on the way

22
Ceredigion Community Transport was pleased to host the West Wales qualify heats for MiDAS Driver of the Year 2012 Well done to all the drivers Peter, Nick, Eddie, Lyn, Clare and Jonathan who took place and many thanks to Reg and Ian the assessors. What a fab day full a sunshine, bacon rolls and aeroplanes ! Roedd Cludiant Cymunedol Ceredigion yn falch o’r cy- fle i gynnal rhagbrofion Gorllewin Cymru o gystadleua- eth Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn 2012. Diolch i’r gyrwyr wnaeth gystadlu, Peter, Nick, Lyn, Clare, Eddie a Jona- than; ac i’r aseswyr, Reg ac Ian. Roedd yn ddiwrnod bendigedig yn llawn heulwen, bwyd ac awyrennau ! Ar y Ffordd ! On The Way !

Upload: cavo

Post on 27-Mar-2016

231 views

Category:

Documents


2 download

DESCRIPTION

Ceredigion Community Transport is delighted to present the second issue of the newsletter ‘On The Way!’ Which is full of exciting information from all the Ceredigion Community Transport groups and recent events

TRANSCRIPT

Page 1: On The Way

Ceredigion Community Transport was pleased to host the West Wales qualify heats for MiDAS Driver of the Year 2012 Well done to all the drivers Peter, Nick, Eddie, Lyn, Clare and Jonathan who took place and many thanks to Reg and Ian the assessors. What a fab day full a sunshine, bacon rolls and aeroplanes !

Roedd Cludiant Cymunedol Ceredigion yn falch o’r cy-fle i gynnal rhagbrofion Gorllewin Cymru o gystadleua-eth Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn 2012. Diolch i’r gyrwyr wnaeth gystadlu, Peter, Nick, Lyn, Clare, Eddie a Jona-than; ac i’r aseswyr, Reg ac Ian. Roedd yn ddiwrnod bendigedig yn llawn heulwen, bwyd ac awyrennau !

Ar y Ffordd !On The Way !

Page 2: On The Way

Cynhaliwyd rhagbrofion Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn Ceredigion 2012 ar ddydd Sadwrn, 21ain Gorffennaf, ar Faes Awyr Aberporth. Daeth chwe gwirfoddolwr i’r fei, tri o sir Benfro a thri o Geredigion. Gofynwyd i Reg Budd ac Ian Seabrooke, hyfforddwyr MiDAS Trafnidiaeth Ystwyth i asesu’r gystadleuaeth. Rhannwyd y gystadleuaeth yn dair rhan: cwis, gyrru o ambylch cwrs ar y maes awyr a gyrru o amgylch y dre am hanner awr. Benthycwyd bysus oddi wrth Trafnidiaeth Yst-wyth Transport a Dolen Teifi ar gyfer y gystadleuaeth. Trefnwyd y diwrnod gan Dîm Cludiant Cy-munedol CAVO Community Transport Team, a gofynnwyd i Hazel Lloyd Lubran, ein prif swyddog i gyflwyno’r gwobrau a’r tystysgrifau. Noddwyd y prif wobrau gan CTA Cymru a Q’straint, gyda’r ennillydd yn derbyn £100, yr ail yn cael £50, a £400 yn mynd i Grŵp CC yr ennillydd. Bydd yr en-nillydd a’r ail yn derbyn tocynnau a llety mewn gwesty yng Nghaerdydd ar gyfer Cynhadledd flynyddol CTA Cymru. Noddwydd gwobrau bach a bagiau i bob cystadleuydd gan Allied Vehicles, ynghyd a gwobrau bach fel diolch i’r ddau asesydd wnaeth gwirfoddoli eu hamser am y diwrnod.

Y cystadleuwyr i ragbrawf Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn Ceredigion 2012 oedd Edward Bunston, Nick Stevens, Peter Howitt, Lyn Jones, Jonathan Rees a Clare Hughes. Roedd Edward, Nick a Peter yn cynrychioli Sir Benfro; Lyn yn un o yrwyr Dolen Teifi, Jonathan yn gyrru ar ran Grŵp CC Llangrannog ac mae Clare yn un o hoelion wyth Grŵp Trafnidiaeth Ystwyth. Cyflwynwyd tystys-grifau a gwobrau bach i bob un o’r cystadleuwyr ar y diwrnod. Cyhoeddwyd yr ennillydd a’r ail ar y dydd Llun dilynnol. Yr ennillydd oedd Peter Howitt, a’r ail oedd Edward Bunston, y ddau yn cynry-chioli Sir Benfro.

Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn Ceredigion 2012 Rhagbrawf Gorllewin Cymru

Page 3: On The Way

The Ceredigion MiDAS Driver of the Year 2012 heats were held on Saturday, 21st July, at Aberporth Airfield. Six volunteer drivers had agreed to compete, three from Pembrokeshire and three from Ceredigion. Two MiDAS trainers from Ystwyth Transport, Reg Budd and Ian Seabrooke, were asked to assess the driving parts of the competition. Each driver had to com-plete a quiz, drive around the circuit on the airfield, and drive for about half an hour around town. Yst-wyth Transport and Dolen Teifi lent a bus each for the competition. The CAVO Community Transport Team organised the day, and Hazel Lloyd Lubran was on hand to present the certificates and prizes. CTA Wales and Q’straint sponsored the main prizes for the winner [£100], the runner up [£50] and [£400] to the winning

Ceredigion MiDAS Driver of the Year 2012 West Wales Heat

The following competed to be the Ceredi-gion MiDAS Driver of the Year 2012; Edward Bunston, Nick Stevens, Peter Howitt, Lyn Jones, Jonathan Rees and Clare Hughes. Edward, Nick and Peter represented Pem-brokeshire Community Transport; Lyn drives for Dolen Teifi, Jonathan for Llangrannog CT Group and Clare is a stalwart of the Ystwyth Transport Group. They were all presented with a certificate and goody-bag on the day, and the overall winner and runner up were notified the following Monday. The winner was Peter Howitt and the runner up was Ed-ward Bunston, both from Pembrokeshire.

CT Group, along with tickets and overnight accommodation for the winner and runner up to the CTA Wales Conference in Cardiff. Allied Vehicles provided goody-bags for all the competitors, and thank-you gifts for the assessors, who volunteered their time on the day.

Page 4: On The Way

Roedd yn ddiwrnod braf i bawb ac yn gystadleuaeth wych. Gwnaeth pawb fwynhau’r maes awyr a’r bwyd.

Hoffai Tîm Cludiant Cymunedol CAVO estyn ein diolch i’r holl gystadleuwyr wnaeth hwn yn ddiwrnod gwerth chweil ac yn llawn hwyl i bawb. Rydym, hefyd, yn barod i dderbyn rhai o’r awgrymiadau gawsom ar sut i wella’r rhag-brofion ac i wneud cystadleuaeth Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn yn un mwy cyflawn. Roedd nifer o’r gyrwyr yn ystyried bod y gystadleuaeth ddim yn adlewyrchu’r safonau sy’n ddisgwyliedig o’r gyrwyr gwirfoddol. Roedd y prawf gyrru o am-gylch y rhwystrau wedi ei amseru, sy’n groes i’r hyfforddiant MiDAS ar yrru diogel. Roedd nifer yn meddwl y byddai’n beth da ychwanegu rownd byr ar ofal cwsmeriaid. Byddai hyn yn well adlew-yrchiad o’r hyn mae gwirfoddolwyr yn wneud na’r gystadleuaeth fel y mae ar hyn o bryd.

Bydd yr ennillydd a’r ail yn cael cyfle i gystadlu yng nghystadleuaeth Gyrrwr MiDAS y Flwyddyn CTA Cymru 2012 yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Byddant yn derbyn tocynnau i Gynhadledd CTA Cymru a’u llety. Rhoddir cymorthdal tuag at lety eu partneriaid.

Cynhaliwyd y rhagbrofion ar faes awyr Aberporth ar un o’r diwrnodau hirfelyn tesog o Haf. Tra’n bod ni’n pobi o dan yr adlen, roedd y cystadleu-wyr a’r aseswyr yn foddfa o chwys yn yr haul. Paratowyd y bwyd gan Chris Bowen, gyda pheth cymorth/rhwystr gan Sioned, Enid a Hazel. Rhan-nwyd cacennau Marg Budd i’r cystadleuwyr, aseswyr, a phawb laniodd ar y maes awyr ar y diwrnod. Daeth dwy awyren lawr, gydag un yn glanio’n lletchwith. Gwnaethpwyd archwiliad manwl am unrhyw ddifrod gan y peilot a’r peirian-nydd. Cafodd Chris ac Enid gyfle i weld beth sy’n digwydd yn y cefndir ar faes awyr fel Aberporth, a thro i ben y tŵr gyda John. Dangosom ein diolch gyda darn o gacen a sconsen.

Page 5: On The Way

The CAVO Community Transport Team would like to thank all the competitors for making this a fund filled and worthwhile day. We will also take on board some of the suggestions they had to improve the MiDAS Driver of the Year heats, and make this a more rounded competition. Most of the drivers felt that the competition, as it stands, does not reflect the standards required of a vol-untary minibus driver. The manoeuvring test was timed, which goes against the MiDAS training regarding safe driving. It was also felt that a short round on customer care should also be added. This would reflect the nature of the volunteering much better than the competition as it stands.

The winner and runner up will go on to compete at the CTA Wales MiDAS Driver of the Year 2012 in October in Cardiff. They will receive tickets to the CTA Wales Conference and their accommoda-tion will be paid for. Their partners’ accommodation will be subsidised.

The heats were held on the Aberporth Airfield on the first really glorious day of Summer. We swel-tered under the awning while the assessors and competitors baked in the sun. Refreshments were prepared by Chris Bowen, with a little bit of help from Sioned, Enid and Hazel. Marg Budd sup-plied cakes for afternoon tea, which were greatly appreciated by everyone, including two pilots who were tinkering with their engine. Two light aircraft landed at the airfield during the heats, with one tipping over and possibly causing some damage to its propeller and engine. The pilot and engineer then spent the next three hours stripping down the engine to check for any damage. Chris and Enid were also given an insight into the workings of the checking systems at Aberporth, and we received a birds-eye view over the airfield from the tower. We repaid the controller with a slice of sponge and a scone, which was much appreciated.

All in all, this was a great day out and a wonderful competition Everyone enjoyed the airfield and the food

Roedd yn ddiwrnod braf i bawb ac yn gystadleuaeth wych. Gwnaeth pawb fwynhau’r maes awyr a’r bwyd.

Page 6: On The Way

Gwasanaeth Bws Arfordirol y Cardi Bach

Llongyfarchiadau i Gymdeithas Trafnidiaeth Gwledig Preseli ar ennill y cytundeb i weithredu gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach ar ran Cyngor Sir Ceredigion

Cychwynodd y gwasanaeth ar 16 Gorffennaf, a bydd ar gael gydol y flwyddyn o hyn ymlaen. Ers ei gychw-yn yn 2004 mae’r Cardi Bach wedi cysylltu’r pentrefi ar hyd yr arfordir rhwng Cei Newydd ac Aberteifi sydd heb wasanaeth bws rheolaidd

Mae’r Cardi Bach yn gweithredu 6 diwrnod yr wythnos yn ystod yr haf, a thri diwrnod yr wythnos yn ystod y gaeaf

Gall pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth deithio o un pentre i’r llall, ac o un tref i’r llall ar hyd arfordir de Ceredigion. Mae’r Cardi Bach yn dilyn llwybr sefydlog rhwng Aberteifi a Chei Newydd, a gall gasglu pobl o’u cartrefi neu leoliad cyfleus arall o fewn yr ardal godi sy’n cael ei ddangos ar y cynllun teithio.Aberteifi

Ewch ar y Cardi Bach i weld golygfeydd godidog Bae Ceredigion. Gall cerddwyr deithio un ffordd ar y bws a cherdded nol ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion sy’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru, agorwyd ym Mai 2012

Mae llawr isel i’r bws ar gyfer mynediad hawdd, a phrisiau tocynnau arferol

Cyfnod gweithredu ac amserlen:16eg Gorffennaf i’r 31ain Hydref 2012 – bob dydd heblaw dydd Mercher1af Tachwedd i’r 31ain Rhagfyr 2012 – Dydd Llun, Dydd Iau a Dydd Sadwrn (ac eithrio 24ain Rhagfyr)

Cysylltwch â’r gweithredwr bws cyn 12.30 pm y diwrnod cyn teithio i archebu’ch taith. Gellir archebu yn y ffyrdd canlynol:

Ffonio 0845 686 0242 – dewisiwch opsiwn 2E-bost: [email protected]

Gan bod y Cardi Bach yn boblogaidd iawn, rydym yn awgrymu bod grwpiau’n archebu ymlaen llaw.

Mae croeso i gŵn ar y Cardi Bach os ydynt yn lân, ar dennyn ac yn eistedd ar y llawr.

Page 7: On The Way

Congradulations to the Preseli Rural Transport Assocaition in succesfully tendering for the ‘Cardi Bach’ coastal bus service and now operate the service on behalf of the Ceredigion County Council.

The service has been up and running since 16 July and will now run throughout the year. First introduced in 2004 the Cardi Bach connect villages along the south Ceredigion coastline between New Quay and Cardi-gan that are not served by a regular bus service.

The Cardi Bach now operates 6 days a week over the summer period and 3 days a week in winter.

The service enables people to travel between local towns and villages along the south Ceredigion coast. The Cardi Bach travels along a set route between Cardigan and New Quay and can also collect you from your home or other convenient location within the ‘pick-up’ zone shown on the route plan.Cardigan

You can also use the Cardi Bach to explore the spectacular scenery of Cardigan Bay. Walkers can take a ‘one-way’ journey on the bus and return along the Ceredigion Coast Path which now also forms part of the Wales Coast Path, opened in May 2012.

The bus is a low-floor vehicle for easy access and standard fares apply

Operating period and timetable:16th July to 31st October 2012 – every day except Wednesday1st November to 31st December 2012 – Mondays, Thursdays and Saturdays (excluding 24th December)

To book your journey in advance you will need contact the bus operator not later than 12.30pm on the day before you wish to travel. Bookings can be made as follows:

Phone 0845 686 0242 – please select option 2 Email: [email protected]

Groups are strongly advised to book in advance due to the popularity of the Cardi Bach.

Dogs are welcome on the Cardi Bach provided they are clean, on a lead and sit on the floor

Cardi Bach Coastal Minibus Service

Page 8: On The Way

Aber

teifi

- C

ei N

ewyd

d

C

ardi

gan

- New

Qua

y

am

pm

Aber

teifi

/ C

ardi

gan

9.00

14

.00

Patc

h 9.

07

14.0

7 G

wbe

rt 9.

09

14.0

9 Fe

rwig

9.

13

14.1

3 M

wnt

9.

20

14.2

6 Fe

linw

ynt

9.26

14

.26

Parc

llyn

9.31

14

.31

Aber

porth

9.

35

14.3

5 Tr

esai

th

9.41

14

.41

Penb

ryn

9.56

14

.56

Penm

orfa

10

.00

15.0

0 Ll

ainw

en

10.0

3 15

.03

Pont

garr

eg

10.0

6 14

.06

Llan

gran

nog

10.1

3 15

.13

Gilf

ach

10.1

6 15

.16

Llw

ynda

fydd

10

.24

15.2

4 C

wm

tydu

10

.30

15.3

0 Ll

wyn

dafy

dd

10.4

0 15

.40

Cae

rwed

ros

10.4

2 15

.42

Nan

tern

is

10.4

5 15

.49

Mae

nygr

oes

10.5

2 15

.52

Cei

New

ydd

/ New

Qua

y 10

.56

15.5

6 Q

uay

Wes

t 11

.00

16.0

0

C

ei N

ewyd

d - A

bert

eifi

N

ew Q

uay

- Car

diga

n

am

pm

Q

uay

Wes

t 11

.10

16.1

0 C

ei N

ewyd

d / N

ew Q

uay

11.1

5 16

.15

Mae

nygr

oes

11.1

9 16

.19

Nan

tern

is

11.2

3 16

.23

Cae

rwed

ros

11.2

6 16

.26

Llw

ynda

fydd

11

.29

16.2

9 C

wm

tydu

11

.37

16.3

7 Ll

wyn

dafy

dd

11.4

5 16

.45

Gilf

ach

11.5

0 16

.50

Llan

gran

nog

11.5

6 16

.56

Pont

garr

eg

12.0

1 17

.01

Llai

nwen

12

.04

17.0

4 Pe

nmor

fa

12.0

7 17

.07

Penb

ryn

12.1

1 17

.11

Tres

aith

12

.21

17.2

1 Ab

erpo

rth

12.2

7 17

.27

Parc

llyn

12.3

0 17

.30

Felin

wyn

t 12

.35

17.3

5 M

wnt

12

.44

17.4

4 Fe

rwig

12

.51

17.5

1 G

wbe

rt 12

.55

17.5

5 Pa

tch

12.5

7 17

.57

Aber

teifi

/ C

ardi

gan

13.0

5 18

.05

Cef

nogi

r gan

:

Supp

orte

d by

:

CAR

DI B

ACH

201

2

Page 9: On The Way

Al

lwed

d / M

ap k

ey:

Ll

wyb

r Bw

s y

Car

di B

ach

/ Car

di B

ach

bus

rout

e

S

afle

oedd

Bw

s / B

us s

top

A

rdal

Cod

i Tei

thw

yr /

Car

di B

ach

pick

-up

zone

Ff

yrdd

/ R

oads

Ll

wyb

r yr A

rford

ir / C

oast

Pat

h

© H

awlfr

aint

y G

oron

a h

awlia

u co

nfa

ddat

a 20

12 A

rolw

g O

rnan

s 10

0024

419

© C

row

n co

pyrig

ht a

nd d

atab

ase

right

s 20

12 O

rdna

nce

Surv

ey 1

0002

4419

Car

di B

ach

2012

Page 10: On The Way

Mae’r gwasanaeth parcio a theithio Llangrannog wedi cychwyn am yr haf. Annogir pawb sy’n mynd i Langrannog i barcio yn maes parcio ym mhen ucha’r pentre, a defnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio i fynd lawr i’r traeth. Does fawr o le i barcio ger y traeth ac mae’r lon yn gul iawn lawr i’r pentre.

Mae’r bws cyntaf yn cychwyn o’r maes parcio am 11 am a’r un olaf yn gadael y traeth am 6 pm. Mae’r bws yn mynd bob deg munud. Codir £1.50 am daith ddwy ffordd, a £1.00 un ffordd ar bob oedolyn. Gall plant deithio am ddim os ydynt yn teithio gydag oedolyn.

Y Diweddaraf!

Llongyfarchiadau i Landysul Pont Tyweli am dderbyn arian o gronfa Village SOS. Derbyniwyd £30,000 i brynu bws newydd ac i dalu am gos-tau gweithredol. Mae Dolen Teifi’n disgwyl yn eiddgar i dderyn y bws newydd cyn hir.

Rydan ni wedi cyrraedd canolbwynt prosiect Gyrru Ymlaen, ac mae’r Gronfa Data Gyrwyr Gwir-foddol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Byddwch yn barod i ddechrau poblogeiddio a bod yn rhan o’r datblygiad.

Mae menter Gyrru Ymlaen yn cefnogi grwpiau i ddatblygu eu gwasanaethau a’u marchnata. Cafwyd syniadau amrywiol gan bedwar grŵp cludiant cymunedol am ffyrdd o farchnata cludiant cymunedol fydd yn hybu’r sector, a lle bydd y grwpiau a’u cymunedau’n elw o hyn. Cysylltwch â ni os oes gan eich grŵp chi syniadau rydych eisiau eu datblyg.

Mae Cyfeirlyfr Cludiant Cymunedol Ceredigion yn cael ei ddiweddaru. Cysylltwch â ni os oes gennych fws mini rydych eisiau ei hybu ac sydd ar gael i’r gymuned fel y gallwn ei gynwys yn ein Cyfeirlyfr poblogaidd.

Gyrru Ymlaen

Trafnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi

Grwp Cludiant Cymunedol Llangrannog a’r Cylch

Page 11: On The Way

The Latest!Llangrannog and District Community Transport Group

The Llangrannog park and ride service is currently underway. Those visiting Llan-grannog are encouraged to park at the top of Llangrannog and jump on the park and ride service.This is due to the single track road running down to the beach and the limited parking places in the Llangrannog.

The first bus from the car park leaves at 11 am and the last bus leaves the beach at 6 pm, there is a bus every 10 minutes. Adults are charged £1.50 return and £1.00 one way, children travel free only when accompanied by an adult.

Dolen Teifi Community Transport Congratulations to Llandysul Pont Welli in securing funding in the first round of Village SOS! A total of £30,000 has been awarded to purchase a brand new minibus and cover some running costs.

Dolen Teifi are looking forward to the delivery of the new vehicle that will be arriving shortly.

The Gyrru Ymlaen project is now at the half way stage. We are pleased to announce that the Volunteer’s Drivers Database is currently being constructed and will be ready to populate shortly. Get ready to be a part it!

Four community transport groups have come forward with publicity ideas on how to market their community transport schemes. The Gyrru Ymlaen project is currently supporting these groups to develop their ideas which will benefit the community’s that they serve. If your group has any ideas that you wish to develop please get in touch.

The Ceredigion Community Transport Directory is currently being updated. Please get in touch if you have a minibus that you wish to make available to the wider community or feature in this popular resource.

Gyrru Ymlaen

Page 12: On The Way

Llongyfarchiadau i Ian Seabrook wnaeth llwyddo ar y cwrs asesydd MiDAS, a hynny mewn pryd i asesu cystadleuaeth gyrrwr y flwyddyn!Da iawn Ian

Grwp Tranfnidiaeth Cymunedol Ystwyth

Lawnsiodd Trafnidiaeth Ystwyth wasanaeth galw-am-siwrnau newydd ar y 17eg o Orffen-naf yng Nghanolfan Ymwelwyr Statkraft, Cwm Rheidol. Bydd gwasanaeth Galw-am-Siwrnau Bws Bro Rheidol yn cwmpasu ardal Aberffrwd, Cwm Rheidol a Chapel Bangor. Ariennir y fent-er peilot yma gan Arian i Bawb, y Loteri Fawr, a bwriedir y gwasanaeth ar gyfer pobl sydd heb gludiant neu sydd a phroblemau symudedd.

Mae Bws Bro Aberystwyth yn fwy na gwasanaeth bws, mae’n ffordd o gyfarfod a chymde-ithasu. Penderfynodd y teithwyr cyson sefydlu Grŵp â Chyfansoddiad, sef yr Aberystwyth Joy Riders. Agorodd y Grŵp gyfrif banc a gwnaethpwyd cais am arian i Arian i Bawb (Y Loteri Fawr) i dalu am hurio bws i fynd allan ar deithiau cymdeithasol ddwywaith y mis. Ariennir hyn am bymtheg mis a bydd yn gyfle i bobl deithio i Eiddo’r Ymddiriedolaeth Gen-edlaethol, y Gerddi Botaneg a Ffeiriau Dolig, ayyb.

Gall y gwasanaeth hyblyg yma gasglu teithwyr o’u cartref a’u cysylltu â gwasanaethau ac adnoddau lleol yn Aberystwyth, a’u dychwelyd adref. Mae’r gwasanaeth yma’n ychwa-negiad poblogaidd i’r gwasanaethau Bws Bro sy’n darparu cysylltiadau cludiant hanfodol i wasanaethau ac adnoddau lleol.Mae’r gwasanaeth ar gael bob dydd Gwener, ac yn cychwyn am 10.30 am. Archebwch eich sedd trwy ffonio Mavis ar 0845020 4322 un-rhyw fore yn ystod yr wythnos cyn eich taith. Ymunodd Gerallt Pennat,Heno yn y dath-liadau, a gellir gweld clip o’r digwyddiad ar wefan Heno. Da iawn Trafnidiaeth Ystwyth a phob lwc i’r dyfodol!

Page 13: On The Way

Congratulations to Ian Seabrook who recently qualifity to be a MiDAS assessor just in time be a MiDAS assessor in the driver of the year competition! Well done Ian

Ystwyth Transport launched a new dial-a-ride service on the 17th July in the Statkraft Visitor Centre,Cwm Rheidol. The Bws Bro Rheidol Dial a Ride service covers Aberffrwd, Cwm Rheidol and parts of Capel Bangor. The pilot project is funded by the Big Lottery grant scheme Awards for All. This service is intended for those who have no transport or mobility problems.

Ystwyth Community Transport Group

The regular passengers of the Bws Bro Aberystwyth, who commenced using this service as individuals or couples have now found it has added an extra social dimension to their lives. They have formed a Constituted Group called the Aberystwyth Joy Riders, opened their own bank account and have successfully applied to Awards For All (Big Lottery) for a grant to enable them to hire transport to take them on two social outings per month for fifteen months, thus opening their social life to trips to National Trust Properties, the National Botanic Gardens and Christmas Fairs etc.

This flexible service will pick up passengers up from their home and link them with local services and amenities in the nearby town of Aberystwyth, and return them home after-wards. This service is an extension of the Bws Bro service and is already very popular with the local residents, providing them with vital transport links to local services and amenities.

The service runs every Friday departing at 10:30am. Book your place by telephoning Mavis on 0845020 4322 any morning during the week before you wish to travel.

Heno from S4C joined in the celebrations and coverage of the launch event can be found on Heno’s website. Well done to Ystwyth Transport we wish you very success !

Page 14: On The Way

Gwobrau Blynyddol CTA 2012

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn anrhydeddu’r gwaith da mae’r gwirfoddolwyr a’r mudiadau’n wneud o fewn y Sector Cludiant Cymunedol. Mae’r gwobrau’n cydnabod eu cy-franiad cymwys, gwasanaeth rhagorol a’u hymrwymiad parhaus. Mae Cymdeithas Cludiant Cymunedol yn eich gwahodd i enwebu unigolion neu fudiadau rydych chi’n meddwl sy’n gwneud byd o wahaniaeth. Mae’r ffurflen enwebu ar wefan y CCC, a bydd yr enwebiadau’n car ar y 12fed o Fedi.

Byddwch barod am y categoriau i’r Gwobrau eleni; mae ‘n 5 Gwobr ar gael, sef: • Gwirfoddolwr Gorau • Gweithredwr CC Gorau – Noddwyd gan SWWITCH • Mudiad Mwyaf Cefnogol • Gwobr am y Marchnata Gorau – Noddwyd gan Mike Clarke Printers, Llanelli • Cyfraniad Eithriadol i CC

Ewch ati i enwebu !

Cynhadledd Blynyddol ac Arddangosfa CTA Cymru

Cynhelir Cynhadledd Blynyddol, Arddangosfa a Gwledd Wobrwyo CTA Cymru ar y 17-18ed Hydref, yn y Village Hotel ar gyrion Caerdydd. Bydd mwy o wybodaeth ar gael cyn hir ar we-fan CTA UK o dan adran Cymru.

Noddi/Arddangosfeydd – Mae cyfleoedd noddi ar gael ynghyd â mannau arddangos, fel yn nigwyddiad llynedd. Cysylltwch ag Alice yn y swyddfa yn Abertawe ar 01792 844 290 neu [email protected] er mwyn trafod y dewisiadau.

Hyfforddiant

Mae nifer o gyrsiau hyfforddiant ar gael ar gyfer cynlluniau Cludiant Cymunedol sy’n cael eu cynnal gan CTA Cymru. Mae’r cyrsiau’n cynwys:

Deddfau Bysus mini, Cyllid, Tendro, Gwagio’r bws pan mae ar dân, Gyrru Gwyrdd, Gwasanaeth i’r Cwsmeriaid, Cofrestru Cymorth Rhodd, Codi Arian, Marchnata Uniongyrchol ac A yw eich Cludiant yn Ddiogel a Chyfreithiol?

Gellir darparu’r cyrsiau mewn ardaloedd lle mae’r galw. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Newyddion Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru

Page 15: On The Way

News from Community Transport Association Wales

CTA Annual Awards 2012

Every year, the Community Transport Association honours the excellent work carried out by people and organisations working in the Community Transport Sector. The awards recognise their respective contribution, outstanding service and on-going commitment

You are invited to nominate people or organisations you feel make a difference, nomina-tions forms are posted on the CTA and website and nominations will close on the 12th September

There are 5 Awards up for grabs: • Best Volunteer • Best CT Operator – Sponsored by SWWITCH • Most Supportive Organisation • Outstanding Contribution to CT• Best Marketing Award - Sponsored by Mike Clarke Printers

Training

CTA Wales run a number of training courses for Community Transport schemes. Courses include:

Minibus law, Finance, Tendering, Minibus fire evacuation, Eco-Driving, Customer ServiceGift Aid Registration, Fundraising, Direct Marketing and Is your Transport Safe & Legal

Courses can be delivered in areas where there is a demandSo please get in touch to find out more

CTA Wales Annual Conference & Exhibition

CTA Wales’ Annual Conference, Exhibition and Awards Dinner will be held on the 17th-18th October, and this year we will be based at the Village Hotel, on the outskirts of Cardiff. Further details will follow and will also be posted regularly on the Wales section of the CTA UK website

Sponsorship/Exhibitions – Various sponsorship opportunities are available together with exhibition spaces, as at last year’s event. If you would like to discuss options, then please contact Alice at the Swansea office on 01792 844290 or [email protected]

Place your nominations !

Page 16: On The Way

1. Mudiad sydd wedi’i reoli’n dda ac ar seiliau ariannol cadarn

Bydd cyllidwyr yn awyddus i wybod a yw’ch mudiad yn cael ei redeg yn dda ac a yw’n rheoli ei ar-ian yn dda. Er mwyn dangos eich hygrededd i gyllidwr rhaid i’ch mudiad gyflawni ei bwrpas. Rhaid i gyllidwyr fod yn hyderus y gallant ymddiried eu harian ynoch a bod yr hyn a ariennir ganddynt yn debygol o lwyddo.

A A oes gennych weithdrefnau rheoli ac ariannol addas sy’n briodol ar gyfer mudiad o faint eich un chi

B Sut allwch chi ddangos bod eich cyflwr ariannol yn gymharol resymol ac iach

C A allwch chi gyflwyno cyfrifon archwiliedig neu ragamcanion llif arian am y flwyddyn ariannol sy’n dod

Ch A oes gan y bobl sy’n rheoli ac yn llywodraethu eich mudiad y sgiliau a’r profiad i reoli’r mudiad yn effeithiol

D A ydynt yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned y mae’n ei gwasanaethu

Dd A oes gennych linellau adrodd clir rhwng aelodau’r bwrdd a’r staff cyflogedig

2. Cynllun prosiect realistig a chynhwysfawr

Mae llenwi ffurflen gais mewn gwirionedd yn golygu eich bod yn ceisio gwerthu syniad i rywun sydd â’r arian neu’r adnoddau i wireddu’r syniad hwnnw. Os gallwch argyhoeddi cyllidwr bod gen-nych syniad da, mae eich cais yn fwy tebygol o gael ei gymeradwyo. Mae cais am arian yn fwy tebygol o lwyddo os oes gennych gynllun prosiect sydd wedi cael sylw gofalus.

A A yw eich gweithgarwch yn cyfateb i flaenoriaethau a meini prawf cymhwysedd y cyllidwr

B A allwch chi gyflawni’r hyn yr ydych yn honni y gallwch? Cofiwch, mae gan gyllidwyr brofiad helaeth o benderfynu a yw darn o waith yn ddichonadwy

C A yw’ch gweithgarwch yn realistig ac a yw’n cynnwys gweithredoedd rhesymol? A ellir ei gyflawni o fewn yr amserlenni a roddwyd

Ch A yw’ch gweithgarwch arfaethedig yn cyd-fynd â gweithgareddau eraill eich mudiad

D A oes gennych bwyntiau gwerthu unigryw? Pam ydych chi’n credu mai chi yw’r mudiad gorau i darparu’r gweithgarwch hwn? Beth sy’n wahanol am eich ffordd chi o wneud pethau

Cyfleoedd AriannuCeir pwyntiau defnyddiol ar sut i lenwi cais am gyllid ar y ddwy dudalen nesafCysylltwch â chynghorwyr cyllid penodol CAVO sydd ar gael i ddarparu gwybodaeth a chyngor i chi!

Page 17: On The Way

1. Well managed and financially sound organisation

Funders will be interested in knowing if your organisation is well-run and if it manages its finances well. In order to demonstrate your credibility to a funder your organisation must be fit for purpose. Funders must be confident that they can trust you with their money and that what they are funding is likely to succeed

A Clear and appropriate management and financial procedures appropriate to the size of your organsiation

B Demostarte that your financial position is resonable healthy

C Provide audited accounts or projected cashflows for the forthcoming financial year

D Staff and board members are appropriatly skilled and experienced to manage the organsiation effectively

E Staff and board members reflect the diverse community they represent

F Clear lines of reporting between board members and paid staff

2. Realistic and comprehensive project plan

Completing a funding application is essentially about selling an idea to someone who has the money or resources to make it happen. If you can convince a funder that you have a good idea, your request for support is more likely to be approved. A funding application is more likely to succeed with a carefully considered project plan.

A Activity clearly mets the priorities and eligibility criteria of the funder

B Activity is feasible, funders are experiance in determining the feasibility

C Is your activity realistic with an acheviable time scale

D Proposed activity fits well with your organisation’s other activities

E Consider your unique selling points, why are you the best organisation to deliver this activity

A Winning Funding ApplicationThe next two pages provides helpful points when completing a funding applicationCAVO has dedicated funding advisors to provide information and advice please don’t hesitate to get in touch!

Page 18: On The Way

Am ragor o wybodaeth am gyllid, cysylltwch a’r Tim Datblygu : 01570 423 232

3. Anghenion a chanlyniadau wedi’u diffinio’n glir

Bydd cyllidwyr yn disgwyl y byddwch yn gallu cyfiawnhau’r angen am eich gweithgarwch arfae-thedig gyda’r dybiaeth honno’n cael ei hategu gan dystiolaeth. Fodd bynnag, byddant yn arbennig o awyddus i wybod pa wahaniaethau a fyddai’n deillio o ganlyniad i’w cefnogaeth – canlyniadau eich gwaith.

A Sut wyddoch chi fod angen am eich gwaith

B A oes gennych ddealltwriaeth drylwyr o anghenion eich grŵp defnyddwyr

C A allwch ddangos tystiolaeth o’r angen y bydd eich gweithgarwch yn ceisio’i ddiwallu

Ch Pwy ydych chi wedi ymgynghori a thrafod eich cynigion â hwy

D Beth wyddoch chi am wasanaethau tebyg sydd ar gael eisoes

Dd Beth gaiff ei gyflawni gan eich gweithredoedd arfaethedig yn y tymhorau byr a hir

4. Cyllideb fanwl a realistig

Bydd cyllidwyr am wybod beth fydd yr union incwm a gwariant a fydd yn gysylltiedig â’ch cais am arian. Rhaid i’r ffigurau hyn hefyd gyfateb â meini prawf cymhwysedd y cyllidwr. Bydd cyllideb glir wedi’i chyflwyno mewn ffordd resymegol yn helpu’ch cais i gael sgôr da yn ystod y cam asesu.

A A ydych wedi ystyried yr holl gostau sy’n gysylltiedig â’r gweithgarwch

B A yw’ch costau’n realistig ar gyfer y math o weithgarwch a gynigir gennych

C A ydych yn gofyn am ddigon o arian i’ch galluogi i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel

Ch A allwch chi gyfiawnhau pob ceiniog o’ch cyllideb i gyllidwr

D A oes gennych neu a ydych yn gwneud cais am arian cyfatebol o ffynhonnell arall? Cofiwch gynnwys hyn yn eich cyllideb

Page 19: On The Way

For further information on funding please contact The Development Team at CAVO: 01570 423 232

3. Clearly defined need and outcomes

Funders will expect to see justification for why you think that there is a need for your proposed activity and that this is backed up with evidence. However they are particularly interested in know-ing what differences would be achieved with their support – the outcomes of your work

A How do you know that there is a need for your work

B Do you have a thorough understanding of the needs of your user group

C Can you provide evidence of the need your activity will attempt to meet

D Who have you consulted and discussed your proposals with

E What do you know about comparable services already in place

F What will be achieved by your proposed course of actions both short-term + long-term

4. Accurate and realistic budget

Funders will expect to understand the exact income and expenditure associated with your funding proposal. These figures must also fit with the eligibility criteria of a funder. A clear budget presented in a logical way will help your application score well during the assessment stage.

A Have you considered all costs associated with your activity

B Are your costs realistic for the type you are proposing

C Are you asking for sufficient funding to allow for quality of service provision

D Can you justify every penny of your budget to a funder

E Do you have or are you applying for match-funding from elsewhere, if yes this needs to be shown

Page 20: On The Way

Gwahoddwyd pawb sy’n gwirfoddoli yng Ngheredigion i De Dathlu gan CAVO ar ddydd Sadwrn, 15fed Gorffennaf, fel diolch am y cyfraniad hollbwysig maen nhw’n wneud i’w cymunedau lleol. Cafodd y gwestai gyfle i grwydro drwy Llanerchaeron a’r gerddi sy’n rhan o’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Tywynodd yr haul ar y diwrnod, a chafodd pawb amser braf a llond eu gwala o gacennau hyfryd Gareth Williams. Diolch yn fawr i Lanerchaeron am beidio codi’r tâl mynediad ar y gwirfoddolwyr.

Dilynwch Cludiant

Cymunedol Ceredigion Community

ar Twitter!

Newyddion CAVO

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CAVO

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol CAVO ar ddydd Iau, 27ain Medi yn ardal Llambed, a chadarnheir y lleoliad cyn hir. Mae croeso i bawb. Dyma gyfle i glywed beth sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ac i sgwrsio gydag aelodau a gweithlu CAVO. Ceir mwy o wybodaeth cyn hir.

Te Dathlu

Page 21: On The Way

Te Dathlu

News from CAVO

On Saturday 15th of July CAVO invited those who volunteer in Ceredigion to a Celebration Creme Tea to say thank you for the vital contribution they make to thier local community. Set in the ide-alic location for the National Trust Property of Llaneracheron guests where able to view the house and grounds. The sun joined us for a pleasent afternoon and Gareth Williams cakes went down very well! Many Thanks to Llaneracheron for donating the entry fee of the volunteers.

Celebration Cream Tea

Follow Ceredigion Community Transport

on Twitter!

CAVO’s Annual General Meeting

CAVO’s AGM will be held on the Thursday 27th September in the district of Lampeter, venue to be confirmed. Everyone is welcome to join. This is an opportunity to catch up with whats been happening over the year and to network with CAVO staff and members. More information will be available shortly

Page 22: On The Way