pecyn cymorth i fentro ffurflen datganiad o … · 2019-08-09 · pecyn cymorth i fentro ffurflen...

7
PECYN CYMORTH I FENTRO FFURFLEN DATGANIAD O DDIDDORDEB Pwrpas Cymorth i Fentro yw cefnogi busnesau lleol i dyfu a chreu swyddi da i drigolion Gwynedd. Y cam cyntaf yn y drefn ymgeisio yw cyflwyno ‘datganiad o ddiddordeb’. Cyn i chi gwblhau’r ffurflen isod byddai’n fuddiol darllen y cyflwyniad i’r pecyn, a’r dudalen cwestiynau cyffredin. RHAN UN: Ynghylch y busnes Enw’r busnes: A yw’r busnes: ar fin cael ei sefydlu? yn gweithredu eisoes? Os yn dewis ‘yn gweithredu eisoes’, atebwch y cwestiynau isod: Ym mha flwyddyn y sefydlwyd y busnes? Beth mae’r busnes yn ei wneud a phwy yw eich cwsmeriaid?

Upload: others

Post on 04-Jan-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

PECYN CYMORTH I FENTRO

FFURFLEN DATGANIAD O DDIDDORDEB

Pwrpas Cymorth i Fentro yw cefnogi busnesau lleol i dyfu a chreu swyddi da i drigolion Gwynedd.

Y cam cyntaf yn y drefn ymgeisio yw cyflwyno ‘datganiad o ddiddordeb’.

Cyn i chi gwblhau’r ffurflen isod byddai’n fuddiol darllen y cyflwyniad i’r pecyn, a’r dudalen cwestiynau cyffredin.

RHAN UN: Ynghylch y busnes

Enw’r busnes:

A yw’r busnes:

ar fin cael ei sefydlu?

yn gweithredu eisoes?

Os yn dewis ‘yn gweithredu eisoes’, atebwch y cwestiynau isod:

Ym mha flwyddyn y sefydlwyd y busnes?

Beth mae’r busnes yn ei wneud a phwy yw eich cwsmeriaid?

Faint sy’n gweithio i’r busnes?

Llawn amser:

Rhan amser:

Beth oedd trosiant y busnes yn y flwyddyn ddiwethaf?

Os yn dewis ‘ar fin cael ei sefydlu’, atebwch y cwestiwn isod:

Beth fydd y busnes yn ei wneud a phwy fydd eich cwsmeriaid?

RHAN DAU: Edrych ymlaen

Beth yw eich uchelgais ar gyfer y busnes? Sut hoffech i’r busnes edrych ymhen pum mlynedd? (Faint fydd yn gweithio i’r Busnes? Beth fydd trosiant y busnes? Pwy fydd eich cwsmeriaid?)

Beth yw’r cyfle yr ydych wedi ei adnabod?

Beth yw’r cam nesaf yn natblygiad y busnes os am gyflawni’r uchelgais?

Beth sydd ei angen er mwyn cyflawni’r cam nesaf? Oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag symud ymlaen?

RHAN TRI: Manylion pellach

Eich enw:

Swydd yn y busnes:

Cyfeiriad busnes:

Cod post:

Rhif ffôn:

Rhif symudol:

E-bost:

A yw’r busnes eisoes wedi / yn derbyn cymorth busnes (gall hyn fod yn gyngor neu yn arian):

Do

Naddo

Os yn dewis ‘do’, atebwch y cwestiwn isod:

Pa gymorth ydych chi wedi ei dderbyn a gan bwy?

Sut glywsoch chi am Cymorth i Fentro?

Gwefan Cyngor Gwynedd

Busnes Cymru

Ar lafar

Cyfryngau cymdeithasol

Y wasg leol

Rhwydwaith busnes

Arall

Os yn dewis cyfryngau cymdeithasol, y wasg, ar lafar, rhwydwaith busnes ac arall, atebwch y cwestiwn isod:

Manylwch os gwelwch yn dda

A ydych yn hapus i dderbyn gwybodaeth yn y dyfodol am gefnogaeth busnes drwy e-bost:

Ydw

Nac ydw

Datganiad yr Ymgeisydd

• Rwy’n datgan hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred fod y wybodaeth yn y cais hwn yn wir.

• Rwy’n ymrwymo i hysbysu Cyngor Gwynedd am unrhyw gais arall am gymorth grant ar gyfer y prosiect hwn.

• Rwy’n cadarnhau nad oes unrhyw waith ar y prosiect hwn wedi dechrau.

• Rwy’n cydnabod na fydd Cyngor Gwynedd nac unrhyw gynghorwr a benodir gan Gyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir yn cynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r cais hwn a'r cynllun busnes, ac mai fi yn unig sy’n gyfrifol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.

LLOFNOD ELECTRONIG: Drwy e-bostio'r ffurflen hon i gyfeiriad e-bost Tîm Cefnogi Busnes Cyngor Gwynedd, rydych yn gwneud y datganiad uchod.

Dyddiad:

Enw:

Cwmni / Sefydliad:

Swydd:

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth Bersonol

Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn asesu cymhwyster eich ymholiad ac yn ei ddefnyddio gan ei fod yn rhan o’n tasg gyhoeddus. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda Llywodraeth Cymru, swyddogion ac aelodau perthnasol Cyngor Gwynedd, ac ymgynghorydd busnes a fydd wedi ei apwyntio gan y Cyngor. Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am chwe blynedd yn dilyn derbyn y grant.

I ddysgu mwy am eich hawliau o safbwynt diogelu data, ewch i’r safle Preifatrwydd ar ein gwefan https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Gwybodaeth/Datganiadau- preifatrwydd-a-chwcis.aspx

Ddylai’r ffurflen gyflawn cael eu hanfon yn electroneg at:

[email protected]