d5, d6, d7, r4 llythrennedd 50 munud - e-bugwal)/wal junior pack... · c. pwy wnaeth ddarganfod...
TRANSCRIPT
-
Mae Adran 3.2, Brechiadau, yn trafod pwy a sut y cafodd brechlynnau eu darganfod. Mae hyn yn cynnwys gweithgaredd darllen a deall i’r disgyblion. Maen nhw’n cael stori am Edward Jenner yn darganfod brechlynnau. Gellir cyflwyno’r stori mewn taflenni unigol i’r disgyblion neu gall yr athro ei darllen i’r dosbarth. Mae gweithgareddau ‘llenwi’r bylchau’ ac ‘ateb cwestiynau’ yn helpu i gadarnhau prif bwyntiau’r stori. Mae’r gweithgaredd estyn yn annog y disgyblion i ailgreu stori Edward Jenner yn darganfod brechlyn drwy chwarae rôl hwyliog.
D5, D6, D7, R4
ABCh, Datblygu meddwl
ABCh, Iechyd a lles emosiynol:
(1a), (1e).
Llythrennedd
Amcan o Amser Addysgu 50 munud
Deilliannau Dysgu
Bydd pob disgybl yn dysgu bod:
Brechlynnau yn helpu i atal heintiau amrywiol, yn cynnwys y ffliw Bydd disgyblion mwy galluog yn deall:
Nad oes brechlyn i’w gael ar gyfer pob haint
-
3.2 Atal Haint
Brechiadau
1. Copïo TD 1 a GD 1 ar gyfer pob disgybl.
Geiriau Allweddol Gwrthgorff Antigen Bacteria Clefyd System imiwnedd Imiwneiddio
Brechiad
Brechlyn
Firws
Cell waed wen (WBC)
Deunyddiau Angenrheidiol I bob disgybl Copi o GD 1 Copi o TD 1 Bwrdd gwyn (ddim yn
angenrheidiol)
Fel arfer, mae’n system imiwnedd yn ymladd yn erbyn unrhyw ficrobau niweidiol yn ein cyrff. Mae gorffwys digon, bwyta’r bwydydd cywir a chysgu llawer yn helpu’n system imiwnedd i weithio’n iawn ac atal haint.
Ond gall brechiadau hefyd gynorthwyo’n system imiwnedd. Defnyddir brechlynnau i atal NID trin haint. Fel arfer, bydd brechlyn wedi’i wneud o fersiynau gwan neu anweithredol o’r un microbau â’r rhai sy’n ein gwneud yn sâl. Mewn ambell i achos, mae’r brechlynnau wedi’u gwneud o organebau sy’n debyg , ond ddim yn union yr un fath â’r microbau sy’n ein gwneud yn sâl.
Wrth chwistrellu’r brechlyn i’r corff, mae’r system imiwnedd yn ymosod arno fel pe bai microbau niweidiol yn ymosod ar y corff. Mae celloedd gwyn y gwaed yn creu llawer o wrthgyrff i gydio wrth y marcwyr penodol, sef antigenau, ar arwyneb organebau’r brechlyn. Gan fod y brechlyn yn fersiwn wannach o lawer o’r microb, mae celloedd gwyn y gwaed yn dileu’r holl gelloedd hyn yn llwyddiannus ac ni fydd yn eich gwneud yn sâl. Y tro nesaf y bydd microbau sy’n cario’r un marcwyr/antigenau yn dod i’r corff, mae’r system imiwnedd yn barod i’w hymladd cyn iddynt gael cyfle i’ch gwneud yn sâl.
Mewn ambell i achos, mae angen atgoffa’r system imiwnedd a dyma pam mae angen pigiad atgyfnerthol ar rai brechiadau.
Mae rhai microbau, fel y ffliw, yn dipyn o her. Maen nhw’n esblygu mor gyflym, gan newid eu marcwyr/antigenau. Mae hyn yn golygu nad yw’r system imiwnedd yn gallu cofio sut i’w hymladd. Dyna pam ein bod yn cael brechiadau ffliw blynyddol.
Gwybodaeth Gefndir
Paratoi Ymlaen Llaw
Adnoddau sydd ar gael ar y we Arddangosiad o’r
gweithgaredd
FFAITH RYFEDDOL Mae’r gair Saesneg am frechlyn yn deillio o’r gair Lladin vacca sy’n golygu buwch, oherwydd bod y brechlyn cyntaf wedi’i wneud o’r clefyd llai difrifol – clefyd y fuwch.
-
1. Dechreuwch y wers drwy egluro i’r dosbarth bod llawer o ficrobau niweidiol yn gallu ein gwneud yn sâl, ond ein bod yn gallu gwneud pethau i atal hyn rhag digwydd mewn ambell i achos.
2. Eglurwch i’r dosbarth mai dogn bach diniwed yw brechiadau o farciau/haen allanol microb/clefyd sy’n dysgu ein corff sut i ymladd y microb drwg hwn pan neu os yw’r clefyd yn ymosod arnom ni. Trafodwch brofiadau’r dosbarth o gael brechiadau, pa rai maen nhw’n cofio eu cael a phryd.
3. Dangoswch luniau i’r dosbarth o’r clefyd a’r bacteria/firws y maen nhw wedi’u himiwneiddio rhagddo. (Ar gael yn www.e-bug.eu) Pwysleisiwch i’r dosbarth bod y clefydau hyn yn gyffredin iawn yn yr 1700au.
4. Pwysleisiwch i’r dosbarth na fyddai llawer o’r dosbarth wedi cyrraedd 5 oed heb y brechiadau. Eglurwch fod pethau fel y pâs, polio a TB yn anghyffredin iawn bellach oherwydd brechiadau.
5. Atgoffwch y disgyblion fod rhai microbau’n newid eu haenau allanol fel rydym ni’n newid ein dillad. Mae rhai microbau’n newid eu marciau/haenau mor gyflym fel nad yw gwyddonwyr yn gallu creu brechlynnau ar gyfer llawer o heintiau neu mae’n rhaid iddyn nhw wneud brechlyn newydd bob blwyddyn, fel y brechlyn ffliw.
Cyflwyniad
3.2 Atal Haint Brechiadau
Ar ôl darllen stori Edward Jenner, dylai disgyblion ailgreu’r stori mewn drama i’w chyflwyno i’r dosbarth. Mae sgript enghreifftiol ar gael yn TD 2 a gafodd ei hysgrifennu a’i pherfformio gan ddosbarth 12 yn Ysgol Gynradd Elmbridge. Gallwch wylio’r ddrama hon yn www.e-bug.eu.
Gweithgaredd Estyn
1. Gwiriwch fod y disgyblion yn deall drwy ofyn
a. Beth yw brechlynnau? Mae brechlynnau’n amddiffyn person rhag clefyd penodol. Maen nhw’n fersiynau marw neu wan iawn o’r microb.
b. Pryd ddylid defnyddio brechlynnau? Dylid rhoi brechlynnau cyn i salwch ddigwydd, mae brechlynnau yn fesur ataliol.
c. Pwy wnaeth ddarganfod brechlynnau? Edward Jenner wnaeth ddarganfod brechlynnau ym 1796.
Sesiwn Lawn
1. Rhowch gopi o GD 1 i bob disgybl.
2. Darllenwch stori Edward Jenner (TD 1) i’r dosbarth, dangoswch y stori i’r dosbarth ar y bwrdd gwyn neu rhowch gopi o TD 1 i bob disgybl. Yna, gall y dosbarth ddarlen y stori gyda chi.
3. Ar ôl darllen y stori, gofynnwch i’r dosbarth lenwi’r bylchau ar eu taflenni gwaith.
4. Dylai disgyblion ateb y cwestiynau ar waelod y daflen waith hefyd.
Prif Weithgaredd
http://www.e-bug.eu/
-
Cafodd Edward Jenner ei eni ym 1749. Pan oedd yn fachgen ifanc, roedd yn mwynhau gwyddoniaeth a natur ac yn treulio
oriau ar lannau’r Afon Hafren yn chwilio am ffosiliau. Ym 1770, pan oedd yn 21 oed, dechreuodd hyfforddi fel meddyg yn
Llundain. Ddwy flynedd wedyn, dechreuodd weithio fel meddyg yn ei dref enedigol – Berkeley, Swydd Gaerloyw.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd pobl yn bryderus iawn am afiechyd erchyll o’r enw’r frech
wen. Roedd pobl a fyddai’n dal yr afiechyd hwn yn cael creithiau difrifol, a hyd yn oed
yn marw weithiau! Fel meddyg, roedd Edward Jenner yn gwrando ar yr hyn yr oedd gan
bobl y wlad i’w ddweud am y frech wen. Roedden nhw’n credu na fyddai rhywun a
fyddai’n dal haint llai difrifol gwahanol, sef brech y fuwch, gan eu gwartheg yn dal y
frech wen, a oedd yn afiechyd llawer mwy difrifol.
Penderfynodd Jenner gynnal arbrawf i weld a oedd y bobl yn iawn. Ym 1796, daeth morwyn laeth o’r enw Sarah Nelmes
at Jenner gyda brech y fuwch ar ei llaw. Cymerodd Jenner rywfaint o’r crawn o’r frech ar law Sarah a chrafodd ychydig
ohono ar law bachgen bach 8 oed, sef James Phipps, mab ei arddwr. Cafodd James ei daro’n wael â brech y fuwch, ond
gwellhaodd yn gyflym.
Yna, cymerodd Jenner rywfaint o grawn gan rywun oedd yn dioddef o’r afiechyd peryglus, y
frech wen, a’i grafu i fraich James. Datblygodd crachen ar fraich James, ond ni chafodd y frech
wen – roedd Jenner wedi dyfalu’n gywir. Yn Saesneg, galwyd darganfyddiad Jenner yn
‘vaccination’, o’r gair Lladin am fuwch: vacca. Aeth Jenner ymlaen i frechu’r holl blant lleol gyda
brech y fuwch i’w hatal rhag dal y clefyd mwy difrifol – y frech wen.
-
Storïwr
Cafodd Edward Jenner ei eni ym 1749. Pan oedd yn fachgen ifanc roedd yn
mwynhau gwyddoniaeth a natur ac yn treulio oriau ar lannau’r afon Hafren yn
chwilio am ffosiliau.
Jenner Am ddiwrnod braf i chwilio am ffosiliau ar lan yr Hafren. Beth allai fod yn well!
Storïwr
Ym 1770, pan oedd yn 21 oed, dechreuodd hyfforddi fel meddyg yn Llundain.
Ddwy flynedd wedyn dechreuodd weithio fel meddyg yn ei dref enedigol –
Berkeley, Swydd Gaerloyw. Roedd y frech wen a brech y fuwch yn broblem
yn y cyfnod hwn!
Jenner O dewch i mewn, beth yw’r broblem Mr a Mrs Smith?
Mrs Smith Wel Dr Jenner, mae gan fy ngŵr i frech y fuwch. Beth ddylen ni ei wneud?
Mr Smith Hefyd, mi wnaeth ffrind i fi farw o’r frech wen y llynedd. Ond chafodd o ddim
brech y fuwch.
Jenner Ie, ewch ymlaen Mr Smith.
Mr Smith Wel, dwi’n nabod llawer o bobl eraill sydd wedi cael brech y fuwch ond erioed
wedi cael y frech wen. Ydy hyn yn golygu na fydda i’n ei gael o?
Jenner Nid chi ydi’r cyntaf i ddeud hynny wrtha i Mr Smith. Dwi’n amau eich bod chi’n
gywir. Mi wna i ymchwilio i’r mater.
Storïwr
A dyna’n union wnaeth y meddyg da. Pan ddaeth y forwyn laeth Sarah
Nelmes at Dr Jenner gyda brech y fuwch manteisiodd ar y cyfle i arbrofi gyda
chymorth bachgen 8 oed, James Phipps.
Sarah Doctor, mae gen i frech y fuwch ar fy llaw i.
Jenner Iawn Miss Nelmes, gadewch i mi gael golwg arno. Reit James, tyrd yma a dal
dy law allan.
Sarah Beth ydych chi’n ei wneud doctor?
Jenner Arbrawf Miss Nelmes. Mi gymera i rywfaint o’r crawn o’r frech a’i grafu ar law
James.
Storïwr
Cafodd James frech y fuwch ond mi wnaeth wella’n fuan. Roedd Dr Jenner
yn barod i wneud rhan 2 ei arbrawf. Crafodd rywfaint o’r crawn o unigolyn
oedd â’r frech wen ar fraich James.
Jenner James fy machgen i, os bydd popeth yn mynd fel y dylai mi fydd dy enw di yn
y llyfrau hanes meddygol!
James Ond be os na fydd pethau’n mynd yn iawn Dr Jenner?
Jenner Wna i ddim deud celwydd James, fe allet ti farw!
James (ebychu) Oh!
Storïwr
Ond wnaeth James ddim marw. Roedd Jenner wedi dyfalu’n gywir ac ymhen
amser galwyd ei ddargafnyddiad yn frechiad. Aeth ymlaen i frechu’r plant lleol
i gyd gyda brech y fuwch fel na fyddent yn dal y frech wen. Mae ei waith yn
cael ei gydnabod hyd heddiw ac mae uned yn Ysbyty Brenhinol Swydd
Gaerloyw wedi’i henwi ar ei ôl.
-
Arwr Hanesyddol Mae Dr Edward
Jenner yn un o’r
bobl bwysicaf yn
hanes
gwyddoniaeth.
Oni bai iddo
ddarganfod
brechiadau, ni
fyddai dim mwy
na hanner eich
dosbarth yma
heddiw!
Allwch chi lenwi’r bylchau yn y stori gyda’r geiriau yn y bocs isod?
Cafodd Edward Jenner ei eni yn ___________________, Pan oedd yn
fachgen ifanc, hoff bwnc Jenner oedd ___________ ac ar ôl tyfu i fyny,
daeth yn ___________. Ar y pryd, roedd pobl Lloegr yn bryderus iawn am
afiechyd sy’n lladd o’r enw ___________. Roedd symptomau’n cynnwys
_____________ difrifol a bu farw llawer o bobl. Sylwodd Jenner nad oedd
morwynion llaeth a oedd yn dal yr haint diniwed ____________, gan eu
gwartheg godro yn marw o’r frech wen. Cymerodd Jenner grawn o law
___________ a oedd wedi dal brech y fuwch a heintio bachgen o’r enw
__________. Heintiwyd y bachgen gyda brech y fuwch, ond gwellhaodd yn
fuan. Yna, penderfynodd Jenner __________ James gyda’r frech wen.
Datblygodd ______ ond ni ddatblygodd y bachgen y frech wen. Roedd
Jenner wrth ei fodd fod ei syniad yn gywir ac aeth ymlaen i __________ yr
holl blant yn ei dref gyda brech y fuwch i’w hatal rhag dal y frech wen
Atebwch y cwestiynau canlynol:
1. Beth oedd enw’r meddyg a wnaeth ddarganfod brechiadau?
_________________________________________________________
2. Beth oedd enw’r afiechyd oedd yn lladd ar y pryd?
_________________________________________________________
3. Beth oedd syniad Jenner i atal yr afiechyd oedd yn lladd?
_________________________________________________________
4. Beth ddigwyddodd i James ar ôl iddo gael ei heintio â brech y fuwch?
_________________________________________________________
5. Beth ddigwyddodd i James ar ôl iddo gael ei heintio â’r frech wen?
_________________________________________________________
6. Pam ei bod yn bwysig i Jenner i ddefnyddio James i arbrofi gyda’i syniad ar James cyn trin llawer o blant?
________________________________________________________
Ffaith Ryfeddol Mae’r gair Saesneg
‘Vaccination’ yn deillio o’r gair
Lladin am fuwch – vacca.
Brech y fuwch James Phipps Y frech wen Swydd Gaerloyw
Meddyg Morwyn laeth Gwyddoniaeth Creithio
Heintio Crachen Brechu
Wyddoch chi? Yn 9 oed, efallai
bod pob plentyn
wedi cael o leiaf 9
pigiad i atal 10
gwahanol haint
peryglus