mae’n gwneud synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn...

24
Mae’n Gwneud Synnwyr Croeso Croeso i ail rifyn ein cylchlythyr, Mae’n Gwneud Synnwyr. Wrth i waith barhau ar draws GIG Cymru i weithredu Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy, mae’n bwysig dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd i bobl â nam ar y synhwyrau, yn ogystal ag amlygu eu problemau a’u profiadau y mae angen i ni eu deall er mwyn sicrhau y bydd y newidiadau’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad y claf. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys straeon ac erthyglau o bob rhan o GIG Cymru yn ogystal â chyfraniadau gan ein partneriaid yn y Trydydd Sector. Gobeithiwn y byddwch chi’n mwynhau ei ddarllen. Llongyfarchiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngala Gwobrau Rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru 2016. Dawn Cooper a Diane Henderson o BCUHB a Sarah Matthews o Gymdeithas Pobl Fyddar Gogledd Cymru yn derbyn y wobr. Rhifyn 2 | Awst 2016 1

Upload: others

Post on 19-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Mae’n Gwneud Synnwyr

CroesoCroeso i ail rifyn ein cylchlythyr, Mae’n Gwneud Synnwyr.

Wrth i waith barhau ar draws GIG Cymru i weithredu Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy, mae’n bwysig dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd i bobl â nam ar y synhwyrau, yn ogystal ag amlygu eu problemau a’u profiadau y mae angen i ni eu deall er mwyn sicrhau y bydd y newidiadau’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad y claf. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys straeon ac erthyglau o bob rhan o GIG Cymru yn ogystal â chyfraniadau gan ein partneriaid yn y Trydydd Sector.

Gobeithiwn y byddwch chi’n mwynhau ei ddarllen.

Llongyfarchiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngala Gwobrau Rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru 2016. Dawn Cooper a Diane Henderson o BCUHB a Sarah Matthews o Gymdeithas Pobl Fyddar Gogledd Cymru yn derbyn y wobr.

Rhifyn 2 | Awst 2016 1

Page 2: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig

Rhoi Blaenoriaeth i Gynyddu Ymwybyddiaeth o Fyddardod

DVD sydd wedi ennill gwobrau yn rhoi’r si ar led ymhlith y gymuned fyddar

Mae gan Bob Claf yr Hawl i gael Gwybodaeth Hygyrch

Cyflawni Arfer Gorau

Cyflawni’r Safonau yng Ngorllewin Cymru

Darganfyddwch fwy am waith y Cyngor Cymru am Bobl Fyddar

Cynhadledd Sight Cymru: Mynd i’r Afael â Rhwystrau a Wynebu Heriau Newydd

Prosiect Nam ar y Synhwyrau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

ABSLT – Prosiect Offeryn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Mae’r gwasanaeth ‘Hear to Help’ am barhau ledled Cymru

Cymryd Camau Cadarnhaol i Gynorthwyo Pobl i Gael Gwaith

Byddardod a Llesiant

Cysylltu â ni

Gwella Profiad y Claf yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar

Cynnwys

4568

10121314161718

24232120

Mis Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau3

Rhifyn 2 | Awst 20162 3Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 3: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Mae gan yr ymgyrch gefnogaeth lawn aelodau Grŵp Safonau Nam ar y Synhwyrau Uwch Swyddogion Cymru Gyfan sy’n cynnwys Action on Hearing Loss Cymru, RNIB Cymru, Sense Cymru, Cymdeithas Pobyl Fyddar Prydain a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar, a bydd y sefydliadau hyn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth i gefnogi gweithgareddau cynyddu ymwybyddiaeth drwy gydol mis Tachwedd 2016.

Bydd y posteri a’r deunyddiau cyhoeddusrwydd a gynhyrchwyd y llynedd ar gael unwaith eto a bydd rhagor o adnoddau’n cael eu datblygu i hyrwyddo negeseuon yr ymgyrch. Os oes gennych chi syniad i gefnogi Ymgyrch eleni, cysylltwch â’r arweinwyr Nam ar y Synhwyrau yn eich Bwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth y GIG.

Gallwch ganfod eu manylion cyswllt ar ein gwefan yn: www.cydraddoldebhawliaudynol.wales.nhs.uk/neu anfonwch neges e-bost: [email protected]

Gwneud SynnwyrMIS YMWYBYDDIAETH COLLED SYNHWRAIDD

Mis Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau

Bydd ‘Mis Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau’ eleni’n cael ei ddathlu yn ystod mis Tachwedd 2016. Bydd Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yn cynllunio digwyddiadau lansio a gweithgareddau lleol i gynyddu ymwybyddiaeth o negeseuon yr ymgyrch ymhlith staff a chleifion.

TACHWEDD

Rhifyn 2 | Awst 20162 3Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 4: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Yn dilyn lansio eu Pecyn Cymorth Nam ar y Synhwyrau yn llwyddiannus ym mis Rhagfyr 2015, (http://howis.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/48396) enillodd y Bwrdd Iechyd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar. Dyfarnwyd yr anrhydedd i’r Bwrdd Iechyd i nodi’r camau maen nhw wedi’u rhoi ar waith i wella eu gwasanaethau i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.

Sefydlwyd y Gwobrau Rhagoriaeth gan Action on Hearing Loss i gydnabod busnesau a sefydliadau sy’n cymryd camau i gynorthwyo’r 575,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi colli eu clyw i raddau amrywiol. Roedd y panel dyfarnu’n cynnwys pobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw a chynhaliwyd y gwobrau yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd ar 20 Mai 2016. Cyflwynwyd y gwobrau gan y newyddiadurwraig, Mariclare Carey-Jones.

Yn dilyn cyflwyno’r pecyn cymorth fis Rhagfyr diwethaf, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cynnal gwerthusiad o’r prosiect ac mae arolwg staff yn dangos bod 18% yn fwy o staff yn ymwybodol o bolisi cyfieithu’r Bwrdd Iechyd a sut i gael gafael ar ddehonglwr Iaith Arwyddion Prydain, a bod 23% yn fwy o staff yn ymwybodol bod y Llawlyfr Cyfathrebu

mewn Ysbytai ar gael (sydd wedi’i gynnwys yn ffolder y pecyn cymorth). Y camau nesaf yw cynhyrchu’r pecyn cymorth ar ffurf canllaw poced i’w roi i feddygon iau a staff sy’n gweithio yn y gymuned.

Roedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Rhagoriaeth hefyd yn cynnwys Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Mae’n wych gweld cynifer o sefydliadau iechyd ar y rhestr fer derfynol. Llongyfarchiadau i bawb!

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig

Llongyfarchiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngala Gwobrau Rhagoriaeth Action on Hearing Cymru 2016.

Rhifyn 2 | Awst 20164 5Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 5: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Cyflawni Arfer Gorau: Hyrwyddo Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau

Ar 10 Rhagfyr 2015, lansiodd Canolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fodiwl e-ddysgu newydd ar nam ar y synhwyrau. Mae Cyflawni Arfer Gorau – Hyrwyddo Gofal Iechyd Hygyrch i Bobl â Nam ar y Synhwyrau yn ategu’r pecyn dysgu presennol Triniwch Fi’n Deg ac mae ar gael i holl staff y GIG trwy Learning@NHSWales.

Mae’r modiwl dysgu’n deillio o brosiect a gwblhawyd mewn partneriaeth ag Action on Hearing Loss Cymru ac RNIB Cymru i gefnogi Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy. Diben Safonau Cymru Gyfan yw cadw pobl sydd wedi colli eu golwg a/neu eu clyw yn ddiogel a sicrhau eu bod yn derbyn gofal da. Mae gan Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG gyfrifoldeb i sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’r Safonau ac yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i roi’r hyder iddynt gyfathrebu’n effeithiol â chleifion neu gydweithwyr sydd wedi colli eu golwg a/neu eu clyw.

Mae’n cymryd tua 30 munud i gwblhau’r modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd yma. Rhoddir isod rai o’r sylwadau a dderbyniwyd gan y rhai sydd wedi cwblhau’r cwrs:

“Roedd yn offeryn defnyddiol i atgyfnerthu ac ychwanegu at yr hyn roeddwn i eisoes yn ei wybod. Roedd y modiwl ei hun yn rhwydd i’w ddefnyddio a’i ddeall..”

“Roeddwn i’n credu bod y gallu i gofnodi myfyrdodau ar yr hyn a ddysgwyd, y cynnwys a’i gymhwyso i’r amgylchedd gwaith yn rhagorol ac yn ychwanegu gwerth go iawn at y profiad dysgu.”

“Roedd yr hyfforddiant yn dda yn yr ystyr bod y negeseuon o straeon personol cleifion yn eglur iawn ac yn ychwanegu llawer at effaith yr hyfforddiant.”

“Byddech chi’n tybio mai synnwyr cyffredin yw llawer ohono, ond mae’r straeon yn dangos yn amlwg nad ydym ni’n cyrraedd y nod. Nid hyfforddiant beichus yw hwn ac mae’n rhwydd ei lywio”

Mae’r Modiwl Nam ar y Synhwyrau a’r pecyn dysgu Triniwch Fi’n Deg ar gael i bob aelod o staff sy’n gweithio yn GIG Cymru, gan gynnwys staff sy’n gweithio mewn meddygfeydd.

I gael mynediad i’r Modiwl ewch i Learning@NHSWales. Os nad ydych chi’n siwr sut i gael gafael ar y modiwl neu os nad ydych chi’n gweithio i GIG Cymru ond hoffech gael y cyfle i weld y modiwl, anfonwch neges e-bost: [email protected]. Bydd Lynne yn gallu trefnu bod cod mynediad yn cael ei anfon atoch.

Rhifyn 2 | Awst 20164 5Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 6: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Mae darpariaeth y GIG yn helaeth gydag oddeutu 50 meddygfa a 4 ysbyty mawr yn Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd ac Aberystwyth. Mae ysbytai llai yn darparu gwasanaethau i rai o’r cymunedau hefyd.

Grŵp Gweithredu’r Safonau Nam ar y SynhwyrauWrth baratoi ar gyfer lansio Safonau Cymru Gyfan, dechreuodd ein Grŵp Gweithredu’r Safonau Nam ar y Synhwyrau amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol gyfarfod yn yr hydref 2013. Mae’r aelodau’n dod o’r awdurdodau lleol, partneriaid cenedlaethol fel Action on Hearing Loss a Chyngor Cymru i’r Deillion, yn ogystal ag amrywiaeth o grwpiau lleol gan gynnwys Clwb Pobl Fyddar Llanelli a Chlwb Pobl â Nam ar y Golwg Aberystwyth a’r Cylch. Rydym wedi ceisio mynd ati i ymgysylltu â phartneriaid a chynyddu eu hymddiriedaeth.

Mae llwyddiannau hyd yma yn cynnwys sefydlu cynllun gweithredu sy’n cyflawni gweithgarwch yn gyfartal ar draws pob un o’r 5 Safon. Mae ein hymagwedd wedi ceisio bod yn gytbwys a realistig ac mae

rhywfaint o arfer da i’w rannu. Er enghraifft, rydym wedi cyflwyno rhaglen ‘cerdded a siarad’ lle mae ein partneriaid allanol wedi rhoi adborth i wardiau a chlinigau er mwyn eu gwneud yn fwy ystyriol o nam ar y synhwyrau. Bydd yr hyn a ddysgwyd yn cael ei gyflwyno ar draws y sefydliad trwy weithredu ‘Cynllun Gwobrau Ystyriol o Nam ar y Synhwyrau’, yn seiliedig ar lefelau aur, arian ac efydd. Mae Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, sy’n cael ei gynnal o fewn Hywel Dda fel mae’n digwydd, yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig am y gwaith hwn.

Fodd bynnag, mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar adrodd ar ein profiad o weithio gyda Chyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP).

Pan ddechreuodd ein Grŵp Gweithredu, cynrychiolwyd WCDP gan y Cyfarwyddwr, sef Mr Norman Moore. Mae Norman wedi ymddeol ers hynny, ond mae bellach yn Gadeirydd etholedig ein Grŵp Gweithredu fel partner gwerthfawr ac aelod o Glwb Pobl Fyddar Llanelli. Daeth Cyfarwyddwr newydd WCDP, sef Mr Patrick McNamara, i’n seminar

Cyflawni’r Safonau yng Ngorllewin Cymru

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwasanaethu poblogaeth o oddeutu 375,000 o breswylwyr yng ngorllewin Cymru. Mae ôl troed Hywel Dda yn cynnwys 3 awdurdod lleol, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac mae’r boblogaeth wedi’i rhannu 50%, 20% a 30% yn fras ar draws y siroedd yn ôl eu trefn.

Bwrdd Iechyd Hywel Dda Health Board

Rhifyn 2 | Awst 20166 7Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 7: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

undydd a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ym mis Rhagfyr 2014 i ddatblygu ein cynllun gweithredu. Mae Patrick wedi bod yn aelod gweithgar o’n grŵp ers hynny ac wedi cynnig nifer o fentrau er mwyn helpu’r Bwrdd Iechyd i gyflawni’r safonau.

Hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth o Nam ar y SynhwyrauErs yr hydref 2015, mae WCDP, ar y cyd â Nam ar y Golwg Merthyr Tudful (VIM), wedi cyflwyno 8 sesiwn hyfforddi ar draws ein safleoedd ysbyty. Mynychwyd y rhain gan staff wardiau, cwynion, cofnodion meddygol, fferyllfa a gofal sylfaenol. Hyd yma, mae bron 100 o aelodau staff wedi cael eu hyfforddi ac mae awydd sylweddol am fwy o hyfforddiant yn y Bwrdd Iechyd.

Yn bwysicaf oll, mae’r hyfforddiant wedi cael effaith eang. Er enghraifft, pan dderbyniwyd cwyn gan unigolyn â nam ar y synhwyrau, roedd y rheolwr cwynion mewn sefyllfa well i allu deall materion y gŵyn yn ogystal â’r ffordd orau o helpu’r unigolyn trwy’r broses.

Mae’r hyfforddiant wedi helpu mewn ffyrdd ymarferol hefyd, er enghraifft trwy roi arweiniad i bobl â nam ar y golwg. Mae’n bosibl bod hyn yn rhannol gysylltiedig â’r hyfforddiant trwy brofiad a ddarparwyd trwy sbectol efelychu ac amddiffynwyr clust. Mae’r profiad personol hwn yn atgyfnerthu effaith yr hyfforddiant.

Darparu cymorth cyfathrebuTua 12 mis yn ôl, roedd cydweithwyr a oedd yn gweithio ym meysydd darparu gwasanaeth ac ariannol Hywel Dda yn pryderu ynghylch darparu Iaith Arwyddion Prydain. Yn ei hanfod, nid oedd gennym strwythur a dull systematig ar waith, ac er y byddai dehonglwyr neu gymorth arall yn cael eu neilltuo’n gyffredinol, roedd lle i

wella’r broses. Yn bwysicaf oll, y brif ystyriaeth oedd sicrhau bod gan y gymuned fyddar ddehonglwyr pan oedd arnynt eu hangen.

Datblygodd Hywel Dda a WCDP broses neilltuo i oresgyn y problemau ac mae tystiolaeth fod hyn wedi gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth. Mae’r defnydd ar y gwasanaeth wedi dyblu ac mae camgymeriadau neilltuo wedi’u dileu bron yn gyfan gwbl. Ein cam nesaf yw archwilio ansawdd y gwasanaeth a gwella’r model ymhellach. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r gymuned fyddar i sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw achos o ganslo apwyntiad mewn da bryd.

Diolch am ddarllen am ein profiad a chysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Os hoffech wybod mwy am ein hyfforddiant neu’r ‘Cynllun Gwobrau Ystyriol o Nam ar y Synhwyrau’, cysylltwch â Dr Gareth P. Morgan. FRSPH. Ysgrifennydd, Grŵp Gweithredu’r Safonau Nam ar y Synhwyrau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar: [email protected]

Rhifyn 2 | Awst 20166 7Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 8: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

DVD sydd wedi ennill gwobrau yn rhoi’r si ar led ymhlith y gymuned fyddar

Mae DVD arloesol a wnaed ar gyfer pobl fyddar gyda chymorth pobl fyddar yn ychwanegu at ei lwyddiant ysgubol ledled Prydain.

Lansiwyd Take Time for Yourself, sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i helpu addysgu pobl fyddar sut i ymlacio ac ymdopi â straen, yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, mewn digwyddiad arbennig. Crëwyd y DVD ar ôl i dîm o Raglen Addysg i Gleifion y bwrdd iechyd weithio gyda gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaeth i ganfod ffyrdd o wneud y wybodaeth yr oeddent eisiau ei throsglwyddo’n fwy hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau.

Gwahoddwyd cynulleidfa ddethol i Glwb Pobl Fyddar Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys criw o See Hear, sef rhaglen gylchgrawn flaenllaw y BBC ar gyfer y gymuned fyddar, a dywedwyd wrthynt fod y DVD yn denu diddordeb o’r Alban a Gogledd Iwerddon a’i fod yn mynd i gael ei ddangos yn Sweden hefyd.

Dywedodd Mr Gething ei fod yn falch iawn bod Take Time for Yourself yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i’r gymuned fyddar.

Wrth ddatgelu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer fframwaith i wella gwasanaethau

awdioleg ar gyfer y dyfodol, cydnabu’r math o anawsterau sy’n wynebu pobl fyddar pan fydd angen cymorth meddygol arnyn nhw.

Dywedodd: “Ein her yw gwneud yn siwr bod mwy a mwy o bobl yn cael y math o fynediad sydd ei angen arnyn nhw at wasanaethau iechyd.”

Dywedodd Christine Morgan, cydlynydd y tîm Rhaglen Addysg i Gleifion sy’n darparu cyrsiau iechyd a lles rhad ac am ddim i bobl sy’n byw gyda chyflyrau tymor hir: “Ni chawsom unrhyw gyllid i gynnal y prosiect hwn ac roedd yn wych bod pawb a oedd yn gysylltiedig wedi rhoi o’u hamser yn ddi-dâl i’w wireddu.

“Mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwch chi’n fodlon gweithio mewn partneriaeth a rhannu’r hyn sydd gennych ag eraill o ddifrif.”

Ychwanegodd: “Bu’n fraint gweithio gyda’r gymuned fyddar.”

Andrea Temblett, Paul Redfern, y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething a Christine Morgan yn y digwyddiad lansio

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn annerch y gynulleidfa yn y digwyddiad lansio gan ddefnyddio dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain

Rhifyn 2 | Awst 20168 9Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 9: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Mae Christine yn dweud bod dau o’r gwirfoddolwyr a helpodd i greu’r DVD, sef Andrea Temblett a Michelle Fowler-Powe, wedi cael eu hysbrydoli cymaint trwy gymryd rhan fel eu bod nhw bellach wedi dod yn diwtoriaid byddar EPP achrededig cyntaf y Deyrnas Unedig.

Andrea Temblett yn esbonio sut y daeth i gymryd rhan yn y prosiect Take Time for Yourself.

Dywedodd Andrea, sy’n ymddangos yn y DVD, wrth y gynulleidfa ba mor anodd ydoedd i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain ymdopi â phethau fel apwyntiadau meddyg, ac esboniodd fod dilyn cwrs Rhaglen Addysg i Gleifion wedi newid ei bywyd.

“Roeddwn i’n teimlo fel petawn i’n gaeth mewn cragen. Fe es i ar gwrs ac roedd e’n wych. Fe roddodd lawer o help i fi a theimlais fel petawn i’n dechrau sbïo allan o’m cragen. Sylweddolais fod angen rhywbeth arnon ni ddefnyddwyr iaith arwyddion i’n helpu ni i ymlacio, felly fe siaradais â Christine ac fe feddylion ni am wneud rhywbeth y byddai pobl fyddar yn gallu manteisio arno.”

“Roeddwn i eisiau teimlo’n rhan o ofal iechyd – ’dyw hynny ddim yn beth mawr i’w ofyn.”

Cynhyrchwyd y DVD fel partneriaeth rhwng Christine, swyddog eiriolaeth Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, sef Michelle Fowler-Powe, y gwneuthurwyr ffilmiau Steve Williams a Nico Burgui a’r dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain Sue Williams - a oedd oll wedi rhoi o’u hamser yn ddi-dâl. Mae eisoes wedi ennill tair gwobr, gan gynnwys un gan Diverse Cymru, sef yr elusen sy’n hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae’r tîm Rhaglen Addysg i Gleifion bellach yn ychwanegu at lwyddiant Take Time for Yourself ac yn recriwtio tri unigolyn byddar arall i gael eu hyfforddi’n diwtoriaid erbyn diwedd y flwyddyn - dau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) ac un o Bontypridd.

Ychwanegodd Cadeirydd ABMU, sef Andrew Davies, ei fod yn falch iawn o fod yn arddangos rhywbeth a oedd yn helpu i ddarparu gofal iechyd hygyrch.

Dywedodd Paul Redfern, o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, fod y prosiect DVD yn arbennig o bwysig oherwydd ei fod wedi cynnwys pobl fyddar o’r dechrau.

“Hoffwn eich llongyfarch ar drefnu bod pobl fyddar a phobl sy’n gallu clywed yn gweithio gyda’i gilydd. Mae ABMU yn arwain y ffordd ac mae angen i bawb arall ddilyn ei esiampl,” dywedodd.

Mae dau aelod o’r gymuned fyddar wedi cael eu gwahodd i hyfforddi’n diwtoriaid Gofalu Amdanaf I. Mae’r cwrs ‘Gofalu Amdanaf I’ wedi’i gynllunio ar gyfer gofalwyr ac yn ceisio dangos i gyfranogwyr sut i ofalu amdanynt eu hunain tra eu bod yn gofalu am rywun sydd â chyflwr tymor hir. Ym mis Medi 2016, bydd cwrs ‘Gofalu Amdanaf I’ yn cael ei gynnal yng nghanolfan pobl fyddar Abertawe, lle y bydd y tiwtoriaid newydd eu hyfforddi’n cael cyfle i ddefnyddio eu sgiliau newydd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Christine Morgan, cydlynydd/hyfforddwr, cwrs Iechyd a Lles Rhaglen Addysg i Gleifion Cymru, ar [email protected] neu 01639 684559.

Andrea Temblett yn esbonio sut y daeth i gymryd rhan yn y prosiect Take Time for Yourself.

Rhifyn 2 | Awst 20168 9Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 10: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Prosiect Nam ar y Synhwyrau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Mae Liz Jenkins, Rheolwr Cydraddoldeb, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn siarad â ni am y prosiect peilot i ddarparu Gwasanaethau Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) ar-lein a’r gwaith ehangach sy’n cael ei wneud i sicrhau bod cyfathrebu’n hygyrch i gleifion sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.

Mae Safonau Cymru Gyfan yn datgan: ‘y dylid sicrhau bod anghenion cyfathrebu pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth gael eu bodloni trwy, er enghraifft, drefnu Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydeinig neu Siaradwr Gwefusau neu drwy ddarparu system dolen sain’.

Mae ymchwil genedlaethol a gyhoeddwyd gan Sign Health yn awgrymu na ddarperir dehonglwr BSL i gleifion byddar bob amser pan fydd angen iddynt gael gofal iechyd, a bod 70% o bobl fyddar nad oeddent wedi bod at eu meddyg yn ddiweddar wedi dymuno ei weld ond wedi dewis peidio, a hynny’n bennaf oherwydd diffyg dehonglwyr. Mae methiant i ddarparu dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yn golygu bod pobl fyddar yn cael mwy o afiechydon sy’n mynd heb ddiagnosis ac a allai fygwth bywyd na phobl sy’n gallu clywed. Maen nhw hefyd yn llai tebygol o dderbyn triniaeth effeithiol pan wneir diagnosis ac yn cael trafferth trefnu apwyntiadau.

Erbyn hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru

i dreialu system ddehongli ar-lein a fydd yn ychwanegu at y gwaith hyfforddi, archwilio a datblygu sydd eisoes wedi cael ei wneud. Bydd y gwaith treialu’n cael ei gynnal ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a brys yn ardal Cwm Taf. Bydd yn archwilio effeithiolrwydd mynediad ar-lein ar gyfer cleifion Byddar sy’n mynd i apwyntiadau meddygon teulu a chleifion allanol, gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a thra byddant yn aros ar wardiau ysbyty fel cleifion mewnol.

Os yw’r cynllun peilot yn llwyddiannus, fe allai gael ei gyflwyno ledled Cymru oherwydd bod gan y rhan fwyaf o sefydliadau iechyd gontract gyda Gwasanaethau Dehongli a Chyfieithu Cymru (WITS).

Bydd y prosiect hefyd yn cyflwyno ac yn monitro effeithiolrwydd dyfeisiau gwrando â chymorth i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw ac nad ydynt yn defnyddio BSL. Nid yw pawb sydd wedi colli eu clyw yn gwisgo cymorth clyw, er yr amcangyfrifir y gallai tua 300,000 o bobl yng Nghymru elwa o wneud hynny. Bydd y prosiect yn profi p’un a yw’n ddatrysiad mwy effeithiol na dolenni sain

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Health Board

Rhifyn 2 | Awst 201610 11Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 11: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

mewn ward. Ers i’r cynnig gael ei gyflwyno, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cefnogi cyllid ar gyfer cyflwyno offer clyw yn ehangach yn 2016, gan gynnwys dolenni sain sefydlog a chludadwy yn ogystal â dyfeisiau clyw cludadwy, a bydd hyn yn darparu cyd-destun a chymorth ychwanegol ar gyfer y gwaith hwn.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi penodi 2 reolwr prosiect a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i weithredu dwy elfen y prosiect. Y ddau reolwr hyn yw Glenys Jones sy’n adnabyddus am ei gwaith blaenorol gydag Action on Hearing Loss Cymru ac sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda phobl sy’n drwm eu clyw, a Rob Salter sydd â chefndir peirianneg glinigol yn y Bwrdd Iechyd ac sydd â phrofiad helaeth mewn perthynas ag offer, TG a rheoli prosiectau. Mae’r prosiect

yn y camau datblygu cynnar iawn, a rhoddir diweddariadau pellach yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

Os hoffech gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Liz Jenkins, Rheolwr Cydraddoldeb, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ar: [email protected]

Rhifyn 2 | Awst 201610 11Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 12: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Rhoi Blaenoriaeth i Gynyddu Ymwybyddiaeth o Fyddardod

Rhiant plentyn byddar yn esbonio pam mae hi mor bwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod.

Pan oedd yn 12 oed, roedd fy mab wedi mynd i’w gragen ac roedd yn ofidus ac yn cael trafferth ymdopi. Roedd ei bryder parhaol yn arwain at salwch, pyliau o banig a brwydrau dyddiol i’w gael i fynd i’r ysgol. Roedd hyn yn dorcalonnus i mi, ei fam, ei weld.

Fe arhoson ni bron blwyddyn i gael cymorth trwy’r Gwasanaethau Iechyd meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS). ’Doedden ni ddim yn disgwyl i bopeth wella’n syth yn ystod ei apwyntiad cyntaf, ond roedden ni’n gobeithio cael gwell dealltwriaeth o’r hyn y gallen ni ei wneud i sicrhau bod ein mab yn cael y cymorth yr oedd arno ei angen mor amlwg.

Ar ddechrau’r apwyntiad, esboniais wrth y meddyg nad oedd fy mab yn gallu gwisgo ei gymhorthion clyw y diwrnod hwnnw. Roedd ganddo haint gas ar ei glust. Esboniais fod fy mab yn gallu darllen gwefusau’n wych ac y byddai’n gofyn os nad oedd yn deall.

Er i mi atgoffa’r meddyg sawl gwaith, ni siaradodd â’m mab unwaith. Yn hytrach na chanolbwyntio’n uniongyrchol arno ef, roedd hi’n meddwl am y rhwystr cyfathrebu yr oedd hi’n teimlo oedd yno, a sut oedd yn effeithio arni hi.

Pan gawson ni ein hatgyfeirio i CAMHS, dywedwyd wrthym y byddai’r apwyntiad hwn yn ein helpu ni i gael diagnosis. Roedd y diagnosis hwn yn allweddol i gael cymorth

priodol. Y cyfan y cynigiodd y meddyg hwn i ni oedd taflen.

Esboniais wrth y meddyg pam oedden ni’n teimlo bod angen mwy na thaflen arnon ni. Ei hymateb hi oedd gofyn pam oedd angen label arall arnon ni pan oedden ni eisoes wedi rhoi’r label “byddar” iddo.

Beth fyddai hi wedi’i wneud yn wahanol os nad oedd fy mab yn fyddar? Ei hateb: byddai wedi rhoi cynnig ar gyfres o dechnegau ymarferol i’w helpu i reoli ei byliau o banig, ac wedi cynnal profion llafar i helpu i wneud diagnosis.

Fe adawon ni’r apwyntiad yn ddig ac wedi cynhyrfu. Roedd fy mab yn fregus, ac roedd yr apwyntiad hwn wedi gwneud sefyllfa wael yn waeth. Bu’n rhaid i ni wneud cwyn ffurfiol er mwyn cael apwyntiad gyda meddyg arall yn y pen draw.

Diolch i’r drefn, roedd yr ail apwyntiad wedi cynnig y cymorth yr oedden ni wedi’i ddisgwyl yn y lle cyntaf. Nid oedd wedi gwella popeth, ond rhoddodd ddiagnosis i ni a gwell dealltwriaeth o sut oedd ein mab yn teimlo. Rhannwyd dulliau ac offer gyda fy mab i’w helpu i reoli ei bryder.

Byddai wedi bod yn rhwydd cerdded i ffwrdd o’r apwyntiad cyntaf hwnnw a pheidio â herio’r ffordd y cafodd fy mab ei drin. Rwy’n falch y daethon ni o hyd i’r nerth

Rhifyn 2 | Awst 201612 13Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 13: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Byddem oll yn cytuno bod angen i gleifion gael gwybodaeth eglur sy’n amserol ac yn gywir. Fodd bynnag, mae gwybodaeth yn aml yn cael ei chyflwyno mewn ffont y mae llawer o bobl hŷn a phobl sydd wedi colli eu golwg yn cael trafferth ei darllen.

Ac nid dim ond llythyrau apwyntiad yw hyn ’chwaith. Yn aml, daw meddyginiaeth gyda chyfarwyddiadau mewn print mân iawn a gall rhywun sydd wedi colli ei olwg gael ei ryddhau heb wybod sut i gymryd ei feddyginiaeth, gyda neb i’w helpu o bosibl.

Mae hyn nid yn unig yn rhoi cleifion mewn perygl a’u gadael heb y wybodaeth y mae arnynt ei hangen i’w cadw eu hunain yn iach, mae hefyd yn golygu bod y bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth y GIG yn methu â chyflawni ei (d)dyletswydd gyfreithiol i wneud addasiad rhesymol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae gan bob awdurdod cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch. Os nad yw claf dall neu rhannol ddall yn gallu cyrchu’r wybodaeth y mae arno ei hangen, gall hyn arwain at danseilio preifatrwydd os oes angen iddo

ofyn i rywun arall ddarllen y wybodaeth iddo. Mae mynediad at wybodaeth feddygol yn fater preifat; hawl sylfaenol nad oes byth angen i’r rhan fwyaf ohonom boeni y gallai gael ei chymryd oddi arnom.

Mae gan bobl ddall a rhannol ddall yr hawl i gael gwybodaeth gan ddarparwyr gofal iechyd mewn fformat sy’n hygyrch iddynt. Mae’r hawl hon yn ymestyn i wybodaeth y gallai meddygfeydd ei hanfon at eu cleifion, er enghraifft, gwahoddiad i gael brechiad ffliw.

I gael cyngor ar ba wybodaeth y mae angen i chi ei gwneud yn hygyrch, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 029 2082 8564.

Mae gwasanaeth trawsgrifio RNIB Cymru yn gallu cynhyrchu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys ar ffurf glywedol a Braille. I gael rhagor o fanylion, anfonwch neges e-bost at [email protected] neu ffoniwch 029 2082 8540.

Mae gan Bob Claf yr Hawl i gael Gwybodaeth Hygyrch

i wneud yn siwr bod ein mab yn derbyn y cymorth yr oedd yn ei haeddu. Ni ddylai ei fyddardod fyth wedi bod yn esgus dros dderbyn gwasanaeth israddol.

Trwy rannu stori fy nheulu, rwy’n gobeithio ysbrydoli pobl eraill, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, i rannu eu profiadau nhw. Ac nid dim ond pethau negyddol; pan fydd pethau’n cael eu gwneud yn dda mae

angen i ni dynnu sylw at hynny hefyd a gwneud yn siwr bod yr arferion da hynny’n cael eu rhannu a’u hailadrodd.

Mae’n hanfodol bod cymorth priodol ac amserol ar gael i weithwyr proffesiynol er mwyn iddynt ddatblygu eu sgiliau ymwybyddiaeth o fyddardod.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at [email protected]

Rhifyn 2 | Awst 201612 13Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 14: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Roedd yn bleser mynd i Gynhadledd Rhwystrau BME ddiweddar a drefnwyd gan Sight Cymru. Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect mwy o faint a gynhelir gan Sight Cymru o dan bortffolio prosiectau Lleisiau’r Gymuned. Ariennir portffolio Lleisiau’r Gymuned gan arian y Loteri ac mae portffolio Gwent yn cynnwys 9 sefydliad sector gwirfoddol, a oruchwylir gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (GAVO). Cylch gorchwyl allweddol y prosiect yw atal colli’r golwg yn ddiangen ymhlith cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ardal Gwent. Mae’r prosiect yn gweithio gyda chymunedau ar draws ardal Gwent ac yn cefnogi grymuso trwy addysg, gwybodaeth a chydgynhyrchu. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at sefydlu fforymau cymorth a grŵp llywio i gynorthwyo ymgysylltiad parhaus â’r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Trwy waith y prosiect, cytunwyd cynnal cynhadledd a fyddai’n darparu cyfle allweddol i ddysgu a rhannu arfer da, amlygu rhwystrau a datblygu datrysiadau ar y cyd.

Mae cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu nifer o rwystrau wrth

geisio cael mynediad at ofal iechyd sy’n cyfrannu tuag at anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth a chanlyniadau iechyd gwaeth na’r cyhoedd yn gyffredinol. Er enghraifft, gallai pobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fod mewn perygl uwch o ddatblygu rhai o brif achosion colli’r golwg, gan gynnwys glawcoma, cataractau a chlefyd diabetig y llygaid (Access Economics, 2009).

Hefyd, er bod perygl uchel o golli’r golwg ymhlith cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, y cymunedau hyn yw’r rhai sy’n lleiaf tebygol o gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau iechyd y llygaid iddyn nhw eu hunain ac i’w teuluoedd.

Trefnwyd y gynhadledd i gydnabod bod nifer o wasanaethau a phrosiectau ar draws y sectorau iechyd yng Nghymru sy’n ceisio cefnogi newid ymddygiad a gwella ymgysylltiad â darparwyr gofal iechyd ymhlith cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, sydd oll yn gallu dangos graddau amrywiol o lwyddiant.

Cyflwynodd amrywiaeth o siaradwyr o bob cwr o’r wlad eu prosiectau a oedd yn ymwneud â meysydd iechyd allweddol fel iechyd meddwl, ffyrdd iach o fyw, diabetes, gwasanaethau sgrinio ac iechyd y llygaid.

Cynhadledd Sight Cymru: Mynd i’r Afael â Rhwystrau a Wynebu Heriau Newydd

Mae Junaid Iqbal, Arweinydd Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn myfyrio ar gymryd rhan yn ddiweddar mewn Cynhadledd Sight Cymru a oedd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME).

Rhifyn 2 | Awst 201614 15Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 15: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Roedd prosiect a gynhaliwyd gan dîm o RNIB Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Sight Cymru a Phrifysgol Caerdydd i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd y llygaid a’r iechyd llygaid rhad ac am ddim sydd ar gael i bobl o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ne Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar ei waith yn ystod cyfnod chwe mis rhwng mis Hydref 2013 a mis Mawrth 2014.

Mae llawer o’r prosiectau a gynrychiolwyd wedi gallu amlygu rhwystrau a gweithio tuag at fynd i’r afael â nhw er mwyn gwella ymgysylltiad a nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Fodd bynnag, er bod llawer o’r prosiectau wedi dangos canlyniadau cadarnhaol, nodwyd bod llwyddiant/ymgysylltiad yn fyrhoedlog am amrywiaeth o resymau h.y. diffyg adnoddau, tybiaethau proffesiynol ynglŷn â’r gwasanaethau sydd ar gael, diffyg gweithlu cynrychioliadol a diffyg darparu gwasanaeth sy’n ymwybodol o ddiwylliant.

Trwy 4 sesiwn weithdy yr oedd pob un ohonynt yn mynd i’r afael â mater gwahanol, ceisiodd y cyfranogwyr fyfyrio ar y cyd ac amlygu datrysiadau posibl er mwyn helpu i gynyddu ymgysylltiad y gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig â gwasanaethau iechyd.

Amlygodd y gynhadledd heriau allweddol i’r llywodraeth a’r GIG wrth sicrhau ein bod ni’n gweithio tuag at Gymru iachach, hapusach a thecach, a chododd yr angen i sicrhau’n barhaus bod ymgysylltu â’r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn dod yn rhan ganolog o ddarparu a chynllunio gofal iechyd yn y dyfodol.

Bydd adroddiad ar y gynhadledd ar gael gan Sight Cymru. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Bablin Molik, Swyddog Datblygu Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, Sight Cymru ar [email protected]

Rhifyn 2 | Awst 201614 15Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 16: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

ABSLT – Prosiect Offeryn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Cawn wybod isod beth mae Is-grŵp Technoleg Cymru Gyfan wedi bod yn ei wneud i greu ffyrdd newydd a gwahanol o ddefnyddio technoleg i gefnogi anghenion cyfathrebu pobl sydd â nam ar y synhwyrau.

Sefydlwyd is-grŵp o Grŵp Uwch Swyddogion Nam ar y Synhwyrau Cymru Gyfan yn hwyr yn 2015 i ystyried defnyddio technoleg i gynorthwyo cleifion a defnyddwyr gwasanaeth sydd â nam ar y synhwyrau. Dechreuodd y grŵp edrych ar wahanol anghenion cyfathrebu’r gymuned nam ar y synhwyrau a cheisio ffyrdd o ddatblygu technoleg i gefnogi eu hanghenion cyfathrebu.

Ym mis Ionawr 2016, mynychodd cadeirydd y grŵp hwn, Ceri Harris, Ddiwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd. Rhoddodd Ceri gyflwyniad ar fater yn y digwyddiad a cheisiodd gyngor proffesiynol gan yr arbenigwyr technegol er mwyn ei ddatblygu. Roedd y cynnig ar gyfer datblygu rhaglen neu gymhwysiad a fyddai’n galluogi cyfieithiadau dwyffordd o waith llafar/ysgrifenedig i BSL, gan ddefnyddio rhithffurf (avatar) ac yna cyfieithu’r unigolyn a oedd yn arwyddo i destun/fformat sain.

Ffurfiwyd grŵp i ddechrau datblygu’r syniad, gan edrych ar ymchwil a thechnoleg sydd eisoes yn bodoli. Rhoddodd y grŵp yr enw ABSLT i’w prosiect a gwnaethant ddatblygu tudalen gwe i esbonio eu cysyniad a’u nodau: http://cysur.co.uk/abslt/en/home/

Daeth y prosiect yn gydradd 1af a rhoddwyd cydnabyddiaeth iddo am ei effaith

gymdeithasol ehangach. Yn dilyn y Diwrnod Hacio, cyflwynodd Ceri y canlyniadau i’r is-grŵp a chysylltodd ag arweinwyr academaidd yn Aberdeen a Pharis, y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r prosiect.

Ym mis Mai, teithiodd Ceri gyda Michelle Fowler-Powe, Swyddog Eiriolaeth Gymunedol gyda Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain, ac arwyddwr BSL i Aberdeen i gyfarfod ag arweinydd prosiect tebyg o’r enw PSLT nad yw wedi parhau i ddatblygu o ganlyniad i ddiffyg cyllid. Roedd y gwaith a oedd eisoes wedi’i wneud wedi gwneud argraff ar bawb ac roeddent yn gallu gweld sut y gallai gael ei ddefnyddio fel sail i’r prosiect ABSLT. Cam nesaf y prosiect yw ymgysylltu â’r gymuned fyddar er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi’r prosiect wrth symud ymlaen. Yna, bydd y grŵp yn datblygu’r fanyleb ar gyfer y dechnoleg sydd ei hangen ac yn amlygu cyllid i’w datblygu, gyda Phrifysgolion Aberdeen a Pharis â diddordeb mewn bod yn bartneriaid ar gyfer y prosiect.

Byddwn yn rhoi diweddariadau i chi am ddatblygiad y prosiect hwn. Os hoffech gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Ceri Harris ar: [email protected]

Rhifyn 2 | Awst 201616 17Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 17: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Mae’r gwasanaeth ‘Hear to Help’ am barhau ledled Cymru

Bydd prosiect arbennig o lwyddiannus sydd wedi helpu 8,300 o bobl yng Nghymru i glywed eto trwy drwsio eu cymhorthion clyw yn parhau diolch i ymgyrch i achub y gwasanaeth.

Roedd y prosiect Hear to Help yn galluogi gwirfoddolwyr a hyfforddwyd gan awdiolegwyr y GIG i atgyweirio a chynnal a chadw cymhorthion clyw trwy glinigau yn eu cymunedau lleol, gan helpu miloedd o ddefnyddwyr cymorth clyw yng Nghymru. Creodd y cynllun peilot tair blynedd llwyddiannus gan Action on Hearing Loss Cymru 53 clinig lleol a gynhaliwyd gan griw o fwy na 100 o wirfoddolwyr. Bwriadwyd i’r prosiect a ariannwyd gan y Loteri ddod i ben ym mis Mawrth 2016, ond mae gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaeth ledled Cymru wedi bod yn deisebu eu byrddau iechyd i erfyn arnynt i barhau â’r gwasanaeth. Mae’r ymgyrch wedi helpu i sicrhau’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol ym mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru. Mae Byrddau Iechyd Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda wedi ymrwymo i barhau â’r gwasanaeth yn rhan o’u gwasanaethau GIG. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi penderfynu comisiynu Action on Hearing Loss Cymru i barhau â’u gwasanaeth.

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn effeithiol nid yn unig wrth helpu pobl i glywed eto ond hefyd wrth leihau arwahanrwydd ac unigrwydd. Mae tri o bob pump o bobl yn dweud eu bod yn teimlo’n unig o ganlyniad i golli eu clyw. Dywedodd 96% o’r bobl a gynorthwywyd gan Hear to Help fod y clinigau wedi gwella eu bywydau pob dydd. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth yn helpu miloedd yn fwy o bobl

ledled Cymru sydd mewn perygl o unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl.

Dywedodd Roger Malvern, sy’n atgyweirio cymhorthion clyw yng nghlinig Llandrindod: ‘Dwi wedi colli cyfrif sawl gwaith ’dwi wedi gweld wyneb rhywun yn goleuo wrth iddyn nhw sylweddoli eu bod nhw’n gallu clywed eto. Mae’r gallu i sefydlu gwasanaeth cymunedol mewn ardal wledig fel Powys, lle nad yw’n ymarferol i lawer o bobl teithio i’r adran awdioleg, yn golygu bod y gwasanaeth ‘Hear to Help’ yn gwbl hanfodol. ’Dwi i ddim eisiau meddwl faint o bobl fyddai wedi bod ar eu colled petai’r gwasanaeth hwn wedi cau, felly ’dwi’n falch iawn bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi penderfynu parhau ag ef’.

Dywedodd Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru: ‘Rydym ni’n falch iawn bod y byrddau iechyd hyn wedi cydnabod gwerth a llwyddiant rhyfeddol y gwasanaeth Hear to Help. Mae’r gwasanaeth hwn wedi helpu i symud gwasanaethau allan o ysbytai ac i gymunedau lleol, gan arbed oriau o amser teithio i bobl weithiau. Mae hefyd yn rhyddhau amser gwerthfawr ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac yn defnyddio’r sgiliau gwych y mae ein gwirfoddolwyr wedi’u datblygu. Mae cleifion yn dweud wrthym fod y gwasanaeth yn gyfleus ac yn lleol, a’u bod nhw hefyd yn gwerthfawrogi’r ffaith ei fod yn cael ei ddarparu gan wirfoddolwyr sydd wedi colli eu clyw, fel nhw’.

Os hoffech gael gwybod mwy am y gwasanaeth Hear to Help, cysylltwch â Llyr Wilson-Price, Swyddog Cyfathrebu, Action on Hearing Loss Cymru ar [email protected] neu ffoniwch 029 2033 3034.

Rhifyn 2 | Awst 201616 17Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 18: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

WCDP yw cydhwyluswyr yr hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Nam ar y Synhwyrau rydym ni’n ei ddarparu ar hyn o bryd i Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Hywel Dda.

Mae ein sefydliad yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl sydd wedi colli eu clyw – boed hynny’n bobl o’r gymuned fyddar y mae eu hiaith gyntaf yn Iaith Arwyddion Prydain, pobl sydd wedi colli eu clyw o ganlyniad i heneiddio neu’n fwy sydyn, neu bobl sydd wedi colli eu clyw a’u golwg o ganlyniad i gyflyrau fel syndrom Usher.

Mae’r Cyngor hefyd yn sefydliad ambarél sy’n dwyn ynghyd amrywiaeth o grwpiau ac elusennau sy’n gweithio i gefnogi ac ymgyrchu dros hawliau pobl sydd wedi colli eu clyw ledled Cymru. Ein grwpiau cymorth lleol yw llawer o’r rhain ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw ac sydd â thinitws. Rydym ni wedi sefydlu’r grwpiau hyn i roi cyfle i’w haelodau ddod at ei gilydd i rannu profiadau, darparu cymorth gan gymheiriaid a gweithio gyda’i gilydd i ymgyrchu dros well adnoddau a hygyrchedd i bobl sydd wedi colli eu clyw yn eu hardaloedd.

Mae 2016 yn flwyddyn arbennig i ni – mae’n nodi ein pen-blwydd swyddogol yn 60 oed ac yn rhoi’r cyfle i ni ddathlu a chydnabod gwaith caled yr holl bobl a gyfrannodd dros y blynyddoedd at gynorthwyo pobl yr effeithir arnynt gan golli’r clyw. Edrychwch ar ein gwefan www.wcdeaf.org.uk a thra eich bod chi yno, lawrlwythwch gopi o’n cylchlythyr: ‘TUNED IN’. Gallwch hefyd anfon eich cais trwy neges e-bost: [email protected].

Rydym ni’n arbennig o falch o’n gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn datblygu a darparu hyfforddiant Nam ar y Synhwyrau. Ni yw’r sefydliad arweiniol sy’n darparu’r hyfforddiant hwn i Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Hywel Dda, gan weithio mewn partneriaeth â Nam ar y Golwg Merthyr Tudful. Rydym ni wedi bod yn falch iawn â llwyddiant y cyrsiau a’r adborth cadarnhaol iawn rydym ni wedi’i gael. O’n safbwynt ni, mae’n gyfle gwerthfawr i helpu staff y bwrdd iechyd i sylweddoli’r rhwystrau sylweddol sy’n wynebu pobl â nam ar y synhwyrau yn eu bywydau beunyddiol, yn enwedig pan fydd angen cymorth meddygol arnynt.

Rydym ni’n helpu’r rhai sy’n dilyn y cyrsiau i amlygu ffyrdd y gall eich staff wneud newidiadau sy’n aml yn fach i’w gweithdrefnau sy’n gallu gwneud

John Gilchrist, Rheolwr Hyfforddiant ar gyfer Cyngor Cymru i Bobl Fyddar (WCDP), yn siarad am waith y Cyngor a pham mae 2016 yn flwyddyn arbennig i’r sefydliad

Rhifyn 2 | Awst 201618 19Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 19: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

gwahaniaeth enfawr i ansawdd y gofal a’r cymorth a gaiff gleifion.

Un o’n llwyddiannau mawr eraill yw ein partneriaeth gynyddol agos â Hywel Dda. Gan ychwanegu at ein memorandwm cyd-ddealltwriaeth cychwynnol i ddarparu gwasanaethau cymorth cyfathrebu a dehongli Iaith Arwyddion Prydain, mae ein perthynas waith wedi aeddfedu i gynnwys amrywiaeth o wasanaethau eraill sydd oll yn canolbwyntio ar wella cyfathrebu i bobl sydd wedi colli eu clyw. Mae hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth pan fo’i hangen arnynt, a bod gan staff Hywel Dda ddealltwriaeth fwy eglur o’r wybodaeth y mae’r claf yn ceisio ei throsglwyddo.

Mae’r Cyngor yn frwd o blaid yr angen i ddarparu cymorth priodol i bobl sy’n colli eu clyw pan fyddant yn oedolion. Nid yw Iaith Arwyddion Prydain yn ateb ymarferol fel arfer, ond credwn fod mynediad at ddosbarthiadau darllen gwefusau’n ddefnyddiol iawn! Rydym ni’n gweithio gyda’n grwpiau cymorth a sefydlwyd ledled Cymru i helpu aelodau i ddeall eu byddardod yn well, gwerthfawrogi pwysigrwydd cael diagnosis a thriniaeth yn gynnar ac amlygu datrysiadau fel

dosbarthiadau darllen gwefusau er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu gwneud y defnydd gorau posibl o’r clyw sydd ganddynt ar ôl i gyfathrebu â ffrindiau a theulu.

Rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn cynnal y trydydd cwrs ar gyfer tiwtoriaid darllen gwefusau dan hyfforddiant. Ariennir y cwrs gan Lywodraeth Cymru ac fe’i hwylusir y tro hwn gan diwtoriaid o City Lit yn Llundain sy’n teithio i’n swyddfeydd ym Mhontypridd i ddarparu blociau’r cwrs. Rydym ni’n arbennig o falch o allu cynnwys aelodau brwdfrydig ein grwpiau cymorth lleol sy’n dod i’r dosbarthiadau darllen gwefusau sy’n rhan o’r blociau. Mae’r rhain yn rhoi cyfleoedd ychwanegol gwerthfawr i’n hyfforddeion i arsylwi ymarfer addysgu.

Os hoffech wybod mwy, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein hyfforddiant neu wasanaethau cymorth cyfathrebu eraill, cysylltwch â mi i drafod ffyrdd y gallem gydweithio i wella cyfathrebu ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw.

John Gilchrist, Rheolwr Hyfforddiant, Cyngor Cymru i Bobl FyddarE-bost: [email protected] Ffôn: 01443 485687

Rhifyn 2 | Awst 201618 19Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 20: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Mae amgylchedd a gynlluniwyd yn wael a diffyg cyfathrebu priodol yn rhwystrau mawr i bobl sydd â nam ar y synhwyrau ac yn gwneud pobl sy’n annibynnol fel arall yn ddibynnol ar dywyswyr a/neu aelodau’r teulu.Bydd y profiad hwn yn hen atgof i gleifion pan ddônt i’r adran cleifion allanol.

Dywedodd y Rheolwr Cleifion Allanol, Stephen Barnard: ‘Mae cyfathrebu effeithiol rhwng staff a chleifion sydd â nam ar y synhwyrau yn dibynnu ar ymwybyddiaeth staff o anghenion cyfathrebu penodol y claf’.

Mae pob aelod o staff yn yr adran cleifion allanol wedi dilyn hyfforddiant nam ar y synhwyrau ac wedi croesawu’r newidiadau yn yr adran.’

Wrth gyrraedd, rhoddir llyfryn cyfathrebu i gleifion sy’n cynnwys:

• Cardiau llun• Gwyddor sillafu â’r bysedd• Cloc – i ddangos amser apwyntiadau• Siart geiriau • Siart rhifau a misoedd• System dolen sain

Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn cynnwys sticer ‘rhybudd’ ar dudalen flaen nodiadau cleifion a fydd yn gwella gwasanaethau

presennol yr adran. Bydd darparu’r wybodaeth sylfaenol hon ar ffeiliau cleifion gan ddefnyddio system rybuddio yn helpu i wella profiad y claf i’r graddau bod cleifion yn teimlo bod pob aelod o staff yn gallu cyfathrebu’n dda â nhw oherwydd bod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud hynny.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf hefyd wedi croesawu’r ymgyrch ‘Helô, fy enw i yw…’, sy’n golygu bod pob aelod o staff yn cyflwyno eu hunain i gleifion erbyn hyn, sy’n gwella profiad y claf o’r cychwyn. Dywedodd Liz Jenkins, Rheolwr Cydraddoldeb y bwrdd iechyd: ‘Mae hyn yn enghraifft wych o reolwr yn dangos dealltwriaeth go iawn o’r problemau sy’n wynebu pobl â nam synhwyraidd ac yn rhoi systemau effeithiol ac arloesol ar waith i’w galluogi i gyfathrebu a, thrwy hynny, wella eu profiad

Gwella Profiad y Claf yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar

Erbyn hyn, dylai cleifion sydd â nam ar y synhwyrau gael profiad llawer gwell wrth ymweld â’r adran cleifion allanol yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar. Darganfyddwch beth sydd wedi bod yn digwydd diolch i Stephen Barnard, Rheolwr Cleifion Allanol.

Rhifyn 2 | Awst 201620 21Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 21: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

yn sylweddol. Mae hwn yn fodel y gellir ei ddefnyddio mewn ardaloedd cleifion allanol ar draws y Bwrdd Iechyd ac mewn mannau eraill i gleifion hefyd.’

Gwirfoddolodd Stephen i fod yn Hyrwyddwr Nam Synhwyraidd ar ôl dilyn yr hyfforddiant

nam synhwyraidd a gynigir i staff ar draws y bwrdd iechyd. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Nam Synhwyraidd, cysylltwch â: [email protected]

Byddardod a Llesiant

Darganfyddwch fwy am brosiect sydd wedi’i leoli yng Nghlwb Pobl Fyddar Pontypridd sy’n ceisio gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol a chymunedol i bobl Fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Dechreuodd y prosiect hwn yn 2014 ac mae’n gydweithrediad rhwng partneriaid o’r sector statudol a’r trydydd sector gan gynnwys Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Meddygfa Ashgrove, Pontypridd, Meddygfa Parc Canol, Pentre’r Eglwys, Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG, Interlink Rhondda Cynon Taf, New Horizons Mental Health a Journeys. Nod cyffredinol y prosiect yw lleihau effaith a nifer yr achosion o iechyd meddwl gwael ymhlith pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) sy’n byw ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf.

Mae gan bobl fyddar anghenion cyfathrebu gwahanol ac mae cyfathrebu gwael yn fater diogelwch i’r claf. Mae’n golygu bod gan bobl fyddar fwy o afiechydon na wneir diagnosis ohonynt ac a allai fygwth bywyd na phobl sy’n gallu clywed. Canfu ymchwil genedlaethol fod ‘pobl fyddar yn fwy tebygol o fod dros bwysau, ddwywaith

mor debygol o fod â phwysedd gwaed uchel a phedair gwaith mor debygol o fod ar drothwy diabetes. Mae llawer yn byw gyda phroblemau iechyd yn ddiarwybod a all arwain at drawiad ar y galon, strôc a chyflyrau difrifol eraill’.

Mae pobl fyddar hefyd yn llai tebygol o geisio cyngor meddygol pan fydd arnynt ei angen ac yn llai tebygol o gael triniaeth effeithiol oherwydd nad ydynt yn deall y cyngor a roddwyd iddynt ynglŷn â’u diagnosis na sut i gymryd eu meddyginiaeth yn gywir.

Byddar | Ymgysylltu | Mynediad | Cyfeillgar

Lles

Rhifyn 2 | Awst 201620 21Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 22: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Mae cyfathrebu a gwybodaeth nad yw’n hygyrch yn achosi risg a niwed diangen ac yn golygu bod pobl fyddar yn llai galluog na phobl sy’n gallu clywed o wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a’u lles.

Yn aml, nid yw gwybodaeth bwysig am iechyd yn hygyrch i bobl Fyddar. Tybir yn aml y bydd ysgrifennu gwybodaeth i bobl fyddar yn datrys y rhwystr cyfathrebu. Fodd bynnag, Iaith Arwyddion Prydain yw iaith gyntaf pobl fyddar ac mae eu dealltwriaeth o Saesneg yn aml yn gyfyngedig iawn.

Mae pobl Fyddar ddwywaith mor debygol o gael problemau iechyd meddwl o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Er gwaethaf y gydberthynas gref rhwng byddardod ac iechyd meddwl gwael, nid oedd y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl cymunedol lleol yng Nghwm Taf (y trydydd sector a’r sector statudol) yn cael eu defnyddio gan bobl fyddar.

Gofynnodd y Prosiect i’r gymuned Fyddar ym Mhontypridd weithio gyda nhw i ddod o hyd i ffyrdd o wella eu mynediad at wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth, ac i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y gymuned Fyddar fel y gallant aros yn iach a rheoli eu hiechyd a’u lles eu hunain.

Gan weithio trwy Grŵp Ffocws wedi’i leoli yng Nghlwb Pobl Fyddar Pontypridd, rydym ni wedi:

• Darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o nam synhwyraidd i fwy na 200 o staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, gan gynnwys staff sy’n gweithio ym meddygfeydd Ashgrove a Pharc Canol;

• Cyflwyno cyfeiriad e-bost penodol er mwyn i gleifion Byddar gysylltu â’r bwrdd iechyd

os oes angen iddynt newid neu ganslo apwyntiad;

• Gweithio gyda phobl Fyddar i gydgyflwyno’r Rhaglen Addysg i Gleifion ar Reoli Cyflwr gan ddefnyddio adnoddau sy’n addas i bobl Fyddar;

• Hyfforddi dau aelod byddar o’r Grŵp Ffocws i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl;

• Sicrhau cyllid i dreialu gwasanaethau dehonglwr BSL ar-lein ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dechrau ym mis Gorffennaf 2016;

• Cynyddu ymwybyddiaeth aelodau Clwb Pobl Fyddar Pontypridd o’r cyfle i ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein i drefnu apwyntiadau, a chynorthwyo un aelod i gofrestru â’i feddygfa;

• Trefnu rhaglen hyfforddiant BSL Lefel 1 ar gyfer staff a fydd yn dechrau ym mis Medi 2016;

• Gweithio gydag aelodau prosiect ‘Gwreiddiau Byddar a Balchder’ Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain i newid enw a logo’r Prosiect. Bydd y logo newydd yn cael ei ddefnyddio fel nod barcud i’w gyflawni gan ddarparwyr gofal iechyd a fydd yn dangos i gleifion bod eu gwasanaethau’n ystyriol o bobl Fyddar.

Bydd y prosiect yn parhau i gefnogi mentrau eraill eleni sy’n gwella mynediad at wybodaeth a gwasanaethau ac yn hyrwyddo iechyd a lles y gymuned Fyddar.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Michelle Fowler-Powe, Swyddog Eiriolaeth Gymunedol, Cymdeithas Pobyl Fyddar Prydain yn [email protected].

Rhifyn 2 | Awst 201622 23Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 23: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Cymryd Camau Cadarnhaol i Gynorthwyo Pobl i Gael Gwaith

Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG yn rhannu ei phrofiad o weithio gydag Asiantaeth Cyflogaeth Gefnogol Elite i wneud y gweithle’n hygyrch i bobl sydd â nam ar y synhwyrau.

Nid oes angen i ni gynnal dadansoddiad o’r gweithlu i wybod bod llawer o grwpiau amrywiol yn byw yng Nghymru sy’n cael eu tangynrychioli yng ngweithlu’r GIG. Er bod sefydliadau iechyd yn defnyddio’r ‘Symbol Anabledd Tic Dwbl’ i annog ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, nid yw’r prosesau recriwtio arferol yn gwneud cyfleoedd cyflogaeth yn hygyrch i rai pobl anabl. Mae angen llwybr gwahanol i gyflogaeth ar rai pobl a dyma lle y gall cyflogwyr gymryd camau cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth y gweithlu.

Dyma Tara Lewis, ein Swyddog Gweinyddol newydd. Mae Tara newydd gorffen lleoliad gwaith taledig am 3 mis yng Nghanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG, sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Recriwtiwyd Tara trwy Asiantaeth Cyflogaeth Gefnogol Elite. Mae Elite yn gweithio gyda llawer o wahanol bobl sy’n gallu gweithio ac sydd eisiau gweithio, ond sy’n wynebu rhwystrau rhag cael cyflogaeth. Mae Tara yn gweithio’n rhan-amser ac mae hyfforddwr swydd ar gael iddi a ddarperir gan Elite.

Mae’r hyfforddwr swydd yn gweithio gyda’r unigolyn i’w alluogi i wneud y swydd yn annibynnol yn y pen draw. Bydd yn treulio cymaint neu gyn lleied o amser ag sydd ei angen i gynorthwyo unigolyn drwy gydol y lleoliad ac, os yw’r unigolyn yn gallu cyflawni

cyflogaeth daledig, mae Elite wrth law o hyd i gynnig cyngor a chymorth pellach.

Ymunodd Tara â ni ar ôl 7 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gweinyddiaeth. Cafodd y profiad hwn o leoliadau gwaith yn ogystal â phedair blynedd o gyflogaeth daledig gydag SJB Construction a Chanolfan Gymunedol Cwmparc. Mae Tara wedi colli ei golwg a’i chlyw a dechreuodd ei thaith gyflogaeth drwy fynd i glybiau swydd gydag Elite, a arweiniodd at gyfleoedd lleoliad gwaith gyda chyflogwyr lleol. Trwy ennill cyflogaeth daledig, roedd Tara yn gallu cael cymorth gan Mynediad i Waith sy’n cynnwys trafnidiaeth er mwyn i Tara allu cyrraedd y gwaith yn annibynnol, yn ogystal â meddalwedd Super Nova sy’n chwyddo sgrin y cyfrifiadur a’i gwneud yn bosibl i Tara ddarllen testun a phrosesu gwaith gan ddefnyddio cyfrifiadur. Bydd Tara yn cael bysellfwrdd mwy o faint yn fuan hefyd a fydd yn cynyddu ei chyflymder a’i chywirdeb wrth deipio.

Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG yn gweithio gydag Elite ac asiantaethau cyflogaeth gefnogol ledled

Rhifyn 2 | Awst 201622 23Rhifyn 2 | Awst 2016

Page 24: Mae’n Gwneud Synnwyr · modiwl rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwestiynau asesu i brofi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu. Mae dros 1000 o aelodau staff wedi dilyn y modiwl hyd

Cysylltu â ni

Bydd y rhifyn nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016 a byddem yn croesawu sylwadau a chyfraniadau gan unrhyw unigolyn neu sefydliad sy’n ymwneud â gwaith i gyflawni Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl

sydd â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy.

I gael rhagor o wybodaeth am y cylchlythyr hwn a/neu gyflwyno erthygl ar gyfer yr un nesaf, cysylltwch â Tara Lewis at:[email protected]

Cymru i annog a chynorthwyo Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i gyflwyno interniaethau cefnogol sy’n arwain at swyddi taledig go iawn i bobl fel Tara. Mae ein profiad o weithio gyda Tara wedi bod yn un cadarnhaol iawn ac rydym wedi ymestyn ei lleoliad am 7 mis arall. Yn y tymor hwy, gweithio gyda hi i sicrhau cyflogaeth barhaol naill ai yng Nghanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG neu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ehangach.

Yr hyn a ddywedodd Tara am y cyfle i weithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru“Mae cael y cyfle i weithio’n bwysig iawn i mi. Mae gwaith yn gwella eich iechyd meddwl ac yn eich cadw chi’n brysur. Mae’n rhoi sicrwydd ariannol i mi ac yn fy ngalluogi i gael rhywfaint o annibyniaeth. Rydw i hefyd yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael y cyfle i gyfarfod â llawer o wahanol bobl ddiddorol. Mae llawer o ffyrdd syml o wneud cyflogaeth yn hygyrch i bobl anabl, er enghraifft, yn syml iawn, mae’r gallu i gynyddu lefel y sain ar fy ffôn yn fy ngalluogi i gyfathrebu â phobl ar y ffôn. Mae gan asiantaethau cyflogaeth gefnogol ddealltwriaeth well o lawer o’r hyn sydd ei angen ar bobl anabl er mwyn iddynt allu dod o hyd i waith. Roedd Elite wedi fy

nghynorthwyo i wneud cais am swyddi ac i fod yn fwy hyderus mewn cyfweliadau. Mae Elite hefyd yn cynorthwyo cyflogwyr trwy ddarparu hyfforddwyr swydd sy’n gweithio gyda chi i ddeall a chyflawni tasgau’n effeithiol. Heb gyflogaeth gefnogol, byddai wedi cymryd llawer hirach i mi ddod o hyd i waith ac mae’n bosibl na fyddai fy nghyflogwr wedi deall yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen arna’ i er mwyn i mi fod yn weithiwr effeithiol. Dylai pawb fod â’r hawl i gael mynediad i’r gweithle ac i brofi’r holl bethau da sy’n dod yn sgil swydd. Mae cyflogaeth gefnogol yn rhoi cyfle teg i mi weithio.”

Os ydych chi eisiau rhannu ein profiad ac yn gallu cynnig cyfle cyflogaeth gefnogol i rywun, cysylltwch â Tracey Good ar [email protected]

Hoffai Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y cylchlythyr hwn.

Rhifyn 2 | Awst 201624 PBRhifyn 2 | Awst 2016