newyddlen dysgu yn yr awyr agored cymru gorffennaf 2014...mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd...

12
Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014 Mae Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn rhwydwaith cenedlaethol sy'n manteisio ar arbenigedd, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth amrywiaeth o bartneriaid, arweinwyr ac addysgwyr. Nod Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yw cynyddu dealltwriaeth, gwerthfawrogiad a'r defnydd cynaliadwy o amgylchedd naturiol Cymru. Nod y newyddlen hon yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n haelodau yng Nghymru am newyddion, prosiectau a mentrau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd naturiol. Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddysgu yn yr Awyr Agored: Mae wedi bod yn fis eithaf prysur y tu ôl i'r llenni gyda'r gwaith o brosesu ceisiadau cylch mis Mehefin yn cael ei wneud yn fwy anodd nag yr oedd yn rhaid iddo fod o ganlyniad i fethiant hen wefan Menter Addysg y Coed! Ymddiheuriadau i bawb yr effeithiwyd arno. Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu ar ddiwyg y tudalennau, wedi symleiddio'r broses o gael gafael ar wybodaeth a ffurflenni ac wedi dechrau llenwi'r tudalennau yn barod ar gyfer profi a throsglwyddo cynnwys eich tudalen glwstwr. Yn anffodus, mae'r oedi a welwyd wedi bod y tu hwnt i'n rheolaeth ond rydym yn disgwyl yn llawn cyffro am y wefan sydd ar fin gael ei lansio. Mae digwyddiadau lansio yn cael eu cynnal ledled Cymru gyda rhai syniadau gwirioneddol greadigol a chyffrous. Felly, rhowch wybod i ni am gynlluniau eich gr ŵp fel y gallwn roi cyhoeddusrwydd i'ch gweithgareddau yn y newyddlen nesaf. Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan grŵp Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Caerdydd i ddathlu prosiect “Woodland Symphony” yn llwyddiant mawr a bu plant o oedran ysgol feithrin hyd at gyfnod allweddol 2 yn perfformio ynddo. Cyfansoddodd y plant y gerddoriaeth a'r caneuon, gan chwarae eu hofferynnau pren newydd. Roedd pawb yn y gynulleidfa yn eu dagrau! Bydd DVD ar gael cyn hir ac rydym yn gobeithio ei lanlwytho i'r wefan newydd yn fuan. Mae grŵp Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Casnewydd yn brysur yn cynllunio ei ddigwyddiad lansio yn Nhŷ Tredegar ar 27 ain Mehefin. Mae penaethiaid ac athrawon o bob rhan o Gasnewydd wedi cael gwahoddiad i ddod i'r digwyddiad fel y gall y grŵp ddangos sut y gellir codi safonau drwy ddysgu yn yr awyr agored. Y wybodaeth ddiweddaraf am Dîm Addysg Cyfoeth Naturiol Cymru: Os gwelwch unrhyw un o'n swyddogion addysg ar hyd y lle peidiwch â synnu os byddant yn edrych ychydig yn flinedig! Mae tymor yr haf yn un o'r cyfnodau prysuraf i ni felly mae pawb yn gweithio i'r eithaf ac yn gwneud ei orau glas i ddarparu profiadau o'r radd flaenaf. Rydym hyd yn oed wedi llwyddo i fod yn greadigol ynghylch cwpan pêl-droed y byd pan ofynnwyd i Juliette gysylltu'r amgylchedd awyr agored â'r digwyddiad. Rhoddodd Juliette ei meddwl ar waith a threfnodd sesiwn wych yng Ngarwnant lle mai'r uchafbwynt oedd creu tîm delfrydol o fwystfilod bychain! Mae'r tîm hefyd wedi treialu uned BTEC a fu'n edrych ar effaith pobl ar yr amgylchedd a chafodd adborth gwych ar sesiynau ar dorgochiaid arctig a oedd yn gysylltiedig â rhaglen “Love your Lake”. Wiw! Dyfyniad y mis

Upload: others

Post on 19-Jan-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru

Gorffennaf 2014 Mae Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn rhwydwaith cenedlaethol sy'n manteisio ar arbenigedd, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth amrywiaeth o bartneriaid, arweinwyr ac addysgwyr. Nod Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yw cynyddu dealltwriaeth, gwerthfawrogiad a'r defnydd cynaliadwy o amgylchedd naturiol Cymru. Nod y newyddlen hon yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n haelodau yng Nghymru am newyddion, prosiectau a mentrau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd naturiol. Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddysgu yn yr Awyr Agored: Mae wedi bod yn fis eithaf prysur y tu ôl i'r llenni gyda'r gwaith o brosesu ceisiadau cylch mis Mehefin yn cael ei wneud yn fwy anodd nag yr oedd yn rhaid iddo fod o ganlyniad i fethiant hen wefan Menter Addysg y Coed! Ymddiheuriadau i bawb yr effeithiwyd arno. Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu ar ddiwyg y tudalennau, wedi symleiddio'r broses o gael gafael ar wybodaeth a ffurflenni ac wedi dechrau llenwi'r tudalennau yn barod ar gyfer profi a throsglwyddo cynnwys eich tudalen glwstwr. Yn anffodus, mae'r oedi a welwyd wedi bod y tu hwnt i'n rheolaeth ond rydym yn disgwyl yn llawn cyffro am y wefan sydd ar fin gael ei lansio. Mae digwyddiadau lansio yn cael eu cynnal ledled Cymru gyda rhai syniadau gwirioneddol greadigol a chyffrous. Felly, rhowch wybod i ni am gynlluniau eich grŵp fel y gallwn roi cyhoeddusrwydd i'ch gweithgareddau yn y newyddlen nesaf. Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan grŵp Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Caerdydd i ddathlu prosiect “Woodland Symphony” yn llwyddiant mawr a bu plant o oedran ysgol feithrin hyd at gyfnod allweddol 2 yn perfformio ynddo. Cyfansoddodd y plant y gerddoriaeth a'r caneuon, gan chwarae eu hofferynnau pren newydd. Roedd pawb yn y gynulleidfa yn eu dagrau! Bydd DVD ar gael cyn hir ac rydym yn gobeithio ei lanlwytho i'r wefan newydd yn fuan. Mae grŵp Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Casnewydd yn brysur yn cynllunio ei ddigwyddiad lansio yn Nhŷ Tredegar ar 27

ain Mehefin. Mae penaethiaid ac athrawon o bob rhan o Gasnewydd wedi cael gwahoddiad i

ddod i'r digwyddiad fel y gall y grŵp ddangos sut y gellir codi safonau drwy ddysgu yn yr awyr agored. Y wybodaeth ddiweddaraf am Dîm Addysg Cyfoeth Naturiol Cymru: Os gwelwch unrhyw un o'n swyddogion addysg ar hyd y lle peidiwch â synnu os byddant yn edrych ychydig yn flinedig! Mae tymor yr haf yn un o'r cyfnodau prysuraf i ni felly mae pawb yn gweithio i'r eithaf ac yn gwneud ei orau glas i ddarparu profiadau o'r radd flaenaf. Rydym hyd yn oed wedi llwyddo i fod yn greadigol ynghylch cwpan pêl-droed y byd pan ofynnwyd i Juliette gysylltu'r amgylchedd awyr agored â'r digwyddiad. Rhoddodd Juliette ei meddwl ar waith a threfnodd sesiwn wych yng Ngarwnant lle mai'r uchafbwynt oedd creu tîm delfrydol o fwystfilod bychain! Mae'r tîm hefyd wedi treialu uned BTEC a fu'n edrych ar effaith pobl ar yr amgylchedd a chafodd adborth gwych ar sesiynau ar dorgochiaid arctig a oedd yn gysylltiedig â rhaglen “Love your Lake”. Wiw! Dyfyniad y mis

Page 2: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

“Mae'n rhaid i addysg heddiw ymwneud llawer mwy â ffyrdd o feddwl, sy'n cynnwys creadigrwydd, meddwl yn feirniadol, datrys problemau a gwneud penderfyniadau.” Andreas Schleicher – OECD Ffaith y Mis

A oeddech chi'n gwybod bod Brasil wedi'i henwi ar ôl coeden? Gweithgaredd y Mis Hwylio Yr haf yw'r adeg berffaith i fynd i hwylio felly rhowch gynnig ar adeiladu cwch. Mae llawer i'w ddysgu – sgiliau echddygol manwl, deunyddiau, siapiau, arnofio a SUDDO! Dyma rai modelau y gallwch roi cynnig arnynt. Os byddwch yn rhoi cynnig ar bob un ohonynt gallwch wneud rhywfaint o ymchwil er mwyn eu cymharu. Gallwch eu profi ar wahanol gyrff dŵr (dylai pawb fod yn ymwybodol o iechyd a diogelwch!!) neu gynnal Regatta hyd yn oed. MAKING A LEAF BOAT – GWNEUD CWCH O DDAIL

1. Mae’r gweithgaredd hwn yn gofyn am

law ysgafn… ac oedolyn i ddangos i chi sut i wneud y cwch cyntaf.

2. Bydd angen deilen lydan, wastad arnoch… nad yw’n rhy drwchus nac yn rhy fregus..y mae’r goes ynghlwm wrthi o hyd.

3. Gwnewch dwll bach yn y canol. (Efallai y bydd yn haws gwneud agen ar hyd ochr y brif wythïen os bydd y plentyn yn ei chael hi’n anodd gwneud twll yn yr wythïen ganolog.)

4. Crymwch y ddeilen yn ofalus a gwthiwch y goes drwy’r twll.

5. Tynnwch yn ofalus.. mae’r goes yn troi’n llyw.

6. Gosodwch y cwch yn ofalus ar bwll bach o ddŵr…gan sicrhau bod yr ochr uchaf yn sych neu bydd yn suddo.

7. Chwythwch y rhan grom o’r tu ôl iddi …a chynhaliwch ras gychod.

8. .. .neu ewch ati i weld faint o flodau bach y gallwch eu gosod arno heb iddo suddo.

Cwch wedi'i wneud o Ddail Corsen

Tynnwch ddeilen hir o goes Corsen Gyffredin

Plygwch y ddeilen chwarter o'r ffordd ar hyd-ddi o un pen ac yna rhwygwch hi mewn dau le er mwyn rannu'r plyg yn dri thab cyfartal.

Gosodwch un o'r tabiau allanol dros yr un canol ac i mewn i blyg yr un gyferbyn (fel y dangosir isod) ac yna gwnewch yr un peth yn y pen arall.

Mae'r cwch bellach wedi'i gwblhau ac yn barod i'w roi i arnofio ar ddŵr a chael ei chwythu o amgylch yn y gwynt.

Page 3: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

www.naturallore.wordpress.com

HOW TO MAKE A STICK RAFFT – SUT I WNEUD RAFFT O FRIGAU www.lilyandthefairyhouse.com

Rafft wedi'i gwneud o Frigau Bydd angen y canlynol arnoch:

o 4 brigyn o'r un hyd ar gyfer y ffrâm o tua 8-10 brigyn o'r un hyd â'r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer y

ffrâm er mwyn creu gwely'r rafft o cyrs/coesau glaswellt hir o 1 ddeilen fawr neu ffrond o ddail ar gyfer yr hwyl o 1 brigyn ar gyfer yr hwylbren 1. Gosodwch y pedwar brigyn ar gyfer y ffrâm ar ben ei gilydd er

mwyn barnu eu maint. Lapiwch gorsen laswellt hir yn ofalus am bob un o'r uniadau, gan orgyffwrdd a lapio o'r naill gornel i'r llall. Bydd hyn yn eu dal yn eu lle. Gwnewch hyn ar gyfer pob cornel.

2. Ar ôl cwblhau'r ffrâm, cysylltwch bob brigyn â'r ffrâm er mwyn gwneud gwely'r rafft, gan lapio'r glaswellt drosto ar ffurf croes fel uchod. Parhewch nes y bydd y gwaelod wedi'i orchuddio, bydd bylchau rhwng pob brigyn.

3. Defnyddiwch un brigyn fel yr hwylbren a deilen fawr fel yr hwyl. Gwnewch ddau dwll bach i wthio'r hwylbren drwyddynt. Mewn gwirionedd gwnaethom glymu ffrond mawr o ddail wrth yr hwylbren yn lle hynny.

4. Gosodwch yr hwylbren mewn bwlch rhwng dau o'r brigau; lapiwch laswellt yn ofalus o'i gwmpas er mwyn ei ddal yn ei le.

5. Mae'r rafft yn barod i hwylio! www.theboyandme.co.uk/

Planhigyn y Mis Dant y Llew Enw gwyddonol: Taraxacum Mae cenedlaethau o blant wedi helpu i sicrhau bod dant y llew yn un o chwyn mwyaf cyffredin Prydain. Mae chwythu'r pennau hadau bregus a hardd er mwyn 'dweud yr amser' yn ddull effeithiol iawn o'u gwasgaru. Oherwydd ei arfer ymledol a'i wreiddyn hir mae dant y llew cyffredin yn bla ar enaid garddwyr ac eto mae'r blodau toreithiog yn denu gwenyn sy'n peillio cnydau. Nid yw dant y llew bob amser wedi bod yn chwyn trafferthus. Yn Oes Fictoria câi ei dyfu'n ofalus a'i fwyta gan y cyfoethogion mewn brechdanau a saladau. Hyd yn oed heddiw defnyddir y dail fel ffisig gwella popeth a'r blodau i wneud gwin. Ceir llawer o rywogaethau o ddant y llew gan gynnwys y mathau mwyaf cyffredin a'r rhai â hadau coch. Mae dant y llew wedi ymaddasu'n arbennig o dda i fyd modern o "gynefinoedd y tarfwyd arnynt," megis lawntiau a mannau agored, heulog. Cafodd ei gyflwyno i Ganol Gorllewin yr Unol Daleithiau o Ewrop hyd yn oed er mwyn rhoi bwyd i'r gwenyn mêl a fewnforiwyd ar ddechrau'r gwanwyn. Erbyn hyn mae'n tyfu dros y

Page 4: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

byd i gyd bron. Mae dant y llew yn ymledu ymhellach, mae'n fwy anodd ei ddileu ac mae'n tyfu o dan amodau mwy anffafriol na'r rhan fwyaf o'r planhigion sy'n cystadlu ag ef. Mae dant y llew yn blanhigyn parhaol a chanddo ddail hir ar ffurf gwaywffon. Mae gan ei ddail ddannedd dwfn iawn a dyna a roddodd ei enw yn Hen Ffrangeg i'r planhigyn, sef: Dent-de-lion sy'n golygu dant y llew mewn Hen Ffrangeg. Mae'r dail rhwng 3 a 12" o hyd a rhwng 1/2 a 2-1/2" o led ac maent bob amser yn tyfu mewn rhoséd waelodol. Maent yn tyfu'n unigol ar goesau blodau gwag sydd rhwng 2 a 18" o uchder. Mae pob pen blodyn yn cynnwys cannoedd o flodau pelydr bychain. Gall y pen blodyn droi'n ben hadau crwn a gwyn (sy'n gyfarwydd i bawb) dros nos. Mae gan bob hedyn barasiwt bach iawn er mwyn galluogi'r hadau i ymledu i bobman yn y gwynt. Mae'r prif wreiddyn trwchus, bregus a llwydfelyn sy'n canghennu yn tyfu hyd at 10" o hyd. Mae pob rhan o'r planhigyn hwn yn gollwng sudd llaethog gwyn pan gaiff ei thorri. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o hadau eraill, gall dant y llew egino heb gyfnodau hir o gysgadrwydd. Er mwyn gwella effeithlonrwydd atgynhyrchiol ymhellach, mae'r planhigyn wedi rhoi'r gorau i ryw: Gall yr hadau ddatblygu heb gael eu croesbeillio ac, felly, gall blodyn ffrwythloni ei hun. Fel hyn gall gael y gorau ar y garddwr drwy wasgaru hadau mor gynnar â'r diwrnod ar ôl i'r blodyn agor. Gellir defnyddio llawer o rannau o ddant y llew at sawl diben. Nid oes unrhyw blanhigion gwenwynig eraill sy'n edrych yn debyg iddo. Casglwch ddail dant y llew ar ddechrau'r gwanwyn, pan fyddant ar eu mwyaf blasus, cyn i'r blodau ymddangos. Cynaeafwch hwy unwaith eto ar ddiwedd yr hydref. Yn dilyn rhew, mae eu chwerwder amddiffynnol yn diflannu. Planhigion dant y llew sy'n tyfu mewn pridd gwlyb, ffrwythlon, gyda'r dail mwyaf llydan a'r gwreiddiau mwyaf, yw'r rhai gorau. Dylech ddewis y rhai ieuaf ac osgoi pob planhigyn â blodau. Mae rhai pobl yn bwyta'r dail o'r haf tan yr hydref, pan fyddant yn chwerw iawn. Mae pobl eraill yn eu berwi i gael gwared â'r chwerwder (a fitaminau sy'n toddi mewn dŵr) gan newid y dŵr ddwywaith. Dewis personol ydyw. Mae dail dant y llaw yn fendigedig mewn saladau, wedi'u ffrïo'n ysgafn neu wedi'u stemio. Maent yn blasu fel sicori ac endif, gyda blas cryf, dwys yn gorchuddio rhywfaint o chwerwder. Wedi'i gymysgu â blasau eraill, megis mewn salad, gall dant y llew wella'r blas. Rhowch gynnig ar eu ffrïo'n ysgafn am tua 20 munud gyda winwns a garlleg mewn olew olewydd, gan ychwanegu ychydig o win cartref cyn eu bod wedi gorffen coginio. Os nad ydych wedi arfer â'r blas ychydig yn chwerw, coginiwch hwy gyda llysiau melys, yn arbennig moron a phannas wedi'u torri'n sleisiau. Gallwch hefyd fwyta blodau dant y llew neu eu defnyddio i wneud gwin. Casglwch hwy mewn dôl heulog, ychydig cyn canol y gwanwyn, pan fydd y rhan fwyaf o'r blodau yn agor. Mae rhai yn parhau i flodeuo i mewn i'r hydref. Dim ond rhannau melyn y blodyn y dylech eu defnyddio. Mae'r sepalau gwyrdd ar waelod y blodyn yn chwerw. Mae'r blodau yn ychwanegu lliw, ansawdd a blas chwerwfelys anarferol at saladau. Gallwch hefyd eu ffrïo'n ysgafn, eu dipio mewn cytew a'u ffrïo'n ffriterau neu eu stemio â llysiau eraill. Mae iddynt ansawdd cigog sy'n cyferbynnu â llysiau ysgafnach eraill mewn rysáit tro-ffrïo neu gaserol. Gellir bwyta'r prif wreiddyn drwy gydol y flwyddyn ond mae ar ei orau rhwng diwedd yr hydref a dechrau'r gwanwyn. Defnyddiwch ef fel llysieuyn wedi'i goginio, yn arbennig mewn cawliau. Mae'r dail yn fwy maethlon nag unrhyw beth y gallwch ei brynu. Maent yn cynnwys mwy o feta-caroten na moron. Maent yn cynnwys lefelau uchel iawn o haearn a chalsiwm, mwy na sbigoglys. Gallwch hefyd gael fitaminau B-1, B-2, B-5, B-6, B-12, C, E, P, a D, biotin, inositol, potasiwm, ffosfforws, magnesiwm a sinc drwy ddefnyddio llysieuyn blasus am ddim sy'n tyfu ar bron pob lawnt. Mae'r gwreiddyn yn cynnwys y siwgr inwlin, ynghyd â llawer o sylweddau meddyginiaethol. Gwreiddyn dant y llew yw un o'r meddyginiaethau llysieuol diogelaf a mwyaf poblogaidd. Mae'r trwyth yn donig traddodiadol. Credir ei fod yn cryfhau'r corff cyfan, yn arbennig yr iau a'r goden fustl, lle mae'n hyrwyddo llif bustl, yn lliniaru enyniad dwythell y bustl ac yn helpu i gael gwared â cherrig bustl. Mae hyn i'w briodoli i'w daracsasin. Mae'n dda at hepatitis cronig, mae'n lleihau chwydd yn yr iau a'r clefyd melyn ac mae'n helpu diffyg traul a achosir gan lefelau annigonol o fustl. Peidiwch â'i ddefnyddio i drin stumog neu goluddyn llidus neu os oes gennych enyniad acíwt.

Page 5: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

Yr enw Ffrangeg cyfoes ar y planhigyn hwn yw pissenlit (ystyr lit yw gwely) am fod te sydd wedi'i wneud o'r gwreiddyn a'r dail yn cael effaith diwretig ysgafn ar yr arennau, gan wella'r ffordd y maent yn glanhau'r gwaed ac yn ailgylchu maethynnau. Yn wahanol i ddiwretigion cwmnïau fferyllol, nid yw hwn yn tynnu potasiwm, sy'n fwyn hollbwysig, o'r corff. Bydd gwella gweithrediad yr arennau yn arwain at well iechyd yn gyffredinol a chroen clir. Mae dant y llew hefyd yn dda at y bledren, y ddueg, y cefndedyn, y stumog a'r coluddion. Fe'i hargymhellir ar gyfer pobl sydd dan straen, pobl sy'n araf yn fewnol a phobl eisteddog. Gallai unrhyw un sy'n bwyta gormod o fraster, blawd gwyn a melysyddion dwys gael budd o gwpanaid dyddiol o de dant y llew. Mae gwreiddyn dant y llew yn siwgr nad yw'n peri i inswlin gael ei gynhyrchu'n gyflym fel mae siwgrau wedi'u trin yn ei wneud. Mae'n helpu diabetes sy'n dechrau mewn pobl hŷn a gellir ei ddefnyddio fel rhan o gyfundrefn gyfannol i drin hypoglycemia (lefelau isel o siwgr yn y gwaed). Mae sudd llaethog, gwyn y ddeilen yn cael gwared â dafadennau, mannau geni, plorod, caledennau a briwiau ac yn lliniaru pigiadau gwenyn a phothelli. www.botanical.com www.wildmanstevebrill.com www.bbc/nature

Rysáit y mis Mae llawer o ryseitiau ar gyfer defnyddio blodau ysgaw a chan fod y gwrychoedd yn llawn ohonynt ar hyn o bryd beth am roi cynnig ar un o'r rhain? Cordial Blodau Ysgaw Er mwyn gwneud 2 litr bydd angen y canlynol arnoch:

Tua 25 o bennau blodau ysgaw

Croen 3 lemon heb eu cwyro ac 1 oren, wedi'u gratio'n fân, ynghyd â'u sudd (tua 150ml)

1kg o siwgr

1 llond llwy de o asid sitrig (dewisol) Edrychwch yn ofalus ar bennau blodau'r ysgaw a chael gwared ar unrhyw bryfed. Gosodwch bennau'r blodau mewn powlen fawr ynghyd â chroen yr oren a'r lemonau. Codwch 1.5 litr o ddŵr i'r berw a'i arllwys dros flodau'r ysgaw a'r croen sitraidd. Gorchuddiwch y fowlen a'i gadael dros nos er mwyn i'r hylif fwydo. Hidlwch yr hylif drwy ddarn o fwslin a'i arllwys i sosban. Ychwanegwch y siwgr, y sudd lemwn ac oren a'r asid sitrig (os ydych yn ei ddefnyddio). Cynheswch yr hylif yn araf er mwyn toddi'r siwgr, yna cynheswch ef nes ei fod yn mudferwi a'i goginio am ddwy funud. Defnyddiwch dwmffat i arllwys y surop poeth i mewn i boteli wedi'u sterileiddio. Seliwch y poteli gan ddefnyddio cloriau 'swing-top', capiau sgriwio wedi'u sterileiddio neu gyrc. www.rivercottage.net Crempog Blodau Ysgaw

8 ymbarél o flodau ysgaw

1 cwpanaid o laeth almond

1/2 banana wedi'i stwnsio

1 cwpanaid o flawd reis

pinsiad o fanila Tynnwch y blodau bychain o'r goes. Cymysgwch yr holl gynhwysion, ac eithrio blodau'r ysgaw ac olew'r coconyt. Ar ôl eu cymysgu'n dda, ychwanegwch y blodau at y cytew a'i droi'n dda. Pobwch y cytew ar radell wedi'i gorchuddio ag olew.

Page 6: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

Hoffech chi iddo fod yn fwy melys? Arllwyswch ychydig o fêl ar ei ben! Finegr Blodau Ysgaw

Wel, wrth gwrs gallech fwydo finegr seidr afalau neu finegr gwin â blodau ysgaw, a byddai'n hynny'n fendigedig. Ond dyma ffordd fwy soffistigedig, sy'n gwneud rhodd ardderchog hefyd.

2 gwpanaid o flodau ysgaw

1 litr / 4 cwpanaid o finegr gwin gwyn (neu finegr seidr afalau)

1 sgaliwn, wedi'i dorri

2 ddeilen bae

2 i 3 ewin garlleg, wedi'u torri

ychydig o buprennau du (i flasu)

20 sbrigyn o deim blodeuog

15 sbrigyn o safri Gosodwch yr holl gynhwysion mewn jar gwydr a'u gorchuddio â'r finegr. Gadewch iddynt fwydo am 6 wythnos. Hidlwch yr hylif os ydych yn dymuno a'i drosglwyddo i boteli â chorc. Peidiwch ag anghofio eu labelu. Gall y finegr hwn bara am amser hir; pan gaiff ei gadw mewn man tywyll ac oer bydd yn cadw am o leiaf flwyddyn, nes y bydd blodau ysgaw newydd i wneud rhagor o finegr. www.wildplantforager.com

Rhywogaeth y Mis Neidr Ddefaid Enw gwyddonol: Anguis fragilis Mae nadroedd defaid, sydd â chyrff hir, llyfn, disglair llwyd neu frown, yn edrych yn debyg iawn i nadroedd bychain. Er gwaethaf eu henw a'u golwg, nid yw nadroedd defaid yn fwydod nac yn nadroedd, ond, mewn gwirionedd, maent yn ymlusgiaid digoesau - dangosir hyn gan y ffaith eu bod yn gallu diosg eu cynffonau ac agor a chau eu llygaid yn gyflym gan ddefnyddio eu hamrannau. Mae nadroedd defaid yn gwbl ddiberygl. Fe'u ceir mewn gweundir, glaswelltir twmpathog, ymylon coetir, pentyrrau o foncyffion a rhodfeydd: unrhyw le y gallant ddod o hyd i infertebratau i'w bwyta a llecyn heulog lle y gallant dorheulo. Mae oedolion yn treulio llawer o'u hamser dan ddaear mewn tyllau y maent yn eu gwneud iddynt eu hunain; mae'n anodd iawn dod o hyd iddynt ac eto nid ydynt yn anghyffredin. Gellir eu gweld ar hyd argloddiau rheilffyrdd, mewn ardaloedd coediog, mynwentydd, tir diffaith a rhandiroedd. Maent yn aml yn byw mewn gerddi yn ddisylw, gan ddefnyddio tomenni compost i wneud eu tyllau, yn hoffi amodau llaith ac yn dod allan o'u cuddfannau pan fo'n nosi neu ar ôl glaw er mwyn hela am fwyd, gan fwyta gwlithod a malwod, corynnod, trychfilod a mwydod. Fodd bynnag, os oes gennych gath, mae'n annhebygol y byddwch yn dod o hyd iddynt yn eich gardd am fod cathau yn eu hysglyfaethu. Yn debyg i ymlusgiaid eraill, mae nadroedd defaid yn treulio'r gaeaf yn cysgu o dan bentyrrau o ddail neu o fewn gwreiddiau coed, fel arfer rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Mae gan nadroedd defaid, sy'n llawer llai na nadroedd, groen llyfn, eurlwyd sydd tua 40-45cm o hyd.

Mae gwrywod llawndwf yn fwy unffurf o ran lliw ar y cefn a'r ochrau, mae'r bola fel arfer yn frychddu neu'n llwyd tywyll ac mae ganddynt bennau mwy o faint o gymharu â gweddill y corff. Weithiau mae gan nadroedd defaid gwryw smotiau glas amlwg iawn. Mae rhannau uchaf y corff yn amrywio o frown golau neu dywyll, llwyd, lliw efydd i goch brics. Fel rheol mae'r gwrywod yn oleuach na'r benywod.

Mae benywod llawndwf yn fwy o faint. Mae ganddynt ochrau tywyll a stribed dywyll i lawr y cefn, ceir smotiau neu streipiau brown tywyll neu ddu ar yr ochrau ac mae arwyneb y dor bron bob amser yn unffurf ddu.

O ran epil y ddau ryw mae'r rhan uchaf yn eurfrown golau neu'n arian llwydaidd ac mae'r ochrau a'r bola yn burddu. Mae smotyn neu flotyn bach ar y pen yn arwain at streipen ddu barhaus sy'n ymestyn ar hyd y cefn. Dim ond y gwrywod sy'n colli'r streipen hon, fel arfer, wrth iddynt gyrraedd aeddfedrwydd rhywiol pan fyddant tua 3 oed

Page 7: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

Ar ôl deffro o'i gaeafgwsg ym mis Mawrth, gellir gweld y neidr ddefaid yn torheulo yn gynnar yn y bore neu fin nos, wrth i'r anifeiliaid ddod i gyflwr ar gyfer bridio, sy'n digwydd ym mis Mai. Mae'r epil, sy'n cael eu geni rhwng diwedd mis Awst a dechrau mis Medi, yn cymryd rhwng pedwar a phum mis i ddatblygu. Mae'r Neidr Ddefaid yn anifail ymddeorol, sy'n golygu bod yr epil yn cael eu geni mewn pilen wy sy'n torri yn fuan ar ôl yr enedigaeth. Caiff rhwng tri a 26 o epil eu geni, y cyfartaledd yw wyth. Mae nadroedd defaid newydd eu geni i'w gweld yn hynod o fach ac maent rhwng 70 a 100 mm o hyd pan gânt eu geni. Yn aml tybir ar gam fod y neidr ddefaid yn un o'n nadroedd brodorol. Ychydig iawn o farciau sydd gan nadroedd defaid heblaw am streipen fertebrol yr anifail benyw. Mae'r streipen hon yn denau ac yn syth ac nid yw'n debyg i streipen igam-ogam fylchog y Wiber. Mae cynffon y neidr ddefaid yn amlwg yn fwy pŵl na chynffon unrhyw un o'r nadroedd brodorol ac ni ellir gwahaniaethu rhwng y pen a'r corff. Mae ganddynt gen tra caboledig, bach iawn sy'n golygu eu bod yn edrych fel gwydr. O'i hastudio'n fanwl, efallai y byddwch yn gallu gweld bod gan y Neidr Ddefaid amrannau sy'n nodwedd ar ymlusgiaid. Un o nodweddion eraill ymlusgiaid yw eu bod yn diosg y gynffon pan gânt eu dal. Mae'r gynffon wedi'i diosg sy'n syrthio i'r ddaear ac yn curo yn effeithiol iawn wrth gamarwain ysglyfaethwyr, tra bod y Neidr Ddefaid yn mynd i guddio. Gallwch helpu i: ofalu am nadroedd defaid ac ymlusgiaid eraill yn eich gardd drwy adael pentyrrau o foncyffion y gallant aeafgysgu oddi tanynt. Diogelir nadroedd defaid o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n drosedd eu lladd, eu niweidio neu eu hanafu, eu gwerthu neu fasnachu ynddynt mewn unrhyw ffordd http://www.wildlifetrusts.org/species/slow-worm www.herpetofauna.co.uk www.bbc.co,uk

Tirwedd y Mis Mae pyllau trai yn byllau creigiog ar lan y môr. Maent yn y parth rhynglanwol. Cânt eu llenwi â dŵr môr pan fo'n benllanw ac maent yn bodoli fel pyllau ar wahân pan fo'n ddistyll. Gan ddibynnu ar y math o graig, gallwch ganfod pyllau trai bas neu ddwfn. Maent yn cynnig gwell siawns i anifeiliaid a phlanhigion y mae angen iddynt fod o dan y dŵr drwy'r amser oroesi. Gan fod pob pwll trai yn wahanol, maent yn denu cymunedau gwahanol. Prin yw'r problemau o ran goroesi sy'n gysylltiedig â phyllau trai dwfn gerllaw'r marc distyll tra bod llawer o broblemau yn gysylltiedig â phyllau trai bas gerllaw'r marc penllanw. Felly, mae lleoliad y pwll ar y draethlin yn ogystal â'i ddyfnder a'i faint yn ffactorau pwysig. Mae pyllau trai dwfn yn darparu cysgod rhag tonnau, gan alluogi organeddau bregus i fyw ar draethlin greigiog a fyddai fel arall yn ddigysgod. Mae anifeiliaid bregus yn cynnwys y canlynol: môr-wlithod, perdys, crancod 'camouflage', wyau môr, a physgod bach. Mae gwymonau bregus yn cynnwys y canlynol: neptune's

necklace, pillow weed, cystophora, gwylaeth y môr a llawer o rywogaethau eraill. Yn achos yr anifeiliaid a all oroesi rhwng y penllanw a'r distyll nid yw pwll trai o reidrwydd yn lle gwell am fod eu hysglyfaethwyr hefyd i'w cael yno. Mae pyllau trai yn amgylcheddau arbennig o heriol a garw. Fe'u ceir ar bob lefel o'r draethlin greigiog mewn ardaloedd rhwng y marc penllanw a'r marc distyll. Mae pyllau trai yn gynefinoedd lle y ceir anifeiliaid â'r gallu unigryw i

addasu sydd wedi hawlio sylw arbennig gan naturiaethwyr a biolegwyr morol. Mae pyllau trai yn gartref i organeddau gwydn megis sêr môr, cregyn gleision a chregyn cylchog. Mae'n rhaid iddynt fedru ymdopi ag amgylchedd sy'n newid yn gyson lle mae tymheredd y dŵr, halltedd a'r ocsigen y mae'n ei gynnwys yn amrywio. Nid yw'n hawdd ymdopi â hyn oll, ac â thonnau ffyrnig, yn ogystal ag osgoi ysglyfaethwyr. Ac eto gall pyllau trai fod yn gynefinoedd bioamrywiol iawn sy'n llawn planhigion a chreaduriaid. Mae tonnau enfawr, cerhyntau cryf, amlygiad i haul canol y dydd ac ysglyfaethwyr ond yn rhai o'r peryglon y mae anifeiliaid pyllau trai yn gorfod ymdopi â hwy er mwyn goroesi. Gall tonnau ryddhau cregyn gleision o gerrig a'u tynnu allan i'r môr. Mae gwylanod yn codi ac yn gollwng môr-ddraenogod er mwyn eu torri a'u hagor. Mae sêr môr yn ysglyfaethu cregyn gleision a chânt eu bwyta gan wylanod eu hunain. Er bod yn rhaid i organeddau pyllau trai osgoi cael eu golchi i ffwrdd i'r cefnfor, sychu yn yr haul neu gael eu bwyta, maent yn dibynnu ar newidiadau cyson y pwll trai i gael bwyd.

Page 8: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

Y parth rhynglanwol. Mae gweithrediad tonnau yn peri i ewyn gael ei chwythu dros y parth hwn pan fo llanw uchel ac yn ystod stormydd. Ar adegau eraill mae'r creigiau yn wynebu amodau eithafol eraill, gan bobi yn yr haul neu'n cael eu hamlygu i wyntoedd oer. Prin yw'r organeddau a all oroesi'r fath dywydd garw. Mae cen a chregyn llong yn byw yn yr ardal hon. Gan fod y parth rhynglanwol yn aml yn dysychu pan fo'r llanw ar drai, mae cregyn llong wedi hen addasu i golli dŵr. Mae eu cregyn calsit yn anhydraidd ac mae ganddynt ddau blât y maent yn eu llithro ar draws eu ceg pan na fyddant yn bwyta. Mae'r platiau hyn hefyd yn eu diogelu rhag ysglyfaethwyr. Parth y penllanw Caiff parth y penllanw ei foddi dan ddŵr am oriau yn ystod pob penllanw. Mae'n rhaid i organeddau oroesi gweithrediad tonnau, cerhyntau ac amlygiad i'r haul. Mae anemonïau môr, sêr môr, crancod, algâu gwyrdd a chregyn gleision yn byw ym mharth y penllanw. Gall algâu morol ddarparu cysgod ar gyfer y fath organeddau gan gynnwys crancod meddal. Mae'r un tonnau a cherhyntau sy'n gwneud bywyd yn y parth penllanw yn anodd yn dod â bwyd i'r bwytawyr hidlo ac anifeiliaid rhynglanwol eraill. Parth y distyll Mae'r rhan fwyaf o'r ardal hon dan ddŵr – dim ond pan fo'n ddistyll y mae yn y golwg. Mae'n llawn bywyd. Ceir llawer mwy o lystyfiant morol, yn arbennig gwymon. Ceir mwy o fioamrywiaeth, ond ni all organeddau yn y parth hwn ymdopi'n dda â sychder a thymereddau eithafol. Ymhlith yr organeddau a geir ym mharth y distyll mae anemonïau môr, gwymon brown, crancod, algâu gwyrdd, hydroidau, isopodau, llygaid meheryn, cregyn gleision, noethdagellogion, pysgod bach, chwerddwr môr, môr-wiail, sêr môr, môr-ddraenogod, perdys, malwod, sbyngau, morwellt, tiwblyngyr a gwichiaid. Gall y creaduriaid hyn dyfu'n fwy o faint am fod mwy o ynni ar gael a gwell gorchudd dŵr: Mae'r dŵr yn ddigon bas i dderbyn mwy o olau ar gyfer gweithgarwch ffotosynthetig ac mae'r halltedd bron â bod ar lefelau arferol. Diogelir yr ardal o hyd rhag ysglyfaethwyr mawr oherwydd gweithrediad y tonnau a'r dŵr cymharol fas. Mae llawer o bysgod bach yn defnyddio'r pwll trai i gysgodi rhag y distyll, ond cyn gynted ag y bydd y llanw newydd yn symud i mewn, maent yn gadael y pwll er mwyn crwydro o amgylch eu tiriogaethau llawer helaethach y tu allan i'r pwll, lle y maent yn dod o hyd i'w bwyd beunyddiol. Mae ymchwil wyddonol ddiweddar wedi dangos bod y rhan fwyaf o'r pysgod bach hyn yn aros yn yr un pwll drwy gydol eu hoes. Mae'n bwysig i'r pysgod hyn y gallant guddio y tu mewn i'r pwll, mewn agen, o dan fargodiad neu o dan garreg fawr. Pe bai pwll trai bob amser wedi'i orchuddio gan y môr, byddai bywyd yno yn hawdd. Mae'r tymheredd yn parhau'n sefydlog, yn ogystal â'r halltedd. Heb flanced y môr mae'r pwll trai wedi'i ynysu fel pe bai'n acwariwm bach ac mae ei amodau byw yn dechrau newid. Yn amlwg, po fwyaf a pho ddyfnaf yw'r acwariwm a pho fyrraf y cyfnod y caiff ei adael yn y cyflwr hwn gorau ydyw i'w drigolion. Felly, pyllau mawr, dwfn gerllaw'r marc distyll yw'r rhai mwyaf diddorol i'w hastudio. Ond mae pob math o bwll, hyd yn oed y rhai bach, bas gerllaw'r marc penllanw, yn dweud rhywbeth wrthym am yr organeddau a all oroesi yno. Yn ystod y dydd, caiff pyllau trai eu gwresogi gan yr haul ac maent yn cynhesu, ond yn ystod y nos cânt eu hoeri. Pan fydd dŵr yn cynhesu, ni fydd yn trosglwyddo'r gwres tuag i lawr yn hawdd. Mae thermoclein yn datblygu, sy'n ffin sydyn rhwng y dŵr cynnes uwchben a'r dŵr oer yn ddyfnach i lawr. Gall esbonio rhai o'r ardaloedd a geir mewn pwll trai. Mae'r tymheredd hefyd yn dibynnu ar faint o'r dŵr sy'n anweddu o ganlyniad i'r gwynt yn chwythu dros y pwll. Wrth i ddŵr anweddu o byllau bas, mae'n gadael y mwynau toddedig ar ôl yn y dŵr sy'n weddill. Halen yw mwyn mwyaf cyffredin y môr. Felly, mae pob pwll trai yn mynd yn fwy hallt wrth i'w ddŵr anweddu, ond mae pyllau bas tua'r marc penllanw yn mynd yn fwy hallt nag eraill. Dengys rhai pyllau grawen halen. Prin iawn yw'r anifeiliaid neu blanhigion a all fyw yma, os o gwbl. Pan fydd yn bwrw glaw, mae dŵr croyw yn draenio i'r pyllau trai ac os bydd gormod o ddŵr croyw ynddo mae'n bosibl na fydd pwll trai yn gallu cynnal bywyd morol. Yn ffodus, mae dŵr croyw yn arnofio ar yr wyneb am ei fod yn ysgafnach na dŵr hallt. Gan mai dim ond pan gaiff ei droi'n egnïol y bydd yn cymysgu, yn aml gall anifeiliaid a phlanhigion oroesi yn ddyfnach yn y pwll. Mae angen ocsigen ar anifeiliaid i anadlu, ond mae angen ocsigen ar blanhigion gyda'r nos hefyd pan na allant wneud eu hocsigen eu hunain. Felly, y distyll gyda'r nos yw'r adeg fwyaf peryglus. Yn ffodus, mae'r

Page 9: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

rhan fwyaf o anifeiliaid yn aros yn llonydd gyda'r nos, gan ddefnyddio cyn lleied o ocsigen â phosibl. Yn ystod y dydd, gall y planhigion gynhyrchu mwy o ocsigen nag a ddefnyddir gan yr anifeiliaid a gall lefel yr ocsigen yn y pwll godi, yn hytrach na gostwng. Mae gwaddod yn troi'r dŵr yn lliw tywyll, gan amddifadu planhigion o'r golau sydd ei angen arnynt. Mae gwaddod hefyd yn gorwedd ar dagellau mân pob anifail sy'n anadlu dŵr, gan eu gwneud yn sâl neu eu mygu. Pan fydd llawer o laid neu dywod yn golchi i mewn i'r pwll trai yn rheolaidd, caiff anifeiliaid a phlanhigion eu gorchuddio ac mae'r pwll trai yn edrych yn wag (ffoto). Mae golau yn dod i mewn i'r pwll ar ongl oddi uchod. Gall pyllau dwfn gynnwys ochr dywyll iawn, sy'n gwahodd amrywiaeth o wymonau coch. Efallai na chaiff pyllau serth, cul gymaint o olau dydd ag a gaiff pyllau llydan, sy'n gwahodd rhywogaethau a all oddef cysgod i fyw ger y gwaelod. O dan gerrig ac mewn agennau, lle mae'n dywyll, ceir anifeiliaid megis sbyngau a chwistrellau môr na allent fel arall gystadlu â'r planhigion ar wynebau sydd yng ngolau'r haul. Mae pobl yn hoffi pyllau trai, i ymdrochi ynddynt neu i'w hastudio. Y dyddiau hyn mae cymaint o bobl yn ymweld â'r môr fel yr ymwelir â'r pyllau trai sydd ar gael lawer gwaith bob blwyddyn. Hyd yn oed pan fydd ymwelwyr yn ofalus iawn, gall y niwed a wneir i'r organeddau bregus hyn gynyddu a dod yn amlwg. Felly, byddwch yn ofalus iawn wrth ymweld â phyllau trai, yn arbennig wrth droi cerrig. Rhybudd! Mae pyllau trai llawn bywyd yn brin. Dylech eu trin yn ofalus! www.seafriends.org www.wikipedia.org www.bbc.co.uk

Cyrsiau:

Ysgol y Goedwig Abertawe Castell-Nedd Port Talbot Agored Cymru Lefel 2 Cwrs i Ymarferwyr Dysgu yn yr Awyr Agored - £400 I bobl sydd am ddysgu mwy am botensial eich lleoliad i ddarparu dysgu yn yr awyr agored. Bydd yr uned hon yn galluogi ymarferwyr addysgol i wella arfer proffesiynol yn ddiogel gan ddefnyddio eu hamgylcheddau awyr agored lleol tra'n rheoli'r amgylchedd awyr agored y maent yn ei ddefnyddio mewn modd cynaliadwy. (Dydd Mawrth) 16 Medi, 14 Hyd, 11 Tach 2014 Cysylltwch â: [email protected]

Diwrnod Darganfod ar y Traeth- £80

Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyder a gwybodaeth i athrawon ac addysgwyr am yr ecosystem forol ac yn meithrin eu sgiliau wrth enwi planhigion ac anifeiliaid glân môr. Bydd yn eich ysbrydoli i ddefnyddio'r traeth fel adnodd dysgu. Dydd Llun 22 Medi 2014 - Bae Caswell, Abertawe

Cysylltwch â: [email protected] Ymarferwr Dysgu yn yr Awyr Agored Agored Cymru Lefel 2: Medi 16—Hyd 14—Tach 11—2014 Tri diwrnod llawn o hyfforddiant wedi'u rhannu dros dri mis er mwyn rhoi amser i chi roi cynnig ar bethau rhyngddynt. Byddwch gennych gyfoeth o syniadau a thechnegau i'w defnyddio yn eich lleoliad. Byddwn yn parhau i gynnig cymorth o Ysgol y Goedwig Abertawe Castell-Nedd Port Talbot.

Cwrs Naddu Pren am Ddim Mae prosiect SHARE yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynnal dosbarth sgiliau gwledig gwych AM DDIM ym Merthyr Tudful. Caiff y myfyrwyr gyfle i ddysgu am yr offer amrywiol a ddefnyddir i naddu pren a'r ffordd gywir o'u defnyddio. Bydd Sharon Littley yn eu cyflwyno i wahanol sgiliau a thechnegau fel y gall y dysgwyr ymarfer a datblygu eu crefft. Cynhelir y prosiect rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref, pan fydd Sharon Littley yn cyflwyno o leiaf 12 o weithdai (undydd) ym Merthyr Tudful. Cysylltwch â: Swyddog Datblygu Treftadaeth SHARE - (01685) 725 469

Canolfan Sgiliau Coetir - Bodfari Cyflwyniad i Waith Coed Gwyrdd Dydd Sadwrn 5 - dydd Sul 6 Gorffennaf Dysgwch egwyddorion gwaith coed gwyrdd tra'n gwneud eich stôl deircoes eich hun. Cynhelir y cwrs yn y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari. Cost £125. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Ymestyn eich Tymor Tyfu Dydd Mercher 9 Gorffennaf neu ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf

Page 10: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

Cwrs a gynhelir gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac a gyflwynir yn y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari. Cost £10. Cysylltwch â: www.growingthefuture.co.uk Penwythnos i'r Teulu yn y Goedwig Dydd Sadwrn 12 - dydd Sul 13 Gorffennaf Gwersylla am ddim a llawer o fforio, gemau, coedwriaeth a dysgu am y goedwig. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Cyflwyniad i Goedwriaeth Dydd Sul 20 Gorffennaf Cyflwyniad gwych i amrywiaeth o sgiliau coedwriaeth gyda'r arbenigwr Matt McIntyre. Cost £55. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Cyflwyniad i Gadw Gwenyn Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf Cwrs a gynhelir gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac a gyflwynir yn y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari. Cost £25. Cysylltwch â: www.growingthefuture.co.uk Gwneud Turn Polyn Dydd Sadwrn 2 - dydd Sul 3 Awst Y turn polyn yw'r offeryn traddodiadol ar gyfer troi coed gwyrdd. Mae'n ddiogel iawn i'w ddefnyddio ac nid yw'n creu llwch na sŵn. Cewch yr holl ddeunyddiau sydd eu hangen arnoch a byddwch yn gwneud eich turn polyn eich hunan i fynd adref gyda chi. Cost £160. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Wythnos Crefftau Coed Gwyrdd Dydd Sadwrn 9 – dydd Mercher 13 Awst Mae'r cwrs hwn yn dwyn y canlynol ynghyd: Gwneud Mainc Blaenio, Gwneud Turn Polyn a Chyflwyniad i waith Turn Polyn Byddwch yn mynd â'ch mainc blaenio a'ch turn polyn adref gyda chi a byddwch wedi dysgu ychydig am sut i'w defnyddio. Mae'r holl ddeunyddiau wedi'u cynnwys. Cost £320. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Coedwriaeth Uwch Dydd Sadwrn 16 – dydd Sul 17 Awst Penwythnos o goedwriaeth uwch i ddarganfod cyfrinachau coetiroedd Prydain drwy lygaid coediwr. P'un a ydych am ddatblygu eich sgiliau Coedwriaeth neu wella eich sgiliau gwersylla ni ddylech golli'r cwrs hwn. Gan fod y tymhorau yn newid yn barhaus, bydd pob ymweliad â'r goedwig yn wahanol ac mae ein cyrsiau yn adlewyrchu hyn. Felly, efallai y bydd cyfle i astudio'r canlynol: olrhain, gwneud rhwydi, maglu, technegau sy'n gysylltiedig â defnyddio bwyell a gwneud rhaffau naturiol. Cost £110. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Cyflwyniad i Waith Coed Gwyrdd Dydd Sadwrn 16 – dydd Sul 17 Awst Dysgwch egwyddorion gwaith coed gwyrdd tra'n gwneud eich stôl deircoes eich hun. Cost £125. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Wythnos i'r Teulu yn y Goedwig Dydd Sadwrn 23 – dydd Mercher 27 Awst Mae'r wythnos hon wedi'i hanelu at oedolion dros 18 oed a rhieni â phlant o unrhyw oedran. Bydd y brif raglen i'r plant yn cynnwys archwilio'r coetir, dysgu am y coed, y planhigion a'r bywyd gwyllt, adeiladu llochesi, cynnau tanau a choginio gwersyll ac amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft. Bydd diwrnodau pan all yr oedolion, os dymunant, wneud gwaith coed gwyrdd mwy cymhleth a gwneud stôl gan ddefnyddio offer a thechnegau crefft traddodiadol. Darperir pryd canol dydd syml ar bob diwrnod. Cysylltwch â: www.woodlandskillscentre.co.uk Saffarïau ar y Draethlin 2014 Ymunwch â'r Biolegydd Morol a'r Awdur, Judith Oakley (Oakley Intertidal) i gymryd rhan mewn digwyddiad morol cyffrous AM DDIM yr haf hwn!

•Dydd Sadwrn 7fed Mehefin, 1.30pm – Picnic Llamidyddion Diwrnod Cefnforoedd y Byd, Rhosili

Page 11: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

•Dydd Sadwrn 14eg Mehefin, 12pm – Saffari Traethlin Gogledd Gŵyr, traeth Whiteford •Dydd Sadwrn 12fed Gorffennaf, 12pm – Saffari Glan Môr Bae Bracelet, y Mwmbwls •Dydd Sul 13eg Gorffennaf, 12.45pm – Saffari Glan Môr Bae Oxwich •Dydd Sul 27ain Gorffennaf, 12.45pm – Saffari Glan Môr Port Eynon •Dydd Sadwrn 9fed Awst, 11.15am - Saffari Glan Môr Sarn Pen Pyrod •Dydd Sul 10fed Awst, 11.45am – Saffari Glan Môr Bae Bracelet, y Mwmbwls •Dydd Sadwrn 16eg Awst, 10.30am – Picnic Llamidyddion Southgate •Dydd Sul 24ain Awst, 11.45am – Saffari Glan Môr Bae Oxwich •Dydd Sadwrn 6ed Medi, 9.00am – Saffari Glan Môr Sarn Pen Pyrod •Dydd Sadwrn 13eg Medi, 1.45pm – Saffari Glan Môr Port Eynon •Dydd Gwener 19eg Medi, 9.30pm – Saffari Glan Môr Gyda'r Nos ym Mae Langland Cysylltwch â: [email protected]

Newyddion Eraill: Rydych yn rhy hwyr i gymryd rhan yn Niwrnod Llaid ond dyma rai syniadau hyfryd. Wynebau Lleidiog Sut y byddwch chi'n dathlu Diwrnod Llaid Rhyngwladol? Beth bynnag y byddwch yn ei wneud ar Ddiwrnod Llaid neu'r wythnosau cyn neu ar ôl 29 Mehefin, gobeithio y bydd yr adnoddau yn y Pecyn Llaid, y gallwch eu lawrlwytho am ddim, yn helpu i'ch ysbrydoli. Cysylltwch â: www.muddyfaces.co.uk Cynhelir Cynhadledd y Cyngor Dysgu y tu allan i'r Dosbarth (CLOtC) 2014 ddydd Iau 4ydd Rhagfyr ym Mhrifysgol Canolfan Fenter Derby. Bydd cynhadledd eleni, Why Inside? Teaching the new curriculum outside the classroom, yn canolbwyntio ar gyfleoedd ysbrydoledig a diddorol i ddysgu y tu allan i'r dosbarth yn y cwricwlwm cenedlaethol newydd. Archebwch le cyn 25ain Gorffennaf er mwyn manteisio ar gyfradd ostyngol yr 'earlybird' a sicrhau na fyddwch yn colli cyfle i gymryd rhan yn y diwrnod hwyliog a chyffrous hwn. Cysylltwch â: www.lotc.org.uk Llyfrau Newydd sydd ar gael

Dirty Teaching – Juliet Robertson

Mae Juliet Robertson yn cynnig awgrymiadau a thriciau i helpu unrhyw

athro ysgol gynradd i ddechrau rhoi ei ymarfer awyr agored ar waith neu ei

ddatblygu ymhellach. Un o'r ffactorau sy'n allweddol i sicrhau ystafell

ddosbarth hapus a chreadigol yw ei gadael a mynd allan i'r awyr agored a

bydd y llyfr hwn yn rhoi hyder i chi wneud hynny. Mae'n cynnwys cyfoeth o

syniadau a gweithgareddau a fydd yn sicrhau eich bod yn cynnig

amrywiaeth eang o brofiadau diddorol yn yr awyr agored i'ch myfyrwyr.

Nid oes angen cyfarpar drud na thechnolegau cymhleth: y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich

cot ac awydd i ddysgu, a byddai'n well i chi ddod â'r plant gyda chi hefyd!

A Comprehensive Guide to Insects of Britain & Ireland

Mae'n cynnwys ffotograffau o dros 2500 o rywogaethau a lluniau lliw llawn a

cheir adrannau cynhwysfawr ar bob grŵp o drychfilod, gan gynnwys clêr,

gwenyn a gwenyn meirch.

Cysylltu â ni:

Karen Clarke Sheena O’Leary

Cydgysylltydd Cenedlaethol Dysgu Swyddog Cymorth Cydgysylltydd yn yr Awyr Agored Cymru Cenedlaethol Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Y Tîm Addysg Y Tîm Addysg Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru 0300 068 0300 / 07721 302667 0300 068 0300 / 07778893379

Page 12: Newyddlen Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru Gorffennaf 2014...Mae ein dylunydd gwe yn ein sicrhau y bydd gwefan newydd Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn weithredol yn fuan. Rydym wedi penderfynu

[email protected]

Cyfraniadau: Dylech gyflwyno awgrymiadau ar gyfer cynnwys neu eitemau o ddiddordeb ar gyfer newyddlenni sydd i'w cyhoeddi erbyn yr 20

fed diwrnod o'r mis. Mae pob eitem a gyflwynir yn amodol ar

gymeradwyaeth y Cydgysylltydd.

Ymwadiad: Nid yw Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru na Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gynnwys, safon na dibynadwyedd y gwefannau, cyrsiau na'r adnoddau y darperir dolenni iddynt o'r newyddlen hon a ddaw o ffynonellau allanol. Ni ddylid ystyried bod rhestru dolenni yn gymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd tudalennau y darperir dolenni iddynt. Datdanysgrifio: Os nad ydych yn dymuno bod yn rhan o OLW All E-Group gallwch ddatdanysgrifio drwy anfon e-bost i [email protected]