lloffion llangynfelyn braslun o hanes y chwarter

12
LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter - MEHEFIN, 1956, ynghyd â Lloffion Amrywiol. PRIS 6ch ' i

Upload: others

Post on 18-Oct-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

L L O F F I O N L L A N G Y N F E L Y N

Braslun o Hanes y Chwarter- MEHEFIN, 1956,

ynghyd â

Lloffion Amrywiol.

PRIS 6ch

' i

Page 2: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

^ w»

0

LLOFFION LLANGYNFEITN

Rhifyn 2, Gorffennaf 1956.

Diolch am y croeso oynnes a roddwyd i rifyn cyntaf y "Lloffion". Paratowyddros gant o gopiau, ond fe'u gwerthwyd i gyd o fewn deuddydd a bu raid argraffurhagor. Ymddengys bod y cylchgrawn yn dderbyniol gan y plwyfolion - hen a mwydiweddar.

Derbyniwyd nifer o lythyrau cymeradwyol. "Y mae'r rhifyn cyntaf yn dda iawn",yn ôl y Dr.Tom Richards, Bangor, un o gewri'r plwyf. "Fel hyn y mae crynhoi hanes",medd Mr.Dewi Morgan, Llandre. Ysbrydolwyd un o feirdd alltud y plwyf, sef Mr.ErniePugh, Brynarian gynt, i ganu Cywydd i ddymuno'n dda i'r fenter. Bu gohebydd y"Cambrian News" heibio ac yna ysgrifennu molawd i'w bapur. Diddorol hefyd ywcofnodi i Lyfrgell y Sir, Aberystwyth, a'r Llyfrgell Genedlaethol ofyn am gaelcopiau.

Rhoddwyd elw y rhifyn cyntaf i gronfa'r Pwyllgor Gwelliannau lleol. Bwriedircadw unrhyw elw a wneir o rifynnau'r dyfodol tuag at brynu "duplicator" a all fod ogymorth nid yn unig i'r "Lloffion", ond i weithgareddau eraill y plwyf.

Diolchwn yn gynnes i'r rhai a gyfrannodd i'r rhifyn hwn. Gobeithio y deil yrymateb campus a gafwyd ar y dechrau ac y daw eraill o'r hynafgwyr a phobl ieuangachi gyfrannu i'n tudalennau. Danfoner pob gohebiaeth i'r GOLYGYDD, T 'R YSGOL,TALIESIN, MACHYNLLETH.

Braslun o Hanes y Chwarter: Ebrill - Mehefin

Genedigaethau: Ebrill 17. Mab, Elfed Wyn, i'r Parch.a Mrs.O.J.ROBERTS, Llysteg,Taliesin,

Ebrill 25. Mab, Peter John, i Mr.a Mrs.W.ROBERTS, Brynhyfryd,Taliesin.

Mai 6. Mab, Meirion, i Mr.a Mrs.E.R.JAMES, 1, North Road,Tre'rddôl.

Mehefin 27. Mab, David Alan, i Mr.a Mrs.D.J.JONES, Llonio,(Tan-llan gynt),

Marwolaethau: Ebrill 23. Mr.Kenneth Leonard Cynfelin Humphreys, Gwelfor,

Pen-cae, Taliesin.

Mai 9. Mr. James Hughes Evans, Tegfan, Tre'rddôl.Mai 23. Mrs.Gwenllian Wozencroft, 2, Wesley Terrace, Taliesin,Mehefin 28. Mr.Richard James, Isfryn, Pen-cae, Taliesin.Mehefin 29. Mrs.Jane Humphreys, Pen-parc.

Page 3: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

- 3 -

Dechreuodd a i l chwarter y flwyddyn ar Sul y Pasg. Yn Soar, Tre'rddôl,derbyniwyd saith o aelodau newydd o bli th plant yr eglwys gan y Parch.T.TreforParry, sef Mai Evans, Bronallt; Gwenllian ac Eiriona Davies, The Hall; \Doreen Roberts, Smithfield Terrace; Ann Roberts, Islwyn, Pen-cae; David Edwards,Glasfryn; ac Ifor Macdonald, Oak Cottage.Ebrill 7. Er y gobeithion uchel, co l l i a wnaeth tîm pel-droed Taliesin, 3-1, ynerbyn Bow Street, yng nghystadleuaeth y Cwpan Pentref. Drwg gennym gofnodi i ' rtîm fethu â chadw ynghyd tan ddiwedd y tymor.Ebri l l 12. Bu cyngerdd yn y Llan Fach dan nawdd y Pwyllgor Gwelliannau Lleol.Ymgasglodd tyrfa dda i weled a chlywed y Talentau Lleol yn cael eu cynorthwyogan Miss Iola Jones, Tal-y-bont, yn canu'n swynol, a ' r ddrama un-act "John HuwsDrws Nesa", yn cael e i hactio'n effeithiol dros ben gan Mr.a Mrs.Alwyn Jones,Pen-llwyn, a Mrs.H.J.Evans, T ' r Ysgol. Cafwyd "monologue" gan Mrs.Bailey,Sea View Terrace; adroddiadau gan y parablwr cyflym Ralph Davies, Llannerch D y f i ;a chaneuon gan Jano Davies, Glanclettwr; Gwenllian a Iona Davies, The Hall; aMrs.Isaac Jones, Clettwr Terrace, Cafwyd topicaliaid gan driawd mwyn y DderwenFrenhinol, sef y Mri.Richard Rowlands, John Wynne a Danny Rowlands. Dyma ddaubennill a ganwyd ganddynt, -

"Nawr beth am seddau cryfion clen?Bydd rhain o fudd i bobl hen;I ambell bâr 'rôl daw y nosBydd sedd yn well na chornol ffos.

Bydd un yn handi -wrth y ffôn,Mae'r ddwy sydd yno'n grin i ' r bôn;Pan fyddo ciw am ddeial "0"Beth am 'sit-down', - pawb yn ei dro."

Canwyd gan gôr, a dawmsiwyd gan ddau bar t i o ferched ifainc heirdd y plwyf,sef Jano Davies, Gwenllian a Carys Davies, Lillian Roberts, Muriel Roberts,Eirlys Edwards, Ann Davies, Ann Roberts, Olwen Rowlands a ! r ddwy Catherine Davies.Cawsant eu dysgu gan Miss Dorothy Owen, Epworth, Miss Jennie Pugh, Llythyrdy, aMiss Jennie F.Thomas, Tremfor.

Cafwyd dawns liwgar (dan ofal Miss Sue Edwards,' Coedmor) gan Kay White,Mai Evans, Iona Davies, Pat Pugh, Ann a Helen Roberts, Maureen Thomas ac AneurinRoberts.

Rhoddwyd manylion pur lawn o ' r cyfarfod hwn am ddau resswm.(IV Yma y gwelodd rhifyn cyntaf y "Lloffion" olau dydd. . .(2) Cynhaliwyd y cyfarfod bron yn gyfan gwbl gan bobl ifainc y p l w y ' - arweinydd-

ion y plwy' yn y dyfodol, - a gwnaethant waith da. Dalient ati!Ebrill 19- Ar diwrnod hwn fe glywyd y gog yn canu gan Mrs.J.T.Edwards, Glasfryn.Ni chlywsom am neb wedi clywed deunod yr aderyn cyn hyn yng nghyffìniau'r plwy'.

> • • ' • • • • • . • • • •

Tua'r adeg yma bu Mr.Peter Magee yn tynnu i lawr ac yn cymhennu tipyn arfurddun y ''Belle Vue". Yn ei lyfr "Yr Hen Gyrnol" rhoddodd Evan Isaac hanes ybaledwr, Lewys Davies y Clochydd, a ' i wraig yn dod i ' r plwyf. "Lletyent yn yBelle Vue, l l e t y ' r fforddolion, a gedwid gan Isaac Jones. Deuai i'r Belle Vue odro i 'w gilydd holl amrywiaeth godreon dynoliaeth, o ' r German Band i ' r crwydryn

Page 4: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

\

- 4 -

mwyaf troednoeth a charpiog, a threthwyd natur Isaac Jones, oni fyrhawyd eiddyddiau, trwy ddychmygu gwyrthiau i gadw'r llety yn symol lân ac iach".Dywed Mr. Magee ei fod ef wedi bod yn cadw 18 o "lodgers" yn y t am 4 c ydydd. Byddai'n ddiddorol cael rhestr o hen furddunnod y plwy' a pheth o'uhanes.

Ebrill 20. Chwaraewyd cyfaddasiad o "Daith y Pererin" (John Bunyan) mewn 12golygfa, yn Festri Rehoboth gan blant yr Ysgol Sul, yn cael eu cynorthwyogan gôr o rai mewn oed dan arweiniad Miss Jennie F.Thomas, Tremfor. Paratowydy llwyfan yn ardderchog gan Mr.Tom Ll.Jones, Min-y-môr. Ond i Mrs.Basil Jones,Oak Villa, y mae'r clod mwyaf am lwyyddiant mawr y perfformiad. Hi a fu'ncyfaddasu'r ddrama, yn paratoi celfi'r llwyfan a'r gwisgoedd ac yn cynhyrchu'rcyfan. Nid arbedodd unrhyw drafferth er cael cywirdeb manwl. Anelwyd yn uchel,a chafwyd perfformiad cofiadwy. Ailchwareuwyd y ddrama ar Fai 9 yn Neuadd yPlwyf, Aberystwyth, fel rhan o'r Arddangosfa Fawr Genhadol. Yr oedd y ganmoliaethyma eto'n uchel iawn. Llongyfarchiadau calonnog i'r cynhyrchydd medrus a'rparti a gynhwysai: - Peter a Gareth Jones, Oak Villa; Glyn Roberts, Brynhyfryd;Raymond Williams, Hafan; Geraint Evans, Ty'r Ysgol; Christopher Rowlands,Royal Oak; Robert Williams, Pen-y-wern; John Evans, Ty'r Ysgol; Gillian Rowlands,Royal Oak; Ann Williams, Pen-y-wern; Shirley Lloyd, Gwarcwm Isa; Mair Lloyd,Y Bwthyn; Mary Howard, Pencae Villa; Gwen Lloyd, Gwarcwm Isa; Elaine Jones,Oak Villa; Pauline Lloyd, Dyffryn; Jane Davies, Manteg; ac Anwen Housigo, Hafan.

Mai 14 a Mehefin 25. Bu cyfarfodydd cyhoeddus i drafod y Gystadleuaeth am yPentref Mwyaf Taclus yn y Sir. Anfonwyd enwau'r ddau bentref, Taliesin aThre'rddôl, i'r gystadleuaeth, gan y Gyngor Plwyf, ac y mae'r Cyngor a Sefydliady Merched yn cydweithredu yn y mater. Yn y cyfarfodydd ceisiwyd barn a chymorthy plwyfolion, a chafwyd awgrymiadau gwerthfawr.

Yn y gystadleuaeth rhoddir marciau am (l) Cyflwr cloddiau, gwrychoedd amuriau, yn enwedig y rhai hynny a fo'n agos i adeiladau. (2) Taclusrwydd gerddiblodau a llysiau, ac ymddangosiad trefnus cytiau a thai allan, (3) Glendidnentydd. (4) Cyflwr y mynwentydd, ac amgylchoedd yr eglwysi a'r capeli.(5) Ymddangosiad cyffredinol yr ysgol, y siopau, modurdai, a thai busnes,(6) Dim ysbwriel a thomenni ysgarthion hyll.

Bydd y beirniaid yn ymweld â'r pentrefi yn ystod mis Medi yn ddirybudd.Rhoddir tlws o waith haearn gyr i'r pentref buddugol i'w gadw am flwyddyn.

Mehefin 3. Derbyniwyd chwech o blant Rehoboth yn gyflawn aelodau gan y Parch.O.J.Roberts, sef Shirley Lloyd, Gwarcwm Isa; Mair Lloyd, Y Bwthyn; Menna Jones,Tan-llan; Gwynn Jones, Tanrallt; Richard Jenkins, Tymawr Mochno; a John Evans,Ty'r Ysgol.

Mehefin 12. Bu Cyfarfod Dosbarth cylch y "Garn" yn Rehoboth, a chafwyd agoriadda gan y Dr.T.Ifor Rees, Bronceiro, Llandre, ar y testun: "Safle a Chyfraniadyr Eglwys Bresbyteraidd ym Mywyd Cymru Heddiw".

Gwibdeithiau'r Ysgolion Sul. Mai 23 aeth Rehohoth i'r Rhyl; Mai 25 aeth yrEglwys i Abertawe; Mehefin 30 aeth Soar i Landudno.

Page 5: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

Y CYNGOR PLWYF. Cadeirydd newydd y Cyngor am eleni yw Mr.Timothy S.Jones,Pen-cae, a Mr.Chambers Morris, Dyffryn, yn Is-gadeirydd. Ar Fehefin 11 daethMr.Dafydd Morris Jones, Ysgrifennydd Cymdeithas Cynghorau Plwyf Sir Àberteifii annerch y Cyngor, a phenderfynwyd ymuno â ' r Gymdeithas. Dywedodd fod 71 oGynghorau Plwyf yn y Sir, a dylai pob un ohonynt fod yn "Senedd y Pentref" acyn fyw ac effro i bob cyfle cyfreithlon i wel la ' i blwyf. Y prif anhawster ywprinder pres. Yn ôl y trethiannau newydd daw treth o geiniog ag £8 i mewn ymmhlwyf Llangynfelyn.

Ymhlith y pethau y bu'r Cyngor yn eu trafod ge l l i r nodi:-( l ) Cael "telephone kiosk" yn Nhre'rddôl. (2) Cael caniatâd i ' r Cyngor Sirfabwysiadu Stryd y Capel. (3) Cael gwell arwydd i ddangos y ffordd i ' r Borthger Waun-to, Bellach, rhoddwyd l l i n e l l wen yno ar ganol y ffordd. Gynt bumodurwyr yn myned yn eu blaen i gyfeiriad Plas y Penrhyn. (4) Trefnu pa foddi dacluso rhyw dipyn ar y ddau bentref.

Y PWYLLGOR GWELLIANNAU LLEOL. Uchod rhoddwyd hanes y Gyngerdd o Dalentau Lleola drefnwyd gan y Pwyllgor hwn. Cafwyd elw sylweddol, ond nid oes eto ddigon oarian mewn llaw i gael seddau. Gwneir ymholiadau hefyd yngl n â ' r gost o osodtap d r yn y Fynwent.

SEFYDLIAD Y MERCHED, (W.I.) Ym mis Ebrill rhoddwyd Swper i ' r aelodau ganMrs.Embury, Llywydd y Sefydliad, a chafwyd Noson Gymdeithasol ddifyr. Ym misMai rhoddwyd sgyrsiau diddorol ar waith Cymdeithas y Groes Goch gan Mrs.OwenLloyd a Mrs.Dudley Thomas o Aberystwyth. Ym Mehefin cafwyd siwrnai yn y s i a r ii Gaernarfon a Bangor, a ' r tywydd, y wlad a gyrrwr y s ia r i i gyd ar eu gorau.Bu!r Sefydliad yn cydweithio'n frwdfrydig gyda'r trefniadau i harddu'r pentrefiMrs.J.T.Edwards, Glasfryn, yw Ysgrifenyddes y gymdeithas, a hi oedd yn eucyncychioli yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn yr Albert Hall eleni.

YR YMGYRCH LYFRAU CYMRAEG. Ni bu cymaint llwydd ar yr Ymgyrch eleni. Gwerth-wyd 40 o lyfrau Cyraraeg gwerth £13.7.6. Y llyfrau mwyaf poblogaidd yma oedd"Cofìant J.T.Rees" ac "Atlas Hanesyddol Ceredigion"; dengys hyn, i raddau, fodcryn ddiddordeb mewn hanes l l e o l . Diolchir i Mai Evans, Bronallt, a Iona Davies,The Hall, am eu llafur gyda'r Ymgyrch. Trwy gyfrwng yr Ymgyrch gwerthwyd 3294o lyfrau Cymraeg drwy'r Sir. Y llyfrau mwyaf poblogaidd oedd. ( l ) Yr AtlasHanesyddol; (2) Y Be ib l Cymraeg (Argraffiad newydd 1955); (3) Ffenestri Tua'rGwyll, nofel newydd.

CYNGOR DOSBARTH ABERYSTWYTH A'R PLWYF. Yng nghofnodion y Cyngor Dosbarth ceiry manylion hyn am Dai Newydd Tre'rddôl, neu "Maesclettwr". -

Mehefin 11. Pasiwyd i dderbyn "tender" yr "Anglo-American Asphalt Co.Ltd."(Chwareli Allt-goch) i wneud y "s i te works" - hynny yw, y ffyrdd,carthffosydd, etc.

Mehefin 18. (a) Dewiswyd yr Is-bwyllgor canlynol i benodi tenantiaid i ' rt a i newydd,- Y Cynghorwyr T.J.Pugh, A.S.Morgan, E.J.Evans-Vaughan,W.Hopkins, J.O.Morgan, D.J.Davies, a D.Lloyd Jones.

(b) "Kiosk" Tre'rddol. Un kiosk a geir yn ystod y flwyddyn1956/57 o fewn cyffiniau'r Cyngor, a wnnw yn Nhrefenter. Hysbysodd y

Page 6: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

- 6 -

Clerc na a l l a i Adran Deliffôn Swyddfa'r Post ys tyr ied cais Tre'rddôlam fod kiosk a r a l l o fewn hanner m i l l t i r . Pasiwyd bod y Clerc i egluroi ' r Swyddfa y byddai ffôn yn Nhre'rddôl o wasanaeth i gylch eang i ' rgogledd o ' r pentref, cylch nad oes unrhyw ddarpariaeth ar e i gyfer a rhyn o bryd.

LLONGYFARCHIADAU I : -

1. Mr. J.Reginald Edwards, Aberystwyth, ar gael e i ddewis yn Grwner (Coroner)dros Ogledd Si r Aber te i f i .

2 . Y Cynghorwr Llewelyn Jenkins, ar e i e thol am y trydydd t r o i Gyngor DinasCaerdydd. Pe gofir iddo fod yn ddirprwy Arglwydd Faer flwyddyn yn ô l .

3. Lesley Mary Hughes (gynt o Hyfrydle), a r gymryd rhan o l e i a f unwaith mewnrhaglen deledu a dwywaith mewn rhaglenni radio. Bu'n darl len rhan oNeges Heddwch Plant Cymru i ' r Byd.

4. Gwernfab, Tal-y-bont. am enni l l n i fer o gadeiriau am farddoni a chymrydrhan yn y darl lediad o ' r Bryddest Radio, "Y Ddawns".

5. M r . B i l l y Evans, Bronal l t , Taliesin, (nawr mewn banc yn y Bala) ar fod ynaelod o ' r cwmni a eni l lodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod y r Urdd,Caernarfon, am chwarae drama un-act .

6. Miss Nesta Evans, e i chwaer, am basio arholiad y R.S.A. mewn "Book-keeping"Gradd 2, w e d i di lyn cwrs yng Ngholeg Addysg Bellach, Aberystwyth.

7. Miss Gwenllian Davies, The Hall , ar basio un o a rhol iadau ' r GwasanaethSifil.

8. Miss Judith Williams, Pen-y-Wern, ar gael ei dewis yn un o forynion heirddy Frenhines yn Rali'r Ffermwyr Ifainc a gynhaliwyd yn Nhal-y-bont.

9. Alwen Ann Williams, Pen-y-wern, am ennill y wobr gyntaf yn y Dosbarth dan10 oed yn Arholiad Ysgolion Sul M.C. Gogledd Aberteifi. Cafodd 97 ofarciau allan o 100. Daeth y rhain hefyd yn y dosbarth cyntaf} -Dan 16: Shirley Lloyd, Gwarcwm Isa; a John Evans, Ty'r Ysgol.Dan 13: Gillian Rowlands, Royal Oak.Dan 10: Glyndwr Roberts, Brynhyfryd; Gareth Jones, Oak Villa; a

Geraint Evans, T 'r Ysgol,10. Yr aelodau canlynol o Ysgol Sul Soar, Tre'rddol, am eu llwyddiant yn

Arholiad Maes Llafur y Methodistiaid, -Dan 13: Jane Ellen Macdonald, Oak Cottage, (Ail yn Nhalaith y De) a

Helen Roberts, Islwyn; Mary Howard, Pencae Villa; aCynthia Marshall, Glanclettwr, yn y dosbarth cyntaf.

Dan 16; Mai Evans, Bronallt, (Cyntaf yn Nhalaith y De),

Dan 21; Eiriona Davies, The Hall (Cyntaf trwy Gymru).

Dros 21: Mr.J.M.Davies, The Hall, a Miss Nesta Evans, Bronallt,(Cydradd gyntaf trwy Gymru).

Page 7: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

- 7 -

"LLOFFION LLANGYNFELYN"

(Cywydd Cyfarch

gan William Ernest Pugh, Rochester, Caint)

Siwrnai ddigloff i ' r "Lloffion"A hir oes i ' r fenter hon.Rhamant ein plwy' a rwymir;O'r grawn hael rhagor yn w i r .

O fro wen awen a hwylYsgub a ddaeth, annisgwyl.Llonnwyd fy Èbri l l anodd, -Iai th fy mam sydd wrth fy modd.

Afiaith a gwae gânt ofod,Y mynd dwys a rhamant dod;Actau'r pwyllgorau a gawnLlwydd ac aflwydd yn gyflawn;A gwefr a gwên hen hanes,Doniau'n hael i 'w dwyn yn nes.Y llon brydyddion ar dantYn hwyliog am a welant,A beirdd ymhell o ' r hen bauA thw' hiraeth eu horiau.

Di-draul dy haul Huw drylen,Wyt grewr a l lo f fwr llên;A da ei ran, nid ar ôl,Arthur a ' i deipio gwyrthiol.

O drimis ara ' dramwy!O dywys melys, moes mwy.

Pobl Tre'rddol a Thaliesin yn "mynd i ' r dref",Atgofion gan Mr.Dewi Morgan, Llandre.

Yr wyf yn sôn ara y modd y byddai pobl Tre'rddôl a Thaliesin yn myned iAberystwyth yn y blynyddoedd 1885-1905. Fe gofir mai dydd Llun yw diwnodmarchnad Aberystwyth ers amser h i r , a dyma'r olwg a gaem ni , bobl Penygarnarnynt. Cerbyd dwy olwyn a "springs" dano fyddai ganddynt, gwaith saer l leol .Go anesmwyth fyddai'r daith am fod gormod o bwysau ar gefn y ceffyl, acfe l ly 'n ysgwyd y teithwyr bob cam a gymerai'r ceffyl. Peta i ' r llwyth ynweddol wastad rhwng tu blaen a thu cefn y cerbyd fe fyddai'r daith yn llawerrhwyddach.

Yn Nhre'rddôl yr oedd Ned y Commercial yn cadw ceffyl a cherbyd. Goddiystyr oedd ef o gysur ei deithwyr. Llawer gwaith y gwelais y cerbyd a ' ilwyth yn sefyll o flaen tafarn Rhydypennau; Ned yn y dafarn a ' r cwmni allan

Page 8: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

- 8 -

yn y glaw. 'Wn i ddim faint a dalai'r bobl am eu cludo; rhywbeth o swllti ddeunaw yr un. O leiaf, swllt oedd y pris o Dal-y-bont. Fe ddaliai'rcerbyd saith neu wyth ar ei eithaf, a chymeraì'r daith o Dre'rddol i'rdref tua dwyawr.

Yn Nhaliesin yr oedd un William Pugh yn cadw cerbyd. Gydag ef yr oeddLewis Edwards. Cerbyd dwy olwyn oedd gan Pugh hefyd. Credaf nai g r o ' rGogledd oedd ef; beth bynnag, yr oedd yn ddyn anferth ei fa int . Yr oedd ganLewis Edwards wagenet fechan, cerbyd pedair olwyn, a dyna welliant mawr.Efallai bod hynny'n fwy o dynn i ' r ceffyl, ond nid oedd dim pwysau ar e i gefnnac ar y dorgami.

Yn Nhal-y-bont yr oedd amryw byd yn cadw cerbyd a cheffyl. Dyna DafyddEnoc a gadwai f fa t r i - byddai ef yn cario teithwyr ac ambell gorn o wlaneni'w werthu. Rhyw Lewis wedyn oedd yn dipyn o gigydd, yr oedd yntau hefyd yn"postio".

Efallai y dylwn grybwyll yn y fan hon y byddai T Mawr, Tal-y-bont, (yrhen enw ar y Black Lion) yn cadw ceffylau i fynd â thrafaelwyr (commercialtravellers) rhwng Aberystwyth a Machynlleth.. Byddai trafaelwyr yn gwerthubrethynnau, e t c , yn dwyn llawer o samplau i'w canlyn, a golygai hynny gryn

lwyth i'r ceffyl.Ond tua ' r flwyddyn 1893 daeth newid mawr ar y dull o "fynd i ' r dref".

Dyma'r adeg y daeth John Oliver o Lundain i ' r Odyn Fach yn ymyl Maesnewydd.G r anghyffredin oedd ef, cyfarwydd iawn â cheffyl. Teithiodd ef yr holl fforddo Lundain yn e i gerbyd a dau geffyl yn tandem. Yr oedd ei ferlen wen yn ddeallusdros ben. Gwelais ef yn ei galw o ben draw iard y stesion yn Llanfihangel, ac feddoi ato fel ci yn union. Fe wnâi iddi roi ei thraed blaen ar ben casgen, ac f e ' idilynai o gwmpas heb iddo ddweud dim wr th i .

Wel, daeth ef i fyw i ' r Odyn Fach tua 1893, a chanddo wagenet fawr yncario o ddeunaw i ugain; dau geffyl yn y bôn ac un ar y blaen. Hoffai O1iverwneud tipyn o sioe ohono'i hun, gwisgo clôs pen-glin a het feddal a chantelllydan iddi , - fel Buffalo Bill gynt. A phan ddoi'r cerbyd i ' r dref byddai'nmynd i fyny'r stryd fawr ar garlam, ac fe wyddai pawb fod pobl Tal-y-bontwedi cyrraedd.

Aeth e r a i l l i 'morol am wagenet, a dyma dranc y cerbyd dwy olwyn. AethJim Felix yn berchennog wagenet - mwy nag un ohonynt. A dyna Isaac Davies,"Isaac Argoed" - dyn go wlyb oedd ef. Gwelais â'm llgaid fy hun beth fel hyn;y Llun cyntaf yng Ngorffennaf 1899 oedd h i . Yr oedd yn mynd â ' r wagenet a dimond ta i r olwyn dani. Dyma oedd wedi digwydd. Wrth droi o lon Gogerddan i ! rffordd fawr, aeth un o'r olwynion cefn yn dipiau, gan adael dim ond y foth arôl . Daeth un hanner i ' r wagenet yn rhydd a'r dynion ar gefnau'i gilydd ar yllawr. "Ydech chi i gyd yn g l i r yna", meddai Isaac, ac adref ag ef, gan adaeli bob un gymryd ei siawns.

Daeth y bws modur tua 1922-23. Cwmni Lein Fach Corris oedd p iau ' r bysiaumoduron cyntaf, a dyna ben ar y cerbyd ceffyl.

Hwyrach y dylwn i hefyd grybwyll mai o Gyffordd Glandyfi y dôi'r llythyraui Daliesin a Thal-y-bont a hynny mewn cerbyd ceffyl. Rhyw John Andrew oedd yngyrru ' r cerbyd tua 1886-96. O leiaf, ef a gofiaf f i yn yr adeg hon. Cyfarfu efâ damwain angheuol. Pwy a ' i dilynodd ef, nis gwn.

Page 9: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

- 9 -Âmbell waith fe âi pobl gwlad am dro i lan y môr yn y Borth, neu i Gymanfa

Ganu yn y Garn mewn wagen fferm. Byddai paratoi mawr ar gyfer hyn, - gloywi tac lau ' rceffylau, rhubanau, a phlethu eu cynffonnau a'u myngau a thrimio'r wagen â dail ablodau. Byddai'r bobl ar y daith am ra i oriau, ond yr oedd pawb yn mwynhau'r siarada ' r ysgwyd. Aeth Annibynwyr Tal-y-bont i ' r Gymanfa Ganu yn Aberystwyth mewn wageniyn 1895. Dyna ' r t ro cyntaf a ' r t ro olaf.

Os awn i sôn am Dre'rddôl a Thaliesin rhaid cofio am Gors Fochno. Ymestyn hio ' r Borth i Landyfi. Gwelais yn rhywle e i "bod yn mesur 11,000 o erwau. Yn yr amsergynt fe godid mawn lawer ohoni. Gallech weled y tasau, dwsinau ohonynt, yma a thraw.Lleddid y mawn yn niwedd y gwanwyn, a rho i ' r tywarch ar eu pennau i sychu, pedairtywarchen yn pwyso ar e i gilydd. Wedi eu sychu fe 'u dodid yn y das a chludid ohonife l y byddai'r galw. Byddai u n o ' r ffermydd, Cerrig Taranau, yn dod â llwyth o fawncyn belled â Phen-y-garn. Defnyddid cert "long-body" yn un darn solet , heb standardiddi . Yr oedd cryn gamp ar wneud llwyth cryno a dodi gwiail dan raffau i'w gadwwrth ei gilydd.

Mae'n debyg fod y figin, pan leddid mawn ynddi, yn peri math o afiechyd, rhywgryd neu ague. Parai ryw oerni mawr yn y corff a chryndod poenus. Rhaid bod y drwgyn codi o ' r f igin; pan beidiwyd â lladd mawn ac i lysiau a brwyn dyfu dros yffosydd fe ddarfu am y cryd.

Yn ôl yn y nawdegau a chyn hynny, yr oedd clefydau'n tor r i allan yn aml.Clywem ni ym Mhen-y-garn fod rhywrai'n sal yn Nhre'rddôl i gychwyn a Thaliesin aThal-y-bont wedyn, ac yna'n dod atom ni. Diphtheria a'r clefyd coch fyddai 'rafiechyd gan amlaf, ac nid ychydig o blant a fyddai'n marw.

Collodd Eglwys-fach, Tre'rddôl, Taliesin a Thal-y-bont eu cyfle pan aed âffordd haearn y Gambrian gyda glan y mor yn l l e mynd drwy ganol y darn hwn o ' r .wlad. Yr adeg honno sonnid am godi tref fawr ar Foelynys, pont fawr wedyn i fynddrosodd i Aberdyf i . Yr oedd yr hotel fawr yn y Borth, (Pantyfedwen heddiw), ynrhan o ' r cynllun, ond ni ddaeth fawr ohono. Yn wir y mae Pantyfedwen wedi bod ynachos gofid i lawer un ers yn agos i gan mlynedd bellach.

YCHYDIG O HANES YR YSGOL ODDI AR 1870

Yn yr hen Ysgoldy, ("The Old Schoolroom" fel y ' i gelwid gynt, neu'r "LlanFach" fe l y ' i gelwir heddiw) y cynhelid yr ysgol gyntaf dan y Bwrdd Ysgol, adechreuodd Richard Morris ar ei waith fe l ysgolfeistr yno ar Rhagfyr 8fed, 1873.Ar yr l leg o Ragfyr y mae'n cofnodi bod dros 140 o blant yn bresennol, - llaweriawn gormod i ' r adeilad.

Ond cyn diwedd 1875 yr oedd Richard Morris wedi pechu mewn rhyw fodd yn erbyny Bwrdd Ysgol, a galwyd cyfarfod arbennig o ' r Bwrdd i ro i notis iddo. Achubodd ef yblaen arnynt trwy anfon l lythyr o ymddiswyddiad cyn y cyfarfod.

Hysbysebwyd am brifathro newydd, - y tro hwn yn Y Faner, y South Wales DailyPost a ' r Schoolmaster , a dewiswyd Samuel Prosser, ysgolfeìstr yn Llangeitho ar ypryd, am däl o £110 y flwyddyn a ' i d am ddim. Dechreuodd ef ar e i waith yn Ebr i l l1876, a chan nad oedd t yn barod bu'n l letya gyda Samuel Davies, Taliesin, at h a l a i ' r Bwrdd 4/- yr wythnos am hynny.

Ar Hydref 7fed, 1876, symudodd Mr.Prosser i mewn i ' r Ty Ysgol newydd, ond nidoedd yr ysgol newydd eto 'n barod. Digwyddodd peth arswydus iawm ar Hydref 17.

Page 10: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

- 10 -

Dyma ei r iau ' r athro e i hunan am yr helbul: "After dismissing the children thisaf ternoon I caught a boy creating a disturbance at the door - a very commonpractice - and thereby interrupting me in the instruction of the Pupil Teachers.I brought the offender into the Schoolroom ìntending to confine him unti l the PupilTeachers were dismissed. In about a quarter of an hour the mother of the boyappeared at the door armed with an axe, and for about twenty minutes she batteredthe door with such violence that ultimately the lock gave way. As she threatenedmy l i fe I thought i t prudent to l e t the boy go and thus perhaps I saved my neck".

Ymhen rhyw bythefnos, Tachwedd 2, fe ddarllenwn, "The woman, Mary Morgan,was this day convicted at the Tre'rddôl Petty Sessions and ordered to pay 10/-damages and costs. She also received a reprimanding and had to make a distinctpromise never again to repeat the offence".

Rhwng diwrnod y fwyall a diwriod y farn agorwyd yr Ysgol Newydd, sef ar ddyddMawrth, Hydref 24ain, 1876. Yn y Log Book cofnodir, "The children were treated withtea and cake by the members of the Board after which they adjourned to a f ield atthe back of the Schoolroom and engaged in Rustic Sports. At 6.30 p.m. a publicmeeting was held when addresses were delivered by Mr.H.G.Fryer, Lodge Park, Chairmanof the Board, Mr.Jones, Glanmorfa, Mr.John Davies, Erglodd, the Rev.Mr.Phillips,Wesleyan Minis ter and Mr.R.Morris". Y diwrnod wedyn symudwyd y plant o 'r henadeilad i ' r un newydd.

A dyna'r ysgol newydd yn dechrau ar ei gyrfa,- ysgol wedi ei chynllunio argyfer 130 o blant. Rhaid canmol y tadau am wneud gwaith da. Y gwendid mwyaf ywanwastadrwydd yr iard a ' r ffaith fod y safle braidd yn beryglus. Ond nid oeddllawer o ddewis. Mae i ' r ysgol olygfa ragorol ac y mae'r adeilad ei hunan yn. unhardd a chadarn. Mae h i ' n ysgol olau ac iddi ffenestri mawrion. Mae pob saer amasiwn yn canmol crefftwaith cynnar yr adeilad. Fel y dywedwyd, Edward Felix oeddy "contractor", ond methodd a llwyr orffen y gwaith. Y pensaer oedd Mr.David Williams,Aberysttwyth.

Wele ra i sylwadau diddorol a godwyd o bapur a ysgrifennwyd gan y diweddarMrs. Evan Thomas, Brynarian, - hanesydd l leo l wr th reddf. "Clywais ddweud bodcyfarfod cystadleuol yn cael ei gynnal yma ar adeg agor yr ysgol, a rhoddwyd gwobram y farddoniaeth orau i ' r ysgol newydd. Yr oedd un wedi dweud rhywbeth tebyg ihyn, - fod yr ysgol

"Mewn lle braf ar ael y brynI wneud Cymro'n slaig os mynn.Ar ei Bwrdd mae pump o gewriI gadw'r ysgol hon mewn trefn,A phan ddaw'n ddydd y polio

Hwy gânt fynd i mewn drachefn,"Yn yr un papur dywedir i'r llechi cochion sy'n rhedeg bob yn deir-res ar do'r

ysgol, ddod o Gaernarfon. Dywed rhai o'r trigolion hynaf i'r cerrig cornel ddod oohwarel yr Hafan, Tal-y-bont, a'r cerrig eraill o Chwarel Rees, ger Troedrhiwfedwen.

(i'w barhau).

Page 11: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

I

Rhai o Flodau Gwylltion y Plwyf a welwyd yn ystod y Chwarter.

(Casglwyd gan Miss Dorothy Owen, Epworth)

Llygad Ebrill, (Lesser Celandine); Blodyn Ymenyn, (Buttercup); Briallu,(Primrose); Bara a Chaws y Gog, (Wood Sorrel); Dynad Coch, (Red Dead Nettle);Blodau'r Gwynt, (Wood Anemone); Botwm Crys neu Lygad Madfall, (Stitchwort);Y Goes Goch, (Herb Robert); Esgid y Gog, Fioled, (Dog Violet); Bara Llaeth yGrog, (Cuckoo Flower, Ladies Smock); Gwlydd yr Ieir, (Chickweed); Dant y Llew,(Dandelion); Iorwg Llesg, (Ground Ivy); Llygad Doli, (Germander Speedwell);Sanau'r Gog, Clychau'r Gog, (Bluebell, Wild Hyacinth); Bresych y C n, (Dog'sMercury); Gold y Gors, (Marsh Marigold); Llysiau Tryfal, (Shepherd's Purse) ;Maip Gwylltian, (Charlock); Sawdl y Fuwch, Briallu Mair, (Cowslip); Cegid,(Hemlock); Carpiog y Gors, Ffrils y Merched, (Ragged Robin); Milddail,

Efwr, (Hogweed, Cow Parsnip): Llysiau Cadwgan, (Valerian); Llysiau Hidl,Gwlydd y Perthi, (Goosegrassi; Gwyddfid, (Honeysuckle); Llysiau'r Pannwr,Briwydd Wen, (Hedge Bedstraw); Llygad Llo Mawr, (Ox-eye Daisy); Blodyn Neidr,(Pink Campion): Coch yr d, Cloc yr Hen r, (Scarlet Pimpernel); Pwrs y Bugail,(Yellow Rattle); Crafanc y Frân, (Crow's Foot); Enfys y Gors, Gellesg, (YellowIris, Yellow flag); Meillion, Coch a Gwyn, (Clovor, Red and White); Y We Felen,(Hop Trefoil); Melyn y Twyni, (Tormentil); Pys y Cedw, Troed y Deryn, (Bird'sFoot Trefoil); Llysiau'r Swynwr, (Enchanter's Nightshade); Dail Arian, (SilverWeed); Tegeirian y Waun, (Wild Orchid); Llygad Siriol, (Eyebright);Llin y Llyffant, (Toadflax); Dail Ceiniog, (Pennywort); Llysiau'r Gingroen,(Ragwort); Banadl, (Broom); Ffacbys, (Vetch).

Os oes enwau lleol eraill ar rai o'r blodau hyn, hoffem wybod.

Hen BennlllSerchog iawn yw blodau'r meysydd,Serchog hefyd cân a chywydd;Ond y serch sy'n dwyn rhagoriaethYw serchowgrwydd mewn cymdogaeth.

Page 12: LLOFFION LLANGYNFELYN Braslun o Hanes y Chwarter

- 12 - • .*

SAFLE'R IAITH YN Y PLWYF AC YN Y PLWYFI CYFAGOS YN ÔL CYFRIFIAD 1951

Y mae'r ystadegau canlynol yn cofnodi'r boblogaeth fel yr oedd ganol nos,Ebrill 8/9, 1951. Fe'i codwyd o'r gyfrol "Census 1951 Wales (including Monmouth-shire). Report on Welsh speaking Population". Yn naturiol, nid ystyriwyd plantdan dair oed yn yr ystadegau iaith.

j!

PLWYF -;

Llangynfelyn

Ceulanymaes-:mawr

Ysgubor-y-ooed

Borth

BwrdeisdrefAberystwyth

CyfanrifPoblogaeth(3 oed athrosodd)

Gwr. Benyw.

236 239

320 348

129 153

377 545

3923 5033i

Siarad

Gwr

4

17

-

2

30

j ;

Oymraegyn unig

Benyw.

4

27

1

2

37j

Siarad Cymraeg

Gwr.

207

280

100

190

2170

a Saesneg

Benyw

201

291110

296

2803

Trwy wneuthur sym syml gwelir bod 25 gwryw a 34 benyw yn ein plwyf yn siaradSaesneg yn unig.

Suddo yng Nghors Fochno."Y Figin" yw'r enw lleol ar Gors Fochno. Y tro cyntaf i mi glywed sôn am y

gors hon oedd flynyddoedd lawer yn ôl wrth wrando ar fy nhad yn adrodd stori amrywun, a'r unig beth o'r stori a gofiaf fi yw'r ymadrodd, "hyd wastband 'i drywsysyng Ngors Fochno"; ond ni wn i ar wyneb y ddaear ym mha gysylltiad y deuai'rymadrodd hwn,"

(Allan o "Dau Lyffant", erthygl ddiddorol gan T.H.Parry-Williarns yn "Y Ddinas",Cylchgrawn Cymry Llundain, Mehefin, 1956, t.8. ) •

Cas Bethau a Hoff Bethau y Dr Tom Riohards, yn ol Bob Owen, Croesor

Cas bethau; (l) Teithio mewn bws. (2) Pobl fusneslyd, gwynfanus, hirllaes eu llais,diamcan a di-sut. (3) Tyrfaoedd Cymanfa, G yl Bregethu neu Eisteddfod.(4) Pomp a rhodres, boed yngl n â bywyd crefyddol neu faterol. (5\ Teithio'nbell o gartref, yn enwedig i leoedd y bydd rhaid newid o drên i drên yn aml.

Hoff Bethau; (l) Digonedd o hen ddogfennau a MSS. (2) Pnawn Sadyrnau'yn gwylio!rbêl-droed, a gwrando giâm Rygbi ar y di-wifr. (3) Torheulo yng ngwlad Ll nneu Groesor wrtho'i hunan, heb neb i aflonyddu arno. (4) Yfed llaeth enwynwedi suro, fesur y chwartiau. (5) Dyfod adref o'i gyhoeddiadau darlithio yrun noson. (6) Cadw Brenin Prydain Fawr yn y llyfrgell ddeng munud dros yramser penodol, adeg ei bereríndod drwy'r sir, (7) Gweled cefn pobl ddiflas ynmyned trwy ddrws y llyfyrgell, mor fuan ag y bo modd.

(Allan o'r Erthygl "Doc Tom", gan Bob Owen yn "Y Crynhoad", Ionawr, 1952.t.42. Talfyriad o erthygl yn "Lleufer") ,