dyfrbont pontcysyllte a'r gamlas
DESCRIPTION
Dy arweiniad bach i'r Safle Treftadaeth Byd. Hwylus a hawdd.TRANSCRIPT
Dy arweiniad bach i’r Safle Treftadaeth Byd. Hwylus a hawdd.
11 milltir odreftadaethbyd
www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk
Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas
“Ym mhob agwedd ar fywyd, mae’r un pethyn wir: dim ond trwy weithio gyda’n gilydd
y byddwn ni’n cyflawni pethau mawr.
“Maen nhw’n dweud weithiau fy mod i wediadeiladu Dyfrbont Pontcysyllte. Dydy hyn ddimyn wir. Wnes i ddim ei wneud ar fy mhen fy
hun, beth bynnag. Mi ges i gymorth.
“Wnaeth pawb a chwaraeodd ran – pob crefftwr, gweithiwr a cheffyl – adael
ei farc ar y byd.
“Oherwydd ei bod hi’n dal yno heddiw. Yndal i adrodd ei hanes wrth y cannoedd o
filoedd o bobl sy’n ymweld bob blwyddyn. Ynunion yr un fath â’i chwaer hyn, Dyfrbont yWaun, Rhaeadr y Bedol ac adeileddau eraill
cysylltiedig â’r gamlas gwnaethon ni eu codi.
“Wnaethon ni eu codi fesul darn, gydadewrder, cred a gweledigaeth.
“Ac er bod yr hil ddynol wedi cyflawnipethau gwych ers fy nghyfnod i – wedi
hollti’r atom, rhoi dyn ar y lleuad, darganfod penisilin – mae Pontcysyllte yn
dal i gyffroi pobl, eu llonni a’u hysbrydoli.
“Roeddwn i’n falch ohoni ym1805. A phebawn i yma efo chi heddiw, mi faswn i’n
dal yn falch.
“Pan gei di brofiad ohoni, dwi’n gobeithio ybyddi di’n teimlo felly hefyd.”
Thomas TelfordPeiriannydd Sifil 1757-1834
beth fyddai’r dyn yn ei ddweud
Port
read
wed
i ei e
ngra
fu o
Tho
mas
Tel
ford
a g
yhoe
ddw
yd a
r gla
wr b
laen
yr ‘
Atla
s to
the
Life
of
Thom
as T
elfo
rd -
Civ
il En
gine
er’ y
m 1
838.
Wed
i ei e
ngra
fu g
an W
. Rad
don
oddi
ar b
aent
iad
gan
S. L
ane.
www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk
naws athrylithPan orffennodd Thomas Telford DdyfrbontPontcysyllte ym 1805, hon oedd y groesfanuchaf yn y byd ar gyfer badau camlas.
Mae hi’n dal yno heddiw, yn dal i fynd â theithwyrar fadau’r gamlas ar daith eu bywydau. Onderbyn hyn mae ar fap y byd.
Yn 2009 gwnaeth UNESCO y campwaithhwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth Byd– gydag 11 milltir o gamlas yn cynnwys DyfrbontY Waun a Rhaeadr y Bedol ger Llangollen.
Erbyn hyn mae’n swyddogol yn un o’r safleoeddtreftadaeth mwyaf yn y byd, cystal â lleoeddfel y Pyramidiau, y Taj Mahal a’r Acropolis. Pan fyddi di’n ei gweld, byddi’n gweld rhywbethâ naws athrylith arno, oherwydd bod Telford
yn ddyn â gwir weledigaeth.
Roedd yn byw mewn oes wahanol, ond roeddymysg y mawrion, fel Steve Jobs, sefydlyddApple a Bill Gates, sefydlydd Microsoft neuunrhyw un arall arloesol a chyfoes ei feddwl.Roedd yn ddyn o flaen ei amser.
Nid gormod o gwbl yw dweud bod y dulliaua’r syniadau a ddatblygwyd ym Mhontcysylltewedi helpu i lunio’r byd trwy eu heffaith arbeirianneg.
Ond yr hyn sy’n wir syfrdanol yw’r modd ymae’r adeiledd yn dal i gipio dychymyg pobl,mwy na 200 o flynyddoedd wedi ei adeiladu.
Mae’n dal i hudo pobl.
2. am dro drwy’r twneli
Os bydd cerdded ar draws y dyfrbontydd yngwneud i dy galon di guro, aros nes byddi diwedi mentro i mewn i’r ‘Fagddu’.
Ychydig lathenni i mewn i’r twnnel mi fyddidi’n deall yn iawn sut y cafodd ei enw. Mae’ndywyll go iawn, yn hir go iawn ac unwaith ybyddi di hanner ffordd – does dim troi’n ôl.
Mi fedri di gerdded trwodd heb dortsh.Mae’n gryn dipyn o antur. Ond efallai bodtortsh yn syniad da.
3. cerdded y llwybrau tynnu
Dydy’r 11 milltir o Safle Treftadaeth. Bydddim yn draffontydd dwr a thwneli i gyd.Mae cerdded ar hyd gweddill y llwybrau tynnuyn ffordd ddifyr o dreulio ychydig oriau.
Cefn gwlad sy’n ferw o fywyd gwyllt, onddim llawer o bobl, mewn geiriau eraill heddwcha llonydd. Amser da i feddwl os byddi di ardy ben dy hun, amser i roi’r byd yn ei le osbyddi di efo rhywun arbennig.
Dyma’r pump peth goraugennym - i gychwyn.1. croesi’r dyfrbontydd
Wyt ti’n ddigon dewr i groesi’r afon yn yrawyr? Fedri di wneud hynny heb edrych ilawr? Cei gerdded ar draws Pontcysyllte, neuorffwys dy goesau a chroesi’n hamddenolmewn cwch.
Ond mae arnat ti angen un peth i fynd efo ti.Camera. Welaist ti erioed y fath olygfeydd.
Mae Dyfrbont Y Waun ychydig yn unig ofilltiroedd i lawr yr afon. A byddet ti’n medrudadlau fod y golygfeydd yn well fyth.
Mi fedri di bician ar draws ffin Cymru imewn i Loegr.
Ac os bydd hynny’n codi chwant bwyd arnatti, dos yn dy flaen heibio i’r bythynnod del arlan y gamlas i dafarn y Poachers Pocket. NeuDafarn y Bont neu’r Bridge Inn. Mae bwydda a chwrw go iawn y dy aros di yno.
“Edrycha ond paid â chyffwrdd.” Mae rhai safleoedd treftadaeth yn rhy fregus i’w trin. Nid felly yma. Roedd adeileddau Telford – fel y dyn ei hun – yn gryf a gwydn.
Felly does dim rhaid i ti fodloni ar sefyll yn ôl ac edmygu’r Safle Treftadaeth Byd o bell(er bod hynny ynddo’i hun yn ddigon o ysbrydoliaeth). Cei brofiad ohono mewnsawl dull a modd.
Mae lleoedd i fwyta ar hyd y ffordd, fel y dafarnefo’r enw eithaf addas Aqueduct yn Froncysyllte. Hefyd tafarn y Thomas Telford(enw addas arall) ym masn Trefor. Neu dafarny Sun Trevor, sy’n cynnig lle da i orffwys acymadfer rhwng Pontcysyllte a Llangollen.
A’r gorau i gyd? Dim elltydd. Doedd hyd yn oedTelford yn medru gwneud i ddwr lifo i fyny, fellymae llwybrau tynnu’r gamlas yn wastad braf.
Ond wedyn, os wyt ti’n gerddwr o ddifrif,mae digonedd o lwybrau diddorol iawn hebfod yn bell o’r llwybrau tynnu, yn cynnwys Llwybr Dyffryn Ceiriog (sy’n odidog) a’renwog Glawdd Offa.
4. ar hyd y gamlas efo Togg
Mae pobl wedi bod yn mwynhau cael eutynnu mewn cychod o gei’r gamlas yn Llangollen ers 100 mlynedd a mwy.
Yn wir, mae Togg, Geordie a’r ceffylau eraillyn dipyn o enwogion y dyddiau hyn acmaen nhw’n ddiolchgar am foronen neuddwy am eu trafferth.
Mae teithiau 45 munud ar hyd y gamlas atheithiau dwy awr yr holl ffordd i Raeadr yBedol rhai dyddiau yn y tymor prysur.
Mae sawl dull a modd hamddenol o gaelprofiad o’r safle treftadaeth byd, ond maetipyn o waith curo ar gael dy dynnu mewncwch gan geffyl. Gwibio’n dawel ar wyneb y dwr, hwyaid a’u cywion yn mynd lincynloncyn efo’r lan, a gwallgofrwydd y bydmawr tu allan yn ymdoddi yn y niwl.
5. gweld y bedol
Yn Rhaeadr y Bedol mae’r cwbl yn dechrau, y lle mae’r gamlas yn codi ei dwr o’r afon.
Cored o waith dyn yw hi yn y bôn – ar ffurfpedol. Ac fel cymaint o’r hyn y gwnaethTelford ei greu, mae fel petai’n cyfoethogi’rdirwedd o’i hamgylch.
Enghraifft o’r hyn a gynlluniodd dyn yn cyd-fynd â natur. Pa mor aml fyddi di’ngweld hynny?
tyrd i gael y profiad
www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk
Paid ag anghofio dy gamera. Neu’n well fyth,cipia lun ar dy ffôn a’i rannu efo dy ffrindiautrwy Flickr, Gweplyfr, Instagram neu rywgyfrwng cymdeithasol arall.
Gad iddyn nhw weld beth maen nhw’n ei fethu.
Wedyn mentra i weddill y Safle TreftadaethByd a thu hwnt.
Lloga gwch neu ddarganfod atyniadau felRheilffordd Ager Llangollen, Parc Gwledig Ty Mawr a Chastell y Waun, pob un yn agosiawn.
Teithia’n bellach, i mewn i Wrecsam, SirDdinbych a Sir Amwythig a darganfod perlaufel eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynErddig, Ardal Harddwch Naturiol EithriadolBryniau Clwyd neu Ellesmere, y dref farchnad ar lan y llyn.
Cei weld popeth sydd ei angen arnat ti arwww.pontcysyllte-aqueduct.co.uk
Os oes gen ti ffôn call, sgania’r cod QR. Neuos wyt ti’n ‘aderyn sy’n trydar’ dos i weld eintudalennau Gweplyfr a’n gwybodaeth ar Drydar.
Ac os wyt ti’n hoff o sgwrsio, rydym ninnau hefyd. Coda’r ffôn a ffonia un o’nCanolfannau Croeso cyfagos:
Canolfan Croeso Wrecsam01978 292015
Canolfan Croeso Croesoswallt Mile End01691 662488
Canolfan Croeso Llangollen 01978 860828
pan fyddi di wedi gorffen
www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk
credydauWedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau a Datblygu Economaidd, CyngorBwrdeistref Sirol Wrecsam, ar ran partneriaeth Safle Treftadaeth Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas.
Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898 www.whitefox-design.co.uk
Ymysg y rhai a gyfrannodd ffotograffiaeth mae Eye Imagery, Hawlfraint y Goron(2012) Croeso Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Darlunio gan Prodo Digital.
Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg.
Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, nid yw CyngorBwrdeistref Sirol Wrecsam a’u partneriaid yn gallu derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw wallau,pethau anghywir neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sy’n ymwneud unrhyw fodd â neu sy’n deillioo’r cyhoeddiad neu’r wybodaeth sydd ynddo. sganiwch fi
facebook.com/pontcysyllte
twitter.com/pontcysyllte
Dyna ni wedi codi awydd arnat ti. Mi fyddidi am wybod sut mae mynd yno rwan.
Mae’r safle ar ffin Gogledd Cymru a Lloegrac mae’n ymestyn tros dair sir – Sir Ddinbych,Wrecsam a Sir Amwythig.
Rwyt ti’n gallu mynd yno yn dy gar (ar hydyr M53 neu’r M56 o Ogledd Orllewin Lloegr,a’r M54 o Ganol Lloegr).
Ar y trên (Dydy gorsaf Y Waun yn ddim ond naid llyffant o’r safle, a Rhiwabon dimond rhyw ddwy neu dair milltir, efo bysysrheolaidd).
Neu ar y bws.
WO
RLD
HERITAGE PATRIMOIN
E M
ON
DIA
L
PATR
IMONIO MUNDIAL
Pontcysyllte Aqueduct and Canalinscribed on the World Heritage List in 2009
United Nations
Cultural Organization
www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk
Y WAUN
CEFN MAWR
FRONCYSYLLTE
Rhaeadr y Bedol
Pontcysyllte
Twnnel Y Waun
Twnnel yr Eglwyswen
Basn TreforCamlas Llangollen
DYFFRYN LLANGOLLEN
Yr Afon Dyfrdwy
Dyfrbont Y Waun
LLANGOLLEN
Dyma gysylltiadau defnyddiol:Trenau Arriva Cymru (Caer - Wrecsam -Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.uk
Lein y Gororau / Borderlands Line (Wrecsam i Lerpwl - trwy Bidston) www.borderlandsline.com
Virgin Trains (Wrecsam i Lundain-Euston)www.virgintrains.co.uk
Traveline Cymru 0871 200 2233 www.traveline-cymru.org.uk
Llinell Bysiau Wrecsam 01978 266166www.wrexham.gov.uk
sut mae mynd i’r safle ac o’i gwmpas
Safle Treftadaeth 11 milltir
Yr Afon Dyfrdwy
Parth Treftadaeth
Scale/Graddfa 1:35000.