erw · web viewmae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae...

24
Adolygiad o Gynnydd o ran Datblygu System Ysgolion sy’n Hunan-Wella yn ERW Mawrth 2016

Upload: others

Post on 23-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Adolygiad o Gynnydd o ran Datblygu System Ysgolion sy’n Hunan-Wella yn ERW

Mawrth 2016

Page 2: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Adolygiad o Gynnydd o ran Datblygu System Hunan-Wella

Cynnwys

Cyflwyniad

1.1 Gwaith ysgol i ysgol1.2 Strwythurau cydweithredol - cyflwyniad byr

a) Triadau b) Partneriaethau c) Manteision estynedig defnyddio Cotswold d) Ysgolion Arweiniol ac Ysgolion Datblygol - Ysgolion Arbennig

1.3 Ysgolion Dysgu Proffesiynol - cyflwyniad byra) Ysgolion Arloesi b) Ysgolion Arweiniol ITM

Celfyddydau Creadigol HWB + Technoleg Ddigidol

1.4 Ysgolion Dibynadwyedd Uchel 1.5 Mynegai Uniondeb Uchel 1.6 Cymorth Uniongyrchol ar gyfer Sefyllfa Gritigol 1.7 Ffederasiynau 1.8 Cymorth wedi’i frocera1.9 Rhyddhau ymarferwyr arweiniol

a) Arweinwyr Dysgub) Arweinwyr Asesu c) Defnyddio Penaethiaid fel rhan o CV1 d) Lleihau amrywiad o fewn ysgol

1.10 Datblygiad Proffesiynol a) Y Fargen Newydd b) Addysg Gychwynnol i Athrawon c) Rhaglen Athrawon Rhagorol

Casgliad

Page 3: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Cyflwyniad

Gweledigaeth ERW yw rhwydwaith ysgolion sy'n perfformio'n gyson uchel ar draws y rhanbarth gyda phob ysgol yn ysgol dda sy'n cynnig safonau uchel o addysgu dan arweinyddiaeth dda gan arwain at yr holl ddysgwyr yn cyflawni eu llawn botensial.

Mae manteision gweithio ar y cyd wedi’u nodi’n dda ac maent yn amlwg: gall mynediad at ystod eang o arfer proffesiynol arwain at ddeilliannau gwell ar gyfer disgyblion, gydag effeithlonrwydd dilynol o ran amser ac arian. Mae hyn yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar hwyluso gwell systemau, gan godi morâl ac adeiladu mwy o allu arweinyddol.

I sbarduno system hunan-wella, mae’r ddogfen Strategaeth Ysgolion sy’n Hunan-Wella 2015 - 18 yn tynnu sylw at yr amcanion trosfwaol. Mae'r adolygiad hwn yn edrych ar y cyntaf o'r amcanion hynny: 'Er mwyn adeiladu seilwaith effeithiol ac effeithlon ar gyfer adeiladu model hunan-wella sy’n cynnal'

Mae'r broses wedi esblygu i ddarparu seilwaith sy'n sefydlu ymagwedd gydweithredol, gyda chyfleoedd i frocera agweddau priodol o hunan-wella. Cefnogir hyn gan ymrwymiad gan ERW i ddirprwyo cyllid rhanbarthol yn uniongyrchol i ysgolion er mwyn hwyluso'r broses o rannu arfer gorau. Mae'n bosibl nodi cydweithio yn uniongyrchol fel ffactor sy'n cyfrannu pan fydd ysgolion yn gwella a thros amser gellir dadansoddi’r effaith ar ddeilliannau dysgwyr.

Cenhadaeth ERW yw sicrhau perfformiad effeithiol ym mhob ysgol ar draws y rhanbarth trwy:

herio’n gadarn ac yn gyson berfformiad ysgolion a'r canlyniadau a gyflawnir gan eu holl ddysgwyr datblygu system wahaniaethol o gymorth proffesiynol i ysgolion yn gymesur â'r angen sydd wedi'i

nodi trwy fframwaith asesu a chategoreiddio a gytunwyd yn genedlaethol a gymhwysir yn gyson ar draws y rhanbarth

cefnogi'r defnydd o strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr ac i wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr dan anfantais

hwyluso a datblygu cymorth ysgol i ysgol effeithiol er mwyn gwella perfformiad a chanlyniadau drwy ddatblygu ymarferwyr arweiniol profiadol a llwyddiannus

rheoli a defnyddio Ymgynghorwyr Her wedi’u hyfforddi'n dda ar draws y rhanbarth ac o fewn yr hybiau i herio perfformiad a chyfeirio at gymorth perthnasol priodol

sbarduno ymyriadau ffurfiol mewn ysgolion sy'n methu â pherfformio i'r safon ofynnol

Mae gwelliant dan arweiniad yr ysgol yn egwyddor graidd drwy’n holl waith ac mae wedi'i wreiddio ym mlaenoriaethau ein Cynllun Busnes.

1.1. Gwaith ysgol i ysgol (YiY)

Page 4: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Mae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu o sylfaen gadarn lle mae gennym ganran uwch o ysgolion ac agweddau o fewn ysgolion yr ystyrir eu bod yn ardderchog gan Estyn yn ein rhanbarth nag yng ngweddill Cymru.

Serch hynny, rydym yn cydnabod bod gwaith ysgol i ysgol yn gofyn am lefelau uchel o allu i gyflawni'r gwelliannau gofynnol o fewn y system. Yn ogystal, rydym yn gwybod bod angen màs critigol uwch o ragoriaeth na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, rydym yn gweithio'n systematig i adeiladu gallu ar lefel ysgolion i hunan-wella drwy:

lunio mynegai uniondeb uchel o lle mae'r arfer gorau fel y gallwn frocera’r cymorth YiY gywir yn systematig

rhoi adnoddau i ysgolion er mwyn rhyddhau eu hymarferwyr effeithiol fel y gallwn adeiladu’n gyflym y gallu sydd ei angen i gynnal gwaith ysgol i ysgol

esblygu rhaglen DPP cynhwysfawr ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion i gryfhau eu sgiliau ar gyfer ymgysylltu a gwella rhwng ysgolion ac oddi mewn iddynt

defnyddio'r Model Categoreiddio Cenedlaethol newydd i frocera’r cymorth YiY gywir lle bo angen fel rhan o'r Ddewislen Cymorth, Her ac Ymyrraeth Ranbarthol

uwchsgilio Ymgynghorwyr Her i fod yn froceriaid effeithiol o ran gwella o fewn ysgol mynd ati i ddylanwadu a newid cydbwysedd y gweithlu ymgynghorwyr, er mwyn cynnwys

cydbwysedd addas o arweinwyr ysgolion presennol ac ymgynghorwyr arbenigol.

Yn ychwanegol at y gwaith craidd uchod, rydym hefyd yn cydnabod bod ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd o ddydd i ddydd, gan adeiladu ar draddodiad o ymgorffori a rhannu arfer. Rydym hefyd yn cyflwyno rhai agweddau neu brosiectau penodol ar ein gwaith drwy welliant dan arweiniad ysgolion neu YiY.

1.2 Strwythurau cydweithredol, ee rhwydweithiau, triadau, clystyrau, partneriaethau a chadwyni. Un o nodweddion cyffredin y strwythurau hyn yw eu bod yn cynnwys dwy neu ragor o ysgolion yn dod at ei gilydd ar gyfer diben y cytunwyd arno

a) Rhaglen driadau ysgol i ysgolDiben craidd Rhaglen Driad i Ysgolion ERW yw cefnogi gwella ysgolion mewn modd llawn ffocws, sy’n effeithiol ac yn ymarferol. Mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu trwy amrywiaeth o 'Driadau Ysgolion' sy'n dod â grwpiau o ysgolion (sy’n rhannu blaenoriaethau gwella tebyg) gyda'i gilydd mewn partneriaeth ag 'Ysgol Arweiniol.' Tasg y Triad yw canolbwyntio ar feysydd penodol o wella ysgolion yn dilyn dadansoddiadau fforensig fel y nodir isod. Mae’r 'Ysgol Arweiniol' yn ysgwyddo rôl hwylusydd y prosiect ond mae hefyd yn cymryd rhan yn llawn o fewn gweithgaredd y grŵp. Y thema allweddol ar draws y gwaith yn 'cyd-gymorth' wedi’i gefnogi gan arweinyddiaeth effeithiol.

Nodweddion allweddol

Mae ein dull Triad yn seiliedig ar adnabod a chydnabod blaenoriaethau gwella ysgolion unigol yn glir trwy:

Page 5: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

dadansoddiad o dueddiadau data perfformiad yr ysgol (y proffil tair blynedd diweddaraf) dadansoddiad o arweinyddiaeth a darpariaeth (cryfderau a meysydd i'w gwella) dadansoddiad o nodweddion a chyd-destun pob ysgol (gan ganolbwyntio yn uniongyrchol ar y cyfle

a'r potensial i sicrhau effaith ac effeithiolrwydd drwy gydweithio)

Ar hyn o bryd mae gennym 11 o driadau sy'n cynnwys 32 o ysgolion ar wahanol gamau gweithredu ar draws y rhanbarth.

Y cynnydd Hyd yn Hyn

Mae'r model rhaglen Triadau yn esblygu o fewn ein hysgolion. Ar hyn o bryd mae triadau yn gweithredu ystod o strategaethau i gefnogi’r meysydd canlynol:a) gwella arweinyddiaeth ysgolionb) datblygu llythrennedd a rhifedd (ysgol gyfan / Cyfnodau Allweddol penodol)c) codi safonau mewn darllen ac ysgrifennu Cymraegd) cryfhau hunan-arfarnu a gwella ansawdde) datblygu meysydd penodol o arfer ee Asesu ar gyfer Dysgu, darpariaeth MAT ac ati f) datblygu'r cwricwlwmg) gwella effeithiolrwydd Rheolwyr Canol

Pan gafodd y rhaglen ei sefydlu, roedd yn ymateb i symudiad tuag at weithio ysgol i ysgol. Roedd ysgolion yn cysylltu ar sail eu meysydd ffocws ar gyfer gwelliant. Fodd bynnag, ni chafodd y meini prawf llwyddiant ar gyfer pob triawd eu gwneud yn glir ar y pryd ac nid yw'r rhaglen wedi cael ei monitro a'i gwerthuso’n ddigonol hyd yn hyn. Byddai ysgolion o bosibl wedi gweithio gyda'i gilydd beth bynnag o ganlyniad i rwydweithio'n lleol, na fyddai efallai wedi rhoi’r cyfle mwyaf posibl ar gyfer lledaenu arfer gorau. Mae systemau a phrosesau o fewn ERW wedi datblygu'n sylweddol ac felly mae’r rhanbarth yn awr mewn sefyllfa gryfach i fynd i'r afael â'r diffyg hwn a rhoi pwyslais priodol ar yr effaith ar ddeilliannau disgyblion a gwerth am arian. Mae'r rhanbarth yn awr mewn sefyllfa fwy aeddfed ac mae ganddo drefniadau clir ynghylch sut a pham y mae ysgolion yn cael eu cefnogi neu eu comisiynu i gydweithio. Er ein bod yn nodi rhai diffygion, llwyddodd tua hanner y triadau i ennill profiadau defnyddiol a pherthnasol a rhoddwyd cyfleoedd i athrawon weithio gyda chymheiriaid ac i rannu eu gwaith. Yn yr enghreifftiau llwyddiannus hyn, arweiniodd hyn at fwy o hyder i athrawon a rhannwyd strategaethau effeithiol ar lefel adrannol neu gyfnod. (Ee QEH ac Emlyn).

b) Partneriaethau:Diben craidd creu partneriaethau effeithiol yw creu cysylltiadau sydd o fudd i bob partner fel ei gilydd. Mae hon yn elfen hanfodol o weithio ysgol i ysgol ac o wella ysgol parhaus a pharhaol. Mae partneriaethau effeithiol yn cymryd amser ac ymdrech i’w sefydlu a’u mireinio er mwyn i’r broses ddod yn un ddwy ffordd gilyddol i greu effaith gadarnhaol.

Nodweddion allweddol

Page 6: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Cyfrifoldeb ar y cyd ar gyfer gwella deilliannau yn y ddwy ysgol Perthynas gilyddol gefnogol, yn enwedig rhwng staff uwch ar draws yr ysgolion partner Cyfranogiad ar wahanol lefelau o'r sefydliadau Defnyddio gwahaniaethau i herio ffyrdd o feddwl ac ymarfer Cynnwys person o’r 'tu allan' a all helpu i hwyluso, monitro a chefnogi cydweithredu Mae'r ffocws ar adeiladu gallu o fewn yr ysgolion i sicrhau gwelliant parhaus

Y cynnydd hyd yn hynAr hyn o bryd mae nifer o ysgolion ar draws y rhanbarth yn gweithio mewn partneriaeth. Mae enghreifftiau'n cynnwys y rhai sy'n ymwneud â Her Ysgolion Cymru (HYC), a gynlluniwyd i sicrhau bod rhai o'r ysgolion uwchradd yn y rhanbarth sy’n wynebu’r heriau mwyaf yn gallu cyflawni gwella ysgol sylweddol a dod yn ysgolion llwyddiannus, ac yn y rhaglenni Her Ysgolion Cymru Estynedig (HYCE), a gynlluniwyd i sicrhau bod ysgolion uwchradd sy’n wynebu heriau yn cael eu cefnogi yn ariannol a thrwy gydweithwyr sy’n ymgynghorwyr o ysgolion llwyddiannus i wella deilliannau trwy adeiladu gallu ar bob lefel o addysgu ac arweinyddiaeth. Roedd yr ychwanegiad hwn at y rhaglen HYC graidd yn fenter benodol gan ERW i gydnabod nad yw llawer o ysgolion yn y rhanbarth yn cael eu cynnwys yn y rhaglen genedlaethol er gwaethaf wynebu llawer o heriau.Mae cysylltu ysgolion HYC a HYCE gyda phartneriaid cymorth wedi cynhyrchu cryn dipyn o ddeialog broffesiynol, rhannu syniadau a datblygu mentrau i gefnogi gwella ysgolion. Er enghraifft, mae cysylltu ysgol Cefn Hengoed gydag Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt (rhaglen HYCE) wedi cael effaith sylweddol ar nodi meysydd i'w gwella a strategaethau clir i ymdrin â'r meysydd hynny. Yn yr un modd, mae Bryn Tawe wedi cysylltu gydag Ysgol Aberdaugleddau (rhaglen HYC) ac mae hyn wedi arwain at fabwysiadu a defnyddio system dracio gadarn sydd wedi galluogi'r ysgol i fonitro cynnydd disgyblion a nodi â sicrwydd y rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Wrth i’r bartneriaeth symud yn ei blaen, bydd angen ystyried yn ofalus pa ysgolion sy’n gweithio mewn partneriaeth â'i gilydd er mwyn sicrhau'r budd mwyaf. Mewn rhai achosion cyfredol, ni chafodd y cysylltiadau gorau posibl eu gwneud o reidrwydd, ac ni nodwyd meini prawf ar gyfer canlyniadau llwyddiannus. Cafodd meini prawf a disgwyliadau eu gosod allan yn fwy eglur ar gyfer y rhaglen HYCE, ond bu amrywiaeth yn nulliau’r ysgolion ategol. Mae'r gwerthusiad hwn wedi canfod lle mae arweinwyr ysgol yn gwybod yn dda beth i'w wneud gydag adnoddau ychwanegol ac yn ymgysylltu’n dda gydag ysgolion eraill, mae disgyblion yn elwa (Cefn Saeson / Cymer). Mae cynyddu capasiti mewn mannau allweddol o fewn yr uwch dîm arweinyddiaeth wedi caniatáu i’r rhan fwyaf o'r ysgolion hyn ddangos effaith.

c) Manteision estynedig defnyddio Ysgol Gefnogi ar draws y rhanbarthMae'r llinyn hwn wedi esblygu’n uniongyrchol o ganlyniad i gyfranogiad Ysgol Gefnogi yn y Rhaglen Her Ysgolion Cymru Estynedig. Nododd proffil Ysgol Cotswold yn Swydd Gaerloyw yr ysgol fel un a oedd yn bartner Ysgol Gefnogi posibl ar gyfer ysgolion penodol yn y rhanbarth. Roedd Ysgol Cotswold yn wreiddiol yn cymryd rhan gyda 3 o'r ysgolion HYCE, y gall pob un ohonynt yn awr ddangos effaith gadarnhaol o ganlyniad i'r bartneriaeth. Mae’r ysgolion a gymerodd rhan yn dweud bod y cyswllt hwn wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf arwyddocaol yn eu taith wella - ee "Mae'r

Page 7: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

prosiect Cotswold wedi agor drysau i ni yn Ysgol Bro Gwaun. Mae'r ymweliadau addysgiadol a’r gweithdai ymarferol wedi bod yn allweddol wrth rannu arfer da ar draws yr ysgolion. Mae wedi codi hyder ac ymwybyddiaeth staff, ac yn caniatáu i bawb arbrofi gyda thechnegau a syniadau newydd er mwyn symud yr ysgol ymlaen ar ei thaith". (Nerys Nicholas, Pennaeth). "Mae'r cyswllt rhwng Ysgol Dyffryn Aman ac Ysgol Cotswold wedi bod yn hynod bwysig mewn nifer o feysydd. Mae cyfuno adnoddau a syniadau mewn meysydd allweddol o'r cwricwlwm, sef Mathemateg a Saesneg wedi galluogi staff i ddefnyddio’r adnoddau hyn yn llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r cyfle i ymweld ag ysgolion ac ystafelloedd dosbarth ac i rannu ym mhrofiadau dysgu y disgyblion a'r staff wedi bod yn fonws go iawn oherwydd y meysydd eang sydd wedi cael eu cynnwys. Mae'r cydweithrediad agored rhwng yr holl ysgolion wedi bod yn chwa o awyr iach oherwydd heb os mae hyn wedi arwain at ddeialog sydd wedi galluogi rhannu a threialu sefyllfaoedd. Mae wedi bod yn brofiad hynod werthfawr yn gyffredinol - yn academaidd, o ran gofal bugeiliol ac o ran systemau". (Steve Perks, Pennaeth).

Er mwyn cryfhau agweddau penodol ar wella ysgolion mewn meysydd sy'n peri pryder, cafodd y cyswllt gydag Ysgol Cotswold ei ymestyn i Awdurdod Lleol er mwyn i'r manteision gael eu rhannu ar sail ehangach.

Nodweddion Allweddol: Perthnasoedd cefnogol cilyddol Ffocysau penodol i dargedu meysydd datblygu a nodwyd Dulliau a negeseuon cyson i gefnogi deialog broffesiynol ar draws yr Awdurdod Dull anfeirniadol at rannu strategaethau profedig

Y cynnydd hyd yn hynMae nifer o arweinwyr canol ac uwch wedi elwa o’r cysylltiad. Mae staff o Ysgol Cotswold wedi cyfrannu at gyrsiau hyfforddiant o fewn y rhanbarth. Mae hyn wedi cryfhau'r rheolaeth uwch a chanol yn yr ysgolion dan sylw, hwyluso mwy o gysondeb a galluogi ysgolion rhanbarthol i ddatblygu rhwydweithiau a phartneriaethau effeithiol a adeiladwyd o gwmpas agweddau penodol i yrru gwella ysgolion. Roedd pryder cychwynnol y gallai'r pellter daearyddol wneud unrhyw gysylltiad effeithiol yn anymarferol, ond nid yw hyn wedi bod yn wir. Mae'r potensial i barhau a datblygu’r cyswllt hwn yn amlwg a dylid ei ddilyn. Gallai hyn arwain at nodi ysgolion ychwanegol y tu allan i Gymru i gyfrannu at ein taith gwella ysgolion.

1.3 Ysgolion Dysgu Proffesiynol Diben craidd Ysgolion Dysgu Proffesiynol (YDP) yw datblygu meysydd o arfer rhagorol neu arloesedd mewn sawl agwedd ar fywyd yr ysgol ac i rannu hyn gydag ysgolion ar draws y rhanbarth. Mae ERW yn ymrwymedig i gynnwys penaethiaid mewn YDP mewn ystod eang o wella ysgolion, arweinyddiaeth, arloesi a dysgu proffesiynol. Erbyn 2018 rhagwelir y bydd nifer sylweddol o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig ledled ERW yn cael eu nodi fel YDP mewn o leiaf un agwedd sylweddol o'u gwaith. Bydd ysgolion YDP

Page 8: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

yn cael eu categoreiddio fel rhai Gwyrdd neu Felyn drwy'r system Categoreiddio Cenedlaethol (o bosibl Ambr ar gyfer llinynnau penodol). Bydd ganddynt hanes profedig ardderchog o hunan-wella parhaus, gwaith partneriaeth effeithiol gyda chlwstwr, teulu neu ysgolion eraill a ffocws ar gefnogi gwella ysgol. Gall ysgolion YDP gael mynediad at gyllid i gefnogi eu gwaith

a)Ysgolion Arloesi - i ddatblygu strategaethau cenedlaethol i gyd-fynd â datblygu’r Fframwaith Cymwyseddau Digidol newydd, gweithredu Cwricwlwm Donaldson a sicrhau’r Fargen Newydd ar gyfer y gweithlu addysgol.

b)Ysgolion Arweiniol - Ieithoedd Tramor Modern (ITM) i arwain, hyrwyddo a gweithredu datblygu

strategaethau arloesol wrth ymgysylltu ysgolion yn y dulliau o gyflwyno ITM. Mae'r llinyn Dyfodol Byd-eang yn anelu at hyrwyddo a chodi proffil ITM a'i botensial o ran gyrfa, gan adeiladu gallu ymysg y gweithlu addysgol a darparu gwell cyfleoedd i ddysgwyr. Hyd yma, mae dros 300 o ddisgyblion mewn 45 ysgol ar draws ERW wedi cael eu hyfforddi fel Llysgenhadon Dyfodol Byd-eang ac mae 72 o athrawon o 33 o ysgolion wedi mynychu gweithdai TGAU. Mae hyfforddiant wedi ei roi i SLAs ac mae ysgolion arweiniol wedi creu gwersi mewn cydweithrediad â PCYDDS. Ar hyn o bryd mae'r llinyn yn cwmpasu B5 i B11 ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y nifer sy’n astudio’r pynciau ar gyfer TGAU. Mae angen ymestyn y pwyslais hwn i agweddau llythrennedd ITM ac i CA5.

Y Celfyddydau Creadigol, i arwain wrth ddatblygu agweddau ar y Celfyddydau Creadigol ar draws y cwricwlwm. Mewn Ysgolion creadigol Arweiniol, mae athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio, gweithredu, myfyrio a gwerthuso prosiect neu brosiectau creadigol. Y nod yw datblygu rhaglenni arloesol a phwrpasol o ddysgu a gynlluniwyd i ganolbwyntio ar addysgu a dysgu. Mae prosiectau'n cael eu cynllunio i fod yn benodol i gyd-destun yr ysgolion ac yn caniatáu i ddisgyblion gymryd mwy o ran wrth wneud penderfyniadau ac yn eu dysgu eu hunain. Mae'r prosiectau wedi cynnwys pensaer a pheiriannydd yn gweithio gyda disgyblion B8 i ddatblygu hyder ac ymgysylltiad yn y pynciau STEM, a phrosiectau i adeiladu ar wella cyrhaeddiad mewn llythrennedd. Mae'r prosiect dwy flynedd yn awr yn y cyfnod gwerthuso blwyddyn un, ac mae data yn cael eu casglu ar hyn o bryd i asesu’r effaith y gall addysgu creadigol ei chael ar berfformiad disgyblion, ymgysylltu a phresenoldeb. Mae ysgolion eisoes wedi nodi lefelau trawiadol o ymgysylltu a mwy o hyder ymysg disgyblion.

HWB + Technoleg Ddigidol, er mwyn datblygu fel ysgolion arweiniol wrth ddatblygu Hwb + technoleg ddigidol. Y pwyslais ar draws y llinyn hwn yw defnyddio datblygiadau mewn technoleg i hyrwyddo dulliau arloesol at brofiadau dysgu'r disgyblion. Yn Ysgolion Tre-ioan, Aberporth a’r Gnoll, mae mannau dysgu hyblyg sy'n cael eu gyrru gan y dechnoleg wedi cael eu creu, gan ganiatáu i'r dechnoleg gael ei defnyddio'n briodol a’i phlethu gyda'r dull mwy traddodiadol. Bydd ysgolion ychwanegol yn cael eu dewis yn ystod Haf 2015.

Nodweddion allweddol Mae ysgolion yn cael eu nodi yn seiliedig ar hanes profedig a gwelliant parhaus hyd

yma Mae’n rhaid ymgorffori mentrau fel rhan o'r Cynllun Datblygu Ysgol Mae ysgolion a nodwyd yn cael y cyfle i gynnig am gyllid ychwanegol er mwyn caniatáu

i'r fenter ddatblygu

Page 9: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Ym mhob maes, mae ysgolion o bob hwb yn cymryd rhan, gan adeiladu tuag at nod ERW y bydd yr ysgolion sydd wedi derbyn grantiau cyllido yn cefnogi'r agenda cenedlaethol a rhanbarthol i sicrhau cymorth a gwella ysgol i ysgol.

Cynigir hyfforddiant a chymorth priodol ar sail ranbarthol

Y cynnydd hyd yn hynMae'r rhan fwyaf o'r ysgolion YDP yn newydd i'r fenter ac felly mae’n anodd dangos effaith hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae ysgolion eisoes wedi rhannu enghreifftiau da ac mae'n amlwg bod rhywfaint o waith da iawn yn digwydd. Mae'r rhaglen YDP wedi cynyddu mewn momentwm yn ystod y flwyddyn academaidd 2015-16 ac mae nifer clodwiw o ysgolion ledled y rhanbarth yn cymryd rhan. Bydd yn bwysig sicrhau bod datblygiad y rhaglen yn cael ei fonitro'n briodol wrth iddi fynd yn ei blaen, gyda ffocws ar wella deilliannau a gwerth am arian. Mae cynnal arfer 'effeithiol neu sy’n arwain y sector' yn allweddol wrth i ysgolion eraill barhau i wella. Mae'r astudiaethau achos ar gael ar wefan ERW ond nid yw’r system i rannu’r arfer rhwng ysgolion ac ymgynghorwyr wedi’i hymgorffori’n llawn eto. Felly, ar adegau nid yw ysgolion y byddent yn elwa o weithio a dysgu oddi wrth ysgolion eraill yn defnyddio’r cyfleoedd. Mae arweinwyr ysgolion ac athrawon rhagweithiol yn adrodd bod y cymorth a’r cydweithrediad o fewn y rhanbarth yn sylweddol well, a bod angen i bawb fanteisio ar y cyfleoedd.

1.4 Rhaglen ysgolion dibynadwyedd uchel Diben craidd y llinyn hwn yw sicrhau gwydnwch lle y gallai recriwtio fod yn anodd neu lle y gallai rhwystrau eraill i ddylanwadau allanol fodoli.

Nodweddion allweddol: Creu cyfle i ysgolion i gysylltu ag ysgolion dysgu proffesiynol Mae'r ffocws ar ychydig o nodau hanfodol sy’n gwneud gwahaniaeth i ddysgu Defnyddio'r data i ddiffinio’r nodau hynny Sefydlu geirfa a dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae ymchwil cyfredol yn dweud sy’n

gweithio Recriwtio staff a fydd yn cyfrannu at wneud y gwahaniaeth Buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol dwys - o fewn ac ar draws ysgolion, ar draws

ALlau ac ar draws y rhanbarth. Effeithlonrwydd tymor byr yn beth eilaidd i'r angen am ddibynadwyedd uchel

Y cynnydd hyd yn hynRoedd y dull yn adeiladu ar brofiadau ar draws ysgolion uwchradd Castell-nedd Port Talbot a oedd yn rhan o brosiect HRS tua 10 mlynedd yn ôl. Cyflawnodd y gwaith YiY hwn ganlyniadau da ac adeiladodd ar wydnwch yr arweinyddiaeth ar draws ysgolion yr ALl a thu hwnt. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn mae'r gwaith hwn wedi ei ddatblygu ymhellach yn awr ar draws y rhanbarth o fis Medi 2014. Mae wedi targedu ysgolion uwchradd 3-19 Ceredigion a Sir Gaerfyrddin a chafodd ei ymestyn i Bowys o 2015. Mae’r llinyn hwn wedi'i gysylltu'n agos â rhoi adnoddau i ysgolion er mwyn rhyddhau eu hymarferwyr mwyaf effeithiol fel Arweinwyr Dysgu i adeiladu gallu ar gyfer gwaith ysgol i ysgol i baratoi ar gyfer y rhaglenni TGAU newydd. Mae'r ddwy raglen yn targedu'r un materion mewn egwyddor, gydag un yn rhoi arfau a thechnegau ymarferol i athrawon a'r llall yn adeiladu systemau a strategaethau. Dylai

Page 10: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

monitro’r strategaeth hon yn ofalus fod yn ffocws ar gyfer y rhanbarth i sicrhau bod gallu yn cael ei fodloni yn ystod y blynyddoedd i ddod.

1.5 Mynegai Uniondeb Uchel

Diben craidd llunio mynegai uniondeb uchel o lle mae'r arfer gorau yn bodoli yw er mwyn brocera’r cymorth YiY cywir yn systematig. Bydd hyn yn galluogi lledaenu arfer gorau ar draws y rhanbarth a thrwy hynny cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau gwell. Mae datblygiad y system gyfredol (sy'n disodli Deialog) yn ganlyniad uniongyrchol i adborth gan Ymgynghorwyr Her. Un o nodau allweddol llunio'r mynegai hwn yw y dylai fod ar gael yn hawdd pan fo angen, yn cael ei lunio a’i ddefnyddio yn uniongyrchol ochr yn ochr ag Ymweliad Craidd 1 ac, yn fwy penodol, Ymweliad Craidd 2 ac y dylai'r system wrthsefyll craffu gan ysgolion, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau allanol.

Nodweddion allweddol Ymgynghorwyr Her yn nodi meysydd o ragoriaeth Prosesau sicrhau ansawdd cadarn - meysydd o ragoriaeth a nodwyd yn cael eu rhoi

mewn man dros dro cyn cael nod barcud drwy safoni canolog gan dîm sy'n cynnwys cynrychiolwyr Awdurdodau Lleol, aelodau o Dîm Canolog ERW a chynrychiolwyr y Penaethiaid

Rhwydwaith dan arweiniad ysgolion yn ei hanfod – gofynnir i ysgolion sy'n ymddangos yn y Mynegai i baratoi Astudiaeth Achos i amlinellu'r arfer rhagorol a sut mae wedi effeithio ar well deilliannau gan ddisgyblion

Systematig ond yn galluogi proses o gymorth i ysgolion i hunan-wella

Y cynnydd hyd yn hynDylai cydnabod na fyddai Deialog yn cyflawni'r hyn yr oedd ei angen gael ei gydnabod fel nodwedd gref mewn system hunan-wella. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud yn ganolog i weithio gyda CDSM er mwyn creu system sy'n addas at y diben. Rhagwelir y bydd yn barod i’w chyflwyno ar ddiwedd mis Mai 2016, yn unol â chwblhau Ymweliad Craidd 2. Yna bydd y broses raddol o boblogi'r Mynegai yn dechrau, gyda phwyslais ar sicrhau bod yr enghreifftiau a gynhwysir yn arfer sy’n wirioneddol ragorol. Gan adeiladu ar waith y 12 mis diwethaf, bydd sicrhau ansawdd rhanbarthol effeithiol yn hanfodol i lwyddiant y system. Mae hefyd yn dod yn amlwg bod ysgolion yn cael pwysau ariannol yn rhwystr i gydweithio. Er gwaethaf lefelau dirprwyo uchel o fewn y rhanbarth, gall fod yn ofynnol i gefnogi rhyddhau ac ymgysylltu ysgolion â'i gilydd yn well. Mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod ysgolion bach yn ei chael yn anos fyth i ymgysylltu oherwydd ymrwymiadau addysgu arweinwyr ysgol.

1.6 Cymorth wedi’i pharu’n uniongyrchol ar gyfer sefyllfaoedd critigol. Diben craidd y strategaeth hon yw sicrhau bod pob ysgol mewn amgylchiadau heriol yn cael cymorth hynod effeithiol ac amserol. Lle mae angen ar ysgolion gymorth benodol wedi’i thargedu, y nod yw cynnig y cymorth hwnnw cyn gynted â phosibl ac yna i feithrin datblygiad proffesiynol staff yn yr ysgol er mwyn cynnal y gwelliant.

Nodweddion allweddol Cymorth uniongyrchol ar gyfer meysydd penodol o ddatblygiad Rhoddir cyfle i uwch staff gydweithio’n gilyddol

Page 11: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Amser ac egni yn cael eu cyfeirio tuag at gefnogi datblygiad staff allweddol Cymorth ysgol i ysgol yn hytrach na gwasanaeth gwella Byrddau Gwella yn cael eu gweithredu pan fo angen

Y cynnydd hyd yn hynMae arweinwyr cryf o ysgolion gwydn wedi cael eu defnyddio ar fyr rybudd er mwyn cynnal safonau. Mae'n amlwg bod y secondiadau hyn ar gyfer staff hynod o effeithiol o ysgolion eraill, yn y sectorau cynradd ac uwchradd, wedi gallu hwyluso gwelliannau cyflym. Maent yn gallu darparu dylanwad sefydlogi a chaniatáu i arweinwyr ddatblygu yn yr ysgolion sy'n rhyddhau ac yn derbyn (ee Llanon). Ceir enghreifftiau da o ddarpariaeth ar gyfer disgyblion yn cael ei chynnal a'i gwella yn ystod cyfnodau anodd (Solfach). Mewn rhai sefyllfaoedd (Aberhonddu), mae pennaeth sydd newydd ei benodi wedi cael cymorth dwys gan yr awdurdod lleol a'r rhanbarth i helpu i oresgyn amgylchiadau arbennig o heriol. Mae'r rhan fwyaf o’r Byrddau Gwella wedi bod yn effeithiol ac mae ymweliadau monitro gan Estyn yn nodi cynnydd yn y mwyafrif o argymhellion. Fodd bynnag, gall yr ansicrwydd o ran ymrwymiad wneud hwn yn opsiwn anffafriol i gyrff llywodraethu ac mae diffyg capasiti, yn enwedig yn y sector uwchradd, i gefnogi ysgolion mewn risg cyn cael eu rhoi i mewn i gategori Estyn. Mae adborth cadarnhaol gan bartneriaethau rhwng, er enghraifft Cefn Hengoed a Llanfair-ym-Muallt, Aberaeron a Dŵr y Felin yn dangos hyd yn oed lle mae ysgolion yn wahanol iawn o ran cyd-destun, mae'r effaith ar gyfer y ddwy ysgol yn gadarnhaol. Yn yr achos hwn, ac mewn achosion tebyg eraill mae’r berthynas rhwng staff y ddwy ysgol yn allweddol ac mae angen i'r ysgol sy'n derbyn fod yn barod ac yn fodlon i gymryd rhan yn llawn. Mae angen mireinio rôl yr Ymgynghorydd Her wrth fonitro’r cymorth a'i heffaith. Wrth i ni gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, mae'r rôl fonitro yn awr yn rhan allweddol o'r gwaith a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17.

1.7 Ffederasiynau - mae hon yn strategaeth wella allweddol ar gyfer y rhanbarth oherwydd natur ein hysgolion a’n demograffeg. Mae ein rhanbarth wedi gweld llawer o gymorth ysgol i ysgol lwyddiannus i gefnogi ysgolion ar ffurf Modelau Arweinyddiaeth Gweithredol neu Ffederal am flynyddoedd lawer. Mae'r modelau hyn wedi cyfrannu'n uniongyrchol at godi safonau a chyfleoedd ar gyfer ystod eang o ddysgwyr. Mae'r agenda hwn yn parhau i dyfu ac elwa ar gydweithio rhwng arweinwyr ysgolion ac athrawon. Mae'r modelau a ddefnyddir yn amrywio, ond mewn sawl ffordd maent yn estyniad o arweinyddiaeth uwch ar amrywiaeth o lefelau. Mae ffederasiynau sy'n rhychwantu cymunedau, sectorau a ffiniau daearyddol i gyd yn cefnogi dysgwyr i gael mynediad at yr addysgu, adnoddau, arweinyddiaeth a chyfleusterau gorau posibl. Ceir rhai enghreifftiau (Tafarnspite a Templeton, Y Tymbl a Llechyfedach) lle mae ffederasiynau wedi gweithio'n dda, ond mae angen bob amser gefnogaeth ac arweinyddiaeth effeithiol gan yr ALl. Mae'r cysyniad o ddull ffederal yn strategaeth bwysig o ystyried demograffeg yr ardal ond gall weithio dim ond pan fydd yr hinsawdd ar draws yr ysgolion yn barod i dderbyn dull gweithredu o'r fath.

1.8 Cymorth wedi’i frocera - pwrpas craidd y llinyn hwn yw sicrhau bod cymorth, her ac ymyrraeth o ddydd i ddydd yn cael eu darparu i ysgolion fel rhan o’r Ysgol Cymorth, Her ac Ymyrraeth.

Nodweddion allweddol:

Page 12: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Mae’r hawl i nifer y diwrnodau cymorth yn seiliedig ar gategoreiddio. Mae adnabod anghenion cymorth yn rhan annatod o drafodaethau Ymweliad

Craidd yr Ymgynghorydd Her gyda'r Pennaeth Mae’r cymorth sydd ar gael ar gyfer brocera yn cael ei nodi trwy Ddewislen

Gymorth ar Rhwyd Mae’r cymorth y gofynnir amdano ac a gytunir yn cael ei gofnodi ar Rhwyd, gan

nodi cytundeb clir ar draws yr ysgol, yr awdurdod lleol a’r rhanbarth Mae effaith y cymorth a roddir yn cael ei gwerthuso

Y cynnydd hyd yn hyn

Gall pob ysgol yn awr gael mynediad at gymorth priodol o ystod eang sydd ar gael. Mae'r system Rhwyd yn cofnodi’n glir y drafodaeth Ymweliad Craidd ym mhob ysgol ar draws y rhanbarth. Mae effaith ansoddol a meintiol y cymorth a roddir yn cael ei nodi ar Rhwyd, gan roi cyfle i'r rhanbarth werthuso gwerth am arian. Wrth i'r strategaeth symud yn ei blaen, bydd yn hanfodol bod y Ddewislen Gymorth barhaus yn cael ei diweddaru i adlewyrchu anghenion yr ysgolion wrth i welliant ddatblygu. Bydd hefyd yn bwysig sicrhau bod digon o gapasiti ar gael ar gyfer cynnal cymorth wedi’i frocera ar lefel yr ysgol, yn lleol neu yn rhanbarthol, a bod Ymgynghorwyr Her sy'n newydd i'r broses yn cael yr wybodaeth briodol.

1.9 Darparu adnoddau i ysgolion i ryddhau eu hymarferwyr mwyaf effeithiol, fel Arweinwyr Dysgu neu ymarferwyr arweiniol fel y gallwn adeiladu yn gyflym y capasiti sydd ei angen i gynnal gwaith ysgol i ysgol.

a)Arweinwyr Dysgu (AD)Diben craidd y gwaith hwn yw adeiladu capasiti ar lefel yr ysgol i baratoi ar gyfer y cwricwlwm TGAU newydd, adeiladu capasiti ar gyfer llythrennedd a rhifedd a pharatoi disgyblion ar gyfer profion arddull PISA. Mae athrawon sy’n perfformio’n uchel ac arweinwyr adrannau wedi cael eu recriwtio i weithio ar draws ysgolion ac er mwyn sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth, sgiliau, gwybodaeth ac addysgu o ansawdd uchel i gyflwyno'r cwricwlwm newydd a’r disgwyliadau cysylltiedig. Bydd hyn yn cefnogi pob ysgol uwchradd dros 2 flynedd.

Nodweddion allweddolYr egwyddorion allweddol sy'n sail i’r gwaith hwn yw y gall arweinwyr dysgu weithio y tu hwnt i ffiniau ysgolion, sectorau ac awdurdodau lleol unigol. Dylai'r gwaith hwn alluogi rhannu arfer da a’i wella, tra hefyd yn adeiladu ysgolion cynaliadwy a staff gwydn. Mae ymyraethau llwyddiannus wedi cynnwys:

adolygiadau adrannol monitro cynnydd yn rheolaidd Astudio gwersi – gan fodelu'r dull TGAU newydd Gweithredu systemau tracio cadarn

Y cynnydd hyd yn hynMae'n debyg mai hwn fu’r model mwyaf llwyddiannus yn y rhanbarth. Mae’r adborth gan ysgolion yn gadarnhaol iawn ac mae athrawon wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau hybu morâl ar lawr y

Page 13: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

dosbarth. Mae'r strategaeth hefyd yn darparu cam tuag at gyfle i staff ddatblygu sgiliau sy'n arwain at gryfhau’r gronfa o arweinwyr canol ac uwch yn y system. Mae cymorth pwrpasol wedi bod un o gryfderau allweddol y llinyn hwn ac mae AD wedi bod yn effeithiol iawn wrth ymgysylltu ysgolion ac athrawon yn y gwaith. Mae pob un ond dwy o'r adrannau a dargedwyd (Coch / Ambr) wedi gwneud cynnydd cadarn o ran gwella canlyniadau dysgwyr y llynedd. Roedd y cynnydd yn amrywio o gynnydd mewn perfformiad o 4 – 17% o ran A*- C. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud i ddatblygu adnoddau, gan gynnwys mathemateg, Saesneg, Cymraeg, Unedau Gwaith Gwyddoniaeth a datblygu sgiliau PISA. Mae hyfforddiant staff cyfan wedi digwydd ar draws nifer o ysgolion ac mae gweithgorau/triadau ysgol i ysgol wedi’u datblygu. Mae'r adborth gan yr holl ysgolion wedi bod yn gadarnhaol ac mae hyder wrth gyflwyno'r cymwysterau TGAU newydd wedi gwella'n sylweddol, gyda'r rhan fwyaf o ysgolion yn mabwysiadu Cynlluniau ERW Gwaith. Fodd bynnag, mae yna risg bob amser mewn tynnu’r ymarferwyr gorau allan o ysgolion am gyfnodau estynedig i helpu ysgolion eraill, ac mae recriwtio AD Mathemateg wedi bod yn anodd ers i’r deiliad blaenorol gael ei ddyrchafu i swydd arall.

b)Arweinwyr Asesu (AA)

Diben craidd y gwaith hwn yw sicrhau trylwyredd a chysondeb mewn asesiadau athrawon ar draws y rhanbarth. Mae ERW wedi gweithio i adeiladu ar yr arfer mwyaf effeithiol ar draws y rhanbarth, ac mae system gynhwysfawr i safoni a chymedroli ar lefel ysgol, clwstwr a rhanbarthol wedi esblygu. Mae grwpiau o ysgolion wedi enwebu Arweinwyr Asesu i gymryd rolau arweinyddiaeth wrth sicrhau cysondeb a rhaeadru negeseuon cyson o ysgol i ysgol ac athro i athro. Mae Arweinwyr Asesu yn datblygu arbenigedd ac yn adeiladu gallu allweddol mewn ysgolion a grwpiau o ysgolion dros gyfnod o amser. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gynllunio yn gyson ar draws y 6 ALl, gan sicrhau bod negeseuon rhanbarthol a lleol yn gyson.

Nodweddion allweddol:

AA yn cael eu henwebu gan eu hysgolion ac yn cael hyfforddiant priodol Amser digyswllt yn cael ei roi i sicrhau y gall y rôl gael ei chyflawni yn effeithiol Y personél dan sylw yn lledaenu eu gwybodaeth a'u harbenigedd i glystyrau o ysgolion Eu rôl yw arwain ar brosesau safoni a chymedroli, ac nid yw'n disodli cyfrifoldeb statudol y

Pennaeth

Cynnydd ac effaith hyd yma:

Mae pob ALl yn y rhanbarth yn cymryd rhan yn y rhaglen, ac mae hyn wedi galluogi ERW i ymateb yn adeiladol ac yn gadarnhaol i apêl y Gweinidog i wella asesiadau athrawon ar draws ysgolion yng Nghymru. Yn ystod ymweliadau prosiect STAP ag ERW yn 2014 -15 cafwyd nodweddion da a chryf mewn asesu a chymedrol gan athrawon. Mae ymweliadau cynnar â Phowys, Ceredigion a rhai o'r ysgolion yn Sir Benfro eleni wedi nodi nodweddion da a rhagorol. Felly, mae'n amlwg bod ymagwedd fwyfwy cywir, cadarn a chyson tuag at asesiadau athrawon, safoni a chymedroli yn cael ei wreiddio ar draws y rhanbarth. Mae hefyd yn adeiladu hyder Penaethiaid o ran cydymffurfio a’u cyfrifoldebau

Page 14: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

statudol o ran asesu. Eleni, mae'r nodwedd ychwanegol o gofnodi electronig wedi arwain at uwchsgilio cyflym ymhlith llawer o athrawon. Serch hynny, mae'r effaith wedi bod yn gadarnhaol ac mae llawer o athrawon yn adrodd bod y broses wedi’i chefnogi'n dda ac yn haws i’r rhannu ac adeiladu arni gyfer y blynyddoedd i ddod.

c) Defnydd o Arweinwyr Ysgol yn Ymweliad Craidd 1Diben craidd y strategaeth hon yw dod â phrofiad diweddar a pherthnasol i gefnogi trafodaethau allweddol, ac ar yr un pryd ychwanegu capasiti at y Tîm Ymgynghorwyr Her

Nodweddion allweddol: Arweinwyr Ysgol gyda hanes profedig o sicrhau gwella ysgolion yn cael eu dewis Mae arweinwyr ar hyn o bryd yn gwasanaethu mewn ysgolion categori cymorth Gwyrdd Gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn gallu dylanwadu ar eu sector Mae pob un yn cael hyfforddiant ERW ac yn cadw at y canllawiau yn llawlyfr yr YH Pwysleisir didueddrwydd

Y cynnydd hyd yn hyn:Mae penaethiaid ymgynghorol i gyd yn nodi bod hyn wedi bod yn ddatblygiad proffesiynol da ac mae pob ysgol yn nodi eu bod wedi derbyn cymorth effeithiol gan y Pennaeth Ymgynghorol. Mae secondiadau a chyfleoedd rhan-amser yn darparu her a chymorth cymesur. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau amser yn golygu nad yw'n bosibl rhoi ystod lawn o gyfrifoldebau ymgynghorydd her i benaethiaid, ac mae’r pwysau ar gapasiti ar gyfer YN llawn amser yn parhau. Mae'r gyfran gynyddol o Benaethiaid yn ymgymryd â'r rôl yn golygu y bydd angen i'r rhanbarth fuddsoddi mewn hyfforddiant parhaus er mwyn sicrhau bod cysondeb o ran dull a lefel yr her yn cael eu cynnal.

d) Lleihau amrywiad o fewn ysgol

Lansiwyd y prosiect blwyddyn hwn dan arweiniad yr Athro David Reynolds ym mis Medi 2015. Mae 12 o ysgolion o bob rhan o'r rhanbarth wedi cymryd rhan. Roedd y rhain o amrywiaeth o gyd-destunau ond roedd pob un yn rhannu’r angen i fynd i'r afael ag amrywiad o fewn yr ysgol. Roedd yn ofynnol i bob un lunio cynllun gwariant ar gyfer y cyllid a ddyrannwyd, gyda meini prawf yn cael eu gosod er mwyn canolbwyntio ar y meysydd pwnc craidd. Mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion wedi dewis canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu (meysydd ffocws eraill o fewn y meini prawf oedd systemau data, gwrando ar lais y disgybl, gweithdrefnau gweithredu safonol mewn meysydd craidd o fywyd yr ysgol a hyfforddiant rheolwyr canol). Mae'r prosiect yn cael ei werthuso ar hyn o bryd ond mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu y gellid mynd i’r afael â’r diffyg systemau data gwerth ychwanegol manwl (lefel disgyblion) ar draws y rhanbarth. Mae amrywiad ar lefel Pennaeth wedi bod yn amlwg ac ychydig yn unig o ddeialog pedagogaidd sydd o fewn ac ar draws ysgolion. Daethpwyd i'r casgliad y dylai ffyrdd o fynd i'r afael â'r meysydd ffocws wedi cael eu gwneud yn fwy eglur ar y dechrau ac y dylid fod wedi gwneud mwy ar lefel ysgol gyfan ar draws yr ysgolion dan sylw. Dylai momentwm y prosiect gael ei gynnal gan fod angen mynd i’r afael ag amrywiad o fewn ysgolion gan y rhanbarth.

Page 15: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

1.10 Datblygiad Proffesiynol

Bydd angen i ni hefyd esblygu rhaglen DPP cynhwysfawr ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion i gryfhau eu sgiliau ar gyfer ymgysylltu a gwella rhwng ysgolion ac oddi mewn iddynt. Bydd defnyddio'r Model Categoreiddio Cenedlaethol newydd i frocera’r cymorth YiY cywir lle bo angen fel rhan o'r Ddewislen Cymorth, Her ac Ymyrraeth yn allweddol i symud yr adnoddau o'r canol i ysgolion.

Bydd uwchsgilio Ymgynghorwyr Her i fod yn froceriaid effeithiol o welliant a yrrir gan yr ysgol hefyd yn rhan o'r strategaeth ddatblygu i gefnogi'r gwaith hwn

Mae cefnogi a chyflawni Bargen Newydd y Gweinidog i gefnogi athrawon ac arweinwyr ysgolion yn cydweddu gyda gwaith ar wella addysgu. O dan y llinyn hwn, mae ysgolion yn cael eu nodi i arwain ar Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA), mae cyfleoedd ar gael i ymgymryd â’r Rhaglen Athrawon Rhagorol (RhARh), ac mae Rhaglen Darpar Arweinwyr (RhDA) ar gael. Y nod yw cefnogi athrawon i ddatblygu a gwella eu harfer wrth iddynt symud drwy eu gyrfa, gan gysylltu hyn yn uniongyrchol â’r cynlluniau datblygu ysgol sy'n canolbwyntio ar y gweithlu.

Nodweddion allweddol Dealltwriaeth o'r hyn yw arfer rhagorol yn eu rôl bresennol Cyfle i weld yr arfer hwnnw ar waith Cyfleoedd i ymgysylltu'n weithredol â'r arfer hwnnw Mentora priodol drwy ddatblygiad proffesiynol Sicrhau bod capasiti ar bob lefel er mwyn darparu profiadau addysgol o ansawdd ar

gyfer dysgwyr

Y cynnydd hyd yn hynLansiwyd menter y Fargen Newydd yn 2015, felly mae'n rhy gynnar i asesu'r effaith hyd yma. Mae ysgolion o bob un o'r 6 Awdurdod Lleol wedi cael eu nodi i arwain, ac mae niferoedd priodol yn ymgymryd â RhARh a RhDA. Mae adborth gan gyfranogwyr a chydlynydd y cwrs wedi bod yn gadarnhaol, gan adlewyrchu gwerth ychwanegol cyfraniadau diweddar a pherthnasol i gyflwyno'r rhaglenni hyn. Mae'n amlwg y bydd y Fargen Newydd yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu harfer yn y ffyrdd mwyaf effeithiol i wella deilliannau ar gyfer eu dysgwyr. Mae'r rhanbarth yn gweithio'n agos iawn gyda PCYDDS wrth lunio a chyflwyno’r modiwlau hyfforddi hyn, gan sicrhau bod y cynnwys ar flaen y gad o ran ymchwil cyfredol ac arfer gorau. Wrth i’r fenter ddatblygu, bydd yn bwysig ei bod yn cael ei monitro i asesu’r effaith ar gadw athrawon a chyfraddau dilyniant proffesiynol a deilliannau disgyblion ac i sicrhau gwerth am arian. Bydd hefyd yn bwysig bod y llwybr hwn ar gyfer datblygu arweinwyr ysgolion ar draws y rhanbarth yn y dyfodol yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf.

Negeseuon Allweddol i Rannu o'r adolygiad hwn

Mae ein negeseuon allweddol hyd yma yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau:

Adeiladu gallu o fewn ysgolion i yrru gwelliant dan arweiniad yr ysgol

Page 16: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Rhesymeg gadarn dros grwpio ysgolion ar sail dadansoddiadau manwl / mynegai Cytuno ar ffocws penodol yn seiliedig ar gategoreiddio Dealltwriaeth gyffredin o ddiwylliant a chyd-destun rhwng ysgolion Adeiladu datblygu arweinyddiaeth i gynnal capasiti a gwella Swm angenrheidiol o ragoriaeth mewn ysgolion yn ofynnol i wneud y gorau o’r mynediad at y

broses Cyfathrebu a negeseuon cadarnhaol Diwylliant newidiol ac esblygol i ysgolion a swyddogion gwella i ymgysylltu ag ef

Casgliad

Mae'r dull mwy aeddfed tuag at system hunan-wella i ysgolion yn amlwg a bydd yn parhau i gael effaith gadarnhaol wrth iddo wreiddio. Mae prosesau cadarn ar waith i sicrhau ansawdd strategaethau a ddefnyddir ac mae’r adborth gan benaethiaid yn cadarnhau bod yr hinsawdd ar gyfer y gwaith hwn yn llawer gwell nag erioed o'r blaen. Mae ymwybyddiaeth y bydd angen i'r ffocws newid wrth i deithiau ysgolion symud ymlaen, gan sicrhau bod y cymorth yn parhau'n gyfredol ac yn berthnasol.

Mae'r rhanbarth yn awr yn wynebu'r her o ymateb i angen newydd ar gyfer cymorth o ansawdd uchel a ddarperir gan athrawon i athrawon. Bydd hyn yn her, gan fod recriwtio a rhyddhau staff o ysgolion, hyd yn oed am gyfnodau penodedig byr yn anodd. Gall strategaeth y rhanbarth i ddatblygu ymhellach rôl ysgolion mewn system hunan-wella gael ei rhwystro gan yr anhawster a’r ansefydlogrwydd hwn mewn ysgolion.

Er mwyn sicrhau newid llwyddiannus i’r system, bydd angen i’r rhanbarth barhau i adeiladu ar yr amodau priodol er mwyn i system hunan-wella lwyddo. Mae'r amodau yn cael eu nodi isod:

1. Mae capasiti digonol i arwain, cydlynu a hwyluso’r seilwaith angenrheidiol yn ganolog i lwyddiant (yn yr ysgol a’r rhanbarth)

2. Rhaid i'r fframwaith neu’r seilwaith alluogi, grymuso a bod yn effeithlon. Bydd dull gweithredu sy’n rhy ragnodol neu gyfyngiadau cul yn amharu ar ymgysylltu/llwyddiant. Mae’r ymgysylltu / paru cychwynnol yn dibynnu ar rwydweithiau sy'n bodoli eisoes, llafar gwlad neu 'gyflwyniadau' ffurfiol. Lle mae’r cyflwyniadau yn ffurfiol, wedi’u brocera drwy Ymgynghorwyr Her, mae angen i'r meini prawf fod yn glir.

3. Mae 'Llwyddiant' yn fwy tebygol pan fydd y partïon dan sylw â phethau yn gyffredin neu’n debyg i’w gilydd. Gall y rhain fod yn gysylltiedig â maint yr ysgol, personoliaethau yr unigolion dan sylw, problemau neu faterion, cyd-destun yr ysgol, gweledigaeth. Mae'r rhain a nodweddion cyffredin eraill yn amrywio o ran pwysigrwydd ym mhob sefyllfa, ond byddant yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd.

4. Mae rhwydweithiau o wybodaeth yn angenrheidiol fel y gall cyflwyniadau gael eu hwyluso yn rhanbarthol.

Page 17: ERW · Web viewMae gwaith ysgol i ysgol yn digwydd ar sawl ffurf ar draws gwaith y rhanbarth ac mae wedi ei adeiladu i mewn i'n holl waith. Fel rhanbarth, rydym yn ffodus i adeiladu

Argymhellir y dylai ERW:

1. Fonitro ymhellach yr effaith ar ddeilliannau ar gyfer dysgu mewn ysgolion sy’n cymryd rhan yn ffurfiol mewn cydweithio rhwng ysgolion, rhwng adrannau neu rhwng athrawon

2. Galluogi datblygiad organig o ran cydweithio rhwng ysgolion tra'n strwythuro agweddau ar ei waith ei hun o gwmpas y model cyfredol

3. Dathlu llwyddiant ac effaith ar bob cyfle posibl

4. Monitro gwerth am arian ar draws y gwahanol ffrydiau ariannu.