eiriolaeth rspb cymru 2007–2008...4 4 prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 i sicrhau gwir...

24
Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008 dros adar dros bobl am byth

Upload: others

Post on 05-Mar-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

Eiriolaeth RSPB Cymru

2007–2008

dros adardros bobl am byth

Page 2: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

22

3 Cyflwyniad 4 Polisibioamrywiaeth • Brân goesgoch • Adar ffermdir

6 Adferbioamrywiaethcoll • Y rugiar ddu, coedwigaeth a’r ucheldir • Rhaglen y gornchwiglen

9 Cysylltupoblâbywydgwyllt • Dysgu yn y Gwir Fyd ac Addysg dros Ddatblygu

Cynaladwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang • Project Gweilch Glaslyn • Meddwl yn naturiol

12 Deallybydecolegol13Gwarchodymannaugoraui fywydgwyllt • Aber Dyfrdwy • Adfer mannau gwarchodedig i gyflwr ffafriol • Gwell rheolaeth o’n tir comin • Adfer gorgors fyw • Datblygiad priodol • NCT 8 a datganiad o egwyddorion meistrgynllunio ecolegol

18 Gwellagwerthtiramôri fywydgwyllt • Atal anrhefn hinsawdd • Diwygio amaethyddiaeth • Asesiad Amgylcheddol Strategol • Cynllun Gofodol Cymru • Gwarchod y blaned las

Rhan hanfodol o fusnes craidd RSPB Cymru yw’r eiriolaeth yr ymgymerwn â hi er mwyn dylanwadu ar newid mewn polisi, deddfwriaeth, agweddau ac ymddygiad, er budd adar a’r amgylchedd.

Mae’r ddogfen hon yn adolygu gweithrediadau polisi ac eiriolaeth diweddar RSPB Cymru yng Nghymru, yn cydnabod y prif heriau sy’n wynebu bywyd gwyllt yng Nghymru ac yn cynnig rhai atebion.

Cynnwys

Tirw

edd

gw

archo

dfa D

inas yr R

SP

B gan

Ch

ris Go

mersall

(rspb

-imag

es.com

)

Eiriolaeth RSPB Cymru

2007-2008

Mae RSPB Cymru yn rhan o’r RSPB, yr elusen sy’n gweithredu ledled y DU i sicrhau amgylchedd iach i adar a bywyd gwyllt, gan helpu i greu gwell byd i bawb. Rydym yn dibynnu ar ewyllys da a chefnogaeth ariannol pobl fel chi.

Page 3: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

3

Co

rncr

ake

by

Ro

ber

t S

mit

h (

rsp

b-i

mag

es)

Y ddwy garreg filltir amgylcheddol yng Nghymru yn 2006 oedd lansiad Strategaeth Amgylcheddol Cymru a derbyn bod newid hinsawdd yn fater gwleidyddol arwyddocaol.

Croesawyd lansiad Strategaeth Amgylcheddol Cymru gan RSPB Cymru ym mis Mehefin 2006 – i sefydlu cyfeiriad pendant ar gyfer rheoli a gwella’r amgylchedd. Bellach mae gennym nod ar y cyd sef cyfres o ganlyniadau ac ymrwymiad i raglen barhaus o weithrediadau i sicrhau’r rhain. I wireddu’r strategaeth bydd angen i Lywodraeth y Cynulliad a’i hasiantaethau weithredu ar frys; bydd angen hefyd cryn weithredu gan bob partner ac, yn sicr, bydd angen cynnydd sylweddol mewn adnoddau.

Mae’r her yn enfawr, oherwydd i wireddu’r Strategaeth Amgylcheddol bydd angen i ni gyflawni rhywbeth nad yw erioed wedi ei gyflawni o’r blaen – mae’n rhaid i ni dorri’r cysylltiad rhwng twf economaidd a dirywiad amgylcheddol yn cynnwys cynnydd yn y gollyngiadau o CO². Ac eto nid oedd hyn yn newydd yn 2006; yn wir, mae’r her hon wrth wraidd ymrwymiad statudol y Cynulliad i ddatblygu cynaladwy a amlinellwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru (a’r adolygiad dilynol).

A yw Cymru yn mynd i’r afael â’r her hon? Yn sicr, mae deialog newydd rhwng y Llywodraeth a’i phartneriaid niferus ac mae rhywfaint o gynnydd yn digwydd. Fodd bynnag, nid ydym eto’n gweld newid yn y ffordd mae’r

bobl sy’n gwneud penderfyniadau ac unigolion yn edrych ar ac yn rheoli’r byd naturiol sy’n angenrheidiol yn ôl yr RSPB. Mewn rhai adrannau o’r Llywodraeth mae’r patrwm ‘busnes fel arfer’ yn gryf. Yma yng Nghymru rydym ymhell o fyw’n gynaladwy.

Mae gan RSPB Cymru weledigaeth dros ddatblygu cynaladwy lle mae cymdeithas yn trosglwyddo’r amgylchedd naturiol i’r genhedlaeth nesaf mewn cyflwr gwell. Yr athroniaeth hon sy’n gyrru ein gwaith eiriolaeth ac mae hi’n cael ei hamlinellu yn yr adroddiad hwn. Nid golwg gynhwysfawr yw’r hyn sy’n dilyn ond detholiad yn hytrach o flaenoriaethau presennol a darlun o hyd a lled ein heiriolaeth. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar Gymru ac yn mynd law yn llaw ag adroddiadau tebyg a gynhyrchwyd i ymdrin â’n gwaith ar lefelau rhyngwladol, y DU a gwledydd datganoledig.

Mae’r adroddiad hwn yn darparu argymhellion i’r Llywodraeth a’i hasiantaethau i sicrhau bod cymdeithas yn parhau i elwa o’r ystod o wasanaethau ecosystem (gwasanaethau cynnal bywyd) a ddarperir gan yr amgylchedd naturiol.

Man cychwyn ein holl waith yw sicrhau bod y Llywodraeth yn cyfarfod ei hymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol i ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010 neu leihau graddfa’r golled (gweler tudalen 4). Mae hyn yn bwysig er mwyn helpu i warchod bywyd gwyllt er ei fwyn ei

hun ond ein dadl ni yw bod pobl yn elwa’n uniongyrchol o gyswllt â byd natur ac mae gennym dystiolaeth sy’n cefnogi’r gred hon (gweler tudalennau 9-11).

Ymysg themâu eraill mae:

• adfer bioamrywiaeth coll – sut a pham ei bod yn bwysig adfer y bywyd gwyllt a gollwyd

• deall y byd ecolegol – yn dangos pam fod angen i ni fuddsoddi mewn ymchwil priodol i gefnogi gwyddoniaeth gadwraeth

• gwarchod y mannau gorau ar gyfer bywyd gwyllt – yn egluro pam y dylai cymdeithas fuddsoddi mewn rhwydwaith cadarn o safleoedd gwarchodedig hyd yn oed wrth i’r hinsawdd newid

• gwella gwerth tir a môr o safbwynt bywyd gwyllt – yn dadlau na fydd polisïau economaidd yn llwyddo i helpu cymdeithas os na fydd yr amgylchedd daearol a morol yn cael eu gwarchod, ac os na fyddwn yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac adeiladu cymunedau gwir gynaladwy.

Rydym yn disgwyl y bydd yr adroddiad hwn yn heriol ac yn ysgogol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth, i gynnig sylwadau ac i barhau â’r ddeialog os gwelwch yn dda.

Dr Tim StoweCyfarwyddwr RSPB CymruE-bost: [email protected]

Sia

mb

r yr

Ori

el G

yho

edd

us

gan

Gyn

ulli

ad C

ened

laet

ho

l Cym

ruB

arcud

gan D

avid K

jaer (rspb

-imag

es.com

)

Page 4: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

44

Prifflaenoriaethauargyfer2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu nawr. Yn gryno, mae angen i ni atal y dirywiad, gwarchod y gorau ac adfer y gweddill.

Yng Nghymru, rydym yn eiriol dros:

• gynlluniau gweithredu clir gyda chostau penodol ar gyfer pob rhywogaeth a chynefin CGB y DU sy’n bodoli yng Nghymru a’r un fath ar gyfer y rhywogaethau ychwanegol â blaenoriaeth a adnabuwyd ar gyfer Cymru, erbyn gwanwyn 2008

• raglenni monitro digonol ar gyfer pob blaenoriaeth, yn cynnwys rhaglenni newydd ar gyfer rhywogaethau â blaenoriaeth

• ymrwymiad i greu grant o £10 miliwn i wireddu targedau CGB Cymru

• ganolbwyntio’r cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal ar sicrhau mwy o fudd i rywogaethau â blaenoriaeth, a chynyddu’r ariannu ar gyfer y cynllun drwyddo draw fel bod mwy o ffermwyr yn gallu ymuno

• gynnwys dangosyddion bioamrywiaeth yn yr Asesiad Perfformiad ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru

• gynigion clir i wneud yn fawr o wasanaethau ecosystem a’r buddion i bioamrywiaeth drwy ail greu cynefinoedd.

Co

nwy R

SP

B R

eserve by B

en H

all (rspb

-imag

es.com

)

Mae holl waith RSPB Cymru yn ymwneud yn y pen draw â gwarchod bioamrywiaeth: yr amrywiaeth o fywyd ar y blaned. Mae’n hanfodol ein bod yn targedu ein hadnoddau’n effeithiol tuag at y blaenoriaethau ar gyfer gwarchod rhywogaethau a chynefin, ac yn annog y Llywodraeth i wneud yr un fath.

Polisibioamrywiaeth

Amlinellodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hamcan i wireddu ymrwymiadau rhyngwladol i ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, ac aeth ymhellach i addunedu y bydd gwaith adfer yn digwydd o safbwynt niferoedd, dosbarthiad ac amrywiaeth genetaidd rhywogaethau erbyn 2026². Ymrwymodd Llywodraeth y Cynulliad yn benodol hefyd i sefydlogi neu wrthdroi’r gostyngiad ym mhoblogaeth pob rhywogaeth o adar gwyllt oedd yn prinhau yn 2000 erbyn 2010³.

Mae pwysau sylweddol ar bioamrywiaeth yng Nghymru. Mae llawer o gynefinoedd bywyd gwyllt wedi eu dinistrio, eu diraddio a’u darnio ac mae’r rhywogaethau a gynhelir ganddynt wedi prinhau oherwydd hyn ac mewn ambell i achos wedi diflannu’n gyfan gwbl. Mae ein hansawdd bywyd wedi gostwng o ganlyniad. Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd o dan

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, awgryma dadansoddiad bod 21 o’r 38 cynefin â blaenoriaeth sy’n berthnasol i Gymru yn dirywio ac adroddwyd bod 30 o rywogaethau Cymreig â blaenoriaeth un ai’n prinhau neu wedi eu colli’n gyfan gwbl. Nid oedd modd adrodd yn ôl ar 37% o rywogaethau eraill oherwydd diffyg gwaith casglu data yng Nghymru4.

Bydd angen i’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol weithredu ar frys yn ogystal ag ariannu newydd os ydym am sicrhau targed 2010 a’n hymrwymiadau Undeb Ewropeaidd ehangach. Rydym yn croesawu adfywiad Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Fframwaith Bioamrywiaeth newydd i Gymru, ond dim ond y dechrau yw hyn ac rydym bellach yn chwilio am weithredu gweladwy ymarferol.

Yn Arolwg y Gylfinir yng Nghymru 2006

dim ond 1,099 o barau a gofnodwyd

– prinhad o 81% yn y tair-mlynedd-ar-ddeg

diwethaf¹

Gyl

fin

ir g

an N

igel

Bla

ke (

rsp

b-i

mag

es.c

om

)

Cyfeiriadau:1 Johnstone, Dyda, Lindley (2006) The population status and hatching success of Curlews Numenius arquata in Wales in 2006. Yr RSPB.2 Strategaeth Amgylchedd Cymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru Mehefin 20063 Cwestiwn Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd i’r Cynulliad 42366 a chynlluniau strategol blaenorol, Plan for Wales a BetterWales.com4 Progress Towards the 2010 Target in Wales: Wales Report from the 2005 UK BAP Reporting Round. http://www.biodiversitywales.org.uk/English/Library bapreport05/

Page 5: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

Ho

lyro

od

Par

liam

ent

Bu

ildin

g b

y S

cott

ish

Par

liam

enta

ry C

orp

ora

te B

od

y –

2007

Red

-necked

ph

alarop

e by D

avid T

iplin

g

(rspb

-imag

es.com

)

s

AdferiadrhywogaethauMae rhai poblogaethau o adar wedi prinhau cymaint fel y bydd cynnal y nifer sy’n bodoli ar hyn o bryd yn anodd ac efallai na fydd modd sicrhau eu dyfodol yng Nghymru. Mae angen rhaglen uchelgeisiol benodol i wrthdroi’r prinhad mewn poblogaethau rhywogaethau â blaenoriaeth (niferoedd) a dosbarthiad (lledaeniad daearyddol) drwy adfer cynefinoedd a niweidiwyd ac ail greu cynefinoedd a gollwyd.

Astudiaeth achos Brângoesgoch

Yn gyffredin ledled y DU ar un pryd, mae’r frân goesgoch bellach wedi ei chyfyngu i arfordir gorllewinol gwledydd Prydain, ac mae tri chwarter o’r boblogaeth yng Nghymru. Ers 2000, mae RSPB Cymru wedi gweithio i sicrhau dyfodol y frân goesgoch, gan ganolbwyntio ein hymdrechion mewn Mannau Allweddol i’r rhywogaeth ar arfordir a mynyddoedd Gogledd a Gorllewin Cymru. Drwy gyfrwng dau broject a ariannwyd gan yr UE rydym wedi ceisio sicrhau, gwella a chynyddu arwynebedd cynefinoedd bwydo’r frân goesgoch. Rydym wedi gwneud hyn drwy sicrhau safleoedd gwarchodedig ar gyfer y frân goesgoch drwy waith ymgynghorol gyda ffermwyr a rheolwyr tir, drwy ddylanwadu ar gynllunio a gweithredu cynlluniau amaeth-amgylcheddol, a thrwy ariannu gwaith rheoli cynefinoedd. Mae llawer o’r gwaith hwn hefyd wedi helpu i wella cyflwr rheolaeth safleoedd dynodedig pwysig.

Yn 2002 (yr arolwg cenedlaethol ffurfiol diwethaf), roedd 262 pâr o frain coesgoch yng Nghymru5 ac er ein bod yn credu bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu drwyddo draw ers hynny, mae’n ymddangos ei bod wedi prinhau mewn ambell i Ardal Allweddol fewndirol.

ffynonellau ers 1994. Mewn arolygon diweddarach cafwyd bod prinder hadau ar gael fel bwyd gaeaf yn llawer o’r mannau hyn. O ganlyniad i’r darganfyddiad pwysig hwn targedwyd ein gwaith ar gyfer y rhywogaethau hynny sy’n eang eu dosbarthiad ond yn prinhau. Drwy gyfrwng y project ‘Tydy Adar Cymru’n Wych!’ (TACW!) a ariannwyd gan Amcan Un yr UE darparwyd cnydau âr fel cnydau lloches i adar gwyllt yn benodol ar gyfer y bras melyn a golfan y mynydd. Dros dair blynedd y project, gweithiodd RSPB Cymru gyda dros 20 o dirfeddianwyr ar amrywiaeth o brojectau, o hau cnydau adar gwyllt i reoli sofl gaeaf, ar gyfanswm o 30 hectar o dir ar gyfer y bras melyn a golfan y mynydd. Gan ddefnyddio hyn fel enghraifft, mae projectau eraill fel project Tir Eryri Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a ariannwyd gan Amcan Un wedi rhoi gwaith tebyg ar y gweill i dargedu mannau pwysig ar gyfer y rhywogaethau hyn ac ychwanegu at waith a wnaed eisoes gan RSPB Cymru.

Go

lfan y m

ynydd

gan A

nd

y Hay (rsp

b-im

ages.co

m)B

rân

go

esg

och

gan

Mik

e La

ne

(rsp

b-i

mag

es.c

om

)

Cyfeiriadau:5 Welsh Birds Summer 2006 yn y wasg

Astudiaeth achosAdar ffermdir

Ar hyd a lled Cymru, mae adar cynefinoedd a amaethir wedi prinhau mwy nag unrhyw grwp arall. O ran adar sy’n bwyta hadau fel y bras melyn a golfan y mynydd, cysylltir y prinhad hwn â cholledion mewn systemau ffermio cymysg a chynnydd mewn ffermio glaswelltir, oherwydd mae’n debyg bod llai o hadau a phryfed ar gael ar ffermdir. Yn aml mae hi’n well canolbwyntio ymdrechion cadwraeth ar rywogaethau sydd â dosbarthiad cyfyngedig – mae’r rugiar ddu yn enghraifft dda yng Nghymru – ac eto o ran rhywogaethau sy’n eang eu dosbarthiad ond sy’n prinhau, gall projectau adfer fod yn anodd ac yn ddrud i’w gweithredu.

Yn 2004, dynodwyd Mannau Allweddol ledled Cymru gan RSPB Cymru ar gyfer y bras melyn a golfan y mynydd gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiol

Page 6: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

66

AdferbioamrywiaethcollI ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben ac i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd mae angen adfer cynefinoedd y dirwedd gyfan. Mae RSPB Cymru yn gweithredu projectau uchelgeisiol fel adfer yr orgors (gweler tudalen 16) a hoffai fod â rhan mewn projectau eraill i adfer glaswelltir llaith yr iseldir a chynefinoedd yr ucheldir. Mae dulliau hefyd yn cael eu datblygu i alluogi eraill i feddwl yn ehangach a gweithio i sicrhau bod modd dychwelyd holl ystod bioamrywiaeth i gefn gwlad.

Prifflaenoriaethauargyfer2007–2008 • Cydweithio â Chyngor Cefn

Gwlad Cymru (CCGC), Asiantaeth Amgylchedd Cymru a phartneriaid eraill i ddynodi mannau priodol ar gyfer ail greu ac adfer cynefinoedd a fydd yn sicrhau mannau newydd i fywyd gwyllt ffynnu.

• Annog Grwpiau Ardal Cynllun Gofodol Llywodraeth Cynulliad Cymru i nodi cyfleoedd amgylcheddol, yn cynnwys cyfleoedd i ail greu cynefinoedd ar raddfa fawr drwy gyfrwng y fframweithiau cynllunio gofodol.

• Pwyso ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymgymryd â rhaglen uchelgeisiol o ail greu cynefin ar ei thir ei hun, yn arbennig ar dir o dan reolaeth y Comisiwn Coedwigaeth.

• Gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i hasiantaethau i nodi mecanweithiau ariannu i sicrhau cynefinoedd ar raddfa fawr a fydd yn sicrhau bod bywyd gwyllt yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd a bod gwasanaethau ecosystemau yn cael eu cynnal.

Plu

’r g

weu

nyd

d g

an M

ike

Rea

d (

rsp

b-i

mag

es.c

om

)D

olyd

d o

dan

ddwr gan

Mike R

ead (rsp

b-im

ages.co

m)co

m)

Page 7: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

7

Astudiaeth achos Yrugiarddu,coedwigaetha’rucheldir

Mae poblogaeth y rugiar ddu wedi gostwng yn sylweddol ac mae hi wedi colli llawer o’i chynefin yng Nghymru yn ogystal â mannau eraill yn y DU. Bellach mae hi’n un o’r rhywogaethau ar y Rhestr Goch6. Dengys arolygon bod y nifer o geiliogod a oedd yn arddangos eu hunain yn y gwanwyn wedi prinhau o 50% i ddim ond 131 o unigolion7 rhwng 1986 ac 1997. Fodd bynnag, erbyn 2005 roeddynt wedi cynyddu o 63% i 213. Mae’n eithaf sicr bod darparu cynefin addas o fewn Ardaloedd Allweddol wedi eu targedu yn ystod Project Adfer y Rugiar Ddu yng Nghymru yr RSPB/CCC/CCGC rhwng 1999 a 2006 wedi bod o fudd.

Bellach mae gwaith rheolaeth ar gyfer eu hadfer ar y gweill. Rhwng 1999 a 2006 canolbwyntiwyd ymdrechion ar gyfrannu at darged CGB Cymru a’r DU o 270 o geiliogod yn arddangos eu hunain erbyn 2010. Mae RSPB Cymru:

1. yn datblygu canllawiau rheolaeth ar gyfer Ardaloedd Allweddol

2. yn ymgymryd â rheolaeth sy’n benodol i rywogaeth mewn Ardaloedd Allweddol wedi eu targedu

3. yn darparu cyngor rheolaeth cadwraeth i reolwyr tir.

Er bod gweithredu ar gyfer adferiad wedi llwyddo i raddau8 o ran cynyddu niferoedd o fewn ardaloedd project, mae cynefin y rugiar ddu yng Nghymru wedi parhau i grebachu. Mae’n bosibl bod y rugiar ddu yn dibynnu ar gynefinoedd yr ucheldir lle mae newidiadau’n digwydd yn aml i gynnal gwerth maeth uchel o rywogaethau allweddol o blanhigion (ee grug, llus a phlu’r gweunydd). Os

Gru

gia

r d

du

’n a

rdd

ang

os

ei h

un

gan

Mar

k H

amb

lin (

rsp

b-i

mag

es.c

om

)

felly, mae’n hanfodol penderfynu ar y graddau gofodol ac amserol angenrheidiol ar gyfer rheolaeth tymor hir er mwyn cynnal adferiad.

Cred RSPB Cymru y dylid cynnal poblogaeth Gymreig y rugiar ddu yn y tymor hir drwy eiriol dros bolisïau rheolaeth tir – amaethyddol a choedwigaeth – sy’n darparu’r anghenion ar gyfer y rhywogaethau. Fodd bynnag, yn y tymor byr/canolig, mae angen ymdrechion adfer penodol ar raddfa’r tirlun, ar neu’r tu allan i warchodfeydd natur, i atgyfnerthu’r rheolaeth effeithiol a roddwyd ar y gweill hyd yn hyn.

Cyfeirnodau: 6 Thorpe & Young (2003) The Population Status of Birds in Wales – an analysis of Conservation Concern 2002-2007. RSPB Cymru, Caerdydd7 Williams, I King, A Cowan, T & Hughes, B (1997) Black grouse in Wales, spring 1997. Adroddiad yr RSPB i CCGC nas cyhoeddwyd.8 Lindley, P Johnstone, I & Thorpe, R (2003) The status of black grouse (Tetrao tetrix) in Wales in 2002 and evidence for population recovery.

Welsh Birds 3(5) 318-329.

Page 8: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

88

Astudiaeth achosRhaglenygornchwiglenEr ei fod yn aderyn cyffredin ar ffermdir Cymru ar un adeg, mae’r gornchwiglen bellach yn rhy brin i’w monitro gan fynegai’r Arolwg Adar yn Nythu yng Nghymru (BBS) a weithredir yn eang. Wedi gostyngiad cyflym rhwng 1987 ac 1998, amcangyfrifwyd bod poblogaeth y gornchwiglen yng Nghymru oddeutu 1,700 pâr. Awgryma ffigurau erbyn hyn bod y nifer yn parhau i ostwng, ond nid oes amcangyfrif dibynadwy o’r boblogaeth ar gael. Ystyrir nad oes erbyn hyn dim mwy na 600-1000 o barau’n nythu. O ganlyniad, mae’r gornchwiglen ar y Rhestr Goch9 yng Nghymru ac yn cael ei hadnabod fel rhywogaeth â blaenoriaeth.

Cysylltir y gornchwiglen gydag amrywiaeth o gynefinoedd yn cynnwys ffermdir âr, glaswelltir llaith yr iseldir a systemau cymysg o ffermio ucheldir. Mae’n debyg mai dwysau amaethyddol a cholledion mewn ffermio cymysg yw achosion pennaf y prinhad hwn mewn dosbarthiad a phoblogaethau. Mewn ambell i ardal lle mae’r boblogaeth eisoes wedi prinhau, efallai bod ysglyfaethwyr yn gwaethygu’r sefyllfa, neu’n cyfyngu ar eu hadferiad.

Mae RSPB Cymru yn datblygu rhaglen gadwraeth bum-mlynedd ar gyfer y gornchwiglen (2007-2012). Yr elfennau allweddol ydynt:

• gwarchod cornchwiglod sy’n nythu drwy ddarparu project adfer o fewn Hiraethog (ardal o systemau ffermio ucheldir cymysg yng Ngogledd Dwyrain Cymru). Ein nod yw gwella llwyddiant nythu o fewn yr ardal ac arddangos y dull angenrheidiol o weithredu i sicrhau’r gwellhad hwn

• darparu project adfer/creu cynefin i’r gornchwiglen yn Ardal Allweddol Blaenau’r Cymoedd. Rydym yn rhagweld y bydd hwn yn cysylltu â chysyniad Parc Rhanbarthol ehangach y Cymoedd, drwy arolygu rheolaeth gynefin ar nifer o safleoedd a darparu cyngor rheolaeth cadwraeth

• cefnogi drwy eiriolaeth, cyngor rheolaeth cadwraeth a gwaith achos a gynlluniwyd i:

i) annog bobl i ymuno â phresgripsiynau amaeth-amgylcheddol priodol o fewn Ardaloedd Allweddol penodol i sicrhau rheolaeth tir cynaladwy ar gyfer y gornchwiglen

Co

rnch

wig

len gan

Ray K

enn

edy (rsp

b-im

ages.co

m)

ii) wrthwynebu cynigion defnydd tir niweidiol, sy’n debygol o effeithio ar safleoedd sy’n cynnal poblogaethau pwysig yn genedlaethol

• datblygu rôl RSPB Cymru fel partner arweiniol ar gyfer CGB y Gornchwiglen yng Nghymru a chefnogi partneriaid i’w sicrhau

• hyrwyddo a chefnogi darpariaeth amodau ffafriol ar SDdGA a ddynodwyd ar gyfer rhydwyr sy’n nythu, yn cynnwys y gornchwiglen

• rheoli gwarchodfeydd yr RSPB sydd â chornchwiglod yn nythu i wella eu cynhyrchiant a chynyddu’r niferoedd.

Cyfeiriadau::9 The Population Status of Birds in Wales – an analysis of Conservation Concern 2002-2007 Thorpe & Young 2003 RSPB Cymru, Caerdydd

Page 9: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

9

Dylid gosod gwerth ar bolisïau cadwraeth natur oherwydd eu bod yn gwneud mwy na gwarchod rhywogaethau’n unig. Gall mynediad at fywyd gwyllt a mannau gwyrdd naturiol gefnogi swyddi a bod yn fuddiol i’n hiechyd a’n systemau addysg – materion sy’n sylfaenol i ansawdd ein bywydau.

Cysylltupoblgydabywydgwyllt

MynediadatfywydgwylltdrwyRSPBCymru: • mynediad cyhoeddus i dros filiwn o

ymwelwyr bob blwyddyn i’n 200 o warchodfeydd natur yn y DU. Mae ein 15 gwarchodfa yng Nghymru yn denu oddeutu 160,000 o ymwelwyr

• pob blwyddyn mae 6,000 o blant ysgol yn cael blas ar ein rhaglenni gwaith maes ar ein gwarchodfeydd Cymreig a safleoedd bywyd gwyllt pwysig eraill yng Nghymru

• yn 2006 cafwyd 70,000 o ymweliadau â’r pum project ‘Tydy Adar Cymru’n Wych!’ ledled Cymru

• bu dros 400,000 o bobl yn cymryd rhan ym mhenwythnos Gwylio Adar yr Ardd ym mis Ionawr 2007 – 21,000 ohonynt yng Nghymru

• cyfrannwyd dros 52,700 o oriau i RSPB Cymru gan 768 o wirfoddolwyr yn 2006/2007.

Bydd RSPB Cymru yn parhau i hyrwyddo’r buddion ehangach i’r cyhoedd a geir wrth sicrhau cyfleoedd i bobl weld a deall bywyd gwyllt oherwydd:

• mae ‘dysgu yn y gwir fyd’ yn sicrhau buddion addysgiadol sylweddol

• mae isadeiledd gwyrdd yn gydran hanfodol o gymunedau cynaladwy

• cysylltir mynediad at fyd natur fwyfwy gydag iechyd a ffyniant cymunedau

• gall bywyd gwyllt wneud gwahaniaeth i economïau lleol.

Gw

ylio ad

ar gan B

en H

all (rspb

-imag

es.com

)G

wylio

gyd

a Tydy ad

ar yn w

ych! gan

An

dy H

ay (rspb

-imag

es.com

)A

nd

y Hay (rsp

b-im

ages.co

m)

Page 10: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

1010

Hig

hlan

d stream

by M

ark Ham

blin

(rspb

-imag

es.com

)

Astudiaeth achosDysguynyGwirFydacAddysgdrosDdatblyguCynaladwyaDinasyddiaethFyd-eang Cred RSPB Cymru y dylai pob plentyn gael profiad o’r amgylchedd lleol fel rhan annatod o’u haddysg. Ers 2003, fel un o sylfaenwyr Partneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd (DGF), rydym wedi arwain ymgyrchoedd yn San Steffan ac yng Nghaerdydd i annog ein Llywodraethau i weithredu i sicrhau hyn.

Ym mis Medi 2006, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Chynllun Gweithredu ar gyfer Addysg dros Ddatblygu Cynaladwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF). Mae’n datgan bod dysgu y tu allan i’r dosbarth yn hanfodol er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r gwir fyd. Bellach dylid rhoi blaenoriaeth i weithredu’r strategaeth bwysig hon. Bydd angen mecanweithiau a gefnogir yn llawn gan awdurdodau lleol i helpu ysgolion i gynnwys ADCDF fel rhan o brif weithrediadau’r ysgol; amcangyfrifwn fod angen oddeutu £2 miliwn y flwyddyn i wireddu hyn10.

Bellach mae angen adroddiad ar Ddatblygu Cynaladwy a Dinasyddiaeth

Ch

ildren

writin

g b

y An

dy H

ay (rspb

-imag

es.com

)

Fyd-eang ar archwiliadau ysgol, a dylai DGF fod yn flaenllaw mewn cwricwlwm newydd sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer 2008. Mae Arweiniad i Ymarfer Da yng Nghymru ar gyfer Dysgu y Tu Allan i’r Dosbarth yn cael ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trefnwyr ymweliadau ysgol.

Er bod y datblygiadau hyn yn dangos ymrwymiad mewn egwyddor i DGF, nid oes arian wedi ei neilltuo i helpu ysgolion neu ddarparwyr i wireddu hyn. Mae rhaglen, gyda’r holl gostau ynglyn â hi wedi eu dyfalu, yn hanfodol i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru.

Fel rhan o’r Ymgyrch DGF, bydd RSPB Cymru yn parhau ei heiriolaeth mewn tri phrif faes:

• STATWS: codi statws dysgu y tu allan i’r dosbarth drwy ei gynnwys fel elfen orfodol o ffurflen hunan-werthuso bob ysgol (FfHW)

• DATBLYGIAD: yn ogystal â hyfforddiant cychwynnol i athrawon (HCA), dylai pob datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) gynnwys dysgu y tu allan i’r dosbarth

• CEFNOGAETH: cydnabod rôl bwysig staff cefnogi ysgolion, llywodraethwyr a chynorthwywyr dysgu mewn sicrhau DGF.

Cred RSPB Cymru y dylid defnyddio ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu addysg y tu allan i’r dosbarth, yn enwedig ar gyfer pobl

ifanc nad oes ganddynt lawer o gyfle i ymweld â’r amgylchedd naturiol, er mwyn sicrhau darpariaeth lawn o ADCDF.

Gw

aith Ffo

rwm

Ffenics gan

Caro

lyn M

errett (rspb

-imag

es.com

)R

hw

ydo’r p

wll gan

An

dy H

ay (rspb

-imag

es.com

)

Cyfeiriadau:10 Yn seiliedig ar gostau’r fenter lwyddiannus Ysgolion Iechyd Tudalen 1111 ‘Watched like Never Before ... the local economic benefits of spectacular bird species’ Dickis, Hughes and Esteban, Yr RSPB Ebrill 2006 12 Gweinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru13 Bird W Natural Fit (2004), Natural Thinking (2006) Yr RSPB, http://www.rspb.org.uk/policy/health/index.asp

Page 11: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

11

Astudiaeth achosMeddwlynnaturiolMae problemau iechyd cyhoeddus yn cyflwyno sawl her ddwys a drud yng Nghymru. Mae’r cyswllt rhwng ein hamgylchedd naturiol a iechyd y cyhoedd wedi ei gydnabod ers tro, ac mae dau adroddiad ar ran RSPB Cymru gan Dr William Bird13 yn dadansoddi’r dystiolaeth sy’n cysylltu iechyd corfforol a meddyliol gyda’r amgylchedd naturiol. Mae segurdod corfforol yn costio dros £8 biliwn y flwyddyn i’r DU ac mae anhwylderau meddyliol yn effeithio ar un o bob chwech o’r boblogaeth. Gall byd natur, drwy gyfrwng ei allu i ysgogi ac annog gweithgarwch corfforol, a thrwy’r effaith uniongyrchol y mae’n ei gael ar ein cyflwr emosiynol, fod yn ddull hynod o gost-effeithiol o leddfu ystod o broblemau iechyd.

Amcangyfrifir bod amlder anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADCG) yn y DU

wedi dyblu rhwng 1998 a 200414. Mae mwy na thraean o blant sy’n dioddef o ADCG wedi eu diarddel o’r ysgol15. Mae gwaith Dr William Bird16 yn cyflwyno tystiolaeth o’r buddion i bobl ifanc o ganlyniad i’w cysylltiad â byd natur. Ymysg y rhain mae darganfod y gall cyswllt â mannau gwyrdd leihau symptomau ADCG yn sylweddol.

Mae tystiolaeth gynyddol bod y cysylltiadau rhwng mannau gwyrdd ac iechyd meddwl da yn arwyddocaol:

• mae byd natur yn lleihau pwysau o fewn munudau o’i gyrraedd

• mae cleifion angen llai o boenladdwyr os dangosir iddynt olygfeydd o fyd natur

• mae pobl hyn sy’n gallu ymlacio a mwynhau byd natur yn arddangos llawer mwy o foddhad gyda’u hardal leol

• mae buddion yr amgylchedd naturiol yn ymddangos yn arbennig o arwyddocaol i blant, sydd â llai o gyswllt gyda byd natur heddiw nag mewn unrhyw gyfnod arall yn y gorffennol.

Cyfeiriadau:14 Attention deficit hyperactivity disorder: diagnosis and management of ADHD in children, young people and adults, National Institute for Health and Clinical Excellence (NICE), Awst 2006.

http://guidance.nice.org.uk/page.aspx?o=35127615 ADHD is real – ymchwil teuluol ADDISS. Comisiynwyd yr ymchwil gan y National Attention Deficit Disorder Information and Support Service, Awst 2006, http://www.adhdisreal.co.uk/survey.htm 16 The ADHD dilemma for parents. BBC News Online, 22ain Hydref 2006, http://news.bbc.co.uk/1/hi/education/6071216.stm

Astudiaeth achos ProjectGweilchGlaslynUn o brojectau mwyaf llwyddiannus ‘Tydy Adar Cymru’n Wych!’ yng Nghymru, a ledled y DU, yw Project Gweilch Glaslyn. Daeth dros 55,000 o ymwelwyr draw i’r safle gwylio ar lan Afon Glaslyn ger Porthmadog yng Ngogledd Cymru yn ystod tymor 2006 i weld yr unig bâr o weilch y pysgod y gwyddom amdano yng Nghymru yn magu cywion.

O’r guddfan wylio mae pobl yn gallu gwylio’r adar a’r nyth drwy ysbienddrychau a thelesgopau cryfion. Darlledir lluniau byw o’r camera ar y nyth yn y ganolfan ymwelwyr, gan roi cipolwg agos ar yr adar bendigedig hyn. Mae asesiad o effaith economaidd y project wedi amcangyfrif bod ymwelwyr â safle’r gweilch y pysgod wedi cyfrannu oddeutu £750,000 i’r economi lleol11.

Gall ymwelwyr barhau eu cysylltiad â’r gweilch y pysgod wedi iddynt gyrraedd adref drwy ymweld â dyddiadur y gweilch ar lein am y newyddion diweddaraf am yr adar.

Cafwyd cefnogaeth leol arbennig i’r project a chynhaliwyd amryw o benwythnosau cymunedol ar y safle drwy gydol tymor 2006, gan ganiatáu i gynhyrchwyr, elusennau, grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol gymryd rhan. Cyfrannodd grwp gweithgar o

An

dy H

ay (rspb

-imag

es.com

)

wirfoddolwyr filoedd o oriau o amser i’r project ar safle’r cynllun gwylio ei hun a’r uned warchod. Amlygwyd eu hymrwymiad arbennig i’r project yn gyhoeddus ym mis Mehefin 2006, pan gyflwynwyd y gwirfoddolwr Tom Jones gyda gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yng Nghymru12 am ei waith gyda Phroject Gweilch Glaslyn – enghraifft wych o ymrwymiad ein holl wirfoddolwyr.

Osp

rey

Pan

dio

n h

alia

etu

s C

hri

s G

om

ersa

ll (r

spb

-im

ages

.co

m)

Page 12: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

1212

Mae RSPB Cymru yn seilio ei pholisi a’i hymarfer ar yr wyddoniaeth orau sydd ar gael. Er ein bod yn ymgymryd â nifer sylweddol o ymchwil gwyddonol i gefnogi ein blaenoriaethau ein hunain, rydym hefyd yn awyddus i gynnwys blaenoriaethau ymchwil cyrff eraill. Yn benodol, dymuniad RSPB Cymru yw gweld y cyfran o ariannu gwyddoniaeth y DU sy’n cael ei ddynodi i wyddoniaeth gadwraeth yn cynyddu dros gyfnod o amser, a mwy o bwyslais ar fonitro amgylcheddol yng Nghymru.

Deallybydecolegol

Mae gwyddoniaeth gadwraeth yn casglu’r wybodaeth angenrheidiol i helpu i ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben a’i wrthdroi. Mae’n cynnwys monitro tueddiadau bioamrywiaeth, deall y rhesymau dros ei golli, datblygu atebion i gynorthwyo ei adferiad, penderfynu pa mor effeithiol yw gweithredu cadwraethol a rhagweld effeithiau tebygol newid amgylcheddol yn y dyfodol.

Mae llawer agwedd ar ymchwil gwyddonol nad ydynt wedi eu datganoli i Gymru ac mae’n hanfodol bwysig bod y projectau a gomisiynwyd gan adrannau Llywodraethol y DU a Chynghorau Ymchwil yn berthnasol ac yn gymwys i Gymru. Yn hanesyddol, mae llawer o gyfresi data wedi eu cyflwyno yn seiliedig ar y DU neu Lloegr a Chymru. Fodd bynnag, ers datganoli mae hi bellach yn bwysig sicrhau data y gellir ei gyflwyno ar lefel

Cymru’n unig er mwyn cyflenwi gwybodaeth ar gyfer llunio polisi yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae toriadau diweddar mewn gwaith gwyddoniaeth gadwraeth gyda phedair gorsaf ymchwil yn cau a swyddi’n cael eu colli yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn peri pryder mawr. Nid yw hi’n glir hyd yn hyn sut bydd cyfuno’r Sefydliad dros Ymchwil i Laswelltir a’r Amgylchedd gyda Phrifysgol Aberystwyth yn effeithio ar wyddoniaeth gadwraeth.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i hasiantaethau yn gallu ariannu gwaith ychwanegol i wella’r adrodd yn ôl ar gyflwr yr amgylchedd a chasglu ystod ehangach o ddata amgylcheddol. Mae angen llawer mwy o ymchwil a monitro amgylcheddol yng Nghymru cyn i ymrwymiadau’r Llywodraeth ei hun ar lunio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth17 gael eu gwireddu.

Prifflaenoriaethauargyfer2007–2008 I sicrhau bod gwariant ar wyddoniaeth gadwraeth yn cynyddu, bydd RSPB Cymru yn:

• argyhoeddi Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithredu rhaglen fonitro rhywogaethau ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylcheddol Cymru

• sicrhau ariannu i fwrw ymlaen â monitro rhywogaethau o adar â blaenoriaeth ledled Cymru

• pwyso ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gwblhau datblygiad dangosyddion amgylcheddol ar gyfer Strategaeth Amgylchedd Cymru a darparu mwy o adnoddau ar gyfer adrodd yn ôl ar Gyflwr yr Amgylchedd

• dadlau dros fwy o arian o gronfeydd y Cyngor Ymchwil ar gyfer gwyddoniaeth sydd â gwerth mwy amserol mewn dod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben a’u gwrthdroi

• sicrhau bod Defra, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynyddu ariannu ar gyfer ymchwil i bioamrywiaeth a sicrhau y bydd yr astudiaethau yn berthnasol ac yn gymwys i Gymru

• rhoi ymchwil ar y gweill i ddeall yn well effeithiau posibl newid hinsawdd ar batrymau defnydd tir, ac effeithiau hyn ar gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth.

Cyfeiriadau:17 ‘Sustainable Development Scheme principles’, Llywodraeth Cynulliad Cymru Mawrth 2004

Pw

yso

cyw

eh

edyd

d d

eg-d

iwrn

od

oed

gan

An

dy

Hay

(r

spb

-im

ages

.co

m)

Gêr telem

etreg rad

io gan

David

Bro

adb

ent (rsp

b-im

ages.co

m)

Page 13: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

13

Prifflaenoriaethauargyfer2007-2008 • Cydweithio gyda Llywodraeth

Cynulliad Cymru a CCGC i wireddu’r targedau canlynol:

• bod 95% o safleoedd bywyd gwyllt sy’n bwysig yn rhyngwladol mewn cyflwr ffafriol erbyn 2010; a

• bod 95% o bob safle bywyd gwyllt sy’n bwysig yn genedlaethol mewn cyflwr ffafriol erbyn 2015.

• Amddiffyn safleoedd adar sy’n bwysig yn rhyngwladol ac yn genedlaethol rhag cynigion datblygu niweidiol drwy gyfrwng y system gynllunio a mecanweithiau tebyg.

• Cydweithio gydag awdurdodau lleol, diwydiant a rhanddalwyr i gynorthwyo gyda gweithredu positif o ddeddfwriaeth yn ymwneud â chadwraeth safleoedd.

• Diwygio’r Rheoliadau Cynefinoedd yng Nghymru fel eu bod yn cydymffurfio gyda dyfarniad Cwrt Cyfiawnder Ewropeaidd ym mis Hydref 2005 a’u bod mor berthnasol ar y tir ac ar y môr.

GwarchodymannaugorauifywydgwylltMae bywyd gwyllt wedi ei ddosbarthu’n anwastad ar hyd a lled y dirwedd. Yn rhannol, mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i ffactorau naturiol, megis hinsawdd, topograffeg, daeareg a’r math o lystyfiant, ond mae hefyd wedi digwydd oherwydd defnydd dyn o dir a dwr, ar gyfer ffermio, codi tai a diwydiant, sydd wedi lleihau a darnio’r arwynebedd o gynefin sy’n gyfoethog o ran bywyd gwyllt. Y canlyniad yn y pen draw yw bod gwarchod y mannau gorau, drwy gyfraith neu drwy eu prynu fel gwarchodfeydd natur, yn gallu bod yn ddull effeithiol iawn o’u gwarchod yn ogystal â’r gwasanaethau ecosystem y maent yn eu darparu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Astudiaeth achosAberDyfrdwy Roedd RSPB Cymru yn bryderus iawn bod cais wedi ei wneud i gynyddu’r gwaith cynnal a chadw o garthu Porthladd Mostyn, gan y byddai hyn wedi peri niwed i’r mannau rhynglanwol. Defnyddir y rhain ar gyfer bwydo a gaeafu gan adar rhydiol ymfudol fel y pibydd coesgoch a phibydd y mawn. Croesawyd y cyfaddawd a sicrhawyd yn 2005 i

Gw

arch

od

fa n

atu

r A

ber

Dyf

rdw

y yr

RS

PB

gan

Dav

id W

oo

tto

n

(rsp

b-i

mag

es.c

om

)P

ibyd

d co

esgo

ch gan

An

dy H

ay (rspb

-imag

es.com

)

ganiatáu llai o waith carthu, gyda chyfyngiad amser, ynghyd â monitro trwyadl o’r effeithiau. O ystyried bod rhai o’r lefelau uchaf o warchodaeth amgylcheddol ryngwladol yn Ewrop ar Aber Dyfrdwy, dadl RSPB Cymru drwy gydol y trafodaethau oedd y dylid glynu’n agos at y drefn gywir ar gyfer gwneud penderfyniadau, trefn a amlinellwyd yng nghyfraith Ewropeaidd a chyfraith y DU, ac na ddylai penderfyniadau gael eu dylanwadu gan ystyriaethau gwleidyddol neu economaidd tymor byr.

Page 14: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

1414

Mae sicrhau bod ein safleoedd bywyd gwyllt mewn cyflwr da yn her enfawr – un sy’n dibynnu ar ewyllys wleidyddol glir, ariannu digonol ac wedi ei dargedu, a brwdfrydedd y sawl sy’n rheoli’r tir i weithredu newidiadau positif ar y ddaear.

Mae RSPB Cymru’n cefnogi’n gryf amcan Strategaeth Amgylcheddol Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau ‘bod safleoedd dynodedig o bwysigrwydd rhyngwladol, Cymreig a lleol mewn cyflwr ffafriol er mwyn cynnal y rhywogaethau a’r cynefinoedd pwysig sydd yno’. Mae’r strategaeth yn amlinellu tri tharged i sicrhau’r canlyniad hwn:

• erbyn 2010, 95% o safleoedd rhyngwladol mewn cyflwr ffafriol

• erbyn 2015, 95% o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cymru (SDdGA) mewn cyflwr ffafriol; ac

• erbyn 2026, pob safle mewn cyflwr ffafriol.

Bydd cyrraedd y targedau hyn yn gryn her – mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan CCGC yn 2006 cafwyd datganiad mai dim ond 32% o SDdGA oedd mewn cyflwr ffafriol18. Mae angen monitro mwy manwl ar fwy na hanner y safleoedd i allu adrodd yn ôl yn hyderus ar eu cyflwr. Y ffactorau a nodwyd fwyaf aml fel y

rhai oedd â’r effeithiau mwyaf oedd diffyg rheolaeth ar waith adfer, dim digon o bori, gorbori a rhywogaethau ymwthiol.

Rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i hasiantaethau gyfrifo’r costau llawn yn ymwneud â chyfarfod y targed hwn a sicrhau bod digon o arian ar gael. Mae RSPB Cymru yn bryderus y bydd angen dod o hyd i adnoddau ychwanegol os ydym am wireddu’r targedau hyn. I sicrhau gwerth am arian, mae’n bwysig bod y targedau hyn yn cael eu cysylltu gydag eraill o fewn y Strategaeth Amgylchedd, megis y rhai sy’n berthnasol i adferiad bioamrywiaeth a datblygu gwledig.

Fel tirfeddiannwr gyda mwy na 13,000 hectar o safleoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol ac yn genedlaethol yng Nghymru, mae RSPB Cymru yn ystyried bod ei chyfraniad at y targed hwn yn hollbwysig. Rydym yn cydweithio gyda CCGC i grynhoi’r holl wybodaeth hanfodol sydd ar gael er mwyn i ni sicrhau bod ein safleoedd mewn cyflwr ffafriol.

Mae safleoedd bywyd gwyllt gorau’r DU yn cael eu gwarchod o dan y Cyfarwyddyd Adar a Chynefinoedd – Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar gyfer adar ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer blodau ac anifeiliaid

Gw

arch

od

fa’r

RS

PB

gan

An

dy

Hay

(rs

pb

-im

ages

.co

m)

Clirio

prysg

wyd

d gan

Neil G

artsho

re (rspb

-imag

es.com

)

Adfer safleoedd gwarchodedig i gyflwr ffafriol

Cyfeiriadau: 18 CCW (2006): Sites of Special Scientific Interest (SSSI) in Wales

eraill. Bydd diweddaru a gwella’r ddeddfwriaeth sy’n gweithredu’r Cyfarwyddiadau hyn yn y DU yn her enfawr i’r Llywodraeth dros yr ychydig o flynyddoedd nesaf, yn dilyn Dyfarniad diweddar mewn Llys Ewropeaidd. Bydd RSPB Cymru yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r ddeddfwriaeth hon (sef y Rheoliadau Cynefinoedd), yn arbennig ar gyfer sicrhau bod fframwaith cyfreithiol clir yn bodoli i sbarduno gwaith adfer buan er mwyn mynd i’r afael â’r AGA a’r ACA hynny sydd mewn perygl o ddirywio.

Page 15: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

1�

Astudiaeth achosGwellrheolaetho’ntircominMae tir comin yn hynod o werthfawr i fywyd gwyllt ac yn rhan bwysig o’n treftadaeth genedlaethol. Mae 175,000 hectar o dir comin yng Nghymru (mwy nag 8% o’r holl arwynebedd tir) ac mae oddeutu 45% wedi ei ddynodi un ai’n bwysig yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Nid oes ffigurau manwl gywir ar gael ond credir fod canran sylweddol o’n tir comin mewn cyflwr anffafriol. Mae gorbori’n effeithio ar rannau helaeth o dir comin yr ucheldir ac i’r gwrthwyneb mae llawer o dir comin yr iseldir yn dioddef o ddiffyg pori ac esgeulustod.

Oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth roedd yn anodd yn y gorffennol sicrhau rheolaeth gynaladwy ar dir comin. Pan fo nifer fawr o gominwyr yn gorfod llunio cytundeb sy’n dderbyniol i bob un ohonynt mae sicrhau cytundebau amaeth-amgylcheddol ar dir comin wedi bod yn anodd.

Mae RSPB Cymru wedi lobio am ddeddfwriaeth tir comin newydd ers 20 mlynedd. Buom yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a rhanddalwyr eraill i sicrhau’r

diwygio angenrheidiol ac roeddem yn falch iawn o groesawu Deddf Tir Comin 2006 sy’n cyflwyno cyfnod newydd o reoli tir comin yn Lloegr a Chymru.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn sicrhau bod tir comin yn cael ei reoli’n fwy cynaladwy gan gominwyr a thirfeddianwyr. Mae’n ei gwneud yn ofynnol bod cofrestrau tir comin yn cael eu diweddaru er mwyn ffurfio sail ar gyfer rheoli tir comin. Mae hefyd wedi cyflwyno strwythurau rheolaeth newydd ar ffurf Cynghorau Cominwyr i annog gwell rheolaeth leol ar dir comin. Bydd Cynghorau Cominwyr yn berchen ar bwerau i reoli pori a gwaith rheolaeth amaethyddol arall, ac i greu rheolau drwy bleidlais y mwyafrif fydd yn rhwymol ar bob cominwr. Bydd hyn yn hwyluso mynediad tir comin i gytundebau amaeth-amgylcheddol.

Bellach mae RSPB Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflymu ei rhaglen i weithredu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru a sicrhau bod arian digonol ar gael yn y gyllideb amaeth-amgylcheddol fel bod modd sicrhau gwell rheolaeth yn y mannau pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt, ffermwyr a’r cyhoedd.

Rh

ost

ir g

an A

nd

y H

ay (

rsp

b-i

mag

es.c

om

)B

ras

mel

yn g

an P

hili

p N

ewm

an (

rsp

b-i

mag

es.c

om

)

Page 16: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

1616

Astudiaeth achos AdfergorgorsfywAr ein gwarchodfa ar lan Llyn Efyrnwy, mae gwaith ar y gweill i adfer cynefinoedd gorgors ar 2,955 hectar o fewn SDdGA, AGA ac ACA y Berwyn – un o’r safleoedd pwysicaf ar gyfer gorgorsydd yn y DU.

Ymysg y gwaith adfer mae llenwi bron i 100 cilomedr o ddraeniau ar y rhostir i wrthdroi effeithiau draenio, torri Rhododendron a chodi eginblanhigion sbriws Sitca oddi ar 900 hectar. Mae carbon yn cael ei ryddhau o gorsydd wrth iddynt sychu felly gall adfer gorgorsydd drwy eu gwlychu a’u gwarchod gyda llystyfiant fod yn weithred allweddol i leihau gollyngiadau o CO² sy’n achosi newid hinsawdd.

Mae’r gwaith yn rhan o broject ehangach a ariennir gan LIFE Nature yr UE, CCGC, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Dwr Hafren Trent, United Utilities ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ein gwaith ar y warchodfa hefyd yn cynnwys darparu digwyddiadau arddangos a chyngor ar reoli ac adfer cynefin i ffermwyr a chymunedau lleol, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ar ymarfer gorau gydag eraill sy’n gyfrifol am gadwraeth gorgorsydd mewn ardaloedd eraill.

Llyn

Efy

rnw

y tr

wy

gare

dig

rwyd

d L

IFE

Go

rgo

rs C

ymru

(rsp

b-i

mag

es.c

om

) ‘B

od

a tinwyn

gan A

nd

y Hay (rsp

b-im

ages.co

m)

Page 17: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

17

Er bod y gyfraith yn aml yn gwarchod ein safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf, gall defnydd tir amhriodol barhau i beri bygythiad iddynt. Mae RSPB Cymru yn ceisio sicrhau nad yw hyn yn digwydd drwy gyfathrebu gyda datblygwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau drwy waith achos ar y safle a pholisi cynllunio.

Ledled y DU, mae’r RSPB yn gwneud sylwadau ar oddeutu 900 o gynigion ar gyfer defnydd tir bob blwyddyn a allai effeithio ar y mannau gorau i adar a bywyd gwyllt arall. Ymysg y rhain mae ystod eang o weithgareddau yn cynnwys sectorau datblygu allweddol megis cartrefi, diwydiant a chludiant hyd at ynni adnewyddadwy, coedwigaeth, echdynnu dwr a sicrhau rheolaeth briodol ar safleoedd bywyd gwyllt sensitif.

Tra bod RSPB Cymru bob amser yn ceisio amddiffyn y mannau gorau i adar a bywyd gwyllt arall rhag cynigion amhriodol, nid yw yn erbyn datblygiad. Mae RSPB Cymru yn gweithio fwyfwy gyda datblygwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn dod o hyd i atebion i’w pryderon ac osgoi gwrthdaro’n gynnar yn y broses.

Rhan allweddol o’r broses yw cynllunio strategol da, yn enwedig drwy gyfrwng cynlluniau ar gyfer defnydd tir a mentrau tebyg. Mae RSPB Cymru yn ymwneud â chynlluniau strategol allweddol megis Cynlluniau Datblygu Lleol awdurdodau lleol a Chynllun Gofodol Cymru (gweler tudalen 22). Mae sicrhau bod cynllunio lefel uchel fel hyn yn briodol yn sicrhau bod y defnydd tir cywir yn digwydd yn y man iawn ac yn lleihau niwed i fywyd gwyllt a’r amgylchedd – prawf hanfodol i fesur a yw datblygiad yn wirioneddol gynaladwy. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer adfer cynefinoedd coll ar gyfer bywyd gwyllt ac yn helpu i greu mannau bendigedig i bobl eu mwynhau.

Astudiaeth achos NCT8adatganiadoegwyddorionmeistrgynllunioecolegolMae RSPB Cymru yn hynod o gefnogol i ynni adnewyddadwy, a’r egwyddor o fynegiant gofodol ar raddfa genedlaethol o leoliadau sy’n gyffredinol briodol ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir.

Mae Nodyn Cynghori Technegol (NCT) 8 yn amlinellu cyngor Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu ynni adnewyddadwy. Yn gynwysedig yn y NCT mae adran sy’n trafod ffermydd gwynt ar y tir, ac sy’n amlinellu ar raddfa Cymru gyfan saith ‘Ardal Chwilio Strategol’ (AChS), sef yr ardaloedd lle ceir cefnogaeth gyffredinol i ddatblygiad ffermydd gwynt. Cefnogodd RSPB Cymru y broses hon gan nad oedd yn cynnwys ardaloedd a oedd wedi eu hadnabod fel rhai oedd yn bwysig yn rhyngwladol ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae Atodiad D o’r NCT yn nodi bod angen i awdurdodau cynllunio lleol gynhyrchu ‘Astudiaethau Cywreinrwydd’ sy’n cywreinio

terfynau allanol yr AChS. Mae’r ‘Astudiaethau Atodiad D’ yma yn cael eu defnyddio gan awdurdodau cynllunio lleol fel sail ar gyfer arweiniad cynllunio atodol neu arweiniad rheoli datblygiad.

Mae RSPB Cymru wedi gweithredu proses meistrgynllunio ecolegol yn berthnasol i AChS A (‘Coedwig Clocaenog’) yn Sir Conwy a Sir Ddinbych. Yr amcan yw darparu meistrgynllun sy’n seiliedig ar gynefin a rhywogaeth, i’w fabwysiadu gan yr awdurdod cynllunio lleol fel rhan o’r arweiniad cynllunio atodol/arweiniad rheoli datblygiad. Mae hwn yn amlinellu, ar gyfer unrhyw leoliad penodol o fewn neu yng nghyffiniau’r AChS, pa fathau cyffredinol o gynefin ddylai gael eu gwarchod, eu hadfer, neu eu creu. Seiliwyd hyn ar wybodaeth a oedd yn berthnasol i fathau o gynefin sy’n bodoli neu gynefinoedd hanesyddol, ac ar wybodaeth am rywogaethau, a fynegir ar sail 1 cilomedr sgwâr.

Mae hwn wedi ei dderbyn a’i ymgorffori i arweiniad rheoli datblygiad dros dro, a bydd swyddogion awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio yn ystod eu trafodaethau gyda datblygwyr ffermydd gwynt.

Mae’r meistrgynllun hefyd yn trafod y mater o fuddion cymunedol a amlinellir yn y NCT, drwy adnabod parthau sy’n briodol i dderbyn ‘buddion cymunedol amgylcheddol’.

Datblygiad priodol

Map yn dangos parthau cymeriad ecolegol ar gyfer Ardal Clocaenog

RhostirGorgorsGwlyptirFfermdir ConifferaiddConifferau gyda rhosConifferau gyda gwlyptirCoedlannau llydanddail

Allwedd i’r parthau

Page 18: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

1818

Cred RSPB Cymru na all datblygiad fod yn wirioneddol gynaladwy os nad yw asedau naturiol, megis y rhai a ddarperir gan bioamrywiaeth, yn cael eu gwarchod a’u gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yr athroniaeth hon sy’n arwain gweithgareddau’r RSPB yn y wlad hon ac yn rhyngwladol ac mae hi mor berthnasol i bolisïau defnydd tir/môr ag ydyw i bolisïau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd – yr her amgylcheddol fwyaf a wynebwn.

Gwellagwerthtiramôrifywydgwyllt

Ynys D

ewi gan

Ch

ris Go

mersall (rsp

b-im

ages.co

m)

Gw

archo

dfa Llyn

Efyrnw

y yr RS

PB

gan A

nd

y Hay

(rspb

-imag

es.com

)

Page 19: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

19

Cynhesu byd-eang sy’n arwain at newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i fywyd gwyllt ac i ddynolryw ar y ddaear. Oherwydd hyn, mae gweithredu ar newid hinsawdd yn brif flaenoriaeth i RSPB Cymru.

Mae’r RSPB yn cefnogi Protocol Kyoto (y fframwaith rhyngwladol ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd) ac mae hi’n gweithio gyda’r UE a gweinyddiaethau datganoledig y DU i hyrwyddo polisïau a fydd yn cyfyngu ar godiad yn nhymheredd y byd i lai na dwy radd uwchben lefelau cyn-ddiwydiannol. Yn uwch na hyn, mae newid hinsawdd yn debygol o olygu canlyniadau diwrthdro a thrychinebus. Yn y DU, mae’r RSPB yn un o sylfaenwyr Atal Anrhefn Hinsawdd, clymblaid o gyrff amgylcheddol, datblygu, yn ymwneud â ffydd, merched ac undeb, sy’n pwyso ar y Llywodraeth i weithredu ar newid hinsawdd. Ym mis Tachwedd 2006, ymunodd 1,000 o aelodau’r RSPB gyda 25,000 o bobl yn Sgwâr Trafalgar i godi eu llais ar y mater hwn.

I warchod yr hinsawdd, mae RSPB Cymru yn ymgyrchu i sicrhau na fydd mwy o ehangu ar feysydd awyr ac i atal y galw am hedfan. I gyd-fynd â hyn rydym yn hyrwyddo dulliau eraill o deithio ar gyfer ein busnes ein hunain, yn enwedig gyda thrên. Rydym yn eiriol yn egnïol dros ddatblygiad ffynonellau

adnewyddadwy o ynni, ac yn dangos sut y gellir eu datblygu heb beri niwed i fywyd gwyllt. Yn araf bach rydym yn cynyddu’r cyfanswm o ynni a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy ar ein gwarchodfeydd natur ein hunain.

Mae gwarchod coedwigoedd a mawnogydd y byd yn hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ar hyn o bryd mae digoedwigo ei hun yn gyfrifol am bron i bumed rhan o’r gollyngiadau blynyddol o garbon, yn ogystal â dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt unigryw. Mae’r RSPB yn datblygu ac yn eiriol dros bolisïau yn y wlad hon a thramor i warchod y mannau hanfodol, ond bregus, hyn.

Tra’n bod yn ymgyrchu i osgoi newid hinsawdd peryglus pellach, mae rhywfaint o newid eisoes yn anochel. Rydym yn eiriol dros weithredu i helpu bywyd gwyllt i addasu i hyn. Rydym yn egluro ac yn hyrwyddo rôl gwarchodfeydd natur a mannau gwarchodedig eraill fel hafan i fywyd gwyllt. Rydym yn dadlau dros fesurau i sicrhau bod ffermdir yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt, fel bod rhywogaethau yn gallu symud i ddod o hyd i ofod hinsawdd addas. Rydym hefyd yn lobio dros greu arwynebeddau mawr o gynefin newydd, gan gysylltu’r darnau o goetir, rhos neu wlyptir sydd ar ôl, a darparu gofod lle gall bioamrywiaeth wrthsefyll ac addasu i newid hinsawdd.

Prifflaenoriaethauargyfer2007-2008 • Gwireddu ymrwymiadau’r

Strategaeth Amgylcheddol i osod targedau sectoraidd i leihau gollyngiadau o nwyon ty gwydr yng Nghymru ac i gyfrifo’r gollyngiadau o garbon sy’n gysylltiedig â phob polisi cyfredol ac yn y dyfodol19.

• Deddf Newid Hinsawdd y DU gyda tharged o leihau gollyngiadau o CO² o 80% o lefelau 1990 erbyn 2050, gyda tharged o 40% o leihad yn y cyfamser erbyn 2020, yn cynnwys ymrwymiad llawn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y broses o gyllidebu carbon.

• Mwy o ganolbwyntio ar fesurau ac ariannu i hyrwyddo effeithiolrwydd ynni yn y sectorau cartref a busnes, ynghyd ag ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog mesurau i leihau’r galw am ynni, a chamau cyntaf gweithredu’r Cynllun Gweithredu Microgynhyrchu.

• Cynnydd sylweddol tuag at gyfarfod targed 2010 Llywodraeth Cynulliad Cymru o sicrhau bod 10% o drydan Cymru yn dod o ffynonellau o ynni adnewyddadwy, yn cynnwys datblygiad technolegau adnewyddadwy sy’n osgoi effeithiau negyddol ar bioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol.

• Polisïau i helpu bywyd gwyllt i addasu i newid hinsawdd, yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer safleoedd gwarchodedig, adnoddau i reoli mewn dull cynaladwy ein cefn gwlad sy’n cael ei amaethu a rhaglen o greu cynefin i ddarparu gofod fel bod rhywogaethau yn gallu gwrthsefyll ac addasu i newid hinsawdd.

• Diwedd ar gymhorthdal cyhoeddus i’r gwasanaeth awyr o fewn Cymru a dim cynlluniau pellach ar gyfer ehangu meysydd awyr nes bydd y Llywodraeth yn gallu dangos na fydd teithio awyr yn golygu na fydd targedau i leihau gollyngiadau yn cael eu sicrhau.

Atal anrhefn hinsawdd

Aw

yren

yn

gla

nio

gan

Sh

aun

Lo

we

(sto

ckp

ho

to.c

om

)

Cyfeiriadau: 19 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynllun Gweithredu Strategaeth Amgylchedd 2006, Gweithred 1 a 2

Page 20: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

2020

Mae llawer o rywogaethau a fu â dosbarthiad eang ar un cyfnod yn ein cefn gwlad a amaethir wedi prinhau’n sylweddol dros yr ychydig o ddegawdau diwethaf. Mae RSPB Cymru yn gweithio gyda’r gymuned amaethyddol a Llywodraeth Cynulliad Cymru i adnabod dulliau o gefnogi ffermwyr sy’n rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig ac annog mwy o reolwyr tir i gymryd y camau angenrheidiol i adfer bioamrywiaeth coll.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgymryd ag adolygiad llawn o’r mesurau amaeth-amgylcheddol a rheolaeth-tir yn ei Rhaglen Datblygu Gwledig yn 2007. Bydd mesurau newydd i fynd i’r afael â phrinhad rhywogaethau â blaenoriaeth, adfer cynefin ar raddfa fawr a chreu gwlyptir newydd yn elfennau allweddol i’w hintegreiddio i’r cynlluniau newydd. Bydd mesurau i gefnogi ffermwyr yr ucheldir sy’n sicrhau buddion amgylcheddol hefyd yn bwysig oherwydd mae’n debyg y bydd y cynllun Tir Mynydd yn debygol o ddirwyn i ben yn y tymor hir. Y ffactor allweddol i lwyddiant yr holl gynlluniau hyn yw’r arian fydd ar gael ac mae RSPB Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu cefnogaeth i bob ffermwr sy’n dymuno ymuno â chynlluniau amaeth-amgylcheddol fel y flaenoriaeth bwysicaf.

Ar lefel yr UE cynhelir cyn bo hir dau adolygiad arwyddocaol o’r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC). Bydd ‘Prawf Iechyd y PAC’ fydd yn digwydd yn 2007/2008 yn ymdrin â gweithredu’r polisi presennol. Dilynir hyn, yn 2009, gan adolygiad a fydd yn penderfynu ar ffurf y PAC wedi 2013. Mae’r ddau adolygiad hwn yn cyflwyno cyfleoedd arwyddocaol i ddylanwadu ar ddyfodol cefnogaeth wledig er mwyn sicrhau gwell amgylchedd.

Bydd RSPB Cymru, drwy gydweithio gyda Phartneriaid BirdLife International ledled yr UE, yn eiriol dros lefel uchel o fodiwleiddio gormodol ac am godi arian i gefnogi ffermio sy’n sicrhau buddion i’r amgylchedd ym mhob gwlad. Gwelwn hwn fel cam hanfodol – ehangu cynlluniau datblygiad gwledig fel rhan o baratoi ar gyfer diwedd anochel cymorthdaliadau traddodiadol. Bydd hyn yn darparu ffermwyr a gweinyddwyr gyda cham arall tuag at ddiwygiad mwy sylfaenol o’r PAC, a’n gobaith yw y bydd y gyllideb gymhorthdal draddodiadol (piler 1) yn cael ei chynnwys o dan fesurau datblygiad gwledig (piler 2). Byddai’r Gronfa Datblygiad Gwledig hon yn sicrhau ymrwymiadau ar gyfer defnydd tir cynaladwy o ran bwyd, tanwydd, gwasanaeth ecosystemau, bioamrywiaeth ac economi gwledig cynaladwy.

Prifflaenoriaethauargyfer2007-2008 • Cynllun Tir Gofal wedi ei ariannu’n

ddigonol i sicrhau bod pob ffermwr sy’n dymuno gwneud hynny yn gallu ymuno â’r cynllun o fewn tair blynedd.

• Gwell canolbwyntio ar gynlluniau amaeth-amgylcheddol i sicrhau eu bod yn wir werthfawr o ran rhywogaethau â blaenoriaeth.

• Cynllun ‘haen uchaf’ newydd ar gyfer tir comin a gwireddu gweithredu ar y cyd ar draws terfynau ffermydd a sicrhau adfer a chreu cynefin drwy’r holl dirwedd yn enwedig ardaloedd o wlyptir.

• Mecanweithiau newydd i gefnogi ffermwyr yr ucheldir sy’n sicrhau buddion amgylcheddol yn lle’r hen gynllun Tir Mynydd.

• Modiwleiddio cynyddol i ariannu datblygiad cynlluniau amaeth-amgylcheddol sydd wedi eu cynllunio a’u targedu’n dda.

Diwygio amaethyddiaeth

Petr

isen

gan

Ch

ris

Kn

igh

ts (

rsp

b-i

mag

es.c

om

) C

nwd

yd ar fferm

dir âr gan

An

dy H

ay (rspb

-imag

es.com

)

Page 21: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

21

AsesiadAmgylcheddolStrategolArf yw’r Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) ar gyfer rhagweld, gwerthuso a lliniaru effeithiau amgylcheddol cynlluniau a rhaglenni drafft cyn iddynt gael eu mabwysiadu. Rhoddwyd sail gyfreithlon i’r Asesiad yn yr UE pan gwblhawyd Cyfarwyddyd AAS (2001/42/CE) yn 2001, ac yn 2004 yn y DU pan fabwysiadwyd rheoliadau gweithredu.

Mae AAS yn cyd-fynd ag Asesiadau Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a gwblheir ar gyfer projectau. Mae’n gallu adnabod bygythiadau a chyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth ar y lefel strategol, pan fod dewis mwy amgylcheddol gynaladwy ar gael. Gall hefyd fynd i’r afael yn effeithiol ag effeithiau cronnol, megis colli cynefin, sy’n llawer mwy anodd ar lefel project.

Mae RSPB Cymru wedi magu cryn enw da oherwydd ei gwybodaeth am AAS a’i harbenigedd. Ein hamcan yw gwella ansawdd ymarfer AAS yn y DU ac mewn mannau eraill, ac yn arbennig i sicrhau bod effeithiau bioamrywiaeth cynlluniau a rhaglenni

yn cael eu hadnabod, eu gwerthuso a’u lliniaru’n briodol.

Sicrheir hyn yn strategol, drwy hyrwyddo ymarfer da i ymarferwyr, y llywodraeth ac ymgynghorwyr statudol, ac ar sail achos-wrth-achos, drwy gynghori awdurdodau unigol a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau.

Mae RSPB Cymru yn hyrwyddo ymarfer da drwy gynhyrchu arweiniad AAS, annerch mewn cynadleddau, prifysgolion a chyrsiau hyfforddi proffesiynol, a chyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion proffesiynol.

Cyhoeddwyd llyfryn o astudiaethau achos AAS gan yr RSPB yn 2007 yn dangos sut mae AAS yn gallu helpu i wella’r broses o greu cynlluniau. Yn anffodus, ni ddaethpwyd o hyd i enghreifftiau o Gymru y gallai ymgynghorwyr annibynnol eu nodi fel enghreifftiau gorau o ymarfer da. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd codi proffil AAS yng Nghymru ac ysbrydoli pobl i chwilio am y budd mwyaf o’r broses hon.

Mae RSPB Cymru yn cymryd rhan yn AAS fel ymgynghorydd anstatudol, ac mae staff cadwraeth ledled y DU wedi eu hyfforddi a’u cefnogi i’w helpu i ddeall AAS ac i gymryd rhan ymarferol yn y broses.

Gw

arch

od

fa n

atu

r C

ors

ydd

Rai

nh

am g

an A

nd

y H

ay (r

spb

-imag

es.c

om

) Tro

ellwr m

awr gan

Mike R

ichard

s (rspb

-imag

es.com

)R

ho

stir gan A

nd

y Hay (rsp

b-im

ages.co

m)

Page 22: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

2222

Yn 2004, cyhoeddwyd Cynllun Gofodol Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel fframwaith strategol i arwain datblygiad yn y dyfodol ac ymyriadau polisi. Yn ogystal â cheisio arwain gweithrediadau economaidd, mae’r cynllun gofodol hefyd yn anelu at ddarparu gwarchodaeth a chyfleoedd amgylcheddol. Mae RSPB Cymru yn credu bod darparu’r agwedd hon o’r cynllun gofodol yn brawf allweddol o ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu cynaladwy.

Rydym yn pryderu nad yw Strategaeth Amgylchedd Cymru a gyhoeddwyd y llynedd yn cynnwys elfen ofodol ac nid yw’n amlwg o gwbl sut y bwriedir gweithredu’r canlyniadau amgylcheddol a amlinellir yn y strategaeth hon drwy gyfrwng y Cynllun Gofodol. Mae’n bwysig sicrhau bod y ddwy strategaeth yn gyson. Mae perygl y gallasai’r Cynllun Gofodol hyrwyddo gollyngiadau cynyddol o CO² a datblygiadau sy’n rhoi mwy o bwysau ar fywyd gwyllt, tra bod adrannau eraill y Llywodraeth yn ceisio gwrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth.

Mae RSPB Cymru, drwy gyfrwng y rhwydwaith o gyrff amgylcheddol o’r enw Cyswllt Amgylchedd Cymru, wedi bod ar flaen y gad o ran hyrwyddo ac adnabod cyfleoedd

Cynllun Gofodol Cymru

amgylcheddol i grwpiau ardal y Cynllun Gofodol.

Rydym wedi ceisio hyrwyddo’r materion allweddol canlynol ar lefel y cynllun gofodol ardal:

• dylai cynlluniau gofodol ardal fod yn strategol eu natur, gan nodi blaenoriaethau ac egwyddorion yn hytrach na cheisio cymeradwyo projectau neilltuol

• dylai cynllunio gofodol geisio adnabod meysydd sy’n cynnig cyfleoedd amgylcheddol a meysydd o gyfyngiad amgylcheddol

• mynegiant gofodol cenedlaethol o’r Strategaeth Amgylchedd i sicrhau cydlyniad a pharhad rhwng y strategaethau amgylcheddol gofodol sy’n cael eu datblygu ar lefel ardal. Dylai datblygiad strategaethau amgylcheddol gofodol gadarnhau, adeiladu ar a chysylltu gwaith sy’n bodoli eisoes yn ymwneud â CGB a mentrau rheolaeth y tirlun cyfan

• rhaid i waith cynllunio gofodol ardal a chenedlaethol gael ei archwilio’n fanwl gan Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS)

• fel dogfennau strategol sy’n llunio polisi cynllunio a buddsoddiad cyhoeddus, dylai Cynllun Gofodol Cymru a chynlluniau ardal fod yn atebol i brosesau mwy grymus o archwiliad, ymrwymiad a dilysiad cyhoeddus. Mae angen gwell cydlynu a dull cyson o weithredu rhwng Grwpiau Ardal a gwaith cenedlaethol.

Glyn

Eb

wy gan

An

dy H

ay (rspb

-imag

es.com

)

Page 23: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

23

Gwarchod y blaned las

Mae ein moroedd, ein harfordir a’n haberoedd yn fannau hanfodol bwysig i fywyd gwyllt. Bob blwyddyn daw degau o filoedd o adar môr i lannau Cymru i nythu, o’r pâl a’r fôr-wennol i’r nythfa drawiadol o huganod ar Ynys Gwales (uchod). Mae’r môr o amgylch Cymru hefyd yn fan bwydo i adar sy’n bwysig yn rhyngwladol fel aderyn drycin Manaw a’r fôr-hwyaden ddu. Mae hi’n ddyletswydd cenedlaethol a rhyngwladol arnom i warchod ein hadar môr a bywyd gwyllt arall y môr – yn gyfreithlon ac yn foesol. Mae’r adar hyn yn wynebu llawer o fygythiadau i’w goroesiad ar y môr, yn benodol gan bysgodfeydd, colli cynefin bwydo neu fwyd, o ddatblygiad cynyddol ar y môr a hefyd drwy gael eu dal mewn sbwriel a llanastr morol neu o ganlyniad llygredd megis olew a chemegau.

Mae RSPB Cymru yn croesawu cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer Mesur Morol. Mae’r cynigion yn cynnwys cyflwyno system gynllunio ar y môr, gwarchod bioamrywiaeth drwy ardaloedd morol gwarchodedig ac amcanion ecosystem y bydd raid i reolyddion helpu i’w sicrhau. Byddwn yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod pecyn deddfwriaethol cynhwysfawr yn San Steffan a Chaerdydd yn sicrhau gwelliannau o safbwynt bywyd gwyllt y môr.

Prifflaenoriaethauargyfer2007-2008 Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros gyflwyniad Mesur Morol y DU yn 2007 sydd ag:

• amcanion clir – rhaid cysylltu statws amgylcheddol da i’r môr gyda gwarchodaeth ac adfer bioamrywiaeth ac ecosystemau; cael gwared ar lygredd a sicrhau defnydd cynaladwy o adnoddau

• ardaloedd gwarchodedig morol a mesurau gorfodaeth priodol – arf allweddol mewn sicrhau cadwraeth ac adferiad bioamrywiaeth

• system statudol o gynllunio gofodol morol y gellir ei gorfodi yn seiliedig ar ddull o weithio gyda moroedd rhanbarthol

• dyletswydd statudol o ofal dros amgylchedd morol Cymru gyfan.

Gw

archo

dfa n

atur Y

nys Gw

ales gan Jo

hn

Arch

er Th

om

pso

n (rsp

b-im

ages.co

m)

Hu

gan

gan

An

dy

Hay

(rs

pb

-im

ages

.co

m)

Page 24: Eiriolaeth RSPB Cymru 2007–2008...4 4 Prif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008 I sicrhau gwir gynnydd tuag at ddod â cholledion mewn bioamrywiaeth i ben erbyn 2010, mae angen gweithredu

2424

RSPBCymruPencadlysTySutherland,Pontycastell,HeolDdwyreiniolyBont-faen,CaerdyddCF119ABFfôn:02920353000

Swyddfa Gogledd CymruMaesyFfynnon,Penrhosgarnedd,Bangor,GwyneddLL572DWFfôn:01248363800

Amragorowybodaethargynnwysyradroddiadhwn,ffoniwchunrhywuno’[email protected]

Clawrblaen:XXXXXXXXXXXXXXXXX

ElusengofrestredigLloegraChymrurhif207076,YrAlbanrhifSCO37654 020-0885-06-07

MaeRSPBCymruynrhano’rRSPB,yr

elusensy’ngweithioledledyDUisicrhau

amgylcheddiachiadarabywydgwyllt,gan

helpuigreugwellbydibawb.Rydymyn

aelodoBirdLifeInternational,ybartneriaeth

fyd-eangogyrffcadwraethadar.

www.rspb.org.uk/cymru

Fel elusen, er mwyn gweithredu gwaith polisi, eiriolaeth a chadwraeth, mae RSPB Cymru yn dibynnu ar ewyllys da a chefnogaeth ariannol pobl fel chi. Os hoffech ymuno â’r RSPB, neu gyfrannu at ein gwaith, ewch i www.rspb.org.uk/supporting neu ffoniwch 029 2045 3000 am fwy o wybodaeth.