Download - Amcanion y modiwl
Modiwl 1: Cyflwyniad i addysg ariannol a lle mae ‘Rheoli arian’ wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru
Amcanion y modiwl
• Gwybodaeth am sail resymegol a phwrpas addysg ariannol.
• Rhoi syniad o ble mae gallu ariannol wedi’i gynnwys o fewn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru, a phwysigrwydd cydlynu addysgu rhwng meysydd pwnc gwahanol yn yr ysgol.
• Cyfleoedd i ystyried datblygu sgiliau fel y nodir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh).
Sail resymegol a phwrpas addysg ariannol
• Mae cyfle unigryw gan ysgolion a cholegau i feithrin agweddau cadarnhaol at gyllid mewn plant ifanc a chyrraedd pob rhan o gymdeithas, gan gynnwys nifer y gall fod yn llawer mwy anodd eu cyrraedd yn nes ymlaen.
• Nod addysg ariannol yw rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i ddysgwyr i’w galluogi i reoli eu harian yn dda. Mae hefyd yn archwilio agweddau, emosiynau ac ymddygiad tuag at arian.
• Mae addysg ariannol yn annog dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am bynciau megis anghenion a dyheadau, cyllidebu, benthyca, cynilo a gwerth gorau am arian.
Gallu ariannolGellir rhannu gallu ariannol yn dair thema gydberthynol:• gwybodaeth a dealltwriaeth ariannol: cael gwybodaeth a dealltwriaeth o natur arian a rhyw syniad o’i swyddogaeth a’i ddefnydd
• sgiliau a chymhwysedd ariannol: gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion ariannol ar draws ystod o gyd-destunau er mwyn delio â materion rheoli arian o ddydd i ddydd a dechrau ystyried sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol
• cyfrifoldeb ariannol: datblygu’r gallu i lunio barn dda ynghylch sut y gall arian gael ei ddefnyddio’n effeithiol neu ei wastraffu.
Pwyntiau i’w hystyried wrth gynllunio i gyflwyno addysg
ariannol mewn ysgolion• Ar ddechrau’r broses gynllunio, dylai staff ysgol ystyried natur y gymuned ysgol ac anghenion a chefndiroedd ei dysgwyr.
• Bydd gwahaniaeth mewn cefndir a phrofiad yn effeithio ar brofiad dysgwyr o arian a chyllid.
• Mae profiad rhai dysgwyr o arian yn parhau i fod o fewn economi arian parod i raddau helaeth.
• Gall amrywiaeth ddiwylliannol roi profiadau amrywiol/gwahanol i ddysgwyr am arian.
Gall cyflwyno addysg ariannol ar draws y cwricwlwm:
• ddarparu cyfleoedd dysgu perthnasol, heriol ac ymgysylltiol i bob dysgwr gan gysylltu dysgu â bywyd y tu allan i’r ysgol
• datblygu sgiliau datrys problemau dysgwyr yng nghyd-destun bywyd go iawn
• annog dysgwyr i wneud cysylltiadau rhwng gwahanol bynciau yn y cwricwlwm
• annog trosglwyddo sgiliau a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd.
‘Mae’r hafaliad yn syml: dim addysg ariannol yn hafal i benderfyniadau ariannol gwael, yn hafal i ddyled bersonol a gofid, ac iechyd gwael sy’n hafal i broblem economaidd-gymdeithasol, genedlaethol.’
(pfeg*, Tachwedd 2009)
•Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen addysg ariannol yn y DU. Rhagor o fanylion i’w gweld yn www.pfeg.org
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Wyth oed yw’r oedran
cyfartalog pan fydd plant o’r DU yn cael eu ffôn symudol cyntaf.Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)
www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Deg oed yw’r oedran cyfartalog pan fydd plant yn
dechrau prynu eitemau ar-lein.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Mae 1 ym mhob 5 plentyn wedi defnyddio cerdyn eu rhieni neu eu
brodyr a’u chwiorydd hŷn i brynu eitemau ar-
lein.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Mae dros 75% o blant 7–11 oed eisoes yn cynilo
ar gyfer y dyfodol.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Mae 54% o bobl ifanc 17 oed yn
dweud eu bod nhw mewn dyled i’w
teulu a’u ffrindiau.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Mae 90% o blant yn eu harddegau yn
dweud eu bod nhw’n poeni am arian bob
dydd.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Mae 51% o blant yn eu harddegau yn
dweud yr hoffen nhw ddysgu sut i reoli
faint maen nhw’n ei wario.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Mae 26% o blant yn eu harddegau yn
meddwl bod cardiau credyd neu
orddrafftiau ar gyfer ‘gorwario’.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Mae 93% o athrawon a rhieni/gofalwyr yn
meddwl y dylai addysg cyllid personol gael ei
haddysgu mewn ysgolion.
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil
Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009) www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
www.estyn.gov.uk/cymraeg/docViewer-w/200982.6/Materion%20Ariannol:%20%20darpariaeth%20addysg%20ariannol%20i%20bobl%20ifanc%20rhwng%207%20ac%2019%20mlwydd%20oed%20mewn%20ysgolion%20cynradd%20ac%20uwchradd%20yng%20Nghymru%20-%20Mehefin%202011/?navmap=30,119,196,
Materion Ariannol: darpariaeth addysg ariannol i bobl ifanc rhwng 7 ac 19 mlwydd oed mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
yng NghymruMae adroddiad 2011 Estyn Materion Ariannol yn cyflwyno saith astudiaeth achos arfer orau o’r ymagweddau a arddelir gan ysgolion i ddatblygu addysg ariannol. Mae’n defnyddio tystiolaeth a gasglwyd o ymweliadau ag 20 o ysgolion ac yn adrodd ar gasgliadau mewn perthynas ag addysg ariannol yn seiliedig ar y canlynol:• sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ariannol dysgwyr• cynllunio a chyflwyno addysg ariannol• gweithio mewn partneriaeth• datblygiad staff ac adnoddau• arweinyddiaeth.
Cyfleoedd yn y cwricwlwm i gyflwyno addysg ariannol
Mae elfennau penodol o addysg ariannol wedi cael eu cynnwys yn adnoddau canlynol Llywodraeth Cymru:• Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru (2008)• Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) (2013)• Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru (2008)• Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru (2008)• Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru (2008).
Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru
Datblygiad MathemategolYstod: Mesurau ac arian
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:• deall a defnyddio arian: – datblygu ymwybyddiaeth o werth arian a’r defnydd a wneir ohono, a hynny
trwy gyfrwng gweithgareddau chwarae rôl i ddechrau – adnabod, didoli a defnyddio arian mân; cyfrifo cyfansymiau a rhoi newid.
Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru
Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 2Ystod: Mesurau ac arian
Dylid rhoi cyfleoedd i’r disgyblion:2. deall a defnyddio arian gwybod a defnyddio’r dull confensiynol o gofnodi arian darganfod atebion bras i’r pedwar gweithrediad, a’u defnyddio i ddatrys
problemau sy’n cynnwys arian deall dangosydd cyfrifiannell mewn perthynas ag arian, e.e. bod dangosydd 21.4 (punt) yn golygu £21.40 bod yn ymwybodol o arian cyfred arall.
Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru
Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 3Ystod: Mesurau ac arian
Dylid rhoi cyfleoedd i’r disgyblion:2. deall a defnyddio arian deall a defnyddio’r dull confensiynol o gofnodi arian cyfrifo gydag arian a datrys problemau sy’n ymwneud â chyllidebu, cynilo a
gwario, gan gynnwys cyfraddau cyfnewid arian cyfred dehongli dangosydd cyfrifiannell mewn perthynas ag arian.
Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru
Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 4Ystod: Mesurau ac arian
Dylid rhoi cyfleoedd i’r disgyblion:2. deall a defnyddio arian deall a defnyddio’r dull confensiynol o gofnodi arian cyfrifo gydag arian a datrys problemau sy’n ymwneud â chyllidebu, cynilo a
gwario, gan gynnwys cyfraddau cyfnewid arian cyfred, elw a cholled, disgownt, hurbwrcas, y bargeinion gorau, biliau tŷ, llog cyfansawdd a chyfraddau cyfnewid arian cyfred dehongli dangosydd cyfrifiannell mewn perthynas ag arian.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Cyfnod Allweddol 2 deilliannau dysguYstod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ddeall: bod arian yn cael ei ennill trwy weithio ac y gall arian brynu nwyddau a gwasanaethau pwysigrwydd gofalu am eu harian a’r manteision sy’n gysylltiedig â chynilo arian yn
rheolaidd.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Cyfnod Allweddol 3 deilliannau dysguYstod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ddeall: canlyniadau economaidd a moesegol y penderfyniadau ariannol personol y maent yn eu
gwneud fel defnyddwyr, e.e. Masnach Deg sut i reoli’u materion ariannol personol yn fedrus a sylweddoli bod cynilo arian yn arwain at
annibyniaeth ariannol.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Cyfnod Allweddol 4 deilliannau dysguYstod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr ddeall: eu hawliau fel defnyddwyr a’u cyfrifoldebau o safbwynt rheoli cyllideb pwysigrwydd cynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol, a sut i gael gafael ar gyngor ariannol.
Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru
Cyfnod Allweddol 3 deilliannau dysguYstod: Deall y byd gwaith
Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr: archwilio priodoleddau entrepreneuriaid a rôl menter wrth greu cyfoeth.
Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru
Cyfnod Allweddol 4 deilliannau dysguYstod: Deall y byd gwaith
Dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr: archwilio rôl menter/creu cyfoeth a datblygu eu gallu eu hunain i weithredu mewn
ffyrdd entrepreneuraidd.
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh)
Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd:
• Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol• Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif• Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur• Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.
Cydran rhifedd y FfLlRh
Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif
Elfennau:• Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau• Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb• Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig• Amcangyfrif a gwirio• Rheoli arian
Edrychwch yn fwy manwl ar y sgiliau a nodir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh.
Ble yn eich cwricwlwm ysgol neu yn eich addysgu mae cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu’r sgiliau hyn?
Cydran rhifedd y FfLlRh
Deilliannau dysgu’r FfLlRh
Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Canolbwyntir yma ar yr elfen ‘Rheoli arian’.
Deilliannau dysgu Cyfnod Sylfaen y FfLlRh
Rheoli arianTasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’. Rheoli arian
Mae dysgwyr yn gallu:
Dosbarth derbyn
• defnyddio darnau arian 1c, 2c, 5c, a 10c i dalu am eitemau.
Blwyddyn 1 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at 20c• canfod beth yw’r cyfanswm a rhoi newid o 10c.
Blwyddyn 2 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £1• canfod beth yw’r cyfanswm a rhoi newid o luosrifau 10c.
learning.wales.gov.uk/resources/nlnf/?skip=1&lang=cy
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 2 y FfLlRh
Rheoli arianTasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.
Rheoli arian
Mae dysgwyr yn gallu:
Blwyddyn 3 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £2 a chyfrifo’r newid
• trefnu a chymharu eitemau hyd at £10• cofnodi arian a wariwyd a chynilion.
Blwyddyn 4 • defnyddio arian i dalu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid• rhoi eitemau yn eu trefn a’u cymharu hyd at £100• adio a thynnu cyfansymiau llai na £10 gan ddefnyddio’r nodiant cywir,
e.e. £6.85 – £2.76• rheoli arian, cymharu costau rhwng adwerthwyr gwahanol a
phenderfynu beth y gellir ei brynu o fewn cyllideb benodedig.
Blwyddyn 5 • cymharu a rhoi eitemau mewn trefn o ran cost, hyd at £1 000• adio a thynnu cyfansymiau llai na £100 gan ddefnyddio’r nodiant
cywir, e.e. £28.18 + £33.45• cynllunio ac olrhain arian a chynilion drwy gadw cofnodion cywir• deall bod cyllidebu’n bwysig.
Blwyddyn 6 • defnyddio’r termau elw a cholled mewn gweithgareddau prynu a gwerthu a gwneud cyfrifiadau syml ar gyfer hyn
• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifon banc
• cymharu prisiau a deall beth sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 3 y FfLlRh
Rheoli arianTasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.
Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:
Blwyddyn 7 • defnyddio elw a cholled mewn cyfrifiadau prynu a gwerthu• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon
banc, gan gynnwys cardiau banc• gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â
gostyngiadau a chynigion arbennig.
Blwyddyn 8 • gwneud cyfrifiadau mewn perthynas â TAW, cynilo a benthyca
• gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cyllidebu, cynilo (gan gynnwys deall adlog) a benthyca.
Blwyddyn 9 • cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor a graddfeydd cyfnewid• deall y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a
buddsoddi• disgrifio pam bod yswiriant yn bwysig a deall effaith peidio â
threfnu yswiriant.
Ymestyn • defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog• deall a dangos y broses o gyfnewid arian tramor• deall a chyfrifo treth incwm.
Ar drywydd dysgu yn y FfLlRhRheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:
Camau A • rhoi darn arian yn gyfnewid am eitem ar ôl gweld eraill yn gwneud hynny mewn siop chwarae rôl (efallai nad oes ganddynt unrhyw syniad o werth y darn arian, ond byddent yn cymryd rhan yn y rhyngweithio cymdeithasol).
Camau B • pwyntio at eitem o’u dewis o blith dwy neu dair eitem mewn siop chwarae rôl yna’n rhoi’r darn(au) arian yn gyfnewid am yr eitem
• canfod darnau arian o gasgliad cyfyngedig sydd yr un peth â’r darnau arian a ddangosir gan oedolyn.
Camau C • rhoi arian yn gyfnewid am eitem mewn siop go iawn pan fydd y darnau arian a’r dewis wedi’u paratoi ymlaen llaw
• didoli darnau arian yn unol ag un nodwedd, e.e. lliw, maint neu siâp.
Os yw’n berthnasol i’ch dysgwyr chi, oes cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau uchod? Ychwanegwch eich syniadau at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.
Sut gallai dysgwr sydd â gallu ariannol edrych yn yr ysgol gynradd?
Sut gallai dysgwr sydd â gallu ariannol edrych mewn lleoliad 11–19?
Gallu ariannol
Gall y ddogfen ganllawiau Addysg ariannol i ddysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru helpu gyda’r cwestiynau uchod.
Mae’r ddogfen ganllaw Addysg ariannol i ddysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru yn nodi rhai cyfleoedd i ddatblygu addysg ariannol ar draws y cwricwlwm (tudalennau 27–28). Gall ysgolion ddefnyddio’r canllaw hwn ochr yn ochr â chydran rhifedd y FfLlRh i helpu i ddatblygu sgiliau ariannol dysgwyr fel y’u hamlinellir yn yr elfen ‘Rheoli arian’.
Mae’r modiwlau eraill yn y pecyn dysgu hwn yn edrych yn fwy manwl ar bynciau penodol ac yn cynnig syniadau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
Cyfleoedd trawsgwricwlaidd