head of qualifications and learning supply · web view2021. 7. 15. · 2021. 7. 15. · sgiliau...
TRANSCRIPT
Swydd-ddisgrifiad
Swydd: Swyddog cynnwys
Adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Lleoliad: Cymru gyfan, gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llanelwy
Ar hyn o bryd, mae staff yn gweithio o bell
Band Cyflog: A3 £28,796 - £32,351
Adrodd i: Uwch Swyddog Cyfathrebu
Fel rhan o’n tîm cyfathrebu, byddwch yn gweithio’n agos gydag awduron ar draws y sefydliad i ddatblygu, cynllunio a chyhoeddi cynnwys sy’n cwrdd ag anghenion ein cynulleidfaoedd ar-lein ac all-lein. Byddwch chi’n cynorthwyo i greu cynnwys sy’n eglur ac yn hawdd i’w ddeall, yn unol â’n safonau corfforaethol, gan ddefnyddio’r sianelau gorau ar gyfer cyrraedd y rhai hynny y bwriedir ei gyrraedd.
Diben y swydd:
Diben y swyddog cynnwys yw:
datblygu ac ysgrifennu cynnwys effeithiol a ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw un o’n sianelau cyfathrebu ar-lein ac all-lein.
defnyddio tystiolaeth er mwyn deall anghenion ein defnyddwyr/cynulleidfaoedd, cynhyrchu cynnwys a’i gynllunio i’w defnyddio gyda’r sianelau sy’n ymgysylltu â nhw yn y ffordd fwyaf effeithiol.
cynghori a hyfforddi cydweithwyr ynglŷn â sut i baratoi cynnwys effeithiol, gan eu helpu nhw i gynhyrchu deunydd sy’n cwrdd ag anghenion y defnyddwyr ac sy’n unol â thôn ein llais a’n canllawiau hygyrchedd.
cynghori cydweithwyr ynglŷn â’r fformat a’r strwythur gorau ar gyfer cynnwys a’r sianelau cyfathrebu mwyaf effeithiol i gyrraedd ac ymdrin ag anghenion eu cynulleidfaoedd
Diben y swydd:
1
1. Datblygu ac ysgrifennu cynnwys effeithiol a ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw un o’n sianelau cyfathrebu ar-lein ac all-lein. Ysgrifennu a phrawf-ddarllen cynnwys er mwyn sicrhau ei fod wedi cael ei
ysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg eglur, sy’n unol ag arddull a hygyrchedd ein sefydliad a safonau corfforaethol eraill.
Ysgrifennu neu olygu cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth sy’n cael ei darparu gan gydweithwyr, yn ogystal â’i phrawf-ddarllen ar gyfer unrhyw un o’n sianelau cyfathrebu.
Nodi a datblygu cynnwys sy’n gallu gweithio ar draws sawl sianel gyfathrebu, ar-lein ac all-lein.
Adolygu a gwerthuso cynnwys yn ôl yr arfer er mwyn gwella yn barhaus sut ydym yn cwrdd ag anghenion ein defnyddwyr/cynulleidfaoedd.
Cynorthwyo’r tîm cyfathrebu wrth ddatblygu canllawiau a llywodraethiant eglur er mwyn helpu i sicrhau bod cydweithwyr yn datblygu cynnwys yn unol â’n safonau corfforaethol.
2. Defnyddio tystiolaeth i ddeall anghenion ein defnyddwyr/cynulleidfaoedd a chynhyrchu cynnwys a defnyddio sianelau sy’n ymgysylltu â nhw yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Defnyddio data a thystiolaeth o blatfformau ymchwil a dadansoddeg y defnyddwyr i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â strwythur a fformat gorau'r cynnwys er mwyn cwrdd ag anghenion y defnyddwyr.
Gweithio gyda chydweithwyr y tu mewn a thu allan i’r tîm a all ddarparu mynediad at y dystiolaeth sydd ei hangen i nodi beth mae defnyddwyr yn chwilio amdano o’n cynnwys.
Defnyddio tystiolaeth a’ch gwybodaeth ynglŷn â sianelau gwahanol a’u nodweddion er mwyn nodi’r rhai gorau i gyrraedd defnyddwyr arfaethedig y cynnwys.
Chwilio a monitro adborth gan ddefnyddwyr yn weithredol, yn ogystal â dadansoddeg, er mwyn eich cynorthwyo chi i adolygu, ac os bydd angen, cynhyrchu cynnwys diwygiedig/diweddaredig sydd eisoes wedi cael ei gyhoeddi.
Rhannu tystiolaeth gyda chydweithwyr ynglŷn â sut mae cynnwys yn perfformio, fel y gallan nhw ddeall unrhyw newidiadau yr ydych chi’n eu cynnig er mwyn helpu i gynhyrchu lefelau gwell o dderbyniad ac ymgysylltiad gan ddefnyddwyr.
3. Cynghori a hyfforddi cydweithwyr ynglŷn â sut i baratoi cynnwys effeithiol, gan eu helpu nhw i gynhyrchu deunydd sy’n cwrdd ag anghenion y defnyddwyr ac sy’n unol â thôn ein llais a’n canllawiau hygyrchedd.
Gweithio gyda thimau a phrosiectau ar draws y sefydliad i fod y prif bwynt cyswllt ar gyfer cydweithwyr i’w cefnogi nhw wrth gynhyrchu cynnwys.
Cynghori cydweithwyr ynglŷn â sut i gynhyrchu cynnwys sy’n cwrdd ag anghenion y defnyddwyr a’r sianelau cyfathrebu mwyaf effeithiol ar gyfer ei rannu er mwyn helpu i gyflawni ein hamcanion busnes.
2
Rhannu unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi ynglŷn ag anghenion y defnyddwyr gyda chydweithwyr er mwyn helpu cydweithwyr i gynhyrchu cynnwys sy’n fwy addas ar gyfer eu cynulleidfaoedd.
Cynghori cydweithwyr ynglŷn â sut i ysgrifennu cynnwys mewn iaith eglur sy’n cwrdd â thôn ein llais a’n canllawiau hygyrchedd ynghyd â’u cynorthwyo nhw i wneud hyn.
Gweithio gydag awduron cynnwys i adolygu, cynnal a diweddaru’r cynnwys presennol, drwy ddefnyddio tystiolaeth, gan gynnwys dadansoddeg ac adborth y defnyddwyr.
Adeiladu perthnasoedd cynhyrchiol gydag awduron cynnwys ar draws y sefydliad er mwyn datblygu eu sgiliau mewn ysgrifennu yn eglur yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cefnogi cydweithwyr gydag ysgrifennu darnau ysgrifennu cymhleth neu dechnegol mewn iaith eglur, bob dydd y gall unrhyw un ei deall.
Cynorthwyo’r tîm, fel y bo angen, i ddarparu hyfforddiant i gydweithwyr ynglŷn â sut i ysgrifennu yn nhôn ein llais ac yn unol â chanllawiau a gofynion llywodraethiant.
4. Cynghori cydweithwyr ynglŷn â’r fformat a’r strwythur gorau ar gyfer cynnwys a’r sianelau cyfathrebu fwyaf effeithiol i gyrraedd ac ymdrin ag anghenion eu cynulleidfaoedd.
Defnyddio data a thystiolaeth i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â’r sianel/sianelau cyfathrebu mwyaf priodol ar gyfer y cynnwys er mwyn cefnogi anghenion ein defnyddwyr/cynulleidfaoedd.
Cynghori cydweithwyr ynglŷn â’r sianel/sianelau mwyaf effeithiol i gyrraedd defnyddwyr gyda phob darn o gynnwys a’r strwythur a’r fformat y dylai ei gymryd.
Gweithio yn agos â chydweithwyr o fewn y tîm cyfathrebu i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r sianel/sianelau a ddefnyddir ar gyfer cynnwys. Er enghraifft, gall hyn olygu datblygu’r cynnwys fel tudalennau html ar ein gwefan a gweithio yn agos gyda’r swyddog cyfathrebu digidol (gwefan) er mwyn ei roi yn y rhan o’r wefan a fydd yn arwain at y lefel orau o ymgysylltiad gyda defnyddwyr.
Yn eich maes chi o waith, byddwch chi hefyd yn:
mabwysiadu ymarferion gweithio sionc ac annog diwylliant o welliant, arloesedd ac ardderchowgrwydd parhaus, drwy ddysgu oddi wrth bobl eraill a datblygu rhwydweithiau.
cefnogi a hyrwyddo newidiadau ym mhrosesau'r sefydliad a’u defnyddio nhw yn eich gwaith.
cymryd rhan mewn rhoi prosiectau, gweithdrefnau a chanllawiau penodol ar waith er mwyn helpu i gydweddu’r gweithlu â nodau strategol y sefydliad.
hyrwyddo amrediad o adnoddau ac arbenigedd Gofal Cymdeithasol Cymru. cefnogi gweithredu’r cynllun cyfathrebu sefydliadol i reoli adnoddau’n effeithiol ymgymryd â dyletswyddau eraill at lefel y swydd a all fod eu hangen yn rhesymol.
3
cynorthwyo i ddarparu rheolaeth o adnoddau ariannol effeithiol ac effeithlon drwy gyllidebu a monitro gwariant, ac archebu nwyddau ar gyfer gwariant y tîm hefyd.
cynorthwyo gyda gweithgareddau ehangach y tîm cyfathrebu yn y cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau’r cyfryngau, cyhoeddiadau, gwefan a chyfathrebiadau mewnol, fel y bo angen.
cadw cyfrinachedd wrth ymdrin â gwybodaeth sensitif, gwybodaeth bersonol neu wybodaeth gyfrinachol.
hyrwyddo ac adlewyrchu ein gwerthoedd, ein hymarfer gwrthwahaniaethol, ein cyfleoedd cyfartal a’n Safonau Iaith Gymraeg, gan sicrhau eu bod yn cael eu hymgorffori ym mhob agwedd o’n gwaith, ynghyd â gosod pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth wrth galon ein gwaith.
ymateb yn rhagweithiol i gydweithwyr, cymryd rhan mewn gweithio tîm, gweithio i bolisïau a gweithdrefnau corfforaethol, ynghyd â chyfrannu at redeg Gofal Cymdeithasol Cymru mewn modd effeithiol.
hyrwyddo perthnasoedd gwaith da gyda phartneriaid a chwsmeriaid yng Nghymru a gweddill y DU.
cwblhau hyfforddiant perthnasol a chynorthwyo gyda hyfforddiant pobl eraill lle y bo angen.
4
MANYLEB YR UNIGOLYN
Swydd: Swyddog cynnwys
Rydym yn disgwyl i’n holl staff ddilyn a dangos ymddygiad sy’n unol â’n gwerthoedd sefydliadol.
Parchu pawbGweld pobl fel unigolion a thrin pawb gydag urddas a pharch.
Agwedd broffesiynolGweithredu yn gyfrifol a phriodol, gan fynnu bod pobl yn atebol.
Parhau i ddysgu bob amserGwella ein hunain a chefnogi eraill i fod y gorau y gallwn ni fod.
Cynnwys poblAnnog a galluogi pawb i weithio gyda’i gilydd.
Hanfodol DymunolCymwysterau Tystiolaeth o ddatblygiad
proffesiynol parhaus.Gradd neu gymhwyster ôl-radd mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau neu gyfathrebiadau cyffredinol.
Gwybodaeth Gwybodaeth ynglŷn â sut i ysgrifennu cynnwys manwl gywir ac ardderchog ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a sianelau cyfathrebu.
Gwybodaeth ardderchog o’r iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg, gan gynnwys gramadeg ac atalnodi.
Deall cynnwys html, systemau a chynllunio rheoli cynnwys gwefannau, ac optimeiddio peiriannau chwilio.
Gwybodaeth ymarferol ynglŷn â sut i gynhyrchu cynnwys hygyrch.
Gwybodaeth eang ynglŷn â sianelau cyfathrebu ar-lein ac
Gwybodaeth ymarferol ynglŷn â phlatfformau e-bost sy’n seiliedig ar brosiectau, Adobe InDesign, Adobe Acrobat a Microsoft SharePoint.
Gwybodaeth ymarferol ynglŷn â phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig felly Twitter a Facebook.
5
Hanfodol Dymunolall-lein a sut i ddatblygu cynnwys effeithiol ar eu cyfer.
Gwybodaeth ynglŷn â sut i ddehongli data ansoddol a data meintiol (gan gynnwys dadansoddeg gwefannau) a thystiolaeth er mwyn dod i benderfyniadau deallus.
Dealltwriaeth ynglŷn ag arferion sionc (ymateb i anghenion sy’n newid a natur anrhagweladwy cwsmeriaid drwy adolygu, datblygu a golygu deunydd yn gyson, yn seiliedig ar adborth) a sut gallan nhw helpu i gynhyrchu cynnwys effeithiol.
Profiad Llwyddiant blaenorol o weithio fel ysgrifennwr a/neu olygydd.
Profiad blaenorol o ymchwilio a dadansoddi beth mae defnyddwyr neu gynulleidfaoedd yn edrych amdano a chynhyrchu cynnwys sy’n cwrdd â’u hanghenion.
Profiad o strwythuro, cynllunio a chyhoeddi cynnwys wedi’i ganoli ar y defnyddwyr ar gyfer sianelau ar-lein ac all-lein. Profiad o is-olygu a phrawf-ddarllen deunyddiau a throi testun cymhleth neu destun technegol i Saesneg neu Gymraeg eglur.
Profiad o gefnogi pobl eraill wrth ddatblygu a chyhoeddi cynnwys ar-lein ac all-lein.
Profiad yn y sector cyhoeddus.
Profiad o ddefnyddio a dehongli dadansoddeg Google
Sgiliau a Phriodoleddau
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog yn y
6
Hanfodol DymunolSaesneg a’r Gymraeg.
Meddu ar y gallu i weithio mewn ffordd sionc ac ymrwymiad tuag at ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i gynllunio a chyflwyno cynnwys ar-lein ac all-lein.
Meddwl dadansoddol i chwilio am dystiolaeth berthnasol a fydd yn helpu i nodi’r dull gorau tuag at gynnwys a sianelau ar gyfer cyfathrebu.
Gweithiwr trefnus, gyda llygad craff am fanylder a manwl-gywirdeb.
Meddu ar y gallu i amgyffred anghenion cydweithwyr ac awgrymu atebion ymarferol.
Meddu ar y gallu i weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun, gweithio yn dda o dan bwysau a rheoli sawl prosiect ar yr un pryd, pob un gydag amserlen wahanol.
Hyderus, i gyflwyno ac egluro syniadau i gydweithwyr, gan gynnwys uwch reolwyr.
Agwedd broffesiynol tuag at amser, costau a therfynau amser.
Llythrennog a rhifog mewn TG,ac yn gyfarwydd â rhaglenni Microsoft Office, fel Word, Excel a PowerPoint.
Meddu ar y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith ardderchog.
Ymrwymiad i weithio yn unol â gwerthoedd y sector cyhoeddus.
7
Hanfodol DymunolMeddu ar y gallu i weithio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Gofynion ieithyddol
Gwrando a siarad: Meddu ar y gallu i gyflawni holl agweddau llafar y swydd drwy gyfrwng yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg.
Darllen a deall: Meddu ar y gallu i ddefnyddio a dehongli gwybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg.
Ysgrifennu: Meddu ar y gallu i ysgrifennu deunydd yn gysylltiedig â gwaith drwy gyfrwng yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg.
Plis cwblhech y ffurflen gais sydd ar y tudalennau nesaf.
8
Cyfrinachol
Ffurflen gais
Cais am swydd:
Defnydd AD yn unig:
Cyfeirnod yr Ymgeisydd
9
Dim ond ein Tîm Adnoddau Dynol fydd yn gweld y wybodaeth a roddwch ar dudalennau 1 i 4 y cais hwn.
Dim ond tudalennau 5 ymlaen fydd yn cael eu gweld a'u defnyddio gan y panel recriwtio er mwyn pennu rhestr fer a chyfweld.
Manylion personol
Cyfenw
Enw(au) cyntaf
TeitlMr/Mrs/Ms/Miss/Dr ac ati
Cyfeiriad cartref
Rhif ffôn
E-bost
Geirdaon
Rhowch fanylion dau berson y gallwn ofyn iddynt am eirda. Rhaid mai’ch cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar yw un ohonynt, os yw'n berthnasol.
Ni fyddwn yn gofyn am eirda tan ar ôl y cyfweliad.
1. Enw: 2. Enw:
Teitl y Swydd: Teitl y Swydd
Awdurdod: Awdurdod:
Cyfeiriad: Cyfeiriad:
Cod post: Cod post:
Ffôn: Ffôn:
e-bost: e-bost:
10
Perthnasoedd
Oes gennych unrhyw ffrindiau neu berthnasau sy'n cael eu cyflogi gan Gofal Cymdeithasol Cymru? Os felly, rhowch enw(au) a'ch perthynas â'r rhai a enwir.
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau ar ein paneli rhestr fer a chyfweld.
Statws cyfreithiol i weithio yn y DU
Oes gennych chi hawl gyfreithiol i weithio yn y DU? (dilëwch fel y bo'n briodol)* Oes/Nac oes*
Os ‘Oes’, ond bod amodau ynghlwm wrth yr hawl honno, er enghraifft dyddiadau dechrau neu orffen, rhowch fanylion:
Os 'Nac oes', nodwch pa fath o drwydded sydd ei hangen arnoch
Noder: Os cewch eich penodi, bydd angen darparu tystiolaeth o gymhwysedd i weithio yn y DU.
Argaeledd
Oes unrhyw ddyddiadau yn ystod y ddau fis nesaf pan na allwch chi fod yn bresennol i gael cyfweliad?
11
Hyderus o ran Anabledd
Rydym yn gyflogwr ymrwymedig i Hyderus o ran Anabledd. Byddwn yn sicrhau cyfweliad i bobl anabl os ydynt yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd dan sylw.
Mae gen i anabledd a hoffwn gael sicrwydd o gyfweliad o dan y cynllun:
Hoffwn Na hoffwn
Cymorth yn y cyfweliad
Rhowch fanylion unrhyw gymorth, anghenion neu offer penodol sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i fynychu cyfweliad
Dewis iaith
A hoffech chi gael unrhyw elfennau o'r broses gyfweld yn y Gymraeg?
Sut y clywsoch chi am y swydd hon?
12
Addysg/cymwysterau
Rhowch enw a math o sefydliad, a rhestr o’r cymwysterau a enillwyd.
Dim ond cymwysterau sy'n berthnasol i'r gofynion a amlinellir yn y disgrifiad swydd a manyleb y person sydd angen i chi eu rhestru.
Sefydliad Cymwysterau
Aelodaeth o gyrff proffesiynol a chymwysterau proffesiynol
Rhowch fanylion eich aelodaeth o gyrff proffesiynol a lefel y cymhwyster a enillwyd.
Sefydliad proffesiynol Lefel aelodaeth
13
Cyflogaeth
Os ydych chi'n gadael ysgol/coleg, dylech gynnwys manylion swyddi gwyliau lle bo hynny'n berthnasol.
Cyflogwr presennol neu ddiwethaf
Enw, cyfeiriad a natur y busnes:
Swydd a chyfrifoldebau:
Dyddiadau (Mis a Blwyddyn) O: Tan:
Cyflog (nawr neu adeg gadael):
Cyfnod rhybudd:
Rheswm dros adael:
Cyflogwyr blaenorol
Gan gychwyn gyda'r mwyaf diweddar. Ychwanegwch fwy o resi os oes angen.
Enw a natur y busnes Eich swydd a phrif gyfrifoldebau Hyd - misoedd a blynyddoedd
14
Enw a natur y busnes Eich swydd a phrif gyfrifoldebau Hyd - misoedd a blynyddoedd
Datganiad ategol
Gan gofio'r meini prawf hanfodol a amlinellir yn y disgrifiad swydd, ysgrifennwch ddatganiad ategol yn amlinellu sut mae’ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad yn eich gwneud yn ymgeisydd addas ar gyfer y rôl hon yn eich barn chi. Dylech gynnwys enghreifftiau lle bo hynny'n bosibl. (Rydym yn argymell rhwng 500 – 1,000 o eiriau).
Bydd y blwch yn ehangu wrth i chi ysgrifennu ynddo os ydych chi angen mwy o le.
15
16
Sgiliau Cymraeg
Dywedwch wrthym am eich sgiliau Cymraeg drwy roi x yn y blwch wrth ymyl y datganiad sy'n cyd-fynd orau â lefel eich gallu.
Darllen xDim sgiliauGallu darllen rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol gyda dealltwriaethGallu darllen deunyddiau syml ar bynciau bob dydd gyda dealltwriaethGallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â gwaith Dealltwriaeth lawn o'r holl ddeunydd sy'n gysylltiedig â gwaith
GwrandoDim sgiliau Gallu deall rhannau o sgwrs sylfaenol Gallu deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau bob dydd Gallu deall sgyrsiau arferol sy'n gysylltiedig â gwaith Gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith Gallu deall yr holl sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith
YsgrifennuDim sgiliauGallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau bob dydd Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml sy'n gysylltiedig â gwaith Gallu paratoi deunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda gwirio Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn Gymraeg Gallu paratoi defnydd ysgrifenedig ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â gwaith
SiaradDim sgiliauGallu cynnal sgwrs sylfaenol yn GymraegGallu cynnal sgyrsiau syml sy'n gysylltiedig â gwaithGallu cynnal rhai sgyrsiau cysylltiedig â gwaithGallu cynnal y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaithRhugl
17
Datganiad
Rwy'n cadarnhau bod manylion y cais hwn a'r dystiolaeth o gymhwysedd a ddarperir i'w gefnogi, hyd eithaf fy ngwybodaeth, yn wir a chywir; ac rwy'n cydsynio i Ofal Cymdeithasol Cymru brosesu, drwy gronfa ddata gyfrifiadurol neu fel arall, unrhyw wybodaeth rwyf wedi ei darparu at ddibenion cyflogaeth gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gallwch ddarllen ein datganiad preifatrwydd yn llawn yma.
Llofnod:______________________________ Dyddiad:________________
Dychwelwch eich ffurflen gais i [email protected]
18