disgrifiad o gynnig y cynllun · clarence place, hamadryad road, harrowby lane, harrowby place,...

10
Parth Diogelwch Ysgol a Gwella Mynediad i Ysgol Hamadryad Disgrifiad o Gynnig y Cynllun Daeth arian ar gael o gytundeb cynllunio o ganlyniad i ddatblygu ysgol Gymraeg newydd ar Hamadryad Road. Mae rhan o’r arian er mwyn creu Parth Diogelwch Ysgol ger yr ysgol newydd a chyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20 mya yn y ffyrdd o amgylch yr ysgol. Mae’r arian hefyd ar gyfer gwneud gwelliannau i Pomeroy Street trwy dynnu’r ardaloedd datblygu i wella’r mynediad. Mae’r cynllun yn cynnwys: Gosod cyfleuster Croesfan Sebra Ddyrchafedig ar Hamadryad Road ger yr ysgol a throedffordd lydan i greu ‘Parth Diogelwch Ysgol’ i fynd i’r ysgol yn ddiogel. Gosod mannau croesi i gerddwyr heb eu rheoli (cyrbau is) mewn amryw gyffordd i wella mynediad i gerddwyr. Rhoddir palmant botymog yn y llefydd hyn. Ail-alinio’r ardaloedd a adeiladwyd allan datblygu yn Pomeroy Street i wella mynediad a rhoi lle parcio ychwanegol lle bo'n bosibl. Cynyddu’r cyfleusterau parcio sydd ar gael yn Hunter Street trwy fyrhau’r ardal ffordd gaeedig. Cyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20mya yn Burt Street, Clarence Embankment, Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn: Bydd yn angenrheidiol cyflwyno Gorchymyn Rheoli Traffig i newid y cyfyngiad cyflymder o 30 mya i 20 mya. Bydd angen dilyn proses gyfreithiol i gwblhau rhan hon y cynllun. Cynigir ail-broffilio rhan fwyaf yr ardal ddatblygu er mwyn gwella’r mynediad ond cadw cymaint â phosibl o’r coed sydd yno. Bydd rhagor o waith ymchwilio ar hyn yn ystod proses manylu dyluniad y cynllun. Plannir coed newydd os nad oes modd cadw rhai coed oherwydd y difrod posibl i systemau’r gwreiddiau. Byddai diddymu’r ardaloedd a adeiladwyd allan yn gyfan gwbl yn golygu tynnu’r holl goed, ac ni fyddai adran parciau'r Cyngor yn cymeradwyo hyn. Fel rhan o’r cynllun hwn, ail-ystyrir y cyfyngiadau parcio a gadarnhawyd yn rhan o broses Gorchymyn Rheoli Traffig gyfreithiol, er na chawsant eu gweithredu. Y prif nod yw atal y parcio peryglus sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn amryw leoedd, a thrwy hynny wella’r diogelwch, y mynediad a'r gwelededd i gerddwyr a phlant ysgol yn yr ardal. Ail-ystyrir y Gorchymyn i sicrhau y ceir cymaint o le parcio â phosibl ond heb roi diogelwch yn y fantol. Cwblheir proses Gorchymyn Rheoli Traffig gyfreithiol arall i gwblhau rhan hon y cynllun. Rhoddir bolardiau mewn mannau i atal cerbydau rhag parcio ar y droedffordd neu er mwyn marcio ardaloedd a adeiladwyd allan at ddibenion diogelwch.

Upload: others

Post on 14-Jan-2020

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

Parth Diogelwch Ysgol a Gwella Mynediad i Ysgol Hamadryad Disgrifiad o Gynnig y Cynllun Daeth arian ar gael o gytundeb cynllunio o ganlyniad i ddatblygu ysgol Gymraeg newydd ar Hamadryad Road. Mae rhan o’r arian er mwyn creu Parth Diogelwch Ysgol ger yr ysgol newydd a chyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20 mya yn y ffyrdd o amgylch yr ysgol. Mae’r arian hefyd ar gyfer gwneud gwelliannau i Pomeroy Street trwy dynnu’r ardaloedd datblygu i wella’r mynediad. Mae’r cynllun yn cynnwys:

Gosod cyfleuster Croesfan Sebra Ddyrchafedig ar Hamadryad Road ger yr ysgol a throedffordd lydan i greu ‘Parth Diogelwch Ysgol’ i fynd i’r ysgol yn ddiogel.

Gosod mannau croesi i gerddwyr heb eu rheoli (cyrbau is) mewn amryw gyffordd i wella mynediad i gerddwyr. Rhoddir palmant botymog yn y llefydd hyn.

Ail-alinio’r ardaloedd a adeiladwyd allan datblygu yn Pomeroy Street i wella mynediad a rhoi lle parcio ychwanegol lle bo'n bosibl.

Cynyddu’r cyfleusterau parcio sydd ar gael yn Hunter Street trwy fyrhau’r ardal ffordd gaeedig.

Cyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20mya yn Burt Street, Clarence Embankment, Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square.

Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

Bydd yn angenrheidiol cyflwyno Gorchymyn Rheoli Traffig i newid y cyfyngiad cyflymder o 30 mya i 20 mya. Bydd angen dilyn proses gyfreithiol i gwblhau rhan hon y cynllun.

Cynigir ail-broffilio rhan fwyaf yr ardal ddatblygu er mwyn gwella’r mynediad ond cadw cymaint â phosibl o’r coed sydd yno. Bydd rhagor o waith ymchwilio ar hyn yn ystod proses manylu dyluniad y cynllun. Plannir coed newydd os nad oes modd cadw rhai coed oherwydd y difrod posibl i systemau’r gwreiddiau. Byddai diddymu’r ardaloedd a adeiladwyd allan yn gyfan gwbl yn golygu tynnu’r holl goed, ac ni fyddai adran parciau'r Cyngor yn cymeradwyo hyn.

Fel rhan o’r cynllun hwn, ail-ystyrir y cyfyngiadau parcio a gadarnhawyd yn rhan o broses Gorchymyn Rheoli Traffig gyfreithiol, er na chawsant eu gweithredu. Y prif nod yw atal y parcio peryglus sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn amryw leoedd, a thrwy hynny wella’r diogelwch, y mynediad a'r gwelededd i gerddwyr a phlant ysgol yn yr ardal. Ail-ystyrir y Gorchymyn i sicrhau y ceir cymaint o le parcio â phosibl ond heb roi diogelwch yn y fantol. Cwblheir proses Gorchymyn Rheoli Traffig gyfreithiol arall i gwblhau rhan hon y cynllun.

Rhoddir bolardiau mewn mannau i atal cerbydau rhag parcio ar y droedffordd neu er mwyn marcio ardaloedd a adeiladwyd allan at ddibenion diogelwch.

Page 2: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

O ran mannau penodol: Lleoliad A Mae’r ardal hon yn rhan o’r Parth Diogelwch Ysgol Mae wedi ei datblygu i roi ardal ddiogel i gerddwyr fynd i safle’r ysgol. Bydd bwrdd arafu yng nghyffordd Pomeroy Street â Hamadryad Road yn cynnal cyflymderau isel ac yn rhoi man croesi at ddibenion mynediad. Bydd Rhwystrau Ymwthiol wrth Gyffordd yn helpu cerddwyr i weld yn well ac yn gwneud y mannau croesi'n fyrrach. Bwriedir creu ardal di-barcio yma yn ystod amser yr ysgol, gyda throedffyrdd lletach, tirlunio newydd ac ardal ‘Ysgol, Cadwch yn Glir’. Cedwir y coed sydd wrth y gyffordd ond caiff y gyffordd ei hail siapio i wella’r mynediad ddwy ffordd. Efallai y rhoddir croesfan sebra yma, os penderfynir bod angen hynny; fodd bynnag, rhagwelir y bydd y lefelau traffig yn parhau i fod yn isel (gweler Gwybodaeth Gefndirol y Cynllun isod). Lleoliad B Caiff y droedffordd ei hestyn ar draws y lôn sydd wedi ei chau a chaiff ffin y palmant ei newid er mwyn defnyddio’r ardal lle mae hen bydew coed. Rhydd hyn fwy o le ar gyfer y ffordd gerbydau a pharcio ar y stryd. Cedwir y goeden sydd yn y lleoliad hwn. Lleoliad C Caiff yr adran a adeiladwyd allan ei newid fel bod y ffin at lle mae cerbydau’n parcio. Felly, ni fydd yn rhaid i gerbydau yrru ar draws yr ardal a adeiladwyd allan. Cedwir y ddwy goeden sydd yno a gwneir pob ymdrech i beidio â’u difrodi. Lleoliad D Caiff yr ardal ddatblygu ei newid fel bod y ffin at lle mae’r cerbydau’n parcio. Felly ni fydd yn rhaid i gerbydau yrru ar draws yr ardal a adeiladwyd allan bellach. Mae’r goeden sydd yno yn peri perygl i ddefnyddwyr oherwydd ei bod yn agos at ardal llif y traffig. Cynigir tynnu’r goeden ac phlannu coeden arall gerllaw, mewn safle mwy addas. Cyfyngir ar hyd yr ardal a adeiladwyd allan hefyd i roi rhagor o le parcio. Lleoliad E Gosodir Croesfan Nas Rheolir hefyd a fydd yn cynnwys cyrbau is a phalmant botymog. Bydd hyn yn gwella mynediad i lawer o ddefnyddwyr. Mae’n drosedd rhwystro Croesfannau Nas Rheolir. Lleoliad F Caiff yr ardal a adeiladwyd allan ei newid fel bod y ffin yn mynd at y lle parcio i gerbydau. Felly ni fydd yn rhaid i’r cerbydau yrru ar draws yr ardal a adeiladwyd allan. Cedwir y ddwy goeden sydd yno a gwneir pob ymdrech i beidio â’u difrodi. Lleoliad G Gosodir Croesfan Nas Rheolir yn cynnwys cyrbau is a phalmant botymog. Bydd hyn yn gwella mynediad i lawer o ddefnyddwyr. Mae’n drosedd rhwystro Croesfannau Nas Rheolir.

Page 3: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

Lleoliad H Gosodir Croesfannau Nas Rheolir yn cynnwys cyrbau is a phalmant botymog. Bydd hyn yn gwella mynediad i lawer o ddefnyddwyr. Mae’n drosedd rhwystro Croesfannau Nas Rheolir. Oherwydd cynllun y droedffordd ar gornel yr eglwys, rhoddir rhan o'r droedffordd i wella mynediad ar draws y gyffordd. Lleoliad I Caiff y gyffordd ei newid i wella mynediad dwy ffordd i ben deheuol Pomeroy Street, fodd bynnag, bydd angen tynnu coeden i wneud hyn. Gosodir Croesfannau Nas Rheolir sy’n cynnwys cyrbau is a phalmant botymog. Bydd hyn yn gwella mynediad i lawer o ddefnyddwyr. Mae’n drosedd rhwystro Croesfannau Nas Rheolir. Cedwir y goeden sydd gyfagos ag eiddo 50 a gwneir pob ymdrech i beidio â’i difrodi. Golyga hyn y cedwir ffin y palmant fel y mae a bydd hyn yn arafu traffig. Byddai newid ffin y palmant yma yn gofyn am dynnu’r goeden. Lleoliad J Gosodir Croesfannau Nas Rheolir sy’n cynnwys cyrbau is a phalmant botymog. Bydd hyn yn gwella mynediad i lawer o ddefnyddwyr. Mae’n drosedd rhwystro Croesfannau Nas Rheolir. Lleoliad K Caiff yr ardal a adeiladwyd all ei newid fel bod y ffin at lle mae’r cerbydau’n parcio. Felly ni fydd yn rhaid i’r cerbydau yrru dros yr ardal a adeiladwyd allan. Cedwir y pedair coeden sydd yno. Bydd newid ffin y palmant yn golygu defnyddio’r ardal lle mae hen bydew coed a’r ardal nas defnyddir. Rhydd hyn le lôn gerbydau ychwanegol a pharcio ar y stryd. Diddymir yr hen farciau ‘Ysgol, Cadwch yn Glir’ nad oes eu hangen. Lleoliad L Caiff yr ardal a adeiladwyd allan ei newid fel bod y ffin yn cyrraedd y lle parcio i gerbydau. Felly ni fydd yn rhaid i gerbydau yrru dros yr ardal a adeiladwyd allan datblygu. Cedwir y ddwy goeden sydd yno. Lleoliad M Cyfyngir ar y ffordd gaeedig rhwng Hunter Street a Burt Street gan estyn y lôn gerbydau a’r parcio ar y stryd. Nodiadau - Bwriedir cwblhau’r gwaith ar y safle erbyn diwedd mis Medi 2018. Mae’r llinellau melyn dwbl sydd ar y darlun wedi eu datblygu ynghlwm â Gorchymyn Rheoli Traffig a gadarnhawyd ar gyfer yr ardal a chânt eu trin fel proses Gorchymyn ar wahân. O ran parcio i breswylwyr, gweler yr wybodaeth isod. Ni ddarperir ar gyfer bysus ysgol na thrafnidiaeth ysgol yn y cynigion (gweler Gwybodaeth Gefndirol y Cynllun isod).

Page 4: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

Gwybodaeth Gefndirol y Cynllun: Datblygir y cynllun hwn oherwydd y mynegwyd pryderon ynghylch mynediad diogel a chyfleus cynaliadwy at yr ysgol yn ystod proses gynllunio’r safle ysgol a gynigwyd. Bwriedir mai cerdded fyddai’r prif ddull ar gyfer cyrraedd yr ysgol, neu ddulliau cynaliadwy eraill. Yn ystod cam cais cynllunio ar gyfer yr ysgol hon, penderfynwyd mai prin fuasai’r mannau parcio os o gwbl ar dir yr ysgol. Felly, rhagwelir y bydd llawer o rieni neu warchodwyr y disgyblion yn parcio oddi ar y safle ac yn cerdded weddill y daith, trwy’r ardal hon i’r ysgol. Bydd hon yn ysgol â mynediad cynaliadwy ac mae’r cynllun hwn yn rhan o’r mesurau a osodir i hwyluso hyn. Fodd bynnag, bydd y prif ffocws a’r cyfrifoldeb ar yr ysgol, Llywodraethwyr yr ysgol, y rhieni a’r plant i sicrhau y datblygir, y defnyddir ac y cynhelir cynllun teithio i’r ysgol cadarn i atgyfnerthu’r dull hwn. Mae gwelliannau eraill ar waith i gynorthwyo mynediad cynaliadwy i’r ysgol, gan cynnwys nodweddion megis gostwng y cyfyngiad cyflymder traffig i 20 mya yn yr ystâd dai o gwmpas yr ysgol, creu Parth Diogelwch Ysgol a gwella mynediadau eraill yn y gymuned i’w gwneud yn haws a mwy diogel i bobl fynd i’r ysgol ac i’r ardal o’i chwmpas. Bydd ymgynghoriad ar hyn ar wahân. Bydd y cynllun yn cynnwys cyflwyno Parth Diogelwch Ysgol ar Hamadryad Road a gwelliannau ar hyd Parth Diogelwch Ysgol a’r ardal i wella’r cyfleusterau parcio ffurfiol a mynediad. Adolygir y Cynllun Parcio i Breswylwyr sydd yn weithredol ar hyn o bryd a bydd hyn ar wahân i’r cynllun hwn, yn rhan o broses Gorchymyn Rheoli Traffig, ond mae’n bosibl y’i gweithredir fel rhan o gynnig y cynllun hwn os yw'r adolygiad yn nodi bod angen gwneud newidiadau. Parcio i Breswylwyr: Er bod y cynllun hefyd yn cynnwys gwelliannau i Pomeroy Street, y bwriad fydd creu parcio diogel a chyfreithlon sy’n helpu mynediad i gerddwyr, bysus yn achlysurol ar gyfer yr ysgol (ymweliadau/teithiau addysgol yr ysgol) a mynedfa i gerbydau ar gyfer y gymuned. Bydd y Cyngor yn asesu’r ardal i benderfynu a oes modd cynyddu’r cynllun parcio 50% i breswylwyr i 75%. Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob cais am godi cynlluniau 50% i 75% fodloni meini prawf penodol yn unol â Pholisi’r Cyngor cyn y gellir cychwyn proses gyfreithiol. Ar y sail hon, mae gwaith arolygu ac asesu’n mynd rhagddo i benderfynu a yw’r ardal hon yn bodloni’r meini prawf hyn. Amlygir gwybodaeth ynghylch y broses hon yn nogfen Polisïau a Safonau Gweithredol Parcio a Thrafnidiaeth 2016 y Cyngor y gellir ei chael trwy ddilyn dolen ar wefan y Cyngor: https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Parking-roads-and-travel/parking/Parking-Strategy/Documents/Parking%20Policies%20September%202016.pdf 

Page 5: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

Gwneir pob ymdrech i gwblhau’r asesiad a’r broses erbyn mis Medi 2018 neu fis Rhagfyr 2019 (yn dibynnu ar y canlyniad).

Gwybodaeth ychwnaegol ynghylch mesurau rheoli traffig Parthau 20 mya. Wrth deithio 20mya y pellter stopio i gar yw 12 metr (40 troedfedd), o gymharu â 24 metr (75 troedfedd) wrth deithio 30 mya. Mewn damwain bydd perygl o 1 mewn 20 yn unig y bydd car yn lladd cerddwr, o gymharu â pherygl o 1 mewn 2 wrth deithio 30 mya. Mae’r ffactorau hyn yn cyfuno i leihau’r perygl i holl ddefnyddwyr y ffordd. Yn achos cerddwyr mae defnyddio croesfan ac, os oes angen, cerdded ar y ffordd, yn llawer mwy diogel a derbyniol. Mae’n ofyniad statudol bod parthau 20mya yn cynnwys nodweddion arafu traffig gyda dim mwy na 100 metr rhyngddynt, a rhaid i’r rhain fod wedi eu dylunio i sicrhau bod cerbydau yn teithio ar gyflymder cyfartalog o 20 mya. Nodweddion Arafu Traffig. Mae’r term hwn yn cyfeirio at fesurau rheoli traffig ffisegol penodol sy’n gorfodi gyrrwyr i leihau cyflymder cerbydau. Mae’r rhain yn cynnwys twmpathau ffordd, clustogau arafu, byrddau arafu, rhwystrau culhau’r ffordd, rhwystrau igam-ogamu, pyrth arafu, cylchfannau a nodweddion tebyg eraill. Cyffordd Fwrdd. Mae cyffordd fwrdd yn debyg i dwmpath ffordd. Dyrchefir y gyffordd gyfan i greu platfform, sy’n lleihau cyflymder cerbydau. Mae darparu cyffordd fwrdd yn creu cyffordd ddiogelach drwy arafu’r holl gerbydau sy’n agosáu at y gyffordd gan felly gynnig allanfa ddiogelach o bob rhan o'r gyffordd. Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Cyfyngiadau yw’r rhain, a osodir ar y Briffordd, sy’n cyfarwyddo, rheoli neu wahardd symudiadau defnyddwyr y ffordd. Er enghraifft, cyfyngiadau cyflymder 20 mya. Dim Mynediad. Dim Troi i’r Dde. Traffig Unffordd. Dim Aros. Rhaid i’r rheoliadau hyn fynd trwy broses gyfreithiol hir. Os cânt eu cymeradwyo, gosodir arwyddion neu linellau ar y safle a bydd yr Heddlu neu eu Wardeniaid Traffig yn eu gorfodi. Bwrdd Arafu. Amrywiaeth yw hwn ar y twmpath arafu lle mae pen uchaf y rhan ddyrchafedig (y bwrdd) dros ddwy fetr o led. Mae hyn yn achosi llai o anesmwythdra i deithwyr bws gan fod yr ardaloedd codi a disgyn wedi eu gwahanu gan y darn dyrchafedig. Defnyddir y rhain weithiau ar y cyd â chroesfannau cerddwyr er mwyn lleihau cyflymder a gwneud y groesfan yn fwy gweladwy i yrwyr. Croesfan Sebra. Mae’r math hon o groesfan yn addas ar gyfer safleoedd sydd â lefelau canolig o alw gan gerddwyr a llif traffig lle nad oes cyfiawnhad dros groesfan pâl. Gall wasanaethu cerddwyr yn well, gan nad oes amser aros penodedig cyn cael yr hawl i groesi. Gellir eu cyfuno’n hawdd â rhwystrau ymwthiol sy’n gwella gwelededd i gerbydau, yn lleihau’r pellteroedd croesi ac yn egluro bod cerddwyr yn bwriadu croesi'r ffordd.

Page 6: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

Cyrbau Gostyngedig. Hon yw’r groesfan cerddwyr symlaf oll, lle gostyngir y lefel rhwng y palmant a’r ffordd gymaint â phosibl er mwyn cynorthwyo defnyddwyr cadair olwyn, pramiau a defnyddwyr eraill sydd ag anawsterau symud. Gosodir pafin botymog arnynt i rybuddio defnyddwyr â nam ar eu golwg nad oes cwrb yn gwahanu‘r llwybr cerdded oddi wrth y ffordd. Croesfan Sebra Ymwthiol. Croesfan sebra ag arni ddarnau ymwthiol er mwyn culhau’r ffordd i’r lled lleiaf ar gyfer traffig dwy ffordd. Mae hyn yn gwella gwelededd i ac o gerddwyr sy'n defnyddio'r groesfan. Gall bwrdd arafu fod yn rhan o'r cynllun hefyd. Croesfan Sebra â Bwrdd. Croesfan sebra sy’n cynnwys bwrdd arafu, neu sydd ar gyffordd fwrdd, yn rhan o fesurau ehangach i arafu traffig neu ar ei ben ei hun. Rhwystrau Ymwthiol. Darn o lwybr troed sydd wedi ei ledu. Gellir eu defnyddio mewn sawl gwahanol sefyllfa, e.e. wrth ail-lunio cyffyrdd, diffinio ardaloedd parcio neu leihau'r pellter sydd i gerddwyr groesi'r ffordd. Gallant wella gwelededd i ac o gerddwyr neu yrwyr sy'n aros wrth gyffordd. Rhwystrau Ymwthiol wrth Gyffordd. Y defnydd o rwystrau ymwthiol wrth gyffordd. Yn y lleoliadau hyn maen nhw'n rhwystro cerbydau rhag cael eu parcio'n rhy agos at gyffordd, gan wella gwelededd, a gallant hefyd gynnig parcio gwarchodedig. Parcio Gwarchodedig. Dyma lle bydd rhwystr ymwthiol ar ddiwedd ardal barcio. Mae'r rhwystr ymwthiol yn gwarchod cerbydau sydd wedi eu parcio rhag gwrthdrawiadau. Ardal Barcio. Darn o ffordd sydd fel arfer tu ôl i linell wen doredig, ond ni ddylid drysu rhwng hyn a lôn seiclo. Bydd rhai ardaloedd parcio ond yn gwahaniaethu rhwng yr ardal ar gyfer parcio a’r ardal i'w defnyddio gan draffig heb gyfyngu’r amseroedd parcio na nodi pa gerbydau all barcio yno. Rheoleiddir ardaloedd eraill gan Orchymynion rheoleiddio traffig sy’n cyfyngu’r defnydd o’r ardal trwy osod arwyddion cyfagos ac mewn rhai achosion caiff yr ardal ei gwahanu’n gilfannau parcio unigol. Porth Cul. Dyma lle defnyddir rhwystrau ymwthiol i gulhau’r ffordd gymaint â phosibl ar gyfer traffig dwyffordd, fel bod gyrwyr yn ymwybodol eu bod yn cyrraedd darn penodol o ffordd, er enghraifft, tu allan i ysgol neu Barth 20 mya. Gellir defnyddio cyfuniad o fesurau fel bwrdd arafu, wyneb lliw neu farciau ffordd eraill yn ôl yr angen. Rhwystr igam-ogamu. Rhan o fesur arafu traffig lle mae rhwystrau ymwthiol yn culhau'r ffordd fel mai ond un cerbyd ar y tro all deithio trwyddo, ac y mae’n rhaid i gerbydau ddilyn llwybr siâp ‘S’ er mwyn gwneud hynny. Ym mhob cynllun rhwystr igam-ogamu newydd, rhoddir blaenoriaeth i un cyfeiriad. Maen nhw'n

Page 7: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

addas yn unig pan fo llai na 10 cerbyd yr awr yn ystod yr awr frig. Lleihau Gofod y Ffordd. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod gyrwyr yn gyrru’n arafach os yw’r ffordd yn edrych yn gulach neu'n fwy cymhleth. Gelwir mesurau a gyflwynir i gyflawni'r effaith hwn yn leihau gofod y ffordd. Gellir gwneud hyn drwy roi marciau ar y ffordd, gan gynnwys lonydd seiclo, rhith-ynysoedd, ynysoedd traffig, rhwystrau ymwthiol a mesurau eraill, un ai ar eu pennau’u hunain neu mewn amrywiol gyfuniadau. Bolard. Postyn a wneir o amryw ddeunyddiau ac a ddefnyddir i rwystro cerbydau rhag gyrru ar y llwybr troed neu ymyl y ffordd. Postyn Marcio. Math o folard du a gwyn sydd ag adlewyrchyddion coch a gwyn arno. Fe’i ddefnyddir i ddynodi ochr y ffordd ac ar rai rhwystrau ymwthiol i nodi lle maent yn dechrau a gorffen. Lleoedd Croesi i Gerbydau Mae lle croesi i gerbydau yn eich galluogi i gael mynediad at eich eiddo mewn modd cyfreithiol, diogel a hawdd pan ydych yn defnyddio car neu gerbyd domestig arall. Mae hyn yn golygu bod cyrbau’n cael eu gostwng (“cwrbyn isel”) i lefel y lôn gerbydau a bod y droedffordd, neu lain ymyl, yn cael ei chryfhau i ddal pwysau’r cerbydau sy’n ei chroesi. Mae’n drosedd i yrru ar droedffordd oni bai bod lle croesi i gerbydau wedi’i awdurdodi a’i osod. Yn ogystal â rhesymau diogelwch, gallech ddifrodi'r droedffordd neu unrhyw bibellau neu geblau sydd wedi'u claddu o dan y droedffordd. Mae’r lle croesi yn eich galluogi i basio’n ddiogel o’r lôn gerbydau, gan beidio â rhwystro'r briffordd. Fel rhan o’n cynlluniau gwella, mae’n bosibl darparu lle croesi newydd i gerbydau, yn amodol ar y telerau ac amodau angenrheidiol. Ond, rhaid i’r rheiny sy’n ceisio lle croesi i gerbydau gael Cytundeb Priffordd gennym o flaen llaw. Yn dibynnu ar sut y mae’r ffordd wedi’i Dosbarthu, efallai y bydd yn angenrheidiol cael Caniatâd Cynllunio hefyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.caerdydd.gov.uk Parth Diogelwch Ysgol: Bydd gan barth diogelwch ysgol fel rheol “borth” i’r parth ar ffurf ffordd ddwyffordd yn culhau ac arwyddion rhybudd ysgol a bydd yn cynnwys dulliau arafu traffig a chroesfan i gerddwyr ynghyd a chyfyngiadau a rheolaeth barcio. Y bwriad yw lleihau cyflymder traffig yng nghyffiniau gatiau’r ysgol, i gynyddu ymwybyddiaeth gyrwyr eu bod yn dynesu at ysgol ac i ddarparu adnoddau mwy diogel a chyfleus i gerddwyr (yn enwedig disgyblion ysgol) o fewn y parth. Bydd yr union nodweddion gaiff eu cynnwys mewn parth diogelwch ysgol yn ddibynnol ar ffactorau fel gosodiad y safle, nifer y mynedfeydd i’r ysgol, maint a chyflymder y traffig.

Page 8: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:
c073412
Textbox
09/04/2018.
c073412
Textbox
09/04/2018.
Page 9: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:

N

Rhwystrau ymwthiol wrthgyffordd i leihau'r pellter croesiJunction build-outs to reducecrossing distance

Rhwystrau ymwthiol wrthgyffordd i leihau'r pellter croesi

Junction build-outs to reducecrossing distance

Lleoliad A - Ardal ddyrchafedigLocation A, Tabled area

Parth Diogelwch YsgolSchool Safety Zone area

Mynediad ysgol ac ysbytySchool and hospital access

Lleoliad D - Amnewid coeden acailalinio'r cwrbynLocation D - Replacement of tree andkerbline realignment

Lleoliad F - Ailalinio cwrbynLocation F - Kerb-line realignment

CAERDYDDCARDIFF

The Council is consulting on the proposal to implement a traffic management scheme based on the planshown.Further details about this consultation are available at cardiff.gov.uk/TransportProjects using the 'view consultations' link.Alternatively, please e-mail [email protected] or telephone 029 2087 3298 to request a paper copy. If you wouldlike to make any comments about this proposal please let us know by 30/03/2018.

Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar y cynnig i weithredu cynllun rheoli traffig yn seiliedig ar y cynllun.Mae rhagor o fanylion am yr ymgynghori hwn ar gael yn www.caerdydd.gov.uk/Projectautrafnidiaeth ar y ddolen 'gweldymgynghoriadau'. Fel arall, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 2087 3298 i ofyn amgopi papur. Os hoffech wneud unrhyw sylwadau am y cynnig rhowch wybod i ni erbyn 30/03/2018.

Lleoliad C - Ailalinio cwrbynLocation C - Kerb-line realignment

Ailalinio cwrbynKerb-line realignment

Lleoliad E - Croesfannau nas rheolirLocation E - Uncontrolled crossing points

Lleoliad G - Croesfannau nas rheolirLocation G - Uncontrolled crossing points

Cynllun Ymgynghori 3Consultation Plan 3

Cynllum Ymgynghori 2Consultation Plan 2

Lleoliad B - Ailalinio cwrbynLocation B - Kerb-line realignment

c073412
Textbox
09/04/2018.
c073412
Textbox
09/04/2018.
Page 10: Disgrifiad o Gynnig y Cynllun · Clarence Place, Hamadryad Road, Harrowby Lane, Harrowby Place, Hunter Street, Pomeroy Street a Waverley Square. Er mwyn hwyluso’r gwelliannau hyn:
c073412
Textbox
09/04/2018.
c073412
Textbox
09/04/2018.