eiriolaeth a chyfathrebu

5
Eiriolaeth a chyfathrebu

Upload: play-wales

Post on 07-Apr-2016

232 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i gynnig cyflwyniad i eirioli dros chwarae a gwaith chwarae. Mae wedi ei anelu tuag at unryw un sydd â diddordeb mewn neu sydd â chyfrifoldeb am chwarae plant; mae’n cynnig esiamplau o sefyllfaoedd ble allem ni weithredu fel eiriolwyr ac awgrymiadau o ddulliau allwn ni eu defnyddio i eiriol dros chwarae a gwaith chwarae.

TRANSCRIPT

Eiriolaeth a chyfathrebu

Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i gynnig cyflwyniad i eirioli dros chwarae a gwaith chwarae. Mae wedi ei anelu tuag at unryw un sydd â diddordeb mewn neu sydd â chyfrifoldeb am chwarae plant; mae’n cynnig esiamplau o sefyllfaoedd ble allem ni weithredu fel eiriolwyr ac awgrymiadau o ddulliau allwn ni eu defnyddio i eiriol dros chwarae a gwaith chwarae.

EiriolaethMae eiriolwr yn berson sy’n cefnogi neu sy’n argymell achos neu bolisi penodol yn gyhoeddus. Mae hefyd yn rhywun sy’n pledio achos ar ran rhywun arall. Fel gweithwyr chwarae, pobl broffesiynol a rhieni mae gennym gyfrifoldeb i gefnogi chwarae a gwaith chwarae mewn modd cyhoeddus, ac hefyd i siarad o blaid plant a’u anghenion chwarae mewn amgylchiadau ble y maent angen inni eu cynrychioli.

Sefyllfaoedd ble allem ni weithredu fel eiriolwyr dros chwarae a gwaith chwaraeDyma rai enghreifftiau:

• Wrth egluro i rieni ganlyniadau darparu profiadauchwaraeosafon,erenghraiffty tebygolrwydd y bydd plant yn baeddu neu’n gwlychu wrth iddynt chwarae.

• Pan yn cefnogi hawliau plant i chwarae os yw oedolion yn canfod bod ymddygiad chwarae’n achosi niwsans ac yn achwyn amdano.

• Wrth gystadlu â grwpiau eraill ynghylch defnyddio adeilad, neu am gyllid.

• Os yn gweithio fel gweithiwr chwarae wrth gyflawnieinrôloddyddiddydd–mae’rEgwyddorion Gwaith Chwarae’n nodi bod hyn yn rhan o’r swydd.

• Wrtheglurogwaithchwaraearôlgweithwyr chwarae i eraill.

• Wrthweithredufelpersonproffesiynol–gan arddangos parch tuag at agendâu

proffesiynol eraill tra’n parhau yn driw i’ch agenda.

• Pan fydd cynrychiolwyr o broffesiynau eraill yn ceisio ymyrryd mewn chwarae neu waith chwarae. Er enghraifft, os ydynt yn gofyn i weithwyr chwarae gadw plant yn dawel, neu’n disgwyl i blant ymddwyn mewn modd allai fod yn briodol o fewn yr ysgol neu fannau eraill ond nid o fewn sefyllfa chwarae.

• Pan fo cynrychiolwyr o broffesiynau eraill yndisgwyliweithwyrchwaraegyflawnieu agenda hwy, er enghraifft wrth hyrwyddo bwyta’n iach, pan mai agenda gwaith chwarae yw chwarae.

• Wrth egluro i eraill pam y bu i weithwyr chwarae ymyrryd (neu beidio) mewn chwarae plant mewn modd penodol.

Wrth eiriol dros chwarae neu waith chwarae, mae tri pheth pwysig iawn sy’n ein cynorthwyo i eiriol mewn modd effeithiol:

• Gwybodaeth drylwyr o ddamcaniaethau chwarae a gwaith chwarae: gwybod pam ei bod yn bwysig i blant chwarae’n rhydd; pam fod plant yn chwarae; beth y mae plant yn ei ennill o chwarae’n rhydd; gwahanol arddulliau o ymyrryd a phryd a pham i’w defnyddio; sut y mae gwaith chwarae’n wahanol i ffyrdd eraill o weithio â phlant a pham.

• Y gallu i gyfathrebu’r wybodaeth yma am chwarae a gwaith chwarae mewn modd proffesiynol ac argyhoeddiadol, er mwyn i bobl ei gymryd o ddifrif ac y gellir eu perswadio am ei bwysigrwydd er lles plant.

• Bod yn gyfarwydd â deddfwriaethau sy’n cefnogi hawl plant i chwarae, er enghraifft Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), Sylw Cyffredinol y CU ar Erthygl 31 CCUHP, ac yng Nghymru, Polisi Chwarae Llywodraeth Cymru a’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Dulliau allwn ni eu defnyddio i eiriol dros chwarae a gwaith chwarae Bydd y modd y byddwn yn gweithredu fel eiriolwyr yn amrywio rhwng un sefyllfa a’r llall. Mae wastad yn ddefnyddiol i fod â rhywfaint o ddeunydd ar bapur y gallwn ei ddefnyddioi’nhelpuigofioffeithiaupwysigsy’n cefnogi’r agwedd gwaith chwarae ac y gallwn hefyd ei roi i bobl broffesiynol eraill a rhieni neu gofalwyr er mwyn helpu i bwysleisio ein pwynt. Gallai hyn fod ar ffurf:

• Llyfryn am sefyllfaoedd chwarae lleol sy’n cynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd darparu darpariaeth chwarae.

• Llyfryndeudaflenwybodaethsy’negluropwysigrwydd chwarae ac sy’n cynnwys dyfyniadau cyfredol a pherthnasol, yn enwedig rhai gan wleidyddion neu gefnogwyr plant adnabyddus, er enghraifft dyfyniad o Bolisi Chwarae Llywodraeth Cymru neu’r canllaw sy’n cefnogi’r Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae (Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae). EfallaiybyddtaflenwybodaethChwaraeCymru–Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig?–hefydoddefnydd.

• Datganiad ar-y-cyd gan y Play Safety Forum a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn hybu agwedd gytbwys tuag at reoli risg mewn chwarae plant;athaflenwybodaethChwarae a risg Chwarae Cymru a ysgrifennwyd gan Tim Gill.

• Mae’n ddefnyddiol hefyd i fod â theitlau llyfrau,clipiauffilmacadnoddaueraillygallem gyfeirio pobl atynt, er mwyn inni allu awgrymu sut y gallent ddysgu mwy am chwarae a gwaith chwarae.

• Os ydym yn eirioli ar ran sefyllfa chwarae neu wasanaeth benodol gallwn ddarparu

polisïau, fel polisi chwarae neu bolisi ymddygiad sy’n egluro’r gweithdrefnau gaiff eu dilyn a pham fod yr agwedd yma’n cael ei defnyddio.

Cyfathrebu Mae’n bwysig ein bod yn gallu siarad mewn modd deallus a phroffesiynol am bwysigrwydd chwarae a gwaith chwarae. Os na fyddwn ni’n sefyll i fyny dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo wnaiff neb arall, a chaiff yr athroniaeth gwaith chwarae ei glastwreiddio.

Cyfathrebu geiriol a dieiriauMae cyfathrebu’n lwybr dwyffordd; ym mhob elfen o gyfathrebu bydd gwybodaeth yn cael ei roi a’i dderbyn, ac mae’n bwysig ein bod yn ymwybodol o’r modd y byddwn yn rhoi ac yn derbyn negeseuon.

Ceir tri modd cyffredinol o gyfathrebu â phobl eraill, sef:

• goddefol (ddim yn sefyll lan dros ein safbwyntiau)

• ymosodol (llywodraethol)

• pendant (hyderus).

Gallwn arddangos y dulliau hyn trwy ein ymddygiad geiriol (ar lafar) a dieiriau (mud).Pan fyddwn yn eiriol dros chwarae a gwaith chwarae byddwn yn swnio ac yn ymddangos fel bod yr hyn sydd gennym i’w ddweud yn bwysig os y byddwn yn siarad ac yn ymddwyn mewn modd hyderus a phendant.

Byddwn hefyd yn dangos bod gennym ddiddordeb yn yr hyn sydd gan bobl eraill i’w ddweud, eu gwybodaeth a’u barnau, os y byddwn yn gwrando’n ofalus, gyda meddwl agored chwilfrydig. Allwn ni ddim bod yn gyfrifol am y modd y bydd pobl eraill yn cyfathrebu ond fe allwn ni feddwl am ein ymddygiad ni ein hunain, yr hyn y byddwn yn ei ddweud a’r modd y byddwn yn gwrando.

AdnoddauChwarae Cymru (2014) Beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig? Caerdydd: Chwarae Cymru. Ar gael o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/taflennigwybodaeth

Llywodraeth Cymru (2002) Polisi Chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/polisichwaraecymru

Llywodraeth Cymru (2011) Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru (2014) Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ar gael o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/digonolrwydd

Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn (2013) ‘General comment No. 17 (2013) on the right

of the child to rest, leisure, play, recreational activities, cultural life and the arts (art. 31). CRC/C/GC/17: United Nations Committee on the Rights of the Child’. Ar gael o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/sylwcyffredinol

Tim Gill (2013) Chwarae a risg. Caerdydd: Chwarae Cymru. Ar gael o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/taflennigwybodaeth

UNICEF (1989) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Svenska: UNICEF Kommitten.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (2012) Chwarae a hamdden – hyrwyddo agwedd gytbwys. Bootle: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Ar gael o: www.chwaraecymru.org.uk/cym/chwaraeaher

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Ionawr 2015

© Chwarae Cymru

Llun clawr: © New Model Army Photography

www.chwaraecymru.org.uk

Elusen cofrestredig, rhif 1068926Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258Cofrestrwyd yng Nghymru