gwasanaeth casglu gwastraff o’r ardd

6
Gormod o wastraff o’r ardd? Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd Torion gwrychoedd, coed a phrysglwyni Torion a chribion porfa Gwreiddiau a dail Planhigion, blodau a chwyn Gallwn ni ddod i’w mo’yn!

Upload: pembrokeshire-county-council

Post on 23-Mar-2016

222 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

TRANSCRIPT

Page 1: Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

Gormod o wastraff o’r ardd?

Gwasanaeth CasgluGwastraff o’r Ardd

Torion gwrychoedd, coed a phrysglwyni

Torion a chribion porfa

Gwreiddiau a dail

Planhigion, blodau a chwyn

Gallwn ni ddod i’w mo’yn!

Page 2: Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

Oes ’da chi ormod oWastraff o’r arddi’w gompostio?

Mae Cyngor Sir Penfro yn newid y modd ymae gwastraff o’r ardd yn cael ei gasglu.

Rhwng mis Mawrth a Thachwedd rydym nawryn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff o’rardd, bob pythefnos, gan ddefnyddio biniauar olwynion. Gwasanaeth tanysgrifio yn unigyw hwn ac mae ei bris i’w weld ar wefan yCyngor yn www.pembrokeshire.gov.uk, trwyffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551neu gallwch fynd draw i’r GanolfanGwasanaeth i Gwsmeriaid yn eich ardal chi.

Fel arall, gallwch fynd â’ch gwastraff o’r arddi unrhyw un o’r chwe Chanolfan MwynderDinesig ac Ailgylchu Sir Benfro er mwyn eiwaredu’n rhad ac am ddim. Nid ydym yncaniatáu ichi ddodi gwastraff o’r ardd yn ysachau du sydd gyda chi ar gyfer sbwriel.

Yn lle cludo’r gwastraff o’r ardd i safle tirlenwibydd e’n cael eu cludo bant i’w wneud yngompost. Mae hynny’n rhatach a hefyd yngwneud llai o niwed i’r amgylchedd.

Gwasanaeth am bris bargen yw hwn, ac mae e’ncynorthwyo i gadw’ch gardd yn daclus, mae’nrhwydd i’w ddefnyddio ac mae’n eich helpu iwneud eich rhan dros yr amgylchedd.

Felly os ydych chi’ncredu y gallai’r

gwasanaeth hwn fodo fantais ichi, dyma

ragor o wybodaeth ichi.

Dyma fanteision defnyddio ein gwasanaeth casglu Gwastraff o'r Ardd• Bydd eich gwastraff o’r ardd yn cael ei droi yn gompost, yn

lle cael ei gludo i safle tirlenwi• Bellach ni fydd rhaid ichi fynd i’ch man gwerthu agosaf i

brynu rhagor o sachau gwyrdd• Ni fyddwch mwyach yn mynd yn brin o sachau gwyrdd• Bydd yn helpu i gadw’ch gardd yn daclus• Mae’n hwylus a rhwydd i’w ddefnyddio

Gwastraff o’r ardd mewnbagiau duCofiwch beidio â dodi gwastraffo’r ardd yn eich bag du

Nid yw gwastraff o’r ardd yn cael eiystyried yn wastraff y cartref ac fellynid yw Cyngor Sir Penfro yn gorfoddod i’w mo’yn oni bai bod rhywunwedi gofyn iddo wneud hynny. Maegan yr Awdurdod yr hawl i godi tâl amy gwasanaeth hwn.

Pan fydd gwastraff gwyrdd agwastraff o’r ardd yn cael ei waredumewn safleoedd tirlenwi bydd e’npydru ac yn cynhyrchu carbondeuocsid a methan, sef dau nwy tŷgwydr cryf. Mae ei gladdu mewnsafleoedd tirlenwi yn fater drud adianghenraid pan mae gyda niddewisiadau eraill ar gael.Er enghraifft:

1) Defnyddiwch fin compost cartref- gallwn ni roi un ohonynt ichi amddim os hoffech gael un. Amragor o fanylion cofiwch ffonio01437 764551

2) Ewch â’ch gwastraff o’r ardd i’chCanolfan Mwynder Dinesig acAilgylchu agosaf lle gallwch chi eiwaredu am ddim. Byddwch hefydyn sicrhau y caiff ei droi yngompost.

3) Beth am gofrestru er mwynymuno â’n Gwasanaeth CasgluGwastraff o'r Ardd gyda biniau arolwynion.

Page 3: Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

Pam ydym ni’n newid y system bresennol?Nid yw’ch treth y cyngor yn talu costau casglu gwastraff o’r ardd a dyna pamna ddylech chi ddodi gwastraff fel yna yn eich bagiau du ar gyfer sbwriel.

Oherwydd hyn, mae Cyngor Sir Penfro wedi bod yn gwerthu sachau gwyrdd, argyfer gwastraff o’r ardd, i unrhyw drigolyn sy’n dymuno inni ddod i mo’yn eugwastraff o’r ardd. Buom yn dod i mo’yn y rhain ynghyd â’r bagiau du cyn eu cludoi safle tirlenwi.

Mae claddu gwastraff o’r ardd mewn safle tirlenwi yn fater drud sy’n gwneud niwedi’r amgylchedd am ei fod yn pydru ac yn cynhyrchu methan, sef nwy tŷ gwydr sydd21 gwaith yn gryfach na Charbon Deuocsid. Bydd y system newydd hon yn sicrhau,os yw hynny’n ymarferol, bod yr holl ddefnyddiau a gesglir yn cael eu trin mewnmodd sy’n gydnaws â’r amgylchedd.

Beth allaf ei ddodi yn y bin?

NI chewch ddodi’r pethau hyn yn y bin:� Bagiau, potiau a threis plastig� Brics, sger, cerrig a phridd� Ffensys, siediau a physt� Gwastraff bwyd yn cynnwys pilion� Gwellt gwely, gwasarn a thom anifeiliaid� Bonion a changhennau coed sy’n fwy na 4 modfedd

(10cm) ar eu traws

Ni ddylech byth bythoedd ddodi Canclwm Siapan nacunrhyw chwyn ymledol eraill yn y biniau. Am ragor owybodaeth ynghylch sut i gael gwared â’r chwyn yma, maecroeso ichi ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551.

Pam mae tâl yn cael ei godi am ygwasanaeth hwn?Nid yw’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor gasglu gwastraffo’r ardd am ddim, ac felly gall e adennill y costau y bydd e’neu talu yn sgil casglu’r gwastraff.

Bydd pawb sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth hwn yn taluamdano ac felly fe godir tâl tanysgrifio blynyddol ar bawbsy’n ei ddefnyddio. Mae’r tâl yn talu costau llogi’r bin arolwynion yn ogystal â’r casgliadau bob pythefnos a gewch.

� Torion gwrychoedd, coed a phrysglwyni� Gwreiddiau� Torion a chribion porfa� Dail� Planhigion, blodau a chwyn

Page 4: Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

Am faint mae fy nhanysgrifiad yn para?Bydd y tanysgrifiadau ar fynd dros gyfnod o 12 mis o Fawrth 1af.Rhaid talu’r ffi lawn pryd bynnag yn y flwyddyn yr ydych amdanysgrifio neu hyd yn oed os taw dim ond ychydig gasgliadausydd eu hangen arnoch.

Pa mor aml fydd rhywun yn dod i mo’yn y bin?Bydd eich gwastraff o’r ardd yn cael ei gasglu bob pythefnos oddechrau mis Mawrth. Caiff eich bin ei ddanfon o fewn 14diwrnod inni dderbyn eich taliad rhwng mis Mawrth a Hydref.Fe rown wybod ichi pryd mae’ch diwrnod casglu, yn ogystal â rhoi cyfarwyddiadauichi ynghylch defnyddio’ch gwasanaeth newydd, pan fyddwn ni’n danfon eich bin.Efallai na fydd hynny’n digwydd ar yr un diwrnod ag y bydd eich sbwriel neu’chnwyddau ailgylchu’n cael eu casglu.

Faint o wastraff o’r ardd allaf i eiddodi yn y bin?Yn y bin mae lle i’r hyn sy’n cyfateb i oddeutu pumsach sbwriel arferol. Peidiwch â gorlenwi eich bin.Os bydd y gwastraff o’r ardd yn cael ei gywasguormod yn y bin bydd rhaid inni ei ysgwyd ar y liffta gall hyn wneud difrod i’r bin.

Dim ond y pethau ar y rhestr y dylech eu dodi yneich bin. Os ydych yn ansicr, peidiwch â’i ddodiyn y bin a ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar01437 764551 er mwyn cael gair o gyngor.

A gaf i ddefnyddio’r bin sydd gyda fi fy hun?Na chewch. Fe wyddom bod biniau eraill o safon dda ar gaelond mae microsglodyn arbennig wedi cael ei ddodi yn einbiniau ni. Mae hwnnw’n ein galluogi i nodi ein biniau ni a phwysydd wedi talu am y gwasanaeth.

Os bydd rhywun arall wedi cymryd eich bin chi a cheisio eiddefnyddio, bydd y microsglodyn yn eu rhwystro rhag gwneud

hynny ac ni fyddai’r lori’n ei godi. Mae’rmicrosglodyn yn nodi eich rhif adnabod

yn unig, ac nid oes ynddounrhyw wybodaeth

bersonol amdanochchi na’ch teulu

chwaith.

Bin 240 litr ar Olwynion ar gyfer y Cartref

740 mm

1100

mm

580 mm

Page 5: Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

A oes unrhyw brisiau mantais ar gael?

Na, nid oes unrhyw brisiau mantais ar gael am y gwasanaeth hwn.

Ar hyn o bryd mae gyda fi gasgliad â chymorth ar gyferfy sbwriel ac ailgylchu. A allaf i gael cymorth os byddafyn tanysgrifio i’r cynllun gwastraff gwyrdd?

Gallwch, cyhyd â bod hynny’n fater ymarferol, fe drefnwn ni bethau gyda chi ermwyn inni ddod i mo’yn o’ch eiddo, y bin arolwynion â’r gwastraff o’r ardd ynddo.

Beth sy’n digwydd os byddafyn symud tŷ? Allaf i fynd â’rbin gyda mi?Os byddwch chi’n symud oddi mewn i SirBenfro byddwch cystal â ffonio’r GanolfanGyswllt ar 01437 764551 ddeg diwrnodgwaith cyn y dyddiad yr ydych i fod i symudarno er mwyn inni allu sicrhau y bydd eich binyn cael ei wagio pan ydych chi wedi symud i’ch eiddo newydd.

Os byddwch chi’n symud y tu fas i’r Sir, yna eiddo Cyngor Sir Penfro o hyd yw’r bin.Cofiwch ffonio’r Ganolfan Gyswllt er mwyn i drefniadau gael eu gwneud ar gyferdod i’w mo’yn.

Os na fydd y bin yn cael ei gasglu, beth ddylwn i ei wneud?Os na fydd eich bin yn cael ei gasglu, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, byddwnyn ceisio dod yn ôl i gasglu’ch bin ymhen 24 awr. Byddwch cystal â ffonio’rGanolfan Gyswllt ar 01437 764551neu anfon e-bost at [email protected].

Beth sy’n digwydd os dodaf y pethau anghywir yn y bin?

Dim ond y pethau yr ydym wedi eu rhestru ar dudalen 3, y dylech eu dodi yn y bin.Os bydd ein gweithwyr yn gweld bod ynddo bethau heblaw am y pethau yr ydym yneu caniatau, yna ni fyddwn yn casglu’r bin hwnnw hyd nes byddwch chi wedi caelgwared â’r pethau nad ydym yn eu caniatau.

Yn ôl y ddeddfwriaeth bresennol, mae’r holl ddefnyddiau y gellir eu compostio yngorfod bodloni rheoliadau llym. Bydd y defnyddiau hynny nad ydynt yn bodloni’rgofynion, yn halogi’r llwyth ac yn difetha popeth ynddo. Wedyn wrth gwrs bydd e’ndda-i-ddim ar gyfer compostio.

Page 6: Gwasanaeth Casglu Gwastraff o’r Ardd

Beth os bydd y bin yn cael ei ddifrodi?Os digwydd i’ch bin gael ei ddifrodi gan ein gweithwyr casglu cofiwch roi gwybodinni trwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar 01437 764551 ac fe drefnwn ichi gael binnewydd. Os ydych chi wedi difrodi’r bin cofiwch ein ffonio ni; sylwer, fodd bynnag, ybydd gofyn ichi dalu am un newydd o bosibl.

Beth os bydd y bin yn mynd ar goll?Dylech ffonio’r Ganolfan Gyswllt ar unwaith ar 01437 764551 er mwyn rhoi gwybodam hynny. Sylwer: os na ellir dod o hyd i’r bin efallai y bydd rhaid ichi dalu am unnewydd.

Eich data personol a sut y byddwn yn eu defnyddioBydd y data personol y byddwch chi’n eu rhoi, yn cael eu cadw gan GyngorSir Penfro oddi mewn i delerau Deddf Gwarchod Data 1998.

Fe’u defnyddir er mwyn gweinyddu’r cynllun casglu gwastraff ac fe allentgael eu rhannu ag adrannau eraill y Cyngor sy’n ymdrin â gwasanaethaucysylltiedig. Dim ond os oes rhaid gwneud hynny yn ôl y gyfraith, y byddant

yn cael eu rhannu y tu fas i’r sefydliad.

Er mwyn cael gwybodaeth am eich hawliau i gyrchu eichgwybodaeth byddwch cystal â ffonio 01437 764551a gofyn am Gwarchod Data neu anfon e-bost at:[email protected]

Hoffech chi gofrestru?Os yw’r gwasanaeth hwn yn berffaith ar eich cyfer chi cofiwch ffonio CanolfanGyswllt Cyngor Sir Penfro ar 0011443377 776644555511 lle gallwch chi dalu trwyddefnyddio cerdyn dros y ffôn.

Fel arall gallwch chi fynd draw i’r Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn eichardal chi a thalu gydag arian parod neu gerdyn neu gallwch fewngofnodi ynwww.pembrokeshire.gov.uk/wasteandrecycling.

Unwaith y bydd eich cais wedi’i brosesu, byddwn yn danfon eich bin atoch ofewn 14 diwrnod, ynghyd â nodyn a fydd yn cynnwys eich dyddiad dechrau.