ein gweledigaeth - – the … · web viewy bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid...

147
C

Upload: dotuyen

Post on 09-Sep-2018

214 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

C

Page 2: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Ein gweledigaethDylai fod gan bawb yng Nghymru gartref boddhaol a fforddiadwy: dyma yw’r sylfaen ar gyfer iechyd a lles pobl a chymunedau.

Ein cenhadaethCenhadaeth Shelter Cymru yw gwella bywydau pobl trwy ein gwasanaethau cyngor a chymorth a thrwy waith hyfforddi, addysg a gwybodaeth. Trwy ein polisi, ymchwil, ymgyrchu a lobïo, byddwn yn helpu i oresgyn y pethau sy’n rhwystro pobl yng Nghymru rhag cael cartref boddhaol a fforddiadwy.

Ein gwerthoeddBod yn annibynnol a heb fod dan fygythiad mewn unrhyw agwedd ar ein gwaith gyda phobl ag angen o ran tai.

Gweithio a thrin pobl ag angen o ran tai yn gyfartal, parchu eu hanghenion a’u helpu i gael rheolaeth o’u bywydau eu hunain.

Herio mewn modd adeiladol i sicrhau bod pobl yn cael eu cynorthwyo’n briodol a gwella arfer da.

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd: Medi 2016

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd yr adroddiad gan Dr Jacqueline Campbell, Adam Golten, Rebecca Jackson a Richard Evans

1

Page 3: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Cydnabyddiaethau

Hoffai Shelter Cymru ddiolch i’r Oak Foundation, Llywodraeth Cymru a Bro Morgannwg, y mae eu cefnogaeth wedi galluogi gwireddu’r darn ymchwil pwysig hwn.

I’r ymchwil hwn fod yn effeithiol, roedd Shelter Cymru angen i’r cyfranogwyr yn yr ymchwil, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw, i ymgysylltu’n llwyr â’r broses ymchwil. Mae’r tîm ymchwil yn hynod ddiolchgar i’r landlordiaid tai cymdeithasol a gyfrannodd ac i’n sampl o denantiaid a gafodd eu troi allan a gymerodd yr amser i rannu’u profiadau gyda ni.

Rydym yn cydnabod cyfraniadau Swyddogion Ymchwil Shelter Cymru, Swyddogion Ymchwil Cymheiriaid a’n tîm o wirfoddolwyr ymroddedig ac aelodau o Take Notice. Diolchwn hefyd i Bob Smith o Brifysgol Caerdydd am ei gyfraniad ac i Cordis Bright, a ymgymerodd â’n cyfrifiadau cost a budd.

2

Page 4: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd

Cyflwyniad

Ni fu atal digartrefedd mor bwysig yng Nghymru erioed. Ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014, nid oes unrhyw wlad arall ledled y byd wedi rhoi atal digartrefedd ar dir statudol cyn gryfed.

Mae’r Ddeddf newydd wedi arwain at newidiadau sylfaenol yn y ffordd y mae timau Atebion Tai awdurdodau lleol yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu digartrefedd, ac mae hefyd yn cynnwys dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCCau) i gydweithredu gydag awdurdodau lleol i atal digartrefedd.

Fel dilyniant naturiol, mae’r Ddeddf wedi tynnu sylw hefyd at y ffactorau ehangach sydd â’r grym i achosi, neu atal, digartrefedd. Mae polisïau ac arferion landlordiaid cymdeithasol ymhlith y ffactorau ehangach hyn. Er bod y ddadl hyd yn hyn wedi canolbwyntio’n bennaf ar wella cyfathrebu a gweithio ar y cyd, mae cwestiynau’n cael eu gofyn hefyd ynglŷn â beth arall y mae landlordiaid awdurdodau lleol ac LCCau yn ei wneud, neu beth allent fod yn ei wneud, i roi blaenoriaeth i atal digartrefedd.

Yn ei ymchwiliad yn 2015 i’r modd y mae awdurdodau lleol wedi ymateb i ddiwygio lles, mynegodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bryder ynghylch nifer o faterion yn ymwneud â chael tenantiaethau cymdeithasol a’u cynaliadwyedd, yn enwedig yn sgil newidiadau i ddiwygio lles1. Yn ei adroddiad:

(i) Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r defnydd o asesiadau ariannol gan landlordiaid cymdeithasol er mwyn sicrhau nad oes gan yr asesiadau’r canlyniad anfwriadol o allgáu rhai pobl rhag cael tai cymdeithasol ar y sail eu bod yn ‘rhy dlawd’. Argymhellodd y Pwyllgor, os oes tystiolaeth o allgáu ar sail fforddiadwyedd, yna mae angen ymchwil i archwilio proffil ymgeiswyr sy’n methu asesiadau ariannol rhag ofn bod yr asesiadau hyn yn cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol o bobl.

(ii) Hefyd, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch bylchau mewn gwybodaeth am beth sy’n digwydd i aelwydydd ar ôl iddynt gael eu troi allan. Roeddent yn argymell bod angen ymchwil frys i ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o achosion, a goblygiadau, troi allan, yn enwedig lle mae’n achosi cost ychwanegol i bwrs y wlad.

1 http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10320/cr-ld10320-w.pdf 3

Page 5: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Nod yr astudiaeth bresennol yw: (i) archwilio defnydd awdurdodau lleol2 a LCC o asesiadau ariannol er mwyn sicrhau nad oes gan arferion o’r fath y canlyniad anfwriadol o allgáu pobl rhag cael tai cymdeithasol ar y sail eu bod yn ‘rhy dlawd’ (ii) ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o achosion a goblygiadau troi allan o dai cymdeithasol a (iii) archwilio sut mae landlordiaid cymdeithasol Cymru yn gweithio i atal troi allan ac asesu beth mwy, os o gwbl, y gellir ei wneud i hyrwyddo ymdrechion atal.

Nod eithaf ein hymchwil yw atal digartrefedd a hyrwyddo arfer da ymhlith landlordiaid cymdeithasol drwy amlygu rhwystrau posibl rhag atal troi allan a chynnig atebion.

Bydd yr adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil fel a ganlyn:

Pennod un Cyd-destun a nodau’r ymchwil

Pennod dau Methodoleg

Pennod tri Hygyrchedd a fforddiadwyedd tai cymdeithasol i bobl ar incwm isel

Pennod pedwar Pam y mae pobl yn cael eu troi allan o dai cymdeithasol: ‘sbardunau’ troi allan

Pennod pump Effaith troi allan o dai cymdeithasol: y costau ariannol a chymdeithasol

Pennod chwech Atal troi allan: ymatebion landlordiaid cymdeithasol

Pennod saith Rhwystrau rhag atal troi allan

Pennod wyth Casgliadau

Pennod naw Argymhellion

2 Yr un ar ddeg awdurdod lleol yng Nghymru sy’n dal i berchen ar stoc dai, sef: Ynys Môn, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Benfro, Powys, Abertawe, Bro Morgannwg a Wrecsam.

4

Page 6: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

1: Cyd-destun a nodau’r ymchwil

Troi allan o dai cymdeithasol fel methiant gwasanaeth ac yn groes i ffocws cymdeithasol

Mae tenantiaid cymdeithasol yn ymrwymo i gontractau y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol gyda’u landlordiaid. Yr hyn sy’n hanfodol yw bod gofyniad ffurfiol ar y tenant i dalu ei rent yn brydlon ac i ymddwyn yn gyfrifol o ran meddiannu ei eiddo ac mewn perthynas â’i gymdogion. Lle bydd telerau cytundeb tenantiaeth yn cael eu torri, mae hawl gan y landlord i gymryd camau cyfreithiol a allai arwain yn y pen draw at adfeddiannu’r eiddo a throi’r tenant allan.

Mae achosion o droi allan yn llwybr allweddol i mewn i ddigartrefedd a chydnabyddir yn eang fod hyn yn gostus o ran pobl ac yn ariannol. Mae arweiniad yn awgrymu fod y rhan fwyaf o landlordiaid cyfrifol yn cydnabod fod troi allan nid yn unig yn gostus, ond ei fod hefyd yn golygu bod gwasanaeth wedi methu.

“Mae troi unrhyw denant allan o dai cymdeithasol yn arwydd o fethiant, a dim ond pan fydd pob opsiwn arall wedi’i archwilio go iawn y dylid gwneud hynny.”3

Mae gan awdurdodau lleol ac LCCau gyfrifoldebau cymdeithasol tuag at eu tenantiaid (gan gynnwys eu lles, a lles eu teuluoedd), a byddai disgwyl iddynt leihau’r defnydd o droi allan gymaint â phosibl. Fodd bynnag, mae ganddynt gyfrifoldeb hefyd i ystyried buddiannau tenantiaid yn eu crynswth, a lle bo dulliau eraill yn methu datrys problemau mewn achos o dor-tenantiaeth, efallai y bydd landlordiaid yn gweld troi allan fel y cam gweithredu olaf.

Erbyn hyn, mae landlordiaid cymdeithasol yn gweithredu mewn amgylchedd ariannol sy’n mynd yn fwyfwy heriol, lle mae hybu incwm rhent i’r eithaf yn bwysicach nag erioed o ran cynnal costau benthyg, cyflwyno gwasanaethau ac enw da’r sefydliad. A hyn i gyd yng nghanol newidiadau cyson i fudd-daliadau lles sy’n creu heriau i’r landlord a’r tenant. Gall materion o’r fath fod yn brawf ar gryfder ffocws cymdeithasol landlordiaid o ran darparu tai, ac i bobl eithaf bregus yn aml. Rhaid chwilio am ffyrdd i alluogi landlordiaid cymdeithasol i fantoli’r llyfrau a pharhau i gadw eu ffocws cymdeithasol cadarn.

Graddfa troi allan o dai cymdeithasol yng Nghymru: proffil a thueddiadau4

Mae Ffigur 1 yn dangos tueddiadau mewn gosodiadau LCCau ac awdurdodau lleol yng Nghymru o 2010-11 hyd at 2014-155. Yn 2014-15, mae’n dangos bod 14,277 o osodiadau gan LCCau ledled Cymru. Mae hyn yn ostyngiad ers 2013-14 (o 15,694) ond mae’n uwch na

3 Shelter (2009) ‘Eviction of children and families: the impact and the alternatives’. Ar gael yn: www.shelter.org.uk

4 Mae ein ffigurau yn ymwneud â’r flwyddyn galendr yn hytrach na’r flwyddyn ariannol a gynhwysir ym mwletinau troi allan Llywodraeth Cymru.

5 Nid oes data wedi’i ddiweddaru ar gyfer 2015-16 ar gael.5

Page 7: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

blynyddoedd blaenorol (e.e. 2010-11 hyd at 2012-13). Mewn cyferbyniad, roedd 7,784 o osodiadau tai cymdeithasol mewn eiddo landlordiaid awdurdodau lleol yn 2014-15. Mae tuedd gyffredinol tuag i lawr yn nifer y gosodiadau awdurdodau lleol.

Ffigur 1: Tueddiadau mewn Gosodiadau LCC ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru 2010-11 hyd at 2014-156

Mae rhesymau amrywiol dros i bobl adael eu tenantiaeth gymdeithasol, a throi allan yw un ohonynt. At ei gilydd, y rheswm mwyaf cyffredin am droi allan yw ôl-ddyledion rhent (swm sylweddol o rent yn ddyledus neu gadael i ôl-ddyledion gronni’n rheolaidd), wedi’i ddilyn gan ymddygiad gwrthgymdeithasol (er enghraifft, achosi niwsans neu ganiatáu i’r eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon). Mae rhesymau eraill am adennill meddiant yn cynnwys gorlenwi bwriadol, y landlord yn bwriadu dymchwel yr eiddo neu wneud gwaith atgyweirio ac ailwampio mawr na ellir ei wneud gyda thenantiaid yn yr eiddo, a gwneud cais twyllodrus am dai cymdeithasol.

Yn hanesyddol, bu tystiolaeth o wahaniaethau mewn ymagwedd at droi allan gan fathau gwahanol o landlordiaid cymdeithasol. Dangosodd ymchwil yn yr Alban fod awdurdodau lleol yn fwy tebygol na chymdeithasau tai i weithredu er mwyn adennill meddiant7. Yng Nghymru, canfuwyd bod cymdeithasau tai yn fwy tebygol o gymryd camau drwy’r llys na chynghorau8. 6 https://statswales.gov.wales/Catalogue/Housing/Social-Housing-Lettings. Mae’r ffigurau yn cynnwys trosglwyddo a chyfnewidiadau.

7 Mullen, T. et al (1997) Tenancy Rights and Repossession Rates in Theory and Practice, Edinburgh, Scottish Homes.

8 Evans, A. a Smith R. (2002) Closing the gap: working together to reduce rent arrears, Caerdydd, Swyddfa Archwilio Cymru.

6

Page 8: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Yn Lloegr, dangoswyd bod cyfraddau troi allan yn weddol debyg yn y ddwy ran o’r sector cymdeithasol9.

Mae Ffigur 110 yn dangos tueddiadau cyffredinol yn nifer y gorchmynion, gwarantau ac adfeddiannau yng Nghymru ar gyfer tai cymdeithasol (LCC ac Awdurdod Lleol) ar gyfer 2010-11 hyd at 2015-161112. Mae’n dangos tuedd tuag i fyny rhwng 2011-12 a 2013-14 ac yna tuedd o sefydlogi neu ddirywio hyd at 2015-16. Er 2010-11, mae nifer y gorchmynion wedi gostwng -13.4%, mae nifer y gwarantau wedi cynyddu +5.7% ac mae nifer yr adfeddiannau wedi cynyddu +22.2%.

Ffigur 1: Tuedd yn nifer y Gorchmynion, Gwarantau ac Adfeddiannau yng Nghymru – cyfanswm tai cymdeithasol (h.y. Gosodiadau LCC ac Awdurdodau Lleol) 2010-11 hyd at 2015-1613

9 Pawson et.al. (2005) The Use of Possession Actions and Evictions by Social Landlords, Llundain, ODPM.

10 Mae cyfrifiadau yn dechrau o 2010-11 oherwydd dyna pryd y cyhoeddwyd y dadansoddiad manwl diwethaf o ddata. Defnyddiom flynyddoedd dilynol wedyn i allosod o’r data a diweddaru’r data. Rydym yn cydnabod y gallai’r senario a gyflwynwyd edrych yn wahanol pe baem yn mynd yn ôl flynyddoedd dilynol. Fodd bynnag, gallai defnyddio data cynharach fod wedi bod yn ddefnyddiol i’w gynnwys er mwyn gosod cyd-destun, ond byddai ail-seilio’r cyfrifiadau ar ffrâm amser hwy yn gwneud allosodiadau yn llai dibynadwy.

11 Mae’r data ar gyfer 2015-16 yn ddata dros dro.

12 Mae’n werth nodi, ym mhob cam, y bydd cyfran gynyddol o denantiaid yn gadael eu tenantiaeth yn wirfoddol; mae hyn yn arbennig o wir pan fydd y warant wedi’i rhoi. Mae’n debygol y bydd cyfran sylweddol o aelwydydd y rhoddwyd gwarant iddynt – ond lle nad yw’r gorchymyn adennill meddiant wedi’i weithredu gan y beili – yn gadael o’u gwirfodd mewn gwirionedd. Felly, mae nifer y bobl sy’n gadael eu cartref o ganlyniad i gamau gweithredu adennill meddiant yn debygol o fod yn uwch na dim ond y ffigurau adfeddiannau beili a ddangosir yma.

13 http://gov.wales/docs/statistics/2016/160630-mortgage-landlord-possession-actions-taken-in-county-courts-2015-16-en.pdf

7

Page 9: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Mae Ffigur 3 isod yn dangos y gyfradd troi allan fesul 1,000 o’r stoc anheddau rhent cymdeithasol ledled Cymru yn ystod 2015.

Ffigur 3: cyfraddau troi allan fesul 1,000 o’r stoc anheddau rhent cymdeithasol

8

Page 10: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Nid oes data cyfredol ar gael ar nifer yr adfeddiannau, gwarantau ac achosion o droi allan gan LCCau, o gymharu â landlordiaid awdurdodau lleol. Mae’r data diweddaraf yn ymwneud â 2010-1114. Mae Ffigur 4 yn ceisio amcangyfrif nifer a chanran y cyfanswm stoc dai a arweiniodd at adennill meddiant, gwarantau ac achosion o droi allan yng Nghymru ar gyfer gosodiadau LCC yn 2015-16. Mae’n defnyddio’r data a gyflwynwyd yn Ffigur 2 ac yn ei gymhwyso i ddata o 2010-11. Mae Ffigur 5 yn rhoi cyfrifiad tebyg ar gyfer landlordiaid awdurdodau lleol.

Mae Atodiad Un yn rhoi esboniad manwl ynglŷn â sut y cyfrifwyd yr amcangyfrifon. Mae’n bwysig nodi fod y cyfrifiad yn defnyddio data o 2010-11, 2014-15 a 2015-16 ac y cafwyd y data hwn o ddwy ffynhonnell ddata swyddogol wahanol. O ganlyniad, dangosol yn unig yw’r niferoedd, a dylid eu trin â gofal.

Amcangyfrifir yn 2015-1615:

Y bu 517 o achosion o droi allan gan LCCau yng Nghymru. O’r rhain, roedd 178 o’r achosion o droi allan yn ymwneud â theuluoedd â phlant (34% o’r achosion o droi allan)

Y bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant (31% o’r achosion o droi allan).

Mae hyn yn gyson â phrofiadau mewn gwledydd eraill; er enghraifft, mae Communities Scotland yn awgrymu bod plant yn byw mewn 43% o’r aelwydydd lle mae gorchymyn troi allan wedi’i roi, ac mewn 31% o’r holl aelwydydd lle bydd pobl yn cael eu troi allan16.

Ffigur 4: Amcangyfrifon o lefelau risg troi allan ar gyfer LCCau yng Nghymru yn 2015-16

LCCau

Risg troi allan Nifer (amcangyfrif) Canran (amcangyfrif)

Cyfanswm stoc tai cymdeithasol17 143,76818

14 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Possessions-and-Evictions

15Mae hyn yn arwain at gyfanswm o 914 o achosion o droi allan ar draws LCCau a landlordiaid awdurdodau lleol. Mae hyn o gymharu â’r 913 o adfeddiannau a amlygwyd yn http://gov.wales/docs/statistics/2016/160630-mortgage-landlord-possession-actions-taken-in-county-courts-2015-16-en.pdf. Mae’r anghysondeb hwn oherwydd, er mwyn amcangyfrif cyfanswm nifer yr achosion o droi allan mewn LCCau o gymharu â landlordiaid awdurdodau lleol, mae angen i ni gyfuno data 2015-16 â data 2010-11. Mae hyn yn allosod o orchmynion a gwarantau, yn hytrach nag yn uniongyrchol o adfeddiannau.

16 Shelter (2009) Eviction of children and families: the impact and the alternatives.

17 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Social-Housing-Stock-and-Rents/totalsocialhousingstock-by-area-providertype

18 Data ar gyfer 2014-15 yw hwn, gan nad yw data 2015-16 wedi’i gyhoeddi eto.9

Page 11: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Cyfanswm gorchmynion adennill meddiant 1,475 1.0%

Am ymddygiad gwrthgymdeithasol 73 0.1%

Am ôl-ddyledion rhent 1,394 1.0%

Am resymau eraill 9 0.0%

Cyfanswm gwarantau 989 0.7%

Cyfanswm wedi gadael eiddo 517 0.4%

Cyfanswm wedi aros mewn eiddo 472 0.3%

Cyfanswm yr achosion o droi allan 517 0.4%

Teuluoedd heb blant 339 0.2%

Teuluoedd â phlant 178 0.1%

Ffigur 5: Canran ar lefelau risg troi allan ar gyfer landlordiaid awdurdodau lleol 2015-16

Landlordiaid awdurdodau lleol

Risg troi allan Nifer (amcangyfrif) Canran (amcangyfrif)

Cyfanswm stoc tai cymdeithasol19 88,17120

Cyfanswm gorchmynion adennill meddiant 1,415 1.6%

Am ymddygiad gwrthgymdeithasol 68 0.1%

Am ôl-ddyledion rhent 1,314 1.5%

Am resymau eraill 34 0.0%

19 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Social-Housing-Stock-and-Rents/totalsocialhousingstock-by-area-providertype

20 Mae’r data hwn ar gyfer 2014-15, gan nad yw data 2015-16 wedi’i gyhoeddi eto.10

Page 12: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Cyfanswm gwarantau 1,142 1.3%

Cyfanswm wedi gadael eiddo 397 0.5%

Cyfanswm wedi aros mewn eiddo 744 0.8%

Cyfanswm yr achosion o droi allan 397 0.5%

Teuluoedd heb blant 270 0.3%

Teuluoedd â phlant 123 0.1%

Math o deulu’n anhysbys 4 0.0%

Ar gyfer stoc landlordiaid awdurdodau lleol21, yn 2015-16, rydym yn amcangyfrif22 mai canran gyfartalog y gorchmynion adennill meddiant yw 1.60% ar draws yr 11 awdurdod lleol (mae hyn yn gyfwerth â 1,415 o orchmynion adennill meddiant). Gan Sir Gaerfyrddin y mae’r ganran uchaf o orchmynion adennill meddiant (2.16%), ac yna Caerdydd (1.94%) a Sir Benfro (1.87%). Gan Wrecsam y mae’r nifer gymharol uchaf o orchmynion adennill meddiant o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol, ar 0.34%.

Y ganran gyfartalog a amcangyfrifir o achosion o droi allan o stoc dai awdurdodau lleol ar draws yr un ar ddeg awdurdod lleol yw 0.45%. Mae gan dri awdurdod lleol gyfraddau uwchlaw hyn: Sir Benfro (0.71%), Caerdydd (0.68%), Abertawe (0.57%) a Chaerffili (0.53%).

Gan Sir Benfro y mae’r ganran uchaf o stoc dai sy’n arwain at deuluoedd â phlant yn cael eu troi allan (0.34% o gymharu â chyfartaledd o 0.14%). Yng Nghaerdydd y mae’r nifer uchaf o deuluoedd â phlant yn cael eu troi allan (28, sy’n gyfwerth â 0.20%), ac yna 21 yng Nghaerffili (0.19%) ac 20 o deuluoedd â phlant yn Sir Benfro (0.34%).

Yn fyr, yn 2015-2016, fe wnaeth landlordiaid cymdeithasol droi 914 o denantiaid cymdeithasol allan y flwyddyn, gan gynnwys 301 o achosion o droi teuluoedd â phlant allan. Mae hyn yn golygu bod rhyw 512 o blant yn cael eu gwneud yn ddigartref bob blwyddyn yn sgil cael eu troi allan o dai cymdeithasol23.

21 Roedd y data ar gyfer 2010-11 yn cynnwys dadansoddiad o orchmynion, gwarantau ac adfeddiannau yn ôl awdurdod lleol ar gyfer stoc tai landlordiaid awdurdodau lleol, felly roeddem yn gallu cyfrifo amcangyfrifon ar gyfer 2015-16.

22 Mae’n bwysig nodi fod y cyfrifiad yn defnyddio data o 2010-11, 2014-15 a 2015-16 ac y cafwyd y data hwn o ddwy ffynhonnell ddata swyddogol wahanol. O ganlyniad, dangosol yn unig yw’r niferoedd, a dylid eu trin â gofal.

23 Wrth dybio nifer gyfartalog o 1.7 plentyn fesul aelwyd, yn unol â: http://www.ons.gov.uk/ons/rel/family-demography/family-size/2012/family-size-rpt.html

11

Page 13: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

12

Page 14: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

2: Methodoleg

Er mwyn bodloni amcanion yr ymchwil, roedd yn rhaid i aelwydydd a oedd naill ai wedi’u troi allan neu wedi’u bygwth â chael eu troi allan o dai cymdeithasol yng Nghymru, a’r gweithwyr proffesiynol a fu’n gweithio gyda nhw, fod yn ganolog i’r astudiaeth. Roedd ein dulliau ymchwil fel a ganlyn:

Cynhaliom adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth a chyd-destun yn ogystal ag ymgynghori â ffynonellau data eilaidd er mwyn gosod y cefndir i’r ymchwil

Anfonwyd arolwg ar-lein dienw, byr, yn archwilio’r defnydd o asesiadau ariannol, at bob un o’r 11 o awdurdodau lleol24 sydd wedi cadw eu stoc dai. Dilynwyd hyn gan gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i bob awdurdod sy’n dal stoc

Gweinyddwyd arolwg yn archwilio profiadau gweithwyr achos Shelter Cymru o arferion troi allan25 LCCau

Cynhaliom archwiliad trylwyr o astudiaethau achos Shelter Cymru

Cynhaliwyd cyfweliadau manwl a grwpiau ffocws â 35 o randdeiliaid awdurdodau lleol a LCCau ledled Cymru

Cynhaliwyd cyfweliadau manwl, lled-strwythuredig â 14 o aelwydydd a oedd naill ai wedi cael eu troi allan, neu wedi’u bygwth â chael eu troi allan, o dai cyngor yng Nghymru. Roedd safbwynt y defnyddwyr gwasanaeth yn ansoddol o ran natur yn bennaf, ac roedd y data a gasglwyd fel rhan o’r astudiaeth ymchwil hon yn ymwneud â barnau a phrofiadau personol

Roedd demograffeg ein sampl o awdurdodau lleol fel a ganlyn:

i. Daeth ein cyfranogwyr o saith awdurdod lleol gyda gwasgariad daearyddol eang ledled Cymru

ii. Nododd 58% o’r sampl eu bod yn ddynion a nododd 42% eu bod yn fenywod

iii. Roedd 50% o’r sampl yn bobl sengl heb blant (neu ddibynyddion eraill), tra bod 32% yn bobl sengl gyda phlant, ac roedd 18% yn briod/yn cydfyw gyda phlant

iv. Cafodd 63% o’r cyfranogwyr yn ein hastudiaeth eu troi allan ar ôl i’r ddeddfwriaeth newydd gael ei rhoi ar waith ym mis Ebrill 2015, a chafodd y 37% arall eu troi allan cyn 2015.

Cynhaliwyd cyfweliadau manwl, lled-strwythuredig â 14 o aelwydydd a oedd naill ai wedi cael eu troi allan, neu wedi’u bygwth â chael eu troi allan, o dai LCCau yng Nghymru26

24 Y caswom saith ymateb iddo.

25 Y cawsom 15 ymateb iddo.

26 Nid yw’r dadansoddiad o ddemograffeg y sampl hon ar gael.13

Page 15: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Gwahoddwyd tenantiaid, neu’r rhai a oedd wedi’u bygwth â chael eu troi allan, i gymryd rhan drwy Swyddogion Ymchwil yn cysylltu â chyn gleientiaid Shelter Cymru; gofyn i randdeiliaid LCC ac awdurdodau lleol i ledaenu’r cyfle i’w tenantiaid a’u cyn-denantiaid27; lledaenu taflen recriwtio i hosteli lleol a gwasanaethau cymorth, a thrwy wahoddiad agored i’r cyhoedd ar y cyfryngau cymdeithasol. Oherwydd y cyfraddau ymateb isel o ffynonellau eraill, roedd hyd at 75% o’n sampl yn gyn ddefnyddwyr Shelter Cymru

Cynhaliom ddadansoddiad cost i effaith ariannol troi allan o dai cymdeithasol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys y gost uniongyrchol i’r landlord, costau ehangach i’r awdurdod lleol a’r costau ehangach posibl i gymdeithas a phwrs y wlad

Gwnaethom ymgynghori â phum defnyddiwr arall gwasanaethau tai a digartrefedd i holi’n benodol am rwystrau rhag cynnwys landlordiaid a thenantiaid a sut y gellid goresgyn rhwystrau fel hyn.

Ymgymerwyd â’r gwaith ymchwil hwn ar yr un pryd o dan ddwy ffrwd gyllido wahanol, felly, mae amrywiadau bach yn y testunau a archwiliwyd rhwng awdurdodau lleol ac LCCau. Yn ogystal, bu modd i ni gael mwy o ddata a oedd ar gael yn gyhoeddus ar gyfer awdurdodau lleol unigol nag ar gyfer LCCau, ac mae hyn i’w weld o bryd i’w gilydd yn yr adroddiad. Llywodraeth Cymru wnaeth ariannu’r ymchwil gydag awdurdodau lleol, a chwblhawyd y gwaith gyda’r LCCau o dan raglen ymchwil bedair blynedd Shelter Cymru i ddigartrefedd, a ariannwyd gan Oak Foundation.

Teimlai’r Tîm Ymchwil, er mwyn deall y materion yn ymwneud â hygyrchedd a chynaliadwyedd tenantiaethau tai cymdeithasol yng Nghymru yn llwyr, fod angen dod â chanfyddiadau’r ddwy ffrwd ymchwil at ei gilydd i ffurfio un adroddiad llawn cydlynus. Dim ond drwy wneud hyn y gallem awgrymu atebion holistaidd, yn cael eu harwain gan yr hyn a welsom, ar gyfer hyrwyddo effeithiolrwydd ymdrechion landlordiaid i atal digartrefedd o’u stoc.

27 Gan gynnwys gofyn am denantiaid yr oedd y landlord cymdeithasol wedi llwyddo i’w hatal rhag cael eu troi allan.

14

Page 16: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

3: Hygyrchedd a fforddiadwyedd tai cymdeithasol i bobl ar incwm isel

Beth sy’n digwydd pan fydd tai fforddiadwy yn anfforddiadwy?

Mae asesiadau cyn-tenantiaeth yn gyffredin mewn tai cymdeithasol ac yn aml yn cael eu defnyddio fel modd o ddeall anghenion tenant newydd a sicrhau y caiff y denantiaeth ei chynnal. Fel rhan o’r broses hon, mae rhai landlordiaid cymdeithasol yn defnyddio asesiadau ariannol i benderfynu ar fforddiadwyedd tenantiaeth28. Y sail resymegol a’r cyfiawnhad dros yr arfer hwn yw’r gred gan landlordiaid ei bod yn anghyfrifol i roi tenantiaeth i rywun ar gyfer eiddo nad ydynt yn gallu ei fforddio. Mae hwn yn bwynt teg, ac yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd ohoni, mae llawer o bethau sy’n gallu dylanwadu ar sefydlogrwydd ariannol aelwyd, yn enwedig o ran lles, ac yn enwedig budd-dal tai. Fodd bynnag, mae’n bwysig archwilio p’un a oes yna achosion lle mae asesiadau ariannol wedi cael eu camddefnyddio gan landlordiaid cymdeithasol fel ffordd o allgáu tenantiaid rhag cael tenantiaethau a fyddai’n addas fel arall (hynny yw, lle na fyddent yn tan-feddiannu), gan wneud yr aelwyd yn ‘rhy dlawd ar gyfer tai cymdeithasol’.

Tystiolaeth a thueddiadau awdurdodau lleol

Dywedodd 72% o’r awdurdodau lleol a ymatebodd i’n harolwg eu bod ‘weithiau’ yn cynnal asesiadau ariannol gyda’u tenantiaid. Dim ond un awdurdod ddywedodd eu bod ‘bob amser’ yn cynnal yr asesiadau ariannol gyda thenantiaid, a dywedodd un awdurdod nad yw’n eu cynnal o gwbl.

Mae’r defnydd o asesiadau ariannol gan awdurdodau lleol yn aml yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel:

i. P’un a oes rhywun yn delio â’r cais drwy bolisi dyrannu arferol yr awdurdod neu drwy bolisi gosodiadau sensitif: mae’r olaf yn fwy tebygol o sbarduno asesiad ariannol gydag aelwyd na’r cyntaf, ond dywedodd rhai landlordiaid wrthym eu bod yn ceisio cynnal asesiad gyda phob tenant newydd lle bo modd

ii. P’un a yw’r ymgeisydd yn gwneud cais am dŷ yr ystyrir ei fod yn fwy na hynny a fynnir gan eu hanghenion presennol, er enghraifft, rhywun sengl yn gwneud cais am eiddo dwy ystafell wely: eto, mae’r senario hwn yn fwy tebygol o sbarduno asesiad ariannol na chais am eiddo yr ystyrir ei fod y maint iawn ar gyfer anghenion presennol yr aelwyd

iii. P’un a yw’r ymgeisydd yn dod drwy’r llwybr digartrefedd: bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnig yn aml fel rhan o’r cymorth ‘symud ymlaen’ i denantiaeth barhaol ar gyfer aelwydydd digartref

28 Gall asesiadau incwm gael eu defnyddio hefyd i ddiystyru pobl nad ydynt mewn angen oherwydd bod ganddynt incwm uwch neu asedau.

15

Page 17: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

iv. P’un ai hwn yw eiddo cyntaf yr ymgeisydd neu os yw wedi cael profiad o denantiaeth wedi methu yn flaenorol: mae rhai awdurdodau lleol yn dweud eu bod yn gwneud ymdrech arbennig i gynnal asesiadau ariannol gyda’r aelwydydd hyn.

Fe wnaethom ganfod tystiolaeth o arfer da lle’r oedd landlordiaid yn defnyddio’r asesiad ariannol fel modd o sbarduno cymorth i’r aelwyd:

“Byddai asesiad yn nodi lle’r oedd angen i gyfeirio at wasanaethau eraill, fel Cefnogi Pobl, cyngor ar ddyled, cynyddu incwm ac ati.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Canfuom hefyd fod nifer o awdurdodau yn gweithio’n agos gyda thenantiaid i drafod beth maent yn gallu ei fforddio ar hyn o bryd a chynyddu incwm. Yn aml, byddai tîm mewnol, ar wahân neu sefydliad allanol yn gweithio gyda’r tenantiaid er mwyn hybu eu hymgysylltiad â’r broses hon:

“Rydym yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd gyda Money Saviour gan ein bod yn gweld fod pobl yn fwy agored gydag asiantaeth wrthrychol na rhywun yn fewnol. Maent yn cynnig cyngor ymarferol iddynt ar gyllidebu ac yn sicrhau eu bod yn cael yr holl fuddion y mae ganddynt hawl i’w cael.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“Yn ystod y broses gofrestru, byddwn yn cynnal Gwasanaeth Cyngor Ariannol gyda phob tenant newydd i sicrhau ei fod yn fforddiadwy. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ar gyllidebu a budd-daliadau er mwyn sicrhau ein bod yn hyrwyddo hawl i fudd-daliadau. Rydym hefyd yn delio ag unrhyw gyngor ar ddyledion gan gynnig gofyn am help proffesiynol. Wrth ddelio â’r fforddiadwyedd, rydym yn sicrhau eu bod yn deall yn iawn pa dystiolaeth sydd angen ei chyflwyno i gael budd-dal tai, ac yn esbonio’n glir sut i dalu’r rhent.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Dywedodd 43% o landlordiaid awdurdodau lleol wrthym eu bod ‘weithiau’ yn gwneud y penderfyniad i beidio â chartrefu aelwyd ar ganlyniad yr asesiad ariannol. Roedd hyn i weld yn arbennig o amlwg lle na fyddai’r ymgeisydd yn tan-feddiannu. Pan ystyrir bod ymgeiswyr yn methu fforddio tenantiaeth, dywedir wrthynt yn nodweddiadol i ddiwygio’u hopsiynau neu aros am gynnig arall gan yr awdurdod lleol:

“Pan fydd asesiad yn nodi nad yw eiddo mwy yn fforddiadwy, byddai’r ymgeisydd yn aros ar y gofrestr hyd nes i ni nodi eiddo fforddiadwy, llai sy’n bodloni ei anghenion.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Canfu ein cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fod saith o’r un ar ddeg o awdurdodau lleol sy’n cadw stoc tai heb wrthod unrhyw aelwydydd ar gyfer tenantiaeth benodol ar sail fforddiadwyedd yn ystod 2014/15. Dywed landlordiaid fod y gwaith cyn-tenantiaeth y byddant yn ei wneud yn cydweddu darpar denantiaid yn effeithiol â thai addas, felly mae’n

16

Page 18: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

annhebygol y byddai aelwydydd yn cael eu gwrthod ar gyfer tenantiaeth benodol. Fodd bynnag, dywedodd un awdurdod lleol wrthym eu bod wedi gwrthod naw o aelwydydd yn

2014/2015 ar sail fforddiadwyedd, ac y byddai pedair o’r aelwydydd hyn wedi bod ar fudd-dal tai llawn a heb fod yn tan-feddiannu.29

Gwneir mater fforddiadwyedd a chynaliadwyedd yn fwy cymhleth o ystyried y newidiadau presennol a newidiadau yn y dyfodol i fudd-daliadau lles, yn enwedig Credyd Cynhwysol, a chyflwyno’r terfyn ar y Lwfans Tai Lleol yn y dyfodol ar aelwydydd sengl, dan 35 oed mewn tai cymdeithasol. Nid oedd yr ymagwedd benodol sydd gan awdurdodau lleol tuag at aelwydydd yr effeithir arnynt yn y dyfodol yn glir o’r ymchwil bresennol. Fodd bynnag, mae’n amlwg y gallai landlordiaid fod yn amharod i ddyrannu eiddo sy’n fforddiadwy nawr i’r ymgeisydd, dim ond i’r denantiaeth fynd yn anfforddiadwy ac, yn ei thro, yn anghynaliadwy o Ebrill 2018.

Roedd y potensial i aelwydydd ar incwm isel gael eu hallgáu rhag cael tai cymdeithasol yn amlwg gydag un awdurdod lleol yn ein harolwg:

“Pe na bai gobaith gan unigolyn ifanc ar fudd-daliadau o allu fforddio eiddo, byddai’n cael ei roi yn y band isaf ar ein rhestr aros, gan fod rhaid iddo fod yn ‘barod i symud’ er mwyn cael blaenoriaeth.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Nid yw’r enghraifft uchod yn rhoi’r darlun llawn i ni o b’un a oedd yr unigolyn ifanc damcaniaethol yn gwneud cais am dai cymdeithasol yn gyffredinol, neu a oedd yn dewis gwneud cais am eiddo sy’n fwy na hynny a fynnir gan ei anghenion presennol. Mae hyn yn awgrymu y gall fod yna bobl yng Nghymru sy’n aros yn eu hunfan ar waelod y rhestr aros, ni waeth pa mor daer yw eu hangen i gael tŷ.

Dywedodd yr un awdurdod wrthym hefyd am y modd y gallai tenantiaid â lefelau uchel o ôl-ddyledion rhent gael eu hallgáu o’u rhestr aros am dai cymdeithasol:

“Os yw’r lefel ôl-ddyledion mor uchel ei bod wedi’i dosbarthu fel ymddygiad annerbyniol, mae gennym yr hawl hefyd i’w hallgáu o’r rhestr aros.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Fodd bynnag, yn hytrach nag allgáu aelwydydd yn llwyr oherwydd ôl-ddyledion rhent, mae’n fwy cyffredin o lawer i awdurdodau lleol atal ymgeiswyr, neu roi llai o flaenoriaeth, hyd nes bod trefniant wedi’i wneud i ad-dalu’r ddyled. Dywedodd tri awdurdod yng Nghymru wrthym eu bod yn atal ymgeiswyr oherwydd ôl-ddyledion rhent, ac mae awdurdod arall yn rhoi llai o flaenoriaeth oherwydd ôl-ddyledion blaenorol, neu bresennol. Dywedodd awdurdod lleol arall wrthym nad ydynt yn atal ceisiadau mwyach yn dilyn newidiadau i’w proses ddyrannu. Dywedodd un awdurdod lleol yn benodol eu bod yn allgáu ymgeiswyr yn llwyr ar sail ôl-ddyledion rhent:

29 Dywedodd tri awdurdod lleol wrthym nad yw’r wybodaeth hon ganddynt.17

Page 19: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

“Ar hyn o bryd mae 35 o geisiadau wedi’u hallgáu o’r rhestr aros oherwydd ôl-ddyledion - 31 oherwydd ôl-ddyledion a 4 gydag ôl-ddyledion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod arfer yn amrywio’n fawr rhwng awdurdodau lleol, ac mae angen gosod ffiniau clir er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael ymateb cyson gan landlordiaid cymdeithasol.

Yn gryno, mae asesiadau ariannol yn cael eu defnyddio gan landlordiaid awdurdodau lleol yn aml fel modd o ddeall y tenant sy’n dod i mewn ac fel ffordd o sbarduno cymorth a hyrwyddo fforddiadwyedd y denantiaeth. Canfuom mai anaml y bydd tenantiaid yn cael eu hallgáu rhag cael tenantiaethau awdurdodau lleol oni bai: (i) bod yr ymgeisydd yn dewis gwneud cais am dŷ mwy na’i anghenion ac ystyrir ei fod yn anfforddiadwy ar ei incwm presennol neu (ii), mae ôl-ddyledion rhent presennol gan y tenant. Fodd bynnag, gwelsom amrywio yn yr arfer, gydag un landlord awdurdod lleol yn gwrthod tenantiaethau ar sail fforddiadwyedd, hyd yn oed pan fyddai’r rhent yn cael ei dalu’n llawn gan fudd-dal tai.

Tystiolaeth a thueddiadau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCCau)

Mae gwaith a wneir gan LCCau, cyn-tenantiaeth, yn gwahaniaethu’n fawr rhwng landlordiaid ond yn gyffredinol, mae asesiadau yn ceisio:

Nodi fforddiadwyedd a chynaliadwyedd

Cynorthwyo gyda cheisiadau am fudd-dal a help arall i gynyddu incwm

Nodi anghenion cymorth tenantiaeth

Nodi anghenion cymorth arbenigol

Dywedodd mwyafrif y LCCau y siaradon ni â nhw nad ydynt yn allgáu aelwydydd rhag cael tenantiaeth ar sail unrhyw asesiad ariannol a gynhaliwyd:

“Mae gennym brawf fforddiadwyedd ond nid yw’n rhwystr, gan nad yw’n brawf y gall darpar denant ei fethu o ran cael cynnig y denantiaeth. Ni fyddai diffyg fforddiadwyedd yn sail i atal tenantiaeth. Caiff y prawf ond ei ddefnyddio i weld pa help a chymorth y bydd eu hangen ar denant er mwyn cynnal y denantiaeth.” (Rhanddeiliad LCC)

“Nid yw ein polisi gosodiadau yn caniatáu i ni wrthod rhywun am resymau fforddiadwyedd.” (Rhanddeiliad LCC)

Serch hynny, canfuom dystiolaeth i awgrymu bod rhai LCCau yn defnyddio asesiadau cyn-tenantiaeth i allgáu darpar denantiaid rhag cael eu heiddo ar sail fforddiadwyedd.

18

Page 20: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

“Nid ydym yn derbyn pobl sy’n methu fforddio ein heiddo gan y byddai’n anghyfrifol ar ein rhan i adael iddynt fynd i ddyled. Mae yna eiddo eraill [yn lleol] sy’n rhatach na’n heiddo ni, ond maent yn dal mewn cyflwr da. Os yw’r LCCau eraill a’r cyngor yn meddwl ein bod yn annheg, neu’n gyndyn o gymryd risg, yna cynhelir pleidlais ac yna byddwn yn dweud ‘iawn, gall yr unigolyn hwn gymryd tenantiaeth gyda ni.’” (Rhanddeiliad LCC)

Yn wir, tynnodd ein data gwaith achos Shelter Cymru sylw at nifer o achosion lle gwrthodwyd tenantiaeth LCC i ddarpar denantiaid ar sail fforddiadwyedd. Er enghraifft, roedd Clive30 yn derbyn cymorth gan dîm digartrefedd yr awdurdod lleol o dan y ddyletswydd atal, yn dilyn rhybudd troi allan ‘dim bai’ adran 21 o denantiaeth breifat. Cafodd ei enwebu i ddau LCC ac fe’i gwrthodwyd ar gyfer y ddau ar sail fforddiadwyedd. Yna bu’n rhaid i Clive dalu am lety gwely a brecwast ei hun am £48 y noson, a oedd hyd yn oed yn llai fforddiadwy iddo.

Mae’r awgrym fod ffyrdd o fyw/materion penodol yn debygol iawn o effeithio ar allu unigolyn i gynnal tenantiaeth yn cael ei adlewyrchu mewn llenyddiaeth academaidd ac fe’i cydnabyddir ar draws y sector tai a sectorau cyhoeddus eraill. Canfuom fod llawer o landlordiaid yn ymateb i’r her ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i fynd i’r afael â materion ar eu hunion drwy fynd ati i gydlynu cymorth ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth. Serch hynny, teimlwn fod perygl y gallai rhai landlordiaid ddefnyddio presenoldeb yr anghenion hyn i gyfiawnhau gwrthod cais ar sail fforddiadwyedd tra’n llunio barnau moesol ynglŷn â pha mor ‘ymrwymedig’ y gallai darpar aelwyd fod i denantiaeth.

“Mae fforddiadwyedd yn mynd i fod yn ystyriaeth gynyddol ... ar bapur, efallai bod gennych ddigon o incwm yn dod i mewn i fforddio’r denantiaeth, i fforddio’r rhent, ond os oes gennych broblemau camddefnyddio sylweddau, os ydych yn gaeth i hapchwarae, mae gennych rywbeth arall sy’n seiffno’r arian hwnnw, efallai na fydd y denantiaeth yn fforddiadwy gan nad yw’n cael ei gweld fel blaenoriaeth i’r unigolyn hwnnw oherwydd ei ddewisiadau ffordd o fyw.” (Rhanddeiliad LCC)

“Mewn gwirionedd, mae’n gwestiwn o faint ydych chi wir yn gwerthfawrogi’r denantiaeth honno. Os ydych chi wedi bod ar y rhestr aros am ychydig flynyddoedd ac yna’n dod a dweud nad yw’r arian gennych, nid ydych wedi dangos digon o feddwl na gwaith paratoi ar gyfer y denantiaeth honno ac nid ydych chi’n gwerthfawrogi’r denantiaeth.” (Rhanddeiliad LCC)

Er bod asesiadau ariannol yn ffordd ddefnyddiol o gychwyn tenantiaeth ar y droed iawn, mae cryn botensial i’w camddefnyddio. Mae’n bwysig nad yw asesiadau’n cael eu defnyddio i gategoreiddio aelwydydd i’r bobl hynny sy’n ‘haeddu’ neu ‘ddim yn haeddu’ tenantiaeth gymdeithasol, ac nad yw landlordiaid yn eu defnyddio fel cyfle i ddewis a dethol eu tenantiaeth neu i fod yn or-gyndyn o gymryd risg.

30 Defnyddir ffugenwau drwy’r adroddiad hwn er mwyn diogelu hunaniaeth. 19

Page 21: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Rhent ymlaen llaw: cynorthwyo neu danseilio cynaliadwyedd?

Dywedodd y rhan fwyaf o LCCau wrthym eu bod yn codi rhent ymlaen llaw, gan weld hyn fel mesur i leihau ôl-ddyledion a achosir gan gyflwyno Credyd Cynhwysol. Gallai’r swm sydd i’w dalu ymlaen llaw fod yn unrhyw beth hyd at bedair wythnos o rent, gan adlewyrchu’r amodau presennol o fewn y sector rhentu preifat. Mae hwn yn rhwystr sylweddol i unrhyw unigolyn, ond yn fwy o rwystr i’r rhai sy’n derbyn budd-dal tai a delir fel ôl-daliad bob pedair wythnos.

“Os yw rhywun ar fudd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, sut gellir disgwyl iddynt dalu £79 ymlaen llaw, sy’n gyfran enfawr o’r hyn sydd ganddynt yn dod o mewn?” (Rhanddeiliad LCC)

Roedd rhai gweithwyr proffesiynol yn y sector yn ymwybodol ac yn cydnabod bod talu rhent ymlaen llaw yn her anorchfygol i rai pobl a’i bod yn debygol o arwain at denant yn dechrau ar ei denantiaeth mewn dyled, sy’n cael effeithiau hirdymor ar gynaliadwyedd eu tenantiaeth. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod llawer iawn o amrywio ar draws y sector ac yn wir, o fewn rhai sefydliadau, o ran y modd y gweithredir rhent ymlaen llaw, gyda rhai gweithwyr proffesiynol yn derbyn ac yn cefnogi’r broses, tra bod eraill yn amlwg heb fod o’i phlaid, ac felly’n gwrthod ei gweithredu.

“Nid yw’n iawn i ofyn am arian ymlaen llaw gan bobl sy’n byw o’r llaw i’r genau beth bynnag. Gall sefydlu aelwyd fod yn gymaint o gost i rai pobl, ei bod yn well gwario arian ar ymgartrefu nag ar rent.” (Rhanddeiliad LCC)

Teimlai rhai rhanddeiliaid fod rhent ymlaen llaw mewn gwirionedd yn annog tenantiaid i fod yn fwy cyfrifol ac atebol am dalu eu rhent a chynnal eu tenantiaethau. Y canfyddiad sydd gan rai LCCau yw bod popeth yn hawdd iawn iddynt pan fydd unigolion yn dechrau eu tenantiaeth. Er enghraifft, dywedir wrthynt ble i arwyddo er mwyn derbyn eu budd-dal tai, gan arwain y tenant i feddwl fod popeth yn cael ei wneud a’i dalu drostynt. Gall hyn, y mae rhai rhanddeiliaid yn dadlau, arwain at broblemau i’r tenantiaid yn y dyfodol gan nad ydynt yn ymwybodol fod angen iddynt ddelio â sefyllfaoedd eu hunain; bydd rhywun arall yn cael trefn ar bethau drostynt.

“Byddwn yn gwneud eithriadau, ar sail unigol. Rydym yn gwneud hynny os nad oes arian o gwbl gan bobl. Ni fyddwn fyth yn gwrthod tenantiaeth i rywun am nad yw’r rhent ganddynt. Ond rydym yn ceisio cael pobl i sylweddoli: y ffaith eich bod ar fudd-dal tai, rydych chi’n gyfrifol. Byddwn ni’n clywed o hyd: ‘Dwi i ddim yn talu fy rhent.’ Felly mae’n rhywbeth fyddwn ni’n gwneud.” (Rhanddeiliad LCC)

Canfuom enghraifft yn ein gwaith achos sy’n peri gofid, lle gofynnwyd i unigolyn ifanc agored i niwed a oedd yn gadael gofal i dalu pedair wythnos o rent ymlaen llaw ar ôl cael cynnig ei thenantiaeth LCC gyntaf. Pan holwyd yr LCC, dywedodd mai Credyd Cynhwysol oedd y rheswm dros ofyn am rent ymlaen llaw. Gwnaeth ein cleient gais am fudd-dal tai, ond

20

Page 22: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

oherwydd oedi yn y prosesu, a’r ffaith fod budd-dal tai yn cael ei dalu fel ôl-daliad, golygai nad oedd y denantiaeth yn fforddiadwy.

Casgliad: Cynaliadwyedd a fforddiadwyedd, neu ddibynadwyedd a dymunoldeb?

Fel y trafodwyd, mae’r ymdrech i sicrhau cynaliadwyedd tenantiaeth yn dod yn fwyfwy amlwg yn y sector cymdeithasol. Fodd bynnag, mae anghysonderau sylweddol yn y modd y cyflawnir hyn. Ymddengys bod asesiadau ariannol, lefelau ôl-ddyledion rhent blaenorol a’r gofyniad am rent ymlaen llaw yn cael eu defnyddio gan rai landlordiaid cymdeithasol i fesur ymrwymiad a gallu unigolyn i gynnal tenantiaeth. Yr hyn sy’n peri mwy o bryder yw’r defnydd anfwriadol o’r prosesau hyn fel profion i ystyried p’un a yw tenant yn gallu ymdopi â thenantiaeth o fewn y sector, ar sail rhagdybiaethau negyddol a wneir gan weithwyr proffesiynol ynglŷn â ffordd o fyw unigolyn.

Mae’n amlwg fod angen mwy o dryloywder ac eglurder ynghylch y broses hon, ac y dylid gwneud mwy o waith i amlygu dulliau i wella ac annog cynaliadwyedd tenantiaeth, heb allgáu’r bobl hynny y cafodd ei lunio ar eu cyfer.

21

Page 23: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

4: Pam y mae pobl yn cael eu troi allan o dai cymdeithasol : ‘sbardunau’ troi allan

Mae’r mwyafrif o hawliadau meddiant ac achosion o droi allan o dai cymdeithasol yn ganlyniad ôl-ddyledion rhent. Yn ein hymchwil gyda thenantiaid awdurdodau lleol, nododd 100% o bobl a gafodd eu troi allan mai ôl-ddyledion rhent oedd y prif ffactor a arweiniodd atynt i golli eu cartref. O’r rheiny a gafodd eu bygwth â chael eu troi allan31, dywedodd 85% mai ôl-ddyledion rhent oedd y prif ffactor. Roedd y mwyafrif helaeth (dros 80%) o’r rhai a gafodd eu troi allan neu eu bygwth â chael eu troi allan wedi cronni ôl-ddyledion sylweddol, rhwng £1,500-£2,500 yn nodweddiadol. Roedd mwyafrif y tenantiaid a gafodd eu troi allan fel hyn wedi bod yn destun o leiaf dau achos llys ynglŷn â diffyg talu erbyn i’r gorchymyn troi allan gael ei weithredu.

Llwybrau i ôl-ddyledion rhent a throi allan

Mae’r ymagwedd ‘llwybrau’ at ddigartrefedd32 yn ffordd o ddadansoddi’r ddau ffactor y credir eu bod yn cyfrannu at ddigartrefedd: sef cyfuniad o rymoedd strwythurol (er enghraifft, cyflogaeth, amodau’r farchnad dai a pholisïau cyhoeddus) a chamau gweithredu unigol neu asiantaeth (achosion digartrefedd, sef cymeriad ac ymddygiad yr unigolyn digartref). Er bod llawer o wahaniaethau rhwng hanesion ein cyfranogwyr, daeth dau lwybr allweddol33 i’r amlwg o’n hymchwil:

(i) Tenantiaid heb anghenion cymorth ychwanegol sy’n wynebu rhwystrau strwythurol fel newidiadau i ddiwygio lles, cyflogaeth ansefydlog (neu dim cyflogaeth), newidiadau sydyn mewn amgylchiadau a heriau o ran budd-dal tai

(ii) Tenantiaid sydd ag anghenion cymorth heb eu bodloni sy’n amharu ar eu gallu i dalu eu rhent ac ymgysylltu â’u landlord i ddatrys y broblem.

Mae’r ddau lwybr hwn yn bwysig am eu bod ill dau yn mynnu ymatebion ychydig yn wahanol gan y landlord. Bydd yr adran hon yn archwilio’r ddau lwybr hwn yn fanylach.

Rhesymau strwythurol yn arwain at ôl-ddyledion rhent a chamau i adennill meddiant

Mae cryn ymchwil wedi’i wneud ar niferoedd, achosion a nodweddion economaidd-gymdeithasol tenantiaid tai cymdeithasol sydd ag ôl-ddyledion rhent (er enghraifft, Evans a

31Sydd yn yr astudiaeth hon yn cynnwys tenantiaid y datryswyd eu problemau tai yn ogystal â’r rheiny sy’n dal â phroblem.

32Clapham, D. (2002) "Housing Pathways: A Post Modern Analytical Framework" Housing, Theory and Society cyfrol 19 rhif 2 tud.57- 68.

33 Wrth gwrs, bydd tenantiaid sy’n disgyn i’r ddau gategori (h.y. sy’n wynebu heriau strwythurol rhag talu eu rhent ac sydd ag anghenion cymorth ychwanegol), sy’n cymhlethu eu hanfantais.

22

Page 24: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Smith, 200234 mewn perthynas â Chymru a Gray et al., 199435; Pawson et al., 201036). Mae astudiaethau cynharach wedi dod i’r casgliad yn gyson mai achos sylfaenol ôl-ddyledion rhent yw tlodi a bod mwyafrif helaeth yr aelwydydd ag ôl-ddyledion yn ddi-waith neu mewn gwaith ar gyflog isel.

Mae problemau gyda budd-dal tai (oedi o ran prosesu, hawliadau wedi mynd ar goll, asesiadau anghywir, adennill gordaliadau, problemau cyfathrebu) wedi bod yn thema gyson wrth esbonio’r nifer o achosion o ôl-ddyledion rhent (Gray et al., 1994). Bydd newidiadau diweddar yn y system budd-daliadau lles wedi cymhlethu’r mater hwn i lawer o aelwydydd.

Mae’r llwybr strwythurol hwn hefyd yn cynnwys ôl-ddyledion wedi’u sbarduno gan newidiadau sydyn yn amgylchiadau personol pobl sy’n arwain at ostyngiad sydyn mewn potensial incwm – er enghraifft, colli cyflogaeth, salwch, perthynas yn chwalu neu brofedigaeth.

Dywedodd dwy ran o dair o gyfranogwyr awdurdodau lleol mai materion yn ymwneud â budd-daliadau oedd prif achos eu hôl-ddyledion rhent. Roedd y rhain yn aml yn cynnwys taliadau anghywir neu daliadau hwyr, a newidiadau i’r system les.

“Ar ôl iddynt ddyrannu’r tŷ hwn i ni dair blynedd yn ôl, cawsom ein taro gan y terfyn ar fudd-daliadau a dyna beth wnaeth roi’r ffon yn fy olwyn i. Rwyf wedi bod ag ôl-ddyledion i’r cyngor fyth ers hynny. Rwy’n fam sengl gyda phump o blant o dan 11 oed, a chollais dros hanner fy incwm. Doeddwn i ddim yn gallu cadw fy mhen uwchlaw’r dŵr.” (Tenant Awdurdod Lleol wedi’i bygwth â chael ei throi allan)

Roedd cyfweliadau rhanddeiliaid â swyddogion tai yn awgrymu bod y gyfradd achosion troi allan oherwydd ôl-ddyledion, lle mai’r gosb tan-feddiannu oedd y prif ffactor cyfrannol, yn gymharol isel ar draws awdurdodau lleol Cymru. Mae’n bosibl fod lefel parodrwydd awdurdodau lleol ar gyfer effaith debygol y newid wedi lliniaru ei effaith yng Nghymru, er y byddai angen mwy o ymchwil i archwilio hyn yn llawn. Er i’n hastudiaeth ganfod dwy enghraifft o’r gosb tan-feddiannu yn arwain at ôl-ddyledion a bygythiadau o droi allan, yn y ddau achos, roedd problemau iechyd meddwl gan y tenant (iselder, gorbryder) ac roedd yn gaeth i gyffuriau, a wnaeth ymgysylltu â’u landlord yn anodd iddynt.

Canfuom dystiolaeth hefyd o anawsterau arbennig yn ymwneud â budd-daliadau mewn gwaith. Roedd y rhan fwyaf o’r tenantiaid a oedd mewn cyflogaeth adeg eu problemau tai mewn swyddi incwm isel, a rhai ohonynt ar gontractau oriau achlysurol neu dim oriau. Mae’r math ansicr hwn o gyflogaeth, sy’n dod yn fwyfwy cyffredin yng Nghymru heddiw, yn gallu amharu ar allu unigolyn i gael incwm cyson, dibynadwy a rheolaidd. Gall patrymau gwaith incwm isel olygu newidiadau mynych mewn amgylchiadau, gydag oriau ac incwm yn newid

34 Evans, A. a Smith R. (2002) Closing the gap: working together to reduce rent arrears, Caerdydd, Swyddfa Archwilio Cymru.

35 Gray, B. et al. (1994) Rent Arrears in Local Authorities and Housing associations in England, Llundain, HMSO.

36 Pawson, H. et al. (2010) Rent Arrears Management Practices in the Housing Association Sector, Llundain, Yr Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid.

23

Page 25: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

yn fisol weithiau, neu hyd yn oed yn wythnosol. Mae hyn yn arwain at anawsterau ac anghysonderau o ran talu budd-dal tai, gan beri risg i denantiaethau.

“Roeddwn i ar gontract dim oriau ar yr isafswm cyflog gydag asiantaeth, ac roedd fy enillion yn afreolaidd iawn. Roedd fy arian yn cael ei ategu gan fudd-dal tai pan oedd fy nghyflog yn isel, neu pan nad oedd gen i gyflog o gwbl. Dros y cyfnod, cronnodd fy ôl-ddyledion rhent. Roedd yr adran budd-dal tai i weld yn rhwystredig iawn gyda mi. Oherwydd natur fy swydd doeddwn i ddim bob amser yn gallu darparu’r pum slip cyflog blaenorol yr oeddent yn gofyn amdanynt. Roedd hyn yn achosi problemau iddynt.” (Tenant wedi’i Droi Allan)

Datryswyd nifer o’r achosion o fygwth troi allan yn ein hastudiaeth yn y pen draw gan daliad budd-dal o ryw fath wedi’i ôl-ddyddio. Mae hyn yn awgrymu y gallai straen y camau i adennill meddiant fod wedi’i osgoi’n gyfan gwbl gyda chyfathrebu gwell rhwng yr adran tai a’r swyddfa budd-daliadau.

Roedd dyledion eraill heblaw eu hôl-ddyledion rhent gan fwyafrif (dros 70%) o’r defnyddwyr gwasanaethau awdurdodau lleol a gafodd eu cyfweld. Byddai’r llwybr nodweddiadol yn yr achos hwn yn gweld y tenant yn cael anhawster mantoli amryw o dreuliau gyda chyfanswm incwm isel iawn, gan beidio â thalu un credydwr yn aml er mwyn talu un arall, a gobeithio dal i fyny’r mis canlynol, a throi at gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog gyda chyfraddau ad-dalu uchel. Yn y pen draw, nid yw’r tenant yn gallu jyglo’r gwahanol orchmynion, mae’r ôl-ddyledion rhent wedi cronni’n sylweddol ac eir â’r tenant i’r llys, a all wedyn arwain at gael ei droi allan.

Dywedodd tenantiaid a oedd wedi’u bygwth â chael eu troi allan wrthym mai ymyrraeth gynnar i fynd i’r afael â’r materion strwythurol sy’n arwain at ôl-ddyledion rhent yn cronni sydd fwyaf gwerthfawr. Mae hyn yn cynnwys: (i) cymorth uniongyrchol i ddatrys problemau budd-dal tai (ii) cymorth uniongyrchol i gael cyllid ychwanegol a (iii) chyfeirio at gynghorwyr annibynnol ar gynyddu incwm a/neu gynghorwyr dyled.

Anghenion cymorth heb eu bodloni yn arwain at ôl-ddyledion rhent a chamau gweithredu i droi allan

Gall ôl-ddyledion rhent ddigwydd yn aml oherwydd anghenion cymorth heb eu bodloni fel problemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, neu ddiffyg sgiliau byw’n annibynnol37. Dywedodd dros hanner y defnyddwyr gwasanaethau awdurdodau lleol y siaradom â nhw yn ein hastudiaeth bresennol wrthym fod eu hôl-ddyledion rhent wedi’u gwaethygu gan anghenion cymorth eraill, gan gynnwys salwch meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. Canfuom fod y llwybr hwn yn arbennig yn achosi diffyg ymgysylltu â landlordiaid.

“(Oherwydd fy iechyd meddwl) mae’r sefyllfa wedi gwaethygu eto - mwya’r camau gan y llys, mwya’r sancsiynau, mwya’r bygythiadau – y mwya’ dwi wedi cilio oddi wrtho.” (Tenant wedi’i fygwth â chael ei droi allan)

37 Campbell, J.A. (2011). The impact of Intentional Homeless decisions on people’s lives.24

Page 26: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

“Roeddwn i’n cael triniaeth ar gyfer iselder ar y pryd ac roedd hi’n anodd ymdopi, felly fe wnes i gladdu fy mhen yn y tywod gan deimlo wedi fy nal ac yn ddiymadferth.” (Tenant wedi’i fygwth â chael ei droi allan)

“Mae llawer o denantiaid yn encilio ac yn datgysylltu’n llwyr pan fyddant yn mynd i drafferth gyda’u rhent... mae’n eithaf anodd i ni gael synnwyr clir o faint mae hynny’n ymwneud ag afiechyd meddwl y tenant...gallwn ni helpu i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, drwy eu hatgyfeirio at y gwasanaeth cymorth priodol. Mae symptomau cyflyrau fel iselder a gorbryder yn anodd eu gwahaniaethu yn aml oddi wrth gwrthod ymgysylltu â’r cyngor yn fwriadol.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“Roeddwn i’n pryderu ac yn poeni gymaint fel nad oeddwn i’n llythrennol yn gallu agor llythyr neu ateb galwad ffôn, ac roeddwn i’n gwybod y byddai hynny’n gwneud i mi edrych yn waeth yn y llys, ond erbyn hynny, roeddwn i wedi blino’n llwyr ac yn arswydo rhag sortio’r cyfan i mi fy hun. Byddai wedi bod yn braf cael gweithiwr cymorth.” (Tenant wedi’i fygwth â chael ei droi allan)

Mewn rhai achosion, dywedodd cyfranogwyr wrthym eu bod yn cadw eu problemau iechyd meddwl iddyn nhw eu hunain gan nad oeddent yn meddwl bod help a chymorth ar gael iddynt. Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf wrthym fod yr awdurdod lleol yn ymwybodol o’u problemau iechyd meddwl adeg yr ôl-ddyledion rhent a phan gawsant eu troi allan.

Astudiaeth Achos

Cafodd Craig, sy’n 58, ei droi allan o’i lety awdurdod lleol dros flwyddyn yn ôl. Ar ôl cael diagnosis o salwch meddwl difrifol, cafodd Craig feddyginiaeth ar bresgripsiwn a oedd yn ei wneud yn anghofus, yn peri iddo ddrysu’n hawdd a mynd yn swrth. Bu’n rhaid iddo roi’r gorau i weithio, ac oherwydd bod ei allu i gynhyrchu incwm wedi lleihau’n aruthrol, aeth i ôl-ddyledion rhent a’i fygwth â chael ei droi allan.

Gofynnom i Craig sut oedd yn teimlo ynglŷn â’r cymorth a gynigiwyd iddo gan ei landlord i fynd i’r afael â’i ôl-ddyledion rhent ac i atal cael ei droi allan:

“Mae hynny’n dibynnu beth ydych chi’n ei olygu o ran ‘cymorth.’ Yn sicr cefais lawer o bobl o’r cyngor yn dod yma i’m gweld, ond allai ddim dweud mod i wedi teimlo erioed fy mod yn cael cymorth ganddynt. Y cyfan yr oeddent i weld yn ei wneud oedd bygwth, bygwth a bygwth [fy nhroi allan]. Doeddwn i ddim yn dda o gwbl bryd hynny, roedd fy iechyd meddwl yn ofnadwy, ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn ymdopi, felly roedd y bygwth hwn drwy’r amser yn gwneud i mi deimlo’n fwy pryderus ac isel. Roedden nhw’n ddigon cyfeillgar, nid oedd unrhyw deimlad cas erioed, dim unrhyw sefyllfaoedd annifyr, dim byd felly. Ond doedd ganddyn nhw ddim byd i’w ddweud mewn gwirionedd, heblaw fy mygwth i gyda’r llys a chael fy nhroi allan. Yn ddigon teg, fe wnaethon nhw fy atgyfeirio i at wasanaethau iechyd meddwl i mi gael triniaeth. Ond roedden nhw’n gwybod nad oeddwn i’n dda, felly pam cadw i fy mygwth i? Roedden nhw’n gwybod nad oeddwn i’n gallu talu fy nyledion yn ôl ar y pryd, am fod gen i salwch meddwl. Aeth yr achos i’r llys, ac felly roedd

25

Page 27: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

gen i’r costau a’r ddirwy i’w talu ar ben fy ôl-ddyledion. Roedd y cyfan i weld yn pentyrru yn fy erbyn i, ac nid oeddwn i’n gallu gweld ffordd i grafangu fy ffordd allan o’r sefyllfa.”

Aeth yr awdurdod lleol yn ei flaen a throi Craig allan. Ar ôl cael ei droi allan, treuliodd gyfnod ar ward ysbyty seiciatrig am rai misoedd. Wedi iddo gael ei ryddhau, aeth Craig at yr awdurdod lleol i ddweud ei fod yn ddigartref, sef yr awdurdod lleol a wnaeth ei droi allan. Cafodd ei roi mewn llety dros dro gerllaw’r eiddo y cafodd ei droi allan ohono’n flaenorol:

“Wn i ddim pam maent wedi fy rhoi yn y lle hwn, mae’n ofnadwy. Mae lleithder ymhob man ac mae’n drewi. Y peth gwaethaf yw, nid wyf yn gwybod beth maen nhw’n disgwyl i mi wneud. Ni allai fforddio lle rhent preifat felly does gen i ddim dewisiadau. Rwyf wedi cael fy ngwthio o bared i bost a nawr rwyf rhwng dwy stôl. Fe wnaethon nhw addo gweithiwr cymorth i mi ond nid wyf erioed wedi siarad ag unrhyw un. Maen nhw wedi dweud wrtha’i nad oes unlle i gael i mi fynd iddo, felly rhaid i mi aros yma. Nid yw’r sefyllfa wedi’i datrys, rwy’n dal yn ddigartref. Nid wyf yn talu am fy lle; mae’n siŵr ei bod yn rhaid bod y cyngor yn talu. Pam trafferthu fy nhroi i allan os ydych chi’n mynd i dalu i mi aros mewn llety dros dro beth bynnag?”

Dywedodd tenantiaid a oedd wedi’u bygwth â chael eu troi allan wrthym mai’r canlynol yr oeddent yn gwerthfawrogi fwyaf gan landlordiaid i’w helpu i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent: (i) dealltwriaeth a sensitifrwydd tuag at effaith cyflyrau iechyd meddwl ar ymddygiad talu rhent a chyfathrebu, (ii) y cyfle i weithiwr iechyd meddwl proffesiynol eirioli â’r landlord ar ran y tenant, (iii) cydweithio rhwng gwasanaethau tai ac iechyd meddwl i sicrhau ymateb cydgysylltiedig i sbardunau troi allan.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig yn sbarduno camau troi allan

Gan mwyaf, mae landlordiaid cymdeithasol yn cymryd camau i adennill meddiant mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ymateb i ddau gategori ymddygiad bras: ymddygiad gwrthgymdeithasol ‘difrifol’ (e.e. trais, aflonyddu, delio cyffuriau) ac, fel cam olaf, ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, ond llai difrifol, pan fydd atebion eraill wedi methu. Ychydig o ymchwil sydd wedi’i wneud ar y mathau o aelwydydd sy’n cael eu cyhuddo o ymddygiad gwrthgymdeithasol, er i ymchwil yn yr Alban ar ddiwedd y 1990au adrodd mai teuluoedd a phobl sengl oedd yn fwyaf tebygol o fod wedi bod yn destun cwynion, ac aelwydydd pensiynwyr a chyplau gyda phlant oedd y rhai lleiaf tebygol o ennyn cwynion38.

I gyfranogwyr awdurdodau lleol wedi’u bygwth â chael eu troi allan ar sail heblaw am ôl-ddyledion39, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu faterion yn ymwneud â chyflwr yr eiddo a arweiniodd at eu hargyfwng tai. Roedd anghenion cymorth heb eu bodloni yn gyfrifol am yr achosion honedig o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr astudiaeth bresennol.

38 Scott, S. a Parkey, H. (1998) Myth and Reality: Anti-Social behaviour in Scotland, Housing Studies, 13:3, tud 324-345.

3915%.26

Page 28: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Roedd un cyfwelai, sef dynes sengl yn ei 50au, yn dioddef o salwch meddwl nad oedd diagnosis wedi’i wneud ohono, ac roedd hi’n ei chael yn anodd eithriadol cynnal ei heiddo. Dechreuodd y cymdogion gwyno am yr ardd, a oedd yn amharu ar eu heiddo nhw, a hefyd cafodd cwynion eu gwneud fod cyflwr cyffredinol yr eiddo yn wael ac yn ‘tynnu safon y gymdogaeth i lawr’.

Symptomau’r cyflwr iechyd meddwl y gwnaed diagnosis ohono mewn perthynas â’r tenant yn ddiweddarach yw gorbryder eithafol a nychus, yn arwain at iselder, ffobia cymdeithasol ac encilio yn sgil hynny. Pan alwodd swyddogion tai yn yr eiddo yn gofyn am gael mynd i mewn a gwneud archwiliad, gwrthododd iddynt fynd i mewn. Digwyddodd hyn nifer o weithiau, gan arwain y tenant i gylch o orbryder ac encilio. Yn y pen draw cymerodd yr awdurdod gamau i’w throi allan ar sail torri amodau’r denantiaeth. Mae’r tenant yn dweud na chafodd gynnig cymorth tenantiaeth yn ystod y cyfnod hwn, ac ni chafodd ei hatgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl.

“Ni wnaeth y cyngor unrhyw beth i fy helpu neu fy nghynghori. Pe bai rhywun wedi delio â hyn, efallai na fyddai gen i’r gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol yma yn fy erbyn.”(Tenant wedi’i bygwth â chael ei throi allan)

Ni sylwodd staff y cyngor ar ei chyflwr. Yn yr achos hwn, cafodd y tenant gyngor a chymorth annibynnol. Roedd y gweithiwr cymorth yn gallu atal digartrefedd y tenant drwy drefnu i’r gwrandawiad llys gael ei ohirio a thrwy ei chynorthwyo i gael gwasanaethau iechyd meddwl. Ar ôl cael diagnosis o gyflwr gorbryder difrifol, dechreuodd y tenant gael triniaeth a gwelodd, wrth i’w chyflwr wella, fod ei gallu i wynebu problemau ymarferol yn ymwneud â thai yn gwella hefyd.

“Fe wnaeth [y gweithiwr cymorth] fy helpu i gyda phopeth. Fe wnaeth fy arbed i rhag bod ar y stryd, fy nghael i ar fy nhraed eto gyda’r salwch meddwl. Fe wnaeth fy nghyfeirio at brosiect sy’n helpu gyda chlirio gerddi, fel bod y cyngor yn gallu gweld fy ’mod i’n gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r broblem. Drwy’r sefydliad cymorth y deuthum i gysylltiad â Chymunedau yn Gyntaf, ac roedden nhw’n barod i roi cymorth hefyd, gan neilltuo gweithiwr achos i mi. Fe wnaethant fy helpu i roi hawliad i mewn am fudd-daliadau afiechyd. Nid oeddwn i’n gallu fforddio gwresogi tŷ, roedd y nwy wedi’i dorri i ffwrdd, ac roedd y gaeaf ar ddod. Fe wnaeth fy ngweithiwr achos helpu gyda hynny i gyd.” (Tenant wedi’i bygwth â chael ei throi allan)

Gwnaeth nifer o’n cyfranogwyr tenantiaid cymdeithasol y pwynt fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn fater cymhleth iawn lle gall y ddyletswydd i nodi a chymryd camau yn erbyn y rhai sy’n troseddu gosbi’r dioddefwyr yn anfwriadol.

“Cefais hysbysiad i adael ac felly roedd hi’n edrych yn debygol y byddwn i’n ddigartref yn 58 oed. Allwn i ddim credu fod pethau wedi dod i hyn, finnau ar fin colli’r fflat roeddwn i’n ei garu, a beth oeddwn i wedi’i wneud i haeddu hynny? Rwyf wedi byw mewn dychryn o fy mab sydd â salwch meddwl ers dwy flynedd, gan fy ngwthio i’r pwynt bod fy nerfau yn

27

Page 29: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

chwalu, a nawr ro’n i am gael fy ngwneud yn ddigartref. Ro’n i mewn anobaith llwyr; allwn i ddim gweld ffordd allan.”(Defnyddiwr Gwasanaethau)

Dywedodd tenantiaid a oedd wedi eu bygwth â chael eu troi allan am ymddwyn yn wrthgymdeithasol wrthym mai ymyrraeth gynnar i fynd i’r afael ag anghenion cymorth heb eu bodloni sydd fwyaf gwerthfawr a llwyddiannus o ran atal camau gweithredu sy’n arwain at y perygl o droi allan. Mae tenantiaid sy’n cael eu cyhuddo o ymddwyn yn wrthgymdeithasol am i landlordiaid asesu eu bywydau’n gyfannol ac ystyried materion fel problemau iechyd meddwl neu drais yn y cartref. Roedd yn well gan y bobl y gwnaethom gyfweld â nhw gael ymyrraeth gan wasanaeth cynorthwyol, annibynnol yn hytrach na’r landlord, i fynd i’r afael â’r anghenion, sy’n aml yn gymhleth, eu hunain. Mae hyn yn amlygu’r angen am gydweithio effeithiol ar draws sefydliadau a sectorau.

28

Page 30: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

5: Effaith troi allan o dai cymdeithasol: y costau ariannol a chymdeithasol

Dadansoddiad o gost ariannol troi allan

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi gyda’r bwriad o ddeall y costau o droi allan o dai cymdeithasol. Caiff costau eu harchwilio ar draws tair lefel:

i. Costau uniongyrchol i awdurdodau lleol fel landlordiaid. Mae hyn yn manylu ar y costau sydd eu hangen i droi allan, mewn gwirionedd

ii. Costau ehangach i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Mae hyn yn darparu gwybodaeth am y costau ehangach yr aethpwyd iddynt o ganlyniad i droi allan

iii. Costau cymdeithasol. Mae hyn yn amlygu data ar y costau ehangach yr eir iddynt o ganlyniad i droi allan, a’i effaith ar y gymdeithas gyfan.

Costau uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasol

Mae adolygiad pen desg o’r data sydd ar gael yn dangos bod y costau uniongyrchol i landlord yn sgil troi allan yn amrywio, ond yn gyffredinol maent yn cynnwys:

Hysbysiad ar gyfer adennill meddiant

Gorchymyn ar gyfer adennill meddiant

Rhoi gwarant

Costau llys

Ôl-ddyledion rhent

Gwaith ail-osod i eiddo

Cost ail-osod eiddo

Colled am fod eiddo yn wag

Fodd bynnag, mae ystod o gostau posibl eraill i landlordiaid o ganlyniad i orfod troi tenant allan. Er enghraifft:40 41

Amser staff tai yn cael ei dreulio yn delio â chwynion cymdogion gan swyddogion tai, rheolwyr ardal, uwch aelodau staff, a gofalwyr

40Evaluation of the Dundee Families Project, Medi 2001, Dillane, J., Hill, M., Bannister, J., Scott, S., Prifysgol Glasgow.

41Nid yw’r rhan fwyaf o’r ddogfennaeth a adolygwyd yn yr adran hon sy’n archwilio costau i landlordiaid yn gwahaniaethu rhwng costau i landlordiaid awdurdodau lleol a chostau i LCCau.

29

Page 31: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Costau cyfreithiol i gael cyngor, gwaharddiadau, camau gweithredu i droi allan

Amser staff digartrefedd a dyrannu wrth ddelio â cheisiadau am drosglwyddo

Costau gweithredu mentrau a chostau parhaus sy’n gysylltiedig â’r rhain

Lleihad o ran dymunoldeb eiddo (gwerth marchnad is/gostyngiad yn y galw)

Cynnydd mewn salwch staff o’r gwaith yn gysylltiedig â straen.

Mae’r Gronfa Ddata Costau Teuluoedd Cythryblus (2013)42 yn amcangyfrif mai’r costau uniongyrchol am droi allan i ddarparwr tai (LCC neu awdurdod lleol) yw £8,619. Dadansoddir y costau hyn fel y dangosir isod. Mae’n seiliedig ar ddadansoddiad a wnaed gan Gyngor Dinas Manceinion o ddata a ddarparwyd gan Eastland Homes.

Ffigur 6: Dadansoddiad o’r costau yn y Gronfa Ddata Costau Teuluoedd Cythryblus

Categori costau Cost

Lefel gyfartalog yr ôl-ddyledion adeg troi allan £4,955

Cost gyfartalog i atgyweirio eiddo43 £2,452

Colled rhent cyfartalog fesul eiddo yn ystod atgyweirio/ailosod £563

Costau llys cyfartalog sy’n gysylltiedig â throi allan £205

Cost amser swyddogion yn gysylltiedig â bwrw ymlaen â throi allan £444

CYFANSWM £8,619

Gan gymryd bod 517 wedi cael eu troi allan gan LCCau yng Nghymru44 yn 2015-16 ar gost o £8,619 i LCC fesul pob achos o droi allan, mae hyn yn gywerth â chyfanswm cost i LCCau o £4,456,023 dros y flwyddyn.

42 Ar gael yn: http://www.local.gov.uk/c/document_library/get_file%3Fuuid%3De59b819b-2030-4bb5-a93f-5a4fbfee472c%26groupId%3D10180&sa=U&ved=0ahUKEwic6_6Xi7bLAhULwBQKHROdAJMQFggPMAU&client=internal-uds-cse&usg=AFQjCNErampp3rcGyd2Cb8APbwttCYbbUQ

43 Y cyfartaledd ar gyfer pob eiddo gwag, nid dim ond y rhai gwag oherwydd troi allan, y gall fod angen mwy o atgyweiriadau arnynt yn aml.

44 Fel yr adroddwyd yn gynharach yn yr adroddiad, mae’n bwysig nodi bod y cyfrifiad yn defnyddio data o 2010-11, 2014-15 a 2015-16 ac y tynnwyd y data hwn o ddwy ffynhonnell ddata swyddogol wahanol. O ganlyniad, dangosol yn unig yw’r niferoedd, a dylid eu trin â gofal.

30

Page 32: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Y ffigur cyfwerth ar gyfer achosion o droi allan o dai awdurdodau lleol (397 wedi’u troi allan) yw £3,423,036. Mae Ffigur 7 isod yn dangos dadansoddiad o hwn yn ôl awdurdod lleol.

Ffigur 7: Dadansoddiad o gostau uniongyrchol i landlordiaid awdurdodau lleol yn deillio o droi allan o’u stoc

Mae hyn yn arwain at gyfanswm cost ar draws LCCau a landlordiaid awdurdodau lleol o £7,879,059.

Costau uniongyrchol achosion lle mae tenantiaid bron â chael eu troi allan

Ychydig o ymchwil sydd wedi’i gyhoeddi ynglŷn â chostau achosion lle mae tenantiaid bron â chael eu troi allan, hynny yw, y tenantiaid y cychwynnwyd y broses troi allan mewn perthynas â nhw drwy wneud cais am orchmynion a/neu warantau adennill meddiant, ond na ddilynir eu hachos drwodd at y cam troi allan, oherwydd ffactorau amrywiol a allai gynnwys ymyrraeth gan asiantaethau allanol. Mae Ffigur 8 isod yn defnyddio tystiolaeth a gyflwynwyd mewn adrannau cynharach a data arall i amcangyfrif costau achosion lle mae tenantiaid bron â chael eu troi allan i LCCau a landlordiaid awdurdodau lleol.

Ffigur 8: Dadansoddiad o gostau achosion lle mae tenantiaid bron â chael eu troi allan ar gyfer 2015-16 (ffynhonnell: amrywiol

Categori costau Cost LCCau45 Costau ALla

u46Costau

Gorchymyn adennill meddiant 95848 £268,24 1,018 £285,04

45 Gweler Error: Reference source not found.

46 Gweler Error: Reference source not found. 31

Page 33: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

£28047 0 0

Gwarant adennill meddiant £11049

47250 £51,920 745 £81,950

Ffioedd cyfreithiwr (fesul episod) £12051

1,43052 £171,600

1,763 £211,560

Cost gweinyddu landlordiaid (fesul episod)

£5053 1,430 £71,500 1,763 £88,150

Cyfanswm cost £563,260

£666,700

Cost uned £39454 £378

Amcangyfrifir mai cyfanswm cost achosion lle mae tenantiaid bron â chael eu troi allan yw £563,260 ar gyfer LCCau yng Nghymru yn 2015-16, a £666,700 ar gyfer landlordiaid awdurdodau lleol55.

Heblaw am y costau i landlordiaid, mae straen a baich costau llys ar denantiaid yn debygol o fod yn sylweddol, gan roi mwy o bwysau ariannol ar aelwydydd sydd eisoes yn cael anhawster ymdopi.

47 https://www.mydeposits.co.uk/blog/bad-news-landlords-and-tenants-court-fees-possession-rise-60

48 Cyfrifwyd fel cyfanswm gorchmynion adennill meddiant (1,475) llai cyfanswm a gafodd eu troi allan (517).

49 https://www.gov.uk/court-fees-what-they-are

50 Cyfrifwyd fel cyfanswm gwarantau adennill meddiant (989) llai cyfanswm a gafodd eu troi allan (517).

51 Crisis (2003) How Many, How Much? Single Homelessness and the question of numbers and cost.

52 Cyfrifwyd fel 958 ynghyd â 472.

53 Crisis (2003) How Many, How Much? Single Homelessness and the question of numbers and cost.

54 Cyfanswm y gost wedi’i rannu gan 1,430.

55 Cysylltwch â’r awdur i gael mwy o wybodaeth am y ffigur hwn32

Page 34: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Costau ehangach i awdurdodau lleol ac eraill56

Mae costau troi tenant allan yn ymestyn ymhellach na’r costau uniongyrchol i’r landlord a’r effaith ar sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r llwybr gwasanaethau. Mae Shelter (2012) yn rhoi dadansoddiad manwl o gostau ychwanegol yr eir iddynt gan sefydliadau eraill yn y DU.

Ffigur 9: Dadansoddiad o gostau trefnu ehangach troi allan i lywodraeth leol/genedlaethol yn y DU (ffynhonnell: Shelter) 57

Shelter 2012-13 Cost

Cyngor a Chymorth

Cyngor yn cael ei ariannu drwy’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol

£174.00

Cyngor desg yn y llys (tu allan i Lundain) £79.50

Atal llwyddiannus drwy atebion tai/ atal digartrefedd £642.00

Tenantiaeth breifat newydd wedi’i sicrhau trwy gynllun blaendal rhent / gwarant

£294.00

Cais Digartrefedd  

Cost penderfyniad ar ddigartrefedd £375.00

Cost y ddyletswydd derfynol £230.00

Llety dros dro  

Hosteli£107.45/yr wythnos

Gwely a Brecwast£334.95/ yr wythnos

Stoc ALl £98.00/ yr wythnos

Stoc Cymdeithas Dai £87.00/ yr

56 Cysylltwch ag awduron yr adroddiad i gael dadansoddiad llawn o’r ffigurau a’r cyfrifiadau a ddefnyddiwyd

57 Briff Ymchwil Shelter 2012: Immediate costs to government of loss of home, Ionawr 2012, www.shelter.org.uk

33

Page 35: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

wythnos

Stoc y Sector Rhent Preifat£162.44/ yr wythnos

Cost weinyddol gosodiad ALl newydd £477.00

Budd-dal Tai a Lwfans Tai Lleol  

Cost prosesu cais am Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol £48.00

Cost Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol  

Sector Rhent Preifat£114.66/ yr wythnos

ALl£70.99/ yr wythnos

Cymdeithas Dai£79.67/ yr wythnos

Mae adroddiad Crisis ‘How Many? How Much?’ (2003)58 yn amlygu’r amrywiant costau i’r rheiny sy’n cael eu gwneud yn ddigartref, gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol ac anghenion cymorth. Dangosir crynodeb o’r costau i landlordiaid a gwasanaethau cymorth ehangach yn Ffigur 10 gyda chostau’n amrywio o £3,000 mewn un senario i £28,500 mewn senario arall.

Ffigur 10: Data Crisis (2003) – Senarios costau enghreifftiol o ganlyniad i ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr59

Categori Costau Isaf Canolig Uchel

Tenantiaeth wedi methu60 Landlord (LCC neu ALl)

£3,000 £3,000 £3,000

Llety dros dro ALl £10,500 £21,000

Gwasanaethau cymorth ALl £2,000 £4,500

58Crisis (2003) How Many, How Much? Single Homelessness and the question of numbers and cost.

59Crisis (2003) How Many, How Much? Single Homelessness and the question of numbers and cost.

60Cynhwyswyd yn yr adran flaenorol.34

Page 36: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

CYFANSWM £3,000 £15,500 £28,500

Mae’r ymgynghoriaeth tai PHHS61 (2013), yn defnyddio data’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol i amcangyfrif costau llety dros dro/gwely a brecwast o £15,637 fesul aelwyd y flwyddyn, neu cyn iddynt gael eu hailgartrefu, ledled Lloegr. Cyfrifir hyn o ddata’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gan ddatgan bod 35,000 o aelwydydd wedi’u gosod mewn llety dros dro o ganlyniad i ddigartrefedd, a gostiodd £547 miliwn y flwyddyn. Mae rhannu £547 miliwn â 35,000 yn rhoi cost o £15,637 fesul aelwyd. Mae defnyddio’r gost hon yn galluogi gwneud amcangyfrif o gyfanswm y costau ehangach, gan gysoni â’r senario cost uchel a amcangyfrifwyd gan Crisis yn y tabl uchod.

Mae Ffigur 11 yn crynhoi’r dystiolaeth uchod ac yn dangos costau uniongyrchol pellach yr aed iddynt gan sefydliadau o ganlyniad i droi pobl allan. Mae hyn yn gyfanswm o £16,186.

Ffigur 11: Dadansoddiad o gostau uniongyrchol ac anuniongyrchol troi allan (ffynhonnell: amrywiol)

Rheswm am y gost Cost

Llety dros dro gan yr awdurdod lleol62 £13,637

Costau eraill yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol o ganlyniad i droi allan63

£549

Is-gyfanswm £16,186

Yn seiliedig dim ond ar nifer y rhai sy’n cael eu troi allan bob blwyddyn yng Nghymru (amcangyfrif o 517 o aelwydydd o LCCau a 397 o aelwydydd o landlordiaid awdurdodau lleol64), a chyfartaledd costau uniongyrchol ychwanegol o £16,186, cyfanswm cost achosion o droi allan ledled Cymru yr aed iddynt gan sefydliadau eraill yw £14,794,004. Caiff hyn ei ddadansoddi fel £8,368,162 o LCCau yn troi pobl allan a £6,425,842 o landlordiaid awdurdodau lleol yn troi pobl allan. Mae hyn yn ychwanegol at y costau yr aed iddynt gan y landlord yn uniongyrchol.

Costau cymdeithasol61 The financial and social costs of evictions, www.phhsl.co.uk (Rhagfyr 2013).

62 The financial and social costs of evictions, www.phhsl.co.uk (Rhagfyr 2013).

63 Ymchwil Briffio Shelter 2012: Immediate costs to government of loss of home, Ion 2012, www.shelter.org.uk

64 Ffigurau dangosol yn unig35

Page 37: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Mae adroddiad Crisis ‘Nations Apart?’ yn amlygu ystod o gostau uniongyrchol eraill i’r llywodraeth a’r gymdeithas o ganlyniad i golli cartref. Er enghraifft, mae’r ymchwil yn awgrymu’r canlynol o ganlyniad i ddigartrefedd:

mae 25% yn mynd ymlaen i gyflawni troseddau er mwyn sicrhau llety

mae 16% yn mynd ymlaen i ddefnyddio gwasanaethau damweiniau ac achosion brys i sicrhau llety

mae 4% yn cael partner rhywiol ‘dieisiau’ er mwyn sicrhau llety

mae 2% yn mynd i wneud gwaith rhyw er mwyn sicrhau llety.

Mae Ffigur 12 yn ceisio amcangyfrif y costau cymdeithasol ehangach sy’n gysylltiedig os yw achosion troi allan o awdurdodau lleol yn dilyn tuedd debyg, gan ddefnyddio’r data costau unedau o’r Gronfa Ddata Costau Teuluoedd Cythryblus.

36

Page 38: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Ffigur 12: Effaith gymdeithasol ehangach o gael eich gwneud yn ddigartref yng Nghymru 65

Effaith digartrefedd

% o bobl wedi’u gwneud yn ddigartref

Oedolion sengl wedi’u troi allan gan ALl66 (cyfanswm o 223 yn 2013/14)

Amcangyfrif cost y pen67

Cyfanswm cost

Cyflawni trosedd i gael llety 25% 56 £2,24168 £125,496

Defnyddio gwasanaethau damweiniau ac achosion brys ysbytai i gael llety

16% 36 £5369 £1,908

Partneriaid rhywiol dieisiau 4% 9 n/a n/a

Gwaith rhyw 2% 4 n/a n/a

Mae adroddiad Crisis ‘How Many? How Much?’ (2003)70 yn amlygu bod pobl ddigartref, ar ryw adeg yn ystod eu bywydau, wedi wynebu diweithdra (64%), afiechyd meddwl (49%), dibyniaeth ar gyffuriau (48%), dibyniaeth ar alcohol (46%) a dedfrydau o garchar (41%). Mae’r adroddiad yn amlygu’r amrywiant costau i’r rheiny sy’n cael eu gwneud yn ddigartref, gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol ac anghenion cymorth. Dangosir crynodeb yn Ffigur 13 sy’n dangos y gall costau amrywio o £4,500 mewn un senario i £83,000 mewn senario arall.

65Nations Apart? Experiences of single homeless people across Great Britain, Mackie, P. Rhagfyr 2014 ar gyfer Crisis.

66Mae’r ffigur a ddefnyddiwyd gan ddata YstadegauCymru ‘math o deulu: heb blant’– yn rhagdybio bod pob aelwyd yn cynnwys un oedolyn fesul aelwyd oedran oedolion heb blant.

67Cronfa Ddata Costau Teuluoedd Cythryblus, www.local.gov.uk

68Cyfartaledd cost fesul arestiad.

69Presenoldeb sylfaen mewn Adran Damweiniau ac Achosion Brys heb unrhyw archwiliad a dim triniaeth o bwys.

70Crisis (2003) How Many, How Much? Single Homelessness and the question of numbers and cost.37

Page 39: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Ffigur 13: Data Crisis (2003) – Senarios costau enghreifftiol o ganlyniad i ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr 71

Categori Costau Isaf Canolig Uchel

Tenantiaeth wedi methu Landlord £3,000 £3,000 £3,000

Llety Dros Dro ALl £10,500 £21,000

Gwasanaethau cymorth ALl £2,000 £4,500

Gwasanaethau iechyd NHS £7,000 £40,000

Heddlu a chyflawnder troseddol Heddlu/ llysoedd

£1,500 £14,500

Adsefydlu posibl Amrywiol £500 £500

Diweithdra Economi £1,000

CYFANSWM £4,500 £24,500 £83,000

Cyfnod bras ½ blwyddyn

1 flwyddyn 2 flynedd

71Crisis (2003) How Many, How Much? Single Homelessness and the question of numbers and cost.38

Page 40: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

A yw digartrefedd ar ben ar ddiwedd y cyfnod?

Na Na Ydy

Sylwer: Yn eu hadroddiad, mae Crisis yn rhoi chwe senario costau gwahanol.

Er bod yr ymchwil gan Crisis yn rhoi costau ehangach dangosol defnyddiol ar gyfer y rheiny sy’n ddigartref, nid yw’n ystyried p’un a fyddid wedi mynd i’r costau hyn beth bynnag, h.y. i ba raddau y mae digartrefedd yn creu effaith negyddol bellach. Mewn geiriau eraill, nid yw’n ystyried y gwrth-ffeithiol: faint o bobl allai fod wedi cael gwasanaethau hyd yn oed pe na baent wedi cael eu troi allan neu’u gwneud yn ddigartref.

Ar hyn o bryd ymchwil gyfyngedig iawn sydd ar gael sy’n dangos yr effaith uniongyrchol ar les y rhai sy’n cael eu troi allan. Rydym wedi nodi dwy brif astudiaeth, sy’n cael eu dangos isod.

Aeth y Sefydliad dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol72 (ISER) ati i archwilio p’un a oedd cael eich troi allan o eiddo ar rent yn cynyddu’r tebygolrwydd o salwch meddwl cyffredin. Mae’r ymchwil hwn yn awgrymu nad oes unrhyw effaith ychwanegol o ganlyniad i gael eich troi allan (hynny yw, dim costau iechyd meddwl ychwanegol).

Mewn cyferbyniad, bu astudiaeth ym Mhrifysgol Rice73 yn yr Unol Daleithiau yn astudio mamau mewn trefi a oedd ar incwm isel, a chanfu fod y rheiny a gafodd eu troi allan yn dioddef effeithiau sylweddol, gan gynnwys mwy o galedi materol. Roeddent yn fwy tebygol o ddioddef o iselder, adrodd am iechyd gwaeth iddyn nhw eu hunain a’u plant ac adrodd am fwy o straen rhianta. Mae rhywfaint o’r dystiolaeth a gasglwyd ganddynt yn awgrymu fod mamau, o leiaf ddwy flynedd ar ôl iddynt gael eu troi allan, yn dal i ddioddef cyfraddau sylweddol uwch o galedi materol ac iselder na’u cymheiriaid. Yn yr astudiaeth hon:

Adroddodd un o bob dwy fam a gafodd eu troi allan eu bod wedi dioddef iselder, o gymharu ag un o bob pedair mam nad oeddent wedi cael eu troi allan. Gan ragdybio mai cost gyfartalog cymorth iechyd meddwl ar gyfer iselder yw £942 ar gyfer unigolyn am flwyddyn74, mae hyn yn creu cost ychwanegol o £42,390 y flwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i droi teuluoedd â phlant allan o dai LCCau75. Y ffigur cyfwerth ar gyfer troi pobl allan o dai awdurdodau lleol yw £29,20276. Cyfanswm y gost yw £71,592.

72 Housing Repossessions, evictions and common mental illness in the UK: results from a household panel study Pevalin, D.J. ISER Y Sefydliad dros Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, 2009.

73Evictions Fallout: Housing, Hardship and Health, Prifysgol RICE, Mawrth 2015.

74 Gronfa Ddata Costau Teuluoedd Cythryblus.

75 Rydym yn amcangyfrif, yn 2015-16, fod 178 o deuluoedd â phlant wedi cael eu troi allan. Rydym wedi rhagdybio fod pob un o’r teuluoedd hyn yn cynnwys mamau. Dan amodau ‘arferol’, bydd gan 1 o bob 4 o’r teuluoedd hyn fam sydd â phroblemau iechyd meddwl. Os cânt eu troi allan, mae hyn yn cynyddu i 1 o bob 2. O ganlyniad, mae 454 o famau ychwanegol yn dioddef o broblemau iechyd meddwl o fewn y garfan.

39

Page 41: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Adroddodd un o bob pum mam a gafodd eu troi allan fod iechyd eu plentyn yn wael, o gymharu ag un o bob deg mam nad oeddent wedi cael eu troi allan. Gan ragdybio fod plentyn ag iechyd gwael yn ymweld â meddyg teulu (£27 fesul ymweliad) a’i fod yn cael presgripsiwn (£34.60 fesul ymweliad) unwaith y mis, mae hyn yn creu cost ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd o £21,437 y flwyddyn77 o ganlyniad i droi teuluoedd â phlant allan o dai LCCau. Y ffigur cyfwerth ar gyfer troi allan o dai awdurdodau lleol yw £15,523 y flwyddyn. Cyfanswm y gost yw £36,960.

Ar sail y data a nodwyd uchod, rydym yn amcangyfrif mai costau cymdeithasol ehangach troi pobl allan o dai LCCau a gosodiadau awdurdodau lleol y gellir eu cysylltu’n uniongyrchol â throi allan yw £456,566 yn 2015-16.

Dadansoddiad o gost a budd

Nodom saith o raglenni a gynlluniwyd i atal troi allan, sef:

1. AmicusHorizon Homes – Tîm Cynhwysiant Ariannol

2. Prosiect Teuluoedd Dundee

3. Lasting Solutions – Charter Housing/Solas Cymru

4. Prosiect Cynhwysiant Shelter ar gyfer y Cymoedd

5. Strategaeth Cynnal Tenantiaeth Cymdeithas Dai Glasgow

6. Tai Cymunedol Bron Afon

7. Glasgow Housing First – Turning Point Scotland

Fe wnaethom archwilio costau cynnal y rhaglen a’r dystiolaeth o’r effaith ar leihau achosion o droi allan. Lle’r oedd data yn caniatáu hynny, cynhaliom ddadansoddiad o gost a budd ar draws tair lefel:

(i) Landlord: y graddau y mae arbedion uniongyrchol wedi’u cronni gan y landlord yn gorbwyso costau cyflawni’r rhaglen

(ii) Partneriaid tai: yr arbedion y gellid eu gwneud gan yr holl bartneriaid tai yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan aelwyd yn cael ei throi allan, hynny yw, y landlord unigol mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol

(iii) Cymdeithasol: fe wnaeth y dadansoddiad hwn ystyried yr holl arbedion y gellid eu cyflawni’n lleol gan yr ystod lawn o bartneriaid a allai fod yn gysylltiedig, mewn rhyw

76 Cafodd 123 o deuluoedd â phlant eu troi allan. 31 o famau ychwanegol yn cael problemau iechyd meddwl o fewn y garfan.

77 Mae costiadau’n seiliedig ar y Cyfrifiannell Cynilion Teulu. Yn seiliedig ar faint Teulu y SYG yn 2012, sef 1.7 o blant fesul teulu http://www.ons.gov.uk/ons/rel/family-demography/family-size/2012/family-size-rpt.html, mae gan 178 o deuluoedd 303 o blant. Mae hyn yn arwain at 29 o blant ychwanegol.

40

Page 42: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

ffordd, â’r aelwyd yn cael ei throi allan.

Gellir gweld canlyniadau llawn yr ymchwiliad a’r dadansoddiad o gost a budd yn Atodiad Dau.

Mae ein canfyddiadau’n awgrymu fod dwy raglen yn creu digon o arbedion ar y lefel partneriaid tai, lle mae modd adennill yr holl gostau uniongyrchol y gellir eu priodoli i droi allan, sef Glasgow Housing First, sy’n arbed £4,180 net fesul aelwyd gyfrannog, a Lasting Solutions, sy’n arbed £5,859 fesul aelod gyfrannog.

Mae gan bob un o’r pedair rhaglen, y mae gennym ddata ar eu cyfer, ddeilliant cadarnhaol o ran cost a budd ar y lefel gymdeithasol. O ran arbediad net fesul aelwyd gyfrannog, yr un mwyaf llwyddiannus yw Lasting Solutions ar £24,270 fesul aelwyd gyfrannog, ac yna Shelter Valleys ar £14,294 fesul aelwyd gyfrannog.

Down i’r casgliad o hyn fod rhaglenni’n llwyddo fwyaf (o safbwynt cost a budd) pan fyddant yn ceisio nid yn unig osgoi troi allan, ond yn ceisio hefyd osgoi deilliannau gwael eraill a all fod yn gysylltiedig â throi allan, fel plant yn mynd i mewn i ofal, camddefnyddio sylweddau ac ati. Yn ogystal, mae dadansoddiad cost a budd economaidd cadarnhaol ond yn ffurfio rhan o’r sail resymegol dros fynd ar drywydd mentrau i atal. Mae’r agwedd foesol, neu’n syml ‘gwneud y peth iawn’, yn ddimensiwn arall y mae’n anodd priodoli costau ariannol iddo.

Casgliad

Mae Ffigur 14 yn rhoi trosolwg o gostau tebygol troi allan o dai LCCau a thai awdurdodau lleol78 yng Nghymru, ar sail data 2015-16.

Ffigur 14: Trosolwg o amcangyfrif costau troi allan o dai cymdeithasol

Math Cost y pen LCC ALl Cyfanswm

Cost uniongyrchol i’r landlord

£8,619 £4,456,023 £3,423,036 £7,879,059

Costau achosion lle mae tenantiaid bron â chael eu troi allan

£394/£378 £563,260 £666,700 £1,229,960

78 Fel y nodwyd, amcangyfrifir y rhaniad ffigwr rhwng LCCau a landlordiaid awdurdodau lleol, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r niferoedd hyn

41

Page 43: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Costau ehangach i sefydliadau eraill

£16,186 £8,368,162 £6,425,842 £14,794,004

Costau ehangach i’r gymdeithas sy’n ganlyniad i droi allan

£257,174 £199,392 £456,566

Cyfanswm £13,644,619 £10,714,970 £24,359,589

Mae achosion o droi allan o dai cymdeithasol yn gyfwerth â chostau uniongyrchol blynyddol bras o £7,879,059 i’r landlord, ac mae’r costau hyn yn fwy na dyblu wrth ystyried costau ehangach i sefydliadau eraill a chost achosion lle mae tenantiaid bron â chael eu troi allan. Amcangyfrifir mai cost flynyddol troi allan o dai cymdeithasol i economi Cymru yw £24,359,589. Mae’r amcangyfrif hwn yn debygol o fod yn geidwadol, oherwydd yr ymchwil gyfyngedig sydd ar gael sy’n dangos yr effaith uniongyrchol ar les y rhai sy’n cael eu troi allan. Felly, gallai’r costau i’r gymdeithas ehangach fod yn uwch nag y rhagwelir yn yr adroddiad hwn. Fe wnaeth ein canfyddiadau amlygu amcangyfrif cost o £36,960 y flwyddyn i’r GIG o ganlyniad i’r dirywiad i iechyd plant sy’n cael eu troi allan o dai cymdeithasol.

Canfuom ei bod yn gwneud synnwyr economaidd i weithredu cynlluniau atal troi allan ar lefel awdurdodau lleol, ac yn enwedig ar lefel gymdeithasol, er mwyn arbed arian o bwrs y wlad. Yn bwysig, fe wnaethom amlygu bod arbedion ariannol yn un rheswm yn unig pam y gallai landlord fod eisiau buddsoddi mewn cynlluniau atal troi allan, ac y gallai dyletswyddau cymdeithasol landlordiaid fod yn gymhelliant arall.

Effaith bersonol troi allan o dai cymdeithasol

Yn ei lyfr diweddar, ‘Evicted: Poverty and Profit in the American City’, mae Mathew Desmond79, sy’n seicolegydd ym Mhrifysgol Harvard, wedi tynnu sylw at y llu o ganlyniadau difrifol a ddaw yn sgil troi allan: nid yn unig colli llety, cyfnod o ddigartrefedd a mwy o galedi materol, ond hefyd y posibilrwydd y bydd teulu’n chwalu, colli swydd ac afiechyd.

Mae ein hymchwil yn ychwanegu tystiolaeth bellach at y ddadl y gall troi tenantiaid allan o dai cymdeithasol gael effaith negyddol aruthrol ar aelwydydd. Yr effeithiau allweddol o droi allan a nodwyd gennym oedd: (i) diffyg cymorth ar ôl troi allan yn arwain at drawsnewidiadau tai anhrefnus; (ii) problemau tai hirdymor cynaledig; (iii) datblygu neu waethygu anghenion cymorth (problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau yn bennaf).

Trawsnewidiadau tai anhrefnus tymor byr heb gymorth

Nid yw’r darlun sy’n dod i’r amlwg o’r ymchwil ansoddol yn ddarlun o gysondeb, gyda thenantiaid sy’n cael eu troi allan yn cael eu harwain drwy broses gymorth benodol fel mater o drefn, ond proses anghyson ac anhrefnus. Fe wnaeth rhai tenantiaid yn benodol ddioddef

79 Desmond, M. (2016) Evicted: Poverty and Profit in the American City, Llundain, Allen Lane.42

Page 44: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

caledi ac ansicrwydd eithriadol ar ôl cael eu gwneud yn ddigartref, heb fawr o gymorth, neu ddim cymorth o gwbl, ar ôl cael eu troi allan.

“Ar y diwrnod troi allan, cefais alwad ffôn yn dweud fod gen i 20 munud i gasglu fy mhethau a gadael. Doedd gen i unman i fynd... bu’n rhaid i mi adael popeth yn y fflat. Ni chefais unrhyw gyngor ynglŷn â ble i fynd. Euthum i’m heglwys leol, ac fe wnaeth y ficer yno fy nghyfeirio at loches nos lleol, a threuliais y noson gyntaf yno.”(Tenant wedi’i Droi Allan)

Dywedodd mwyafrif ein cyfranogwyr a gafodd eu troi allan mai ychydig iawn o gymorth yr oeddent wedi’i gael gan eu hawdurdod lleol yn y cyfnod yn syth ar ôl iddynt gael eu troi allan o’r eiddo, a dim cymorth o gwbl ar ôl hynny. Ymddengys nad yw llawer yn cael eu cyfeirio at Atebion Tai ond eu bod wedi disgyn drwy’r bylchau yn y gwasanaethau, gan ddibynnu ar soffas ffrindiau neu hyd yn oed bebyll a siediau gardd i gael lloches. Roedd y rhan fwyaf o bobl wedi dibynnu, neu’n dibynnu ar hyn o bryd ar letygarwch ffrindiau a pherthnasau i’w cartrefu a’u cynorthwyo.

Er gwaethaf teimlad cyffredinol nad oedd cymorth ar gael iddynt, fe wnaeth y rhan fwyaf o bobl ar ryw adeg yn ystod eu profiad ar ôl cael eu troi allan gael rhyw fath o gymorth a llety. Yn fwyaf cyffredin, hostel oedd hwn, yn cael ei ddarparu gan sefydliad gwirfoddol fel arfer. Mewn rhai achosion, roedd yr unigolyn yn dal i fyw yno adeg y cyfweliad (rhwng chwe mis a thair blynedd ar ôl cael ei droi allan). Yn gyffredinol, roedd parch mawr at y gwasanaethau hyn:

“Rwyf wedi bod yn [xxx] ers dau fis nawr. Mae’r help rwyf wedi’i gael yma yn rhagorol. Rwy’n gwirfoddoli am ddau ddiwrnod yr wythnos ac yn gyfnewid am hynny nid wyf yn gorfod talu’r tâl gwasanaeth. Rwy’n cael help gyda chyllidebu ac rwy’n dechrau dod i ben â hynny. Rwy’n prynu ac yn coginio fy mwyd fy hun i gyd. Mae gen i f’ystafell fy hun ac rwy’n gwneud fy ngwaith glanhau fy hun. Mae’r amodau yn rhagorol ac mae’r staff yn wych. Mae’r [xxx] yn bendant wedi bod o gymorth mawr. Maent wedi bod yn rhyfeddol ac wedi gwneud eu gorau glas i fy nghadw i’n ddiogel ac oddi ar y strydoedd.”(Tenant wedi cael ei Droi Allan)

Nid oedd tenantiaid a oedd wedi cael eu troi allan yn gwybod am eu hopsiynau i gael cymorth a chyngor ar ôl cael eu troi allan, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn dibynnu ar gyngor anffurfiol gan eu ffrindiau a’u teulu a sefydliadau’r trydydd sector a allai gynnig help ymarferol iddynt, fel gwely am y nos. Dywedodd tenantiaid a oedd wedi cael eu troi allan mai’r hyn y byddent wedi’i werthfawrogi fwyaf oedd arweiniad a chymorth i gysylltu ag adran digartefedd eu hawdurdod lleol a gwasanaethau eraill a allai eu helpu a’u cynghori ar ôl iddynt gael eu troi allan. Teimlent yn arbennig, be baent wedi cael eu cyfeirio i gael cyngor annibynnol ar dai yn gynharach, y gallent fod wedi osgoi cael eu troi allan. Fodd bynnag, hyd yn oed adeg cael eu troi allan, dywedodd pobl wrthym y byddent yn dal i werthfawrogi cymorth i gael cyngor annibynnol ar dai er mwyn deall eu hopsiynau i’r dyfodol.

43

Page 45: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Problemau tai hirdymor cynaledig

Adroddodd astudiaeth ar raddfa fach gan St Mungo’s yn 201280 fod un o bob pump o’r ymatebwyr wedi dweud y byddai’n rhaid iddynt gysgu ar y strydoedd pe baent yn cael eu troi allan. Adroddodd Shelter fod pobl sy’n colli eu cartref yn aml yn byw mewn llety dros dro, neu’n cysgu ar soffas, cyn dod o hyd i gartref mwy parhaol. Fodd bynnag, y dystiolaeth o’n cyfweliadau ni yw bod cael eu troi allan o dai cymdeithasol yn arwain at ystod lai o opsiynau tai hirdymor i’r tenant sydd wedi cael ei droi allan. Cafodd 100% o’r tenantiaid y siaradom â nhw, a gafodd eu troi allan gan awdurdod lleol, anhawster cael llety diogel wedyn ar ôl cael eu troi allan. Mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn dal i weld hyn yn anodd ac roedd y mwyafrif yn dal i fyw mewn hosteli neu fathau eraill o lety dros dro pan gynhaliwyd y cyfweliad, weithiau hyd at dair blynedd ar ôl cael eu troi allan. I’r rheiny ag ôl-ddyledion, mae’r ddyled sydd heb ei thalu i’w cyn landlord yn dod yn rhwystr anorchfygol rhag cael tŷ cymdeithasol eto. Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad, mae rhai landlordiaid cymdeithasol yn atal, neu hyd yn oed yn gwahardd aelwydydd ag ôl-ddyledion o’r rhestr aros.

At hynny, ni welsom unrhyw dystiolaeth yn ein hastudiaeth fod y math hwn o denant sydd wedi cael ei droi allan – mewn dyled sylweddol, gydag incwm isel neu ddim incwm – yn mynd i mewn yn ddidrafferth i’r sector rhentu preifat ar ôl cael ei droi allan. Y rheswm a roddwyd gan gyfweleion am hyn yw fod y costau sy’n gysylltiedig yn afresymol o uchel.

“Mae’r rhenti mor uchel, ac yna mae’r taliadau, y bond, ac maent eisiau’r arian i gyd ymlaen llaw – ni allai fforddio hynny, ac nid wyf yn gweithio, felly nid yw’r un landlord yn edrych ddwywaith arnai.” (Tenant wedi cael ei Droi Allan)

“Mae’n amhosibl i rywun yn fy sefyllfa i i fynd i mewn i le preifat; mae gormod o rwystrau, rhwystrau ariannol yn bennaf.” (Tenant wedi cael ei Droi Allan)

“Roedd y rhan fwyaf o leoedd y deuthum o hyd iddynt eisiau deufis o rent ymlaen llaw fel sicrwydd, ac nid yw’r arian hwnnw gen i.”(Tenant wedi cael ei Droi Allan)

Gan gydnabod y gall y rhwystrau rhag sicrhau tenantiaeth yn y sector rhent preifat fod yn anorchfygol i denantiaid sydd wedi cael eu troi allan, mae gan awdurdodau lleol y grym i ddarparu rhent ymlaen llaw a bond papur i landlordiaid. Fodd bynnag, yn ein hymchwil gyda thenantiaid awdurdodau lleol o leiaf, ni chafodd yr un o’n cyfranogwyr a gafodd eu troi allan eu cynorthwyo gan wasanaeth digartrefedd yr awdurdod lleol i gael cymorth i fynd i mewn i’r sector rhent preifat (neu, o angenrheidrwydd, ni chawsant eu cysylltu â’r gwasanaeth hyd yn oed). Mae hwn yn ganfyddiad arwyddocaol oherwydd bod 63% o’n sampl a gafodd eu troi allan o dai awdurdodau lleol wedi cael eu troi allan ar ôl i’r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym ym mis Ebrill 2015, sy’n datgan fod gan yr holl aelwydydd cymwys yr hawl i gael cymorth o dan atal a chymorth digartrefedd.

80 St. Mungo’s (2012) Out in the Cold: Homeless people’s experiences of eviction, ar gael yn: http://www.mungos.org/documents/3632/3632.pdf

44

Page 46: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Gall record credyd negyddol greu rhwystr pellach i denantiaid sydd wedi cael eu troi allan rhag mynd i mewn i’r sector rhent preifat neu dai cymdeithasol, a gall hyd yn oed eu hatal rhag cael mynediad i wasanaethau ariannol yn y dyfodol.

Anghenion cymorth yn datblygu neu’n gwaethygu

Casglom dystiolaeth am yr anghenion cymorth sy’n bodoli eisoes yn gwaethygu o ganlyniad i droi allan o dai awdurdodau lleol. Mae hyn yn bennaf oherwydd y lefelau straen a gafodd y broses troi allan ac effaith troi allan ar fywyd yr unigolyn hwnnw:

“Roedd gen i broblemau iechyd meddwl cyn i mi gael fy nhroi allan…Ar ôl i mi gael fy nhroi allan, treuliais flwyddyn yn cysgu ar soffa ffrind, naw mis arall yn byw mewn pabell, ac euthum i deimlo mor isel a phryderus nes i mi gymryd gorddos. Rwy’n lwcus i gael bod yma.” (Tenant wedi cael ei Droi Allan)

“Mae fy iselder ac asthma wedi bod yn wael ers i mi fod yn byw yn yr hostel. Mae’r ddau yn gysylltiedig â straen, ac wrth gwrs mae fy mywyd cyfan yn llawn straen [ers mynd yn ddigartref].” (Tenant wedi cael ei Droi Allan)

Yn ogystal, canfuom dystiolaeth hefyd o anghenion cymorth yn datblygu o ganlyniad uniongyrchol i droi allan. Datblygodd un o bob pedwar o’r cyfranogwyr arfer o ddefnyddio cyffuriau ar ôl cael eu troi allan, lle nad oedd arferiad ganddynt o’r blaen.

“Dechreuais ddefnyddio cyffuriau ar ôl i mi gael fy nhroi allan, gan fy mod i mewn cyflwr anobeithiol.” (Tenant wedi cael ei Droi Allan)

Casgliad

Yn gryno, canfuom fod gwir gostau achosion o droi allan o dai cymdeithasol yng Nghymru fel a ganlyn:

£7,879,059 y flwyddyn mewn costau uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasol

£14,794,004 y flwyddyn mewn costau uniongyrchol i sefydliadau eraill

Cyfanswm o £24,359,589 y flwyddyn i economi Cymru

Dirywiad mewn iechyd corfforol ac iechyd meddwl, gan gynnwys £36,960 ychwanegol y flwyddyn i’r GIG yn sgil dirywiad yn iechyd plant wedi’u troi allan

Digartrefedd tymor byr a thymor hir ar gyfer aelwydydd wedi’u troi allan

Trawma ac ofn personol o ganlyniad i’r broses troi allan a digartrefedd

Cynnydd mewn anghenion cymorth ychwanegol, fel cam-drin sylweddau.

45

Page 47: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

6: Atal troi allan: ymatebion landlordiaid cymdeithasol

Mae niferoedd y camau i adennill meddiant yn dibynnu ar ba mor effeithiol y gall landlordiaid reoli eu hôl-ddyledion rhent yn ogystal â newidiadau i fudd-daliadau lles. O’u cymryd ynghyd, mae’r materion hyn wedi arwain landlordiaid cymdeithasol i fod yn fwy blaenweithgar o ran darparu cyngor a chymorth i denantiaid yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r defnydd o asesiadau cyn-tenantiaeth, a chynyddu incwm yn benodol, yn dangos ymwybyddiaeth landlordiaid o faterion ynglŷn â chyllidebu, rheoli dyledion a deall y system les.

“Y peth pwysig yw cael y tenantiaid i gyfathrebu’n gynnar. Os ydynt nhw’n mynd i ôl-ddyledion, nid ydym am gael ein gweld fel credydwr arall yn unig, dim ond rhywun y mae arnynt arian iddyn nhw. Rydym yma i’w helpu...ni allwn edrych ar rent ar ei ben ei hun gan nad ydyw, ynddo’i hun, yn mynd i ddatrys y broblem.”(Rhanddeiliad LCC)

Yn ystod ein hymchwil, pwysleisiodd landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru eu hymrwymiad i gynnal tenantiaethau yn gadarn, hyd yn oed pan fo’r sefyllfa wedi gwaethygu.

“Ni fyddwn ni fyth yn troi rhywun allan heb fod wedi archwilio pob llwybr posibl sydd ar gael i ni yn gyntaf.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“Nid ydym am i denantiaethau fethu. Nid yw hynny er budd unrhyw un, felly rydym yn gweithio’n galed i atal y deilliant hwnnw.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Dulliau o fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent

Canfu ein hymchwil fod dulliau i atal troi allan yn amrywio’n sylweddol rhwng landlordiaid a ledled Cymru. Caiff ystod o bolisïau ac arferion ar gyfer atal troi allan o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent eu defnyddio gan landlordiaid cymdeithasol. Nod llawer ohonynt yw defnyddio dull rhagweithiol i amlygu sbardunau troi allan a chydweithio â thenantiaid i ddatrys problemau cyn iddynt droi’n argyfwng. Roedd cytundeb cyffredinol ymhlith staff tai mai’r nod, hyd yn oed pan fydd achos statudol ar waith, yw atal troi allan rhag digwydd, a lle nad yw hyn yn bosibl, atal tenantiaid sydd wedi’u troi allan rhag bod yn ddigartref.

“Y rheswm pam y byddwn yn cyrraedd y cam troi allan yn eithaf aml yw bod pobl yn claddu’u pennau yn y tywod ac yn parhau â’r ymagwedd honno hyd nes yr wythnos, neu’r diwrnod troi allan hyd yn oed, a bryd hynny maent yn dod atom ac yn gofyn am help. Ond hyd yn oed bryd hynny, mae’r cymorth yno i denantiaid. Rydym yn eu cyfeirio ymlaen at asiantaethau fel Shelter Cymru ac rydym yn gohirio achosion er mwyn i bobl gael yr help sydd ei angen arnynt. Mae’r cymorth yno bob cam o’r ffordd.”

46

Page 48: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

(Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Dros y degawd diwethaf neu fwy, mae landlordiaid cymdeithasol wedi arbenigo’n gynyddol eu swyddogaethau rheoli tai yn hytrach na defnyddio swyddogion tai generig. Mewn rhai awdurdodau lleol, roedd y gwaith o reoli ôl-ddyledion rhent yn cael ei wneud yn draddodiadol gan yr adran gyllid yn hytrach na’r gwasanaethau tai. Fodd bynnag, unwaith eto, mae hyn wedi newid ac mae’n eithaf anarferol erbyn hyn i’r swyddogaeth hon gael ei rheoli y tu allan i wasanaethau landlordiaid.

“Rydym wedi penodi swyddog sy’n barod i ymdrin â thenantiaid, a phan fydd aelwyd newydd, bydd yn cael y cyfle i fynd drwy’r arweiniad a’r cymorth cyn-tenantiaeth. Mae hwn yn wasanaeth newydd a bydd ar gael i bobl yn y sector LCC a’r sector rhent preifat hefyd.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“Erbyn hyn mae gennym swyddogion tenantiaethau rhagarweiniol a’u rôl yw cynorthwyo tenantiaid ar ddechrau eu tenantiaeth, wrth iddynt lofnodi’u contractau tai. Mae’r swyddogion yn gweithio gyda thenantiaid i edrych ar eu cyllidebu a mynd i’r afael â chwestiynau fforddiadwyedd mewn perthynas â’u tai. Mae’r gwaith cynnar hwn yn datblygu perthynas o gydweithredu rhyngom ni a’r tenantiaid, ac yn rhoi’r cyfle i ni nodi problemau posibl a chefnogi anghenion ar y cychwyn.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Isod ceir enghraifft o arfer da yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth gydweithio’n fewnol gyda’r cyngor, a hefyd gyda rhanddeiliaid allanol (yn yr achos hwn, Shelter Cymru).

Enghraifft o Arfer Da: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Mewn tenantiaeth, mae cymorth allweddol adeg llofnodi yn cael ei gynnwys i denantiaid, yn cynnwys:

1/ Archwiliad iechyd ariannol (sy’n ystyried budd-daliadau lles, costau cartref a chymorth dyledion)

2/ Cymorth i hawlio budd-daliadau tai

3/ Help i hawlio’r Gronfa Cymorth Dewisol os oes angen

Yn ystod y denantiaeth, caiff cymorth ei gynnig i denantiaid drwy swyddogion cymorth tenantiaeth pwrpasol mewn ymdrech i atal ôl-ddyledion rhent rhag gwaethygu. Gwelir achos llys fel y cam olaf un bob amser. Pan gaiff llythyrau eu hanfon, darperir cyngor ysgrifenedig i denantiaid ar argaeledd cymorth annibynnol a rhoddir manylion am amserau a dyddiadau cymorthfeydd Shelter Cymru. Bydd staff hefyd yn hysbysu tenantiaid ar lafar am amserau cymorthfeydd Shelter Cymru, ac mae ganddynt berthynas ragorol gyda thîm Shelter Cymru Caerffili.

Os ceir gorchymyn llys i adennill meddiant, yna caiff cyngor a chymorth ei gynnig gan staff er mwyn sicrhau bod y denantiaeth yn cael ei chynnal, neu i gynorthwyo â threfnu trosglwyddo i lety mwy fforddiadwy. Fodd bynnag, os yw’r gorchymyn adennill meddiant yn parhau heb ei

47

Page 49: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

gyflawni, cyn troi allan gwneir atgyfeiriad at y Ganolfan Cyngor ar Dai, lle bydd staff atal digartrefedd yn ceisio cynorthwyo tenantiaid hefyd.

Mae panel adolygu tenantiaethau yng nghyngor Caerffili hefyd i ystyried yr holl achosion yr argymhellir eu hatgyfeirio i’w troi allan gan y rheolwr perthnasol. Caiff y penderfyniad terfynol ei wneud gan y Prif Swyddog Tai.

Cynhaliodd staff cymorth tenantiaeth 2,200 o ymgysylltiadau â thenantiaid yn eu cartrefi yn ystod 2015/16 (nid yw hyn yn cynnwys tenantiaid a fethodd ymgysylltu). Cafwyd incwm ychwanegol o £493,000 ar gyfer y tenantiaid hyn o ganlyniad i’r ymweliadau hyn. Mae hyn yn cynnwys budd-dal tai wedi’i ôl-ddyddio, budd-daliadau lles ac arbedion ar gostau cyfleustodau.

Gwelir tystiolaeth o ddefnydd arloesol o ffynonellau cyllid i atal troi allan yn yr enghreifftiau isod o Dîm Cyswllt Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r rhain yn dangos buddion mawr landlordiaid yn cyflogi cynghorwyr arbenigol ar fudd-daliadau lles.

Enghraifft o Arfer Da: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (y Tîm Cyswllt Lles)81

Derbyniodd Melody lythyr yn dweud y byddai’n cael ei throi allan ar ddechrau mis Rhagfyr, felly fe wnaeth gysylltu â’r Tîm Cyswllt Lles a bu modd iddynt drefnu apwyntiad ar gyfer 30 Tachwedd. Yn yr apwyntiad, bu modd iddynt lenwi ffurflen Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (DHP) a gwneud cais am PIP (Taliad Annibyniaeth Personol). Dyfarnwyd DHP a’i ôl-ddyddio, a derbyniodd Melody gynnig o eiddo ddau ddiwrnod ar ôl ymweliad y tîm. Canslwyd dyddiad troi allan Melody oherwydd bod DHP wedi’i ddyfarnu. Golygai cyfranogiad y Tîm Cyswllt Lles fod ffurflenni wedi’u llenwi’n gyflymach, gan alluogi atal i Melody gael ei throi allan.

Trefnodd y Tîm Cyswllt Lles apwyntiad i roi cyngor ar gyllidebu a budd-daliadau i’r tenant Craig. Llwyddodd y tîm i leihau bil ôl-ddyledion trydan o £300 i £250, a threfnodd cynllun talu i glirio’r ddyled ymhen mis.

Ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus gan yr awdurdod lleol i ymweld â’r tenant Amelie, llwyddodd y Tîm Cyswllt Lles i gysylltu â hi a gwnaeth gais am fudd-dal tai i fynd i’r afael â’u hôl-ddyledion rhent uchel. Erbyn hyn mae Amelie yn derbyn budd-dal tai llawn a derbyniodd daliad wedi’i ôl-ddyddio o £1,274.20 a gyfrannodd yn sylweddol at glirio’i hôl-ddyledion. Cynorthwyodd y tîm Amelie i wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn (DHP) ac erbyn hyn mae’n derbyn £15.57 yr wythnos i dalu cost i ystafell sbâr, ac mae hefyd yn derbyn cymhorthdal incwm nawr. Pan wnaed y cyswllt cyntaf, nid oedd cyfrif banc na dull adnabod gan Amelie. Darparodd y Tîm Cyswllt Lles lythyr adnabod iddi, ac roedd yn gallu agor cyfrif banc yn sgil hynny.

Mae gan Dîm Cyngor Ariannol Cyngor Bro Morgannwg nifer o arferion cadarnhaol yn cynnwys cyswllt personol, wyneb yn wyneb â chleientiaid a chymorth gyda ffurflenni budd-daliadau. Mae cynorthwyo tenantiaid gyda hawliadau budd-daliadau tai yn ffordd dda o leihau’r siawns o oedi o ran talu rhent.

81

48

Page 50: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Enghraifft o Arfer Da: Cyngor Bro Morgannwg (y Tîm Cyngor Ariannol)Mae’r tîm hwn yn cynnwys Rheolwr Incwm Tai a thri Chynghorydd Ariannol sy’n gweithio’n agos gyda’r tîm Adennill Incwm, y tîm Rheoli Cymdogaethau, Atebion Tai a’r tîm Budd-daliadau Tai. Maent yn ymdrin â dros 4,000 o eiddo’r cyngor, a hefyd yn gweithio gyda’r sector rhent preifat a pherchenogion cartrefi.

Dyma rai o’r ffyrdd y bydd y tîm yn cynorthwyo tenantiaid:

1/ Ymweld â defnyddwyr gwasanaethau yn eu cartrefi

2/ Cynnal gwiriadau budd-daliadau a chymorth gyda cheisiadau

3/ Darparu eiriolaeth pan fydd ei angen

4/ Helpu tenantiaid i gael mynediad i gronfeydd statudol ac elusennol

5/ Cyngor ar gyllidebu

6/ Cyngor ariannol cyn-tenantiaeth

Yn ystod y cyfnod Tachwedd 2015–Mawrth 2016, ymwelodd y tîm â 367 o ddefnyddwyr gwasanaethau, cynorthwyodd gyda rheoli ceisiadau a dyfarniadau’r Adran Gwaith a Phensiynau (gan gynnwys apeliadau a thribiwnlysoedd) gwerth £146,918.74, a dosbarthodd 46 o dalebau bwyd.

Roedd Dave yn ddyn sengl gydag ôl-ddyledion rhent sylweddol a oedd yn bygwth ei denantiaeth. Cynorthwyodd y tîm Dave gyda nifer o geisiadau, yn cynnwys ar gyfer taliad DHP, mesurydd dŵr, PIP a chais i elusen, yn ogystal â rhoi taleb bwyd iddo. Roedd ei geisiadau’n llwyddiannus ac arbedwyd ei denantiaeth. Mae Dave yn cynnal ei denantiaeth ac mae’n gwneud yn dda yn dilyn cyfranogiad y Tîm Cyngor Ariannol.

Mae’r tîm wedi cofnodi graddfa boddhad cwsmeriaid o 100% dros dri mis. Priodolir llwyddiant y tîm yn rhannol i allu cynnal ymweliadau cartref â defnyddwyr gwasanaethau a chydweithredu rhwng nifer o asiantaethau.

Canfuom enghreifftiau rhagorol o arfer da ac arloesed hefyd gan LCCau. Adroddwyd bod systemau gan rai LCCau ar waith sy’n nodi patrymau talu’r tenant cyn bod unrhyw gamau’n cael eu cymryd mewn perthynas ag ôl-ddyledion. Felly, os yw rhent unigolyn yn ddyledus ar ddydd Llun, ond nid yw’n cael ei dalu hyd nes dydd Mercher, nid yw’r llythyrau ôl-ddyledion yn cael eu cynhyrchu oni bai bod gwyro mawr o’r patrwm hwn.

Mae rhai LCCau yn creu swyddi newydd yn benodol i ymgysylltu â thenantiaid ynglŷn ag atal troi allan. Y bwriad yw i’r swyddogion newydd feithrin cydberthynas gyda thenantiaid yn gynnar, a chynnal ymweliadau yn gyson â chartrefi tenantiaid sydd mewn perygl o gael eu troi allan. Nid yw’r rolau’n cynnwys unrhyw gamau gorfodi. Mae eu swyddi newydd yn canolbwyntio’n llwyr ar atal yn gynnar, ymgysylltu â thenantiaid ac edrych ar yr aelwyd yn gyfannol er mwyn nodi materion a allai effeithio ar gynaliadwyedd y denantiaeth.

Enghraifft o Arfer Da: Cartrefi Conwy

49

Page 51: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Mae gwaith i atal troi allan yn dechrau yn y cyfnod cyn-tenantiaeth pan fydd y swyddog hawliau lles, neu’r swyddog cynhwysiant lles, yn cysylltu â darpar denantiaid y nodwyd eu bod ‘dan risg’, a mynd drwy eu sefyllfa ariannol cyn iddynt lofnodi’r cytundeb tenantiaeth. Yn y cyfnod hwn, bydd swyddogion yn chwilio am fflagiau coch posibl a allai ddynodi y gallai’r tenant fynd i drafferth yn ystod y denantiaeth. Gallant wedyn ymateb i hyn a sicrhau bod tenantiaid yn cael cymorth o’r cychwyn cyntaf. Mae’r LCC wedi hyfforddi’r holl staff sy’n rhyngweithio gyda thenantiaid er mwyn nodi materion cymorth posibl fel dyled neu dlodi.

Cred y Gymdeithas Dai fod ffurfio a chynnal perthynas dda gyda’i thenantiaid yn hollbwysig i gynnal tenantiaeth. Maent am i’w tenantiaid allu siarad â nhw ac i droi atynt i gael cymorth.

Mae ymgysylltu rhagweithiol gyda’r tenant yn dechrau pan fydd aelwyd yn colli ei thaliad rhent cyntaf. Yn hanesyddol, roedd tenantiaid yn arfer derbyn llythyrau ôl-ddyledion, fodd bynnag, mae’r llythyr hwn yn cael ei ddosbarthu â llaw yn bersonol er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad. Mae’r tîm wedi dechrau gweithio gyda’r nos er mwyn cael gafael ar denantiaid nad ydynt wedi gallu cysylltu â nhw yn ystod y dydd. Byddant hefyd yn ceisio cysylltu â thenantiaid drwy neges e-bost neu destun os oes ganddynt fanylion cyswllt diweddar ar eu cyfer. Mae cyflogai LCC yn ymddangos ar y radio cymunedol unwaith y mis hefyd, lle bydd yn cymryd cwestiynau gan denantiaid: “Bod yn weladwy a bod ar gael, dyna sy’n allweddol.”

Mae’r LCC yn gweithio’n agos gyda sefydliadau ac asiantaethau allanol fel Atebion Tai, Cyngor ar Bopeth a Shelter Cymru lle bo angen. Maent yn adrodd bod newid diwylliant nodedig a chydweithio gwell gyda Shelter Cymru yn benodol:

“Mae newid diwylliant parhaus wedi digwydd o’r adeg pan oeddwn yn gweld Shelter Cymru fel y gelyn, yn ein rhwystro rhag gwneud beth oeddem ni am ei wneud, sef atal dyled rhag cynyddu, ac os oedd hynny’n golygu troi’r tenant allan, yna ni welwyd hyn fel problem. Rôl Shelter Cymru oedd ceisio atal hynny rhag digwydd. Mae’r berthynas sydd gennym â Shelter nawr wedi newid yn llwyr. Rydym yn defnyddio’r cymorth sydd ar gael gan Shelter Cymru ac yn gweld bod ganddynt ran i’w chwarae i atal troi allan; maent wedi bod yn arbennig o effeithiol o ran cael budd-daliadau tai wedi’u hôl-ddyddio.”

Mewn ymgais i liniaru yn erbyn achosion o droi allan yn y dyfodol, mae’r LCC wrthi’n adeiladu fflatiau un ystafell wely i ymateb i anghenion a gofynion tenantiaid. Maent hefyd yn rhoi cymhelliant o hyd at £500.00 i denantiaid yr effeithiwyd arnynt gan y tâl tan-feddiannaeth sy’n dymuno symud i lety llai. Mae hyn yn golygu nad oes angen i ôl-ddyledion lefel isel a achosir gan dan-feddiannaeth fod yn rhwystr rhag symud i le llai.

Er gwaetha’r arfer da a amlygir yn y bennod hon, canfuom sawl enghraifft o ddiffyg cyfathrebu, yn fewnol ac yn allanol, gan rai landlordiaid cymdeithasol mewn perthynas ag atal troi allan.

Yn ein gwaith achos diweddar gwelwyd enghreifftiau o dimau gwasanaethau tai yn methu hysbysu Atebion Tai am achosion o droi allan a oedd ar fin digwydd. Un enghraifft o hyn yw Hannah, tenant rhagarweiniol awdurdod lleol, a aeth i ôl-ddyled rhent oherwydd bod angen iddi brynu celfi ar gyfer ei chartref newydd. Er ei bod yn drwm yn feichiog, ni chynigiwyd unrhyw gymorth i Hannah gan yr awdurdod lleol ac nid oedd wedi cael ei chyfeirio at y gwasanaethau atal digartrefedd er iddi gael ei bygwth â chael ei throi allan. Cysylltodd ein gweithiwr achos gydag Atebion Tai a chliriwyd yr ôl-ddyledion ac arbedwyd y denantiaeth.

50

Page 52: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

O’n sampl o denantiaid a oedd wedi’u troi allan, ni fanteisiodd 55% ohonynt ar Atebion Tai naill ai cyn neu ar ôl cael eu troi allan. Roedd mwyafrif (59%) y bobl a oedd wedi cael eu bygwth â chael eu troi allan (ond na chawsant eu troi allan wedi hynny) wedi manteisio ar Atebion Tai.

Roedd 77% o’r bobl a gafodd eu troi allan yn ddigartref o hyd chwe mis yn ddiweddarach, a chrybwyllodd 23% o’r aelwydydd a gafodd eu troi allan ac a oedd yn ddigartref am lai na chwe mis ryw ymgysylltiad ag Atebion Tai ar ryw adeg yn ystod y daith. Mae’r ystadegau hyn yn amlygu nid yn unig y rôl bwysig y mae Atebion Tai yn ei chwarae o ran atal troi allan yn y lle cyntaf, ond hefyd eu rôl o ran datrys digartrefedd yn gyflym pan fydd yn digwydd.

Mae ein gwaith achos yn dangos tystiolaeth hefyd nad yw pob adran rhenti awdurdodau lleol yn gwneud atgyfeiriadau i gael cyngor annibynnol ar dai (er enghraifft, i Shelter Cymru) pan fydd tenantiaid yn wynebu cael eu troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent. Ar hyn o bryd, mae perygl y gallai dau o bobl sy’n wynebu cael eu troi allan dderbyn ymateb gwahanol gan yr un landlord. Er ein bod yn croesawu ymagwedd wedi’i theilwra at atal troi allan, mae’n hanfodol fod yr holl denantiaid sy’n wynebu cael eu troi allan yn derbyn safon ymateb a chymorth sylfaenol i ddatrys yr argyfwng.

Enghraifft o Arfer Da:Cymdeithas Dai Charter, Cartrefi Melin, Cartrefi Dinas Casnewydd, Cymdeithas Dai Linc-Cymru - MyPad, prosiect cynnal tenantiaeth yng Nghasnewydd

Mae’r pedwar prif LCC yng Nghasnewydd yn cydweithio ar brosiect i leihau nifer yr achosion o droi allan drwy roi hyfforddiant ymarferol cyn-tenantiaeth gan weithwyr proffesiynol yn y maes tai i bobl ifanc (16-24) sydd ar gofrestr tai gyffredin Casnewydd.

Mae gweithdai grŵp misol, a gyflwynir gan swyddogion tai o bob LCC, yn chwalu rhwystrau rhwng y tenant a’r landlord. Mae sesiynau’n canolbwyntio ar reoli tenantiaeth, cyllidebu, sgiliau byw yn y gymuned a sgiliau bywyd cyffredinol (fel bwyta’n iach). Mae cyfranogwyr hefyd yn ymweld â fflat model i ymarfer eu sgiliau a chwblhau cyllidebau personol.

Arweiniwyd y prosiect gan yr LCCau, wedi’u cefnogi a’u hyrwyddo gan Gyngor Dinas Casnewydd a rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Mae AGGCC wedi nodi pa mor effeithiol yw’r gwasanaeth o ran gwella deilliannau ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed, ac mae’r awdurdod lleol wedi ymrwymo cyllid i gynorthwyo â chyflwyno’r gwasanaeth ymhellach.

Enillodd y prosiect Wobr Arloesi y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Cymru, ac enillodd hefyd Wobr Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru am waith gyda gwirfoddolwyr ifanc, y ddwy wobr yn 2013.

Tudalen Cymdeithas Dai Charter ar MyPad: http://www.charterhousing.co.uk/tag/mypad/

Ymagweddau at ymddygiad gwrthgymdeithasol

51

Page 53: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Mae llawer o landlordiaid cymdeithasol wedi datblygu polisïau ac arfer naill ai fel mesurau ataliol neu fel dewisiadau eraill i droi allan. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio tenantiaethau rhagarweiniol a thenantiaethau isradd, gwaharddebau, gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOau), contractau ymddygiad derbyniol (ABCau), gorchmynion rhianta, gorchmynion cau eiddo, gorchmynion gwahardd yfed, pwerau niwsans sŵn (o dan bwerau iechyd yr amgylchedd) a gorchmynion cymorth unigol.

Rhoddwyd cryn arweiniad ar egwyddorion rheolaeth effeithiol ar achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn 2010, fe wnaeth y Swyddfa Gartref, y Sefydliad Tai Siartredig, yr Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona, Grŵp Troseddu a Niwsans Landlordiaid Cymdeithasol a nifer o landlordiaid cymdeithasol unigol a phartneriaethau diogelwch cymunedol, amlinellu fframwaith cyffredinol ar gyfer rheoli achosion ar lefel cymdogaeth. Roedd y fframwaith hwn yn cynnwys gorfodi, ystyriaethau cyfreithiol a’r defnydd o offer ataliol (Y Swyddfa Gartref, 201082; gweler hefyd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol et al., 201083).

Mae’r Sefydliad Siartredig Tai wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau arweiniad ar arfer da mewn perthynas â mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol84 ac yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad o’r enw ‘Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghymru: Adolygiad o Bolisi ac Arfer85’.

Mae deddfwriaeth yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol atal rhai hawliau hefyd mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel yr hawl i gydgyfnewid, yr hawl i brynu, a hawliau i ailgartrefu o dan y ddeddfwriaeth digartrefedd a gwneud cais am dai cymdeithasol. Erbyn hyn mae llawer o landlordiaid cymdeithasol yn rhoi lefel uchel o flaenoriaeth i reoli achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mor effeithiol ag y bo modd, gan ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaethau a deilliannau.

Canfu ein hymchwil fod y rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn mabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol at ymddygiad gwrthgymdeithasol, tra bod lleiafrif yn tueddu gweithredu mwy o system gosbi. I rai sefydliadau, roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhan o’u swyddogaeth graidd, ac fel y cyfryw, roedd timau mewnol penodol wedi’u sefydlu. Roedd rhai eraill, yn y cyfamser, yn cyflogi arbenigwyr allanol i fynd i’r afael â’r mater. Roedd tystiolaeth fod y mwyafrif o landlordiaid yn symud i ffwrdd oddi wrth ddulliau mwy cosbol ac yn coleddu dulliau cyfannol sy’n mynd i’r afael â materion sylfaenol ac yn darparu cymorth. Mae’r dull cefnogol hwn yn atseinio’r hyn a ddywedodd defnyddwyr gwasanaethau wrthym y byddent yn teimlo y byddent wedi bod yn effeithiol ac o gymorth.

82 Home Office (2010) Effective Anti-Social Behaviour Case Management Principles, Llundain, Y Swyddfa Gartref.

83 Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Y Swyddfa Gartref, Sefydliad Siartredig Tai, a Grŵp Troseddu a Niwsans Landlordiaid Cymdeithasol (2010) Tackling Anti-Social Behaviour: tools and powers – toolkit for social landlords, Llundain, Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

84 Sefydliad Siartredig Tai (heb ddyddiad) How to manage anti-social behaviour cases effectively.

85 http://gov.wales/docs/desh/publications/140212-how-social-landlords-tackle-anti-social-behaviour-summary-en.pdf

52

Page 54: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

“Mae’r rhan fwyaf o’r pethau sydd gennym yn bethau ar lefel isel a gellir eu datrys drwy gyfryngu, o’u nodi’n gynnar. Unrhyw beth sy’n fwy difrifol, mae gennym dîm ar wahân sy’n mynd i mewn a gweithio gyda’r teuluoedd, a hyd nes bod y ddau barti’n teimlo bod y problemau wedi’u datrys.” (Rhanddeiliad LCC)

“… ddwy flynedd yn ôl roedd gennym system eithaf biwrocratig, a chyn gynted ag y byddai rhywun yn cysylltu â ni gyda chwyn, yna byddem yn penderfynu a oedd rhywun yn ddioddefwr neu’n droseddwr, ac roedd gennym system gofnodi ddwys iawn ar bapur rhag ofn y byddai’n mynd i’r llys, ac roedd tystiolaeth gennym. Pan aethom ati i adolygu hynny ac edrych ar beth sy’n bwysig i bobl, nid oedd unrhyw beth o hwnnw yn mynd i’r afael â beth sy’n bwysig. Y cyfan yr oedd pobl ei eisiau oedd help a chymorth i gael atebion i bryderon. Fe wnaethom newid ein diben, i helpu datrys problemau yn eu cymdogaeth a rhoi mwy o ryddid i staff wneud pethau mwy anffurfiol a chynnwys trigolion sydd yn gallu ei berchenogi wedyn, a chanfuom fod materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleihau, roedd llai o achosion felly ac roedd yr atebion yn well.” (Rhanddeiliad LCC)

Mae’r ddwy enghraifft isod yn dangos arfer da wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r cyntaf yn fodel o’r Alban nad oes cynnig wedi’i roi arno yng Nghymru eto, ac mae’r ail yn Brosiect Cynhwysiant yn y Cymoedd, yn cael ei redeg gan Shelter Cymru.

Prosiect Teuluoedd Dundee - NCH Action for Children Yr Alban

Prosiect arloesol rhwng 1996-2000, yn cefnogi teuluoedd wedi’u gwneud yn ddigartref neu deuluoedd mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cynigiwyd cymorth ar dair lefel: craidd, gwasgaredig ac allgymorth. Gallai teuluoedd â’r lefel angen uchaf gael llety dros dro mewn bloc ‘craidd’ preswyl, yn darparu ar gyfer hyd at bedwar o deuluoedd. Roedd rhai eraill yn cael cymorth mewn tenantiaethau ymyrraeth teulu ‘gwasgaredig’, gyda gwasanaeth allgymorth yn cynnig dull mwy ataliol o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throi allan. Yn sgil llwyddiant prosiect Dundee, mabwysiadwyd y model gan NCH Scotland a chwe awdurdod lleol yng ngogledd Lloegr, sy’n cael eu gwerthuso yma:

http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20120919132719/http://www.communities.gov.uk/documents/housing/pdf/hrs230.pdf

Nid oes cynnig wedi’i wneud i roi’r math hwn o brosiect, sy’n cynnig cymorth craidd a gwasgaredig ochr yn ochr â chefnogaeth allgymorth, ar waith yng Nghymru.

Gwerthusiad llawn o’r prosiect gan NCH Scotland, Cyngor Dinas Dundee a Gweithrediaeth yr Alban, gan gynnwys dadansoddiad o gost/budd:

53

Page 55: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

http://www.gov.scot/Resource/Doc/158816/0043123.pdf

Gwerthusiad o’r prosiect a gynhaliwyd gan Brifysgol Glasgow ar gyfer Uned Ymchwil Ganolog Gweithrediaeth yr Alban: http://www.gov.scot/Publications/2001/09/10055/File-1

Gwerthusiad NCH Scotland o brosiect Dundee: www.sdf.org.uk/index.php/download_file/view/74/174/

Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd

Mae Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd yn brosiect a ariennir gan Cefnogi Pobl Caerffili a Chartrefi Caerffili i fynd i’r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a helpu atal yr aelwydydd yr honnir eu bod yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag colli eu cartrefi drwy gael eu troi allan.

Yn ogystal â chael gweithwyr cymorth sy’n gweithio gydag aelodau aelwydydd oedolion, mae’r prosiect yn cyflogi gweithiwyr cymorth plant a phobl ifanc hefyd, sy’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u helpu i ddatrys problemau.

Mae’r prosiect wedi’i seilio ar ddull partneriaeth, yn darparu gwasanaeth cymorth amlasiantaeth sy’n ceisio helpu aelwydydd i addasu’u hymddygiad yn hytrach na dim ond eu symud i rywle arall.

Yr egwyddor y tu ôl i waith Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd yw bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn ganlyniad i anghenion cymorth heb eu bodloni, a bod llawer o’r ‘troseddwyr’ honedig eu hunain yn bobl sy’n agored i niwed ac wedi’u hallgáu’n gymdeithasol.

Canfu adroddiad diweddar a edrychodd ar effeithiolrwydd hirdymor Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd (Campbell ac Evans, 2015) fod ymyrraeth gan y prosiect yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sylweddol ac yn atal digartrefedd am o leiaf 12-18 mis ar ôl i gymorth ddod i ben.

“Rwy’n meddwl bod y sgiliau a ddysgais o’r profiad hwnnw gyda fy mab, a Phrosiect Cynhwysiant y Cymoedd wedi aros gyda mi, llawer o wybodaeth ymarferol am sut i ddelio â materion ac asiantaethau gwahanol, sut i gael y gorau o’r gwasanaethau sydd yno i chi, sut i flaenoriaethu pethau fel nad ydych yn cyrraedd sefyllfa sydd wedi troi’n argyfwng.” (Cyn Ddefnyddiwr Gwasanaethau Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd)

Er y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn hawdd i’w weld ac yn hawdd ei ddangos, mae arwyddion trais domestig yn rhai cudd yn aml. Gall hyn arwain at gamau cosbol yn cael eu cymryd yn erbyn y dioddefwr. Mewn nifer o’r cyfweliadau, adroddodd tenantiaid a oedd wedi cael eu bygwth â chael eu troi allan oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol eu bod wedi bod yn ddioddefwyr trais domestig eu hunain. Yn yr achosion hyn, roedd ymddygiad caotig a

54

Page 56: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

chamdriniol partner, neu cyn bartner, wedi sbarduno cwynion gan gymdogion gan arwain at y tenantiaid yn cael eu cosbi am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Pan gefais yr hysbysiad i adael, fe wnaethant anfon dyn o’r gymdeithas dai yma i siarad amdano gyda mi. Esboniais bopeth wrtho, er eu bod eisoes yn gwybod beth oedd fy sefyllfa dros y ddwy flynedd diwethaf. Dywedais wrtho fy mod i’n ymbil am help. Gofynnais: oni allen nhw roi gwaharddeb? Neu o leiaf fy rhoi i mewn lloches digartref fel mesur dros dro er mwyn cael bod yn ddiogel rhagddo. Dywedodd y dyn ei fod yn cydymdeimlo â mi ond nad oedd unrhyw beth y gallen nhw wneud.” (Tenant Tai Cymdeithasol)

Dylai unrhyw achos lle mae dioddefwr yn cael ei gosbi oherwydd cam-drin domestig gael ei ystyried fel methiant difrifol. Mae Llywodraeth Cymru a gwasanaethau arbenigol wedi gwneud ymdrech aruthrol i sicrhau bod mynd i’r afael â cham-drin domestig yn rhan annatod o swyddogaeth unrhyw wasanaeth cyhoeddus. Mae disgwyliad pendant iawn gan Lywodraeth Cymru ar landlordiaid i chwarae rhan weithgar yn nodi a mynd i’r afael â cham-drin domestig, gan gynnwys cyfarfodydd diogelu amlasiantaeth a sicrhau bod yr holl offer sydd ar gael i’r landlord yn cael eu defnyddio i amddiffyn eu tenantiaid sydd wedi cael cam, fel gorchmynion gwahardd a gwella diogelwch.

55

Page 57: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

7: Rhwystrau rhag atal troi allan

Er gwaethaf tystiolaeth helaeth o arfer da ledled Cymru, canfuom nifer o rwystrau sy’n atal landlordiaid rhag gallu atal troi allan yn llwyddiannus hefyd.

Sicrhau bod polisi yn cyfateb ag arfer yn gyson

Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, ceir tystiolaeth o ddulliau arloesol, rhagorol i atal troi allan yng Nghymru. Mae ein cyfweliadau â landlordiaid cymdeithasol yn dangos yn glir bod dealltwriaeth eang ac ymarferol o’r hyn sy’n gyfystyr ag arfer da o ran atal troi allan.

Serch hynny, canfu ein cyfweliadau â thenantiaid a oedd wedi’u troi allan enghreifftiau o arfer gwael, a oedd yn arwain at ddeilliannau annerbyniol i bobl, gan awgrymu y gallai fod bwlch rhwng dyheadau nodau landlordiaid cymdeithasol a’u cyflawniadau.

“Yr eiliad y byddwn yn sylweddol fod ôl-ddyled gan denant, eto, gwneir llawer o gyswllt, cynigir cyfleoedd i gael cyngor ar arian, gallwn anfon rhywun allan i’r eiddo, a byddem yn cynnig hynny i gyd yr holl ffordd drwy’r weithdrefn o’r diwrnod cyntaf un.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“Cefais daflen gan eu tîm cyllid drwy fy nrws, ychydig cyn y Nadolig, gyda rhif i’w ffonio. Ond roedd yn gyfnod prysur, roeddwn i’n gweithio, roedd y plant adre o’r ysgol am y gwyliau, roedd popeth gen i i’w gael yn barod, ac erbyn i mi roi cynnig ar ffonio, roedd y llinell wedi cau. Yna, derbyniais fy llythyr troi allan, yn dweud bod y tîm cyllid wedi ceisio cysylltu â mi ond fy mod wedi osgoi’r llythyr. Dywedont nad oeddwn i wedi ymgysylltu â nhw”(Tenant wedi’i bygwth â chael ei throi allan)

“Mae’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r tîm incwm wedi ehangu o ran hysbysu’n gynnar. Mae hysbysiadau eithaf cynnar wedi’u rhoi erioed, ond nawr rydym wedi cyflwyno gwybodaeth yn y llythyrau sy’n cael eu hanfon allan gan y tîm incwm, yn tynnu sylw tenantiaid at y Gwasanaeth Cyngor ar Arian a’r tîm digartref.”(Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“A dyna’r unig dro iddyn nhw estyn allan ataf i, dim ond yr un daflen honno drwy’r drws. Maen nhw’n dweud nad ydw i wedi ymgysylltu’n iawn â nhw, ond nid wyf yn meddwl eu bod hwythau wedi ymgysylltu’n dda iawn gyda mi ychwaith. Pan fyddan nhw am eich bygwth chi gyda’r llys neu feilïau neu â throi allan, maent yn cysylltu’n ddigon sydyn, a byddant yn parhau i gysylltu. Ond pan ddaw’n fater o gynnig rhywfaint o gymorth i chi, y cyfan a gewch yw taflen drwy’r drws. (Tenant wedi’i fygwth â chael ei droi allan)

56

Page 58: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu bod angen hyfforddiant ar holl staff tai ar y rheng flaen, nid yn unig ar ddewisiadau landlordiaid ar gyfer atal troi allan, ond hefyd ar ddulliau sensitif ac ymgysylltiol o gasglu ôl-ddyledion rhent.

Sicrhau safonau gofynnol cyson ar gyfer ymateb landlordiaid

Er gwaethaf yr amrywiaeth eang o waith atal y mae landlordiaid cymdeithasol yn ymgymryd ag ef, gall tenantiaid yng Nghymru sy’n wynebu cael eu troi allan ddisgwyl ymateb anghyson ar hyn o bryd. Mae hyn er gwaethaf y Protocol Cyn-gweithredu ar gyfer Hawliadau Meddiannu gan Landlordiaid Cymdeithasol yn y Rheolau Gweithdrefnau Sifil.

Nod y protocol cyn-gweithredu yw annog cyfathrebu rhwng landlordiaid a thenantiaid, gyda’r bwriad o osgoi cyfreitha a, lle mae angen achos llys, galluogi amser y llys i gael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol86.

Nod y protocol cyn-gweithredu yw sicrhau ymagwedd gyson gan landlordiaid cymdeithasol o ran y camau a gymerir i fynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent a chynorthwyo tenantiaid i oresgyn anawsterau a allai arwain at beidio â thalu rhent, fel problemau yn hawlio budd-daliadau, gan gynnwys budd-daliadau mewn gwaith, neu ddyledion lluosog. Mae hefyd yn gosod rhwymedigaethau ar y tenant, er enghraifft, i weithio gyda’r landlord i ddatrys unrhyw broblemau gyda budd-daliadau neu broblemau ariannol, a bod yn agored i ddatrys materion gyda’r landlord trwy drafod a chyd-drafod.

Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod anghysondebau yn y modd y mae landlordiaid cymdeithasol yn cymhwyso’r protocol a’r modd y caiff ei ystyried yn y llys. Nid yw’n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol ddangos eu bod wedi cydymffurfio â’r protocol drwy gyflwyno rhestr wirio ac, er bod rhai llysoedd yn annog landlordiaid i ddefnyddio eu rhestr wirio eu hunain ac mae gan rai ohonynt ffurflen yn cynnwys rhestr wirio, mae’r arfer yn amrywio ar y gorau. Efallai na fydd cydymffurfio â’r protocol yn cael ei ystyried o gwbl oni bai y caiff ei godi gan yr amddiffynnydd ac yna, cyn belled ag y bydd y landlord yn cadarnhau87 ei fod/bod wedi cydymffurfio ag ef, caiff hynny ei dderbyn gan y llys88.

Mae statws cyn-gweithredu o ran hawliadau ôl-ddyledion rhent yng Nghymru a Lloegr yn wahanol i’r Alban, lle mae ‘gofynion cyn-gweithredu’ wedi’u hymgorffori yn y gyfraith. Fe wnaeth Deddf Tai (Yr Alban) 2010 (Deddf 2010), newid a14 Deddf Tai (Yr Alban) 2001 (Deddf 2001) i amodi:

Gellir rhoi Hysbysiad Achos i derfynu Tenantiaeth Ddiogel yn yr Alban (cyflwynwyd yn Neddf 2001, gan ddisodli’r system flaenorol o denantiaethau diogel a sicr ar gyfer tenantiaid â’u landlord yw awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig) oni bai bod y landlord wedi cydymffurfio â gofynion cyn-gweithredu. Ni ellir codi achos oni

86 Mae copi o’r protocol i’w weld yma: https://www.justice.gov.uk/courts/procedure-rules/civil/protocol/pre-action-protocol-for-possession-claims-by-social-landlords.

87 Naill ai ar lafar neu drwy ddangos cofnod o geisio cysylltu.

88 Information, Advice and Representation in Housing Possession Cases, 25 Ebrill 2014, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Hull.

57

Page 59: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

bai bod y landlord wedi cadarnhau i’r llys ar y ffurflen a ragnodwyd gan reoliadau (Gorchymyn Tenantiaethau Diogel yr Alban [Achos ar gyfer Meddiant) {Cadarnhad o Gydymffurfio â Gofynion Cyn-Gweithredu} 2012 SI Rhif 93) ei fod wedi cydymffurfio â’r gofynion cyn-gweithredu.

Hefyd, fe wnaeth Deddf 2010 osod adran 14A i mewn yn Neddf 2011, yn amlinellu’r gofynion cyn-gweithredu, sy’n cynnwys yn isadran (6) waharddiad ar roi Hysbysiad o dan a14(2) uchod:

Lle nad yw cais am fudd-dal tai yn cael ei benderfynu ond cred y landlord y caiff ei dalu ar lefel a fydd yn galluogi tenant i dalu’r rhent sy’n ddyledus a swm derbyniol tuag at yr ôl-ddyledion

Lle mae’r tenant yn cymryd camau eraill sydd, ym marn y landlord, yn debygol o arwain at dalu’r rhent sydd i’w dalu ac unrhyw rent sy’n ddyledus

Lle mae’r tenant yn cydymffurfio â thelerau cynllun cytûn.

Cyflwynwyd Tenantiaeth Ddiogel yr Alban yn Neddf 2001, ac roedd yn disodli’r system flaenorol o denantiaethau sicr a diogel ar gyfer tenantiaid â’u landlord yw awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig. Cyn cychwyn ar unrhyw gamau i adfeddiannu cartref, felly, mae hefyd yn ofynnol yn gyfreithiol i bob landlord cymdeithasol i:

Ddarparu gwybodaeth glir i denantiaid ynglŷn â thelerau eu cytundeb tenantiaeth, rhent a rhwymedigaethau ariannol eraill, taliadau a threuliau cyfreithiol posibl

Cynnig help a chyngor i denantiaid, gan gynnwys hawliau i hawlio budd-daliadau, yn cynnwys budd-dal tai, a darparu manylion cyswllt ar gyfer asiantaethau perthnasol fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth

Darparu gwybodaeth am reoli dyledion, a ble i gael help

Gwneud ymdrech orau i drefnu cynllun talu

Ystyried ceisiadau am fudd-dal tai, camau a gymerwyd gan y tenant i fynd i’r afael â’r ddyled rhent, ac a yw’r tenant yn cydymffurfio â chynllun talu

Annog y tenant i gysylltu â’r awdurdod lleol lle mae’r cartref wedi’i leoli.

Cynlluniau talu afrealistig

Yn ystod ein hastudiaeth, roedd gan tua hanner ein cyfweleion o awdurdodau lleol a oedd mewn ôl-ddyledion rhent gynllun ad-dalu nad oeddent wedi cydymffurfio ag ef. Yng ngweddill yr achosion o ôl-ddyledion, nid oedd unrhyw gynllun ad-dalu ar waith adeg troi’r tenant allan. Drosodd a throsodd, cyfeiriodd y defnyddwyr gwasanaeth y cyfwelwyd â nhw at gyfraddau ad-dalu ‘afrealistig’ nad oeddent yn ystyried eu moddion ariannol cyfyngedig iawn.

58

Page 60: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

“Roedd y £500 y mis (ad-daliad ôl-ddyledion) yr oedd y cyngor yn gofyn amdano ar ben y rhent yn chwerthinllyd, ac ni fyddwn i fyth wedi dod i ben. Nid oeddent yn barod i ystyried unrhyw gynnig arall. Mae Shelter Cymru wedi fy helpu i drwy siarad â’r cyngor a dod i gytundeb realistig.” (Tenant wedi’i fygwth â chael ei droi allan)

“Roeddwn i’n hapus i drefnu cynllun ad-dalu gyda’r cyngor. Roeddwn i’n gweithio’n amser llawn, ac roedd gen i incwm sefydlog. Yn y llys, dywedodd y barnwr wrthyf am gyflwyno fy nghynllun i’r cyngor. Fe wnes i hynny, a gwrthodwyd y cynllun ganddynt. Roedd £400 o gredydau treth gweithio wedi’u hôl-ddyddio yn ddyledus i mi ar y pryd, a phe bawn i wedi gallu cael yr arian hwnnw drwodd, a phe na baent wedi ychwanegu costau llys o £250 ar ben yr ôl-ddyledion, gallwn fod wedi talu’r arian yn ôl iddynt mewn pryd.”(Tenant wedi’i Droi Allan)

Mewn nifer o’r achosion hyn, arweiniodd ymyriadau gan weithwyr cymorth o elusennau tai ar herio cyfraddau ad-dalu misol yn y llys a’u lleihau i lefelau mwy hylaw. Yn yr achosion hyn, roedd tenantiaid yn dueddol o osgoi cael eu troi allan. Mae hyn yn awgrymu y gallai achosion llys fod yn llai effeithiol o ran adennill ôl-ddyledion na chytuno ar gynllun ad-dalu realistig. Crybwyllodd defnyddwyr gwasanaeth eu bod yn teimlo eu bod wedi’u hymddieithrio gan gynlluniau ad-dalu, yr oeddent yn gwybod o’r dechrau na fyddent yn gallu cydymffurfio â nhw.

“Maent wedi mynd â fi i’r llys ddwywaith am yr ôl-ddyledion. Dywedais wrthynt y tro cyntaf fod y gyfradd ad-dalu yn amhosibl i mi, gyda dau o blant. Gallai unrhyw un weld na fyddwn i’n gallu gwneud yr ad-daliadau. Ac yn ddigon gwir, collais yr ad-daliadau ac felly aethon nhw â fi i’r llys eto .” (Tenant wedi’i Throi Allan)

“Ar ddiwedd y dydd, mae’r cyngor eisiau eu harian ac wrth gwrs, rwy’n deall hynny ac rwyf eisiau ei dalu’n ôl. Ond yn realistig, nid wyf yn mynd i allu fforddio ei dalu’n ôl os ydyn nhw’n fy nhaflu i a fy mhlant allan ar y stryd.” (Tenant wedi’i bygwth â chael ei throi allan)

Esboniodd tenantiaid a oedd wedi cael eu troi allan fod ganddynt gynlluniau talu afrealistig am ddau brif reswm. Yn gyntaf, yn eu hawydd i’r broses ddod i ben a chael gwared ar y bygythiad o gael eu troi allan, roeddent yn cytuno i amserlen ad-dalu a oedd yn ormod iddynt allu ei fforddio. A hyn yn aml pan oedd y cyngor a gawsant yn ddiofal, neu nid oedd eiriolaeth ganddynt. Yn ail, roedd achosion lle’r oedd y llys wedi gorfodi amserlen ar y tenant heb gynnal prawf diwydrwydd dyladwy ar fforddiadwyedd ac roedd y tenant yn rhy ‘ofnus’ i wrthwynebu.

Roedd yn rhaid i un tenant dalu diffyg o £130 y mis, gan gynnwys £30 fel ‘taliad wrth gefn’ i’r landlord. Dywedwyd wrthi gan yr LCC pe bai ganddi hyd yn oed 1 geiniog o ôl-ddyled eto,

59

Page 61: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

byddent yn mynd â hi’n ôl i’r llys i’w throi allan. Fe adawodd hyn i mewn cyflwr o ofn cyson o golli ei chartref a daeth y straen ychwanegol i wneud ad-daliad pob mis yn ‘annioddefol’ iddi.

Soniodd tenant arall am sut oedd wedi’i chael hi’n anodd gwneud yr ad-daliadau a heb gael fawr o help gan yr LCC pan blediodd gyda nhw i leihau’r ad-daliadau i swm mwy hylaw. Dim ond drwy ymyrraeth eiriolwr annibynnol y cafodd yr ad-daliadau eu lleihau.

“Llwyddodd (Shelter Cymru) i’w cael i ddiddymu fy nghynllun ad-dalu £35 yr wythnos a’i newid i swm cydnabod o £3.65 yr wythnos. Hebddynt ni fyddai wedi bod ganddynt (yr LCC) unrhyw esgus i beidio â’m troi allan pan oeddwn i’n dechrau mynd i ôl-ddyled eto. Roeddwn ar y llwybr i fethu!” (Tenant wedi’i fygwth â chael ei droi allan)

Roedd tenantiaid a oedd yn y cam cyn-troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent yn teimlo mai cael eu hatgyfeirio am gyngor tai annibynnol oedd yn fwyaf gwerthfawr a buddiol iddynt. Y gwaith mwyaf cyffredin yr ymgymerwyd ag ef yn yr achosion hyn oedd cynrychioli’r tenant yn y llys, cysylltu â’r cyngor a’r Adran Gwaith a Phensiynau, trafod cynlluniau ad-dalu, helpu gydag apeliadau a cheisiadau, manteisio ar grantiau ac atgyfeirio i asiantaethau eraill.

“Fe wnaeth y cyngor fy rhoi i mewn cysylltiad [â Shelter Cymru]. Fe wnaethant ymyrryd gyda’r swyddogion rhent a threfnu i fy nghyfradd ad-dalu gael ei lleihau.” (Tenant wedi’i fygwth â chael ei droi allan)

Ffactorau allanol: tirwedd gyfnewidiol budd-daliadau lles ac oedi o ran cael budd-dal tai

Roedd barn eang ymhlith y rhanddeiliaid y gwnaethom siarad â nhw bod y gwaith sy’n mynd rhagddo i gyflwyno Credyd Cynhwysol, a chynlluniau yn y dyfodol i roi terfyn ar fudd-dal tai i denantiaid cymdeithasol yn gyson â’r sector preifat89, yn dod â heriau newydd ac yn mynnu ffyrdd newydd o weithio er mwyn sicrhau y gall tenantiaid ymdopi â’r newidiadau.

“Rhoddwyd y tîm [cynhwysiant ariannol] ar waith mewn ymateb i arwyddion cynnar o raddfa’r newidiadau arfaethedig i ddiwygio lles. Roedd hynny bedair blynedd yn ôl, ac mae’r tîm wedi ehangu yn y 12 mis diwethaf gan ychwanegu swydd cynghorydd arall.”(Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“Gyda Chredyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno, mae’n fater o geisio ymgysylltu â phobl cyn gynted â phosibl, oherwydd yn gyffredinol gwelwn nad yn y mis cyntaf, ond yn yr ail fis a’r trydydd mis y mae pobl yn wynebu caledi... Felly mae angen i ni weithredu’n gyflymach a chynnwys y tenant yn gynharach.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

89 A fydd yn cael ei gyflwyno yn 2018 ac sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar bobl sengl dan 35 oed heb blant mewn tai cymdeithasol.

60

Page 62: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Roedd pryder y byddai pobl sengl ffit ac iach dan 35 oed yn dwyn pwysau’r newidiadau:

“Nid yw’n gymaint i’r rheiny sydd ag angen y rhoddir blaenoriaeth iddo gan y gallwn ni weithredu mewn ffyrdd i fynd i’r afael â hynny’n fewnol, mae gennym fwy o reolaeth dros hynny. Mae’r heriau yn fwy tebygol o gael eu hwynebu gan y bobl iau ffit ac iach.”(Rhanddeiliad)

Yn ogystal, caiff didyniadau’r Credyd Cynhwysol ar gyfer ôl-ddyledion rhent eu cyfrifo gan ddefnyddio canrannau (rhwng 10% - 20%) a gall fod am fwy na’r gorchymyn llys, gan arwain at broblemau fforddiadwyedd a allai fygwth tenantiaeth. Mae gwybodaeth anghyson sy’n cael ei rhoi gan staff y llinell gymorth Credyd Cynhwysol yn gwneud ymholiadau’n anodd eu datrys.

Trwy gydol yr adroddiad hwn, thema fynych oedd ôl-ddyledion rhent tenantiaid a achoswyd gan drafferthion â budd-dal tai. Mae Cytundebau Lefel Gwasanaeth a/neu brotocolau rhwng Atebion Tai awdurdodau lleol ac adrannau Budd-dal Tai yn hanfodol i oresgyn ôl-ddyledion rhent yn sgil oedi neu drafferthion â thaliadau budd-dal tai. Yn wir, mae’r cyfryw brotocolau ar waith yn y rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru. Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth o’r ffaith na all bob adran Atebion Tai fanteisio ar y system budd-dal tai, a bod hyn yn ei gwneud yn anoddach i landlordiaid atal troi allan:

“Rydym yn awdurdod bach ac mae gennym berthynas fewnol dda iawn gyda’r gwasanaethau tai, a hefyd gyda’r adran budd-dal tai, sy’n gefnogol iawn ac yn barod i gynorthwyo. Ni allai weithio gystal ag y mae heb weithio cydgysylltiedig. Rydym yn gofyn am fynediad i’r system budd-daliadau tai ond heb lwyddo eto. Byddai hynny’n gymorth aruthrol i’n hymdrechion i atal digartrefedd a hefyd o ran rheoli tai ac incwm. Nid ydym yn gofyn am i bob swyddog gael ei awdurdodi am ei fod yn fater o ddiogelu data [deddfwriaeth], ond mae trefniadau ar waith y gallem eu defnyddio. Rydym yn gobeithio symud hynny ymlaen. Rwy’n credu ein bod ni’n un o’r tri neu bedwar awdurdod [yng Nghymru] sydd heb fynediad. Does dim rheswm penodol, gellir rhoi pethau ar waith. Mae ganddynt fynediad i’n systemau ni. O ran canfod problemau yn gynnar a’u hatal, mae’n hollbwysig.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi ac yn cefnogi adrannau Atebion Tai yr awdurdodau lleol sy’n weddill yng Nghymru i gael mynediad i’r system budd-daliadau tai fel mater o fyrder.

Dulliau cosbol niweidiol

61

Page 63: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Yn ystod ein hymchwil, roedd yn amlwg bod llawer o landlordiaid cymdeithasol yn rhoi nifer uchel o ‘Hysbysiadau Ceisio Meddiant’ yn rheolaidd. Mewn un LCC, cyflwynwyd tua 1,500 ohonynt bob blwyddyn.

Roedd agweddau landlordiaid tuag at ddefnyddio Hysbysiadau Ceisio Meddiant yn amrywio’n sylweddol. Roedd rhai ohonynt o’r farn y dylid eu defnyddio pan fetho popeth arall yn unig, ac yn teimlo y dylid ond eu defnyddio lle maent yn ceisio troi allan yn weithredol.

“Rydym yn ei wneud fel rhan o’r broses adennill ôl-ddyledion, ond ni fyddwn yn ei wneud i geisio dychryn [tenantiaid] i gysylltu â ni. Os ydynt yn dechrau deialog o ganlyniad iddo, yna mae’r holl lwybrau cymorth yn dal yn agored iddynt.” (Rhanddeiliad LCC)

“Rydym yn ceisio ymgysylltu’n fwy personol na thrwy ddarnau o bapur. Os ydych yn rhoi mwy o Hysbysiadau Ceisio Meddiant, yna byddant yn mynd yn ddarn arall o bapur.” (Rhanddeiliad LCC)

Fodd bynnag, roedd landlordiaid cymdeithasol eraill yn teimlo bod yr hysbysiadau yn offeryn defnyddiol ar gyfer amlygu difrifoldeb y sefyllfa, ac yn datgan eu bod yn aml yn arwain at ymgysylltu’n well â thenantiaid. O’u safbwynt nhw, nid chwalu’r berthynas yw pwynt cyflwyno Hysbysiad Ceisio Meddiant, ond yn hytrach ei ddefnyddio fel offeryn i hyrwyddo’r ymgysylltu rhwng y tenant a’r landlord.

“Mae mynd i’r llys yn rhywbeth y byddem yn ei gymryd o ddifrif, felly mae Hysbysiadau Ceisio Meddiant yn cael eu defnyddio er mwyn annog ymgysylltu ac nid troi tenantiaid allan o angenrheidrwydd.” (Rhanddeiliad LCC)

“Yn sylfaenol, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym yn troi llai o denantiaid allan ond yn cyflwyno mwy o hysbysiadau, ac mae’n siŵr ein bod yn cymryd mwy o gamau drwy’r llys hefyd, ond mae llai o achosion o droi allan. Byddai’n well gennym roi mwy o hysbysiadau, na chael mwy o achosion o droi allan.” (Rhanddeiliad LCC)

Fodd bynnag, dywedodd tenantiaid a oedd wedi’u troi allan, neu wedi cael eu bygwth â chael eu troi allan, wrthym fod cyflwyno’r Hysbysiad Ceisio Meddiant (heb gynnig cymorth hefyd) wedi rhwystro eu dymuniad a’u gallu i ymgysylltu â landlordiaid i ddatrys y broblem, mewn gwirionedd. Felly, credwn y dylai Hysbysiadau Ceisio Meddiant ond cael eu defnyddio mewn achosion lle mae pob ymdrech arall i ymgysylltu wedi methu.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod angen i landlordiaid ystyried yn ofalus cyn defnyddio Hysbysiadau Ceisio Meddiant gydag aelwydydd a all fod yn agored i niwed. Mae’n ymddangos fod dadleuon dros ddefnyddio Hysbysiadau Ceisio Meddiant i gymell ymgysylltu, ac er y gallai hynny weithio gyda chyfran o denantiaid, i rai eraill gallai fod yn niweidiol a

62

Page 64: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

gwanhau ymhellach y cyswllt bregus rhwng y landlord a’r tenant. Nid yw defnyddio Hysbysiadau Ceisio Meddiant fel tacteg i ymgysylltu â thenantiaid â chyflyrau iechyd meddwl yn cael ei argymell, gan fod gweithredu fel hyn yn debygol o effeithio’n negyddol ar les ac arwain at eu cyflwr yn gwaethygu. Siaradom â thenantiaid a ddywedodd wrthym fod yr Hysbysiad Ceisio Meddiant, ynghyd â’u cyflwr iechyd meddwl, wedi gwneud iddynt ymgysylltu oddi wrth y sefyllfa a gwneud iddynt deimlo na allent wynebu trafodaethau gyda’r landlord.

Yn ystod ein hymchwil gyda LCCau, un maes pryder oedd y defnydd o Hysbysiadau adran 21 gan landlordiaid. Mae Hysbysiad adran 21, neu hysbysiad troi allan ‘dim bai’, yn galluogi landlord i adennill meddiant o’i eiddo ond dim ond ar ddiwedd cytundeb tenantiaeth fyrddaliol sicr neu denantiaeth cyfnod penodedig. Mae landlordiaid yn gallu cyflwyno Hysbysiad adran 21 heb roi unrhyw reswm dros derfynu’r cytundeb tenantiaeth, ac o hyn y mae rhywfaint o’r dadlau ynghylch y math hwn o hysbysiad wedi deillio. Mae’r opsiwn yn gwrthod yr hawl i denantiaid amddiffyn eu gweithredoedd ac nid yw’n rhoi unrhyw ddisgresiwn i’r llys i atal troi allan: er enghraifft, pe bai ôl-ddyledion neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae’r tenant wedi gwneud ymdrechion i unioni’r mater.

Yn y sector cymdeithasol, caiff y math hwn o hysbysiad ei ddefnyddio’n bennaf le mae’r tenant mewn tenantiaeth (fyrddaliol sicr) gychwynnol, ac yn hynny mae’r broblem. Yn y tenantiaethau hyn, nid oes gan y tenant yr un faint o amddiffyniad ag sydd gan denantiaid cymdeithasol mwy sefydledig, ac felly maent yn fwy agored i gael eu troi allan.

Teimlai LCCau sy’n defnyddio hysbysiadau adran 21 mewn tenantiaethau cychwynnol ei bod yn bwysig ei gael ‘yn eu poced ôl’ fel opsiwn, yn enwedig mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Rydym yn cyflwyno Hysbysiadau adran 21. Rydym wedi cyflwyno 14 dros ryw wyth mlynedd. Mae rhai pobl wedi gadael eu hunain am mai dyna’r peth gorau iddyn nhw. Os oes unrhyw fater o fod yn agored i niwed, ac rydym yn gwybod amdano, yna ni fydd yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno ac ni fydd hynny’n newid. Yna rydym yn mynd ar drywydd cefnogi’r tenant.” (Rhanddeiliad LCC)

“Nid wyf yn meddwl ein bod wedi cyflwyno unrhyw hysbysiadau eleni. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol y byddwn yn gwneud, ac os yw’n effeithio ar gymdogaeth, yna torri’ch colledion yw’r unig ddewis mae’n debyg. Nid ydym yn cyflwyno hysbysiadau adran 21 am ôl-ddyledion rhent. Dim ond am ymddygiad gwrthgymdeithasol y byddwn yn gwneud, a phe bai ôl-ddyledion rhent, yna byddwn yn ei gynnwys fel rhan o’r rhai ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae ein polisi’n caniatáu i ni wneud, ond nid ydym yn gwneud.” (Rhanddeiliad LCC)

63

Page 65: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Serch hynny, mae rhanddeiliaid LCC eraill yn anghytuno â defnyddio hysbysiadau adran 21 mewn tenantiaethau cychwynnol ac maent o’r farn fod troi rhywun allan heb fod yn atebol i gael y dyfarniad wedi’i atal yn mynd yn groes i ethos tai cymdeithasol.

Diffyg ymgysylltu â thenantiaid

Roedd y rhanddeiliaid landlordiaid cymdeithasol y cyfwelwyd â nhw ar gyfer yr astudiaeth hon yn llwyr gytûn mai’r rhwystr fwyaf rhag atal troi allan yw diffyg ymgysylltu â thenantiaid.

“Rydym yn dal i gael cyfran bryderus o fawr y byddwn yn gwneud yr holl waith hwn gyda nhw, ceisio ymgysylltu, gweithio’n agos gyda’r swyddogion cymdogaeth, ac eto allan o’r deg o bobl y mae’n rhaid i ni siarad â nhw, ni fydd naw ohonynt yn troi allan. Hyd yn oed yn y cam hwnnw, byddai’n well gennym eu gweld yn y llys a cheisio gwneud cytundebau sy’n fforddiadwy, ond ni wnaiff rhai pobl ymgysylltu o gwbl, hyd yn oed bryd hynny.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“Ymgysylltu â thenantiaid yw’r rhwystr mwyaf o bell ffordd rhag dod o hyd i ateb.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

“I rai pobl, mae meddwl am fod yn ddigartref yn ddigon o gymhelliant iddynt ddechrau ymgysylltu a mynd i’r afael â’u problemau. I rai eraill, nid yw eu bygwth â chael eu troi allan hyd yn oed yn ddigon i’w cael i ymgysylltu â’r broses.”(Swyddog Atebion Tai)

“Weithiau bydd tenantiaid yn gwrthod neu’n anwybyddu cynigion a wneir gan y cyngor yn hollol ddidwyll, er mwyn ein helpu i sicrhau deilliant gwell ar eu cyfer. Rwyf wedi bod i eiddo tenantiaid i gyflwyno hysbysiad, ac maent wedi synnu ein bod ni yno, am mai dyma’r tro cyntaf iddynt glywed am y peth. Yna rydych yn gweld pentwr o lythyrau heb eu hagor yn y cyntedd, gan gynnwys gohebiaeth amrywiol gennym ni.” (Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Lle mae tenantiaid yn methu ymgysylltu, mae’n gadael y landlord heb lawer o ddewis ond symud ymlaen ag achos llys: sef cam gweithredu yr oedd pawb y cyfwelwyd â nhw yn credu’n bendant ei fod yn obaith olaf ac yn cael ei ystyried yn fethiant.

“Ein hôl-ddyledion uchaf yw £3,200 ond nid ydym wedi’u troi allan am eu bod yn ymgysylltu’n gyson ac yn ein diweddaru ynglŷn â pham na allant wneud eu taliadau a beth sy’n digwydd yn eu bywyd. Fel hyn, gallwn geisio helpu i gael eu taliadau yn ôl ar y trywydd iawn. Rydym wedi troi allan pobl a chanddynt lai na thraean o’r ddyled honno i ni, ond nid ydynt wedi siarad â ni, maent wedi mynd i’w cragen ac yn gwrthod ymgysylltu.”

64

Page 66: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

(Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

Serch hynny, mae ein hymchwil yn awgrymu bod llawer o landlordiaid cymdeithasol yn seilio eu polisïau atal ar ddulliau ‘synnwyr cyffredin’ o ymgysylltu yn hytrach na dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae theori ymgysylltu a newid ymddygiad yn faes ymchwilio cymhleth sy’n esblygu’n gyson. Dylai dealltwriaeth soffistigedig o ymgysylltu â thenantiaid ddefnyddio meysydd niferus o wybodaeth.

Mae golwg gynhwysfawr ar y mater hwn y tu hwnt i gylch gwaith y prosiect hwn. Fodd bynnag, siaradom â phump o denantiaid, a oedd wedi defnyddio gwasanaethau tai a digartrefedd yn y gorffennol, er mwyn cael safbwynt defnyddwyr gwasanaethau ar ymgysylltu. Amlinellir ein canfyddiadau isod.

Pam na fydd tenantiaid yn ymgysylltu â landlordiaid

Yn ôl y tenantiaid y siaradom â nhw, gellir crynhoi’r rhesymau pam fydd tenantiaid yn methu ag ymgysylltu â’r landlord pan fydd tenantiaeth mewn perygl fel a ganlyn:

(i) Mae ar denantiaid ofn y canlyniad (eu troi allan o bosibl) ac yn mabwysiadu strategaethau ymdopi i gymryd arnynt nad yw’n digwydd

“Efallai y bydd tenant yn osgoi’r mater ac yn peidio â chodi materion yn gynnar rhag ofn y bydd yn tynnu sylw negyddol atynt. Mae hefyd yn ffordd o wadu beth sy’n digwydd.” (Tenant)

(ii) Ymdeimlad o ddiffyg grym ar ran y tenant; teimlad nad oes pwrpas ymgysylltu gan na ellir datrys y mater ac mae’n anochel y bydd yn cael ei droi allan

(iii) Mae ar denantiaid ofn awdurdod, naill ai yn sgil anghydbwysedd grym canfyddedig, neu yn sgil profiad gwael blaenorol gydag awdurdod

“Sut allwn i, y tenant dinod, frwydro neu feddwl am gynllun tra ’mod i’n eistedd yno gyda phedwar o bobl sy’n adnabod y system drwyddi draw?” (Tenant)

“Yn fy marn i, problemau mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig, materion yn ymwneud ag ofn, gwadu neu ofn delio â chynrychiolydd y landlord ar eich pen eich hun.” (Tenant)

(iv) Mae’r modd cyfathrebu gan y landlord yn amhriodol neu’n anhyblyg. Er enghraifft, nid yw’n ystyried anawsterau iaith neu gyfathrebu, credoau diwylliannol, nac yn cynnig hyblygrwydd o ran amser neu leoliad i siarad am atebion

65

Page 67: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

(v) Canfyddiad fod y landlord eisiau eu troi allan yn hytrach na chynnig cymorth, a dryswch ynglŷn ag unrhyw gynigion o gymorth gan y landlord sy’n cyd-fynd â chamau ffurfiol i adennill meddiant. Mae hyn yn arwain at ddrwgdybio’r landlord ac effaith negyddol ar barodrwydd i ymgysylltu

(vi) Anghenion cymorth sydd heb eu bodloni, gan gynnwys materion iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a ffordd caotig o fyw sy’n effeithio ar allu - a dymuniad - y tenant i ymgysylltu â’r landlord. Gall sefyllfaoedd tyngedfennol neu argyfyngau croes arwain at y bygythiad o droi allan yn ‘fygythiad’ arall yn eu bywydau sydd eisoes yn gaotig.

“O fy mhrofiad personol i, byddwn i’n dweud mai ofn cael fy nhroi allan yw’r ffactor mwyaf. Nesaf, byddwn i’n dweud y gall materion iechyd meddwl ei gwneud hi’n amhosibl hefyd i feddwl am gyfathrebu gydag unrhyw un ynglŷn ag ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig. Yn bennaf oherwydd y paranoia a fydd yn mynd drwy’ch meddwl, ynghyd â meddyliau ymwthiol o negyddoldeb sy’n achosi mwy o orbryder, ac mae hynny’n atal cyfathrebu.” (Tenant)

Sut i hybu ymgysylltiad tenantiaid

Mae methiant i ymgysylltu yn fwy aml yn symptom yn hytrach nag achos. Mae diffyg ymgysylltu yn aml yn adlewyrchiad o ofn a gorbryder ynglŷn â’r sefyllfa. Mae hwn yn adwaith dynol iawn i straen difrifol, a gall pob rhanddeiliad tai elwa ar ddeall pam fydd rhai tenantiaid yn adweithio i’r straenachoswr hwn yn y modd y maent yn gwneud.

Roedd y defnyddwyr gwasanaethau y siaradom â nhw yn llwyr gytûn o ran eu hargyhoeddiad fod ôl-ddyledion rhent ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fygythiad difrifol i landlord cymdeithasol a’r cymunedau lle maent yn byw. Dywedodd bob un ohonynt fod angen datrys y materion, a bod angen i denantiaid fod yn ymwybodol fod perygl iddynt golli eu cartref os nad yw’r mater yn cael ei ddatrys.

“Rwy’n credu yn sicr fod angen i landlordiaid ymyrryd pan fydd dyled wedi mynd dros £100, a mabwysiadu ateb sy’n gadarn a theg, gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ateb, a gofyn am ganiatâd i gysylltu ag asiantaethau eraill y gallai’r tenant fod yn ymgysylltu â nhw, fel bod y tenant yn gallu cael y cymorth angenrheidiol.”(Tenant)

Serch hynny, dywedodd tenantiaid ei bod yn hanfodol fod landlordiaid yn ymdrin yn sensitif â throi allan ac atal troi allan. Cysylltu’n gynnar gyda thenantiaid newydd, er mwyn adeiladu cydberthynas ac ymddiriedaeth ar ddechrau tenantiaeth, yw’r ffordd orau i gynyddu’r gobaith o ymgysylltu os oes materion yn codi yn y dyfodol. Pan fydd materion yn codi, roedd ein tenantiaid yn argymell cyswllt wyneb yn wyneb am y tro cyntaf i’r aelwyd dan sylw, er mwyn trafod materion ac atebion.

66

Page 68: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Dylai’r gohebu ar ôl hyn barhau’n hyblyg i anghenion y tenant er mwyn hybu ymgysylltiad. Er enghraifft, neges destun, neges e-bost, galwad ffôn neu gyswllt wyneb yn wyneb mewn lleoliad sy’n esmwyth i’r tenant, sydd yn fwyaf tebygol i hybu ymgysylltiad. Gall cyfathrebu drwy neges destun fod yn well i bobl ifanc, neu neges e-bost i denantiaid sy’n gweithio ac y mae’n anodd cysylltu â nhw yn ystod y dydd. Mae anfon nodau atgoffa ar gyfer yr apwyntiad (trwy ddull priodol) at y tenant yn debygol o hybu ymgysylltiad parhaus hefyd, a’u hannog i fynychu apwyntiadau a chyfarfodydd.

“Rwy’n deall nad ydych efallai am drafod y materion hyn yn eich cartref eich hun, ond a hoffech chi gyfarfod yn ein swyddfa ni neu mewn caffi i weld sut allwn ni gael trefn ar y mater hwn cyn ei fod yn mynd yn fater problemus?” (Tenant)

Credai’r defnyddwyr gwasanaethau y siaradom â nhw fod rheidrwydd ar landlordiaid i esbonio realiti troi allan ac nad yw’n gam dialgar nac yn fygythiad ofer, ond yn y pen draw, gall fod yn rheidrwydd trefniadol. Fodd bynnag, teimlwyd ei bod yn bwysig hefyd i osgoi defnyddio datganiadau neu lythyrau bygythiol, gan y gall hyn arwain at achosi i’r tenant encilio mwy fyth.

Er mwyn hybu ymgysylltiad, dylai landlordiaid esbonio’r mater yn nhermau effaith ôl-ddyledion rhent ar allu’r landlord i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel a’r modd y mae’n effeithio ar denantiaid eraill. Credwyd bod yr ymagwedd hon yn fwy tebygol o gael tenant i ymgysylltu, yn hytrach na bygwth troi allan yn unig.

Ar yr un pryd, credai tenantiaid ei bod yn hanfodol i fod yn glir ac onest ynglŷn â disgwyliadau yn ymwneud ag ymddygiad:

“Rwy’n deall eich bod yn teimlo straen a gorbryder yn ystod y nos, a bod hyn yn anodd i chi, ond serch hynny, allwch chi ddim chwarae cerddoriaeth metel trwm sy’n tarfu ar gwsg eich cymydog ac yn ei wneud yn sâl.” (Tenant)

Pan fydd gohebiaeth yn ysgrifenedig, rhaid iddi fod yn llawn gwybodaeth, yn glir a heb fod yn fygythiol. Rhaid iddi fod yn sensitif i faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth a rhoi ystyriaeth lawn i anghenion iaith, cyfathrebu a diwylliannol. Dylid cynnwys rhifau ar gyfer asiantaethau cymorth a chyngor annibynnol.

“Mae’r llythyrau y maent yn eu hanfon allan mewn perthynas ag ôl-ddyledion yn oer o ffurfiol yn aml, ac er y gwneir cynigion o help, maent hefyd yn cyfleu mwy ymdeimlad o gosbi nag annog.” (Tenant)

Argymhellodd tenantiaid fod yr holl aelwydydd sy’n cael eu bygwth â chael eu troi allan yn cael ‘map llwybr’ cynlluniedig allan o ôl-ddyledion rhent ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn dangos iddynt yr union gamau y mae angen iddynt eu cymryd i helpu datrys y materion dan sylw, a nodi llwybr clir allan o’r sefyllfa bresennol. Dylai’r ‘map’ ddangos yn glir

67

Page 69: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

lle mae’r tenant arni yn y broses, ac amlinellu dulliau realistig (gan gynnwys cynllun talu realistig) i’r tenant eu mabwysiadau. Bydd y dacteg rymusol hon yn rhoi synnwyr o ddewis a hunanreolaeth i’r tenant dros y sefyllfa, gan gael gwared ar rywfaint o’r ofn o’r sefyllfa anodd.

Mae ymchwil flaenorol wedi argymell y gellir cyflawni deilliannau ymgysylltu cadarnhaol pan fydd trydydd parti yn gweithredu fel y cyswllt rhwng y tenant a’r landlord, gan ei fod yn cael gwared ar ddymuniad y tenant i adweithio i’r sefyllfa yn llawn emosiwn90. Mynegwyd y farn gan rai landlordiaid cymdeithasol yn yr ymchwil gyfredol nad swyddogion tai, oherwydd pwysau eu rôl, yw’r rhai gorau i ddarparu’r math o gymorth sydd ei angen ar denantiaid yn aml i atal cael eu troi allan. Roedd teimlad y gallai’r rôl hon weithio’n well i’r ddau barti pe bai staff sydd wedi’u hyfforddi’n benodol yn ymgymryd â hi:

“Ymddengys fod llawer mwy o barodrwydd i ymgysylltu â Chyswllt Lles (na staff tai awdurdodau lleol). Mae pobl yn arfer cael swyddogion cyllid yn galw, ac efallai’n gweld swyddogion cyswllt lles yn llai bygythiol. Mae eu taflenni’n tueddu bod yn llai ffurfiol ac efallai eu bod yn fwy hygyrch i denantiaid. Hefyd, mae gan swyddogion cyswllt lles lawer mwy o amser ar gael iddynt o ddydd i ddydd i weithio ar ymgysylltu na swyddogion cyllid cynghorau.”(Rhanddeiliad Awdurdod Lleol)

I denantiaid ag anghenion cymorth ychwanegol, gall cynnwys eu gweithiwr cymorth helpu i hybu eu hymgysylltiad yn y broses.

“Cysylltwch â’r grŵp iechyd meddwl neu’r tîm cymorth sy’n gofalu am yr unigolyn, a rhoi gwybod iddynt am unrhyw atgyweiriadau, taliadau ac ati, fel eu bod yn gallu atgoffa’r unigolyn a bod yn drydydd parti ar gyfer trosglwyddo pob gwybodaeth am dai.” (Tenant)

“Gweithiwch mewn modd cyfannol gydag asiantaethau eraill er mwyn hyrwyddo’r cymorth mewn perthynas â materion amlwg.” (Tenant)

Mae angen i’r ymateb gan landlordiaid fod yn wybodus a sensitif. Lle nodir anghenion cymorth sydd heb eu bodloni, dylai landlordiaid sicrhau bod yna systemau a mecanweithiau ar waith i sbarduno helpu amserol ac effeithiol. Roedd y mwyafrif yn ein sampl a oedd â phroblemau iechyd meddwl wedi cael diagnosis cyn cychwyn y materion a arweiniodd at fygwth eu troi allan. Roedd y rhan fwyaf eisoes yn derbyn triniaeth, ac fel y cyfryw, roedd eu cyflyrau i’w gweld yn amlwg, felly ni allai eu landlordiaid honni’n rhesymol nad oeddent yn ymwybodol ohonynt, na dadlau eu bod yn bodoli neu ynglŷn â’u difrifoldeb. Mewn rhai achosion, cafodd atgyfeiriad cychwynnol y tenant at y gwasanaethau iechyd meddwl eu gwneud drwy staff cymorth y landlord. Fodd bynnag, adroddodd lawer o gyfranogwyr eu bod yn teimlo nad oedd eu landlord wedi rhoi digon o ystyriaeth i’r effaith yr oedd eu hafiechyd meddwl yn ei chael ar eu gallu i ymgysylltu, ac felly’r gallu i fodloni telerau eu tenantiaeth.

“Nid oedd unrhyw gymorth yno mewn gwirionedd. Roedden nhw’n gallu gweld mod i’n wael, dan straen aruthrol, yn orbryderus ac yn isel.

90 Shelter (2016). The experiences of people in housing debt.68

Page 70: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Gofynnodd y swyddog o’r gymdeithas dai a oeddwn i’n teimlo fod angen cymorth arnai gan y gwasanaethau iechyd meddwl, a chytunais fod ei angen arnai. Fe wnaethant drefnu i mi lofnodi ffurflen gydsynio, yn eu caniatáu i gysylltu â’m meddyg teulu er mwyn trefnu atgyfeiriad. Ro’n i’n teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â hyn: roeddwn i’n gofyn am help. Yn anffodus, dyna’r diwethaf a glywais amdano gan y gymdeithas dai.” (Tenant wedi’i droi allan)

Yn gryno, roedd y defnyddwyr gwasanaeth y siaradom â nhw yn teimlo bod diffyg ymgysylltiad â’r landlord, pan fydd tenantiaeth mewn perygl, yn bennaf oherwydd (a) ofn awdurdod, (b) ofn y canlyniad, a (c) anghenion cymorth heb eu bodloni sy’n rhwystro gallu’r unigolyn i ymgysylltu.

Gall landlordiaid hybu ymgysylltiad drwy:

(i) Gysylltiad sensitif a phriodol â’r tenant a defnyddio cymorth gan drydydd parti a thimau cyngor, yn ôl yr angen

(ii) Mwy o ddulliau ‘annog’ a llai o ddulliau ‘cosbi’, gan roi pwyslais cyfartal ar gymorth yn ogystal â chanlyniadau

(iii) Darparu cymorth priodol ar gyfer anghenion cymorth heb eu bodloni.

69

Page 71: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

8: Casgliadau

Yn dilyn argymhellion Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, gwnaethom archwilio hygyrchedd a chynaliadwyedd tai cymdeithasol ac archwilio effaith cael eich troi allan o dai cyngor a thai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCCau).

Canfuom, yn 2015-2016, fod landlordiaid cymdeithasol wedi cyflawni amcangyfrif o 914 o achosion o droi allan o dai cymdeithasol y flwyddyn, gan gynnwys 301 o achosion o droi teuluoedd â phlant allan. Mae hyn yn awgrymu bod dros 500 o blant bob blwyddyn yn cael eu gwneud yn ddigartref drwy gael eu troi allan o dai cymdeithasol.

Canfuom lawer o enghreifftiau o arfer da a rhai enghreifftiau o arfer rhagorol mewn gosodiadau cynhwysol ac mewn atal troi allan. Fodd bynnag, canfuom lawer o achosion hefyd lle’r oedd pobl wedi’u hallgáu rhag cael tai cymdeithasol pan roedd yn amhriodol ac yn annheg gwneud hynny. Mewn rhai achosion, roedd yn oherwydd nad oedd polisïau landlordiaid yn ddigon cynhwysol, ac mewn achosion eraill, roedd hyn oherwydd nad oedd polisïau cynhwysol a oedd wedi’u datblygu’n dda yn cael eu dilyn.

Mae ein tystiolaeth yn awgrymu y gellir gwneud mwy i sicrhau bod tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i fodloni anghenion pobl ar incwm isel iawn. Canfuom fod asesiadau ariannol yn cael eu defnyddio weithiau gan landlordiaid cymdeithasol yn ystod asesiad cyn-tenantiaeth, ac rydym yn croesawu'r weithred hon pan gaiff ei defnyddio i’r diben o gynorthwyo’r tenant i wneud y denantiaeth yn gynaliadwy trwy hybu fforddiadwyedd ac amlygu anghenion cymorth. Fodd bynnag, canfuom dystiolaeth hefyd ymhlith rhai LCCau ac un landlord awdurdod lleol fod rhai pobl wedi cael eu gwrthod rhag cael tenantiaethau am resymau fforddiadwyedd, hyd yn oed pan fyddai’r rhent yn cael ei dalu’n llawn gan Fudd-dal Tai.

Canfuom fod rhai landlordiaid yn defnyddio rhesymau troi allan gorfodol ar gyfer ôl-ddyledion rhent, yn arbennig drwy achosion ‘dim bai’ adran 21 mewn tenantiaethau cychwynnol. Mae hyn er gwaethaf arweiniad Llywodraeth Cymru sy’n cynghori y dylid defnyddio rhesymau yn ôl disgresiwn yn yr achosion hyn. Sefydlodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ddiweddar egwyddor eang bod rhesymau gorfodol ar gyfer troi allan yn anghydnaws â diben tai cymdeithasol. Teimlwn ei fod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’r neges hon ymhlith landlordiaid cymdeithasol er mwyn sicrhau, pan fydd tenantiaid yn mynd i ôl-ddyledion rhent, y dylent fod â’r hawl i amddiffyn eu hunain yn y llys, o leiaf.

Canfuom fod ôl-ddyledion rhent, a’r bygythiad canlyniadol o droi allan, yn digwydd am ddau brif reswm, gan mwyaf: (i) rhwystrau strwythurol, fel newidiadau i ddiwygio lles, cyflogaeth ansefydlog (neu dim cyflogaeth) a heriau o ran budd-dal tai a (ii) anghenion cymorth heb eu bodloni. Canfuom hefyd fod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn digwydd o ganlyniad i fethu mynd i’r afael ag anghenion cymorth heb eu bodloni neu anghenion cymhleth. Mae sbardunau troi allan yn arwydd o broblemau sylfaenol ym mywyd unigolyn, a gwnaethom amlygu pwysigrwydd yr angen i landlordiaid asesu amgylchiadau’r tenant yn gyfannol.

70

Page 72: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Mae effaith bersonol troi allan yn ddinistriol, ac mae tenantiaid sy’n cael eu troi allan yn canfod eu hunain heb unrhyw gymorth i symud i dai sefydlog, yn wynebu digartrefedd hirdymor, ac yn datblygu neu’n cael profiad o ddirywiad i’w hanghenion cymorth, fel afiechyd meddwl a chorfforol a cham-drin sylweddau.

O’r tenantiaid a gafodd eu troi allan y siaradom â nhw, roedd dros dri chwarter ohonynt (77%) yn dal yn ddigartref fwy na chwe mis ar ôl cael eu troi allan. Roedd atgyfeiriadau i wasanaethau digartrefedd yn afreolaidd: ni fanteisiodd 55% ohonynt ar wasanaethau Atebion Tai naill ai cyn neu ar ôl cael eu troi allan.

O ran effeithiau ariannol, ar hyn o bryd mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn gwario £7,879,059 y flwyddyn ar droi tenantiaid allan. Mae’r costau ehangach i sefydliadau eraill ar gyfer ymdrin â chanlyniadau’r achosion hyn o droi allan bron ddwywaith yn fwy eto. Mae troi tenantiaid allan o dai cymdeithasol yn costio cyfanswm o dros £24 miliwn y flwyddyn i’r economi yng Nghymru. Nid yw hyn yn ffordd gadarnhaol o ddefnyddio cyllid cyhoeddus.

Mae cost ariannol a dynol troi allan yn rhoi achos argyhoeddiadol dros yr angen i ddargyfeirio o leiaf rhywfaint o’r adnoddau hyn i ddatblygu ymestyniad i wasanaethau effeithiol, yn seiliedig ar gymorth, i atal troi allan. Canfuom fod rhaglenni atal troi allan yn debygol o fod yn gost-effeithiol ar lefel partneriaeth. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gydweithio â’i gilydd, yn hytrach nag ar eu pennau eu hunain fel endidau economaidd hunanfuddiannol, er lles pawb ar lefel ranbarthol, neu genedlaethol hyd yn oed.

Mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn amlygu meysydd arfer gorau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Mae rhai o hanesion a phrofiadau tenantiaid yn awgrymu y gallai landlordiaid ddysgu gwersi, yn enwedig o ran eu dull o ymdrin â thenantiaid sy’n agored i niwed. Mae agwedd barhaus landlordiaid tuag at droi allan - ‘mae unrhyw achos o droi allan yn fethiant’ - yn dangos eu bod yn ymwybodol o werth tenantiaeth gymdeithasol a’r costau pan fetho hyn. Rhaid gofyn felly, pam y mae cymaint o bobl yn cael eu troi allan o dai cymdeithasol o hyd?

Mae agwedd a dulliau landlordiaid cymdeithasol mewn perthynas ag atal troi allan yn amrywio, ac mae’n amlwg bod gwaith rhagorol yn cael ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn poeni nad yw tenantiaid yn cael ymateb cyson i atal troi allan. Yn ogystal â datgelu’r dulliau gwahanol rhwng landlordiaid, mae ein hastudiaeth yn awgrymu efallai nad yw dyheadau landlordiaid sydd â pholisïau cynhwysol yn cyrraedd y staff ar y rheng flaen bob tro, gan olygu bod agendor rhwng delfrydau polisi ac arfer gwirioneddol yn y fan a’r lle. Er enghraifft, er bod gan lawer o landlordiaid bolisïau cyn-gweithredu sy’n mynd y tu hwnt i safon ofynnol y protocol cyn-gweithredu, canfuom dystiolaeth hefyd nad yw’r protocol cyn-gweithredu yn cael ei ddilyn bob tro cyn i rywun fynd i’r llys.

Pan ddaw’n fater o rywbeth mor hanfodol bwysig â chartref rhywun, mae’n anghywir goddef anghysondeb yn y maes hwn. Mae angen safon ofynnol, gyson o ymateb ar denantiaid gan eu landlord ar gam cynnar, ataliol er mwyn arbed y trawma ariannol a phersonol o fynd â thenantiaid i’r llys ac, mewn rhai achosion, eu troi allan. Rydym yn awgrymu na ddylai unrhyw achos symud ymlaen i gam y llys nes y gall landlordiaid cymdeithasol ddarparu tystiolaeth eu bod wedi defnyddio safon ofynnol o ymateb ac wedi cynnig atebion priodol a

71

Page 73: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

sensitif i’r tenant. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb a thegwch i denantiaid, wrth beidio â rhoi baich gormodol ar y nifer o landlordiaid a fydd eisoes yn cyflawni’r safonau gofynnol hyn.

Mae pwysigrwydd sicrhau atebion priodol i atal troi allan yn glir o’n canfyddiadau. Daeth pam y mae tenantiaid yn ymgysylltu – neu’n fwy cywir, pam nad ydynt yn ymgysylltu – i’r amlwg fel problem fawr y mae angen ei harchwilio yn y dyfodol. Diffyg cynnwys tenantiaid mewn gwaith i’w hatal rhag cael eu troi allan yw’r rheswm sy’n cael ei ddyfynnu fwyaf dros landlordiaid cymdeithasol yn symud ymlaen i’r cam troi allan. Serch hynny, ofnwn fod gan yr ymresymiad ‘methu ymgysylltu’ y potensial i ddod yn ymresymiad rhagosodedig ar gyfer landlordiaid, neu hyd yn oed yn esgus i fod yn wrth-risg, os byddant ond yn defnyddio ‘un dull sy’n addas i bawb’ i ysgogi tenantiaid i gydweithio â nhw tuag at atebion.

Canfuom y gall nifer o ddulliau hybu ymgysylltiad tenantiaid, gan gynnwys: landlordiaid yn mabwysiadu cysylltiad sensitif a phriodol â’r tenant; defnyddio mwy o ddulliau ‘annog’ a llai o ddulliau ‘cosbi’, a darparu cymorth priodol i denantiaid ar gyfer unrhyw broblemau y gallai fod ganddynt sy’n eu rhwystro rhag ymgysylltu’n llwyddiannus. Dim ond pan edrychir ar amgylchiadau tenantiaid yn gyfannol, ac y caiff dulliau atal priodol eu mabwysiadu, y bydd landlordiaid yn gweld eu cyfraddau ymgysylltiad â thenantiaid yn gwella.

Yn hytrach na dull synnwyr cyffredin ad hoc, rydym yn annog landlordiaid cymdeithasol i fabwysiadu dulliau yn seiliedig ar dystiolaeth i ymgysylltu â thenantiaid. Yn ogystal, mae’n hollol amlwg bod cyfran sylweddol o denantiaid sy’n arbennig o agored i niwed o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl. Ar gyfer yr unigolion hyn, efallai y bydd angen ailddiffinio ymgysylltu ac addasu’r disgwyliadau er mwyn adlewyrchu nodweddion eu hafiechyd.

Yn yr hinsawdd ariannol heriol hon, rydym yn gweld mwyfwy o landlordiaid cymdeithasol dan bwysau wrth iddynt geisio cydbwyso eu rhwymedigaethau cymdeithasol â’u hyfywedd ariannol. Serch hynny, rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cyseinio â landlordiaid ac yn ailddatgan eu cred yn ethos cymdeithasol y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.

Mae diwygio lles a llymder yn amlwg yn rhoi landlordiaid dan bwysau sylweddol. Yn wir, gallai’r ffordd y maent yn ymateb i’r pwysau hwn ddiffinio rôl y sector am flynyddoedd lawer i ddod. A fydd yn fater o gau’r drws, rhoi’r gadwyn arno a’i agor ond i’r tenantiaid mwyaf abl yn ariannol ac y tybir mai nhw yw’r rhai diogelaf, gan arwain at sector sy’n ariannol iach, ond heb galon gymdeithasol? A fydd yn arwain at fwy o amodoldeb er mwyn ceisio rheoleiddio ymddygiad tenantiaid, p’un a yw hynny o ran dod o hyd i waith neu fabwysiadu ffyrdd iach o fyw, neu eu gwthio i fodelau eraill o ymddygiad sy’n dderbyniol yn gymdeithasol?

Ynteu a fydd landlordiaid yn glynu wrth eu diben cymdeithasol drwy barhau i ddarparu cartrefi, diogelwch a chyfleoedd bywyd i’r rhai sydd eu hangen: diben sydd mor hanfodol bwysig nad oes modd ei orbwysleisio.

72

Page 74: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

9: Argymhellion

Gosodiadau ariannol gynhwysol

Rydym yn dadlau y gellir gwneud mwy i sicrhau bod tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i fodloni anghenion pobl ar incymau isel iawn. Ein hargymhelliad yw bod landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’i gilydd i ddatblygu dull Cymru-gyfan ar gyfer gosodiadau ariannol gynhwysol. Byddai angen i’r dull hwn gael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r sector, ond rydym yn awgrymu y gallai gynnwys, er enghraifft:

Dull safonedig ar gyfer asesu fforddiadwyedd, gan gynnwys ymgynghorwyr ariannol annibynnol sydd wedi’u cofrestru â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), lle bo hynny’n briodol

Paramedrau ar gyfer defnydd derbyniol o bolisïau rhent ymlaen llaw, gan gyfeirio at ffynonellau o gymorth er mwyn sicrhau nad yw tenantiaid yn dechrau tenantiaeth newydd mewn dyled

Paramedrau ar gyfer pryd y gall pobl gael eu hallgáu o restrau aros oherwydd ôl-ddyledion blaenorol, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael eu hallgáu o’r rhestr pan maent yn gwneud ymdrech resymol i ad-dalu’r ddyled

Llwybr cyffredin cytûn i bobl sydd wedi cael eu gwrthod rhag cael tenantiaeth am resymau fforddiadwyedd, er mwyn iddynt gael eu cynorthwyo’n rhagweithiol i ddod o hyd i lety fforddiadwy arall

Cofnodi a monitro demograffeg ymgeiswyr sydd wedi cael eu gwrthod rhag cael tenantiaeth am resymau fforddiadwyedd, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig.

Rydym hefyd yn dadlau bod rhaid i’r dull gynnwys ymrwymiad gan landlordiaid i beidio byth â gwrthod tenantiaeth am resymau fforddiadwyedd os yw rhent tenant yn cael ei dalu’n llawn gan Fudd-dal Tai/Credyd Cynhwysol, os nad oes unrhyw ddewisiadau tai addas eraill ar gael ar y pryd.

Yn olaf, rydym yn croesawu’r adroddiad diweddar gan Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC ar ddatblygu tai a rennir i bobl dan 35 oed. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo yn y sector cymdeithasol i ddatblygu tai fforddiadwy i bobl ifanc yn sgil terfyn y Lwfans Tai Lleol ar renti cymdeithasol. Rydym yn argymell y dylai pob landlord cymdeithasol fynd i’r afael â’r her hon sydd ar ddod yn rhagweithiol, gan edrych ar amrywiaeth o atebion, gan gynnwys llety a rennir ac unedau sengl â chost isel.

Osgoi achosion llys diangen

Mae’r ymchwil hon yn awgrymu’n gryf nad yw’r Protocol Cyn-gweithredu ar gyfer Hawliadau Meddiannu gan Landlordiaid Cymdeithasol yn cael ei ddilyn bob tro. Rydym yn argymell bod

73

Page 75: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Llywodraeth Cymru yn cydweithio â landlordiaid cymdeithasol, tenantiaid a’r sector tai ehangach i archwilio dichonolrwydd gofynion cyn-gweithredu newydd, gan ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban. Byddai gofynion cyn-gweithredu yn sicrhau nad oes rhaid i denantiaid ddioddef straen a thraul achos llys oni bai bod popeth arall wedi methu. Byddai’n lleddfu pwysau ar dimau Atebion Tai, y llysoedd a gwasanaethau cynghori. Byddai angen i landlordiaid ddarparu tystiolaeth i’r llys bod y gofynion wedi’u dilyn.

Gallai gofynion penodol gynnwys, er enghraifft:

Atgyfeirio i gyngor annibynnol ar arian a thai

Asesiad o anghenion cymorth

Trafod cynllun ad-dalu realistig

Disgwyliad na chaiff rhesymau troi allan gorfodol byth eu defnyddio ar gyfer ôl-ddyledion rhent

Gofyniad bod rhaid i landlordiaid wneud ymdrech resymol i helpu tenantiaid i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau â budd-dal tai neu wneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn cyn cyflwyno hysbysiad

Helpu tenantiaid i reoli taliadau rhent drwy eu helpu i agor cyfrifon ‘pot jam’ undeb credyd, neu osod Trefniadau Talu Amgen dan y Credyd Cynhwysol

Atgyfeirio’n gynnar i wasanaethau Atebion Tai awdurdodau lleol

Yn achos honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, atgyfeirio i brosiect cymorth ataliol.

Dylai nod y gofynion fod i sefydlu safon ofynnol gytûn ar gyfer pob landlord cymdeithasol. Ni ddylai fygu creadigrwydd neu rwystro dulliau arloesol, lleol i atal troi allan mewn unrhyw ffordd.

Datblygu cronfa wybodaeth am atal troi allan

Yn aml, mae ymgysylltu â thenantiaid sydd mewn perygl o golli eu cartref yn anodd. Dywedodd landlordiaid wrthym na fydd yr hyn sy’n gweithio i ymgysylltu ag un tenant yn gweithio ag un arall, o reidrwydd.

Roedd yn amlwg o’n hymchwil bod landlordiaid eisoes yn defnyddio dulliau arbenigol penodol i hybu ymgysylltiad â thenantiaid. Fodd bynnag, nid yw’r dulliau hyn yn effeithiol bob tro, a gallant fod yn wrthgynhyrchiol hyd yn oed, gan wneud i denantiaid gilio’n ôl ymhellach a gwaethygu unrhyw gyflyrau iechyd meddwl presennol. Mae rhai landlordiaid yn defnyddio’r bygythiad o droi allan yn rheolaidd fel ‘cosb’ i gymell ymgysylltiad. Yn fwy cyffredinol, nid yw ymdrechion i ymgysylltu â thenantiaid, p’un a yw hynny drwy ‘gosbau’ neu ‘anogaeth’ neu ddull arall, wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn o’r hyn sy’n gweithio bob tro, gan arwain at wastraffu llawer o ymdrech.

74

Page 76: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Rydym yn argymell bod landlordiaid cymdeithasol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’i gilydd i wella’r gronfa wybodaeth bresennol am atal troi allan ac ymgysylltu â thenantiaid. Mae llawer o botensial i ddysgu o feysydd gwybodaeth fel theori newid ymddygiad, sy’n rhoi mewnwelediadau defnyddiol ym meysydd iechyd cyhoeddus a chynaliadwyedd ar hyn o bryd, a chymhwyso’r egwyddorion hyn i dai cymdeithasol mewn ffordd greadigol ac arbrofol.

Daeth iechyd meddwl i’r amlwg fel thema ganolog yn ein hymchwil. Mewn rhai achosion, nid oedd cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu cydnabod gan staff y rheng flaen ac, mewn achosion eraill, fe’u cydnabuwyd ond ni wnaed unrhyw beth o ganlyniad i hynny. Mae’r berthynas rhwng iechyd meddwl ac ymgysylltu yn un dyngedfennol i landlordiaid ei deall.

Dylai pob gweithiwr tai proffesiynol ar y rheng flaen gael hyfforddiant ar sut i adnabod materion iechyd meddwl posibl (ac atgyfeirio i weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol), a gweithio’n sensitif â phobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl. Hyd yn oed pan nad oes diagnosis swyddogol, dylai staff y rheng flaen fod yn sensitif i sefyllfa’r tenant a chyfeirio, neu atgyfeirio, pan dybir bod anghenion cymorth heb eu bodloni. Rydym yn argymell bod gan bob tîm tai ar y rheng flaen gyswllt gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol a enwir, yn yr un modd â thimau Atebion Tai awdurdodau lleol dan Gynllun Cyflawni Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru.

Yn olaf, rydym yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i landlordiaid rannu eu dulliau atal drwy hyb arfer da canolog ar-lein. Gallai hwn fod yn lle i landlordiaid rannu beth sy’n gweithio i bwy a phryd, o ran atal troi allan. Gallai un dewis gynnwys lleoli’r hyb yn yr adran tai ar wefan CLlLC (a oedd yn cael ei datblygu adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn).

Cynorthwyo timau Atebion Tai awdurdodau lleol i atal digartrefedd

Mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod angen i landlordiaid cymdeithasol weithio ar y cyd er mwyn gwneud dewisiadau amgen i droi allan yn werth chweil yn ariannol, gan rannu’r costau a’r risgiau ar lefel ranbarthol neu genedlaethol. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rôl gydlynu er mwyn ail-fantoli’r gwariant presennol ar droi allan tuag at argaeledd gwell ar gyfer gwasanaethau ataliol yn seiliedig ar gymorth.

Rydym yn argymell bod angen gwneud mwy i sicrhau bod timau Atebion Tai a Budd-dal Tai awdurdodau lleol yn gweithio ar y cyd. Canfu ein hymchwil fod nifer o awdurdodau yng Nghymru lle nad yw gwybodaeth am hawliadau budd-dal tai yn cael ei rhannu ag Atebion Tai. Gallai mynd i’r afael â’r diffyg cydweithrediad hwn fynnu ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn argymell bod Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol Cefnogi Pobl yn ystyried canfyddiadau’r astudiaeth hon wrth wneud argymhellion yn y dyfodol ynghylch blaenoriaethau gwario lleol.

Mae cyllid pontio digartrefedd awdurdodau lleol wedi ei leihau’n sylweddol yn 2016/17, a disgwylir rhagor o doriadau yng nghyllideb nesaf Llywodraeth Cymru. Mae’r toriad hwn eisoes wedi arwain at rai awdurdodau yn lleihau eu cyllidebau atal digartrefedd, sy’n debygol o leihau gallu awdurdodau i helpu pobl i fanteisio ar y sector rhentu preifat. Dylai

75

Page 77: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Llywodraeth Cymru gadw’r cyllid, o leiaf ar lefelau 2016/17, er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

76

Page 78: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Atodiad Un: Esboniad o sut y lluniwyd yr amcangyfrifon ar gyfer 2015-16 Mae’r tablau isod yn rhoi esboniad manwl o’r modd y lluniwyd yr amcangyfrifon ar gyfer 2015-16. Mae’n seiliedig ar y rhagdybiaethau canlynol:

Bod y stoc dai yn 2015-16 yr un fath ag yn 2014-15. Y gellir cymhwyso’r newid canran cyfartalog cyffredinol rhwng 2010-11 a 2015-16 yn

gyfartal ar draws LCCau a landlordiaid awdurdodau lleol. Bod y gymhareb rhwng teuluoedd â phlant a theuluoedd heb blant a gafodd eu troi

allan yr un fath yn 2015-16 ag yn 2010-11.Nodwch fod yr amcangyfrifon yn cyfuno data o nifer o ffynonellau gwahanol, e.e. data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn defnyddio methodolegau gwahanol ac felly efallai nad ydynt yn cymharu dau beth tebyg. O ganlyniad, dylid ymdrin â’r ffigurau â gofal.

Cyfrifiadau manwl ar gyfer LCCau

Risg troi allan

2010-11 (gwirioneddol) Cynnydd wedi’i

gymhwyso

Amcangyfrifon ar gyfer

2015-16

Nifer Canran

Nifer Canran

Cyfanswm stoc tai cymdeithasol91

142,179

Data gwirioneddol a ddefnyddiwyd ar gyfer

2014-15. Felly blwyddyn ar ei

hôl hi 143

,768

Cyfanswm gorchmynion adennill meddiant

1,70392

1.2%

-13.4% - gweler ffigur 2

1,475

1.0%

Am ymddygiad gwrthgymdeithasol

84 0.1

% -13.4% - gweler ffigur

2 73

0.1%

Am ôl-ddyledion 1,60 1.1 -13.4% - gweler ffigur 1 1.0

91 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Social-Housing-Stock-and-Rents/totalsocialhousingstock-by-area-providertype

92 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Possessions-and-Evictions/PossessionOrders-by-Landlord-PossessionType

77

Page 79: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Risg troi allan

2010-11 (gwirioneddol) Cynnydd wedi’i

gymhwyso

Amcangyfrifon ar gyfer

2015-16

Nifer Canran

Nifer Canran

rhent 9 % 2 ,394 %

Am resymau eraill 10

0.0%

-13.4% - gweler ffigur 2

9

0.0%

Cyfanswm gwarantau 93693 0.7

% +5.7% - gweler ffigur

2 989

0.7%

Cyfanswm wedi gadael yr eiddo 423 0.3

% +22.2% - gweler ffigur

2 517

0.4%

Cyfanswm wedi aros yn yr eiddo 513 0.4

% 989 minws 517 472

0.3%

Cyfanswm achosion o droi allan 42394 0.3

% Amcangyfrif o’r nifer a

adawodd yr eiddo 517

0.4%

Teuluoedd heb blant 277 0.2%

Rhagdybio’r un gymhareb â 2010-11

339

0.2%

Teuluoedd â phlant 146 0.1%

Rhagdybio’r un gymhareb â 2010-11 178 0.1

%

93 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Possessions-and-Evictions/EvictionWarrantsGranted-by-Landlord-Eviction

94 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Possessions-and-Evictions/TenantsEvictedOrLeftProperty-by-Tenancy-FamilyType. Mae’n cynnwys y rheiny a adawodd yr eiddo cyn iddynt gael eu troi allan.

78

Page 80: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Cyfrifiadau manwl ar gyfer landlordiaid awdurdodau lleol

Risg troi allan 2010-11

Cynnydd wedi’i gymhwyso

Amcangyfrifon

ar gyfer 2014-15

Nifer Canran

Nifer Canran

Cyfanswm stoc tai cymdeithasol95

88,851

Data gwirioneddol a ddefnyddiwyd ar gyfer

2014-15. Felly blwyddyn ar ei

hôl hi

88,1

71

Cyfanswm gorchmynion adennill meddiant

1,63496

1.8%

-13.4% - gweler ffigur 2

1,41

5 1.6

%

Am ymddygiad gwrthgymdeithasol 78

0.1%

-13.4% - gweler ffigur 2

68

0.1%

Am ôl-ddyledion rhent 1,51

7

1.7%

-13.4% - gweler ffigur 2

1,31

4 1.5

%

Am resymau eraill 39

0.0%

-13.4% - gweler ffigur 2

34

0.0%

Cyfanswm gwarantau 1,08

097

1.2% +5.7% - gweler ffigur 2

1,14

2 1.3

%

Cyfanswm wedi gadael yr eiddo 325

0.4%

+22.2% - gweler ffigur 2

397

0.5%

Cyfanswm wedi aros yn yr eiddo 755

0.8% 1,142 minws 397

744 0.8

%

Cyfanswm achosion o droi allan

32598

0.4%

Amcangyfrif o’r nifer a adawodd yr eiddo

397

0.5%

95 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Social-Housing-Stock-and-Rents/totalsocialhousingstock-by-area-providertype

96 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Possessions-and-Evictions/PossessionOrders-by-Landlord-PossessionType

97 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Possessions-and-Evictions/EvictionWarrantsGranted-by-Landlord-Eviction

98 https://statswales.wales.gov.uk/Catalogue/Housing/Possessions-and-Evictions/TenantsEvictedOrLeftProperty-by-Tenancy-FamilyType. Mae’n cynnwys y rheiny a adawodd yr eiddo cyn iddynt gael eu troi allan.

79

Page 81: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Risg troi allan 2010-11

Cynnydd wedi’i gymhwyso

Amcangyfrifon

ar gyfer 2014-15

Nifer Canran

Nifer Canran

Teuluoedd heb blant 221

0.2%

Rhagdybio’r un gymhareb â 2010-11

270

0.3%

Teuluoedd â phlant 101

0.1%

Rhagdybio’r un gymhareb â 2010-11 123

0.1%

Math o deulu’n anhysbys 3

0.0%

Rhagdybio’r un gymhareb â 2010-11

4

0.0%

80

Page 82: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Atodiad Dau: Costau rhaglenni atal troi allan a dadansoddiad o gost a budd

Costau atal troi allan

Nododd Shelter Cymru saith o raglenni a gynlluniwyd i atal troi allan, sef:

1. AmicusHorizon Homes – Tîm Cynhwysiant Ariannol2. Prosiect Teuluoedd Dundee3. Lasting Solutions – Charter Housing/Solas Cymru4. Prosiect Cynhwysiant Shelter ar gyfer y Cymoedd5. Strategaeth Cynnal Tenantiaeth Cymdeithas Dai Glasgow6. Tai Cymunedol Bron Afon7. Glasgow Housing First – Turning Point Scotland

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth gryno am bob un o’r rhaglenni hyn gyda ffocws penodol ar (a) costau cynnal y rhaglen a (b) tystiolaeth o raddfa’r effaith ar leihau nifer yr achosion o droi allan.

Fel y nodwyd yn y prif adroddiad, mae 95% o orchmynion adennill meddiant yn cael eu cyflwyno oherwydd ôl-ddyledion rhent, gyda’r 5% arall yn ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r llenyddiaeth yn amlygu, fodd bynnag, nad yw’r ystadegau hyn yn adlewyrchu ystod eang yr anghenion y mae angen eu cefnogi er mwyn mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent a/neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r saith o raglenni atal a nodwyd uchod yn mynd rywfaint o’r ffordd i ddangos ystod yr angen, gan y cynrychiolir ymyriadau tymor byr iawn ac ymyriadau tymor hir. Mae’r cymorth a ddarparwyd yn amrywio o ymyriadau untro, byr (fel darparu benthyciadau ariannol diogel a/neu gyngor ar gyllidebu), i ymyriadau teuluol dwys a chyfannol, yn mynd i’r afael ag ystod o ffactorau bregusrwydd fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Trosolwg o broffiliau rhaglenni atal troi allan

Mae’r adran hon yn darparu proffil ar gyfer pob un o’r saith rhaglen atal troi allan a nodwyd uchod, gan ddefnyddio data/tystiolaeth a gyhoeddwyd. Mae’r tablau’n proffilio:

Enw’r rhaglen

Sefydliadau sy’n gysylltiedig

Disgrifiad o’r rhaglen

P’un a yw’r rhaglen yn ymwneud ag LCCau yn unig, tai awdurdodau lleol yn unig neu’r ddau

Grwpiau targed

81

Page 83: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

Dwyster a chyfnod y cymorth

Costau fesul cyfranogwr/aelwyd

Deilliannau a gyflawnwyd

Unrhyw farnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt gan y llenyddiaeth.

AmicusHorizon Homes – Tîm Cynhwysiant Ariannol99

AmicusHorizon Homes – Tîm Cynhwysiant Ariannol

Sefydliad(au) yn gysylltiedig

AmicusHorizon Homes

99 Strategaeth Cynhwysiant Ariannol AmicusHorizon 2012-15 Ar gael yn: http://www.amicushorizon.org.uk/AmicusHorizon/media/AMHMediaLibrary/Files/PDFs/Policies%20and%20Strategies/Financial-inclusion-strategy.pdf a http://www.amicushorizon.org.uk/CHttpHandler.ashx?id=15517&p=0

82

Page 84: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

AmicusHorizon Homes – Tîm Cynhwysiant Ariannol

Disgrifiad Mae’r Tîm Cynhwysiant Ariannol yn rhan o Strategaeth Cynhwysiant Ariannol ehangach y sefydliad. Gyda’i gilydd, mae’r rhain wedi’u cynllunio i wella sefyllfa ariannol trigolion ac osgoi unrhyw effeithiau negyddol posibl Diwygio Lles. Mae’r Tîm Cynhwysiant Ariannol ei hun yn cynnwys pum aelod o staff ardal, gydag un rheolwr. Mae’r tîm yn darparu cymorth a chyngor i aelwydydd sy’n dioddef o ddyledion niferus neu broblemau ariannol difrifol. Mae’r cymorth yn cynnwys:

Cymorth gyda budd-daliadau, cyngor ynglŷn â diwygio lles

Cymorth i gael cyfrifon addas mewn banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, arbedion, benthyciadau a chynhyrchion yswiriant

Help i gynyddu gymaint â phosibl faint o arian sy’n dod i mewn i’r cartref, gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau a chymorth i ddod o hyd i’r darparwyr cyfleustodau rhataf

Cydlynu cyngor a hyfforddiant am arian, gwella sgiliau sylfaenol

Darparu mynediad i gyngor annibynnol rhad ac am ddim ar gyfer problemau dyledion.

LCC/ ALl/ Y Ddau

LCC

Grwpiau targed Mae gwaith y Tîm Cynhwysiant Ariannol yn canolbwyntio ar y rhai sy’n dioddef â dyledion niferus neu broblemau ariannol difrifol sydd mewn perygl o golli eu cartrefi.

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

Yn 2014, adroddodd AmicusHorizon fod y Tîm Cynhwysiant Ariannol wedi gweithio gyda 1,160 o achosion (ni phennwyd y cyfnod cyffredinol ar gyfer casglu data).100

Dwyster/ cyfnod y cymorth

Lefel uwch o gymorth yn y 12 wythnos gyntaf, yna cymorth ad hoc yn ôl yr angen.

Costau fesul cyfranogwr

Dim gwybodaeth ar gael.

100 Ffynhonnell: AmicusHorizon - Hyrwyddo cynhwysiant ariannol drwy arloesi. Cynhadledd Technoleg Tai – 26/02/2014.

83

Page 85: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

AmicusHorizon Homes – Tîm Cynhwysiant Ariannol

Deilliannau a gyflawnwyd

160 yn llai o achosion llys oherwydd ôl-ddyledion rhent mewn 6 mis yn arbed £40,000 mewn costau llys. Cafodd tenantiaid gymorth i sicrhau cyfanswm o £2.5m mewn incwm ychwanegol (ni roddwyd y ffrâm amser).

Yn ogystal, mae Amicus Horizon yn adrodd bod 100% o gleientiaid yn fodlon â’r Tîm Cynhwysiant Ariannol, ac ni wnaeth unrhyw aelwyd gynyddu ei hôl-ddyledion er gwaethaf Diwygio Lles101.

Yn ei adroddiad blynyddol 2014/15, dywed Amicus Horizon bod eu hôl-ddyledion rhent yr isaf y buont erioed ar 3.23%, yn erbyn targed o 3.37%, gan ddweud eu bod wedi gostwng nifer yr achosion o droi allan am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac wedi dod o hyd i gyllid cymorth o £2.1m ar gyfer trigolion drwy'r tîm cynhwysiant ariannol.

Barnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt

Ni wnaed unrhyw farnau cyffredinol o ran cost a budd yn y llenyddiaeth a gyhoeddwyd.

101 Ffynhonnell: AmicusHorizon - Hyrwyddo cynhwysiant ariannol drwy arloesi. Cynhadledd Technoleg Tai – 26/02/2014.

84

Page 86: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Prosiect Teuluoedd Dundee102

Prosiect Teuluoedd Dundee

Sefydliad(au) yn gysylltiedig

Mae’r prosiect yn cael ei redeg gan NCH Action for Children yr Alban mewn partneriaeth ag Adrannau Tai a Gwaith Cymdeithasol Cyngor Dundee.

Disgrifiad Darperir cymorth ar dair lefel – craidd, gwasgaredig ac allgymorth. Mae teuluoedd â’r lefel angen uchaf yn cael llety dros dro mewn bloc ‘craidd’ preswyl, yn darparu ar gyfer hyd at bedwar o deuluoedd. Roedd rhai eraill yn cael cymorth mewn tenantiaethau ymyrraeth teulu ‘gwasgaredig’, gyda gwasanaeth allgymorth yn cynnig dull mwy ataliol o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throi allan. Mae staff yn darparu cymorth 24 awr, gan gynnwys gwaith grŵp a chwnsela.

Ar y pryd, roedd y tîm yn cynnwys: Rheolwr Prosiect, 1 Dirprwy, 7 o Weithwyr Gofal Cymdeithasol, 4 o Weithwyr Gofal Cymdeithasol Llanw, 1 Cynorthwyydd Gweinyddol ac 1 Gweithiwr Domestig.

LCC/ ALl/ Y Ddau

ALl ac NCH Action for Children yr Alban.

Grwpiau targed Cymorth i deuluoedd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd eisoes yn ddigartref.

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

Darparwyd tri math o gymorth:

Bloc ‘craidd’ – hyd at bedwar teulu

‘Nifer fach’ o denantiaid gwasgaredig sydd wedi symud allan o lety craidd

Gwasanaeth allgymorth i denantiaid mewn llety ar hyn o bryd sydd mewn perygl o gael eu troi allan

Dros bedair blynedd (Tachwedd 1996 i Hydref 2000), derbyniwyd 126 o atgyfeiriadau, derbyniwyd 69 o achosion ac, o’r rheiny, mae 56 wedi’u cau bellach. Ystyriwyd bod 33 o achosion yn llwyddiannus.

102 Evaluation of the Dundee Families Project, Medi 2001, Dillane, J., Hill, M., Bannister, J., Scott, S., Prifysgol Glasgow http://www.gov.scot/Resource/Doc/158816/0043123.pdf

85

Page 87: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Prosiect Teuluoedd Dundee

Dwyster/ cyfnod y cymorth

Cyfnod cyfartalog amrywiol gan ddibynnu ar y math o gymorth a gynigiwyd.

Ar gyfer yr 11 o deuluoedd ‘craidd’ a ystyriwyd fel rhan o’r gwerthusiad, roedd y cymorth yn amrywio o 4 i 30 mis, gyda chyfartaledd o 19 mis

Ar gyfer yr 13 o deuluoedd ‘gwasgaredig’, roedd y cymorth yn amrywio o 1.5 i 20 mis, gyda chyfartaledd o 13 mis

Ar gyfer y 32 o deuluoedd ‘allgymorth’, roedd y cymorth yn amrywio o 1.5 i 20 mis, gyda chyfartaledd o 8 mis.

Costau fesul cyfranogwr

Roedd costau gweithredu’r prosiect oddeutu £345,000 y flwyddyn. Fe wnaeth y costau hyn alluogi’r prosiect, dros gyfnod y rhaglen, i archwilio 126 o atgyfeiriadau ac, o’r rheiny, daeth 69 yn achosion a chaewyd 56. O’r rhain, arweiniodd 33 (59%) at ddeilliant llwyddiannus (gweler isod).

86

Page 88: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Prosiect Teuluoedd Dundee

Deilliannau a gyflawnwyd

Ar y cyfan ar gyfer y gwerthusiad, dosbarthwyd 59% o achosion fel rhai llwyddiannus (33 o’r 56 o achosion a gaewyd), h.y. cyflawnwyd y rhan fwyaf o’r prif amcanion neu’r holl brif amcanion.

Mae’r adroddiad gwerthuso yn cyflwyno tystiolaeth bellach ar ddeilliannau gan ddefnyddio dull astudiaeth achos. Mae’n awgrymu, ar gyfer y ddau achos craidd y gweithiwyd â nhw yn ystod blwyddyn nodweddiadol, y llwyddwyd i osgoi’r canlynol:

Y ddau deulu yn osgoi cael eu troi allan

Byddai tri o’r wyth o blant ar draws y ddau deulu wedi’u gosod mewn ysgol breswyl am un flwyddyn

Byddai pump o’r wyth o blant ar draws y ddau deulu wedi’u rhoi mewn gofal maeth am un flwyddyn

Byddai’r ddau deulu’n cyflwyno’u hunain yn ddigartref

Ar gyfer y naw o achosion gwasgaredig/allgymorth, byddai’r canlynol wedi’u hosgoi:

Pump o’r naw yn osgoi cael eu troi allan

Byddai dau o’r 26 o blant ar draws y naw teulu wedi osgoi cael eu gosod mewn ysgolion preswyl am un flwyddyn

Byddai chwe phlentyn wedi osgoi cael eu rhoi mewn gofal maeth.

87

Page 89: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Prosiect Teuluoedd Dundee

Barnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt

Mae’r adroddiad gwerthuso yn defnyddio’r astudiaethau achos uchod i gyfrifo’r amcangyfrif o arbedion a wnaeth drwy ymyrryd103:

Dau achos craidd: costau rhagamcanol heb Brosiect Teuluoedd Dundee = £233,200 yf. Dadansoddiad o’r costau:Proses Troi Allan £21,400Cyflwyniadau fel digartref £3,800Ysgol breswyl £156,000Gofal maeth: £52,000

Naw achos gwasgaredig: costau rhagamcanol heb Brosiect Teuluoedd Dundee = £229,400 yf.Dadansoddiad o’r costau:Proses Troi Allan £53,500Cyflwyniadau fel digartref £9,500Ysgol breswyl £104,000Gofal maeth: £62,400

Cyfanswm arbedion: £462,600 - £345,000 = £117,600 yf

103 Costau uned a ddefnyddiwyd: Swyddog tai: £30 yr awr, costau i’r landlord o achosion mwy cymhleth wedi’u hamddiffyn: £6,500; costau i Fwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban am y diffyniad: £2,500; Costau’r Llys Sirol: £1,700. Cyfanswm cost troi allan: £10,700. Costau Uned Personau Digartref Dundee o brosesu cais digartref cymhleth: £1,900. Rhoi plentyn mewn gofal maeth: £200 yr wythnos. Cost gosod plentyn mewn ysgol breswyl neu uned plant: £1,000 yr wythnos.

88

Page 90: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Lasting Solutions104

Lasting Solutions

Sefydliad(au) yn gysylltiedig

Charter Housing, Solas Cymru (rhan o Grŵp Seren)

Disgrifiad Prosiect ymyrraeth deuluol yw Lasting Solutions, a ddarparodd gymorth dwys a chyfannol i deuluoedd ag anghenion cymhleth.

LCC/ ALl/ Y Ddau

LCCau

Grwpiau targed Teuluoedd ag anghenion cymhleth. Roedd yr holl deuluoedd a gynhwyswyd yn y gwerthusiad mewn perygl o gael eu troi allan.

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

Cymorth i hyd at saith o deuluoedd ar y tro.

Dwyster/ cyfnod y cymorth

Mae cyfnod y cymorth yn amrywio rhwng 6 a 18 mis, gydag achos ‘nodweddiadol’ yn para am 12 mis, gyda chyfartaledd o 9 awr o gymorth yr wythnos.

Costau fesul cyfranogwr

Cost y prosiect yw £88,415 y flwyddyn. Ar gyfer saith o deuluoedd, mae hyn yn gyfwerth â £12,630 fesul aelwyd y flwyddyn.

Deilliannau a gyflawnwyd

Gostyngiad yn nifer yr achosion o alw’r heddlu allan. Er enghraifft, ar gyfer tri theulu, roedd 74 o alwadau allan yn y flwyddyn cyn i’r prosiect ymyrraeth deuluol ddod yn gysylltiedig. Yn ystod chwe mis cyntaf y cymorth, fe wnaeth hyn ostwng i 17 o alwadau allan. Gan gymryd nad oedd gostyngiad pellach yn y chwe mis canlynol, mae hyn yn 34 o alwadau allan yn y flwyddyn, sef gostyngiad o 54%.

Cynhaliwyd tenantiaethau 100% o’r teuluoedd a gynorthwywyd gan Lasting Solutions a oedd mewn perygl o gael eu troi allan, ac fe wnaeth 100% o deuluoedd leihau, neu roi’r gorau i’w hymddygiad gwrthgymdeithasol.

Hefyd, fe wnaeth y prosiect atal un ddedfryd o garchar chwe mis, atal un plentyn rhag mynd yn blentyn yn derbyn gofal a

104 Lasting Solutions Outcome Evaluation Cordis Bright (2011).89

Page 91: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Lasting Solutions

helpodd dri o aelodau teulu i fynd i mewn i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Barnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt

Mae’r gwerthusiad yn amcangyfrif cyfradd elw net ar y buddsoddiad o 426%, yn gyfwerth ag arbedion o £465,000 y flwyddyn. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif arbedion o £65,240 y flwyddyn o ganlyniad i gynnal tenantiaethau ar gyfer saith o deuluoedd (£9,320 y teulu).

Mae’r arbedion o £465,000 y flwyddyn yn ymwneud â thai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu, gofal cymdeithasol (e.e. osgoi mynd â phlant i mewn i ofal) ac osgoi bod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), ond nid yw’n cynnwys unrhyw arbedion ar gyfer effaith ar iechyd meddwl.

Dadansoddiad o’r costau:Cynnal tenantiaethau ar gyfer saith o deuluoedd £65,240 (£9,320 y teulu)Atal tri phlentyn rhag bod yn rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol £46,710 (£15,570 y plentyn)Atal dedfryd chwe mis o garchar mewn uned ddiogel £59,650Atal un plentyn rhag bod yn blentyn sy’n Derbyn Gofal £41,400Atal tri o aelodau teulu rhag mynd yn NEET £252,000 (£84,000 y pen)

Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd Shelter Cymru105

Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd Shelter

Sefydliad(au) yn gysylltiedig

Sefydlwyd gan Shelter Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chynghorau Caerffili a Rhondda Cynon Taf.

105 Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd Shelter Cymru, Gwerthusiad Terfynol Hydref 2010 hyd Rhagfyr 2011 ac arbedion cost posibl Tachwedd 09 hyd Rhagfyr 11.

90

Page 92: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd Shelter

Disgrifiad Nod Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd yw atal digartrefedd drwy fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac allgau cymdeithasol yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf. Gweithiodd gweithwyr y prosiect yn annibynnol a gydag asiantaethau a oedd eisoes yn gweithredu yn y ddwy ardal i gynnal asesiad manwl o anghenion defnyddwyr gwasanaethau er mwyn datblygu rhaglen i fynd i’r afael â’r anghenion hyn. Cafodd cymorth ei deilwra at anghenion unigol. Mae enghreifftiau o’r cymorth a ddarparwyd yn cynnwys cymorth gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig, cymorth emosiynol, cymorth i gael gwasanaethau, cyngor ar reoli arian, cymorth iechyd meddwl a chyngor ar rianta.

LCC/ ALl/ Y Ddau

Y ddau

Grwpiau targed Teuluoedd sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac sydd mewn perygl o ddigartrefedd.

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

Cynorthwywyd 25 o deuluoedd dros 3 blynedd. Dros y cyfnod hwn, parhaodd 10 achos yn agored a chafodd 15 eu cau.

Dwyster/ cyfnod y cymorth

Cyfartaledd y cyfnod cymorth yw 11 mis.

Costau fesul cyfranogwr

Y gost fesul aelwyd yw £19,780 yn seiliedig ar gost gyfartalog fesul aelwyd y mis, sef £860 (23x£860, gan i’r teulu hwn gael 23 mis o gymorth gan Brosiect Cynhwysiant y Cymoedd).

Deilliannau a gyflawnwyd

Mae’r adroddiad yn awgrymu’r canlynol:

Fe wnaeth yr ymddygiad gwrthgymdeithasol ddod i ben neu leihau mewn 93% o achosion (o 15 o achosion, daeth yr ymddygiad gwrthgymdeithasol i ben mewn 12 o achosion a lleihau mewn dau achos)

Ataliwyd digartrefedd mewn 73% o achosion (ataliwyd digartrefedd mewn 11 o’r 15 o achosion, roedd risg gymharol uchel o hyd mewn tri achos, a chollodd un aelwyd gysylltiad).

91

Page 93: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd Shelter

Barnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt

Amcangyfrifwyd mai costau peidio ag ymyrryd oedd £63,430 fesul aelwyd. Dadansoddiad o’r costau:Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: £4,465Arestio: £1,672Llys yr Ynadon: £615Anghydfod yn y gymdogaeth: £970Troi allan oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol: £7,743Rhoi dau blentyn mewn gofal un un flwyddyn: £47,965

Mae’r gwerthusiad yn amcangyfrif mai cost yr ymyrraeth oedd £19,780 fesul aelwyd. Mae hyn yn arwain at arbedion cost posibl o £43,650 fesul aelwyd.

Yn gyffredinol, daw’r adroddiad i’r casgliad y gallai Prosiect Cynhwysiant y Cymoedd Shelter greu £349,200 (£43,650x12 o deuluoedd) mewn arbedion y flwyddyn o gymharu â pheidio ag ymyrryd. Mae’r arbedion hyn yn cynnwys cartrefu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau a gofal cymdeithasol (e.e. plant yn cael gofal) ond nid yw’n cynnwys unrhyw arbedion ar gyfer effaith ar iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu NEET.

92

Page 94: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Strategaeth Cynnal Tenantiaeth Cymdeithas Dai Glasgow106

Strategaeth Cynnal Tenantiaeth Cymdeithas Dai Glasgow107

Sefydliad(au) yn gysylltiedig

Cyngor Dinas Glasgow a Chymdeithas Dai Glasgow.

Disgrifiad Dechreuodd y rhaglen hon yn 2003. Cymerodd Cymdeithas Dai Glasgow gyfrifoldeb dros 80,000 o gartrefi oddi wrth Gyngor Glasgow. Byddai Cymdeithas Dai Glasgow yn uwchraddio’r stoc dai ac yn gwella’r rheolaeth ar dai. Ei nod oedd ymateb i ymchwil a ddangosodd fod chwarter y gosodiadau a wnaed i’r digartref a’r ymgeiswyr ar y rhestr aros yn torri i lawr o fewn blwyddyn.

Y prif ffactorau risg a gynyddodd y perygl i denantiaeth fethu oedd:

Cael cartref wedi’i ddyrannu mewn ardal nas dymunwyd

Anfodlonrwydd â chyflwr yr eiddo

Yr anallu i sicrhau digon o gelfi a chyfarpar

Dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ac aflonyddu

Problemau dyled

Diffyg cymorth.

Mae’r strategaeth yn ymwneud yn bennaf â chynyddu ymwybyddiaeth o’r materion hyn a gwella’r atgyfeirio gan staff Cymdeithas Dai Glasgow at asiantaethau/gwasanaethau sy’n gallu helpu i fynd i’r afael â materion/pryderon a wynebir gan drigolion.

LCC/ ALl/ Y Ddau

LCC ac ALl

Grwpiau targed Yr holl denantiaid, gan dargedu’n benodol y rhai sy’n debygol o gael eu tenantiaeth wedi’i therfynu’n gynnar.

106 Pawson, H. et al (2006) Investigating Tenancy Sustainment in Glasgow, Prifysgol Heriot-Watt.

107 Ffynonellau: http://www.gha.org.uk/content/mediaassets/doc/TenancySustainmentStrategy2007.pdf 93

Page 95: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Strategaeth Cynnal Tenantiaeth Cymdeithas Dai Glasgow

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

Nod y strategaeth yw gwella cymorth i denantiaid ym mhob un o’r 80,000 o gartrefi. Mae’n rhoi ffocws penodol ar y rhai y mae perygl iddynt golli eu tenantiaeth. Dangosodd ymchwil a wnaed gan Gymdeithas Tai Glasgow yn 2005 fod 20% o osodiadau parhaol y Gymdeithas Dai yn cael eu terfynu o fewn blwyddyn a bod 2% o’r holl achosion o derfynu’n gynnar wedi deillio o droi allan. Hefyd, ac eithrio symud wrth drosglwyddo i denantiaeth arall, caiff 25% o denantiaethau Cymdeithas Dai Glasgow eu terfynu o fewn 12 mis.

Dwyster/ cyfnod y cymorth

Gwybodaeth ddim ar gael.

Costau fesul cyfranogwr

Gwybodaeth ddim ar gael.

Deilliannau a gyflawnwyd

Awgrymodd adroddiad a gyhoeddwyd yn 2009108:

Fod yr achosion o derfynu tenantiaeth yn gynnar wedi gostwng o 24% i 18% o’r gosodiadau newydd

Fe wnaeth nifer yr hysbysiadau adennill meddiant a gyflwynwyd “ostwng yn ddramatig” (ni ddarparwyd ffigurau)

Bu gostyngiad mewn ôl-ddyledion rhent o 5.14% o’r debyd yn 2007/08 i 4.05% (gostyngiad o dros £2 filiwn).

Barnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt

Mae’r ymchwil yn amlygu bod pob achos o osgoi terfynu tenantiaeth yn arbed £1,328 ar gyfartaledd i Gymdeithas Tai Glasgow mewn atgyweiriadau, diogelwch a rhenti a gollwyd. O bob 100 o osodiadau newydd, felly, mae’r strategaeth o bosibl yn helpu i arbed £7,968 (h.y. gostyngiad o chwe achos o droi allan am bob 100 o osodiadau = 6x£1,328).

108 http://scotland.shelter.org.uk/__data/assets/pdf_file/0020/191207/preventing_homelessness_sustaining_tenancies.pdf

94

Page 96: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Tai Cymunedol Bron Afon109

Tai Cymunedol Bron Afon

Sefydliad(au) yn gysylltiedig

Tai Cymunedol Bron Afon, Charter Housing a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Disgrifiad Un o chwech o raglenni peilot i ddeall effaith gweithredu’r elfen taliadau uniongyrchol o’r Credyd Cynhwysol. Parodd y peilot am 18 mis (hyd at fis Tachwedd 2013) ac roedd yn cynnwys dwy elfen:

Cynnal peilot o’r elfen taliadau uniongyrchol o’r Credyd Cynhwysol. Gwelodd cymdeithas dai flaenorol a oedd wedi cynnal peilot o daliadau uniongyrchol yr ôl-ddyledion yn codi 80%.

Cynnal peilot o gynllun integredig cynnig cymorth dyledion a thenantiaeth gyda’r nod o leihau’r risg i denantiaid fynd i ôl-ddyledion.

LCC/ ALl/ Y Ddau

LCC

Grwpiau targed Ffocws penodol ar denantiaid mewn ôl-ddyledion rhent.

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

Roedd y peilot yn cynnwys 1065 o denantiaid yn y prosiect – 754 o daliadau uniongyrchol (gan gynnwys 35 a gafodd eu troi ymlaen i daliadau uniongyrchol eto) a 304 a gafodd eu troi yn ôl i daliadau i’r landlord (yn bennaf o ganlyniad i danddaliad cyson).

Dwyster/ cyfnod y cymorth

Rhoddwyd cymorth yng ngham cyntaf y prosiect i denantiaid a gafodd eu troi’n ôl i daliadau landlord o daliadau uniongyrchol. Yn yr ail gam, cynigiwyd cymorth i’r holl denantiaid newydd a oedd yn derbyn budd-dal tai, a’r rheiny ar daliadau uniongyrchol a oedd ar ‘bwynt tyngedfennol’.

Roedd anghenion cymorth yn canolbwyntio ar gyllidebu yn y lle cyntaf, fodd bynnag, newidiodd hyn i gymorth tenantiaeth wrth i anghenion ehangach gael eu nodi. Ni roddir unrhyw syniad o ddwyster na chyfnod y cymorth.

Costau fesul cyfranogwr

Darperir data cyfyngedig ar gostau cynnal y rhaglen. Mae’r adnoddau’n nodi cynnydd sylweddol yn y cymorth/cyswllt a ddarparwyd, e.e. cynnydd o 100% mewn rhyngweithiadau â thenantiaid, cynnydd o 80% mewn galwadau allan, cynnydd

109 Simpson, I. Welsh Housing Quarterly, A Year of Welfare Reform –Direct Influence. Ar gael yn: http://www.whq.org.uk/the-magazine/issue/94/a-year-of-welfare-reform-direct-influence/

95

Page 97: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Tai Cymunedol Bron Afon

bedair gwaith yn fwy mewn galwadau personol.

Mae’r adroddiad yn nodi rhai o’r costau ychwanegol yr aed iddynt. Rhoddir enghraifft ar gyfer un mis, anfonwyd 83 o negeseuon testun atgoffa ar gost o £18, a arweiniodd at gyfanswm taliadau o £2,600 ac adenillwyd £500 arall am bris 10 neges destun taliad hwyr.

Mae’r adroddiad yn nodi hefyd fod angen tîm mwy. Roedd ffurf derfynol y tîm fel a ganlyn: un cydlynydd taliadau, tri o swyddogion cymorth cyllidebu personol, a dau swyddog adfer incwm. Fodd bynnag, ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth am faint gwreiddiol y tîm.

Deilliannau a gyflawnwyd

Yng ngham cychwynnol y prosiect, roedd y tenantiaid hynny yn y prosiect, ar gyfartaledd, mewn dyled o £77 yn fwy na’r rhai nad oeddent yn rhan o’r peilot, felly roedd taliadau uniongyrchol yn dal i gynyddu dyled.

Yng ngham estynedig y prosiect, lle’r ehangwyd y cymorth, adroddwyd am yr effaith ganlynol:

Roedd ôl-ddyledion ymhlith y 32 o denantiaid newydd a dderbyniodd cymorth bedair gwaith yn llai ar gyfartaledd nag ar gyfer tenantiaid newydd y tu allan i’r prosiect

Fe wnaeth lefel yr ôl-ddyledion ar gyfer tenantiaid a dderbyniodd gymorth ar ôl cyrraedd y ‘pwynt tyngedfennol’ ostwng 4%, mewn cyferbyniad â chynnydd o 7% ymhlith y rhai y tu allan i’r prosiect.

Ar draws y chwe ardal beilot110, daeth darlun clir i’r amlwg o ostyngiad nodedig a sylweddol mewn cyfraddau taliadau rhent pan symudodd tenantiaid gyntaf at daliadau uniongyrchol. Fe wnaeth cyfraddau talu wella’n ddramatig dros gyfnod wedyn, gan sefydlogi ar ychydig islaw’r llinell sylfaen a chyfraddau cymaryddion:

cyfraddau talu is o 2.2% ymhlith tenantiaid ar daliadau uniongyrchol o gymharu â chymaryddion nad oeddent ar daliadau uniongyrchol

2.1% yn llai o rent wedi’i dalu pe na bai taliadau uniongyrchol

110 Direct Payment Demonstration Projects: Key findings of the programme evaluation Research Report 890, Rhagfyr 2014, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, ar gael yn https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/388565/rr890-direct-payment-demonstration-projects-key-findings-of-the-programme-evaluation.pdf

96

Page 98: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Tai Cymunedol Bron Afon

wedi’u cyflwyno

fe wnaeth 95.5% o denantiaid ar daliadau uniongyrchol dalu’r holl rent a oedd yn ddyledus o gymharu â 99.1% o’r rheiny had oeddent ar daliadau uniongyrchol (3.6% yn llai).

Rheoli ar gyfer ffactorau eraill, effaith ychwanegol net gyffredinol taliadau uniongyrchol oedd bod 5.5% yn llai o rent wedi’i dalu ar daliad uniongyrchol h.y. talodd tenantiaid 5.5% yn llai o rent, ar gyfartaledd, na fyddent wedi gwneud pe bai eu budd-dal tai wedi’i dalu’n uniongyrchol i’w landlord. Fodd bynnag, fe wnaeth yr effaith ychwanegol net ostwng yn ddramatig dros amser o 15.7% yn llai o rent yn cael ei dalu yn y tri chyfnod talu cyntaf, i 2.1% yn llai o rent wedi’i dalu mewn cyfnodau talu hwyrach.

Barnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt

Nid oes unrhyw ddadansoddiad cyffredinol o gost a budd ar gael gan nad yw costau cyflawni taliadau uniongyrchol yn hysbys. Teimlai prosiectau peilot na fyddai’n fuddiol cyfrifo costau gan y byddai’r costau ar gyfer cynorthwyo cyflwyno credyd cynhwysol mewn gwirionedd gryn dipyn yn wahanol: byddai ganddynt lai o adnoddau i’w neilltuo iddo, ac ni fyddai modd atgynhyrchu strwythurau a phrosesau yn y prosiectau peilot ar gyfer cyflwyno Credyd Cynhwysol.

97

Page 99: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Glasgow Housing First, Turning Point Scotland111

Glasgow Housing First, Darpariaeth Tenantiaeth i’r Digartref

Sefydliad(au) yn gysylltiedig

Turning Point Scotland

Disgrifiad Peilot tair blynedd (Hydref 2010 - Medi 2013), yn gosod unigolion digartref yn uniongyrchol mewn tenantiaethau annibynnol yn Glasgow heb unrhyw ofyniad i symud ymlaen trwy raglenni tai trosiannol. Mae hyn yn hwyluso mynediad i gymorth cymunedol, gofal iechyd a buddion cymdeithasol. Darperir ystod o gefnogaeth allgymorth gan Turning Point, yn cynnwys; rheoli tenantiaeth, cyllidebu, diogelwch personol, coginio a siopa am fwyd. Mae gweithwyr cymorth cymheiriaid sydd wedi cael profiadau personol tebyg yn gweithio gyda thrigolion hefyd i annog ymddiriedaeth, cyfeillgarwch ac ymgysylltiad â gwasanaethau adfer lleol.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys chwe aelod o staff: rheolwr gwasanaethau, cydlynydd gwasanaethau, cydlynydd gwasanaethau cynorthwyol a thri gweithiwr cymorth cymheiriaid.

LCC/ ALl/ Y Ddau

LCC

Grwpiau targed Unigolion digartref gyda phroblemau gweithredol camddefnyddio sylweddau (cyffuriau, alcohol, poly-sylweddau) yn Glasgow.

Nifer yr aelwydydd y gweithiwyd â nhw

22 o unigolion.

Dwyster/ cyfnod y cymorth

Darparwyd cymorth dros gyfnod y denantiaeth. Ar ddiwedd y cyfnod peilot, ni fu unrhyw achosion o droi allan. Fe wnaeth dau ddefnyddiwr golli’u tenantiaeth (un o ganlyniad i gael dedfryd hir o garchar ac felly’n colli’r budd-dal tai, ac fe wnaeth yr ail roi’r gorau i’w denantiaeth ar ôl cael ei erlid gan aelodau eraill o’r gymuned a oedd yn defnyddio cyffuriau).

Costau fesul cyfranogwr

Dim gwybodaeth ar gael.

Deilliannau a gyflawnwyd

Wedi cynnal newid cadarnhaol 50% (11 o 22 o unigolion): camddefnyddio sylweddau wedi’i sefydlogi neu’i leihau/wedi

111 http://www.turningpointscotland.com/what-we-do/homelessness/glasgow-housing-first/98

Page 100: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Glasgow Housing First, Darpariaeth Tenantiaeth i’r Digartref

dod i ben, gwell iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a chysylltiad blaenorol mewn gweithgarwch troseddol neu ddiwylliant stryd wedi’i derfynu.Profiadau Amrywiol 27% (6 allan o 22) – mae cyfnodau o sefydlogrwydd cymharol wedi cynnwys llithriadau ar y daith i adferiad (e.e. mwy o gamddefnydd o sylweddau a dirywiad mewn iechyd meddwl).Ychydig o newid i’w weld: 23% (5 allan o 22) – ychydig o newid i’r rhan fwyaf o fesurau deilliannau.

Barnau o ran cost a budd y daethpwyd iddynt

Yn yr UDA y sefydlwyd Housing First gyntaf, ac mae rhywfaint o ddata cost a budd ar gael ar ei gyfer. Mae adroddiad Crisis yn 2010 yn amlygu enghraifft o astudiaeth cost a budd mewn perthynas ag arbedion, dim ond ar gyfanswm costau’n gysylltiedig ag argyfyngau (fel defnyddio llochesi ac ystafelloedd brys mewn ysbytai) a ostyngodd 73%, neu gyfartaledd o £4,745 fesul cleient (£3,338), mewn 24 mis o gyfranogi.112

112 Staircases, Elevators and Cycles of Change ‘Housing First’ and other housing models for homeless people with complex support needs, Johnson, S. a Teixeira, L. Crisis 2010.

99

Page 101: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Dadansoddiad o gost a budd

Mae nifer o’r prosiectau a nodwyd yn yr adroddiad hwn wedi cynnal dadansoddiad cost a budd o ryw fath. Fodd bynnag, maent yn aml yn defnyddio dulliau gwahanol a thariffau gwahanol. O ganlyniad, ni ellir cymharu’r canfyddiadau. Mae’r adran hon yn ceisio gwella cymaroldeb rhwng prosiectau drwy gymhwyso methodoleg gyson i ddadansoddiad cost a budd. Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd drwy werthusiadau, ac yna cymhwyso tariffau cyson113 i ddeilliannau gwael sydd wedi’u hatal.

Mae’r cyfrifiadau yn nodi tair lefel wahanol o ddadansoddiad cost a budd:

i) Landlord: Mae’r graddau y mae arbedion uniongyrchol wedi’u cronni gan y landlord yn gorbwyso costau cyflawni’r rhaglen. Byddai rhaglen â dadansoddiad cost a budd cadarnhaol ar y lefel hon yn fuddiol i landlord ei gweithredu ei hun. Mae hyn yn seiliedig ar £8,169 fel yr arbediad uniongyrchol i’r landlord o osgoi troi allan.

ii) Partneriaid tai: Mae’r dadansoddiad cost a budd hwn yn ystyried yr arbedion y gellid eu gwneud gan yr holl bartneriaid tai yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan aelwyd yn cael ei throi allan, hynny yw, y landlord a’r awdurdod lleol. Mae arbedion yn seiliedig ar ymchwil a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn fel rhai y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i droi allan. Byddai rhaglen â dadansoddiad cost a budd cadarnhaol ar y lefel hon yn debygol o fod yn fuddiol i landlord ei gweithredu mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol. Mae hyn yn seiliedig ar £8,169 fel yr arbediad uniongyrchol i’r landlord o osgoi troi allan + £16,186 fel yr arbediad i’r awdurdod lleol o ganlyniad uniongyrchol i osgoi troi allan.

iii) Cymdeithasol: Mae’r dadansoddiad cost a budd hwn yn ceisio ystyried yr holl arbedion y gellid eu cyflawni’n lleol gan yr ystod lawn o bartneriaid a allai fod yn gysylltiedig, mewn rhyw ffordd, â’r aelwyd yn cael ei throi allan. Byddai rhaglen â dadansoddiad cost a budd cadarnhaol ar y lefel hon yn debygol o fod yn fuddiol i landlord, awdurdod lleol a phartneriaid ehangach (e.e. gwasanaethau plant, GIG) ei gweithredu. Mae hyn yn adeiladu ar lefel 2 ond mae hefyd yn ymgorffori deilliannau gwael eraill y mae gwerthusiadau wedi’u hamlygu fel rhai a gafodd eu hosgoi (e.e. peidio â rhoi plant mewn gofal, osgoi iechyd meddwl gwaelach ymhlith mamau). Lle mae’r rhain wedi’u nodi, yna defnyddiwyd y tariffau o’r Gronfa Ddata Costau Teuluoedd Cythryblus.

Crynhoir hyn yn y diagram isod.

113 A ddefnyddir ym mhrif gorff yr adroddiad.100

Page 102: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Cyfyngiadau

Er i ni gymhwyso methodoleg gyson i’r dadansoddiad cost a budd, mae cyfyngiadau i’r cyfrifiadau o hyd. Y prif un yw nad yw’r holl werthusiadau o raglenni gwahanol yn defnyddio’r un fethodoleg, ac, yn benodol, nid ydynt o angenrheidrwydd yn mesur eu hunain yn erbyn yr un deilliannau. Er enghraifft, nid yw pob rhaglen yn mesur y graddau y maent yn atal teuluoedd â phlant rhag mynd i mewn i ofal. O ganlyniad, gall graddfa’r arbedion a gyflawnwyd amrywio’n sylweddol rhwng rhaglenni.

Yn ail, dim ond rhan o’r sail resymegol ar gyfer mynd ar drywydd mentrau atal yw dadansoddiad cost a budd economaidd cadarnhaol. Mae’r agwedd foesol, neu’n syml ‘gwneud y peth iawn’, yn ddimensiwn arall y mae’n anodd priodoli costau ariannol iddo.

Cyfrifiadau

Mae’r tabl isod yn crynhoi canlyniadau’r dadansoddiad o gost a budd a gynhaliwyd gennym. Mae’r cyfrifiadau manwl ar gael o wneud cais.

Sylwer: mae ffigur cadarnhaol yn dangos bod arbedion yn uwch na chostau (felly, cost-budd cadarnhaol); mae ffigur negyddol yn dangos bod costau yn uwch na’r arbedion (felly, cost a budd negyddol).

Lefel 1: Landlord Lefel 2: Partneriaid Lefel 3: Cymdeithasol

Fesul carfan Fesul cyfranogwr

Fesul carfan

Fesul cyfranogwr

Fesul carfan

Fesul cyfranogwr

101

Page 103: Ein gweledigaeth - – The … · Web viewY bu 397 o achosion o droi allan gan landlordiaid awdurdodau lleol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 123 yn ymwneud â theuluoedd â phlant

Cael a chynnal tenantiaethau cymdeithasol: archwilio rhwystrau rhag atal digartrefedd ________________________________________________________________________

Amicus Horizon

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Dundee -£1,190,382

-£21,257 -£828,868

-£14,801 £113,888 £2,034

Lasting Solutions

-£72,290 -£10,327 £41,013 £5,859 £169,893 £24,270

Prosiect Cymoedd Shelter

-£400,122 -£16,005 -£222,885

-£8,915 £357,361 £14,294

Cynnal Tenantiaeth Glasgow

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Bron Afon Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Data annigonol

Glasgow Housing First

-£264,132 -£12,006 £91,960 £4,180 £246,165 £11,189

Casgliad

Mae’r dadansoddiad o gost a budd yn awgrymu bod dwy raglen yn creu arbedion digonol ar lefel 2, hynny yw, maent yn adennill yr holl gostau uniongyrchol y gellir eu priodoli i droi allan. Y rhaglenni hyn yw: Glasgow Housing First, sy’n arbed £4,180 net fesul aelwyd gyfrannog, a Lasting Solutions, sy’n arbed £5,859 net fesul aelwyd gyfrannog.

Mae gan bob un o’r pedair rhaglen, y mae gennym ddata ar eu cyfer, ganlyniad cost a budd cadarnhaol ar lefel 3, hynny yw, maent yn adennill costau ar lefel gymdeithasol. O ran arbediad net fesul aelwyd gyfrannog, y rhaglen fwyaf llwyddiannus yw Lasting Solutions ar £24,270 fesul aelwyd gyfrannog, ac yna Prosiect y Cymoedd Shelter ar £14,294 fesul aelwyd gyfrannog.

Casglwn o hyn fod rhaglenni yn llwyddo fwyaf (o safbwynt cost a budd) pan fyddant yn ceisio nid yn unig osgoi troi allan, ond pan fyddant hefyd yn ceisio osgoi deilliannau gwael eraill a all fod yn gysylltiedig â throi allan, e.e. plant yn mynd i mewn i ofal a chamddefnyddio sylweddau.

102