polisi cadw’n ddiogel - ysgol bro...

16
1 Polisi Cadw’n Ddiogel Defnydd diogel o ymyrraeth gorfforol Keeping Safe Policy Safe use of physical intervention

Upload: lamxuyen

Post on 16-Feb-2019

215 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

1

Polisi Cadw’n Ddiogel Defnydd diogel o ymyrraeth gorfforol

Keeping Safe Policy Safe use of physical intervention

2

Arweiniad Ymdriniaeth Bositif

Datganiad Polisi Mae staff Ysgol Bro Pedr wedi’u hyfforddi i ofalu am y disgyblion sydd yn eu gofal. Mae gan y staff ddyletswydd i ymyrryd er mwyn atal disgyblion rhag anafu’u hunain neu eraill. Gall fod yna sefyllfaoedd hefyd lle mae plentyn yn amharu’n ddifrifol ar drefn yr ysgol neu’n achosi difrod i eiddo. Os bydd angen i aelod staff ymyrryd yn gorfforol ar unrhyw adeg, bydd yn dilyn Polisi Ymdriniaeth Bositif yr ysgol. Gall unrhyw riant wneud cais i weld y polisi hwn os ydynt yn dymuno. Cyflwyniad Mae’r term ‘Ymdriniaeth Bositif’ (‘Positive Handling’) yn cynnwys amrywiaeth eang o strategaethau cymorth ar gyfer rheoli ymddygiad heriol. Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys nifer fawr o ymatebion all olygu defnyddio grym i reoli neu rwystro disgybl. Defnyddir y term ‘atal corfforol’ pan ddefnyddir grym i oresgyn gwrthwynebiad. Cyfeirir at y rhain fel ‘Ymyriadau Corfforol Cyfyngol’ yn Ymyriad Diogel ac Effeithiol - defnyddio grym rhesymol a chwilio am arfau - LlC 097/2013 Mawrth 2013. Mae polisi ymdriniaeth bositif clir a chyson yn cynorthwyo disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol o fewn ethos o barch, gofal a diogelwch ar y naill ochr a’r llall. Weithiau gall disgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol difrifol fod yn risg iddynt hwy eu hunain ac eraill. Mae Adran 93 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn disgrifio ym mha amgylchiadau y gall athrawon ac eraill sydd wedi’u hawdurdodi gan y Pennaeth ddefnyddio grym rhesymol i reoli neu atal disgyblion. Mae enghreifftiau o’r fath yn cynnwys atal eraill rhag cael anaf, difrod i eiddo neu ddisgyblaeth yn mynd ar chwâl. Mae’r polisi hwn yn manylu ar y modd yr ydym yn rhoi’r canllawiau hyn ar waith yn yr ysgol hon. Dylid ei ystyried ochr yn ochr â datganiadau polisi mwyaf diweddar yr AALl a’r canllawiau lleol a chenedlaethol mwyaf diweddar. Fe’i lluniwyd i helpu staff i sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir ganddynt yn rhesymol, yn gymesur ac yn gwbl angenrheidiol. Disgwyliadau’r Ysgol Mae’r tîm rheoli’n cymryd ei ddyletswydd gofal tuag at ddisgyblion, gweithwyr ac ymwelwyr â’r ysgol o ddifri. Mae amddiffyn staff yn rhan bwysig o amddiffyn plant; mae’r ddau’n dibynnu ar staff hyderus a chymwys sy’n teimlo bod y tîm rheoli tu cefn iddyn nhw. Mae gan y polisi hwn ffocws clir sef:

Yr ystyriaeth bennaf bob amser yw lles y plant sydd yn ein gofal.

Yr ail yw lles a diogelwch yr oedolion sy’n gofalu amdanynt.

3

Dulliau Positif o Reoli Ymddygiad Mae pob ymyriad corfforol yn yr ysgol hon yn dod o fewn fframwaith rheoli ymddygiad mewn ffordd bositif. Nod polisi ymddygiad yr ysgol yw gwobrwyo ymdrech ac ymroddiad, ac annog disgyblion i fod yn gyfrifol am wella’u hymddygiad eu hunain. Mae rhan o’n hymdrech i atal a lleihau risg yn cynnwys cadw golwg am arwyddion cynnar, dysgu am, a rhoi gwybod am unrhyw ffactorau all arwain at ymddygiad gwael, a chymryd camau i atal unrhyw ymddygiad all arwain at risg rhagweladwy. Anogir disgyblion i fod yn rhan o’r broses o ddatblygu’u Cynlluniau Ymdriniaeth Bositif eu hunain, trwy ganolbwyntio ar ddulliau ac opsiynau positif eraill. Anogir y rhieni i gymryd rhan hefyd. Fodd bynnag, os bydd problemau’n codi, mae gan staff gyfrifoldeb ychwanegol i gynorthwyo unrhyw ddisgyblion sydd dan bwysau, a rheoli argyfyngau mewn modd diogel pan fo angen. Ceisio Osgoi Rheolaeth Gorfforol Gall aelod staff sy’n dewis peidio ag ymyrryd yn gorfforol gymryd camau eraill effeithiol i leihau’r risg. Gellir:

Dangos gofal a chonsyrn drwy gydnabod ymddygiad annerbyniol a cheisio newid ymddygiad trwy drafod a rhesymu

Rhoi cyfarwyddiadau clir i’r disgyblion i roi’r gorau iddi

Eu hatgoffa o’r rheolau a’r canlyniadau tebygol

Cael gwared ag unrhyw wylwyr neu fynd â’r disgyblion bregus i le mwy diogel

Gwneud yr amgylchedd yn fwy diogel trwy symud dodrefn a gwrthrychau y gellid eu defnyddio fel arfau

Defnyddio cyffyrddiad positif i arwain neu dywys y disgyblion i rywle lle maent dan lai o bwysau

Sicrhau bod cydweithwyr yn gwybod beth sy’n digwydd a chael help. Addasu’r Amgylchedd Yn ddelfrydol ni ddylai staff aros nes bod argyfwng ar droed cyn cynnal asesiad risg o’r amgylchedd. Gwyddom y gall rhai disgyblion yn yr ysgol hon ymddwyn mewn ffordd eithafol a pheryglus. Yn gyffredinol mae’n arfer da cadw’r amgylchedd yn rhydd o annibendod. Gall hyn olygu defnyddio storfa ddiogel ar gyfer nifer o wrthrychau bob dydd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Er enghraifft:

Sut mae’r drefn o ran cael gafael ar offer pigfain (gan gynnwys pennau, pensiliau, cwmpodau a dartiau) yn cael ei reoli?

Pa eitemau bach sydd ar gael i ddisgybl dig, all gael ei demtio i’w defnyddio fel taflegrau?

Pa wrthrychau sydd ar gael i’w defnyddio fel arfau di-awch?

Oes angen gadael y cyfan allan drwy’r adeg?

Oes yna ymylon neu gorneli miniog all fod yn beryglus?

Ydy cynllun yr ystafell neu’r dodrefn yn ddiogel ac yn briodol i ddisgyblion sy’n ymddwyn yn eithafol?

Oes yna le cyfforddus i eistedd gyda disgybl sydd wedi cynhyrfu?

Oes yna brotocolau yn eu lle i annog disgyblion dig i symud i rywle mwy diogel?

4

Protocolau Cymorth Y disgwyliad yn yr ysgol hon yw bod yr holl staff yn cefnogi’i gilydd. Mae hyn yn golygu bod y staff bob amser yn cynnig ac yn derbyn cymorth. Nid yw helpu bob amser yn golygu cymryd yr awenau. Gall olygu aros gerllaw rhag ofn bod eich angen, mynd i nôl rhywun arall, neu ofalu am grŵp rhywun arall. Mae cynorthwyo cydweithiwr yn golygu mwy na chytuno gyda’i awgrymiadau a chynnig cydymdeimlad pan fydd pethau’n mynd o chwith. Mae cymorth go iawn yn golygu gweithredu fel cyfaill beirniadol i helpu cydweithiwr i ddod yn ymwybodol o strategaethau eraill posib. Mae angen cyfathrebu da, i osgoi dryswch rhwng cydweithwyr pan fydd cymorth yn cael ei gynnig a’i dderbyn. Mae angen iddyn nhw gytuno ar y sgript fel bod y ddwy ochr yn deall pa fath o gymorth sydd ei angen a beth sydd ar gael (Gweler Atodiad A). Dethol Geiriau’n Ofalus Weithiau gall gair neu ddau sydd wedi’u dethol yn ofalus atal sefyllfa rhag troi’n argyfwng. Pan fydd disgyblion yn mynd yn grac/dig does dim pwynt dadlau gyda nhw. Gall dweud wrth bobl am dawelu wneud iddyn nhw gynhyrfu mwy. Gall cyfeirio at yr hyn maent wedi’i wneud o’i le wneud pethau’n waeth. Yr unig bwrpas dros gyfathrebu gyda pherson dig yw er mwyn rhwystro pethau rhag mynd yn waeth. Mae’n well dweud dim a chymryd amser i ddewis eich geiriau’n ofalus yn hytrach na dweud y peth anghywir a gwneud y sefyllfa’n waeth. (Gweler Atodiad B). Pan Fetho Popeth Arall Yn yr ysgol hon byddwn ond yn defnyddio ymyriad corfforol os nad oes yna ddewis arall realistig. Nid yw hynny’n golygu ein bod bob amser yn disgwyl i bobl weithio’u ffordd drwy gyfres o strategaethau aflwyddiannus cyn rhoi cynnig ar ymyriad y mae ganddynt rywfaint o ffydd ynddo. Ac nid yw’n golygu chwaith bod angen aros nes bod y sefyllfa ar fin troi’n beryglus, oherwydd erbyn hynny gall fod llai o obaith o lawer o’i rheoli’n ddiogel. Mae’r canllawiau cenedlaethol yn glir ar y mater hwn.

“If necessary staff have the authority to take immediate action to prevent harm occurring even if the harm is expected to happen some time in the predictable future.” Para 10 Page 4 Department of Health – 1997 – “The Control of Children in the Public Care: Interpretation of the Children Act 1989” – London: H M S O

Yn hytrach, mae’n golygu ein bod yn disgwyl i staff gynnal asesiad risg deinamig a dewis y dull mwyaf diogel. Mae hefyd yn golygu ein bod yn disgwyl i staff arbrofi a meddwl yn greadigol am unrhyw ddulliau eraill, ar wahân i ymyriad corfforol, all fod yn effeithiol.

5

Ymyriadau Corfforol Rhagweithiol Weithiau mae’n rhesymol defnyddio rheolaeth gorfforol i atal ymddygiad eithafol rhag troi’n beryglus cyn belled â bod hynny’n rhan gytunedig o’r Cynllun Ymdriniaeth Bositif (Gweler Atodiad C). Enghreifftiau o’r fath yw pan fydd disgybl wedi arddangos patrymau ymddygiad cyson, sydd yn y gorffennol wedi arwain at fwy o ymddygiad dig a threisgar. Mewn amgylchiadau o’r fath gall fod yn rhesymol symud y plentyn i le mwy diogel pan fydd y patrwm ymddygiad hwnnw’n dechrau, yn hytrach nag aros nes bod y plentyn yn grac/dig ac wedi colli rheolaeth. Y brif ystyriaeth yw bod y camau a gymerir er lles y plentyn, a’u bod yn lleihau yn hytrach na chynyddu’r risg. Rhesymol a Chymesur Dylai unrhyw ymateb i ymddygiad eithafol fod yn rhesymol a chymesur. Ni ddylai pobl ymateb pan fyddant yn grac/dig. Os ydynt yn dechrau teimlo’n grac/dig, dylent ystyried tynnu’n ôl a gadael i rywun arall ddelio â sefyllfa. Os yw staff yn gweithredu gyda phob ewyllys da, ac os yw’r camau a gymerant yn rhesymol a chymesur, byddant yn cael cefnogaeth. Pan fydd rheolaeth gorfforol yn cael ei ystyried, dylai staff feddwl am yr atebion i’r cwestiynau canlynol:

Sut mae hyn er lles pennaf y plentyn?

Pam nad yw ymyriad llai ymwthiol yn well?

Pam fod yn rhaid inni weithredu nawr?

Pam mai fi yw’r person gorau i fod yn gwneud hyn?

Pam fod hyn yn gwbl angenrheidiol?

Os gall staff ateb y cwestiynau hyn, yna mae ymyrraeth gorfforol yn fwy tebygol o gael ei farnu’n gam rhesymol a chymesur. Defnydd Afresymol o Rym Nid yw’n rhesymol defnyddio grym er mwyn gorfodi rhywun i gydymffurfio mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw berygl. Nid yw’n rhesymol chwaith i ddefnyddio mwy o rym nag sydd angen i leihau unrhyw risg. Ni ddylid dan unrhyw amgylchiadau achosi poen yn fwriadol, ac ni ddylid trin disgybl mewn ffordd ddiurddas neu sarhaus yn fwriadol (ni ddylid drysu rhwng hyn â’r anghysur anochel sy’n gysylltiedig â rhai technegau cymeradwy ar gyfer rhyddhau’ch hun yn ystod ymosodiad, megis cnoi a bachu). Oni bai ei fod yn weithred unigol mewn argyfwng i sicrhau iechyd a diogelwch, ni ddylid byth ddefnyddio grym i ynysu plentyn. Mae ynysu’n gyfreithiol yn sgil gorchymyn llys yn unig, ac ni all fod yn rhan o strategaeth gynlluniedig yn yr ysgol hon. Diffiniad o Ynysu / Neilltuo / Amser Allan Ynysu – gorfodi disgyblion i dreulio amser ar ben eu hunain yn erbyn eu hewyllys (angen pwerau statudol oni bai ei bod yn argyfwng) Neilltuo – eu symud o’r sefyllfa gan gadw golwg ar y disgyblion a’u cefnogi nes eu bod yn barod i ail-afael ynddi

6

Amser Allan - Atgyfnerthiad cadarnhaol cyfyngol fel rhan o raglen ymddygiadol gynlluniedig (cynllun ysgrifenedig cytunedig yn ofynnol) Team Teach Polisi’r Ysgol yw bod yr holl staff sy’n gweithio’n agos â disgyblion yn cael eu hyfforddi yn strategaethau a thechnegau rhagataliol ac ymatebol ymdriniaeth bositif Team Teach, fel ategiad i’r dulliau a strategaethau rheoli ymddygiad a geir ym Mholisi Ymddygiad yr Ysgol. Ceir manylion pellach am ddulliau Team Teach ar wefan Team Teach (www.team-teach.co.uk). Iechyd a Diogelwch Os bydd ymddygiad peryglus yn golygu bod yna risg sylweddol o anaf i bobl, mae yna fater Iechyd a Diogelwch cyfreithiol i fynd i’r afael ag ef. Dylid ystyried ymddygiad peryglus gyda’r un difrifoldeb ag offer peryglus. Dylid rhoi gwybod i’r person sy’n gyfrifol am Iechyd a Diogelwch yn yr ysgol am unrhyw ddigwyddiadau peryglus. Mae pob un ohonom yn rhannu’r cyfrifoldeb dros nodi risg, rhoi gwybod am unrhyw risgiau posib, a chymryd camau i leihau’r risg lle bynnag y bo modd. Rydym yn cydnabod nad yw hi bob amser yn bosib cael gwared â risg yn gyfan gwbl. Weithiau mae pethau’n mynd o chwith hyd yn oed pan wneir pob ymdrech i wneud y peth iawn. Weithiau rydym yn wynebu dewisiadau annymunol. Mewn amgylchiadau felly rhaid inni geisio meddwl am ganlyniadau’r opsiynau sydd ar gael, cydbwyso’r risgiau a dewis y camau a dybiwn fydd yn golygu’r risg lleiaf. Fel gofyniad lleiaf, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, mae’r holl weithwyr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gyfarwydd â pholisi a chanllawiau’r ysgol, a’u bod yn cydweithredu i wneud yr ysgol yn fwy diogel. Mae’n ofynnol hefyd eu bod yn ymgymryd â hyfforddiant os gânt gyfarwyddyd i wneud hynny. Nid yw hynny’n golygu o anghenraid y gall yr holl staff ymgymryd â phob gweithgaredd corfforol. Mae agweddau anghorfforol hyfforddiant ymdriniaeth bositif yn hanfodol bwysig hefyd. Wrth ystyried ymddygiad disgybl dylai staff feddwl am y cwestiynau canlynol:

Allwn ni ragweld risg Iechyd a Diogelwch mewn perthynas ag ymddygiad y disgybl?

A ydy’r holl wybodaeth angenrheidiol gennym i gynnal asesiad risg?

Ydyn ni wedi darparu cynllun ysgrifenedig o ganlyniad i hynny?

Pa gamau pellach allwn ni eu cymryd i atal datblygiad ymddygiad peryglus? Asesiadau Risg Dylai asesiadau risg fod yn rhan reolaidd o fywyd staff sy’n gweithio gyda disgyblion all ymddwyn yn eithafol ar adegau. Dylai staff sydd â chyfrifoldeb o’r fath feddwl ymlaen er mwyn ceisio rhagweld be all fynd o’i le. Os ydy gweithgaredd arfaethedig neu ddull o weithredu’n golygu bod yna risg annerbyniol, yna'r penderfyniad cywir yw gwneud rhywbeth arall. Mae’r ffactorau all olygu bod angen asesiad risg mwy buan, ac felly penderfyniad ynghylch sut i ymyrryd, yn cynnwys cyflwr iechyd a ffitrwydd, maint corfforol, cymhwysedd a hyder yr aelod staff, a’u perthynas â’r disgybl dan sylw. Mae hyder a

7

chymhwysedd yn aml yn gysylltiedig â lefel hyfforddiant. Oni bai ei bod yn argyfwng, ni ddylai staff geisio rheoli’n gorfforol oni bai eu bod yn hyderus y bydd gwneud hynny’n lleihau’r risg. Pan wynebir ymddygiad eithafol, neu hyd yn oed pan fydd pobl yn cwffio, mae’n bosib y gall ymyrraeth ar ran aelod staff gynyddu’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn cael anaf. Os felly, y penderfyniad cywir yw osgoi defnyddio rheolaeth gorfforol. Cael Help Yn yr ysgol hon mae’r strwythurau cymorth canlynol yn eu lle:

Cedwir Cynlluniau Addysg Unigol a chynlluniau Cymorth Ymddygiad ar ffeil ym mhob stafell ddosbarth i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth berthnasol am bob plentyn ar gael i’r holl aelodau staff sy’n gweithio gyda nhw

Sesiynau briffio bob bore i roi gwybod i staff am faterion cyfredol a rhannu gwybodaeth

Y defnydd o brotocolau cymorth ac iaith i atgoffa’r holl staff bod cydweithwyr ar gael i gynnig help, gan gynnwys cyfnewid staff yn ystod argyfwng gyda disgybl

Sesiynau adrodd yn ôl yn dilyn argyfwng, gyda’r disgybl(ion) dan sylw, i ystyried y ffordd y rheolwyd yr argyfwng gan bawb, a nodi unrhyw bwyntiau i’w hadolygu neu’u dysgu

Sesiynau adrodd yn ôl dyddiol er mwyn i’r holl staff rannu profiadau, pryderon a chael cymorth oddi wrth ei gilydd, dan arweiniad aelod o’r Uwch Dîm Rheoli.

Sesiynau adfywio rheolaidd gyda golwg ar strategaethau a thechnegau Team Teach ar gyfer yr holl staff, gydag adolygu parhaus gan yr Uwch Dîm Rheoli yn sylfaen iddynt.

Cynlluniau Ymdriniaeth Bositif Ystyrir rheoli risg fel rhan annatod o gynlluniau rheoli ymddygiad. Dylid cael Cynllun Ymdriniaeth Bositif ar gyfer yr holl ddisgyblion sydd wedi’u nodi fel rhai all fod yn risg (Gweler Atodiad C). Mae’r cynllun yn gosod manylion unrhyw strategaethau a fu’n effeithiol yn y gorffennol i’r unigolyn hwnnw, ynghyd ag unrhyw ymatebion penodol y dylid eu hosgoi. Os cafwyd bod technegau corfforol arbennig wedi bod yn effeithiol, dylid eu henwi, a chynnwys rhybudd am y rhai a fu’n aneffeithiol neu a achosodd broblemau yn y gorffennol. Dylid ystyried Cynlluniau Ymdriniaeth Bositif ochr yn ochr â’r Datganiad ac unrhyw ddogfennau cynllunio eraill sy’n berthnasol i’r disgybl. Dylent roi ystyriaeth i oedran, rhyw, lefel datblygiad corfforol, emosiynol a deallusol y plentyn, anghenion arbennig, a’r cyd-destun cymdeithasol. Dylai Cynlluniau Ymdriniaeth Bositif fod yn ffrwyth cydweithio rhwng nifer o weithwyr proffesiynol a dylid eu cynnwys yn y Cynllun Cymorth Bugeiliol neu’r Cynllun Addysg Unigol. Ymateb i Argyfyngau Annisgwyl Ni all hyd yn oed y systemau cynllunio gorau baratoi ar gyfer pob posibilrwydd, ac mae’r ysgol yn cydnabod bod yna argyfyngau’n codi na ellid eu rhagweld sy’n gofyn bod staff yn gorfod meddwl yn chwim. Nid yw’n ddigon i roi’r rheolau ar waith yn

8

ddifeddwl heb ystyried y canlyniadau posib. Y prif egwyddorion yw y dylai unrhyw ymyrraeth gorfforol fod:

er lles pennaf y plentyn;

yn rhesymol a chymesur;

yn ymdrech i leihau’r risg;

yr opsiwn lleiaf ymwthiol a chyfyngol sydd ar gael sy’n debygol o fod yn effeithiol.

Pryd bynnag y bydd angen ymyrraeth gorfforol dylid rhoi rhybudd llafar. Lle bo modd, dylai staff bob amser geisio tynnu sylw neu dawelu’r disgybl(ion) yn hytrach nag ymyrryd yn gorfforol. Dylent ond ddefnyddio’r technegau a’r dulliau a gymeradwywyd ar gyfer yr ysgol hon. Yn gyffredinol, os bydd staff yn gweithredu gyda phob ewyllys da, a bod y camau a gymerant yn rhesymol a chymesur, byddant yn cael cefnogaeth. Strwythur Cymorth ar gyfer Disgyblion a Staff ar ôl y Digwyddiad Yn dilyn digwyddiad difrifol, polisi’r ysgol hon yw cynnig cymorth i bob un fu’n rhan o’r digwyddiad. Mae pobl yn cymryd amser i ddod dros digwyddiad difrifol. Nes bod pethau wedi tawelu, yr unig flaenoriaeth yw lleihau’r risg a lliniaru’r sefyllfa. Dylai staff osgoi dweud na gwneud unrhyw beth ymfflamychol pan fydd y sefyllfa’n dechrau gwella. Dylid ceisio cymorth meddygol ar unwaith os bydd unrhyw anafiadau sydd angen mwy na chymorth cyntaf elfennol. Dylid rhoi gwybod am unrhyw anafiadau a chadw cofnod ohonynt, gan ddefnyddio systemau’r ysgol. Mae’n bwysig nodi nad yw anaf ynddo’i hun yn dystiolaeth o gamymddygiad. Hyd yn oed pan fydd staff yn ceisio gwneud popeth yn iawn, gall pethau fynd o chwith. Gall rhan o’r gefnogaeth i staff yn dilyn digwyddiad gynnwys eu hatgoffa o hyn, am fod pobl yn tueddu i feio’u hunain pan fydd pethau’n mynd o chwith. Mae angen rhoi digon o amser i adfer perthnasau. Pan gymerir camau gofalus i adfer y berthynas, does dim rhaid i ddigwyddiad difrifol arwain at niwed hirdymor. Mae hwn yn gyfle i bawb ddysgu o’r digwyddiad. Mae angen rhoi amser i ddisgyblion i fynegi’u teimladau, awgrymu camau gweithredu gwahanol yn y dyfodol a pharchu persbectif pobl eraill. Pan roir amser ac ymdrech i’r strwythur cymorth yn dilyn digwyddiad, gall digwyddiad difrifol arwain at ddysgu, twf a pherthynas gryfach. Cwynion Nid yw’n anghyffredin i ddisgyblion honni bod yna ddefnydd o rym amhriodol neu eithafol yn dilyn digwyddiad. Mae gan y Cyngor Drefn Gwyno ffurfiol (Polisi Cwynion). Dylid atgoffa disgyblion o’r drefn a’u hannog i ddefnyddio’r sianeli priodol. Mae’r polisi cwynion yr un mor berthnasol i’r staff. Rydym yn ysgol agored sy’n hyrwyddo polisïau ac arferion clir ac agored er mwyn gwarchod buddiannau’r staff a’r disgyblion fel ei gilydd. Dylai staff sydd ag unrhyw bryderon ynghylch lles y plant eu trafod gyda’r swyddog amddiffyn plant penodedig. Dylid rhoi gwybod i’r swyddog Iechyd a Diogelwch penodedig am unrhyw bryderon ynghylch diogelwch.

9

Hyfforddiant Dylai athrawon ac unrhyw un a awdurdodwyd gan y Pennaeth i ddefnyddio technegau corfforol cynlluniedig dderbyn hyfforddiant. Mae’r ysgol hon wedi mabwysiadu Model Hyfforddi Team Teach. Mae’r holl gyrsiau hyfforddiant wedi’u hachredu’n llawn gan y Sefydliad Rheoli Anghydfod yn unol â chanllawiau’r Adran Addysg a Sgiliau a’r Adran Iechyd. Mae hyfforddiant ymdriniaeth bositif bob amser yn cael ei ddarparu gan hyfforddwyr cymwysedig gyda chanllawiau llym. Mae lefel yr hyfforddiant a argymhellir yn gysylltiedig â lefel y risg a wynebir gan yr aelod staff. Y dull a ffafrir gennym yw hyfforddiant tîm ar gyfer yr holl staff. Mae’n bosib na fydd angen yr un lefel o hyfforddiant mewn technegau corfforol ar gyfer staff swyddfa â’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r disgyblion mwyaf heriol, ond gall yr holl staff elwa o hyfforddiant ysgol gyfan. Arolygir lefel yr hyfforddiant angenrheidiol yn rheolaidd a gall newid mewn ymateb i anghenion ein cleientiaid. Unwaith bod staff wedi derbyn hyfforddiant, dylent ymarfer yn gyson dan arweiniad ein hyfforddwyr mewnol a thrafod unrhyw broblemau neu bryderon gyda nhw. Cadw Cofnod Pan ddefnyddir grym i drechu disgybl(ion), rhaid rhoi gwybod am y digwyddiad gan ddefnyddio’r ffurflenni cymeradwy (gweler Atodiad D). Cedwir ffurflenni Defnydd o Rym a Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad yn y swyddfa. Dylai’r holl staff sy’n rhan o’r digwyddiad gyfrannu at y cofnod, a dylid ei gwblhau o fewn 24 awr. Yna mae’r manylion a gofnodir ar y ffurflenni’n cael eu sganio neu’u teipio i feddalwedd cofnodi digwyddiadau’r ysgol, a’u cadw mewn ffeiliau cyfrinachol electronig yn y Ganolfan Athrawon. Dylai staff:

Ddarllen trwy ffurflen gofnodi’r ysgol yn ofalus

Cymryd yr amser i feddwl am beth ddigwyddodd mewn gwirionedd, a cheisio’i esbonio’n glir

Nodi’r holl enwau’n llawn

Llofnodi a rhoi dyddiad ar bob ffurflen. Cofiwch y bydd y cofnodion hyn yn cael eu cadw ac ni ellir eu newid. Byddant yn cael eu cadw am nifer fawr o flynyddoedd a gallent ffurfio rhan o ymchwiliad rhywdro yn y dyfodol. Ni ddylid cwblhau Adroddiad am Ddigwyddiad Difrifol nes bod yr unigolion dan sylw wedi dod dros effeithiau tymor byr y digwyddiad. Ni ddylid rhuthro i’w gwblhau. Dylai’r cofnod gyfeirio at daflenni ategol ac unrhyw wybodaeth berthnasol.

10

Monitro a Gwerthuso Bydd y Pennaeth yn sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei adolygu ac yn cymryd camau pellach fel bo angen. Mae data digwyddiadau hefyd yn cael ei basio ymlaen i’r Corff Llywodraethu fel arf ychwanegol ar gyfer monitro. Gall coflyfr digwyddiadau’r ysgol gael ei fonitro a’i werthuso. Dilyniant Yn dilyn digwyddiad, mae’n bosib y penderfynir cynnal asesiad risg pellach, adolygu’r Cynllun Ymdriniaeth Bositif, y polisi rheoli ymddygiad neu’r polisi ymdriniaeth bositif hwn. Bydd unrhyw weithredu pellach mewn perthynas ag aelod staff neu ddisgybl unigol yn dilyn y drefn briodol (Gweler y polisi disgyblu ar gyfer staff a disgyblion). Polisïau Eraill Perthnasol Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r canlynol: Polisi Ymddygiad Polisi Gwahardd Polisi Disgyblu – Staff/Disgyblion Polisi Iechyd a Diogelwch Polisi Amddiffyn Plant

Mabwysiadwyd y Polisi: Hydref 2016 Dyddiad Adolygu’r Polisi: Hydref 2017

LLOFNODION Prifathro ..............................

Llywodraethwr â chyfrifoldeb ..............................

11

Atodiad A

Helpu cydweithiwr Dylai gofyn am help bob amser gael ei ystyried fel arwydd o gryfder proffesiynol. Hefyd, fel pobl broffesiynol dylem ganiatáu i eraill gynnig a derbyn help, yn enwedig ar adegau pan fydd ein hymyriadau ni’n aflwyddiannus o bosib. Dylai’r geiriau ‘help’ a ‘mwy’ weithio fel cardiau fflach ar gyfer staff. Dylid sefydlu’r egwyddor bod y fframwaith cymorth a chefnogaeth yn rhywbeth mae pawb yn ei wneud ar gyfer ei gilydd, y staff a’r bobl ifanc. 1) “Mr Smith, rwyf ar gael i helpu” Mae’r aelod staff yn gwneud datganiad clir sy’n cyhoeddi ei fod ef/hi yno i helpu. 2) “Diolch Ms Jones, gallwch helpu drwy../” Yna mae gan yr aelod staff gyfle i roi cyfarwyddiadau ynghylch y math o help sydd ei angen (h.y. help drwy wylio, neu help drwy ofalu am weddill y dosbarth). Ond yn bwysicach fyth, maent yn dal i gadw ymreolaeth o’r sefyllfa. 3) “Mr Smith, rwyf ar gael i roi mwy o help”. Dylai’r gair ‘mwy’ roi cyfle i’r aelod staff sy’n delio â’r sefyllfa i oedi am eiliad neu ddwy (yn yr enghraifft hon, Mr Smith). Ar adegau, fel pobl broffesiynol mae angen inni gydnabod bod rhai ymyriadau’n aflwyddiannus, a/neu gallent wneud sefyllfa’n waeth. Felly, dylem dderbyn barn a chymorth proffesiynol ein cydweithwyr. 4) “Beth y’ch chi’n awgrymu Ms Jones?” Yma dylai’r ffocws fod ar gymorth tîm, gyda’r ymreolaeth yn cael ei ildio, gan ganiatáu i’r aelod staff i awgrymu strategaeth wahanol. 5) “Beth petawn i’n eistedd gyda John …. ac mi wela i chi’n nes ymlaen.” Mae’r enghraifft hon yn ein darparu â ffordd gynnil o helpu cydweithiwr allan o sefyllfa gyda pharch ac urddas. Mae’r “gweld yn nes ymlaen” yn bwysig er mwyn rhoi adborth a thrafod y canlyniadau.

12

Atodiad B

Helpu Defnyddiwr Gwasanaeth Mae ymddygiad yn iaith. Ein swyddogaeth yw darparu help i ddefnyddwyr gwasanaethau ac i’n gilydd. Nod y sgript gymorth hon yw lleihau/lliniaru dicter neu bryder ein defnyddiwr gwasanaeth.

1. “John.” Defnyddiwch enw’r plentyn, bydd hynny’n helpu i greu cysylltiad, ac ennyn ei sylw. 2. “John. Alla’ i weld dy fod ti’n ypset.” Dewiswch eich geiriau’n ofalus. Mae cydnabod eu

teimladau’n iawn, ond dylech osgoi geiriau fel 'gwylltio' neu 'grac/dig', oherwydd gall hynny wneud pethau’n waeth.

3. “Dwi yma i helpu.” Mae hwn yn ddatganiad o’ch bwriad, sef yn syml, eich bod yno i helpu.

Mae’n werth cofio bod angen gwneud ymdrech fwriadol i sicrhau bod eich iaith lafar ac iaith eich corff yn rhoi’r un neges.

4. “Siarada ac mi wna i wrando.” Mae’r datganiad hwn yn dechrau darparu’r defnyddiwr

gwasanaeth â rhyw fath o gyfeiriad yn ogystal â sefydlu’n swyddogaeth ni. 5. “John. Tyrd gyda mi, gad inni fynd i …” Daliwch ati i roi rhyw fath o gyfeiriad i’r defnyddiwr

gwasanaeth. Ewch â nhw i fan niwtral i drafod y mater a dal ati i dawelu’r dyfroedd. Os ydy’r plentyn neu’r defnyddiwr gwasanaeth yn camu nôl a mlaen, dylai’r aelod staff osgoi gwneud hynny. Gall hyn deimlo’n fygythiol iawn. Mae osgo ac iaith corff DIGYNNWRF yn hanfodol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o ba mor agos yw’r aelod staff i ofod personol/peryglus y defnyddiwr gwasanaeth. Cofiwch siarad yn glir ac yn hyderus a pheidio â chynhyrfu.

13

Atodiad C

Cynllun Ymdriniaeth Bositif

Enw’r Dysgwr Ifanc:

Grŵp Blwyddyn:

Dyddiad y Cynllun:

Ymddygiad sy’n Sbarduno: Disgrifiwch unrhyw ymddygiad/sefyllfaoedd cyffredin sydd wedi arwain at yr angen am ymdriniaeth bositif yn y gorffennol. Pryd mae ymddygiad o’r fath yn debygol o ddigwydd?

Disgrifiad o’r ymddygiad: Sut mae’r ymddygiad yn edrych /swnio? Cnoi Sgrechian Dyrnio Ceisio defnyddio arfau Cicio Taflu gwrthrychau

Penio Poeri

Arall:

Strategaethau Cymorth ac Ymyrraeth a Ffafrir: (Dulliau eraill o dawelu ymddygiad o’r fath. Disgrifiwch strategaethau y dylid rhoi cynnig arnynt, pan fo modd, cyn defnyddio technegau ymdriniaeth bositif). Cymorth geiriol Tynnu sylw Cysuro Amser ystyried Iaith ac Ystum Corfforol Amser allan (angen

cynllun ysgrifenedig)

Trafod Newid oedolyn Dewisiadau/Cyfyngiadau Anwybyddu tactegol Hiwmor Canlyniadau

Tynnu’n ôl

Arall:

14

Pwyntiau Canmol / Cryfderau ( Meysydd y gellir eu datblygu ac adeiladu arnynt – i greu pontydd

1.

2.

3.

Cyflyrau Meddygol : ee asthma , esgyrn brau

Strategaethau Corfforol Gorau: (Disgrifiwch y dull gorau o afael: sefyll, eistedd, ar y ddaear, gan nodi nifer y staff, pa “ddulliau rhyddhau” y gellir eu defnyddio wrth ddal, ac ati).

Proses adrodd yn ôl yn dilyn digwyddiad: (Pa ofal y dylid ei ddarparu)

Cofnodi a hysbysu angenrheidiol – Pwy sydd angen cael gwybod?

Barn y Dysgwr Ifanc am y cynllun:

Athro/Athrawes â Gofal / Pennaeth: Llofnod: Dyddiad:

Rhiant / Gwarcheidwad: Llofnod: Dyddiad:

15

Atodiad D ADRODDIAD AR Y DEFNYDD O RYM I REOLI NEU RWYSTRO

Lluniwyd yr adroddiad gan: Enw’r disgybl:

Diwrnod a dyddiad y digwyddiad: Blwyddyn:

Lleoliad: Amser dechrau:

Gweithgaredd: Amser gorffen:

Tyst - staff

Tyst - dysgwyr

Rhestrwch unrhyw bethau arwyddocaol sydd wedi digwydd ym mywyd y person ifanc yn ddiweddar allai fod wedi dylanwadu ar ei hwyliau/ stad gorfforol

Rhowch ddisgrifiad manwl o’r ffordd y dechreuodd y digwyddiad a sut ddatblygodd pethau, gan gynnwys beth a ddywedwyd gan y ddwy ochr, pa gamau a gymerwyd i liniaru neu dawelu’r sefyllfa,

sut y cafodd y disgybl ei ddal neu’i rwystro ac am ba mor hir

Sut ddechreuodd y digwyddiad? Beth arweiniodd at y digwyddiad/sbardunodd yr ymddygiad?

Pa ymddygiad a welwyd? (disgrifiwch beth yn union a ddigwyddodd – gan gynnwys y strategaethau lliniaru a

ddefnyddiwyd, am ba mor hir y defnyddiwyd y technegau lliniaru, sut wnaeth y person ifanc ymateb) Technegau lliniaru: (dylai staff bob amser fabwysiadu ystum anfygythiol, a rhifo’r strategaethau eraill a ddefnyddiwyd hy. gan nodi’r drefn ar gyfer eu defnyddio) - cyngor/cymorth geiriol - tynnu sylw? Sut? -trafod - cyfyngiadau/dewisiadau - cynnig sicrwydd - cynnig/trefnu amser allan - anwybyddu tactegol - newid oedolyn - arall (disgrifiwch).

Am ba mor hir y defnyddiwyd y technegau lliniaru (munudau)

Pam fod angen defnyddio grym? (Ticiwch)

Roedd y person ifanc mewn perygl o gael niwed Roedd disgyblion eraill mewn perygl o gael niwed oherwydd y person ifanc Roedd staff neu eraill oedd yn bresennol mewn perygl o gael niwed

oherwydd y person ifanc Roedd eiddo ar fin cael ei ddifrodi Roedd yn amharu ar y drefn – sut __________________________ Arall – rhowch esboniad _______________________

Disgrifiad o’r ymyriadau corfforol a ddefnyddiwyd: (Team Teach) Friendly, Single elbow, Figure of Four, Double

Elbow, T-Wrap, Shield

Trefn Daliad Mun Safle

sefyll/eistedd Trefn Daliad Mun

Safle sefyll/eistedd

1 4

2 5

16

3 6

Camau a gymerwyd ar ôl y digwyddiad i sicrhau bod y person ifanc wedi tawelu, a’r canlyniad yn y pen draw:

Manylion unrhyw anafiadau a gafwyd: (i bwy, a pha gamau a gymerwyd o ganlyniad e.e. triniaeth feddygol. Os dim,

rhowch ‘dim’)

Llyfr Damweiniau: do/naddo (dileer) Unrhyw wybodaeth arall berthnasol: (dylech gynnwys manylion difrod i eiddo ac ati, os dim, rhowch ‘dim’)

Hysbyswyd rhieni/gofalwyr: ffôn llyfr cyswllt cartref (glynwch gopi)

Enw’r aelod staff a hysbysodd y rhieni/gofalwyr:______________________________________ Amser a dyddiad: __________________________________________________________________ Os na, rhowch y rheswm: ___________________________________________________________

Llofnod:_________________________________ Dyddiad:________

Monitro gan yr Uwch Dîm Rheoli: ✔ X ✔ X

A gymerwyd camau lliniaru digonol/priodol? A oedd yr ymyriadau corfforol yn gwbl angenrheidiol?

Oedd yna sail dros ddefnyddio ymyriad corfforol? A ddefnyddiwyd ymyriad corfforol yn rhesymol?

A ddefnyddiwyd ymyriadau corfforol cymeradwy? A oedd yr ymyriad corfforol a ddefnyddiwyd yn gymesur â’r digwyddiad?

A gymerwyd camau priodol/digonol ar ôl y digwyddiad?

A ydy’r broses o adrodd yn gyflawn a chynhwysfawr?

Sylwadau’r UDRh:

Llofnod:_________________________________________ Dyddiad: _________