digwyddiadau: amgueddfa wlân cymru

4
Digwyddiadau Arddangosfeydd Gweithdai Hwyl i’r Teulu Sgyrsiau a Theithiau Hydref 2014 – Mawrth 2015 Amgueddfa Wlân Cymru M Y N E D I A D A M D D I M M Y N E D I A D A M D D I M www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Upload: amgueddfa-cymru

Post on 03-Apr-2016

234 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Digwyddiadau: Hydref 2014 - Mawrth 2015

TRANSCRIPT

Page 1: Digwyddiadau: Amgueddfa Wlân Cymru

1

DigwyddiadauArddangosfeyddGweithdaiHwyl i’r TeuluSgyrsiau a Theithiau

Hydref 2014 – Mawrth 2015

Amgueddfa Wlân CymruM

YNEDIAD AM DDI

MM

YNEDIAD AM DDIM

ww

w.am

gu

edd

facymru

.ac.uk 0300 111 2 333

Page 2: Digwyddiadau: Amgueddfa Wlân Cymru

2 Amgueddfa Wlân Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Grwpiau rheolaiddDydd Mawrth 1af a 3ydd bob mis, 2–4pm Y Clwb GwauYmunwch â’r grwp i wau, rhannu patrymau a syniadau. Croeso i bawb o bob gallu.

Bob ail ddydd Mercher y mis, 10.30am–3pmTroellwyr Sir Gaerfyrddin a Throellwyr, Gwehyddwyr a Lliwyddion CeredigionCroeso i bawb, dewch â’ch deunydd eich hun.

Bob yn ail ddydd Sadwrn, 2pmCyngor Cymuned Celfyddydol Teifi GanolDewch i weld y grwp yn arddangos eu sgiliau.

Mawrth 9 Rhagfyr –Sadwrn 31 IonawrArddangosfa’r Don Newydd o Ddylunwyr TecstilauArddangosfa o waith cystadleuaeth i fyfyrwyr celf, dylunio, crefft a phensaernïaeth yng Nghymru. Y thema oedd Rhoddion Serch, a ysbrydolwyd gan Amgueddfa Wlân Cymru a Cymru’n Cofio, y rhaglen i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Am ddim.

ArddangosfeyddMawrth 1 Gorffennaf – Sadwrn 29 Tachwedd Y Diwydiant Gwlân dan Gwmwl DuArddangosfa fydd yn taro golwg ar effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ddiwydiant gwlân Cymru. Am ddim.

Llwybr y PentrefTaith gerdded hunan dywys o amgylch Dre-fach Felindre sy’n cynnwys ffeithiau hanesyddol a diddorol am y diwydiant gwlân yn yr ardal.

Stori Wlanog Taith hwyliog ac addysgol i deuluoedd sy’n esbonio’r broses o gnu i garthen.

Llwybr yr Artist Dewch i weld gwaith yr artist o Sir Gaerfyrddin, Julia Griffiths Jones, o gwmpas yr Amgueddfa.

Sgyrsiau a theithiau bob dydd Teithiau TywysEwch gam ymhellach ar eich ymweliad ar daith dywys gyda’n crefftwyr profiadol. Cysylltwch â’r Amgueddfa am fanylion.

Page 3: Digwyddiadau: Amgueddfa Wlân Cymru

Sadwrn 1 Tachwedd 10am – 3pm Diwrnod Trenau BachLlond lle o drenau bach a modelau eraill. Mynediad am ddim.

Sadwrn 29 Tachwedd 10am – 3pm Ffair Grefftau Stondinau lu yn gwerthu nwyddau crefft, tecstilau, gwaith pren, sebonau ac anrhegion Nadoligaidd eraill – y cyfan wedi’u gwneud yn lleol. Mynediad a pharcio am ddim.

3

Gadewch i hanes gwlân – diwydiant pwysicaf Cymru ar un adeg – nyddu ei swyn yn yr amgueddfa unigryw hon sy’n dal i fod ar waith yn Nyffryn Teifi.

Ar agor Ebrill – Medi: 10am–5pm bob dydd.

Hydref – Mawrth: 10am–5pm, dydd Mawrth – dydd Sadwrn.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Wlân Cymru Dre-fach Felindre, Llandysul, Sir Gaerfyrddin SA44 5UP Ffôn: (029) 2057 3070 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)

Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Cysylltwch â ni cyn teithio’n unswydd.

Amgueddfa Wlân Cymru

Dyl

un

io g

illad

vert

isin

g.c

om

Iau 6 Rhagfyr, 7pm Sesiwn GoginioSyniadau a chyngor coginio ar gyfer y Nadolig gan Nerys Howells. £5 y pen.

Sadwrn 28 Chwefror 10am – 3pm Gŵyl HwylGweithgareddau crefft, adrodd straeon, cystadlaethau, peintio wynebau, gweithgareddau dan do ac awyr agored. Bydd yr amserlen lawn ar ein gwefan. Trefnir yr wyl ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr, Cered, TWF, Actif Sir Gâr a Teuluoedd yn Gyntaf.

@AmgueddfaWlan AmgueddfaWlan

DigwyddiadauSadwrn 28 Chwefror, Gŵyl Hwyl

MYNEDIAD AM D

DIM

MYN

EDIAD AM DDIM

Page 4: Digwyddiadau: Amgueddfa Wlân Cymru

4 Amgueddfa Wlân Cymru www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333

Sadyrnau: 11 Hydref, 8 Tachwedd, 13 Rhagfyr, 17 Ionawr, 14 Chwefror, 14 Mawrth

10am–12pm Dewch i Ganu Sesiynau canu i ddysgwyr a drefnir gan Brifysgol Abertawe. Ffoniwch 01792 295766 am fanylion.

Sadyrnau: 4, 18 Hydref, 1, 15 Tachwedd, 6, 20 Rhagfyr, 10, 24 Ionawr, 7, 21 Chwefror, 7, 21 Mawrth

10.30am–12.30pm

Gweithdy Crosio Gweithdai crosio, lefel ganolradd. £4.50 y pen. Rhaid archebu lle: 01239 842018.

Gwener 5 Rhagfyr, 6 Chwefror

10.30am– 4pm Dysgu mewn Diwrnod: Crosio £25 y sesiwn. Rhaid archebu lle: 01239 842018.

Sadyrnau: 25 Hydref, 8 Tachwedd, 13 Rhagfyr, 24 Ionawr, 14 Chwefror, 14 Mawrth

12.30pm– 5pm Gweithdy Rygiau Rhacs £25 y pen. Darperir pob deunydd a bydd offer ar werth. Ewch i’r wefan am fanylion y gweithdai unigol neu cysylltwch â Sue ar 01974 298100 neu [email protected].

Gwener 7, 14, 21 Tachwedd a 6, 13, 20 Mawrth

1pm–4pm Gweithdy Gweu Sanau Cyflwyniad i weu sanau dros dair sesiwn. £30 am y tair sesiwn. Am fwy o wybodaeth neu i archebu eich lle ffoniwch 01239 842018.

Sadwrn 8 Tachwedd 11am–3pm Gweithdy Gweu Pabi Rhan o raglen goffáu Cymru’n Cofio yn Amgueddfa Wlân Cymru. Galwch draw. Am ddim.

Mercher 19, 26 Tachwedd, 3 Rhagfyr

10am–3.30pm Ailgylchu ar Amrant! Sesiwn 1: Troi siwmper yn gardigan.Sesiwn 2: Creu ‘gwast-god’ o hen siwmper neu siaced.Sesiwn 3: Ailwampio sgert neu drowsus.Darperir peiriannau gwnïo, siswrn, edafedd ac ati, ond mae croeso i chi ddod â’ch rhai eich hun.1 sesiwn: £30/£25 â gostyngiad3 sesiwn: £75/£65 â gostyngiadRhaid archebu lle: [email protected] 07966 776906.

Sadwrn 17 Ionawr 1pm–4pm Gweithdy Rhosod Papur Sut i greu rhosyn papur. Darperir pob deunydd. £13 y pen. Rhaid archebu lle: 01239 842018.

Gwener 27 Mawrth 1pm–3.30pm Gweithdy Jar Macramé Dewch i ddysgu am facramé. Peidiwch ag ofni’r enw – dim ond creu cylymau yw e! £10 y pen. Rhaid archebu lle: 01239 842018.

Gweithdai