilmAgencyWales

/FilmAgencyWales

Page 11: Cyswllt Cynulleidfa
Page 12: Cyswllt Cynulleidfa

Yn 2010, lluniwyd rhaglen Film Junction gan Asiantaeth Ffilm Cymru ac Arweinydd y Rhaglen, Angus Finney, fel cynllun hyfforddiant yn arbennig i Gynhyrchwyr Ffilmiau Hir.

Gan ganolbwyntio ar Reoli Creadigol, Cynllunio Busnes a Chyrraedd y Defnyddiwr, cefnogwyd yr hyfforddiant gan y mentoriaid Ed Guiney ac Andew Lowe (Element Pictures), Paul Trijbits (Ruby Films), Andrea Calderwood (Slate Films), Robin Gutch (Warp), Laurence Bowen (Feelgood Fiction) a Julie Baines (Dan Films).

Market Mentors

Yn 2012-13, yn sgil ail gyfnod rhaglen Film Junction, cafodd cwmnïau a ganolbwyntiai ar ffilmiau hir y cyfle unigryw i gael eu mentora gan weithredwyr dosbarthu profiadol.

Fel rhan o raglen Film Junction - Market Mentors, cafodd cynhyrchwyr ffilmiau hir addawol, a oedd wedi gwneud o leiaf un ffilm neu gynnwys creadigol cyfwerth, eu partneru â dosbarthwyr profiadol a weithredai fel mentoriaid personol drwy gydol y rhaglen. Gallai’r cyfranogwyr ystyried datblygiad eu prosiectau gan fanteisio ar wybodaeth uniongyrchol o’r farchnad ar gam cynnar, ynghyd ag ystyried eu cwmni a chynllunio busnes. Rhoddwyd ystyriaeth i arferion cyfredol y farchnad a byd busnes, gan gynnwys y berthynas rhwng y cynhyrchydd a’r dosbarthwr a thelerau’r fargen, ynghyd â chyflwyno cyfleoedd i rwydweithio a rhannu gwybodaeth.

Roedd y rhaglen hon yn adeiladu ar y cynllun mentora cynhyrchwyr blaenorol, Film Junction, ac yn eu hategu, ond roedd hefyd yn sefyll ar ei thraed ei hun fel rhaglen i ymgeiswyr newydd o bob rhan o’r DU.

Roedd pob cynhyrchydd yn nodi casgliad o brosiectau ar gyfer eu cais. Cyn y sesiwn gyntaf, parwyd y cynhyrchwyr a’r dosbarthwyr, a chawsant gyfle i drafod y casgliad gyda’r mentor gan gytuno ar ba brosiect y dylid canolbwyntio arno yn ystod y rhaglen. Cawsant gyfarfod dair gwaith wedi hynny wrth i becyn y prosiect gael ei ddatblygu ar gyfer y farchnad.

Ariannwyd y cynllun hwn gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset Creadigol fel rhan o ‘A Bigger Future 2’, strategaeth sgiliau ffilm y DU. Caiff Cronfa Sgiliau Ffilm Skillset Creadigol ei chynorthwyo gan y Loteri Genedlaethol drwy’r BFI a’r diwydiant ffilm drwy Gronfa Buddsoddi Mewn Sgiliau.

@FilmJunction

film-junction.co.ukW

Page 13: Cyswllt Cynulleidfa
Page 14: Cyswllt Cynulleidfa

Ffilm afanyn

Delweddau ar y daith

www.filminafan.com

DILYNWCH NI AR FACEBOOK

/FilminAfan

DILYNWCH NI AR TWITTER

@FilminAfanP’UN A YDYCH EISIAU RHOI CYNNIG AR Y SINEMA NEU DDYSGU SUT I WNEUD EICH FFILMIAU EICH HUN, MAE’R CYFAN YN BOSIB! TA BETH YW EICH OED, BYDD GWNEUTHURWYR FFILMIAU AC ARBENIGWYR Y DIWYDIANT WRTH LAW I’CH ADDYSGU AM FYD Y FFILM, O ANIMEIDDIO I FFILMIAU DOGFEN, NEU DDYSGU SUT I ADDYSGU ERAILL DRWY FFILM HYD YN OED.

YN DDWFN YNG NGHWM AFAN, MAE FAN FFILM YN AFAN AR DAITH DRWY BARC Y GOEDWIG. MAE’R TANC YN LLAWN A’R TAFLUNYDD YN EI LE, FELLY CEWCH EISTEDD YN ÔL A MWYNHAU’R SIOE! BYDD Y PICTIWRS TEITHIOL YN TEITHIO I YSGOL Y CYMER, PEN AFAN A GLYNCORRWG BOB MIS. AC NID DYNA’R CYFAN – PAN FYDD Y FAN WEDI PARCIO, CEWCH FANTEISIO AR YR HOLL GYFLEOEDD YCHWANEGOL SYDD I’W CAEL YN Y CANOLFANNAU CYMUNEDOL LLEOL..

CROESO I FFILM YN AFAN

LLE MAE’R PICTIWRS AR DAITH!

Page 15: Cyswllt Cynulleidfa
Page 16: Cyswllt Cynulleidfa

Ar DVD

Submarine

Mae’r holl deitlau hyn ar werth ar stondin Asiantaeth Ffilm Cymru yn y cyntedd.

The Gospel of Us

Mugabe and the White African

A Boy Called Dad Third Star

Separado!

INDEPENDENT DISTRIBUTION PRESENTS A WESTERN EDGE PICTURES PRODUCTION IN ASSOCIATION WITH MEMORY BOX FILMS WITH THE FILM AGENCY FOR WALES & MATADOR PICTURES IN ASSOCIATION WITH CINEMA ONE REGENT CAPITAL & BBC CYMRU WALES STARRING TOM BURKE BENEDICT CUMBERBATCH JJ FEILD ADAM ROBERTSON “THIRD STAR” CASTING DIRECTION CELESTIA FOX CATHERINE WILLIS MAKE-UP & HAIR JO EVANS COSTUME DESIGN MARIANNE AGERTOFT PRODUCTION DESIGN RICHARD CAMPLING ORIGINAL MUSIC BY STEPHEN HILTON EDITED BY PETER CHRISTELIaS DIRECTOR OF PHOTOGRAPHY CARLOS CATALAN ASSOCIATE PRODUCER ADAM ROBERTSON EXECUTIVE PRODUCERS KATE CROWTHER CHARLOTTE WALLS PAUL HIGGINS EXECUTIVE PRODUCERS MARGARET MATHESON NIGEL THOMAS PAULINE BURT PRODUCED BY KELLY BROAD & VAUGHAN SIVELL WRITTEN BY VAUGHAN SIVELL DIRECTED BY HATTIE DALTON

T O M B U R K E B E N E D I C T C U M B E R B A T C H J J F E I L D A D A M R O B E R T S O N

“A HUGE, SWEEPING FILM WITH A KNOCKOUT CENTRAL P E R F O R M A N C E B Y B E N E D I C T C U M B E R BAT C H ” HHHH

KATE MUIR, THE TIMES

I N C I N E M A S N AT I O N W I D E M AY 2 0

www.thirdstarfilm.com

©Cinema One SPV4 Ltd 2010 All Rights Reserved

Page 17: Cyswllt Cynulleidfa

���� ���

���������

���

���

���

������� ������

����

����

�����

������

������

����

�����������

���������

�������

������

���������

������

����

����

����

����

���

���

���

���

����

����

�����

�����

��

���

���

���

�����

�������

�������������

����������

���

�������

������

����������������

����

����

������

��

������ ����

���

����

�����

����

�����

����

�� �����

�����

���������

�����

�������

 ��­������

��������������

����������������

���������

�����

����

������ ��

�����

����

�������������

���­

���

����

������

�������

������������������

����������

����

��

���������������

����������

���­���

����­

����

�������

������

 ��

�����

�� �������

����

���

����

���

��

����

���

� ������ ���� ����

��

����

���

�����

��

����

���

����

����

������

��

����

����

���

�����

��

�������

�������

��

�������

��

���������

������� �

��� �� ������

����

���

��������

���

������ �� ��

�����������

�����

������

��������� ����

�����

����

����

��������

���

��� ����

�������

 ��­���������

���������������������������������������������������� ���������������������������������������������������������������������������������������� ���­��������������������������������������������������������������������������������������

���������������� ������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������

������� ��������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������

��� ������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������

��������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������������

����

�����

����

�����

�����

�����

����

�����

����

�����

�����

� ��������

��� ���

����

����

����

����

����

�����������������

������������

����

����

��� �����

�������

�������������������

����

����

��� �����

���

�����

��

�����

­����

��

���

������

�������

��

�����

��

����

�����������

����

������

���

� �������

�������

����

����

�������������������������

�����

��� �����

��������������������������������������������������������������������������������������� �­� ����������

����

�������

���

�����������

��������������������

����������­�

Page 18: Cyswllt Cynulleidfa

[email protected] www.mediadeskuk.eu

MEDIA Antenna Wales is pleased to support the Audience Connect Film Summit.

Supporting Europe’s Film, Television & Interactive Industries

WG18066 Media Antenna Ad.indd 1 07/03/2013 16:08

The Printmakersfeaturing Norma WinstoneKit Downes QuintetJames Taylor QuartetNeon QuartetNeil Yates Five Countries TrioMark Lockheart’sEllington in Anticipation

Plus a rolling programme of free performances by the next generation of jazz musicians at The Royal Welsh College of Music & Drama

Supported by the Arts Council of Wales and the Colwinston Charitable Trust

Tickets | Tocynnau 029 2039 1391www.rwcmd.ac.uk/jazzfestival

GŵYL AMsEr JAzz TiME FEsTivAL10–12 MAY | MAi2013

Page 19: Cyswllt Cynulleidfa

OES GENNYT TI SYNIAD AM DDATBLYGU PROSIECT DIGIDOL? Mae gan S4C Gronfa Ddigidol i ariannu prosiectau digidol newydd sydd â photensial masnachol i gyd-fynd â gweithgareddau S4C. Os oes gennyt ti ddiddordeb, neu am ragor o wybodaeth, sgania’r côd yma:

HAVE YOU GOT ANIDEA FOR DEVELOPING A DIGITAL PROJECT? S4C has a Digital Fund to finance new digital projects with commercial potential that tie in with S4C’s activities. If you’re interested, or for more information, scan the following code:

s4c.co.uk/digidol

210 x 148_Landscape Ad_Digital_Final.indd 1 12/03/2013 10:40

SKILLS DIGITAL FORTHE

ECONOMY PROGRAMMEWEST WALES/THE VALLEYS/NORTH WEST WALES

ECONOMI DDIGIDOLGORLLEWIN CYMRU/Y CYMOEDD/GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU

ARGYFER YR

RHAGLEN SGILIAU

Creative Industries Investing in skills and talent in the

Diwydiannau CreadigolBuddsoddi mewn sgiliau a thalent yn y

www.creativeskillset.org/sfde

Professional courses in the creative media industries.Cyrsiau proffesiynol yn y diwydiannau cyfryngau creadigol.

Page 20: Cyswllt Cynulleidfa

www filmagencywales.com

@FilmAgencyWales

/FilmAgencyWales