modiwl 3: ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?
DESCRIPTION
Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?. Amcanion y modiwl - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?
Amcanion y modiwl• Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae ymwybyddiaeth defnyddwyr yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.• Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun ‘cynigion arbennig, disgowntiau a gwerth am arian’.• Adnabod gweithgareddau defnyddwyr a chwestiynau y gellir eu defnyddio mewn addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) a mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4. • Darparu rhestr o wefannau defnyddiol sy’n gysylltiedig â chyfrifo cynigion arbennig, gemau ar-lein a gweithgareddau Masnach Deg.
Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu’n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.
Nodau’r dysgwyrGellir defnyddio’r modiwl hwn ar draws cyfnodau allweddol a bydd y nodau yn wahanol ym mhob cyfnod allweddol. Mae’r nodau hyn yn cynnwys cael dysgwyr i:• werthfawrogi’r eirfa a ddefnyddir wrth ddelio â chynigion arbennig a disgowntiau• adnabod y ‘cynnig gorau’ a ‘gwerth gorau’ gan ddefnyddio cyfrifiadau priodol• ystyried ystod o eitemau y byddan nhw efallai yn eu prynu a rhai opsiynau o ran ble i brynu’r eitemau• adnabod rhai atebion i’r prif broblemau sy’n debygol o godi i bobl ifanc sy’n prynu eitemau ar-lein• bod yn ymwybodol o siopa moesegol a gweithgareddau Masnach Deg.
Cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh
a gweld ble mae ymwybyddiaeth defnyddwyr
yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.
Mae hyn wedi’i amlygu mewn teip trwm
ar y sleidiau canlynol.
Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:
Blwyddyn 3 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £2 a chyfrifo’r newid
• trefnu a chymharu eitemau hyd at £10• cofnodi arian a wariwyd a chynilion.
Blwyddyn 4 • defnyddio arian i dalu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid• rhoi eitemau yn eu trefn a’u cymharu hyd at £100• adio a thynnu cyfansymiau llai na £10 gan ddefnyddio’r nodiant
cywir, e.e. £6.85 – £2.76• rheoli arian, cymharu costau rhwng adwerthwyr gwahanol a
phenderfynu beth y gellir ei brynu o fewn cyllideb benodedig.
Blwyddyn 5 • cymharu a rhoi eitemau mewn trefn o ran cost, hyd at £1 000• adio a thynnu cyfansymiau llai na £100 gan ddefnyddio’r nodiant
cywir, e.e. £28.18 + £33.45• cynllunio ac olrhain arian a chynilion drwy gadw cofnodion cywir• deall bod cyllidebu yn bwysig.
Blwyddyn 6 • defnyddio’r termau elw a cholled mewn gweithgareddau prynu a gwerthu a gwneud cyfrifiadau syml ar gyfer hyn
• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifon banc
• cymharu prisiau a deall beth sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:
Blwyddyn 7 • defnyddio elw a cholled mewn cyfrifiadau prynu a gwerthu• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon
banc, gan gynnwys cardiau banc• gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â
gostyngiadau a chynigion arbennig.
Blwyddyn 8 • gwneud cyfrifiadau mewn perthynas â TAW, cynilo a benthyca• gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cyllidebu, cynilo (gan
gynnwys deall adlog) a benthyca
Blwyddyn 9 • cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor a graddfeydd cyfnewid• deall y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a
buddsoddi• disgrifio pam bod yswiriant yn bwysig a deall effaith peidio â
threfnu yswiriant
Ymestyn • defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog• deall a dangos y broses o gyfnewid arian tramor• deall a chyfrifo treth incwm.
Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng
Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu
eu gwybodaeth defnyddwyr.
Mae’r rhain mewn wedi’u hamlygu mewn teip trwm
ar y sleid nesaf.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 2Ystod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddeall:• bod arian yn cael ei ennill trwy weithio ac y gall arian brynu nwyddau a gwasanaethau• pwysigrwydd gofalu am eu harian a’r manteision sy’n gysylltiedig â chynilo arian yn rheolaidd.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 3Ystod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddeall:• canlyniadau economaidd a moesegol y penderfyniadau ariannol personol y maent yn eu gwneud fel defnyddwyr, e.e. Masnach Deg• sut i reoli’u materion ariannol personol yn fedrus a sylweddoli bod cynilo arian yn arwain at annibyniaeth ariannol.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 4Ystod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddeall:• eu hawliau fel defnyddwyr a’u cyfrifoldebau o safbwynt rheoli cyllideb• pwysigrwydd cynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol, a sut i gael gafael ar gyngor ariannol.
Gweithgaredd cychwynnol: Dyfalu’r pris• Dangoswch eitem i’r dysgwyr a gofynnwch iddyn nhw ddyfalu’r pris. (Gall yr eitemau amrywio o fewn y gwerthoedd a ddisgwylir i’r deilliannau dysgu ar gyfer grŵp blwyddyn – gweler cydran rhifedd y FfLlRh).• Mae’r dysgwyr yn ysgrifennu eu hymatebion ar fyrddau gwyn bach neu’n eu dangos i’r athro/athrawes drwy ddefnyddio cardiau gwerth lle arian.• Pwy yw’r agosaf? Gall y gweithgaredd hwn arwain at drafodaethau ynghylch a oedd digon o wybodaeth ganddyn nhw i ddyfalu’r pris. Er enghraifft:• Oes angen iddyn nhw wybod o ble y cafodd yr eitem ei brynu?• Oedd e’n aml-becyn?• Oedd e’n gynnig arbennig (e.e. prynu 1 cael 1 am ddim)?• Oedd e’n newydd sbon neu’n cael ei werthu fel eitem a ddefnyddiwyd?
Y pris rydym yn ei dalu
Darganfyddwch pa wybodaeth sydd gan ddysgwyr am gynigion arbennig.• Pa eirfa ydyn nhw’n ei chysylltu â chynigion arbennig?• Ble maen nhw’n gweld cynigion arbennig?• Pam mae archfarchnadoedd a siopau yn cyflwyno cynigion arbennig?
Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Sut ydw i’n gwybod beth sy’n werth da?
Sut ydym ni’n gwybod beth yw gwerth da?
Dylunio hysbysebTasg:
Gofynnwch i’r dysgwyr ddylunio hysbyseb ar gyfer siop neu gynnyrch gyda chynigion arbennig.
Ewch i wefan Hwb er mwyn i’r dysgwyr allu datblygu eu sgiliau TGCh tra eu bod nhw’n cwblhau’r dasg hon.
https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/design-an-advert/index.html
Mae cipluniau o’r gweithgaredd i’w gweld ar y tair sleid nesaf.
Mae’r gweithgaredd hwn yn darparu dysgwyr gyda geirfa a ddefnyddir yn aml wrth gyflwyno cynigion arbennig.
Gellir ei ddefnyddio i archwilio eu dealltwriaeth o gynnig fel ‘50% yn fwy am ddim’, ac i godi cwestiynau gyda dysgwyr iau, er enghraifft ‘Pam na fyddai hyn yn cynnig arbennig priodol gyda chôt ond byddai’n addas wrth hysbysebu bar o siocled?’.
Ymchwilio gwerth am arianAr gyfer gweithgaredd ar-lein ewch ihttps://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/supermarket-sweep/index.html
Gwybodaeth:Gallwch chwarae’r gêm mewn parau (neu fel gweithgaredd dosbarth gan ddefnyddio bwrdd gwyn) ac mae’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 i fyny. Mae’r chwaraewyr yn cael cynnig hyd at 24 o fargeinion gwahanol wrth chwarae’r gêm sawl gwaith. Mae’r cynigion yn cyfeirio at:• gynigion gorau yn seiliedig ar bwysau (e.e. gramau, cilogramau)• cynigion gorau yn ymwneud â chyfaint (e.e. mililitrau, litrau)• cynigion gorau yn dibynnu ar ‘brynu un cael un am ddim’, ‘prynu un cael un hanner pris’ a ‘% yn fwy am ddim’.
Mae’r sleidiau canlynol yn dangos rhai cipluniau o’r gêm.
https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy
Mae amryw o gemau arian ar-lein ar gael ar Hwb fel y dangosir yma.
Enghraifft o ‘gynnig arbennig’ o bapurau sampl y Profion
Cenedlaethol Rhifedd
I ymarfer cwestiynau ‘cynnig arbennig’ ymhellach gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Barod i rolio.
Gweithgaredd:Mae dysgwyr yn cael 16 dewis o ‘gynigion arbennig’ i brynu eitemau sydd ar werth yn yr archfarchnad. Cwestiynau:1. Beth yw’r tri chynnig gorau?2. Pa dri chynnig yw’r gwerth gwaethaf am arian?3. Nodwch dri chynnig tebyg.4. Pa gynnig yw’r un mwyaf anodd i weithio allan a pham?
Barod i rolio
Mae archfarchnad yn gwerthu’r un brand o hylif golchi llestri mewn dwy botel maint gwahanol.
Potel fawr 800ml am
£1.28
Potel fach 300ml am
45c
Drwy ddangos eich cyfrifiadau, esboniwch pa botel o hylif golchi llestri sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Mae Mrs Jones yn trefnu disgo’r ysgol ac yn gwneud defnydd llawn o’r cynnig arbennig. Mae’n prynu 6 phecyn o cola a 12 carton o sudd oren.
• Cyfrifwch faint mae hi’n ei dalu am yr eitemau.• Cyfrifwch faint yn rhagor y byddai hi wedi talu am yr eitemau hyn heb y cynigion arbennig.
Pecyn o cola
£4.50
PRIS CYNNIG ARBENNIG
2 becyn am £7.45
Sudd oren
£1.45
PRIS CYNNIG ARBENNIG
4 carton am £4.20
Bydd un rhan o dair o’r holl
fwydydd rydym yn eu prynu yn mynd i’r bin.
www.creditaction.org.uk (Arolwg Ionawr 2009)
Mae’r sleidiau canlynol yn cyflwyno enghreifftiau o
gynigion arbennig a disgowntiau sy’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr
ddefnyddio eu sgiliau rhifedd.
Esboniwch pa gynnig sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i’r cwsmer.
Hwdis oddi ar bob pris ⅕(pris gwreiddiol £45)
Cynnig A
Cynnig B
Crysau chwys hwdi
25% oddi ar y pris
gwreiddiol (£45)
Mae dwy sinema yn cynnig bargeinion gwahanol.
Cynnig arbennig dydd Mawrth
Prynu un tocyn cael 40% oddi ar yr ail (pris arferol £5.50)
Bargeinion dydd Mercher
Prynu un cael un am ddim
(pris arferol £7.50)
Mae dau ffrind am fynd i weld y ffilm ddiweddaraf ond dydyn nhw ddim yn gallu penderfynu pa noson i fynd. Esboniwch (gyda chyfrifiadau) pa noson sy’n cynnig y fargen orau.
Os yw’r tri ffrind am fynd i weld y ffilm pa gynnig sy’n rhoi’r fargen orau?
Mae siop yn hysbysebu’r cynnig canlynol ar gel cawod:
3 am bris 2
Faint fyddech chi’n ei arbed drwy brynu 12 potel yr un fath o gel cawod 99c yr un?
Mae archfarchnad yn hysbysebu’r cynnig canlynol.
Gostyngiad 20% os ydych yn gwario £25
neu fwy
Mae gennych chi £25 i’w wario.
Sawl bocs o siocled £3.50 allech chi fforddio ei brynu?
Faint ydych chi wedi’i arbed?
Pa gynnig sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i’r cwsmer?
Siop A
Mae tair siop wahanol ar y stryd fawr yn dangos yr hysbysiadau canlynol yn eu ffenestri:
3 CHRYS AM BRIS 2
20% ODDI AR BRIS POB
CRYS
Siop B Siop C
PRISIAU CRYSAU WEDI’U
GOSTWNG GAN ¼
Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.
Hoffai ysgol brynu rhai cyfrifianellau newydd.Pris y cyfrifianellau yw £5 yr un mewn tair siop ar-lein. Mae cynigion gwahanol gan bob siop.
Siop Nwyddau Ysgol a SwyddfaCyfrifianellau
3 am bris 2
Offer ystafell ddosbarthCyfrifianellau30% i ffwrdd
CydrannauJones a’i Feibion
CyfrifianellauPrynu 3 cael yr un nesaf am
ddim
Hoffai’r ysgol brynu 20 o gyfrifianellau.Esboniwch (gyda chyfrifiadau) pa siop sy’n cynnig y fargen orau.
Mae Mr Evans am brynu carped ar gyfer ei ystafell betryal sy’n mesur 4.5 metr wrth 4 metr. Mae wedi dewis carped streipiog sy’n cael ei werthu am £7.99m2. Mae’r siop yn cynnig disgownt o 10% a dosbarthu a ffitio am ddim am gyfnod cyfyngedig o 2 ddiwrnod.
Cyfrifwch gyfanswm cost carpedu’r ystafell.
4.5m
4m
Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.
Mae garddwr am greu lawnt. Mae siâp y lawnt i’w weld isod ac mae’r onglau yn onglau sgwâr.
Mae’n rhaid iddo benderfynu p’un ai i ddefnyddio hadau porfa neu dyweirch.• Pris blwch o hadau porfa yw £5.99 a bydd yn gorchuddio 12m2.• Pris tyweirch yw £1.45 y metr sgwâr.
Ar hyn o bryd mae disgownt o 50% oddi ar roliau o dyweirch. P’un yw’r opsiwn rhataf a gan faint?
7m
4m
3m
9m
Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.
Diogelwch defnyddwyr
Hyd yma mae’r modiwl hwn wedi edrych ar fod yn ddefnyddiwr doeth o ran prynu’r bargeinion gorau ac ystyried cynigion arbennig.
Mae’r gweithgareddau nesaf yn ymwneud â bod yn ddefnyddiwr diogel. Maen nhw’n edrych ar y risgiau a’r manteision o brynu o amryw o leoedd, gan gynnwys siopa ar-lein.
Y lle gorau i brynuYn y gweithgaredd hwn bydd dysgwyr yn ystyried amryw o bethau y gallen nhw eu prynu a rhai dewisiadau o leoedd i brynu’r eitemau. Maen nhw’n ystyried y risgiau a’r manteision o brynu o bob lle ac yn penderfynu ar y lle gorau i brynu’r eitem.
Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru
Dylid defnyddio’r gweithgaredd Testun 1 ‘Gwario’n gall (tudalennau 15–20) gyda’r thaflenni adnoddau cysylltiedig (tudalennau 5–7).
Lawrlwytho’r pecyn cymorth a’r adnoddau cysylltiedig yn www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?lang=cy
Rhybudd i’r prynwrGall mesurau diogelu i ddefnyddwyr sy’n prynu ar y rhyngrwyd neu’n syth o’r siop fod yn eithaf cymhleth. Mae’r gweithgaredd a gyflwynir yn y ddolen adnoddau isod yn weithgaredd paru cardiau ‘ymarferol’. Pwrpas yr ymarfer yn syml yw canfod rhai atebion i’r prif broblemau y mae pobl ifanc sy’n prynu ar-lein yn debygol o’u hwynebu.
Adnodd: Rheoli Arian, Gweithgaredd 2 ‘Rhybudd i brynwyr’
(tudalennau 17–25).
Lawrlwytho’r adnodd yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html
Masnach Deg
Mae’r gweithgareddau nesaf yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ystyried bod yn ddefnyddiwr moesegol.
Gêm y banana splitGweithgaredd ystafell ddosbarth yw hwn ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 i gyflwyno’r gadwyn banana a thrafod ‘pwy sy’n cael beth’ o werthu bananas. Mae’r dysgwyr yn darllen gwybodaeth am 5 o bobl sy’n rhan o’r gadwyn banana a’u disgrifiadau swyddi, sef:
• gweithiwr banana
• perchennog planhigfa
• cludwr
• siopau ac archfarchnadoedd
• mewnfudwr ac aeddfedwr.
I lawrlwytho’r adnodd Banana split ynghyd â deunyddiau gwahaniaethu ategol eraill sy’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 4, ewch i
http://fairtradewales.com/resources/resources-for-school
Gweithgaredd grŵp:
Gan ddefnyddio’r wybodaeth, penderfynwch faint o’r 30c y dylai
pob person/lle ei gael am y gwaith/swydd yn y gadwyn banana.
Eich dewisMae’r gweithgaredd newydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ystyried bod yn ddefnyddiwr moesegol.
Gweler Rheoli Arian, Gweithgaredd 6 o’r enw ‘Eich Dewis Chi’ (tudalennau 49–51). https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html
Mae’r gweithgaredd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ystyried y ffactorau sy’n gysylltiedig â phrynu eitemau Masnach Deg a heb fod yn Fasnach Deg. Gall y gweithgaredd gael ei ategu drwy ddefnyddio map y byd i ystyried milltiroedd bwyd.
Gweler y gêm milltiroedd bwyd ar-lein yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/food-miles/index.html
Gwefannau ac adnoddau cysylltiedig â defnyddwyr
• www.creditaction.org.uk
Elusen Addysg Arian Genedlaethol – mae’n darparu ystadegau diddorol sy’n gysylltiedig â chyllid cenedlaethol, gwybodaeth ac adnoddau.
• www.nationwideeducation.co.uk
Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau a thaflenni gwaith i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein – gweler o dan Sgiliau Arian > Cyllid Personol > Disgyblion/Myfyrwyr). Taflenni gwaith dwyieithog ar gynigion arbennig a disgowntiau 12–14 oed: ‘Money Maths – Correct Change’ a ‘Money Maths – Perfect Percentages’.
• www.pfeg.org
pfeg (Grŵp Addysg Cyllid Personol) – elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o wybodaeth i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion.
•https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy
Gemau seiliedig ar arian dwyieithog ar-lein: Ar ras i’r archfarchnad a Dyluniwch Hysbyseb.
Gwefannau ac adnoddau Masnach Deg/moesegol
• https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy
Gemau ddwyieithog ar-lein ryngweithiol: Milltiroedd Bwyd a Coffi Masnach Deg.
• http://fairtradewales.com/we/• Syniadau dwyieithog (gweithgareddau, gemau a syniadau ar gyfer
gwasanaeth) ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.• www.traidcraftschools.co.uk
Adnoddau trawsgwricwlaidd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i ôl-16.• www.ethicalsuperstore.com
Syniadau siopa Masnach Deg, ecogyfeillgar ac organig i ddysgwyr eu hymchwilio.