meini bywiol (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd,...

8
Mae gan bob un ohonom ddarlun meddyliol o Fethlehem – dinas Dafydd Frenin. O ddyddiau plentyndod buom yn syllu ar gardiau Nadolig oedd yn dangos y stabl a’r bugeiliaid a muriau melyn yr adeiladau. Mor wahanol yw’r gwirionedd. Mae yma fur trideg troedfedd o uchder yn amgylchynu Bethlehem. Palestiniaid yw’r trigolion a Mwslemiaid ydynt. Ychydig o Gristnogion sy’n dal i fyw yno heddiw. Gwladwriaeth Israel adeiladodd y wal a rhaid mynd drwy checkpoint a dangos passport cyn gallu mynd i mewn i’r ddinas am ei bod yn diriogaeth Balesteinaidd ac yn rhan o’r Lan Orllewinol. Rhannodd y wal deuluoedd, rhannodd ddynion oddi wrth eu gwaith a rhaid aros am oriau i fynd drwy’r checkpoint i fynd a dod adre bob dydd. Rhannodd hefyd fugeiliaid Bethlehem oddi wrth y meysydd lle’r oedd eu cyndadau wedi pori eu diadelloedd ers canrifoedd. Cofiaf siarad ag un wrth iddo edrych allan dros ei dir a gweld fod yr Israeliaid yn codi mwy a mwy o dai ar yr erwau fu mor gyfarwydd iddo. Bellach mae’n cerfio modelau o ddefaid i’w gwerthu i dwristiaid i geisio ennill ychydig o arian. Mae ymweld â Bethlehem yn brofiad cofiadwy iawn. Rhaid dringo’r bryn a mynd at Eglwys y Geni a adeiladwyd dros yr ogof lle ganwyd Iesu. Mae’n adeilad hynafol a’r eglwys gyntaf wedi ei chodi ar y safle gan yr Ymerawdwr Cystennin yn y bedwaredd ganrif. Bu llawer o newid ac ychwanegu at yr adeilad ers hynny. Fel y gwelwch o’r llun mae’r Parch Eleri Edwards yn sefyll o flaen y brif fynedfa. O edrych ar y drws gwelwn ei fod yn sgwâr ac yn isel. Bu rhaid i Eleri a minnau blygu i fynd i mewn i’r eglwys. Drws i ddysgu gostyngeiddrwydd i ni, medd rhai. Yn ôl esboniadau eraill llanwyd y bwa mawr oedd cynt yn dal y drws â meini er mwyn rhwystro pobl rhag marchogaeth i mewn i’r eglwys, rhag lladron ac i gadw’r masnachwyr rhag dod â throliau i’r eglwys. Oddi fewn i’r adeilad enfawr mae pedwardeg pedwar o golofnau yn rhannu corff yr eglwys ac yn arwain at yr allor ar y mur dwyreiniol. I’r chwith o’r allor mae grisiau ar ffurf hanner cylch yn arwain i lawr i’r ogof lle ganwyd Iesu. Yn y llawr ar yr ochr ddwyreiniol, ceir seren arian sy’n dangos yr union fan lle y cafodd ei eni ac ar ochr orllewinol i’r ogof mae’r fan lle’r oedd y preseb. Mae’n arferiad i bawb aros eu tro a phlygu i lawr i anwesu neu gusanu’r seren. Ie, man i ddangos gwyleidd-dra yw Eglwys y Geni. Ond nid oes gwyleidd-dra na heddwch yn teyrnasu dros y fan y ganwyd Tywysog Tangnefedd. Mae’r eglwys yn cael ei rheoli gan Yr Eglwys Uniongred Roegaidd, Yr Eglwys Apostolaidd Armenaidd a’r Eglwys Babyddol. Yn aml byddant yn ffraeo dros bwy sy’n gwneud beth! Onid ydym ninnau yng Nghymru yn glynu’r un mor dynn at ein henwadaeth? Eirlys Gruffydd-Evans CYFROL CXLVIII RHIF 36 DYDD GWENER, MEDI 4, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU O Benllwyn i Bootle … t. 2 • O hwnt ac yma … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 MEINI BYWIOL (4) ‘...ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.’ Mynedfa i Eglwys y Geni Seren arian Eglwys y Geni

Upload: others

Post on 11-Sep-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

Mae gan bob un ohonomddarlun meddyliol oFethlehem – dinas DafyddFrenin. O ddyddiauplentyndod buom yn syllu argardiau Nadolig oedd yndangos y stabl a’r bugeiliaid amuriau melyn yr adeiladau.Mor wahanol yw’r gwirionedd.Mae yma fur trideg troedfeddo uchder yn amgylchynuBethlehem. Palestiniaid yw’rtrigolion a Mwslemiaid ydynt.Ychydig o Gristnogion sy’ndal i fyw yno heddiw.Gwladwriaeth Israeladeiladodd y wal a rhaidmynd drwy checkpoint adangos passport cyn gallumynd i mewn i’r ddinas amei bod yn diriogaethBalesteinaidd ac yn rhan o’rLan Orllewinol. Rhannodd ywal deuluoedd, rhannoddddynion oddi wrth eu gwaith

a rhaid aros am oriau i fynddrwy’r checkpoint i fynd a dodadre bob dydd. Rhannoddhefyd fugeiliaid Bethlehemoddi wrth y meysydd lle’roedd eu cyndadau wedi porieu diadelloedd erscanrifoedd. Cofiaf siarad agun wrth iddo edrych allandros ei dir a gweld fod yrIsraeliaid yn codi mwy a mwyo dai ar yr erwau fu morgyfarwydd iddo. Bellachmae’n cerfio modelau oddefaid i’w gwerthu idwristiaid i geisio ennillychydig o arian.

Mae ymweld â Bethlehem ynbrofiad cofiadwy iawn. Rhaiddringo’r bryn a mynd atEglwys y Geni a adeiladwyddros yr ogof lle ganwyd Iesu.Mae’n adeilad hynafol a’reglwys gyntaf wedi ei chodiar y safle gan yr Ymerawdwr

Cystennin yn y bedwareddganrif. Bu llawer o newid acychwanegu at yr adeilad ershynny. Fel y gwelwch o’r llunmae’r Parch Eleri Edwards ynsefyll o flaen y brif fynedfa.O edrych ar y drws gwelwn eifod yn sgwâr ac yn isel. Burhaid i Eleri a minnau blygu ifynd i mewn i’r eglwys. Drwsi ddysgu gostyngeiddrwyddi ni, medd rhai. Yn ôlesboniadau eraill llanwyd ybwa mawr oedd cynt yn dal ydrws â meini er mwynrhwystro pobl rhagmarchogaeth i mewn i’reglwys, rhag lladron ac igadw’r masnachwyr rhagdod â throliau i’r eglwys.Oddi fewn i’r adeilad enfawrmae pedwardeg pedwar ogolofnau yn rhannu corff yreglwys ac yn arwain at yrallor ar y mur dwyreiniol.I’r chwith o’r allor mae grisiauar ffurf hanner cylch ynarwain i lawr i’r ogof lle

ganwyd Iesu. Yn y llawr ar yrochr ddwyreiniol, ceir serenarian sy’n dangos yr unionfan lle y cafodd ei eni ac arochr orllewinol i’r ogof mae’rfan lle’r oedd y preseb. Mae’narferiad i bawb aros eu tro aphlygu i lawr i anwesu neugusanu’r seren. Ie, man iddangos gwyleidd-dra ywEglwys y Geni.

Ond nid oes gwyleidd-dra naheddwch yn teyrnasu drosy fan y ganwyd TywysogTangnefedd. Mae’r eglwys yncael ei rheoli gan Yr EglwysUniongred Roegaidd,Yr Eglwys ApostolaiddArmenaidd a’r EglwysBabyddol. Yn aml byddantyn ffraeo dros bwy sy’ngwneud beth!

Onid ydym ninnau yngNghymru yn glynu’r un mordynn at ein henwadaeth?

Eirlys Gruffydd-Evans

CYFROL CXLVIII RHIF 36 DYDD GWENER, MEDI 4, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

O Benllwyn i Bootle… t. 2 • O hwnt ac yma … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

MEINI BYWIOL (4)‘...ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel.’

Mynedfa i Eglwys y Geni

Seren arian Eglwys y Geni

Page 2: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

Ond wrth edrych yn ôl credaf maicyfraniad pennaf David Richards oeddyn ystod blynyddoedd y Rhyfel BydCyntaf. Apwyntiwyd ef yn YsgrifennyddPwyllgor yr Eglwys i ofalu ar ôlbuddiannau y brodyr a ymatebodd iberswâd David Lloyd George a JohnWilliams, Brynsiencyn a gweinidogioneraill a welai y gyflafan honno fel rhyfelgyfiawn. Yr oedd 462 o frodyr yn gyflawnaelodau yng nghapel Stanley Road aphenderfynodd 230 ohonynt ymunogyda lluoedd arfog, eu hanner a hefydwyth o ferched. Dyma a ddywedir yn ygyfrol flasus ar Hanes yr Achos sefCamau’r Cysegr a baratowyd gan dadMeirion Evans, yr anghymharol HughEvans, sylfaenydd Gwasg y Brython:

Ymdrechwyd cadw mewn cyffyrddiadbyw a phob aelod oedd oddi cartreftrwy drefnu i ryw frawd neu chwaeranfon llythyr unwaith y mis at bob uno’r milwyr a’r morwyr. Ac nid gwaithbychan oedd casglu dros ddeucant owahanol gyfeiriadau rhai oedd ynsymud o’r naill fan i’r llall. Ynghanolberw mawr y rhyfel, a’u dosbarthurhwng aelodau’r eglwys oedd yn barodi ysgrifennu atynt... . Yn y cyfarfod‘Croeso Adref’ cyflwynwyd y bechgyngan David Richards, a weithiodd mewnamser ac allan o amser dros achos einmilwyr a’n morwyr.

Dyma ei gyfraniad mawr, cyfraniadgwerthfawr a hir gofir yn Stanley Road.Nid rhyfedd fod blodeugyrch ar ei feddym mynwent Longmoor Lane ar ddyddMercher 12, Mehefin 1935 oddi wrth"cyn filwyr Stanley Road". Rhoddwydblodeugyrch oddi wrth ei DdosbarthYsgol Sul, Cyfeillion o’r Ysgol Sul aChlwb Bowlio y Cambria. Mae hyn yn

haeddu peth esboniad. Roedd gan yCymry yn Bootle Glwb Bowliollwyddiannus ryfeddol o’r enw y Cambriaa pherthynai David Richards iddo. Gallaigerdded yn hawdd o’i gartref yn 112Beatrice Street i’r parc i fowlio. Bu farwyn ei gartref ar 15 Mehefin 1935 ganadael i alaru ei feibion Thomas a HenryRichards, a dwy ferch, Mrs GeorgeJones a Mrs G. Vaughan Williams (O! caffy ngwylltio gan yr arferiad ynfyd o alw ymerched yn ôl enwau eu gwªr!) achwaer a brawd. Collodd ei briod raiblynyddoedd cyn hynny. Ei chwaer, MrsMargaret Evans, oedd yr olaf o’r teulu arlannau Mersi. Ganwyd hi yn Gwarcwm,Penllwyn ar 1 Chwefror 1856 a bu farwym maesdref Crosby, Gogledd Lerpwl ar24 lonawr 1945.

Bu hi fel ei brodyr yn rhan annatod ofywyd Stanley Road, ac ymddiddoroddyn fawr yng ngwaith cenhadol eglwysStanley Road yn St John’s Road aBankhall wedi hynny. Gwnaethwasanaeth amhrisiadwy, ac yn yblyddoedd rhwng 1904 a 1915 treuliau hiei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio agwarchod deugain o blant, argyfartaledd, am bythefnos o wyliau.Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt aphlant nad oedd gobaith yn y byd iddyntgael gwyliau mewn unrhyw ffordd arall.Trefnent y gwersyll mewn lle hwylus yngNgogledd Cymru, a dyma’r tri canolfan ybu hi yn gofalu amdano, Caergwrle,Cefn-y-bedd ger Wrecsam a Llanferres.Hi oedd brenhines y gwersyll a’r plant igyd yn eu hanwylo, am ei hamynedd a’umeddwlgarwch.

Rhoddodd fel ei brawd David gyfraniadpwysig yn yr Ysgol Sul. Fel yntau bu hiyn athrawes ar y plant. Ond roedd ei

nwyd genhadol yn ddihareb. Bu ynymwelydd cyson â phobl oedd ynperthyn i’r Ystafell GenhadoJ, yn ffrindda i’r chwaer Kate Evans, ac ynddawnus ryfeddol ym mywyd ysbrydol yreglwys niferus. Roedd y tri ohonynt ynmeddu ar arddeliad amlwg, gwres ydiwygiadau yn ei gwaed, ac awydd iwasanaethu yr Eglwys yn nwyd iddynt.Yr oedd ei phriod Benjamin Evans yngefnogol i’w gwaith, a bu ef farw yn1928, o flaen ei brodyr David a RichardRichards. Ganwyd iddi mab a merch.Trigai ei mab Thomas Evans ar ddiweddyr Ail Ryfel Byd yn 9 Gordon Avenue,Waterloo a’i merch Mrs William Jones ynCrosby. Galwodd ei chartref gyda’r enwtlws Delfryn. Gwasanaethwyd yn eiharwyl hi gan y Parchedig R. GeleWilliams, a feddyliai’n uchel am eichyfraniad, a hi yr adeg honno oeddaelod hynaf eglwys Stanley Road,Bootle. Bu farw ar drothwy ei 89 mlwyddoed.

Saif capel Penllwyn ar fin y ffordd fawrrhwng Ponterwyd a Llanbadarn Fawr.Byddaf yn teithio’n gyson heibio’r Capela sylwi ar gerflun y Dr Lewis Edwards, yBala, un o blant y fro, o flaen y Capel.Daw i’m cof am eraill a fagwyd yn y frofel y Dr Owen Prys a fu’n brifathro yColeg Diwinyddol, Aberystwyth. Diddorolyw nodi fod y ddau hyn wedi cyfrannu’nhelaeth i addysg ddiwinyddol am brongan mlynedd o amser. Ond erbyn hynpan af heibio Capel Penllwyn ymmhentref Capel Bangor byddaf yn cofiotri arall, plant Gwarycwm, Margaret,David a Richard Richards a ddiwyllioddfywyd cannoedd o’u cyd-Gymry yn nhrefBoole ar Ian yr afon Mersi. Yn wreiddiolyr oeddynt yn saith o blant, ond ar ddyddyr arwyl, ar 29 lonawr 1945 nid oedd ondun brawd ar ôl o deulu Gwarcwm. Roeddhi’n ddiwrnod gaeafol ond fe lwyddoddThomas Richards, a drigai yn Llanelli,fod yn bresennol yn arwyl ei chwaer,Margaret. Gellir dweud i’r tri ohonyntwireddu’r Gair.

‘Yr hyn a ymafla dy law ynddo, gwna a’thholl galon’.

2 Y Goleuad Medi 4, 2020

Teulu Richards o Benllwyn:Pobol Stanley Road, Bootle

gan D. Ben Rees(parhad o’r wythnos ddiwethaf)

Capel Mawr,RhosllannerchrugogBellach mae ‘Ysgoldy Fawr’, Capel MawrRhosllannerchrugog yn fwrlwm eto ers i’r Banc Bwydddechrau ei ddefnyddio. Mae’r fenter yn cael eigweithredu gan y Community Café (cangen o’rCommunity Church) ac yn darparu ar gyfer tua 400 obobl yn yr ardal.

Yn y llun (ar bellter cymdeithasol addas) gwelir PhilipElis, blaenor yn yr eglwys, Grace Lockhart o’rCommunity Church a Neil Poulton, Pennaeth Eiddo yCyfundeb.

Rhodded yr Arglwydd ei ras i bawb i barhau i gefnogi’rgwaith pwysig hwn a deled bendith yr Arglwydd ar yddwy eglwys yn y cyd-weithredu.

David Owens

Page 3: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

6 CYMDEITHASMae cymdeithas y saint yn rhan bwysigo fywyd yr eglwys. Ni fwriadodd Duwi’w blant fyw’n annibynnol ar ei gilydd.Ei ddymuniad yn hytrach yw eu bodnhw’n rhannu â’i gilydd fel brodyr achwiorydd yng Nghrist. Yn sicr, maeein cymdeithas gyda’n gilydd yn yreglwys yn un o’r prif bethau yr ydym ynei golli ar hyn o bryd gydag ychydig ynunig o’n heglwysi wedi ailagor ar ôlcyfnod y clo.Ceir undod eisoes ymysg Cristnogion

yn rhinwedd eu ffydd gyffredin yn yrArglwydd Iesu Grist. Mae’r ffydd honyn eu clymu’n un yn yr Arglwydd. Ynanffodus, cwyd rhaniadau oherwyddgwahaniaethau diwinyddol a pherson -oliaethau awdurdodol.Yn wyneb y fath sefyllfa, dylid cofio

fod yr Arglwydd Iesu Grist wedigweddïo ar ei Dad nefol am undod eibobl, fel y credai’r byd ‘mai tydia’m hanfonodd i’ (Ioan 17:21). Nidundod sefydliadol nac enwadol,organizational, mo hyn ond undodysbrydol sy’n codi o berthynas efo Duwa’i bobl, organig. Mae’r undod hwn arsail, ac nid ar draul, y gwirionedd.Mae angen cymdeithas arnom fel ein

bod yn cynorthwyo ein gilydd yn ybywyd Cristnogol. Roedd angencymdeithas y saint ar yr apostol Paul.Ac, yn bwysicach fyth, roedd angencymdeithas y disgyblion ar yr ArglwyddIesu Grist.

Tueddai rhai Cristnogion cynnar iesgeuluso cwrdd â’i gilydd (Hebreaid10:25). Anogodd yr awdur nhw felly iailennyn eu cymdeithas. Wedi’r cyfanroedden nhw oll yn frodyr ac ynchwiorydd i’w gilydd yng Nghrist.I feithrin cymdeithas y saint mae

angen cariad Crist ynddynt, y naill tuagat y llall. Nid bod person o reidrwyddyn teimlo’n arbennig o agos at ei gyd-gredadun ond y mae i’w garu felperthynas iddo yng Nghrist. Wedi’rcyfan, dyma orchymyn yr ArglwyddIesu Grist i’w ddisgyblion (Ioan 15:12).Efallai fod rhai Cristnogion yn

teimlo’n swil neu’n israddol yngnghwmni eu cyd-Gristnogion, felly maeangen iddynt sylwi eu bod nhw morwerthfawr â’i gilydd yng ngolwg yrArglwydd. Dywedodd un Cristiondiymhongar wrth bregethwr enwogunwaith nad oedd yn deilwng o fod ynei gwmni. Yn ôl daeth yr ateb: ‘Yr unigwahaniaeth rhyngot ti a mi yw fod ’da tiwallt a minnau ddim!’Ni all y corff weithredu’n iawn heb

fod yr aelodau’n gweithredu fel un:mae’r naill yn cynorthwyo’r llall. Ycwestiwn yw: nid a ydw i’n aelodgwerthfawr ond a ydw i’n gwneud fyrhan (1 Corinthiaid 12:12–31)?Mewn eglwys fawr gall aelod

ymgolli’n rhwydd yn y gynulleidfa hebdynnu ei bwysau. Ond caletach ywgwneud hynny mewn eglwys fechan. Aydw i felly’n asset neu’n liability i’mheglwys leol?Mae angen bwrw gwreiddiau mewn

eglwys leol i deimlo’n gartrefol ynddi.Nid yn unig beth a ga’ i o’r eglwyshonno sy’n bwysig ond beth a roddaf ii’r eglwys honno? Ym mha eglwysbynnag y mae person yn ymgartrefu,dylai roi o’i orau i fywyd a gwaith yreglwys honno.

Braint, braintyw cael cymdeithas gyda’r saint,na welodd neb erioed ei maint;ni ddaw un haint byth iddynt hwy;y mae’r gymdeithas yma’n gref,ond yn y nef hi fydd yn fwy.

John Roberts (Caneuon Ffydd, 34)

Medi 4, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

MODDION GRASCyfres yn ystyried beth sy’n angenrheidiol wrth inni barhau

i addoli a gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist yn y cyfnod hwn.

gan y Parch. PETER H. DAVIES

Gwers 9 – ‘Lleng’

GweddiNefol Dad, cofiwn heddiw am y boblsydd yn dioddef o salwch meddwl, ysawl sydd yn ddi-hwyl ac angencymorth seicolegol. Diolch am ymeddygon sydd wedi gweithio i ddysgumwy am y salwch hwn, ac am y boblsy’n ymchwilio i gynnig triniaethau afydd yn cynorthwyo’r cleifion hyn iymdoddi i fewn i gymdeithas yngyffredinol ac i fwynhau bywyd ynbenodol. Amen.

Darllen: Salm 139; Marc 5:1–20

CyflwyniadYmddengys ei bod yn bwysig i’refengylwyr nodi llawer o wyrthiauiacháu wrth adrodd hanes Iesu. Wrthreswm roeddent yn ddigwyddiadaurhyfeddol, ac nid gwaith yr esbonwyryw egluro sut digwyddodd y gwyrthiauhyn, ond cadarnhau fod gan Iesuddoniau nad oedd gan ddynion eraill,a’i fod wedi gwella cleifion, boed yngorfforol neu’n feddyliol. Nid yn unigyr oedd grym Iesu yn cael ei amlygu,ond hefyd roedd trugaredd Iesu tuag atyr anghenus i’w amlygu. Ceir portreado Iesu fel un a welai werth yn y rhai yroedd cymdeithas yn derbyn eu bod tu

hwnt i obaith a gwellhad. Clywai Iesugri’r anghenus a gwelai sefyllfaoeddenbydus pobl. Wrth adrodd hanes Iesu yn croesi i

wlad y Geraseniaid, pwysleisiai’refengylwyr fod Iesu yn croesi’r môr,sef y ddelwedd o berygl i’r Iddew, iwlad arall, ac i’r gfir a ddioddefaiddolur meddyliol adnabod Iesu a’igyfarch fel ‘Mab y Duw Goruchaf’.Byddai hyn yn arwyddocaol i’rIddewon a’r cenhedloedd eraill wrthiddynt ddarllen yr efengyl, sef bodmodd i bobl o bob cyflwr a chenedlsylweddoli pwy a beth oedd Iesu.Byddai gwybod fod Iesu yn drech na’r‘cythreuliaid’, sut bynnag roedd deall ygair hwnnw, gan herio rhagfarnau achamddealltwriaethau meddygol ydydd, wedi bod yn neges bwysig hefyd.Roedd y cyfarwyddyd a roddwyd iLleng ar ôl iddo wella yn arwyddocaol.Cymhellwyd ef i fynd adref a sôn wrthei deulu a’i gydnabod mai Iesu oedd

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae fideo o’r deunydd i'w weld yn yr adran ‘Gwersi Ysgol Sul i Oedolion’ar sianel deledu www.cristnogaeth.cymru

(parhad ar y dudalen nesaf)

Page 4: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

Mis yn unig ar ôl y newid pwrpasdadleuol a welwyd i Fasilica yr HagiaSophia, a gydnabyddir fel safletreftadaeth y byd gan UNESCO, maeArlywydd Twrci, Recep TayyipErdogan, wedi gorchymyn troisafle hynafol arall o addoliadCristnogol yn ôl yn fosg.Daeth y gorchymyn

arlywyddol ar 21 Awst idrawsnewid adeilad eglwysigSt Saviour yn Chora, a oeddbellach yn amgueddfa ynIstanbul a’i hanes yn un tebygiawn i gadeirlan yr HagiaSophia gerllaw.Cafodd y penderfyniad ei

feirniadu gan wrthwynebwyrgwleidyddol Erdogan acarweinwyr eglwysi a ddywed -odd y bydd y symudiad yndyfnhau rhaniadau crefyddolyn y wlad. Galwodd GaroPaylan, un o Aelodau Seneddolyr wrthblaid Dwrcaidd-Armenaidd, y trawsnewidiad yn ‘warthar ein gwlad’. Ychwanegodd, ‘Mae un osymbolau hunaniaeth ddofn, aml -ddiwylliannol ein gwlad a’i hanesamlgrefyddol wedi’i aberthu.’

Credir bod newid safleoedd pwysigyn nhreftadaeth Gristnogol y wlad ynfannau addoli Islamaidd yn un agweddar ymdrechion Erdogan i ennyncefnogaeth genedlaetholgar ar adeg pan

mae Twrci yn wynebu ansicrwyddeconomaidd ôl-Covid a chynnyddsydyn mewn chwyddiant.Roedd eglwys Sant Saviour yn Chora

yn eglwys ganoloesol a draws -

newidiwyd yn ddiweddarach yn FosgKariye 50 mlynedd ar ôl i fyddinoedd yrOtomaniaid goncro Caergystennin yn1453. Daeth yr adeilad CristnogolUniongred, mil o flynyddoedd oed, yn

Amgueddfa Kariye ym 1945,fel rhan o ymgyrch KemalAtaturk i seciwlareiddiogweriniaeth Twrci.Mae gormesu lleiafrifoedd

crefyddol yn cynyddu ynNhwrci lle mae’r mwyafrif ynFwslimiaid, yn enwedig o danyr Arlywydd IslamaiddErdogan, sydd wedi bod ynuchel ei gloch am ei awydd iail-greu’r YmerodraethOtomanaidd. Gwelwyd mwy oelyn iaeth tuag at Gristnogionyn ystod y blynyddoedddiwethaf wrth i gefnogaeth iblaid Erdogan, yr AKP,gynyddu. Mae beirniaid yllywodraeth yn honni bod ‘iaithcasineb’ (hate speech) gan y

llywodraeth wedi arwain atymosodiadau cynyddol ar grefyddaulleiafrifol.

(O e-daflen newyddionCronfa Barnabas)

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 4, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

wedi ei wella: ‘Roedd pawb ynrhyfeddu.’

MyfyrdodMae’r corff dynol yn gyfansoddiadrhyfeddol, ac mae’r meddwl dynol ynfwy cymhleth fyth. Pwy all wir ddeallbeth sy’n dylanwadu ar ein hwyliau ofunud i funud? ‘Rhyfedd y’n gwnaed’(Salm 139:1). Beth yw’r hollgemegolion yn ein cyfansoddiad sy’nperi bod person cytbwys a chyfrifol ynmedru troi’n anystywallt neu’n ddi-hid?Daethom i ddeall llawer mwy amiselder ysbryd ers diwedd yr Ail RyfelByd, ond mae cymaint mwy i’w ddeall.*Tybed beth oedd y dylanwadau arfeddwl y gfir ifanc ‘yn cartrefu ymhlithy beddau’? Beth fyddai dadansoddiadac ymateb y seiciatryddion iddoheddiw?* Yn amlwg roedd tu hwnt iallu cymdeithas ei ddydd i’wgynorthwyo. Dywed yr efengylwyr eifod o dan ddylanwad y ‘cythreuliaid’,ac mae gwallgofrwydd ac anwareidd-dra yn cyfleu meddwl gwyllt a methianti fyw mewn cymdeithas wâr.

Weithiau bydd hanes yn trafodarweinwyr gwleidyddol sy’n ormesolfel pobl despotig, a byddai’n ddiddorolpe bai modd deall beth oedd salwchcreiddiol Adolf Hitler. Mae’r ffin yndenau rhwng gwâr ac anwar, neu rhwngbod yn gariadlon neu’n greulon. Bethyw’r elfennau sy’n troi person llawenyn drist, neu’n peri bod y personcydweithredol a chymwynasgar ynymddwyn yn gwbl anystywallt? Unneges o’r darlleniad yw bod Iesu yndeall seicoleg dyn, a’i fod yn fwy na’rysbryd aflan mewn person. Sutbynnag y deallwn pwy a beth yw’rdiafol, roedd yr efengylwyr am ddangosbod Iesu yn drech na’r mwyafdychrynllyd. Mae dylanwad Iesu arfywyd unigolyn a chymdeithas yn fwynag y gallwn ei ddychmygu, ond roeddy dystiolaeth yng ngwarineb y gfir a fugynt o dan reolaeth yr ‘ysbrydionaflan’.

GweddiMaddau i ni, nefol Dad, am fod morbarod i feirniadu eraill heb fod wedi

gweddïo drostynt, ac i weld y llwch ynllygad person arall heb weld y darnmawr o bren yn ein llygaid ni.Arglwydd Iesu, gwared pob ysbrydaflan ynom ni a boed i ni fod yndebycach i ti. Amen.

Trafod ac ymateb:

• Trafodwch y cwestiwn a nodirgan * *.

• Mae’r Salmydd yn gwahodd ymchwilDuw ohono yn Salm 139:23oherwydd ei fod yn ei adnabod ynwell na neb arall, a hyd yn oed ef eihun. Gyda pha bwrpas y mae’n gofyni Dduw ei chwilio (adn. 24)?

• Trafodwch beth yw lle gweddi amyfyrdod ochr yn ochr â thriniaeth ameddyginiaeth at gyflyrau iechydmeddwl.

• Mor fregus y gall ein hiechyd meddwlfod ac mor hawdd i’w effeithio. Oscawsoch brofiad o hyn, a deimlwchyn ddiogel i rannu amdano? Beth yweich profiad o’r hyn fu/ sydd yngymorth i chi?

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd (parhad)

Erdogan yn gorchymyn troi ail adeiladeglwysig Cristnogol yn fosg yn Nhwrci

Yr adeilad a fu gynt yn Eglwys Uniongred St Saviouryn Chora, Istanbul, ac a ddaeth yn amgueddfa ar ôl

yr Ail Ryfel Byd

Page 5: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

Diddorol iawn yw cysylltiadau Cymreigdiwinydd mwyaf dylanwadol GogleddAmerica, sef Jim Packer a fu farw fisGorffennaf, ychydig ddyddiau cyn eiben-blwydd yn 94 oed. Yn gyntaf, mae eiweddw Kit yn Gymraes. Yn ail, y CymroGeoffrey Nuttall oedd tiwtor eiddoethuriaeth ar Richard Baxter. Roeddganddo gartref gwyliau ger Dolgellau, acroedd wrth ei fodd yn crwydro’r ardalgyda’i deulu. Dywedodd wrthyf un tro eifod yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r‘ymdeimlad o Dduw sy’n unigrywGymreig’ (a sense of God which is uniqueto Wales). Mae’n wir dweud y gellirdirnad Duw mewn ffyrdd unigryw ardraws y byd. Ond yr hyn yr oedd Packeryn cyfeirio ato oedd y gorau oGristnogaeth hanesyddol Cymru, gyda’ichyfuniad cytbwys o athrawiaethaudiwyg iedig a phrofiad dwys oddiwygiadau.

Er hyn, bu gwrthdaro seismig rhwngJim Packer a’r Cymro Dr Martyn Lloyd-Jones. Yn ei flynyddoedd cynnar bu’ngweithio’n agos gyda Lloyd-Jones arailddarganfod, dathlu a chyflwynoPiwritaniaeth i genedlaethau newydd, ahynny’n benodol mewn cynhadleddflynyddol yn Llundain, The PuritanConference.Fel y gall nant fach fynyddig hollti a

mynd i ddau gyfeiriad gwahanol o ben ymynydd, felly’n wir yn hanes y ddau yma.Roedd Lloyd-Jones yn gofidio y byddai’rEglwys Gatholig yn llyncu Protestaniaethdrwy eciwmeniaeth, tra oedd Packer yndymuno gweld a oedd tir cyffredin rhwngProtestaniaeth a Chatholigiaeth.Fel y dewisodd Thomas Charles a

Thomas Jones, Dinbych, ymwahanu o’rEglwys Wladol yn 1811, yn 1976 fealwodd Lloyd-Jones ar i Gristnogionadael yr enwadau traddodiadol. Yn fwy nahynny, roedd yn pardduo’r rhai nafyddai’n ymwahanu. Ac un a gafodd eisarhau’n gyhoeddus oedd Jim Packeroherwydd ‘guilt by association’; roedd yncael ei gyfrif yn euog gan Lloyd-Jonesoherwydd ei gysylltiad Catholig.Meddai’r hanesydd Carl Trueman: ‘Thesuspicion and the bile that was directedtoward Packer in post-1966 non -conformist circles in so many informalways … was tangible and in myexperience as a young Christian,pervasive in churches led by men wholooked to Lloyd-Jones at their mentor.’

A minnau’n dair ar ddeg oed, cofiafeistedd yn y car yn sgwâr Dolgellau ynclustfeinio drwy ffenestr fach driongl carDad, ac yntau’n ceisio cysuro Jim Packeryn dilyn y fath sarhad. Doedd gennyfddim syniad am y trafodaethau eglwysigar y pryd, ond roeddwn yn sifir maibonheddwr clwyfedig oedd Packer. Ynfuan wedyn, aeth i Ganada i ddarlithio; buhynny’n golled i Brotestaniaeth glasurolYnysoedd Prydain, a phan ledodd ymudiad carismatig roedd absenoldeb eiddirnadaeth yn golled fawr.Mae ei gofiannydd Alistair McGrath,

yn ei lyfr To Know and Serve God –A Biography of James I Packer, ynysgrifennu fel hyn: ‘Packer found himselfbeing shunned by Evangelicals in Waleswhich would once have counted him as afriend … Packer’s response involved anumber of observations. First he notedthat all mainline churches are … found ona set of beliefs which commit thosechurches to theological orthodoxy. Somemay depart from this; evangelicals have aduty to recall them to faithfulness. Theycannot be regarded as guilty byassociation, if they protest in this way. ForPacker the idea of ‘guilt by associationwas a nonsense notion which has beengiven an unhappy airing during the lasttwo decades … He noted that smallerdoctrinally-pure bodies … are open to thecharge that they might “purchasedoctrinal purity at the price of theologicalstagnation, and are cultural backwatersout of touch with society around”.Underlying this point is Packer’sconviction that cultural engagement – ofsuch importance to effective evangelism –is not assisted by a total withdrawal fromthe society which is to be evangelised.’ Dyma oedd fy argyhoeddiad innau ar ôl

sefydlu eglwys newydd yn 1980 ar YnysMôn, mewn ymateb i alwad y Dr Lloyd-Jones, sef y perygl o fod yn sectyddol,wedi ymwahanu o’r gymuned leol. Adiddorol nodi i’r diweddar David Ollertonddweud bod ymwahanu yn groes iddiwylliant Cymru (Cenhadaeth Newyddi Gymru, Cyhoeddiadau’r Gair, 2016,t. 263). Tybed ai dyna’r rheswm pam nadyw’r eglwysi hynny ddim yn tyfu’n fwyna rhyw 30 o gynulleidfa?Rwyf hefyd yn credu i Lloyd-Jones

wneud camgymeriad yn credu y byddaiProtestaniaeth yn cael ei llyncu ganGatholigiaeth, oherwydd does dimarwydd o hynny wedi bod ym Mhrydain.Ac edwino mae eciwmeniaeth. Fel cyn-feddyg ymgynghorol yn Harley St, roeddy Dr Lloyd-Jones wedi arfer cael ei fforddei hun, ac roedd yn medru bod yn chwyrnei feirniadaeth o’i wrthwynebwyr.

Yng Nghaeredin y gwelais Jim Packeram y tro olaf. Ar y pryd, roeddwn yngwneud ymchwil ar y pwnc ‘Syniad yPiwritaniaid o ogoniant Duw’ danR. Tudur Jones, ac roeddwn yn awyddus igael ei bersbectif ar y mater. Roedd ynhynod o annwyl a ffeind, ac fe rannodd ynnaturiol iddo, fel Sais â ‘stiff upper lip’,ffeindio angerdd a gerwinder y Salmyddyn ddieithr. Eglurais fod tras Cymreig ynperthyn i’r Salmydd ac mi wenodd, ac ynadweud ei fod wedi dysgu darllen y salmaufel gweddïau Crist, a bod hynny wedi bodyn fendith fawr iddo’n bersonol.

Ar ddiwedd swper yn ein cartref, a’mtad newydd ymddeol wedi oes o lafurgyda’r Mudiad Efengylaidd, roedd Packeryn dymuno cael copi o’r ‘Cylchgrawn’oedd yn dathlu cyfraniad Dad. Es yn sythi estyn y cylchgrawn ac meddai wrthyf:‘Hywel, the grass will not grow underyour feet.’ Wel, yn sicr, o gofio i Packergyhoeddi hanner cant o lyfrau sylweddol,wnaeth y gwair erioed dyfu dan ei draedyntau. Roedd tu hwnt o gynhyrchiol, ynenwedig i mi gyda’i lyfrau: KnowingGod, Laid Back Religion, Amongst God’sGiants, Keep in Step with the Spirit, APassion for Holiness a Concise Theology.Meddai George Egertona am Packer:

‘His Christian legacy is enormous andglobal … It brings me joy to think of hisentry to heaven, to be greeted by his Lord,and the Heavenly Hosts, and that greatcloud of witnesses, who have gone before– especially John Owen, Richard Baxterand John Calvin. What a conversation!’Yn dilyn cwymp bu farw Packer yn yr

ysbyty ar 17 Gorffennaf, a hynny ar ben-blwydd priodas ei wraig ac yntau, ar ôl 66o flynyddoedd. Meddai Kit, ei weddw:‘Roedd mor nodweddiadol ohono i wneudpethau’n gyfleus imi; wna i byth anghofiodyddiad ei farwolaeth.’ Tan y diwedd,roedd Packer yn fir bonheddig.

Medi 4, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

CofioJim Packer

gan Hywel Meredydd Davies

J I Packer 1926–2020(llun: Premier Christianity)

J I Packer gyda rhai o’i deulu aMair Eluned Davies (Mam) a minnau

yn Llanfihangel-y-Pennant

Page 6: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

Yr wythnos diwethaf, cyflwynais raiystyriaethau cyffredinol iawn panfyddwn yn dewis cyfieithiad o’r Beibli’w ddarllen. Y cwestiwn mawr aofynnais oedd: a oes rhai cyfieithiadausy’n fwy addas na’i gilydd ar gyfersefyllfaoedd a chyd-destunau penodol?Mae’n gwestiwn pwysig, a’r cwestiwnhwn yr wyf fi’n ceisio’i ateb ar hyn obryd gyda fy ngwaith ymchwil ar FeiblWilliam Morgan (BWM), y BeiblCymraeg Newydd Diwygiedig (BCND)a beibl.net (BNET).Tybed a oes gennych feic, ac os oes, pa

fath o feic ydy o? Mae gen i feic hybrid,h.y. mae o rywle rhwng beic mynydd abeic ffordd. Y syniad yw fod y beic hwnyn one-size-fits-all, addas ar gyfer pobsefyllfa. A oes cyfieithiad o’r Beibl felhyn? A oes un cyfieithiad o’r Beibl ymedrwn ei ddefnyddio ym mhobachlysur? Er bod fy meic hybrid yn fwycyfforddus ar lôn dyllog na beic ffordd,ac yn gyflymach ar y ffordd fawr nag ywbeic mynydd, nid oes dim yn curo beic ary dirwedd yr oedd gan y dylunwyr mewngolwg ar ei gyfer. Ni all fy hybrid fythgymharu â beic ffordd ar y ffordd nac âbeic mynydd ar fynydd, ac i raddau,mae’r un egwyddor yn berthnasol wrthystyried y cyfieithiadau o’r Beibl.

Un o’r pynciau amlycaf yn y drafodaethyw geirfa, yn arbennig geirfa pwnc-benodol. Yr hyn a olygir gan hynnyyw geiriau sy’n perthyn i faesdiwinyddiaeth: geiriau megis ‘iawn’,‘gras’, ‘apostol’, ‘tangnefedd’ a.y.y.b.Ymddengys y geiriau hyn i gyd ynBWM; ymddengys pob un ohonynt aceithrio ‘iawn’ yn y BCND, ond nid oes yrun ohonynt yn BNET (ac eithrio‘apostol’, sy’n ymddangos yn1 Corinthiaid 15 yn unig). Felly, bethamdanynt? Pa fanteision sydd i’wcynnwys a pha fanteision sydd i beidioâ’u cynnwys?Y peth cyntaf i’w nodi yw fod gan eu

cynnwys, neu beidio â’u cynnwys,oblygiadau diwinyddol, a gall yr ystyrgael ei newid gyda chynhwysiad neuabsenoldeb rhyw derm. Nid ysgolhaigdiwinyddol mohonof, felly ceisiaf osgoimanylu’n ormodol ar yr agweddhonno; fodd bynnag, mae’n rhaidcydnabod hyn ac ystyried y peth oleiaf. Y mae ‘iawn’ yn BWM yn dodyn ‘aberth cymod’ yn y BCND, a‘gras’, ‘tangnefedd’ ac ‘apostol’ yny cyfieithiadau hªn yn dod yn‘haelioni rhyfeddol’, ‘heddwch dwfn’ a‘chynrychiolydd personol’ yn BNET.Bydd rhai yn dadlau fod digon o’r ystyryn cael ei gyfleu gan y termau

diweddaraf, mwyaf cyfarwydd, ond byddrhai yn dadlau fod angen term agosach aty gwreiddiol er mwyn cyfleu llawnder yrystyr. Gadewch i ni ystyried ‘gras’ felenghraifft. Gras yw un o themâu mawr yBeibl, ac un o adnodau mawr yTestament Newydd yw Effesiaid 2:8:‘Trwy ras yr ydych wedi eich achub,trwy ffydd.’ Beth yw gras? Yn ôl ThomasCharles, gras yw:

Daioni, cariad, caredigrwydd,cymwynasgarwch Duw tuag atddynion, neu ddynion tuag at ei gilydd– a hynny yn hollol rad, wirfoddol, acanhaeddiannol yn y gwrthrych o’rdaioni hwnnw.

Fodd bynnag, o ddarllen yr un adnod ynBNET, gwelwn y geiriau hyn: ‘HaelioniDuw ydy’r unig beth sy’n eich achub chiwrth i chi gredu.’ A ydyw hyn yn cyfleuyr un peth i chi? A yw haelioni gyfystyrâ gras? Mae’r cymal olaf yn niffiniadCharles o ras ‘a hynny yn hollol rad,wirfoddol, ac anhaeddiannol yn ygwrthrych o’r daioni hwnnw’ yn cynnigrhywbeth na chaiff ei gynnwys mewn‘haelioni’. Mae Duw yn hael, yn sicr.Ond mae’n fwy na hael, mae ei haelioniyn fwy penodol, mae’n raslon; nid ywdynolryw yn haeddu Crist fel Gwaredwrond eto mae Duw yn ei roi. Ar y llawarall, rhowch eich hunain yn esgidiaurhywun sydd erioed wedi bod mewncapel, rhywun ifanc efallai neu hyd ynoed ddysgwr. Beth fyddai ‘trwy ras yrydych wedi eich achub’ yn ei olygu i chiwedyn? Beth yw’r gair hwnnw, gras?Gras bwyd? I rywun sydd heb fod ynymwybodol o’r treiglad, ras redegefallai?Tybed a ydych chi’n yfwyr coffi?

Darlun fyddaf yn ei ddefnyddio’n amlwrth drafod ‘gras’ yw’r darlun o goffi. Osydych chi’n adnabod eich coffi, byddwnyn cynnig cappuccino i chi a byddechchi’n deall yn union beth sydd gennyf areich cyfer. Os nad ydych chi’n adnabodeich coffi, mae’n debyg na fyddcappuccino yn golygu dim i chi, a mwybuddiol o lawer fyddai i mi gynnig ‘coffi’neu ‘goffi trwy lefrith’ i chi. Wrth gwrs,nid yw hynny’n llawn gyfleu’r ystyr ondbyddai’n rhoi syniad eithaf da i chi o bethydych chi ar fin derbyn. Pwy a fiyr,efallai ar ôl mwynhau’r ‘coffi trwylefrith’ unwaith neu ddwy y byddwch ynymddiddori’n fwy ac eisiau gwybod ynunion beth yw’r cappuccino blasus hwny sonnir amdano. Mae cael gair fel ‘gras’

yn ein hiaith yn fraint, er mwyn i ni allutrin a thrafod y cysyniad pwysig hwn yngywir. Ond eto, mae dweud mai haelioniDuw yw’r hyn sy’n abl i’n hachub wrthrywun sydd yn anghyfarwydd â gras ynmedru bod yn fuddiol dros ben.

Weithiau, er efallai fod yn well gennychddefnyddio beic ffordd, mwy addas ywdefnyddio beic mynydd. Yr ydym wedicael ein bendithio yng Nghymru gydasawl cyfieithiad o’r Beibl ac yr wyf ynhyderus fod pob un ohonynt yn abl igyfathrebu Gair Duw yn effeithiol âChymry’r unfed ganrif ar hugain. Fy heri chi yw hyn: pan fyddwch yn darllen yBeibl, cydiwch mewn cyfieithiadgwahanol o dro i dro, efallai y cewch rywoleuni newydd ar ryw adnod neu’igilydd. A phan fyddwch yn darllen yBeibl i rywun arall, o’r pulpud neu mewngrfip o bobl ifanc neu ysgol Sul, neu igriw o bobl mewn cartref henoed,ystyriwch tybed pa gyfieithiad sydd orauar gyfer y sefyllfa, yn hytrach na dewiseich ffefryn personol. Mae’r Beibl ynberthnasol i bawb, yn angenrheidiol hydyn oed i bawb, ac mae’r cyfieithiadaugwahanol yn fuddiol iawn i ni wrth i nigeisio rhannu ei neges â’n cyd-Gymry.Mae llawer mwy i’w drafod, ac oshoffech sgwrs, croeso i chi gysylltu drose-bost ar [email protected]. Ond ni allaforffen heb ddweud, fel y dywedir yn amlmewn oedfa ar ddiwedd darlleniad,diolch i Dduw am ei Air, a diolch i Dduwam ei Air yn ein hiaith ein hunain.

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 4, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Cyfoeth ein cyfieithiadaugan Gruffydd Rhys Davies

RHAN 2

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Oedfa Radio Cymru6 Medi am 12:00yp, yng ngofalIon Thomas, Ysgol Gwynllyw

Page 7: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

BEDYDDIO BABANOD Chwarter canrif a mwy yn ôl yr oedd unpwnc yn achosi helyntion a dadlau mawro fewn rhengoedd y Cyfundeb, sef addylid cytuno i fedyddio babanod ogartrefi di-gred, neu gyplau oedd yn cyd-fyw ond heb fod wedi priodi? Roedd nifero weinidogion ifanc, efengylaidd eusafbwynt, wedi gwrthod yn bendant âbedyddio plant o’r fath a’r teulu cyfanwedyn yn gadael y capel o ganlyniad.Mae lle i ofni fod yr un mater yn codi eiben eto ac yn achosi cryn ddryswchmewn eglwysi.

Mae’r eglwys Gristnogol, fel llawersefydliad arall, yn byw mewntensiwn rhwng yr hyn ydyw a’r hyna ddylai fod, rhwng y real a’rdelfrydol. Daw hyn yn amlwg iawnpan ddaw cais am fedyddio babannad oes ganddo/i gysylltiad o fathyn y byd ag eglwys, dim ondawydd ar ran rhieni sy’n awyddusi gadw at gonfensiwn neu sy’ngweld cyfle i gynnal parti! Ynamlach na pheidio y mae un, osnad dau, o’r rhieni a thaid a nain apherthnasau eraill yn aelodau,ambell un ohonynt yn aelodauffyddlon ac yn falch fod y rhieni wedipenderfynu cael bedyddio’r plentyn.

Yn achos plentyn bach nad yw’n deallnac yn medru ymateb mewn ffyddgofynnir i’r rhieni i wneud addunedau arran y plentyn i’w fagu yn y ffyddGristnogol ac ym mywyd ac addoliad yreglwys. Dyma’r union eiriad: ‘Wrth ddodâ’ch plentyn i’w fedyddio yr ydych felrhieni yn ei gyflwyno i Dduw, ac yn addoei feithrin yn y ffydd Gristnogol a’i dywysi adnabod a charu’r Arglwydd IesuGrist?’ Wrth gwrs, ceir rhai cartrefi cwblsecwlar, lle nad yw’r tad na’r fam, ynmedru gwneud addunedau crefyddol ounrhyw fath. Ond y peth lleiaf y gellid eiddisgwyl yw i’r rhieni addo anfon yplentyn i’r Ysgol Sul.

Ond i wneud fy safbwynt fy hun yn glir iddechrau. Yn gyntaf, rwyf yn gredwr cryfyn yr eglwys gynhwysol. Cymdeithasyw’r eglwys sydd yn agored i’r byd yngwahodd pawb ati, a thrwyddi hi atDduw. Yn ail, dywedodd Iesu, ‘Gadewchi’r plant ddod ataf fi.’ Os oedd Iesu yngwahodd plant ato ac yn rhybuddio pobl iofalu am ‘y rhai bychain hyn,’ pwy yda nii’w gwrthod? Beth bynnag yw einsafbwynt diwinyddol, os yw’n ein hannogi weithredu’n groes i esiampl Iesu ymae rhywbeth mawr o le â’r safbwynthwnnw.

Yn drydydd, y mae’n bwysig fod ygweinidog yn egluro fod dyletswydd arrieni di-gred (neu ddifater) y byddaidisgwyl iddynt wneud adduned i fagu euplentyn yn y ffydd Gristnogol. Os ydyntyn dewis gwneud hynny, popeth yn dda.Os ydynt yn methu gwneud hynny aphenderfynu peidio â mynd ymlaen â’rbwriad o fedyddio eu plentyn, boed felly,HWY, nid y ni na’r eglwys, sy’n gwneud ypenderfyniad. Mae gwahoddiad IesuGrist yn dal i sefyll. O’m rhan fy hun nidwyf erioed wedi gwrthod bedyddio, priodina chladdu neb.

Yn bedwerydd, y mae dyletswydd ar ygweinidog a’r eglwys i gadw euhadduned hwythau, sef i anfon eu planti’r Ysgol Sul, a chymryd fod Ysgol Sul i’wgael yn gysylltiedig â’r eglwys. Y maeYsgolion Sul plant wedi mynd yn llawerllai mewn rhif, (ond pwnc arall yw hynny!)Dyna enghraifft arall o’r bwlch sy’n bodolirhwng bwrlwm gweithgarwch Coleg yBala ar y naill law a’r mwyafrif mawr oeglwysi lleol.

Yn bumed, y mae bedyddio plentynbach, beth bynnag yw ei gefndir, wedynyn rhoi hawl i weinidog a swyddogioneraill yr eglwys i gael mynediad i’rcartref. Ni ellir pwysleisio digon fod cadwcysylltiad â chartrefi ar ymylon eglwys yn

hanfodol bwysig. Dylid eugwahodd i achlysuron o bwys, felgwasanaethau teuluol,dathliadau Nadolig, ac yn yblaen. Y mae’n bwysig gwneudpopeth a fedrwn i adeiladupontydd rhwng yr eglwys a’r bydoddi allan.

O’m profiad fy hun gallwn roisawl enghraifft o deuluoedd addaeth yn aelodau gwerthfawr oeglwys drwy gael eu denu’nsensitif i mewn i deulu’r ffydd.Ond y mae hyn yn galw amymroddiad ac am inni wneud einrhan ninnau i weithredu’r math o

ffydd sy’n ennill, yn croesawu ac yndangos fod pob plentyn bach yn blentyn iDduw.

Elfed ap Nefydd Roberts.

Gol. Roedd y Parch Ddr. Elfed apNefydd Roberts cyn ei salwch wediparatoi cyfres o erthyglau misol i’wcynnwys yn y Goleuad. Trwy ganiatâd achydsyniad Mrs Eidddwen Roberts byddyr ysgrifau rheiny’n cael eu cynnwys ohyn i ddiwedd y flwyddyn. Yr ydym ynddiolchgar iawn iddi am ei pharodrwydd ini gynnwys yr ysgrifau.

Medi 4, 2020 Y Goleuad 7

O hwnt ac yma

Yn ôl yn wir awn ni!

ATEBION I’R POSPOBL YN Y BEIBLo’r wythnos ddiwethaf

I LAWR:1. Nicodemus; 4. Goliath; 6. Efa;7. Samson; 8. Naaman; 11. Iesu;13. Steffan; 14. Dina; 15. Luc;17. Moses; 19. Adda; 23. Naboth;27. Barsilai; 29. Mair; 30. Solomon;32. Satan; 33. Caleb.

AR DRAWS:2. Cis; 3. Abednego; 5. Gog; 9. Cham;12. Aretas; 16. Timotheus; 18. Noa;20. Eglon; 21. Saccheus; 22. Bernice;24. Dafydd; 25. Asa; 26. Obed;28. Thomas; 31. Abigail; 34. Obadeia.

Un dydd fe ddaeth newyddion da,o senedd Bae Caerdydd

Fe gaiff eglwysi fynd yn ôl,i ysbryd mawl a ffydd.

Rhaid cymryd pwyll, medd Mark a Vaughan Cyn rhuthro’n ôl i’r Tª.

Bydd rhaid glanhau a sgwrio’n lânI ddim ond dau neu dri.

Wrth fynd i mewn, rhaid seinio llyfra cherdded yn sidêt.

At sedd sydd wedi marcio’n glirymhell o ffrind a mêt.

Cytg.Yn ôl yn wir awn niYn ôl yn wir awn ni

Dwi’n edrych ‘mlaen i fynd yn ôli’n bybl cynnes ni.

Dim sgwrsio, na, dim cyffwrdd chwaithrhaid cadw pawb yn saff.

A rhaid byhafio’n drefnus siwri oruchwylwyr praff.

Dim canu, na, dim cymun chwaithrhaid hepgor y fath fraint.

Nac organ bîb sy’n chwythu aerrhag heintio yr holl saint.

Ond wedyn mynd i siopa wnaiffPob estron, Sais a Chelt.

Ac yno caent anadlu’n rhydd‘Fo system wynt ffwl pelt!

Cytg. (x2)Yn ôl yn wir awn niYn ôl yn wir awn ni.

Dwi’n edrych ‘mlaen i fynd yn ôlAt deulu’n ‘Capel Ni’.

Eifion Wynne

Page 8: MEINI BYWIOL (4)ei gwyliau haf gydag eraill yn bugeilio a gwarchod deugain o blant, ar gyfartaledd, am bythefnos o wyliau. Plant tlodion y Genhadaeth oeddynt a phlant nad oedd gobaith

8 Y Goleuad Medi 4, 2020

• Wythnos nesaf – Parhad a heriau newid •

Os cawsom ein herio gan ddysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu yn ystod yr wythnosau a aeth heibio byddwn yn canfod yn yrwythnosau a ddaw fod ei eiriau’n ein hysgwyd i’r byw.

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

Addewid yr Arglwydd – Mathew 18:20

Darlleniadau

Eseciel 33: 7-11 – Mater difrifol yw trin gairDuw; Salm 119: 34-41 – Gweddi amddealltwriaeth; Mathew 18: 15-20 –Addewid yr Arglwydd. Darlleniadau Mathewfydd sail ein myfyrdodau.

GWEDDI

Dduw Dad, Hollalluog, addolwn di.

Yr wyt wedi addo bod gyda’th bobl ymmhob man, ym mhob oes, ym mhob cyfnodo’u bywydau hyd ddiwedd yr oesau i gyd.Cyffeswn nad ydym wedi bod ynymwybodol o’th bresenoldeb, nac wedi dygeisio ac yn sicr nid ydym wedi dy garu a’nholl galon, meddwl a nerth. Nid ydym wedicaru’n cymydog chwaith fel ni ein hunain.Ger dy fron mae pob calon yn agored, pobun bai a throsedd yn hysbys. Nid oesgysgod na gwisg i guddio’n gwarth heblawam dy ras a’th gyfiawnder di yn Iesu Grist.Yr ydym yn edifarhau am bob camweddsydd ynom. Maddau i ni Arglwydd er mwynIesu Grist. Ac yn ystod y munudau nesaf awnei di Dirion Ysbryd Glân ddod atom i’ncofleidio a’n harwain.Amen.

EMYN 184: ‘Dyro i ni weld.’ Mae'r ail bennill yn arbennig o berthnasol.‘Ymddisgleiria yn y canol.’

CYFLWYNIAD

Gwelsom fod Iesu’n mynnu fod pobawdurdod yn y nef a’r ddaear yn perthyniddo ef ei hun. Gwelsom fod y disgyblionwedi cael eu tywys i adnabod Iesu fel MabDafydd, fel Arglwydd holl frenhinoedd yddaear, i’w adnabod fel Mab Duw, fel Maby dyn. Gwelsom fod ei Deyrnas a’iwerthoedd yn wahanol i bob teyrnas arall.Fe’i sefydlir trwy ei hunan aberth a’ifuddugoliaeth ar groes Calfaria, a’iatgyfodiad. Mae’n galw ar ei ddisgyblion iymddiried ynddo a’i efelychu.

Nid yw gofod yn caniatáu i ni fyfyriouwchben yr adran i gyd. Ond yn eindarlleniad heddiw mae Iesu’n gosodanghydweld rhwng pobl a’i gilyddyng nghyd-destun ei addewid i fod yn ycanol.

Darlleniad Mathew 18:15-20

Faint o weithiau ‘dych chi wedi clywedrhywun ar ddechrau gwasanaeth, o weldbod y gynulleidfa’n fach, yn ceisio einhannog drwy weddïo rhywbeth tebyg i hyn?‘Diolch Arglwydd “lle mae dau neu dri” dyfod wedi addo bod gyda nhw.’

Nid ar y ‘dau neu dri’ mae ffocws yr adnodond ar yr hwn sy’n eu galw ynghyd!

Cymryd Iesu’n ganiataol. Nid yw Iesu’n addo bod yn bresennol ymmhob cyfarfod sy’n cael ei gynnal ym mhobcapel neu adeilad. Nid lleoliad ondperthynas ag ef yw sail ei addewid. Onirybuddiodd Iesu eglwys ‘lewyrchus’ Effesusei bod wedi colli ei chariad cyntaf. ‘Cofiafelly o ble y syrthiaist, ac edifarha, a gwnaeto dy weithredoedd cyntaf. Os na wnei, acos nad edifarhei, fe ddof a symud dyganhwyllbren o’i le.’ (Dat. 2:5)

O Gymru! Heb edifeirwch gwêl dy ddyfodol.Symudwyd y ganhwyllbren o Effesus.Nid oes eglwys o unrhyw fath ynddimwyach.

Cymryd Iesu ar ei air

Amod ei addewid yw ein bod yn ‘dodynghyd yn fy enw i.’

i. ei enw ef

Yn yr Ysgrythurau Iddewig mae ‘Enw’ Duwyn cynrychioli cymeriad Duw. GofynnoddMoses wrth weld y berth yn llosgi heb eidifa am gael gwybod ‘enw’ yr Hwn oedd ynei alw. Derbyniodd yr ateb mawreddog,‘Ydwyf yr hyn ydwyf’. (Exodus 3:14)Mae ‘enw’ Duw yn cynrychioli ei hanfod, eiogoniant, ei burdeb, ei sancteiddrwydd a’iallu hollalluog, achubol a’i ffyddlondeb i’waddewidion.

ii. ein henw ni

Fe wyddom o’n hymwneud â’n gilydd mairhywbeth annymunol yw cael ein hadnabodgan rif amhersonol yn unig.

Nid yr un peth yw cael eich adnabod gandeitl a roddir arnom a chael ein hadnabodwrth ein henw. Enw sy’n dweud ein bod ynperthyn i dirwedd neu leoliad. Os newidir‘enw’ mynydd neu lyn, neu graig neu ogofcaiff cymeriad a hanes pobl a’n cof felcenedl ei ddiddymu.

Enw perthynas ac adnabod yw geiriaucyntaf ein babandod – ‘mam’, ‘dad’. Geiriausy’n dweud ein bod yn perthyn.

Enw sy’n mynnu bodolaeth personoliaeth.Ac y mae enw yn dweud mai ‘fi’ neu ‘ti’ neu‘chi’ sy’n cael eu hadnabod.

Mae dadlennu’n henw i arall yn creuperthynas ag eraill a’r mwyaf einhadnabyddiaeth y cyfoethocaf fydd gwerthyr enw.

Mae adnabod enw person arall hefyd yncaniatáu i ni alw arnynt wrth yr enw.

Mae derbyn enw yn derbyn perthynas.e.e. mae derbyn yr ‘enw’ Cymro yn golyguuniaethu gyda phobl, a hanes a hunaniaetharbennig sy’n ein gwahaniaethu oddi wrthfod yn Ffrancwyr, neu’n Awstraliaid.

iii. enw Iesu

Felly mae ‘dod ynghyd yn fy enw i’ yn

golygu adnabod Iesu. Mae’n golygucydnabod ei gymeriad a’i hanfod. Mae’nfynegiant o berthynas. Mae derbyn ei enwarnom yn awgrymu perthynas wirfoddol.Mae’n awgrymu ein bod am gael einhadnabod fel disgyblion iddo, a’i fod ef ynein hadnabod ni a ninnau’n cael galw arnoa bod ar ei alwad yntau.

Addewid Iesu

Drwy gydol hanes Israel roedd yr Arglwydddrwy’r proffwydi, drwy ei ymyrraeth mewnhanes wedi addo y byddai Ef, y BreninAlltud, yn dychwelyd i fod yn y canol.Daeth yn Immanuel, yn Dduw gyda ni.Cyflawnodd Iesu holl ddisgwyliadau’rYsgrythurau. Er ei fod yn Arglwydd yrymylon, pellafoedd byd a dyfnderoedd ygreadigaeth, ei addewid i ni yw y bydd ‘ynoyn y canol’ pan fydd ei bobl yn cyfarfod ynei enw.

Mae’n ddechrau tymor newydd. Wrth i ni gynllunio ein llwybrau i’r dyfodolgadewch i ni roi ein bryd ar roi Iesu yn ycanol. Nid ein sefydliadau, nid eincapelyddiaeth na’n henwadaeth, nid eingorffennol na’n profiad ohono ddoe.Ac wrth ei osod yn y canol bydd, fe fydd yrArglwydd Iesu Grist yn bresennol. Nithorrodd ei addewid erioed. Bydd yngyfarfod hyfryd iawn....

GWEDDI

Dduw trugarog a hollalluog, er nad oesangen caniatâd arnat gennym ni ideyrnasu rydym am dy wahodd i’n plith ifod yn y canol, i fod yr hwn ydwyt. Yr wytwedi addo bod gyda ni. Tyrd felly.

Yr ydym yn awr yng nghanol cyfnod onewidiadau. Yn gymdeithasol, ynwleidyddol, yn ysbrydol, yn feddygol. Yrydym yn gymysgwch o gyffro ac o bryder.Tyrd atom yn dy gariad, yn dy dosturi.Diolch am dalentau a’r doniau a roddaist ini. Diolchwn i ti am ein profiadau.Gwyddom o’n ‘ddoe’ nad wyt ti erioed weditorri dy addewid. Bydd gyda ni wrth i nigamu i’n dyfodol newydd. Bydd gydagweinidogion, blaenoriaid, swyddogionhenaduriaethau, sasiynau a ChymanfaGyffredinol. Dyro i ni arweiniad. Dyro i ni dyheddwch.

Gweddïwn dros ysgolion sydd wediail-agor...dros Brifysgolion...dros gleifion,dros ysbytai, dros lywodraethau. Byddgyda thlodion y byd. Caniatâ i ni agor eincalonnau.

Arglwydd clyw ein gweddïau. Bydd gydani.

GWEDDI’R ARGLWYDD

EMYN 821: ‘O gwawria ddydd ein Duw...’

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.