gramadeg – 1a)
DESCRIPTION
Gramadeg – 1a). Cwestiwn 1a). Bydd gofyn i chi greu brawddeg i ddangos yn eglur ystyron a defnydd :. Berfau; Arddodiaid ; Cysyllteiriau ; Cymalau ; Idiomau. Cwestiwn 1a). Berf – Gwelodd Iolo gwch ar Lyn Tegid ddoe . ii) Arddodiad – Mae’r cathod yn eistedd ar y to. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Cwestiwn 1a)
Bydd gofyn i chi greu brawddeg i ddangos yn eglur ystyron a defnydd:
i) Berfau;
ii) Arddodiaid;
iii) Cysyllteiriau;
iv) Cymalau;
v) Idiomau.
Cwestiwn 1a)
i) Berf –
Gwelodd Iolo gwch ar Lyn Tegid ddoe.
ii) Arddodiad –
Mae’r cathod yn eistedd ar y to.
iii) Cysylltair –
Aeth i’r ysgol ond roedd yn hwyr yn cyrraedd.
Cwestiwn 1a)
iv) Cymal –
Dyma’r tystion a welodd y ddamwain ddoe.
v) Idiom –
Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn ac felly mae’n rhaid i
mi wisgo côt law rhag gwlychu.
Pwysig!
• Ysgrifennwch frawddegau perthnasol.
• Ysgrifennwch frawddegau syml.
• Peidiwch â llunio brawddegau hir gan fod mwy o siawns o wallau ynddynt!
• Meddyliwch yn ofalus cyn ysgrifennu eich brawddeg.
•Cofiwch roi priflythyren ac atalnod llawn!
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng berf a berfenw?
Bwyta Bwytais
Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng berf a berfenw?
Bwyta Bwytais
Berfenw Berf
Bwyta = BERFENW
Dim ond dangos gweithred a wna ‘bwyta’.
?
Befenw = enw ar y weithred
Bwytais = BERF
Mae ‘bwytais’ hefyd yn dangos gweithgaredd ond mae hefyd yn cynnig ychydig mwy o fanylion i ni trwy gyfrwng y terfyniad ‘ais’:
1.PWY sy’n cyflawni’r weithred?
2.SAWL person sy’n cyflawni’r weithred?
3.PRYD y mae’r weithred yn digwydd? ddoe
Berf ynteu berfenw?
Canu Cerdded
Siaradais
NeidioBwytasom
Rhedasant
Berf ynteu berfenw?
Canu Cerdded
Siaradais
NeidioBwytasom
Rhedasant
Berfau – Amser Presennol/Dyfodol
Berfau – pethau i’w cofio!
• Amser y ferf – meddyliwch cyn ysgrifennu!
• Rhagenw ôl – arfer dda yw rhoi’r rhagenw yma i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
• Defnyddiwch y ‘tag amser’.
Rhagenwau Ôl
UNIGOL LLUOSOG
1af fi ni
2il ti chi
3ydd
fo/hi nhw/hwy
Amser Presennol – y terfyniadau
UNIGOL LLUOSOG
1af -af -wn
2il -i -wch
3ydd
-a -ant
Amhersonol: -ir
Berfau – Amser Presennol
Tag amser – amser Presennol
Amser Presennol = rhywbeth sy’n digwydd ar y pryd
Gwelant hwy gychod yn hwylio ar Lyn Tegid rŵan.
Tag amser
Tag amser – amser Presennol
Mae’n syniad da rhoi rhagenw ôl yn y frawddeg hefyd i ddangos pwy a sawl person sy’n cyflawni’r weithred.
Gwelant hwy gychod yn hwylio ar Lyn Tegid rŵan.
Tag amserRhagenw ôl
Amser Presennol
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau canlynol:
Rhedaf Cerddwn ni Eistedda hi
Siaradwch GwaeddantYmolchaf
Amser marcio!
A yw’r brawddegau canlynol yn gywir? Pam?
Rhedaf i yn y ras rŵan.
Rhedaf yn y ras.
Rhedaf yn y ras rŵan.
X
X
Berfau –Amser Dyfodol
Tag amser – y dyfodol
Y dyfodol = rhywbeth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Af i’r ysgol fory.
Tag amser
Amser Presennol
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau canlynol:
Cerddaf Rhegwn niEistedda hi
Syllwch Siaradant Gwyliaf
Amser marcio!
A yw’r brawddegau canlynol yn gywir? Pam?
Canaf carol yn y cyngerdd Nadolig fory.
Canaf carol yn y cyngerdd Nadolig
Canaf garol yn y gyngerdd Nadolig.
Canaf i garol yn y cyngerdd Nadolig fory.
XX
X
Berfau amhersonol –Amser Presennol/Dyfodol
Amser Presennol – y terfyniadau
UNIGOL LLUOSOG
1af -af -wn
2il -i -wch
3ydd
-a -ant
Amhersonol: -ir
Berf amhersonol – pethau i’w cofio!
• Rhoi’r arddodiad ‘gan’ yn y frawddeg.Gwelir car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu rŵan.
• Ni cheir treiglad ar ôl berf amhersonol.Gwelir car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu rŵan.
• Tag amser.Gwelir car yn gyrru’n gyflym gan yr Heddlu rŵan.
Pwysig!
Brawddeg gywir
Gwelir nifer o wallau gan yr athro wrth
iddo edrych ar waith y disgybl y funud
yma.
Berf amhersonol Arddodiad Dim treiglad
Atalnod Priflythyren Tag amser
Labelwch y frawddeg:
Brawddeg gywir
Gwelir nifer o wallau gan yr athro wrth
iddo edrych ar waith y disgybl y funud
yma.
Berf amhersonol
ArddodiadDim treiglad
Atalnod
Priflythyren
Tag amser
Amser Presennol/Dyfodol
Gan gofio’r awgrymiadau hyn, lluniwch frawddeg sy’n cynnwys y berfau amhersonol canlynol gan ddefnyddio’r amser presennol neu’r dyfodol:
Rhedir Credir Eisteddir
Siaredir Gwelir Teimlir
Crynhoi – BERFAU PERSONOL
• Priflythyren;
•Rhagenw ôl;
• Tag amser;
•Atalnod llawn;
•Gwirio eich brawddeg.Cofiwch hyn!
Crynhoi – BERFAU AMHERSONOL
• Priflythyren;
• Dim treiglad ar ôl berf amhersonol;
•Arddodiad ‘gan’;
• Tag amser;
•Atalnod llawn;
•Gwirio eich brawddeg.
Cofiwch hyn!