disgrifiad swydd - web viewawr a 37.5 awr yr wythnos – rhwng dydd llun a sadwrn . hyd: dros...

21
Pecyn Cais Swyddog Gofal i Ddioddefwyr Gwasanaeth Cymorth i Ddioddefwyr Dyfed Powys

Upload: hoangnguyet

Post on 07-Mar-2018

225 views

Category:

Documents


5 download

TRANSCRIPT

Pecyn Cais

Swyddog Gofal i Ddioddefwyr Gwasanaeth Cymorth i Ddioddefwyr Dyfed Powys

Dyddiad cau: Chwefror 20fed, 2015 erbyn 9yb

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

CefndirCymorth i Ddioddefwyr – Pwy ydyn ni?Mae ein gwasanaethau i ddioddefwyr yn rhad ac am ddim a chyfrinachol. Rydyn ni’n rhoi gwybodaeth, help ymarferol a chefnogaeth emosiynol i unrhyw un sydd wedi cael profiad trosedd, ac i’w teuluoedd a’u ffrindiau.

Rydyn ni’n darparu’r gwasanaeth hwn i ymhell dros filiwn o bobl pob blwyddyn, pa un ai bod trosedd wedi ei riportio ai peidio, gan weithio mewn partneriaeth gyda chyfiawnder troseddol ac asiantaethau gwirfoddol eraill.

Mae gynnon ni rwydwaith o swyddfeydd lleol ledled Lloegr a Chymru sy’n cynnal a chytgordio ein gwasanaethau lleol. Mae cyflogwyr a gwirfoddolwyr hyfforddedig fel ei gilydd yn rhan o’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi - gyda phedair gwaith mwy o wirfoddolwyr nag o staff, yn gweithredu mewn 4 ‘lleoliad’.

Mae ein gwasanaeth ffôn cenedlaethol, y Llinell Gymorth i Ddioddefwyr, yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth, yn ogystal â chyfeirio galwyr at ein timau lleol ac at asiantaethau eraill. Mae’n delio gydag oddeutu 12,000 galwad y flwyddyn.

Ein pwrpas ydy helpu pobl i ganfod y nerth i symud ymlaen wedi trosedd. Rydyn ni’n rhoi cefnogaeth emosiynol ac ymarferol sy’n ffynhonnell nerth a chysur. Rydyn ni’n gwneud i bobl deimlo’n well a defnyddio dealltwriaeth leol ein gwirfoddolwyr a’n staff i helpu dioddefwr a thystion i gymryd rheolaeth, er mwyn inni i gyd allu byw mewn cymdeithas fwy diogel a meddylgar.

Bydd popeth mae Cymorth i Ddioddefwyr yn ei wneud wedi’i seilio ar empathi a dealltwriaeth o anghenion y dioddefwr a’r tystion, fel bod pobl yn teimlo’n well ynddyn nhw’u hunain wedi inni eu helpu. Rydyn ni am fod yn rym er daioni yn y gymdeithas.

Ein gweledigaeth ydi bod yr elusen orau yn y byd ar gyfer dioddefwyr a thystion, gyda gwirfoddoli wrth galon yr hyn rydyn ni’n gwneud.

Mae hynny’n dasg fawr; mae troseddu yn effeithio ar filiynau o bobl bob blwyddyn ac mae angen inni sicrhau ein bod yn ateb eu holl anghenion, tra ar yr un pryd yn cefnogi newidiadau cadarnhaol yn y system cyfiawnder troseddol. Dydy hyn ddim yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni ein hunain, felly fe wnawn ni weithio gydag eraill lle bo hyn o gymorth i ddioddefwyr a thystion.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau, rydyn ni’n llais cenedlaethol i ddioddefwyr a thystion. Rydyn ni’n ymgyrchu i gael mwy o ymwybyddiaeth o effeithiau troseddu ac i gynyddu eu hawliau.

Rydyn ni hefyd wedi arloesi gyda gwasanaethau i ddioddefwyr a thystion ledled y wlad, er enghraifft, lefel uwch o wasanaethau a rhai rheng flaen sy’n ymateb yn well, gwell canllawiau i helpu dioddefwyr ifanc troseddu, a chanllawiau gwell ar gyfer trais yn y cartref. Yn 2010, ni a sefydlodd y gwasanaeth cymorth pwrpasol cyntaf yn y byd ar gyfer pobl a gafodd brofedigaeth fel canlyniad i ddynladdiad.

Ein Prif Weithredwr ydy Mark Castle, a ymunodd â’r mudiad yn 2014. Mae’n adrodd nôl i Fwrdd Ymddiriedolwyr annibynnol o 12 aelod. Ein Llywydd ydy EM y Dywysoges Frenhinol.

2

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Cewch wybod mwy amdanon ni a’n gwaith ar ein gwefan: www.victimsupport.org.uk.

Gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddau Dyfed Powys

Mae darpariaeth gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr yn Nyfed Powys yn ymestyn dros amrywiaeth o asiantaethau a chytundebau, gan gynnwys yr heddlu’n darparu rhai gwasanaethau cenedlaethol ac amrywiaeth o fudiadau yn y sectorau gwirfoddol, cymunedol a ffydd yn lleol.

Mae symud o drefniant grant cenedlaethol gyda Chymorth i Ddioddefwyr at ariannu lleol trwy Gomisiynwyr Heddlu a Throseddau wedi galluogi gweithredu Gwasanaeth i Ddioddefwyr newydd sydd i gychwyn ym mis Ebrill 2015. Mae’r model arfaethedig yn sicrhau cyflwyno gwasanaeth grymus, ymchwil a gwerthuso i hysbysu am welliant parhaus ac yn llwyfan i bleidio anghenion dioddefwyr ac i ddefnyddio profiadau i ddylanwadu gwneuthurwyr polisi yn uniongyrchol yn genedlaethol wrth anelu at y nod o wasanaethau cyfiawnder wedi’u canoli o gwmpas y dioddefwr. Y model newydd hwn ar gyfer gwasanaethau cefnogi i ddioddefwyr ydy’r un cyntaf o’i fath yn ardal Dyfed Powys, a bydd yn herio holl asiantaethau heddlua a chyfiawnder i newid eu dulliau, gan wthio cysyniadau am gyflwyno tystiolaeth yr heddlu a gwasanaethau i lefelau newydd ym maes gwasanaethau i ddioddefwyr.

3

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

SWYDDI GWAG AR GYFER GWEITHWYR CYNNAL SWYDD: Swyddog Gofal i Ddioddefwyr

ORIAU: Shifftiau amrywiol o 20 awr a 37.5 awr yr wythnos – rhwng dydd Llun a Sadwrn

HYD: Dros dro hyd at fis Mawrth 2016 – estyniad posib os ydy cyllid yn caniatáu

LLEOLIAD: Pencadlys Heddlu Dyfed Powys – Caerfyrddin

CYFLOG: FTE £18,258.79 y flwyddyn + 3 % o ddyfarniad tâl wedi cwblhau cyfnod prawf 6 mis yn llwyddiannus

Mae Cymorth i Ddioddefwyr, mewn partneriaeth â Chomisiynydd Heddlu a Throseddau Dyfed Powys, yn chwilio am nifer o staff i weithio gyda’r Gwasanaeth i Ddioddefwyr sydd newydd ei sefydlu ym mhencadlys Heddlu Dyfed Powys.

Bydd angen ichi ymgymryd ag asesiadau cynhwysfawr o anghenion dioddefwyr a sicrhau bod yr anghenion yn cael eu gwireddu gan ddefnyddio nifer o wahanol adnoddau fydd ar gael i chi. Y model newydd hwn ar gyfer gwasanaethau cefnogi dioddefwyr ydy’r cyntaf o’i fath yn ardal Dyfed Powys, a bydd yn herio holl asiantaethau heddlua a chyfiawnder i newid eu dulliau, gan wthio cysyniadau am gyflwyno tystiolaeth yr heddlu a gwasanaethau i lefelau newydd ym maes gwasanaethau i ddioddefwyr a thystion.

Mae’r gwasanaeth hwn, sydd newydd ei sefydlu, wedi’i hariannu’n llawn gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddau Dyfed Powys ac fe all y bydd yn cael ei hymestyn ar ôl mis Mawrth 2016.

Yn y swydd hon fe fyddwch yn cysylltu â Dioddefwyr dros y ffôn er mwyn ymgymryd ag asesiad anghenion cynhwysfawr a chomisiynu ystod o wasanaethau i gefnogi'r anghenion a adnabuwyd os yn briodol. Byddwch yn cyfeirio dioddefwyr at asiantaethau eraill a chysylltu â chyflenwyr cymeradwy i gyflenwi gwasanaethau i ddioddefwyr. Fe fyddwch hefyd yn cyfeirio atgyfeiriadau at gydweithwyr priodol er mwyn clustnodi gweithwyr Cymorth i Ddioddefwyr am gefnogaeth bellach. Fe fydd gofyn ichi hefyd wneud cyswllt dilynol gyda’r Dioddefwyr i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth wedi’i gyflenwi’n briodol ac yn foddhaol. Byddai profiad o weithio mewn sefyllfaoedd lle gwneir defnydd helaeth o’r ffôn yn ddymunol.

4

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gofal a chyngor arbenigol i ddioddefwyr, a gweithredu fel yr unig gyswllt trwy gydol cyfnod y cymorth.

Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad hanfodol a’r sgiliau a’r wybodaeth arbenigol ganlynol fel yn ôl proffil y swydd:

Dealltwriaeth a/neu brofiad o waith aml-swyddogaeth, aml-asiantaeth. Profiad o ddelio ag ystod eang o bobl o draws-doriad o’r gymuned, mewn

sefyllfaoedd gwahanol. Wedi profi’ch gallu i gynllunio a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun. Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu amlwg i ddarparu cyngor ac arweiniad, yn

enwedig dros y ffôn. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol.

Mae’r rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi profi’i allu/ei gallu i weithio’n ddiwyd, heb fawr o oruchwyliaeth, ac i gadw at raddfeydd amser tynn gyda’r gallu i flaenoriaethu’n effeithiol ochr yn ochr ag anghenion cyferbyniol cwsmeriaid. Mae sgiliau gyda MS Office, yn enwedig Word ac Excel, gyda’r gallu i ddadansoddi cronfeydd data i lefel uwch er mwyn adnabod tueddiadau, prif bwyntiau a’r materion pennaf yn hanfodol i’r rôl hon.

Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus gadarnhad trwy’r post wedi i’r heddlu gymeradwyo yn dilyn ymchwiliad cefnir llwyddiannus (NPPV Lefel 3).

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â hyfforddiant swydd penodol.

I holi am ffurflen gais, cysylltwch â Jo-ann Litherland, Locality HR Dept, Victim Support, Winton House, Stoke Road, Shelton, Stoke-on-Trent ST4 2RW neu trwy [email protected] neu ffonio 01782 843908 .

Dyddiad cau i geisiadau ydy: Dydd Gwener, Chwefror 20fed, 2015 am 9yb

Caiff cyfweliadau ar gyfer y swydd hon eu cynnal ar: Ddydd Llun, Mawrth 2ail, 2015

Mae Amrywiaeth yn Bwysig ac Rydyn Ni’n ei Werthfawrogi

5

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Disgrifiad Swydd

Teitl y swydd: Swyddog Gofal i Ddioddefwyr

Adran: Hyb Gwasanaeth Dioddefwyr Dyfed Powys

Yn atebol i: Arweinydd Tîm

_________________________________________________________________

Pwrpas y swydd

Bydd y Tîm Cymorth i Ddioddefwyr (Cid) yn gweddnewid gwasanaethau i Ddioddefwyr Troseddau yn ardal Heddlu Dyfed Powys er mwyn dod yn ganolbwynt gweledigaethol ar gyfer cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, yn helpu dioddefwyr i ymdopi a dod dros effeithiau troseddu a derbyn y wybodaeth, yr esboniad a’r arweiniad sydd ei angen arnyn nhw trwy’r broses cyfiawnder. Fe fydd yn darparu cysondeb gwasanaeth i ddioddefwyr a rhyddhau rhywfaint o’r pwysau ar heddlua y rheng flaen. Mae gan y gwasanaeth newydd hwn gyfle arloesol i gomisiynu gwasanaeth wedi’i integreiddio’n llawn yn Nyfed Powys.

Fe fydd y dull newydd hwn o weithio’n cynnig i un man cyswllt i ddioddefwyr, a fydd yn gallu trefnu ystod eang o gefnogaeth fyrdymor a hirdymor, un ai trwy wasanaethau CiDd neu trwy ddarparwyr achrededig y trydydd sector a gwasanaethau statudol a chymunedol lleol.

Bydd darparu gwybodaeth o’r cyswllt cyntaf hyd at ddiwedd proses y llys yn golygu y bydd cyswllt parhaus gyda dioddefwyr i’w cadw’n ymwybodol o’r sefyllfa.

Prif Ddyletswyddau

1. Ymgymryd i wneud y cyswllt cyntaf â’r dioddefwr dros y ffôn er mwyn gwella a chynnal y cyfraddau cyswllt uniongyrchol, llwyddiannus a wnaed a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a pherthnasol i ddioddefwyr.

2. Blaenoriaethu a threfnu beichiau gwaith er mwyn sicrhau y caiff dioddefwyr a thystion eu rhybuddio am achosion llys a’u hysbysu o ganlyniadau gwrandawiadau, gan gadw at ofynion Cod Ymarfer Dioddefwyr a Siarter y Tyst

3. Cynnal asesiad anghenion gwasanaeth gan ddilyn prosesau a graddfeydd amser a gytunwyd.

4. Adnabod anghenion gwasanaeth, cofnodi canlyniadau’r asesiad a darparu ymateb neilltuol i anghenion pob dioddefwr a thyst

5. Hwyluso cyflenwi anghenion sydd wedi’u hadnabod, trwy atgyfeirio at wasanaeth priodol arall ar ran y dioddefwr neu’r tyst, gan ddefnyddio prosesau a gytunwyd, neu trwy atgyfeirio at gydweithiwr addas.

6

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

6. Rheoli anghenion gwasanaeth di-oed dioddefwyr, lle bo angen 7. Cyfrannu tuag at brosesau asesiad risg a defnyddio dulliau cysylltu diogel,

dilyn prosesau a gytunwyd ar gyfer cysylltu â dioddefwyr trais rhywiol, trais yn y cartref, pobl a gafodd brofedigaeth oherwydd dynladdiad a phobl ifanc a phlant.

8. Cynnal a chadw cyswllt gan ddefnyddio prosesau a gytunwyd er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth wedi’i gyflenwi’n briodol neu a oes angen unrhyw wasanaeth(au) eraill.

9. Cofnodi pob cyswllt â dioddefwyr a thystion yn ddiogel ac yn fanwl gywir, yn unol â gweithdrefnau i bwrpas monitro a gwerthuso.

10.Datblygu perthynas waith cynhyrchiol gyda chydweithwyr a deiliaid diddordeb. Bod yn hyblyg, yn cynorthwyo gyda gwaith cydweithwyr yn eu habsenoldeb, cymryd cyfrifoldeb am ymholiadau a materion a rheoli penderfyniadau llwyddiannus.

11.Cysylltu gyda chydweithwyr Cymorth i Ddioddefwyr, yr Heddlu, CPS a HMCTS er mwyn cyfrannu at rediad esmwyth y gwasanaeth.

12.Sicrhau cadw at safonau a gweithdrefnau cenedlaethol Cymorth i Ddioddefwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n ymwneud ag ymarfer diogel, cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth.

13.Comisiynu gwasanaethau ar ran comisiynydd yr heddlu a throseddau gan asiantaethau o ffynonellau lleol.

Cyfrifoldebau cyffredinol

1. Datblygu diwylliant a systemau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn rhoi gwerth ar amrywiaeth

2. Hyrwyddo diwylliant iach a diogel o fewn y gweithle 3. Rheoli eich adnoddau personol a’ch datblygiad proffesiynol 4. Rhaid cadw pob gwybodaeth yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 5. Ymgymryd â gweithgareddau eraill fel bo’r angen

Teithio

1. Mae’n bosib y bydd angen teithio o dro i dro

Oriau anghymdeithasol

1. Y gallu i weithio’n hyblyg, gan gynnwys gyda’r hwyr a phenwythnosau.

Mae’r disgrifiad swydd hwn yn fodd o ddangos y math a sgôp y dyletswyddau sydd eu hangen ar hyn o bryd ar gyfer y swydd uchod ac i ddarparu arwydd o’r lefel angenrheidiol o gyfrifoldeb. Dydi hyn ddim yn rhestr gynhwysfawr neu gyfyngedig a gall y dyletswyddau amrywio o bryd i’w gilydd. Fodd bynnag, dydyn nhw ddim yn newid cymeriad cyffredinol y swydd na’r lefel o gyfrifoldeb sydd ynghlwm.

7

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Dyddiad: Chwefror 1af, 2015

8

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Manylion Person

Teitl swydd: Swyddog Gofal i’r Dioddefwr

Adran: Hyb Gwasanaeth i Ddioddefwyr Dyfed Powys ___________________________________________________________________

Gwybodaeth a Phrofiad

Hanfodol

1. Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchfyd statudol, gwirfoddol, cymunedol, gofal cymdeithasol preifat neu wasanaeth cwsmeriaid, yn delio â’r cyhoedd, yn rheoli sefyllfaoedd anghydfod, anodd a sensitif yn llwyddiannus. Yn arddangos y gallu i ddylanwadu ar bobl, tra’n parhau’n broffesiynol a diduedd. (s)

2. Profiad o weithio mewn amgylchfyd prysur iawn, yn cadw at derfynau amser ac yn llwyddo i gael canlyniadau trwy gynllunio a threfnu eich baich gwaith yn effeithiol, arddangos y gallu i flaenoriaethu a rheoli gofynion, hyd yn oed dan bwysau. (s)

3. Arddangos y gallu i ymateb i newid yn yr amgylchfyd gwaith trwy ddangos parodrwydd i addasu a bod yn hyblyg mewn amgylchiadau newidiol, ceisio cyngor gan eraill pan fo newid yn digwydd ac yn cynnal safonau gwaith wrth i amgylchiadau newid. (s)

4. Gwerthfawrogiad o bwysigrwydd cyfrinachedd ac arferion gwaith diogel. (s)5. Y gallu i arddangos lefel o ymwybyddiaeth am faterion cydraddoldeb ac

amrywiaeth sy’n briodol i’r rôl hon. (s)

Dymunol

1. Deall effaith troseddu, gyda gwybodaeth o’r System Cyfiawnder Troseddol ac asiantaethau ac adnoddau lleol perthnasol.

Sgiliau a galluoedd

Hanfodol

1. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol sy’n arddangos y gallu i ddelio’n hyderus â sbectrwm eang o bobl mewn modd doeth a sensitif. I arddangos empathi a rheoli’ch emosiynau. (rh)

2. Gwybodaeth dda a phrofiad gyda rhaglenni cyfrifiadurol Windows mewn gweithle. (rh)

3. Y gallu i weithio’n hyblyg, gan gynnwys ambell gyda’r hwyr a rhai penwythnosau. (rh)

4. Profiad o waith tîm amrywiol, yn cael ei arddangos trwy ddealltwriaeth o sut mae’ch amcanion eich hun yn asio ag amcanion tîm. Yn adeiladu perthynas waith effeithiol gydag agwedd hyblyg tuag at rolau tîm. (rh)

9

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Dymunol

1. Hyrwyddo diddordebau a gwerthoedd Cymorth i Ddioddefwyr 2. Arddangos sgiliau datrys problemau cadarn a’r gallu i roi barn a gwneud

penderfyniadau, gan gynnig syniadau ymarferol a datrysiadau arloesol, ond yn gwybod pryd i atgyfeirio ymlaen am benderfyniad.

3. Gwybodaeth o systemau TG Asiantaethau Lluoedd a Phartneriaid4. Siaradwr Cymraeg

(rh) = Meini prawf rhestr fer (9)

10

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Pam gweithio i Gymorth i Ddioddefwyr? Y Buddion a’r GwobrwyonMae Cymorth i Ddioddefwyr yn cydnabod mai ein pobl ydy’n caffaeliad mwyaf ac rydyn ni’n cydnabod gweithwyr am y gwaith maen nhw’n ei wneud. Yn gyfnewid, fe gewch:

25 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd ag un diwrnod ychwanegol o wyliau am bob blwyddyn lawn o wasanaeth hyd at fwyafswm o 30 diwrnod) a’r gwyliau banc hefyd

Cynllun tâl salwch gwell

Cynllun tâl mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu gwell

Budd-dal marwolaeth mewn swydd

Cynllun pensiwn – bydd Cymorth i Ddioddefwyr yn cyfrannu 5% i gynllun pensiwn Aegon, a derbyn eich bod yn cyfarfod â’r meini prawf a gwneud y cyfraniadau gweithiwr angenrheidiol

Cynllun Talebau Gofal Plant

Cynllun beicio i’r gwaith

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Cynllun Benthyciad ar gyfer Tocyn Teithio Tymor

Mynediad i Linell Gymorth Bupa

Cynllun disgownt aelodaeth gym a chlwb iechyd

Cymorth Astudio ar gyfer datblygiad proffesiynol

Llwyfan budd-daliadau gwirfoddol ‘You Choose’ sy’n rhoi cyfle i weithwyr i gael disgownts masnachol (gan gynnwys siopa, gwyliau, sicrwydd yswiriant torri i lawr, gostyngiadau ar yswiriant) and llawer o gynigion gwych eraill. Yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal

11

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Sut i wneud caisGofynnwch am becyn cais a’i gwblhau a’i ddychwelyd at:

Jo-ann Litherland, Locality HR Administrator, Victim Support, Winton House, Stoke Road, Shelton, Stoke-on-Trent ST2 2RW

Neu e-bostiwch: [email protected]

Dyddiad cau derbyn ceisiadau ydy Chwefror 20fed, 2015

Bwriedir cynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar Fawrth 2ail, 2015

12

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Datganiad cyfleoedd cyfartal Cyflogwr cyfleoedd cyfartal ydy Cymorth i Ddioddefwyr. Ein polisi ydi sicrhau nad oes yr un dioddefwr, tyst, gweithwyr cyflogedig, gwirfoddolwr, ymddiriedolwr, nag ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar seiliau ethnigrwydd, crefydd/ffydd, oed, rhywedd/hunaniaeth o ran rhywedd, statws priodasol, gogwydd rhywiol neu anabledd, neu dan anfantais oherwydd amgylchiadau neu ofynion na ellir eu cyfiawnhau.

Caiff meini prawf a gweithdrefnau eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu dewis a’u trin ar sail eu rhinweddau a’u galluoedd perthnasol. Rhoddir cyfle cyfartal i weithwyr a , lle bo’n briodol, hyfforddiant arbennig i’w galluogi i symud ymlaen o fewn i’r sefydliad.Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymorth i Ddioddefwyr wedi ymrwymo i raglen gweithredu er mwyn gwneud y polisi yma’n effeithiol a bydd yn tynnu sylw pob gweithiwr at hyn.

Datganiad amrywiaeth Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad amrywiol, wedi’i gyfoethogi gan gyfraniad pob unigolyn a chymuned. Rydyn ni’n cydnabod bod rhagfarn a chamwahaniaethu’n parhau i olygu triniaeth annheg i lawer o bobl. Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hyn trwy:

sicrhau effeithiolrwydd ein polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

bod yn glir ac agored ynglŷn â’n gwerthoedd ac yn eu hyrwyddo gwrando, dysgu a chymryd camau i wireddu newid.

Ein datganiad amrywiaeth ydy “Mae amrywiaeth yn bwysig ac rydyn ni’n ei werthfawrogi”

13

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Nodiadau o gyfarwyddyd i ymgeiswyr Cwblhau’r ffurflen gais/ mynegi diddordebNi allwn ystyried ond y wybodaeth a dderbyniwn gynnoch chi, felly mae hi’n hanfodol bwysig eich bod yn dweud popeth wrthyn ni am yr hyn sy’n eich gwneud yn ymgeisydd delfrydol am y swydd hon. Dydy hi ddim yn ddigon dweud fod gynnoch chi’r profiad, sgiliau a’r gallu perthnasol heb eich bod yn rhoi esiamplau penodol o hynny. Cyngor da ydy cyfeirio at y disgrifiad swydd a meddwl sut bydd eich profiad yn gweddu i’r gofynion a’u cefnogi gydag enghreifftiau perthnasol o’r gwaith fuoch chi’n ei wneud.

Rhestr fer

Fel arfer bydd o leiaf dau berson ar y panel dewis a chaiff eich ffurflen gais ei hystyried yn wrthrychol. Fe fydden nhw’n asesu pa un ai eich bod wedi ateb y meini prawf ar gyfer rhestr fer yn y manylion unigol a pha un ai eich bod wedi darparu tystiolaeth ddigonol.

Fe fydd y panel dewis yn gosod ymgeiswyr ar y rhestr fer sydd wedi arddangos eu bod wedi ateb y gofynion orau. Cofiwch na all y panel dewis wneud tybiaethau ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i ysgrifennu ar eich cais, felly byddwch yn eglur ynglŷn â sut rydych chi’n cyfarfod â’r meini prawf.

Anabledd

Mae anabledd yn cael ei ddiffinio dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel ‘rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith croes sylweddol a hirdymor ar ei allu e neu ei gallu hi i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd cyffredin’. Mae anabledd hefyd yn cynnwys anableddau anweledig megis dyslecsia a chlefyd siwgr.

Fe fydd Cymorth i Ddioddefwyr yn ceisio sicrhau fod pobl gydag anableddau sy’n ateb safonau’r meini prawf ar gyfer rhestr fer yn cael eu gwarantu cyfweliad.

Os fyddwch yn llwyddiannus i gael y swydd, ac yn datgan anabledd, fe fyddwn yn gofyn ichi gwblhau ffurflen ‘addasiadau rhesymol’ er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

Nodwch: Gan mai trwy CV mae’r broses cais, gofynnir i’r ymgeiswyr ddatgan yn glir mewn llythyr eglurhaol pa un ai eu bod angen addasiadau er mwyn mynychu cyfweliad.

Cyfweliad

Os fyddwch yn llwyddiannus ar gam y rhestr fer, fe’ch gwahoddir i gyfweliad, a fydd yn para oddeutu 60 munud. Fel arfer bydd o leiaf ddau berson ar y panel ac fe ofynnir cyfres o

14

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

gwestiynau strwythuredig ichi yn seiliedig ar y galluoedd a amlinellir yn y disgrifiad swydd, felly fe fyddai’n ddefnyddiol ichi fod yn ymwybodol o hyn cyn y cyfweliad.

Dulliau dewis eraill

Gan ddibynnu ar y swydd, efallai y byddwn yn defnyddio dulliau dewis eraill yn ogystal â’r cyfweliad. Mae’r rhain yn aml yn benodol iawn i’r swydd ac yn debygol o olygu cyflawni tasg a fyddai’n rhan o’r rôl, megis ymarfer ysgrifenedig. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn ichi roi cyflwyniad i’r panel. Os ydych yn ei chael hi’n anodd cynnal asesiad oherwydd anabledd, cysylltwch â ni er mwyn inni ganfod ffordd briodol i asesu’ch cyfaddasrwydd i’r rôl.

15

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Geirda

Wnawn ni ddim ond gofyn am eirda i’r ymgeiswyr hynny a fu’n llwyddiannus yn dilyn cyfweliad. Bydd angen i’r manylion geirda a roddwch ar eich ffurflen gais neu mewn ymateb i gais gynnwys eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar a geirda gwaith (cyflogedig neu ddi-dâl) neu addysgol arall. Ni dderbynnir geirda personol gan ffrindiau neu deulu. Bydd holl gynigion cyflogaeth yn amodol ar ddau eirda sy’n bodloni Cymorth i Ddioddefwyr.

Hanes troseddol

Mae rhai swyddi gyda Chymorth i Ddioddefwyr wedi’u heithrio oddi wrth rhai darpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 gan eu bod yn ymwneud â gweithio gydag oedolion neu blant bregus, neu fynediad at wybodaeth sensitif. Mewn achosion fel hyn, mae gan Cymorth i Ddioddefwyr yr hawl i ofyn am fanylion pob collfarn sydd wedi darfod a’r rhai sydd heb ddod i ben.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich apwyntio i un o’r swyddi hyn, byddwn yn gofyn ichi gwblhau ffurflen Cynllun Datgelu a Gwahardd (CDG) a bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth yn amodol ar wiriad CDG boddhaol ac arwyddo i Wasanaeth Diweddaru CDG.

Bydd cofnod troseddol ddim o reidrwydd yn eich atal rhag cael eich cyflogi gan Cymorth i Ddioddefwyr a byddwn yn ystyried pob cais yn unigol. Mae copïau llawn o’n polisi ar recriwtio cyn-droseddwyr a’n polisi delio’n ddiogel gyda golwg ar wiriadau CDG ar gael trwy wneud cais.

Trwydded i weithio

Gall y bydd angen trwydded waith i weithio yn y DU ar unrhyw ymgeisydd nad ydy’n ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd. Os cewch eich apwyntio, fe wnawn ni wneud cais ar eich rhan os gallwn ni. Bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth a wnawn yn amodol ar dderbyn trwydded waith boddhaol yn yr amgylchiadau yma.

Ymgeiswyr llwyddiannus

Os ydych yn llwyddiannus, fe fyddwn fel arfer yn eich ffonio i gynnig y swydd ar lafar. Fe fyddwn hefyd yn anfon cynnig ysgrifenedig ffurfiol atoch ac fe fydd hyn yn amodol ar wiriadau cyngyflogaeth sy’n foddhaol i ni.

Iechyd

Os ydych yn llwyddiannus ac y gwneir cynnig cyflogaeth ichi, fe fyddwn wedyn yn anfon atoch holiadur addasiadau rhesymol ôl-gynnig. Pwrpas hyn fydd canfod pa addasiadau rhesymol gall y sefydliad eu gwneud i’ch cefnogi yn eich rôl o’r dechrau un. Dan amgylchiadau arbennig, os oes angen addasiadau penodol, mae’n bosib y byddwn yn gwneud cais am gyngor arbenigol gan eich meddyg teulu nau arbenigwr iechyd galwedigaethol.

Ymgeiswyr aflwyddiannus

16

Pecyn cais – Swyddog Gofal i Ddioddefwyr – Dyfed Powys

Er y buaswn yn dymuno hysbysu pob ymgeisydd pa un ai eu bod wedi bod yn llwyddiannus ar gam y rhestr fer ai peidio, fel elusen, rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r costau sydd ynghlwm â hynny. Felly, os na fyddwch wedi clywed gynnon ni o fewn pedair wythnos i’r dyddiad cau, gallwch gymryd yn ganiataol na fuoch yn llwyddiannus i gyrraedd y rhestr fer y tro hyn. Fe fyddwn ni, fodd bynnag, yn cysylltu â’r ymgeiswyr llwyddiannus trwy ysgrifennu atyn nhw wedi’r cyfweliad.

Adborth

Os buoch yn aflwyddiannus mewn cyfweliad ac yr hoffech dderbyn adborth, medrwch wneud cais am hyn gan y panel dewis. Cewch fanylion cyswllt ynglŷn â hyn wedi’r cyfweliad.

Gwarchod Data

Fe fyddwn yn trin eich cais yn gwbl gyfrinachol. Fe fyddwn yn cadw’r wybodaeth a gasglwyd gynnon ni trwy’r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr aflwyddiannus ar ffeil am chwe mis ac yna’i garpio. Os fyddwch yn llwyddiannus, fe fyddwn yn cadw gwybodaeth berthnasol ar eich ffeil personél.

Gobeithiwn y byddwch yn llwyddiannus yn eich cais. Fodd bynnag, os na fyddwch chi, peidiwch â gadael i hynny eich digalonni a’ch cadw rhag ceisio am swyddi eraill o fewn y sefydliad. Diolch am eich diddordeb yn Cymorth i Ddioddefwyr.

Dolenni cyswllt defnyddiol:

Cymorth i Ddioddefwyr - www.victimsupport.org.uk

Comisiynydd Heddlu a Throseddu – www.dyfed-powys.pcc.police.uk

17