Download - Marchnad Lafur Drosiannol
Marchnad Lafur Drosiannol (MLD)
MLD – Llwyddiannau
Dechrau arni yn 2009 – wedi cefnogi 4180 o gyfranogwyr ar y prosiectau
268 o fudiadau wedi cynnal 305 o brosiectau gwahanol
2151 o gyfranogwyr i mewn i waith, mae’n rhy gynnar i farnu ar estyniad MLD gan fod cyfranogwyr dal gyda’u cyflogwyr
Cyfranogwyr wedi ennill 2062 o gymwysterau ar Lefel 1 NQF neu uwch
Arloesi
Dros oes y prosiect mae MLD wedi addasu i’r dirwedd economaidd gyfnewidiol a chyflwyniad rhaglenni eraill O Fudd-dâl i Waith.
Yn 2010 cydweithiodd MLD â menter Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cronfa Swyddi'r Dyfodol, gan greu lleoliadau 9 mis i bobl ifanc 16 - 24 mlwydd oed.
Yn 2011 wedi creu cynllun Peilot NEET i bobl ifanc,16 – 18 mlwydd oed, gan gydweithio â’r Adran Addysg a Sgiliau a Chymunedau yn Gyntaf.
Yn 2012 cynhaliwyd Twf Swyddi Cymru, Cyflogaeth gyda Chefnogaeth drwy fodel MLD
Yn olaf yn 2013 cytunodd WEFO i estyniad ar gyfer MLD a oedd yn gyfle i edrych ar ffyrdd o addasu MLD i’r dirwedd gyfnewidiol. Mae’r grantiau sy’n cael eu darparu nawr ar gyfer grwpiau cyfranogwyr penodol, Cyflyrau Iechyd sy’n Cyfyngu ar Allu i Weithio, pobl dros 50, Unig Rieni a chyn-droseddwyr i gyd dros 25.
Gwerthuso – Adborth y cyfranogwyr
Canfu’r arolwg o gyfranogwyr yn 2012 fod:
90% (346/384) yn credu bod MLD lle roeddynt yn gweithio yn deall eu hanghenion;
81% (310/384) yn credu eu bod wedi cael y math cywir o hyfforddiant gan MLD;
89% (340/383) yn credu eu bod wedi cael digon o gefnogaeth yn eu swydd MLD;
83% (318/383) yn credu bod MLD yn cydweddu â’u hanghenion;
83% (145/174) o’r ymatebwyr a oedd mewn gwaith ar ôl gadael rhaglen MLD yn teimlo eu bod yn y math o swydd roedd arnynt ei heisiau
Gwersi allweddol a ddysgwyd
Gwnaeth Wavehill 11 o argymhellion yn eu hadroddiad yn 2012. Mae WCVA drwy dîm MLD wedi ymateb i bob un o’r rhain. Dyma sampl:
Graddfeydd amser ar gyfer prosesau caffael – mae’r broses wedi cael ei hastudio a chamau wedi’u cymryd i’w chyflymu o’r cam ymgeisio i’r cam cymeradwyo, sydd bellach yn cymryd ychydig o wythnosau yn unig.
Heriau gwahanol grwpiau cyfranogwyr – tendrau penodol ar gyfer y grwpiau hyn a’r rhwystrau penodol maent yn eu hwynebu ac ymateb i’r newidiadau yn narpariaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru gan sicrhau nad yw pobl yn disgyn drwy’r bylchau.
Symleiddio cipio data a phrosesau – o fewn cyfyngiadau prosiect Ewropeaidd mae WCVA wedi cyflwyno system cipio data bwrpasol (PDS) sydd wedi bod yn ganolog i’r ffordd y mae ein cyflenwyr yn gweithio.
Y Dyfodol – Cyflawni Cymru
Mae WCVA yn gweithio gyda WEFO i ddatblygu ymgyrch i fod ar waith ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru.
Gofynnir i’r ymgyrch ganolbwyntio ar gefnogi pobl dros 25 ac yn benodol Unig Rieni/Menywod sy’n dychwelyd, Cyflyrau Iechyd sy’n Cyfyngu ar Allu i Weithio, pobl dros 50, Cyn-droseddwyr a Phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig.
Bydd y prosiect yn rhyngweithio â phrosiectau eraill yn WCVA ac ar draws portffolio ehangach prosiectau a ariennir gan yr UE yng Nghymru drwy grantiau wedi’u teilwra i fudiadau rhanbarthol a lleol nad ydynt efallai yn gallu cael mynediad at gyllid ESF