digwyddiadau: amgueddfa llechi cymru

4
Digwyddiadau Sgyrsiau a theithiau Arddangosfeydd Digwyddiadau Medi 2014 – Mawrth 2015 Amgueddfa Lechi Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 M Y N E D I A D A M D D I M M Y N E D I A D A M D D I M

Upload: amgueddfa-cymru

Post on 03-Apr-2016

237 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

Digwyddiadau: Hydref 2014 - Mawrth 2015

TRANSCRIPT

Page 1: Digwyddiadau: Amgueddfa Llechi Cymru

1

DigwyddiadauSgyrsiau a theithiauArddangosfeyddDigwyddiadau

Medi 2014 – Mawrth 2015

Amgueddfa Lechi Cymru

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Page 2: Digwyddiadau: Amgueddfa Llechi Cymru

2 Amgueddfa Lechi Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Tan ddydd Llun 26 Mehefin 2015Cychwyn Cofio Sut ydyn ni’n cofio rhyfel, a sut y dylem ni ei goffáu? O weithredoedd personol megis gosod blodau wrth fedd neu lun ar y wal, i gofebion cyhoeddus megis cofgolofn pentref neu wasanaeth mewn Eglwys – mae’r weithred o gofio’n ein cyffwrdd ni oll. Wrth i ni baratoi ar gyfer arddangosfa fawr yn 2016 am gofeb unigryw i chwarelwyr o Ddyffryn Nantlle fu farw yn y Rhyfel Mawr, dyma’ch gwahodd i rannu’ch atgofion a’ch syniadau chi am sut, a pham, y dylem gofio a choffáu.

Llun 6 Hydref 2014 – Mawrth 6 Ionawr 2015Mel Tutton – Gaeaf yn y Chwarel Arddangosfa o ffotograffau Mel Tutton o rai o chwareli gogledd Cymru dros y gaeaf.

Llun 19 Ionawr 2015 – Iau 30 Ebrill 2015Delweddau Diwydiant Detholiad o ffotograffau o’n casgliadau diwydiannol sydd wedi cael eu digideiddio fel rhan o broject a noddir gan Sefydliad Esmée Fairbairn. Maent yn cynnwys lluniau o’r diwydiant llechi gan y diweddar E. Emrys Jones.

Arddangosfeydd Digwyddiadau rheolaiddHollti llechiDewch i fwynhau’r grefft drawiadol o hollti a naddu llechi wrth i un o’n crefftwyr profiadol hollti’r llechen o flaen eich llygaid. Ar gael bob dydd – gofynnwch wrth gyrraedd.

Y lôn goedDewch ar daith hanner awr gyda’n saer coed i weld y lôn goed a deall pa mor bwysig oedd pren i waith y chwarel.

Codi stêm Dewch i ddysgu mwy am UNA – ein hinjan Hunslet – wrth iddi godi stêm yn iard yr Amgueddfa!

Chwarel yn y Gaeaf © Mel Tutton

© Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Page 3: Digwyddiadau: Amgueddfa Llechi Cymru

3

Yr inclein Dewch i weld yr unig inclein lechi sydd ar waith yn y Deyrnas Unedig!

Camwch yn ôl mewn amser i ganfod cyfrinachau’r llechi a’r chwarelwyr a fu’n eu cloddio.

Oriau agor Y Pasg – Hydref 10am – 5pm bob dydd.

Tachwedd – y Pasg 10am – 4pm (ar gau bob dydd Sadwrn).

Oriau agor Nadolig a Chalan 2014/2015 Ar gau: 24, 25, 26, 27 Rhagfyr 2014 a 1 Ionawr 2015Ar agor: 28–31 Rhagfyr 2014, 2 a 3 Ionawr 2015

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Gwynedd LL55 4TY Ffôn: (029) 2057 3700 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol).

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

Amgueddfa Lechi Cymru

Dyl

un

io g

illad

vert

isin

g.c

om

Patrymau perffaith Gallai’r gwneuthurwyr patrymau gynhyrchu patrwm pren ar gyfer unrhyw wrthrych metel oedd ei angen ar y gweithdai neu’r chwarel – o olwynion wagenni i rannau injan stem! Dewch i ddarganfod y byd tuôl i’r llenni gyda’n Curadur a gweld sut rydyn ni’n gofalu am y casgliad gwych o filoedd o batrymau.

Digwyddiadau

Mawrth 28 – Gwener 31 Hydref 2014 Llwybr Calan Gaeaf

Ydych chi’n ddigon dewr i ddilyn llwybr Calan Gaeaf o amgylch yr Amgueddfa? Bydd gwobr i’r sawl sy’ncyrraedd y diwedd!

Mae dyddiadau’r digwyddiadau rheolaidd yn amrywio. Gofynnwch wrth gyrraedd neu cysylltwch â ni ymlaen llaw am fanylion.

Dydd Sul 30 Tachwedd Ffair Aeaf

Digwyddiad llawn hwyl yr wyl! Bydd llond sach o hwyl i’r teulu cyfan gan gynnwys sioe bypedau, adrodd straeon, crefftau a cherddoriaeth! Dewch i weld Santa’n cyrraedd ar drên ac ymweld ag ef yn ei ogof – a chofiwch bostio’ch llythyr ato yn ein blwch post arbennig, mae’n ateb pob un!

@AmgueddfaLechi amgueddfalechi

Teuluoedd Ymarferol Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Page 4: Digwyddiadau: Amgueddfa Llechi Cymru

4 Amgueddfa Lechi Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Arddangosfeydd Digwyddiadau a gweithgareddau

Teuluoedd Ymarferol Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol

Tan 26 Mehefin 2015 Drwy’r dydd Cychwyn Cofio

6 Hydref – 6 Ionawr Drwy’r dydd Mel Tutton – Gaeaf yn y Chwarel

19 Ionawr – 30 Ebrill Drwy’r dydd Delweddau Diwydiant

28–31 Hydref 10am–4pm Llwybr Calan Gaeaf

30 Tachwedd 11am–3pm Ffair Aeaf

30 Tachwedd – 22 Rhagfyr Drwy’r dydd Nadolig y Chwarelwyr

19–22 Chwefror 11am–3pm Sioe Trenau Bach

1 Mawrth 11am–3pm Dydd Gŵyl Dewi

1–6 Ebrill 10am–4pm Helfa’r Pasg

Sul 1 Mawrth 2015 Dydd Gŵyl Dewi

Dewch i ddathlu’r ‘mwyaf Cymreig o ddiwydiannau Cymru’ ar ddiwrnod ein nawddsant. Bydd teisen gri am ddim yng nghaffi’r Amgueddfa!

Merch 1 – Llun 6 Ebrill 2015Helfa’r Pasg

Dewch i roi tro ar y llwybr arbennig trwy weithdai’r Amgueddfa – bydd gwobr i’r sawl sy’n dod o hyd i’r holl wyau!

Iau 19 – Sul 22 Chwefror 2015Sioe Trenau Bach

Galwch draw ar gyfer ein sioe trenau bach blynyddol! Bydd llond trol o weithgareddau ar eich cyfer gan gynnwys reid am ddim i blant ar yr injans a threnau bach.

Bydd arddangosiadau a sgyrsiau bob dydd ac amrywiaeth o injans a threfniannau o bob lliw a llun, o led 00mm i 32mm. Cofiwch ddod â’ch trenau lled 00 eich hun i’w defnyddio ar y trac prawf i blant! Bydd yn ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan.