intouch haf 2015

44
Health & Safety | intouch | www.wwha.co.uk | 17 intouch RHIFYN 83 | HAF 2015 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West Yn y rhifyn hwn... Preswylwyr yn dathlu ein 50fed pen-blwydd Profiad gwaith gyda Tai Wales & West Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2015 – pwy yw eich arwr chi Gwneud y defnydd gorau o’ch larwm mewn argyfwng

Upload: wales-west-housing

Post on 23-Jul-2016

235 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: InTouch Haf 2015

Health & Safety | intouch | www.wwha.co.uk | 17

intouchRHIFYN 83 | HAF 2015 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn...

Preswylwyr yn dathlu ein 50fed pen-blwydd

Profiad gwaith gyda Tai Wales & West

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2015 – pwy yw eich arwr chi

Gwneud y defnydd gorau o’ch larwm mewn argyfwng

Page 2: InTouch Haf 2015

Grantiau Gwneud Gwahaniaeth

Ydych chi angen cymorth i gic-danio

gweithgareddau cymunedol lle’r ydych chi’n byw? Efallai eich bod chi eisiau dechrau prosiect

garddio yn eich cynllun? Neu efallai eich bod chi angen cymorth i fynd yn ôl i’r gwaith, i fyd

addysg neu hyfforddiant?

Gallai ein grantiau Gwneud Gwahaniaeth helpu

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0800 052 2526, ewch i www.wwha.co.uk neusiaradwch â’ch Swyddog Tai

Gallwch wylio storïau Cheryla Chlwb Garddio Oak Court ar ein gwefan!

- Eich cymuned chi - - Eich amgylchedd chi - - Eich dyfodol chi -

Page 3: InTouch Haf 2015

Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd Cynnwys

Ieithoedd a fformatau eraillOs hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghraifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twitter @wwha

Cysylltu â niTai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UDFfôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, [email protected]

Helo bawb a chroeso i rifyn yr haf 2015 InTouch, y cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West.Fel arfer rydym wedi ceisio cyflwyno cymysgedd o’r newyddion diweddaraf gan WWH, eich straeon a chyngor ar amrywiaeth o faterion i chi - gan gynnwys newidiadau i fudd-daliadau yn dilyn y Cyhoeddiad diweddar am y Gyllideb (tudalen 33) a sut i wneud y defnydd gorau o’ch larwm argyfwng personol (tudalen 28).Mae ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn prysur agosáu, ac nid oes llawer o amser ar ôl i chi enwebu arwyr di-glod eich cymdogaeth. Felly, os ydych yn gwybod am breswyliwr neu grŵp WWH y mae eu hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch cymuned, neu rywun sydd wedi goresgyn caledi i weddnewid ei fywyd neu ei bywyd, gofalwch eich bod yn rhoi gwybod i ni! Gallwch droi at dudalen 6 am ragor o wybodaeth am gategorïau’r gwobrau eleni, a sut i wneud enwebiad. I nodi 50fed pen-blwydd WWH, rydym wedi cyflwyno grant parti arbennig i chi, ein preswylwyr, i gynnal digwyddiad i ddathlu a dod â’ch cymuned at ei gilydd. Rydym yn falch o weld cymaint ohonoch yn cymryd rhan - yn wir, rydym wedi derbyn llwyth o lluniau gan y rhai ohonoch sydd wedi cynnal partïon hyd yn hyn! Trowch at dudalen 15 i ddod o hyd i erthygl nodwedd arbennig ar 50fed pen-blwydd WWH, gyda detholiad yn unig o’r lluniau rydych wedi eu hanfon atom. Os nad ydych wedi cynnal parti eto yn eich cynllun a bod gennych ddiddordeb mewn gwneud hynny, siaradwch â’ch swyddog tai, rheolwr cynllun neu ffoniwch ni ar 0800 052 2526 i gael rhagor o wybodaeth.Felly, rydym yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r rhifyn hwn o InTouch. Tan y tro nesaf, cymerwch ofal a hwyl ar y darllen!

Newyddion a Gwybodaeth WWH 04Byw’n Wyrdd 11Datblygiadau Diweddaraf 1350fed Pen-blwydd WWH 15Gwaith. Sgiliau. Profiad 18Adroddiad Chwarterol 23Iechyd a Diogelwch 28Adroddiad Blynyddol Larwm mewn argyfwng 30Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned 32Materion Ariannol 33 Cynnal a Chadw wedi ei gynllunio 35Y Diweddaraf am Elusennau 36Eich Newyddion a’ch Safbwyntiau 38Penblwyddi a Dathliadau 42

Grantiau Gwneud Gwahaniaeth

Ydych chi angen cymorth i gic-danio

gweithgareddau cymunedol lle’r ydych chi’n byw? Efallai eich bod chi eisiau dechrau prosiect

garddio yn eich cynllun? Neu efallai eich bod chi angen cymorth i fynd yn ôl i’r gwaith, i fyd

addysg neu hyfforddiant?

Gallai ein grantiau Gwneud Gwahaniaeth helpu

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 0800 052 2526, ewch i www.wwha.co.uk neusiaradwch â’ch Swyddog Tai

Gallwch wylio storïau Cheryla Chlwb Garddio Oak Court ar ein gwefan!

- Eich cymuned chi - - Eich amgylchedd chi - - Eich dyfodol chi -

Page 4: InTouch Haf 2015

04 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Fe wnaeth Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, agor yn swyddogol ein datblygiad tai fforddiadwy arloesol sy’n werth £16.9 miliwn yn Hightown ar 5 Mehefin.

I nodi’r achlysur, helpodd y Gweinidog y preswylwyr i gladdu capsiwl amser a oedd yn cynnwys copi o’r Wrexham Leader.

Rhoddodd Tai Wales & West gontract i Anwyl Construction adeiladu 147 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ar draws dau safle ar Kingsmills Road a Rivulet Road.

Dechreuodd preswylwyr symud i mewn ddwy flynedd yn ôl a chafodd datblygiad terfynol, a elwir y Tanerdy ar Ffordd Rivulet, ei gwblhau ym mis Mawrth eleni.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: “Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r datblygiad

tai newydd hwn gyda chyllid o £7.3 miliwn. Mae’r prosiect nid yn unig yn wedi darparu dwsinau o dai fforddiadwy o ansawdd da, ond hefyd wedi rhoi hwb i’r economi leol drwy greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi.

“Ynghyd â’r ganolfan adnoddau cymunedol a chanolfan feddygol, mae’r cartrefi wedi trawsnewid canol y dref. Mae datblygiad Hightown yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth sy’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer tai yng Nghymru, ac rwy’n dymuno pob hapusrwydd i bob un o’r tenantiaid yn eu cartrefi newydd.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Rwy’n falch iawn o’n prosiect adeiladu mwyaf ers nifer o flynyddoedd sydd wedi adfywio canol Wrecsam, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gymuned. Gwnaed hyn yn bosibl diolch i’n partneriaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.”

Gweinidog yn agor datblygiad Hightown sy’n werth £16.9 miliwn

Page 5: InTouch Haf 2015

Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Gwobr fawr i’r Can Do Club!

Mae’r Can Do Club, sy’n cyfarfod yng Nghynllun er ymddeol Tŷ Ddewi yn Ton Pentre, wedi ennill Gwobr Cymorth i Ddefnyddwyr sy’n Gysylltiedig â Thai yng Ngwobrau Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid Cymru 2015. A Dee Thorne, sylfaenydd a chadeirydd y clwb, oedd yn yr ail safle am Wobr Cyflawniad Eithriadol mewn Cyfranogiad TPAS Cymru 2015.

Dywedodd Dee, sy’n 59 oed, ac sydd wedi brwydro’n ôl ar ôl cael strôc ddinistriol 5 mlynedd yn ôl a’i gadawodd hi ar y pryd yn methu siarad, cerdded nac ysgrifennu: “Rwy’n teimlo’n annheilwng iawn. Dydw i ddim yn gwneud yr holl bethau hyn gyda Dee Thorne mewn golwg. Rydw i’n gwneud hynny ar gyfer pobl unig, er mwyn rhoi rywle iddyn nhw ddod at ei gilydd, dysgu rhywbeth newydd o bosibl, ond yn bennaf fel y gallan nhw siarad a pheidio â theimlo mor isel, gobeithio.”

Dywedodd Steve Porter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn WWH: “Cafodd y Can Do Club ei sefydlu yn 2013 ac mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i fywydau

Rydym ar restr fer Gwobr y Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy’n Gweithio!Mae WWH wedi arloesi unwaith eto gan mai ni yw’r unig gymdeithas tai yn y Deyrnas Unedig i gyrraedd rhestr fer Gwobrau Arbennig y Cyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio 2015.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Teuluoedd sy’n Gweithio restr fer swyddogol y gwobrau, sy’n cael eu noddi gan Computershare. Cafodd WWH le ar restr fer y categori Gorau am Gefnogi Rheolwyr Llinell, sy’n cael ei noddi gan Direct Line.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol mae’r sefydliad wedi cael lle ar restr fer Gwobr Arbennig y Cyflogwr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio, ar ôl ennill y Wobr am fod y Gorau am Ddilyniant Gyrfa ar gyfer Gweithwyr Hyblyg yn 2013.

dwsinau o bobl anabl – a phobl abl eu cyrff – yn yr ardal.

“Bob pythefnos mae hyd at 20 o bobl yn cyfarfod yn y lolfa gymunedol yn Nhŷ Ddewi i roi cynnig ar wahanol grefftau, garddio, gemau a charioci, gwrando ar siaradwyr gwadd, codi arian neu ddim mwy na chael paned o de a sgwrs. Rydym yn gwybod bod hyn yn helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng pobl abl eu cyrff a phobl ag anableddau, ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r clwb hwn drwy ddarparu lleoliad ar gyfer ei gyfarfodydd a thrwy gyllido offer ar gyfer gweithgareddau gyda’n grantiau Gwneud Gwahaniaeth.

Page 6: InTouch Haf 2015

06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Ddydd Gwener 6 Tachwedd 2015, byddwn yn cynnal ein wythfed Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol yng Nghyrchfan y Fro ym Mro Morgannwg.

Mae ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau’r bobl hynny sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Rydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw - arwyr di-glod eich cymuned, pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin. Dyma eich cyfle i ddangos eich gwerthfawrogiad o’r arwyr di-glod hynny.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 4 Medi 2015. Os hoffech enwebu rhywun arbennig, ffoniwch Keri neu Sharon yn ein Tîm Cyfathrebu ar 0800 052 2526.

Y Categorïau Prosiect cymunedol A oes rhywun wedi gwneud rhywbeth yn eich cymdogaeth sydd wedi newid bywyd yn eich ardal er gwell? Mae’r categori hwn yn agored i unigolion neu grwpiau o bob oed, a gall y prosiect fod am unrhyw beth sydd wedi bod o fudd i’ch cymuned.

Cymydog daRydym yn awyddus i gydnabod y bobl hynny y mae eu gweithredoedd ‘bach’ o ddydd i dydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun arall. Mae’r categori

Pwy yw eich arwr chi?

hwn yn agored i unigolion o bob oedran.

Garddwr gorauMae’r categori hwn yn ymwneud â dathlu garddwyr gwych y mae eu gwaith yn gwneud rhywle’n hardd ac yn bywiogi’r gymuned. Yn agored i rai o bob oedran - grwpiau ac unigolion. Mae tystiolaeth ffotograffig yn hanfodol ar gyfer y wobr hon.

Dechrau o’r newyddMae’r categori hwn ar gyfer y bobl ryfeddol hynny sydd wedi goresgyn cyfnod anodd i newid cyfeiriad eu bywyd er gwell. Yn agored i unigolion o bob oedran.

Arwr LleolMae’r wobr hon yn dathlu cyflawniadau rhyfeddol y rhai sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i helpu eraill, neu’r gymuned yn ei chyfanrwydd. Mae’n agored i grwpiau neu unigolion o unrhyw oedran. Eco bencampwrYdych chi’n adnabod rhywun sy’n frwd dros ailgylchu? Ydyn nhw’n trefnu sesiynau codi sbwriel? Ydyn nhw wedi dechrau tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain? Rydym yn chwilio am unigolion neu grwpiau o unrhyw oedran sy’n gwneud yr ymdrech honno pan ddaw’n fater o fod yn ‘fwy gwyrdd’.

Seren ddisglairYn newydd ar gyfer 2015, mae’r categori hwn yn dathlu cyfraniadau pobl ifanc at ein cymunedau. Yn agored i’n preswylwyr (neu’r rhai sy’n gweithio’n agos gyda nhw) sy’n 25 ac iau ac sydd wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar eu cymuned.

Page 7: InTouch Haf 2015

Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol: Sbardun CymunedolMae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi arwain at gyflwyno’r Sbardun Cymunedol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r Sbardun Cymunedol yn rhoi cyfle i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol wneud cais am adolygiad achos os ydyn nhw’n teimlo nad oes unrhyw beth wedi cael ei wneud gan gyrff cyhoeddus lleol, neu os yw eu hymateb wedi bod yn annigonol.

Gall y dioddefwr ofyn am adolygiad neu gellir gofyn am adolygiad ar ran y dioddefwr gan aelod o’r teulu, gofalwr, Aelod Seneddol neu gynghorwr.

Gellir gwneud cais am adolygiad achos os bydd y trothwy sbardun wedi cael ei fodloni. Y trothwy ar draws Cymru yw tri digwyddiad o fewn cyfnod o chwe mis, a rhaid i bob digwyddiad fod wedi digwydd o fewn un mis i gael ei adrodd.

Rhaid i’r cais Sbardun Cymunedol ei hunan gael ei wneud i’r corff cyhoeddus perthnasol sydd wedi cael tri adroddiad.

I helpu, rydym wedi darparu manylion cyswllt ar gyfer y cyrff cyhoeddus perthnasol i chi.

Gogledd Cymru Cyngor Sir Ynys Môn:01248 750057 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:01492 574000Cyngor Sir Ddinbych:01824 706101Cyngor Sir y Fflint:01352 702590Cyngor Gwynedd:01766 771000Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:01978 292000Tai Gogledd Cymru:01492 572727Grŵp Cynefin:0300 1112122Cartrefi Cymunedol Gwynedd:0300 1238084Cartrefi Conwy:01745 335361Clwyd-Alun:01978 364449Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:01248 682682 (est 2665)

Page 8: InTouch Haf 2015

08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

De Cymru CaerdyddLucy BaldwinWillcox House, Dunleavy Drive, Caerdydd, CF11 0BAFfôn: 02920 537199E-bost: [email protected]

Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar OgwrJulie-Madoc SmartGorsaf Dân y Barri, y Barri, CF62 3AZFfôn: 01446 450200E-bost: [email protected]

MerthyrRyan EvansCyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Ganolfan Ddinesig, Castle Street, Merthyr Tudful, CF47 Ffôn: 01685 725472E-bost: [email protected]

Abertawe a Chastell-nedd Port TalbotPaul LewisGorsaf Heddlu Castell-nedd, Gnoll Park Rd, Castell-nedd SA11 3BWFfôn: 01639 889723E-bost: Paul.Lewis5 @south-wales.pnn.police.uk

Rhondda Cynon TafRichard ThomasTŷ Elai, Dinas Isaf East, Williamstown, Tonypandy, CF40 1NYFfôn: 01443 425613E-bost: [email protected]

GwentNatalie KennyCyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Caerffili CF82 7PGFfôn: 01443 864374E-bost: [email protected]

PowysFay SmithNeuadd y Sir Powys, Spa Road East, Llandrindod Wells, Powys LD1 5LGFfôn: 01597 827315E-bost: [email protected]

Page 9: InTouch Haf 2015

Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Angen help i ddod o hyd i waith?Os ydych chi’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac angen cymorth i ddod o hyd i waith a gwneud cais am swyddi, gall Oracle Services helpu.

Wedi ei leoli yng nghanol y dref, mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth am ddim gyda CVs a llythyrau eglurhaol, cefnogaeth gydag Universal Job Match, cymorth gyda cheisiadau a chyngor ar sgiliau cyfweliad. Mae mynediad am ddim at gyfrifiaduron yno hefyd.

Mae Oracle Services yn cynnal sesiynau ar gyfer yr uchod bob dydd Mawrth rhwng 10am a 2pm yn yr Oracle, 18 Adare Street, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1EJ.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0300 0030 261 neu e-bostiwch [email protected]

Cymuned yn dathlu Gŵyl y CenhedloeddBu preswylwyr yn dathlu diwylliannau o bob rhan o’r byd mewn diwrnod o hwyl i’r teulu ar 15 Awst yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown.Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithgareddau i’r teulu i gyd, gan gynnwys drymio Affricanaidd, canu diolch i Singing Hands o Wrecsam, karate, dawnsio llinell, yn ogystal â chyfarfod anifeiliaid egsotig!

Roedd yna hefyd gastell neidio, gemau mawr, paentio wynebau a chystadleuaeth dylunio baner.

Mae Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yng nghanol Wrecsam, ac yn cynnig dosbarthiadau ac ystafelloedd am brisiau fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a busnesau lleol eu mwynhau.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Mae Wrecsam yn gymuned amlddiwylliannol ac rwyf wrth fy modd yn gweld preswylwyr yn dathlu eu diwylliannau gwahanol. Mae hi hefyd yn wych eu gweld nhw’n mwynhau’r ganolfan

adnoddau cymunedol, sydd bellach yn ei hail flwyddyn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, ewch iwww.facebook.com/hightowncrc neu ffoniwch 0300 123 20 70 i archebu lle.

Page 10: InTouch Haf 2015

10 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Byw yn Nant y MôrMae Geoff a Ruth Woodhead yn gwybod y gallan nhw ddathlu eu pen-blwydd priodas aur o ddifrif heb unrhyw bryder gan eu bod nhw’n byw bywydau gwell yn ein cynllun, Nant y Môr.

Mae gan Nant y Môr, ar y ffordd arfordirol ym Mhrestatyn, olygfeydd hyfryd o’r môr a’r mynyddoedd.

Roedd Geoff a Ruth, sy’n dathlu eu pen-blwydd priodas aur yn ystod yr haf eleni, ill ddau yn cael anhawster gofalu am ei gilydd, felly daeth y ddau i’r casgliad mai’r ateb gorau ar eu cyfer oedd symud i Nant y Môr.

Dywedodd Ruth: “Nid yw’r un ohonom yn ddigon da i edrych ar ôl ei gilydd, felly er y bu’n rhaid i ni adael byngalo ym Mhrestatyn, roedd yn gam da - rydym yn ddiogel. Mae gennych chi eich annibyniaeth gyda drws ffrynt ar eich fflat, ond mae gennych chi hefyd y cymorth lle mae ei angen – nid ydych chi ar eich pen eich hun.” Ewch i www.wwha.co.uk i weld ein ffilm o Nant y Môr! I wneud cais am le yn Nant y Môr mae angen i chi fod dros 60 oed, yn byw yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd ac angen gofal a chymorth. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0800 052 2526 i siarad â’n Tîm Dewisiadau Tai.

Mae Cynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn yn cynnig llety o’r radd flaenaf i bobl hŷn

Page 11: InTouch Haf 2015

Byw’n wyrdd| intouch | www.wwha.co.uk | 11

Bu staff o WWH, Cynnal a Chadw Cambria a Hafal Cymru yn gwirfoddoli i greu gardd gegin mewn dim ond wythnos ar gyfer preswylwyr sy’n byw yn Wrecsam.

Gyda £500 o gyllid gan AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam) ar gyfer tŷ gwydr a £500 gan Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer offer, planhigion, biniau compost, berfa a phecyn cymorth cyntaf, bu’r gwirfoddolwyr yn gweithio gyda phreswylwyr Hafal a’u gofalwyr i droi iard gefn yn ardd hyfryd. O fewn wythnos, gosododd Cynnal a Chadw Cambria y sylfeini ac adeiladodd y gwirfoddolwyr welyau uchel fel y gall preswylwyr dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain yn awr a mwynhau prydau iach.

Dywedodd Karen Edwards, Arweinydd Practis Hafal yn Wrecsam a Sir y Fflint: “Roedd llawer o le yn cael ei wastraffu yng nghefn yr ardd ac roedd y preswylwyr yn awyddus i archwilio sut gallen nhw ei

Gwirfoddolwyr yn creu gardd i breswylwyr mewn wythnos yn unig!

ddefnyddio, felly aethom at Tai Wales & West i ofyn am gymorth.”

Wedi eu calonogi gan y gefnogaeth hon, ffurfiodd 10 o breswylwyr bwyllgor a chynllunio gweddnewidiad yr ardd. Fe gawson nhw hefyd hyfforddiant ar fwyta’n iach a choginio, a chael cymhwyster cydnabyddedig mewn garddwriaeth gan Agored Cymru - Lefel 1 mewn Garddwriaeth a Garddio Cymunedol.

Dywedodd Shane Hughes, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym yn falch o gefnogi menter gymunedol fel hyn - mae’n ticio’r holl flychau ac rwy’n edrych ymlaen at weld cynnyrch cartref Hafal yn y dyfodol.”

Dywedodd Vy Cochran, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol ar gyfer WWH: “Mae’n wych ein bod ni wedi gweld yr ardd hon yn tyfu. Mae’n brosiect cymunedol gwych i’r preswylwyr!”

Page 12: InTouch Haf 2015

12 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Preswylwyr Pen-y-bont yn agor gardd gymunedol

Mae Preswylwyr Cwrt Anghorfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi dathlu agoriad eu gardd gymunedol.

Daeth y rhai sy’n byw yn y cynllun er ymddeol at ei gilydd yn y digwyddiad ar gyfer parti yn heulwen mis Mehefin. Yna, agorwyd yr ardd yn swyddogol gan Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, yn ystod seremoni arbennig ‘torri rhuban’.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ardd wedi cael ei thrawsnewid yn radical, diolch i ymdrechion Clwb Garddio Cwrt Anghorfa. Y brif ysbrydoliaeth a fu’n gyfrifol am datblygu’r gerddi i bawb eu mwynhau fu un o sefydlwyr yr ardd, Val Davies, sy’n 71 oed.

Ar ôl symud i Cwrt Anghorfa ym mis Gorffennaf 2013, rhannodd Val ei gweledigaeth ar gyfer yr ardd gyda’i chyd-breswylwyr, ac yn fuan cafodd gwmni Maurice Wood, Phillip David, Joy Essex, Des Hughes, Eddie Williams a Penny Alford i ffurfio’r clwb garddio.

Cysylltodd y grŵp â WWH am gymorth ariannol o’n grantiau Gwneud

Gwahaniaeth, a dalodd am lwybr mynediad gwastad, gasebo, dau wely plannu uchel mawr, goleuadau gardd, offer a ffens newydd i roi diogelwch. Darparodd y masnachwyr adeiladwyr, Jewson, hyd at £3000 ar gyfer deunyddiau, ac mae’r grŵp wedi prynu sied yn ddiweddar, diolch i rodd gan y cyngor cymuned.

Dywedodd y Rheolwr Cynllun, Lucy Clewlow: “Mae trawsnewidiad yr ardd wedi bod yn anhygoel, ac mae’r clwb garddio wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r preswylwyr. Mae fel pe baen nhw wedi cael bywyd newydd – mae hyd yn oed y preswylwyr a oedd yn gaeth i’r tŷ yn gallu dod allan i’r ardd i fwynhau’r golygfeydd, yr arogleuon hyfryd, a’r synau.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd a sut gallwn ni helpu, cysylltwch â Sarah Willcox, Cynorthwyydd Amgylcheddol, ar 0800 052 2526 neu e-bostiwch [email protected]

Anne Hinchey yn agor yr ardd yng Nghwrt Anghorfa

Page 13: InTouch Haf 2015

Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Diolch i bartneriaeth rhwng WWH, RL Davies, Anabledd Cymru a Llywodraeth Cymru, mae James Cope, sy’n 32 oed, o’r diwedd yn dechrau gweld ei freuddwyd o fyw’n annibynnol yn dod yn wir.

Mae James, sydd wedi graddio, yn defnyddio cadair olwyn bweredig ac yn ddi-waith ar hyn o bryd, er ei fod yn gweithio fel gwirfoddolwr i’r heddlu lleol dri bore bob wythnos. Ac yntau wedi cael blas ar ryddid ac annibyniaeth yn y brifysgol, mae wedi teimlo’n gaeth ers hynny.

“Rydw i wedi teimlo fy mod i’n cael fy nal yn ôl gan y rhwystrau sy’n cael eu gosod o’m blaen yn y gymdeithas gan nad ydw i’n gallu byw bywyd annibynnol fel pobl eraill yr un oed â mi, heb fod yng nghwmni fy rhieni.

“Gan fy mod i wedi dychwelyd adref

Gwireddu breuddwydJames am annibyniaeth

erbyn hyn, rydw i’n ‘anabl’ yn fwy na mewn ffordd gorfforol yn unig. Dydw i ddim yn gallu byw’r bywyd rydw i’n ei ddewis, ac rydw i’n sicr yn methu cymdeithasu fel yr hoffwn i. Mae fy anghenion yn cael eu diwallu gan ofalwyr.

“I ddieithriaid dydw i ddim yn cael fy ngweld fel endid, gan fod pobl yn gweld y gadair olwyn yn gyntaf bob amser. Rhaid i mi ddibynnu ar fy rhieni am gymorth gyda galwadau nos ac i darparu angenrheidiau bywyd bob dydd i mi; o fwyd a diod sylfaenol i ofal personol a gwaith tŷ.

“Nawr, diolch i amynedd WWH a’u datblygwyr RL Davies, mae fy anghenion penodol iawn wedi cael eu cydnabod ac mae fy mreuddwyd wedi cael ei gwireddu o’r diwedd. Bydd gennyf fyngalo newydd wedi ei adeiladu’n arbennig i mi yn Rhiwabon.

James, yn y canol, gyda’r tîm ar safle ei gartref newydd wedi ei addasu’n arbennig yn Rhiwabon

Page 14: InTouch Haf 2015

14 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf

Gweinidog yn canmol datblygiad yn y Rhyl Bu’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, ar ymweliad â’n datblygiad newydd yn y Rhyl, o’r enw Parc Brickfields, ac roedd hi’n falch iawn wrth weld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei wario.Mae’r datblygiad sy’n werth £2.3 miliwn ar Ffordd Cefndy yn cael ei gefnogi gan £2.1 miliwn drwy gynllun Grant Cyllid Tai

arloesol Llywodraeth Cymru.

Mae’r buddsoddiad yn helpu i ddarparu 24 o gartrefi fforddiadwy, sef 16 o dai ac wyth o fflatiau, y mae eu hangen yn fawr yn y Rhyl.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon, a bydd datblygiad Brickfields yn y Rhyl yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sy’n byw ynddyn

nhw a’r gymuned yn ei chyfanrwydd. Y mae hefyd yn chwarae rôl bwysig o ran rhoi hwb i’r economi leol drwy swyddi a chyfleoedd hyfforddi.”

“Roedd Cyngor Wrecsam yn allweddol wrth ddarparu pecyn taliadau uniongyrchol ac wrth sicrhau fy llety yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch hefyd am y gefnogaeth a’r help a gefais gan Lesley Griffiths AC, Ian Lucas AS a Paul Swann o Anabledd Cymru.

“Yn ogystal ac yn fwy penodol, mae fy nghartref yn y dyfodol wedi bod yn anhygoel o gyffrous oherwydd y cynllunio manwl sydd ynghlwm wrth

greu lle wedi ei addasu. Mae eitemau bach fel gorffeniadau cypyrddau’r gegin, dewis o arwynebau gwaith ac yn bwysicach fyth handlenni y gallaf afael ynddyn nhw ynghyd â thapiau y gallaf eu troi a switshis golau ‘rocker’ sydd yn fawr ac o fewn fy cyrraedd.

“Mae fy mreuddwyd yn dod yn wir o’r diwedd – y cyfan rydw i ei angen nawr yw cyflogaeth!”

Y Gweinidog Cyllid Jane Hutt gyda Dirprwy Brif Weithredwr WWH Shayne Hembrow (canol) a’r tîm ym Mharc Brickfields.

Page 15: InTouch Haf 2015

50fed Pen-blwydd WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Drwy gydol 2015, mae WWH yn dathlu ei 50fed pen-blwydd - ac rydym eisiau i chi, ein preswylwyr, ddathlu’r flwyddyn arbennig iawn hon gyda ni. Gan hynny, rydym wedi cyflwyno grant o hyd at £250 i chi gynnal parti 50fed pen-blwydd WWH yn eich cynllun neu yn eich cymuned.

Mae’n wych gweld llawer ohonoch chi wedi gwneud cais llwyddiannus am grant ac wedi cynnal digwyddiad yn eich cynllun yn barod; yn wir, rydym wedi cael llwyth o luniau o’ch dathliadau hyd yn hyn! O bartïon te yn y lolfa gymunol i ddiwrnodau hwyl i’r teulu a barbeciws yn yr ardd, dyma gipolwg yn unig ar rai o’ch dathliadau 50fed pen-blwydd.

50fed Pen-blwydd WWH: Ymunwch â’r parti!

Cwrt Pentwmpath, Wrecsam:

Dathlodd y preswylwyr gyda theisen

arbennig i nodi 50fed pen-blwydd WWH –

mae’n edrych yn flasus!

Hanover Court, Pen-y-bont ar Ogwr: Daeth preswylwyr at ei gilydd a chael amser wrth eu bodd yn eu parti yn y lolfa gymunol yn ddiweddar.

Page 16: InTouch Haf 2015

Hill Court, Wrecsam: Daeth

preswylwyr at ei gilydd am ddiwrnod o

hwyl gyda chastell neidio, paentio i blant,

bwyd a llawer mwy. Fe wnaeth y grŵp

hyd yn oed bobi cacen arbennig i ddiolch i

WWH am eu helpu i gynnal y parti!

Brackla Meadows, Pen-y-bont ar

Ogwr: Daeth dros 100 o breswylwyr at

ei gilydd ar gyfer barbeciw a hwyl a gemau

yn yr heulwen. Roedd yr achlysur yn

llwyddiant ysgubol!

16 | www.wwha.co.uk | intouch | 50fed Pen-blwydd WWH

Norbury Court, Caerdydd: Ymunodd yr Hybarch Peggy Jackson, Archddiacon Llandaf, a phlant o Sylfaen Mynediad Ysgol Uwchradd Cantonian â’r preswylwyr mewn parti gardd. Bu’r plant yn plannu coed eirin, gellyg ac afal hefyd i nodi’r achlysur.

Page 17: InTouch Haf 2015

Cadwch olwg am fwy o luniau o’ch dathliadau 50fed pen-blwydd yn rhifyn nesaf InTouch - ac os oes gennych barti’n fuan, gofalwch eich bod yn anfon llun atom drwy [email protected]

Os nad ydych wedi cynnal parti yn eich cymuned eto, yna beth am wneud cais am grant i ymuno yn yr hwyl! I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â’chrheolwr cynllun neu swyddogtai, neu ffoniwch ni ar0800 052 2526.

Clos Tan y Fron, Pen-y-bont arOgwr: Cafodd y preswylwyr lawer o hwyl

gyda pharti barbeciw ar thema Hawaii ar

ddechrau gwyliau’r ysgol, gyda chastell

neidio, gemau a phaentio wynebau ar

gyfer y plant.

Sydney Hall Court, Sir y Fflint: Cafodd diwrnod o hwyl i’r teulu ei drefnu ganbreswylwyr, gyda gemau, barbeciw a stondinau ar ôl iddyn nhw gael £230 ganWWH i helpu i wneud iddo ddigwydd.

Byron Court, Bro Morgannwg: Cynigiodd y grŵp lwncdestun a mwynhaucinio dathlu 50fed pen-blwydd WWH yn yClwb Aur yn Sain Tathan.

50fed Pen-blwydd WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Page 18: InTouch Haf 2015

18 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith.Sgiliau.Profiad

Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol chi Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyflwyno ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol i nodi ein 50fed pen-blwydd. Yn sgil hyn fe wnaethom ddyrannu pot o £50,000 i’ch helpu i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith, addysg neu hyfforddiant, neu oresgyn unrhyw rwystr sydd wedi bod yn amharu arnoch chi yn y meysydd hyn.

Rydym wrth ein bodd yn gweld sut mae rhai ohonoch chi wedi elwa o’r grant ers hynny. Dyma ychydig o straeon ein preswylwyr ar sut mae’r grant wedi helpu i newid eu bywydau.Stori Natalie Dechreuodd Natalie Rohman, sy’n 28 oed ac sy’n dod o Gaerdydd, ei busnes gofal anifeiliaid anwes ei hunan yn ddiweddar. Mae Natalie wrth ei bodd â’i swydd, sy’n cynnwys gwarchod anifeiliaid anwes, mynd ag anifeiliaid am dro a’u bwydo nhw tra mae eu perchnogion i ffwrdd neu’n gweithio. Fodd bynnag, roedd Natalie yn cael trafferth gyda chludiant rhwng cartrefi cleientiaid, ac nid oedd

ganddi’r dillad priodol i fynd â’r anifeiliaid am dro. Felly, ar ôl cofio gweld erthygl yn InTouch, fe wnaeth hi gais am grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol, lle cafodd feic gydag ategolion a dillad dal dŵr. Meddai Natalie: “Mae’r beic wedi rhoi annibyniaeth nad oedd gen i cyn hyn, ac rydw i’n ddiolchgar iawn. Ers cael y beic, mae busnes wedi cyflymu o ddifrif, ac mi fydda i’n edrych ar ôl 10 o gathod, 3 o gŵn a 5 o ieir yn ystod y 3 wythnos nesaf!” Pob lwc gyda’r fenter, Natalie!

Stori JenniferMae Jennifer Lunt, sy’n 30 oed ac sy’n dod o Faes y March yn yr Wyddgrug, yn rhiant sengl i ddau o blant, Oliver, sy’n 6 oed, ac Isabelle, sy’n 8 oed. Mae hi wedi gweithio ym maes gofal ers pan oedd hi’n 17 oed ac fe wnaeth hi fwynhau gwaith nyrsio iechyd meddwl am wyth mlynedd. Penderfynodd astudio ar gyfer gradd nyrsio a chofrestrodd ym Mhrifysgol Caer.

“Doeddwn i ddim yn gweld fy hun yn mynd i brifysgol, ond rydw i’n falch fy mod i wedi gwneud hynny,” meddai. “Rydw i eisiau cael mwy o sgiliau i fy ngalluogi i ddatblygu fy ngyrfa. Ond nid oedd gen i

Page 19: InTouch Haf 2015

Gwaith.Sgiliau.Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 19

liniadur nac argraffydd, felly roedd yn rhaid i mi ddibynnu ar adnoddau’r brifysgol.“

Roedd hi’n anodd cydbwyso gofalu am y plant â gweithio ar y cyfrifiadur yn y llyfrgell.

Fe wnaeth Jennifer gais am grant gan WWH ac erbyn hyn mae ganddi liniadur ac argraffydd i’w galluogi i weithio gartref. “Mae fy nghwrs yn gorffen yn 2018 – rwy’n gwneud hyn ar gyfer fy mhlant fel y gallan nhw weld pa mor fuddiol yw hi i gael gyrfa.”

Stori James Mae James Fitzgerald, sy’n 63 oed, wedi byw ym Mhlas Foryd, Bae Cinmel, am flwyddyn. Roedd ef hefyd yn cael trafferth heb liniadur.

Ar ôl cwblhau diploma mewn Gwyddoniaeth Fforensig yng Ngholeg Llandrillo, mae James yn astudio am radd Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor erbyn hyn. “Wnes i erioed roi’r gorau i ddysgu,” meddai. “Pan fyddaf yn cwblhau fy ngradd, rydw i eisiau gweithio gyda’r heddlu fel gwyddonydd fforensig, ond doedd gen i ddim cyfrifiadur. Felly, pan welais erthygl am y grantiau Gwneud Gwahaniaeth yn InTouch, fe wnes i gais. Chwe wythnos yn ddiweddarach cefais liniadur! Rydw i’n falch iawn!”

A dyma rai yn unig o’r eitemau eraill rydym wedi eu darparu drwy ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol i helpu ein preswylwyr:

• Llyfrau prifysgol

• Cwrs weldio

• Cwrs gloywi sgiliau wagen fforch godi

• Trwydded tacsi

• Offer

• Desg a chadair

• Cwrs derbynnydd meddygol

• Dillad gwaith

Allai grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol eich helpu chi? Cysylltwch â ni!Nid oes terfyn penodol ar y swm y gallwch wneud cais amdano, a bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Y swm a ddyfernir fydd yr hyn rydych ei angen i helpu i droi eich breuddwydion am yrfa neu addysg yn realiti. Gallai hyn gynnwys talu am hyfforddiant arbenigol, dillad addas ar gyfer cyfweliadau swyddi neu brynu offer i’ch helpu i ddechrau eich busnes.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Hyfforddwr Cyflogaeth a Menter, Kristin Vaughan, ar 0800 052 2526 neu [email protected]

Page 20: InTouch Haf 2015

20| www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith.Sgiliau.Profiad

Yn y rhifyn diwethaf o InTouch, fe wnaethom sôn wrthych am ein rhaglen profiad gwaith yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd.

Cafodd y rhaglen sy’n para pythefnos ei chreu’n arbennig ar gyfer preswylwyr WWH sy’n ddi-waith neu sy’n dymuno datblygu sgiliau newydd. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyflwyno ein hymgeiswyr llwyddiannus, Kyle Hexter, Kosar Darwish, Sarah Denton a Leanne Davies i dîm WWH.

Fe wnaeth pob un ohonyn nhw dreulio amser yn dysgu am WWH a gwahanol rolau yn y gweithle mewn amrywiaeth o adrannau - o Dai, a Gwasanaethau Eiddo i Gysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Adnoddau Dynol, Gweinyddu, TGCh a Chyllid.

Cafodd ein hymgeiswyr gymhwyster profiad gwaith a gydnabyddir yn genedlaethol mewn sgiliau cyflogadwyedd - sef Lefel 1 Agored Cymru Cynnal Safonau Gwaith - yn ogystal â chyngor am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant pellach a thystysgrif o gyflawniad.

Profiad gwaith yn WWH:rhai o’n preswylwyr yn ymuno â’r tîm

Yn ogystal, roedd gennym leoliad gwaith dros dri mis yn WWH i’w gynnig un o’r ymgeiswyr ar ddiwedd eu lleoliad, yn dilyn adolygiad o’u cynnydd a chyfweliad.

Fe wnaeth ein pedwar preswyliwr yn eithriadol o dda, ac er ei bod yn anodd dewis rhyngddyn nhw, roedd ein tîm yn falch iawn o gynnig y cyfle i Kyle Hexter barhau i weithio gyda ni am dri mis arall.

Wrth siarad am y rhaglen profiad gwaith, dywedodd Cate Dooher, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol yn WWH: “Dyma’r tro cyntaf i ni gynnig cyfleoedd profiad gwaith i’n preswylwyr. Roedd yn bleser go iawn cynnal y rhaglen, ac fe wnaeth staff o bob rhan o WWH gymryd rhan, gan ein galluogi i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i Kyle, Kosar, Sarah a Leanne.

“Rwy’n gwybod ein bod ni fel sefydliad wedi elwa o ddifrif ar y rhaglen, ac mae’r staff wedi mwynhau cael ein preswylwyr gyda ni a’u croesawu i’r tîm. Fe wnaeth y cyfranogwyr gyfraniad ffantastig ac maen nhw wedi ein helpu ni i lunio’r rhaglen at y dyfodol.”

Dyma sut hwyl gafodd Kyle, Kosar, Sarah a Leanne arni yn ystod eu hamser gyda ni, a beth oedd eu barn ar fywyd yn WWH.

Page 21: InTouch Haf 2015

Gwaith.Sgiliau.Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 21

Kyle Hexter, 17 oed, Caerdydd“Cefais wybod am y rhaglen profiad gwaith gan aelod o’r teulu oedd wedi cael copi o InTouch. A minnau newydd orffen cwrs TGCh yn y coleg, roeddwn yn meddwl y byddai’n syniad gwych er mwyn cael profiad a chael y cymhwyster Lefel 1 Cynnal Safonau Gwaith, a fydd yn fy helpu i gael swydd.

“Roedd yn wych cael mewnbwn i waith WWH, ac fe wnes i fynd amdani o ddifrif a thrin y cyfle fel swydd go iawn. Rydw i wedi gweithio ar hyd a lled y swyddfeydd ac rydw i hefyd wedi bod allan yn cyfarfod preswylwyr eraill. Fel preswyliwr fy hunan, mae’n wych cael golwg y tu mewn - deall y prosesau a sut neu pam mae pethau’n cael eu gwneud. A dod i wybod am werthoedd WWH hefyd – roedd hynny’n dda iawn. Sylwais fod y gwerthoedd yn bwysig iawn i bawb yma.

“Cyn i mi ddod ar y rhaglen profiad gwaith yn WWH roeddwn yn bendant mai ym maes TGCh fyddai fy ngyrfa, ond mae’r profiad wedi agor fy meddwl o ddifrif i swyddi eraill y gallwn eu hystyried yn y dyfodol.

Sarah Denton, 47 oed, Caerdydd“Cefais wybod am y lleoliad profiad gwaith gan aelod o dîm WWH. Rydw i wedi mwynhau fy amser yma o ddifrif - yn enwedig y rhannau ymarferol, cwrdd â’r bobl hyfryd a dysgu am werthoedd y sefydliad.” Mae’r profiad wedi fy ngalluogi i ddysgu llawer o sgiliau newydd a gwella fy set sgiliau presennol. Bu o fudd i mi’n bersonol – y mae wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi”.

Mae Kyle wedi dechrau ar leoliad gwaith dros gyfnod o 3 mis yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd erbyn hyn

“Mae fy hyder wedi tyfu’n aruthrol, yn enwedig o ran siarad â phobl ddieithr a gweithio mewn amgylchedd swyddfa. Fe allwch chi fod yn chi eich hun yma ac mae’r bobl yn wych. Mae’n brofiad wna i byth ei anghofio.”

Page 22: InTouch Haf 2015

22 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith.Sgiliau.Profiad

Kosar, 39, Caerdydd“Rwy’n dod o Ogledd Irac ac rydw i wedi byw yma am ychydig dros 12 mlynedd erbyn hyn. Cyn dod i’r Deyrnas Unedig, fe wnes i radd mewn ystadegau ac roeddwn i’n arfer dysgu mathemateg. Rwyf bellach yn gyfieithydd hunangyflogedig ac yn gweithio mewn bwyty hefyd.

“Fe wnes i fwynhau gweithio yn yr holl adrannau tra’r oeddwn i yn WWH ac rwyf wedi rhoi cynnig ar lawer o bethau gwahanol. Fe wnes i fwynhau gweithio gyda’r Tîm Dewisiadau Tai ac Adnoddau Dynol yn enwedig. Mae’n brofiad newydd, yn amgylchedd newydd ac rwyf wedi datblygu llawer o sgiliau newydd.

“Mae pawb yma wedi bod yn hyfryd ac mae’n sefydliad gwych i weithio ynddo. Mae’r lleoliad wedi bod yn ddefnyddiol ac yn fuddiol iawn i mi. Byddwn yn annog preswylwyr eraill i wneud cais, yn sicr - mae pawb yma yn gymwynasgar iawn ac fe fydd yn brofiad gwych i chi hefyd, rwy’n siŵr”.

Leanne Davies, 36, Merthyr Tudful“Rwy’n hyfforddi i fod yn gynorthwyydd gweinyddol ar hyn o bryd, ac rwyf hefyd yn gwirfoddoli. Roeddwn i eisiau datblygu fy ngyrfa a’m profiad, felly pan glywais am raglen profiad gwaith WWH, penderfynais roi cynnig arni.

“Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda thaenlenni a thasgau gweinyddol eraill fel ysgrifennu llythyrau a gwneud galwadau ffôn. Roedd gweithio yn yr adran tai yn wych hefyd. Rwyf wedi mwynhau popeth, a bod yn onest!

“Mae dod yma wedi rhoi llawer o hyder i mi, yn enwedig ynglŷn â mynd yn ôl i’r gweithle. Fe fyddwn i’n bendant yn annog preswylwyr eraill i wneud cais am gyfleoedd yn y dyfodol - bydd yn rhoi’r hyder sydd ei hangen arnoch chi a bydd yn eich atal chi rhag bod yn nerfus ynghylch mynd yn ôl i’r gwaith.”

Cadwch olwg am ragor o raglenni profiad gwaith WWH yn fuan, gan gynnwys cyfleoedd yng ngogledd Cymru! Ac os ydych chi eisiau cyngor neu gymorth ar fynd yn ôl i weithio, dysgu neu hyfforddi, cysylltwch â Kristin Vaughan, ein Hyfforddwr Cyflogaeth a Menter, ar 0800 052 2526 neu e-bostiwch [email protected]

Page 23: InTouch Haf 2015

Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 23

Yn rhifyn diwethaf InTouch, fe wnaethom gyflwyno ein hadroddiad chwarterol ar ei newydd wedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut hwyl rydym yn ei chael arni fel sefydliad.

Mae’r graffigau gwybodaeth newydd hyn yn cyflwyno’r ffeithiau allweddol am sut mae WWH yn perfformio mewn fformat darluniadol clir, fel y gwelwch dros y 4 tudalen nesaf.

O fewn ein graffigau gwybodaeth, byddwn yn rhoi’r holl fanylion i chi am bob un o’n systemau allweddol - adeiladu cartrefi, atgyweiriadau, rhent, a niwsans yn y gymdogaeth (t24-25). Felly, gallwch ddarganfod popeth - o faint o dai rydym wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni, a’r materion ymddygiad

Adroddiad chwarterol: rhoi gwybod i chi am y diweddaraf

gwrthgymdeithasol mwyaf cyffredin, i faint o breswylwyr sydd ag ôl-ddyledion rhent a faint o amser mae’n ei gymryd i osod cartref.

Ym mhob rhifyn, byddwn hefyd yn cynnwys nodwedd arbennig gyda rhagor o wybodaeth am un o’r meysydd hyn.

Y tro hwn, rydym wedi canolbwyntio ar waith atgyweirio (t26-27). Pan fydd rhywbeth yn torri neu’n mynd o’i le, rydym yn gwybod eich bod chi eisiau i ni ddatrys y broblem yn gyflym. Felly mae ein graffig gwybodaeth nodwedd arbennig yn ymwneud â faint o atgyweiriadau rydym wedi eu cwblhau hyd yn hyn eleni, pa mor hir maen nhw’n cymryd i’w cwblhau, trafferthion a wynebwyd a beth mae WWH yn ei wneud i sicrhau bod ein gwasanaeth atgyweiriadau hyd yn oed yn well i chi, ein preswylwyr.

Cymerwch olwg dda ar bethau, ac os oes gennych sylwadau, neu os oes rhywbeth arall yr hoffech ei weld yn ein graffigau gwybodaeth yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Gallwch anfon e-bost atom drwy [email protected] neu ffoniwch ni ar 0800 052 2526.

FIXED ON FIRST

VISIT

STAYED FIXED DAYS TO COMPLETE

A REPAIR

YOU SCORED US FOR

FIXING REPAIRS

98%14.4

DAYS

9/10

New residents gave us a satisfaction rating of 9.4 out of 10 for

the service they received from us when finding them a home

NOISE VANDALISM

ANIMAL

NUISANCE

THE MAIN ANTI-SOCIAL BEHAVIOUR ISSUES

63%

REPORTS OF ANTI-SOCIAL BEHAVIOUR

We’ve built

7 3new homes

so far in 2015

Neighbourhood nuisance

Repairs

Rent

1403

TENANCIES

IN ARREARS

120

02014

2015

We built

7 7new homes

during 2014

0-5days

11-15days

16+days

6-10days

Homes

Page 24: InTouch Haf 2015

24 | www.wwha.co.uk | intouch | Quartly Report

ATGYWEIRIWYD AR YR YMWELIAD

CYNTAF

ATGYWEIRIAD LLWYDDIANNUS

DIWRNOD I GWBLHAU

ATGYWEIRIAD

EICH SGÔR I NI AM ATGYWEIRIO

98% 17.2 diwrnod 9/10

NIWSANS SŴN YMDDYGIAD BYGYTHIOL

ANIFEILIAID YN NIWSANS

Y PRIF FATERION YNGHYLCH YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

61%

ADRODDIADAU AM YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

Rydym wedi adeiladu

133o gartrefi

newydd hyd yn hyn yn 2015

TAI YMDDEOL

ANGHENIONCYFFREDINOL

Niwsans yn y gymdogaeth

Atgyweiriadau

Rhent

1562

TENANTIAETHAU MEWN ÔL-DDYLEDION

250

02013 2015

Rydym wedi gosod

180o gartrefi yn ystod y

chwarter hwn

Ar gyfartaledd mae hi wedi

cymryd

59diwrnod i osod

cartref

71

52112

68

0-5diwrnod

11-15diwrnod

16+diwrnod

6-10diwrnod

Cartrefi

387 o gartrefi wedi eu gosod

eleni

Page 25: InTouch Haf 2015

Healthy Living | intouch | www.wwha.co.uk | 25

ATGYWEIRIWYD AR YR YMWELIAD

CYNTAF

ATGYWEIRIAD LLWYDDIANNUS

DIWRNOD I GWBLHAU

ATGYWEIRIAD

EICH SGÔR I NI AM ATGYWEIRIO

98% 17.2 diwrnod 9/10

NIWSANS SŴN YMDDYGIAD BYGYTHIOL

ANIFEILIAID YN NIWSANS

Y PRIF FATERION YNGHYLCH YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

61%

ADRODDIADAU AM YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

Rydym wedi adeiladu

133o gartrefi

newydd hyd yn hyn yn 2015

TAI YMDDEOL

ANGHENIONCYFFREDINOL

Niwsans yn y gymdogaeth

Atgyweiriadau

Rhent

1562

TENANTIAETHAU MEWN ÔL-DDYLEDION

250

02013 2015

Rydym wedi gosod

180o gartrefi yn ystod y

chwarter hwn

Ar gyfartaledd mae hi wedi

cymryd

59diwrnod i osod

cartref

71

52112

68

0-5diwrnod

11-15diwrnod

16+diwrnod

6-10diwrnod

Cartrefi

387 o gartrefi wedi eu gosod

eleni

Rhoddodd preswylwyr newydd sgôr bodlonrwydd o 9.4 allan o 10 i ni am y gwasanaeth a gawson nhw gennym ni wrth ddod o hyd i gartref iddyn nhw

Rhoddodd preswylwyr sgôr bodlonrwydd o 9.3 allan o 10 i ni am y gwasanaeth atgyweirio a gawson nhw gennym ni

Rhoddodd preswylwyr sgôr bodlonrwydd o 8.3 allan o 10 i ni am y gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol a gawson nhw gennym ni

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth oedden nhw’n ei hoffi fwyaf wrth symud i un o’n cartrefi

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn cael ei wella wrth symud i un o’n cartrefi

GWEITHWYR CYFEILLGAR A

THÎM ATGYWEIRIO CYMWYNASGAR

Y CYFLYMDER MAE ATGYWEIRIADAU YN CAEL EU CWBLHAU

ANSAW

DD

Y GW

AITH

GELLID GWNEUD ATGYWEIRIADAU’N

GYFLYMACH

LLAI O AMSER YN AROS I ROI GWYBOD AM

ATGYWEIRIAD

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth roedden nhw’n ei hoffi fwyaf am ein gwasanaeth atgyweiriadau

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr beth oedden nhw’n ei hoffi fwyaf am ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn cael ei wella am ein gwasanaeth atgyweiriadau

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn cael ei wella am ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol

STAFF CYNORTHWYOL

A CHEFNOGOLEIDDO ADDAS AR

GYFER ANGHENION

LLEOLIAD

YR EID

DO

YMATEB CYCHWYNNOL

CYFLYMEIN HELPU

NI I DDATRYS PROBLEMAU EIN

HUNAIN

Y CYMO

RTH A D

DARPERIR

GAN

SWYD

DO

GIO

N TAI

ATGYWEIRIADAU YN CAEL EU

CWBLHAU’N GYFLYMACH

EIDDO GLANACH

LLAI O AM

SER YN

AROS I RO

I GW

YBOD

AM

ATGYW

EIRIAD

MWY O BETHAU I BLANT EU

GWNEUD

TEIMLO’N FWY DIOGEL YN FY

NGHARTREF

TROI ALLAN

MW

Y O

GYM

DO

GIO

N

O DENANTIAETHAU YN TALU EURHENT YN BRYDLON NEU’N

TALU EU HÔL-DDYLEDION

82%

Fe wnaethon ni adeiladu cyfanswm o 77 o

gartrefi yn ystod 2014RH

AGO

R O ATG

YWEIRIAD

AU

YN CAEL EU

CWBLH

AU AR U

N

YMW

ELIAD

Page 26: InTouch Haf 2015

SGILI

AU LLUOSOG TRYDANOL

GWAITH TIR

FE WNAETHON NI 13,101 O ATGYWEIRIADAU

Nifer cyfartalog y diwrnodau i gwblhau’r holl atgyweiriadau

DIW

RNO

DSYLW I ATGYWEIRIADAU

Ionawr - Mehefin 2015

8,394 3,307 532

2264 2273 21542075 2047

2288

Chwe mis cyntaf (2015)

Ion-Maw2014

Ebr-Meh2014

Gorff-Medi2014

Hyd-Rhag2014

Ion-Maw2015

Ebr-Meh2015

201510

50

Rydyn ni’n gwella ein system gyfrifiadurol i’n helpu i ddeall tasgau’n well a threfnu mwy o waith fesul diwrnod. Mae cyflawni rhagor o dasgau yn golygu llai o amser aros!

Mae’r amser y mae’n ei gymryd i gwblhau atgyweiriadau yn hwy nag y bydden ni’n ei hoffi...

15.55 14.56 13.09 10.56 14.5017.20

Page 27: InTouch Haf 2015

% o’r holl atgyweiriadau a gwblhawyd mewn un ymweliad

Rhesymau dros beidio â chwblhau tasgau ar yr ymweliad cyntaf

Gwaith sy’n mynd rhagddo i wella ein cyfradd atgyweirio ar yr ymweliad cyntaf

SYLW I ATGYWEIRIADAU

1 2 3 4 5 6 7

8 9 10 11 12 13 14

15 16 17 18 19 20 21

22 23 24 25 26 27 28

CHWEFROR

CHWEFROR29

100755025

0Ion-Maw

2014Ebr-Meh

2014Gorff-Medi

2014Hyd-Rhag

2014Ion-Maw

2015Ebr-Meh

2015

%

Angen rhagor o ddeunyddiau

Methu mynd i’r eiddo i gwblhau gwaith atgyweirio

Atgyweiriad mawr sydd angen ymweliad pellach

Atgyweiriad dau weithiwr, lle mae angenrhagor o gymorthMasnach arbenigol

Apwyntiadau a gadwyd

Apwyntiadau a aildrefnwyd

Parhau i edrych ar y rhannau cywir i’w cael ar y fan drwy edrych ar dasgau cyffredin

Gweithwyr sy’n hyfforddi i wneud gwaith ar atgyweiriadau sy’n aml angen mwy nag un ymweliad, fel ffenestri arbenigol

Ymestyn a gwella’r system apwyntiadau i leihau anawsterau o ran mynediad

63.69 62.00 62.43 65.07 62.55 61.17

49%

19%

23%

5%

92.69%

7.31%

4%

Page 28: InTouch Haf 2015

28 | www.wwha.co.uk | intouch | Iechyd a Diogelwch

Gwneud y defnydd gorau o’ch larwm personol Eich larwm personol gan WWHWeithiau, mae pawb ohonom angen ychydig o gefnogaeth a help ychwanegol. Gall ein gwasanaeth larwm personol roi tawelwch meddwl i chi drwy eich helpu chi i fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Mae WWH wedi bod yn darparu ei wasanaethau dros y ffôn a theleofal Connect24 ers dros ddeng mlynedd - rydym yma 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ar hyn o bryd rydym yn darparu cymorth i dros 8,500 o gartrefi ledled Cymru, gan ateb 495 o alwadau y dydd ar gyfartaledd.

Felly, sut mae’r gwasanaeth yn gweithio? Gallwn ddarparu:

• Uned larwm bach yn eich cartref, sy’n cael ei blygio i mewn i’ch cyflenwad trydan a’ch llinell ffôn.

• Botwm larwm y gellir ei wisgo fel tlws crog, ar fand arddwrn, neu ei glipio i’ch dillad.

Os ydych yn mynd i drafferthion, gallwch bwyso eich botwm larwm a bydd ein staff profiadol yn ateb eich galwad ar unwaith.

Gallwn siarad gyda chi drwy’r uned larwm a byddwch yn gallu ein hateb ni.

Rydym yn cofnodi eich holl fanylion pwysig ar ein system gyfrifiadurol ddiogel a phan fyddwch yn pwyso eich botwm larwm gallwn alw’r help sydd ei angen arnoch. Weithiau gall sgwrs gyda’n staff fod yn ddigon, ond gallwn hefyd alw perthynas, ffrind neu ofalwr os oes angen. Os bydd y sefyllfa’n fwy difrifol, gallwn roi gwybod i’ch meddyg neu ffonio am ambiwlans. Byddwn yn aros ar y llinell gyda chi nes daw cymorth fel nad ydych yn teimlo’n unig.

Page 29: InTouch Haf 2015

Iechyd a Diogelwch | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Rydym yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn i unrhyw un o’n preswylwyr, ar yr amod bod llinell ffôn a soced pŵer addas ar gael, am dâl wythnosol bychan.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth larwm personol Connect24, ffoniwch ni ar 0800 052 2526.

Oes gennych chi un o’n larymau personol yn barod? Dyma rai cynghorion doeth am wneud y defnydd gorau o’ch system larwm:

• Ewch i’r arfer o wisgo eich larwm personol bob amser yn eich cartref. Mae yna adegau allweddol pan fydd pobl yn cwympo - fel codi yn ystod y nos i fynd i’r tŷ bach, neu mynd i mewn ac allan o’r bath neu gawod.

• Rydym yn eich cynghori chi i gadw eich botwm larwm yn agos wrth law pan fyddwch yn y bath neu’r gawod, dim ond i fod yn ddiogel. Peidiwch â phoeni am gael ychydig o ddŵr arno - bydd yn dal i weithio ar ôl hynny.

• Peidiwch â phoeni am daro eich larwm ymlaen yn ddamweiniol - nid oes ots gennym a byddai’n well gennym i chi fod yn ddiogel. Yn wir, rydym yn cael tua 1,500 o alwadau damweiniol y mis, felly mae’n rhan o’n gweithgarwch o ddydd i ddydd. Byddwn yn falch o wirio eich bod chi’n iawn.

• Gwnewch yn siŵr eich bod, unwaith y mis, yn gwirio bod eich crogdlws yn gweithio. Pwyswch y botwm i’w weithredu a dywedwch wrthym mai galwad brawf yw hi. Os nad ydych wedi gweithredu eich larwm o fewn 3 mis, byddwn yn cysylltu â chi i wirio ei fod yn gweithio.

• Os nad oes gennych grogdlws ar hyn o bryd ac mai dim ond cortyn tynnu sydd gennych chi yn eich cartref, yna rydym yn eich annog i gysylltu â ni i gael crogdlws - mae’n rhad ac am ddim i breswylwyr WWH.

• Os oes gennych gwestiynau am eich larwm, cysylltwch â ni ar 0800 052 2526 neu gweithredwch eich larwm i siarad ag un o’n hatebwyr galwadau.

Rydym yn ateb tua 10 galwad frys y dydd. Dyma ychydig o sylwadau ein cwsmeriaid:

“Cafodd y larwm ei hateb yn brydlon ac fe wnaethon nhw drefnu fy mod i’n cael help yn gyflym. Heb y larwm gallwn fod wedi bod ar y llawr am beth amser. Rydw i’n gwisgo’r crogdlws bob dydd ac yn teimlo’n fwy diogel gan wybod ei fod yno. “

“Torrodd mam ei chlun y tu allan ac fe wnaeth y system larwm weithio’n berffaith yno, hyd yn oed. Mae’n wasanaeth rhagorol.“

Page 30: InTouch Haf 2015

30 | www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad y larwm mewn argyfwng

Larwm mewn argyfwngAdroddiad blynyddol 2014-2015

Nifer y galwadauRhwng 1 Gorffennaf 2014 a 30 Mehefin 2015:

• Fe wnaethom ateb 180,594 o alwadau, sef cyfartaledd o 495 o alwadau bob dydd.

• Roedd 3112 o’r galwadau hyn yn achosion brys, lle gwnaethom anfon y gwasanaethau brys neu ryw fath arall o gymorth.

• Fe wnaethom 53,816 o alwadau i sicrhau eich bod yn iawn.

• Rydym wedi parhau i gynyddu nifer ein cwsmeriaid ac yn awr rydym yn darparu ein gwasanaeth i 8,543 o gartrefi.

Cyflymder yr atebionMae Cymdeithas y Gwasanaethau Teleofal (TSA), sy’n archwilio ein gwasanaeth, yn gosod safonau ynghylch yr amser y dylem ei gymryd i ateb eich galwadau.

Targed y TSA Ein PerfformiadGalwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl a atebwyd o fewn 60 eiliad 98.5 % 99.2 %Galwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl a atebwyd o fewn 3 munud 99 % 100 %

Fel y gwelwch, yn ôl y ddwy ffon fesur hon, fe wnaethom berfformio’n well na’r safonau a osodir gan y TSA.

Ansawdd y gwasanaethRydym wedi cynnal arolwg gyda detholiad o gwsmeriaid sy’n defnyddio ein gwasanaeth Larwm mewn Argyfwng. Cawsom 282 o ymatebion i’n harolwg ac fe ddywedoch wrthym:• Mae ein hatebwyr yn gwrtais ac yn broffesiynol 99% o’r

amser, o gymorth 98% o’r amser ac fe ddywedoch eich bod yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch gan y tîm (yn gyffredinol ac ar achlysur penodol) 97% o’r amser.

• Dywedodd mwy na 96% ohonoch wrthym hefyd eich bod yn ystyried y gwasanaeth larwm mewn argyfwng fel gwerth am arian ac mae 97% o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn fodlon ar gyflymder ymateb ein gweithredwyr.

Diolch yn fawr am ateb ein harolygon ac am eich sylwadau. Mae pob sylw a gawn yn cael ei drosglwyddo i’r atebwr priodol.

Ein perfformiadDyma rai ffeithiau fel y gallwch weld sut gwnaethom berfformio yn ystod 2014-2015, gan gynnwys nifer y galwadau y gwnaethom eu hateb, pa mor gyflym y gwnaethom eu hateb a pha mor dda y gwnaethom ddelio â nhw.

Page 31: InTouch Haf 2015

Adroddiad y larwm mewn argyfwng | intouch | www.wwha.co.uk | 31

Dyma rai enghreifftiau o’r sylwadau a gawsom:

Edrych yn ôlErs cyhoeddi ein hadroddiad diwethaf, mae nifer y cartrefi sy’n gysylltiedig â’n gwasanaethau wedi cynyddu ychydig dros 3,000, ar ôl cychwyn ar ddau gontract newydd, un gyda Chartrefi Dinas Casnewydd ac un gyda Chartrefi RhCT.

Rydym wedi ychwanegu gallu ychwanegol at Ystafell Reoli ein Larwm mewn Argyfwng, gyda dwy linell ychwanegol yn caniatáu i ni ymdrin â galwadau o fathau ychwanegol o unedau larwm.

Rydym wedi diweddaru rhai o’n prosesau o ganlyniad i adborth a dderbyniwyd gan gwsmeriaid, ac mae un maes yn arbennig yn ymwneud â chysylltu â pherthnasau cwsmeriaid mewn achos o argyfwng. Rydym yn siarad yn rheolaidd â chwsmeriaid yn gofyn am y wybodaeth gyswllt ddiweddaraf ar eu cyfer, ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau gan adael negeseuon lleisbost ar beiriannau ateb os nad ydym yn gallu cyrraedd perthynas mewn achos o argyfwng.

Newid mawr arall yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw ein bod ni wedi cymryd mwy o rôl wrth ofalu am ddiogelwch tîm Wales & West. Mae aelodau staff sy’n mynd o gwmpas yn rheolaidd yn awr yn cael dyfais sy’n gadael i ni wybod lle maen nhw bob amser. Os bydd rhybudd yn cael ei sbarduno ar eu dyfais, mae staff yr ystafell Larwm mewn Argyfwng yn gallu dod hyd iddyn nhw ar sail cyfesurynnau GPS ac yn trefnu i anfon y gwasanaethau brys i’w cynorthwyo.

Os oes gennych ymholiadau neu sylwadau am yr adroddiad hwn,

cysylltwch â Jayne Orchard ar y rhif rhadffôn

0800 052 2526

“Heb y larwm, ni fuasai Dad yn gallu aros yn ei gartref ei hun. Rydw i mor ddiolchgar am yr holl gymorth i’w gadw lle mae o hapusaf.”

“Rydw i’n llenwi’r ffurflen hon ar ran fy mam gyda hi’n bresennol. Ni all fy mam a minnau ddiolch na chanmol digon ar y staff. Mae pob un o’r staff rydym wedi ymwneud â nhw wedi bod yn ardderchog ym mhob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir. Rwy’n gobeithio y bydd y system galw mewn argyfwng yn cael ei chadw oherwydd ei gwerth i bobl sy’n agored i niwed. Unwaith eto, diolch yn fawr.” Edrych ymlaen

Yn ystod gweddill 2015 ac yn gynnar yn 2016, byddwn yn adolygu’r feddalwedd rydym yn ei defnyddio yn yr ystafell Larwm mewn Argyfwng i sicrhau bod gennym y galluoedd diweddaraf. Byddwn yn mynd drwy broses ffurfiol gyda chyflenwyr i edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael cyn dod i benderfyniad ar y system sy’n gweddu orau i anghenion ein holl gwsmeriaid.

Rydym hefyd yn parhau i adolygu ein prosesau a hyfforddiant i staff, i sicrhau bod ansawdd cyffredinol ein gwasanaeth yn parhau i wella ac yn diwallu eich anghenion.

Rhwng 1 Gorffennaf 2014 a 30 Mehefin 2015, cawsom 45 o sylwadau oedd yn gofyn am ymchwiliad gan oruchwyliwr Ystafell Reoli ein Larwm mewn Argyfwng. Ym mhob achos, darparwyd ymateb boddhaol i’r cwsmer.

Cawsom hefyd ddwy gŵyn am y gwasanaeth gan gwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn.

Ar y ddau achlysur, cynhaliwyd ymchwiliadau llawn, darparwyd hyfforddiant i staff a rhoddwyd mesurau ar waith i atal y naill broblem na’r llall rhag digwydd eto.

Page 32: InTouch Haf 2015

32 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned

Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned: Dod ynghyd yn Llys HafrenMae preswylwyr yng nghynllun er ymddeol Llys Hafren yn y Drenewydd wedi bod yn mwynhau Clwb Brecinio wythnosol ar ddydd Gwener diolch i’n grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned.Roedd y preswylwyr eisiau digwyddiad cymdeithasol wythnosol i ddod at ei gilydd am sgwrs a rhywbeth i’w fwyta. Roedd angen mwy o lestri, cyllyll a ffyrc a ffwrn newydd, felly fe wnaeth Cymdeithas y Preswylwyr gais llwyddiannus am ein grant cymunedol. Nawr mae mwy a mwy o breswylwyr yn dod at ei gilydd ac yn cael amser gwych yn y cynllun bob dydd Gwener!

Dywedodd Mrs Mary Rooke, un o’r preswylwyr: “Y Clwb Brecinio yw’r ffordd orau o gael pobl at ei gilydd. Mae’r bwyd mor flasus ac mae pawb yma yn ei fwynhau! “

Gall ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch cymuned eich helpu i roi cychwyn ar weithgareddau cymunedol parhaus lle’r ydych yn byw. Nid oes angen i chi fod yn grŵp ffurfiol i wneud cais.

Y syniad yw i chi a’ch cymdogion ddod ynghyd yn rheolaidd i feithrin cymuned agosach.

Dyma rai enghreifftiau o’r eitemau rydym wedi eu cyllido ar gyfer grwpiau:

• Cyfarpar ac offer coginio• Offer a deunyddiau crefft• Gasebos a dodrefn awyr agored• Gemau awyr agored a dan do• Peiriannau bingo, dabwyr a

thocynnau• Consolau byrddau, rheolwyr a

gemau Wii Fit

Ond nid y rhain yw’r unig bethau y byddwn yn eu cyllido - os oes gennych chi syniad, ffoniwch ni am sgwrs!

Am ragor o wybodaeth am ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned, e-bostiwch Claire Hammond drwy [email protected] neu ffoniwch 0800 052 2526.

Page 33: InTouch Haf 2015

Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Cyhoeddiad y gyllideb: beth mae’n ei olygu i chiAr 8 Gorffennaf, cyhoeddodd y Llywodraeth newydd ei chyllideb cyntaf, a rhan fawr ohoni oedd toriadau i fudd-daliadau. Yn yr erthygl hon, rydym yn tynnu sylw at rai o’r meysydd a sut gallen nhw effeithio arnoch chi yn y 12-18 mis nesaf.

Mae’n bwysig nodi na fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar bobl o oedran credyd pensiwn, felly ni fyddwch yn cael eich effeithio os ydych yn 63 oed neu’n hŷn.

Fe fydd budd-daliadau oedran gweithio yn cael eu rhewi am 4 blynedd (gan gynnwys Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant) Er na fydd preswylwyr yn gweld toriad i fudd-daliadau, bydd hyn yn golygu na fydd eu hincwm yn codi yn unol â nwyddau neu wasanaethau eraill. Felly, wrth i gostau nwy a thrydan gynyddu o bosibl, ni fydd eich incwm yn cynyddu yn unol â hynny. Mae hyn yn golygu bod gwneud y gorau o’r arian sydd gennych hyd yn oed yn fwy pwysig. Felly, nawr yw’r amser i siopa o gwmpas, torri yn ôl ar eich gwariant lle gallwch chi, a delio â materion dyledion os nad ydych eisoes yn gwneud hynny.

Bydd y cap ar fudd-daliadau yn cael ei ostwng i £20,000 o £26,000 o Ebrill 2016 Os yw cyfanswm y swm o fudd-daliadau a gewch yn fwy na’r terfyn a osodwyd, bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau gan y swm dros ben.

Bydd y cap yn berthnasol i incwm cyfunol o’r prif fudd-daliadau i bobl di-waith (Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth) a budd-daliadau eraill fel Budd-dal Tai, Budd-dal Plant, Credyd Treth Plant a Lwfans Gofalwr.

Os oes hawl gennych i Gredyd Treth Gwaith, byddwch yn cael eich eithrio o’r cap. Byddwch hefyd yn cael eich eithrio os oes unrhyw un yn eich cartref yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gweini neu elfen gefnogaeth y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

£ ££ £

£

Page 34: InTouch Haf 2015

34 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Os ydych chi’n rhiant sengl neu’n gwpl sydd â 3 neu ragor o blant, fe allech gael eich effeithio gan y cap o fis Ebrill 2016.

Bydd Credydau Treth Plant (Credyd Cynhwysol) yn cael ei gyfyngu i ddau o blant o Ebrill 2017 ar gyfer unrhyw hawlwyr newydd a hawlwyr presennol a gaiff ragor o blant ar ôl 2017. Mae Credyd Treth Plant yn werth £53.50 fesul plentyn bob wythnos i unrhyw un sy’n hawlio, felly mae hyn yn ostyngiad sylweddol yn yr hyn y byddwch yn ei dderbyn.

Mae ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth yn parhau i helpu preswylwyr i ymdopi ag effaith diwygio lles. Rydym yn cynorthwyo preswylwyr sy’n cael trafferth fforddio’r diffyg a achoswyd gan y dreth ar ystafelloedd gwely a’r cap ar fudd-daliadau, neu sydd wedi cael eu heffeithio gan newidiadau i’w budd-dal anabledd. Mae preswylwyr sydd wedi gweithio gyda’n Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth nid yn unig wedi bod yn fodlon ar y cyngor a’r cymorth a roddwyd iddyn nhw, ond maen nhw hefyd wedi gweld gwelliant yn eu cyllid oherwydd yr arian a enillwyd neu a arbedwyd.

Ar gyfartaledd, mae preswylwyr wedi gweld eu sefyllfa ariannol yn gwella o tua £800 y flwyddyn, diolch i help ein tîm. Mae hyn wedi bod trwy gynlluniau mynediad fel y Disgownt Cartrefi Cynnes, gwneud cais am grantiau ar gyfer nwyddau’r cartref, gwneud cais am help gyda biliau dŵr, trafod gyda chredydwyr a gwneud cais am Daliadau Tai Dewisol.

Mae ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth hefyd wedi cynghori preswylwyr ar wneud y defnydd gorau o’u harian, cael y fargen orau a gwneud i’w harian fynd mor bell ag y bo modd.

Gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu heffeithio gan newidiadau i’r system fudd-daliadau, rydym yn awyddus i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael y cymorth a’r cyngor sydd ei angen arnoch.

Os hoffech gael unrhyw help neu wybodaeth am eich arian, cysylltwch â ni.

Ffoniwch ni ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526 i drefnu sgwrs gyda’ch Swyddog Cefnogi Tenantiaeth.

Page 35: InTouch Haf 2015

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Cyfle i ennill £250, siampên, siocledi athusw hyfryd o flodau yn Raffl Fawr PH Jones!

Mr & Mrs Nelson o Gaerdydd, a ddywedodd “Rydym yn falch iawn ac fe fyddwn ni’n difetha’r wyrion gyda’r enillion!”

Gallech chi hefyd fod yn ENILLYDD!I gael eich cynnwys am ddim yn y gystadleuaeth, gadewch i’ch boeler nwy gael ei wasanaethu ar yr apwyntiad cyntaf, neu rhowch o leiaf 48 awr o rybudd i ni aildrefnu’r apwyntiad.

Ein henillwyr ffodus yw:

Tracey yn canmol staff Cambria am ei chegin newydd

Canmolodd Tracey Leyshon o Pen-y-bont ar Ogwr osodwyr ceginau Cambria, Mike a Robbie, yn ogystal â Nick y trydanwr am eu gwaith diweddar.

Dywedodd Tracey: “Roedden nhw’n gyfeillgar ac yn gymwynasgar bob amser ac yn ateb unrhyw gwestiwn oedd gen i. Mae fy nghegin newydd yn edrych yn drawiadol ac mae’n berthffaith yn fy ngolwg i.”

Isod, nodir y cartrefi rydym yn bwriadu eu huwchraddio o fis Hydref i fis Rhagfyr 2015:CeginauRhiw Cae Mawr, Pen-y-bont ar OgwrRhiw Tremaen, Pen-y-bont ar OgwrParhau â Powell Road, Bwclea Becketts Lane, Bwcle

Ystafelloedd ymolchiPark Leigh Court, Wrecsam

Ffenestri yn unigCelyn Avenue, CaerdyddCwrt Pentwmpath, Llai, Wrecsam

Page 36: InTouch Haf 2015

36 | www.wwha.co.uk | intouch |Y diweddaraf am elusennau

byw yn Sbaen am gyfnod. Fe wnaethon nhw ddathlu eu pen-blwydd priodas aur gyda thaith i Kenya, lle’r aethon nhw ar saffari cyn teithio i Mombasa yng Nghefnfor India.

Bu Lilian a Bill yn briod am 57 mlynedd, cyn i Bill farw 14 mlynedd yn ôl. A hithau nawr yn naw deg oed, mae Lilian yn ddiolchgar iawn am yr holl bethau gwych mae wedi eu gweld ac wedi eu gwneud - ac yn dal i fwynhau eu gwneud: “Mae pobl yn meddwl fod bywyd yn dod i stop am eich bod chi’n mynd yn hŷn. Ond mae gen i ddiddordeb o hyd yn y pethau sy’n digwydd yn y byd. Rydw i’n annibynnol o hyd, rydw i’n gyrru car ac rydw i’n rhedeg y bore coffi yma bob dydd Mawrth – rydw i wedi gwneud hynny ers i mi symud yma. Fydda i byth yn diflasu!”

Yn wir, mae dathlu 90 mlynedd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol o bosibl wrth feddwl bod Lilian wedi brwydro yn erbyn canser bum gwaith ers ei thridegau.

“Rydw i’n mwynhau bywyd,” meddai Lilian. “Rydw i’n gwybod fod Tai Wales & West yn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru, felly rydw i’n gobeithio y gall fy stori helpu rhywun arall. Dydych chi ddim yn gwybod beth sydd o’ch blaen, felly mae’n rhaid i chi wneud y gorau o fywyd.”

Ymchwil Canser Cymru yw ein partner elusennol swyddogol ar gyfer 2015-2016. Os ydych chi’n cynnal digwyddiad i’n helpu ni i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru, cofiwch roi gwybod i ni ac fe wnawn ni rannu eich lluniau a’ch stori yn InTouch. Cysylltwch â ni ar 0800 052 2526 neu e-bostiwch [email protected]

“Mae’n rhaid i chi wneud y gorau o fywyd”

Ar 2 Ebrill eleni, dathlodd Mrs Lilian Hardy o St Catherine’s Court, Caerffili, ei phen-blwydd yn 90 oed.

“Rydw i wedi cael bywyd da, ac rydw i wedi bod yn lwcus iawn,” meddai Lilian. “Rydw i bob amser yn fodlon ac mae’r Arglwydd yn gofalu amdanaf.”

Cafodd Lilian ei geni a’i magu yng Nghaerdydd, a symudodd i St Catherine’s Court ym 1989 gyda’i gŵr Bill. Fe wnaethon nhw gyfarfod pan oedd Lilian yn 17 mlwydd oed. Dywedodd Lilian: “Roeddwn i’n byw yn y Rhath ar y pryd ac Albany Road oedd lle’r oedd yr holl bobl ifanc yn arfer mynd, i’r bariau coffi. Roeddem yn arfer cwrdd a gorymdeithio i fyny ac i lawr Albany Road, dyna lle gwnaeth Bill a minnau gwrdd un diwrnod. “

Priododd Lilian a Bill dair blynedd yn ddiweddarach, ac fe gawson nhw fab ym 1945. Mae Lilian yn fam-gu falch i ddau o blant erbyn hyn.

Teithiodd y cwpl i lawer o fannau gyda’i gilydd dros y blynyddoedd, a hyd yn oed

Lilian Hardy, un o breswylwyr WWH, yn adrodd ei stori

Page 37: InTouch Haf 2015

Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Eleni, bydd staff WWH unwaith eto’n cefnogi Operation Christmas Child, elusen Samaritan’s Purse.Mae’r cynllun yn anfon bocsys esgidiau wedi eu lapio yn llawn o roddion syml i blant ledled y byd, plant na fydden nhw fel arall yn cael unrhyw beth. Mae’r bocsys yn cael eu llenwi gyda nwyddau a’u pennu ar gyfer merch neu fachgen yn un o’r categorïau oedran a ganlyn: 2-4, 5-9 neu 10-14 oed.

Os hoffech ein helpu ni gyda’r achos arbennig hwn, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Gallwch helpu drwy gyfrannu bocs esgidiau wedi ei lapio a’i lenwi gydag eitemau fel:• Peli pêl-droed bach• Crysau T a llewys byr newydd, heb

unrhyw eiriad / brandio• Fflachlamp fach gyda batris• Platiau powlenni, a / neu gwpanau

melamin o ansawdd da• Sebon a dysgl sebon blastig sydd â

gorchudd• Brws dannedd mewn daliwr brws

dannedd• Papur, pensiliau, rwberi a minwyr

ar gyfer pob plentyn oedran ysgol. A phinnau ysgrifennu du, coch, gwyrdd, a glas o ansawdd da ar gyfer plant 10-14 oed.

• Rhaffau sgipio• Plasteri• Cribau• bandiau gwallt • Melysion• Oriawr syml ar gyfer oedrannau

10-14 mlynedd• Sanau• Tryciau, ceir neu awyrennau tegan• Doliau

Rydym hefyd yn gwybod bod llawer o’n preswylwyr wrth eu bodd yn gweu! Felly, os ydych chi’n rhan o gylch gwau neu os ydych chi’n gweu gartref, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech wneud hetiau, menig neu sgarffiau o unrhyw faint, siâp neu liw ar gyfer ein bocsys anrhegion. Gallwn hyd yn oed wneud cais am roddion o wlân os oes angen!

Ein dyddiad cau ar gyfer yr holl focsys esgidiau neu eitemau wedi eu gwau yw dydd Gwener 6 Tachwedd 2015.

Am ragor o syniadau am anrhegion, ewch i wefan Operation Christmas Child: www.samaritans-purse.org.uk

Os hoffech roi bocs esgidiau wedi ei lenwi, eitemau wedi eu gwau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, rhowch alwad i ni ar 0800 052 2526 a gofynnwch am Louise Carpanini. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom: [email protected]

Operation ChristmasChild: allwch chi helpu?

Page 38: InTouch Haf 2015

38 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Eich newyddion a’ch safbwyntiauPreswylwyr prysur yn gwau!Mae llawer ohonoch wedi cysylltu â lluniau i arddangos eich doniau gwau yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae gwau yn hobi creadigol gwych i bob oedran, ac mae rhai astudiaethau yn nodi y gall hyd yn oed helpu i fynd i’r afael â straen ac iselder.

Mae ymuno â grŵp gwau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd hefyd, felly beth am gael gwybod a oes unrhyw grŵp yn eich cymuned, a rhoi cynnig arni!

Grŵp gwau Doyle Court yn cyfrannu at gartrefi plant amddifad dramorMae’r grŵp gwau yn Doyle Court yng Nghaerdydd yn cyfarfod bob dydd Gwener i wau a chrosio blancedi a dillad lliwgar hyfryd. Maen nhw’n rhoi eu holl waith i’r Grŵp Dorcas sy’n cyfarfod yn y Tabernacl ym Mhenarth, Bro Morgannwg. Mae’r holl flancedi, sgarffiau ac eitemau gwych eraill wedyn yn cael eu rhannu a’u dosbarthu i gartrefi plant amddifad ledled Romania. Anfonodd Beryl Lowther, sy’n arwain y grŵp ym Mhenarth, lythyr diolch at y grŵp yn Doyle Court i ddweud faint bydd eu gwaith yn cael ei werthfawrogi.

Grŵp Dorcas Doyle Court

Creadigaethau gwau diweddaraf Brian!Brian Bishop, un o breswylwyr Tŷ Pontrhun ym Merthyr Tudful, gyda siwmperi y mae wedi eu gwau i’w or ŵyr.

Page 39: InTouch Haf 2015

Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Gall ymddeol fod yn ddechrau newydd cyffrous! Val Williams o Norbury Court yng Nghaerdydd sy’n adrodd ei storiErs ymddeol yn 60 oed o swydd technegydd gyda’r Gwasanaeth Cynghori ar Wyddoniaeth, rwyf wedi gwirfoddoli yn Sain Ffagan - yn wreiddiol yn labordai cadwraeth yr amgueddfa ac yn ddiweddar yn y gerddi yno.

Ar hyn o bryd rydw i’n wirfoddolwr yn Llysieufa Parc Cathays. Rydw i’n gweithio y tu ôl i’r llenni gyda chydweithiwr ar gasgliad o weiriau a gafwyd dros sawl degawd o safleoedd o amgylch y byd ac a roddwyd i’r amgueddfa yn ddiweddar.

Fy rôl yn y ‘tîm delfrydol’ yw tynnu sbesimenau yn ofalus oddi ar y papur anaddas y cawson nhw eu gludo arnyn nhw’n wreiddiol er hwylustod ar gyfer eu cludo i’r Deyrnas Unedig.

Mae cydweithiwr wedyn yn rhoi’r sbesimen glaswellt ar daflenni di-asid o safon cadwraeth. Ar ôl ffeilio, bydd myfyrwyr ymchwil y presennol a chenedlaethau’r dyfodol yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth yn y sbesimenau a chymharu’r DNA at ddibenion adnabod.

Rydym fel arfer yn gwneud y gwaith hwn mewn labordy, ond, ar gyfer Wythnos y Gwirfoddolwyr, fe wnaethom eistedd yng nghyntedd y brif amgueddfa fel y gallai pawb weld beth rydym yn ei wneud.

Mae’n galonogol gwybod fy mod i’n dal yn gallu cyfrannu fy amser yn y modd hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod bob dydd Mawrth ag arbenigwyr cyfeillgar diddorol yn y gwahanol feysydd (o amgylch y bwrdd coffi)!

Val Williams BSc

Val, ar y dde, gyda gwirfoddolwr arall o’r enw Francis Simpson

Page 40: InTouch Haf 2015

40 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Anfonodd Phil Howells, Arolygydd Safle, y llun hyfryd hwn o’r ardd yn Nŷ Pontrhun, gyda’r corrach yn ei choroni.

Caerau yn ei blodau diolch i’r Caerau Potters!Mae’r Caerau Potters wedi bod yn brysur iawn yn yr ardd yn Caerau Court, Caerdydd - fel y gwelwch yn y lluniau trawiadol hyn.

Mae’r garddwyr preswyl Stan, Debbie, John a Chris wedi bod yn gweithio’n galed er 2011 i drawsnewid y tir o amgylch eu cartref yn hafan hyfryd i’r rhai sy’n byw yno ei mwynhau.

Mae cyllid drwy grantiau Gwneud Gwahaniaeth WWH wedi darparu sied, meinciau a bwydwyr adar. Mae’r grŵp erbyn hyn yn gofalu am amrywiaeth o flodau, ffrwythau, llysiau, gardd flodau gwyllt ac maen nhw wedi adeiladu pwll pysgod, hyd yn oed –rhywbeth y mae Jess y gath yn ei fwynhau, fel y gwelwch!

Gnome, Sweet Gnome

Page 41: InTouch Haf 2015

Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 41

Roedd Ann White, Rheolwr Cynllun gyda WWH yng Nghaerdydd, yn ffodus i ennill tocyn aur i barti gardd brenhinol yn ystod yr haf ar ran Sefydliad y Merched.Yma, mae Ann yn dweud wrthym nad clwb “Jam a Jerusalem” yw Sefydliad y Merched!

“Cafodd Sefydliad y Merched ei sefydlu yng Nghanada, a chafodd y grŵp cyntaf ym Mhrydain ei sefydlu yng Nghymru ym 1915. Rydym yn adnabyddus am ‘Jam a Jerusalem’ - mae hyn oherwydd ein bod wedi canu ‘Jerusalem’ yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym 1924, sydd ers hynny wedi dod yn draddodiad, ac yn 1940 yn ystod y rhyfel dyrannodd y Weinyddiaeth fwyd siwgr i Sefydliad y Merched i gadw bwyd ar gyfer y genedl a fyddai fel arall wedi cael ei wastraffu.

“I ddathlu ein canmlwyddiant ar 2 Mehefin, cynhaliodd Sefydliad y Merched Arddwest Frenhinol ym Mhalas Buckingham. Cafodd pob grŵp yng Nghymru docyn ac roeddwn wrth fy modd fy mod i wedi cael tocyn aur.

“Roedd y preswylwyr yng Nghaerdydd lle rwy’n gweithio yn awyddus i wybod yr holl fanylion, ac roedd gan eraill ddiddordeb mewn fy helpu i ddewis beth i’w wisgo. Awgrymodd un preswylydd fy mod i’n gwisgo lliw lemon wrth fwyta sleisen o fy hoff gacen lemon – a phan welais y ffrog lliw cennin Pedr hon, roeddwn i’n gwybod ei bod hi’r union beth.

“Yn y parti bûm yn sgwrsio gyda “Calendar Girls” Sefydliad y Merched, a argraffodd

eu calendr enwog ym 1992. Fe wnaethom siarad am waith elusennol a dywedais wrthyn nhw am waith codi arian WWH a sut rydym yn cefnogi Ymchwil Canser Cymru.

“Erbyn hyn mae gan Sefydliad y Merched tua 212,000 o aelodau. Rydym yn cael ein hysbrydoli i newid pethau er gwell - mynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i aelodau. Rydym yn ymgyrchu’n genedlaethol ar bob math o bynciau, o iechyd i’r amgylchedd.

“Mae Sefydliad y Merched wedi rhoi’r cyfle i mi wneud gwahaniaeth yn fy nghymuned, i fynd i leoedd ac i roi cynnig ar bethau newydd i mi. Gallwch ymweld â grŵp dair gwaith i ddod o hyd i un sy’n addas i chi cyn i chi ystyried ymuno, felly beth am roi cynnig arni - mae digon o hwyl a chyfeillgarwch ar gael mewn grŵp yn eich ardal chi.”

Ann White

Ewch i www.thewi.org.uk am ragor o wybodaeth ddiddorol neu ffoniwch 02920 221 712

Ann yn ymweld â Phalas Buckingham gyda Sefydliad y Merched

Page 42: InTouch Haf 2015

42 | www.wwha.co.uk | intouch |Pen-blwyddi a dathliadau

Lil yn dathlu ei 100fed pen-blwyddDathlodd Lilian Griffiths , un o breswylwyr Danymynydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei phen-blwydd yn 100 oed ar 22 Mehefin.

Yn y dathliadau daeth teulu, ffrindiau, cymdogion a staff WWH at ei gilydd ar gyfer parti arbennig i ddymuno pen-blwydd hapus i Lil.

Cafodd y preswyliwr poblogaidd ymwelwyr annisgwyl arbennig, sef Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, a’r Cynghorydd Richard Young, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a’i wraig, Annette Young.

Ganwyd Lil ym Mhontycymer ar 22 Mehefin 1915, 10 mis yn unig ar ôl i Brydain ddatgan rhyfel yn erbyn yr Almaen a dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn un o saith o blant, dywedodd Lil iddi fod yn ffodus o’i theulu ac iddi weithio’n galed; er bod bwyd ar y bwrdd a theulu hapus o’i

chwmpas bob amser, roedd arian yn brin.

Cyfarfu Lil â’i gwr Albert Griffiths, a oedd yn löwr, mewn neuadd ddawns leol. Fe wnaethon nhw briodi pan oedd Lil yn 22 oed ac fe gawson nhw ddau o blant, sef Alun a Linda. Erbyn hyn, mae Lil yn fam-gu i dri, ac yn falch iawn o gyflawniadau ei hwyrion, sy’n feddyg, milfeddyg ac athro yn y drefn honno.

A beth nesaf ar gyfer Lil, tybed? Wrth chwythu ei chanhwyllau, dywedodd: “Fe wna i eich gweld chi i gyd ar fy mhen-blwydd yn 200!”

Dywedodd Yvonne Humphreys, y Rheolwr Cynllun: “Mae Lil bob amser wedi bod siaradus iawn ac wrth ei bodd yn adrodd straeon am y cwm, lle mae hi wedi byw ar hyd ei hoes. Mae hi’n uchel ei pharch ac yn aelod annwyl iawn o gymuned Danymynydd, ac rydym i gyd mor falch ohoni.”

Page 43: InTouch Haf 2015

Pen-blwyddi a dathliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 43

Inez yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oedDathlodd Inez White o Four Elms Court, Caerdydd, ei phen-blwydd yn 90 oed ddydd Sadwrn 1 Awst. Mae Inez, sydd wedi bod yn un o breswylwyr WWH ers 30 mlynedd, wedi chwarae rhan weithgar mewn llawer o weithgareddau cyfranogiad preswylwyr dros y blynyddoedd, gan gynnwys Only Residents Aloud a’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG).

Mae Claire Hammond, Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr WWH, wedi gweithio’n agos gydag Inez dros y blynyddoedd a dywedodd: “Mae Inez yn fenyw arbennig iawn; er ei bod hi newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed, mae hi’n dal i roi ei hamser i helpu WWH a’n preswylwyr. Mae Inez bob amser mor frwdfrydig a diolchgar - mae’n gymaint o bleser treulio amser gyda hi.”

Pen-blwydd hapusConnie a Jean!Dathlodd Connie Thomas ei phen-blwydd yn 80 oed ar 22 Mawrth. Dathlodd ei diwrnod arbennig gyda ffrindiau, teulu a chymdogion yn Constantine Court yn y Rhondda.

Cafodd Connie syndod hefyd pan ddaeth plant o’r ysgol leol yn Llwynypia i ganu caneuon o’r ffilm ‘Frozen’. Roedd pawb wedi eu mwynhau nhw’n canu gymaint fel eu bod nhw’n eiddgar i glywed pryd gallen nhw ddychwelyd!

Roedd Jean Jackson, hefyd o Constantine Court, yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed ar 4 Mehefin – a rhoddodd y plant ysgol gynradd ailadroddiad o’r perfformiad i’r preswylwyr, a oedd wrth fodd pawb.

Page 44: InTouch Haf 2015

06 | www.wwha.co.uk | intouch | News and General Information

EIN GWEFAN

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Gallwch dalu eich rhent

Twitter - @wwha

YouTube - wwhahomesforwales

linkedin.com/company/wales-and-west-housing

Drwy fyn i’n gwefan ar www.wwha.co.uk...

Wyddech chi y gallwch gysylltu â ni drwy...

Cael y newyddion diweddaraf o’ch ardal chi

Cael cyngor ar reoli eich arian

Ymgeisio am grantiau

A llawer mwy...