CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
1
Cynnwys
Adroddiad y Rheolwr Pwrcasu ........................................................................................... 4
Cyflwyniad ......................................................................................................................... 4
Datganiad Polisi Caffael Cymru (2012) .............................................................................. 5
Gwiriadau Ffitrwydd Pwrcasu ............................................................................................ 6
Pwrcasu Cydweithredol ..................................................................................................... 6
i) Cydweithio o fewn y Sector AU ............................................................................... 7
ii) Pwrcasu Cydweithredol Cymru gyfan...................................................................... 8
Adolygiad Gwariant ............................................................................................................... 9
Trosolwg ............................................................................................................................ 9
Cardiau Pwrcasu ............................................................................................................. 14
Datblygu Staff ..................................................................................................................... 17
Marchnata ........................................................................................................................... 17
Edrych Ymlaen.................................................................................................................... 18
Llun y clawr blaen drwy ganiatâd caredig Prifysgol Abertawe
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
2
Dyfarnu 25 o gytundebau cydweithredol newydd [gyda 5 yn cael eu rheoli gan y
Gwasanaeth Pwrcasu Cenedlaethol (NPS)]
Mynediad at 120 o gytundebau cydweithredol yn y Sector AU
£79.3M wedi’i osod drwy gytundebau cydweithredol (33.0% o gyfanswm y gwariant y gellir
effeithio arno)
£73.9M wedi’i osod drwy gytundebau cydweithredol a reolir gan y Sector AU
Cyflawni arbedion o £7.3M drwy ddefnyddio Cytundebau Cenedlaethol a Rhyngranbarthol
AU
£77.7M wedi’i osod gyda chyflenwyr o Gymru (23.5% o gyfanswm y gwariant y gellir
dylanwadu arno)
Darparu rhyngwyneb gyda Llywodraeth Cymru/Gwerth Cymru mewn perthynas â
mabwysiadu Polisïau Pwrcasu Llywodraeth Cymru
Pob sefydliad wedi cyfranogi yn rhaglen Gwiriad Iechyd Ffitrwydd Pwrcasu Gwerth Cymru
Cynnydd o 15.7% mewn gwariant cardiau pwrcasu ers lefelau 2013/14
Ymgysylltu’n llawn gyda chydweithwyr yn y Sector AU, Gwasanaethau Pwrcasu
Cenedlaethol (Cymru) a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod gwybodaeth ac ymarfer gorau’n
cael eu rhannu
Arddangosfeydd cyflenwyr lwyddiannus wedi’u cynnal ym Mhrifysgolion Caerdydd ac
Abertawe
Adroddiad y
Cadeirydd a
Chrynodeb
Gweithredol
Mewn cyfnod heriol, mae’r pwysau mae’r
Sector Addysg Uwch (AU) yng Nghymru yn
eu hwynebu yn niferus ac amrywiol. Mae
cystadleuaeth yn y sector yn galed ac mae
sefydliadau’n ymateb i’r heriau i gyflenwi’r
safonau uchaf o ran addysgu, ymchwil a
phrofiad y myfyriwr.
Wrth ymdrechu i gwrdd â’r heriau hyn mae’n hanfodol fod sefydliadau’n sicrhau gwerth am arian.
Yn hyn o beth mae swyddogaethau pwrcasu’n chwarae rôl bwysig. O fewn y Sector AU ac ar lefel
Cymru gyfan, ceir cydnabyddiaeth y gall agwedd gydweithredol at bwrcasu sicrhau datrysiadau
cost effeithiol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau lle ceir synergeddau.
Mae Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW) mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi ei
aelodau wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn, ac mae’r canlynol ymhlith llwyddiannau allweddol
2014/15:
Ffigur. 1
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
3
Mae proffil uchel i bwrcasu o hyd yng Nghymru, ac mae wedi sicrhau diddordeb gwleidyddol
sylweddol o ran ei ddylanwad a’i allu i gyflawni amcanion polisi allweddol. Ym mis Rhagfyr 2012,
cyflwynodd y Gweinidog dros Gyllid a Busnes y Llywodraeth Ddatganiad Polisi Caffael Cymru, gan
gyhoeddi naw thema allweddol sy’n sylfaen i’r amcan o gyflenwi gwerth am arian drwy bwrcasu
cyhoeddus yng Nghymru. Caiff y themâu hyn sylw drwy gydol yr adroddiad hwn a cheir
enghreifftiau i ddangos sut mae HEPCW yn cynorthwyo aelodau i gyflawni’r datganiadau polisi. Yn
ogystal mae HEPCW yn parhau i ymgysylltu â Chonsortia Pwrcasu UK Universities ar y mentrau
hynny sy’n cyd-fynd yn agosach â gofynion ac amcanion y sector.
Yn 2014/15, cyfranogodd holl sefydliadau AU Cymru yn y rhaglen Gwiriad Iechyd Pwrcasu a reolir
gan Gwerth Cymru. Mae canlyniadau’r ymarfer yn dangos bod meysydd lle gellid gwella ac yn
2015/16, bydd sefydliadau’n datblygu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr
adroddiad hwn. Bydd HEPCW yn ystyried ei amcanion ei hun i sicrhau bod ei weithgareddau’n
cyd-fynd â rhai ei aelodau, i gynorthwyo â chyflenwi’r argymhellion.
Hoffwn ddiolch i’r holl randdeiliaid; ni fyddai’r consortiwm yn gallu llwyddo heb eu cefnogaeth a’u
cyfranogiad.
Mike Davies
Cadeirydd HEPCW
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
4
Adroddiad y Rheolwr Pwrcasu
Cyflwyniad
Yn ôl y diffiniad yn ei gyfansoddiad, cenhadaeth HEPCW yw “Cynorthwyo Sefydliadau Addysg
Uwch yng Nghymru i gyflawni gwerth am arian i randdeiliaid drwy fabwysiadu agwedd
strategol at bwrcasu cydweithredol”.
Er mwyn gwneud hyn, mae HEPCW yn darparu cymorth llawn i 9 sefydliad AU a gwasanaethau
cyfyngedig i 3 coleg Addysg Bellach (AB) yng Nghymru ac HPC Cymru.
Mae HEPCW yn elwa ar rwydweithiau aeddfed, effeithiol yn y sector AU a sector cyhoeddus
Cymru, felly mae mewn sefyllfa dda i gefnogi ei aelodau i gyflenwi amcanion y sefydliadau. Yn
weithrediadol, mae’n cynrychioli barn y sector ar grwpiau strategol ar lefel Cymru gyfan a barn
ranbarthol yn y Sector AU yn genedlaethol. Caiff y gwasanaethau hyn eu cyflenwi drwy dîm craidd
o 2 bersonél llawn amser, gyda chymorth adnoddau yn yr aelod sefydliadau. Mae’r strwythur hwn
yn caniatáu i HEPCW fod yn hyblyg ac ymatebol, a chydweddu ei amcanion gydag amcanion ei
aelodau.
Mae’r adran hon yn archwilio’r fframwaith trosfwaol y mae HEPCW’n gweithredu ynddo, ac yn
amlygu cyflawniadau allweddol Datganiad Polisi Caffael Cymru 2012 ac agenda pwrcasu
cydweithredol y Sector AU. Yn ogystal mae’r adroddiad yn darparu data allweddol ar ddadansoddi
gwariant, lefelau o gaffael cydweithredol ac arbedion a gyflawnwyd drwy fabwysiadau trefniadau
pwrcasu cydweithredol.
Roedd aelodaeth HEPCW yn ystod cyfnod yr adolygiad fel a ganlyn:
Ffigur2
Aelodau Llawn Aelodau Cyswllt
Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd Coleg Gwent
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Coleg Sir Gâr
Prifysgol Abertawe Prifysgol Glyndŵr
Prifysgol De Cymru Coleg Gŵyr Abertawe
Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant HPC Cymru
Cofrestrfa Prifysgol Cymru
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
5
Datganiad Polisi Caffael Cymru (2012)
Ym mis Rhagfyr 2012, lansiodd y Gweinidog Busnes y Llywodraeth a Chyllid Ddatganiad Polisi
Caffael Cymru, gan gyhoeddi naw thema allweddol a fyddai’n sylfaen i’r amcan o gyflawni gwerth
am arian drwy bwrcasu cyhoeddus yng Nghymru. Defnyddir hyn fel pwynt cyfeiriol allweddol yn yr
adroddiad hwn.
Ym mis Mehefin 2015, lansiwyd Datganiad Polisi diwygiedig, yn adeiladu ar lwyddiant ei
ragflaenydd a dynodi gweithgareddau allweddol ar gyfer cyflawni gwerth gorau am arian a budd
economaidd a chymdeithasol cynyddol drwy bwrcasu effeithiol. Bydd y datganiad polisi newydd
yn ffactor allwedol yn dylanwadu ar ddatblygiad cynlluniau gweithgaredd blynyddol HEPCW – fydd
yn gweld y consortiwm yn canolbwyntio ei ymdrechion ar ddarparu gwasanaethau sy’n cefnogi’r
aelodau i gyflawni cydymffurfiaeth â’r datganiad polisi.
Ar nifer o’r datganiadau polisi, mae HEPCW wedi mabwysiadu ac yn cymhwyso’r egwyddorion lle
bo’n briodol. Mae’r rhain yn cynnwys:
cwblhau Asesiadau Risg Cynaladwyedd ar gyfer unrhyw ymarferion pwrcasu
ystyried defnyddio cymalau budd cymunedol mewn cytundebau lle bo’n briodol
hysbysebu cyfleoedd ar GwerthwchIGymru
cynnal a chyhoeddi amserlen contractio
symleiddio prosesau tendro
datblygu strategaethau ‘lotiau’ sy’n galluogi cwmnïau lleol a/neu gwmnïau bach a
chanolig i gyflwyno ceisiadau lle bo’n briodol
ymgysylltu â chyflenwyr, gan gynnwys adborth a chyfarfodydd adolygu contract.
Ym mis Mehefin 2015, gwahoddwyd HEPCW ar ran y Sector AU i gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor
Busnes a Menter y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi’r Ymchwiliad i ddylanwadu ar foderneiddio
polisi caffael Ewrop. Roedd hwn yn gyfle i’r sector gynnig barn ar effaith polisi caffael Ewrop a
dangos ei lwyddiannau o ran cyflenwi buddiannau cymunedold rwy nifer o brosiectau adeiladu
mawr. Ceir trawsgrifiad o’r cyfarfod yma:
http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=228&MID=2993
Ffigur 3
Fel enghraifft sy’n dangos yr ymrwymiad uchod, yn 2014/15 cynhaliodd HEPCW ymarfer
pwrcasu cydweithredol mewn perthynas â chytundeb fframwaith ar gyfer Cyfarpar a
Gwasanaethau Clyweled. Gan fabwysiadu dull traws-swyddogaethol a rhyngranbarthol gyda’r
ddau Gonsortiwm Pwrcasu Prifysgolion arall yn y DU, hysbysebwyd y tendr ar
GwerthwchIGymru a dyfarnwyd y cytundeb ar sail ranbarthol. Galluogodd y dull hwn i gyflenwyr
llai a lleol gynnig am y cytundeb fframwaith. O’r 14 o gyflenwyr a enillodd le ar y cytundeb
fframwaith, mae 12 yn fusnesau bach a chanolig a 3 yng Nghymru. Yn galonogol, roedd 2 o’r
cyflenwyr llwyddiannus yng Nghymru yn llwyddiannus ar un Lot lle mae’r sail cwsmeriaid ar
draws y tri chonsortiwm cyfranogol. Fel rhan o’r cytundeb parhaus caiff ymdrechion eu
gwneud i ganfod cyfleoedd ar gyfer buddiannau cymunedol a chynhelir cyfarfodydd adolygu
rheolaidd gyda phob cyflenwr.
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
6
1
2 4
1
Ffigur 4 Gwiriadau Ffitrwydd Pwrcasu
2014 Lefel 4 – Uwch
Lefel 3 - Gweithio atUwch
Lefel 2 - Cydymffurfio
Lefel 1 - Gweithio atGydymffurfio
Lefel 0 - DimCydymffurfiaeth
Ffigur 5
Math Gwariant
Sector AU £73.9M
Cymru gyfan £2.1M
Arall £3.3M
Cyfanswm £79.3M
Gwiriadau Ffitrwydd Pwrcasu
Mae egwyddor 1 yn Natganiad Polisi Caffael Cymru 2012 yn datgan “Dylid cydnabod pwrcasu a’i
reoli fel swyddogaeth gorfforaethol strategol sy’n trefnu ac yn deall gwariant; yn dylanwadu ar
gynllunio cynnar a dylunio’r gwasanaeth a chymryd rhan mewn penderfyniadau i gynorthwyo â
chyflenwi amcanion trosfwaol”. I gyflawni hyn, bydd Llywodraeth Cymru’n sefydlu ‘model
aeddfedrwydd’ ar gyfer mesur datblygiad pwrcasu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a
hwyluso Rhaglen Gwirio Ffitrwydd Pwrcasu fydd yn cynnwys model hunanasesu i sefydliadau
cymwys.”
Mae’r model aeddfedrwydd yn nodi 4 lefel, a
dymuniad y Gweinidog yw bod pob corff sector
cyhoeddus yng Nghymru’n cyflawni Lefel 2 o leiaf –
Statws Cydymffurfio.
Yn 2014/15, bu 8 SAU yng Nghymru’n cyfranogi yn
y Rhaglen Gwiriad Ffitrwydd a cheir crynodeb o
ganlyniadau’r adolygiadau yn Ffigur 4
Pwrcasu Cydweithredol
Mae egwyddor 7 Datganiad Polisi Caffael Cymru 2012 yn datgan “Dylid ymdrin â meysydd o
wariant cyffredin ar y cyd gyda dulliau a manylebau safonol i leihau dyblygu, cael yr ymateb
gorau gan y farchnad, ymwreiddio ymarfer gorau a rhannu adnoddau ac arbenigedd.”
Mae Pwrcasu Cydweithredol yn sylfaen i holl waith y consortiwm ac mae’r sector AU wedi
cofleidio’r athroniaeth bod modd cyflawni arbedion drwy fabwysiadu agwedd gydweithredol at
bwrcasu nwyddau cyffredin a mynych. Mae nifer o gyfleoedd i gydweithio ar gael, ond y dulliau
mwyaf cyffredin a ddefnyddir gan aelodau HEPCW yw:
Cydweithio o fewn y Sector AU
Cydweithio ar sail Cymru gyfan
Cydweithio ar sail y DU
Yn Ffigur 5 ceir trosolwg o wariant a osodwyd
drwy drefniadau pwrcasu cydweithredol yn ystod
cyfnod yr adolygiad.
Oherwydd natur y nwyddau a gaiff eu pwrcasu,
dyw hi ddim yn syndod bod rhywfaint o ddyblygu
yn y trefniadau sydd ar gael ar lefel y Sector AU a Chymru-gyfan. Ar gyfer rhai nwyddau
cydnabyddir bod dull y Sector AU yn sicrhau gwell gwerth am arian na dull Cymru-gyfan, ac mae’r
un peth yn wir y ffordd arall. Rhaid ystyried nifer o ffactorau i bennu pa ddull yw’r mwyaf addas a
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
7
rôl HEPCW yw sicrhau bod aelod sefydliadau yn cael eu hysbysu’n llawn i’w cynorthwyo gyda
phenderfyniadau allweddol.
i) Cydweithio o fewn y Sector AU
Mae HEPCW yn parhau i weithio’n effeithiol ochr yn ochr â Chonsortia Pwrcasu UK Universities
(UKUPC) a grwpiau cenedlaethol, ac mae’n mwynhau perthynas flaengar a llwyddiannus gyda
nhw. Mae’r rhaglen cyd-gontractio’n cynnig portffolio cynhwysfawr ac aeddfed o gydweithio, ac yn
cynnwys nwyddau nad ydynt o fewn cylch gwaith yr NPS. Mae UKUPC yn cynnwys:
Ffigur 6
Advanced Procurement for Universities and Colleges (APUC)
HEPCW
London Universities Purchasing Consortium (LUPC)
North Eastern Universities Purchasing Consortium (NEUPC)
North Western Universities Purchasing Consortium (NWUPC)
Southern Universities Purchasing Consortium (SUPC)
The Energy Consortium (TEC)
The University Catering Officers (TUCO)
Yn weithrediadol, mae HEPCW yn rheoli nifer o gytundebau fframwaith Cenedlaethol,
rhyngranbarthol a chonsortiwm ar ran y Sector AU, ac mae’n cynrychioli ei aelodau ar nifer o
drefniadau pwrcasu cydweithredol, Gweithgorau Cenedlaethol a gweithgorau tendro. Er mwyn
cynnal cyswllt effeithiol â’r sector mae’n bwysig bod HEPCW yn cyfrannu at raglen gydweithredol y
Sector AU yn genedlaethol.
Yn ystod cyfnod yr adolygiad roedd 101 o gytundebau cydweithredol yn cael eu rhedeg gan
UKUPC ac ar gael i aelodau HEPCW. Ceir dadansoddiad o’r cytundebau yn ôl categori isod.
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
8
ii) Pwrcasu Cydweithredol Cymru gyfan
Ers mis Tachwedd 2013, mae Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru’n darparu gwasanaeth
caffael a phwrcasu canolog i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer categorïau gwariant
mynych a chyffredin. Mae cytundebau’r NPS ar gael i’r holl sefydliadau yng Nghymru sydd wedi
ymrwymo i fod yn rhan o NPS. Mae’r holl gytundebau o’r fath yn ymdrin â gofynion Datganiad
Polisi Caffael Cymru.
Mae gan y Sector AU, drwy HEPCW, gynrychiolaeth ar Fwrdd a Grŵp Cyflenwi’r NPS, sy’n
goruchwylio cyflenwi Cynllun Contractio’r NPS. Yn ogystal, mae HEPCW yn gweithredu fel pwynt
cyswllt allweddol ar gyfer Fforymau Categori’r NPS, a lle bo’n briodol bydd yn mynegi barn y sector
ar gyfleoedd caffael penodol.
Yn ystod cyfnod yr adolygiad, cafodd 18 o gytundebau eu rheoli gan NPS, wedi eu dosbarthu ar
draws categorïau gwariant fel y diffinnir yn Ffigur 8 isod. O’r rhain, roedd 4 cytundeb naill ai ddim
ar gael i’r Sector AU a/neu y tu hwnt i gwmpas gweithgaredd y Sector AU. Yn y cyfnod dan sylw,
dyfarnodd NPS 8 gytundebau fframwaith cydweithredol newydd (Ffynhonnell: GwerthwchIGymru)
0
2
4
6
8
10
12
14
16
18
20
Nifer
cytu
ndebau
Cytundebau Cydweithredol AU yn ôl Categori Gwariant
Fig. 7
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
9
(Ffynhonnell: NPS)
Ceir manylion am wariant ac arbedion a gyflawnwyd drwy ddefnyddio trefniadau a reolwyd gan yr
NPS mewn man arall yn yr adroddiad hwn.
Adolygiad Gwariant
Trosolwg
Roedd cyfanswm llawn gwariant aelodau y gellir dylanwadu arno (gyda gwariant â chyflenwr dros
£2k) yn 2014/15 yn £331.1M. Mae hyn yn gynnydd o 3.1% dros wariant y llynedd. Mae Ffigur 9
yn cynnwys golwg lefel uchel o wariant allweddol.
Ceir dadansoddiad o gyfanswm y gwariant yn ôl sefydliad isod. Mynegir y data drwy wir wariant i
bob sefydliad a chanran o gyfanswm gwariant yr aelodau.
0
1
2
3
4
5
6
Const Corp & BusSupport
Fleet ICT People Servs &Utilities
Prof Servs
Nifer
y c
ytu
ndebau
Cytundebau NPS yn ôl Categori Ffigur 8
£331M gwariant y gellir dylanwadu arno
• £241M gwariant y gellir ei effeithio
• £79.3M gwariant trefniadau cydweithredol
• £77.7M gwariant gyda chyflenwyr yng Nghymru
£241M gwariant y gellir ei effeithio
• £73.9M gwariant drwy drefniadau cydweithredol AU
• gwariant cydweithredol yn 33% o wariant y gellir ei effeitho
£77.7M gwariant gyda chyflenwyr Cymreig
• 99.9% o'r cyflenwyr Cymreig yn BBaCh (ffynhonnell - http://www.fsb.org.uk/media-centre/small-business-statistics)
Fig. 9
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
10
0
20
40
60
80
100
120
140
Aber Caerdydd CaerdyddFet
Abertawe PDC PCDDS CofrestrfaPC
£ M
iliy
nau
Gwariant Aelodau 2014/15 - £331M Ffigur 10
6%
35%
7%
34%
12% 5%
1%
Gwariant Sefydliadau fel Canran o Gyfanswm Gwariant
Aber
Caerdydd
Caerdydd Fet
Abertawe
PDS
PCDDS
Cofrestrfa PC
Ffigur 11
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
11
Ceir cymhariaeth o wariant aelodau yn 2013/14 a 2014/15 isod.
Mae’r mwyafrif o sefydliadau wedi gweld lleihad bach yn eu gwariant o’i gymharu â’r flwyddyn
flaenorol. Mae’n werth pwysleisio fodd bynnag bod Prifysgol Abertawe wedi adrodd cynnydd
sylweddol sy’n bennaf oherwydd adeiladu campws newydd Bae Abertawe, a gwblhawyd erbyn
blwyddyn academaidd 2015/16.
0
20
40
60
80
100
120
140
Aber Caerdydd CaerdyddFet
Abertawe PDS PCDDS CofrestrfaPC
£ M
iliy
nau
Cymharu Gwariant Sefydliadau 2013/14 a 2014/15
13/14 14/15
Ffigur 12
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
12
Dadansoddi Gwariant
At ddibenion yr adroddiad hwn mae’r holl wariant gydag unrhyw gyflenwr sydd dros £10k wedi’i
ddadansoddi. Y ffigur hwn yw £315.8m (95.1% o’r cyfanswm gwariant) ac mae’n gynnydd o
£29.2M (10.2%) ar y flwyddyn flaenorol.
Ceir dadansoddiad o wariant yn ôl categori yn Ffigur 13 isod. At ddibenion cymharu, caiff
manylion 2013/14 a 2014/15 eu darparu.
Ffigur 13
2013/14 2014/15
Categori Gwir (£M) % o Gyfanswm Gwariant
Gwir (£M)
% o Gyfanswm Gwariant
Clyweled 5.9 2.1 6.5 2.1
Llyfrau a Chyhoeddiadau Llyfrgell 9.6 3.4 10.8 3.4
Arlwyo (Cyfarpar a Chyflenwadau) 6.4 2.2 9.0 2.8
Meddygol 2.2 0.8 9.5 3.0
Amaethyddiaeth/Morol 1.6 0.6 1.4 0.4
Dodrefn a Chelfi 7.4 2.6 6.4 2.0
Porthorol 2.1 0.7 3.0 0.9
Cyfleustodau (Nwy etc) 16.8 5.9 15.5 4.9
TG (Caledwedd, Meddalwedd a Rhwydwaith) 22.4 7.8 28.0 8.9
Labordy (Cyfarpar a Chyflenwadau) 32.2 11.3 31.4 10.0
Gweithdy 3.1 1.1 5.3 1.7
Argraffu 2.7 0.9 3.5 1.1
Post a Ffôn 4.4 1.5 4.0 1.3
Gwasanaethau Proffesiynol 27.1 9.5 40.0 12.7
Deunydd Swyddfa a Phapur 3.8 1.3 3.6 1.1
Teithio (gan gynnwys gwestai) 10.3 3.6 14.5 4.6
Diogelwch 3.3 1.2 1.8 0.6
Cerbydau 0.4 0.1 0.5 0.2
Ystadau (Adeiladu, Gwaith Bach, Cyflenwadau a Diogelwch)
122.0 42.7 119.3 37.7
Amrywiol 2.1 0.7 1.8 0.6
Cyfanswm 285.8 100.0 315.8 100.0
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
13
Mae Ffigur 14 isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wariant a osodwyd drwy drefniadau
cydweithredol a reolir gan y Sector AU yn 2014/15. Mae hefyd yn dangos y lefel o wariant a
osodwyd gyda chyflenwyr yng Nghymru ar gyfer pob categori. Da yw nodi bod lefelau gwariant
cydweithredol a gwariant gyda chyflenwyr o Gymru wedi cynyddu mewn cymhariaeth â ffigurau
2013/14.
Ffigur14
2014/15
Categori Gwir (£M)
Nifer o Drefniadau Cydweithredol
Gwariant drwy Drefniadau Cydweithredol AU (£M)
Gwariant gyda Chyflenwyr Cymreig (£M)
Clyweled 6.5 3 3.5 2.1
Llyfrau a Chyhoeddiadau Llyfrgell 10.8 1 4.3 0.5
Arlwyo (Cyfarpar a Chyflenwadau) 9.0 18 4.2
4.3
Dillad - 1
Meddygol 9.5 1 1.8 0.5
Amaethyddiaeth/Morol 1.4 - 1.0
Dodrefn a Chelfi 6.4 3 3.3 4.1
Porthorol 3.0 5 0.9 1.7
Cyfleustodau (Nwy etc) 15.5 3 7.8 0.2
TG (Caledwedd, Meddalwedd a Rhwydwaith)
28.0 14 14.5 1.0
Labordy (Cyfarpar a Chyflenwadau)
31.4 17 13.0 2.8
Gweithdy 5.3 4 0.8 3.6
Argraffu 3.5 - - 2.0
Post a Ffôn 4.0 6 2.9 0.1
Gwasanaethau Proffesiynol 40.0 9 8.2 11.4
Deunydd Swyddfa a Phapur 3.6 4 3.0 0.1
Teithio (gan gynnwys gwestai) 14.5 3 5.5 4.3
Diogelwch 1.8 1 0.1 1.0
Cerbydau 0.5 1 - 0.4
Ystadau (Adeiladu, Gwaith Bach, Cyflenwadau a Diogelwch)
119.3 7 0.1 36.1
Amrywiol 1.8 - - 0.5
Cyfanswm 315.8 101 73.9 77.7
Gosodwyd £73.9M drwy’r holl drefniadau cydweithredol yn ystod cyfnod yr adolygiad. Roedd
cyfanswm y gwariant drwy drefniadau a reolwyd gan y Sector AU yn £73.9M.
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
14
Mae Ffigur 15 isod yn cynnwys manylion am wariant yn ôl sefydliad drwy drefniadau
cydweithredol.
Gosododd Adroddiad Diamond 2010 darged o 30% o wariant y gellir effeithio arno i’w osod drwy
drefniadau cydweithredol 2016. Er bod y targed wedi’i osod ar gyfer y Sector AU yn Lloegr, mae
HEPCW wedi cefnogi’r fenter hon ac wedi adrodd ar berfformiad yn ei adroddiadau blynyddol ers
2012. At ddibenion adrodd, y ffigur sylfaenol a ddefnyddir i bennu gwariant y gellir effeithio arno
yw’r cyfanswm o wariant y gellir dylanwadu arno llai prosiectau cyfalaf. Ar sail y dehongliad hwn,
roedd prosiectau cyfalaf yn cyfrif am £90.5M gan adael cyfanswm o wariant y gellir effeithio arno
o £240.6M. Roedd cyfanswm y gwariant cydweithredol yn 33.0% o wariant y gellir effeithio arno.
Cardiau Pwrcasu
Mae holl aelodau HEPCW wedi dechrau defnyddio cardiau pwrcasu fel modd i reoli gwariant
gwerth isel. Mae hyn yn cyd-fynd ag amcan Datganiad Polisi Caffael Cymru i symleiddio prosesau
safonol – “dylai prosesau caffael fod yn agored a thryloyw ac yn seiliedig ar ddulliau safonol a
dylent ddefnyddio systemau cyffredin sy’n lleihau cymhlethdod, cost, amserlenni a gofynion
cyflenwyr mewn ffordd briodol.”
Mae’r mwyafrif o sefydliadau wedi mabwysiadu Cerdyn Pwrcasu Cymru (a ddarperir drwy raglen
Gwasanaeth e-Gaffael Gwerth Cymru) a’r gobaith yn ystod 2015/16 yw y bydd yr holl aelodau’n
cyfranogi yn y rhaglen. Gwariwyd cyfanswm o £16.4M yn 2014/15 gyda’r Cardiau hyn, sy’n
gynnydd o 15.7% ar ystadegau perfformiad 2013/14. Caiff arbedion effeithlonrwydd a gyflawnir
gan sefydliadau drwy ddefnyddio’r cerdyn pwrcasu eu hadrodd ym mis Mawrth 2016 fel rhan o’r
broses flynyddol o adrodd ar arbedion effeithlonrwydd. Caiff teclyn cyfrif manteision e-bwrcasu
newydd Gwerth Cymru ei ddefnyddio i ddynodi arbedion perthnasol.
Arbedion
Gellir gweld yr arbedion a gyflawnwyd gan aelodau drwy ddefnyddio’r trefniadau contractio
cydweithredol cenedlaethol a rhyngranbarthol yn Ffigur 17 isod. Mae’r holl arbedion wedi’u cyfrif
yn unol â methodoleg a gytunwyd ar gyfer arbedion y Sector AU yn genedlaethol. Cyflawnodd y
0
5
10
15
20
25
30
35
Aber Caerdydd CaerdyddFet
Abertawe PDS PCDDS CofrestrfaPC
£ M
iliy
nau
Gwariant Aelodau drwy Drefniadau Cydweithredol Ffigur 15
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
15
cytundebau hyn gyfanswm arbedion o £7.3M (11.2% o wariant a osodwyd drwy drefniadau
cydweithredol a reolir gan AU) yn 2014/15. Nid yw hyn yn cynnwys arbedion a gyflawnwyd drwy
ddefnyddio cytundebau cydweithredol y tu allan i’r Sector AU, lle nad yw ffigurau’r arbedion ar
gael. Yn ogystal caiff unrhyw arbedion a wnaed drwy drefniadau contract lleol neu arbedion
proses eu hadrodd yn ôl y sefydliad ac maent y tu hwnt i gwmpas yr adroddiad hwn.
Mae Ffigur 18 isod yn cynnwys manylion am yr arbedion a wnaed gan sefydliadau drwy
ddefnyddio cytundebau cydweithredol y Sector AU, wedi’u mynegi fel canran o wariant pob
sefydliad a wnaed drwy’r trefniadau hyn.
0.00
0.50
1.00
1.50
2.00
2.50
3.00
3.50
4.00
Aber Caerdydd CaerdyddFet
Abertawe PDS PCDDS CofrestrfaPC
£ M
iliy
nau
Arbedion drwy ddefnyddio Trefniadau Cydweithredol y Sector AU
Ffigur 17
0.00%
2.00%
4.00%
6.00%
8.00%
10.00%
12.00%
Aber Caerdydd CaerdyddFet
Abertawe PDS PCDDS CofrestrfaPC
Arbedion fel Canran o Wariant Trefniadau AU
Ffigur 18
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
16
Mae Ffigur 19 yn cynnwys manylion am y cyfanswm gwariant a wnaed a’r arbedion a gyflawnwyd
gan aelodau llawn HEPCW drwy ddefnyddio cytundebau cydweithredol y Sector AU.
Ffigur 19
2014/15
Categori Gwariant drwy gytundebau
cydweithredol y Sector AU
(£M)
Arbedion drwy gytundebau
cydweithredol y Sector AU
(£M)
Clyweled 3.5 0.3
Llyfrau a Chyhoeddiadau Llyfrgell 4.3 -
Arlwyo (Cyfarpar a Chyflenwadau) 4.2 0.3
Meddygol 1.8 0.3
Amaethyddiaeth/Morol - -
Dodrefn a Chelfi 3.3 0.1
Porthorol 0.9 0.2
Cyfleustodau (Nwy etc) 7.8 0.4
TG (Caledwedd, Meddalwedd a Rhwydwaith)
14.5 1.4
Labordy (Cyfarpar a Chyflenwadau) 13.0 2.8
Gweithdy 0.8 0.2
Argraffu - -
Post a Ffôn 2.9 0.4
Gwasanaethau Proffesiynol 8.2 0.4
Deunydd Swyddfa a Phapur 3.0 0.3
Teithio (gan gynnwys gwestai) 5.5 0.2
Diogelwch 0.1 -
Cerbydau - -
Ystadau (Adeiladu, Gwaith Bach, Cyflenwadau a Diogelwch)
0.1 -
Amrywiol - -
Cyfanswm 73.9 7.3
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
17
Datblygu Staff
Dywed Egwyddor 2 Datganiad Polisi Caffael Cymru 2012 “Dylai’r adnoddau proffesiynol ar gyfer
gwariant caffael fod yn agored i’r lefel briodol o ymglymiad a dylanwad proffesiynol, gan
fabwysiadu’r meincnod sylfaenol o un gweithiwr caffael proffesiynol am bob £10m o wariant.”
Mae HEPCW wedi parhau i hyrwyddo datblygiad staff gan dynnu ar adnoddau sydd ar gael yn y
Sector AU ac ar sail Cymru gyfan. Ar lefel strategol, fe’i cynrychiolir ar Fwrdd yr Academi Caffael
Addysg Uwch ac ar Grŵp Llywio a Datblygu Gwerth Cymru. Yn weithrediadol mae’n hyrwyddo
ymarfer gorau a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael naill ai drwy’r Sector AU neu drwy Raglen
Hyfforddi Agored Gwerth Cymru.
Mae’r ddau yn ceisio sefydlu a datblygu fframweithiau priodol i gefnogi datblygiad proffesiynol
parhaus ymarferwyr pwrcasu yn y Sector AU a’r sector Cyhoeddus yng Nghymru yn eu tro. Yn
ogystal, mae HEPA a’r Academi Ymarfer Pwrcasu Gorau (PBPA) yn cefnogi’r proffesiwn pwrcasu
drwy gaffael a lledaenu astudiaethau achos o ymarfer gorau. Ceir dolenni at wefannau HEPA a
PBPA ar wefan HEPCW (www.hepcw.ac.uk)
Bydd HEPCW yn parhau i hyrwyddo rhaglenni hyfforddi Gwerth Cymru a HEPA i’w aelodau i
gynorthwyo i ymdrin â gofynion hyfforddi penodol. Da yw adrodd bod HEPCW, yn ystod y cyfnod
adrodd, wedi cynnal nifer o sesiynau hyfforddi’n ymwneud â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus
2015, a bod 39 o gynrychiolwyr o’r gymuned caffael wedi dod i’r sesiynau hyn.
Anogir aelodau HEPCW i ddefnyddio Fframwaith Cymhwysedd priodol i gynorthwyo gyda
gwerthuso staff a llywio’r gofynion allweddol ar gyfer cynlluniau datblygu personol i aelodau o’r
tîm caffael. Er y gall hyfforddiant lenwi rhai bylchau o ran sgiliau, cydnabyddir y gallai fod angen
gweithgareddau eraill i gyd-fynd ag anghenion yr unigolion.
Marchnata
Mae marchnata’r consortiwm a manteision aelodaeth yn sylfaenol i’w lwyddiant, ac yn sail ar
gyfer gweithrediad HEPCW. Mae’r amrywiaeth eang o drefniadau sydd ar gael i aelodau HEPCW
yn golygu bod angen hyrwyddo effeithiol i sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymwybodol o’r trefniadau,
ac ymhle i geisio arweiniad ar sut i’w defnyddio.
Roedd HEPCW yn falch i gyfranogi yn Wythnos Caffael Cymru ym mis Mawrth 2015 oedd yn
cynnig cyfleoedd rhagorol i ymgysylltu â chyflenwyr eraill mewn cyrff sector cyhoeddus ac yng
Nghymru.
Yn ystod y cyfnod adrodd, cynhaliwyd dwy arddangosfa cyflenwyr HEPCW ym Mhrifysgol Caerdydd
(Hydref 2014) a Phrifysgol Abertawe (Mawrth 2015). Ar y ddau achlysur cafodd aelodau
gyfleoedd i gyfarfod â thua 40 o gyflenwyr, oedd i gyd yn gallu cyflenwi nwyddau a/neu
wasanaethau i sefydliadau drwy’r portffolio o drefniadau cydweithredol. Daeth nifer da i’r
digwyddiadau ac maent yn parhau’n gyfle rhagorol i staff, academyddion a myfyrwyr y Prifysgolion
i gyfarfod mewn amgylchedd hamddenol gydag amrywiaeth eang o gyflenwyr.
CONSORTIWM PWRCASU ADDYSG UWCH CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2015
18
O ran hyrwyddo cytundebau penodol, cynhaliodd HEPCW ddigwyddiad i lansio’r Cytundeb
Fframwaith Clyweled Rhyngranbarthol ym mis Ebrill 2015. Daeth y digwyddiad â rhanddeiliaid a
chyflenwyr at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth ac annog defnydd o’r cytundeb. Roedd adborth yn
gadarnhaol, gan gynnig awgrymiadau adeiladol i’w hystyried ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
Arwydd calonogol oedd yr adborth a gafwyd gan gyflenwyr, gan fod yr achlysur yn gyfle iddynt
gyfarfod â nifer o randdeiliaid allweddol a threfnu cyfarfodydd dilynol i farchnata eu
gwasanaethau.
Gan adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad hwn, lle bo’n briodol, bydd HEPCW yn ystyried cynnal
achlysuron tebyg i lansio cytundebau yn y dyfodol ar draws amrywiaeth o feysydd nwyddau.
Edrych Ymlaen
Wrth i sefydliadau ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’r argymhellion yn y Gwiriad Iechyd
Caffael, bydd HEPCW yn cydweddu ei weithgareddau i helpu i gefnogi sefydliadau i gyflawni’r
cynlluniau gwella hyn. Bydd yr amcanion hefyd yn adlewyrchu sut y gall HEPCW gefnogi ei
aelodau i gyflenwi gofynion Datganiad Polisi Caffael diwygiedig Cymru 2015.
Caiff y Strategaethau Busnes ac e-Bwrcasu cyfredol hefyd eu hadolygu a’u diweddaru.
Drwy’r rhwydweithiau caffael yn y Sector AU a sector cyhoeddus Cymru ceir amrywiaeth eang o
drefniadau cydweithredol ac enghreifftiau o ymarfer gorau o ran caffael. Er mwyn elwa ar yr
adnoddau sydd ar gael, bydd HEPCW yn ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth a hefyd yn adolygu ei
gyfryngau cyfathrebu.
Diolchiadau
Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion sydd wedi parhau i gyfranogi yng ngrwpiau nwyddau HEPCW a
chynrychioli buddiannau’r consortiwm o fewn y Gweithgorau Cenedlaethol a grwpiau nwyddau’r
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Rhaid diolch yn arbennig i Megan Hopkins, sy’n darparu
cymorth a gwybodaeth amhrisiadwy yn ei rôl fel Gweinyddydd HEPCW.
Hefyd hoffwn ddiolch i Mike Davies am ei gymorth brwd a’i arweiniad yn rôl Cadeirydd HEPCW.
Howard Allaway
Rheolwr Pwrcasu HEPCW