gan gyngor cefn gwlad cymru y naturiaethwr cyhoeddir y ... 2007.pdf · cyhoeddir y naturiaethwr yn...

44
C YMDEITHAS E DWARD L LWYD Y Naturiaethwr Cyfres 2 Rhif 20 Gorffennaf 2007

Upload: truongtram

Post on 05-Mar-2019

218 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdalgan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr

Cyfres 2 Rhif 20 Gorffennaf 2007

Cover_Summer_2007 24/7/07 16:17 Page 1

Page 2: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Cymdeithas Edward Llwyd

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas GenedlaetholNaturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd ynei gyfnod “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu droseu gwarchod. Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Richard Jones, Pentre Cwm, Cwm, Diserth, Y Rhyl, Sir Ddinbych LL18 5SD. 01745 570631.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Yr Arth Wen - gweler tud. 8Llun: Catrin Evans

Clawr ôl:

Yr Ymerawdwr (Emperor Moth)Llun: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

www.ornekholidays.eu

Am fanylion, cysylltwch âHeulwen BottOrchard CroftNorth Road

HelsbyCheshire

WA6 9AF

01928 723351

Cover_Summer_2007 24/7/07 16:17 Page 2

Page 3: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Golygydd: Goronwy Wynne, “Gwylfa”,Licswm, Treffynnon, Sir Fflint CH8 8NQ.

Cymdeithas Edward Llwyd 2007 – 08

Llywydd: Dafydd Davies

Cadeirydd: Ieuan Roberts

Is-gadeirydd: Tom Jones

Trysorydd: Gwennan Jones

Ysgrifennydd: Gruff Roberts, ‘Drws-y-coed’,119 Ffordd y Cwm, Diserth, Sir DdinbychLL18 6HR. 01745 570302 e-bost: [email protected]

Ysgrifennydd Aelodaeth: Richard Jones,Pentre Cwm, Cwm, Diserth, Sir DdinbychLL18 5SD 01745 570631

Y NaturiaethwrCyfres 2, Rhif 20, Gorffennaf 2007.

Cyhoeddir Y Naturiaethwr gan GymdeithasEdward Llwyd.

Dyluniwyd gan: MicroGraphics

Argraffwyd gan: Kelvin Graphics

Mae hawlfraint pob erthygl yn eiddo i’r awdur.

Y NaturiaethwrCyfres 2 Rhif 20 Gorffennaf 2007

Cynnwystudalen

Gair gan y Golygydd 3

Goronwy Wynne

Tir Comin a Rhostir Penrhyn Llyn 4

Richard Neale

Yr Arth Wen 8

Catrin Evans

Morgrug Coch (Morgrug-y-Coed) Yng Nghoedwig Cwmgïedd 11

Arwel Michael

Mynydd Helygain, Sir y Fflint 15

Bryn Ellis

Y Fferm Fynydd – Ddoe a Heddiw 19

Goronwy Wynne

Blodau Sirol Cymru 21

W.Brian L. Evans

Pysgod Peniog 24

Sian W. Griffiths

Esblygiad, Newid a Chadwraeth 27

Gareth Wyn Jones

Cystadleuaeth y Cerddi 31

Eluned Roberts

E.V. Breeze Jones 33

Gwyn Thomas

Dod i nabod ein gilydd, Ieuan Roberts 35

Harri Williams

Llun Pwy? 36

Wyddoch chi? 37

Adolygiad 38

‘Crefydd a Gwyddor’ Dafydd Wynn Parry

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 1

Page 4: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 2

Page 5: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Dyma’r ugeinfed rhifyno’r ail gyfres o’rNaturiaethwr.

Daeth nifer o erthyglaui law unwaith eto. Diolchyn fawr i bawb amgyfrannu – pobl brysurbob un! Rhaid i mi dynnusylw at sylwadau Richard

Neal a’r Athro Gareth Wyn Jones – y ddauyn trafod y berthynas rhwng dyn â’igynefin, yn edrych yn ôl ac ymlaen, ac yncodi cwestiynnau o bwys. Gobeithio ybydd ymateb gennych chi y darllenwyr.

Mae’r teledu yn ein hatgoffa, bron ynddyddiol, am yr argyfwng ynglyn â’rhinsawdd, gan ddangos lluniau dramatigo’r rhew yn toddi yn y pegynnau.Darllenwch erthygl Catrin Evans am yrArth Wen ac fe gewch flas o’r cynefinarbennig yn yr arctig, cynefin y cefais i’rcyfle i’w fwynhau sawlo tro yn ygorffennol. Ond os yw’n well gennych arosgartref, beth am grwydro MynyddHelygain gyda Bryn Ellis? Dyma gynefinarall – ar garreg y drws i ni yn Sir Fflint –sy’n agored i bob math o fygythiadau, acsy’n sicr yn werth ei warchod. Darllennaisyr wythnos ddiwethaf fod Cyngor Sir Fflintwedi penodi warden i ofalu am yr ardalarbennig hon.

Os mai creaduriaid sy’n mynd â’ch bryddarllennwch gyfraniadau Sian Wyn Griffithsar y pysgod ac Arwel Michael ar y morgrug,dwy erthygl y cefais i flas arbennig arnynt.Diolch i bawb am gyfranu.

A fuoch chi ar Gors Fenn’s a Whixallerioed?

Mae hon yn Warchodfa NaturGenedlaethol o’r iawn ryw, rhwngEllesmere a Whichurch, rhyw 12 milltir i’rde-ddwyrain o Wrecsam, gyda’r ffin rhwng

Cymru a Lloegr yn ei chroesi. Mae cyrffcadwraeth y ddwy wlad wedi cydweithio’ndda dros nifer o flynyddoedd i brynu’r tir,adfer y gors a hwyluso’r ffordd i’r cyhoedddalu ymweliad.

Rhwng mis Awst 2007 a mis Chwefror2008 mae cyfres o weithgareddau wedi eutrefnu ar gyfer plant ac oedolion, ynymwneud â rhyfeddodau’r gors a bywyd ywlad yn gyffredinol. Mae’r rhestr yn un hir,yn cynnwys ‘Pryfetach y Gors’, ‘Diwrnod oHela Creaduriaid y Gors a’r Llyn’, ‘CerfioCoed y Fawnog’, ‘Casglu Ffwng’, ‘Bywydyr Hen Dorwr Mawn’, ‘Garddio gydaBywyd Gwyllt’ …a llawer mwy.

Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn rhad acam ddim, ond rhaid cysylltu ymlaen llaw.

Am y manylion cysylltwch â CarolineEvans 01743 282005 yn ystod yrwythnos, neu Joan Daniels 07974 784799dros y Sul.

3

Gair gan y GolygyddGoronwy Wynne, Gwylfa, Licswm, Treffynnon,

Sir Fflint, CH8 8NQ.

Ffôn: 01352 780689

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3

Page 6: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

I

Mae’r wraig yn dewis ei ffordd yn ofalusi lawr drwy’r grug - plentyn yn gafael yn eiffrog hir ddu - mynydd dan gwmwl y tu ôliddi. Dan ei braich mae llond sach o ruggolosgedig a choesau eithin.

Yn ddiweddarach, ar aelwyd ei chartref,dywed wrth y plentyn yn ei hacen SirGaernarfon, “Dos i nôl tipyn o ddwr tradwi’n cyna tân efo’r poethwal ma”.Mae’n ddiwrnod pobi ym mhentrefchwarel Llithfaen ar arfordir gogleddolPenrhyn Llyn; y sachaid o boethwal iwresogi’r popty, a’r Eifl yw’r mynyddgrugog. 1906 yw’r flwyddyn a’r wraig ywElin Baum, fy hen nain; y plentyn: SarahAnn, fy nain. Wedi pobi’r bara, pan fo’rpopty ychydig yn oerach, byddant yn crasucacen lus, a’r llus wedi eu hel oddi ar yllechwedd hwnnw uwchlaw’r pentref.

Tra eu bod nhw’n pobi, mae gwr Elin –fy hen daid Robert Baum – yn gweithio ynchwareli gwenithfaen mawr Yr Eifl, yn

ffrwydro clogfeini creulon o drwm allan o’rrhostir i wneud setiau i balmantustrydoedd Manceinion.

II

Dwyn a difrodi ydi hanes rhostiroeddLlyn. Yn y canoloesoedd, roedd ynaehangder o dir pori agored ar y penrhyn: ypridd yn rhy wlyb neu’n rhy denau idderbyn yr aradr. Dyma diroedd cominLlyn. Yn wreiddiol dan berchnogaethtywysogion Gwynedd, buont erioed ynrhan hanfodol o’r ffordd o fyw yn Llyn.Am ganrifoedd y rhain oedd nodweddiondiffiniol y tirwedd.

Ond, hyd yn oed bryd hynny, roeddrhan helaeth o’r penrhyn yn diramaethyddol cynhyrchiol a hynny ers cynhanes; ond doeddech chi byth ymhell o’rcomin. Fel Egdon Heath Thomas Hardy,roedd yn synfyfyrgar hollbresennol. Feysbrydolodd ein llên gwerin, a gyda swn ytroellwr a’r gylfinir, roedd yn gefndirparhaus i fywyd.

Roedd y rhostir bob amser yn faes y gâdi frwydrau rhwng pobl a natur. Ac am

4

Tir Comin a Rhostir Penrhyn Llyn Naratif Personol Mewn Pum Act

Richard Neale

Rheolwr Eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Orllewin Eryri a Llyn yw’r awdur

Elin a Robert Baum: Hen nain a thaid yr awdur,oedd yn byw ac yn gweithio wrth ymyl rhostir ynLlithfaen.

Mynydd Mawr o Fynydd Anelog ©Turtle ImagesGweddillion ardaloedd eang o dir comin oeddunwaith yn gorchuddio rhannau helaeth o’r penrhynyw rhostiroedd arfordir Llyn.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 4

Page 7: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

gyfnod byr tua 1810, fe fu un o’rrhostiroedd hynny yn faes y gad ynllythrennol. Rhos Hirwaen oedd hwnnw,wedi goroesi mewn enw yn unig.

Ers cyn cof, roedd y tlodion yn dibynnuar gael mynediad i’r tir comin a hynny i’rfath raddau fel eu bod nid yn unig yn rhoieu hanifeiliaid i bori arno ond hefydroeddynt yn adeiladu eu cartrefi arno,tyddynnod syml o laid a tho gwellt. Pannad oeddynt yn pysgota, roeddynt ynllafurio i greu lleiniau caeëdig rhwngcloddiau pridd ymysg yr eithin a’r rhedyn abyddent yn tyfu ychydig lysiau yn y priddsâl. Nid yw’n syndod felly i ddeall, panbenderfynodd y tirfeddiannwr gau’r tircomin a’u troi allan o’r tir yr oeddennhw’n ei ystyried oedd yn eiddo iddynnhw, bu gwrthryfela. Ychydig sy’nwybyddus am yr hyn ddigwyddodd, ondmae’r ffaith fod y milisia wedi eu galw imewn i dawelu’r gwrthdaro yn rhoi rhywsyniad i ni o herfeiddiwch y gwerinwyr.

Er mai annelwig yw’r cof am ydigwyddiad yma mae’n rhoi gwedd ddynoli’r ffaith fod tua 10,000 erw o dir comin ynne-orllewin y penrhyn rhwng 1810 a 1820- yn cynnwys Rhos Hirwaen - wedi euclirio, eu hamgáu, eu draenio a’u haredig.Crëwyd ffermydd newydd gyda thenantiaidmwy blaengar drwy broses a elwid yn‘wladychiad mewnol’. Ond hyd yn oedheddiw, gellir gweld rhai o’r‘llechfeddiannau’, gyda’u tyddynnod âmuriau llaid sydd erbyn hyn wedi eu toi âllechi a’u rendro, fel pe baent wedi euhynysu mewn môr o dir amaethyddolcyffredin.

Yn raddol cafodd y tir nad oedd wedi eieffeithio gan Fudiad Cau’r Tiroedd Cominei feddiannu bob yn dipyn gan‘lechfeddiannau’ tameidiog dros y ganrifganlynol. Ond roedd y coup de grace eto iddod. Gwyddom yn awr fod gweddillion ytiroedd comin oedd efo llystyfiant ‘rhos’wlyb fwy neu lai wedi eu dileu oddi arfapiau Llyn yn y blynyddoedd oddatblygiadau wedi’r rhyfel. Roedd ffawdyn garedicach i’r rhostiroedd sychach arfryniau’r penrhyn ac mae llawer ohonynt

wedi goroesi fel gweddillion amhrisiadwy odirwedd goll.

III

Mae’r ffarmwr yn ei gap stabl yntynnu’n frwnt ar dennyn y ci defaid ifanc,bywiog wrth iddo gerdded tuag ataf. Maeei edrychiad yn gyfuniad o chwilfrydedd adrwgdybiaeth. Chwilfrydedd gan fod ynasaith mlynedd wedi mynd heibio ers irywun fyw yn y bwthyn unig sy’n sefyllymysg y clogfeini cennog a’r eithin heb fodymhell o’i fwthyn gwyngalchog ef ei hun.Drwgdybiaeth, oherwydd fy mod i’nfewnfudwr ac yntau’r olaf o linach hir offermwyr i grafu bywoliaeth o’r bryniaucaregog yma.

Mae’n ei gyflwyno’i hun fel Ifan Pig yParc a dyma gychwyn ar un o lawer osgyrsiau yr oeddwn i i’w cynnal ag o ynystod y pedair blynedd nesaf. 1981 yw’rflwyddyn, ac yr ydym yn sefyll ymhlithclytwaith o gaeau bach a phorfa arw wedieu gorchuddio â llwyni eithin crynion, wedieu clipio i ffurfio pincasau gwyrdd tyn ganddannedd defaid Ifan. O’n blaenau maeehangder llydan Porth Neigwl, y tu cefn ini cefnen grugog Mynydd Rhiw fel cefnmorfil .

Gan godi ei ffon mae’n pwyntio at dai eigymdogion fesul un – wedi eu gwasgaruhyd y bryn; y cyfan wedi eu hadeiladu i’run dyluniad syml â’i fwthyn ei hun, Pig yParc. Mae’n chwifio ei ffon o gwmpas

5

Fron Deg, Rhiw. Tyddyn nodweddiadol o’r bedwaredd ganrif arbymtheg, un o nifer a adeiladwyd fel llechfeddiant ardir comin Y Rhiw.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 5

Page 8: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

mewn cylch mawr theatrig gan drywanu’rawyr wrth enwi’r bythynnod: BrynFfynnon, Tan yr Ardd, Trwyn Coch, BrynMorfa, Weun, Fron Oleu, Tan y Garn,Tan y Bwlch…” Mae’n troi ataf i ac yndweud yn yr un iaith delynegol ag y byddaify hen nain yn ei defnyddio. “Rwy’n cofioteulu ym mhob un o’r tai ‘ma – bob unohonynt yn ffermio’r tir ac yn mynd i’rcapel ar y Sul.”. Mae’n codi ei lais ynymholgar. “Pwy sy’n byw yma rwan?”Gan ofni ateb, rwy’n ysgwyd fy mhen.“Estroniaid!” mae’n bloeddio, gan daro eiffon ar y ddaear wrth ei ymyl.

Canfûm yn ddiweddarach fod pob uno’r bythynnod ar wahân i f’un i ynfythynnod gwyliau. Y noson honno,meddyliais yn ffansïol am Ifan a’i wraigMaggie fel y rhai diwethaf o’u hil, yn byweu hunain gydag ysbrydion cymuned agollwyd.

Ond nid oedd yn gwbl ar ei ben ei hun.Roedd yn un o griw bach o ffermwyr rhan-amser – yn ddynion a gwragedd – oedd yncadw tyddynnod o gwmpas Mynydd Rhiwbryd hynny; amryw ohonynt yn dibynnu arfynediad i’r comin ar gyfer tir pori yn yr haf.

Roedd Ifan yn enwog yn yr ardal amhyfforddi cwn defaid; ei ddifyrrwch aralloedd llosgi eithin a grug. Er hyn, mifyddwn i’n mynd heibio i dwmpathau orug clochog ac ynddynt ambell i friwydd yrhostir ar y ffordd i’r ffynnon, a adeiladwydmewn hollt rhwng y clogfeini tua 50 llatho’r bwthyn; mi fyddwn i’n tarfu arfadfallod dwr palfog du wrth drochi fymwced yn y dwr crisial oer; ac i’r cyfeiriadarall o’r bwthyn, byddwn yn cerdded drwydegeirianau porffor y gwanwyn a milddailar fy ffordd drwy’r cae bach i’r twll llebyddwn i’n gwagio bwced yr ‘Elsan’.

IV

Erbyn hyn mae’n un mlynedd ar hugainers i mi gario’r ychydig feddiannau olafoedd gen i i fyny’r lôn werdd sy’n cysylltu’rbwthyn â’r byd y tu hwnt. Rydw i wedipenderfynu mynd am dro i weld sut gyflwrsydd ar fy hen gartref ymysg yr eithin a’rgrug ar Fynydd Rhiw.

Mae fy nghymydog Ifan wedi henymadael; mae ei gartref diarffordd ynfwthyn gwyliau arall. Nid yw tir comin ymynydd yn cael ei bori bellach ac niffermir ei dyddyn erbyn hyn ond ynhytrach llwyni mawr o eithin, rhedyn athwmpathau o fyswellt sy’n tra-arglwyddiaethu.

Wrth i mi edrych allan ar yr hyn oeddunwaith yn glytwaith cywrain o gaeau arhostir, ffrwyth llafur cenedlaethau odyddynwyr, rwy’n ceisio fy argyhoeddi fyhun mai natur yn ail-feddiannu’r hyn oeddunwaith yn eiddo iddi yw’r olygfa sy’nymddangos o’mlaen. Ond mae adleisiau ogymuned goll yn dychwelyd i’m gofidio.Yn y dyddiau hyn o newid hinsawdd agorlenwi, mae’n hawdd meddwl fodperthynas dyn â natur bob amser ynnegyddol. Ond y mae yna ardaloedd llemae tensiwn rhwng pobl a’u hamgylcheddwedi creu tirwedd o harddwch eithriadol

6

Ifan Pig y Parc; un o’r rhai olaf o linach hir odyddynwyr i ffermio llethrau caregog Mynydd Rhiw.(Tony Jones / rhiw.com)

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 6

Page 9: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

ac, ie, gynefinoedd bywyd gwyllt amrywiola llewyrchus; a dyma’n wir oedd un o’rmannau hynny.

Meddyliais am ddyfodol y rhostiroedderaill ar y penrhyn. Sut y gallstrategaethau bioamrywiaeth a chynlluniaucadwraeth ymgeleddu’r elfen ddynol mewnbyd lle mae disgwyliadau pobl am fywydwedi newid cymaint? Oes yna unrhywddiben mewn diogelu cynefin pan fo’rffordd o fyw sydd wedi ei greu wedidiflannu?

Wedi fy ngorchfygu, rwy’n ysgwyd fymhen, ac yn gwenu wrth feddwl bethfyddai Elin Baum ac Ifan Pig y Parc yn eiwneud o’r fath gwestiynau. Wrth droi iymlwybro’n ôl i fyny’r lôn at y car, y cwbly gallaf fod yn sicr ohono yw bod ymannau hyn yn rhan bwysig o’u bywyd, addylen ni byth anghofio fod eu bywydauhwythau’n rhan bwysig o’r mannau hyn.

V

Aeth canrif heibio ers i fy nain helpoethwal ar Yr Eifl. Rwyf mewn cyfarfodo fenter Cadw’r Lliw yn Llyn, yn trafodstrategaeth ar gyfer diogelu’r ychydigrostiroedd sydd wedi goroesi.

Er clywed am y pwysau lu sy’n dal ifygwth y rhostiroedd sy’n weddill ar ypenrhyn, mae naws y cyfarfod ynoptimistig. Clywir fod gwaith mawrtrawiadol wedi ei wneud eisoes. Mae hynyn cynnwys adfer terfynau traddodiadol,gwella mynediad i’r cyhoedd a gweithredurhaglenni monitro cynefinoedd.

Awn ymlaen i drafod cryfhau’rbartneriaeth a pharatoi strategaeth allaiddenu arian i sicrhau dyfodol tymor-hir i’rmannau hyn. Wrth i’r cyfarfod fyndrhagddo, rwy’n sylweddoli mae’r her fwyafsy’n ein wynebu yw nid sut i adennill yrhostir mewn ardaloedd lle’i collwyd;gwyddom y gellir gwneud hyn, gydachefnogaeth ariannol a thechnegol addas.Nid gwybod sut i oresgyn yr arwahanu sy’nbygwth y rhan fwyaf o’n rhywogaethaurhostir yw’r anhawster chwaith; gellir creucloddiau, gwrychoedd, pentiroeddcadwraeth, pyllau a gwlyptiroedd newyddfel ‘llwybrau’ a ‘cherrig llamu’ gydachymorth tirfeddianwyr.

Na, yr her fwyaf sy’n ein hwynebu ywsut i sicrhau fod yna agosrwydd cryf rhwngrhostiroedd y dyfodol a’u cymunedau - acnid gydag ychydig o ffermwyr mawr aphobl sy’n hamddena ar benwythnos - ondgyda chenhedlaeth newydd o weithwyr amân-ddeiliaid. Bryd hynny’n unig y gallwndeimlo fod ein rhostiroedd comin ynwirioneddol fyw.

7

Logo Cadw’r Lliw yn Llyn Prosiect partneriaeth dair blynedd yw Cadw’r Lliw ynLlyn. Y bwriad yw rheoli a gwella ansawdd yr iseldira’r rhostir arfordirol yn Llyn ac Eifionydd.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 7

Page 10: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Ym Mis Mehefin y llynnedd, cefais yfraint o fynd ar fordaith i Svalbard, grwp oynysoedd yn yr Arctig sydd bellach ynperthyn i wlad Norwy. Roeddwn yn myndar y daith yn llawn brwdfrydedd am weldrhyfeddodau byd natur mewn cynefinhollol ddieithr, a chael dysgu mwyamdanynt. Wrth gwrs fel pawb arall ar ydaith, roeddwn yn gobeithio’n fawr ybuasai hyn yn cynnwys gweld o leiaf unarth wen. Sylweddolwyd yn fuan iawn nadmordaith arferol oedd hon ond alldaithanturus! Erbyn cyrraedd Svalbard,gwelwyd fod y rhew wedi cilio dipyn mwyna’r disgwyl am yr adeg o’r flwyddyn acroedd y Capten yn ysu am gael hwylio oamgylch yr ynysoedd, taith na ellir eichyflawni’n amal. Ni wireddwyd yfreuddwyd hon, ond yn sgil yr ymgais,cawsom wledd o brofiadau bythgofiadwy,ac yn coroni’r cyfan oedd y cyfleoedd agawsom i weld nifer o eirth, ymhell acagos, yn eu cynefin ar y rhew, a chaeldysgu mwy amdanynt gan yr arbennigwyrar y cwch.

Credir i’r arth wen (Ursus maritimus)esblygu o’r arth frown tua 200,000 oflynyddoedd yn ôl yn ardal Siberia. Erbynhyn mae wedi addasu ei groen a’i ffwr, achynyddu ei fraster fel y gall ddygymod athymheredd isel iawn yr Arctig, ac maewedi newid lliw ei ffwr er mwyn hwylusohela ar y rhew. Mae wedi ei insiwleiddiomor dda yn erbyn yr hinsawdd ac oerni’rmôr nes ei fod mewn peryg o or-boethi aradegau. Felly pan nad yw’n hela bydd ynamal yn gorweddian neu yn rhwbio’i gefnar y rhew i ostwng gwres y corff. Gorweddar y rhew o dan haen o eira oedd yr arthgyntaf a welsom ar ein taith, ac er ei bodymhell i ffwrdd sylweddolwyd fod posibgweld eirth ynghanol gwynder y rhew ganeu bod yn fwy melynwyn eu lliw. Pannesaodd y llong ati, cododd yr arth asymud i ffwrdd oddi wrthym tuag at y dwr,ac yna nofio at y darn rhew nesaf.Gwelsom drosom ein hunain fod ycreadur yr un mor hapus yn nofio yn y dwrag yw yn cerdded ar y rhew. Mae ei gorff

8

Yr Arth WenCatrin Evans

Mae’r awdur yn hanu o Flaendulais, ardal sy’n arwain i lawr am GastellNedd, ar y ffin rhwng hen siroedd Brycheiniog a Morgannwg. Cyn ymddeolbu’n gweithio fel Ymwelydd Iechyd. Y mae’n byw yn Llanfairfechan, rhwng

Conwy a Bangor. Diolch iddi am gofnodi taith mor hynod o ddiddorol.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 8

Page 11: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

wedi addasu’n dda ar gyfer nofio, ac fe allnofio am filltiroedd ar adegau.

Gwryw oedd yr arth gyntaf yma oedd ynteithio fel sy’n arferol ar ei ben ei hun.Roedd yn anferth o anifail. Fel arfer mae’rgwryw yn tyfu i fod ddwywaith maint yfanw ac fe all bwyso hyd at hanner tunnell.Hwn yw’r anifail ysglyfaethus mwyf sy’nbyw ar y tir. Ar eu pen eu hunain oedd yddwy arth arall a welsom y diwrnodhwnnw hefyd. Maent yn crwydro’n unigoldrwy’r flwyddyn, heb aeafgysgu, ond amun wythnos tua mis Ebrill neu Fai panddaw nifer at ei gilydd i baru. Ni fydd ygwryw yn chwarae unrhyw ran ymmagwraeth y cenawon.

Mae gan yr arth wen allu rhyfeddol iohirio’i beichiogrwydd er mwyn geni eichenawon rhwng Tachwedd a Ionawr.Mae’r amseriad yma’n rhoi cyfle iddyntdyfu digon i allu cychwyn yn syth ar eutaith hir ar y rhew pan ddaw’r Gwanwyn.Bydd y fam yn cloddio gwâl ar lethr o eirasy’n gysgodol oddi wrth wyntoedd y gaeaf,ac yma bydd y beichiogrwydd o ddau fis yncychwyn. Roeddem ni’n teithio ar ochrddwyreiniol Svalbard am amser, ac ynmynd i gyffiniau ynys Kong Karls Landsy’n warchodfa gaëdig oherwydd ei fod ynun o’r llefydd prin sy’n addas i greu gwâl.

Ni chaniateir i longau fynd yn rhy agosiddi, ond wrth gwrs ‘roedd yr eirth bellachallan ar y rhew ac felly ‘roedd yn ardal ddai geisio eu gweld.

Gall y fam eni hyd at bedwar ogenawon, ond mae hyn yn anarferol iawn.Mae’n debyg bod tri yn anarferol i eirthSvalbard hefyd, ac felly roedd cynnwrfmawr ar y llong ymysg y criw, yrarbenigwyr, a ninnau’r teithwyr, panwelwyd arth yn y pellter a thri o rai bachyn ei dilyn ar draws y rhew tuag atom!

Cawsom gyfle i’w gwylio am beth amseryn dilyn y fam gan neidio, dringo a nofiowrth ddod yn nes atom, a bob hyn a hynyn gorwedd i lawr i orffwys nes cael eusymud ymlaen unwaith eto.

Codai’r fam ei phen yn amal i edrychtuag atom a synhwyro’r awyr, ond ‘doedddim ofn arni. ‘Roedd y cenawon bach ynamlwg betrusgar cyn gorfod neidio droshafn, neu i’r dwr, ond maent yn nofwyr dao’r cychwyn. Trodd y fam un tro olaf cynarwain y tri bach i’r dwr ac i ffwrdd oddiwrthym.

Byddaf yn meddwl yn amal beth ddaethohonynt. Mae canran uchel yn marw yn eublwyddyn gyntaf, ond gall y rhai sy’ngoroesi fyw am ugain mlynedd neu fwy.Byddant yn cael eu cynnal gan eu mam amtua dwy flynedd a hanner cyn cychwyn areu taith unig fel oedolion.

Daeth diwrnod bythgofiadwy arall!‘Roedd y llong yn araf symud drwy fôr orew a estynai hyd at y gorwel, ac ‘roedd yrhaul yn tywynnu am y tro cyntaf erscychwyn ein taith, pan welid eirth unwaitheto yn y pellter. Mam a dau ifanc tuadwyflwydd oed oedd y rhain. ‘Roedd ynamlwg eu bod yn cael ogleuon bwyd o’rllong, ond hefyd ‘roedd elfen ochwilfrydedd yn eu denu tuag atom. Daethy llong a’r eirth yn raddol at eu gilydd, nesbod ond ychydig lathenni yn ein gwahanu,ac yno buom am gryn hanner awr ynastudio’n gilydd. Wn i ddim amdanynthwy, ond fe gawsom ni wledd! Gwelsomgryfder eu coesau ôl wrth iddynt sefyll ynunionsyth i edrych arnom, a chlywsom y triyn chwyrnu yn eu gyddfau arnom cyn troi i

9

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 9

Page 12: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

ffwrdd ac ymddangos fel pe baent wedianghofio amdanom. Cawsom wylio’r ddaufach yn chwarae hefo’u gilydd, a gofal yfam drostynt. Sawl gwaith, fe geisioddarwain y ddau i ffwrdd oddi wrthym. Bobtro, trodd y gwryw ifanc oedd broncymaint a’i fam, i’w dilyn, ond sefyll ei thira wnai’r fanw fach gan ddal i’n gwylio, a‘nol gorfu iddynt ddod! ‘Roedd yr hollbrofiad yn wefreiddiol!

Y morlo cylchog (ringed seal) yw priffwyd yr arth, ond bwytant unrhyw beth ygallent pan fo bwyd yn brin. Byddant yndal y morlo wrth iddo ddod i’r wyneb ianadlu rhwng y rhew, ac yn sugno’r brastersy’n angenrheidiol i’w tyfiant cyn bwyta’rcig. Mae’r morlo barfog (bearded seal) ynanoddach i’w hela, gan ei fod yn dueddol oorweddian ar y rhew, ond dyma oedd ganein arth olaf! Newydd ddal y morlo oeddyr arth ac ‘roedd yn ei lusgo’n araf ardraws y rhew gan adael llwybyr gwaedlydo’i ôl. Parodd yr ymdrech yma iddo or-boethi a bu raid iddo orwedd ar ei gefn iostwng ei dymheredd cyn symud yn eiflaen Er mor falch oeddwn fod yr arthwedi cael pryd, ni allwn beidio a theimlodros y morlo druan! Mae dal morlo’nwaith anodd iawn a byddant yn methu tuadeunaw gwaith o bob ugain cynnig. Felly,‘roeddem wedi cael profiad arall anhygoel,a chael gweld agwedd arall o fywyd yranifail gwych yma.

Gwelais lawer mwy na’r disgwyl ar ydaith, a theimlaf i mi gael braint fawr o fodyng nghwmni’r anifail godidog yma amychydig amser, ond ni allaf lai na theimlo

tristwch hefyd wrth sylweddoli mor fregusyw ei ddyfodol. Mae’r holl gemegau sy’ncael eu tywallt i fôr yr Arctig o afonyddmawr Rwsia wedi cyrraedd yr arth wendrwy’r cylch bwyd ac eisoes maearwyddion bod hyn yn amharu ar eusystem imiwnedd, ac ar eu gallu iatgenhedlu. Caiff tua mil y flwyddyn eulladd yn fyd eang drwy hela, ac wrth gwrsmae’r newid yn yr hinsawdd yn beryglmawr iddynt. Mae tewder rhew morolwedi gostwng o rhyw 40% yn ystod y degmlynedd ar hugain diwetha’ ac mae’nddigon posib na fydd rhew môr i’w weldyn ystod yr haf ymhen hanner canmlynedd. Ni all yr arth wen esblygu’nddigon cyflym i ddygymod â hyn, ac maeperygl mawr iddi ddiflannu’n llwyr cyndiwedd y ganrif. Mae’n ddyletswyddarnom i gyd i weithredu’n fuan er mwynsicrhau dyfodol i’r anifail gosgeiddig hwn,ac i’r cenedlaethau sydd i ddod.

10

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 10

Page 13: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Rwy’n gwybod am nyth enfawr oforgrug ar lan Afon Giedd ers bron i chwedegawd. Nid oeddwn yn gwybod pa fath oforgrug oeddynt nac am eu pwysigrwyddam flynyddoedd ond roeddynt yn forgrugmawr!

Pan yn cerdded trwy GoedwigCwmgïedd ar 20ed. Ebrill 1996, trwysiawns dyma ddod ar draws dau nythenfawr na welais mohonynt cyn hynnynepell o’r nyth gwreiddiol. Ysbardunwyd fyniddordeb, ac ar ôl darllen ambell i erthyglgwelais fod posibilrwydd mae Formica rufaoeddynt, sef Morgrug-y-Coed.

Mae amcangyfrif bod yn agos i hannercant o wahanol rywogaethau o forgrug ynYnys Prydain ac mae llawer ohonynt ynfach ac yn anodd eu gweld. Mae mwyafrify morgrug yn gwneud eu nythod o dan yddaear mewn coedwigoedd, neu tu mewn inythod eraill.

Mae’n hawdd i naturiaethwyr astudioMorgrug-y-Coed oherwydd mae eugweithwyr yn 10mm o hyd ac yn bywmewn nythod enfawr.

Tros y blynyddoedd bu llawer oymryson ynglyn ag enwi morgrug-y-coed,ond erbyn heddiw mae’r rhan fwyaf oarbenigwyr yn gytun ynglyn â’r rhestrBrydeinig. Aelodau o’r genws Formica ywMorgrug-y-coed, ond nid yw pobrhywogaeth o’r Formica yn Forgrug-y-coed.

Y rhai hynny a ystyrir yn Forgrug-y-coedyw:- F. rufa, F. aquilonia, F. lugubris a F.pratensis (gw. Colligwood 1979). Ymorgrug sydd genym yng Nghwmgïedd ywFormica rufa.

Mae’n bosibl mai eich profiad cyntaf oforgrug-y-coed fydd darganfod eullwybrau, neu eu gweld yn dringo lan alawr y coed, neu daro ar draws eu nythenfawr. Os gwelwch y gweithwyr yn gyntafmae’n bosibl eu dilyn ar hyd y llwybr yn ôli’w nyth lle byddant yn cludo ysglyfaeth,neu gyda’u bol wedi chwyddo o felwlith.

11

Morgrug Coch (Morgrug-y-Coed)Formica rufa

Yng Nghoedwig CwmgïeddArwel Michael

Mae’r awdur yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Edward Llwyd, yn gyfrannwri’r cylchgronnau, ac wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd. Ersblynyddoedd bu’n ymgyrchu dros y Gymraeg yng ngweithgareddau ParcCenedlaethol Bannau Brycheiniog. Y mae Arwel yn gerddwr eithriadol,

e.e. o Ystradgynlais i gopa’r Wyddfa mewn saith niwrnod!!

Formica rufa

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 11

Page 14: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Mae Formica rufa yn forgrugyn mawr ac ynymestyn o 4-10mm. Fe welwyd y rhairhywiol (y gwrywod a’r breninesau) ynamrywio hyd at 10-12mm. Mae ganddyntfol du, ac mae y rhannau blaen o’u corffyn gochlid yn y gweithwyr. Amddiffynnireu tiriogaeth yn awchus, a gwelwydbrwydrau yn aml yn ystod y gwanwyn.

Yn ne Prydain y morgrug-y-coed rydymyn debygol o’i weld ydi Formica rufa. Mae’rrhain yn codi nythod enfawr twmpathogallan o nodwyddau coed pinwydd achoesau dail, a.y.y.b. Mae F. sanguinea, ynbyw mewn nythod llawer llai eu maint yn ycoedwigoedd, neu safleoedd agored tumewn i goedwigoedd.

Mae ffordd Formica rufa o fyw ynysglyfaethus; hefyd maent yn cael maethtrwy ofalu ar ôl Buchod-y-morgrug(aphids). Mae llawer o drafod wedi bodynglyn â’u hymddygiad ysglyfaethus achefyd eu carthu. Does dim amheuaeth bodnifer helaeth o’u hysglyfaeth yn cael eucludo yn ôl i’r nyth. Gwelir hyn yn hawddwrth eu gwylio ar hyd eu llwybrau.

Ar rai adegau o’r flwyddyn, fe welwch ymorgrug yn cludo amrywiaeth o ysglyfaethyn ôl i’r nyth, er enghraifft llawer o lindys,pob math o glêr, moch y coed (gwrachodlludw), llyslau (aphids) sydd wedi eugweini a heb eu gweini, chwilod, corynnod,a.y.y.b. Mae cofrestr lawn o’r bwyd maentyn eu gludo i’w nyth yn enfawr. Maeastudiaethau o Formica rufa yn amcangyfrif

cymaint â 60,000 o eitemau a gludwyd i’rnyth yn ddyddiol. (Skinner 1980b), 5kg ynfisol o ysglyfaeth o bryfed, a darnau eraill ofwyd.

Gwelwyd llawer o eitemau eraill yn caeleu cludo i’r nyth, a hynny am ddimrheswm amlwg. Yn ystod y gwanwyncynnar, wedi i’r gaeaf caled fynd heibio, feallwch weld llawer o weithwyr yn cludonodwyddau o’r coed pinwydd, coesau daila defnydd eraill i gyweirio’r nyth. Am bareswm maent yn cludo’r fath beth â hadGwlydd-y-perthi (Galium aperine)? Nidyw’r rheswm am hyn yn amlwg, ond mae’nbosibl bod rhywbeth i fwyta ynddynt;maent yn bwyta had y fioled (Viola)oherwydd yr olew sydd ynddo. Mae rhanhelaeth o’r bwyd hwn yn ddefnyddiol iddarparu maeth i’r hil newydd, sy’nangenrheidiol i’w datblygiad.

Mae’r gweithwyr sydd’n chwilio amfwyd, a hefyd y rhai yn y nyth yn dibynnuyn bennaf ar hylif melys. Ceir y rhan fwyafo’r hylif hwn o’r gwastraff y mae Buchod-y-morgrug yn ei ysgarthu. Mae’r pryfedhyn yn sugno sudd o blanhigion sy’ngyfoethog mewn siwgr, ac wedi iddynt gaelcyflenwad maent yn ysgarthu yr elfen felysa elwid yn ‘melwlith’. Mae’r rhan fwyaf o’rmorgrug, gan gynnwys Morgrug-y-coed ynhoff iawn o bethau melys.

Mae rhai pryfed yn cael eu gweini a’ugodro gan Forgrug-y-coed am eu melwlitha gall hyn olygu dringo i gopaon y coeduchel. Cafwyd astudiaeth o Forgrug-y-coedyng ngogledd orllewin Lloegr a gwelwyd ymorgrug yn dringo hyd at gopa coedPinwydd Albanaidd 30m mewn uchder

12

Llun. 1. Dafydd Dafis ger un o nythod Morgrug-y-Coed, Cwmgiedd, Mai 10ed 1996.

Llun. 2. Tyllau Cnocell-y-Coed Werdd yn nythMorgrug-y-Coed, Ebrill 27ed 1996, Cwmgiedd.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 12

Page 15: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

lle’r oedd Buchod-y-morgrug. Ar ôl eugodro, yn ôl i’w nyth yr aeth y morgruggyda’u stumogau’n llawn o felwlith.

Mae’r swm o siwgr a gludwyd yn anferth– mae’r amcangyfrif yn cynnwys droschwarter tunell y nyth mewn tymor.

Pa effaith y mae’r morgrug yn ei gaeltrwy weini, gwarchod, glanhau, godro acefallai gyffroi dawn atgynhyrchiol Buchod-y-morgrug? Y farn gyffredinol yw bod ypryfed yn elwa o’r berthynas a bod eu niferlawer yn uwch lle mae’r morgrug ynbresennol.

Nid yw morgrug yn trin pob math obryfed yr un fath. Er engrhaifft, gwelwydbod ar y Fasaren Acer pseudoplatanusrywogaeth Periphyllus testudinaceus,rhywogaeth fach ddu ar goesau’r dail syddyn cael eu gweini gan y morgrug, ond nidyw’r rhywogaeth gyffredin, Drepanosiphumplatanoides sydd hefyd ar y Fasaren yn caeleu gweini, yn wir, cant eu hysglyfaethu’ngyson gan y morgrug.

I beth y defnyddir yr holl fwyd? Wrthgwrs mae angen llawer ohono am ynni i’rgweithwyr i gael chwilio am eu bwyd, iymladd, a gweini tros yr hil. Os ystyriwn

bod poblogaeth y gweithwyr mewn nyth oFormica rufa tros 250,000 fe welwn bod euhanghenion yn ddealladwy. Gwelwn fodbwydo’r hil yn cymryd cyfran helaeth ofaeth yr ysglyfaeth. Mae’n angenrheidiolcael bwyd sydd yn uchel mewn ynni, ynenwedig yn ystod yr amser pan mae euffurf rywiol (epilio) yn gweithredu. Gwelir

y mwyafrif o’r morgrug, y gwrywod a’rfrenhines (y morgrug hedfan) yn ystod misMehefin fel rheol ac mae eu rhif ynanferth, ac maent yn llawer mwy yngorfforol na’i gweithwyr, hyd at 12mm.

Gweithred arall gan y morgrug ywddefnyddio eu hegni i gadw tymheredd ynyth yn uwch na’r tir o’i amgylch. Nid oesamheuaeth bod y weithred hon yn digwydd(Skinner 1980a).

Gwelwyd hefyd bod rhan o’r gwres syddyn y nyth nid yn unig yn dod o belydrau’rhaul, ond gan y gweithwyr. Gweithiant ynddi-dor yn ystod y tymor trwy welltogi eunyth i gadw’r gwres i mewn. Gweithredarall sy’n cadw tymheredd y nyth ydi’rymgasglu gan y morgrug yn eu miloedd arfiloedd tros y nyth yn nechrau’r tymor,gweler Llun. 4.

Yng nghanol y drefedigaeth mae nythmorgrug-y-coed yn ymestyn dros nifer ofetrau sgwâr o’i amgylch. Mae’r morgrugyn llifo allan o’r nyth ar hyd eu llwybraupenodedig sy’n ymestyn hyd at 100m iffwrdd o’r nyth i bob cyfeiriad. Fe welwydy gweithwyr yn gadel y llwybr i chwilio amfwyd ar lawr y goedwig. Bydd nifer helaetho’r gweithwyr yn cyrraedd diwedd y llwybrac yn fynych yn dringo coeden am ymelwlith.

Yn ôl Morley (1953) yr oedd morgrug-y-coed yn prinhau oherwydd bodsafleoedd coediog yn cael eu torri i lawr i’wdatblygu. Heb os, mae dirywiad yn nifermorgrug-y-coed tros Ewrob, ac mae hynyn wir am Formica rufa sydd gyda ni yngNghymru, ac yn Lloegr. Mae nifer eutrefedigaethau yn amlwg yn lleihau fel y

13

Llun. 3. Nyth Morgrug-y-Coed, Cwmgiedd, Awst9ed 2003.

Llun. 4. Morgrug-y-Coed yn eu miloedd yn cynhesu eunyth dechrau’r tymor, Ebrill 22ed 2006, Cwmgiedd.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 13

Page 16: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

dangoswyd gan Barrett (1968), ac mae’rcofnodion amdanynt yn fwy gwasgaredig,a gwelwyd bod cynnydd yn eu diflaniadmewn rhai ardaloedd.

Mae dosbarthiad Formica rufa yngNghymru wedi amrywio dros yblynyddoedd, Hughes (1975), yn enwedigmewn coedwigoedd ar dir isel yng ngogleddCymru lle’r oeddynt yn cael eu rheoli felprysglwyni am danwydd i ffwrnesi ennillmwyn. Hefyd gwelwn fod archwiliadautrwyadl wedi eu gwneud o lenyddiaeth sy’nystyried bod saith deg naw o drefedigaethauMorgrug-y-coed wedi eu cofnodi yngNghymru - yng Ngwent yn bennaf - achrynoadau yng ngogledd Ceredigion aDyffryn Mawddach.

Mae nythfeydd wedi diflannu o Cwrt-yr-Ala a Castell-Coch, Morgannwg,Nelms(1938). Nid oes Formica rufa wedieu rhestru erioed yn Sir Benfro, Sir Fflint,na Sir Fôn. Mwy na thebyg maent wedidiflannu o Sir Ddinbych, ac yn hynod obrin yn Sir Frycheiniog a Sir Gaerfyrddin.

Ar Ebrill 22, 2006 pan oeddwn yncerdded trwy goedwig Cwmgïedd roeddwnwedi dod ar draws nyth newydd o Formicarufa heb fod ymhell o’r tri nyth sefydledigsydd yno.

Wythos yn ddiweddarach fe es i gael ailolwg o’r nyth newydd. Roedd yn tyfu’ngyflym ac er fy syndod, gwelais nyth newyddarall yn dechrau yn yr un darn o goedwig.

Torrwyd y coed pinwydd oedd yno ilawr bron i bum mlynedd yn ôl gan yComisiwn Coedwigaeth, ac mae’nymddangos ar hyn o bryd bod hyn wedibod o fantais i’r morgrug. Wrth fôn coedffawydd y mae’r nythod newydd, mewnsafle sydd yn dal pelydrau haul y bore.

Cyn i dymor y morgrug ddod i ben, aethHuw fy nghyfaill a’i fab Ben i weld y ddaunyth newydd a gwelsant fod cyfanswm osaith o nythod newydd yno. Mae sefyllfaFormica rufa yng Nghwmgïedd yn addawoliawn. Fel y dywedwyd, prin iawn yw’rmorgrugyn hwn yn Sir Frycheiniog (DePowys). Mae tri nyth wedi bod yno ersddegawdau - rhaid gwarchod y saithnewydd o hyn ymlaen.

Y bygythiad amlycaf i’r rhywogaeth ywdistrywio eu cynefin, newid mewn dull odrin y tir, a’r ymweld cyson â’rcoedwigoedd. Nid yw Morgrug y coed yngallu goroesi tu allan i goedwigoedd, acroedd astudiaeth ddiweddar Punttila aHaila (1996) yn dangos bod clirio’r coeda’u llosgi wedi distrywio pob golwg o nythFormica rufa mewn coedwig yn y Ffindir.

CyfeiriadauBarret, K.E.J 1965. A survey of the distribution

and present status of the wood-ant Formica rufa L. inEngland and Wales. Trans. Soc. for British Entomology.17: 217-233.

Collingwood, C.A. 1979. The Formicidae(Hymenotera) of Fennoscandia and Denmark. FaunaEntemologica Scandinavica. Vol. 8.

Hughes, I.G. 1975. Changing altitude and habitatpreferences of two species of wood-ant (Formica rufaand F. lugubris) in North Wales and Salop. Trans.Roy. Entomological Soc. 127: 227-239.

Morley, D. & Wragge. 1953. Ants. New NaturalistMonograph. Collins. London.

Nelmes, E. 1938. A survey of the distribution ofthe wood ant (Formica rufa) in England, Wales andScotland. J. Animal Ecol. 7: 74-104.

Skinner, G. J. 1980a. Territory, trail structure andactivity patterns in the wood-ant Formica rufa inlimestone woodland in north-west England. J. AnimalEcol. 49: 381-394

Skinner, G. J. 1980b. The feeding habits of thewood-ant Formica rufa in limestone woodland innorth-west England. J. Animal Ecol. 49: 417-433

14

Cyn 19801980 ymlaen

Dosbarthiad Formica rufa yng Nghymru.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 14

Page 17: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

15

Adnabyddir Mynydd Helygain fel ardalo dir comin, y rhan fwyaf ohono rhwng tua800 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr.Mae yn mesur tua 2000 o aceri ac ynymestyn o Bantasaph ger Treffynnon hydat Rosesmor. Cyn Deddf Cae Cominplwyfi Ysgeifiog a Chwitffordd yn 1807roedd yn llawer mwy na hyn. Penderfyniady prif dirfeddiannwr ar ymyl y mynydd ymmhlwyfi Treffynnon a Helygain, yrArglwydd Grosvenor, oedd cadw’r darnauhynny yn dir comin, er mwyn diogelu eihawliau mynediad at ei brif byllaumwyngloddio plwm.

Mae tirlun y mynydd heddiw yn ununigryw. Mae’n frith o ganlyniadaucanrifoedd o gloddio am fwyn plwm agwahanol fathau o gerrig, ond mae’r ffaithbod gan y ffermwyr cyfagos hawliau pori ary mynydd hefyd wedi cyfrannu at natur ytirlun sydd gennym heddiw. Creodd ychwyddiant aruthrol yn y diwydiantmwyngloddio am blwm yn ystod hannercyntaf y ddeunawfed ganrif, gyda’rmewnlifiad o fwynwyr a’u teuluoedd,brinder tai. Yr ymateb i hyn oedd i boblddechrau adeiladu tai unnos ar y mynyddagored, gan gau tir o’u cwmpas.Arweiniodd hyn at ddatblygiad pentrefi felRhes-y-cae, Felinwynt, Moel-y-Crio, aLicswm.

Y brif graig yw’r garreg galch neu’rgalchfaen ond ceir gwahanol fathau ohonoar draws y mynydd. Ers canrifoedddefnyddiwyd y rhannau hynny gydachanran uchel o galch pur a’i losgi i’wddefnyddio ar y tir ac fel morter, a cheiradfeilion odynau calch mewn llawer man.Tua chanol yr ugeinfed ganrif datblygwydllawer o’r chwareli hyn gan gwmnïau

mawr, yn wreiddiol i gynhyrchu calch atbwrpas amaethyddol ond yn ddiweddarachi adeiladu ffyrdd. Heddiw mae dwychwarel enfawr yn cynhyrchu miloedd odunelli’r flwyddyn ac maent yn cael effaithandwyol ar yr amgylchfyd trwy greu llawero lwch sydd i’w weld fel llen ar y tyfiantnaturiol mewn rhai mannau. Maeeffeithiau’r lorïau enfawr sydd yn ddyddiolyn colbio’u ffordd trwy Helygain aPhentref Helygain yn bwnc llosg. Matharall o galchfaen i’w gael ar y mynydd yw’r‘Aberdo’, yn cynhyrchu morter sydd yngallu cael ei ddefnyddio o dan ddwr.Cludwyd llawer ohono i adeiladu’r dociauyn Lerpwl ac i adeiladu pontydd fel ar yFenai. Ceir hefyd galchfaen a adnabuwydfel ‘Halkyn Marble’. Mae yn las ei golwgac yn frith o ffosilau. Darganfyddid fodganddo’r nodwedd arbennig o fedrucymryd ei sgleinio gyda charreg bwmis acfe’i defnyddiwyd i adeiladu colofnau yneglwys newydd Helygain a adeiladwyd yn1878.

Carreg arall ar y mynydd yw siert[chertstone]. Mae hwn yn fath o garregsilica gyda llawer o nodweddion carreg

Mewn llinell o’r chwith i’r dde: – ffordd; gwaith agoredar hyd gwythïen, ffos dwr, gyda Rhes-y-cae yn y cefndir

Mynydd Helygain, Sir y FflintBryn Ellis

Magwyd Bryn Ellis yn Nyffryn Clwyd, a bu’n brifathro ysgol uwchraddyr Argoed, Mynydd Isa, ger Yr Wyddgrug. Y mae bellach wedi

ymddeol ac yn byw yn Y Trallwng.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 15

Page 18: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

gallestr. Cafwodd ei ddarganfod fel carrego ddefnydd yn y diwydiant llestri a dyma anodwyd gan Pennant yn ei lyfr ‘History ofthe parishes of Whiteford and Holywell’1796 (tud. 130):

It is frequently cut out of its quarries ingreat masses, and sent to the potterycountries of Staffordshire, first, for thepurposes of forming stones to grind andcommunite the calcined flints, which arethe great ingredients in the stone ware,and I think it is itself calcined, andbeing homogenous with the purer flints,serves also for the same purpose.

Cludwyd tunelli o siert mewn blociaui’w defnyddio mewn melinau yn Ardal yCrochendai tan y 1930au. Gan fod ynrhaid cynhyrchu’r garreg hon mewnblociau o faintioli arbennig cafwyd llawer owastraff a cheir hyd heddiw dwmpathaumawr o wastraff, er bod llawer ohono wediei glirio yn y 1950au a’r 1960au feldefnydd gwneud ffyrdd. Cafwyd hyd ibocedi o glai tân hefyd ac mae teulu o fochdaear wedi ymgartrefu mewn un o’r pyllauclai ar y mynydd.

Beth bynnag am effaith y cloddio amgarreg y prif olion diwydiannol ar ymynydd heddiw heb os yw rhai’r diwydiantmwyngloddio am blwm. Mae’n sicr bod yRhufeiniaid yn cloddio yma ac mae ynabeth tystiolaeth bod plwm wedi cael eiweithio ar y mynydd yn y cynoesoedd. Uneffaith o gloddio yw dinistrio tystiolaeth o

eraill a fu yn cloddio yn yr un manynghynt. Mae’r prif olion a welir heddiwfelly yn dyddio o ganol yr ail ganrif arbymtheg ymlaen hyd at yr 1980au pangaewyd y pwll olaf, sef Pen-y-bryn, athynnwyd y fframwaith pen pwll i lawr.

Un o’r arweddion mwyaf nodweddiadolo’r diwydiant plwm ar y mynydd heddiwyw’r nifer fawr o byllau bach, y rhan fwyafmewn llinellau ar draws y mynydd yn dilyny wythïen. Gan fod gwythiennau fel arferi’w cael mewn llinell weddol sythcymerwyd prydles gan fwynwyr ar ddarn odir hirsgwar mewn cyfeiriad tebygol.Tiriwyd pwll crwn ychydig o droedfeddi ilawr. Os darganfyddid mwyn y dasg nesafoedd penderfynu cyfeiriad tebygol ywythïen ac yna tirio pwll arall i brofi hyn.Roedd gan y prydleswr yr hawl i ofyn ambrydles arall at y darn oedd ganddo, arlinell y wythïen wrth gwrs. Yna buasent ynmynd ati i weithio’r pyllau hyn o’r wynebcyn belled ag y gallent heb i’r ochrausyrthio i mewn cyn penderfynu ym mha lei suddo pwll dwfn. Mae lluniau o’r awyr oFynydd Helygain yn dangos nifer fawr olinellau o’r pyllau bach treialon hyn.

Fel arfer suddwyd dau bwll dwfn ganunrhyw gwmni o fwyngloddwyr, un felmynediad i lawr ysgolion rhaff at y gwaith,ac un arall at godi’r plwm a’r garreg. Y prifddull o godi llwythi oedd trwy ddefnyddioceffylau yn cerdded mewn cylch cyfagosgyda rhaff yn mynd dros fframwaith pren ilawr y pwll ynghlwm wrth fwcedi haearn

16

Cronfa ddwr Pant-y-ffridd

Calchbalmant

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 16

Page 19: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

17

neu ‘kibbles’. Mae olion llawer o’rcylchoedd hyn [‘whimsey’ neu ‘horse-gin’]i’w gweld heddiw. Taflwyd cynnyrch ycloddio mewn sypiau ar y mynydd a gwaithmerched a phlant yn arbennig oedddidoli’r mwyn, gan ddefnyddio morthwyl ifalu’r garreg lle’r oedd hyn ynangenrheidiol. Defnyddiwyd dwr hefyd yny broses o ddidoli’r mwyn a cheir llawer offosydd ar draws y mynydd i’w gludo. Ceirhefyd gronfeydd arbennig at y pwrpas.

Y twmpathau mawr o gerrig o gwmpas ypyllau hyn yw’r brif nodwedd weladwywrth groesi’r mynydd heddiw. Mae porfawedi tyfu ar y rhan fwyaf ohonynt ond nidar eraill. Ni wn y rheswm am hyn. Prin fodpresenoldeb y mwyn plwm yn rheswm ganei fod yn bolisi i’w ail ddidoli pan oedd ynagodiad sylweddol ym mhris y mwyn. Nidyw porfa wedi ymsefydlu chwaith ardwmpathau gwastraff y chwareli siert.

Yn ystod yr ugeinfed ganrif canolwyd ymwyngloddio mewn pyllau mawr dwfnwedi i dwnnel lefel y môr gael ei yrru oFagillt ger yr afon Ddyfrdwy i glirio’r dwr.

Cafwyd dulliau newydd mecanyddol achemegol o ddidoli’r mwyn a chafodd hyneffaith andwyol iawn mewn rhai mannau,yn arbennig yn ymyl Pen-y-bryn gerHelygain. Chwalwyd sypiau mawr o’rgwastraff gwenwynllyd dros wyneb y tir o’r1930au i’r 1970au - ardal eang lle nadoedd unrhyw dyfiant. Cafwyd cynllunarbennig o dan nawdd y Swyddfa Gymreigyn yr 1980au i adfer y rhannau hyn.

Nodwedd arall ar y mynydd yw’rtwmpathau crwn o gerrig a adeiladwyd arben llawer o’r pyllau. Mae yna dau fath

ohonynt. Cafodd y rhai cynharaf euhadeiladu gan gyn-fwynwyr a chwarelwyrar siâp cwch gwenyn, ac mae ôl crefftwaitharnynt. Cafodd eraill ei hadeiladu gan boblifainc yn yr 1980au fel rhan cynllun i’r di-waith. Defnyddiwyd fframiau metel i’wgosod yng ngheg y pwll ac yna gosod cerrigo’i gwmpas, eto ar ffurf cwch gwenyn. Ynun o’r rhai cynharaf gosodwyd drws yn yr

Diogelu siafftau – ‘cychod gwenyn’

Odynau calch

Pwll clai gyda daear moch daear

Cartref ystlumod

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 17

Page 20: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

ochr i ystlumod gael mynd i mewn acallan. Ni wn a ydynt yn dal i’w defnyddio.

Yr hyn sy’n gwneud Mynydd Helygainyn unigryw ydyw nad oes ond ychydigrannau ohono yn ‘naturiol’, hynny yw, hebgael ei drawsnewid yn sylfaenol ganweithgareddau dyn trwy gloddio am garrega mwyn. Mae ansawdd y tir a’r tyfiant arnohefyd wedi ei effeithio gan ganrifoedd obori, yn arbennig gan ddefaid, ac yn eithaftrwm. Y planhigion mwyaf trawiadol ar ymynydd yw eithin, rhedyn ac ambell iddraenen. Mae Tywodlys y Gwanwyn(Minuartia verna) yn nodweddiadol ar ytwmpathau plwm ar y mynydd, a’rYsgallen Bendrom (Carduus nutans) a’rYsgallen Ddigoes (Cirsium acaule) ar dirpori. Hefyd mae rhai mathau o degeirianyn tyfu mewn llefydd na all y ddafad eumynychu, megis mynwent eglwys Rhes-y-cae. Ni allaf gynnig llawer o sylw aranifeiliaid cynhenid y mynydd, ond yn amlgwelir y Bwncath yn hela yno. Yr argraffbersonol sydd gennyf yw bod yr Ehedyddwedi prinhau ers i mi ddod yn gyfarwyddâ’r mynydd yn yr 1980au cynnar. Cofiafweld y Gornchwiglen yn nythu mewn corsyn ymyl chwarel y Pant lawer blwyddyn ynôl ond nis gwn a ydyw yn dal yno.

Gellir crwydro’n rhydd ar draws ymynydd ond dylid cofio ei fod yn diramaethyddol. Rhaid hefyd ddeall ei fod ynmedru bod yn lle peryglus gyda chwareliagored a phyllau cuddiedig. Er hynnymae’n lle hyfryd i gerdded yn hamddenol arhyfeddu at ddycnwch dyn dros ycanrifoedd a’r gystadleuaeth dragwyddolrhwng gwastraff ymdrechion dyn, grymnatur a’r ddafad!

18

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 18

Page 21: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

19

Wyddoch chi lle mae Cwm Nantcol?Meddyliwch am y ffordd o’r Bermo i

gyfeiriad Harlech yn yr hen sirFeirionnydd. Trowch i’r dde ym mhentrefLlanbedr, gan ddilyn Afon Artro. Ymhenrhyw filltir mae’r ffordd yn fforchio. Ogadw ymlaen am oddeutu pedair milltir feddowch at y llecyn hyfryd Cwm Bychan,ond o droi i’r dde mae’r ffordd yn arwainat Gwm Nantcol. Dyma ardal yRhinogydd, gyda llwybr troed yn arwaindros Fwlch Drws Ardudwy rhwng yRhinog Fawr a’r Rhinog Fach.

Flynyddoedd yn ôl, tra’n crwydro’r ardaldawel hon, digwyddais gyfarfod â ffermwrlleol – a chodi sgwrs. Buan y sylweddolaisein bod ‘ar yr un donfedd’, a gwelsom eingilydd yn achlysurol dros y blynyddoeddmewn ambell i ‘steddfod. Eleni, ar forebraf ym mis Mai, dyma gyfle i gyfarfod ycyfaill, Evie Morgan Jones, ar fferm y mabyng Nghefn Ucha, Cwm Nantcol. Paned asgwrs a cherdded y tir gan sôn am hyn a’rllall.

Mae’r teulu yn ffermio rhyw 550 oerwau i gyd, llawer ohonno yn dir mynyddyn ffinio ar y Rhinog Fawr a rhyw 100 erwo ‘dir glân’ y gellir ei drin.

Yn naturiol, defaid a gwartheg yw prifgynnyrch y fferm, a buan y cyfeiriodd EvieJones at y newid a fu yn y patrwm o ofaluam y mynydd. Yn y gorffennol arferidllosgi’r mynydd bob rhyw ddeng mlynedd– llosgi darn bob blwyddyn, gan greuclytwaith o dyfiant yn y grug ar yllechweddau. Ond yna daeth rheolaunewydd i wahardd llosgi o gwbl, a’r grugyn tyfu’n fawr ac yn gryf heb fawr o dyfiantifanc oddi tano. Roedd hyn yn golygu llai oborthiant i’r stoc, ac roedd hyd yn oed ygeifr gwyllt yn dod i lawr o’r mynydd i’r tirisel. Bellach mae’r awdurdodau – y CyngorCefn Gwlad a’r YmddiriedolaethGenedlaethol – yn caniatau llosgi, ond y

broblem yw bod y grug mor fawr nes eibod yn anodd rheoli’r tân, a bod perygliddo ledu yn ddireolaeth “…yr holl fforddi’r Traws.”

Ychydig iawn o aredig sy’n digwyddheddiw. Mae peth tir yn cael ei drin gydarotovator i dyfu rhygwellt a rêp ar gyfer eibori, ond does dim yd ar y fferm bellach.

Hanner can mlynedd yn ôl roedd ymafuches odro o wartheg Duon Cymreig.Yna daeth y Freisians, ond heddiw, ypatrwm yw 35 o wartheg sugno – y fuwchDdu unwaith eto – gan anelu at fuchesbedigri, ond gyda tharw Limousin ynogystal.

O dan y cynllun Tir Gofal cyfyngir arnifer y defaid, ond cedwir 400 o ddefaidCymreig ynghyd â 130 o hesbinod. Prynirhyrddod Cymreig a rhai Texel ac ambellfrid arall fel bo’r galw. Gwerthir yr wyntewion a’r gwartheg stôr ymmarchnadoedd Dolgellau a Bryncir.

Fel yn mhob rhan o’r tir uchel y mae’rrhedyn ar gynnydd ac yn annodd ei reoli.Ceir grantiau i’w ddifa gyda’r cemegolyn

Y Fferm Fynydd – Ddoe a HeddiwGoronwy Wynne

Evie Jones

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 19

Page 22: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Azulox, ond gyda chwistrellydd llaw ynunig, er mwyn cyfyngu’r gwenwyn i’rrhedyn. Er nad oedd Evie Jones yn cytunoâ rhai o ganllawiau ‘Tir Gofal’ roedd yncanmol yn fawr y cynllun i adfer y waliaucerrig ar y fferm, y waliau hynny oedd yn

cynnig cysgod i’r defaid, yn ogystal â rhoigwaith i nifer o grefftwyr lleol. Sonioddbod dros 4 cilomedr (doedd dim son amfilltiroedd!) wedi eu codi yn ddiweddar, lleroedd hen waliau wedi disgyn.

Yn is na’r ty yng Ngefn Ucha mae corsfawr. Sylwais ar nifer o blanhigion diddorolyno, megis yr Helygen Fair (Myrica gale)a’r Gwlithlys (Drosera rotundifolia).Unwaith eto roedd EMJ yn gofidio nadoedd hawl bellach i losgi’r gors i ddifa’rtyfiant bras. Un canlyniad i hyn ywcynnydd yn y drogod (ticks) sy’n heintio’rdefaid (gallant ymosod ar bobl hefyd), ganychwanegu at y gost o drin y defaid a’rwyn. Bu amser pan oedd amryw o’r

Gylfinir yn nythu ar y gors, ond nid fellumwyach. Tybed a yw hyn yn ganlyniad i’rcynnydd enfawr yn nifer y moch daeardros y blynyddoeddd diwethaf; maent yndueddol i fwyta wyau a chywion unrhywadar sy’n nythu ar lawr.

Fel ym mhob ardal, mae’r Boncath wedicynyddu’n sylweddol, a chafwyd cip ar yBarcud unwaith neu ddwy. Mae’r llwynog(cadno) yn bla, a lleddir tua 130 bobblwyddyn. Maent yn gyfrifol am laddychydig o wyn. Mae ffos yn llifo hyd ymyly gors a bu amser pan nad oedd hawl iymyrryd â hi. Canlyniad hyn oedd iddidagu gan bob math o dyfiant, ond yn 2003rhoddwyd caniatad i’w glanhau a’ihailagor, a bellach mae’r ffos yn llifo’n lânac yn gartref i nifer o blanhigion cynhenid.Sylwais ar Eurinllys y Gors (Hypericumelodes), planhigyn digon cyffredin mewn

rhannau o Gymru ond sy’n brin iawn drosrannau helaeth o weddill Prydain.

Mae Evie Morgan Jones yn mwynhaucyfuno ei brofiad fel amaethwr a’iddiddordeb naturiol yng ngefn gwlad abywyd gwyllt. Diolch iddo am ei groeso –er bod hanner ei feddwl ar y beic pedwarolwyn newydd sbon a oedd newyddgyrraedd y diwrnod hwnnw!

20

Gwartheg yn pori tir garw

Mae’r cynllun ‘Tir Gofal’ yn hyrwyddo waliau cerrig

Evie gyda’i ‘degan’ newydd!

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 20

Page 23: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Yn ystod 2002 cynhaliwyd ymgyrch ym Mhrydain gan yr elusen Plantlife i ddewisblodyn gwyllt a fyddai’n addas fel arwyddlun i bob sir. Derbyniwd 50,000 o bleidleisiaugan y cyhoedd a chyhoeddwyd y canlyniadau yn ôl trefn y siroedd ‘traddodiadol’ ynLloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. Tybed faint o aelodau CymdeithasEdward Llwyd sy’n gwybod am y rhestrau hyn, a faint ohonom sy’n cytuno fod y blodyna enwyd yn addas a derbyniol?

Dyma’r rhestr dros Gymru:

21

Blodau Sirol CymruW.Brian L. Evans

Daw Brian Evans o bentref Penrhyncoch yng Ngheredigion. Cyn ymddeol bu arstaff y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a gwyddom amdano fel un o

ysgrifenyddion cynnar Cymdeithas Edward Llwyd.

CaernarfonLili’r Wyddfa

Lloydia serotina

DinbychBriwlys y CalchStachys alpina

BrycheiniogBlodyn Llefrith

Cardamine pratensis

CaerfyrddinCarwy DroellennogCarum verticillatum

CeredigionAndromeda’r GorsAndromeda polifolia

CaerdyddCenhinen Wyllt

Allium ampeloprasum

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 21

Page 24: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

22

MaesyfedLili Maesyfed (Seren-Fethlehem Gynnar)

Gagea bohemica

FflintGrug y MêlErica cinerea

MônCor-rosyn Rhuddfannog

Tuberaria guttata

MeirionnyddPabi Cymreig

Meconopsis cambrica

MynwyBysedd y Cwn

Digitalis purpurea

MorgannwgLlysiau’r Bystwn Melyn

Draba aizoides

TrefaldwynRhwyddlwyn Pigfain

Veronica spicata

PenfroClustog Fair

Armeria maritima

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 22

Page 25: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

23

Fel y gwelir, ambell dro ceir yr unblodyn ar gyfer mwy nag un sir; erenghraifft, y Blodyn Llefrith yw’r dewis argyfer Sir Frycheiniog a Sir Gaer, ac maeAndromeda’r Gors yn cael ei rhannu ganGeredigion a Sir Kirkudbright. MaeBysedd y Cwn yn ffefryn yn Argyll,Birmingham, Sir Gaerlyr a Sir Fynwy, a’rGlustog Fair yw dewis Sir Bute acYnysoedd Sili yn ogystal â Sir Benfro.Dylid ychwanegu yma bod Plantlife wedianwybyddu pleidleisiau dros Glychau’rGôg ym mhobman gan fod y dewispoblogaidd hwn ymhell iawn ar y blaen ibob un arall, ac yr oedd dymuniadganddynt i ddangos y cyfoeth a’ramrywiaeth lleol yn y rhestrau terfynol.

Cyfyd y cwestiwn a oes rhywun arall,rywbryd, wedi cyflwyno rhestr debyg i hon?Byddai’n ddifyr clywed am unrhywymdrech felly. Rydym yn weddolgyfarwydd â’r sefyllfa yn yr UnolDaleithiau, lle y dewiswyd coeden, aderyna blodyn fel arwyddlun ar gyfer pob talaith.Diddorol yw nodi, hyd yn oed yno, gyda’rcyfoeth o fyd natur ac ystod eang odirweddau i’w hystyried, nad ydynt wedipenderfynu, ym mhob achos, ar emblemdaleithiol unigryw.

Rydym yn gyfarwydd ag arwyddluniaucenedlaethol pan fyddant yn hawdd i’whadnabod a’u derbyn. Enghraifftadnabyddus, ddiweddar yw’r ffordd ymae’r Barcud Coch wedi ei dderbyn feladeryn cenedlaethol Cymru. Ar y llawarall, serch, neu efallai oherwydd ein haneshir, nid yw’n gwbl glir i mi beth yw’nblodyn cenedlaethol. Gellir dadlau ein bodyn derbyn bendith ddwbl gyda’r GenhinenWyllt a’r Genhinen-Bedr yn barod at eingwasanaeth yn ôl y galw. Os cyfyd ycwestiwn o ddewis coeden genedlaethol –ble mae dechrau arni? A ddylid dewis unsy’n tyfu ym mhob sir yng Nghymru, neuefallai un sy’n frodorol ond yn anghyffrediniawn ac, o bosibl, yn brin iawn neu’nabsennol o weddill Prydain.

Ar y lefel sirol gellir gweld anhawsterau’ncodi os eir ati i geisio pennu aderynarbennig neu goeden arbennig. A yw hi,mewn difrif, o unrhyw werth inni geisiogwneud hyn, neu boeni amdano? Dywedirgan Plantlife fod pob sir, ar gyfartaledd, yncolli un rhywogaeth o’i chyfoeth o flodaugwyllt bob blwyddyn. Nawr, dyna rywbethsy’n werth inni boeni amdano.

Nodyn: Hoffwn ddiolch i Mr.EdwardRoberts, Penrhyncoch am dynnu’m sylw atrestrau Plantlife yn ddiweddar.

Hyd y gwn i does dim gwybodaeth am y nifer o bleidleisiau a fwriwyd dros bob un o’rblodau na’r siroedd uchod, ac y mae’n bur debyg y byddai rhai o aelodau’r Gymdeithashon am anghytuno â rhai o’r dewisiadau. Mae’r bleidlais boblogaidd wedi llwyddo i greurhestr sy’n cynnwys blodau prin iawn a blodau cyffredin iawn. Beth a ddylai rhestr o’rfath adlewyrchu – ai prinder ynteu cyffredinedd? Gwelir yr un anghysondeb yn y rhestr argyfer rhannau eraill o Brydain ac efallai y byddai o ddiddordeb enwi rhai ohonynt:

Cernyw Grug Cernyw Erica vagans

Ynys Manaw Ffiwsia Fuchsia magellanica

Sir Amwythig Gwlithlys Drosera rotundifolia

Sir Gaer Blodyn Llefrith Cardamine pratensis

Sir Gaerloyw Cenhinen-Bedr Wyllt Narcissus pseudonarcissus

Sir Henffordd Uchelwydd Viscum album

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 23

Page 26: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Mae pysgotwyr a’r rhan fwyaf oaelodau’r cyhoedd yn dod ar draws pysgoddim ond pan mae nhw’n fflapio’nddigymorth ar lawr cwch. Dan yramgylchiadau yma mae’n anodd credu bodpysgod yn unigolion deallus. Ar y llaw arallmae plymwyr sy’n gwylio pysgod yn helaam fwyd, cydweithio gyda’u partneriaid,neu’n magu eu plant yn cael golwgwahanol iawn o’r ymddygiad cymhleth a’rgallu gwybyddol sydd tu ôl i ymddygiadpysgod. Yr ail olwg, o bysgod fel anifeiliadcymhleth wedi esblygu gallu gieuolcymhleth sydd yn wirionedd gwyddonol.Yn fy narlith i gyfarfod blynyddol EdwardLlwyd ym mhrifysgol Abertawe yn 2005,

soniais am beth o’r gwaith ymchwil sydd ary gweill ym mhrifysgol Caerdydd iarchwilio’r maes pwysig hwn.

Erbyn hyn mae llawer o dystiolaeth bodgan bysgod allu ymenyddol rhagorol. Erengraifft maent yn dod i adnabod aelodauo’u haig, ac mae’n well ganddyn nhwheigio gyda’r ‘ffrinidau’ hyn na physgod ohaig wahanol. Mae ein gwaith ymchwil ynafonydd yr Alban a Chymru wedi dangosbod pysgod fel pilcod (minnows) yn glynugyda’u ffrinidiau o’r un haig dros gyfnodaugo hir - nifer o wythnosau o leiaf. Os oesheigiau eraill ger llaw yn yr afon mae’rpysgod o’r heigiau gwahanol yn dod iadnobod ei gilydd, ond dim ond yn araf

24

Pysgod PeniogSian W. Griffiths

Mae Dr Sian Wyn Griffiths yn aelod o’r Grwp Ymchwil Bioamrywiaeth aPhrosesau Ecolegol sy’n rhan o’r Ysgol Biowyddorau ym Mrifysgol Caerdydd.

Sian yn gwneud gwaith maes yn yr Afon Conon, Yr Alban.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 24

Page 27: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

bach wrth iddynt fynd heibio ei gilydd ynyr afon. Fel unrhyw ffrind gwerth ei halen,mae’n cymryd peth amser, tua pythefnosi’r pilcod i ddod yn gyfeillgar ac i fod ynbarod i gyfnewid rhwng heigiau. I brofihyn rydym yn defnyddio technoleg tagioo’r enw Passive Integrated Trasponder(P.I.T.) tags. Maint tabled bychan yw’rtagiau, yr un math â’r rhai y byddmilfeddyg yn eu defnyddio i atal cwn achathod rhag mynd ar goll, ac mae ganbob tag rif unigryw. Yn wahanol i’rmilfeddyg, nid ydym yn pasio scaniwr drosy pysgodyd. Yn hytrach, y pysgod sydd ynnofio dros y scaniwr sydd wedi ei guddiodan gerrig yng ngwaelod yr afon. Yn yffordd hon rydym yn gallu recordio rhifunigryw pob aelod o haig heb amharu arymddygiad naturiol yr anifeiliaid.

Mater o fyw neu farw

Un o’r cwestynnau pwysicaf yn y maesyma yw beth yw’r rheswm bod pysgodwedi esblygu’r gallu i adnabod ei gilyddmor dda? A sut maent yn dod i ben a’rdasg hon? I archwilio’r cwestiwn cynta,bum yn gweithio yn Sweden ym mhrifysgolGothenburg. Bum yn cymharu adwaith(sef amser dianc) grwpiau o frithyll o’r unhaig, ac adwaith brithyll dieithr, o heigiaugwahanol, a oedd dan ymosodiad gangrychydd. Mae’r gallu i ganolbwyntio arfwy nag un dasg yn fater holl bwysig i nifero anifeiliaid. Er engraifft, mae chwilio amfwyd tra, ar yr un pryd, gadw’n effro amunrhyw anrheithiwr yn holl bwysig. Ond

dim ond hyn-a-hyn o bwer ymenyddolsydd gan unigolion, ac mae canolbwyntioar un dasg yn golygu bod llai o sylw yncael ei dalu i dasgau eraill. Dangosom nibod pysgod yn medru datrys y broblem orannu sylw wrth ffurfio perthynas sefydlogâ physgod eraill. Roedd brithyll cyfeillgaryn ennill mantais glir wrth newid o ffraeogyda’i gymdogion i fod yn effro amanrheithiwr a chwilio am fwyd. Roeddheigio gyda ffrinidau yn helpu’r brithyll iymestyn eu bywydau drwy eu galliogi iymateb 14% yn gyflymach i ymosodiadgan grychydd na bod gyda brithyll diethr.Mae’n glir felly bod yna fantais fawr wrthheigio gyda physgod cyfarwydd.

Persawr pysgod

Yn fy ngwaith diweddaraf rwyf wedicanolbwyntio ar y Crethyll neu Brithyll yDom (Stickleback). Yn y pysgodyn yma,mae wyau yn cael eu dodwy gyda’i gilyddmewn nyth ar waelod yr afon. Felly mae’rpysgod bach yn dod i adnabod eu brodyra’u chwiorydd. Mantais hyn yw’rposibilrwydd o osgoi cyplysu gydagaelodau o’u teulu.

Ym myd Brithyll y Dom, y pysgodyngwrwaidd sy’n adeiladu nyth, ac yn ceisiodenu’r fenyw i ddod ato. Ar y llaw arallmae’r pysgodyn benywaidd yn nofio ogwmpas mwy nag un gwr cyn penderfynupa nyth i ddodwy ynddo. Y cwestiwn hollbwysig yw sut mae hi’n dewis cymarpriodol? Mae’n debyg mae cyfrinach denu

25

Tag PIT (Passive Integrated Transponder) sy’n eingalluogu i ddilyn symudiadau pysgod drwy’r afonydd.

Nyth crothell wedi ei adeiladu o llinynnau algae wedieu gludo gyda’i gilydd gan y pysgodyn gwrywaidd.Mae’r nyth yn cynnwys cannoedd o wyau bach melyn.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 25

Page 28: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

merched yw arogl y gwr. Mae’r pysgodgwrywaidd yn ysgarthu glud dros y nyth.Mae’r glud nid yn unig yn helpu i ddal ynyth at ei gilydd, mae hefyd yn cynnwyscemegyn (peptide) sy’n llawn gwybodaethyngyn â iechyd system imiwnedd y gwr. Ycwestiwn yw a ddylai pysgodyn benywaiddgyplysu gyda gwrw o’r un teulu a hi ei hun,gyda’r un genynnau, neu gydag un o deulugwahanol?

Yr hyn y mae’r fenyw yn chwilioamdano yw nyth gwr sy’n berchen arenynnau gwahanol iddi hi ei hun. Erengraifft, os oes ganddi hi enynnau A,B &C, sy’n ymosod ar afiechydon A, B & Cmae hi’n chwilio am wryw sydd âgenynnau gwahanol….. D, E & F, fel bodei phlant yn etifeddu nifer o enynnaugwahanol, a’r gallu i ymosod ar nifer fawro afiechydon. Yn wir, wrth wneud persawrsynthetig yn cynnwys y peptidau yma, a’iychwanegu i’r gwryw, mae’n bosib i wneudiddo wynto (arogli) yn llawer mwydeniadol nag o’r blaen – a thricio’r fenyw igyplysu gyda ef!

Ac i’r rheini ohonoch a fyddai’n hoffigwybod a ydyw anifeiliaid eraill yndefnyddio’r un system…. wel ydyn. Mae’rpeptidau yn rhan bwysig o systemimiwnedd pob anifail gydag asgwrn cefn.Mae’n debyg ein bod ni’r merched ynaroglu sawr dynion, ac heb yn wybod i ni,yn dewis y dyn gyda genynnau gwahanol.Bydd yn rhaid i ni i gyd fod yn fwy gofaluswrth ddewis ein persawr yn y dyfodol!

I orffen felly, gobeithio bod gennychddiddordeb i glywed bod pysgod yn fwyclyfar nag rydym wedi arfer meddwl. Mae’rrhan fwyaf o bobl yn gweld pysgod feltwpsod hurt, ond cyfeiliornad yw hyn, a’rsyniad hen fasiwn o bysgod aur â chof trieililad. Yn wir, mae’r gallu i adnabodunigolion o fewn haig yn arbenning odrawiadol, yn enwedig o ystyried eu bodyn edrych mor debyg i’w gilydd. Mewnnifer o feysydd, fel cof, mae pysgod ynrhagori ar rai o’r anifeiliaid asgwrn-cefn‘uwch’. Wedi’r cyfan mae pysgod gydagesgyrn (i’w cymharu a madruddyn) wedicael 60 milliwn o flynyddau i esblygu’r

gallu i adeiladu ymenydd all ddelio’nhyblig â’r amgylchedd tan-ddwr amrywiolond anwadal. Mae hyn ddeg gwaith ynhwy nag esblygiad ein llinell ddynol ni.

26

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 26

Page 29: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Datblygwyd cyfundrefn soffistigedig abiwrocrataidd yng Ngwledydd Prydain iwrachod bio-amrywiaeth a llecynnau lled-wyllt a hardd. Sylfaen y gyfundrefn iwarchod nid yn unig safleoedd ‘bywydegollled-naturiol’ ond hefyd rhai o diddordebdaearegol neu geo-morffolegol fel ei gilydd,yw dynodi Safleoedd o DdiddordebGwyddonol Arbennig [SDdGA] (sef SSSIsyn y Saesneg).

Ceir dros 1500 o safleoedd ‘dynodedig’erbyn hyn yng Nghymru yn unig. Maentyn ymestyn dros 12 % o arwynebedd eingwlad. Ond mae fflyd o ddynodiadau eraillhefyd e.e. Gwarchodfeydd NaturCenedlaethol, 67 ohonynt yn ogystal a rhaio ddiddordeb lleol; Gwarchodfa y Biosffer;Gwarchodfa Natur Morol (ger YnysSkomer); Gwarchodfa Biogenetig ac yn yblaen (gweler y map). Yn fwy ddiweddarychwanegwyd trefn Ewropeaidd oArdaloedd Gwarchodaeth Arbennig(SACs) ac Ardaloedd gydag AmddiffyniadArbennig (SPAs) sy’n cyfrannu at gynllunpan-ewropeaidd – Natura 2000. Yn ogystalmae oddeutu traean o dirwedd Cymruwedi ei ddynodi am ei ‘harddwch naturiol’sy’n cyplysu tirlun a bywydeg, naill ai ynun o’n tri Parc Cenedlaethol (19% o dirCymru) neu y pum Ardal o HarddwchNaturiol Eithriadol (AONBs) megisPenrhyn Gwyr, llawer o Benrhyn Llyn acArfordir Môn, Bryniau Clwyd a DyffrynGwy. Teg yw nodi er fod sawl SDdGA ofewn y Parciau, mae llawr mwy tu allan i’wffiniau, yn awgrymu bod ein hetifeddiaethfywydegol wedi ei thaenu ar draws eingwlad. Ceir hefyd Gofrestr o DirluniauHanesyddol Cymreig er nad oes statwscyfreithiol yn perthyn iddynt. Yn ogystalmae gan y prif fudiadau cadwraethol,

megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’rRSPB, dalpiau sylweddol o dir yn euperchnogaeth. A cheir hefyd diroeddhelaeth o dan ofal y Llywodraeth trwy’rWeinyddiaeth Amddiffyn (e.e. Epynt arhan o dde Penfro), a’r ComisiwnCoedwigaeth.

Prin bod unrhyw wlad yn y byd gydamwy o’i arwynebedd wedi eu ‘warchod’ acfelly hawdd fuasai credu fod ‘cadwraeth’yng Nghymru yn sefyll ar seiliau cadarn.

Bu ymdrech i gryfhau y seiliaugwarchodaeth trwy’r ‘Crow Act’ yn 2001;‘Crow’ yn sefyll nid am ‘fran’ ond am‘Countryside and Rights of Way’. Maecyfundrefnau newydd o dan Deddf Crow aGorchmynion Ewrop yn cryfhau pwerau achyfrifoldebau y Cyngor Cefn Gwlad iwarchod safleoedd arbennig ac i sicrhaubod y ‘diddordeb’ gwreiddiol yn parhau.Amddiffynnir SSSIs yn erbyngweithgareddau sy’n debyg o’u difrodi(heblaw gan cyrff cyhoeddus!) achryfhawyd yr elfen o orfodaeth arberchnogion i gyd-fynd â’r amcanioncadwraethol.

Dibynna’r holl gyfundrefn ar y syniad oddiffinio ‘diddordeb’ (interest) neilltuolunrhyw safle; nail a’i cynefincydnabyddedig (e.e. hen goedwigoeddderw atlantaidd neu rostiroedd arforol) neuyn gartref i rywogaeth arbennig e.e. nythfaystlumod mewn to ty, neu blanhigyn,anifail neu ffwng prin. Yn ddiddorol nidyw bacteria, fel yn y gadwyn fywydunigryw a geir yn y hen fwyngloddiau gerLlanrwst sy’n dibynnu ar Fe2+ yn lle ynni’rhaul, yn gael eu cyfrif yn bwysig. Disgwyliri’r Cyngor Cefn Gwlad ar ran ywladwriaeth a’r genedl sicrhau parhad y

27

Esblygiad, Newid a ChadwraethGareth Wyn Jones

Athro Emeritws o Brifysgol Cymru Bangor, cyn Brif Wyddonydd i’r Cyngor Cefn Gwlad

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 27

Page 30: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

28

Atgynhyrchwyd oddi wrth fap yr Arolwg Ordnance gyda chaniatad Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi Hawlfraint y Goron 100064510H

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 28

Page 31: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

29

‘diddordeb’ diffinedig am gyfnod hir,annherfynol? am byth? Yn wir mae’rCyngor yn adrodd yn flynyddol ar statwsyr ‘ystâd hon’ ac yn cyhoeddi’r ardaloeddnad ydynt yn cynnal y ‘diddordeb’. Oganlyniad mae yn aml yn dod o dan lachmudiadau gwyrdd gwirfoddol am eifethiannau.

Pan yn gweithio i’r Cyngor Cefn Gwladdeuthum i sylweddoli grym a gwerth ygyfundrefn fiwrocrataidd hon, er bodenghreifftiau o safleoedd yn cael eu difethapan fo’r pwysau economaidd neuwleidyddol yn ddigon cryf e.e. Morfa BaeCaerdydd.

Eto roedd y gyfundrefn yn fy mhoeniam sawl rheswm hyd yn oed yr adeghonno; erbyn hyn gydag oblygiadau newidyr hinsawdd yn dod yn fwyfwy amlwg, maefy mhryderon a’m amheuon yn cryfhau.

I mi fel biolegwr a biocemegwr, maenewidiadau esblygiadol yn sylfaenol i’n hollddealltwriaeth o fywyd. Mae neo-Darwiniaeth yn cynnig eglurhad o gyfoethrhywogaethol ein planed. Er, ar lefelffisiolegol a biocemegol celloedd, gwelirelfennau cyson, di-newid megis y codgenetigol, hanfodion trawsgrifio [DNA>RNA] a throsi (RNA > prodinau], lefelauionau yn y sytoplasm, peirianwaithffotosynthesis ac yn y blaen. Gwelir felly yrun drefn ffisegol a chemegol mewncelloedd ewcaryotig mewn creaduriaid obob math - anifeiliaid, alga, ffyngau aphlanhigion. Gellir dadlau mae rhan owyrth bywyd yw’r ffordd mae cysondeb yny prosesau o drosglwyddo negeseuon DNAdros filiynau o flynyddoedd, eto yn galluogirhywogaethau i amrywio a lledaenu. Arlefel rhywogaethol, mae esblygiad ynmanteisio ar wahaniaethau yn yr hinsawddac ar gornelynnau arbennig. Felly hefyd arlefel cynefinoedd, ceir am gyfnodau ffug-(pseudo-) ecwilibriwm ond dros cyfnod oamser, mae newid yn anochel, naill ai ynaraf o gyfundrefn byrhoedlog i un mwysefydlog neu mewn ymateb i ysgytwad.Gall yr ysgytwad fod yn sawl peth, gyr oeliffantod neu yn storm anghyffredin neuyn ffrwydrad llosgfynydd neu yn wir,

newidiadau mwy hir dymor yn deillio onewidiadau naturiol yn yr hinsawdd (e.e.Oesoedd yr Iâ) neu symudiadau tectonig.Hawdd anghofio yn ein sêl dros gadwraethmae prin ddeng mil o flynyddoedd sydders i’r iâ gilio o Gymru ac yn wir i goed,megis y ffawydden a’r fasarn, ymgartrefuyn fwy diweddar fyth yn ein gwlad.

Felly rhaid gofyn y cwestiwn anodd: ayw’r gyfundrefn o ddiffinio a cheisiosicrhau parhad diddordeb arbennig, ‘ambyth’, yn gydnaws â dealltwriaeth o sylfaenibywydeg. Does na ddim llawer owahaniaeth pa fersiwn o ddamcaniaethesblygiad a ddilynir. Mae rhai, megisDawkins yn neo-Ddarwinaidd ac yncanolbwyntio ar newidiadau bach cysonmewn genynnau unigol sydd yn arwaindros amser maith at newidiadau mawr.Eraill megis Steven Jay Gould yn argymell‘cydbwysedd dros dro’ (punctuatedequilibrium) sydd yn cydnabod effeithiau

Cwn Idwal. Y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntafi’w dynodi yng Nghymru.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 29

Page 32: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

30

pell-gyrhaeddol rhai newidiadau ysgytwol,a’r ‘gofod bywydegol’ a grëwyd gan ydiflaniad mawr e.e. yn y cyfnod Permiaiddneu ar ddiwedd y Cretasig panddiflannodd y dinosoriaid. Mae JamesLovelock yn ei ddamcaniaeth Gaia ynpwysleisio dylanwadau rhywogaethau arbrosesau biogeocemegol ein planed, achyd-ddibyniaeth bioleg a daeareg. Mae unac oll yn cydnabod bod newid ac esblygiadyn waddodol ac yn sylfaenol i fywyd, ac ynyr hir dymor i ddaeareg.

Gellir dadlau bod y gyfundrefngadwraethol swyddogol a’i phwyslais arbrosesau biwrocrataidd yn anhepgorol iosgoi rheibio ein hetifeddiaeth naturiol eryn seiliedig ar convenient fiction; hynny yw‘stopio’r cloc esblygiadol’.

Eto anodd nawr yn ein hoes o newidcyflym yn yr hinsawdd yw anwybyddu ybroblem sylfaenol. Gellir gwahaniaethusawl problem. Os yw’r hinsawdd yn newid,fel, er enghraifft, bod ardaloedd yn sychudan ddylanwad tymheredd ac anweddiaduwch, ni ellir yn y pen draw gadwcynefinoedd sy’n ddibynnol ar digonedd oddwr ffres. Neu, wrth gwrs, os yw lefel ymôr yn codi metr neu fwy mae einaberoedd a’n morfeydd yn rhwym o newidyn sylweddol. Ond mae canlyniadau eraill.A fydd planhigion neu anifeiliaid arbennigyn medru ymdopi nid yn unig â newid ynyr hinsawdd ond â chyflymdra tebygol ynewid? Mewn rhai achosion os yw’rcreaduriaid megis pryfetach, adar ac ati ynsymudol a chynefin cyffelyb i’w gael i’rgogledd (yn ein hemisffer ni) bydd moddiddynt symud ac ail sefydlu. Yn wir mae nadystiolaeth glir bod hyn yn digwydd ynbarod gyda ieir bach yr haf o dir mawrEwrop yn ymgartrefu yn ne Prydain. Ondmae’n anodd iawn i’r rhai llai symudol neulle nad oes cynefin cyffelyb ar gael yn agos.Yr enghraifft fwyaf trawiadol, heb os, ywLili’r Wyddfa ar lethrau gogleddol Eryri,sy’n symbol y Parc. Nid oes gynefin aralladdas yr ochr yma i Fynyddoedd yGrampian neu Telemark yn Norwy.

Da yw gweld yn rhifyn diweddarafAdain y Ddraig, cylchgrawn y Cyngor Cefn

Gwlad, eu bod yn ystyried geisio creucoridorau neu ffyrdd dianc ar mwynhwyluso ymfudiad, – hyn yn dilyn y gwaitharloesol yn yr Iseldiroedd (Isalmaen). Ondrhai gofyn a yw hyn yn ddigon? Tristwch ysefyllfa yw nad yw Tir Cymen ac wedynTir Gofal wedi datblygu yn ddigonol trwyGymru i alluogi amrywiaeth o gynefinoeddlled-naturiol i fodoli a datblygu ac iddyntymateb i’r newidiadau anochel ac anffodus.

Ond credaf bod y trafferthion amlwghyn yn amlygu ddiffygion dwysach yn eincyfundrefnau cadwraethol sydd prin yncael eu trafod..

Os mai hanfod bywydeg yw esblygiad,yn ddiau rhaid creu ‘gofod’ i hynnyddigwydd, er rhaid hefyd dderbyn bodgweithgareddau dynol yn un o’r gyrwyrecolegol (drivers) mwyaf grymus trwy’r bydi gyd. Nid wyf yn sôn yn unig am newid yrhinsawdd nac yn wir am ddylanwadamaethu a phori. Mae’r proses o faguplanhigion ac anifeiliaid mewn gwarchodfamegis gardd fotaneg neu mewn sw, a’u hailryddhau i’r ‘gwyllt’ yn creu pwysau dethol.Mae rheolaeth cadwraethol ei hun yn yrrwresblygiadol, heb sôn am effeithiaugostyngiad ynni ymbelydrol yr haul (globaldimming), glaw asid, amonia a nitrad yn yglaw ac felly ymlaen. Yn anad dim, a oessail gadarn wyddonol i gyfundrefn sydd ynseiliedig ar ‘stasis’ mewn byd mornewidiol?

Nid dadlau yr wyf am wyrdroi ynddifeddwl yr unig gyfundrefn sydd gennymi warchod ein hetifeddiaeth lled-naturiol.Nage wir!! Ond rwyf yn awgrymu y byddyn rhaid ail-feddwl ac o fewn y degawd, obosibl gan ddefnyddio pwerau newydd einCynulliad Cenedlaethol, i greu cyfundrefnfwy hyblyg a realistig.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 30

Page 33: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

31

Yn y rhifyn diwethaf (Rhagfyr 2006) cafwyd cystadleuaeth adnabod cerddi am y gaeaf.

Dyma’r atebion cywir:

1. Y Barrug ........................Evan Jenkins2. Robin Goch....................Alan Llwyd3. Yr Eira ..........................Alun Jones4. Celynnen ........................William Jones, Nebo5. Hirlwm ..........................Alun Jones6. Deilen Grin ....................T. Llew Jones7. Y Dydd Byraf ................R. H. Watkins8. Eirlysiau ........................Cynan9. Rhagfyr ..........................Anhysbys10.Y Gwynt ........................Roger Jones11.Ceiliog Ffesant................R. Williams Parry12.Y Goeden Nadolig ..........Dic Jones

Cynigiodd tri. Cafwyd atebion campus gan Gwyn Jones, Penygarn a Mair LloydWilliams, Ysgeifiog, ond yr enillydd o drwch blewyn oedd Arfon Huws, Bwlchtocyn.Mae’r wobr ar ei ffordd.

Dyma gystadleuaeth arall, am y coed y tro yma, eto o law Eluned Roberts, Rhuthun.Beth yw’r teitl (h.y. pa goeden? ) a phwy yw’r bardd? Cofiwch fentro gyda’ch atebion.Mae cyferiad y Golygydd ar dudalen 3. Bydd gwobr arall.

COED.

Cydlynant mewn coedlannau, fraich am fraich, Ysgaw a ffawydd, derw a bedw îr;A rhyngddynt hwy nid yw cyd-fyw yn faich Wrth ymganghennu’n unol yn y tir.

Derw brodorol yn gymdogol dynn thras y masarn, taenant yn gytunHiliogaeth yr helygen, âch yr ynn,Llinach yr afallennau, - oll yn un.

Y wîg gymdogol a’i changhennau hirYn gwlwm diogelwch ar y cyd;Cymdeithas glós y masarn, ffawydd îrA’r hen goed derw yn gytun o hyd.

A gwyn eu byd, pe gwyddem ni yn awrBeth yw cyfrinach y gyfeillach fawr. Alan Llwyd

Cystadleuaeth y CerddiEluned Roberts

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 31

Page 34: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

32

1. Heddiw pan lapia RhagfyrBlanced am ddaear glaf‘Rwyt ti mor goch â pherllanDoreithiog ddiwedd haf.

2. Ernes yw’r blodau arno - a daw Awst.Gyda’i wên i’w hulio;A’i arlwy brid yn gwridoAt ei frig dring plant y fro.

3. Yn enw Cariad, paid a’i gadael - yn hagrI wgu’n y gornel;Dwy owns neu lai o dinselWna’r wrach ddu’n briodferch ddel.

4. Main a chlaf ym min afon - yn ei phlygA phlwm yn ei chalon;Y bêr ias ni ddaw i’w bronNa nyth i’w brigau noethion.

5. Onnen deg a’i grawn yn dô - yr adarA oedant lle byddo;Wedi i haul Awst eu hulioGwaedgoch ei brig, degwch bro.

6. A’r Hydre’n aeddfedu yr eirin a’r cnauA’r nos yn barugo a’r dydd y byrhau,Ni welais un goeden’Ni welais ‘rwy’n siwrMor dawel, mor hawddgarA’u harddwisg mor lacharA’r...........weddigar yn ymyl y dwr.

7. Fel nos rhwng coed yn oedi - y saif honA’r dwysaf faes dani;Mae cwsg y bedd i’w hedd hi’A’i gaddug yn frig iddi.

8. Ym mis Ionawr mae’n gawres - yn herioHen oerwynt â rhodres;Yn y gwanwyn mae’n gynnes gwên mam yn geni mes.

9. ‘Roedd cangen ei Gorffennaf - yn eiraHyd i’w chyrion eithaf;Anodd iawn yn nyddiau hafYw osgoi ias y gaeaf.

10.Heddiw, lle’r oedd allor wen, o gannwyllI gannwyll ddisgleirwenDaeth oedfa’r bara i benDiffoddwyd y .........

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 32

Page 35: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

33

Llythyren gyntaf `Edward’ ydi’r `E’ ageir uchod; a ffurf fer `Edward’ ydi `Ted’.Ac wrth yr enw `Ted’ yr adnabyddid EVBJyn ei fro enedigol a’r fro y bu fyw ynddiam y rhan fwyaf o’i oes. Pan aeth `Ted’ ynaelod o’r rhaglen radio Byd Natur byddaiR.O.G. Williams yn ei alw yn `Breeze’. Undyn, dau enw. Ond `chlywais i neb yn eialw wrth yr hyn y saif y `V’ yna amdano,sef `Vyrnwy’ – am fod ei dad yn gariwr acyn mynd â nwyddau i Lanwddyn adegcodi’r argae i greu Llyn Efyrnwy. Yr oeddo yn `Ted’, yr oedd o yn `Breeze’ – arbinsh; ond doedd o, yn sicir, ddim yn`Vyrnwy’. Yr oedd yr enw hwn o’i eiddo,meddai ei weddw Anwen wrthyf, yn gasganddo. Felly, `wnawn ni mo’i alw fo’n`Vyrnwy’ ar gyfrif yn y byd.

Ganed Ted ar 8 Mawrth, 1929. Yroedd yn fab i Morris Jones a’i wraigMartha, ac yr oedd ganddo un brawd hyn,sef Stanley. Yn fachgen, roedd o’n bywmewn ty o’r enw Tan-bwlch, sydd ychydigo’r ffordd o’r tro i Gae Clyd yn y Manod,un o amryw swrbwbiâu Blaenau Ffestiniog.Yn Ysgol y Manod y dechreuodd ar eiaddysg gynradd. Yna, pan oedd tua degoed, bu farw ei fam a’i dad yn agos at eigilydd. Fe aeth yr hogiau i fyw at euhewyrth a’u modryb, Humphrey a MarthaWilliams, 8 Stryd Dorfil, BlaenauFfestiniog. Aeth Ted i Ysgol Maenofferen,cyn symud i Ysgol Ramadeg Ffestiniog (felyr oedd hi). Yn 1946, aeth i’r ColegNormal ym Mangor am ddwy flynedd ihyfforddi i fod yn athro. Yna, yn 1948, buraid iddo wneud dwy flynedd o wasanaethcenedlaethol – yn yr awyrlu y bu o.`Chafodd o ddim gwaith fel athro yngNghymru’n syth wedyn, ond fe gynigiwyd

gwaith iddo fel athroCelf yn Lloegr: nidderbyniodd y cynniggan fod ei ewyrth a’ifodryb yn tynnuymlaen mewn dyddiauerbyn hynny. Yn1950, cafodd swyddyn ysgol gynraddTrawsfynydd. Buyno am ddwyflynedd nes y cafoddswydd ynYsgol y Bechgyn,Maenofferen, Blaenau Ffestiniog. Bu ynohyd 1962, pan benodwyd o yn athro ynysgol gynradd y Manod. Yn 1962, hefyd, ymudodd o 8 Stryd Dorfil i `Bronant’ yngNghae Clyd, i gongl wledig o’r Manod –un o’r pethau cyntaf a wnaeth oedd newidyr erchyll `Fairhaven’ yr oedd rhywun wediei roi’n enw ar y ty yn ei ôl i’r `Bronant`cysefin. Yno y bu nes iddo briodi Anwen,o Benrhyndeudraeth, ar 28 Rhagfyr, 1974ac i’r ddau fynd i fyw yn Llandecwyn, gerTalsarnau – yr oedd rhyw gerlyn wedi torrii mewn i’r ty ychydig cyn hynny a dwyncamerâu gwerthfawr oddi yno.Ymddeolodd Ted o’i sywdd yn gynnar, yn1982, er mwyn ymroi’n llawn amser i’wbleser mawr ar hyd ei oes, sef astudio bydnatur ac, yn enwedig, byd adar. O’rdiddordeb ysol hwn y deilliodd ei lyfraufyrdd a’i ysgrifau am fyd natur, a’rrhaglenni natur y bu’n gyfrannwr morganolog iddynt ar deledu a radio, a’i fedrfel ffotograffydd. Bu farw yn annhymig ogynnar, ar 2 Gorffennaf 1997. Y mae wediei gladdu ym Mynwent Minffordd,mynwent sydd yn edrych i lawr ar gobPorthmadog a’r morfa gwlyb sydd o’r tu

E.V. Breeze JonesGwyn Thomas

Y mae deng mlynedd er pan fu farw Ted Breeze Jones – y naturiaethwr, yffotograffydd a’r awdur. Gwahoddwyd ei gyfaill yr Athro Gwyn Thomas

i sôn amdano yn Y Naturiaethwr.

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 33

Page 36: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

34

uchaf i’r cob, ac sy’n gyforiog o fywydgwyllt, ac yn un o hoff gyrchfannau Ted.

Os edrychwn ni ar ein hanes fel cenedlfe welwn ni fod yna rai o’r hen oesoeddoedd yn ymddiddori ym myd natur. Dynainni’r hen Ddafydd ap Gwilym a ddotiaigymaint â Thed ar goed ac adar, ond hebfynd ati i wneud nodiadau ac astudiaethauohonynt – gan fod ganddo un neu ddau obethau eraill ar ei feddwl, y mae’n debyg.Dyna inni William Salesbury, a’r nodedigEdward Lhuyd (yr enwyd ein henwoggymdeithas ar ei ôl), dau yr oeddastudiaethau o agweddau ar fyd natur ynrhan o’u diddordebau. Yn nes atom nidyna inni Richard Morgan, a dyna’rcyfranwyr hynny a ysgrifennai am fyd naturi Gymru’r Plant, a dyna T.G. Walker, yroedd ei ysgrifau i Y Cymro yn ddiddorol ac`addysgiadol’. Ond o ran creu diddordeb adeffro chwilfrydedd ei gyd-Gymry ynrhyfeddodau’r byd naturiol, doedd ganTed mo’i ail.

Os ydych am gael syniad am faint eigyfraniad yna darllenwch Ted, Dyn yrAdar, a chewch yno dystiolaeth amryw o’iddisgyblion a’i edmygwyr, yn ogystal agenghreifftiau o waith camera nodedig Ted.Er bod Ted yn dra diymhongar am eiwaith ysgrifenedig, y mae’n amlwg fodcamp ddiamheuol ar ei drafodaethau a’iddisgrifiadau o fyd natur; y mae’n gallutrin y Gymraeg yn feistraidd. Hynny yw,nid naturiaethwr yn unig ydoedd, ondysgrifennwr celfydd iawn am fyd naturhefyd. Dyma gwpwl o enghreifftiau o’iddawn – codwyd y ddwy o waith cynnar,sef Yr Adar Mân (Gwasg Prifysgol Cymru,1967). Yn yr enghraifft gyntaf y mae’n sônam Y Gynffon Sidan (Waxwing):

Cyfeiria’r enw arall, Adain Gwyr, at yrhes o blu yn yr adain a’u pennau’ngoch a chaled, fel pennau cochionmatsus. [69]

- `fel pennau cochion matsus’, meddai, adyna ni’n gallu amgyffred yn iawn yr hyn awelodd. Wrth sôn am y Nico (British

Goldfinch), dyma sut y disgrifia’r adar hynyn bwyta:

Un o ddanteithion pennaf y Nico ywhadau ysgall, ac un o’r golygfeydd pertaf

i mi yn yr Hydref, yw gwylio haid yndisgyn ar lwyn o ysgall aeddfed. Darniant ypennau i gyrraedd yr had, a dim ond ffilmliw fedrai roi gwir ddarlun inni o’r pincodamryliw yn hongian ar y chwyn mewncwmwl o fanblu’r ysgall. [8]

Y mae’r darlun geiriol a dynna Tedcystal â ffilm liw. Cawn yma awgrym o’rcam nesaf yn ei ymgais i gofnodi’ngreadigol inni y byd naturiol, sef, âdarluniau lliw a ffilmiau lliw. Yn eiraglenni teledu fe agorodd fyd hudolus i’rgwylwyr Cymraeg, a chyda’i gamera lliw feddaliodd eiliadau byw a thrawiadol ynrhyfeddodau’r byd o’i gwmpas. Buom ynffodus, fel cenedl, i gael Ted yn ein plith.Y mae rhywbeth dychrynllyd oarwyddocaol yn y ffaith fod Ted wedicanfod mwyalchen wedi marw wrth eiddrws ffrynt y dydd y trawyd o yn wael acy bu farw.

Un o ‘ffrindiau’ Ted

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 34

Page 37: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

35

Mab Glanrhyd Ceidio ger Edeyrn ym Mhen Llyn ywein Cadeirydd newydd a phleser yn wir yw ei gyflwyno iaelodau Cymdeithas Edward Llwyd.

Ychydig iawn o’n haelodau yn y Gogledd Orllewin syddna wyddant am ei fam, sef Iona Roberts. Mae hi wedibod yn golofn i sawl mudiad ym Mhen Llyn, wediarwain teithiau yno ac yn selog iawn mewn llawer cwrsym Mhlas Tan y Bwlch ac yn dal felly.

Fel ei dad o’i flaen a oedd yn ysgrifenydd bad achubPorthdinllaen am flynyddoedd lawer mae gan Ieuan leamlwg iawn yng ngwaith y gymdeithas honno ahwyrach, am ei fod bellach yn byw ymhell o’r môr maidyna sydd yn benaf gyfrifol am y codi’n fore i fynd ibwll nofio Llanbedr Pont Steffan.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Botwnog, ac yna iBrifysgol Lerpwl gan raddio mewn milfeddygaeth. Bu’n gweithio ger Caer am dairblynedd cyn symud i Lambed, ac yno y bu am 31 mlynedd yn dod i adnabod ardalDyffryn Teifi a’i phobol.

Mae cysylltiad teuluol rhwng Ieuan a minnau, ein dau wedi mynd i’r De i gael gwragedd.‘Roedd fy nhad yn arfer dweud fod cymysgu gwaed yn dda i’r brid ac fel milfeddyghwyrach ei fod yn gwybod ai gwir yw hyn!. Yn Ne Ceredigion y cyfarfu â Margaret ac mae iddynt ddau o blant sef Helen a Gareth.

Er mai gydag anifeiliaid y bu’n ennill ei fywoliaeth, erbyn hyn planhigion a blodau syddyn mynd a’i fryd ac yn enwedig coed. Aeth hyn yn fwy na diddordeb a’i hobi erbyn hynyw turnio a naddu pren. Mae ei weithiau yn wir gamp fel y plac i gofnodi 25 mlynedd yGymdeithas sydd heddiw ym Mhlas Tan y Bwlch (gweler Cylchlythyr 17) a llawer i ffono’n stondin yn yr Eisteddfod. Naturiol felly yw ei fod yn aelod o Gymdeithas GweithwyrCrefftau Ceredigion.

Mae ei frwdfrydedd dros natur yn heintus – os gall un gadw i fyny efo fo – gan ei fodhefyd yn gerddwr arbenig o gryf, ac weithiau yn rhy gryf fel y gwyr rhai ohonom panmae’r Afon Teifi yn gorlifo ei glannau yng Nghors Caron.

Gyda gwr fel hwn wrth y llyw ‘rwyf yn hollol hyderys fod ein Cymdeithas mewn dwylodiogel.

Dod i nabod ein gilyddIeuan Roberts – cadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd

Harri Williams

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 35

Page 38: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

36

Pwy yw’r gwr yn y llun? Roedd yn enwog mewn mwy nag un maes.

Anfonwch eich sylwadau (yn gryno!) at y Golygydd – gweler y cyfeiriad ar dudalen 3.Bydd gwobr o lyfr am y cyfraniad gorau.

Llun Pwy?

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 36

Page 39: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

37

• Y mae Cyngor Sir Conwy yn poeni am y lefelau plwm yn y pridd yn ardal LlynGeirionnydd. Mae beicwyr yn defnyddio’r tomenydd a adawyd ar ôl yr henfwyngloddiau i wneud eu campau, gan anwybyddu’r rhybuddion a thorri drwy’rffensys. Mae’r plwm yn y llwch a’r pridd yn beryglus i iechyd.

Yn rhyfedd iawn, gall rhai planhigion, megis Codywasg y Mwynfeydd (Thlaspicaerulescens) wrthsefyll y plwm – er ei fod yn wenwynig iawn i’r rhan fwyaf o blanhigioncyffredin.

• Am ba hyd y gall hadau fyw? Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael am hadau’negino ar ôl mwy na 150 o flynyddoedd. Roedd cryn syndod yn Kew yn ddiweddar panddarganfuwyd nifer o hadau ymhlith dogfennau oddi ar y llong Henrietta o’rIseldiroedd a gipiwyd gan long o Brydain yn 1802 ar ei ffordd adref o Dde Affrica.Roedd 33 o wahanol hadau yn y casgliad, a llwyddodd gwyddonwyr Kew i egino triohonynt – rhywogaethau o Liparia, Acacia a Leucospermum.

• Pryd gwelsoch chi ddraenog ddiwethaf? Mae cryn dystiolaeth bellach fod moch daear,sydd wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, yn gyfrifol am ddifa a bwyta pob math ogreaduriaid heblaw eu bwyd traddodiadol, sef pryfaid genwair (mwydod). Maedraenogod, gwenyn, llyffaint, nadroedd ac adar ym mysg eu prae. Tybed a yw’n bryd ini ystyried rheoli nifer y moch daear?

• Mae nos Sadwrn, 11 Awst eleni wedi ei dynodi yn Noson Genedlaethol y Gwyfynod odan gynllun a noddir gan gronfa genedlaethol y loteri. Gofynir i bawb sydd âdiddordeb i anfon gwybodaeth o’u cofnodion ar y we i www.nationalmothnight.info

Cewch fwy o fanylion yno.

Wyddoch chi?

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 37

Page 40: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Crefydd a Gwyddor - MyfyrdodauDafydd Wynn Parry

Cyhoeddwyd gan yr awdur

Argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon, 2006

Clawr medal

151 tud. £9.00

Dywedodd rhywun fod pawb yng Nghymru yn nabod eigilydd.Fellu, gwell i mi ddatgan ar y cychwyn fy mod i yn nabod yrawdur ers dyddiau coleg ym Mangor, pan oeddwn yn mynychu eiddarlithoedd mewn Botaneg Amaethyddol yn ystod yr wythnos ac yn aelod o’iddosbarth Ysgol Sul yng nghapel y Twrgwyn ar y Sul. Aeth blynyddoedd heibio, ondcofiaf y ddau brofiad gyda blas.Yn awr at y gyfrol. Casgliad sydd yma o ddwy ar hugain o ysgrifau a ymddangosodd ynbennaf yn Y Traethodydd, Y Gwyddonydd a’r Goleuad, rhwng 1956 a 2002. Er mwyn i chigael syniad o’r cynnwys, dyma rai o’r penawdau: ‘Bioleg, Bywyd a Chrefydd’, ‘Esblygiada Bioleg Diwylliant’, ‘O Golli Ffydd a’i Hadennill’, ‘Richard Dawkins – ApostolEsblygiad’, ‘Ffydd, Cred a Gwyddor’. Dyna’r maes.Yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf cyhoeddwyd miloedd o lyfrau yn ymdrin â chrefydd agwyddoniath, ac yn amlach na pheidio yn trafod y gwrthdaro rhyngddynt, ac nid oes ballar y cyfrolau sy’n dal i ymddangos heddiw. Ond – yn Gymraeg??? Go brin.Cafodd yr awdur ei fagu’n Gristion, dilynnodd ei alwedigaeth fel gwyddonydd, ganddarlithio yn ei briod faes – a derbyn gradd D.Sc. am ei waith ymchwil. Fe wyddom amnifer o Gymry tebyg, ond faint ohonnynt sy’n myfyrio ar y berthynas rhwng eu crefydda’u gwyddoniaeth, ac yn bwysicach fyth, faint sy’n fodlon (ac yn gallu) dinoethi euheneidiau yn gyhoeddus – a hynny rhwng dau glawr? O ddarllen yr ysgrifau, buan iawn y sylweddolwn fod yr awdur yn mwynhau pori yn eifaes, ac yn ddarllenwr brwd. Y mae ei lyfryddiaeth yn eang ac yn gyfoes ac y mae’ncrynhoi llawer o’i ymchwil yn ei ysgrifau. Fel biolegydd, y mae gan Dafydd Wyn Parryddiddordeb arbennig mewn geneteg ac esblygiad yr hil ddynol, ac mae’n hoff o ddyfynnuun o’i arwyr, Theodosius Dobzhansky, a ymfudodd o Rwsia i’r Unol Daleithiau ac a fu’nAthro Geneteg ym mhrifysgolion Columbia a Rockefeller. Prif faes Dobzhansky oeddgeneteg glasurol a daeth yn awdurdod byd-eang yn myd geneteg ac esblygiad yr hilddynol. Daeth hefyd i arbenigo mewn agweddau athronyddol a chrefyddol ei destun, ac ymae D.W.P. yn pwyso’n drwm arno yn ei ysgrifau. Er enghraifft, yn ei ysgrif‘Dylanwadau’ dywed i un o’i frawddegau gael argraff ddofn arno, sef…..’nid oes dim ymmyd bioleg yn gwneud synwyr ond yn nhermau esblygiad’. Pwysleisia’r awdur moranfoddog y bu Ymneilltuaeth Gymraeg i drafod esblygiad o ddifrif.Gellid trafod a dyfynnu’n helaeth, ond rhaid bodloni ar sylw neu ddau ymhellach. Dymaddyfyniad neu ddau a hoeliodd fy sylw. O’r bennod ‘Myfyrdodau wedi’r Seiat’darllennwn …’Trasiedi fawr …y ffydd Gristnogol…ydyw cysylltu teyrnasiad yr Iesu â

38

Adolygiad

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 38

Page 41: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

bywyd y tu draw i’r bedd’. Yn y bennod ‘Y Meddwl Biolegol a’i Ganlyniadau’, wrthdrafod newid ac addasiad pob rhywogaeth, cawn… ‘Os nad oes addasiad, anodd ydywbodoli o gwbl. Dyma….sydd wrth wraidd…dewisiad naturiol. Hyd y gwelaf, ymatebcrefyddwyr a’r eglwys yn gyffredinol…ydyw fod llaw gwarcheidiol Duw yn rheoli’r ffyrddo addasiad a bod yr holl greadigaeth o’r herwydd dan ei lywodraeth Ef. Anodd yw ifiolegwyr dderbyn gosodiad o’r fath. Nid oes prawf o gwbl fod i esblygiad lwybrpenodedig yn dangos partwm rhagluniaethol a gwarchodaeth Duw.’Rhydd yr awdur sylw teilwng i’r diwinydd a’r biolegydd fel ei gilydd. Ceir ysgrif gyfanganddo i drafod gwaith Richard Dawkins, y Darwinydd di-flewyn-ar-dafod o Rydychen,gan roi ystyriaeth gytbwys i’w ddadleuon. Ond y mae hefyd yn trafod y gyfrol God,Chance and Necessity gan Keith Ward, Athro mewn Diwinyddiaeth yn Rhydychen, arhydd hefyd ofod teilwng i syniadau Don Cupitt o Gaergrawnt yn ei lyfr After God: TheFuture of Religion. Ambell dro, mentra Dafydd Wynn Parry fynegi ei gred bersonol, fel yn niwedd yr ysgrif‘Beth yw gwirionedd’. Dyma a ddywed….. ‘Wrth gydnabod Duw yn Dad drwy ygwirionedd a ddaeth drwy’r Iesu, y mae cyfrifoldeb arnom wedyn i ymddwyn fel plant iDduw a brodyr yng Nghrist. Credaf mai dyma’r gwirionedd eithaf ac uchaf y gall dynanelu ato.’Wrth gloi, mentraf air neu ddau o feirniadaeth. Gan fod yr ysgrifau wedi eu paratoi dros gyfnod o ddeugain mlynedd, tybed a ddylid fodwedi eu golygu cyn eu cyhoeddi’n gyfrol? Er enghraifft, ar dudalen 51 darllenwn mairhyw ddwy filiwn o rywogaethau sydd ar y ddaear, ond erbyn cyrraedd tudalen 92 mae’rrhif wedi codi i ‘fwy na thair miliwn ar ddeg’. Mae’r ddau rif yn adlewyrchiad digon tego’r amcangyfrif ymysg biolegwyr ar y pryd, ond i’r anghyfarwydd mae’r gwahaniaeth ynymddangos yn od, a dweud y lleiaf. Hefyd, mae’r awdur yn tueddu i fod yn ailadroddus –darlennwn yr un syniadau, bron air am air fwy nag unwaith, er enghraifft wrth son ambriodoleddau’r hil ddynol.Mae D.W.P. yn anghyson yn ei ymresymiadau o leiaf unwaith. Ar dudalen 131darllennwn…’Rhaid credu bellach i’r ddynoliaeth esblygu yn y drefn Ddarwinaidd. Gellirpentyrru tystiolaeth na ellir ei gwadu i gadarnhau’r gosodiad. Yn wir, nid yw’r genetegwyryn ymchwilio bellach i fwy o dystiolaeth.’ Tybed a yw hyn yn gyson â’r gosodiad ardudalen 66, sef….’Un o ragorfreintiau mawr gwyddonwyr biolegol ydyw credu y gall yrhyn sy’n ffeithiol gywir heddiw beidio a bod felly yfory.’Un gwyn fach bersonnol! Un o’m cas eiriau i yw sialens, er y gwn yn iawn bod llawer oGymry da, gan gynnwys llenorion safonol yn ei ddefnyddio. Beth sydd o’i le ar ein gairnaturiol her? Onid yw’r ddau yn golygu yr un peth? Felly, gwingais wrth ddarllen ardudalen 53 for y peth a’r peth yn ‘fwy o her ac o sialens.’ (Maddeuwch i mi, Dafydd!)Is-deitl y gyfrol hon yw ‘Myfyrdodau’, sy’n gwbl addas. Y mae Dafydd Wynn Parry ynfeddyliwr wrth natur, ac ar hyd y blynyddoedd mae wedi methu peidio rhanu ei feddyliau,- ei bryderon a’i amheuon, ei sicrwydd a’i obeithion gyda ni y darllenwyr.Diolch, Dafydd, am wneud i ninnau feddwl, ac am grynhoi’r holl sylwadau mewn cyfrolmor hwylus.

G.W.

39

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 39

Page 42: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

40

Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:16 Page 40

Page 43: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

Cymdeithas Edward Llwyd

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 a hi yw Cymdeithas GenedlaetholNaturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a alwyd ynei gyfnod “y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop”.Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y mae dros 1,200 o aelodau led-led Cymru a thu hwnt. Prifddibenion y Gymdeithas yw astudio byd natur, yn cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreigiau, ganhyrwyddo ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu droseu gwarchod. Mae’r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac i gerdded• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agored i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd natur.Dyma’r tâl blynyddol:Unigolyn - £12Teulu - £18I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth:Richard Jones, Pentre Cwm, Cwm, Diserth, Y Rhyl, Sir Ddinbych LL18 5SD. 01745 570631.

www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk

Clawr blaen:

Yr Arth Wen - gweler tud. 8Llun: Catrin Evans

Clawr ôl:

Yr Ymerawdwr (Emperor Moth)Llun: Goronwy Wynne

Lluniau’r Clawr

www.ornekholidays.eu

Am fanylion, cysylltwch âHeulwen BottOrchard CroftNorth Road

HelsbyCheshire

WA6 9AF

01928 723351

Cover_Summer_2007 24/7/07 16:17 Page 2

Page 44: gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr Cyhoeddir Y ... 2007.pdf · Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdal ... Summer_2007_Text_Pages 24/7/07 16:15 Page 3. I

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Dosberthir yn rhad i aelodau Cymdeithas Edward LlwydPris i’r cyhoedd £2.50

Cyhoeddir Y Naturiaethwr yn rhannol trwy gymhorthdalgan Gyngor Cefn Gwlad Cymru Y Naturiaethwr

Cyfres 2 Rhif 20 Gorffennaf 2007

Cover_Summer_2007 24/7/07 16:17 Page 1