hy2 materion sy’n codi o’r arholiadau mai 2013

38
HY2 MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Upload: tariq

Post on 12-Jan-2016

57 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

HY2 MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013. HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013. Mae’r fanyleb, deunyddiau asesu enghreifftiol diwygiedig ac Adroddiad yr Arholwr ar gael ar y tudalennau Hanes ar wefan CBAC: www.cbac.co.uk. HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013. - PowerPoint PPT Presentation

TRANSCRIPT

Page 1: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2

MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU

MAI 2013

Page 2: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Mae’r fanyleb, deunyddiau asesu enghreifftiol diwygiedig ac Adroddiad yr Arholwr ar gael ar y tudalennau Hanes ar wefan CBAC:

www.cbac.co.uk

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 3: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Yn ogystal, mae gwefan ddiogel CBAC yn cynnwys deunydd adolygu arholiadau ar gyfer HY2 gan gynnwys sgriptiau’r ymgeiswyr a sylwadau’r arholwr ar y sgriptiau a ddewiswyd.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 4: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Roedd y ffordd yr aeth mwyafrif yr ymgeiswyr ati i gwblhau’r arholiad HY2 newydd i’w chanmol. Yn yr ymatebion gwell, roedd tystiolaeth bod yr ymgeiswyr yn wybodus iawn ac yn gallu defnyddio’u sgiliau gwerthuso hanes i ymgysylltu’n ystyrlon â’r materion allweddol a deunydd a gyflwynwyd fel tystiolaeth mewn perthynas â’r cwestiynau a osodwyd.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 5: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Er y gwelwyd nifer o ymatebion a oedd yn cynnig sylwadau gwerthuso dilys am ffynonellau, dylid hefyd crybwyll, fel yn yr hen arholiad HY2, bod lle i wella o ran datblygu ymatebion gwerthuso ffynonellau ystyrlon mewn cyd-destun.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 6: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Yn gyffredinol, roedd yr Arholwyr yn teimlo mai’r rheswm dros y gwendid, lle bo gwendid, oedd bod llawer o ymgeiswyr wedi dibynnu’n ormodol ar ystyried cynnwys y ffynonellau’n fformiwläig a mecanistig. Gwnaed hyn heb ymgysylltu’n ystyrlon â’r materion a amlinellwyd yn y wybodaeth am y ffynonellau.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 7: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Roedd yr Arholwyr yn teimlo hefyd mai’r rheswm dros y gwendid oedd oherwydd bod llawer o ymgeiswyr nad oeddent yn gallu datblygu ymatebion gan osod y ffynonellau yng nghyd-destun cyfnod y cynhyrchu ac yng nghyd-destun yr ymchwiliad a osodwyd, y cwestiwn a osodwyd.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 8: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Roedd yr Arholwyr hefyd yn siomedig bod llawer o’r ymgeiswyr yn dibynnu’n ormodol ar ddisgrifiadau naratif sy’n cynnwys naill ai copïo neu ddarllen a deall y ffynonellau (neu arddangos eu gwybodaeth eu hunain) yn hytrach na chanolbwyntio ar y sylwadau gwerthuso ffynonellau y mae’r papur hwn yn gofyn amdano.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 9: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Un mater a effeithiodd ar leiafrif o ymgeiswyr oedd amseru’r ymatebion. Roedd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr yn gallu cynnig atebion llawn i bob un o’r pedwar is-gwestiwn ond nid oedd rhai o’r ymgeiswyr wedi mynd i’r afael â’r cwestiynau’n ddigon manwl. Y rheswm dros hyn yn bennaf oedd oherwydd eu bod wedi treulio gormod o amser ar y ddau is-gwestiwn cyntaf.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 10: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Lle’r oedd pryderon ar bapurau penodol am un neu fwy o’r pedwar is-gwestiwn, mae’r Uwch Arholwyr wedi amlygu materion o’r fath yn Adroddiad yr Arholwr. Mae'r darnau mewn coch sy’n dilyn yn dod o Adroddiad yr Arholwr.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 11: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Yn is-gwestiwn (a) mae disgwyl i ymgeiswyr roi diffiniad o derm neu ymadrodd hanesyddol a ddefnyddir yn un o’r ffynonellau.

Mae’r cwestiwn hwn yn gofyn i ymgeiswyr osod yr eglurhad yng nghyd-destun hanesyddol cynhyrchu’r ffynhonell.

Felly, bydd ymgeiswyr angen defnyddio’r wybodaeth am y ffynhonnell i ddeall yr hyn y mae’r awdur yn ei olygu o ran y term/ymadrodd yng nghyd-destun ei chynhyrchu.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 12: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Yn is-gwestiwn (a): dylai ymgeiswyr egluro, yn ei gyd-destun hanesyddol, term neu ymadrodd a ddefnyddiwyd gan awdur.

Roedd yr Arholwyr yn bryderus bod rhai ymgeiswyr yn ddigon bodlon i egluro’r hyn roeddent yn meddwl roedd yr awdur yn ei olygu o ran yr ymadrodd a ddewiswyd wrth gyfeirio at gynnwys y ffynhonnell a defnyddio eu gwybodaeth eu hunain yn unig.

Ni fyddai ymateb o’r fath yn ennill marc Lefel 2.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 13: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Dylid annog ymgeiswyr i drafod pam y byddai awdur penodol ar adeg neilltuol wedi defnyddio ymadrodd penodol.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

To prevent poisonous false doctrine and bad examples from being spread all over Christendom, and so that the art of printing books might be used only towards good ends, we, after mature and long deliberations, order and command by this edict that henceforth, under penalty of confiscation of goods and property, no book dealer, printer, or anybody else mention the Holy Scriptures or their interpretation without having first received the consent of the clerk of the city and the consent of the Faculty of Theology of the University, which will approve those books and writings with their seal.

[Dyfyniad o The Edict of Worms, cyhoeddwyd gan yr Ymerawdwr Siarl V yn 1521]

(a) What does the author of Source A mean by the phrase ‘poisonous false doctrine and bad examples’? [8]

Yn eich ateb fe’ch cynghorir i drafod cynnwys ac awduraeth y ffynhonnell a defnyddio eich gwybodaeth eich hun.

Page 14: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Fel arfer bydd hyn yn golygu bod â’r gallu i ddeall beth oedd yn digwydd y pryd, cyd-destun cynhyrchu’r ffynhonnell, a phwrpas / cynulleidfa’r awdur - rhaid canolbwyntio ar y wybodaeth am y ffynhonnell.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

[Dyfyniad o The Edict of Worms. cyhoeddwyd gan Yr Ymerawdwr Siarl V yn

1521]

Page 15: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Ni fydd copïo/darllen a deall y cynnwys neu’r wybodaeth am y ffynhonnell yn unig yn cael ei wobrwyo’n dda; mae’n rhaid i ddyddiad, tarddiad a diben y ffynhonnell yn ei gyd-destun fod yn ganolbwynt i ymateb yr ymgeisydd.

Gweler isod sylwadau un o’r Uwch Arholwyr:

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 16: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

[A contemporary radical print showing the people of the Third Estate bearing the financial burden of taxation during the ancien regime. The caption translates as ‘The people under the ancien regime’ (c. 1789]

Roedd rhai ymgeiswyr…] yn gallu egluro bod ‘the people under the ancien régime’ yn cyfeirio at y system drethu annheg a oedd yn eithrio’r Ystâd Gyntaf a’r Ail Ystâd breintiedig rhag cael eu trethu’n uniongyrchol gan olygu bod y baich i gyd ar y Drydedd Ystâd. Nid oedd cymaint o ymgeiswyr yn gallu egluro bod y pennawd yn cyd-fynd â phrint dychanol a luniwyd gan berson radicalaidd ym mlwyddyn y Chwyldro i gymell diwygio cymdeithasol a gwleidyddol.

Page 17: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Is-gwestiwn (b): disgwylir am eglurhad o bwysigrwydd neu arwyddocâd digwyddiad neu ddatblygiad hanesyddol.

Bydd rhaid i ymgeiswyr ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth y ddwy ffynhonnell a enwyd a defnyddio’u gwybodaeth eu hunain hefyd yn eu hateb i’r cwestiwn hwn. Bydd angen i’r ymgeiswyr ganolbwyntio ar y wybodaeth am y ffynonellau a darparu eglurhad llawn o bwysigrwydd neu arwyddocâd y mater a enwyd mewn perthynas â’r ymholiad hanesyddol a osodwyd.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 18: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Is-gwestiwn (b): dylai ymgeiswyr ystyried a ffurfio barn am bwysigrwydd neu arwyddocâd datblygiad hanesyddol gan ddefnyddio’r ddwy ffynhonnell a ddarparwyd a’u gwybodaeth eu hunain.

Nododd yr Arholwyr bod rhai ymgeiswyr nad oeddent yn gallu datblygu ymatebion llawnach gan ddefnyddio’r ffynonellau mewn cyd-destun, ac roedd llawer o ymgeiswyr nad oeddent wedi canolbwyntio ar yr union gwestiwn a osodwyd yn arbennig ar y cysyniad allweddol o “arwyddocâd” neu “bwysigrwydd” y digwyddiad a osodwyd.Er enghraifft:

Page 19: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

(b) How significant were radical groups in the development of the Civil War? [16]Explain your answer analysing and evaluating the content and authorship of Sources A and B and using your own knowledge.

Ffynhonnell AThe Uxbridge Peace Propositions of 1644 included a radical set of proposals for the reform of the Anglican Church. It advocated the abolition of bishops and the Book of Common Prayer and the issuing of a Directory of Worship based on Presbyterian ideas. It was too radical for the King, who rejected it out of hand, thus ending any hopes of a negotiated end to the Civil War.[M. Walzer, an academic historian and specialist in seventeenth-century English radicalism, writing in a specialist textbook, The Revolution of the Saints (1965)]

Ffynhonnell BIt is a truth conceived by God that all men are created equal and that Englishmen are naturally free. That state of freedom extends to free speech, fair trial and equitable justice, and the right to vote in parliamentary elections for all men over the age of 21. No one man should have the power of life and death over another.[John Lilburne, a parliamentary soldier and leader of the radical Leveller Movement, writing in a political pamphlet, England’s Birthright Justified (1645)]

Page 20: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Roedd ychydig o ymgeiswyr yn fodlon i drafod y mater penodol a osodwyd yn syml o ran yr hyn yr oeddent yn ei wybod am y cyfnod, ond nid yw hyn yn ddigonol ar gyfer marciau Lefel 2. Roedd rhai wedi ceisio cyfiawnhau gan gopïo darnau ategol o’r ffynonellau, a fyddai, ar y gorau, yn ennill llai na hanner y marciau.

Nododd yr Arholwyr bod tuedd ymysg y lleiafrif i anwybyddu’r ffynonellau a chanolbwyntio ar y “digwyddiadau” gyda disgrifiadau naratif o’r hyn a ddigwyddodd. Gwnaeth un arholwr y sylwadau hyn:

Roedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn gallu defnyddio cynnwys y ffynonellau i egluro rhywbeth am ddiweithdra rhanbarthol ym Mhrydain. Roedd gormod wedi gwneud hyn mewn modd mecanyddol, ac o ganlyniad heb ganolbwyntio’n ddigonol ar yr hyn yr oedd y ffynonellau yn ei ddweud am “arwyddocâd diweithdra rhanbarthol.” Roedd gormod o ymatebion yn pori drwy’r cynnwys ac yna’n trafod yr awduraeth yn fecanyddol.

Afraid dweud bod methu â chanolbwyntio sylwadau gwerthuso’r ffynonellau ar y wybodaeth am y ffynonellau yn cyfyngu ymatebion o’r fath i farciau isel ar Lefel 1.

Page 21: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Dylid annog ymgeiswyr i ddadansoddi cynnwys ac awduraeth y ddwy ffynhonnell a enwyd a hefyd i ddefnyddio’u gwybodaeth eu hunain i ateb y cwestiwn hwn. Bydd hyn fel arfer yn golygu gallu canolbwyntio ar y wybodaeth am y ffynonellau a gwerthuso pwysigrwydd/arwyddocâd y mater a enwyd o ran yr ymholiad hanesyddol penodol a nodwyd. Mae un o’r Arholwyr yn gwneud y pwynt hwn (gweler y ffynhonnell ar y sleid nesaf):

Rhaid i’r ymgeiswyr ddefnyddio cynnwys a gwybodaeth am y ffynhonnell, yn ogystal â chyd-destun y ffynonellau er mwyn dod i farn am bwysigrwydd mesur Kansas-Nebraska. Mae disgwyl i ymgeiswyr hefyd ddefnyddio’u gwybodaeth eu hunain am y cyfnod i arddangos dealltwriaeth am bwysigrwydd y mesur hwn. Mae’r ffynonellau’n datgelu ymgais annoeth y Seneddwr Douglas i ddarparu ateb i broblem ddadleuol caethwasiaeth ar y tiriogaethau newydd. Roedd mesur Kansas-Nebraska wedi cynyddu tensiynau cymdeithasol, gan ddarparu tystiolaeth o ryfel cartref cynnar ar raddfa fach yn Kansas. Mae Ffynhonnell A yn ymarfer mewn hunan-gyfiawnhad gan brif gymeriad y mesur tra bod Ffynhonnell B yn boster gwrthgaethwasiaeth angerddol.

Page 22: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Ffynhonnell A

Mae’r mesur (bill) yn darparu, mewn geiriau sydd mor benodol ag sydd modd yn ein hiaith ni, NAD i ymestyn caethwasiaeth trwy ddeddfwriaeth i unrhyw Diriogaeth na Thalaith yw’r

ddeddf. Nid yw’n cyflwyno caethwasiaeth, nid yw’n ei hadfywio, nid yw’n ei sefydlu. Mae’n cael ei datgan yn y mesur hwn mai egwyddor fawr hunanlywodraeth yw’r rheol weithredol ar gyfer datrys y cynnwrf caethwasiaeth yn derfynol.

[Y Seneddwr Stephen Douglas, yn egluro nod ei fesur Kansas-Nebraska, mewn llythyr at olygydd papur newydd, The Concord Register (16 Chwefror 1854)]

[Argrafflen wrthgaethwasiaeth

yn hysbysebu cynhadledd

ar gyfer y taleithiau rhydd yn Kansas

(Medi 1855)]

Ffynhonnell B

Page 23: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

Mae Is-gwestiwn (c) yn disgwyl i ymgeiswyr roi barn ategol a dilys ar ddehongliad neilltuol.

Bydd disgwyl iddynt ddefnyddio cynnwys ac awduraeth dwy ffynhonnell a enwyd a’u gwybodaeth eu hunain i drafod a dod i farn ddilys am y dehongliad hwn. Dylai’r ymgeiswyr allu cynnwys eu gwybodaeth eu hunain am ddehongliadau eraill yn eu hateb.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 24: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Is-gwestiwn (c): dylai ymgeiswyr ystyried a dod i farn am ddilysrwydd unrhyw ddehongliad o ran y ddwy ffynhonnell a ddewiswyd a’u gwybodaeth eu hunain o ddehongliadau posibl eraill.

Roedd yr arholwyr wedi nodi bod mwyafrif yr ymgeiswyr yn gallu defnyddio’r ffynonellau a enwyd i drafod dilysrwydd unrhyw ddehongliad a nodwyd o ran yr hyn yr oedd gan y ffynonellau i’w ddweud - cynnwys y ddwy ffynhonnell.

Page 25: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Roedd yr arholwyr wedi nodi bod rhai ymgeiswyr wedi ceisio dangos sut roedd pob un o’r ffynonellau wedi cefnogi neu wrthddweud y dehongliad a roddwyd. Gwnaed y sylwadau canlynol gan un Arholwr:

Mae angen i ymgeiswyr ganolbwyntio ar sut a pham bod dehongliadau gwahanol wedi’u llunio. Roedd nifer fechan wedi trafod maint y gefnogaeth neu’r gwrthddywediad rhwng safbwyntiau’r ddwy ffynhonnell, yn hytrach na p’un ai a oeddent yn cytuno â’r dehongliad yn y cwestiwn; roedd hyn yn tueddu i gyfyngu’r ymgeiswyr hynny i waelod Lefel 2.

Page 26: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Roedd rhai ymgeiswyr yn gallu defnyddio’r wybodaeth am y ffynonellau i drafod y dehongliad a roddwyd ond roedd y rhan fwyaf wedi’u cyfyngu i wneud sylwadau mecanyddol ar y dibynadwyedd neu’r defnyddioldeb. Methodd nifer o ymgeiswyr â datblygu sylwadau gwerthuso ffynhonnell yn seiliedig ar y wybodaeth am y ffynonellau a ddarparwyd i’r ddwy ffynhonnell a ddewiswyd mewn perthynas â sut y byddai’r dehongliad wedi’i ffurfio a pham. Gwnaed y sylwadau canlynol gan un Arholwr:

Page 27: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Roedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn gallu defnyddio cynnwys y ffynonellau i drafod y dehongliad mai problemau ariannol oedd yn gyfrifol am gychwyn y Chwyldro Ffrengig yn 1789. Roedd hyn yn gysylltiedig â’r wybodaeth am yr argyfwng dyledion a achoswyd gan wario milwrol a system drethu aneffeithiol. Roedd nifer o ymgeiswyr wedi awgrymu dehongliadau gwahanol fel arweinyddiaeth wan Louis XVI (fel yr awgrymwyd gan Ffynhonnell Ch), esgyniad y Bourgeoisie neu ddylanwad yr oes Oleuedig. Fodd bynnag, roedd y drafodaeth am y wybodaeth am ffynonellau yn tueddu i fod yn eithaf syml a mecanyddol.

Page 28: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Dylid annog ymgeiswyr i ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth y ddwy ffynhonnell a enwyd a hefyd i ddefnyddio’u gwybodaeth eu hunain i ateb y cwestiwn hwn. Byddai hynny fel arfer yn golygu gallu defnyddio cynnwys a gwybodaeth am y ffynhonnell i ddarparu gwerthusiad ffynhonnell argyhoeddedig tra’n trafod a dod i farn ddilys am sut mae’r mater wedi’i ddehongli mewn ffyrdd gwahanol yn hytrach na dim ond arddangos gwybodaeth am y digwyddiad. Gwnaed y sylwadau canlynol gan un Arholwr:

Page 29: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Yn aml, roedd y defnydd o wybodaeth ychwanegol i gefnogi dadleuon yn ardderchog. Fodd bynnag, yn aml, roedd ansawdd gwerthuso’r ffynhonnell yn siomedig ac yn llai argyhoeddiadol. Weithiau arweiniodd hyn at fymryn yn fwy na chyfeiriadaeth fecanyddol at waith hanesydd academaidd a astudiodd destun neu ddyddiadur aelod o’r mudiad gwrth-Natsïaidd. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau trwy werthuso ffynonellau mewn cyd-destun yn drylwyr eu bod yn gallu penderfynu ynglŷn â dibynadwyedd y dehongliad.

Page 30: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

•Mae Is-gwestiwn (ch) yn disgwyl gwerthusiad am ddefnyddioldeb y tair ffynhonnell a enwyd yng nghyd-destun yr astudiaeth fanwl. Mae disgwyl i ymgeiswyr arddangos eu gallu i ddadansoddi a gwerthuso’r ffynonellau a enwyd gan arddangos sgiliau gwerthuso ffynonellau. Dylid ystyried materion fel dibynadwyedd, tuedd, diben a dilysrwydd, fel sy’n addas, wrth ystyried defnyddioldeb y ffynonellau hyn. Dylid hefyd ystyried cyfyngiadau’r ffynonellau a enwyd yng nghyd-destun ehangach yr astudiaeth fanwl.

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Page 31: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Is- gwestiwn (ch): dylai ymgeiswyr ystyried a dod i benderfyniad ar ddefnyddioldeb y tair ffynhonnell a ddewiswyd wrth ddeall yr astudiaeth fanwl a astudiwyd.

Roedd rhai ymgeiswyr wedi cynnig ymatebion i’r cwestiwn hwn gan wneud sylwadau ar gynnwys y tair ffynhonnell yn unig, (gan gopïo gwybodaeth am y ffynonellau weithiau) ac o ganlyniad, roeddent wedi’u cyfyngu i gael marciau isel. Nid oes esgus i ddeall y ffynonellau’n unig yn y cwestiwn eang hwn.

Page 32: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Roedd nifer o ymgeiswyr wedi meithrin dull fformiwläig a mecanyddol o gynnig sylwadau ar gryfderau yn gyntaf ac yna ar gyfyngiadau cynnwys y ffynonellau gan ddilyn hynny ag ail set o sylwadau ar gryfderau a chyfyngiadau’r wybodaeth am y ffynonellau.

Page 33: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Heb os, roedd llawer o’r ymgeiswyr, bron y cyfan, wedi meithrin dull cyffredinol arall sef gwneud sylwadau ar gryfderau a chyfyngiadau’r tair ffynhonnell a ddewiswyd ac yna ychwanegu traethawd byr ar ddatblygiadau eraill yn ystod y cyfnod a gafodd eu hepgor o’r ffynonellau.

Mae’r dull hwn fel arfer yn ennill tua hanner y marciau sydd ar gael.

Page 34: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Methodd nifer o ymgeiswyr â datblygu asesiad cyffredinol o’r ffynonellau a defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth gyd-destunol o’r holl destun a rhwystrodd hyn eu perfformiad. Yn rhy aml, roedd yr ymgeiswyr ond wedi gwerthuso’r ffynonellau a enwyd o fewn cyd-destun y materion allweddol cyfyngedig sy’n codi o fewn y ffynonellau’n unig. Yr hyn sydd ei angen yw gwerthusiad llawnach o ddefnyddioldeb y tair ffynhonnell a ddewiswyd a chyfeiriad cyd-destunol clir at yr holl destun mewn modd integredig yn hytrach nag mewn modd ar wahân. Pwysleisiodd un arholwr y pwynt hwn:

Page 35: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Roedd y duedd i ymgeiswyr barhau i ymdrin â ffynonellau a ddewiswyd ar wahân wedi parhau i’r gyfres arholiadau hon.

Rhaid i ymgeiswyr ganolbwyntio ar gynhyrchu ymatebion sy’n gytbwys i’r casgliad yn ei chyfanrwydd, sy’n bodloni gofynion y meini prawf asesu’n llawn er mwyn cyrraedd marciau Lefel 3.

Page 36: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Dylid annog ymgeiswyr i ddadansoddi a gwerthuso cynnwys ac awduraeth y tair ffynhonnell a ddewiswyd yn eu cyd-destun hanesyddol a hefyd i ddefnyddio’u gwybodaeth eu hunain i ateb y cwestiwn hwn. Fel arfer, bydd hyn yn golygu gallu darparu gwerthusiad credadwy am ffynhonnell yng nghyd-destun eu hawduraeth a dod i farn ddilys am eu defnyddioldeb. Er mwyn pwyso a mesur eu defnyddioldeb, dylid ystyried cynnwys ac awduraeth y ffynonellau a enwyd er mwyn trafod dibynadwyedd, tuedd, diben a dilysrwydd, fel y bo’n briodol. Dylid integreiddio hyn i’r datblygiadau a ddigwyddodd trwy gydol yr astudiaeth fanwl.

Page 37: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Dylai ymgeiswyr yn Rhan (ch) geisio adnabod prif nodweddion / datblygiad yn y ffynonellau a gyflwynwyd (fel arfer bydd 3) a defnyddio’r rhain i ystyried y cyd-destun perthnasol. Er enghraifft os yw’r ffynhonnell yn trafod “Ieuenctid” yr Almaen Natsïaidd, dylent fod yn gallu trafod y thema ehangach o ddatblygiadau cymdeithasol sydd wedi’u gosod mewn cyd-destun o newidiadau yn ystod Cyfundrefn y Natsïaid. Gallai ffynhonnell arall roi mynediad i faterion economaidd y gallent eu cysylltu â datblygiad economaidd a gwleidyddol dros y cyfnod. Gallai’r drydedd ffynhonnell eu Caniatáu i ganolbwyntio ar wrthblaid y gallent ei chysylltu â threfniadaeth y wladwriaeth Natsïaidd.

Page 38: HY2  MATERION SY’N CODI O’R ARHOLIADAU MAI 2013

HY2 - MATERION SY’N CODI O ARHOLIAD 2013

Nid oes disgwyl i ymgeiswyr restru’r holl hepgoriadau’n unig (neu gymaint ag y gallent eu rhestru) ond mae disgwyl iddynt ymgysylltu â chynnwys ac awduraeth y ffynonellau yng nghyd-destun y datblygiadau ehangach yn ystod yr astudiaeth fanwl. Mae angen iddynt ddefnyddio’u sgiliau gwerthuso ffynonellau i ddangos cryfderau a chyfyngiadau’r tair ffynhonnell wrth ddeall y datblygiadau sy’n newid yng nghyd-destun cyfnod yr astudiaeth fanwl.