nodyn i’r athro / athrawes : argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn
DESCRIPTION
Nodyn i’r athro / athrawes : Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn . Rhowch un cerdyn i bob disgybl . Bydd disgybl A yn darllen y frawddeg . Yna bydd disgybl B yn nodi’r camgymeriad , y cywiriad a’r rheswm gyda disgybl A yn ei wirio . - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
Nodyn i’r athro/athrawes:
Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn.
Rhowch un cerdyn i bob disgybl.
Bydd disgybl A yn darllen y frawddeg. Yna bydd disgybl B yn nodi’r camgymeriad, y cywiriad a’r rheswm gyda disgybl A yn ei wirio.
Bydd y dasg yn cael ei hail-adrodd gyda disgybl B yn holi y tro hwn.
Cyfnewid cardiau a mynd at bartner gwahanol.
Un raw > un rhaw
Camdreiglad. Er bod enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un, os yw’r enw yn dechrau â’r gytsain ‘rh’ ni cheir treiglad gan ei fod yn eithriad i’r rheol.
Un law > un llaw
Camdreiglad. Er bod enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un, os yw’r enw yn dechrau â’r gytsain ‘ll’ ni cheir treiglad gan ei fod yn eithriad i’r rheol.