llawlyfr cynrychiolwyr cwrs

28
Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs 2012 - 2013 www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs [email protected] 01248 383651

Upload: bangor-students-union

Post on 10-Mar-2016

223 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Llawlyfr Cynrychiolwyr

Cwrs 2012 - 2013

www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs

[email protected] 383651

Page 2: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Cynnwys4Rhestr Wirio’r Cynrychiolwyr

Cwrs

6Pam cael Cynrychiolwyr Cwrs?

8Y fframwaith Cynrychiolwyr Cwrs

10 Eich cyfrifoldebau chi

12Ymdrin â phryderon myfyrwyr

- Gwasanaethau cefnogaeth

sydd ar gael

- Canllawiau cam wrth gam

16Cyfarfodydd ysgolion: Pwyllgorau

Cyswllt Staff-Myfyrwyr a’r

Byrddau Astudio

18Cyfarfodydd Cyngor y

Cynrychiolwyr Cwrs

- Eich Undeb Myfyrwyr Chi

20Cynghorion pwysig:

- Cyfarfodydd

- Ymdrin â myfyrwyr eraill

- Tystiolaeth ac adborth

24

Hyfforddiant a chyfleoedd

26Dathlu eich llwyddiant

- Gwobr Cyflogadwyedd Bangor

- Noson Wobrwyo’r Cynrychiolwyr

Cwrs

- Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn

28Rhestr cysylltiadau

Page 3: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

3

Helo!Llongyfarchiadau ar ddod yn Gynrychiolydd Cwrs! Dros y flwyddyn i ddod, fe gewch gyfle anhygoel i gynrychioli myfyrwyr, gweithio gyda phobl o’r un anian â chi a chreu newidiadau cadarnhaol ledled y Brifysgol. Byddwch hefyd yn datblygu amrywiaeth anghyffredin o sgiliau a chyneddfau a fydd yn eich helpu chi ymhell ar ôl eich cyfnod yn y Brifysgol. Bydd y llawlyfr hwn yn helpu i ateb y cwestiynau sydd gennych ac yn eich cynorthwyo i wneud y gorau o’ch amser fel Cynrychiolydd Cwrs. Ac os nad yw’r atebion yma, cysylltwch â ni!Diolch am ymuno â’n tîm ni - rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi.

Pob hwyl, Shôn, Is-Lywydd Addysg a Lles

Mae cynrychiolaeth myfyrwyr wrth wraidd arddeliad y Brifysgol i weithio gyda myfyrwyr fel partneriaid, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan. Mae’n bwysig iawn gwybod beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio yn y sefydliad ar lefel cwrs, Ysgol a Choleg er mwyn gallu gwella profiad myfyrwyr trwy ddatblygu dulliau newydd a mireinio’r systemau presennol. Mae arolygon fel yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn ddefnyddiol iawn ond mae cysylltu’n uniongyrchol gyda chynrychiolw-yr cyrsiau yn ein helpu i ddatblygu arfer da a newid pethau’n gyflym lle bo’r angen. Trwy fod yn gynrychiolydd cwrs byddwch yn helpu eich cyfoedion i ddylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau ym Man-gor a chael effaith mewn meysydd ar draws y sbectrwm: addysgu a dysgu, cyfleusterau a phrosesau gweinyddu. Mae’n rôl hollbwysig y mae’r Brifysgol yn ei hystyried yn un werthfawr iawn.

Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is ganghellor Myfyrwyr a’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is ganghellor Addysgu a Dysgu.

Page 4: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Rhestr Wirio’r Cynrychiolwyr Cwrs

Gobeithio y gwnewch chi ddarllen y llawlyfr yma i gyd gan

ei fod yn llawn o wybodaeth ddefnyddiol, ond os ydych

chi dim ond yn darllen un rhan ohono, yna Rhestr Wirio’r

Cynrychiolwyr Cwrs ddylai hwnnw fod!

1. Ewch ar gwrs hyfforddi Cynrychiolwyr Cwrs. Ewch at www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs i neilltuo lle ar sesiwn hyfforddi i Gynrychiolwyr Cwrs newydd neu ar sesiwn i’r rheiny sy’n dychwelyd i’r swydd.

2. Cyflwynwch eich hun i’r staff a myfyrwyr yn eich ysgol. Gwelwch tud.22 am gynghorion ar wahanol ffyrdd o wneud hyn.

3. Gwnewch yn siŵr o gael gwybod pryd mae’r cyfarfodydd staff-myfyrwyr yn cael eu cynnal yn eich ysgol chi. Dylai eich ysgol fod yn cynnal dau bob semester a dylai pob cynrychiolydd cwrs dderbyn gwahoddiad mewn da o bryd.

4. Siaradwch â’r myfyrwyr!Mynnwch gael eu hymateb a chael gwybod am faterion sy’n peri gofid (gwelwch tud. 23 am gasglu tystiolaeth) a rhowch wybod iddyn nhw am gasgliadau a chynnydd cyfarfodydd eich ysgol.

Page 5: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

5

Defnyddiwch y llawlyfr

hwn i wneud yn siŵr

nad ydych yn methu

dim un o’r pwyntiau pwysig am fod yn

Gynrychiolydd Cwrs.

5. Mynychwch gyfarfodydd staff-myfyrwyr eich ysgol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi gynrychioli llais eich cyd fyfyrwyr – gwelwch dud. 20 am gynghorion ynghylch mynychu cyfarfodydd yr ysgol.

6. Dewch i gyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs. Mae’n gyfle i gwrdd â Chynrychiolwyr Cwrs eraill a rhoi adborth yn ôl i’ch Undeb Myfyrwyr – gwelwch dud. 18 am wybodaeth am natur cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs.

7. Cymerwch ran mewn cyfleoedd ychwanegol a mynychwch ddigwyddiadau hyfforddi arbenigol. Gwelwch dud. 24 am fanylion hyfforddiant a chyfleoedd arbennig ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.

8. Dathlwch eich llwyddiant. Hawliwch holl bwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor y mae gennych hawl iddynt, mynychwch y noson wobrwyo i dderbyn eich tystysgrif a gweld os ydych wedi ennill gwobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn (gwelwch dud. 26 am fwy o wybodaeth).

Eisiau mwy o wybodaeth am rai o’r pwyntiau yma? - Darllenwch drwy’r llawlyfr yma.- Ewch at www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs- Cysylltwch â Michelle, y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs: 01248 [email protected]

Page 6: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

democracy

DEMOCRAC

Y democrac

y

democracy

Pam cael Cynrychiolwyr Cwrs?

Etholir Cynrychiolwyr Cwrs i wneud yn siŵr fod y profiad dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Bangor yn datblygu’n

ddemocrataidd, gan sicrhau fod barn pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli a’i werthfawrogi gan y Brifysgol ac Undeb y

Myfyrwyr.

Maent yn cynnig darlun cytbwys a gwybodus o farn myfyrwyr i aelodau staff y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ac yn rhoi darlun cytbwys a gwybodus i fyfyrwyr ynghylch sut mae’u hysgol a’u Hundeb yn mynd i’r afael â’r materion sydd wedi

cael eu codi.

Ein nod: gwneud yn siwr fod

DEMOCRATIAETH ar waith

Page 7: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

7

“Yn ystod fy nghyfnod fel cynrychiolydd, fe wnes i fwynhau’r cyfrifoldeb a deimlais a sylweddoli fy mod yn gyfrifol am sicrhau fod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed.

Fe wnes i wahaniaeth. Agwedd fwyaf heriol fy swyddogaeth

oedd magu’r hyder i godi materion gyda darlithwyr oedd wedi cael eu dwyn at fy sylw gan fyfyrwyr

ac unigolion eraill, ac roeddwn wedi disgwyl i’r cyfarfodydd staff-myfyrwyr fod yn gymharol frawychus. Fodd bynnag, fe wnaeth yr hyfforddiant a

dderbyniais gan Undeb y Myfyrwyr roi hyder i mi a’i wneud yn

gymharol hawdd i mi fynegi fy mhryderon, ac roedd cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs yn ysgafn a hwyliog eu naws.

Fy nghyrhaeddiad personol uchaf oedd gweithio gyda staff yr ysgol i ddatrys mater o bwys oedd yn ymwneud â modiwl roedd dros

1000 wedi cofrestru ar ei gyfer. ”

“Mae bod yn Gynrychiolydd Cwrs yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, cwrdd â myfyrwyr

â’r un weledigaeth a helpu i wella Prifysgol Bangor ar gyfer

myfyrwyr y dyfodol. Gallwch wella eich cwrs yn uniongyrchol drwy

ddylanwadu ar newidiadau yn eich ysgol, ac mae mynychu cyfarfodydd

Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs yn ffordd o allu didoli’r materion hynny sy’n peri pryder a gwneud newidiadau ar lefel Prifysgol. Gall y gwaith fod yn heriol, ond mae gennych gefnogaeth eich staff

ysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Un o’r cyraeddiadau rwyf fwyaf balch ohonynt oedd pan oedd fy adran

yn cynllunio canslo taith addysgiadol dramor ar gyfer myfyrwyr y

dyfodol; drwy fynychu cyfarfodydd staff-myfyrwyr a chynrychioli

barn fy nghyd fyfyrwyr, llwyddais i a’r Cynrychiolwyr Cwrs eraill sicrhau y bydd y daith honno’n parhau i gael ei chynnal yn y dyfodol.”

Rafael, CynrychiolyddCwrs

Alison, CynrychiolyddCwrs

Page 8: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Y Fframwaith Cynrychiolwyr Cwrs

Myfyrwyr MyfyrwyrMyfyrwyr

Myfyrwyr

MyfyrwyrMyfyrwyrMyfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr MyfyrwyrMyfyrwyr

Myfyrwyr

MyfyrwyrMyfyrwyr

Myfyrwyr

MyfyrwyrMyfyrwyr

Myfyrwyr

Myfyrwyr Myfyrwyr

MyfyrwyrMyfyrwyr

MyfyrwyrMyfyrwyr

Cynrychiolwyr Cwrs

Pwyllgorau Cyswllt

Staff-MyfyrwyrCyfarfodydd Lefel Coleg

Tîm Uwch Reolwyr

Cyfarfodydd Cyngor y

Cynrychiolwyr Cwrs

Cyngor a Senedd y Brifysgol

Undeb y Myfyrwyr

Page 9: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

9

Pam fo Cynrychiolwyr Cwrs yn mynychu’r holl gyfarfodydd yma? Os mai dim ond Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr yr oeddech yn eu mynychu, byddai’r pwynt ble roedd barn myfyrwyr yn cael ei gynrychioli yn y broses gwneud penderfyniadau yn gorffen ar lefel Ysgol neu Goleg. Yn dilyn hynny, byddai i fyny i’r staff yn eich Coleg fynegi barn myfyrwyr i’r Tîm Uwch Reoli.

Drwy fynd i gyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs hefyd, byddwch yn bwydo gwybodaeth ymlaen i Undeb y Myfyrwyr am faterion sy’n cael effaith ar fyfyrwyr yn eich Ysgol neu Goleg. Prif ddiben Tîm Sabothol Myfyrwyr UM yw cynrychioli myfyrwyr. Maent yn cwrdd yn rheolaidd gyda’r Uwch Dîm Rheoli ac yn mynd i gyfarfodydd Senedd y Brifysgol, er mwyn iddynt allu cynrychioli llais myfyrwyr ar y lefel uchaf un yn y broses gwneud penderfyniadau.

Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr ble mae myfyrwyr (chi) ac aelodau staff yn eich ysgol yn dod ynghyd i

siarad am faterion academaidd sy’n effeithio ar fyfyrwyr yn benodol o fewn eich ysgol.

Cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs ble mae’r holl Gynrychiolwyr Cwrs yn dod ynghyd gydag Undeb y Myfyrwyr i drafod y prif faterion sy’n cael effaith ar eu hysgol yn ogystal â materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr

drwy’r Brifysgol gyfan. Dyma hefyd ble fydd UM yn eich diweddaru â gwybodaeth bwysig sy’n ymwneud â’ch

swyddogaeth.

Mae gofyn i Gynrychiolwyr Cwrs fynychu dau fath o gyfarfod:

Senior Reps will also be asked to attend College level meetings, and this is where a Senior Course Rep from

each School in your College gets together with key staff members to discuss issues affecting students.

Page 10: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Eich cyfrifoldebau chiMae yna rai pethau y dylai pob Cynrychiolydd Cwrs ei wneud i sicrhau ei fod/bod yn cyfrannu at wella profiad academaidd y

myfyrwyr yn ei (h)ysgol:

Mynychu hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs- 2 awr a hanner o hyd

- popeth sydd angen i chi ei wybod-ymarferiadau defnyddiol i’ch paratoi chi ar gyfer gweithio gyda myfyrwyr, staff

ac UM.

Get student feedback- cyflwyno eich hun i fyfyrwyr- cael adborth da a drwg i’w

gyflwyno ar gyfer trafodaeth yn y Pwyllgorau Cyswllt a chyfarfodydd

Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs- gwelwch dud. 22 am fwy o

wybodaeth.

Gweithio gyda Chynrychiolwyr Cwrs eraill

- yn eich Ysgol, Coleg neu ledled y Brifysgol, bydd pethau’n digwydd yn gyflymach os byddwch yn

cydweithio!

Mynychu cyfarfodydd y Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr

- lleiafswm o 2 pob semester- Gwelwch dud. 16 am fwy o

wybodaeth

Mynychu Cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs

- 2 y semester

- Gwelwch dud. 18 am fwy o wybodaeth

Cynnig adborth i fyfyrwyr

- Adrodd wrth fyfyrwyr am bob trafodaeth, penderfyniad a

gweithredu- Gwelwch dud. 23 am fwy o

wybodaeth

Page 11: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

11

\Uwch Gynrychiolwyr

Cwrs: Fe’ch gwahoddir i un cyfarfod staff-

myfyrwyr lefel Coleg pob semester

hefyd!

Eisiau gwneud hyd yn oed mwy? Mae i fyny i chi’n llwyr faint o amser wnewch chi ei dreulio ar fod yn Gynrychiolydd Cwrs, ond y mwyaf o ymdrech y byddwch yn ei roi i gyflawni eich swyddogaeth yn dda, y mwyaf o newid rydych yn debyg o’i greu er gwell.

Gwneud yn fawr o’ch cyfle fel Cynrychiolydd Cwrs

Byddwch yn rhagweithiol yn eich cais am adborth gan

fyfyrwyr ac am dystiolaeth i gefnogi’r materion rydych yn

dymuno eu codi. Gwelwch dud. 23 am amryw o syniadau fydd yn

fan cychwyn i chi.

Mynychwch sesiynau hyfforddi Cynrychiolwyr Cwrs ychwanegol

(a chael pwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am wneud

hynny) ar faterion fel sgiliau negydu, casglu tystiolaeth a siarad cyhoeddus. Gwelwch dud. 24 am

fwy o wybodaeth.

Holwch eich ysgol am gyfarfodydd a chyfleoedd eraill y gallwch gymryd rhan ynddynt, fel

cyfarfodydd y Bwrdd Astudio neu arolygon myfyrwyr, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr

(NSS).

Gwnewch yn siŵr fod pawb yn eich nabod! Cylchwch e-bost, gwnewch gyhoeddiad mewn darlithiau, dechreuwch grŵp

Facebook neu trefnwch ‘Gornel Cynrychiolwyr Cwrs’ yn eich ysgol. Gwelwch dud. 22 am amryw o

syniadau.

Page 12: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Ymdrin â phryderon myfyrwyr

Chi sy’n gyfrifol am ymdrin â materion sy’n cael effaith ar brofiad academaidd/dysgu myfyrwyr ar eich modiwl neu gwrs neu’ch blwyddyn yn yr ysgol – p’run bynnag

rydych yn ei gynrychioli. Nid ydych yn gyfrifol am ymdrin â materion unigol na phersonol, na materion nad ydynt yn ymwneud â phrofiad academaidd/dysgu’r myfyrwyr.

COFIWCH

Materion yn Ymwneud a Cynrychiolwyr Cwrs

Ddim yn Faterion Cynrychiolwyr Cwrs

Dysgu - traddodi darlithiau, eu cynnwys a’u fframwaith a dulliau eraill o ddysgu.

Asesiad ac Adborth – manyldeb adborth, tegwch a defnyddioldeb, dulliau asesu a thegwch.

Trefn a Rheoli – amserlennu, oriau cyswllt, gweinyddu ac argaeledd gwybodaeth.

Adnoddau Dysgu – sleidiau darlithiau, deunydd Blackboard, llyfrau, deunydd darllen ar-lein ac offer TG.

Cefnogaeth Academaidd – tiwtoriaid personol, cyngor ar astudio a’r gallu i gysylltu â staff.

Unrhyw faterion academaidd a restrir ar y chwith sy’n effeithio ar un unigolyn.

Gweithdrefnau swyddogol yn ymwneud ag asesu, llên-ladrad a chwynion.

Materion sy’n ymwneud â bywyd personol myfyriwr, gan gynnwys arian, llety, teulu a pherthnasau personol.

Materion yn ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys clybiau athletaidd a chymdeithasau myfyrwyr.

Unrhyw faterion rydych yn teimlo na allwch ymdrin â nhw – rydym am i chi ddweud wrthym pan fydd pethau’n ormod, a bydd disgwyl i chi ymdrin ag unrhyw beth nad ydych yn gysurus ag ef.

Page 13: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

13

Os daw myfyriwr atoch gyda mater nad yw’n fater i Gynrychiolydd Cwrs, neu’n rhywbeth na allwch ymdrin ag ef, mae yna ddigon o wasanaethau cefnogi y gallwch gyfeirio myfyriwr atynt:

Undeb Myfyrwyr Bangor

Mae yna amryw o wasanaethau ar gael yma i gefnogi myfyrwyr mewn agweddau amrywiol o’u bywydau, gan gynnwys cyngor am arian, llety, cefnogaeth astudio, cefnogaeth i fyfyrwyr gydag anabledd a chefnogaeth yn ymwneud ag iechyd a lles, gan gynnwys cwnsela.

[email protected] | 01248 382024 www.bangor.ac.uk/studentservices

Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr

Gall UM helpu myfyrwyr gydag unrhyw agwedd sy’n ymwneud â bywyd Prifysgol. Os ydyw’n fater academaidd rydych yn teimlo na allwch ymdrin ag ef neu na all aros tan gyfarfod Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs nesaf, yna cysylltwch â Shôn Prebble ([email protected]). Fel arall, cysylltwch ag UM neu ffeindiwch y Swyddog Sabothol rydych ei

angen ar wefan UM.

[email protected] | 01248 388000www.myfyrwyrbangor.com

Gwasanaethau Eraill Y Gofrestrfa Academaidd - www.bangor.ac.uk/ar/main/

Yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r Brifysgol, a gall gynnig manylion am agendâu a pholisïau’r Brifysgol.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd - www.bangor.ac.uk/careersYn cynnig cyfarwyddyd ar yrfaoedd a hyfforddiant sgiliau cyflogadw-

yedd ar gyfer profiad gwaith, gwaith rhan-amser, cyflogi graddedigion a hunangyflogaeth.

Canolfan Dyslecsia Miles - http://www.dyslexia.bangor.ac.uk/Yn cynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i fyfyrwyr gyda dyslecsia.

Nawdd Nos - http://www.bangorstudents.com/nightline | 01248 362121Gwasanaeth cyfrinachol gwrando, cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr.

Page 14: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Ymdrin â phryderon myfyrwyr: cyfarwyddyd cam wrth gam

Ydy hyn yn fater academaidd?Gwelwch tud.12 am fanylion - “Materion

Cynrychiolwyr Cwrs”

Na, nid yw hwn yn fater academaidd.

Nid yw hwn yn fater i Gynrychiolwyr Cwrs!

Cyfeiriwch y myfyriwr/myfyrwyr i’r gwasanaeth priodol, gan

ddefnyddio tud.13 fel canllaw.

Ydy, mae hwn yn fater academaidd.

Ydy hwn yn fater personol, sy’n cael effaith ar un neu ddau o fyfyrwyr yn unig?

Ydy, dim ond un person a effeithir.

Nid yw hwn yn fater i Gynrychiolwyr Cwrs!

Cyfeiriwch y myfyriwr at eu tiwtor personol, pennaeth ysgol neu’r

gefnogaeth briodol, gan ddefnyddio tud.13 fel canllaw.

Na, mae hyn yn effeithio ar amryw o fyfyrwyr neu

ddosbarth cyfan.

Mae hwn yn fater i Gynrychiolwyr Cwrs!

Dilynwch y canllawiau i ganfod y ffordd orau o ymdrin â’r mater

hwn.

Page 15: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

15

Nodyn: Os oes mater sensitif wedi mynd o ddrwg i waeth ac nad yw’n briodol ar gyfer cyfarfod staff-myfyrwyr, neu eich bod wedi

codi mater mewn cyfarfod staff-myfyrwyr ac nad yw wedi’i ddatrys o hyd, gallwch gysylltu

â Shôn yn Undeb y Myfyrwyr.

A fydd siarad gyda’r aelod staff sydd wrth graidd y broblem yma’n helpu i’w datrys?

Bydd

Nodyn: Gall siarad gyda’r aelod staff neu dîm sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r broblem yn aml fod y ffordd hawsaf a chyflymaf i ddatrys

mater, ond os yw’r mater yn sensitif ac y gallai achosi tramgwydd i’r aelod staff, gallwch

ddewis siarad â rhywun arall.

Na fydd

A fydd siarad gyda’r Pennaeth Ysgol neu Uwch Diwtor am y mater yn helpu i’w datrys?

Nodyn: Siarad gyda Phennaeth yr Ysgol yw’r ateb gorau o ran datrys materion a all fod yn sensitif neu greu tramgwydd yn gyhoeddus.

Fodd bynnag, os nad yw’r mater yn un personol ac yr hoffech i’r holl staff fod yn

ymwybodol ohono, efallai yr hoffech ddisgwyl tan y cyfarfod nesaf.

Bydd Na fydd

Y broblem wedi’i datrys

– da iawn chi!

A all y mater gael ei ddatrys yn eich cyfarfod Staff-Myfyrwyr nesaf.

Gall

Na allCysylltwch â Shôn Prebble yn Undeb y Myfyrwyr -

[email protected] 01248 388019

Y broblem wedi’i datrys

– da iawn chi!

Y broblem wedi’i datrys

– da iawn chi!

Page 16: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Cyfarfodydd ysgol

Gall Cyfarfodydd Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr fod ag enwau gwahanol mewn gwahanol ysgolion (cyfarfodydd staff-myfyrwyr, cyfarfodydd ysgol, cyfarfodydd cynrychiolwyr cwrs etc.) ond dylai fod ganddynt bob amser y nodweddion canlynol:- dylai dau gyfarfod gael eu cynnal pob semester- dylai pob Cynrychiolydd Cwrs dderbyn gwahoddiad a bod yn bresennol.- dylai fod lleiafswm o dri aelod staff yn bresennol ym mhob cyfarfod.- dylent ffocysu ar y materion ac adborth a godir gan y Cynrychiolwyr Cwrs. - dylai aelod o staff gymryd cofnodion a’u cylchu i bob

Cynrychiolydd Cwrs yn dilyn y cyfarfod.

Mae Cyfarfodydd Byrddau Astudio’n cael eu cynnal ym mhob ysgol, ac er nad yw’n ofyniad o’ch swyddogaeth, bydd llawer o ysgolion yn gwahodd un neu fwy o Gynrychiolwyr Cwrs i fod yn bresennol. Mae i fyny i chi p’un ai eich bod yn mynd ai peidio! Mae’r cyfarfodydd yma’n wahanol i’r Pwyllgorau Cyswllt mewn amryw o wahanol ffyrdd:- maent yn tueddu i fod yn fwy ffurfiol.- mae penderfyniadau ysgol pwysig yn aml yn cael eu gwneud yno.- gall amser penodol gael ei bennu i fyfyrwyr godi materion, yn hytrach na bod yn ganolbwynt i’r cyfarfod.- gall fod yna rai eitemau agenda a neilltuir tan ddiwedd y

cyfarfod, a gofynnir i fyfyrwyr adael cyn eu trafod.

Page 17: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

17

Beth fydd yn digwydd mewn cyfarfod nodweddiadol? Yn nodweddiadol, bydd y cyfarfodydd hyn yn dechrau gyda’r Cadeirydd yn cyhoeddi ymddiheuriadau’r aelodau nad ydynt yn bresennol. Yna bydd y grŵp yn bwrw golwg dros gofnodion y cyfarfod blaenorol i weld a oes unrhyw faterion yn codi.

Yna bydd y Cadeirydd yn mynd drwy eitemau’r agenda yn unigol, gan adael amser ar gyfer trafodaeth ac yna bennu pa aelodau staff neu Gynrychiolwyr Cwrs a fydd yn gyfrifol am bwyntiau gweithredu i ddatrys unrhyw broblemau.

Yn olaf bydd y Cadeirydd yn gofyn am Unrhyw Fusnes Arall (UFA) a dyma pryd y gellir codi unrhyw faterion sydd angen eu trafod nad oeddynt ar y prif agenda.

Bydd y cyfarfod yn gorffen drwy osod neu gadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf.

Cyfarfodydd - Rhestr Termau

UFA - ‘unrhyw fusnes arall,’ yr adeg i godi unrhyw faterion nad oeddynt ar yr agenda. Pwynt gweithredu – pan fo person yn cytuno i wneud rhywbeth erbyn amser neilltuol, a gofnodir yn y cofnodion fel pwynt gweithredu.

Agenda – y ddogfen sy’n disgrifio trefn trafod pwyntiau.

Eitem Agenda – pwynt penodol yn agenda’r cyfarfod sydd angen ei drafod.

Cadeirydd – y person sy’n arwain y cyfarfod, gan wneud yn siŵr bod yr holl eitemau ar yr agenda yn cael sylw teg a llawn. (Dylai Pwyllgorau Cyswllt Staff-Myfyrwyr gael eu cyd-cadeirio gan fyfyriwr ac aelod staff).

Materion yn Codi – trafodaeth bellach ynghylch unrhyw fater yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion – cofnod ysgrifenedig o’r trafodaethau, canlyniadau a phwyntiau gweithredu mewn cyfarfod (dylid anfon drafft at bawb sy’n bresennol i’w adolygu cyn i fersiwn terfynol gael ei anfon at bawb a fynychodd ac a wahoddwyd i’r cyfarfod.

Page 18: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs

Trefnir cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs gan Undeb y Myfyrwyr a byddant yn cael eu cynnal bob semester.

Cânt eu cadeirio gan yr Is-Lywydd Addysg a Lles; gwahoddir pob Cynrychi-olydd Cwrs a bydd y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs yn bresennol.

Yn achlysurol, bydd cynrychiolwyr o wasanaethau’r Brifysgol a Swyddogion Sabothol eraill yn mynychu’r cyfarfodydd am gyfnod byr i roi gwybodaeth ar faterion penodol a chael eich adborth.

- Gall Cynrychiolwyr Cwrs o ledled y brifysgol gwrdd â’i gilydd i rannu arfer gorau a thrafod materion sy’n cael effaith

ar fyfyrwyr ar eu cwrs.- Gall Undeb y Myfyrwyr glustnodi materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr ledled y Brifysgol a gwrando ar eich barn ynghylch

sut y dylid ymdrin â nhw.- Caiff adrannau allweddol o’r brifysgol (Gwasanaethau

Technoleg Gwybodaeth, Gwasanaethau Llyfrgell, Gwasanaethau Cefnogi etc.) y cyfle i fynychu cyfarfodydd a derbyn eich adborth ar sut mae eu cefnogaeth yn effeithio

ar brofiad academaidd myfyrwyr, ac fe gewch chithau fewnbwn i sut y bydd y gwasanaethau hyn yn datblygu.

Diben cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs

Caiff dyddiadau cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs eu hanfon atoch drwy e-bost cynted â bod Undeb y Myfyrwyr yn derbyn eich manylion. Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr e-bost, atgoffwch eich cyswllt ar staff yr ysgol i anfon manylion pob Cynrychiolydd Cwrs drwy e-bost at Michelle, y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs.Bydd dyddiadau’r cyfarfodydd yma hefyd ar fodiwl Blackboard y Cynrychiolwyr Cwrs ac ar-lein : www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs

Page 19: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

19

KEYNumbers in italics indicate the principal location.

ACADEMIC

College of Arts and Humanities 51:Academic Development Unit 1, 12School of Creative Studies and Media 63School of English 51School of History, Welsh History and Archaeology 51School of Linguistics and English Language 51School of Modern Languages 51School of Music 51, 65School of Theology and Religious Studies 51School of Welsh 51

College of Education and Lifelong Learning:School of Education 1, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 16 Lifelong Learning 6, 12, 73

College of Business, Social Sciences & LawAdministrative Centre 56: Bangor Business School 55, 59Bangor Business School Management Centre 59, 60, 61, 62, 64School of Law 57, 58School of Social Sciences 54, 59

College of Natural Sciences:School of Environment, Natural Resources andGeography 39, 46School of Biological Sciences 38, 39, 42 School of Ocean Sciences A, B Welsh Institute of Natural Resourcesencompassing: CAZS – Natural Resources 40 andthe BioComposites Centre (7th & 8th floor) 40

College of Health & Behavioural Sciences:School of Healthcare Sciences 37(also at Wrexham) School of Medical Sciences 50School of Psychology 44, 49, 50, 68, 73School of Sport, Health & Exercise Sciences 1, 5IMSCaR 14, 73, 50 (also at Wrexham)

College of Physical & Applied Sciences:School of Chemistry 40School of Electronic Engineering 74School of Computer Science 74

OTHER CENTRES AND RESEARCH

Centre for Research on Bilingualism 49 Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Bangor branch) 64Environment Centre Wales 39IBMM (Institute of Bio-electronic and MolecularMicrosystems) 74

ICON (Industrial and Commercial Optoelectronics) 74IMSCaR 50

Research groups within IMSCaR:CHEME Research Centre 73DSDC Research Centre 50NWORTH Trials Unit 14

NWCS (North Wales Clinical School) 50Pontio Arts and Innovation Centre (underconstruction) 48 Pontio Project Offices 51 R. S. Thomas Centre (located in Main Library) 51Software Alliance Wales 74Welsh National Centre for Religious Education 11

ADMINISTRATION AND SERVICE DEPARTMENTS

Academic Registry (Admissions, Student Records& Timetabling) 51Canolfan Bedwyr 64Careers and Employability Service 70Corporate Communications and Marketing Department:

Development and Alumni 71Press and Public Relations 51Student Recruitment 71

Conference and Catering 35Dyslexia: The Miles Dyslexia Centre 69 ELCOS (English Language Centre for OverseasStudents) 70Estates and Facilities 33Finance Office 67Halls Office 35Health and Safety Service 52Human Resources 53International Office 40IT and Computing Services 47Library Services 11, 37, 47, 51, 65Office of Programme Management 61Planning and Resources Office 51Printing and Binding Unit (Argraffdy Menai) 7Registrar’s Office 51Research and Innovation Office 51, 61 Student Services 70Students’ Union 43, 79Translation Unit 64Vice-Chancellor’s Office 51

OTHER SERVICES AND FACILITIESAnglican Chaplaincy 77Catholic Chaplaincy 78John Phillips Hall 63Maes Glas Sports Centre 18Powis Hall 51Prichard-Jones Hall 51

KEY

Menai BridgeA Westbury Mount & Wolfson LibraryB Craig Mair

Normal Site1 Padarn2 Neuadd Seiriol3 Neuadd Arfon4 Y Bistro5 George Building6 Eifionydd and Rhos7 Nantlle8 Trefenai9 Cilgwyn10 Gymnasium & Sports Hall11 Library12 Hiraethog13 Ardudwy14 Y Wern15 Meirion16 Dinas

Ffriddoedd Site17 Neuadd Reichel18 Maes Glas Sports Centre19 Elidir20 Enlli21 Peris22 Alaw23 Y Borth24 Cefn-y-CoedJohn Morris-Jones Halls:

25 Bryn Dinas26 Tegfan

27 Glaslyn28 Ffraw29 Crafnant30 Y Glyder / Security Lodge31 Llanddwyn32 Braint (Lower floor - Shop)33 Estates and Facilities

Bar Uno (Lower floor)34 Adda35 Idwal (Ground floor – Halls Office,

Conference and Catering Office)36 Gwynant

Ffriddoedd Road37 Fron Heulog

Deiniol Road38 Brambell39 Environment Centre Wales40 Adeilad Alun Roberts41 Adeilad W. Charles Evans42 Memorial43 Robinson (Bar/Club) 44 Wheldon45 Porters’ Lodge – Security/Enquiries 46 Thoday47 Adeilad Deiniol 48 Pontio Arts and Innovation Centre

(under construction)

College Road49 Psychology Block50 Brigantia Building51 Main University Building (Main Arts)52 Penbre53 Bryn Afon54 Ogwen55 Hen Goleg56 College of Business,

Social Sciences and Law Administrative Centre

57 Aethwy58 Athrolys59 Alun60 Hugh Owen61 Eryri62 Môn63 John Phillips Hall64 Dyfrdwy65 Music66 Cae Derwen Villa67 Cae Derwen68 Lloyd Building69 The Miles Dyslexia Centre 70 Student Services (Rathbone)71 Gartherwen72 Neuadd Garth

Dean Street73 Welsh for Adults, Lifelong Learning;

IMSCaR74 School of Computer Science;

School of Electronic Engineering

St. Mary’s75 Bryn Eithin76 St Mary’s main building

Upper Bangor77 Anglican Chaplaincy78 Catholic Chaplaincy

Information correct at time of publication: May 2011.

LIBRARIESArchive Service 51Deiniol Library 47Fron Heulog Library 37Health Studies Library (at Wrexham site)Main Library 51Music Library 65Normal Site Library 11Wolfson Library A

CATERING AND SOCIAL FACILITIES

Bar/Club 43 Bar Uno 33Caffi Glas 39Caffi Teras 51Caffi Teras Coffee Pod 51Management Centre Lounge 60Y Bistro 4

RESIDENCES

College RoadNeuadd Garth 72

Ffriddoedd SiteAdda 34Alaw 22Braint (Lower floor – Shop) 32Cefn-y-Coed 24Crafnant 29Elidir 19Enlli 20Ffraw 28Glaslyn 27Gwynant 36Idwal (Ground floor – Halls Office, Conference andCatering Office) 35John Morris-Jones Halls:

Bryn Dinas 25Tegfan 26

Llanddwyn 31Neuadd Reichel 17Peris 21Y Borth 23Y Glyder / Security Lodge 30

Normal SiteNeuadd Arfon 3Neuadd Seiriol 2

St. Mary’s SiteBryn Eithin 75

University Main ReceptionUniversity Parking (Entry card required)Public Pay and Display Parking

Buildings 1-16 are shown on the Normal Site map overleaf. Buildings A and B are shown on the School of Ocean Sciences map overleaf.

EICH UNDEB MYFYRWYR...caiff ei redeg gan 5 Swyddog Sabothol sy’n fyfyrwyr;

cânt eu hethol gan eu cyd fyfyrwyr i gymryd blwyddyn o’u hastudiaethau academaidd i redeg eich Undeb Myfyrwyr.

Mae sicrhau fod gan Brifysgol Bangor Drefn Cynry-chiolwyr Cwrs effeithiol yn un o’r pethau mae Undeb y Myfyrwyr yn ei wneud i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli ym mhob agwedd o fywyd Prifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch at www.myfyrwyrbangor.com neu...galwch heibio i ddweud helo.

EIN PWRPAS:

Gwneud yn siwr bod

eich llais

yn cael ei glywed

Page 20: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Cynghorion pwysig Cyfarfodydd…Mae cyfarfodydd y pwyllgorau cyswllt staff-myfyrwyr yn cael eu rhedeg gyda myfyrwyr mewn golwg, felly maent yn debygol o fod yn llai ffurfiol na chyfarfodydd pwyllgor eraill y Brifysgol (cyfarfodydd Byrddau Astudio er enghraifft). Fodd bynnag, mae yna dal rai pethau y dylid eu cofio wrth fynychu’r cyfarfodydd hyn.

Cyn cyfarfod- siaradwch gyda’ch cyd fyfyrwyr i dderbyn adborth (da a drwg) am eu profiad academaidd.

- gwnewch nodyn o unrhyw faterion penodol sydd angen mynd i’r afael â nhw yn y cyfarfod a gwnewch gais iddynt gael eu cynnwys ar yr agenda (drwy gysylltu â chadeirydd neu ysgrifennydd y cyfarfod.)

- siaradwch â Chynrychiolwyr Cwrs eraill yn eich ysgol i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa faterion maent eisiau eu codi, a gadewch iddyn nhw wybod am y materion rydych chi wedi dod ar eu traws.

- gan weithio ar ben eich hun neu gyda’ch cyd Gynrychiolwyr

Cwrs, gwnewch nodiadau ar yr hyn yr hoffech ei gyflawni yn y cyfarfod.

- casglwch dystiolaeth i gefnogi eich dadleuon: e-byst, arolygon, deisebau myfyrwyr, sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol, adroddiadau etc. a phrintiwch grynodebau o dystiolaeth i’w cylchu mewn cyfarfodydd, os oes angen. - darllenwch a phrintiwch y cofnodion blaenorol, unrhyw dystiolaeth sydd gennych a nodyn ysgrifenedig o’r hyn rydych eisiau ei ddweud.

- gwnewch gynllun o’r holl bethau rydych am eu dweud mewn cyfarfod a’r dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich pwyntiau.

Page 21: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

21

Yn ystod cyfarfod

Cymerwch gopi o’r cofnodion blaenorol, unrhyw dystiolaeth

sydd gennych a nodyn ysgrifenedig o’r hyn rydych

am ei ddweud

Gwnewch yn siwr o gyrraedd 5 munud yn gynnar i ymgynefino,

ffeindiwch sedd dda a chael sgwrs gyffredinol gyda’r bobl

eraill sydd ynoCeisiwch eistedd gyferbyn

â’r Cadeirydd ac yng ngwmni’r Cynrychiolwyr

Cwrs eraill – bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i chi si-

arad ac yn rhoi hyder i chi

Rhowch adborth cadarnhaol yn ogystal â negyddol a gwnewch y siwr bod eich

beirniadaeth yn adeiladol drwy aros yn ffeithiol ac awgrymu ffyrdd o ddatrys problemau

Ceisiwch fod yn amyneddgar a pheidio â chyffroi ac ymateb yn emosiynol – bydd hyn yn

gwneud i chi ymddangos yn fwy cyfrifol a chredadwy.

Rydych yno i gynrychioli myfyrwyr, nid chi eich hun! Defnyddiwch ‘Mae myfyrwyr yn credu...’ yn hytrach na

‘Rwy’n credu...’

Ceisiwch beidio â gwneud sylwadau ynghylch aelodau unigol

o’r staff na myfyrwyr unigol – dadleuwch y pwynt ac unrhyw

benderfyniadau a wnaed!

Cymerwch eich nodiadau eich hun drwy gydol y cyfarfod, gan gofnodi’r prif bwyntiau a godir, diweddariadau,

pwyntiau gweithredu ac unrhyw benderfyniadau a wnaed.

Yn dilyn cyfarfod

Rhowch drefn ar eich nodiadau’n fuan ar ôl y cyfarfod i osgoi anghofio

unrhyw fanylion

Darllenwch drwy’r cofnodion swyddogol i wneud yn siŵr eu bod y gywir, ac

awgrymwch newidiadau os oes eu hangen

Cwblhewch unrhyw bwyntiau gweithredu y gwnaethoch gytuno

arnynt, siaradwch gyda Chynrychiolwyr Cwrs eraill am y cyfarfod a gwnewch yn siŵr o fonitro’r cynnydd ar wahanol

faterion

Adroddwch yn ôl i fyfyrwyr ar yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod (cylchwch y cofnodion) a thrafodwch

gynnydd gyda nhw fel mae’n datblygu

Page 22: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Cynghorion pwysig (parhad)

Ymgysylltu â chyd fyfyrwyr…Mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’ch cyd fyfyrwyr gymaint â phosib ynghylch materion academaidd:- mae’n helpu’r ysgolion i ddeall pa anawsterau mae myfyrwyr yn eu hwynebu- mae’n helpu ysgolion i ddatrys materion mewn ffordd sy’n dderbyniol i fyfyrwyr- mae’n sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod fod eu safbwynt yn cael ei werthfawrogi- mae’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybod am ymdrechion eu hysgol i wella eu profiad academaidd- mae’n sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn ymwybodol o’r anawsterau mae myfyrwyr yn eu hwynebu

Mae yna dri phrif faes y gallwch ffocysu arnynt i ymgysylltu â myfyrwyr:

Gwnewch eich hun yn hysbys i bawbNi all myfyrwyr siarad gyda chi oni bai eu bod yn gwybod ble i ddod o hyd i chi! Mae yna ddigonedd o ffyrdd i wneud eich hun yn hysbys:

Gwnewch gyhoeddiad mewn darlithiau – cyflwynwch eich hun ar ddechrau darlithiau mae eich cyd fyfyrwyr yn eu mynychu.

Anfonwch e-bost grwp – bydd eich ysgol yn eich helpu i anfon e-bost at bob myfyriwr sydd dan eich cyfrifoldeb

Sefydlwch hysbysfwrdd Cynrychiolwyr Cwrs - dylai eich ysgol fod yn hapus i ddarparu gofod i arddangos ffotograffau ohonoch a

manylion cyswllt.Dechreuwch grwp Cyfryngau Cymdeithasol – ond gwnewch yn siwr

ei fod drwy wahoddiad yn unig ac mai dim ond drwy negeseuon preifat y caiff myfyrwyr adael i chi wybod am eu pryderon.

Trefnwch gyfarfod cwrdd a chyfarch - trefnwch amser a lle pan gall myfyrwyr ddod i ddweud helo, boed hynny yn yr ysgol, yn y parc

neu mewn tafarn!

Page 23: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

23

Hel barn myfyrwyr

Adborth yn ôl i fyfyrwyr

Yn ogystal â myfyrwyr yn chwilio amdanoch chi i’ch hysbysu am bryderon, gallwch chi:

Anfon e-byst rheolaidd cyn cyfarfodydd - efallai y gwnaiff e-bost berswadio rhywun i drafod mater gyda chi.

Anfonwch negeseuon drwy gyfryngau cymdeithasol - parhewch i wahodd pobl i siarad gyda chi; bydd rhai myfyrwyr angen anogaeth!Sefydlwch flwch adborth dienw – mae’n bosib bydd rhai myfyrwyr yn

rhy swil i siarad gyda chi ond dal eisiau cynnig eu hadborth.Lluniwch arolygon a holiaduron – os oes yna fater sy’n codi yn eich

ysgol, mae gennych lawer gwell siawns o gael yr ysgol i weithredu os oes gennych dystiolaeth i gefnogi eich honiad.

Dadansoddwch ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac ystadegau am farn myfyrwyr – bydd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ac arolygon myfyrwyr eraill yn rhoi syniad da i chi o’r meysydd mae angen i’ch ysgol ffocysu arnynt, a gallai gynnig themâu i chi hel barn

myfyrwyr yn eu cylch.

Yn ogystal â gadael i’ch ysgol ac UM wybod beth mae myfyrwyr yn ei feddwl, mae’r un mor bwysig i adael i fyfyrwyr wybod sut mae UM a’r

Brifysgol yn gweithredu.

Rhowch adborth yn dilyn cyfarfodydd – rhowch drosolwg o sut mae’r cyfarfodydd yn mynd a chylchwch y cofnodion pan eu bod wedi’u cwblhau, gan ofyn i fyfyrwyr beth oeddynt yn meddwl o’r cyfarfod.Cylchwch y newyddion diweddaraf ar gynnydd – pan fo eich ysgol,

y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu ar fater, gadewch i’r myfyrwyr wybod amdano er mwyn iddyn nhw weld bod eu safbwynt

yn cael ei gymryd o ddifrif. Pasiwch wybodaeth bwysig ymlaen – os wnewch chi glywed am newidiadau sydd ar droed, gadewch i fyfyrwyr wybod am hynny. Mewn cyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs efallai y clywch ddiweddariadau gan wasanaethau allweddol yn y Brifysgol fel TG, Gwasanaethau Llyfrgell a’r Gofrestrfa Academaidd; ceisiwch gylchu

cymaint o wybodaeth â phosib i’ch cyd fyfyrwyr.

Page 24: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Hyfforddi a chyfleoeddHyfforddiant Sylfaenol:

Hyfforddiant pellach:

Pryd? Sawl dyddiad drwy fis Hydref a Thachwedd, gyda sesiynau’n para 2 awr a hanner (awr a hanner i gynrychiolwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith).

Pwy? Bydd yna sesiynau hyfforddi ar gyfer pob Cynrychiolydd Cwrs, gan gynnwys y rheiny sy’n newydd i’r swydd a’r rheiny sy’n dychwelyd.

beth? Bydd yr hyfforddiant yn cyflwyno’r holl wybodaeth rydych ei angen i fod yn Gynrychiolydd Cwrs yn ogystal â rhoi profiad ymarferol i chi o fynychu cyfarfodydd ac ymdrin â materion academaidd myfyrwyr. Bydd y rheiny sy’n dychwelyd yn edrych ar ffyrdd o fod yn rhagweithiol a gwella fel Cynrychiolwyr Cwrs.

NOdyn: Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu’r hyfforddiant hwn ac mae’n orfodol i fynychu sesiwn os ydych am hawlio pwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am fod yn Gynrychiolydd Cwrs (ac eithrio cynrychiolwyr sy’n dychwelyd sydd eisoes wedi derbyn hyfforddiant).

Bydd sawl sesiwn yn cael eu cynnig gan Undeb y Myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn, a byddant yn eich helpu chi i ddatblygu’r sgiliau hynny y byddwch yn eu defnyddio fel Cynrychiolwyr Cwrs.

Gall meysydd hyfforddi nodweddiadol gynnwys:- Sgiliau uwch ar gyfer cyfarfodydd - Creu ymgyrchoedd ar sail tystiolaeth- Sgiliau Negydu- Hyrwyddo eich hun i fyfyrwyr - Trosglwyddo sgiliau ar gyfer cyflogaeth

Am restr lawn o sesiynau a dyddiadau hyfforddi, mewngofnodwch i’r modiwl Black-board Cynrychiolwyr Cwrs, ewch at www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs neu cysylltwch â Michelle ([email protected]).

Page 25: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

25

Cyfleoedd ysgol:Mae Cynrychiolwyr Cwrs yn bwysig iawn i’r ysgolion, gan eu bod yn helpu staff i ddeall anghenion a barn myfyrwyr yn well, ac maent yn rhan hanfodol o’r broses barhaus o wella’r profiad myfyrwyr. Felly, gall ysgolion gynnig nifer o gyfleoedd i’w Cynrychiolwyr Cwrs gymryd rhan mewn digwyddiadau ysgol fel cyfarfodydd Byrddau Astudio, Pwyllgorau Dysgu ac Addysgu a gweithgareddau eraill.

Os oes gennych ddiddordeb, siaradwch gyda chyswllt Cynrychiolwyr Cwrs eich ysgol (mae rhestr lawn ar gael ar www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs).

Cyfleoedd Undeb y Myfyrwyr:

Helpwch UM i ysgrifennu Astudiaethau Achos ynghylch sut beth yw bod yn Gynrychiolydd

Cwrs, sut mae Cynrychiolwyr Cwrs yn effeithiol a beth mae bod yn

Gynrychiolydd Cwrs wedi’i gynnig i chi.

Helpwch ysgrifennu ‘prosbectws amgen’ ar gyfer Prifysgol Bangor - wedi’i ysgrifennu gan fyfyrwyr ar gyfer darpar fyfyrwyr i adael iddyn nhw wybod sut brofiad yw

bod yn fyfyriwr ym Mangor.

Cymerwch y cyfle i fod yn Seneddwr Gweithgaredd Undeb y Myfyrwyr – rydym angen dau

Gynrychiolydd Cwrs pob blwyddyn i gynrychioli’r holl Gynrychiolwyr

Cwrs yn Senedd UM.

Cymerwch ran mewn grwpiau ffocws i helpu Undeb y Myfyrwyr ddeall barn myfyrwyr yn well

yn ogystal â sut y gallwn wella’r Drefn Cynrychiolwyr Cwrs.

CynrychiolwyrCwrs+Bydd bod yn Gynrychiolydd Cwrs yn ehangu a gwella eich sgiliau, yn gwella eich dealltwriaeth o ddemocratiaeth, prifysgolion ac undebau myfyrwyr, yn ogystal â chynnig profiadau rhagorol i chi. Er mwyn clustnodi’r holl ffyrdd rydych wedi cael budd yn ogystal â dweud wrthym sut y gallai eich profiad wedi bod yn well, rydym yn darparu teclyn hunan werthuso ar-lein ar eich cyfer - CynrychiolwyrCwrs+,

Darperir manylion am Cynrychiolwyr Cwrs+ tua diwedd Semester 2 pob blwyddyn.

Page 26: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Dathlu eich llwyddiantGallwch hawlio eich pwyntiau profiad at eich Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am fod yn Gynrychiolydd Cwrs a chymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau Cynrychiolydd Cwrs.

- 5 pwynt am fynychu hyfforddiant Cynrychiolwyr Cwrs (pob blwyddyn academaidd)- 5 pwynt y semester am fod yn Gynrychiolydd Cwrs (rhaid i chi fynd i gyfarfodydd ysgol a mynychu o leiaf un cyfarfod Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs i fod yn gymwys) - 5 pwynt am bob cwrs hyfforddi Cynrychiolwyr Cwrs ychwanegol rydych yn eu mynychu - 5 pwynt am gwblhau’r CynrychiolwyrCwrs+, eich teclyn hunan werthuso ar-lein

Eisiau mwy o wybodaeth am GCB?

www.facebook.com/BangorEmployabilityAward

Cysylltwch â thîm Cyflogadwyedd Bangor:

[email protected]

01248 368732

Sut i hawlio eich pwyntiau Gwobr

Cyflogadwyedd BangorBydd y Cydlynydd Cynrychiolwyr Cwrs yn cadw cofnod o bwy sy’n mynychu cyfarfodydd ysgolion a

Chyngor y Cynrychiolwyr Cwrs ac yn gadael i’r tîm wybod i bwy y dylid dy-farnu pwyntiau. Gyda phob hyfford-diant Cynrychiolwyr Cwrs, byddwch yn derbyn gwybodaeth bellach ar y dydd, a gyda CynrychiolwyrCwrs+ , byddwch yn cyflwyno eich tasg ar-

lein i gynhyrchu pwyntiau.

Page 27: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

27

Noson Wobrwyo’r Cynrychiolwyr Cwrs – Bydd pob Cynrychiolydd Cwrs yn derbyn tystysgrif i gofnodi eu hymroddiad gwirfoddol dros bob blwyddyn academaidd. Byddant hefyd yn cael y cyfle i fynychu Noson Wobrwyo’r Cynrychiolwyr Cwrs; noson o ddathlu a drefnir ar y cyd gyda Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor tua diwedd semester 2 bob blwyddyn academaidd.

Gwobr Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn –

Sut allwch chi gymryd rhan?Yn gyntaf, gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud eich gwaith yn dda!Yna, pan fyddwch yn derbyn gwybodaeth am y broses enwebu yn semester 2, cylchwch y wybodaeth i’ch cyd fyfyrwyr fel eu bod yn gwybod sut i’ch enwebu chi. Mae’r gweddill i fyny iddyn nhw – pob lwc!

Bob blwyddyn bydd eich Undeb Myfyrwyr yn siarad gyda myfyrwyr ym Mangor i gael gwybod sut effaith mae Cynrychiolwyr Cwrs yn ei gael ar eu profiad academaidd ac i gael gwybod am

y gwahanol ffyrdd y mae Cynrychiolwyr Cwrs wedi cerdded y filltir ychwanegol.

Byddwn hefyd yn gwahodd myfyrwyr i enwebu eu Cynrychiolwyr Cwrs ar gyfer Gwobr Cynrychiolydd Cwrs y flwyddyn, os ydynt yn

teimlo bod eu Cynrychiolydd Cwrs yn ei haeddu!

Bydd y Cynrychiolwyr Cwrs buddugol yn cael cyflwyno eu gwobrau yn y Noson Wobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs, yn ogystal â chael eu gwahodd am gyfweliad ynghylch eu teimladau am ennill y

wobr.

Page 28: Llawlyfr Cynrychiolwyr Cwrs

Rhestr Gyswllt undeb myfyrwyr:Y Tîm Cynrychiolwyr Cwrs (Uned Cynrychiolaeth Academaidd)[email protected]

Michelle Hamlet [email protected]

[email protected]

Shôn [email protected]

01248 383651

Cydlynydd Cynrhychiolwyr Cwrs01248 383651

01248 362121

Is Lywydd Addysg a Lles01248 388019

prifysgol Bangor:Gwobr Cyflogadwyedd Bangor [email protected]

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

[email protected]

Gwasanaethau Cefnogi [email protected]

01248368732

01248 382071

01248 382024

Ysgolion AcademaiddMae pob ysgol academaidd ag aelod staff wedi’i ddewis y gallwch gysylltu â nhw i gael gwybod am weithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs o fewn eich ysgol neu i gael ateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych. I gael gwybod pwy yw cyswllt eich ysgol, ewch at:www.myfyrwyrbangor.com/cynrychiolwyrcwrs

Mae’r llawlyfr hwn ar gael yn Saesneg:www.bangorstudents.com/coursereps