interlink rct · web viewbydd rhct a merthyr tudful (cwm taf) yn gweithio gyda'i gilydd i...
TRANSCRIPT
Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cwm Taf
Cefnogi plant, pobl ifainc a theuluoedd yn ardal CWM TAFFersiwn sy'n addas i blant a phobl ifainc
Bydd RhCT a Merthyr Tudful (CWM TAF) yn gweithio gyda'i gilydd i wneud newidiadau er budd plant, pobl ifainc, teuluoedd a'u cymunedau.
Gofynnon ni i blant, pobl ifainc ac oedolion am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Llunion ni strategaeth i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth sy'n digwydd.
Dyma'r 3 phrif beth pwysicaf:
1. Y cymorth gorau posibl ar gyfer pobl sydd ei angen
2. Cymorth ar gael i bobl ar unwaith
3. Cymorth gwahanol ar gyfer pobl wahanol
Dros y 5 mlynedd nesaf, mae pawb yn cytuno ar y canlynol:
Bydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd, hynny yw plant, pobl ifainc, teuluoedd a chymunedau. Peidiwch â DWEUD yr hyn mae rhaid i bobl ei wneud wrthyn nhw, GOFYNNWCH iddyn nhw
Sut bydd hyn yn digwydd?
1. Pan mae plant yn ifanc iawn, maen nhw'n ddiogel ac yn hapus
2. Gweithio GYDA chymunedau lleol
3. Cynnwys pawb
4. Gofalu am bobl, gofyn a ydyn nhw'n iawn
5. Llawer o ffyrdd gwahanol i helpu
6. Rhoi cymorth i blant a phobl ifainc i ddweud eu dweud
7. Rhoi arian at ei gilydd er mwyn cael y gwerth mwyaf posibl
8. Gweithio gyda'n gilydd i wneud pawb yn hapus
9. Rhannu'r hyn sy'n mynd ymlaen
10. Gwneud yn siŵr bod pethau yn digwydd yn iawn a dangos i bobl eraill
11. Sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn
12. Gweithwyr yn deall y ffordd orau i weithio gyda phobl a chymunedau
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Cysylltwch â
Helen Marshall