gwybodaeth i’r cyhoedd am rywogaethau - llyw.cymru · ddail mawr siâp tarian a chlystyrau o...

4
Enw gwyddonol: Fallopia japonica Enwau eraill: Canclwm Japan, Pysen Saethwr, Llysiau’r Dial, Japanese Knotweed, Japanese Bamboo Ffeithiau Allweddol • Mae clymog Japan (Fallopia japonica) yn blanhigyn goresgynnol sy’n gallu achosi difrod i eiddo, ac mae’n anodd iawn ei reoli pan fydd wedi ymsefydlu. Caiff ei restru o dan atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac mae’n drosedd plannu’r rhywogaeth hon neu achosi iddi dyfu yn y gwyllt. Mae deunydd y planhigyn yn ‘wastraff a reolir’ o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Cafodd ei gyflwyno fel planhigyn addurnol tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n tyfu ledled Cymru ac i’w weld yn bennaf ar safleoedd y mae gweithgareddau pobl wedi tarfu arnynt fel rheilffyrdd, tomenni sbwriel, hen randiroedd a thir diffaith. Fe’i gwelir ar hyd glannau afonydd hefyd. • Gall gwreiddiau a choesynnau dyfu trwy fannau gwan mewn asffalt a choncrit gan ddifrodi adeiladweithiau. Mae planhigion sydd wedi ymsefydlu yn lledaenu i ardaloedd newydd trwy wreiddiau ymlusgol tanddaear (rhisomau). Gall darnau bach o wreiddyn neu goesyn ddatblygu’n blanhigion newydd yn sydyn iawn. Disgrifiad Mae clymog Japan neu lysiau’r dial yn blanhigyn tal (2-3m) ac iddo goesynnau tebyg i fambŵ. Mae iddo ddail mawr siâp tarian a chlystyrau o flodau gwyn-hufennog rhwng Mehefin a Medi. Mae’n aml yn datblygu’n ddryslwyni trwchus. Mae’n blanhigyn lluosflwydd ac felly, er ei fod yn gwywo dros y gaeaf, mae’n aildyfu o’r bôn yn y gwanwyn. Nid yw’n cynhyrchu hadau ym Mhrydain ond mae’n lledaenu trwy risomau (coesynnau tanddaear) neu rannau o goesynnau a dorrwyd. Gwybodaeth i’r cyhoedd am rywogaethau goresgynnol yng Nghymru Clymog Japan Cylch Bywyd Ym mis Mawrth/Ebrill, mae’n cynhyrchu eginblanhigion meddal a gwawr goch arnynt, sy’n tyfu i 2-3m o uchder cyn blodeuo rhwng Gorffennaf a Hydref. Mae’r dail yn gwywo yn y gaeaf ac yn syrthio gan adael coesynnau brown yn y golwg. Eginblanhigion yn ymddangos Coesynnau’n tyfu Blodeuo Y planhigyn yn gwywo ac yn mynd i gysgu Ion Chwef Maw Ebr Mai Meh Gor Awst Medi Hyd Tach Rhag

Upload: vuongdung

Post on 24-May-2019

216 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Gwybodaeth i’r cyhoedd am rywogaethau - llyw.cymru · ddail mawr siâp tarian a chlystyrau o flodau gwyn-hufennog rhwng Mehefin a Medi. Mae’n aml yn datblygu’n ddryslwyni trwchus

Enw gwyddonol: Fallopia japonica

Enwau eraill: Canclwm Japan, Pysen Saethwr, Llysiau’r Dial, Japanese Knotweed, Japanese Bamboo

Ffeithiau Allweddol • Mae clymog Japan (Fallopia japonica) yn blanhigyn goresgynnol sy’n

gallu achosi difrod i eiddo, ac mae’n anodd iawn ei reoli pan fydd wedi ymsefydlu.

• Caiff ei restru o dan atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac mae’n drosedd plannu’r rhywogaeth hon neu achosi iddi dyfu yn y gwyllt.

• Mae deunydd y planhigyn yn ‘wastraff a reolir’ o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

• Cafodd ei gyflwyno fel planhigyn addurnol tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

• Mae’n tyfu ledled Cymru ac i’w weld yn bennaf ar safleoedd y mae gweithgareddau pobl wedi tarfu arnynt fel rheilffyrdd, tomenni sbwriel, hen randiroedd a thir diffaith. Fe’i gwelir ar hyd glannau afonydd hefyd.

• Gall gwreiddiau a choesynnau dyfu trwy fannau gwan mewn asffalt a choncrit gan ddifrodi adeiladweithiau.

• Mae planhigion sydd wedi ymsefydlu yn lledaenu i ardaloedd newydd trwy wreiddiau ymlusgol tanddaear (rhisomau). Gall darnau bach o wreiddyn neu goesyn ddatblygu’n blanhigion newydd yn sydyn iawn.

Disgrifiad Mae clymog Japan neu lysiau’r dial yn blanhigyn tal (2-3m) ac iddo goesynnau tebyg i fambŵ. Mae iddo ddail mawr siâp tarian a chlystyrau o flodau gwyn-hufennog rhwng Mehefin a Medi. Mae’n aml yn datblygu’n ddryslwyni trwchus. Mae’n blanhigyn lluosflwydd ac felly, er ei fod yn gwywo dros y gaeaf, mae’n aildyfu o’r bôn yn y gwanwyn. Nid yw’n cynhyrchu hadau ym Mhrydain ond mae’n lledaenu trwy risomau (coesynnau tanddaear) neu rannau o goesynnau a dorrwyd.

Gwybodaeth i’r cyhoedd am rywogaethau goresgynnol yng Nghymru

Clymog Japan

Cylch Bywyd Ym mis Mawrth/Ebrill, mae’n cynhyrchu eginblanhigion meddal a gwawr goch arnynt, sy’n tyfu i 2-3m o uchder cyn blodeuo rhwng Gorffennaf a Hydref. Mae’r dail yn gwywo yn y gaeaf ac yn syrthio gan adael coesynnau brown yn y golwg.

Eginblanhigion yn ymddangos

Coesynnau’n tyfu

Blodeuo

Y planhigyn yn gwywo ac yn mynd i gysgu

Ion Chwef Maw Ebr Mai Meh Gor Awst Medi Hyd Tach Rhag

Page 2: Gwybodaeth i’r cyhoedd am rywogaethau - llyw.cymru · ddail mawr siâp tarian a chlystyrau o flodau gwyn-hufennog rhwng Mehefin a Medi. Mae’n aml yn datblygu’n ddryslwyni trwchus

Adnabod

Planhigion sy’n edrych yn debyg Mae dau berthynas agos i glymog Japan a all beri dryswch ond mae’r ddau yn rhywogaethau goresgynnol hefyd a dylid eu trin yn yr un ffordd.

• Mae’r glymog fawr (Fallopia sachalinensis) yn aml yn debyg o ran uchder (gall fod hyd at 5m) ond mae’r dail yn fwy o lawer, hyd at 40cm o hyd, gyda bôn llabedog.

• Mae dail clymog Japan groesryw (Fallopia x bohemica) hyd at 23cm o hyd.

Dail – Mae dail clymog Japan tua 10-15cm o hyd gyda bôn fflat a blaen pigfain (siâp tarian). Cânt eu trefnu ar y coesyn ar ffurf igam-ogam. Maent yn troi’n frown ac yn syrthio yn yr hydref.

Coesyn – Yn y gwanwyn a’r haf, mae’r canghennau’n tyfu’n 2-3m o uchder. Mae’r coesynnau’n wag fel bambŵ ac maent yn wyrdd â brychni porffor. Yn y gaeaf, mae’r planhigyn yn gwywo ac mae’r coesynnau’n troi’n frown.

Blodau – Mae clymog Japan yn ei blodau rhwng diwedd Gorffennaf a mis Hydref. Mae’r blodau’n fach ac yn wyn hufennog. Maent yn hongian mewn clystyrau o geseiliau’r dail.

Gwreiddiau (Rhisomau) – Trwchus a phrennaidd, cnotiog, oren llachar pan gânt eu torri. Hadau – Nid yw’n cynhyrchu hadau.

cm

0

20

40 Y glymog fawr

Clymog groesryw

Clymog Japan

© Hawlfraint y Goron 2009 GBNNSS

© Hawlfraint y Goron 2009 GBNNSS

© Hawlfraint y Goron 2009 GBNNSS

© Hawlfraint y Goron 2009 GBNNSS

© Hawlfraint y Goron 2009 GBNNSS

© Hawlfraint y Goron 2009 GBNNSS

Page 3: Gwybodaeth i’r cyhoedd am rywogaethau - llyw.cymru · ddail mawr siâp tarian a chlystyrau o flodau gwyn-hufennog rhwng Mehefin a Medi. Mae’n aml yn datblygu’n ddryslwyni trwchus

Pam y mae’n achos pryder? Mae clymog Japan yn tyfu’n gyflym, hyd at 4cm y dydd, a gall gyrraedd 3m o uchder erbyn Mehefin. Mae llystyfiant brodorol yn marw oddi tani oherwydd diffyg golau a dŵr. Gan ei bod yn rhywogaeth estron, nid yw ein creaduriaid gwyllt brodorol yn ei bwyta.

Ar hyd glannau afonydd, pan fydd y planhigyn yn gwywo yn y gaeaf, mae’n gadael llecynnau moel sy’n fwy tebygol o gael eu herydu a gall hyn olygu bod darnau mawr yn cael eu herydu.

Mewn ardaloedd trefol, gall gwreiddiau a choesynnau dyfu trwy fannau gwan mewn asffalt a choncrit gan ddifrodi adeiladweithiau. Gall amharu ar werth eiddo a’r gallu i gael morgais.

Lle mae i’w gael yng Nghymru Mae’n tyfu ledled Cymru ac i’w weld yn bennaf ar safleoedd y mae gweithgareddau pobl wedi tarfu arnynt fel rheilffyrdd, tomenni sbwriel, hen randiroedd a thir diffaith. Mae’n tyfu ar lannau afonydd hefyd.

Mae’r planhigyn yn lledaenu trwy ddarnau o risomau neu goesynnau wedi’u torri. Gall planhigyn adffurfio o cyn lleied ag 1cm o risom. Mae’n gwasgaru’n bennaf trwy weithgareddau pobl fel symud pridd neu ei gludo ar olwynion cerbydau. Ar hyd glannau afonydd, gall llifogydd symud y rhisomau a’u cludo i lawr yr afon i ffurfio cytrefau newydd.

Ffyrdd o’i Reoli Mae’n anodd iawn i’r cyhoedd geisio cael gwared ar glymog Japan. Gall dulliau heb gemegau gymryd hyd at ddeng mlynedd i ladd y chwyn. Mae’n well ei reoli â chemegau gan ddefnyddio contractor.

O dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae deunydd planhigion clymog Japan yn cael ei gyfrif yn wastraff a reolir ac mae’n rhaid cael gwared arno’n ddiogel i safle tirlenwi trwyddedig yn unol â Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991.

Nod y dulliau rheoli yw lladd y planhigion presennol ac atal y deunydd rhag cael ei symud o’r safle.

Tynnu a thorri Gall clystyrau bach neu newydd gyda dim ond ychydig o goesynnau gael eu rheoli trwy eu tynnu a’u torri. Dylid gwneud toriad glân wrth fôn coesyn y planhigyn ger y brigdyfiant. Ni ddylid torri’r coesynnau ac ni ddylid defnyddio strimer o gwbl gan y gallai hyn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y planhigyn yn lledaenu ac yn aildyfu trwy wasgaru darnau bach ohono.

Dylid ei dorri o leiaf bedair gwaith y flwyddyn – y toriad cyntaf pan fydd y coesynnau’n ymddangos gyntaf ac yna bob 6-8 wythnos, gyda’r toriad olaf yn yr hydref cyn i’r planhigyn wywo.

Dylid mynd yn ôl i’r safle bob blwyddyn yn y gwanwyn a thorri eto. Y nod yw gwanhau’r planhigyn trwy ei dorri dro ar ôl tro. Gall gymryd hyd at ddeng mlynedd i’w reoli’n llwyr.

Deddfwriaeth a chyfrifoldebau Caiff clymog Japan ei rhestru o dan atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae’n drosedd plannu’r rhywogaeth hon neu achosi iddi dyfu yn y gwyllt.

Nid oes rhaid i chi gael gwared â’r rhywogaeth hon o’ch tir chi na rhoi gwybod i neb ei bod yno. Fodd bynnag, os bydd y rhywogaeth hon yn lledaenu i’r gwyllt neu i eiddo cymydog gellid eich dal chi’n gyfrifol.

Yn ogystal, cyfrifir bod deunydd y planhigion yn ‘wastraff a reolir’ o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’n rhaid cael trwydded i gludo a gwaredu deunydd y planhigion. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gofrestr o rai sydd â thrwydded: https://www.wastecarriersregistration.naturalresourceswales.gov.uk/cy/registrations/search

GOFALWCH: Mae clymog Japan yn lledaenu’n

hawdd iawn trwy ddarnau bach wedi’u torri o’r

gwraidd neu’r coesyn

© Hawlfraint y Goron 2009 GBNNSS

Page 4: Gwybodaeth i’r cyhoedd am rywogaethau - llyw.cymru · ddail mawr siâp tarian a chlystyrau o flodau gwyn-hufennog rhwng Mehefin a Medi. Mae’n aml yn datblygu’n ddryslwyni trwchus

Cyfeiriadau a rhagor o wybodaeth Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i’w gweld ar wefan Legislation.gov.uk

Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i’w gweld ar wefan Legislation.gov.uk

Systemau Rheoli Amgylcheddol – canllawiau. Clymog Japan, efwr enfawr a phlanhigion goresgynnol eraill. https://www.gov.uk/guidance/prevent-the-spread-of-harmful-invasive-and-non-native- plants#spraying-invasive-plants-with-herbicide

The Control of Japanese knotweed (Fallopia japonica) in Construction and Landscape Contracts

http://www.nonnativespecies.org/downloadDocument.cfm?id=1064

Centre for Aquatic Plant Management (CAPM) (2004) Information sheet 5, Fallopia japonica Japanese knotweed. Centre for Ecology and Hydrology https://secure.fera.defra.gov.uk/nonnativespecies/downloadDocument.cfm?id=1049

Environment agency (2013) The knotweed Code of Practice – managing Japanese knotweed on development sites http://cdn.environment-agency.gov.uk/LIT_2695_df1209.pdf

Clymog Japan – Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr. https://secure.fera.defra.gov.uk/ nonnativespecies/index.cfm?sectionid=47

Ar ôl torri’r coesynnau, dylid eu gadael i sychu ar le caled fel concrit neu blastig. Ar ôl i’r coesynnau droi’n frown tywyll, maent wedi marw a gellir eu llosgi neu eu gadael i bydru. Peidiwch â symud deunydd o’r safle rhag i’r planhigyn ledaenu.

Peidiwch â cheisio codi’r planhigion o’r pridd os nad ydynt yn ddigon bach i’w sychu ac yna’u llosgi ar y safle. Nid oes cyfreithiau penodol yn atal pobl rhag cael coelcerth yn eu cartref ond mae cyfreithiau sy’n ymwneud â’r niwsans a achosir ganddynt. Cewch ragor o wybodaeth yma: https://www.gov.uk/garden-bonfires-rules

Rheoli â chwynladdwr Gellir defnyddio chwynladdwyr i’w reoli ond, yn aml, gall gymryd hyd at dair blynedd o driniaeth reolaidd i fod yn hollol effeithiol.

Rhoddir chwynladdwyr ar y dail yn rheolaidd trwy’r tymor tyfu cyn gynted ag y gwelir tyfiant newydd – gallai hyn olygu eu rhoi hyd at bedair neu bum gwaith y tymor. Triclopyr yw’r chwynladdwr sy’n cael ei ffafrio ddechrau’r tymor gan ei fod yn ddetholus (nid yw’n lladd glaswellt) a’i fod yn cael effaith am 6 wythnos ar ôl ei ddefnyddio. Ond bydd angen ei ddefnyddio sawl gwaith yn ystod y tymor. Mae’n cael ei gymryd i mewn i’r planhigyn trwy’r dail a’r coesynnau ac yn cael ei symud i’r gwreiddiau (trawsleoli). Gellir defnyddio glyffosad yn hwyrach yn y tymor, yn ystod y cyfnod blodeuo fel rheol, ond nid yw’n ddetholus ac felly bydd yn lladd yr holl lystyfiant arall. Mae hwnnw hefyd yn cael ei drawsleoli i’r gwreiddiau. Gellir rhoi chwynladdwyr gan ddefnyddio bag cefn neu eu mewnsaethu i’r coesynnau â gwn.

Cynhyrchwyd y daflen wybodaeth hon ar gyfer Llywodraeth Cymru gan

ADAS UK Ltd. www.adas.uk

Amenity Assured Compliant Contractors Rhagor o wybodaeth gan BASIS: www.basis-reg.co.uk 01335 343945

Mae gan y National Association of Agricultural and Amenity Contractors restr o gontractwyr yn y sector Amwynderau

Dewis contractorGall fod yn addas cyflogi contractor arbenigol i asesu’r ffordd orau o sicrhau rheolaeth ac i ddefnyddio chwynladdwyr. Bydd y pethau a ganlyn gan gontractwyr da:

• Gweithiwr â thystysgrif BASIS sy’n gwybod am reoli chwyn goresgynnol ac yn gallu argymell ffyrdd addas o’u rheoli â chemegau.

• Gweithiwr chwistrellu sydd â’r dystysgrif berthnasol gan y Cyngor Profi Medrusrwydd Cenedlaethol (NPTC) i ddefnyddio chwynladdwyr neu sy’n gweithio o dan oruchwyliaeth uniongyrchol rhywun sydd â thystysgrif.

• Os bwriedir defnyddio chwistrellau mewn dŵr neu ger dŵr, mae’n rhaid bod y rhan briodol o’r cymhwyster sy’n ymwneud â dŵr gan y sawl sy’n gwneud y chwistrellu neu sy’n goruchwylio’r gwaith.

Os yw clymog Japan ger cwrs dŵr, mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru roi caniatâd ar gyfer ei thrin â chwynladdwyr cyn ei defnyddio.

Os yw clymog Japan ger cwrs ar safle dynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), bydd angen caniatâd ysgrifenedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn rhoi’r driniaeth.

Mae rhestrau o gontractwyr a’u manylion i’w gweld trwy’r gwefannau isod.

Ffyrdd o’i Reoli - Parhad

Tîm Amgylchedd Naturiol ac Amaeth Llywodraeth Cymru

Rhodfa Padarn Aberystwyth

SY23 3UR [email protected]