Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC 2015
TGAU CYMRAEG AIL IAITH UNED 1 HAEN UWCH 4551-02
Perfformiad yr holl ymgeiswyr ar draws y cwestiynau
Teitl y cwestiwn N Sgôr gymedrig GS Marc uchaf Ff H Cynnig %1 7028 19.7 5.8 30 65.7 1002 7028 12.8 4.5 20 64 1003 7028 19.8 5.6 30 65.9 1004 6983 7.7 4.6 20 38.6 99.4
65.7
64
65.9
38.6
0 10 20 30 40 50 60 70 80 90 100
1
2
3
4
Ffactor Hygyrchedd%
Cwes
tiwn
TGAU CYMRAEG AIL IAITH UNED 1 HAEN UWCH 4551-02
2
2
WJEC CBAC Cyf.
(ii) Nawr dewiswch beth rydych chi’n meddwl ydy’r pwynt gorau yn y darnau a rhowch eich rhesymau personol chi am eich dewis. [ = 3]
(iii) Dewiswch y pwynt dydych chi ddim yn hoffi yn y darnau a rhowch eich
rhesymau personol chi am eich dewis. [ = 3]
Rhaid cael cyfeiriad clir at ba bwynt maen nhw'n cyfeirio + rheswm cywir 3 marc
Rhaid cael cyfeiriad clir at ba bwynt maen nhw'n cyfeirio + rheswm gyda mân wallau 2 farc
Rhaid cael 1 ateb am y pwynt gorau ac un ateb am y pwynt dydyn nhw ddim yn hoffi Rhaid cael pwynt personol i gael y marciau Ail adrodd rhesymau'n slafaidd o'r darn = 0 marc Mae ychwanegu at bwynt o'r darn yn iawn.
WJEC CBAC Cyf.
(ii) Ysgrifennwch ddwy frawddeg yn Gymraeg yn y 3ydd person yn rhoi dwy ffaith am beth mae Matthew Rhys yn dweud yn y cyfweliad am Gymru a siarad Cymraeg.
[ = 6] Atebion 3 marc yr un. (i) Mae Cymru a / siarad Cymraeg yn bwysig iawn i Matthew. (ii) Mae e’n hoffi helpu gyda’r Eisteddfod. (iii) Mae e’n hoffi gwneud rhaglenni ar S4C. (iv) Mae e’n helpu i godi arian ar gyfer llawer o bethau. 2 farc yr un am ymdrech i ysgrifennu brawddeg a newid i’r 3ydd person – heb
fod yn gwbl gywir. (i) Mae Matthew hoffi codi arian i bethau Cymraeg. (ii) Mae o’n hoffi gyda’r eisteddfod. (iii) Mae o a Ioan ffrind yn helpu codi arian yn Cymru. Geiriau Saesneg = 0 marc Dim berf = 0 marc. Rhaid cael berf mewn brawddeg.
3.
Erthygl Philip
Mae’r arholiadau yn gorffen ar Fehefin 15 ac rydw i’n edrych ymlaen at fynd ar wyliau i Sbaen. Fy hoff wyliau ydy gwyliau ar lan y môr ac ymlacio ar y traeth. Dw i wrth fy modd yn torheulo, darllen nofel dda a gwrando ar gerddoriaeth. Mae’n gas gyda fi fynd ar wyliau antur lle rydych chi’n cerdded neu ddringo bob dydd. Ar ôl gweithio’n galed trwy’r flwyddyn yn yr ysgol dydw i ddim eisiau gweithio’n galed ar fy ngwyliau hefyd.
Rydw i’n meddwl bod gwaith rhan-amser ar y penwythnos yn beth da ar gyfer pobl ifanc sy yn yr ysgol achos maen nhw’n ennill arian ac felly yn dysgu edrych ar ôl yr arian.Ond mae gwaith rhan-amser yn ystod yr wythnos yn beth drwg achos dydy pobl ifanc ddim yn cael digon o amser i wneud eu gwaith ysgol ac mae hyn yn beth gwael ar gyfer eu dyfodol.
Rydw i’n hoffi siopa yn ein tref fach ni achos rydw i’n hoffi cefnogi pobl leol ac mae llawer o fy ffrindiau’n gweithio yn y siopau yma. Mae’n gas gyda fi siopa yn y ddinas achos mae’n ddrud i deithio yno ac mae’r siopau mawr i gyd yn debyg i’w gilydd.
10
(4551-02)10
Arholwr yn unig
Examineronly
ⓗ WJEC CBAC Cyf. © WJEC CBAC Ltd.
(4551-02)11
11Arholwr yn unig
Examineronly
ⓗ WJEC CBAC Cyf. © WJEC CBAC Ltd.
Erthygl Susan
Yn ystod mis Awst eleni, rydw i a fy nghariad, Gareth, yn mynd ar wyliau gwersylla am dair wythnos. Rydyn ni’n hoffi gwyliau gwersylla achos mae’n braf cael cysgu allan yn y wlad mewn pabell ac wrth gwrs mae’n rhad hefyd.
Mae’n gas gen i wyliau mewn gwesty achos mae’n ddrud iawn ac mae’n rhaid codi’n gynnar i gael brecwast.
Dydw i ddim yn meddwl bod gwaith rhan-amser yn beth da ar gyfer disgyblion ysgol dan 16 oed. Mae’n bwysig bod disgyblion ysgol yn cael cyfle i wneud gweithgareddau gyda’r nos ac ar y penwythnos. Mae hyn yn fwy pwysig ar gyfer eu dyfodol nag ennill ychydig o arian.
Rydw i’n meddwl bod gwaith rhan-amser ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed yn beth da. Mae pobl ifanc dros 16 oed angen llawer o arian i fyw – i brynu dillad a mynd allan gyda’r nos. Hefyd, mae’n beth da i roi ar eu CVs pan maen nhw eisiau mynd i’r coleg neu i weithio.
Yn ystod y gwyliau, mae mam a fi’n hoffi mynd i Gaer i siopa. Dw i’n hoffi siopa mewn dinas neu dref fawr ac mae llawer mwy o ddewis yn y siopau yno. Mae’r siopau bach lleol yn ddiflas iawn achos dydyn nhw ddim yn gwerthu dillad ffasiynol ar gyfer pobl ifanc.
Trosodd.Turn over.
12
(4551-02)12
Arholwr yn unig
Examineronly
(ii) Nawr dewiswch beth ydych chi’n meddwl ydy’r pwynt gorau yn y darnau a rhowch eich rhesymau personol chi am eich dewis.
Now choose what you think is the best point made in the reading passages and your personal reasons for your choice. [√ = 3]
Cofiwch wneud yn glir yn Gymraeg at ba bwynt ydych chi’n cyfeirio. Remember to make it clear in Welsh to which point you’re referring.
(iii) Dewiswch y pwynt dydych chi ddim yn hoffi yn y darnau a rhowch eich rhesymau personol chi am eich dewis.
Choose the point that you don’t like in the reading passages and give your personal reasons for your choice. [√ = 3]
Cofiwch wneud yn glir yn Gymraeg at ba bwynt ydych chi’n cyfeirio. Remember to make it clear in Welsh to which point you’re referring.
ⓗ WJEC CBAC Cyf. © WJEC CBAC Ltd.
3
3
(4551-02)13
13Arholwr yn unig
Examineronly
4. Ysgrifennwch yn Gymraeg ar un o’r canlynol (tua 150 o eiriau). Write in Welsh on one of the following (about 150 words). [10 + √ = 10] = [20]
NAILL AI EITHER Mae pobl ifanc yn poeni gormod am ffasiwn ac mae hyn yn achosi llawer o
broblemau yn yr ysgolion ac yn y gymdeithas. Ydych chi’n cytuno? Pam? Young people worry too much about fashion and this causes lots of problems in
schools and the community. Do you agree? Why?
NEU OR Mae gan Gymru nifer o sêr enwog ac maen nhw’n gwneud llawer o bethau i helpu
pobl eraill ac elusennau eraill. Mae Matthew Rhys yn enghraifft dda. Ydych chi’n cytuno? Pam?
Wales has a number of famous people and they do lots of good things to help other people and other charities. Matthew Rhys is a good example. Do you agree? Why?
NEU OR Mae’n warthus bod rhaid i lawer o bobl ifanc symud o’u hardal achos does dim
gwaith iddyn nhw ar ôl gadael yr ysgol a’r coleg. Ydych chi’n cytuno? Sut hoffech chi newid hyn?
It’s a disgrace that lots of young people have to move from their communities because there’s no work for them after leaving school and college. Do you agree? How would you like to change this?
ⓗ WJEC CBAC Cyf. © WJEC CBAC Ltd.
Trosodd.Turn over.
WJEC CBAC Cyf.
9
C.4 (Uwch) [10 + = 10] = [20] Naill ai Mae pobl ifanc yn poeni gormod am ffasiwn ac mae hyn yn achosi llawer o
broblemau yn yr ysgolion ac yn y gymdeithas. Ydych chi’n cytuno? Pam? Neu Mae gan Gymru nifer o sȇr enwog ac maen nhw’n gwneud llawer o bethau i helpu
pobl eraill ac elusennau. Mae Matthew Rhys yn enghraifft dda. Ydych chi’n cytuno? Pam?
Neu Mae’n warthus bod rhaid i lawer o bobl ifanc symud o’u hardal achos does dim
gwaith iddyn nhw ar ôl gadael yr ysgol a’r coleg. Ydych chi’n cytuno? Sut hoffech chi newid hyn?
Cynnwys Gwobrwyir: (a) ymatebion diddorol a chymwys ynghyd â rhesymau lle’n briodol
(b) dilyniant rhesymegol i’r syniadau a’r farn (c) ymdriniaeth ddiddorol a chynhwysfawr o’r testun (ch) ymdrech i fod yn uchelgeisiol o ran syniadau ac ymatebion 10-9 Ymdriniaeth hynod o hyderus. Yn gallu ymateb i’r dasg yn glir a phendant iawn gyda
syniadau uchelgeisiol ac aeddfed a’r gallu i ymresymu’n glir a pherthnasol. Yn ymdopi â gofynion y dasg yn llwyddiannus iawn.
8-7 Ymdriniaeth hyderus. Yn gallu mynegi barn yn glir a phendant gyda rhai rhannau
uchelgeisiol a’r gallu i ymresymu’n glir. Yn ymdopi â gofynion y dasg yn llwyddiannus.
6-5 Ymdriniaeth eithaf hyderus. Yn gwneud ymdrech i ymateb yn eithaf clir gyda rhannau
da. Cynllun a dilyniant amlwg i’r gwaith. Rhai rhannau gwell na’i gilydd. 4-3 Yn llwyddo i ymdopi â’r dasg ar lefel gyffredin ond derbyniol. Yn llai uchelgeisiol na’r
uchod a’r ymatebion yn aros ar lefel sylfaenol. 2-1 Diffyg patrwm ond gellir gwobrwyo ambell beth yma ac acw. 0 Dim byd i’w wobrwyo.
WJEC CBAC Cyf.
10
Mynegiant Gwobrwyir: (a) y gallu i ymateb yn llwyddiannus
(b) y gallu i amrywio patrwm y frawddeg i bwrpas
(c) geirfa addas a chymwys i ddelio â’r testun
(ch) cywirdeb ac ymdrech i ymgyrraedd at gysondeb o ran amserau’r ferf (d) ymdrech i greu naws ac awyrgylch priodol trwy ddefnyddio idiomau, cymariaethau
a.y.b. ac efallai elfen o hiwmor (dd) ymdrech i argyhoeddi a pherswadio ynglŷn â barn a syniadau 10-9 Mynegiant hynod o ystwyth a hyderus, gan ddefnyddio amrywiaeth dda o batrymau
brawddegol. Geirfa ac ymadroddion eang a chyfoethog sy’n caniatáu cyfathrebu ystyrlon a llwyddiannus iawn. Elfen gref iawn o gywirdeb gan ddefnyddio ffurfiau berfol (amser a pherson) yn gyson gywir.
8-7 Mynegiant ystwyth a hyderus gan ddefnyddio amrywiaeth o batrymau brawddegol.
Geirfa eang sy’n caniatáu cyfathrebu ystyrlon a llwyddiannus. Elfen dda o gywirdeb gan ddefnyddio ffurfiau berfol (amser a pherson) yn gywir.
6-5 Mynegiant derbyniol gan ddefnyddio peth amrywiaeth o batrymau brawddegol.
Geirfa ac ymadroddion da iawn sy’n caniatáu cyfathrebu ystyrlon. Elfen eithaf da o gywirdeb gan ddefnyddio rhai ffurfiau berfol (amser o pherson) yn gywir.
4-3 Ymdrech i ddefnyddio amrywiaeth o batrymau brawddegol. Geirfa ac ymadroddion
eithaf da ac yn gwneud ymdrech i fynegi barn. Ansicrwydd yma ac acw gyda ffurfiau berfol. Rhannau byr yn ein hargyhoeddi.
2-1 Yn cael trafferth i ddefnyddio patrymau brawddegol yn gywir. Geirfa gyfyngedig a
defnydd anghywir o ffurfiau berfol yn aml. 0 Dim i’w wobrwyo.
2
(4551-02)02
Arholwr yn unig
Examineronly
1. Darllenwch y cyfweliad isod gyda Matthew Rhys ac yna gwnewch y tasgau yn Gymraeg. Read the interview below with Matthew Rhys and then complete the tasks in Welsh. [24 + √ = 6] = [30]
Croeso i’r stiwdio Matthew Rhys. Soniwch amdanoch eich hun. Diolch yn fawr iawn. Ces i fy ngeni yng Nghaerdydd ond nawr dw i’n byw yn Los Angeles,
California.
Actor ydych chi nawr. Ydy’ch rhieni yn actorion? Na, athrawon ydy mam a dad ac mae fy chwaer, Rachel, yn gweithio yn y BBC.
Mae’r teulu’n siarad Cymraeg, felly aethoch chi i ysgol Gymraeg, yng Nghaerdydd? Do, es i i Ysgol Gynradd Gymraeg Melin Gruffydd ac wedyn i Ysgol Gyfun Gymraeg, Glantaf.
Oeddech chi’n actio yn yr ysgol? Oeddwn. Pan roeddwn i’n un deg saith oed ces i ran Elvis Presley mewn drama gerdd yn yr
ysgol a mwynhau yn fawr. Ar ôl hynny roeddwn i eisiau bod yn actor. Es i i Goleg Drama RADA yn Llundain, ac roeddwn i wrth fy modd.
Ar ôl gorffen yn y coleg roeddech chi’n gweithio yng Nghymru, Lloegr ac America. Oeddwn, pan oeddwn i’n byw yn Llundain roeddwn yn rhannu fflat gyda dau actor arall o Gymru
- Ioan Gruffudd a Michael Sheen.
Mae llawer o bobl yn eich cofio’n actio yn y gyfres ‘Brothers and Sisters’. Roeddwn i wrth fy modd yn byw yn Los Angeles ac actio rhan Kevin Walker yn y gyfres
boblogaidd yma. Mwynheuais i actio gyda Sally Field yn y gyfres yma hefyd - mae hi’n actores ardderchog.
Mae’n amlwg eich bod yn hoffi’r hanes am y Cymry yn mynd i fyw i Batagonia yn Ne America. Dw i wrth fy modd gyda’r hanes achos mae’n rhan bwysig o hanes Cymru ac yn dangos bod y
Cymry wedi mentro i gael bywyd gwell. Dw i wedi actio yn y ffilm Patagonia gyda Duffy a Nia Roberts. Ffilm am ddwy ferch. Un yn chwilio am ei hanes hi pan oedd yn ifanc a’r ferch arall yn gobeithio newid ei bywyd a chael cariad newydd. Mae golygfeydd ardderchog o Dde America yn y ffilm hefyd.
Rydych chi wedi actio dros y byd i gyd mewn llawer o ffilmiau ond mae llawer wedi mwynhau eich portread o’r bardd o Gymru, Dylan Thomas.
Mwynheuais i actio yn y ffilm, The Edge of Love, yn fawr iawn gyda Kiera Knightley a Sienna Miller. Pan oeddwn i’n RADA roeddwn wedi cymryd rhan yn Under Milk Wood - drama enwog Dylan Thomas. Hefyd roeddwn i wedi darllen llawer am y bardd cyn gwneud y ffilm ac wedi siarad gyda’i ferch.
Rydych chi’n amlwg wedi mwynhau gweithio o amgylch y byd i gyd ond rydych chi’n mwynhau dod ’nôl adre i Gymru a siarad Cymraeg hefyd.
Ydw, mae Cymru a siarad Cymraeg yn bwysig iawn i fi. Rydw i bob amser yn hoffi gwneud rhaglenni ar S4C a helpu gyda’r Eisteddfod. Maen nhw’n gwneud gwaith mor dda i helpu’r iaith Gymraeg. Mae fy ffrind Ioan Gruffudd a fi hefyd yn helpu i godi arian ar gyfer llawer o elusennau yng Nghymru.
ⓗ WJEC CBAC Cyf. © WJEC CBAC Ltd.
4
(4551-02)04
Arholwr yn unig
Examineronly
(ii) Ysgrifennwch ddwy frawddeg yn Gymraeg yn y trydydd person yn rhoi dwy ffaith am beth mae Matthew Rhys yn dweud yn y cyfweliad am Gymru a siarad Cymraeg.
Write two sentences in Welsh in the third person giving two facts about what Matthew Rhys says in the interview about Wales and speaking Welsh. [√ = 6]
(i) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(ii) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
ⓗ WJEC CBAC Cyf. © WJEC CBAC Ltd.